y selar - mehefin 2012

24
y-selar.co.uk 1 RHIF 29 | MEHEFIN | 2012 Nebula Breichiau Hir | Î-bê | Trydar @gaitoms | adolygiadau

Upload: y-selar

Post on 18-Mar-2016

237 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y sin roc Gymraeg

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk 1

RHIF 29 | MEHEFIN | 2012

NebulaBreichiau Hir | Î-bê | Trydar @gaitoms | adolygiadau

Page 2: Y Selar  - Mehefin 2012

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 831.497

[email protected]

Sain RaSal Gwymon Copa

Fflur Dafydd Ffydd gobaith cariadTecwyn Ifan Llwybrau GwynGeorgia Ruth In Luna finyl

Richard James PicturesYr Ods Troi a throsiHuw M Gathering Dusk

gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk

Llenyddiaeth Howard Marks, Dewi Prysor, Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd Tim Burgess, Dal Dy Dafod, Daniel Glyn, Ianthe Brautigan, Aneirin Karadog...

Cerddoriaeth

Stwnsh a Bardd Plant Cymru, Comics Huw Aaron, Ed Holden, Rufus Mufasa, Gwyddoniaeth Dr Who, Crefftau Hunga Munga, Bx3, gwneud pizzas…Josie Long, John Hegley, Simon Munnery, Tom Wrigglesworth, Celia Pacquola

Gruff Rhys, Cowbois Rhos Botwnnog, Julian Cope, Georgia Ruth The Staves, Emmy The Great, Ghostpoet, Richard James, Steve Eaves, Jodie Marie Jeb Loy Nichols, H Hawkline, Sioe Gareth Potter, Cyfres o ddigwyddiadau am Datblygu...

Plant

comedi

Ble? Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo, Sir GaerfyrddinTocynnau: 0844 888 9991

Maes Gwersylla, Adloniant i blant ac yn yr awyr agored, sinema, comedi, stondinau a bwyd lleol, teithiau natur a llawer mwy…

Tocynnau yn cychwyn o £25 i oedolion, tocyn penwythnos i blant 6-16 yn £10.

Page 3: Y Selar  - Mehefin 2012

UWCH OLYGYDD Owain Schiavone ([email protected])

IS OLYGYDD: Gwilym Dwyfor

DYLUNYDD Dylunio GraffEG ([email protected])

MARCHNATA Ellen Davies ([email protected])

CYFRANWYROwain Gruffudd, Lowri Johnston, Casia Wiliam

Mae’r Selar yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Mentrau Iaith. Cysylltwch â’ch Menter leol i fynnu eich copi.

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.

Rhybudd – Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

Os ddarllenwch chi golofn Griff Lynch

ar dudalen 17 fe welwch chi o’n sôn

am bwysigrwydd hanes cerddoriaeth

Gymraeg i’r sin heddiw. Sôn am hanes,

mi es i am dro i gaffi Waffle yng

Nghaerdydd yn ddiweddar a chael

fy swyno yno gan hanes diddorol y

band Datblygu, (mwy am hynny yn y

cyfweliad Breichiau Hir ar dudalen 12 ac

yn y rhifyn nesaf o’r Selar o bosib).

Ta waeth, hwn ydi fy mhwynt i;

mae yna gyfoeth anhygoel o hanes

cerddorol yng Nghymru, sydd yn

ddyfnach na’r X Factor, The Voice ac

MTV i gyd efo’i gilydd, ac mae hynny’n

beth gwych. Ond does yna ddim pwynt

edrych ar hanes mewn gwagle, rhaid

edrych arno yng nghyd-destun heddiw.

Y cwbl ydi ddoe yn y bôn ydi rhywbeth

sydd wedi creu heddiw. Mae angen ei

barchu fo oes, ond nid sefyll yn llonydd

yn ei addoli o.

Fe ddywedodd rhywun rhywdro,

“Paid ag edrych yn ôl, ti ddim yn mynd

ffordd ’na.”. Wel, wn i ddim am hynny,

mae edrych yn ôl yn iawn weithiau

cyn belled eich bod chi’n edrych o’ch

cwmpas yn syth wedyn. A dyna’n union

yr ydym ni yn ei wneud yn y rhifyn

hwn o’r Selar, rydym yn rhoi sylw i un

o artistiaid mwyaf chwedlonol y sin,

Geraint Jarman, ac yn edrych yn ôl ar

rai o gigs gorau Cymdeithas yr Iaith

dros y blynyddoedd. Ond ar yr un

gwynt rydym yn rhoi sylw i rai o fandiau

ifanc mwyaf cyffrous y sin, Breichiau

Hir a Nebula. Rhywbeth at ddant pawb

gobeithio! Mwynhewch.

Gwilym Dwyfor

4 12 16 10

Nebula

Gwledd gerddorol y gofod

O glawr i glawr

Breichiau Hir

Dwy i’w Dilyn

Gigs cofiadwy Cymdeithas yr Iaith

Adolygiadau

4

6

10

12

16

18

22

CYNNWYS

@[email protected]

Llun clawr: Nebula Ffotograffydd: Mission Photographic

RHIF 29 | MEHEFIN | 2012

Page 4: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk4

Hobnobio gyda Nebula

Mae’n benwythnos wedi rownd derfynol Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru, ac yn fore Sul glawog yn Abertawe. Dwi yma’n arbennig i gyfarfod yr enillwyr, Nebula, sy’n dod o’r ddinas.

Rydyn ni wedi penderfynu cyfarfod yn Monkey Bar a dwi’n cael y cyfle i holi tri aelod o’r pump sef Ifan, Gareth a Llŷr dros baned…

Dwi’n cychwyn trwy longyfarch y band ar eu llwyddiant. “Mae di bod yn brofiad od, odd e’ jyst yn manic, bore rôl ennill odd ‘da fi 5 neges ffôn… am gyfweliadau, gigs ac ati…” meddai Llŷr, y gitarydd a’r prif leisydd. Fel rhan o’r wobr bydd y band yn cael gig ym Maes B, photoshoot proffesiynol, ymddangos yng ngŵyl Sŵn, a chael eu cyfweld gan Y Selar, wrth gwrs! “Byddwn ni’n cael recordio tair cân newydd hefyd, ni’n edrych ’mlaen. Ni wedi cael y sesiwn tynnu lluniau’n barod, rownd Abertawe. Mae ’di bod yn brysur!”

Cafwyd Brwydr y Bandiau C2 o safon uchel iawn eleni ac enillwyr haeddianol iawn yn y band cyffrous o Abertawe, Nebula. Lowri Johnston aeth i holi’r hogiau ar ran Y Selar ychydig ddyddiau wedi’r rownd derfynol.

“Mae di bod yn brofiad od, odd e’ jyst yn manic.”

Page 5: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk 5

Mae’n werth nodi bod Nebula wedi cystadlu ym Mrwydr y Bandiau y llynedd. “Hwnna oedd ein gig cyntaf erioed. Ni gath y sgôr uchaf gan y beirniaid yn ein rownd ni ond doedd gennym ni ddim fan base o gwbl felly nath neb bleidleisio droson ni!” Felly beth maen nhw wedi gwneud yn y flwyddyn ers hynny? “Lot fawr o gigs, recordio sesiwn i C2, ac fe enillon ni frwydr y bandiau’r Eisteddfod llynedd.”

Fe bwysleisiodd y beirniaid, Elin Fflur, Ywain Gwynedd a Guto Brychan bwysigrwydd chwarae’n fyw cyn mynd i’r stiwdio. Sut felly mae Nebula wedi bod yn mynd ati i gael gigs? “Jyst ffonio tafarndai ac ati a gofyn a allen ni chwarae ‘na… Rydyn ni’n chwarae lot o gigs Saesneg hefyd a ni’n dueddol o gael ein talu am rheina - sy’n ein cynnal ni yn y sin Gymraeg sydd heb lawer o arian. Mae’r ymarfer yn bendant wedi bod yn help,” esbonia Ifan, y gitarydd.

Ond beth am fynd nôl i ddechrau Nebula… sut ddechreuodd hyn i gyd? “Wel ni gyd yn mynd i Ysgol Bryntawe, heblaw Wil sydd yn chwarae’r dryms” meddai Gareth, sy’n chwarae’r gitâr fas a’r piano. Felly pam dechrau band? “Ro’n i mewn band arall ar y pryd,” meddai Ifan, “a doedden ni ddim yn chwarae’r math o gerddoriaeth roeddwn i’n ei hoffi. A nath y bois ‘ma ddweud eu bod nhw eisiau dechrau band newydd ac mae ganddon ni flas tebyg mewn cerddoriaeth felly aethon ni ati.”

Roedd band arall, Fast Fuse, o’r un ysgol â Nebula yn y rownd derfynol, ac aeth Yr Angen, enillwyr dwy flynedd nôl i Ysgol Gyfun Gŵyr. Oes ’na adfywiad cerddoriaeth Gymraeg yn Abertawe? “Cyd-ddigwyddiad yw e’,” meddai Llŷr. “Mae lot yn hoffi cerddoriaeth yn ein hysgol ni, ond dyw e’ ddim fel bod yr ysgol yn annog y peth... Dwi’n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw e’

eleni bod dau fand o’r un ysgol yn y rownd derfynol.”

Rwy’n crybwyll nad oedd bandiau o’r gogledd yn y rownd derfynol o gwbl; Ifan sy’n ymateb, “mae’n od! Ond nath e’ roi mwy o gyfle i’r bandiau o’r de - llynedd roedd bandiau o’r gogledd ‘da fan base mawr fel Sŵnami a Siân

Miriam yn cystadlu felly doedd jyst dim siawns gyda ni. Ond eleni doedd

gan bleidleiswyr y gogledd neb lleol i bleidleisio amdanyn nhw, felly roedd pawb

yn ddiduedd!”Oes gan y band lot o ffans yn ysgol

Bryntawe felly? “Mae mwy a mwy’n dod i’n gweld ni’n fyw a ma’

hwnna’n wych - ni wrth ein bodd gyda’r

gynulleidfa pan ni’n chwarae. Mae ganddon ni bach o following nawr yn enwedig yn yr ysgol, oes” meddai Gareth. “Ond does dim llawer o bobl yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, dim ond ni rili a ma’ hwnna achos ni’n rhan o’r sin fel petai. Dwi’n meddwl ei fod e’n broblem.”

Felly dyw pethau ddim mor dda ag y mae’n ymddangos yn Abertawe ar hyn o bryd? “Na, dyw’r cymorth jyst ddim ‘na. Er, ni wedi cael llawer o help gan Angharad Jenkings ym Menter Iaith Abertawe – hebddi hi fydden ni ddim wedi cyrraedd fan hyn. Ni’n meddwl bod mwy o gymorth mewn llefydd eraill, Caerfyrddin a Llanelli, er enghraifft.” Fel un o Gaerfyrddin, dwi’n cynnig falle fod pethau o hyd yn edrych yn well o’r tu allan. “Falle,” ateba Llŷr, “dwi’n meddwl bod angen mwy o gymorth yn gyffredinol ar fandiau sy’n dechrau.”

Felly beth yw’r cynlluniau nawr? “Wel ni gyd yn mynd i’r brifysgol ym mis Medi felly ni am wneud cymaint o gigs a ni’n gallu dros yr haf,” meddai Gareth. Cytuna Llŷr, “ni eisiau chwarae lot o wyliau cerddorol a chreu cysylltiadau. Byddwn ni bendant yn cario ymlaen i chwarae cerddoriaeth. Ni angen ymarfer lot a gorffen ysgrifennu caneuon sydd ar eu hanner!”

Sut mae’r band yn meddwl bydd ennill y gystadleuaeth yn eu helpu? “Mae’n rhoi cymaint o gyfleoedd newydd i ni fydden i heb eu cael fel arall. Bydden ni byth yn gallu gwneud be’ sy’ ar y gweill heb ein bod ni wedi ennill, mae’n gyfle gwych i ni.” meddai Ifan. Ychwanega Llŷr, “ni eisiau targedu’r gogledd. Mae nifer o fandiau ifanc da yn y de ond ni ddim yn cael unrhyw sylw yn y gogledd - mae ganddyn nhw nifer o fandiau da hefyd sydd yn cael y sylw.”

Ac ai cael eu cerddoriaeth mas ar ffurf albwm yw’r bwriad? “Ni’n bendant eisiau mynd nôl i’r stiwdio. Ni’n gobeithio gallwn ni fynd nôl i stiwdio Sonic One yn Llanelli lle nathon ni recordio’r caneuon ar gyfer Brwydr y Bandiau. Oedden nhw’n amazing, mae ein sŵn ni yn y stiwdio yn wahanol i pan ni’n fyw achos mae lot o haenau i’r gerddoriaeth. Ond ie, ni eisiau dod ag albwm mas a ni wrthi’n casglu arian ar hyn o bryd ar ei gyfer e’” meddai Gareth.

A dyna lle dwi’n gadael pethau - gan ddymuno pob hwyl i’r band i’r dyfodol. Dwi’n sicr y byddant yn mynd o nerth i nerth ac yn dod yn un o brif fandiau Cymru’n fuan iawn, ond am y tro - ma’ arholiadau ‘da’r bois ‘ma i’w gwneud…

“Bydden ni byth yn gallu gwneud be’ sy’ ar y gweill heb ein bod ni wedi ennill, mae’n gyfle gwych i ni.”

Page 6: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk6

Mae’n ymddangos i mi fod yna gerddoriaeth Gymraeg yn y gofod. Y gofod seibr hynny yw. Mae technoleg yn newid y byd a’r ffordd ’da ni’n byw yn gynt nag all rywun ddweud

Jini Me, ond sut effaith mae hyn yn ei chael ar gerddoriaeth, y ffordd mae cerddoriaeth yn cael ei rhannu, ei darlledu a’i phrynu yma yng Nghymru?

Ewch ar daith feddyliol yn ôl i 2003; dyma flwyddyn a fu’n gychwyn ar bethau mân a ddaeth, dros amser yn bethau mawr; Amy Duffy ar Waw Ffactor, Leanne Wood yn sefyll dros Blaid Cymru am y tro cyntaf, a Myspace yn cael ei sefydlu ar ddiwrnod braf (mwya’ thebyg) yn Santa Monica gan ddau foi o’r enw Chris a Tom.

Roedd Myspace yn un o’r rhwydweithiau cymdeithasol cyntaf i ddarparu platfform ar gyfer llwytho a rhannu cerddoriaeth am ddim – wrth gwrs roedd Napster ac iTunes o gwmpas cyn hynny, ond roedd MySpace yn wahanol gan fod modd i unrhyw un, boed yn gerddor proffesiynol â label recordio neu’n freuddwydiwr gyda dim ond gitâr allan o diwn , triongl a brwdfrydedd, rannu eu cerddoriaeth â’r byd a hynny am ddim.

Gyda datblygiad safleoedd megis Myspace, roedd y ffordd roedd pobl yn meddwl am gerddoriaeth yn newid, a cherddorion yn dechrau sylwi bod yma gyfle euraidd i bobl o bob cwr o’r byd rannu a gwrando ar gerddoriaeth ei gilydd, a cherddoriaeth o’u dewis nhw, nid yr hyn oedd y gorsafoedd radio a sianeli cerddoriaeth megis MTV yn ei fwydo iddynt. Roedd y gorffennol cerddorol confensiynol yn prysur droi’n eisingraig dan draed ac roedd y Cymry yn effro ac yn barod am y cyfle. Ddechrau’r mileniwm newydd lansiwyd Radio D gan Johnny R o gwmni recordio R-Bennig; gorsaf radio ar y we a oedd yn blaenoriaethu cerddoriaeth ymylol amgen y cyfnod, cerddoriaeth a gai, i bob pwrpas, ei hanwybyddu gan y cyfryngau. Yn anffodus, oherwydd trafferthion ariannol, diffoddodd Radio D yn 2001, ond yn ffodus, daeth DJ Lambchop i sefyll yn y bwlch.

Sin mwy diddorol

Lansiwyd Radio Amgen gan DJ Lambchop (Steffan Cravos) yn 2001; sefydliad dielw a lansiwyd, yng ngeiriau’r dyn ei hun ‘yn sgil diffyg allbwn ar gyfer cerddoriaeth amgen ac arbrofol yng Nghymru’ a hynny ar ffurf dyb-step, electro, drwm a bas, hip hop a thecno. Mae Radio Amgen bellach yn darlledu ers dros ddeng mlynedd (ac eithrio ambell i gyfnod tawel) ac yn dal i gael hits rhyngwladol bob mis. Porwch trwy radioamgen.com am sesiynau gwirioneddol wefreiddiol - os ’da chi erioed wedi dod ar draws y wefan o’r blaen mae fel ffeindio papur ugain ym mhoced eich jîns - hollol annisgwyl a hollol briliant.

Mewn sgwrs gyda’r dyn sy’n gyfrifol am y weledigaeth, holais os oedd modd i hyn gael effaith negyddol ar werthiant cerddoriaeth a bywoliaeth cerddorion Cymreig. “Dwi’m yn dallt bandiau sydd isio pres am werthu eu CDs,” meddai Cravos, “ma’ pawb yn winjo am fethu gwerthu ond mae’r newid yn y PRS yn ‘neud y sin yn fwy diddorol. Mae sefyllfa’r dirwasgiad a diweithdra yn annog pobl i greu a rhyddhau cerddoriaeth mewn ffyrdd eraill ac mae’n gwneud y sin yn fwy diddorol. Ma’i mor hawdd recordio cerddoriaeth y dyddia’ yma, mewn ystafell wely efo meddalwedd eitha’ rhad – dyna’r ffordd ymlaen.”

A tydi Cravos ddim ar ben ei hun yn hynny o beth. Mae fwyfwy o griwiau, unigolion a sefydliadau wedi dod i gadw cwmpeini i’r chop erbyn heddiw. Mae gwefan Electroneg.com – label recordiau sy’n smalio nad ydi o’n label recordiau – yn cynnig podlediadau, fideos a chaneuon unigol gan amryw o gerddorion – o Plyci i Zwolf, o’r Acid Casuals i Crash.Disco! ac ambell i beth cwbl wallgo’ a gwych fel ‘If I live I will kill you if I die you are forgiven’ gan ORCH500 (siŵr o ’neud i chi chwerthin).

Gwledd gerddorol y gofodBoed hynny achos datblygiadau technolegol diweddar neu’r sefyllfa economaidd bresennol, un peth sy’n sicr - mae yna dipyn o gerddoriaeth Gymraeg ar gael am ddim ar y we’r dyddiau hyn. Casia Wiliam fu’n ymchwilio i’r sefyllfa ar ran Y Selar.

Page 7: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk

Cynnig blas

Mae cerddorion i’w gweld yn defnyddio’r platfform newydd di reolau di ffiniau yma i arbrofi, i ryddhau deunydd yn anhysbys ac i gael hwyl. Y peth amhrisiadwy am hyn i gyd ydy y gall pawb wrando ar gerddoriaeth newydd, wahanol, arbrofol, heb ffarwelio â deg punt neu fwy am gryno ddisg. ’Da ni’n byw mewn cymdeithas lle mae popeth wrth law, popeth ar flaen ein bysedd mewn chwinciad, cymdeithas lwglyd sy’n ysu am fwy yn ddi-baid, ac er bod llawer yn newid, yr un yw’r ecwlebriwm economaidd, felly cyhyd a bo galw, fe fydd cyflenwad, ac mae hynny’r un mor wir yma yng Nghymru ac yn unman arall.

Mae Elis Glynne yn un arall sy’n gofalu am wefan o’r fath - aeth ati i sefydlu Amrwd.com tua thair blynedd yn ôl gan weld bod My Space ar y ffordd allan ac am roi tro ar ‘system newydd’ o ryddhau cerddoriaeth. Yma mae Elis yn rhoi llwyfan i ychydig o’i brosiectau cerddorol ei hun, yn ogystal â rhannu cerddoriaeth gan artistiaid eraill. Mae yma berlau bach ar y wefan yma - ‘Chwys’ gan Meic Parry, a ‘Erbyn hyn’ gan yr anhysbys ‘Kevin’ i enwi dim ond rhai, ond ydi Elis yn meddwl bod hyn am gael effaith negyddol ar werthiant cerddoriaeth, neu yn ffordd o gael mwy o bobl i wrando?

“Mae’n neis cael gweld, fel bod amrwd wedi aeddfedu, fod mwy o ddiddordeb yn y gerddoriaeth sy’n cael ei rhyddhau,” meddai. “Dwi’n meddwl fod pawb gyda barn eu hunain am ba ffordd ydi’r ffordd orau o ryddhau cerddoriaeth, ond yn bersonol dwi’n meddwl fod cynnig lawrlwythiad mp3 am ddim fel blas ar fand neu artist yn syniad bach dandi.”

Rhai eraill sy’n meddwl fod hyn yn dandi yn amlwg yw Tew Shady, Cofi Bach ac Endaf o KAFC gynt sydd newydd lansio gwefan newydd sbon o’r enw Disglair.net. Yma maen nhw’n rhyddhau ychydig o’r caneuon sydd wedi bod yn y drôr ers talwm fel petai, gan nodi mai’r peth pwysig ydy ‘eu bod nhw ar gael os ydach chi eisiau nhw.’ Efallai mai’r hyn sydd yn dod i’r amlwg ydy fod cerddorion heddiw’n barod i ddod â’r gerddoriaeth at y bobl, yn hytrach na disgwyl i’r bobl ddod atyn nhw.

Wedi pori trwy’r holl wefannau hyfryd yma, a siarad gyda’r rhai sydd wrthi’n ddyfal tu ôl i’r llen, mae darlun calonogol iawn o gyflwr y sin gerddoriaeth yng Nghymru heddiw wedi ymddangos, a hynny ar sawl platfform, gan ddod â cherddoriaeth Gymraeg orau’r wlad yn syth i glyw glustiau eiddgar. Gwyliwch y gofod.

7

Page 8: Y Selar  - Mehefin 2012
Page 9: Y Selar  - Mehefin 2012

y_selarSut wyt ti Gai? Croeso i gyfweliad trydar y Selar.

gaitoms Diolch.

y_selarTi newydd fod yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow, sut hwyl ges di’n fanno?

gaitomsLot o hwyl, ond dim llawer o lwyddiant. Ma’ Carlow yn dre braf!

y_selarNes di sôn yn dy flog ar ôl Can i Gymru fod yna ‘fformiwla’ i ennill, oedd yr un fformiwla’n gweithio yn yr Ŵyl Ban Geltaidd?

gaitomsMae’r holl beth yn od. Ma Cymru yn hoff o ganeuon ‘epic / anthemig’, ma’r Ban Geltaidd i weld yn mynd am ganeuon acwstig syml.

y_selarGes di gyfle i chwarae set lawn tra o chdi yno hefyd?

gaitomsDo, ddaru ni chwarae gig yn y Leveretts. Llwyth o bobl Ffrengig yno! Ymateb positif.

y_selarDa! Sut ti’n meddwl y mae’r sin Gymraeg yn cael ei gweld tu allan i Gymru? Yn Iwerddon a Ffrainc ac ati?

gaitomsTydi’r mwyafrif helaeth ddim yn gwybod fod hi’n bodoli. Os ydy pobl o du hwnt yn ymddiddori ynddi, mae o’n debycach i ryw ddilyniaeth cult.

y_selarDiddorol. I fynd yn ôl at Gân i Gymru, ti’n teimlo’n gryf y dylai’r wobr ariannol fynd yn ôl mewn i’r diwydiant dwyt.

gaitomsMa’n od bod yr holl £ yn cael ei fuddsoddi i raglen o’r fath lle does dim byd yn cyfateb i’r diwydiant go iawn, a hwnnw’n diodde’n ariannol.

y_selarCytuno. I Stiwdio’r Sbensh mae dy enillion di’n mynd ynde, sut mae pethau’n dod ymlaen yn fanno?

gaitomsAraf! Lot o waith! Bydd gwobr CiG yn trosi phase 1, sef swyddfa, cegin a toilet. Phase 2 = trosi’r neuadd i stafelloedd recordio.gaitoms... ond byddaf yn recordio albwm ddwbl yn fuan yn yr adeilad fel mae o. Hen Festri Capel Bethel, cyn y gwaith trosi.

y_selarSwnio’n gyffrous. Mae mwy a mwy yn y sin yn recordio stwff eu hunain ac yn rhyddhau ar labeli eu hunain dyddiau yma. ’Di hynny’n beth da?

gaitomsMae’r we a thechnoleg recordio wedi chwyldroi popeth yn y diwydiant. Mae’r holl beth yn arwyddocaol yn y byd sydd ohoni... ma’n gyffrous!

y_selarSy’n dod a ni’n daclus at hyn, pa mor bwysig ydi trydar a chyfryngau cymdeithasol eraill erbyn hyn o ran hyrwyddo cerddoriaeth?

gaitomsMa’n gyfrwng holl bwysig i hyrwyddo, cymdeithasu, rhannu a lawrlwytho. Bwysicach byth i artistiaid newydd.

y_selarAc fe fydd gen ti waith hyrwyddo cyn bo hir gyda’r albwm newydd sgin ti ar y gweill, Bethel ia? Be allwn ni ddisgwyl?

gaitomsBethel, ia. Albwm ddwbl, un efo’r band, y llall jest fi a’r gitâr. Caneuon wedi eu cyfansoddi dros y pedair mlynedd dwytha. Dim byd crefyddol!

y_selarSwnio’n ddifyr iawn. A gan bod hynny’n digwydd mewn capal, mae’n rhaid i mi ofyn, oes ’na ddyddiad?

gaitoms2012!gaitoms...haf

y_selarEdrych ymlaen at hynny. Pob lwc efo’r albwm a’r stiwdio a phob peth arall dros yr haf.Diolch am gymryd yr amser i siarad â’r Selar, Hwyl ti!

gaitomsDiolch yn fawr! @y_selar

trydar gyda @gaitoms

y-selar.co.uk 9

Page 10: Y Selar  - Mehefin 2012

“Sara Mererid wnaeth gynllunio,” eglura Geraint, “hi wnaeth gynllunio albwm Yr Ods hefyd. Mae hi’n gynllunydd sydd yn dod o Gaerdydd ac mae hi’n andros o dalentog. Cynllunydd graffeg a ballu ydi hi sydd yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn gweithio yn fanno.”

Beth yn union oedd y bwriad felly? Beth oedd brîff y cynllunydd? “Beth oeddwn i isho? O’n i isho creu rhywbeth abstract mewn ffordd ar ffurf collage. Dwi’n hoff iawn o’r artist collage o’r Almaen, Kurt Schwitters. Mae ei waith o’n drawiadol dros ben a dwi wedi cyfeirio ato fo mewn caneuon hefyd. O’n i isho rhywbeth oedd yn cyfleu’r caneuon a’r syniadaeth oedd ar yr albwm a dwi’n meddwl ei bod hi wedi gwneud job dda iawn.”

Do, yn sicr, a’r cam nesaf felly oedd dod o hyd i’r ferch a wnaeth joban cystal! Ac er bod Sara yn gynllunwraig ifanc brysur yn y ddinas fawr roedd hi’n ddigon parod i roi peth o’i hamser i siarad â’r Selar am ei brecwast.

Dyma ddechrau lle gadawodd Geraint bethau - gyda Karl Schwitters. Mae dylanwad yr artists yn amlwg yn y gwaith gorffenedig (hyd yn oed i rywun fel fi sydd yn gwybod dim am gelf!) Ai dyna oedd man cychwyn y cynllun felly? “Dwi wastad wedi bod yn ffan o waith Schwitters ac mi oedd hwn yn sicr yn ddylanwadol ar gynllun yr albwm ond bues i hefyd yn edrych ar waith Hannah Höch a Rauschenberg, dau arlunydd arall sy’n enwog am greu gwaith celf trwy adeiladu haenau o ddelweddau er mwyn creu’r darn gorffenedig.”

Mae yna gymaint yn digwydd ar y clawr, mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn dipyn o her cael pob dim i mewn. “Ma’n rhaid dweud mai’r sialens fwya’ gyda’r cynllun yma oedd ceisio cael bob dim i mewn. Ar ôl i mi siarad efo Geraint a deall yn iawn gefndir bob cân nes i benderfynu bod rhaid i mi lwyddo. Gyda gyment o storie gwahanol tu ôl i bob trac o’n i wir moyn cyfleu’r amrywiaeth trwy’r clawr. Felly nes i benderfynu mai collage fydde’r ffordd fwyaf naturiol o wneud hyn. Do’n i ddim ishe gorfodi’r cynnwys ond yn hytrach gadael iddo fe lifo’n naturiol trwy’r clawr heb fod yn rhy amlwg. Odd e’n sicr yn anodd ond does dim byd yn well na sialens!”

Wrth edrych ar y clawr mae yna ambell beth sydd yn ddigon amlwg, fel yr 1969 mewn rhifolion Rhufeinig a Miss Asbri, ond mae yna lawer o stwff cynnil iawn hefyd yn yr holl haenau. Yn ôl Geraint, “Mwya’n byd ’da chi’n edrych arno fo, ’da chi’n gweld mwy a mwy o betha’ bob tro. ’Da chi’n gweld y chopsticks ar draws sy’n cynrychioli’r plât ac yn cynrychioli’r byd ac mae ’na gyfeiriadau at y caneuon unigol hefyd.”

Mae hyn yn sicr yn wir ond oes yna unrhyw elfen o’r collage y mae Sara yn fwy balch ohoni na’r lleill tybed? “Wrth edrych nôl, yn amlwg, fel pob tro, ma’ ’na bethe alle fod yn well, ac wrth gwrs mae’n hawdd ffindo rhain yn fy ngwaith fy hun. Ar y llaw arall, ma’n rhaid i mi gyfaddef mod i dal i fod yn hapus efo’r clawr. Dwi’m meddwl fod ganddo fe gymeriad sy’n teimlo’n naturiol a heb gal ei fforsio, ond wrth ddweud ’ny ’ma wastad modd gwella unrhyw beth.”

Gyda chymaint o elfennau yn plethu trwy’i gilydd, oes unrhyw un nad oes neb wedi sylwi arni eto? Oes yna gyfrinach fach i’w rhannu â darllenwyr Y Selar? “Ma’n anodd i mi wybod os yw pobl wedi gweld y cyfan. Dwi’n siŵr fod rhai pobl sy’n edrych ar y clawr unwaith ac wedyn yn ffocysu ar y miwsig, ond ar y llaw arall dwi’n siŵr fod eraill sy’n mwyhau edrych arno fe bod tro ma nhw’n gwrando. Bydden i’n dwli dweud bod ’na rhyw fath o gyfrinach rhywle ar y

Un o gloriau mwyaf trawiadol 2011 heb os oedd clawr yr albwm Brecwast Astronot gan Geraint Jarman. Wrth gwrs mae’r albwm yn gerddorol wych fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan aelod mor chwedlonol o’r sin, ond mae’r peth yn gyfanwaith campus hefyd diolch i’r gwaith celf diddorol.

Roedd yn rhaid i’r Selar felly ddod i wybod mwy am y clawr arbennig hwn gan ddechrau trwy holi’r dyn ei hun, Geraint Jarman..

Brecwast Astronot

“Mwya’n byd ’da chi’n edrych arno fo, ’da chi’n gweld mwy a

mwy o betha’ bob tro.”

y-selar.co.uk10

Page 11: Y Selar  - Mehefin 2012

o glawr i glawr

clawr ond yn anffodus does dim - tro nesa’ falle!”

Roedd Geraint yn sôn am y chopsticks sydd yn hollti trwy ganol y cynllun a does dim dwywaith fod y rhain yn drawiadol iawn. (Yn wir, efallai mai rhain yw ail sbrigyn ymborth enwocaf yr SRG erbyn hyn!) Ond beth yw eu harwyddocâd? “Nes i ddechre cynllunio efo’r syniad o siâp cylch yn cyfeirio at blât brecwast ond heb fod yn rhy amlwg.” Eglura Sara. “Ar yr un pryd dwi’n cofio Geraint yn sôn am y syniad o astronot yn bwyta sushi i frecwast, a dwi’n meddwl nath hwn aros yn fy meddwl wrth gynllunio. Ar ôl i mi orffen y collage o’n i’n teimlo fod rhywbeth ar goll a bod angen rhywbeth i dorri trwy’r cylch gorffenedig. Heb fod yn rhy amlwg feddylies i bydde dwy linell, yn debyg i chopsticks, yn gweithio’n dda o ran esthetig a chydbwysedd ond ar yr un pryd yn ychwanegu cyfeiriad arall i’r syniad gwreiddiol.”

Dwi’n un sy’n straffaglu’n ddifrifol gyda chopsticks fel arfer ond dwi’n hoffi’r rhai yma. Maen nhw’n dod â’r cwbl at ei gilydd ac mae’r holl gynllun yn gweithio’n berffaith. Rhywun arall oedd yn meddwl hynny yn amlwg oedd Yr Ods. Achos fe gynlluniodd Sara albwm Troi a Throsi y band yn dilyn ei gwaith da ar Brecwast Astronot, ac mae’r elfen collage i’w gweld unwaith eto.

“Odd y bechgyn yn awyddus i gal cynllun a odd yn seiliedig ar gollage ac felly dyna odd y man cychwyn i mi. Ar ôl penderfynu ar hynny a gwrando ar yr albwm sawl gwaith ddath e’n amlwg i mi fod sawl elfen wahanol odd yn bwysig i mi gyfleu trwy’r cynllun. I ddechre odd e’n bwysig bod y clawr yn cyfleu rhyw ansicrwydd a dyna be’ nath i mi benderfynu ychwanegu elfen 3D i’r teitl fel bod e’n bwrpasol yn eitha’ anodd i edrych ar y clawr. Elfen arall odd yn rhan fawr o’r cynllun odd cyfeirio at y merched gan fod lot o’r caneuon ar yr albwm yn sôn amdanyn nhw.”

Eisoes wedi gweithio gydag un o fawrion cerddoriaeth Gymraeg a band mwyaf y sin ar hyn o bryd. Oes yna rywun arall yr hoffai Sara weithio gyda nhw? Cynllunio i bwy fyddai ei phrosiect delfrydol? “Ma’ lot o bobl y bydden ni’n lico gweithio iddyn nhw. Un albwm dwi wastad wedi meddwl y bydden ni ’di dwli’i chynllunio yw Graceland gan Paul Simon, ond yn amlwg delfryd llwyr yw hynny. O ran cerddorion mwy diweddar dwi’n meddwl y bydde rhaid i fi ddewis Gruff Rhys neu Euros Childs - dwi’n ffan mawr o waith y ddau artist a dwi’n dychmygu fydde fe’n ’itha lot o hwyl i weithio gyda nhw.”

Amser a ddengys os fydd y freuddwyd honno yn cael ei gwireddu ond un peth sy’n sicr- rydym yn siŵr o weld gwaith Sara Mererid yn addurno cynnyrch y sin am flynyddoedd i ddod.

...dwi’n cofio Geraint yn son am y syniad o

astronot yn bwyta sushi i frecwast...”

y-selar.co.uk 11

Page 12: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk12

yn dweud y gwir

I’r rheini ohonoch sydd yn dilyn Steffan Dafydd, prif leisydd Breichiau Hir, ar wefan Twitter, byddwch chi’n gwybod yn iawn erbyn hyn ei fod o wedi gwirioni efo’r band Datblygu. Roedd hyn yn esbonio pam fod

Steff, yn ogystal ag aelodau eraill y band, yn mynnu cyfarfod yng nghaffi Waffle yn ardal Treganna, Caerdydd – lle’r oedd arddangosfa teyrnged i Datblygu’n addurno’r waliau.Yn sicr, mae dylanwad amlwg Datblygu ar agwedd a geiriau Breichiau Hir, ac mae’r band ifanc o Gaerdydd yn prysur wneud enw i’w hunain yn yr SRG. Yn rhan o genhedlaeth

newydd o fandiau Cymraeg, ynghyd â bandiau fel Y Bandana a Candelas, dyw aelodau’r band ddim yn dal yn ôl rhag dangos eu teimladau, a hynny mewn ffordd ddadleuol iawn ar adegau.

Yn ymuno â Steffan mae Rhys Evans a Llŷr Rhisiart. Mae’n nhw wrth gwrs un o do o fandiau ifanc o Gaerdydd , a dwi’n dechrau trwy holi sut lwyfan sydd i grwpiau Cymraeg fel nhw yn y brifddinas? SD: Gwnaethon ni gychwyn bant gan bo’ ni eisiau chwarae gigs yng Nghlwb Ifor Bach. Oedden ni’n mynd i Clwb, a meddwl

Go brin fod yna fand yn y SRG sydd wedi profi gymaint o newidiadau â Breichiau Hir. Ond gan fod y bois o Gaerdydd bellach yn hapus gydag enw, lein yp a sw^ n y band, pa amser gwell i yrru Owain Gruffudd ar ran Y Selar i gael gair â nhw ar drothwy rhyddhau eu EP cyntaf.

Breichiau Hir

Page 13: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk 13

fod y bandie oedd yn chwarae yna’n cŵl, felly dyna pam bod ni eisiau cychwyn.RE: Pan wnaethom ni gychwyn roedd lot o fandiau o Gaerdydd, gyda gigs ymlaen yn rhywle o hyd. Ond ers hynny mae popeth wedi mynd yn dawel, gyda dim ond ni a Catrin Herbert yn gwneud pethau erbyn hyn. Bydde fe’n neis gweld mwy. Dwi’n meddwl fod e’n anoddach cychwyn band Cymraeg yng Nghaerdydd, yn enwedig o gymharu â rhywle fel Gogledd Cymru, lle mae lot yn mynd ymlaen yno. SD: Gwnaethon ni gychwyn fel Just Like Frank gan bod ni’n meddwl bydde ni’n canu’n Gymraeg ac yn Saesneg, gan mai dyna oedd bandiau roeddem ni’n adnabod yn ei wneud. Yn y gig gyntaf fe wnaethom ni ganu dwy gân Saesneg, ond ers hynny dim ond yn Gymraeg rydym ni wedi bod yn canu.

Yn amlwg, wrth fynd yn hŷn mae aelodau bandiau yn dueddol o fynd ar wasgar i astudio mewn gwahanol brifysgolion a dyw Breichiau Hir ddim yn wahanol. Gyda hanner yr aelodau yn astudio yn ne-ddwyrain Lloegr, a’r hanner arall wedi aros yma yng Nghymru, tydi’r band heb fod mor weithredol ag arfer dros y misoedd diwethaf. Pa mor anodd ydy wedi bod ers i chi wahanu i fynd i brifysgolion gwahanol?LlR: Anodd iawn!

RE: Gwyliau’r Pasg oedd y tro cyntaf i ni gael pawb gyda’i gilydd am dros wythnos ers misoedd. Fel yna mae hi nawr, does neb byth efo’i gilydd. Mae wastad rhywun ar goll! LlR: Dwi a Rhys [Morgan] hefyd mewn band arall, sef Foxxes, sydd wedi bod yn teithio Ewrop yn ddiweddar, felly mae hyn yn gwneud hi’n anoddach eto.

Gyda hanner y band yn byw yn Lloegr, ydi chwarae yn Lloegr ac yn Saesneg yn rhywbeth rydach chi’n ystyried?RE: Bydde fe’n neis mynd i chwarae dipyn yn Lloegr.SD: Bydde chwarae yn Lloegr yn neis, ond fi ddim yn poeni am ganu’n Saesneg. LlR: Pan ni wedi bod yn chwarae gigs mewn llefydd fel Llundain ni dal wedi bod yn canu’n Gymraeg, ond gyda Steff yn siarad yn Saesneg rhwng caneuon – ac fe gawsom ni ymateb da iawn. Mae tipyn o fandiau yng Nghymru’n cychwyn bant yn Gymraeg cyn ‘datblygu’ mewn i’r Saesneg, ond dwi ddim yn gweld y pwynt. Mae safon y cyfansoddi yn mynd i fod yr un peth, a dyna fydd rhan fwyaf o’r dorf yn ei farnu – nid y geiriau.SD: Yn union, fi’n meddwl bod bandiau Cymraeg angen stopio bod fel clique yn mynd i ganu yn Saesneg, oherwydd mae cerddoriaeth Gymraeg o safon uchel iawn ar y funud.

Page 14: Y Selar  - Mehefin 2012

Ydych chi’n meddwl fod eich syniadau a’ch sŵn wedi newid ers i chi wasgaru i golegau gwahanol?SD: Do, mae e’ wedi newid lot. Ni wedi bod trwy wahanol gamau fel band, cychwyn bant fel pop-punk, cyn symud ymlaen i indie, ac wedyn pop cyfoes rili. Mae e’ wedi newid gymaint, fydde fe ddim yn synnu fi taw ni yw’r band sydd wedi mynd trwy’r fwyaf o stages yn y Sin Roc. Erbyn hyn, ’da ni’n mynd am sŵn mawr, lot mwy trwm.LlR: Yn amlwg, ma’r ffaith fod ’da ni dair gitâr nawr wedi ychwanegu lot mwy o sŵn i’r band, ond pan ni’n dweud trwm, ’ni ddim yn golygu metal. SD: Ni’n fwy o roc straight-forward nawr, gyda lot o agwedd ac emosiwn hefyd.LlR: Mae gennym ni gyd wahanol ddylanwade’ hefyd. Mae Nat ar y bass yn ychwanegu sŵn mwy trwm a metal, lle mae Rhys Morgan yn mwynhau bandiau fwy punk, ac mae’n bosib clywed hynny yn ei ddarnau e’. SD: Mae Datblygu yn ddylanwad mawr i fi a’r geiriau dwi’n

ysgrifennu. Nhw oedd y band wnaeth gychwyn fy niddordeb i mewn cerddoriaeth Gymraeg.

Beth mae Rhys Morgan wedi ychwanegu i’r band?RE: Dim ond acen Llanelli rili!LlR: Na, mae’n ychwanegu lot i’r sŵn. Mae sŵn ei gitâr e’n hollol wahanol i Gareth a Rhys [Evans]. SD: Fe yw’r unig gitarydd sydd wedi cael gwersi proffesiynol hefyd, felly fe yw’r unig un sydd yn deall yr ochr dechnegol o’r cyfansoddi! Pan oedden ni’n recordio yn y stiwdio’n ddiweddar, wnaeth Rhys ganu ar y caneuon, felly mae’n dod â llais ychwanegol i mewn hefyd. Llai o bwysa’ arna i felly!

’Da chi’n adnabyddus am ddefnyddio lot o’r we i hybu eich cerddoriaeth – ’da chi’n meddwl mai hynny yw’r ffordd ymlaen?SD: Yn sicr. Mae fe’n lot haws a chyflymach nag unrhyw ffordd arall i hysbysebu. Mae Twitter a Facebook yn ddefnyddiol iawn,

“...fi’n meddwl bod bandiau Cymraeg angen stopio bod fel clique yn mynd i ganu yn Saesneg”

y-selar.co.uk14

Page 15: Y Selar  - Mehefin 2012

yn ogystal â gwefannau fel Amrwd a Soundcloud. Mae’r we yn berffaith ar gyfer cerddoriaeth newydd.RE: Mae e’n rili defnyddiol gan fod ni ffwrdd. Mae’n golygu bod ni’n gallu trefnu gigs yn hawdd, a siarad mewn un ‘sgwrs’. Hefyd, rydym ni’n gallu parhau i ddangos fod y band dal yn bodoli er gwaethaf y seibiant. Ond yn fwy na dim rydym ni’n gallu gyrru samplau o ganeuon i’n gilydd.

Un newydd cyffrous i ddilynwyr Breichiau Hir yw bod EP newydd am gael ei ryddhau yn fuan. Yn dilyn rhyddhad llwyddiannus sengl ‘Peil o Esgyrn’, bydd y band yn rhyddhau mwy o ganeuon erbyn mis Mehefin. Sut aethoch chi ati i recordio eich EP newydd?SD: Roeddem ni’n lwcus fod stiwdio ar gael i ni yn yr Atrium, sef un o adeiladau Prifysgol Morgannwg, lle mae Llŷr yn astudio. Ni wnaeth popeth ein hunain, mwy neu lai, felly mae hynny’n neis. LlR: Ac wedi arbed ychydig o arian, gan fod Steff mor dynn gyda phres y band!SD: Fe wnaethom ni roi Llŷr yn ‘drysorydd’ am ddiwrnod a wnaeth e’ wario’r arian i gyd ar Jaegerbombs, felly fi sy’n edrych ar ôl yr arian nawr! Ond mae’n neis fod ni heb orfod talu am stiwdio a pheirianwyr ac yn y blaen.

Beth allwn ni ddisgwyl o’r EP?LlR: Sŵn lot fwy aeddfed nag o blaen. Ni’n canolbwyntio lot ar adeiladu’r sŵn trwy’r EP, gan fynd o ganeuon mwy araf a distaw i sŵn mawr ac epig. Mae ’da ni lot o gitârs felly ni’n trio defnyddio nhw i gyd!SD: Mae e’ lot fwy ballsy nag o blaen hefyd. Rydym ni’n rhoi lot mwy o agwedd iddo fe ac mae e’n mynd i fod ychydig mwy sarcastic a thywyll hefyd.

Beth ydi’r profiad gorau ’da chi wedi cael gyda’r band hyd yn hyn?LlR: Maes B yn sicr yn un uchafbwynt – mae’n uchafbwynt i unrhyw fand sy’n canu yn Gymraeg. Mae unrhyw gig yng Nghlwb Ifor yn sefyll mas hefyd.SD: Ni wastad yn hoffi chwarae yn fanna oherwydd mai dyna lle oedd ein gig gyntaf ni erioed. Wnaethom ni chwarae ar y llwyfan lawr grisiau dros y Pasg, sef union lwyfan y gig gyntaf, felly oedd y gig yna’n sbesial – yn enwedig gan fod mwy o gynulleidfa tro hyn.RE: Mae cael dweud fod ni wedi cefnogi Pulled Apart By Horses cyn iddyn nhw fynd yn fawr yn y Sin Roc Brydeinig yn rhywbeth arbennig ’fyd – maen nhw wedi chwarae mewn gwyliau mawr a gyda bandiau fel Biffy Clyro erbyn hyn!

“Fe wnaethom ni roi Llyr yn ‘drysorydd’ am ddiwrnod a wnaeth e’ wario’r arian i gyd ar Jaegerbombs”

Yn ddiweddar cefais gyfle euraidd i fyfyrio, astudio ac edrych yn ôl ar hanes canu pop Cymraeg, a’r wleidyddiaeth sydd ynghlwm â’r isddiwylliant hwn. Bu Dyl Mei a minnau’n gweithio’n ddygn ar y rhaglen ‘Canu Protest’ ar gyfer Radio Cymru, yn trochi mewn deugain mlynedd o hanes pop, a chael yr hawl i alw’r weithred yma yn ‘waith’.

Roedd hwn yn gyfle i mi fel casglwr recordiau dyrchu’n ddyfnach i wleidyddiaeth ac arddull rhai o greiriau’r saithdegau, ac un o’r rhain oedd y record hir, Lleisiau o 1974. Rwy’n cyfeirio at hon yn benodol gan ei bod hi’n rhyw fath o grynhoi gwleidyddiaeth ac arddull byd pop Cymraeg y cyfnod. Ffrwyth perfformiadau byw a recordiwyd yn Theatr Gwynedd ydy’r LP hon (er bod yna si fod y record wedi ei recordio’n gyfrinachol dros nos yn stiwdios y BBC), ac arni mae artistiaid amrywiol megis Meic Stevens, Hergest a Clive Prendelyn (Harpwood). Mae natur genedlaetholgar y record i’w chlywed drwyddi draw.

Syniadaeth y mudiad Adfer oedd yn gefndir i’r cynhyrchiad hwn, ac fe gyfrannodd yr artistiaid am ddim, i ddangos eu cefnogaeth. Yr hyn sy’n taro rhywun wrth wrando ar Lleisiau yw natur werinol a cheidwadol y gerddoriaeth a’r caneuon. Mae’r artistiaid yn dilyn llwybr traddodiadol yn y math o alawon a genir ganddynt. Efallai ei bod yn sefyll fel rhyw fath o symbol ‘cerddorol’ o wrthwynebiad i ddylanwadau ‘estron’ dros y ffin. Yn wir mae’r gerddoriaeth yn cydio’n dynn at draddodiad gwerinol Cymreig - ar wahân i un gân efallai sef ‘A oes Heddwch’. Mae’r gân yma’n wahanol i’r lleill, fel pe bai hi’n gwrthod cydymffurfio â’r rheolau. Clive Harpwood sydd biau’r gân ac roedd hi’n symbol o’r newid anorfod oedd ar droed yn y byd pop Cymraeg - un o’r drum solos cyntaf a blas o’r hyn oedd Edward H ar fin ei gynnig.

Mae gweithio ar y gyfres ac ymgolli mewn record fel Lleisiau wedi gwneud i mi sylweddoli fod hanes pop Cymraeg yn arf hanfodol i’n diwylliant pop ni heddiw. Mae hi’n bwysig dwi’n teimlo fod cerddorion, bandiau, a ffans yn ymwybodol fod cyfoeth o ddeunydd ar gael yn y Gymraeg, a bod dim rhaid edrych yn bell am ysbrydoliaeth weithiau - boed hynny’n gerddorol neu’n wleidyddol. Wedi’r cwbl, fydd cerddorion Cymraeg heddiw yn rhan o’r hanes eu hunain fory. Efallai bod bai ar S4C nad oes yna raglenni dogfen i addysgu’n cenedl am yr oesau aur, fel y mae Sky Arts a BBC 4 yn wneud mor aml. Mae hi’n bwysig i oroesiad cenedl a diwylliant fod y bobl yn ymwybodol o’u hanes, a phwy well i’n hysbrydoli ni na sêr y byd pop.

Gwers Hanes Griff

y-selar.co.uk 15

Page 16: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk16

“Swn i’n licio meddwl mai ‘sain’ dwi’n ei greu ac nid ‘sw^ n’

dwy i’w dilyn

Casi WynPwy? Mae Casi yn artist ac actores sydd yn astudio ym Mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain. Yno, mae hi’n cael y cyfle i berfformio mewn cylchedd cerddorol a lleoliadau amrywiol ledled y ddinas. Yn unigol mae Casi’n canu fel arfer, a hithau ar y piano, ond yn ddiweddar, mae hi wedi cael band yn ei chefnogi ar gyfer setiau acwstig, gyda drymiwr Creision Hud, Cai Llwyd, yn un o’r rhai i ymuno â hi ar y llwyfan. Mae Casi yn dilyn ei brawd trwy fynd mewn i’r byd cerddorol, sef gitarydd a phrif lais Yr Ods, Griff Lynch.

Sŵn? Yn ôl Casi: “Swn i’n licio meddwl mai ‘sain’ dwi’n ei greu ac nid ‘sŵn’ – mi o’dd fy athro Ffiseg wastad yn pwysleisio bod ’na wahaniaeth mawr rhwng y ddau beth! Felly, ‘sain’ pop-lyd, eitha’ gwerinol ei naws o bosib. Ond yn sicr ddim yn ‘heavy metal’ nag yn ‘grime’, mi wn i hynny!”

Hyd yn Hyn? Mae Casi wedi dod yn adnabyddus am ei chaneuon sydd wedi ymddangos ar wefannau fel Facebook a Soundcloud, gan recordio ambell i gân o’i chegin yn ei chartref ger Bangor. Bydd ei hwyneb yn adnabyddus i

ddilynwyr y rhaglen Llais i Gymru ar S4C a chyrhaeddodd y 50 uchaf yng nghystadlaethau The Big Audition ac Over The Rainbow gyda Jamie Cullum ac Andrew Lloyd Webber. Mae hi

Pwy? Rhywun arall sydd ag aelodau cerddorol adnabyddus yn ei theulu yw Greta Isaac – sef chwaer Miriam Isaac a merch Caryl Parry Jones a Myfyr Isaac. Mae Greta, sy’n ddim ond 16 oed, wedi creu tipyn o enw i’w hun yn y sîn werinol yn ddiweddar. Mae’r gantores ifanc, sydd yn wreiddiol o ardal Caerdydd, yn canu ar ben ei hun fel arfer ond mae ambell fideo ar Youtube yn dangos ei bod hefyd yn perfformio gyda’i chwaer, Miriam, o bryd i’w gilydd. Dysgodd Greta ei hun i chwarae’r gitâr yn ôl ym mis Ionawr 2011.

Sŵn? Mae Greta yn amlwg wedi cael ei dylanwadu gan amryw o artistiaid gwahanol – o James Taylor a Stephen Bishop i enwau mwy cyfoes fel Laura Marling a Bon Iver. Does dim dwywaith felly, mai cerddoriaeth werin yw prif steil Greta. Mae’r cymariaethau gyda’r artistiaid hyn wedi arwain pobl i gredu fod y potensial gan Greta i fynd yn bell iawn yn y byd cerddorol, gyda’i hyder am ferch mor ifanc yn synnu nifer o bobl.

Hyd yn Hyn? Mae Greta wedi chwarae mewn nifer o gigs mawr yng Nghaerdydd yn barod, gan gynnwys Gŵyl Sŵn a gig Dydd Gŵyl Dewi Nyth. Yn ogystal â hyn, mae wedi cael y cyfle i gefnogi rhai o artistiaid a bandiau mwyaf

Cymru, gan gynnwys Al Lewis, Toy Horses a The People The Poet. Ar ben hyn, mae hi’n cael ei chwarae’n aml ar raglen Adam Walton ar Radio Wales, yn ogystal ag ymddangos ar raglen BBC Introducing gyda Jen Long ar Radio 1. Mae hi hefyd wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn am ei haeddfedrwydd cerddorol gan y cylchgrawn cerddorol enwog, NME.

Cynlluniau? Bydd hi’n bosib gweld Greta mewn amryw gigs trwy’r wlad dros yr haf. Yn ogystal â chwarae yng Ngŵyl Tafwyl, Caerdydd, ac ym Maes B ar y nos Fercher. Bydd hi hefyd yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, lle bydd hi’n sicr o ddenu mwy o sylw i’w hun. Ar wahân i hynny, mae hi’n bwriadu parhau i gigio, recordio ac ysgrifennu caneuon am flynyddoedd i ddod.

Greta Isaac

Dwy gantores ifanc, Casi Wyn a Greta Isaac sydd yn cael sylw ‘Dau i’w Dilyn’ y tro hwn felly dyma ail fedyddio’r adran yn ‘Dwy i’w Dilyn’!

Mae hi wedi cael sylwadau

cadarnhaol gan y cylchgrawn, NME.

Page 17: Y Selar  - Mehefin 2012

newydd fod yn y stiwdio’n recordio Sesiwn C2 gyda Mei Gwynedd a chafodd hi hefyd y cyfle i berfformio ar lwyfan Pesda Roc Bach yn ddiweddar. Y gig fwyaf cofiadwy yn ôl Casi oedd yr un yn Dublin Castle, Camden lle ymunodd dau rapiwr o Sheffield gyda hi ar y llwyfan – tydi hi erioed wedi teimlo mor “down with the kids” meddai!

Cynlluniau? Mae Casi yn gobeithio cychwyn gweithio ar EP yn ystod mis Mai, a hynny o dan label Kissan. Mae hi’n gobeithio bydd yr EP wedi cael ei ryddhau erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Ar ben hynny, mae hi’n parhau i berfformio o amgylch lleoliadau gwahanol yn Llundain ac mae ganddi nifer o gigs wedi eu trefnu ar gyfer yr haf, gan gynnwys Llwyfan Perfformio Maes yr Eisteddfod ar y dydd Sul.

www.soundcloud.com/casiwyn

RHAGORIAETHMEWN GWYLA GWAITH

• Copiau o’n prospectws newydd a manylion cyrsiau ar gaelar gyfer mynediad yn 2013

• Dewis helaeth o gyrsiau, gyda mwy o gyrsiau trwy gyfrwng yGymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru

• Sicrwydd llety i holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf, gyda neuaddGymraeg ar safle Ffriddoedd sy’n gartref i fyfyrwyr o bob cwro Gymru

• Bywyd cymdeithasol sy’n fywiog ac yn wirioneddol gyfeillgar

• Costau byw isel a chefnogaeth ariannol sy’n cynnwysYsgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau yn ogystal a bwrsario £250 i’r rhai sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ffôn: 01248 382005 / 383561 E-bost: [email protected]

www.bangor.ac.uk Dilynwch ni:Facebook.com/PrifysgolBangor • Twitter: @prifysgolbangor

hysbys 487 selar:487 01/05/2012 12:22 Page 1

Page 18: Y Selar  - Mehefin 2012

Tafodau Tân

Lle: Pafiliwn CorwenPryd: Awst 1973 (Steddfod Rhuthun)Pwy: Dafydd Iwan, Hergest, Edward H Dafis, Ac Eraill, Leah Owen, Arfon Gwilym, Huw Jones, Elfed Lewis, Sidan, Huw Ceredig (cyflwynydd)

Mae’r gig yma wedi dod yn chwedlonol am sawl rheswm. Mae’n debyg mai hwn oedd gig cyntaf Edward H Dafis - y grŵp a ddaeth i fod yn grŵp roc mwyaf yr Iaith Gymraeg. Yn eironig, roedd y gŵr a oedd i ddod yn ffryntman, Cleif Harpwood yn chwarae gyda grŵp arall yn y gig, sef Ac Eraill.

Roedd enw mwyaf y sin ar y pryd a chyn gadeirydd y Gymdeithas, Dafydd Iwan, yn perfformio ar y noson ac yn ei farn ef roedd y gig yn garreg filltir bwysig.

“Roedd y gig yn dynodi diwedd cyfnod y noson lawen a dechrau canu roc yn mynd ei ffordd ei hun. Roedd pob math o gerddorion yn perfformio - canu baledi, gwerin a roc i gyd ar yr un llwyfan. Hon oedd yr olaf o’r nosweithiau llawen cymysg”

“Agorodd y gig bennod newydd hefyd gydag Edward H, a aeth ymlaen i fod y grŵp roc cyntaf â dilyniant torfol yn y Gymraeg.”

Un arall oedd yn perfformio yn y gig oedd Tecwyn Ifan, oedd fel Cleif Harpwood yn aelod o Ac Eraill.

“Rwy’n cofio noson Tafodau Tân yng Ngorwen yn 1973 am nifer o resymau. Un peth oedd yr amrywiaeth rhyfeddol yn y noson.”

“Rheswm arall rwy’n cofio’r noson yw am mai dyna un

o’r troeon cyntaf i ni fel Ac Eraill ganu Nia Ben Aur. Fe gafodd dderbyniad gwresog ac ymhen y flwyddyn roedd sioe Nia Ben Aur yn cael ei pherfformio ar lwyfan yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin. Ond yng Nghorwen roedd y wefr.”

“Y trydydd rheswm i mi gofio noson Corwen oedd mai dyna pryd y dywedodd Cleif wrth Iestyn, Phil Bach a fi ei

fod yn gadael i ganu gydag Edward H. Fe roes hynny dipyn o ddampar ar y noson i mi. Er hynny mae’n un o’r nosweithiau hynny y mae rhywun yn teimlo’n falch o fod wedi bod yn rhan ohoni.“

Twrw Tanllyd 1975

Lle: Pafiliwn PontrhydfendigaidPryd: Mehefin 1975Pwy: Mynediad am Ddim, Edward H Dafis, Hergest, Talcen Crych, Chwys, Brân a llawer mwy.

Defnyddiwyd y brand ‘Twrw Tanllyd’ ar gyfer gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol, ond rhwng 1975 a 1977 cynhaliwyd tair gŵyl gerddorol enfawr oedd yn sefyll ar eu traed eu hunain ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Yn ôl nifer, digwyddiadau Twrw Tanllyd oedd y gwyliau cerddorol cyntaf ar gyfer grwpiau Cymraeg cyfoes, ac un oedd yn y gynulleidfa ym 1975 oedd Emyr Gruffudd,

“Dim ond tua 13 oed o’n i ar y pryd, felly er fy mod i’n sobor dwi ddim yn cofio lot fawr.”

“Ro’n i yn y cefn yn gweithio ar stondin Siop y Pentan - roedden ni’n gwneud transfers ar grysau-T i’w gwerthu yn y digwyddiad.”

Un o uchafbwyntiau’r haf ... os nad y flwyddyn ... os nad y ganrif(!), fydd gig ‘50’ ym Mhontrhydfendigaid. Mae’r Wyl ddeuddydd ar 13-14 Gorffennaf yn rhoi llwyfan i 50 o fandiau ac artistiaid cerddorol - tipyn o ddigwyddiad i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond nid dyma’r gig mawr cyntaf i’r Gymdeithas lwyfannu, na, dros y blynyddoedd mae’r mudiad wedi cynnal llwythi o gigs cofiadwy. Dyma fanylion 5 o’r mwyaf arwyddocaol.

5 cyn 50

y-selar.co.uk18

Page 19: Y Selar  - Mehefin 2012

Roedd yn ŵyl go iawn gydag 11 o fandiau byw ar y llwyfan, a nifer o brif enwau’r sin yn perfformio. Er hynny, yn ôl sawl ffynhonnell, grŵp weddol newydd o’r enw Chwys greodd yr argraff fwyaf.

“Do’n i erioed wedi gweld neuadd mor anferth o’r blaen,” meddai Emyr Gruffudd am y Pafiliwn “ac roedd y lineup mor gyffrous - roedd pawb fysa chdi isho gweld yn chwarae.”

“Crys oedd y grŵp o’r hyn dwi’n cofio. Roedd y canwr [Sulwyn Rees] wedi gwisgo fel arweinydd syrcas ac yn taflu chwip o gwmpas y llwyfan - fe wnaethon nhw greu sioe go iawn ac aeth pawb yn boncyrs amdanyn nhw. “

Rhyw Ddydd Un Dydd

Lle: Pafiliwn PontrhydfendigaidPryd: 11 Rhagfyr 1991Pwy: Geraint Jarman, Tŷ Gwydr, Llwybr Llaethog, Datblygu, Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Meic Stevens a lot mwy!

Mae’n siŵr mai hwn yw gig mwyaf eiconig y Gymdeithas, ac yn sicr dyma’r digwyddiad sy’n adlewyrchu orau perthynas glos y Gymdeithas a bandiau Cymru.

Er bod y gig wedi troi’n barti ‘croeso allan o’r carchar’ i Alun Llwyd a Branwen Niclas, mae’n debyg mai prinder arian yng nghoffrau’r Gymdeithas oedd y rheswm gwreiddiol dros gynnal y gig.

Emyr Glyn Williams, rheolwr label Ankstmusik, oedd un o’r trefnwyr,

“Y syniad oedd codi arian ac mi nath pawb gynnig gwasanaethau am ddim across the board.”

“Yn syml nath y Gymdeithas werthu’r hawl i Criw Byw ffilmio’r noson ar gyfer rhaglen awr arbennig ar S4C - felly roedd y PA, goleuada a ballu yn cael eu talu gan Criw Byw, a’r bandie’n cytuno i chwara a chael eu cynnwys yn y rhaglen heb godi tâl.”

Fel gig 50, roedd yn ddigwyddiad uchelgeisiol o ran nifer y bandiau oedd yn perfformio, er nad ydy Emyr yn cofio’r union nifer.

“Umm..wel roedd ‘na uffarn o lot o fandie’n chwara ar y diwrnod - yn sicr yn agos at 30. Roedden ni’n rhedeg dau lwyfan am yn ail o hanner dydd tan hanner nos, ac roedd rhannau o’r gig yn cynnwys tri band ar y llwyfan ar yr un adeg.”

Mae Emyr yn cofio bod tua 2000 o bobl yn y gig, gyda bysus wedi eu trefnu o bob cwr o’r wlad.

“Roedd ‘na deimlad gwych yn y neuadd a dwi’n meddwl unwaith i’r bandie dawns ddechra ‘ravio’ tua chwech ymlaen mi nath pawb ddechra cynhesu fyny a joio go iawn.”

“Dwi’n meddwl mai’r teimlad mwya’ dwi’n cael o feddwl am y

gig yw gweld y sin gyfa’n dangos rhyw fath o undod trwy ddod at ei gilydd i ddiolch i’r Gymdeithas mewn ffordd practical, ddi-sentimental .”

“Mi oedd pawb yn fodlon helpu’r Gymdeithas allan gan ei bod nhw yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth dros y blynyddoedd i’r sin gerddorol.”

Noson Claddu Reu

Lle: Pafiliwn PontrhydfendigaidPryd: 8 Awst 1992 (Steddfod Aberystwyth)Pwy: Tŷ Gwydr, Datblygu, Diffiniad, Llwybr Llaethog, Beganifs

Hon oedd pinacl gigs Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1992. Tŷ Gwydr oedd yr uchafbwynt, a chafodd y gig ei enwi ar ôl term oedd wedi’i boblogi gan y grŵp. Yn ôl Mark Lugg o’r grŵp roedd ‘Reu’ wedi troi yn rhyw ffenomena ymysg gig garwyr y cyfnod

“Roedden ni wedi dechrau set newydd ‘Reu’ yn Steddfod Yr Wyddgrug [1991] ac roedd pobl wedi mynd yn mad amdano fo.”

“Ond wedi nicio fo gan Ffa Coffi a phobl Blaenau oedden ni” ychwanega Gareth Potter “ond dwi’n meddwl bod ni wedi poblogeiddio’r term tu allan i Wynedd.”

“Oedden ni isho gwneud record teyrnged i’r peth ‘reu’

19

Page 20: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk20

yma” meddai Lugg, a dyna esgor ar y casgliad Reu (Mics) a ryddhawyd ar label Ankst.

“Roedd criw Ankst yn meddwl bod y busnes Reu wedi llusgo’n rhy hir felly daeth y syniad i gael ‘Noson Gladdu’ i dynnu llinell dan y peth” meddai Gareth. “Roedd yna bach o hollt yn y grŵp ar y pryd, a sôn bod ni’n gorffen ond doedd hynny ddim yn wir, oedden ni jyst isho newid cyfeiriad.”

Mae Gareth yn cofio bod teimlad arbennig iawn ynglŷn â’r gig, “roedd e’n massive rili. Roedd hi’n wythnos Steddfod Aber ac roedd hi wedi bwrw glaw trwy’r wythnos ond bore’r gig roedd yr haul wedi dod allan.”

“Roedden ni am i’r peth fod yn barti, ac i bobl gael lot o hwyl a sbri...a bod yn rhan o holl beth Tŷ Gwydr.”

“Roedd y Pafiliwn yn anferth, ac yn llawn dop o bobl ac awyrgylch anhygoel.”

Troednodyn diddorol arall am y gig oedd bod Datblygu wedi rhyddhau ‘disg fflecsi’ arbennig o’r gân Maes E, a hwnnw’n cael ei ddosbarthu am ddim i’r gynulleidfa.

Un arall oedd ar y llwyfan oedd Ian Cottrell gyda Diffiniad, ac yn ôl Ian roedd yn noson arwyddocaol iawn i’r grŵp.

“Hwn oedd gig cyntaf Diffiniad. Ro’n ni wedi gwneud cân fel rhan o set Tŷ Gwydr yn roc y Cnapan, ond hwn oedd y set lawn gyntaf.”

“Roedden ni’n gwybod bod ni’n rhyddhau casét efo Ankst yn yr hydref felly dyna pam oedden ni ar y lineup.”

“Dwi’n cofio bod ein ffrindiau ni gyd allan yn y ffrynt felly ar ôl y set nathon ni fynd allan atyn nhw i fwynhau’r gig - dwi jyst yn cofio awyrgylch anhygoel a phawb ar y llwyfan gyda Tŷ Gwydr ar y diwedd.”“Ond yr atgof mwyaf sydd gen i ydy o’r wal felcro ma ar ryw bouncy castle yn y gig, lle oeddet ti’n gwisgo siwt felcro a thaflu dy hun ar y wal. Na’i byth anghofio Daf Ieuan [Super Furry Animals] yn cymryd runup anferth a bownsio ar y wal yma a jyst mynd yn sick dros bobman!”

Maes B, Steddfod Bala 1997

Lle: Cae ger Y Bala Pryd: Awst 1997 Pwy: Meic Stevens, Diffiniad, Eden, Iwcs a Doyle, Rheinallt H Rowlands, Topper, Tokyu, Mim Twm Llai, Serein + mwy

Dyma’r Maes B cyntaf yn ei ffurf bresennol, a’r Gymdeithas oedd yn gyfrifol am y trefniadau. Heb os roedd Eisteddfod Bala ’97 yn un gofiadwy iawn, ac roedd yr adloniant yn rhan o hynny.

Prif drefnydd y gigs y flwyddyn honno oedd Toni Schiavone.

“Yn bersonol, yr atgof mwyaf sydd gen i o gigs y Steddfod oedd blinder! Dim ond rhyw bump neu chwe awr o gwsg ro’n i’n cael pob nos gan fy mod i gyda’r olaf i adael ar ddiwedd y noson. Ar ben hynny roedd angen codi’n gynnar

ar gyfer cynhadledd i’r wasg yn y bore gan fod Maes B yn ddatblygiad newydd a dadlennol.”

Roedd arlwy’r wythnos yn gryf, a’r babell enfawr yn llawn y rhan fwyaf o’r nosweithiau. Dafydd Iwan oedd headliner y nos Sadwrn cyntaf a rhoddodd noson agoriadol wych i’r trefniant newydd.

Cafwyd cyfle hefyd i ddathlu pen-blwydd Meic Stevens yn 55 oed - ac yno yr ynganodd y geiriau bythgofiadwy “Ble ma nghacen i?” ar y llwyfan.

“Roedd teimladau cymysg am yr holl beth. Yn un peth, roedd yn benderfyniad mawr i fynd i bartneriaeth â’r Eisteddfod, a thalu swm sylweddol am logi’r babell ganddyn nhw.”

“Mater arall dadleuol oedd y penderfyniad i lynu at y rheol iaith Gymraeg, a thrwy hynny golli’r cyfle i gael Super Furry Animals

a Gorky’s yn brif fandiau.”“Fel trefnydd ychydig o gyfle a gefais i fwynhau’r

bandiau ond mae gen i atgof clir o Rheinallt H. Rowlands ar y nos Fawrth, a Tokyu a Llwybr Llaethog ar y nos Iau - gwych iawn!”

Y Gymdeithas oedd yn gyfrifol am drefnu Maes-B am y tair blynedd ar ôl Steddfod Bala hefyd. Daeth y berthynas i ben wedi Eisteddfod Llanelli ym 2001, ond mae honno’n stori arall ynddo’i hun.

20

Page 21: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk 21

Fedrwn ni ddim helpu sylwi bod tipyn o nwyddau cerddorol Cymraeg hynod

o ddiddorol yn gwerthu ar wefan werthu reit enwog yn ddiweddar. A dyna

felly esgor ar syniad am eitem newydd i’r cylchgrawn, yn tynnu sylw at rai o’r

eitemau mwyaf difyr o’n treftadaeth gerddorol sy’n cyfnewid dwylo ar E-bay.

Dyma rai eitemau sydd dal ein llygad yn ddiweddar...

Traddodiad Ofnus - Rh. 2Pris Gwerthu - £5.50 (3 bid)

Disgrifiad Gwerthwr: EP 12 modfedd, 1989, ANKST 07Record mewn cyflwr da iawn+.

Clawr mewn cyflwr da iawn, wedi’i lofnodi mewn beiro goch ar y blaen.

Caneuon - Rhych, Rhych Gwirion, Garw Gwirion. Llyfn, Nid Hawdd, Rhyddiaith

Barn Y Selar: Traddodiad Ofnus oedd prosiect Gareth Potter a Mark Lugg, cyn dyddiau eu band mwy amlwg (efallai), Tŷ Gwydr. Roedd yn reit arloesol yn ail hanner y 1980au ac yn cyflwyno sŵn gwahanol iawn i unrhyw beth arall yn y Gymraeg ar y pryd. Dyma un o recordiau cyntaf label Ankst ac am £5.50 mae’n fargen i’r prynwr yn ein barn ni.

Caneuon Tecwyn IfanPris Gwerthu - £2.99 (2 cynnig)

Disgrifiad Gwerthwr:Llyfr o ganeuon Tecwyn Ifan a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa ym 1980

24 Tudalen gyda 23 o ganeuon yn cynnwys clasurol fel Y Dref Wen, Gwaed ar yr Eira Gwyn, Navaho, Mae’r Freuddwyd yn Fyw

Barn Y Selar: Bargen i’r prynwr! Mae’r llyfr yma allan o brint ac felly’n anodd iawn cael gafael arno. Boed i’r prynwr lwcus yma fyth eto ganu’r geiriau anghywir wrth forio i glasuron Tecs.

Promo CD Y Diawled Pris Gwerthu - £18.88 (5 bid)

Disgrifiad Gwerthwr: Promo Fflach, 1990 yn cynnwys y traciau - Noson y Blaidd, Dewch Gyda

Ni, S.O.S., Linos yn y Lleder Du, Shwt mae Siapus.Cafodd y CD ei ryddhau fel promo Radio, wedi’i gyfyngu i tua 12 copi yn unig.

Barn Y Selar:Mae’n ddiddorol iawn gweld copi promo CD yn cael ei werthu, ac yn llwyddo i ennyn tipyn o ddiddordeb a chael pris da i’r gwerthwr! Grŵp o Grymych oedd Y Diawled, gyda Rhiannon Thomas yn canu iddyn nhw yn ystod eu cyfnod mwyaf llwyddiannus. Roedd Kevin Davies (ie, Kevin Davies ‘Jacpot’) yn ganwr i’r grŵp am gyfnod hefyd.

Heather Jones - HeatherPris Gwerthu - £171.66 (7 bid)

Disgrifiad Gwerthwr: Record brin iawn - yr ail o ddim ond dau gyhoeddiad er label Newyddion

Da. Heather Jones gyda Meic Stevens ar yr ail gitâr. Llais a Gitar Heather Jones yn cynnwys y caneuon Deryn Du, Myfi yw’r Dechreuad, Cân y Bugail, Pwy sydd yno’n Wylo Wylo ac Mae’r Rhaid Dihuno Cariad.Cryno albwm gwreiddiol o 1969. Clawr a finyl mewn cyflwr gwych.

Barn y Selar: Eitem fach ddiddorol dros ben - un o recordiau cynharaf Heather Jones a rhyddhawyd yn fuan ar ôl i grŵp a ffurfiodd gyda Geraint Jarman a Meic Stevens, Y Bara Menyn chwalu. Mae recordiau cynnar Meic Stevens yn gasgladwy iawn, ac efallai bod ei enw fel cyfrannwr ar y record yma wedi helpu codi’r pris.

Page 22: Y Selar  - Mehefin 2012

y-selar.co.uk 22

Does dim dwywaith mai mr huw yw un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol y sin. Does dim llawer ers iddo ryddhau’r albwm, Gogleddwyr Budur, ond mae o’n ôl yn barod gydag EP i’r Afiechydon. Wrth gwrs, y sialens i rywun sy’n rhyddhau mor gyson ydi cadw bob dim yn ffres a newydd ac mae mr huw yn gwneud hynny i raddau helaeth ar yr EP yma. Oes, ella bod yna ambell hen drawiad ar y trac cyntaf, ‘Y Ferch Dryloyw’ a’r gân Saesneg, ‘Vacuume’ ond ma’ nhw dal yn ganeuon da, yn enwedig ‘Y Ferch Dryloyw’.

Ac wedyn yn y canol rhwng y ddwy mae ’na stwff ’chydig bach yn wahanol. Mae rifft bachog cytgan ‘Y Frwydr Gyson Rhwng Fi a Fi fy hun’ yn fy atgoffa fi o rywbeth o lyfr caneuon plant (mewn ffordd dda hynny yw, pwy sydd ddim yn licio chydig o Glap

a Chân?). Ac wedyn mae ‘Cân i’r Afiechydon’ yn vintage mr huw ond efo rhyw gyffyrddiad bach o syrff i ychwanegu ’chydig ati.

Rhaid crybwyll y gwaith celf unigryw sydd ar bob copi caled o’r EP yma hefyd. Dipyn o lucky dip efallai ond prynwch un da chi, chi fydd yr unig berson yn y byd efo’r union CD yna - buddsoddiad, dyna dwi’n galw hynna. Wedi dweud hynny, prynwch hi pryn bynnag, mae hi reit dda!

7/10Gwilym Dwyfor

adolygiadau

EP i’r Afiechydon mr huw

GWYLIAUDEWI WILLIAMS

BUZZPRY CRY

RHAID

GWRANDO

Does dim byd yn well na chael eich siomi ar yr ochr orau gan record. Pryd cyrhaeddodd yr albwm yma yn y post, doedd gen i ddim brys mawr i wrando arno - doedd yr enw Dewi Williams ddim yn un cyfarwydd ac yn sicr doedd gwaith celf y clawr ddim yn awgrymu safon.

Ar ôl ychydig wythnosau’n eistedd ar ochr y ddesg dyma benderfynu rhoi tro ar Gwyliau, ac am syndod. Yn gryno, dyma’r peth gorau dwi wedi clywed ers amser - wir rŵan. Mae aeddfedrwydd y gerddoriaeth ac amrywiaeth yr arddull yn syfrdanol, ond eto, ychydig iawn o sylw mae’r record wedi’i chael yn y cyfryngau hyd y gwelaf i.

Mae tri thrac yng nghanol yr albwm yn crynhoi’r casgliad i mi. Yn gyntaf, mae’r ysgafn a hudolys-hyfryd ‘Amser’, a ddilynir gan ‘Panic’ a’i uchafbwynt electro-tecno gwallgof y byddai Cian Ciaran yn falch ohono. Ac yna, a chithau’n barod i anelu am y mosh pit agosaf, daw alawon reggae diog ‘Haul’ i hawlio’ch clustiau. Parch i Dewi Williams.9/10Owain Schiavone

Mae Pry Cry yn ’neud i fi wenu, ma’ Pry Cry yn ’neud fi’n hapus. Band Gronw Roberts, Kerry Walters ac Endaf Roberts ydy Pry Cry, ac mae eu halbwm cyntaf, Buzz, yn gyfuniad o nifer o ganeuon amrywiol y mae’r tri wedi bod yn gweithio arnynt ers 2007. Mae ffrwyth llafur y band i bob pwrpas yn torri pob cysyniad confensiynol am sut gerddoriaeth y dylai un band ei greu - o gân i gân maen nhw’n newid pwy sy’n chwarae pa offeryn, mae’r caneuon yn amrywio o jazz i ffync i roc, mae’r geiriau yn llithro o’r dwys i’r digrif.

Mae ‘Diwrnod Braf ’ fel chwistrelliad o hapusrwydd, yn gwneud i chi fod isio sgipio a bwyta hufen iâ, mae ‘Boy Racer’ yn mynd â chi ar wibdaith egnïol drydanol ar hyd strydoedd dychmygol ymenyddol, mae ‘Elizardbeth ll’ yn barodi ar fywyd yn y fyddin gyda thafod mawr mewn boch (peidiwch â chwarae hon i’ch nain). Mae Buzz am ddim o wefan Disglair.net. Mae Buzz yn wych.

9/10Casia Wiliam

www.ylolfa.com

Llyfrau Blasus

£8.95 £8.95 £8.95

£5.95 £5.95 £5.95

Page 23: Y Selar  - Mehefin 2012

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

Galwch i mewn i stondin y Drindod Dewi Santar faes yr Eisteddfod neu ewch ar lein

0300 500 1822 www.ydds.ac.uk

BA CerddoriaethBA Cyfryngau CreadigolBA Perfformio

Creu, Cynhyrchu a Pherfformio Cerddoriaeth

• Cyfle i ddatblygu eich creadigrwydd a'ch cyflogadwyedd ofewn y diwydiant cerddorol a meysydd perthnasol

• Cyfle i gael cefnogaeth ariannol i'ch astudiaethau, gangynnwys Ysgoloriaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

• Cyfleon gwych i bontio rhwng meysydd astudiaeth a doniauYsgol y Celfyddydau Perfformio

• Lleoedd ar gael ar gyfer 2012 a 2013

Page 24: Y Selar  - Mehefin 2012

Y Lle10.00Bob nos Iau

s4c.co.uk

Selar_Full page.indd 1 11/05/2012 14:54