cartref - rhagfyr 2011/ionawr 2012

12
Rhagfyr 2011 / Ionawr 2012 www.chcymru.org.uk AGENDA GWYRDD Mesur yr Effaith: y darlun mwy Bywyd ar ôl 43c: Llywodraeth y DU yn gostwng Tariffau Cyflenwi Trydan Teithiau i Waith: Cefnogi tenanaid Cefnogi Pobl: y cynnydd hyd yma –– p3 –– p4 –– p6 –– p9 brics a morter NEWYDDION SWYDDI A HYFFORDDIANT POLISI Mwy na CYHOEDDWYD GAN CARTREFI CYMUNEDOL CYMRU cymdeithasol Cymru: Sector tai

Upload: bethan-samuel

Post on 28-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


4 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn Cartrefi Cymunedol Cymru

TRANSCRIPT

Page 1: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

Rhagfyr 2011 / Ionawr 2012

www.chcymru.org.uk

AGENDA GWYRDD

Mesur yr Effaith: ydarlun mwy

Bywyd ar ôl 43c:Llywodraeth y DUyn gostwng TariffauCyflenwi Trydan

Teithiau i Waith:Cefnogi tenantiaid

Cefnogi Pobl: ycynnydd hyd yma

–– p3 –– p4 –– p6 –– p9

brics a morterNEWYDDION SWYDDI A HYFFORDDIANT POLISI

Mwy na

CYHOEDDWYD GAN CARTREFI CYMUNEDOL CYMRU

cymdeithasol Cymru: Sector tai

Page 2: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

Cynhyrchwyd gan:Cartrefi Cymunedol Cymru Tŷ FulmarBeignon CloseOcean ParkCaerdyddCF24 5HF

029 2055 7400

Dyluniwyd gan Arts Factory

GolygyddEdwina O’Hart (CHC)

Is‐olygydd:Beth Samuel (CHC)

Cyfranwyr:Nick Bennett (CHC)Steve Evans (CHC)Aaron Hill (CHC)Kevin Howell (CHC)Sioned Hughes (CHC)Amanda Oliver (CHC)Jane Pagler (CHC)Clare Williams (CHC)Steven Harris,YmgynghoryddDr Calvin Jones, WERUMike Owen, CartrefiCymoedd Merthyr

GAIR GAN Y PRIF WEITHREDYDD

Sgwrs GenedlaetholY camau nesaf...

2 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

Mae cam cyntaf y Sgwrs Genedlaetholbellach wedi’i orffen – diolch yn fawr iawn ibawb ohonoch a roddodd eich amser un ai igymryd rhan mewn cyfweliad ffôn neufynychu grŵp ffocws a hwyluswyd ganBeaufort Research Cyf.

Cawsom glywed canfyddiadau dechreuol yrymchwil, ac mae’r lefelau boddhad cyffredinolyn galonogol gyda chyfradd boddhad o 96%ymysg staff a 86% ymysg prif weithredwyr.Mae lobio a chynrychiolaeth yn sefyll allanfel y gwasanaeth a werthfawrogir fwyafgyda 67% o ymatebwyr yn dweud mai’rgwasanaeth hwn yw’r un pwysicaf iddynt,gan roi ‘un llais amhersonol cryfach syddwedi symud i helpu tai i fyny agenda’rLlywodraeth.’

Er bod 35% o ymatebwyr yn ystyried bodrhwydweithiau a fforymau yn fanteisiol, a’ubod yn cael eu gweld fel cyfle rhwydweithiohanfodol ar gyfer staff ac aelodau bwrdd,mae adborth wedi awgrymu bod angen i niedrych ar y ffyrdd y daw pobl ynghyd a hydyn oed i adfywio rhwydweithio, fforymau achynadleddau. Mae hefyd angen mwy oeglurder ar rôl y Cyngor Cenedlaethol.

Pan ofynnwyd beth oedd yr heriau allweddoli’r sector yn y deuddeg mis nesaf, sonioddmwyafrif helaeth yr ymatebwyr am gyllid asector yn amrywiaethu ac y dylem ganolbwyntioar lobio a dangos dealltwriaeth o’r sector acanghenion aelodau. Fel y darllenwchymhellach yn y cyhoeddiad yma, buom yn

llwyddiannus yn ddiweddar yn lobio amdafell o’r £39.8m o gyllid ychwanegol syddar gael i Lywodraeth Cymru fel canlyniad irewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Rydym hefydwedi galw am £122.5m o bwrs cyfalaf newyddLlywodraeth Cymru i gymryd lle’r cyllid agollwyd drwy Grant Tai Cymdeithasol.

Bydd CHC yn derbyn y canfyddiadau llawnar 23 Rhagfyr a bydd y gweithgor mewnolynghyd â’r Cyngor Cenedlaethol a gweithgorauo bob rhan o’r sector yn drafftio cynigion idrin y materion a godwyd ac i symud y sgwrsyn ei blaen.

Bydd 2012 y flwyddyn fwyaf heriol eto, gydathoriadau pellach i’r grant tai cymdeithasola risg o ddirwasgiad dwbl. Bydd y sgwrsgenedlaethol a’r newidiadau dilynol aweithredir fel canlyniad i’ch adborth yn eingalluogi i sicrhau y caiff yr heriau hyn eu troiyn gyfleoedd ac y bydd y cyfleoedd hyn ynarwain at lai o bobl ar restri aros amgartrefi, llai o bobl mewn tlodi tanwydd, llaio bobl yn benthyca gan fenthycwyr llog isela mwy o gartrefi fforddiadwy mewncymunedau cynaliadwy y mae pobl eisiaubyw ynddynt.

Nick BennettPrif Weithredydd

Hoffai CartrefiCymunedol Cymru (CHC)ddymuno Nadoligllawen a blwyddynnewydd llewyrchus i hollddarllenwyr Cartref. Yn rhifyn diwethaf Cartref fe wnaethom

amlinellu cynlluniau i gael SgwrsGenedlaethol gyda’r sector i holi osoeddem yn addas ar gyfer y dyfodol,canfod beth oedd yn poeni mwyaf areich sefydliad, pa gefnogaeth gan CHC yrydych yn ei werthfwrogi fwyaf, a gweldar beth y dylem ganolbwyntio yn ydyfodol a beth y dylem ei adael ar ôl.

CommunityHousing Cymru

CHCymruCHCEvents

Page 3: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

‘Mae’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn tyfu. Maedros 70 sefydliad dan ymbarél Cartrefi Cymunedol Cymru,gyda dros 30 ohonynt yn ymwneud â datblygu tai newydd.Ers yr astudiaeth ddiwethaf, mae tri sefydliad trosglwyddostoc newydd (Tai Ceredigion, Cartrefi Cymunedol Tai Calona Chartrefi Cymunedol Gwynedd), sydd rhyngddynt ynberchen ac yn rheoli 15,115 o gartrefi yng Ngheredigion,Blaenau Gwent a Gwynedd, wedi ymuno â CHC.

Dengys canfyddiadau’r flwyddyn yn glir fod cymdeithasautai yn cael mwy o effaith ar economi Cymru nag erioed o’rblaen. Mae’r ystadegau’n dangos lefelau uchel ofuddsoddiad a bod y sector yn ymateb i’r her – adeiladumwy o gartrefi, creu mwy o swyddi ac adfywiocymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Y llynedd, adeiladodd cymdeithasau tai 2,033 o gartrefifforddiadwy newydd ar draws Cymru. Roedd nifer ycartrefi newydd a adeiladwyd 183 yn llai nag yn 2009/10 a119 yn llai nag yn 2008/09. Gwelodd y ddwy flwyddyn hyngynnydd bychan yn nifer y cartrefi newydd a adeiladwydoherwydd cyllid ychwanegol o Gronfa Buddsoddi CyfalafStrategol Llywodraeth Cymru. O gymharu gyda’r 1,533 ogartrefi newydd a adeiladwyd yn 2007/08, mae adeiladu2,033 o gartrefi newydd ychwanegol yn yr hinsawddeconomaidd bresennol a rhagori ar darged Cymru’n Ungan 23% yn gryn gamp.

Yn ogystal ag adeiladu cartrefi, mae neges WERU yn gliriawn. Mae cymdeithasau tai yn cyflenwi llawer mwy nadim ond brics a morter; maent yn buddsoddi mewncymunedau ac yn gwella ansawdd bywydau’r unigolionsy’n byw yn y cymunedau hynny.

Mae rhai o’r ystadegau allweddol o astudiaeth eleni’namcangyfrif bod:

• Effaith economaidd cymdeithasau tai Cymru areconomi Cymru yn £1,541m.

• Gwariant crynswth cymdeithasau tai Cymru yn £802m,gyda bron 80% o hwnnw wedi’i gadw yng Nghymru.

• Gwariant ar adfywio (heb gynnwys costau staff) yn£425.4m.

• Gwariant o £235.8m ar gynnal a chadw, atgyweirio acuwchraddio cartrefi.

• Gwariant o £162m ar adeiladu ar dir llwyd.

Ers cynnal yr astudiaeth wreiddiol yn 2007/08, bucynnydd amlwg yn effaith y sector ar gyflogaeth. Yn2007/08, darparai’r sector 3,300 o swyddi llawn‐amser arhan‐amser. Roedd hyn wedi cynyddu i 6,300 o swyddillawn a rhan‐amser erbyn 2010/11. Amcangyfrifir fod yreffaith anuniongyrchol tua 11,600 – felly am bob unperson a gyflogir mewn cymdeithas tai, caiff dwy swyddarall eu cefnogi mewn rhan arall o’r economi, sy’ngyfwerth â 17,900 o swyddi ar draws Cymru. Yn ogystal âhyn, mae CHC yn cynnal ystod eang o weithgareddau’ncynnwys cynlluniau hyfforddiant, mentoriaeth aphrentisiaeth i gefnogi unigolion i ddychwelyd i’r gwaith.

Mae hwn yn gyfnod anodd i’r sector tai yn cynnwys torriGrant Tai Cymdeithasol a chyllid Cefnogi Pobl ac ad‐drefnu budd‐daliadau. Fodd bynnag, er gwaethaf yrheriau hyn, dengys canfyddiadau adroddiad WERU2010/11 fod y sector yn parhau i edrych ar ddulliaublaengar o gyllid i gynyddu cyflenwad a sicrhau fod ganbobl Cymru fynediad i dai sicr a ffordfdiadwy mewncymunedau cynaliadwy.

Wrth siarad ar ganfyddiadau’r ymchwil, dywedodd DrCalvin Jones o WERU: “Mae’n amlwg fod unrhyw grŵp osefydliadau syn gwario £800m y flwyddyn yng Nghymru obwysigrwydd economaidd sylfaenol – yn arbennig pan fo’rgwariant hwnnw yn cynyddu wrth i wariant preifat achyhoeddus arall ostwng. Fodd bynnag, mae pwynt mwysylfaenol yma. Gyda’u ffocws ar adfywio, cynhwysiantcymdeithasol ac ymateb i dlodi tanwydd, mae’n debygmai cymdeithasau tai sydd â’r rhan bwysicaf wrth sicrhaufod buddsoddiadau a wneir yn awr yn ein symud atddyfodol mwy cynaliadwy, carbon isel a sicr o ran ynni.Pan ychwanegir eu rôl bosibl wrth sicrhau sgiliau gwyrdda throsoli ffynonellau newydd o fuddsoddiad ar gyfercymunedau, daw eu rôl ganolog a hollbwysig yngNghymru yn glir.”’

Mae manylion pellach am astudiaeth WERU a chopi llawn o’r adroddiad ar gael yn: www.chcymru.org.uk.

Kevin HowellSwyddog Polisi a Gwybodaeth

NEWYDDION

3

Mesur yr Effaith 2010/11 Bob blwyddyn mae CHC yn comisiynu’r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) ymMhrifysgol Caerdydd i gyhoeddi adroddiad yn mesur effaith economaidd ehangach sectortai Cymru. Dyma bedwaredd blwyddyn yr adroddiad, sy’n bwrw golwg yn ôl ar yr hyn agyflawnodd y sector yn 2010/11. Mae Kevin Howell o CHC yn edrych ar y canfyddiadau:

Page 4: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

AGENDA GWYRDD

4 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

Bywyd ar ôl 43cDaw’r ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU sy’n cynnig gostwng tariffaucyflenwi trydan ar gyfer cynlluniau hyd at 4kW i 21.0c/kWh, i lawr o’r43.3c/kWh presennol, i ben yn nes ymlaen y mis hwn. Ond gyda’rgyfradd newydd yn dod i rym bron ddwy wythnos cyn i’r ymgynghoriadgau, beth fydd yn ei olygu i ddarparwyr tai cymdeithasol a phobl Cymru.Mae Steve Harris, Ymgynghorydd Ynni, yn esbonio:

‘Gyda phris PV yn fyd‐eang wedi gostwng dros yr ychydigflynyddoedd diwethaf, gwyddem y byddai’r cyfnod ogyfraddau adennill o 12% yn dod i ben a bod tariffcyflenwi o tua 20c ar y gweill.

Ond y ffordd y cafodd ei wneud! Wel, os oeddech eisiaulladd diwydiant mawr ond sy'n dal i fod yn ei ddyddiaucynnar, cyhoeddi newid seismig yn ei sail ariannol gyda chwewythnos o rybudd yn bendant oedd y ffordd i wneud hynny.

Ond mae hyn ynddo’i hyn yn rhoi ffydd i mi – nid lladd ydiwydiant oedd y diben gan mai anaml iawn y maellywodraethau'n gweithredu mewn modd mor gydlynol.

Felly a weithredir y dyddiad newydd o 12 Rhagfyr? Bydd yn rhaid i ni aros a gweld. Mae heriau cyfreithiolnewydd bob dydd, ond mae un peth yn sicr – mae 21c(neu 18c ar gyfer toeau lluosog) ar ei ffordd.

Felly beth fydd y gwahaniaeth?Wel am un peth, daw’r arian y gall deiliad tŷ ei wneud drwyosgoi defnyddio trydan o’r brif bibell pan fydd yr haul yntywynnu’n ffactor pwysicach mewn unrhyw hafaliadariannol. Bydd y tua £150 o drydan y byddir yn osgoi eifewnforio yn dechrau edrych yn sylweddol pan ostyngirincwm cyfartalog tariff cyflenwi o £100 i £500. A dim onddilyn y dybiaeth mai dim ond hanner eich cynhaeaf ydefnyddiwch mae £150. Felly pe defnyddiech y cyfan,medrai hynny arbed £300!

Felly a yw hyn yn bosibl? Wel, i awgrymu ychydig o bethau y bûm yn eu canfod ynddiweddar ar gyfer astudiaeth Ymddiriedolaeth ArbedYnni yn edrych ar ddarlleniadau mesurydd allforio, ydi –oherwydd mae rhai pobl yn gwneud hynny!

Felly pwy yw’r bobl yma a sut fedrem ni i gyd ddod yndebyg iddynt? Wel dyna yw’r cwestiwn, ac mae’n un y gobeithiaf y medrafgael yr ateb iddo wrth i’r astudiaeth barhau. Mae un peth ynsicr fodd bynnag, os na wyddom beth ydym yn ei gynhaeafuac i’r gwrthwyneb, pryd ydym yn defnyddio pŵer o’r grid,fydd gennym ni ddim syniad mewn gwirionedd beth ydynni’n ei wneud. Felly, yn fy marn i, bydd mesuryddion,monitorau a dangosfwrdd ynni cartref yn allweddol.

Fel tystiolaeth o hyn, dangosodd prosiect SHIMMER(‘Smart Homes Integrating Metering Money and EnergyResearch’), gan Gymdeithas Ailadeiladu Llundain a’rYmddiriedolaeth Arbed Ynni, mewn cynllun peilot ynddiweddar lle rhoddwyd pŵer o arae PV a dangosfwryddar‐lein o sut y defnyddient eu hynni i 16 o aelwydyddoedd wedi eu hallgau’n cymdeithasol ac ariannol ysicrhawyd isafswm arbediad blynyddol o £300 acuchafswm o £3500 sylweddol iawn.

Felly, os yw’r pwyslais yn symud i ddefnyddio cynhaeaf PVeich hunan, gallai peth da ddod allan o ddarlun llwm heddiw.Ac os oes diwydiant PV yn dal i fod y flwyddyn nesaf, gallai’rbudd ar gyfer pob teulu PV, nid dim ond y rhai sy’n cynaeafu’rTariff Cyflenwi Trydan eu hunain, fod yn wych.’

Steven HarrisYmgynghoryddsteven@steven‐harris.co.uk

“Mae hyn yn teimlo’n fwy fel penderfyniad jargonariannol a wnaed yn ddwfn mewn taenlen, yngnghrombil un o adrannau’r Llywodraeth, ymhell bello’r byd go iawn. ”

Page 5: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

MATERION ARIAN

5

Gallai rhywun ofyn cwestiynau am foeseg elusen sy’nannog y rhai y tybir i fod y mwyaf agored i dlodi tanwyddyn ein cymunedau, i roi’r gorau i daliad a allai fod ygwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i rai... ond panymddangosodd Robert Powell, llysgennad Fuel Our Youthar y rhaglen brecwast ar deledu’r BBC yn ddiweddar ihyrwyddo ei nodau, ymateb un o’r gwylwyr oedd ei fodwedi gweithio a thalu treth ar hyd ei oes ac yn awr yndefnyddio ei Daliad Danwydd Gaeaf i gynhesu ei bwll nofio.

Mae llawer o elusennau gyda modelau busnes tebyg wedieu sefydlu, er enghraifft, Apêl Goroesi’r Gaeaf sy’n gofyn ibobl hŷn ‘ailgylchu’ eu taliad drwy ei gyfrannu i’r rhai’ncynnwys teuluoedd tlawd y mae tlodi tanwydd yneffeithio o ddifrif arnynt. Y gaeaf diwethaf, canfuadroddiad ‘Ymdopi gyda’r Oerfel’ gan Sefydliad Bevan fodteuluoedd yng Nghymru yn gwario llai ar fwyd er mwyntalu am filiau tanwydd, a bod hynny yn golygu bodmiloedd o blant yng Nghymru mewn risg o afiechyd a hydyn oed yn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio yn yr ysgol.

Mae taliadau Tywydd Oer a Thywydd Gaeaf i gael euhintegreiddio i’r Credyd Cynhwysfawr dan gynigion yMesur Diwygio Lles a diddymu’r Gronfa Gymdeithasol.Nid yw’n sicr os bydd y budd‐daliadau yn parhau i fod argael i bawb neu os bydd prawf modd arnynt. Mae’n glirserch hynny y gall llawer o bobl hŷn ymdopi â’u biliautanwydd heb dderbyn y taliad atodol blynyddol.

Felly beth fedrir ei wneud ar gyfer y rhai sydd mewn tloditanwydd? Yn ogystal â chyfrannu at elusennau fel apêlGoroesi’r Gaeaf, medrid edrych ar yr opsiynau dilynol:

• Mae gan lawer o bobl ôl‐ddyledion o gartrefi a/neuaeafau blaenorol. Gallai cwsmeriaid Nwy Prydain acEDF wneud cais am i’r rhain gael eu talu drwy GronfaYmddiriedolaeth.Nwy Prydain: www.britishgasenergytrust.org.uk EDF: http://www.edfenergytrust.org.uk/

• Mae’r rhan fwyaf o gyflenwyr ynni yn awr yn cynnigcynllun Disgownt Cartref Cynnes. Bydd hyn yn disodlitariffau cymdeithasol gydag ad‐daliad blynyddol i gyfriftrydan. Bydd ad‐daliad eleni yn £120. Gall gwahanolgyflenwyr ynni fod â gwahanol feini prawf ar gyfer yrad‐daliad ond bydd llawer o bobl ar incwm isel yncymhwyso.

• Cafodd newid cyflenwyr ei weld yn aml fel ffordd oostwng costau ynni. Mae’n awr yn amser da i newidgan fod yr holl brif gyflenwyr wedi cynyddu eu prisiaufelly medrir gwneud cymhariaeth deg. Cafodd llawer obobl eu twyllo gan werthwyr ynni o ddrws i ddrws acmae Nwy Prydain a Scottish and Southern Energy ynarwain y ffordd wrth atal y math yma o waith.

Gall tlodi tanwydd effeithio ar bob cartref, beth bynnag euhoedran, felly dylai’r Taliad Tanwydd Gaeaf fod yn daliadprawf modd sydd ar gael i unrhyw aelwyd incwm isel ermwyn targedu’n well y rhai sy’n wirioneddol yn cael eugorfodi i wneud penderfyniad rhwng bwyd a gwres.

Clare WilliamsSwyddog Cynhwysiant Ariannol

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Clare neu Paul ynClare‐[email protected][email protected]

Taliad Tanwydd y Gaeaf – pam ar gyferpobl hŷn yn unig?Ym mis Tachwedd 2011, sefydlwyd elusen newydd ‘FuelOur Youth’ i roi ‘help o un genhedlaeth i un arall’. Mae’relusen yn gwahodd pobl sy’n derbyn Taliad TanwyddGaeaf, sydd ar hyn o bryd yn daliad i bawb heb brawfmodd arno, i gyfrannu unrhyw swm i’r gronfa syddwedyn yn dosbarthu’r arian i gyfres o elusennau poblifanc, yn cynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Page 6: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

SWYDDI A HYFFORDDIANT

6 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

Teithiau i Waith

Bydd y prosiect yn datblygu Fframwaith Ymgysylltu TaiCymdeithasol strategol ar gyfer y sector gan anelu iddarparu cefnogaeth pen i ben ar gyfer cyfranogwyreconomaidd anweithgar a di‐waith sydd bellaf o’r farchnadlafur er mwyn iddynt symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy.

Prif fuddiolwyr y prosiect fydd tenantiaid economaiddanweithgar darparwyr tai sy’n ymwneud â’r rhaglen. Felcanlyniad i’r prosiect, byddant yn derbyn gwasanaethcefnogi llyfn o ddynodi eu bylchau sgiliau hyd at brofiadgwaith a chefnogaeth ar ôl cyflogaeth.

Bydd CHC yn rheoli’r prosiect yn ganolog ac yn cydlynugyda WEFO ar faterion cydymffurfiaeth. Bydd cyflenwi

uniongyrchol y prosiect yn mynd i dendr cystadleuol abydd sefydliadau llwyddiannus yn ei gyflenwi mewnproses dri cham.

Cam 1: Cefnogaeth – Bydd y cam yma’n cynnig cefnogaeth dysgua sgiliau ddwys i wella llythrennedd, rhifedd, sgiliausylfaenol, hunan‐dyb a hyder. Bydd y cam hefyd yn cynnigcefnogaeth drylwyr yn seiliedig ar gynnydd achyflogadwyedd, gwella sgiliau unigolyn yn nhermauedrych am waith, gwneud cais am swydd a dechraugweithio (e.e. ysgrifennu CV, chwilio am swydd, paratoiam gyfweliad ac ati).

Bu Cartrefi Cymunedol Cymru’ngweithio gyda phartneriaid yn y sectorar brosiect Ewropeaidd o’r enw Teithiaui Waith. Os bydd yn llwyddiannus,daw’r prosiect â £2.5m o gyllid oSwyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru(WEFO) a bydd angen codi £625,000arall fel arian cyfatebol.

“Prif fuddiolwyr yprosiect fydd tenantiaideconomaidd anweithgardarparwyr tai sy’nymwneud â’r rhaglen. ”

Page 7: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

7

SWYDDI A HYFFORDDIANT

Cam 2:Profiad Gwaith – Bydd y cam yn rhoi cynlluniau peilotlleoliad gwaith yn y sector tai.

Cam 3:Cefnogaeth ar ôl cael swydd – Bydd y buddiolwyr hynnysy’n dychwelyd i’r gwaith yn cael 12 mis o gefnogaeth arôl cael swydd.

Drwy’r rhaglen uchod a sefydlu e‐borth o ganllawiauarfer da, bydd y sector tai cymdeithasol ehangach yngNghymru hefyd yn manteisio o’r rhaglen. Medrantddatblygu eu gallu i ddarparu’r math hwn o gefnogaethrhaglen i’w tenantiaid, gan felly sicrhau etifeddiaethhirdymor y prosiect.

Ar ba gam mae’r prosiect?Rydym yn cwblhau’r cynllun busnes a byddwn ynymgynghori gyda’r sector a phartneriaid eraill dros ymisoedd nesaf. Gobeithiwn y bydd cyllid yn ei le erbyncanol 2012.

Sut all y sector gymryd rhan?Os ydym yn llwyddiannus yn ein cais am gyllid, bydd yprosiect yn seiliedig o fewn ardaloedd y rhaglenCydgyfeirio yng Nghymru. Mae’r ardal Cydgyfeirio yncynnwys 15 awdurdod lleol sef Ynys Môn, Conwy, SirDdinbych, Gwynedd, Ceredigion, Sir Benfro, SirGaerfyrddin, Abertawe, Castell‐nedd Port Talbot, Pen‐y‐bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful,Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen.

Rhagwelir y caiff y prosiect ei rannu’n ‘lotiau’ gyda phoblot yn gweithio gyda rhwng 90 – 180 tenant dros gyfnod odair blynedd. Bydd hyn yn cyfrif am rhwng 5 a 10 lot ardraws Cymru a byddwn yn annog cydweithio lle’n bosibl.

Mae’n debyg y caiff cyflenwi’r prosiect ei ddyfarnu drwysystem grant cystadleuol a byddai angen i sefydliadaugyflwyno cynnig am grant. Bydd angen i’r sefydliadaubuddugol gyflawni nifer o allbynnau a chanlyniadau'ncyfeirio at ardaloedd yn cynnwys:

• Cymwysterau• Canlyniadau cadarnhaol• Nifer yn mynd i gyflogaeth• Nifer yn mynd i ddysgu pellach

Edrychwn ymlaen at drafod y prosiect hwn yn fanylachgyda’n haelodau yn y dyfodol agos.

Kevin HowellSwyddog Polisi a Gwybodaeth

Page 8: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

8 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

SAFBWYNT AELOD

Yn ôl i’r 80auPan symudais yn ôl i Gymru i CartrefiCymoedd Merthyr o Gernyw, roedd gangydweithwyr hen jôc ‘does dim angenedrych ar Ashes to Ashes i wybod sut bethoedd y 1980au; y cyfan sy’n rhaid i chiwneud yw mynd i Gymru.’Ac ar ôl ychydig dros chwe mis yn ôl yng Nghymru, rwy’ncredu fod polisi tai yn Lloegr a Chymru yn awr yn edrychyn ôl i’r 80au. Mewn gwirionedd, mae’r bwlch rhwng ygwledydd yn tyfu, neu i ddefnyddio ymadrodd yr 80au,mae gennym yn awr ddŵr glas clir rhwng polisi tai ynLloegr a Chymru.

Roedd dau ddigwyddiad diweddar yn dangos y gwahaniadhwn – gwerthu tai cyngor a’r dymuniad i sefydlu mentraucydweithredol tai. Cyhoeddodd y Gweinidog Tai yn Lloegrgylch newydd o Hawl i Brynu gyda mwy o ddisgownt.Mewn cyfarfod tai diweddar yn Llundain, roeddcydweithwyr o Gymru a Lloegr yn eistedd yn gegrwthwrth i PPS y Gweinidog Tai, Grant Shapps, ddweudwrthym ei fod yn gwybod wrth gerdded o amgylch stadaucyngor pa gartrefi oedd â pherchen‐breswylwyr gan eubod yn edrych yn llawer gwell na’r cartrefi yr oedd ycyngor yn berchen arnynt. Roedd y PPS yn hanner cywirgan ei bod yn bosibl ar y rhan fwyaf o stadau y gweithiaisarnynt i ddweud y gwahaniaeth rhwng rhai mewnperchnogaeth gyhoeddus a’r rhai mewn perchnogaethbreifat. Y rhai preifat yw’r rhai heb insiwleiddiad walallanol, hwy yw’r rhai sydd angen ffenestri newydd, ondyn fwyaf tebygol hwy yw’r rhai gyda byrddau ar werth ytu allan. Mewn gwirionedd roedd y Comisiwn Archwilioyn gofyn mor ddiweddar â 2007 i awdurdodau sut ybwriadent godi safonau’r cartrefi oedd yn eiddo i’rpreswylwyr ar gymdogaethau tai cyngor i fyny i safon taicyngor. Wrth i’r ddadl ar hunanariannu gynhesu, cyfrifoddyr LGA fod gwerth yr incwm a dderbyniodd y Llywodraethmewn derbyniadau Hawl i Brynu yn fwy na’r incwm obreifateiddio Nwy Prydain a British Telecom.

Yng nghynhadledd TPAS Cymru fis diwethaf, gwelaiswahaniad llwyr tai yn Lloegr a thai yng Nghymru gyda’rGweinidog Tai Huw Lewis yn siarad am gartrefi safonuchel ar renti fforddiadwy gyda thenantiaid â rhan goiawn yn eu rheoli. Dywedodd gyda pheth arddeliad fod taicyngor yn rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, a bodhyn yn dreftadaeth oedd yn gwerthfawrogi tai cyngor.Parhaodd fy nadeni 80au wrth i Huw Lewis sôn am

ddychweliad mentrau cydweithredol tai. Yn ystod y1980au bûm yn Brif Weithredydd Gwasanaethau TaiCydweithredol Birmingham (menter gydweithredol taieilaidd). Roedd mentrau cydweithredol tai wedi llwyddo iadfywio rhannau o ganol Birmingham ac roeddent yn rymcynyddol ac angerddol dros welliant yn Walsall gydasefydliadau rheolaeth tenantiaid, gyda hunanadeiladu athai adeiladu newydd yn datblygu. Bûm hyd yn oed yngweithio ar lyfryn maniffesto tai ar gyfer Llafur ar gyferetholiad 1992 yn nodi sut y dylai mentrau cydweithredolfod yn gyfrwng i ddod â balchder yn ôl i dai cymdeithasol.

Y noswaith honno ar ôl cynhadledd TPAS, parhaoddthema’r 80au gan fy mod allan yng Nghaerdydd a hithau’n‘Noson Beaujolais’ – oedd yna erioed fwy o noswaith80au Del Boy Trotter na noswaith Beaujolais? Fe aeth hydyn oed well pan ganodd pawb oedd yn y dafarn ‘ClubTropicana drinks are free’. Felly cyn i ni danio’r AudiQuattro, mae angen gwiriad realaeth. Cawsom ein tarogyda hyn yng nghynhadledd TPAS pan ofynnodd tenantiaido Cartrefi Cymoedd Merthyr os bydd rhenti yn cynyddugyda chwyddiant y flwyddyn nesaf. Ac yn sydyn roeddemyn ôl i’r oes yn dilyn y wasgfa ar gredyd lle mai dim ond argefn cynnydd sylweddol mewn rhent y medrir ariannuadeiladu newydd. Dyna’r union reswm pam y daethadeiladu newydd cydweithredol i ben yn y gorffennolwrth i denantiaid mentrau cydweithredol gyda’r hollwybodaeth a’r rheolaeth bleidleisio beidio adeiladu tainewydd drwy gynyddu eu rhent eu hunain. Wedi’r cyfan,pa berchennog‐breswylydd sy’n talu mwy o forgais iostwng morgais eu cymydog?

Mike OwenPrif Weithredydd, Cartrefi Cymoedd Merthyr

Beth yw eich barn am eitem Mike? Cymerwch ran yn ydrafodaeth drwy ymweld â’n fforwm drafod: www.chc‐cymru.org.uk/forum

Page 9: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

9

POLISI

Mesur Tai Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, y bydd yn amlinelluei gynlluniau ar gyfer Bil Tai cyntaf Cymru mewn papurgwyn yng ngwanwyn 2012. Bu eisoes awgrymiadau cryfgan y Gweinidog y bydd y Bil yn ceisio gwella rheoleiddio'rsector rhent preifat, cyflwyno gwasanaeth cyngor tai‘siop‐un‐stop’ a dod â rhai o’r 26,000 o gartrefi gwag syddyng Nghymru yn ôl i ddefnydd. Cyflwynwyd papur gan yGweinidog i’r Cabinet ar 6 Rhagfyr.

Cred Cartrefi Cymunedol Cymru fod yn rhaid i LywodraethCymru fanteisio ar y cyfle i gyflwyno deddfwriaethflaengar o fewn y Bil Tai i atal digartrefedd, gwella nifer acansawdd ein cartrefi a gwella rheoleiddio. Mae hyn ynhanfodol os yw’r sector i sicrhau benthyca preifatychwanegol yn y dyfodol. Mae angen anogaeth agweithredu i sicrhau y deuir â chartrefi gwag yn ôl i’wdefnyddio, a bydd cymhellion yn rhan bwysig o hyn (galldull moryn a ffon fod yn ateb).

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau, ar ôlcyfnod pan fu cyflenwad cymdeithasau tai yn cynyddu,bod deddfwriaeth y dyfodol yn diogelu cyflenwad ac ar yr

un pryd yn hwyluso darpariaeth cyflenwad newydd. Mae90,000 o bobl yn dal i fod ar restri aros tai cymdeithasolyng Nghymru gyda’r galw am dai fforddiadwy yn llawermwy na’r cyflenwad. Gwyddom hefyd fod cyfraddperchnogaeth tai yn parhau i ostwng (oherwydd prisiauuchel tai, yr angen am ernesau mawr a meini prawfllymach ar fenthyca gan y banciau) fydd yn gwaethygu’rbroblem.

Er bod llawer o ddyfalu am yr hyn a gaiff ei gynnwys ynderfynol ym Mil Tai 2012, mae CHC yn glir y dylai newiddeddfwriaethol sicrhau fod deddfwriaeth sylfaenol ynmynd i’r afael â phryderon Cymru ac yn gwella’r cyfle argyfer deddfwriaeth eilaidd addas. Mae’n hollbwysig fodnewidiadau mewn deddfwriaeth yn sensitif i’r hinsawddbresennol ac yn galluogi gwasanaethau gwell sy’n diwalluanghenion a galw pobl ar draws Cymru.

Aaron HillCymhorthydd Polisi

£18m ychwanegol ar gyfer taiCroesawodd CHC y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru fisdiwethaf eu bod yn buddsoddi £18m ychwanegol mewn taiyng Nghymru drwy eu pecyn ysgogiad economaidd. Roedd ycyhoeddiad yn dilyn galwadau gan CHC, CIH Cymru a ShelterCymru i fuddsoddi’r arian hwn mewn tai cymdeithasol, ilacio’r rhestr aros am dai cymdeithasol ac ysgogi economiCymru. Mae’r £18m mewn arian ychwanegol yn gyfwerth âbron 50% o’r cyfanswm o £38.9m a roddwyd i Gymru felswm canlyniadol penderfyniad Llywodraeth y DeyrnasUnedig i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr. Bydd y cyhoeddiad yncynnwys buddsoddiad o £6m ym Mhrosiect Tai Melin Treláiyng Nghaerdydd dros y ddwy flynedd nesaf, £9.26m wrthddarparu 130 o gartrefi fforddiadwy ar draws Cymru, a £3marall ar ehangu cynllun effeithiolrwydd ynni cartref Arbed.

Drannoeth y cyhoeddiad, dywedodd George Osborne,Canghellor, yn ei ddatganiad Hydref y byddai £216mychwanegol ar gael i Gymru fel canlyniad i swm canlyniadolBarnett. Yn yr adolygiad cynhwysfawr ar wariant yngynharach yn y flwyddyn, torrodd Llywodraeth Cymru ygrant tai cymdeithasol gan bron 40% dros gyfnod o dairblynedd felly mae CHC wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru

yn gofyn iddynt ailddyrannu £122.5 miliwn o’r cyllid cyfalafnewydd hwn i’r sector tai cymdeithasol i helpu rhai sydd ar yrhestri aros cynyddol, tra'n gweithredu fel ysgogiad ieconomi Cymru drwy gefnogi swyddi a phrentisiaethau aradeg o ddiweithdra uchel iawn ar draws Cymru.

Medrai’r buddsoddiad £122.5m drosoli cyfanswm o £250mo fuddsoddiad preifat dros dair blynedd gan sicrhau tua1,877 o gartrefi fforddiadwy newydd, o leiaf 2,500 o swyddia hyd at 250 cyfle prentisiaeth. Gall y sector gyflawni acmae’r canfyddiadau o astudiaeth WERO a amlinellir ardudalen 3 yn amlygu’r effaith economaidd mwy sydd gan ysector ar economi Cymru. Er ei bod yn wych fod taicymdeithasol wedi manteisio o gyhoeddiadau diweddar yLlywodraeth, mae swm canlyniadol datganiad yr Hydref ynrhoi’r prawf eithaf o le mae tai arni fel blaenoriaeth ar gyfertwf a chyfiawnder... Cadwch eich llygad ar agor!

Nick BennettPrif Weithredydd

Page 10: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

10 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

NEWYDDION YN GRYNO

Newyddion o EwropTeithiodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp CHC, a SteveEvans, Pennaeth Cyllid y Grŵp, i Frwsel ar 29 Tachwedd argyfer seminar CECODHAS ar Ariannu Tai Cymdeithasol aChynigion ar gyfer Cronfeydd Strwythurol 2014‐2020.

Cafodd y dirywiad economaidd byd‐eang effaith ddifrifolar dai cymdeithasol. Cafodd cyllidebau’r Llywodraeth argyfer tai eu torri ac mae benthyciadau ffafriol gan fancioyn anos eu sicrhau, gan gynyddu risg ariannol i’r sector tai.Gydag aelodau CECODHAS yn dibynnu ar ystod cyfyngedigo opsiynau i ariannu gweithgareddau, mae angencynyddol am ddatrysiadau ffres i roi mynediad i gyllid.

Defnyddiodd y seminar arfer presennol mewn rhai aelodwladwriaethau, asesu cynlluniau diweddar achynaliadwyedd hirdymor, ac ymchwilio cyfryngau cyllidblaengar megis Bond Tai Cymdeithasol Ewrop.Ystyriodd y drafodaeth ar gronfeydd strwythurol gydaOllbrycht ASE gynigion ar gyfer 2013‐2010, gan adolygu’rhyn a gyflawnwyd hyd yma a pha heriau sydd i ddod.

Aelodau newydd yCyngor Cenedlaethol Cyhoeddwyd enwau aelodau newydd Cyngor CenedlaetholCHC yn ein CCB ym mis Tachwedd. Maent yn cynnwysAndrew Lycett, Cartrefi RhCT; Stephen Cripps a Steve Jones,Tai Ceredigion; Christine Rutson, United Welsh; ShayneHembrow, CT Wales & West a Mark Sheridan, Tai Taf.

Diolch i’r aelodau hynny a wasanaethodd ar y Cyngor ac aymddeolodd yn ddiweddar yn cynnwys Cynog Dafis, CTCantref; Antonia Forte, Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf;Lesley Penn, Grŵp Gwalia a Katrina Michael, Tai Ceredigion.

Mae mwy o wybodaeth ar aelodau Cyngor CenedlaetholCHC ar gael yn chcymru.org.uk.

Arbed 2Adeg mynd i’r wasg, ni chyhoeddwyd pwy fydd yn rheoli’rcynllun. Bu llawer o LCC yn gweithio’n agos gydagawdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer blwyddyngyntaf y rhaglen erbyn 16 Tachwedd. Cyflwynodd pedwarawdurdod lleol un cynnig, a’r lleill ddau gynnig. Caiff yprosiectau yn awr eu hasesu gan Lywodraeth Cymru fyddwedyn yn cyflwyno’r prosiectau llwyddiannus i reolydd ycynllun i gael eu cynllunio a’u gweithredu yn dechrau ymMawrth 2012.

Bond CymruMae pwysau parhaus ar yr economi,gostyngiad mewn Grant TaiCymdeithasol a chynnydd yn y galw amddatblygu tai cymdeithasol ychwanegol.Mae'r ffactorau hyn wedi arwain LCCCymru i ailedrych ar eu trefniadau ariannu er mwyn cynnalcyflenwad yn ystod y cyfnod economaidd llwm hwn.

Mae CHC wedi comisiynu astudiaeth i archwilio ffyrddblaengar o gynyddu’r cyllid sydd ar gael i LCC. Un o’rcanlyniadau hyn oedd datblygiad posibl Bond Cymru, yncynnwys LCC Cymru yn unig. Daeth bondiau yn gynyddolgystadleuol o ran pris o gymharu gyda benthyciadaubanc, ac mae archwaeth gwirioneddol gan farchnadoeddcyfalaf i fuddsoddi mewn tai cystadleuol fel dull o sicrhauadenillion ariannol diogel.

Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt yn dda a sicrhawyddarparydd sy’n awyddus i ddatblygu mater bondiau.Cysylltwyd â’r gymuned LCC a bu diddordeb gwirioneddolgan y sector. Caiff rhwystrau disgwyliedig o wahanolgyfleusterau benthyca, amserlenni a modelau cyllid ofewn pob LCC eu hystyried gydag adolygiad o’r trefniadaupresennol. Mae’r angen i ennill mas critigol o ddiddordebyn hollbwysig wrth ennill telerau mwy hyblyg arddiogelwch a chyfnod o gymharu gyda’r amodau safonola gynigir. Byddai dyroddiad o £75m yn bodloni gofynionac yn rhoi cyfrwng ar gyfer datblygu tai newydd.

Daw’r cyfle yn eglur yn gynnar yn 2012 ac mae CHC yngweithio’n agos gyda’r sector i symud ymlaen cyn gyntedag sy’n bosibl. Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb yn ycynllun, cysylltwch â Steve Evans yn CHC.

Page 11: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

11

CEFNOGI POBL

Mae’n darparu cymorth cysylltiedig â thai i helpu poblfregus i fyw mor annibynnol ag sydd modd. Mae’r rhaglenyn darparu £138 miliwn o gyllid refeniw ar gyfer tua50,000 o bobl fregus ar hyd a lled Cymru. Cynhaliwydadolygiad trwyadl ac eang dan arweiniad yr Athro SyrMansel Aylward CB yn 2010. Bydd yr argymhellion ynarwain at newidiadau sylweddol wrth gyflenwigwasanaethau Cefnogi Pobl a chawsant eu datblygu drwygynhyrchu ar y cyd gyda’r holl bartneriaid fel sy’n dilyn:

• Uno dau grant presennol, SPG & SPRG, yn un ffrwdcyllid a elwir yn Grant Rhaglen Cefnogi Pobl (SPPG).

• Trosglwyddo grant SPPG i awdurdodau lleol, y tu allani’r Grant Cefnogaeth Refeniw ac wedi ei neilltuo argyfer gwasanaethau SPPG yn unig, yn Ebrill 2012.

• Sefydlu Bwrdd Ymgynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobldan gadeiryddiaeth y Dirprwy Weinidog ar gyfercyngor annibynnol.

• Creu Pwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol amlsector isicrhau dull cydweithio i gynllunio gwasanaethgweinyddu, comisiynu, monitro a gwerthuso.

• Diwedd tariffau SPRG a symud i gomisiynu seiliedig arganlyniadau.

• Fformiwla ail‐ddosbarthu 2 gam arfaethedig, ynseiliedig ar angen lleoi, i’w gyflwyno ar gyfer lefelauSPG awdurdodau lleol, gyda fformiwla ddiwygiedig amwy cywir i’w cyflwyno mewn camau ac mewn moddwedi’i dapro ar ôl hynny.

• Datblygu proses achredu genedlaethol ar gyfer yr hollddarparwyr.

• Cyflenwi cefnogaeth mewn tai gwarchod i’r rhai syddei angen yn unig, gan roi ystyriaeth i bobl hŷn yn ygymuned ehangach beth bynnag yw eu daliadaeth.

Cyhoeddwyd telerau ac amodau’r grant a’r canllawiaucysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad ar 11 Tachwedd 2011,a ddaw i ben ar 23 Rhagfyr 2011. Bu aelodau a staff CHCyn cymryd rhan helaeth wrth weithio ar a drafftio’r ddogfen.

Mae’r penodau’n cynnwys:• Strwythur cyflenwi newydd ar gyfer y rhaglen Cefnogi

Pobl yng Nghymru, yn cynnwys manylion penodol amFwrdd Ymgynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl a’rPwyllgorau Cydweithio Rhanbarthol.

• Cymhwyster, yn cynnwys newidiadau sylweddol iariannu cymorth cysylltiedig â thai ar gyfer pobl hŷn.

• Comisiynu a chaffael.• Canllawiau cost derbyniol Cefnogi Pobl.• Trefniadau achredu, gwerthuso a monitro ar gyfer y

rhaglen Cefnogi Pobl.• Canlyniadau a monitro.• Fformiwlâu dosbarthu.• Codi pris tecach ar gyfer rhai sy’n derbyn

gwasanaethau Cefnogi Pobl.• Rheoli ariannol yn cynnwys amserlen.

Mae aelodau CHC yn cymryd rhan mewn gweithgor pontio ioruchwylio gweithredu’r newidiadau. Nid yw’r manylionpontio yn dynodi'r rhai sydd ar eu hennill ac ar eu colled amaint y newidiadau ar gyfer awdurdodau lleol a rhanbarthauunigol wedi eu cytuno gan y Gweinidog hyd yma. CynhalioddCHC un digwyddiad ymgynghori gydag aelodau’r fforwmTai â Chymorth a chynhaliwyd digwyddiad rhanbarthol argyfer Gwent.

• Mae cyfarfod o Fforwm Cefnogi Pobl Cymru GogleddCymru wedi’i drefnu yn Llandudno ar 14 Rhagfyr 2010.I fynychu, cysylltwch â Debbie [email protected].

• Mae TPAS Cymru yn cynnal proses ymgynghori gydadefnyddwyr gwasanaeth. I gymryd rhan, cysylltwch âNina Langrish ar [email protected].

Jane PaglerCynghorydd Cefnogi Pobl

Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy gysylltu â JanePagler: [email protected]

Rhaglen Cefnogi Pobl:Cynnydd hyd yma…Dechreuodd y rhaglen Cefnogi Pobl ar 1 Ebrill 2003, ganddod ynghyd â saith ffrwd gysylltiedig â thai o bob rhano lywodraeth ganolog.

Page 12: Cartref - Rhagfyr 2011/Ionawr 2012

CHWEFROR 2012

7/8 Cynhadledd Prif

WeithredwyrGwesty Miskin Manor

PONTYCLUN

Cynadleddau:

I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau hyfforddiant, cysylltwch âjenny‐[email protected] os gwelwch yn dda.

MAWRTH 2012

1Cynhadledd Cynhwysiant

AriannolNeuadd San Pedr

CAERDYDD

Cyrsiau hyfforddiant:

12 Rhifyn Rhagfyr | Ionawr

GORFFENNAF 2012

12/13 Cynhadledd Adnoddau

Gwesty MetropoleLLANDRINDOD

I gael mwy o wybodaeth am ein cynadleddau, cysylltwch â rhian‐[email protected] os gwelwch yn dda.

CHWEFROR 2012

23/24 Cynhadledd

LlywodraethiantGwesty Metropole

LLANDRINDOD

Trafodaethau ar‐lein:14 Rhagfyr, 12‐1pm, Hugh JamesCyfreithwyrBydd Neil Morgan, Pennaeth Tîm TaiCymdeithasol Hugh James a JamieSaunders, Pennaeth Uned YmddygiadGwrthgymdeithasol Hugh James, ynhwyluso ein trafodaeth ar‐lein nesaf ar14 Rhagfyr rhwng 12 a 1pm. Mae Neil a Jamie ynarbenigwyr mewn cyfraith tai, a byddant yn ateb eichcwestiynau ar fwy neu lai unrhyw beth yn gysylltiedig â thai!Gosodwyd llinyn ar y fforwm eisoes, felly gadewch eichcwestiynau ymlaen llaw os na allwch gymryd rhan ar y 14eg.

Categori aelodaeth menter gymdeithasolMae CHC yn cynnal categori newydd o aelodaeth i fentraucymdeithasol, sefydliadau sector cyhoeddus a sefydliadaudim‐er‐elw. Cleanstream Carpets yw’r cwmni cyntaf iymaelodi yn y categori newydd. Mae’r buddion yn cynnwysdisgownt ar leoedd yn ein digwyddiadau, mynediad iddetholiad o gyhoeddiadau CHC, rhestriad ar wefan CHC, lleam ddim i gynrychiolydd dydd mewn cynhadledd o’ch dewisa gwahoddiad i arddangos yn nigwyddiad blynyddol mentergymdeithasol newydd CHC. Yn y cyfnod anodd hwn, mae’nbwysicach nag erioed ein bod yn gweithio gyda mentraucymdeithasol i wella ac adfywio’r cymunedau y gweithiwnynddynt.

Mae gennym bellach 1000 o ddilynwyr ar Twitter!Dilynwch ni ar @CHCymru a @CHCEvents

IONAWR 2012

11 Rheoli Cwynion CAERDYDD17 Cyflwyniad i Gymryd Cofnodion CAERDYDD25 Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai CAERDYDD27 Cyllid i Aelodau Bwrdd CAERDYDD31 Galluedd Meddwl – o gytundebau tenantiaeth i

derfyniad CAERDYDD31 Uwch sgiliau cymryd cofnodion CAERDYDD

CHWEFROR 2012

MAWRTH 2012

9 Yr Aelod Bwrdd Effeithiol – Rolau a chyfrifoldebauCAERDYDD

13 Adeiladu eich pecyn cymorth ar gyfer y swydd GOGLEDD CYMRU

15 Adeiladu eich pecyn cymorth ar gyfer y swydd CAERDYDD

3 Strategaeth a rôl arweinyddiaeth y Bwrdd CAERDYDD3 Rôl y Bwrdd fel cyflogydd GOGLEDD CYMRU10 Cyllid i Aelodau Bwrdd GOGLEDD CYMRU14 Pwysigrwydd llywodraethu da GOGLEDD CYMRU16 Pwysigrwydd llywodaethu da CAERDYDD17 Strategaeth a rôl arweinyddiaeth y Bwrdd GOGLEDD

CYMRU

Am rhestr llawn o’n cyrsiau hyfforddiant yn 2012, gweler:www.chcymru.org.uk

DIGWYDDIADAU