sinema rhagfyr 13

12
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 06-Mar-2016

250 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sinema Rhagfyr 13

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Sinema Rhagfyr 13

Croeso i ganllaw bach Sinema Chapter mis Rhagfyr. Hwn fydd ein canllaw bach sinema olaf — o fis Ionawr ymlaen, byddwn yn dychwelyd at ein llyfryn misol llawn. Roedd rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol yn syniad ardderchog ond rydym wedi gwrando ar eich safbwyntiau chi ac wedi penderfynu dychwelyd at y fformat cyfarwydd — llyfryn misol a fydd yn cynnwys manylion ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Fel bob amser, byddwn yn falch iawn o glywed eich barn, felly rhowch wybod i ni yn y flwyddyn newydd a yw’r drefn newydd yn well ai peidio. Mae hi’n fis Rhagfyr a fydd hi ddim yn hir nawr cyn i ni fynd ati i addurno’r goeden, i fwyta ein pwysau mewn siocled a hepian ger y tân o flaen rhaglenni teledu gwael. Yma yn Chapter rydym yn hoffi dathlu’r ŵyl mewn ffyrdd annisgwyl a dyw eleni’n ddim gwahanol. Mae ein tymor Chapter Yn Y Tywyllwch yn parhau â Gothig: Nadolig Iasol (t3-5); detholiad o weithiau iasol, fel y clasur, The Innocents (t4) a Ask a Policeman (t3.) I’r ffans Doctor Who yn eich plith, rydym wedi trefnu noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Doctor Who yn 50 oed, a fydd yn cynnwys dangosiad o glasuron y 1960au, Dr Who and the Daleks a Daleks: Invasion Earth 2150 A.D. (t5). Os ydych chi’n chwilio am ffilm Nadoligaidd glasurol, trowch i’n tudalen Nadoligaidd (t7) — byddwn yn dangos It’s a Wonderful Life ynghyd â ffefrynnau teuluol (t12). Ond os byddai’n well gennych chi anghofio’n llwyr am yr ŵyl, tan Noswyl y Nadolig o leiaf, mae gennym ddigon ar eich cyfer chi hefyd — ffilmiau newydd fel yr hir-ddisgwyliedig The Butler (t8) a Dom Hemingway – ffilm frathog a ffraeth (p10). I weld uchafbwyntiau’r rhaglen yn adrannau eraill Chapter, ewch i dudalen 11. Dymunwn Nadolig Llawen i chi ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Flwyddyn Newydd!

Croeso02 chapter.org

Delweddau’r clawr o’r chwith uchaf: The Patience Stone, It’s a Wonderful Life, Marius

Oriau Agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Maw 24 Rhagfyr Cau am 5pmMer 25 + Iau 26 Rhagfyr Chapter ar gau — Nadolig Llawen!Gwe 27 — Llun 30 Rhagfyr Ar agor fel arferMaw 31 Rhagfyr Ar gau tan 7pm: Parti Nos Galan 7pm -2am (gweler t7 am fanylion)Mer 1 — Gwe 3 Ionawr Chapter ar gau — Blwyddyn Newydd Dda!Sad 4 Ionawr ymlaen Ar agor fel arfer

ChapterHeol y FarchnadCaerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema [email protected]

Page 3: Sinema Rhagfyr 13

03Sinemachapter.org

GOThIG: Nadolig IasolRydym yn croesawu eneidiau’r gorffennol i Chapter y Nadolig hwn wrth i ni gyflwyno tymor o ffilmiau iasol y BFI. Rydym yn edrych ymlaen at ddangos print newydd ffilm gyffro seicolegol Jack Clayton, The Innocents, ar y cyd ag ambell i enaid llai arswydus, fel y rheiny sy’n peri poendod i sêr comedi clasurol Prydain, Will Hay ac Arthur Askey. Cofiwch hefyd am gyffro gothig ac eneidiau dioddefus mis Ionawr — byddwn yn cyflwyno Cat People gan Jacques Tourneur, ynghyd â The Curse Of The Cat People, clasur Patrick Hamilton, Gaslight, a Rebecca gan Hitchcock. I gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau newydd yn Chapter a ledled Cymru, wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i: www.chapter.org/chaptergoesdarkAgor byd o ffilmiauGyda chefnogaeth gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI www.chapter.org/filmhub

NT Live: Frankenstein Dangosiad Matinée Encore Sul 1 Rhag162mun/15. Cyf: Danny Boyle. Gyda: Benedict Cumberbatch, Johnny Lee Miller.

Cyflwyniad arswydus o stori Mary Shelley am greadigaeth Victor Frankenstein, gyda Miller yn chwarae rhan Frankenstein.Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau Encore hyn, wedi’u recordio ymlaen llaw, yn £13/£11/£10

Ask a PolicemanSul 1 + Maw 3 RhagfyrDG/1939/83mun/U. Cyf: Marcel Varnel. Gyda: Will Hay, Graham Moffatt, Moore Marriott.

Mae heddweision y Turnbotham Round yn wynebu cael eu diswyddo ac yn penderfynu mynd ati i “ddyfeisio” criw o smyglwyr er mwyn cadw eu swyddi. Ond pan ddôn nhw ar draws smyglwyr go iawn, ynghyd â marchog brawychus heb ben, mae eu cynlluniau’n mynd ar gyfeiliorn. Ffars gynnar a esgorodd ar efelychiadau lawer.

The Ghost TrainSul 8 + Maw 10 RhagfyrDG/1941/85mun/U. Cyf: Walter Forde. Gyda: Arthur Askey, Richard Murdoch.

Mae’r digrifwr Vaudeville, Tommy Gander, wedi’i ddal yn yr orsaf gyda’i gyd-deithwyr wrth i drên ysbrydion chwedlonol agosáu. Ar ôl i gorff y gard marw ddiflannu’n ddirybudd ac ar ôl i wraig dyngu ei bod hi’n gallu gweld ysbryd cyn-deithwyr, mae Gander yn gorfod credu nad yw popeth fel yr ymddengys. Yn seiliedig ar ddrama nodedig a phoblogaidd Arnold Ridley (Pt Godfrey yn Dad’s Army), mae’r fersiwn ffilm yn cynnwys gwaith yr awdur Val Guest hefyd.

SESIWN MOvIEMAkEr I GNAFON ByChAIN

Thema: ysbrydion ac EllyllonSul 1 RhagfyrCyfle i bobl ifainc gyflwyno ffilmiau byrion bwystfilaidd yng nghwmni eu cyd-wneuthurwyr ffilm ifainc.E-bostiwch [email protected] os hoffech chi gyflwyno eich ffilm chi.RHAD AC AM DDIM

MOvIEMAkEr GOThIG ChAPTEr

Codi BwganodLlun 2 RhagfyrCyfle rheolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos gweithiau newydd. Anfonwch e-bost at [email protected] os hoffech chi gyflwyno eich ffilm chi. O bryd i’w gilydd, bydd y ffilmiau â ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Chapter yn cynnwys deunydd anaddas i bobl ifainc felly rydym yn argymell y dylai mynychwyr fod dros 18 oed.RHAD AC AM DDIM

Ask

a Po

licem

an

Page 4: Sinema Rhagfyr 13

Sinema04 029 2030 4400

The Innocents Gwe 13 — Maw 17 RhagfyrDG/1961/100mun/12A. Cyf: Jack Clayton. Gyda: Deborah Kerr, Michael Redgrave, Peter Wyngarde.

Ar ôl i Miss Giddens gyrraedd stâd wledig i ddechrau ei swydd gyntaf fel dysgodres, mae hi’n cael ei chyflogwr yn ddyn oeraidd — does ganddo ddim diddordeb o gwbl, nac yn feddyliol nac yn emosiynol, yn y plant amddifad, sy’n nai ac yn nith iddo. Ar ôl iddi weld ysbrydion y cyn-ddysgodres a’i chariad, a gweld ymddygiad amhlentynnaidd y plant, mae Giddens yn argyhoeddedig eu bod nhw wedi eu meddiannu gan ysbrydion. Mae hi’n mynd ati i geisio’u hachub — ond mae’r canlyniadau drychinebus. Yn seiliedig ar nofelig Henry James, The Turn of the Screw, mae’r ffilm arswyd seicolegol ysblennydd hon newydd gael ei hadfer yn ddigidol gan y BFI.

Cyflwyniad i Ffilmiau ArswydNosweithiau Llun, 7 — 9pm Llun 13 Ionawr — Llun 10 ChwefrorYmunwch â’r gwneuthurwr ffilm a’r ffan arswyd, Ben Ewart-Dean, ar gyfer archwiliad dros gyfnod o bum wythnos o themâu a thechnegau ffilmiau arswyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn canolbwyntio ar thema wahanol: blynyddoedd cynnar ffilmiau arswyd, arswyd Prydeinig gwerin y 1970au, cyfresi arswyd Americanaidd y 1980au, hyd at weithiau arswyd cyfoes. Bydd y sesiynau’n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd â detholiad o glipiau o glasuron y genre a gweithiau gwych llai adnabyddus eraill. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi archwilio rhai o gorneli cudd un o feysydd mwyaf diddorol ac amrywiol astudiaethau ffilm.Cost y cwrs yw £55.00 / £45.00, a bydd mynychwyr y cwrs yn gallu prynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o ffilmiau tymor Gothig y BFI am bris gostyngol. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau. benewartdean.tumblr.com

A Magnificent hauntingMaw 17 RhagfyrYr Eidal/2012/102mun/is-deitlau/15. Cyf: Ferzan Ozpetek. Gyda: Elio Germano, Margherita Buy, Vittoria Puccini.

Mae Pietro newydd symud i Rufain ac yn awyddus i wneud gyrfa iddo’i hun fel actor. Ar ôl dod o hyd i fflat hyfryd am rent isel, dyw e’n methu â chredu ei lwc. Ond buan y dechreua gwrthrychau yn yr ystafell symud o gwmpas heb reswm ac mae e’n clywed synau rhyfedd sydd fel petaent yn dod o ystafelloedd gweigion. Daw i sylweddoli ei fod yn rhannu’i fflat â saith a hanner o drigolion — sydd wedi bod yn “byw” yn yr adeilad ers cryn amser. A all Pietro oresgyn ei ofnau rhesymegol ac afresymegol dyfnaf a’i waredu’i hun o’r sgerbydau yn ei gwpwrdd?

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter.

+ The Last Time I Saw richard Awstralia/2013/23mun/15. Cyf: Nicholas Verso.

Mae Jonah yn falch o’i statws fel “loner” yn y clinig iechyd meddwl i arddegwyr ond, ar ôl i Richard gyrraedd, rhai iddo wynebu’r ffaith ei fod wedi dechrau ffurfio cysylltiad ag ef. A fydd eu perthynas yn ddigon cryf i’w hamddiffyn rhag y bodau tywyll sy’n cuddio yn y cysgodion gyda’r nos?

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Inno

cent

s, A

Mag

nific

ent

haun

ting

Page 5: Sinema Rhagfyr 13

Sinema 05chapter.orgDa

leks

: Inv

asio

n Ea

rth

2150

A.D

.

Doctor Who yn 50 oedSad 7 RhagfyrBydd cyfres Doctor Who yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ym mis Tachwedd 2013 — sy’n golygu y bydd yna lu o weithgareddau i ddathlu bydysawd unigryw’r Doctor. Mae hi hefyd yn gan mlynedd ers geni Peter Cushing. Rydym yn falch o allu cyflwyno dwy ffilm nodwedd ‘vintage’ o’r 1960au — Dr Who and The Daleks a Daleks: Invasion Earth 2150 A.D. Gallwch brynu tocynnau unigol neu fanteisio ar docyn cyfun i weld y ddwy ffilm am £12/£10/£8.

Dr Who and the DaleksDG/1965/82mun/U. Cyf: Gordon Flemyng. Gyda: Peter Cushing, Roy Castle.

Yn Dr Who and the Daleks mae Doctor Who yn teithio trwy ofod ac amser yn y Tardis ac yn ei gael ei hun ar Skaro, man geni ei elynion pennaf, y Daleks. Difrodwyd Skaro gan wastraff niwclear ac mae’n rhaid i’r Daleks, sydd wedi’u hanffurfio’n ddifrifol, fyw mewn siwtiau metel er mwyn goroesi. Maen nhw’n cynllwynio i ddinistrio’r rhywogaeth arall sy’n byw ar y blaned — y Thals — gyda bom niwtron enfawr. Mae’r Thals addfwyn wedi’u tynghedu i farw — oni bai bod y Doctor yn gallu eu hachub!Ers eu cyflwyno am y tro cynta,f yn y gyfres gyntaf o Doctor Who ar y BBC (1963-1989; 2005-), cydiodd y Daleks — creaduriaid rhyfelgar, metalig o’r blaned Skaro — yn nychymyg cymdeithas a oedd yn ymddiddori mewn technolegau newydd a’r ras i archwilio’r gofod. Y ffilm Dr Who and the Daleks oedd y tro cyntaf i’r creaduriaid hyn gael eu gweld ar y sgrin fawr, mewn lliw.

Daleks: Invasion Earth 2150 A.D.DG/1966/81mun/U. Cyf: Gordon Flemyng. Gyda: Peter Cushing, Bernard Cribbins.

Ffilm sy’n adrodd hanes brwydr gyffrous y Doctor i achub poblogaeth ddynol y dyfodol rhag cael ei chaethiwo gan y Robomen a’u tynghedu i wasanaethu’r Daleks arswydus am byth! Dyw’r hil ddynol erioed wedi wynebu sefyllfa mor drallodus — a dim ond y mudiad amddiffyn tanddaearol a all rwystro’r Daleks rhag tra-arglwyddiaethu!

I ddod ym mis Ionawr:Gothig: Y Diafol CariadThe Haunting, 5 + 7 IonCat People & Curse of The Cat People, 12 + 14 IonNight of the Hunter, 17 – 19 IonRebecca, 26 + 28 Ion

Page 6: Sinema Rhagfyr 13

PhilomenaGwe 22 Tachwedd — Mer 11 RhagfyrDG/2013/94mun/12A. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Judi Dench, Steve Coogan.

Yn seiliedig ar y llyfr gan gyn-ohebydd y BBC a swyddog cyfathrebu Downing Street, Martin Sixsmith, mae’r ffilm ddiddorol a chraff hon yn adrodd hanes Philomena Lee, Gwyddeles a oedd yn golchi dillad yn Iwerddon. Cafodd ei phlentyn ei chipio oddi arni gan leianod a’i fabwysiadu yn America. Mae’r ffilm yn adrodd hanes ei brwydr dros gyfnod o 50 mlynedd i sicrhau aduniad â’i mab. Gan gyfarwyddwr The Queen, mae hon yn ffilm swynol sydd wedi ennill clod beirniaid mewn gwyliau ffilm ledled y byd.+ Disgrifiadau Sain ac is-deitlau meddal ar ddydd Llun 2 Rhagfyr

The Pervert’s Guide to IdeologyGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrUDA/2013/136mun/15. Cyf: Sophie Fiennes. Gyda: Slavoj Zizek.

Mae seren damcaniaethu diwylliannol, Slavoj Žižek, yn ymuno o’r newydd â’r cyfarwyddwr, Sophie Fiennes (The Pervert’s Guide to the the Cinema), i daro golwg ddifyr arall ar sinema ac athroniaeth. Yn llawn brwdfrydedd heintus a’i ddiddordeb tanbaid mewn diwylliant poblogaidd, mae Žižek yn dehongli ffilmiau nodedig er mwyn archwilio a datgelu sut maen nhw’n atgyfnerthu ideolegau eu cyfnod. Mae Titanic, wyau Kinder, clipiau newyddion ‘verité’, nawfed symffoni Beethoven a gweithiau propaganda epig o’r Almaen Natsïaidd a’r Rwsia Sofietaidd yn ysgogi rantio seicdreiddiol sinematig a phryfoclyd Žižek.

Blue is the Warmest ColourGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrFfrainc/2013/180mun/18. Cyf: Abdellatif Kechiche. Gyda: Adèle Exarchopoulos, Léa Seydoux, Jérémie Laheurte.

Stori gain a hardd am wraig ifanc sy’n dioddef cyfnod ingol o hunan-ddarganfyddiad wrth iddi ddod i oed a phrofi cariad am y tro cyntaf. Mae Adèle yn gweld Emma mewn torf — rhyw fath o ddrychweledigaeth rywiol — ac mae’r gwreichion yn tasgu. Mae eu byd yn teimlo’n gwbl ddilys ac oesol. Portread sensitif o ddwy ferch yn eu harddegau sy’n delio â chymhlethdodau bywyd a rhywioldeb amrwd.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr ar gyfer grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

Drinking BuddiesGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrUDA/2013/90mun/15. Cyf: Joe Swanberg. Gyda: Anna Kendrick, Jake M Johnson, Jason Sudeikis, Olivia Wilde.

Mae Luke a Kate yn gyd-weithwyr mewn bragdy yn Chicago lle maen nhw’n treulio’u dyddiau yn yfed ac yn fflyrtio. Maen nhw’n gweddu i’w gilydd yn berffaith — ddim ond eu bod nhw ill dau mewn perthnasau â phobl eraill. Mae Luke yn trafod priodas â’r ferch sy’n gariad iddo ers chwe blynedd. Mae Kate yn ceisio cadw pethau’n hamddenol gyda’i chariad hithau, Chris, sy’n gynhyrchydd cerddoriaeth. Ond wyddoch chi beth sy’n cymylu’r llinell aneglur rhwng bod yn “ffrindiau” a bod yn “fwy na ffrindiau”? Cwrw.

Sinema06 029 2030 4400

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Phi

lom

ena,

Blu

e is

the

War

mes

t Co

lour

Page 7: Sinema Rhagfyr 13

Sinema 07chapter.orgNo

s Ga

lan

2013

yn

Chap

ter

DANGOSIAD DWBL CLWB FFILMIAu GWAEL:And to All a Goodnight + The SweeneySul 1 RhagfyrMae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd i gyflwyno’r Dangosiad Dwbl Nadoligaidd sy’n Llawn Hwyl Hurt yr Ŵyl! Dwy ffilm ofnadwy a dau gyfle i stwffio losin blasus ac i gymryd rhan mewn gêmau a chystadlaethau, i dynnu craceri ac i sglaffio mins peis. Bydd y dangosiad dwbl yn cychwyn â’r ffilm arswydus (o wael) And to all a Goodnight (18) — mae adeg y Nadolig yn Ysgol Orffen Calvin i Ferched yn golygu partïon a hwyl, yn enwedig â phennaeth yr ysgol wedi gadael ar gyfer y gwyliau! Llai o hwyl yw’r llofrudd dirgel sy’n dechrau lladd cyplau sy’n caru yng ngolau’r goeden Nadolig. Ffilm ho ho hollol erchyll. Ar ôl egwyl am hwyl a sbri, gêmau a bwyd Nadoligaidd, byddwn yn gwthio’r erchyllterau i eithafion gyda’r addasiad ffilm o sioe heddlu boblogaidd y 70au, The Sweeney (15). Ray Winstone sy’n chwarae’r brif ran — ditectif profiadol gyda charfan wib Heddlu Metropolitan Llundain. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y ffilmiau’n unigol neu ar gyfer y ddwy ffilm am £10/£8.Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilmiau yn cynnwys sylwebaeth fyw.

It’s a Wonderful LifeGwe 20 — Sul 22 RhagfyrUDA/1946/130mun/U. Cyf: Frank Capra. Gyda: James Stewart, Donna Reed, Lionel Barrymore.

Yn ffefryn Nadolig oesol Capra dilynwn yr angel gwarcheidiol, Clarence Odbody, wrth iddo geisio helpu George Bailey, sy’n dioddef cyfnod o drallod. Trwy ddangos iddo sut le fyddai’r byd petai e heb gael ei eni — a chymaint o wahaniaeth y mae ei fywyd yn ei wneud i’w anwyliaid — daw i sylweddoli gwerth ei fywyd.

Nadolig Oh So CraftySad 14 Rhagfyr 11am-6pmFyddai hi ddim yn Nadolig heb Oh So Crafty, ein ffair grefftau chwarterol hynod boblogaidd sy’n llawn gweithiau cerameg, tecstilau a gemwaith gwych a nwyddau godidog i’r cartref — y lle perffaith i godi anrhegion hyfryd.

Ffair Fwyd NadoligaiddSul 15 Rhagfyr 11am-6pmYn dilyn llwyddant Ffair Fwyd Nadolig y llynedd, mae Chapter a Green City Events yn gweithio gyda’i gilydd eto i arddangos y cynhyrchion lleol gorau o Gymru. Llenwch eich cypyrddau’n barod at y Nadolig. Bydd anrhegion perffaith ar gael i’r bwydgarwr yn eich bywyd, ynghyd â siocledi, cawsys blasus, cigoedd ardderchog – a detholiad arbennig yn y caffi bar. Bydd Green City Events hefyd yn cynnal gweithdai a gweithgareddau i’r teulu cyfan drwy gydol y diwrnod.

Bwyta ac yfedBydd ein caffi bar yn cynnig bwydlen Nadoligaidd arbennig ar gyfer partïon am £13.50 y pen a phryd dau gwrs go iawn am £17 y pen. Cymrwch gip ar ein bwydlen Nadolig ar www.chapter.org/cy/bwydlenni

Nos Galan 2013 yn ChapterMaw 31 Rhagfyr 7pm — Mer 1 Ionawr 2amYmunwch â ni i groesawu 2014 â noson wych o gerddoriaeth fyw, wedi’i churadu gan Mel Daley, gan gynnwys Fist of the First Man, Gulp, The Lovely Eggs, Alex Dingley Band, Quiet Marauder, Baby Queen a set DJ gan Martin Carr. Awyddus i loddesta cyn i’ch addunedau Blwyddyn Newydd ddod i rym? Bydd yna ddetholiad gwych o blatiau bwffe a bar Prosecco i’ch cynnal chi drwy’r dathliadau, heb sôn am ein bar arferol a fydd ar agor tan 1.30am.£15 ymlaen llaw / £20 wrth y drws

Nadolig a ChalaN Nos yN Chapter

Page 8: Sinema Rhagfyr 13

Sinema08 029 2030 4400

The Patience StoneGwe 6 — Iau 12 RhagfyrFfrainc-Yr Almaen -Affganistan/2012/98mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Atiq Rahimi. Gyda: Golshifteh Farahani.

Mewn gwlad wedi’i hanrheithio gan ryfel, mae merch ifanc yn cael ei gadael ar ei phen ei hun i ofalu am ei gŵr, sydd wedi bod mewn coma ers pythefnos. Â’r rhyfel yn ffrwydro o’i chwmpas, mae hi’n sôn wrtho am y tro cyntaf am ei phlentyndod, ei breuddwydion, ei rhwystredigaethau, ei hunigrwydd, ei dyheadau a’i dioddefaint. Mae’r hyn sy’n dilyn yn newid ei bywyd am byth. Mae Farahani’n dychwelyd i’r sgrin fawr ar ôl ei pherfformiad rhagorol yn About Elly.Rhan o Ddetholiadau Swyddogol Gwyliau Ffilm Human Rights Watch, Tribeca a Llundain

“Eithriadol... profiad na ddylid ei golli.” Caryn James, Huffington Post

Game CityMaw 3 RhagfyrDathliad unigryw o ddiwylliant gêmau fideo wedi’i gyflwyno’n rhan o noson o syniadau, fideos, cerddoriaeth a thrafodaethau am gêmau a’r diwylliant cysylltiedig. Manteisiwch ar y cyfle i gwrdd â phobl greadigol ac i glywed am eu sgiliau, eu huchelgeisiau a’u dychymyg ac i weld y “demos” diweddaraf o gêmau arloesol.£6/£5 www.modernplaying.com

The NunGwe 6 — Iau 12 RhagfyrFfrainc/2013/114mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Guillaume Nicloux. Gyda: Pauline Etienne, Louise Bourgoin, Isabelle Huppert.

Ffilm sy’n adrodd hanes gwrthryfel a thynged drasig Suzanne Simonin, merch ifanc o deulu bourgeois sy’n cael ei rhoi mewn lleiandy yn erbyn ei hewyllys ar ôl y datguddiad ei bod yn blentyn anghyfreithlon. Mae hi’n derbyn rhywfaint o gysur ac empathi gan yr Uchel Fam ond buan y caiff hi’i hun ar drugaredd gwraig sadistaidd — ac yn cael ei thormentio gan y Chwiorydd. Mae Suzanne yn gwneud popeth y gall i geisio dirymu ei llw, gan gynnwys ei throsglwyddo’i hun i gwfaint arall, lle mae hi’n mynd ati i gynllunio dihangfa feiddgar. Addasiad o glasur yr awdur Ffrengig, Denis Diderot.

“Mae difrifwch y ffilm yn cael ei wrthbwyso gan egni’r naratif, gosgeiddrwydd gweledol a pherfformiad canolog gwych gan yr actores ifanc Pauline Etienne.” Jonathan Romney, Screen International

The ButlerGwe 6 — Iau 12 RhagfyrUDA/2013/132mun/12A. Cyf: Lee Daniels. Gyda: David Oyelowo, Forest Whitaker, Oprah Winfrey.

Mae’r darn ensemble hwn, llawn sêr, yn adrodd hanes bwtler yn y Tŷ Gwyn a wasanaethodd wyth o arlywyddion rhwng 1952 a 1986. O’r herwydd, cafodd brofiad unigryw o rai o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes diweddar America.+ Disgrifiadau Sain ac is-deitlau meddal ar ddydd Llun 9 Rhagfyr

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Pat

ienc

e St

one,

The

Nun

Page 9: Sinema Rhagfyr 13

Sinema 09chapter.org

NT Live: The habit of Art Dangosiad EncoreSul 8 RhagfyrMae Benjamin Britten yn gofyn am gyngor gan ei gyn-gydweithiwr a’i gyfaill, WH Auden. Yn ystod y cyfarfod dychmygol hwn, y tro cyntaf iddyn nhw weld ei gilydd ers pum mlynedd ar hugain, cânt eu dilyn — ac fe amherir ar y cyfarfod — gan eu darpar gofiannydd, ymhlith eraill. Mae drama Alan Bennett yn archwilio dyheadau cythryblus dau ddyn cysetlyd a moeseg bywgraffiadau. Mae’n fyfyrdod ar heneiddio, ar greadigrwydd ac ysbrydoliaeth, ac ar ddyfalbarhau er gwaetha diffyg angerdd ac ysgogiad: yn y pen draw, mae’n fyfyrdod ar gelfyddyd ac ar arferion.£13/£11/£10

Streetwise Opera: The Answer to Everything Iau 12 RhagfyrMae hyder corfforaethol pawb yng nghynhadledd Locateco Solutions yn uchel, ond wrth i gerddoriaeth ddisodli rhethreg byd busnes, buan yr ymddengys y craciau. A oes gan y cynadleddwyr ‘ateb i bopeth’ mewn gwirionedd? Mae’r opera ffilm 40-munud o hyd hon gan Streetwise Opera yn ddoniol a gobeithiol ac yn cynnwys cast o 100 o bobl ddigartref a cherddoriaeth newydd gan gyfansoddwyr cyfoes a gyflwynir ar y cyd â cherddoriaeth gan Britten, Handel, a Vivaldi.Dilynir y dangosiad gan ffilm fer am y broses o greu’r gwaith a pherfformiad arbennig gan grŵp Streetwise Opera.

Jeune & JolieGwe 13 — Iau 19 RhagfyrFfrainc/2013/95mun/is-deitlau/18. Cyf: Francois Ozon. Gyda: Marine Vacth, Geraldine Pailhas, Frederic Pierrot.

Portread o deffroad rhywiol merch 17 oed gan gyfarwyddwr Swimming Pool a In The House, Francois Ozon. Ar wyliau teuluol, mae Isabelle yn cynnig ei morwyndod i ddyn golygus ac mae ei ffieidd-dod at yr hyn sy’n digwydd yn amlygu ochr dywyllach ar ei phersonoliaeth a diddordeb mewn pornograffi ar y we. Mae hi’n dechrau bywyd dirgel — gyda’r dydd mae hi’n fyfyriwr ysgol uwchradd ond yn ei hamser sbâr, mae hi’n gweithio fel ‘call girl’ safon-uchel — a’i theulu cefnogol a chariadus yn amau dim...

ParklandGwe 13 — Llun 23 RhagfyrUDA/2013/93min/15. Cyf: Peter Landesman. Gyda: Zac Efron, Billy Bob Thornton, Paul Giamatti.

Mae’r ffilm hon yn adrodd hanes y digwyddiadau cythryblus yn Ysbyty Parkland, Dallas, ar y diwrnod y cafodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, John F. Kennedy, ei lofruddio. Mae’n cyflwyno safbwyntiau llond llaw o unigolion cyffredin a gaiff eu dal yn sydyn mewn amgylchiadau eithriadol: y meddygon a’r nyrsys ifainc, arweinydd Gwasanaethau Cudd Dallas, y dyn a lwyddodd i ffilmio deunydd a ddeuai, maes o law, yn ffilm gartref enwocaf y byd, a theulu Lee Harvey Oswald sy’n gorfod delio â goblygiadau’r chwalfa.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Str

eetw

ise

Oper

a: T

he A

nsw

er t

o Ev

eryt

hing

, Jeu

ne &

Jol

ie

Page 10: Sinema Rhagfyr 13

Sinema10 029 2030 4400

Rhan gyntaf ac ail ran Trioleg Marseilles Marcel Pagnol — â’r drydedd ran i ddod yn fuan. Mae hon yn stori am fywyd dosbarth gweithiol ym Marseilles y 1920au. Fe’i hadroddir â chynhesrwydd a ffraethineb gan yr actor a’r cyfarwyddwr chwedlonol, Daniel Auteuil. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y ffilmiau’n unigol neu mae tocyn cyfun ar gyfer y ddwy ffilm yn £12/£8/£6.

MariusGwe 13 — Iau 19 RhagfyrFfrainc/2013/93mun/is-deitlau/12A. Cyf: Daniel Auteuil. Gyda: Daniel Auteuil, raphaël Personnaz, victoire Bélézy, Jean-Pierre Darroussin.

Pan nad yw’n gweithio yn y caffi teuluol, mae’r Marius breuddwydiol yn syllu â llygaid cariad ar Fanny, y gwerthwr pysgod cregyn 18-mlwydd-oed. Mae Marius yn breuddwydio am hwylio i ffwrdd ar long fasnach, ond mae ei anallu i gyfaddef ei deimladau yn gwthio Fanny i freichiau perchennog y ffatri leol, Panisse, dyn mwy na dwywaith ei hoed. Yn y cyfamser, mae ei dad, Cesar, yn gwylio’r cyfan o’r tu ôl i ddrysau caeedig ac yn rhoi cyngor i’w fab gan wybod yn iawn y caiff ei anwybyddu.

FannyGwe 20 — Llun 30 RhagfyrFfrainc/2013/93mun/is-deitlau/PG. Cyf: Daniel Auteuil. Gyda: Daniel Auteuil, Raphaël Personnaz, Victoire Bélézy, Jean-Pierre Darroussin.

 Marius ar daith ar Foroedd y De, caiff Fanny ei gadael ar ei phen ei hun ym Marseilles — a than ddylanwad y Panisse trist ac addfwyn. Daw i’r amlwg bod Fanny’n cario plentyn Marius a, gyda chymorth ei theulu a thad Marius, Cesar, maent yn dod i gytundeb â Panisse, gan sicrhau diogelwch ariannol iddi hi a’i mab ac osgoi’r cywilydd o orfod magu plentyn heb dad. Ond beth fydd yn digwydd pan ddaw Marius adre?

Dom hemingway Llun 16 — Llun 30 RhagfyrDG/2013/93mun/15. Cyf: Richard Shepard. Gyda: Jude Law, Richard E Grant, Demian Bichir.

Ar ôl treulio 12 mlynedd yn y carchar am wrthod dweud y gwir, mae’r ‘safe-cracker’ enwog, Dom Hemingway, yn ôl ar y strydoedd Llundain ac yn awyddus i gasglu dyledion. Gan dîm cynhyrchu Sexy Beast (a gyfarwyddwyd gan Jonathan Glazer), ac yn cynnwys sgript miniog, garw (rhegfeydd di-ri, hynny yw!), ac arddull weledol drawiadol, mae’r ffilm hon yn gyfle i weld Law a Grant ar eu gorau.

O’r t

op i’

r gw

aelo

d: M

ariu

s, D

om h

emin

gway

Page 11: Sinema Rhagfyr 13

Sinema 11chapter.org

Saving Mr BanksGwe 20 Rhagfyr — Iau 9 IonawrUDA/2013/125mun/PG. Cyf: John Lee Hancock. Gyda: Emma Thompson, Tom Hanks, Paul Giamatti.

Ar ôl i Walt Disney addo gwneud ffilm o hoff lyfr ei blant, rhaid iddo argyhoeddi’r awdur, PL Travers, y bydd ei llyfr annwyl, Mary Poppins, yn cael y driniaeth y mae’n ei haeddu. Yn ddigyfaddawd a chrintachlyd, mae’r awdur yn bendant ei barn na ddylai ei stori gael ei throi’n ffilm rad Hollywoodaidd a dim ond ar ôl i Disney archwilio ei blentyndod ei hun y daw i wybod am yr ysbrydion sy’n ei phlagio. Gyda’i gilydd, maen nhw’n llwyddo i ryddhau Mary Poppins.+ Disgrifiadau Sain ac is-deitlau meddal ar ddydd Llun 23 RhagfyrByddwn ni hefyd yn dangos Mary Poppins, Sad 14 + Sul 15 Rhagfyr (gweler tudalen 12).

Blue JasmineGwe 27 Rhagfyr – Iau 9 IonawrUDA/2013/98mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Alec Baldwin, Cate Blanchett, Sally Hawkins, Louis C K.

Ar ôl i’w bywyd — a’i phriodas â’r gŵr busnes cyfoethog Hal — gwympo’n ddarnau, mae’r ‘socialite’ gosgeiddig, Jasmine, yn symud o Efrog Newydd i fflat glawstroffobig ei chwaer, Ginger, yn San Francisco er mwyn ceisio rhoi trefn ar ei bywyd. Mae Blanchett yn amlwg yn ei mwynhau ei hun yn rôl Jasmine — menyw niwrotig sy’n llyncu tabledi Xanax. Mae ffilm ddiweddaraf Allen yn archwilio’r hiwmor sydd i’w gael mewn trasiedi ac wedi derbyn canmoliaeth hael gan y beirniaid.+ Disgrifiadau Sain ac is-deitlau meddal ar ddydd Llun 30 Rhagfyr

hefyd yn Chapter y mis hwnNid sinema yn unig yw Chapter. Dyma rai uchafbwyntiau o blith ein digwyddiadau eraill ym mis Rhagfyr. I gael mwy o fanylion, gallwch lawr-lwytho ein cylchgrawn chwarterol diweddaraf o www.chapter.org

CelfyddydMae ein sioe grŵp 3AM: Wonder, Paranoia and the restless Night yn archwilio dieithrwch y nos, tra bod hollywood Dooom gan Stanley Donwood yn cyflwyno golygfeydd apocalyptig o Los Angeles yn y Caffi / Bar.

PerfformiadauBydd Georgia ruth , enillydd Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2013, yn ein swyno â’i chaneuon gwerin melancolaidd a hyfryd yn y theatr (Sul 8 Rhagfyr) a byddwn yn ffarwelio â 2013 gyda Beauty and the Beasts, adolygiad dychanol ac amharchus Shock n Awe o’r flwyddyn (Llun 16 — Mercher 18 Rhagfyr).

AddysgCyFLWyNIAD I ShAkESPEArE Llun 2 + Maw 3 Rhagfyr, 9.45am-2.45pmBydd 45 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Caerau yn cymryd rhan yn y diwrnodau astudio hyn, a fydd yn cynnwys dangosiadau ffilm, drama, darllen, ysgrifennu ac ymarferion darllen a deall. Mae gosod Shakespeare yn ei gyd-destun, mewn Canolfan Gelfyddydau, yn helpu’r disgyblion i ddeall o’r newydd bod Orielau a Theatrau yn ganolfannau addysgol — sydd yn rhan bwysig o’r amcanion dysgu cyfredol. I gael mwy o wybodaeth am weithdai wedi’u teilwra’n benodol at eich hanghenion chi e-bostiwch [email protected]

O’r c

hwith

i’r d

de: S

avin

g M

r Ban

ks, T

onic

o Le

mos

Aua

d, S

leep

Wal

kers

, 200

9. D

arna

u tr

ydan

ol a

les,

17

o la

nter

ni w

edi’i

gw

nïo

à lla

w. D

arna

u un

igry

w m

ewn

cyfr

es o

dri

amry

wia

d. ©

yr a

rtis

t.

Gyda

cha

niat

âd y

r art

ist a

’r M

UHKA

(Mus

eum

van

Hed

enda

agse

Kun

st A

ntw

erpe

n).

Page 12: Sinema Rhagfyr 13

Sinema12 029 2030 4400

Mary Poppins Sad 14 + Sul 15 RhagfyrUDA/1964/139mun/U. Cyf: Robert Stevenson. Gyda: Julie Andrews, Dick Van Dyke.

Caiff nani hudolus ei chyflogi i ofalu am deulu anhapus banciwr oeraidd.Wrth eich bodd â’r ffefryn teuluol hwn? Peidiwch â cholli Saving Mr Banks, sy’n adrodd hanes y broses o addasu Mary Poppins ar gyfer y sgrin fawr.

Saving Mr BanksGwe 20 Rhagfyr — Iau 9 IonawrUDA/2013/125mun/PG. Cyf: John Lee Hancock. Gyda Emma Thompson, Tom Hanks, Paul Giamatti.

Ar ôl i Walt Disney addo gwneud ffilm o gymeriad Mary Poppins, mae awdur y llyfr gwreiddiol yn gyndyn o adael i’w chreadigaeth annwyl gael ei throi’n destun ffilm deuluol.Am fwy o fanylion trowch i dudalen 11.

Free BirdsGwe 20 — Mer 24 RhagfyrUDA/2013/91mun/U. Cyf: Jimmy Hayward. Gyda: Woody Harrelson, Owen Wilson.

Mae dau dwrci o eithafion cymdeithas yn anwybyddu’r gwahaniaethau rhyngddynt er mwyn teithio yn ôl mewn amser i newid cwrs hanes — ac i sicrhau na fydd twrci i’w weld ar fwydlenni’r dyfodol!

Frozen [2D]Gwe 27 Rhag — Sul 5 IonawrUDA/2013 /102mun/U. Cyf: Chris Buck, Jennifer Lee. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad.

Mae’r optimist eofn Anna yn ymuno â Kristoff ar daith epig, drwy’r eira a’r oerfel, ac yn dod ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf, wrth iddi geisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa. Mae pwerau rhewllyd Elsa wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol...

Carry on Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry on Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfodpoeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn ibobl â babanod blwydd oed neu iau.

Cloudy with a Chance of Meatballs 2Sad 7 RhagfyrUDA/2013/95mun/U. Cyf: Cody Cameron, Kris Pearn. Gyda: Bill Hader, Anna Faris.

Mae Fflint Lockwood yn gweithio gyda’r Live Corp Company, ac yn cael ei gyflogi gan ei eilun, Chester V. Ond caiff ei orfodi i adael ei swydd ar ôl dysgu bod ei beiriant mwyaf drwg-enwog ef yn dal yn weithredol ac yn creu bodau hybrid bygythiol, sy’n gyfuniad o fwyd ac anifeiliaid.

DangoSiaD Mewn aMgylChiaDau arbennigCloudy with a Chance of Meatballs 2Diwrnod Ffilm Rhad ac am Ddim i DeuluoeddSul 7 Rhagfyr, 10am — 3pmYmunwch â ni ar gyfer ein diwrnod ffilm teuluol rhad ac am ddim a fydd yn cynnwys gweithdy creadigol gyda Contact a Family Cymru. Mae’r digwyddiad ar agor i deuluoedd a brodyr a chwiorydd plant ag anableddau a/neu plant ag anghenion ychwanegol. “Doeddwn i ddim yn gorfod poeni am blentyn yn crio neu’n ymddwyn yn amhriodol — dim ond ar ôl i mi gyrraedd adref y sylweddolais nad oeddwn i wedi bod dan straen o gwbl ac, yn wir, nad oedd yr un o’r teuluoedd eraill fel petaen nhw wedi bod dan straen chwaith. Dw i’n siŵr i hyn gael effaith gadarnhaol ar y plant. Roedd yn brofiad arbennig iawn i’r teulu cyfan.” Dyfyniad gan riant.I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle i’ch teulu chi, anfonwch e-bost at [email protected] neu gallwch ffonio 029 2039 6624 neu 01978 351769.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Clo

udy

wit

h a

Chan

ce o

f Mea

tbal

ls 2

, Fre

e Bi

rds

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Cysylltwch â ni i gael manylion am Ddangosiadau Mewn Amgylchiadau Arbennig.