y selar - rhagfyr 2011

24
y Selar AM DDIM RHIFYN 25 . MEHEFIN . 2011 CATRIN HEL CLECS GYDA CANDELAS TWMFFAT @HUW_M ADOLYGIADAU

Upload: y-selar

Post on 21-Mar-2016

262 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Rhagfyr 2011

y Selar AMDDIM

RHIF

YN

25

. M

EHEF

IN .

20

11

CATRINHEL CLECS GYDA

CANDELAS

TWMFFAT

@HUW_M

ADOLYGIADAU

templateyselar.indd 1templateyselar.indd 1 4/12/11 19:30:384/12/11 19:30:38

Page 2: Y Selar - Rhagfyr 2011

4

S a i n•R a s a l•G w y m o n•C o p a

Lawrlwytho traciau MP3Os hoffech brynu traciau neu albyms cyfan mewn fformat mp3 o gatalog Sain, Rasal, Gwymon neu Copa yna ewch i:

www.sioplawrlwythosain.com

CDs newydd sbon gan

Yr OdsTroi a throsi £9.99

Huw M Gathering dusk £9.99g

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

templateyselar.indd 2templateyselar.indd 2 4/12/11 19:31:034/12/11 19:31:03

Page 3: Y Selar - Rhagfyr 2011

3

12

16

8

4

CANDELAS

TWMFFAT

CATRIN HERBERT

CYNLLUNIAU 2012

GO

LYG

YD

DO

L

y SelarRHIFYN 27 . RHAGFYR . 2011

GolygyddOwain Schiavone ([email protected])

DylunyddDylunio GraffEG(elgangriffi [email protected])

MARCHNATAEllen Davies([email protected])

CyfranwyrLowri Johnston, Owain Gruffudd, Gwilym Dwyfor, Casia Wiliam, Ciron Gruffydd, Dewi Snelson, Barry Chips

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa. Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Mae’n teimlo fel amser hir ers rhifyn diwethaf y Selar, ac er gwaetha’r hydref mwyn, mae’r Eisteddfod yn Wrecsam yn teimlo fel atgof pell.

Roedd yn Steddfod dda, a llwyth o gerddoriaeth fyw ar gynnig ar y maes ac yn y dref ei hun. Mae bwrlwm y sin gerddoriaeth wedi parhau i mewn i’r hydref ac mae llwyth o gynnyrch newydd wedi’i ryddhau, neu ar fin ei ryddhau erbyn y Nadolig.

Dwi’n gobeithio fod y rhifyn hwn yn adlewyrchu’r bwrlwm hwnnw sy’n bodoli ar hyn o bryd. Mae’n argoeli bod blwyddyn brysur arall o flaen ein cerddorion cyfoes, ac rydan ni wedi bod yn siarad â nifer o fandiau ac artistiaid i weld beth sydd ar y gweill ganddyn nhw yn 2012.

Mae’n bwysig edrych ymlaen at y dyfodol, ond mae diwedd y flwyddyn yn gyfle i ddathlu’r flwyddyn a fu wrth gwrs, ac rydan ni’n lansio Gwobrau’r Selar 2011 rhywle rhwng y cloriau sgleiniog yma hefyd.

Newyddion da arall sydd gennym ydy fod Y Selar wedi derbyn cyllid i gynnal y cylchgrawn am dair blynedd arall. Dyma gyfle felly i ddiolch yn fawr i Gyngor Llyfrau Cymru am eu cymorth a chefnogaeth. Mae’n gyfnod anodd i gerddorion Cymraeg rhwng y dirwasgiad a’r toriadau mewn breindaliadau - mae’n bwysig felly fod cylchgrawn fel Y Selar sy’n gallu rhoi llwyfan ar gyfer eu cynnyrch.

Digon o ddiolchiadau am y tro, neu bydd hi’n Ddolig arnom ni!

O, nes i bron ag anghofio ... dwi’n siw^ r i chi sylwi ar y CD bendigedig sydd ar glawr y rhifyn yma. Diolch yn fawr iawn i Dewi a Menter Môn am drefnu casgliad gwych o ganeuon i ni eu dosbarthu’n rhad ac am ddim i ddarllenwyr.

Mwynhewch rifyn olaf 2011 o’r Selar ond cyn mynd, cofiwch un peth ... ni wyddys am fwyniant y ffynnon onid êl yn hesb.

OWAIN S

templateyselar.indd 3templateyselar.indd 3 4/12/11 19:31:204/12/11 19:31:20

Page 4: Y Selar - Rhagfyr 2011

4

C S

cyfweliad

Mae Candelas wedi rhyddhau eu EP cyntaf

yn ddiweddar ac yn dechrau dal sylw’r

sylwebyddion. Casia Wiliam fu’n siarad â

nhw ar ran Y Selar.

Mae’r pedwarawd gwalltog o’r Bala fel geifr

ar daranau rhwng recordio yn y stiwdio a

chwarae mewn gigs ledled Cymru, ond fe

lwyddais i ddal y Candelas am bum munud

i gael sgwrs am yr EP newydd, eu syniad

nhw o gael mwy o gigs dwyieithog yng

Nghymru a sut deimlad yw bod yn rhech

annisgwyl mewn capel! Mae’r Candelas

wedi cyrraedd.

Candelas, helo! Gadewch i Gymru ddod i’ch

adnabod ychydig bach well. Disgrifiwch eich

hunain mewn un gair...

Osian - Sleepy,

Ifan - Grumpy,

Tomos - Happy,

Gruff - Dopey!

Hmmm masiwr bod yna ddeunydd jôc yn

fana’n rwla ond na’i ymatal. Beth am un gair

yr un i ddisgrifio eich EP newydd, ‘Kim y

Syniad’?

Osian - personol,

Ifan - garej,

Tomos - byw,

Gruff - trashy

Felly, gyda chlawr cain a sain amrwd, ‘Kim

y Syniad’ yw EP cyntaf y band o’r Bala a

gafodd ei rhyddhau ym mis Medi, ac er

‘mod i’n teimlo fy mod i wedi clywed yr

enw Candelas ar y tonfeddi ers tro, mae’n

anodd coelio mai dim ond er 2009 mae’r

band wedi bod yn chwarae fel Candelas yn

‘swyddogol’.

Dyma fand arall sydd wedi esblygu o

gyfeillgarwch a dawn gerddorol, ond mae

gen i ddiddordeb yn sut y penderfynwyd

ar sw^ n a steil y Candelas? Neu oedd o’n

rhywbeth ddaeth yn naturiol?

“Odde ni gyd yn ffrindie gore’ o ddechre’

ysgol uwchradd a’r 4 ohonom ni’n hoffi’r

‘run math o fiwsig. ‘Odd pawb hefyd yn cael

gwersi gitâr felly oedden ni efo diddordeb

mawr mewn cerddoriaeth ac ‘oedd ein

hathro ni’n ein hybu ni, mewn ffor’ dda, i

gychwyn chware mewn band efo’n gilydd.

“Nath y gerddoriaeth jyst dod o’n

dylanwade ni a’n amlwg nath o ddatblygu

wrth i ni gyd dyfu fyny. Felly do, nath

popeth ddod yn naturiol a da ni mewn lle

rw^ an lle ma pawb yn gyfforddus yn chware’r

gerddoriaeth ag odd hune’n reswm da i

recordio EP.”

Wel, yn bendant, dwi ‘di mwynhau’r EP

CANDELASYR YNCL RHYFEDD TI’N GWELD POB DOLIG!

templateyselar.indd 4templateyselar.indd 4 4/12/11 19:31:584/12/11 19:31:58

Page 5: Y Selar - Rhagfyr 2011

5

newydd yn fawr iawn. Mae’n llwyddo i fod

yn drwm, yn amrwd ac yn wir yn trashy ar

adegau ond yn felodig iawn hefyd felly’n

aros yn y cof, ac mae’r EP yn gwneud i mi

fod isio’ch gweld chi’n chwarae’n fyw yn

syth bin achos ti jyst yn gwybod y byddai’r

perfformiad byw o’r un safon. Mae rhyw

hunaniaeth gref yn perthyn i’ch sw^ n chi -

faswn i ddim yn eich cymysgu chi â’r un

band arall - oedd gennych chi fwriad neu

syniad penodol am beth oeddech chi isho’i

greu wrth fynd ati i recordio’r EP?

“Oedden ni’n gwbod yn iawn be oedden ni

isho a hyn yn dod eto o’n dylanwade. Oedd

rhaid i ni recordio popeth, oni bai am y canu,

yn fyw achos dyne lle da ni gyd ar ein gore’.

Hefyd i gal y sw^ n mor agos neu debyg i’n set

byw ni ag sy’n bosib a bod y steil cynhyrchu

ddim yn amharu efo’r caneuon.

“Y sw^ n oedden ni’n anelu amdano fo oedd

popeth mor naturiol a thriw i’r offerynnau â

phosib. Da ni di clywed gymaint o recordie’

diweddar le ma’r dryms ar gitârs yn swnio

mor annaturiol ac un-dynamic a’r llais yn

swnio mor lân ac auto tuned - wedyn da

chi’n mynd i weld y band yn fyw a ma’n

swnio mor wahanol! Dyma doedden ni ddim

isho bod! Felly o’r cychwyn da ni di bod yn

recordio popeth yn hunen heb gynhyrchydd.

Wrach yn y dyfodol nawn ni fynd i stiwdio

broffesiynol, ond am y tro da ni’n fwy na

bodlon i neud o’n hunen ... a ma Ethan

Johns yn ddrud!”

Ro’n i wedi darllen mai yn garej Osian y

cafodd yr albwm ei recordio. Pam talu os

allwch chi ‘neud joban mor dda arni eich

hunain ‘de?

Pwy fasa chi’n ddweud sydd wedi bod yn

ddylanwadau arnoch chi? Pwy ydach chi’n

edmygu fel cerddorion?

“Ma pawb yn y band efo’u blas unigryw ei

hun ond bod ein prif ddylanwade ni’n dod

o: The Strokes, Pixies, We Are Animal, The

Kinks.“Da ni’n meddwl fod y Sin Gerddoriaeth

Gymraeg yn wych a wastad di bod mor

safonol hefo bandiau fel Colorama, Cowbois

Rhos Botwnnog, Creision Hyd, Yr Ods

a Gentle Good ond da ni’n teimlo fod

angen rhyw newid bach ym meddylfryd

cynulleidfaoedd Cymraeg i ddallt y syniad o

fod ‘mewn gig’”.

“DA NI DI CLYWED GYMAINT O RECORDIE’

DIWEDDAR LE MA’R DRYMS AR GITÂRS YN SWNIO

MOR ANNATURIOL AC UN-DYNAMIC...”

Mae ‘na do o fandiau ifanc wrthi’n teilwra

lle i’w hunain yn y SRG, Y Bandana,

Creision Hud a Crash.Disco! i enwi dim

ond llond llaw. Lle ydach chi’n gweld eich

hunain yn ffitio yn y sin gerddorol yng

Nghymru ar hyn o bryd?

“Da ni’n teimlo ‘chydig fel y ddafad ddu,

yr yncl rhyfedd ne ti’n gweld bob Dolig,

rhech annisgwyl yn capel a’r gîc sy’n cal i

gloi yn y locyrs bob bore Llun. Dos ne ddim

band Cymraeg sy’n chware’r un math o

gerddoriaeth â ni - dim yn trio bod yn ben

mawr - ffaith dio. Ma’ ne amryw o fandie da

indî yn canu’n Gymraeg ond da ni’n teimlo

bo ni’n dod o drywydd gwahanol.

Briliant! Candelas ydi yncl od y Nadolig - y

rhech annisgwyl mewn capel. Dylsa chi

gael hynna fel strap-line ar yr EP! Dwi wrth

fy modd efo ‘Kim’ - mai’n lot o hwyl. Ella i

templateyselar.indd 5templateyselar.indd 5 4/12/11 19:45:064/12/11 19:45:06

Page 6: Y Selar - Rhagfyr 2011

ddychmygu eich bod chi’n cael ymateb da i’r

gân yna yn fyw. Oes ganddo chi hoff gân oddi

ar yr EP neu hoff gân i’w chwarae’n fyw?

“Wrach na ‘Sgidie Ysgol’ a ‘Kim’ sy’n sefyll

allan ond da ni’n mwynhau chwara pob un -

o ‘A’i yn ôl’ yn y gigs tawel i ‘Y ffordd ddu’

lle da ni’n troi popeth fyny i 11.”

A, dwi’n gweld. Ma’n siw^ r o amrywio yn

dibynnu ar y lleoliad tydi. Mae’n rhaid i mi

sôn am glawr yr EP. Mae’n glawr trawiadol

iawn. Dwi’n gweld mai Mark Hannick sy’n

gyfrifol am y dylunio. Mae ansawdd gweledol

cerddoriaeth Cymru yn cryfhau ac yn

datblygu yn gyson … gwaith celf Elfyn Lewis

ar Y Record Goch yn ddiweddar yn

un enghraifft. Ydi delwedd weledol y

band yn bwysig i chi?

“Yn amlwg oedden ni isho’r clawr

glymu â’r gerddoriaeth ore bosib.

Felly’r syniad oedd cadw popeth

yn syml, trawiadol a dim ‘ffrils’ o’i

amgylch o. “Da ni’m yn poeni llawer am ein delwedd

weledol gan fod ein sylw ni’n bennaf ar fod

yn dynn a chael caneuon o safon.”

Mi oeddech chi’n rhan o daith Chwiw efo

Just Like Frank (Breichiau Hir erbyn hyn)

Y Bandana a Crwydro y llynedd a ‘da chi’n

rhan o line-up Rhyngol eleni.

Mi ddywedodd Yr Ods mewn cyfweliad efo

Golwg yn ddiweddar y bydda nhw mwya’

tebyg yn gwneud colled o’u taith o amgylch

Cymru yn yr hydref. Sut ydych chi’n gweld

sefyllfa cerddoriaeth fyw yng Nghymru ar

hyn o bryd? Oes ‘na ddigon o gigs? Digon o

feniws gwahanol? Ydach chi’n cael digon o

bres am chwarae?

“Does ‘na’r un band Cymraeg yn gneud

o am y pres neu fel arall ‘sa ne’m llawer o

fandie yma heddiw. Yn amlwg ma’r nifer o

Gymry Cymraeg sydd â diddordeb mewn

cerddoriaeth yn reit fach, a does neb i feio

am hyn, felly’r duedd ydi gweld yr un dorf

driw ymhobman. O ran y nifer o gigs, yn

amlwg ‘sa’n dda cael mwy ond mae’r nifer o

gigs yn cyfateb i’r nifer o fandiau felly wrach

‘sa lot mwy o gigs yn gneud i’r bandiau fynd

yn stêl.”

Oes ‘na unrhyw ffordd o ddatrys hyn ‘da

chi’n meddwl ta dyma yw’r gwir am sin

gerddoriaeth fyw gwlad fach?

“Syniad da mewn gigs wrach fase cymysgu

mwy o fandie Cymraeg a Saesneg efo’i

gilydd - mae hyn i agor drws newydd i’r sin

Gymraeg a chyrraedd cynulleidfa fwy eang.

Nid troi yn Saesneg fyse hyn - ond dangos

be s’gen y sin i’w gynnig a chynnwys mwy

o bobl yn rhan ohono fo.

“Ma’r sin yn dda iawn i hybu bandiau

newydd, ac mae llawer o’r clod yma’n mynd

i C2 wrach, a ma ne ddigon o gyfleoedd i

fandiau chwarae. Ar y llaw arall wrach bo’

hyn yn beth drwg hefyd gan fod band yn

cael mwy na mae nhw’n haeddu a dylai

band weithio’n galetach i greu llwyddiant i’w

hunain. O ran feniws ma ne ddigon o ddewis. A

ma pobl fel Iwan ‘Goleuo’ yn trefnu gigs yn

rheolaidd mewn feniws gwahanol bob tro,

sydd yn wych. Fyse fo’n dda cael mwy o

hyrwyddwyr i drefnu gigs yn gyson ond da

ni’n dallt bo’ hyn yn waith caled. Hefyd lle

ma canolbarth Cymru yn y sin? Da ni fo gigs

rheolaidd yn Llanidloes a fanno da ni’n cal

yr ymateb gorau weithie er bod y mwyafrif

yn Gymry di-Gymraeg. A ma ‘ne lawer yno

sydd isho bod yn rhan o’r sin ond yn teimlo

ychydig allan ohoni.”

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi

yn ddiweddar eu bod nhw yn gobeithio

gwneud bywoliaeth o’u cerddoriaeth - allwch

chi ddychmygu Candelas yn anelu i wneud

yr un peth?“Yn amlwg, dyne di’r freuddwyd ond mae’n

anodd iawn cyflawni hyn yn y sin Gymraeg

er bod digon o fandiau digon da i haeddu

hyn.”

Candelas, diolch o galon. Mae wedi

bod yn bleser. Mi faswn i’n annog pawb

i brynu ‘Kim y Syniad’ ac i gadw llygaid

ar y Candelas - dwi’n siw^ r y byddwn ni’n

clywed digon o sw^ n gan y rhech annisgwyl

yn y capel am flynyddoedd i ddod.

“DA NI’N TEIMLO CHYDIG FEL Y

DDAFAD DDU ... A’R GÎC SY’N

CAL I GLOI YN Y LOCYRS BOB

BORE LLUN”

LLUNIAU: HELEDD ROBERTS

6 www.y-selar.com

templateyselar.indd 6templateyselar.indd 6 4/12/11 19:46:004/12/11 19:46:00

Page 7: Y Selar - Rhagfyr 2011

7

Bydd y rhai craff ohonoch wedi sylwi ar y

CD hyfryd oedd wedi’i ludo ar glawr rhifyn

hwn y Selar. Rydym wedi cydweithio â

Menter Môn â’r Sefydliad Cerddoriaeth

Gymreig i ddarparu’r casgliad hyfryd o

ganeuon Cymraeg yma’n rhad ac am ddim

ac yn ddiolchgar iawn am gymorth gan

Fwrdd yr Iaith Gymraeg i wneud hynny.

Bydd y CD yn ddathliad o gyfoeth y sin i

nifer, ac yn gyflwyniad i’r cyfoeth hwnnw i

eraill. Bydd nifer o’r artistiaid sy’n cyfrannu

at y casgliad yn gyfarwydd i chi, ond rhag

ofn, dyma bwt o wybodaeth am bob un.

1. PLANT DUW

Pedwarawd gwych a gwallgof o Fangor,

sy’n cyfuno dawn gyfansoddi arbennig gyda

pherfformiadau byw egnïol. Enillodd eu

halbwm cyntaf, Y Capel Hyfryd, deitl Albwm

y Flwyddyn 2008 gan Y Selar a rhyddhawyd

eu hail albwm, Distewch, Llawenhewch, ym

mis Awst eleni.

2. HUW M

Cerddor unigol profiadol sy’n llwyddo i greu

pop-gwerinol, ychydig bach yn seicadelig,

sy’n unigryw i’r sin Gymraeg. Roedd ei

albwm cyntaf, Os Mewn Sw^ n, yn llwyddiant

ysgubol ac mae newydd ryddhau ei

ddilyniant, Gathering Dusk.

3. SIBRYDION

O bosib, band mwyaf y sin Gymraeg ar hyn

o bryd. Yn cael eu harwain gan y brodyr

Gwynedd, Osian a Meilir, mae’r Sibrydion

yn wefreiddiol yn fyw ac mae eu pedwar

albwm stiwdio wedi bod o’r radd flaenaf.

‘Drost y Byd i Gyd’ sy’n agor eu halbwm

diweddaraf, Uwchben y Drefn a ryddhawyd

ym mis Mehefin.

4. SEN SEGUR

Grw^ p ifanc addawol o Benmachno yn

Nyffryn Conwy. Ffurfiwyd y grw^ p yn

wreiddiol dan yr enw Crazy Mountain

People, cyn cymryd egwyl ac ailffurfio dan yr

enw presennol yn 2010. Pop seicadelig sydd

wedi ei ddylanwadu gan Ffa Coffi Pawb, Y

Cyrff a Jen Jeniro - mae eu EP cyntaf, Pen

Rhydd, wedi dal sylw pawb eleni.

5. CREISION HUD

Grw^ p mwyaf gweithgar 2011 o bosibl, gyda

phrosiect uchelgeisiol i ryddhau sengl pob

mis yn ystod y flwyddyn. Roc-indî gyda

lot o gitars ac mae elfennau tywyll i rai

o’u caneuon. ‘Pyramid’ oedd sengl rhif 7, a

ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2011.

6. TRWBADOR

Deuawd swynol o Sir Gâr sydd wedi creu

argraff enfawr ar wybodusion megis Huw

Stephens ac Adam Walton gyda’u synau

melodig a phrydferth. Mae cerddoriaeth

Owain ac Angharad yn syml - gitâr acwstig,

glockenspiel, ychydig o effeithiau electronig

a llais iasol Angharad - ond o mor effeithiol

7. MR HUW

mr huw ydy Huw Owen, gynt o’r grw^ p

roc Kentucky AFC. Mae ei gerddoriaeth

lo-fi yn ddigon syml ond yn fachog dros

ben, tra bod testun y geiriau’n rhyfedd ac

ychydig bach yn sinistr! Mae wedi rhyddhau

3 albwm bellach, sef Llond Lle o Hwrs a

Lladron (2007), Hud a Llefrith (2009) ac yna

gogleddwyr budr (2010).

8. JEN JENIRO

Ffurfiwyd yn wreiddiol yn 2005, ac yn

raddol wedi dod yn un o fandiau mwyaf

cydnabyddedig y sin. Gan gynnig pop-roc

arbrofol a seicadelig o ardal Llanrwst, mae

Jen Jeniro yn un o hoff fandiau miwsos

Cymru ers peth amser. Daeth yr EP

Tellahasse yn 2006, cyn yr albwm Geleniaeth

(2008) a’r sengl Dolffin Pinc a Melyn yn

2010. Daw Madfall o’r EP diweddaraf,

Swimming Limbs a ryddhawyd eleni.

9. YR ODS

Un arall o fandiau mwyaf poblogaidd y

sin ar hyn o bryd. Mae’r Ods yn llwyddo

i swnio’n wych yn fyw ac ar record, ac

yn llwyddo i gyfuno pop-indî, gyda synau

synth a harmonïau lleisiol hyfryd i greu

caneuon hynod fachog a chofiadwy. Mae

‘Dadansoddi’ yn siw^ r o fod yn un o hits eu

halbwm newydd, Tori a Throsi.

10. COLORAMA

Gwerin seicadelig a phop breuddwydiol.

Mae Colorama yn cael eu harwain gan y

cerddor amryddawn, Carwyn Ellis ac fe

gafodd eu halbwm o 2010, Box, adroddiadau

arbennig o dda gan feirniaid amrywiol. Mae

‘V Moyn T’ eisoes yn un o ffefrynnau eu EP

newydd Llyfr Lliwio.

11. YR ANGEN

Enillwyr Brwydr Y Bandiau C2 Radio Cymru,

Mentrau Iaith 2010. Mae Yr Angen grw^ p

ifanc sy’n dod o Abertawe, ac a ffurfiwyd yn

2007. Band roc go iawn sy’n amlwg wedi’u

dylanwadu gan grwpiau fel Kasabian a’r

Stereophonics.

12. DAU CEFN

Cerddoriaeth electronica gydag elfennau o

hip-hop ambell waith. Mae Dau Cefn wrthi’n

creu synau arbrofol ers rhai blynyddoedd

bellach, ac wedi rhyddhau dwy gân ar y

record finyl, Y Record Goch eleni. Nid yw

‘Cariad’ yn nodweddiadol ohonyn nhw i

ddweud y gwir, ond mae’n un o ganeuon

gorau’r flwyddyn ym marn llawer a phwy

ydan ni i ddadlau.

OS YDYCH YN DYMUNO GWNEUD HYNNY, MAE’R DDALEN HON WEDI EI DYLUNIO FEL

BOD MODD I CHI EI PHLYGU’N DACLUS A’I CHADW YNG NGHLAWR Y CD.

12

templateyselar.indd 7templateyselar.indd 7 4/12/11 19:46:234/12/11 19:46:23

Page 8: Y Selar - Rhagfyr 2011

8

MATHEW, MASTERS IN FRANCEMae Masters in France wedi cael blwyddyn brysur arall, a bydd hynny’n parhau yn y flwyddyn newydd yn ôl Mathew o’r grw^ p.

“Mae ‘na un daith di bwcio a thaith arall ar y go ym mis Ebrill. Cwpwl o festivals di bwcio’r ha’ ma hefyd a mwy i ddod gobeithio.”Beth am gynnyrch newydd felly Math?“Ma ‘na gwpwl o betha ar y ffordd, Cymraeg a Saesneg. Lot ar y go, ond dim byd set in stone eto.”

Mae taith Brydeinig MiF yn dechrau ar 15 Chwefror gyda gig yn y Captains Rest yng Nglasgow. Bydd deg gig arall yn dilyn cyn iddyn nhw orffen yn Croft, Bryste ar 3 Mawrth. Yn anffodus, dim ond un o’r gigs fydd yng Nghymru, sef hwnnw yn y Cardiff Arts Institute ... yng Nghaerdydd wrth gwrs!

FFLUR DAFYDDErs iddi ryddhau ei thrydydd albwm, Byd Bach, yn Nhachwedd 2009 mae Fflur Dafydd wedi bod yn dawel o ran cynnyrch cerddorol newydd. Wedi bod yn rhy brysur yn sgwennu llyfrau, ennill gwobrau a chael babis debyg! Ond, newyddion da - mae albwm cysyniadol arall ar y gweill ganddi.

“Yn dilyn llwyddiant Byd Bach, a oedd yn dilyn thema ‘llefydd’ mi fyddai’n rhyddhau albwm newydd yn haf 2012 ar thema ‘pobl’ ... ar label Rasal” meddai Fflur.

“Mae’n cynnwys teyrngedau acwstig i bobl fel Ray Gravell, a rhai aelodau o’m teulu, yn ogystal â chaneuon mwy bywiog fydd yn sôn am bob math o gymeriadau difyr, real a dychmygol. Dwi’n gobeithio gwneud taith o gwmpas theatrau a festrïoedd Cymru i gyd-fynd ag e”

Swnio’n ddiddorol iawn, a thaith ddiddorol hefyd. Mae Fflur wrthi’n recordio yn stiwdio Sonic One, Llangennech gyda’r cynhyrchydd Tim Hamill.

CYNLLUNIAU ‘12MAE’N DDIWEDD BLWYDDYN ARALL, OND ‘SDIM ANGEN HIRAETHU ACHOS MAE DIGON I

EDRYCH YMLAEN ATO GAN EIN HOFF ARTISTIAID YN Y FLWYDDYN I DDOD...

8

MR HUWFe wnaeth Golygydd Y Selar ddigwydd taro mewn i’n cyfaill blewog, mr huw, yng Nghaernarfon yn ddiweddar. Cyfle perffaith i’w holi am ei gynlluniau yntau ar gyfer 2012 felly! Bydd y rhai craff ohonoch yn cofio i’w albwm ddiweddaraf ‘gogleddwyr budur’ gael ei ryddhau tuag at ddiwedd 2010...

“Mi fydd gen i EP yn dod allan blwyddyn nesa, ar fformat dwi heb ei ddefnyddio fel mr huw o’r blaen. Mi fydd o ‘chydig yn wahanol i ‘gogleddwyr budur’ ac wedi cael ei recordio ‘chydig yn fwy amrwd.”

Pryd fyddwn ni’n gweld yr EP newydd gyfaill?“Y gobaith yw ei ryddhau yn chwarter cyntaf 2012. Hefyd, mae gen i gwpwl i brosiectau eraill dwi di cychwyn eleni, felly dod â nhw i fywyd ydi’r bwriad mwyaf yn ystod y flwyddyn nesa.”

THE GENTLE GOOD Roedd Gareth Bonello aka The Gentle Good mewn gwlad estron pan fuom ni’n ei holi...

“Dwi yn Tsiena ar y foment yn gweithio ar albwm newydd - wedi bod yma ers mis ac wedi sgwennu albwm Gymraeg gydag offerynwyr traddodiadol o Chengdu, sydd yn Sichuan. Mae gen i bythefnos i recordio’r

caneuon ac wedyn dwi’n dod nôl i Gymru i gwpla’r albwm dros y gaeaf.”

“Gobeithio bydd e’n cael ei ryddhau yn y gwanwyn ond does dim byd wedi cadarnhau eto. Dwi’n trefnu dod nôl i Tsiena pan mae’r albwm wedi cwpla i hyrwyddo fe yma hefyd - mae yna bosibilrwydd o chware yn yr w^ yl yn Chengdu a neud taith o Tsiena ym mis Mehefin 2012. Mae mwy o wybodaeth am yr holl stwff Tsiena ‘ma ar fy mlog - <http://thegentlegood.tumblr.com/>”

Dim llawer ar y gweill felly...unrhyw beth arall?

“Dwi hefyd yn mynd i barhau i weithio gyda Richard James a John Williams ar y nosweithiau ‘In Chapters’ yng nghanolfan celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ac ‘da ni’n gobeithio mynd a’r noswaith ar daith o amgylch canolfannau celfyddydol eraill ym Mhrydain.”

Boi prysur ddarllenwyr!!

templateyselar.indd 8templateyselar.indd 8 4/12/11 19:46:424/12/11 19:46:42

Page 9: Y Selar - Rhagfyr 2011

9

SEN SEGUR Heb os, un o’r bandiau sydd wedi dod fwyaf i amlygrwydd eleni ydy Sen Segur gyda’u EP Pen Rhydd a Thaith Slot Selar [wrth gwrs-gol] yn ddau uchafbwynt! Mae mwy i ddod ganddyn nhw dros y flwyddyn nesaf yn ôl George Amor...

“Da ni am ryddhau sengl ddwbl ym mis Ionawr. Dwy gân newydd sydd wedi cael eu recordio yng Nghae Gwyn [ty^ George] gan Huw Owen, neu mr huw, ar beiriant wyth-trac.

Fydd y traciau yn cael eu rhyddhau ar gasét arbennig gan Recordiau I-KA-CHING. Mae’r traciau newydd yn cynnig rhagflas o beth sydd i ddod ar yr albwm da ni wedi bod yn sgwennu. Masiwr fydd yr albwm allan yn ystod haf 2012.”

Un cwestiwn, be dio efo bandiau Dyffryn Conwy a caséts dwedwch?

TOM AP DAN Un o artistiaid ‘Dau i’w Dilyn’ rhifyn diwethaf Y Selar oedd Tom ap Dan, ac mae’n dda clywed ei fod yn cynllunio rhyddhau cynnyrch yn fuan.

“Gobeithio recordio a rhyddhau EP yn ystod 2012, dyna di’r bwriad! Dwi am gigio lot mwy yn 2012 hefyd gan y byddai di ffeindio’n nhraed yn iawn yn y coleg lawr yng Nghaerdydd. Does na’m byd yn 100% ar y funud ond dwi’n sicr am drio gwneud iddi weithio!”

BEICHIAU HIRMae’n hen bryd i Breichiau Hir, Just Like Frank gynt, ryddhau rhywbeth - mae Steffan o’r grw^ p yn credu mai eleni fydd y flwyddyn!

“Ni’n gweud hyn bob blwyddyn, ond fyddwn ni YN recordio EP fydd mas rhywbryd yn 2012.”

Hwre!!!“Gobeithio yn y misoedd cyntaf o’r

flwyddyn. Ni wedi dechre neud demos a chynllunio, ac yn mynd i fod yn recordio rhwng nawr ac Ionawr. Bydd yr EP hefyd yn gweithio fel math o mini rock opera! Wel, dim rock opera ... ond fydd stori yn cyd-fynd gyda’r caneuon.” Clir fel mwd Steff!

CREISION HUDAc enillydd band prysuraf 2011 ydy...

Ar ôl rhyddhau sengl pob mis, mae Creision Hud yn haeddu egwyl rw^ an debyg? Be ti’n deud Rhydian?

“Wel, gan fod hon wedi bod yn flwyddyn ofnadwy o brysur a digon stressful i ni ... da ni am gal un arall yn 2012 hefyd! Ar hyn o bryd ‘da ni’n trio ‘sgwennu mwy o ganeuon newydd, a’r bwriad fydd rhyddhau caneuon mewn mwy o bulks y tro yma, nid fel senglau unigol! Mae’n ddigon posib y bydd yna sawl bulk yn ystod y flwyddyn, ond fyddwn ni dal i feddwl am ffyrdd gwahanol a newydd o ryddhau ein caneuon!”

“Ar ôl blwyddyn o arbrofi efo’n sw^ n, a chael y cyfle i gyfansoddi a recordio yn gyson, ‘da ni’n edrych mlaen at gael gweld i ba gyfeiriad awn ni efo’r caneuon newydd.”

CLINIGOLMae Clinigol wedi bod yn hynod weithgar dros y blynyddoedd diwethaf, ond wedi cael cyfnod tawelach yn ddiweddar, ond mae hynny ar fin newid yn ôl Geraint o’r grw^ p.

“Wel ... ma’r albwm o’n ni wedi addo yn gynharach eleni, bron wedi’i orffen, ac fe fydd e’ mas diwedd Ionawr 2012. Enw’r albwm yw Discopolis, albwm pop-dawns gyda gwesteion arbennig fel Caryl Parry Jones, Elin Fflur, Amy Wadge, Siwan Morris, Nia Medi, Rufus Mufasa, El Parisa a Carys Eleri. Fydd ‘na ail ddisg hefyd, fydd yn cynnwys fersiynau acwstig o’n caneuon, ailgymysgiadau dawns ac electronica, a mwy o dracie newydd. Dros ddwy awr o gerddoriaeth Cymraeg newydd!”

Bargen fyswn i’n dweud, a thipyn o waith. “Ni’n meddwl fod yr albwm yn eitha’

uchelgeisiol, mae di cymryd ages i neud, a dyna pam dyw e’ ddim allan eto - felly Ionawr 2012 amdani!”

y g p ,on Hud yn haeddu n debyg? Be ti’n deud

n fod hon wedi bod yn ofnadwy o brysur a ssful i ni ... da ni am gal 2012 hefyd! Ar hyn o ’n trio ‘sgwennu mwy newydd, a’r bwriad hau caneuon mewn ks y tro yma, nid fel

nigol! Mae’n ddigon dd yna sawl bulk yn

wyddyn, ond fyddwn niwl am ffyrdd gwahanol a ryddhau ein caneuon!”lwyddyn o arbrofi efo’nel y cyfle i gyfansoddi yn gyson, ‘da ni’n

aen at gael gweld i ba wn ni efo’r caneuon

templateyselar.indd 9templateyselar.indd 9 4/12/11 20:00:214/12/11 20:00:21

Page 10: Y Selar - Rhagfyr 2011

1010

dau i’w dilyn

YN DAU I’W DILYN Y TRO YMA.

DAU FAND IFANC A GREODD ARGRAFF YNG NGWYLIAU’R HAF SY’N CAEL SYLW OWAIN GRUFFUDD

Swnami

Helyntion Jos y Ficar^

PwyMae Swnami yn prysur wneud enw i’w hunain fel un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous yn y Sin Roc Gymraeg. Gyda’r aelodau i gyd yn dod o ardal Dolgellau a Blaenau Ffestiniog, sydd wedi bod yn llwyfan i nifer o fandiau eraill poblogaidd y sin yn y gorffennol, megis Frizbee ac Anweledig, maent wedi bod wrthi ers rhyw ddwy flynedd bellach. Wedi i gyn grw^ p Ifan Ywain, Gerwyn Murray a Tom Ayres, sef y Creaduriaid, ddod i ben, daethant ar draws Ifan Davies a Huw Evans gan ffurfio Swnami.

Sw^ n‘Roc eithaf ysgafn’ fyddai’r ffordd orau i ddisgrifio sw^ n y band, gyda synths wedi dod yn amlwg yn rhai o’u caneuon newydd. Byddai’n deg dweud eu bod nhw’n fand gitaraidd sydd â thempo uchel, sydd wedi tyfu i fod yn steil poblogaidd yn ddiweddar. Mae’r band wedi eu dylanwadau arnynt gan gymysgedd o fandiau, megis Arctic Monkeys, Yr Ods, Bombay Bicycle Club a’r Super Furry Animals.

Hyd yn hynChwaraeodd y band eu gig cyntaf fel rhan o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 - a llwyddo i gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ar eu cynnig cyntaf, gan orffen yn ail. Cafodd y band y cyfle i fynd i’r stiwdio i recordio sengl, ‘Mwrdwr ar y Manod’ ar gyfer y gystadleuaeth, sydd wedi tyfu i fod yn boblogaidd iawn a hyd yn oed wedi’i chwarae ar Radio 1 ambell waith. Wedi iddynt ddod yn agos at fuddugoliaeth ym Mrwydr y Bandiau C2, penderfynodd y band gystadlu yn fersiwn Maes B o’r gystadleuaeth. Penderfynodd y beirniaid, Adam Walton a Griff Lynch, mai nhw oedd yn haeddu ennill a rhoddodd hyn y cyfle iddyn nhw berfformio ar rai o brif lwyfannau Cymru gan gynnwys Wa Bala ac, fel rhan o’r wobr, slot ar y nos Sadwrn olaf ym Maes B. Yn ogystal â’r slot yma, roedd y wobr yn cynnwys cyfle i recordio Sesiwn C2 yn stiwdio Rich Roberts ym Mhenrhyndeudraeth. Maent hefyd wedi recordio sesiwn i’r rhaglen adloniant i bobl ifanc, Y Lle.

CynlluniauMae’r band yn gobeithio mynd i’r stiwdio unwaith eto dros y gaeaf, er mwyn recordio EP fydd allan erbyn yr haf flwyddyn nesaf. Gydag Ifan Ywain lawr yn y brifysgol yn Aberystwyth,

PwyBand o ochrau Pen Lly^n yw Helyntion Jôs y Ficar. Cychwynnodd y band wrth i Lewis ac Elgan ddechrau jamio efo’i gilydd, cyn i Gruff ac Elis, sydd bellach wedi gadael y band, ymuno â’r ddau arall i ffurfio Helyntion Jôs y Ficar. Wedi iddynt barhau i ysgrifennu caneuon, ymunodd Peredur a Guto â’r band i ychwanegu adran bres.

Sw^ nMae Helyntion Jôs y Ficar yn dilyn traddodiad o fandiau Cymraeg sydd ag elfen gref o ska i’w cerddoriaeth. Maent yn cyfuno hyn gydag ychydig o Funk a Reggae Seicadelig. Mae’r sw^ n hwn, yn ôl un aelod o’r band, “yn cyfuno cefndiroedd a dylanwadau cerddorol gwahanol yr holl aelodau”, ac felly’n creu sw^ n unigryw ac yn plesio pawb!

Mae rhai o’u dylanwadau yn cynnwys Streetlight Manifesto, Anweledig, Caban, Hanner Pei a Red Hot Chilli Peppers. O ran

ystyr y caneuon, mae’r band yn edrych yn ôl ar broblemau a phrofiadau’r aelodau. Enghraifft o hyn yw’r gân ‘£2.10’, sydd yn cwestiynu pam fod rhaid i’r bws o Griccieth i Bwllheli fynd trwy Chwilog - efallai y byddai’n osgoi’r 10 ceiniog ychwanegol petai o ddim! Yn bennaf oll, mae HJF yn mynd ar y llwyfan i fwynhau eu hunain a chael hwyl.

Hyd yn hynRoedd y band wrth eu boddau yn cael chwarae ym Mrwydr y Bandiau ym Maes B Steddfod Wrecsam eleni, ac yn gwerthfawrogi cael chwarae yn un o brif wyliau cerddorol Cymru, ac ar yr un llwyfan a nifer o fandiau eraill gwych. Mae Gw^ yl Pendraw’r Byd hefyd yn aros yng ngo’r hogiau oherwydd yr ymateb y cafodd y band gan y dorf. Mae’r band hefyd wedi mynd ati i recordio ambell demo yng nghwt sinc eu ffrind, gyda’r traciau ar gael i’w clywed ar eu tudalen Facebook.

CynlluniauMae’r band yn gobeithio mynd ati i recordio mwy o ganeuon - er mwyn cymryd mantais ar yr adnoddau gwych sydd ar gael i Lewis yn yr Atrium yng Nghaerdydd, sef lle mae’n astudio. Maent hefyd yn cynllunio ysgrifennu rhagor o ganeuon, chwilio am fwy o gigs dros y gaeaf a chwarae yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mangor yn y flwyddyn newydd. Ond yn bwysicach na dim, mae’r band yn gobeithio parhau i gael hwyl wrth berfformio.

http://www.facebook.com/helyntionjosyfi car

www.y-selar.com

templateyselar.indd 10templateyselar.indd 10 4/12/11 20:00:574/12/11 20:00:57

Page 11: Y Selar - Rhagfyr 2011

11

Y BADELL FFRIOMOLIANT I’R MANICSRhyfedd o beth erbyn hyn yw meddwl am y Manics fel band a oedd o flaen eu hamser.

Pan ddaethon nhw i’r golwg roeddan nhw’n gwisgo fel The Clash (1976-86) ac yn chwarae rhyw gybolfa ryfedd o hefi metal pync, ar adeg pan oedd Prydain dan bawen Madchester, ecstasi a dillad bagi.

Doedd bod yn Angry Young Men yn sicr ddim yn ffasiynol yn 1990 pan wnaethon nhw ryddhau eu sengl gynta’, ‘Motown Junk’, gyda’r sampl yn addo chwyldro ar ddechrau a diwedd y gân.

Ond yn y dyddiau rhyfedd hyn pan mae seiliau cyfalafiaeth – crefydd y byd Gorllewinol ers cyhyd – yn gwegian, mae’n werth cofio bod y Manics wedi gweld trwy’r gawod gachu ugain mlynedd yn ôl.

Ar eu halbwm gynta’ roedd ganddyn nhw gân gydag, o bosib, y teitl mwya’ trwsgl yn hanes y byd – ‘Nat West–Bar-clays–Midlands–Lloyds’.

Pa fath o fand sy’n canu am fanciau? Dyna wnes i feddwl ar y pryd. Ond erbyn hyn mae neges ddigyfaddawd y rocars yma’n fwy perthnasol nag erioed:

“NatWest, NatWest-Barclays-Midlands-LloydsBlackhorse apocalypseDeath sanitised through creditProsperity - exports for Pol PotProsperity - Mein Kampf for beginners”.

Meddyliwch am y peth mewn difrif calon - tra’r oedd yr Happy Mondays yn canu am bwysigrwydd ‘Loose Fit’ eu trowsusau, roedd y boios o Blackwood yn cyhuddo’r bancwyr barus o fod yn yr un cae ag Adolph a Pol Pot!

Perffaith yw teitl y casgliad o’u holl senglau dros y 21 o flynyddoedd diwethaf, sef National Treasures.

Mae’r cyferbyniad rhwng y geiriau am wacter ystyr

bywyd, a’r gerddoriaeth ‘life affirming’ ar ganeuon fel ‘From Despair To Where’ a ‘La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)’ yn arbennig iawn iawn.

Dyma fand dosbarth gweithiol clyfar gafodd eu brifo i’r byw gan ymosodiad Thatcher ar y glowyr.

Mae’r briw dal yna’n ffesdro yng nghrombil caneuon fel ‘The Masses Against The Classes’, rant flin, fudur, llawn trais a malais.

Tra bod Oasis wedi codi baton Madchester a dathlu pleserau syml smocio ag yfed, a Blur yn hapus i adleisio darlun y Kinks o Merry Old England, roedd y Manics yn anelu am ddim byd llai na dymchwel y drefn.

Pa fand arall aeth draw i weld Castro? Fedrwch chi enwi unrhyw fand sy’n dyfynnu Albert Camus ar ddechrau eu fideo bop gynta’?

“Libraries gave us power” meddai’r gân, i’n atgoffa ni o rym y gair.

Eto, pwnc cheesy ar yr wyneb (onid job Siwt yn y Cynulliad ydy dathlu bodolaeth y llyfrgell leol?), ond doedd y Manics ddim ofn dathlu gwerth addysg.

A phwy ond y Manics ifanc fydda’n ymosod ar y diwydiant rhyw trwy recordio deuawd gyda chyn-seren born wnaeth newid ei ffyrdd? Gwrandewch ar eiriau ‘Sweet Baby Nothing’ sy’n ymosodiad angerddol a hyfryd o naïf ar yr anghyfiawnder o drin dynes fel darn o gig: “Your beauty and virginity used like toys”.

Ac o ia, ar ddiwedd y gân yma mae’r lyrics sy’n crisialu bod yn ifanc ac ar goll yn well na geiriau unrhyw gân sgwennwyd erioed... “Rock ‘n’ roll is our epiphany/Culture, alienation, boredom and despair”.

gyda Barry Chips

Gwrandewch os ydych yn hoff i:

Derwyddon Dr Gonzo, Geraint Lovgreen, Anweledig

Gwrandewch os ydych yn hoff i: Y Bandana, Gola Ola, Arctic Monkeys

mae’r band yn canolbwyntio’n fwy ar ysgrifennu yn hytrach na gigio ar hyn o bryd - ond bydd digon o gyfleoedd i’w gweld nhw dros gyfnod y Nadolig - gyda gigs yn y Llew Du, Aberystwyth; Whitehall, Pwllheli ac ym Mangor gyda Bryn Fôn!

http://soundcloud.com/swnami

templateyselar.indd 11templateyselar.indd 11 4/12/11 20:01:004/12/11 20:01:00

Page 12: Y Selar - Rhagfyr 2011

12

cyfweliad

cerddoriaeth? Oes cefndir Eisteddfodol yn perthyn i ti?!Na, dim cefndir Eisteddfodol! Fel mae’n digwydd, llynedd oedd y flwyddyn gyntaf i fi gystadlu yn yr Eisteddfod gyda chôr yr ysgol. Dechreuais i chwarae’r piano pan o’n i’n ifanc iawn ond o’n i ddim yn dda iawn! Felly nes i symud mlaen i chwarae’r trymped, a dyna fy mhrif offeryn fel mae’n digwydd. Nes i ddechrau chwarae gitâr pan o’n i’n tua saith oed – gitâr drydan. Dim ond yn ddiweddar dwi’n chwarae mwy o gitâr acwstig.

Oeddet ti’n chwarae gitâr drydan yn saith oed?!Oeddwn! O’n i’n tomboy ac o’n i eisiau chwarae beth bynnag oedd yn cadw’r mwyaf o sw^ n! Dyna pam oedd y trymped yn siwtio fi hefyd! Dwi’n meddwl bod dylanwad y gitâr drydan yn eithaf cryf ar fy ngherddoriaeth i. Roedd fy mam-gu yn gerddorol iawn a fyddai wastad gitars a phianos ac ati o gwmpas y ty^ . Sneb byth wedi pwsho fi gyda fy ngherddoriaeth, mae jyst wedi bod yn rhan o’m mywyd i ta beth.

A phryd nes di ddechrau perfformio?Wel nes i ddechrau ysgrifennu caneuon wrth ddechrau’r ysgol uwchradd, a’r tro cyntaf i fi berfformio odd mewn seremoni wobrwyo yn yr ysgol. Ath hwnna lawr yn dda a ges i fwy o hyder wedyn. Nes i wedyn dechrau band gyda’m mrawd a

Ers ei hit ‘Disgyn amdana ti’, mae Catrin Herbert yn cael ei gweld fel canwr-gyfansoddwr sydd â dyfodol disglair. Mae ganddi EP newydd allan bellach, ac fe gafodd Lowri Johnston sgwrs â hi’n ddiweddar.

Catrin! Shwmae?! Nawn ni ddechre yn y dechre … o le wyt ti’n dod a beth yw dy hanes di?!Wel, dwi’n dod o Creigiau, ger Caerdydd. Es i Ysgol Plasmawr ond dwi bellach yn y Brifysgol yn Aberystwyth. Dwi’n dod o deulu cerddorol am wn i, ond does neb yn dilyn gyrfa gerddorol - a dweud y gwir mae’n fwy cywir dweud mod i’n dod o deulu gwyddonol o ran eu gyrfa! Fi yw’r eithriad dwi’n meddwl o ran cymryd y gerddoriaeth yn fwy o ddifri…

Lle ddechreuodd dy ddiddordeb mewn

DISGYN AMDANI HI

“O’N I’N TOMBOY AC

O’N I EISIAU CHWARAE BETH

BYNNAG OEDD YN CADW’R

MWYAF O SW^

N!”

www.y-selar.com

templateyselar.indd 12templateyselar.indd 12 4/12/11 20:01:124/12/11 20:01:12

Page 13: Y Selar - Rhagfyr 2011

13

chwpwl o ffrindiau. Tudalen 99 oedd enw’r band a gathon ni cwpwl o gigs, fel yng Nghlwb Ifor Bach gyda Menter Iaith. Odd yr holl beth jyst yn laff rili.

A beth ddigwyddodd i’r band?Wel oedden ni gyd tua 15 ac 16 ac odd gweddill aelodau’r band yn fechgyn. Doedd y pethau o’n i’n ysgrifennu amdano ddim wir yn gweddu steil bechgyn yr oedran yna! Felly odd e jyst yn haws rili i fi ddechrau neud stwff yn hunan.

Pryd nes di ddechrau perfformio ar ben dy hunan te?Nes i drio cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 2010, dyna oedd y tro cyntaf. A thua’r un adeg, yn stiwdio Acapela [stiwdio Catrin Finch ym Mhentyrch], roedd cynnig gyda nhw i recordio demo a dyma Mam yn cynnig talu am y pecyn recordio ma i mi fel anrheg. Felly es i ‘na jyst i recordio cwpwl o dracs demo - heb feddwl lot am y peth rili. Ond nathon nhw ofyn i fi roi mwy o dracs iddyn nhw felly es i adre a recordio cwpl o ganeuon eraill yn fy stafell wely ac anfon rheiny atyn nhw, a’r peth nesa’ dyma nhw’n cynnig i fi recordio ar label Kissan. Odd e braidd yn nyts a digwyddodd popeth yn gyflym iawn!

Ai dyna dy sengl Disgyn Amdanat ti? Mae’n gân fachog iawn!Ie! Mae’n ddoniol achos weithiau dwi’n dal fy ffrindiau jyst yn canu’r gân heb feddwl ac wedyn ma nhw’n mynd yn rili embarrassed! Ges i ymateb rili da i’r gân yna - nath Daf a Caryl neud y gân yn ‘Cân yr Wythnos’ ar eu rhaglen nhw ar Radio Cymru, ac ro’dd yr ymateb jyst yn grêt.

Mae fel tase popeth wedi digwydd yn gyflym i ti! Beth yw’r uchafbwynt erbyn hyn?Do ma’ nhw wedi! Dwi’n meddwl taw dal y sengl newydd yma yn fy llaw i ar ôl recordio fe - odd hwnna jyst yn wych. Hefyd, chwarae Maes B eleni, anhygoel!

Dywed mwy am dy EP newydd - Y Gwir, Y Gau a Phopeth Rhwng y Ddau.Wel mae’n EP chwe trac, ma’ cwpwl o’r

caneuon yn rhai newydd ond ma cwpwl yn rhai hen hefyd. Mae un trac Saesneg ac mae’r gweddill yn Gymraeg. Mae wedi ei recordio yn stiwdio Acapela ac wedi ei ryddhau ar label Kissan. Mae rhai o’r caneuon o sesiwn C2 gafodd ei recordio ym mis Mawrth hefyd. Roedd band ‘da fi yn y stiwdio odd yn grêt a hefyd y cynhyrchydd anhygoel Luke Prosser, nath gyfrannu lot at y gerddoriaeth.

A sut ymateb wyt ti wedi’i gael i’r EP?Dwi’n hapus iawn gyda’r ymateb. Dwi’n gwybod fod e’n amser eithaf anodd i fod

yn gwerthu CDs, ond dwi’n hapus iawn gydag ymateb pobol. Dwi’n meddwl fod e’n gymysgedd da o ganeuon, mae’r cyfan yn asio er bod cymysgedd ar yr EP. Mae’n dangos y steil gwahanol dwi’n hoffi o gerddoriaeth - jazz, blues ... y math yna o beth.

Mae hwnna’n arwain fi at fy nghwestiwn nesa’ - pa gerddoriaeth sydd wedi dylanwadu arnat ti?Mae cymaint o bethau gwahanol, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Caryl Parry Jones wedi cael dylanwad mawr arna’i, dwi’n meddwl bod hi’n cael y cydbwysedd rhwng geiriau a cherddoriaeth wych yn berffaith. Dwi hefyd yn cael fy nylanwadu gan hen stwff fel John Mayall, Eric Clapton a dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth gwlad fel Lady Antabellam - grw^ p cerddoriaeth gwlad o America.

“MAE CARYL PARRY JONES

WEDI CAEL DYLANWAD MAWR

ARNA’I...”

templateyselar.indd 13templateyselar.indd 13 4/12/11 21:06:534/12/11 21:06:53

Page 14: Y Selar - Rhagfyr 2011

14

BE SY WELL DA TI...Eira / Haul = EiraCawod / Bath = CawodTe / Coffi = hmm, siocled poeth?Ty^ / Byngalo = Ty^

Lolipop / hufen ia = hufen iâ!Treinyrs / sodlau uchel = treinyrsLlyfrau / Cylchgronau = llyfrauBara gwyn / brown = bara gwynSiwgr / halen = siwgrNos Sadwrn - mewn / mas = Mas ar nos SadwrnCaryl / Daf = Caryl yw fy arwres (ond dwi’n dwli ar Daf fyd! A maen nhw’n dîm gwych, a dyna’r ateb “politically correct” haha)Caerdydd / Aberystwyth = Aber am y “nightlife”, ond Caerdydd bydd gatre am byth!Roc / Pop = Roc

Atgof gynta? Mynd i Folly Farm tra ar wylie gyda Mamgu a Dadcu ‘da ‘mrodyr i.

Hoff ddilledyn?Y Bw^ ts Cowboi, ma nhw’n mynd i bobman ‘da fi a dwi’n eu gwisgo nhw ar

gyfer pob un gig.

Hoff gân? Dw^ r yn y Gwaed,

Al Lewis

Albwm cyntaf?Meatloaf

CWESTIYNAUCYFLYM

“...WEITHIAU DWI’N

DAL FY FFRINDIAU

JYST YN CANU’R

GÂN HEB FEDDWL

AC WEDYN MA

NHW’N MYND YN RILI

EMBARRASSED!”

LLUNIAU: EINION DAFYDD

gyfer pob un gig.

H D

A

AM

Ydw i’n synhwyro dylanwad rhieni arnat ti fan hyn?!Yn bendant, Dad! Pan oedden ni’n fach ac yn teithio yn y car doedd dim ipods a phethau felna felly roedden ni gyd yn cael ein gorfodi i wrando ar yr un gerddoriaeth - beth bynnag oedd Dad yn rhoi mlaen ar y chwaraewr tapiau! Felly oedden ni’n gwrando ar bethau fel REM a Meatloaf, a dwi’n falch iawn mai dyma sut oedd pethau a mod i felly ddim ‘di gwrando ar gerddoriaeth fel y Spice Girls!

Roeddet ti’n chwarae ym Maes B eleni, ac yn chwarae yn fyw gyda band - ydy hyn yn rhywbeth hoffet ti wneud mwy yn y dyfodol?Nes i ddwli ar chwarae gyda band ym Maes B ac mae hwn yn bendant yn rhywbeth hoffwn i wneud mwy yn y dyfodol. Ro’n i’n lwcus iawn hefyd achos ro’n i’n barod yn ffrindiau gyda phawb yn y band, ac odd ym mrawd i yn y band hefyd yn chwarae trymped!

Sut wyt ti’n paratoi i chwarae yn fyw? Oeddet ti’n nerfus i chwarae Maes B?Wel roedd rhaid i’r band wneud i fi ymlacio! Ma’ problem da fi’n cofio geiriau hefyd felly roedd rhaid i fi fynd drostyn nhw loads cyn mynd ar y llwyfan! Fi’n lwcus gyda’n ffrindiau i wastad yn dod i’n ngweld i - dath criw mawr i Faes B ac mae’n helpu yn

bendant i weld wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa.

Sut wyt ti’n setlo yn y Brifysgol yn Aberystwyth?Setlo’n wych diolch! Dwi’n dwli ar y lle - dwi’n gallu cario mlaen gyda fy ngherddoriaeth, mae gen i ffrindiau gwych yma ac ma’ Pantycelyn yn nyts! Ond ma jyst yr holl le yn rili lyfli. Dwi’n astudio Cymraeg, Ffilm a Theledu a Drama yma. Ges i chwarae gig yn Aberystwyth diwedd wythnos y glas, odd hwnna yn sgeri! O’n i newydd gwrdd â fy ffrindiau newydd a’n sydyn reit dyna o’n i yn gorfod chwarae gig o’u blaenau nhw! Ond odd pawb yn rili gefnogol a ges i ymateb gwych!

Oeddet ti’n chwarae yng Ngw^ yl Sw^ n yn ddiweddar hefyd, sut oedd hwnna?Ath hwnna yn grêt, o’n i’n chwarae yn 10 Feet Tall cyn Iwan Huws [Cowbois Rhos Botwnnog]. Odd e’n rili neis ac o’n i mor chuffed bod Huw Stephens wedi gofyn i fi chwarae a bod yn rhan o’r w^ yl.

A beth yw’r cynlluniau nawr at y dyfodol?Wel mae’n fwy anodd nawr mod i bant yn y Brifysgol i drefnu pethau ond bydd bendant gigs yn dod lan, gobeithio ar gyfer y Nadolig! Edrych ymlaen at chwarae lot mwy o gigs!

www.y-selar.com

templateyselar.indd 14templateyselar.indd 14 4/12/11 21:07:094/12/11 21:07:09

Page 15: Y Selar - Rhagfyr 2011

15

• Prospectws newydd a manylion cyrsiau argael ar gyfer mynediad yn 2012

• Mwy o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraegnag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru

• Neuadd Gymraeg newydd wedi agor sy’ngartref i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru

• Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac ynwirioneddol gyfeillgar

• Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethauyn ogystal a bwrsari o £250 i’r rhai sy’ndewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'rUned Recriwtio a Marchnata:

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: [email protected]

www.bangor.ac.uk

ADDYSG ACAWYRGYLCHHEB EU HAIL

Dilynwch y swn ar Facebook a Twitter

7pm Llun – Gwenerbbc.co.uk /c2

Dodd comEich rhaglen chi yn fyw ar y we

templateyselar.indd 15templateyselar.indd 15 4/12/11 21:07:504/12/11 21:07:50

Page 16: Y Selar - Rhagfyr 2011

16

Fel rhywun a gafodd y pleser o gael

cerddoriaeth Anweleig yn soundtrack i’w

arddegau doedd dim rhaid i’r Selar ofyn

ddwywaith imi fynd i holi cyn brif leisydd y

band chwedlonol o Flaenau Ffestiniog, Ceri

Cunnington yngly^ n ag ail albwm ei brosiect

diweddaraf, Twmffat.

Rhyddhaodd Twmffat ‘Myfyrdodau Pen

Wy’ yng ngwanwyn 2010 ac yn awr, bron i

ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r ail saig

wy-aidd bron yn barod ar ein cyfer. I ddechrau

felly, rhaid oedd holi ychydig bach mwy am

yr albwm newydd, beth fydd yr enw, yn lle a

phryd gafodd o’i recordio a

phryd fydd o allan?

Fel yr ydw i, yn hollol

fyrbwyll, cynhyrfus ac

ang-ngherddorol. Nes i

ddweud bod yr albwm ‘Pwy

sy’n talu Haneswyr?’ allan

ddiwrnod ar ôl i ‘Steddfod

Wrecsam orffan. Wedyn gyrru

traciau anorffenedig i’r radio

a dweud y bydd o allan cyn

’Dolig. Erbyn hyn, fydd o

allan adeg Pasg 2012, o dan

enw hollol wahanol, ‘Mwy o

Fyfyrdodwyau Pen Wy’.

Mae’r caneuon yna, un ar ddeg ohonyn

nhw, ac wedi’u recordio mewn un ffordd

neu’r llall, ond maen nhw’n esblygu wrth i

aelodau adael ac aelodau newydd ymuno!

Mae hi wedi cael ei recordio dan ofal Gwyn

[‘Maffia’] a ninnau dros gyfnodau byr ond

boncyrs yn [Stiwdio Bos] Llanerfyl. Fydd o’n

sicr allan yn fuan yn 2012.

Be allwn ni ei ddisgwyl yn yr albwm yma

fydd yn wahanol i ‘Myfyrdodau Pen Wy’?

Caneuon gwahanol yn amlwg! Does yna

ddim dylanwadau penodol ond yn hytrach

cymysgedd o syniadau wedi tollti mewn

Twmffat a gweld be sy’n llifo’r ochr arall.

Dwi’n meddwl bydd yr un teimlad i’w gael

o ran y negeseuon; cwestiynu haneswyr

imperialaidd y gorffennol, holi lle ’da ni arni

o ran pobl a’n perthynas â’n cymunedau,

meddwi’n ymosodol mewn ffordd hunan

gyfiawn a thrafod y ffordd ora’ i ferwi wy.

Mae’n swnio’n ddifyr iawn, yn enwedig yr

un olaf ’na! Fysa hi’n deg deud fod dy ardal

di, Ffestiniog / Meirionnydd yn reit agos at

dy galon di yn bysa, ydi dy ardal di felly yn

rhan bwysig o dy gerddoriaeth di hefyd?

Mae hi’n agos at fy nghalon i. Mae’n gwbl

naturiol bod cynefin a chymuned unrhyw

un yn agos i’r galon. Wedi’r cwbl, pobl y

tirwedd ’ydan ni, ddim pobl Tesco. Ac os

’di rhywbeth yn bwysig i chdi fydd o’n

bwysig ym mhob dim ti’n ei wneud

mewn bywyd o fagu plant i falu cachu

mewn miwsig.

SUT MAE BERWI WY...

“NATURIOL YDI CANU’N

WLEIDYDDOL I MI, YN

HYTRACH NA BWRIADOL.”

EFO

www.y-selar.com

templateyselar.indd 16templateyselar.indd 16 4/12/11 21:07:594/12/11 21:07:59

Page 17: Y Selar - Rhagfyr 2011

17

“...OS ’DI RHYWBETH

YN BWYSIG I CHDI

FYDD O’N BWYSIG

YM MHOB DIM TI’N EI

WNEUD MEWN BYWYD

O FAGU PLANT I FALU

CACHU MEWN MIWSIG.”

“’DA NI’N BYW MEWN OES

HOLLOL, HOLLOL GNAU”Ar yr un trywydd, pam wyt ti’n meddwl fod gan

yr ardal honno hanes diweddar mor gyfoethog o

ran cerddoriaeth Gymraeg?

Mae pawb yn gweld gogledd Cymru fel rhyw

ardal wledig ond roedd Blaenau Ffestiniog

yn rhan o’r chwyldro diwydiannol mwyaf a

welodd y byd, gyda phobl yn dod yma o bob

man i weithio, meddwi a mercheta. Roedd o’n

le uffernol o gosmopolitan, efo dylanwadau

diwylliannol lliwgar, ac mae hynny’n amlwg

yn cynnwys cerddoriaeth. Mae hyn wedi llifo

drwodd i’r presennol. ’Da ni wedi cael ein

dylanwadu gan Merêd a Marley, ond dwi ddim

yn meddwl bod cerddoriaeth Blaenau erioed

wedi trio dilyn trend neu ffasiwn gerddorol

benodol. Dyna beth sydd yn apelio efallai?

Efallai dy fod di’n blino ar gymariaethau rhwng

Anweledig a Twmffat ond un peth sy’n gyffredin

rhwng y ddau fand yw natur wleidyddol y

caneuon. Ti wedi sôn ychydig yn barod am

y negeseuon fydd i’w clywed ar yr albwm

newydd, ydi’r negeseuon gwleidyddol hynny

yn rhywbeth bwriadol ti’n drio’i gyfleu wrth

gyfansoddi caneuon ac os felly pa mor bwysig

ydi hynny?

Dibynnu be ti’n ei feddwl o ran gwleidyddiaeth

fwriadol? Mae gwneud dim byd, a chanu am

ddim byd, yn wleidyddol. Dyna’r math gwaetha’

o wleidyddiaeth efallai. Hynny yw, just derbyn

yr hyn sydd yn digwydd o’n cwmpas ni, pan

’da ni i gyd yn gwybod pa mor gnau a ff**d yp

’di o. Naturiol ydi canu’n wleidyddol i mi, yn

hytrach na bwriadol.

Fel unigolyn, ti’n amlwg iawn efo Cymdeithas

yr Iaith ac ati. Wyt ti weithiau’n gorfod

gwahaniaethu rhwng Ceri’r ‘ffigwr gwleidyddol’

os ti’m yn meindio i mi dy alw di’n hynny a

Ceri’r cerddor?

Dwi ddim yn meddwl fy mod i’n amlwg iawn

efo Cymdeithas yr Iaith. Dwywaith erioed dwi

wedi siarad mewn rali. Dwi’n aelod, ond dwi

ddim mor weithgar â’r criw sydd yn brwydro’n

ddiddiolch bob dydd er ein lles ni. Does ’na

ddim gwahaniaeth rhwng y frwydr fydol yn

erbyn cyfalafiaeth, tlodi byd, rhododendrons, a’r

frwydr dros yr Iaith Cymraeg. ’Da ni gyd yn yr

un cwch.

Ond wyt ti’n meddwl fod yna ddigon o

wleidyddiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg ar hyn

o bryd? Pan ti’n edrych yn ôl mewn hanes a gweld

yr holl ganu protest sydd wedi bod ac edrych ar

y sdwfff sydd o gwmpas rw^ an mae’n amlwg fod

yna dipyn llai dwi’n meddwl. Mae’r Sibrydion yn

wleidyddol-ish ond ar wahân iddyn nhw does gan y

prif fandiau ddim gymaint â hynny i’w ddweud yn

fy marn i. Be’ wyt ti’n ei feddwl?

Dwi ddim yn gwybod. Pawb at ei beth. Mae

angen cymysgedd o’r ddau fath, mae hynny’n

iach. OND ’da ni’n byw mewn oes hollol, hollol

gnau ac yn naturiol ac yn reddfol, os wyt ti’n

teimlo ac yn gweld hynny, mae rhaid iddo fo

ddod allan rhywsut, rhaid iddo fo gael i chwydu

rhyw ffordd neu’i gilydd, ar ffurf cân, llyfr, neu

ddawns feddwol greadigol!

Ond oes yna ddigon o’r chwydu creadigol yna ar

hyn o bryd?

Dwi ddim yn siw^ r i fod yn onest. Fedrai

ddim barnu cerddorion am beidio â bod yn

wleidyddol. Ond, efallai drwy genfigen neu

anwybodaeth, dwi yn barnu’r elfen Gymreig

sydd yn cael ei hudo ac yn gwirioni efo sylw

‘Gw^ yl Latitude’ a meddylfryd ‘Observer-ish’.

Gadewch iddyn nhw. Ma nhw’n cyflwyno

pastiche diog Cymreig modern i’r cyfryngau

yma, sydd yn fy marn gyfiawn i, cyn waethed â

gwisgo fyny fel Welsh Lady a How Green Was

My Valley. Dydy o ddim yn cw^ l. Dydw i ddim

yn beirniadu’r bandiau a’r artistiaid ’na sydd yn

cael eu hudo gan y cyfryngau dosbarth canol

Saesneg, ma’ bob artist jyst eisiau chwarae ei

gerddoriaeth i gymaint o bobl â phosib. Dwi’

jyst ddim yn licio’r ffordd y maen nhw’n cael eu

portreadu fel rhyw addolwyr a disgynyddion i’r

Super Furry Animals! DIM bai’r cerddorion a’r

bandiau ydi hynny.

Oes, mae ’na le i gerddorion godi y

cwestiynau, ond mae pawb angen mwynhau,

mae’n bosib cyfuno’r ddau.

Ar nodyn ysgafnach i orffen, dyma dipyn o gwestiynau cyflym Nadoligaidd.Mins Peis ta cacen ’Dolig? Mins peis.Siwmper wedi’i gweu ta tanjarîn? Shit! Dwi’n caru’r ddau ... Tanjarin!Araith y cwîn ta nap ar ôl cinio? Araith y cwîn, er mwyn ein hatgoffa.

Efallai na fydd albwm Twmffat yn barod mewn pryd ar gyfer eich hosan Nadolig ond yn sicr mae’n mynd i fod yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yn y flwyddyn newydd. Cadwch eich vouchers tan hynny gyfeillion!

GEI

RIA

U: G

WILY

M D

WY

FOR

LLU

NIA

U: J

US

TIN

ALL

EN D

AVIE

S

templateyselar.indd 17templateyselar.indd 17 4/12/11 21:36:044/12/11 21:36:04

Page 18: Y Selar - Rhagfyr 2011

SWIMMING LIMBSMae finyl nôl mewn ffasiwn, ac mae nifer o fandiau a labeli Cymraeg wedi manteisio ar hyn dros y misoedd diwethaf. Un o’r rheiny ydy’r grw^ p o Ddyffryn Conwy, Jen Jeniro, a ryddhaodd eu EP diweddaraf Swimming Limbs ar ffurf finyl.

Mae hogia’ JJ yn reit adnabyddus am eu cloriau deniadol. Roedd clawr eu EP cyntaf, Tellahasse yn defnyddio llun gan yr artist adnabyddus, Dewi Tudur tra bod cynllun yr albwm Geleniaeth yn un dyrys a chofiadwy hefyd. Ar ben hyn oll cafodd eu sengl Dolphin Pinc a Melyn ei ryddhau ar ffurf casét deniadol yn ystod haf 2010, felly mae’n siw^ r nad yw’n fawr o syndod fod y clawr diweddaraf yn reit arbennig.

Ar yr olwg gyntaf, efallai nad yw cynllun clawr Swimming Limbs yn edrych yn un cyffrous iawn ... ond mae ‘na stori ddifyr iawn tu ôl iddo. Prif ganwr Jen Jeniro, Eryl ‘Pearl’ Jones fu’n siarad â’r Selar.

S’mai Pearl, a llongyfarchiadau efo EP diweddaraf Jen Jeniro. Mae’r clawr yn un diddorol, ond pwy sy’n gyfrifol am y cynllun?

Eryl: Nath neb ‘gynllunio’ y clawr mewn gwirionedd, jyst mater o ddewis ein ffefryn o dri ffotograff posib oedd o. Nath hyn gymryd cyn hired â chynllunio un o scratch i ddweud y gwir - roedd Gwion i ffwrdd yn Ne America ar y pryd felly roedd penderfyniadau pendant yn bethau prin iawn yn Jen Jeniro yr adeg yna!

I unrhyw un sy’n gyfarwydd â Jen Jeniro, Gwion ydy’r un trefnus sy’n sortio popeth allan i’r grw^ p. Dim syndod fod yna ddiffyg penderfyniadau yn ystod y cyfnod roedd o ffwrdd!

Mae’r clawr yn dangos llun o gwrs rasio ceffylau, ond nid yng Nghymru nac un o wledydd eraill Prydain yn ôl pob golwg. I ddweud y gwir, mae’n edrych fel petai wedi’i dynnu ar gyfandir gwahanol ...

Mae’n ddirgelwch pwy dynnodd y ffoto terfynol, a lle’n union mae’r cae ras / ffair yma.

Tua’r un adeg ag y lladdodd Jeff y ceffyl môr drwy gamgymeriad - sef y digwyddiad a ysbrydolodd y sengl Dolphin Pinc a Melyn - aeth dad i’r achlysur rasio ceffylau yma rhywle yn ardal Sydney tra’r oedd o’n byw

yn Awstralia yn ystod y 1970au. Y ddamcaniaeth gyntaf oedd mai fo dynnodd y llun, ond yna nes i sylwi ei fod yn hynod debygol mai fo sydd efo’r balwn yn styc i’w gefn, yn y llun.

Yn y cyfamser, daeth Daf [un o gitaryddion niferus y band] o hyd i ffotograff ymysg casgliad ei fam o phan nath hi deithio rownd y byd ym 1985 ... ffoto o le oedd yn edrych yn aruthrol o debyg i’r cae ras / ffair o lun dad, ac wedi ychydig o ymchwil a holi daethom i’r canlyniad mai’r un lle oedd o!

Wel dyna chi gyd-ddigwyddiad rhyfeddol a rheswm cystal ag unrhyw un i ddefnyddio’r llun ar glawr yr EP newydd. Beth ddigwyddodd i’r lluniau eraill oedd yn cael eu hystyried felly?

Yn rhannol oherwydd ei fod yn llun da, ac yn rhannol oherwydd y cyd-ddigwyddiad yma, enillodd llun dad y ras [hoffi be ti wedi gwneud fanna Eryl, ‘ras’ - gol.] i gael ei ddewis fel clawr yr E.P, a cafodd y ddau lun reject, a llun mam Daf o’r un cae ras yn

Awstralia, eu cynnwys yn y llyfryn sy’n dod efo’r finyl.

Pawb yn hapus felly, dwi’n falch clywed hynny. Ai’r hanes yma ydy’r cyd-ddigwyddiad mwyaf yn hanes yr SRG? Yng nghyd-destun cloriau recordiau, mae’n bosib iawn (ond rhowch wybod os ydach chi’n ymwybodol o un mwy).

Mae’n amlwg fod tipyn o bendroni wedi ei wneud yngly^ n â chlawr Swimming Limbs felly, ac mae’n amlwg o dystiolaeth stwff blaenorol Jen Jeniro fod y band yn rhoi tipyn o bwyslais ar waith celf eu recordiau.

Mae clawr record yn beth pwysig dwi’n meddwl, mae un da yn rhoi syniad o deimlad neu naws y record, ac mae ei broffesiynoldeb a safon yn rhoi awgrym o safon y band a’r record. Hynny ydy, os ydi’r clawr yn crap ac yn edrych yn amaturaidd, mae’n gwneud i mi yn bersonol gymryd yn ganiataol bod y band ddim werth fy sylw na fy mhres.

o glawr i glawr

18

OES YNA UNRHYW GLAWR RECORD CYMRAEG WEDI DAL EICH LLYGAD CHI’N

DDIWEDDAR? RHOWCH WYBOD PWY HOFFECH CHI I’R SELAR GYNNWYS YN

DESTUN ‘O GLAWR I GLAWR’ YN Y RHIFYN NESAF – [email protected]

www.y-selar.com

templateyselar.indd 18templateyselar.indd 18 4/12/11 21:36:374/12/11 21:36:37

Page 19: Y Selar - Rhagfyr 2011

Fe ddaliodd Sen Segur y llygad a chreu cryn argraff ar bawb yn ystod Taith Slot Selar. Un gân a ddaliodd y glust oedd ‘Cyfoeth Gwlyb’ – trac agoriadol eu EP seicadelig, Pen Rhydd. Cyn gweld y geiriau, dyma George o’r grw^ p i egluro cefndir y gân...

“Ddaru ni sgwennu’r gân ym mis Awst llynedd. Ysbrydoliaeth y gân ydi’r tywydd arbennig da ni’n cael yn Nyffryn Machno! Mae’n gân sy’n sôn am griw o fynaich sy’n dianc o’u mynachdy i osgoi cyfnod o wynt a glaw sydd ar y ffordd.”

19

gyrru’r gangeiriau sy’n

Cyfoeth GwlybAr noson fel heno mae’r henoed yn

Edrych i fyny i’r nefoedd.

Mae’n noson mor glir.

Disgwyl am y llif. Disgwyl am y llif.

Pw^ er mawr, yn dod i lawr i’r llawr

Mae’n amser dechrau nawr

Mae’n noson mor glir.

Disgwyl am y llif. Disgwyl am y llif.

Mae amser yn cael ei wastio.

Mae’n amser dechrau hastio.

Mae’n noson mor glir

Disgwyl am y llif. Disgwyl am y llif.

Mae blwyddyn arall yn tynnu i derfyn ac felly mae’n amser i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn a fu. Am beth ydw i’n sôn? Wel Gwobrau’r Selar wrth gwrs!

Unwaith eto eleni bydd modd i chi, y darllenwyr bleidleisio am enillwyr y categorïau amrywiol, a hynny ar wefan Y Selar - www.y-selar.com

Bydd y categorïau’n debyg iawn i llynedd ... wel, maen nhw’n union yr un fath i ddweud y gwir! Er mwyn i chi allu dechrau meddwl am eich pleidlais, dyma’r holl gategorïau isod, yn ogystal â rhestr enillwyr llynedd.

SENGL ORAU 2011Enillydd 2010: Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro

EP GORAU 2011Enillydd 2010: Yr Ods – Yr Ods

CLAWR CD GORAU 2011Enillydd 2010: Nos Da – Gildas

CÂN ORAU 2011Enillydd 2010: Cân y Tân – Y Bandana

BAND NEWYDD GORAU 2011Enillwyr 2010: Crash.Disco!

ARTIST UNIGOL GORAU 2011Enillydd 2010: The Gentle Good

DIGWYDDIAD BYW GORAU 2011Enillydd 2010: Maes B, Eisteddfod Glyn Ebwy

DJ GORAU 2011Enillydd 2010: Huw Stephens

HYRWYDDWR GORAU 2011Enillydd 2010: Dilwyn Llwyd

BAND GORAU 2011Enillydd 2010: Y Bandana

Bydd modd i chi bleidleisio dros enillwyr 2011 ar wefan Y Selar www.y-selar.com rhwng 15 Rhagfyr a 10 Chwefror!

LANSIO

GWOBRAU’R

SELAR 2011

^

templateyselar.indd 19templateyselar.indd 19 4/12/11 21:36:564/12/11 21:36:56

Page 20: Y Selar - Rhagfyr 2011

20

TROI A THROSI TROI A THROSI

YR ODS Mae Goodbye Falkenburg gan Race Horses a Creaduriaid Nosol gan Frizbee wastad wedi aros yn fy meddwl fel casgliadau cyson o ganeuon o safon uchel gan fandiau cyfoes o Gymru. Ond does dim amheuaeth gen i fod Troi a Throsi, albwm gyntaf Yr Ods, yno ymysg y goreuon.

Yn sicr, mae yna ddisgwyl mawr, ac edrych ymlaen wedi bod at ryddhau’r albwm, ond gallwn faddau i’r band am yr oedi, gan ei bod hi’n amlwg fod y grw^ p ifanc o ogledd Cymru wedi gweithio’n galed i berffeithio’r holl ganeuon - ac er bod rhai caneuon yn sefyll allan fel ‘hits’ posib - ‘Cerdded’, ‘Sian’ a ‘Troi a Throsi’ - dwi’n ei chael hi’n anodd dewis un gân sy’n well na’r lleill.

Gellir clywed elfennau o gerddoriaeth popi y 1960au mewn rhai caneuon, tra bod dylanwad bandiau poblogaidd fel Pulp ar rannau eraill o’r albwm. Mae talent amlwg Dave Wrench, un o gynhyrchwyr gorau’r wlad, hefyd yn dangos ar yr albwm, gan ychwanegu at y safon uchel mae’r band wedi gosod i’w hunain. Yn sicr, mae Yr Ods yn gosod stamp unigryw gyda’r sw^ n maen nhw wedi cynhyrchu, gan roi twist modern ar steiliau retro. Albwm i’w groesawu a’i fwynhau dro ar ôl tro. 9/10Owain Gruffudd

KIM Y SYNIADKIM Y SYNIAD

CANDELASDyma EP cyntaf y pedwarawd o’r Bala ac yn wir mae’n gwneud mwy na bodloni. Wedi dod yn bell ers eu dyddiau Brwydr y Bandiau dyma fand indî sydd yn prysur dorri cwys eu hunain. Mae’r bum cân yn dangos

ystod y band yma - o ‘Kim’, sy’n cyfuno riffs gitâr bywiog a chwareus â llais Osian sy’n hawlio lle fel offeryn ynddo’i hun, yn gryf ac yn swynol ond eto’n ddiymdrech. Wedyn mae ‘A’i yn ôl’ yn dawel, ac yn wir, yn dyner, yn agos atat ti â llawer o hoel meddwl ar y geiriau.

Mae’r holl albwm wedi cael ei recordio yn fyw mewn garej, a’r aelodau sydd wedi gwneud yr holl waith cynhyrchu a phob clod iddynt - maen nhw wedi llwyddo i gadw sw^ n amrwd recordiad byw yn ogystal â chreu deunydd sy’n swnio’n broffesiynol. Yr unig gw^ yn efallai ydy bod pob cân yn swnio braidd yn debyg ar ôl gwrnado arni sawl tro, ond dwi’n edrych ymlaen at weld beth arall sydd i ddod gan y band yma. Felly da chi, kimerwch y syniad a phwyswch plê ar y Candelas.8/10Casia Wiliam

NEIGWL

DAN AMORDwi ‘di bod yn ffan o Dan ers y cychwyn cynta’ - dwi’n dal i fynd yn ôl at albwm Dychwelyd bob hyn a hyn, sydd fel hen ffrind neu dedi bêr. Mae ei gerddoriaeth wastad yn hamddenol a threiddgar ac yn mynd a rhywun i rywle o’r byd hwn am ‘chydig bach, ac mae o wedi llwyddo unwaith eto gyda ‘Neigwl’.

Mae’r albwm, sydd wedi cael ei chynhyrchu gan John Lawrence a Dan Amor, yn llwyddo i greu awyrgylch freuddwydiol a hudol. Mae ‘na lawer o arbrofi gyda’r delyn, y piano ac offer taro, ac mae llawer o adeiladau haenau o sain, cyn eu tynnu nôl fesul un gan wneud i’r gwrandäwr feddwl am y dechneg sydd ar waith, cyn ail godi i grescendo trawiadol. Mae ‘Lakeside’ a ‘Dyddiau Clir’ ymysg fy ffefrynnau, ac mae’n braf dweud bod y caneuon Cymraeg a Saesneg yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd ac yn creu casgliad sy’n gryfach o gyfuno’r ddwy iaith. Gwrandewch arni ar ddiwrnod glawog, gyda phaned boeth.8/10Casia Wiliam

COFNOD COFNOD

CHWARTER I UNDri deg mlynedd yn ôl roedd bandiau coleg yn rhan ganolog o’r sin gerddoriaeth Gymraeg, ac roedd Chwarter i Un yn un o’r grwpiau hynny a ffurfiodd i gystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol 1979.

Doedd y grw^ p erioed yn un o brif fandiau’r sin, ac efallai mai dyna pam ei bod yn syndod gweld casgliad o’u cynnyrch yn cael ei ryddhau dros 30 o flynyddoedd

adolygiadau

NEIGWNEIGWL

DAN AMORDwi ‘di bod yn ffan o Dan ers y cychwyncynta’ - dwi’n dal i fynd yn ôl at albwmDychwelyd bob hyn a hyn, sydd fel hen ffrind neu dedi bêr. Mae ei gerddoriaeth wastad yn hamddenol a threiddgar ac

d h i l ’ b d h

LLYFR LLIWIOLLYFR LLIWIO

COLORAMA

Does dim dwywaith bod Carwyn Ellis, prif ganwr a sgwennwr Colorama, yn gerddor talentog. Dros saith cân mae’n mynd â ni o diriogaeth caneuon gwerin Americanaidd gyda’r faled brydferth ‘Valley Song’ at guriad affrobît yn ‘Safara’. Mae ‘Eleri’ yn mynd â ni nôl i ganol y ‘60au tra bod y gân ‘Llyfr Lliwio’ yn atseinio pop fel oedd record hir gyntaf y band, Box, gafodd ei rhyddhau llynedd. Hyn oll heb adael ffiniau’r sw^ n seicadelig folk mae’r band yn adnabyddus amdano.

Ond, mae geiriau’r ffefrynnau radio

‘Mas ar y Dre’ a ‘V Moyn Ti’ yn teimlo’n llac, diddychymyg a braidd yn ddiog. Ac yn eu trefniant (un arall, eto fyth!) o ‘Lisa Lân’, dyw’r tempo a’r melodi newydd ddim yn gweddu â’r geiriau torcalonnus sy’n gwneud iddi swnio’n drwsgl.

I’r rhai sydd eisoes yn hoffi Colorama, bydd y record hon yn plesio. Ond os nad ydych chi wedi cael eich swyno hyd yma, mae’n annhebyg y bydd ‘Llyfr Lliwio’ yn newid eich meddwl.

6/10Ciron Gruffydd

www.y-selar.com

templateyselar.indd 20templateyselar.indd 20 4/12/11 21:37:234/12/11 21:37:23

Page 21: Y Selar - Rhagfyr 2011

21

Disgrifir y casgliad gan Jamie fel ‘7 trac pseudo werinol’ ac mae’n siw^ r fod hynny’n ddisgrifiad digon teg. Mae’r recordiad yn reit amrwd, sydd efallai’n ddisgwyliedig gan ei fod wedi ei recordio’r holl ganeuon dros nos yn Stiwdio Bos. Er hynny, mae’r arddull amrwd yn siwtio naws y casgliad sy’n rhoi persbectif ysgafn a llawn hiwmor o fywyd tref Merthyr.

Mae’r ddwy gân gyntaf yn swnio’n Wyddelig werinol eu naws, ac yn ysgafn iawn eu themâu, tra bod ‘Glawio’ a ‘Briwsion’ hefyd yn parhau â’r un math o hiwmor meddwol. Er hynny fy hoff gân i o’r casgliad ydy ‘Ger y Ffynnon’ sydd wedi ei stripio reit lawr ac yn faled fach acwstig ddigon hyfryd. Cynnig cyntaf da gan Bevan.6/10Owain Schiavone

HWYLIO / SAILINGHWYLIO / SAILING

VIOLASEP ddwyieithog yw hon gydag un trac Saesneg, un Gymraeg ac un offerynnol ac mae’r tri’n plethu i’w gilydd yn neis. Ydi, mae’r tri’n swnio’n eithaf tebyg ac efallai y byddai rhywun yn diflasu ar hynny pe bai hon yn albwm deg neu ddeuddeg trac ond mae’n gweithio’n dda ar y fformat EP.

Mae’r trac Saesneg ‘Sea Shells’ yn dda iawn a fysa’r trac offerynnol, ‘Lieutenant Trung’ ddim allan o le fel un o’r caneuon ar y gêm Fifa nesa - alla i weld fy hun yn dewis fy nhîm i hon gyda phleser!

‘Gwymon’ yw’r trac Cymraeg ac mae’n gyfuniad bendigedig o riffs gitâr cofiadwy a chytgan fach fachog.

Mae’r EP yn weledol hyfryd, yn enwedig felly’r fersiwn nifer cyfyngedig lle mae’r CD yn gorwedd yn glud mewn siaced ddefnydd gyda gwaith celf Hannah Morris arni.

Mae’n anodd dod o hyd i gerddoriaeth indî fel hyn sydd ddim yn swnio fel rhyw ddeg band arall y dyddiau hyn ond mae’r Violas wedi llwyddo i raddau helaeth gyda’r EP hon. Mae hi’n sicr yn un i’r hosan.8/10Gwilym Dwyfor

Dpseddireitei fnosamper

CRASH.DISCO! CRASH.DISCO!

CRASH. DISCO!Mae EP cyntaf Crash.Disco! yn cynnwys tair cân newydd sbon gan yr artist electroneg ifanc o Fangor.

Bydd y tair cân, sef ‘Chezza V’, ‘GTFO’ a ‘Catdisco’, yn ddigon i wneud i chi deimlo eich bod yn byw mewn gêm fideo o’r 1990au, gyda chyfuniad o’r synths gyda’r drymiau yn creu cefndir perffaith i’r ‘bîps’ sydd i’w clywed trwy gydol y casgliad. Gellir tynnu cymhariaeth â Daft Punk ar adegau, ond mae Gruff wedi llwyddo i lenwi naw munud cyfan yr EP gyda theimlad sydd yn siw^ r o wneud i chi ddawnsio i’r rhythm.

Os ydych yn penderfynu archebu copi caled o’r sengl, bydd cod QR yn eich disgwyl, sydd yn eich arwain at gynnwys arbennig am yr artist. Mae’n sicr wedi llwyddo i osgoi creu casgliad undonog a diflas, ac os ydych yn chwilio am ganeuon i’w hychwanegu at restr cerddoriaeth i barti, mae’r EP yma’n berffaith i gael y gwesteion i godi ar eu traed a dawnsio.7/10Owain Gruffudd

GATHERING DUSKGATHERING DUSK

HUM MDyma ail albwm Hum M ac ar ôl llwyddiant y gyntaf, Os Mewn Sw^ n, roeddwn yn eiddgar i glywed y casgliad diweddaraf. Mae yna ddeg cân ar Gathering Dusk gyda chwech yn Gymraeg a phedair Saesneg. Gan mai cylchgrawn am y SRG ydy Y Selar na’i adolygu’r caneuon Cymraeg, ac os oes rhywun isho darllen fy adolygiad o’r lleill fydd rhaid i chi gael copi o ‘The Cellar’!

Yn syml ac yn ddigon diffwdan mae’r 6 gân Gymraeg yn wych. Mae ‘Dyma Lythyr’ yn hyfryd gyda’r llinynnau, llais, gitâr a drymiau yn gymysgedd gwych ac yn rhoi tinc fodern i gân draddodiadol. Mae pob trac yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol ond eto yn cadw’r un naws. ‘Martha a Mair’ ydy fy ffefryn i. Cân syml ond brydferth. Tydi o ddim yn albwm i wrando arno cyn mynd allan ar nos Sadwrn ond mae’n berffaith ar gyfer aros fewn ar nos Sul!

Prynwch, ymlaciwch a mwynhewch. O, ac mae’r caneuon Saesneg yn dda hefyd!9/10Dewi Snelson

yn ddiweddarach. Mae hanner cyntaf yr albwm yn gerddoriaeth pync reit ysgafn, sy’n atgoffa rhywun o stwff y Trwynau Coch ... ond ddim cystal yn anffodus. Mae’r gerddoriaeth yn awgrymu mai wrth berfformio’n fyw yr oedden nhw orau, ac mae’n anodd trosglwyddo hynny i record - mae’r sw^ n wedi’i ddyddio braidd.

Yna ceir ‘Philistiaid’ a newid clir yn sw^ n y grw^ p, gyda dylanwad New Wave yn amlwg, ac mae traciau fel ‘Pry yn y Pren’ a ‘Ti’n Gyrru fi Lan y Wal’ at ddiwedd y casgliad sy’n llawer gwell a mwy gwreiddiol. Er hynny, mae’n anodd gweld pa farchnad, heblaw am yr un nostalgia, fydd ‘Cofnod’ yn ei phlesio.6/10Owain Schiavone

Y GWIR, Y GAU A PHOPETH RHWNG Y DDAU Y GWIR, Y GAU A PHOPETH RHWNG Y DDAU

CATRIN HERBERTMae pawb sy’n gwrando ar Radio Cymru wedi clywed sengl gyntaf Catrin Herbert, ‘Disgyn amdanat ti’. Wel, mae mwy o ganeuon gan Catrin Herbert, ac mae wedi rhyddhau EP newydd chwe chân. Hwre!

Mae’n agor gyda ‘Disgyn Amdanat ti’ ac mae’r tair gân gyntaf, honno ac ‘Er Dy Fwyn’ ac ‘Ar y Llyn’ yn rai a recordiwyd ar gyfer sesiwn C2 yn gynharach eleni. Mae’r tair yn yr un fath o steil - ryw bop ysgafn Eliza Doolittle-esque. Dwi’n hoff iawn o ‘Ar Goll yng Nghaerdydd’ sy’n arddangos llais hyfryd Catrin, ac mae ‘na deimlad jazz i’r gân. Mae ‘Dala’n Sownd’ yn gân swynol hefyd ac mae’r cynhyrchu ar y caneuon yma yn gwneud cyfiawnder â’r caneuon.

I ryw raddau, dwi wedi fy synnu gan yr EP yma - mae llais Catrin yn ymddangos yn ifanc a diniwed ond dyw hyn ddim yn adlewyrchiad teg o’i chaneuon. Mae mwy o fynd i’r unig gân Saesneg, ‘The Letter’. Dwi’n siw^ r fydd y gân yma’n apelio at gynulleidfa ehangach, mae’n ffitio’r categori o ferch yn canu caneuon cwyrci sy’n ffasiynol iawn ar hyn o bryd. Wrth wrando ar yr EP mae’n teimlo fel bod Catrin yn prifio gyda phob cân. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth arall sydd ganddi i gynnig. 8/10Lowri Johnston

TORRI CERFFIWTORRI CERFFIW

JAMIE BEVAN A’R GWEDDILLIONMae Jamie Bevan yn adnabyddus fel aelod o’r Betti Galws, un o drefnwyr Gw^ yl Bedroc ac am weithredu a mynd i’r carchar dros ymgyrch Cymdeithas yr Iaith. Dwi’n crybwyll y trydydd gan mai hyn yn rhannol sydd wedi ysbrydoli ei gasgliad 7 cân, Torri Cerffiw - fel mae’r enw’n awgrymu efallai!

templateyselar.indd 21templateyselar.indd 21 4/12/11 22:34:004/12/11 22:34:00

Page 22: Y Selar - Rhagfyr 2011

22

Y_Selar Y SelarHelo Huw! Diolch am gytuno i fod yn fochyn cwta ar gyfer arbrawf ‘Cyfweliad Trydar’ Y Selar! Wyt ti’n nerfus?

Huw_M Huw MDoeddwn i ddim... ddylwn i fod?

Y_Selar Y SelarCawn weld...ta waeth, mae gen ti albwm newydd allan yn does, Gathering Dusk. Be fedrwn ni ddisgwyl (mewn 140 nod wrth gwrs)?

Huw_M Huw MAlbwm ddwyieithog, 10 trac newydd - penllanw dwy fl ynedd o gyfansoddi, pendroni, tynnu gwallt o’ mhen, gwylltio, pwyllo, jamio a recordio.

Y_Selar Y SelarSwnio’n gatharsis gwerth chweil felly. Sut ti’n meddwl neith hi yn rhestr 10 uchaf albyms y fl wyddyn Y Selar?

Huw_M Huw MByddai’n fraint i gyrraedd y 10 uchaf.

Y_Selar Y SelarTi’n rhy ddiymhongar. Y cwestiwn amlwg rŵan, mae’r enw’n Saesneg ac mae ‘na ganeuon Saesneg...wyt ti’n trio cyrraedd cynulleidfa ehangach?

Huw_M Huw MGyda phob cân a phob record, mae’n ddymunol i gyrraedd cynulleidfa ehangach - waeth beth fo’r iaith.

Huw_M Huw MDwi ‘di bod yn perfformio caneuon Saesneg yn fy set byw mewn rhai gigs ers peth amser, felly o’dd o’n teimlo yn beth naturiol i’w recordio.

Y_Selar Y SelarPa ganeuon ydy’r ‘hits’ ar yr albwm felly?

Huw_M Huw MDim syniad sori. Dwi erioed ‘di gallu dyfalu pa ganeuon mae pobl yn mynd i hoffi fwyaf, a dwi fel rheol yn anghywir pan dwi yn trio dyfalu!

Huw_M Huw MMae gen i fy hoff ganeuon, ond mae hynny yn beth gwahanol iawn.

Y_Selar Y SelarGan bod ni’n defnyddio Twitter ar gyfer y sgwrs yma, be ti’n meddwl o’r cyfryngau cymdeithasol amrywiol yma?

Huw_M Huw MDwi’n mwynhau defnyddio gwefannau cymdeithasol, ond dwi ddim yn cymdeithasu arnyn nhw. Mae’n well gen i siarad na theipio... hen ffasiwn de!

Y_Selar Y SelarDwn im, ‘chydig bach ella ond pawb at y peth a bo ynde. Ti’n gweld nhw’n ddefnyddiol i artistiaid cerddorol?

Huw_M Huw MMaen nhw wedi dod â cherddoriaeth a’r gynulleidfa yn agosach at ei gilydd, a wedi cyfrannu at chwalu ffi niau daearyddol a ieithyddol.

Y_Selar Y SelarTi’n meddwl bod gallu prynu cerddoriaeth ar y we wedi bod yn beth da neu ddrwg i gerddoriaeth? Mae o’n amlwg wedi effeithio ar werthiant CDs

Huw_M Huw MOs yw gallu prynu cerddoriaeth ar y we yn golygu ei fod yn haws i’w glywed, yna mae’n beth da.

Huw_M Huw MOnd mae cysyniad yr ‘albwm’ - fel cyfanwaith a rhywbeth i’w drysori - yn cael ei beryglu gan y we i raddau.

Y_Selar Y SelarDwi’n cytuno efo ti - peidiwch stopio gwneud albyms plîs gerddorion! Ti ‘di gwneud cwpl o fi deos YouTube ar gyfer dy ganeuon yn do?

Huw_M Huw MNes i a Beth fi deo ar pier Bangor yn defnyddio 2 gamera bach digidol cartref, a ‘nath Arwel Micah fi deo gwych i ‘Ond yn dawel daw y dydd’.

Huw_M Huw M(huwm.net os hoffech eu gweld... sori am y plyg!... mae fi deo Arwel o ‘Ond yn dawel daw y dydd’ wedi’i animeiddio yn ffantastig)

Y_Selar Y SelarBeth ydy gwerth cynhyrchu fi deos cerddorol ti’n meddwl? Ydy o’n help i hyrwyddo cerddoriaeth?

www.y-selar.com

templateyselar.indd 22templateyselar.indd 22 4/12/11 22:34:194/12/11 22:34:19

Page 23: Y Selar - Rhagfyr 2011

23

Huw_M Huw MYdy - ond nid dyna’r unig werth. Ma fi deo cerddorol yn fynegiant creadigol ynddo fo’i hun (“pretentious... moi?”).

Y_Selar Y SelarDim o gwbl Huw, mae angen sawl cyfrwng i bobl mor artistig a thi;-) Sgen ti gynlluniau i wneud fi deo ar gyfer rhai o’r caneuon newydd?

Huw_M Huw MDwi’n gweld y dafod ym mhell yn dy foch! Ond oes - byswn i’n hoffi gwneud mwy gyda fi deos byw ar gyfer yr albwm newydd.

Y_Selar Y SelarTafod ym moch...moi? Ti’n meddwl fod artistiaid Cymraeg yn dechrau cymryd mantais llawn o’r holl gyfryngau ‘ma fel llwyfan i’w cerddoriaeth?

Huw_M Huw MYdyn, sy’n golygu fod hi’n haws i fandiau rhyddhau eu cynnyrch eu hunain.

Y_Selar Y SelarHuw, dwi wedi mwynhau’r sgwrs ond fyddwn ni yma tan ‘Dolig os nad ydan ni’n ofalus. Sgen ti unrhyw beth arall i’w ddeud wrth y darllenwyr?

Huw_M Huw MOes. Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda. Diolch i ti.

Y_Selar Y SelarHuw, mae wedi bod yn bleser. Pob lwc efo’r albwm newydd.

Fe fyddwch chi’n cofio mai cyfweliad Violas oedd stori glawr rhifyn Awst o’r Selar. Bryd hynny roedden nhw’n sôn am ryddhau EP ar y cyd gyda Trwbador. Wel, bu newid bach i’r cynlluniau, ond o’r diwedd mae cynnyrch ar CD gan Violas ar ffurf EP tair cân.

Owain Morgan o’r grw^ p fu’n egluro’r sefyllfa i dîm Y Selar.“Roedd y tair cân wedi eu recordio ddechrau’r haf gyda’r

gobaith o’u rhoi nhw ar split EP efo Trwbador erbyn Steddfod. Ond oherwydd diffyg amser a commitments eraill oedd gan Trwbador a Violas wnaeth o ddim cweit digwydd.”

Felly dyma benderfynu rhyddhau’r traciau fel EP Violas yn unig, ac fe gafodd y gig lansio swyddogol ei chynnal yn Buffalo Bar, Caerdydd ar 18 Tachwedd. Dim ond 15 o CDs ‘nifer cyfyngedig’ oedd ar gael i’w prynu’r noson honno, ond bellach mae rhagor o’r rhain, yn ogystal â fersiwn sydd ddim yn gyfyngedig, ar gael i’w prynu o gigs y band ac ar-lein.

Er bod y gân ‘Sea Shells’ wedi’i rhyddhau i’w lawr lwytho ddechrau’r flwyddyn, dyma’r cynnyrch cyntaf gan y grw^ p i ymddangos ar fformat CD.

“Y bwriad efo’r enw Hwylio//Sailing ydi bod ni’n dod a’r tair cân wahanol, sef un Saesneg, un offerynnol, ac un Gymraeg at ei gilydd heb ffocysu ar un yn benodol nac unrhyw Iaith” meddai Owain.

“Gobeithio ei fod hefyd yn dangos y trawstoriad o ddawn greadigol Violas mewn un mini EP!”

“Mae trawstoriad o sw^ n a syniadau sydd i’w clywed ar y tair cân yn adlewyrchu’n sw^ n byw ni. Ers i ni ffurfio cwpwl o flynyddoedd yn ôl da ni wedi newid sw^ n a steil y caneuon cryn dipyn. Mae’r caneuon a synau wedi datblygu i’r sw^ n sydd gennym ni dyddia yma, ond mae rhai dylanwadu o rhai o’r caneuon cynnar yn dal i siapio’r ffordd dani yn sgwennu caneuon.”

EP VIOLAS ... O’R DIWEDD

templateyselar.indd 23templateyselar.indd 23 4/12/11 22:34:294/12/11 22:34:29

Page 24: Y Selar - Rhagfyr 2011

PATA

GO

NIA

templateyselar.indd 24templateyselar.indd 24 4/12/11 22:34:414/12/11 22:34:41