chapter ebrill mai mehefin 2013

40
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 21-Feb-2016

249 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

TRANSCRIPT

Page 1: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Mae Chapter yn ganolfan gelfyddydol ryngwladol sy’n adnabyddus am wneud i bethau ddigwydd. Rydym yn canolbwyntio ar gelfyddyd a chynulleidfaoedd ac ar greu mannau artistig a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar ein ffyrdd o feddwl, ein syniad o’r hyn ydym a’r hyn yr hoffem fod. Rydym yn mwynhau risg a her. A mwynhad ynddo’i hun. Rydym yn fan cyfarfod ar gyfer syniadau, ysbrydoliaeth ac arloesi. Gallwch hefyd ddod i Chapter i ymlacio a sgwrsio, mewn awyrgylch cartrefol a chroesawgar.

ChapterHeol y Farchnad Caerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

Mark Edward Thomas Cynhyrchydd New Music Plus UK

“Fy enw i yw Mark Edward Thomas a dw i’n rheoli Shape Records (recordiau gan Sweet Baboo, Truckers of Husk, Islet), yn trefnu digwyddiadau byw o’r enw Shape Functions ac yn chwarae gyda’r grŵp Islet (gweler tudalen 23). Dw i’n falch iawn o gael fy newis yn un o ddeuddeg cynhyrchydd digwyddiadau cerddorol addawol o bob cwr o’r wlad ac o allu cychwyn ar raglen o ddatblygiad creadigol a phroffesiynol unigryw — New Music Plus ... UK. Byddaf yn gweithio ar y cyd â Chapter yn ystod y flwyddyn i gynhyrchu digwyddiadau cerddorol cyffrous ac anturus — gweler manylion y digwyddiad Zine Cerddoriaeth ar dudalen 4, sy’n rhan o Benwythnos Cyhoeddi Gŵyl Diffusion, a chadwch lygad hefyd ar www.chapter.org am fanylion gweithgareddau yn y dyfodol.”

Datblygwyd New Music Plus... UK gan Sefydliad Cerddoriaeth PRS mewn cydweithrediad â the hub, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Sefydliad Paul Hamlyn a Sefydliad Esmée Fairbairn.

Croeso02 chapter.org

Page 3: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel tudalennau 4–12

Bwyta, Yfed, Llogitudalen 13

Theatr tudalennau 14–25

Chapter Mix tudalennau 26–27

Sinematudalennau 28–39

Gwybodaeth tudalen 40

Amserlen & sut i archebutudalennau 41–46

Cefnogwch ni tudalen 47

03Uchafbwyntiauchapter.org

CYMRYD RHAN

Delwedd y clawr: Maurizio Anzeri, Profil Blue, 2012. Brodwaith ar ffotograff. © Maurizio Anzeri, gyda chaniatâd y casglwr preifat.

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cerdyn ChapterGallwch arbed £££oedd ar bris pob tocyn sinema a theatr; cewch gopi am ddim bob mis o’r cylchgrawn hwn drwy’r post; taleb sinema am ddim a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig. Mae’r cerdyn hefyd yn gweithio fel Cerdyn CL1C.Cerdyn Sengl: £20/£10Cerdyn i Ddau: £25/£20 (2 berson yn yr un cartref)Aelodaeth Lawn: Mwy fyth o fanteision — byddwch yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Blynyddol a chopi o’r adroddiad blynyddol ynghyd â holl fanteision eraill Cerdyn Chapter. £40/£30

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Page 4: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Ffair GyhoeddiSadwrn 25 + Sul 26 Mai 11am — 5pm, Stiwdio Mae’r ffair gyhoeddi yn estyn croeso cynnes i bawb i ddathlu, archwilio ac ymwneud â chyfoeth o weithiau celfyddydol a llyfrau cyfoes.RHAD AC AM DDIM

Symposiwm ar Lyfrau Ffoto Sul 26 Mai 11am — 5pm Bydd y digwyddiad yn esgor ar ddeialog creadigol ac yn ymchwilio i ffotograffiaeth ddogfennol a chelfyddydol gyfoes trwy gyfrwng rhaglen fywiog o gyflwyniadau a thrafodaethau panel. Trwy ddod â ffotograffwyr, cyhoeddwyr ac arbenigwyr diwydiannol eraill at ei gilydd, bydd y trafodaethau’n canolbwyntio ar y newidiadau ymarferol ym myd cyhoeddi, ac yn cyferbynnu’r modelau dosbarthu preifat/ariannu torfol.I archebu tocynnau ac i weld manylion y rhaglen ewch i www.diffusionfestival.org

Digwyddiad ‘Zines’ Cerddoriaeth Sul 26 Mai 5pmI gyd-fynd â Phenwythnos Cyhoeddi Gŵyl Diffusion, mae Recordiau Shape a Chapter yn cyflwyno rhaglen o berfformiadau gan fandiau ac artistiaid sydd wedi hunan-gyhoeddi zines yn rhan o’u gwaith. Caiff zine byw ei greu yn ystod y digwyddiad ac fe wahoddir aelodau’r gynulleidfa i gyfrannu ato — â lluniau, meddyliau, darluniau ac ati — ac i gymryd y cylchgrawn gorffenedig adre’ gyda nhw ar ddiwedd y noson.£5

Oriel04 029 2030 4400

Diffusion: Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd Mercher 1 — Gwener 31 Mai Mae Chapter yn falch iawn o fod yn un o bartneriaid gŵyl Diffusion — gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol newydd a gynhelir bob dwy flynedd sy’n cynnwys arddangosfeydd, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn lleoliadau corfforol a gofodau rhithwir.Ar y cyd ag enwau rhyngwladol nodedig, bydd Diffusion yn arddangos talentau o Gymru. Mae rhaglen gŵyl 2013 yn cynnwys artistiaid cyfoes o fri rhyngwladol fel Maurizio Anzeri, Edgar Martins, f&d Cartier, Helen Sear, Tim Davies a Gideon Koppel, a gweithiau pwysig a grëwyd yng Nghymru gan ffotograffwyr adnabyddus fel David Bailey, Peter Fraser a Philip Jones-Griffiths. Bydd prosiect arbennig ‘Croniclau Ewropeaidd’ yn cynnwys gwaith gan genhedlaeth newydd o artistiaid ffotograffig o Gymru ac o fannau mor bell i ffwrdd â Lithwania, Gwlad Pwyl, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen a Norwy.Bydd cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad creadigol i bobl o bob oedran, gan gynnwys sgyrsiau ag artistiaid, gweithdai, FfotoFarathon, Penwythnos Cyhoeddi annibynnol yn Chapter, rhaglenni o ddigwyddiadau i ysgolion a theithiau cerdded ffotograffig o amgylch y ddinas. Mae gwefan Diffusion yn llwyfan rhyngweithiol cyffrous sy’n galluogi ymwelwyr â Chaerdydd ac eraill ledled y byd i ymuno yng ngweithgareddau’r ŵyl.

Mae Diffusion yn fenter gan Ffotogallery, mewn cydweithrediad â phartneriaid Cymreig a rhyngwladol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.diffusionfestival.org neu dilynwch yr ŵyl ar Twitter @_diffusionfestival neu Facebook DiffusionFestival

Diffusion: Penwythnos Cyhoeddi Ffair lyfrau, symposiwm & digwyddiadau gydag artistiaidSadwrn 25 + Sul 26 Mai Mae’r rhaglen hon o ddigwyddiadau, a drefnwyd ar y cyd gan Ffotogallery a Chapter, yn canolbwyntio ar gyhoeddi — o gyhoeddiadau DIY gan artistiaid i gyhoeddi gyda thai cyhoeddi sefydledig, cylchgronau ac orielau.

ORIEL

Page 5: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel 05chapter.org

Gideon Koppel, B O R T H, 2012

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Gideon Koppel: B O R T HMercher 1 — Gwener 31 MaiStiwdio ChapterMae B O R T H yn osodiad ffilm a ffilmiwyd yn nhref glan-môr Borth — lle rhyfedd a rhyfeddol lle mae gorwel diddiwedd y môr yn dod i wrthdrawiad dramatig â bricolage o bensaernïaeth; lle caiff tirwedd epig ei gyfosod yn chwareus ag ystumiau ac arferion dynol. Yn dilyn ffilm nodwedd Koppel, Sleep Furiosuly — un o ffilmiau Prydeinig mwyaf nodedig 2009 — mae’r gwaith hwn yn teithio ar hyd y ffin aneglur rhwng dogfen a ffuglen i greu byd grymus, breuddwydiol a synhwyraidd.Cafodd gwaith Koppel fel artist a chyfarwyddwr ei ddarlledu’n rhyngwladol a’i arddangos mewn orielau sy’n cynnwys Tate Modern, Llundain a MoMA, Efrog Newydd. Cafodd ei ffilm nodwedd, Sleep Furiously, sy’n cynnwys trac sain gan Aphex Twin, ei henwebu ar gyfer Llewpard Aur Gŵyl Ffilm Ryngwladol Locarno ac enillodd wobr y Guardian am Ffilm Nodwedd Gyntaf yn 2010. Mae Koppel yn Athro Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Cysylltiol gyda Choleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen.Arddangosfa gan Ffotogallery wedi’i chyflwyno ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Chapter.

Page 6: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel06 029 2030 4400

Page 7: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel 07chapter.org

Maurizio Anzeri: It’s Not Too Late It’s Only DarkMercher 1 Mai — Sul 30 MehefinMae arddangosfa unigol gyntaf Maurizio Anzeri yng Nghymru yn cynnwys gweithiau comisiwn sy’n cael eu cyflwyno am y tro cyntaf, ar y cyd â detholiad o’i ddarnau ‘ffoto-gerfluniol’ nodedig. Mae Anzeri yn defnyddio ffotograffau hapgael a brodwaith i greu darnau cerfluniol cynnil sy’n rhoi hunaniaethau newydd, cymhleth a dirgel i ddieithriaid. Mae Anzeri’n gweld portreadau ffotograffig fel tirweddau ac yn eu harchwilio er mwyn gosod haenau ei fapiau ei hun arnynt ac i ddyfeisio’r hyn y mae’n ei alw’n “ddimensiynau esblygiadol eraill i’r bobl yn y lluniau”. Mae labyrinthau o ffurfiau a lliwiau yn creu daearyddiaeth ddiddorol â wynebau, hanesion ac eneidiau — a llygaid sy’n syllu’n enigmatig drwy eu ‘mygydau’. Ochr yn ochr â’r ffordd sefydledig hon o weithio, bydd Anzeri’n dangos gweithiau newydd sy’n defnyddio brodwaith a ffotograffiaeth bersonol i greu gofodau dychmygol neu seicolegol; realiti preifat sy’n troi’n ffantasi cyhoeddus.Mae diddordeb Anzeri mewn ffurfiau cerfluniol, y corff a hunaniaeth, rhywiau a ffiniau seicolegol hefyd i’w weld mewn cyfres o ddarnau cerfluniol morffolegol wedi’u gwneud o wallt synthetig. Wedi’u hysbrydoli gan ffynonellau lluosog — o Mrs Dalloway Virginia Wolfe i ddiwylliannau totemaidd, Versailles yr 17eg ganrif a haute couture — mae’r gosodiadau yn cynnwys cyfres o gerfluniau, pob un yn cynrychioli personoliaeth wahanol, sy’n bodoli rhywle rhwng theatr a ffetis. Cafodd yr arddangosfa hon ei chomisiynu ac fe’i cyflwynir gan Chapter yn rhan o Diffusion.

Chwith: Maurizio Anzeri, Round Midnight, 2009. Brodwaith ar ffotograff. © Maurizio Anzeri; gyda chaniatâd Casgliad Saatchi. Uchod: Maurizio Anzeri, Profile Blue, 2012. Brodwaith ar ffotograff. © Maurizio Anzeri, gyda chaniatâd y casglwr preifat.

Bywgraffiad yr ArtistGanwyd Maurizio Anzeri yn Loano, Yr Eidal ym 1969. Astudiodd am radd BA yng Ngholeg y Celfyddydau Camberwell ac am radd MFA yn Ysgol Gelf y Slade. Mae’n byw yn Llundain.Caiff ei waith ei arddangos yn rhyngwladol ac mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Canolfan Celfyddyd Gyfoes BALTIC, Gateshead, DG (2011); ‘The Party Garden’, Fforwm Q, Llundain, DG; ‘LUNATICO’, Oriel Rupert Pfab, Dusseldorf, yr Almaen; ‘Darwin’s Tears’, Oriel Luce, Tiwrin, yr Eidal (pob un yn 2010); ac ‘I will buy the flowers myself’, Riflemaker, Llundain, DG (2009). Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Prosiect Gwadd, Ffair Gelfyddydau Shanghai, Shanghai, Tsieina (2012), ‘Version and Diversions’, Oriel Temple Bar, Dulyn (2011) a ‘One Night in Paris’, Oriel y Ffotograffwyr, Llundain, y DG (2009). Mae ei waith yn rhan o gasgliadau ledled y byd gan gynnwys casgliadau Saatchi, Gagosian, Rothschild a Chasgliad Alexander McQueen. Gweler ei fywgraffiad cyflawn ar www.maurizioanzeri.net

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Page 8: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel08 029 2030 4400

Robert KennedyGwener 15 Mawrth — Sul 28 EbrillMae ‘Beer Street’ yn dathlu rhinweddau’r ddiod genedlaethol draddodiadol — sy’n feddwol ond heb fod yn rhy feddwol. Mae cwrw’n ysbrydoli ac yn torri syched artistiaid a chrefftwyr. Gellir ei yfed heb beryg ar doeon James Towneley (1714–1778)

Mae gwaith Robert Kennedy yn cynnwys elfennau dyddiadurol a dyfeisiau eraill ar gyfer marcio amser. Wedi’i ddylanwadu gan ei amgylchfyd, mae’n ymwneud nid yn gymaint â datganiadau ond ag archeoleg anffurfiol o sefyllfaoedd.Yn yr arddangosfa hon, mae Kennedy’n dwyn i gof olygfa o brint gan William Hogarth, Beer Street (1751) — a gynhyrchwyd yn wreiddiol yn rhan o ymgyrch i geisio annog y werin dlawd i wrthod y demtasiwn i yfed jin. Mae artist carpiog yn peintio cwpan jin — y ddiod sydd wedi achosi ei feddwdod a’i drallod ef ei hun — ar arwydd y tu allan i dafarn.Mae Kennedy, a oedd yn wneuthurwr arwyddion ei hun am nifer o flynyddoedd, yn arfer yr un manylder i gynhyrchu gweithiau gwydr euraid cyfoethog. Mae’r arddangosfa safle-benodol hon yn plethu at ei gilydd nifer o’r prosesau a’r elfennau hyn ac yn cymylu’r ffiniau rhwng celfyddyd, bywyd a gwaith.Mae’r dyluniadau sy’n hongian yn y bar — fel addurniadau pres ceffyl — yn seiliedig ar hen ddeunyddiau tafarnaidd ac mae’r gweithiau delicet yn adleisio’r drychau cain a welid yn nhafarnau oes a fu. Mae myfyrdod, atyniad a breuder yn themâu cylchol yng ngwaith Kennedy ac mae’r arddangosfa newydd hon yn codi amrywiaeth o gwestiynau am werth, amser a’r cyflwr dynol.Gweler bywgraffiad yr artist ar www.chapter.org

Mike Tooby: At the Mad ShepherdessPerfformiad: Sul 12 Mai 5-8pmArddangosfa: Llun 13 Mai — Sul 19 MaiMae’r prosiect hwn yn chwarae â’n syniadau ni am hanes celf ac amgueddfeydd, yn ogystal â’n ffyrdd o berthyn i’n gilydd, fel dieithriaid, ffrindiau a chymdogion.Roedd rhaglen Celfyddyd yn y Bar Chapter — a gŵyl ffotograffiaeth Diffusion sy’n cael ei chynnal ledled Caerdydd yn ystod mis Mai (gweler tt4-7) – yn ysgogiad i Mike Tooby ailystyried darlun enwog Édouard Manet, Un Bar aux Folies-Bergère (1882). Mae’r llun yn dangos adlewyrchiad o ddyn dirgel sy’n edrych — neu ddim — i lygaid menyw sy’n gweini diodydd. Roedd y cyfarfyddiad hwn — a diddordeb Manet mewn ffotograffiaeth a bywyd modern — yn ysbrydoliaeth hefyd i ffotograff eiconig Jeff Wall Picture for Women (1979) — a oedd, ar y pryd, yn ymgais uchelgeisiol i wneud cysylltiad rhwng gofynion artistig a chynulleidfaol y 1970au hwyr a chelfyddyd fodernaidd ddarluniadol.Gwahoddir cynulleidfaoedd i ofyn y cwestiwn “Beth ydw i’n ei wybod byth am weithiwr y tu ôl i far?” ac i gymryd rhan trwy brynu diod yn ystod yr agoriad; neu drwy ail-greu’r olygfa a welir yn lens y camera. Gweler bywgraffiad yr artist ar www.chapter.org

+ Mawrth 14 Mai 6.30pm

Come Along Do: Notebook on Cities and Clothes Trafodaeth ar ôl y ffilm gyda Mike Tooby a Gill Nicol. £2.50 (dylid prynu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân. Gweler manylion y ffilm ar www.chapter.org.)

Celfyddyd yn y Bar

Page 9: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel 09chapter.org

Emma Bennett, Thief of Time, 2012, olew ar gynfas, 140x110cm

Emma Bennett: Thief of Time1 Mai — 30 Mehefin 2013Mae peintiadau swynol o brydferth Emma Bennett yn ystyried gofod, amser a breuder y cyflwr dynol.Mae Bennett yn meddiannu delweddau o draddodiad celfyddydol yr Iseldiroedd a’r Eidal ac yn cyfleu’n berffaith bowlenni o ffrwythau aeddfed, duswau o flodau’n blodeuo, anifeiliaid hela wedi marw a phlygiadau o ffabrig cyfoethog sy’n adlewyrchu traddodiad hir o beintio bywyd llonydd — naturiolaeth ymddangosiadol sy’n dibynnu ar ddyfeisiau cyfansoddiadol ac ar atal amser. Mae’r gwrthrychau’n dod i’r amlwg allan o wagle tywyll y cynfas ac yn awgrymu byrhoedledd; bywyd, marwolaeth a’r byd a ddaw.Yn ei gwaith diweddaraf, mae Bennett yn ystyried darfodedigrwydd y cof a delweddau a’r awydd i wneud eiliadau’n fwy parhaol; mae hi’n cyfeirio at weithiau ffotograffwyr bywyd llonydd hanesyddol a chyfoes — o Roger Fenton i Wolfgang Tillmans. Mae Bennett yn goleuo ochr dywyll y traddodiad, trwy ddefnydd o alegori a thrwy adlewyrchu ing colled — yr ing sy’n rhan mor annatod o bob ymdrech i adfer a chadw, i rewi amser ac i ddal gafael ar bethau sy’n darfod.

BywgraffiadCafodd Emma Bennett ei magu yn Aberhonddu, Cymru. Cwblhaodd ei gradd BA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Canolog St Martin’s a’i MA mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celfyddyd a Dylunio Chelsea. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae ei hrddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘And, Afterwards’, Charlie Smith, Llundain, y DG; ‘Kaliphilia’, Vegas, Llundain, y DG; ‘East Wing X: Material Matters’, Sefydliad Courtauld, Llundain, y DG (pob un yn 2012); ‘New Sensations’ a ‘The Future Can Wait’, Oriel Saatchi & Channel4, Victoria House, Llundain, y DG; ‘Polemically Small’, Amgueddfa Gelfyddyd Torrance, Torrance, UDA (y ddwy yn 2011), a ‘New British Painting’, Oriel Kalhama & Piippo Contemporary, Helsinki (2010). Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau rhyngwladol sy’n cynnwys K & K Kollektion, Monaco, David Roberts, Llundain a chasgliadau preifat yn yr Almaen, yr Eidal, y Swistir, UDA a’r DG. Cynrychiolir Emma gan Charlie Smith London www.charliesmithlondon.com

Page 10: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel10 029 2030 4400

Tan ddydd Sadwrn 13 Ebrill — The Exchange, PenzanceTan ddydd Sadwrn 27 Ebrill — Oriel Gelf NewlynRydym wrth ein bodd bod ein arddangosfa grŵp ‘The Future’s Not What It Used To Be’ ar daith yng Nghernyw a’i bod i’w gweld mewn dau leoliad: The Exchange, Penzance ac Oriel Gelf Newlyn. Wedi’i churadu gan Deborah Smith, mae ‘The Future’s Not What It Used To Be’ yn arddangosfa gan Chapter o ddeg artist rhyngwladol sy’n archwilio cysyniadau’n ymwneud â’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau, mae’r artistiaid yn cyflwyno gwahanol safbwyntiau ar dirwedd sy’n newid ac yn helpu’r gwyliwr i ddiffinio ac ailddiffinio ei berthynas ei hun â’r byd.Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.newlynartgallery.co.uk

Derbyniodd yr arddangosfa hon gefnogaeth gan Sefydliad Henry Moore a Llywodraeth Queensland trwy gyfrwng yr Asiantaeth ar gyfer Marchnata ac Allforio Celfyddydau Brodorol (QIAMEA). Derbyniwyd cefnogaeth ychwanegol gan GB-Sol, Satellite City ac Oriel Milani.

Chapter ar daith The Future’s Not What It Used To BeSusan Hiller, Matt Bryans, Vernon ah Kee, Tony Albert, Jeremy Millar, Patricia Piccinini, Amie Siegel, Darren Almond, Ged Quinn a Marjetica Potrč

Delwedd: The Future’s Not What It Used To Be, The Exchange, Penzance. Hawlfraint y llun — Steve Tanner, gyda chaniatâd caredig The Exchange.

Page 11: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Orielchapter.org 11

Galw am geisiadauYnglŷn ag ExperimenticaMae Experimentica yn ddigwyddiad allweddol sy’n cyflwyno perfformiadau a phrosiectau rhyngddisgyblaethol newydd ym meysydd y celfyddydau gweledol, ffilm, fideo, celfyddyd sain, dawns a theatr. Mae’n blatfform o bwys i artistiaid o Gymru ac yn galluogi iddynt gynhyrchu neu gyflwyno eu gwaith, ar y cyd â chyfraniadau a chomisiynau gan artistiaid rhyngwladol nodedig.Mae hwn yn gyfle i artistiaid ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd gyflwyno gweithiau newydd heriol ac arbrofol.Yn 2013, bydd gŵyl Experimentica’n dathlu’i phen-blwydd yn 13 oed a thema’r ŵyl eleni fydd y rhif drwgargoelus hwnnw.Sut i wneud caisMae manylion llawn am y broses o gyflwyno cais ar gael ar www.chapter.org neu gallwch anfon e-bost at [email protected] cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd ar ddydd Mercher, 1 Mai 2013.

ExpERImEntIca 2013: BORn UndER a Bad SIgnMercher 6 — Sul 10 Tachwedd

Delw

edd

trw

y ga

redi

grw

ydd

Tim

Bro

mag

e; ff

otog

raff

Rog

er G

raha

m

Page 12: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Oriel12 029 2030 4400

CHAPTER A SOMETHING CREATIVES YN CYFLWYNO

Art Car Bootique 2013Sul 14 Ebrill 11am-6pm i’w ddilyn gan noson o ddawnsio ym mar Chapter o 7pm ymlaenArt Car Bootique yw’r arwerthiant cist car mwyaf cŵl yn Ne Cymru ac mae’n cynnwys 70 o stondinau’n llawn o gelfyddyd, ffasiwn, perfformiadau, arwerthwyr vintage a phrosiectau wedi’u curadu. Yn cael ei gynnal eleni am y trydydd tro, mae’r Art Car Bootique yn ddathliad o gymuned greadigol Caerdydd — ffair bentref seicedelig sy’n cynnwys eglwys ‘dros-dro’ i chi briodi’ch cariad newydd a pherfformiadau yn y bandstand (wedi’u curadu gan Matt The Hat). Mae Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd o hwyliog.

Mae’r cyfranogwyr sydd eisoes wedi’u cadarnhau yn cynnwys: £1 Jumble, Arcade Cardiff, Art Map Cardiff, Artes Mundi, The Attic Gallery, Art in the Warehouse, Babyhead, Beti Biggs, BIT Studios, B-R-G Collective, Broadway Life Drawing Studios, CAAPO, Calon Animation, Car Boot Bingo, Cardiff Arts Collective, Cardiff before Cardiff, Cosmo 4 Kids, Dan Green Photography, Eklectic Mic, Elbow Room, Ellie Young, EllyMental, G39, Gareth Potter, Goat Major Projects, good cop bad cop, Gallery Ten / Project Ten, Guerilla Archaelogy, Holy Roller, I Hearts The ‘Diff, Iwan Rheon, Junior Bill, Kathryn Ashill, Mankala, Matt-the-Hat, Milgi, Milkwood Gallery, Northcote Lane Market, The Occasional Brass Ensemble, Print Market Project, Printhaus, The Last Gallery, Rail Road Bill, Auralab / Laura Sorvala, The Next Leg, Rhod Rural Arts, The Rinky Dinks, Sho Gallery, Squeaky Hill, Tactile Bosch, Vintage Mix a Well Hotel – Riverside Collective. Cyhoeddir mwy o enwau cyn bo hir!I weld manylion artistiaid 2013, ewch i www.artcarbootique.com @chaptergallery @FollowSomething Cafodd y digwyddiad hwn ei wneud â llaw yng Nghaerdydd gan www.somethingcreatives.com a Chapter.

Page 13: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Bwyta, Yfed, Llogi 13chapter.org

Bwyta, yfEd, LLOgI

Gŵyl Gwrw MaiBockIau 9 — Sadwrn 11 MaiDewch ar daith gyntaf y flwyddyn i bierkellers Bafaria. Ar ôl llwyddiant yr Oktoberfest llynedd, mae gennym ddetholiad hollol newydd o ddiodydd hopysaidd o’r Almaen. Dyw’r rhestr lawn ddim wedi’i phennu eto ond mae syched arnom yn barod — ac fe fydd y manylion ar ein gwe-fan cyn gynted â phosib er mwyn i chi ddechrau cynllunio! Fel arfer, bydd y caffi’n gweini bratwurst blasus i gyd-fynd â’ch cwrw ac i leinio’r stumog.Yn ystod yr wythnos: 5pm-amser cau Penwythnos: 12pm-amser cau

BwytaBydd yna ddigonedd o ddanteithion blasus yn y caffi dros y misoedd nesaf. Byddwn yn dadorchuddio bwydlen newydd i dynnu dŵr o’ch dannedd ym mis Ebrill ac r’yn ni’n edrych ymlaen at glywed eich barn. Peidiwch â phoeni — bydd yr hen ffefrynnau — fel ein byrgyr cartref o gig eidion Cymreig — yn dal yno, ond bydd yna lwyth o opsiynau newydd i’ch temtio chi. Bydd yna fwydlen arbennig ar gyfer yr Art Car Bootique eleni hefyd – i gyd-fynd â thema’r arwerthiant, pleserau cudd. Bydd cyw iâr a sglodion, wedi’u gweini mewn basged, ar gael wrth y cownter. Bydd yna farbeciw hefyd ar y patio a stondin yn gwerthu byrbrydau a chwrw. Bydd yna brydau pysgodaidd arbennig hefyd ar gyfer Diwrnod Ffŵl Ebrill (Poisson d’Avril yn Ffrangeg), danteithion llysieuol ar gyfer Wythnos Genedlaethol Llysieuwyr (20 — 26 Mai) a llond plât a phowlen o bethau blasus eraill.

Mae cysylltiad di-wifr rhad ac am ddim ar gael yng Nghaffi Bar Chapter.

Pop Up ProduceBob dydd Mercher 4-7pmMae ein Marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Bara Mark yn cynnig detholiad o fara arbenigol ac fe fydd Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau — wedi’u halltu a’u mygu — o Brydain, De Ewrop a Gogledd America. Mae’r Parsnipship yn cynhyrchu ac yn gwerthu bwydydd llysieuol unigryw a gwreiddiol a bwyd figan wedi’i greu â chynhwysion tymhorol lleol.

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwefan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld beth sydd ar gael.Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, cynnal ymarferion neu weithgareddau tîm, mae ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy.Bydd rheolwr ein caffi, Lex, hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at [email protected]

Page 14: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr14 029 2030 4400

Calig

ula,

llun

gan

Jor

ge L

izal

de

Page 15: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 15chapter.org

Cwmni August 012 Caligula gan Albert Camus, cyfieithiad gan David GreigMercher 10 — Sadwrn 20 Ebrill (ag eithrio dyddiau Sul) 7.30pm Mae’r seneddwyr yn hen gyfarwydd ag ymerawdwyr mympwyol ond mae hwn wedi mynd yn rhy bell.Gaius Caligula: yr afal drwg ar goeden Rhufain.Megalomanaidd, obsesiynol, gormesol – a golygus.Mae’n dienyddio dinasyddion er difyrrwch.Mae’n cymryd risgiau anfaddeuol â’r economi.Mae e newydd benodi ei hoff geffyl yn seneddwr.Ac yn awr mae e’ eisiau peth cwbl amhosib – y lleuad ei hun. Rhaid i rywbeth ddigwydd. Ar ôl te, efallai.Yn y drasicomedi abswrd hon, mae Albert Camus – un o awduron ac athronwyr mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif – yn archwilio’n diddordeb ysol mewn gormodedd a’n dyhead am bethau absoliwt.Wedi’i chyflwyno gan August 012 a’i chyfarwyddo gan Mathilde Lopez (Serious Money, Pornography), caiff drama Camus ei hail-ddychmygu yng nghyd-destun byd o selebs ac enwogion — Chavez, Berlusconi, Gaddafi a chylchgrawn Hello.Dyma’r tro cyntaf i’r campwaith modern hwn gael ei berfformio yng Nghymru ac mae’r cast o ddynion yn unig wedi’i ategu gan bobl hŷn o Drelái, y Tyllgoed a Grangetown.Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, datblygwyd ar y cyd â Chapter.

£14/£12

Waking Exploits Love and Moneygan Dennis KellyMercher 10 — Gwener 19 Ebrill (ag eithrio dyddiau Sul) 8pm + Sadwrn 13 Ebrill 2.30pm Dyhead. Dyled. Cariad ac arian.Mae David ar-lein ac yn gobeithio dod o hyd i berthynas newydd. Mae cariad glic neu ddau i ffwrdd – ond yna daw cyfaddefiad syfrdanol i ddatod ei orffennol un edefyn iasol ar y tro.Mae Jess yn caru David. Mae Jess yn caru credyd. Wrth gredu y gellir prynu hapusrwydd mewn byd o gyllid hawdd a materoliaeth, daw eiddo yn gysyniad anorchfygol. Ond beth yw’r gost mewn gwirionedd?Mae cyfuniad Jess a David o gariad ac arian yn lladd eu perthynas, eu dyfodol – a nhw eu hunain.Mae drama Kelly yn ddigrif ac ysigol, yn bortread o fyd-olwg heb seiliau cadarn a’r risgiau a wynebwn wrth i ni chwilio am hapusrwydd.Cast: Rebecca Harries, Sara Lloyd-Gregory, Gareth Milton, Keiron Self, Joanna Simpkins a Will Thorp.£14/£12

Love

and

Mon

ey

Cynnig Arbennig (ag eithrio dyddiau Gwener + Sadwrn) Prynwch docyn ar gyfer y ddwy sioe am £20

Page 16: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Robert Newman’s New Theory of Evolution Or The Survival of The WeakestSadwrn 6 Ebrill 8pmMae Rob yn esbonio hanes y ddadl mewn theori esblygiad a fu’n byrlymu ers 150 o flynyddoedd — y ddadl rhwng cydweithrediad a chystadleuaeth. Mae’n stori sy’n ein harwain o ddihangfa feiddgar y Tywysog Kropotkin o garchar Tsaraidd i Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill yn Expo Chicago 1893. O’r ameba hunan-aberthol, Dictyostelium discoideum, i’r trychinebau diweddar ym myd bancio ac o fwncïod cycyllog a’u synnwyr digyfaddawd o gyfiawnder i hunanladdiad trasig y damcaniaethwr gwych, a gwyddonydd gyda Phrosiect Manhattan, George Price, mewn sgwat yn Camden ym 1974. Dadl Rob yw bod dethol naturiol yn ffafrio’r gwan a’r rhyfedd gymaint bob tamaid ag y mae’n ffafrio’r cryf. £10/£9/£8

Lansio albwm y Winter Villains, ‘February’ + cefnogaeth gan Joel HarriesSadwrn 20 Ebrill 8pmMae’r Winter Villains yn grŵp o chwech aelod sy’n chwarae cerddoriaeth pop-siambr arbrofol. Buan y daeth y grŵp i sylw’r wasg leol a chenedlaethol – ac ennill clod gan bobl fel y DJs Jen Long (BBC Introducing) a Tom Robinson (BBC 6 Music). Ar ôl eu senglau ‘Moon’ a ‘The Air’, ac ymddangosiadau mewn gwahanol wyliau, gan gynnwys y Gelli Gandryll a Sŵn, byddant yn rhyddhau eu halbwm cyntaf, o’r enw ‘February’, gyda label Barely Legal Records ar 22 Ebrill. Mae dawn Joel Harries i gyfansoddi caneuon hardd a brau yn esgor ar bresenoldeb gwirioneddol unigryw a hudolus.£5/£4

www.wintervillains.bandcamp.com www.joelharries.bandcamp.com

Striking Attitudes Once Upon A Time In The Dark, Dark, WoodIau 25 — Sadwrn 27 Ebrill 8pmYn nhywyllwch dudew y fforest, mae yna gyfrinachau a straeon sy’n aros i gael eu datgelu. Mae dieithriaid yn chwilio’r llwyni am bethau sydd wedi bod o’r golwg ers cryn amser. Ond mae angen troedio’n ofalus — mae yna symud yn y cysgodion; pwy sydd yno’n gwylio?Mae hon yn fenter unigryw gan Striking Attitudes sy’n herio’r syniadau confensiynol am ddawns a dawnswyr. Cyfarfyddiad beiddgar a chyfuniad o ddawnswyr profiadol hŷn — maent yn fedrus a phrofiadol ond wedi dechrau gweld effeithiau amser ar eu corfforoldeb — a dulliau ffres tri choreograffydd ifanc arloesol o Gymru. £12/£10/£8

Edition Records yn cyflwyno Neil Yates + Five Countries TrioSul 28 Ebrill 8pmMae’r triawd agos-atoch hwn yn gyfuniad perffaith o jazz Celtaidd arloesol: mae’r trwmpedwr yn Saes sy’n byw yng Nghymru, y gitarydd yn Rwmaniad sy’n byw yn Hwngari a’r drymiwr yn Wyddel sy’n byw yn Lloegr. Gyda’i gilydd, maen nhw’n archwilio traddodiadau gwerin pob un o’r gwledydd hyn. Wrth gyflwyno caneuon oddi ar eu halbwm cyntaf diweddar, mae’r triawd yn creu bydoedd sain atgofus ac yn gwthio ffiniau cerddoriaeth traddodiadol â’u halawon telynegol.£12/£10/£8

Theatr16 029 2030 4400

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Rob

ert

New

man

, Str

ikin

g At

titu

des

(llun

: Dav

e He

ke, Q

uetz

al P

hoto

grap

hy)

Page 17: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 17chapter.org

Man arall

anthony reynolds a Small Spit of land Sadwrn 27 Ebrill 8pmMae Reynolds yn cyflwyno cylch o ganeuon baróc am dyfu i fyny yn Sblot yn y 70au a’r 80au — gweithiau sy’n llawn o’r uchelgais, y bathos a’r hunan-fytholegu sy’n nodweddiadol o’i yrfa gerddorol a’i gyfansoddiadau. Gyda chaneuon gan Anthony Reynolds, Bruce Springsteen a Kevin Rowland.Gyda Sinffonia Cymru a Chôr Cymunedol Adamsdown.Trefniant gan Christopher Fosse a Fiona Brice.Gyda:Carl Bevan (gynt o’r 60ft dolls) — DrymiauAidan Thorne — Bâs Acwstig a Thrydan Paul Jones — Allweddellau AnalogRichard James (gynt o Gorky’s) — GitârGlyn Kerry Groves — GitârPhilip Price — Datganiada Christopher Brooke yn rôl y Pregethwr.Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y cyd â Chapter.

£12/£10/£8

www.anthonyreynolds.net

Cynhelir y perfformiad hwn yng Nghanolfan Gymunedol Eastmoors, Stryd Sanquhar, Sblot.

Darlu

n ga

n Vi

rgin

ia R

ober

ts H

ead

“…provocateur gwirioneddol — Cymro sy’n cydblethu Gainsbourg ac Aznavour ... a byddai’n dda o beth i ni sylweddoli hynny”. Chris Roberts, The Quietus

Page 18: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr18 029 2030 4400

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Tin

She

d Th

eatr

e, M

olly

Nay

lor

New Sound Wales Nano-ŵyl i Ddathlu 5 MlyneddSul 5 Mai 5pm The Keys, Sion Russell Jones, The Vestals, Laurence Made Me Cry + Brothers I ddathlu pen-blwydd Newsoundwales yn 5 oed, dyma gyflwyno 5 artist gwirioneddol ardderchog o Gymru. Ffurfiwyd The Keys o lwch Murray the Hump, yr oedd eu cefnogwyr yn cynnwys John Peel, Alex James a Joe Strummer. Wedi’u haileni dan yr enw The Keys, maen nhw wedi datblygu i fod yn un o fandiau byw mwyaf cyffrous Cymru. Ychwanegwch at hyn grefft Siôn Russell Jones fel cyfansoddwr, dylanwad yr 80au ar sŵn gitâr The Vestals, hunanholi Laurence Made Me Cry a brwdfrydedd seicedelig Brothers ac mae gennych chi noson wefreiddiol o gerddoriaeth.£9 ymlaen llaw / £12 wrth y drws. Tocynnau ar gael ymlaen llaw ar www.wegottickets.com/event/207766

Tin Shed Theatre Dr Frankenstein’s Travelling Freak Show!Iau 9 — Gwener 10 Mai 8pm“Beth welwch chi wrth edrych i fyw llygaid anghenfil?”Fe’ch gwahoddir chi i ymhyfrydu yn rhyfeddod y Dr Frankenstein Travelling Freak Show! Cymerwch eich sedd a gwyliwch wrth i gimwch sy’n darllen meddyliau, gwraig farfog a tsimpansî gyflwyno stori enwog Mary Shelly am Frankenstein o safbwynt gwyrdroëdig raconteur sinigaidd.I gyfeiliant sgôr wreiddiol wedi’i chyfansoddi gan y band o Gaerdydd, INC.A, mae Tin Shed Theatre yn cyflwyno cynhyrchiad tywyll, doniol a rhyfedd ar y naw; mae Dr Frankenstein’s Travelling Freak Show yn troedio’r llinell fain rhwng doniolwch a moesoldeb.£10/£8 www.tinshedtheatrecompany.com

Molly Naylor: My Robot HeartSadwrn 18 Mai 8pmMae Molly Naylor yn cyflwyno sioe o chwedleua cynnes, hudolus a theimladwy gyda cherddoriaeth gan y ddeuawd werin, The Middle Ones. Wedi’i hysbrydoli gan arbrofion ar gariad a gwblhawyd gyda chymorth robotau yn Japan, mae Molly’n adrodd stori am briodas a thair cenhedlaeth o’r un teulu. Archwilir ystyron cariad ac ofn, a’r berthynas rhwng y ddau. £8/£7/£6

“Darn doniol a theimladwy, sy’n drist ac eto’n gadarnhaol”– The Scotsman

Lansiad Llyfr: Dream On gyda Dai SmithMercher 15 Mai 7pmDyma gyflwyno llu o gymeriadau: Digger Davies, un cap dros Gymru a marwolaeth annhymig; ffotograffydd gwobrwyol sy’n dychwelyd adref i chwilio am ei hunaniaeth anghofiedig; y gwleidydd rhwystredig mewn gwely ysbyty sy’n ysgrifennu ei hunangofiant; a merch hardd sydd wedi’i dal am ennyd yn atgofion hen ddyn.Mae nofel gyntaf Dai Smith, Dream On, yn gyfuniad o gomedi dywyll, llyfr cyffro noir a myfyrdod ar y straeon sy’n plethu yn ei gilydd yn ystod y broses gymhleth o fyw. Bydd Dai yn sôn am y modd y daeth gwleidyddiaeth, celfyddyd, cariad a ffuglen at ei gilydd i roi golwg newydd iddo ar y stori sydd wedi diffinio ei fywyd proffesiynol. Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012, Jon Gower, fydd yn holi.£3 wrth y drws (bydd cost mynediad yn caniatáu £5 o ddisgownt ar bris y llyfr ar y noson)

www.parthianbooks.com

Page 19: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 19chapter.org

Sava

ge C

hild

ren

Wild Girl7pmGan John Retallack (2003)

Mae merch wyllt yn ymddangos o’r goedwig.Pwy yw hi?Mewn dŵr, mae hi’n bysgodyn, ar dir mae hi’n garw ac, yn y coed lle mae hi’n bwyta ac yn cysgu, mae hi’n wiwer hedegog.Mae hi’n dynwared adar â chymaint o allu fel y byddech chi’n meddwl bod eos yn yr ystafell gyda chi — ond dyw hi ddim yn gallu dweud y geiriau ‘cath’ neu ‘ci’.Mae yna bobl, wrth gwrs, sydd eisiau achub y ferch wyllt a’i gwneud hi’n debyg i bawb arall — dinesydd a fydd yn gallu chwarae, astudio, gweithio a phriodi. Pwy fydd yn penderfynu beth sydd orau iddi? Neu ai cwestiwn i’r ferch wyllt ei hun yw hwnnw?Mae Wild Girl yn ymwneud â’r hyn y byddai plentyn yn ei wneud pe bai’n cael dewis drosti hi’i hun...8+ oed

Mirad, a Boy from Bosnia8.30pmGan Ad de Bont (1993)Cyfieithiad gan Marian Buijs

‘Dyw ffoaduriaid ddim yn bodoli. Dim ond pobl sydd wedi’i chwythu gan y gwynt ledled y byd sy’n bodoli.’ Wedi’i gosod yn ystod y rhyfel yn Bosnia, mae’r ddrama hon yn adrodd hanes bachgen 13 oed sy’n goroesi er colli’i rieni — un ohonynt wedi marw, y llall ar goll.Mae Mirad yn ddrama unigryw ac yn bortread dirdynnol o effaith rhyfel ar blant. Yn briddlyd a naturiol, wedi’i hysgrifennu mewn iaith bob dydd, ac yn cynnwys cast o gymeriadau sy’n unrhyw beth ond arwyr, mae Mirad yn llwyddo i gyfleu doniolwch, tristwch a gobaith — a’r tri ar yr un pryd.Mae’r ddrama hon wedi cael ei gweld a’i gwerthfawrogi gan blant a phobl ifainc ledled Ewrop. Mae’r cynhyrchiad amserol hwn o Mirad yn nodi pen-blwydd y ddrama’n 20 oed.11+ oed

Savage Children: Dangosiad dwbwlMercher 15 MaiCyflwynir gan yr Old Vic, Bryste, the egg, Caerfaddon, The Dukes, Lancaster a Theatr Iolo

Tocyn sioe unigol £7/£6, tocyn dangosiad dwbwl £10/£8

Page 20: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr20 029 2030 4400

Mercury Theatre Wales SpangledMercher 1 — Sadwrn 4 Mai (+ rhagolwg Mawrth 30 Ebrill) 8pm

“Weithiau dw i’n teimlo fel tasai calonnau pawb yn curo i’r un curiad, fel petai’r gerddoriaeth y tu fewn i ni, fel tasen ni i gyd ar yr un lefel”.

Mae hi’n 1993 ac mae diwylliant clybio’r DG wedi ffrwydro i fodolaeth. Mae hi’n gyfnod cyffrous newydd o gerddoriaeth ddawns a chyffuriau parti. Camwch i fyd o guriadau clwb Cymreig ac ymgollwch yn y goleuadau laser disglair a’r gerddoriaeth, gan ymuno â chymeriadau aml-haenog y mae ganddynt benderfyniadau tra phwysig i’w gwneud.Mae Spangled yn ddrama newydd sbon wedi’i dyfeisio a’i chreu gan Mercury Theatre Wales a’i chyfarwyddo gan Bethan Morgan, yn seiliedig ar brofiadau go iawnclybwyr, DJs, hyrwyddwyr a staff clybiau nos.£12/£10/£8 (rhagolwg £8/£6)

Sioned Huws ‘Aomori Aomori, Hinsawdd, Corff ac Enaid’Cyfnod Preswyl: Llun 6 — Sadwrn 25 MaiDigwyddiad gwaith-ar-y-gweill: Sadwrn 25 Mai 7pmMae Aomori yn lle, mae hinsawdd yn brofiad emosiynol, mae’r corff yn fyw, mae eneidiau’n blodeuo. Mae Aomori yn lle corfforol a throsiadol; yn fan llawn posibiliadau, sy’n credu mewn dymuniadau, gobeithion, breuddwydion a dyheadau, ac mewn adeiladu cymunedau newydd trwy gyfrwng dawns. Cychwynnwyd Prosiect Aomori yn 2008 fel ymateb i amodau Arctig Gogledd Japan. Ers hynny, mae’r prosiect wedi bodoli mewn gwahanol ffurfiau ac wedi datblygu i gynnwys amrywiaeth eang o artistiaid a pherfformwyr. Yn y cam nesaf hwn, bydd ‘Aomori Aomori’ yn archwilio ymhellach gyd-fodolaeth ac annibyniaeth ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd gyda’r dawnswyr Reina Kimura, Elena Jacinta, Agnese Lanza, y dawnsiwr Tsugaru teodori, Yoshiya Ishikawa, y cerddorion Yuji a Yuso Hasegawa a’r gantores minyo, Kiyoko Goto. Bydd y gwaith yn defnyddio strwythurau coreograffig ffurfiol ac anffurfiol, yn ailadrodd, yn cyfeirio ac yn dargyfeirio, ac yn trawsffurfio safbwyntiau o’r fertigol i’r llorweddol.

Sadwrn 18 Mai 10am-5pmCerddoriaeth a pherfformiad cydweithredol gyda meistr Tsugaru shamisen, Yuji Hasegawa, a’r gantores minyo Kiyoko Goto. Agored i berfformwyr, cerddorion, artistiaid sain a phobl o bob oed a gallu.AM DDIM Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Mercher 22 Mai 10am-1pmDigwyddiad cyfnewid gyda’r meistr ar ddawnsio dwylo Tsugaru, Yoshiya Ishikawa, y coreograffydd Sioned Huws ac aelodau’r cwmni. Ar agor i bobl o bob oed a galluAM DDIM Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Ariannwyd gan: Sefydliad Japan PAJ Ewrop, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru.

Gyda chefnogaeth Chapter, Greenwich Dance, ARTizan, Canolfan Celfyddydau Cyfoes Aomori, Prifysgol Celf a Dylunio Joshibi, Tokyo, Fabbrica Europa, Canolfan Grefftau Rhuthun. O’

r chw

ith

i’r d

de: S

pang

led,

Aom

ori,

Aom

ori

Page 21: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 21chapter.org

MAN ARALL

ReverieSadwrn 25 Mai (rhagolwg) 7pmLlun 27 Mai — Sadwrn 1 Mehefin 7pmY tu hwnt i gwsg ac effro mae yna fan sy’n plethu breuddwydion melys a hunllefau troëdig. Man lle’r ydym ar goll, yn dioddef o ganlyniad i ddychymyg byw ac atgofion. Caiff realiti ei drawsnewid wrth iddi dywyllu. Ar goll mewn breuddwyd — a ddeffrwch chi fyth? Dim ond un dyn sy’n gwybod yr ateb. Tom Watson.Byddwch yn barod am brofiad sy’n siŵr o estyn terfynau eich bod. Gwrandewch, chwaraewch, archwiliwch a RHEDWCH ... Rhedwch fel tasech chi’n rhedeg am eich enaid.Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad blaenorol yello brick, Everwake, mae Reverie yn fath newydd o adloniant a naratif. Yn gyfuniad o theatr stryd, hapchwarae ac adrodd straeon ar-lein, mae’n creu byd cyfoethog o atgofion a phrofiadau byw.Mae’r gêm hon wedi’i bwriadu ar gyfer pobl 18+ oed yn unig.

£16/£12

Cynhelir y digwyddiad hwn ym Mae Caerdydd a bydd angen i gyfranogwyr symud rhwng sawl lleoliad. Gofynnir i chi archebu tocynnau ymlaen llaw er mwyn gallu ymwneud â phob rhan o’r stori. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.reveriethegame.co.uk

Mae Reverie yn gynhyrchiad gan yello brick ar y cyd â Gerald Tyler a thinkARK. Byddai’r cyflwyniad wedi bod yn amhosib heb gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Chapter, Hoffi, National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Page 22: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr22 029 2030 4400

Theatr Everyman Play it Again SamMawrth 21 — Sadwrn 25 Mai 7.30pm (+Sadwrn 25 Mai 2.30pm)Mae Allan Felix yn gymeriad Woody Allenaidd sy’n dioddef ysgariad poenus ond sy’n dod o hyd i gysur yn ffilmiau Humphrey Bogart. Mae ei ffrindiau gorau, Dick a Linda, yn ceisio trefnu iddo gwrdd â menywod eraill — ond mae pob cyfarfod yn drychineb. Wele Bogart, sy’n ymddangos drwy hud a lledrith yn ystafell fyw Allan ac yn rhoi cyngor nodweddiadol onest iddo ynglŷn â’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddenu “dames”. Mae Everyman Theatre yn falch o gyflwyno Play It Again Sam — drama gomedi wych a ramantus sy’n llawn ffraethinebau a pharodïau atgofus o olygfeydd sinematig nodedig. £10/£8 (disgownt ar ddyddiau Mawrth, Iau + matinee Sadwrn yn unig)

GravidaMawrth 28 + Mercher 29 Mai 6pmMae rheolau disgyrchiant yn newid yn ystod beichiogrwydd: un rheol i’r fam, rheol arall i’r plentyn sy’n arnofio yn ystafell aros amniotig bywyd. Mae’r fam yn aros hefyd. Yn aros ac yn pwyso a mesur. Annioddefol o drwm, mae’r tu allan yn galw ag amherffeithrwydd llwm a goleuni annioddefol tra bod y tu fewn yn llawn anwybodaeth gwych.Gravida yw dawns y ddau ddisgyrchiant hyn, wedi’i pherfformio gan Tanja Raman a gyda choreograffi gan Aleksandra Jones. Mae’n rhan o brosiect Menywod a Beichiogrwydd a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.£10/£8/£6

+ Yn dilyn ei sesiynau Dawns i Deuluoedd, bydd y coreograffydd a’r hyfforddwr Aleksandra Jones yn dechrau dosbarthiadau Balans bob dydd Sul yn Chapter - math o hyfforddiant sy’n cyfuno ballet, ioga a pilates. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org

Bombastic Magic DoorsIau 30 Mai 2.30pmNid drysau cyffredin yw’r rhain ond drysau hud â chreaduriaid rhyfeddol a bydoedd dychmygol y tu ôl iddynt. Mae Bombastic yn arbenigo mewn creu profiadau theatrig rhyfeddol i bobl ifanc sy’n cyfuno dawns ac animeiddio. Addas i blant 4+ oed£8/£5

Cefnogir The Magic Doors gan Gynghorau’r Celfyddydau yng Nghymru a Lloegr

+ Ymunwch â Bombastic ar ôl y perfformiad hudolus hwn am weithdy dawns Hud a Lledrith addas i’r teulu cyfan am 4pm.

Josh Widdicombe: Work in ProgressSadwrn 22 Mehefin 8pmMae seren rhaglenni Stand Up For The Week ar Channel 4, ‘Last Leg with Adam Hills’ a Live At The Apollo ar BBC1, yn cyflwyno’i sioe newydd, sy’n ymdrin â’i anallu i fod yn anturus a’i rwystredigaeth barhaol â ... wel, â phopeth. Yn methu ag ymlacio a mwynhau bywyd, mae Josh wedi penderfynu taw bai pawb arall yw ei ddiffyg brwdfrydedd a’i anallu i adael y tŷ.£7/£6/£5

Llun

iau:

Jos

h W

iddi

com

be (l

lun:

And

y Ho

lingw

orth

), M

agic

Doo

rs

Page 23: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 23chapter.org

Ffin Dance Cyflwyniad triphlyg ysbrydoledigIau 6 Mehefin 8pmMae Missing Pages, gyda choreograffi gan Sue Lewis, yn defnyddio Sonata Ravel ar gyfer y Ffidil a’r Soddgrwth fel cefnlen ar gyfer atgofion o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennwyd y darn ar gyfer Ffin Dance yn benodol gan yr awdur Cymreig John F Wake.

Mae Tangent Axiom, gyda choreograffi gan Gary Lambert, yn ymateb i sgôr gan Oli Newman. Ysbrydolwyd y sgôr ei hun gan ‘orsafoedd rhifau’ (recordiadau yn ystod y Rhyfel Oer a dilyniannau o rifau a ddarlledwyd mewn tonnau hirion gan nifer o wasanaethau cudd gwledydd y Rhyfel Oer).

Mae Degrees of Freedom, darn arall â choreograffi gan Gary Lambert, yn waith unigol personol sy’n archwilio hunaniaeth newidiol y corff a’i berthynas â’r byd ffisegol. Cychwynnwyd y gwaith yn ymateb i gyfyngiadau corfforol ar ôl gyrfa hir Gary ym myd dawns.£10/£8

Sarah GillespieGwener 7 Mehefin 8pm Ganwyd Sarah Gillespie yn Llundain yn ferch i Americanes a Phrydeiniwr. Fe’i magwyd yn Norfolk, Lloegr – ac aeth ar dripiau niferus i Minnesota, lle daeth i gysylltiad â seiniau Bessie Smith, Bob Dylan, Cole Porter a cherddoriaeth blŵs a jazz cynnar. Mae ei cherddoriaeth yn gyfuniad o jazz, blŵs a chanu gwerin ac mae’r cyfan wedi’i blethu’n un ag arddull farddonol, ddinesig. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar ei thrydydd record hir, i’w rhyddhau ym mis Mehefin 2013.£10

www.sarahgillespie.com

“Gwirioneddol ardderchog” — Robert Wyatt

Shape Functions a Chapter yn cyflwynoIslet Sadwrn 8 Mehefin 7.30pmParti lansio ail albwm yr anturiaethwyr seic-prog o Gaerdydd ar label unigryw Shape Records.Mae ‘Released By The Movement’ yn dilyn taith lwyddiannus Islet yn y gwanwyn i ŵyl SXSW yn yr Unol Daleithiau a’i halbwm diwethaf ‘Illuminated People’ (enwebiad ar restr fer Gwobrau Cerddoriaeth Cymru y llynedd) a’u perfformiad nodedig yn Chapter yng ngŵyl Sŵn 2012.£5 ymlaen llaw / £7 wrth y drws

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

Ffin

Dan

ce (l

lun:

Pau

l Tra

sk),

Isle

t, S

arah

Gill

espi

e

Page 24: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Volcano Theatre Company BLINDAMercher 12 — Sadwrn 22 Mehefin 8pm (ag eithrio dyddiau Sul) Cyfarwyddwyd gan Paul Huw Davies Cynllunio gan Guðný Hrund SigurðardóttirSymudiadau gan Catherine Bennett Un nod sydd: arwain y gynulleidfa ar dro trwy’r synhwyrau. Camwch oddi ar y stryd i mewn i ystafell dywyll. Mae rhywun yn anadlu. Chi eich hun, efallai. Mae rhywun yn symud. Mae’r ddaear dan eich traed yn teimlo’n rhyfedd. Nid chi yw’r unig un sydd yno.Mae BLINDA yn broses o gyfnewid rhwng cynulleidfaoedd a pherfformwyr. Fe gewch chi’ch hun mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, lle’r ymddengys y gwahaniaeth rhyngoch chi ac eraill yn llai clir nag arfer. Caiff eich gweithredoedd eu hadlewyrchu a’u darlledu hefyd mewn ffyrdd na allech chi fod wedi’u dychmygu erioed.Mae BLINDA wedi’i ysbrydoli gan nofelig Dostoiefsci, Y Dwbl, lle mae dyn yn cerdded i lawr y stryd ac yn gweld rhywun sy’n edrych yn union fel ef ei hun. Mae ei fywyd yn newid am byth, o ganlyniad. Fe’ch gwahoddir i edrych yn y drych a sylweddoli na welwch chi’ch hun, am gyfnod byr beth bynnag — welwch chi ddim byd; byddwch chi wedi diflannu. A phan ddychwelwch chi, mae hi’n bosib y bydd pethau wedi newid. Dyw’r byd ddim yn union fel yr ymddengys — mae gan ddieithriaid yr union un anghenion â chi. £12/£10/£8 Rhagflas fideo: www.youtu.be/CscpjJ7m2aE

Theatr24 029 2030 4400

Page 25: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Theatr 25chapter.org

Lansio albwm Dr Freud’s Cabaret Charlotte Grieg a gwesteionIau 13 Mehefin 8pmAr ôl llwyddiant ei sioe theatr, mae Dr Freud’s Cabaret yn lansio eu halbwm Studies in Hysteria, cyfres o ganeuon wedi’u hysbrydoli gan astudiaethau achos o gleifion enwog Freud – cleifion fel y Llygoden Ffrengig, y Blaidd-ddyn a Dora. Bydd Dr Freud ei hun hefyd yn ymddangos, ac yn talu teyrnged huawdl i gocên. Mae’r caneuon yn llawn delweddau swreal — ysgubwyr simneiau, jiraffod, pince-nez coll, a menywod sy’n dawnsio’r waltz — y cyfan yn seiliedig ar dystiolaeth gan gleifion. Mae’r cantorion ar yr albwm yn cynnwys y cyfansoddwyr Charlotte Greig ac Anthony Reynolds, Euros Childs, Richard James, Jon Langford, Laura J Martin, Julie Murphy ac Angharad Van Rijswijk. Bydd hwn yn berfformiad byw gyda band cabaret llawn, detholiad o’r cantorion a gwesteion arbennig. £8/£6

“Profiad theatrig sy’n afaelgar a chofiadwy, yn gerddorol ac yn ymenyddol” Babylon Wales

Slowly Rolling CameraIau 20 Mehefin 8pmMae Slowly Rolling Camera, prosiect newydd sy’n uno’r pianydd-gyfansoddwr Dave Stapleton, y cynhyrchydd Deri Roberts, y bardd a’r canwr Dionne Bennett a’r drymiwr Elliot Bennett, yn brawf pendant bod peth o’r gwaith mwyaf diddorol yn aml yn deillio o gyfuniad o feddyliau niferus. Canlyniad y cydweithio hwn yw cerddoriaeth sy’n adleisio’n benodol y ‘traciau sain anweledig’ gan bobl fel y Cinematic Orchestra a Portishead yn ogystal ag artistiaid Llychlynaidd anghonfensiynol fel Sigur Ros a Oddarrang. Mae Slowly Rolling Camera yn cyflwyno vignettes sonig dirgel sy’n cael eu mowldio gan soffistigeiddrwydd strwythurol; mae’n teimlo fel cyfraniad o bwys i egni ac emosiwn y diwylliant poblogaidd cyfoes.£12/£10/£8

www.facebook.com/SlowlyRollingCamera

Faction Theatre Are you surprised my blood is the same colour as yours?Mercher 26 — Gwener 28 Mehefin 8pm Gan Patrick JonesCyfarwyddwyd gan Chris Durnall

Pregethwr. Gwleidydd. Dyn.Mewn man lle mae’r hyn ydych chi’n fater o fywyd a marwolaeth.Daw’r teitl o graffiti ar wal yn Kampala ac mae’r ddrama bryfoclyd hon yn archwilio bywyd a marwolaeth annhymig yr ymgyrchydd dros hawliau hoyw, David Kato, yng nghyd-destun Uganda — gwlad lle mae homoffobia ac esgeuluso hawliau dynol bellach yn bethau cyffredin. Yn seiliedig ar fisoedd o waith ymchwil a chyfweliadau â’r rheiny a wynebodd ragfarn a thrais yn y wladwriaeth Affricanaidd, mae’r gwaith yn “ffeithlen” — darn dychmygol yn seiliedig ar ffeithiau. Mae’n adrodd hanes cyflwyno’r Mesur Gwrth-Wrywgydiaeth, y bobl hynny a’i cefnogodd a’r rheiny sy’n ceisio byw yn ei gysgod.Yn ymdrin â chrefydd ffwndamentalaidd, gwrywdod, hunaniaeth a chariad, mae’r gwaith newydd a heriol hwn yn deyrnged i’r rheiny a safodd dros ryddid — a wynebu goblygiadau’r safiad hwnnw. £8/£6

+ Sesiwn holi-ac-ateb a thrafodaeth fforwm gyda gwesteion arbennig ar ôl y noson agoriadol.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Dr.F

reud

’s C

abar

et, F

acti

on T

heat

re

Page 26: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Chapter Mix26 029 2030 4400

Gwobr Digrifwyr Heb Gytundeb CymruRhagbrofion: Llun 18 Mawrth, Llun 1 Ebrill, Llun 6 Mai, Llun 20 Mai, Llun 3 Mehefin, Llun 17 Mehefin, Mawrth 2 Gorffennaf 7.30pmRownd gynderfynol: Llun 8 + Mawrth 9 Gorffennaf 7.30pmMae’r Gwobrau i Ddigrifwyr Heb Gytundeb (WUSA) (wedi’u noddi gan Glwb Glee) yn dychwelyd i Chapter am yr eildro. Nod y Gwobrau yw dod o hyd i seren gomedi nesaf Cymru ac maent yn cynnig gwobr gynhwysfawr a fydd yn hwb i’r enillydd yn y diwydiant proffesiynol. Ar ôl 7 rownd ragbrofol a dwy rownd gynderfynol yn Chapter bydd y 6 chystadleuydd gorau yn brwydro am wobr o £1000, penwythnos o gigiau proffesiynol yng Nghlwb Glee, slot yn finale mawreddog Gwyliau Comedi Caerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm ynghyd â’r teitl anrhydeddus a Fez Porffor 2013. £5 (wrth y drws) www.cardiffcomedy.co.uk

Music Geek MonthlyIau 28 Mawrth 8pm + Sadwrn 13 Ebrill 3.30pmIau 25 Ebrill 8pm + Sadwrn 11 Mai 3.30pmIau 30 Mai 8pm + Sadwrn 15 Mehefin 3.30pmIau 27 Mehefin 8pm + Sadwrn 9 Gorffennaf 3.30pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn.RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Dydd Iau Cyntaf y MisIau 4 Ebr, Iau 2 Mai + Iau 6 Mehefin 7.30pmNoson lenyddol fisol Seren a Llenyddiaeth Cymru sy’n dathlu ffuglen, gweithiau ffeithiol a barddoniaeth.Dewch draw i gwrdd ag awduron gwych ac i’w clywed nhw’n darllen o’u gwaith; neu gallwch gymryd rhan yn y sesiwn ‘meic agored,’ lle bydd cyfle i awduron newydd ddarllen cerdd neu dudalen o ryddiaith.£2.50

Clwb Comedi The DronesGwener 5 + Gwener 19 Ebrill, Gwener 3 + Gwener 17 Mai, Gwener 7 + Gwener 21 Mehefin 8.30pmClint Edwards yn cyflwyno’r digrifwyr ‘stand-up’ newydd gorau.£3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 7 Ebrill, Sul 5 Mai + Sul 2 Mehefin 8pmDewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!£4 (wrth y drws)

Darlithoedd SWDFASThe Founders and Treasures of the Wallace Collection gan Stephen DuffyIau 11 Ebrill 2pmMae’r ddarlith hon yn adrodd hanes rhyfeddol Casgliad Wallace a bydd hefyd yn gyflwyniad i nifer o’i thrysorau mwyaf gwerthfawr.£6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

The Life and Times of the Sundial gan Kevin KarneyIau 9 Mai 2pmCyflwyniad am hanes deialau amser a fydd yn cynnwys detholiad o’r hyn a oedd gan feirdd ac athronwyr i’w ddweud amdanynt ar hyd yr oesoedd.£6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le)

Buying Art for a Public Collection gan Dr. Christine EvansIau 13 Mehefin 2pmBydd y sgwrs hon yn olrhain hanes personol un a fu’n brynwr celf ar ran cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru. £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org.uk

The ForgeIau 11 Ebrill 7.30pm Mae The Forge yn galluogi artistiaid mewn disgyblaethau gwahanol i ymwneud â chynulleidfaoedd er mwyn archwilio syniadau creadigol ac i brofi gwaith sydd ganddynt ar y gweill. Bydd rhai o’r dangosiadau’n arw, bydd rhai yn barod i dderbyn adborth gan y gynulleidfa — os hoffech chi leisio barn, hynny yw. Dewch i ddarganfod y sêr mawr nesaf ac i fod yn rhan o ddatblygiad theatr a pherfformio yng Nghymru yn y dyfodol. Os hoffech chi ddangos gwaith yn The Forge, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected] £3 Cyflwynir gyda chefnogaeth hael Chapter.

Page 27: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Chapter Mix 27chapter.org

Bwrw’r Sul â Gêmau BwrddSul 14 Ebrill + Sul 12 Mai + Sul 9 Mehefin 5.30pmYmunwch â siop gêmau gyfeillgar Caerdydd, Rules of Play, yn ein Caffi Bar ar gyfer y noson gêmau fisol hon. Dewch â’ch hoff gêmau bwrdd neu dewch yn waglaw a benthycwch gêm am y noson.RHAD AC AM DDIM

Cwmni Theatr Welsh FargoOn The Edge: Tymor Ian Rowlands Fragments of Journeys Towards the Horizon gan Ian RowlandsMawrth 23 Ebrill 8pmYsgrifennwyd Fragments of Journeys Towards the Horizon ar gyfer cwmni Welsh Fargo yn benodol. Bydd yn agor yn Galway, lle mae llawer o ddramâu Rowlands eisoes wedi cael eu cyflwyno. Am nifer o flynyddoedd rheolid y theatr yno gan Michael Diskin ac fe ddatblygodd perthynas broffesiynol agos rhwng y ddau ddyn. Yn anffodus, bu farw Diskin yn ddiweddar. Cafodd ei farwolaeth ddylanwad ar y testun esblygol — monolog hardd am natur cydweithio, cyfeillgarwch a chanser. Perfformir y ddrama gan Russell Gomer.£4

Sex and Power at the Beau Rivage gan Lewis DaviesMawrth 14 Mai 8pmMae drama olaf y tymor yn adfywiad o ddrama a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Theatr y Byd, cwmni a sefydlwyd gan Rowlands yn 2003. Ysgrifennwyd Sex and Power at the Beau Rivage gan reolwr gwasg Parthian — gwasg sy’n un o brif noddwyr Welsh Fargo. Mae D H Lawrence a’i wraig Frieda yn croesawu’r awdur ifanc, uchel ei barch o Gymru, y nofelydd ac awdur straeon byrion, Rhys Davies. Mae’r profiad yn agoriad llygad i’r awdur ifanc. Cyfarwyddir y perfformiad sgript-mewn-llaw hwn gan James Ashton. £4 www.welshfargostagecompany.com

Jazz ar y SulSul 28 Ebrill + Sul 26 Mai + Sul 23 Mehefin 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM

Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna Mercher 5 Mehefin 5-7pmYdych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol ond ddim yn siŵr sut mae’r holl beth yn gweithio? Dewch draw i’r Cwtsh yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol ac anffurfiol. Perffaith ar gyfer dechreuwyr neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol eisiau magu hyder. RHAD AC AM DDIM @cantonsms

Welsh Labour FestivalGwener 28 — Sul 30 MehefinMae Gŵyl Lafur Cymru yn dychwelyd i Chapter â phenwythnos o gerddoriaeth, trafodaethau, ffilm, bwyd a hwyl. Nodwch eich diddordeb a danfonwch e-bost at [email protected]

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30-8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd.

NATIONAL THEATRE LIVE:Cynyrchiadau Theatr o Safon Byd wedi’u darlledu’n fyw o Lundain.Os hoffech chi archebu diod ymlaen llaw ar gyfer yr egwyl, gwnewch hynny yn ein caffi/bar cyn y perfformiad.

Peoplegan Alan BennettPerfformiad Encore Mercher 3 Ebrill 1.30pmMae’r awdur arobryn Alan Bennett yn cydweithio eto â’r cyfarwyddwr Nicholas Hytner a’r actores Frances de la Tour (enillydd gwobr Olivier). Gweithiodd y tri gyda’i gilydd cyn hyn ar The History Boys a The Habit of Art. Mae pobl yn difetha pethau; mae yna gynifer ohonyn nhw — a’r peth olaf mae rywun ei eisiau yw iddyn nhw lusgo’u traed drwy’r tŷ. Ond â’r parc yn debycach i jyngl a bath ar y bwrdd biliards, beth allwch chi’i wneud? Mae Dorothy (Frances de la Tour) yn meddwl taw arwerthiant atig fydd yr ateb. £13/£11/£10

Peop

le

Page 28: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema28 029 2030 4400

“ Drama ddwys am ddod-i-oed sy’n tanlinellu statws yr actores Chloe Pirrie a’r awdur-gyfarwyddwr Scott Graham fel talentau Prydeinig tra addawol.” Matthew Turner, ViewLondon

Shel

l

SInEma

Page 29: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema 29chapter.org

Song For MarionGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillDG/2012/94mun/PG. Cyf: Paul Andrew Williams. Gyda: Terence Stamp, Gemma Arterton, Christopher Eccleston, Venessa Redgrave.

Mae Arthur yn hen ddyn blin sy’n cael unrhyw fath o fynegiant emosiynol yn amhosib, boed hynny gyda’i fab neu gyda’i wraig, Marion, sy’n ddifrifol wael. Mae Marion, ar y llaw arall, yn gwneud y mwyaf o’i bywyd fel aelod o’r côr lleol. Ar ôl i iechyd Marion waethygu, mae Arthur yn cael ei orfodi i wynebu ei deimladau. Gyda pherfformiadau gwych a naturiol gan Stamp, Redgrave ac Arterton, mae hon yn stori hynod am achubiaeth. + Gydag isdeitlau meddal ar ddydd Mawrth 2 Ebrill am 5.45pm

ShellGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillDG/2012/90mun/15. Cyf: Scott Graham. Gyda: Chloe Pirrie, Joseph Mawle.

Mae Shell yn rheoli gorsaf betrol ddiarffordd gyda’i thad, Pete. Ar wahân i’r ychydig o gwsmeriaid rheolaidd (sy’n cynnwys yr ardderchog Michael Smiley), mae Shell a Pete yn cael y nesaf peth i ddim cysylltiad â’r byd y tu allan. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd am bopeth; ac mae’r anghenion hynny’n dod yn gynyddol annifyr ... Mae Graham a’r sinematograffydd Yoliswa Gartig yn cyflwyno gweledigaeth ysigol o fywyd y tu hwnt i ffiniau arferol cymdeithas ac mae perfformiad Chloe Pirrie yn wirioneddol ardderchog.

Les MiserablesGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillDG/2012/152mun/12A Cyf: Tom Hooper. Gyda: Hugh Jackman, Russell Crowe, Anne Hathaway.

Mae’r ffilm hynod boblogaidd hon yn dychwelyd i Chapter. Mae’r cyfarwyddwr, Tom Hooper [The King’s Speech, The Damned United], wedi addasu’r sioe gerdd boblogaidd ar gyfer y sgrin fawr gyda chast o sêr disglair. 3 Oscar a 4 gwobr BAFTA gan gynnwys yr Actores Orau mewn Rôl Ategol i Anne Hathaway + Gydag isdeitlau meddal ar ddydd Iau 4 Ebrill am 2.30pm

SkyfallSadwrn 30 Mawrth — Mercher 3 EbrillDG/2012/143mun/12A. Cyf: Sam Mendes. Gyda: Daniel Craig, Javier Bardem, Judi Dench.

Mae hoff Bond pawb yn gorfod profi’i deyrngarwch i M wrth i’w gorffennol hithau ymddangos eto yn y presennol. Wrth i MI6 ddod dan warchae, rhaid i 007 ddod o hyd i’r bygythiad a’i ddinistrio — waeth beth fydd y gost bersonol.2 Oscar a 2 wobr BAFTA gan gynnwys Gwobr am Ffilm Brydeinig Eithriadol.

“Mae hwn yn ddathliad egnïol, gorfoleddus a deallus o eicon diwylliannol annwyl, ac mae Daniel Craig yn mynd i hwyl gwirioneddol.” — Roger Ebert, Chicago Sun-Times

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Son

g fo

r Mar

ion,

Les

Mis

erab

les

Page 30: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema30 029 2030 4400

Beyond The HillsGwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillRwmania/2012/150mun/isdeitlau/12A. Cyf: Cristian Mungiu Gyda: Cosmina Stratan, Cristina Flutur, Valeriu Andriuţă.

Mae dwy fenyw ifanc, Alina a Voichita, yn dilyn llwybrau gwahanol ar ôl treulio’u plentyndod gyda’i gilydd mewn cartref i blant amddifad. Caiff eu cariad ei brofi pan ddychwela Alina a chael bod ffrind ei phlentyndod bellach yn lleian. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae’r ddrama ddiweddaraf hon gan Cristian Mungiu (4 Months, 3 Weeks & 2 Days) yn stori garu heb ei hail sy’n cadarnhau ei enw da ef fel un o feistri’r sinema fodern.+ Ar ddydd Mercher 23 Ebrill, ymunwch â ni yng nghlwb ffilm LGBT Chapter, Lavender Screen.

“Cyfareddol, dirgel ac ysigol — portread dirdynnol o’r modd y mae tlodi yn creu gofod a lenwir ag ofn afresymol.” — Peter Bradshaw, The Guardian

MovieMaker ChapterLlun 1 EbrillSesiwn reolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos ffilmiau byrion.RHAD AC AM DDIM

A Late Quartet Gwener 5 — Iau 18 EbrillUDA/2012/105mun/15 Cyf: Yaron Zilberman. Gyda: Catherine Keener, Christopher Walken, Philip Seymour Hoffman.

Ar ôl i sielydd pedwarawd llinynnol byd-enwog gael diagnosis sy’n newid ei fywyd, mae dyfodol y grŵp yn y fantol. Mae emosiynau cudd, cystadleuaeth rhwng egos ac angerdd afreolus yn bygwth dadwneud blynyddoedd o gyfeillgarwch a chydweithio. Â hwythau ar fin chwarae cyngerdd i ddathlu’u pen-blwydd yn 25 oed — a’u cyngerdd olaf un o bosib — dim ond eu hagosatrwydd a grym y gerddoriaeth all sicrhau eu hetifeddiaeth. + Gydag isdeitlau meddal ar ddydd Mercher 10 Ebrill am 8.30pm

In The House Gwener 5 — Iau 18 EbrillFfrainc/2013/105mun/15/isdeitlau Cyf: Francois Ozon. Gyda: Kristin Scott Thomas, Fabrice Luchini, Emmanuelle Seigner

Mae Mr Germain yn athro ysgol ac yn nofelydd wedi methu sy’n cael ei ddenu at straeon byrion ei fyfyriwr dawnus ac anarferol, Claude — gweithiau sy’n manylu ar ei archwiliad o gartref ffrind iddo. Gan gymylu’r llinellau rhwng ffuglen a realiti, mae Germain a’i wraig — yn eu hawydd i wybod mwy — yn annog yr arddegwr i dreiddio ymhellach i fywyd ei gydymaith. Ond mae’r ymyrraeth yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau nad oes modd eu rheoli. Yn ei archwiliad o voyeuriaeth a defnydd pobl o bobl eraill, mae hon yn ffilm gyffro ddeniadol ag iddi synnwyr digrifwch hynod ddrygionus.

“Mae’n symud yn ddiymdrech rhwng genres, tonau ac arddulliau ...Comedi dywyll sy’n pefrio ac yn llawn perfformiadau gwych.” Tom Dawson, The List

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Bey

ond

The

Hills

, A L

ate

Quar

tet

Page 31: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

chapter.org 31Sinema

BrokenGwener 5 — Iau 11 EbrillDG/2012/91mun/15 Cyf: Rufus Norris. Gyda: Tim Roth, Cillian Murphy, Rory Kinnear

Mae gwyliau’r haf newydd ddechrau ac mae Skunk, tomboi hawddgar, yn treulio’i dyddiau’n diogi ac yn gwylio’r teuluoedd sy’n byw yn ei cul-de-sac maestrefol. Wrth i’r dyddiau fynd rhagddynt, mae hi’n dechrau colli’i diniweidrwydd wrth iddi weld peth o’r arswyd sy’n ei disgwyl pan ddaw hi’n oedolyn ei hun. Ar ôl gweld y cymdogion creulon yn bwlio’r ‘loner’ bregus gyferbyn a sylwi ar gymhlethdodau carwriaethol cymdogion eraill, rhaid i Skunk wneud penderfyniadau nad yw hi eto’n barod i’w deall. Gyda pherfformiadau hardd a sgôr cynnil gan Damon Albarn, mae hon yn ffilm gyntaf drawiadol gan y cyfarwyddwr theatr o fri, Rufus Norris.

Clwb Ffilmiau Gwael EegahSul 7 EbrillUDA/1962/90mun/PG Cyf: Arch Hall Sr. Gyda: Arch Hall Jr, Marilyn Manning, Richard Kiel

Beth fyddech chi’n ei wneud tasech chi’n arddegwr ac yn dod ar draws dyn cyntefig? Neu, cwestiwn pwysicach efallai, beth fyddech chi’n ei wneud tasech chi’n ddyn cyntefig ac yn dod ar draws arddegwr am y tro cyntaf? Byddech chi’n mynd ychydig bach yn wyllt, mae’n siŵr. Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn ei ôl ychydig yn gynt nag arfer er mwyn cynhesu mis Ebrill â dangosiad o Eegah. Mae merch yn ei harddegau, ei chariad a’i thad yn dod at ei gilydd i oresgyn dyn cyntefig rhempus mewn ffilm y mae rhai wedi’i galw’n “ysgytwol a ffiaidd” ac eraill wedi’i galw’n “annwyl a phathetig”. Ond peidiwch â chredu’r bobl hynny — dewch i weld pa mor ofnadwy yw’r ffilm hon drosoch chi’ch hun.

Stoker Gwener 5 — Iau 11 EbrillUDA/2012/mun/18 Cyf: Park Chan-wook. Gyda: Mia Wasikowska, Nicole Kidman, Matthew Goode

Ar ôl i dad annwyl India farw mewn damwain car, daw Uncle Charlie ar ymweliad. Doedd India ddim yn gwybod am ei fodolaeth ef cyn hynny ond mae e’n dod i fyw gyda nhw beth bynnag — ei mam emosiynol ansefydlog a hi. Toc wedi iddo gyrraedd, mae India’n dod i amau bod gan y dyn dirgel, deniadol hwn gymhellion cudd. Ond yn hytrach na theimlo dicter neu arswyd, mae’r ferch unig yn ei chael ei hun yn closio ato. Mae ffilm Saesneg gyntaf hir-ddisgwyliedig y cyfarwyddwr o Gorea, Park Chan-Wook (Oldboy), yn stori dylwyth teg gothig a synhwyrus sy’n siŵr o’ch swyno.

“Nod Park yw chwalu ffurfiau nid cydymffurfio. Gwerthfawrogwch Stoker am yr hyn ydyw: gwaith llawn cyffro, llawn harddwch ffyrnig.” — Rolling Stone+ Beth am roi cynnig hefyd ar Evil Dead (t33), Faust (t37) a The ABCs of Death (t38)?

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Bro

ken,

Sto

ker

Page 32: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema32 029 2030 4400

Yr Italian StallionSul 7 Ebrill

RockyUDA/1976/119mun/12A Cyf: John G Avildsen. Gyda: Sylvester Stallone, Talia Shire

Mae Rocky Balboa yn baffiwr anaddawol mewn clwb yn Philadelphia. Ond mae ffawd yn cynnig y cyfle iddo ymladd pencampwr pwysau trwm y byd ac mae Rocky’n gwybod taw hwn fydd ei unig gyfle i fod yn seren ac i brofi’i hun! Enwebwyd y ffilm am 10 Gwobr Oscar ac fe enillodd Wobr yr Academi am y Ffilm Orau.

Rocky 2UDA/1979/118mun/PG Cyf: Sylvester Stallone. Gyda Talia Shire, Sylvester Stallone.

Yn y dilyniant poblogaidd hwn — a arweiniodd at gynulleidfaoedd mewn sinemâu’n codi i’w traed a bloeddio — mae Rocky’n cael ei drechu gan Apollo Creed ac yn penderfynu ymddeol i fyw bywyd hamddenol gyda’i wraig Adrian. Yn anffodus, mae e’n gwario’i holl arian ac yn gorfod derbyn cynnig Creed o ail ornest.

Surely you can’t be serious: Deuawd o ffilmiau Leslie NielsenSul 14 Ebrill

Airplane!UDA/1980/97mun/12A Cyf: Jim Abrahams, David Zucker. Gyda Robert Hayes, Julie Hagerty, Leslie Nielsen

Yn methu ag anghofio cariad ei fywyd, mae Ted Striker yn dilyn Elaine ar yr awyren lle mae hi’n gweithio fel aelod o griw’r caban. Dyw Elaine ddim eisiau bod gyda Ted mwyach ond ar ôl i’r criw a’r teithwyr gael eu taro’n wael gan wenwyn bwyd, mae llygaid pawb ar Ted, y cyn-beilot sy’n ofni hedfan.

Naked GunUDA/1988/95mun/15 Cyf: David Zucker. Gyda Leslie Nielsen, Pricilla Presley, OJ Simpson.

Mae’r heddwas anghymwys Frank Drebin yn gorfod chwalu cynllwyn i lofruddio’r Frenhines Elizabeth II.

Yn dilyn thema Art Car Bootique mis Ebrill — pleserau cudd — dyma ddetholiad o ffilmiau sy’n ein plesio ni’n arw — nid y bydden ni’n cyfaddef hynny wrth ein ffrindiau mewn dadleuon am y ‘10 Uchaf’... Fy hun, dw i’n meddwl bod y ffilmiau hyn yn llawer rhy dda i gael eu hystyried yn bleserau cudd — ond mater o farn yw hynny!Gellir prynu tocynnau ar gyfer pob ffilm yn unigol neu fe gewch chi docyn dwbwl am ddim ond £10.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Roc

ky, N

aked

Gun

Pleserau Cudd

Page 33: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

chapter.org 33Sinema

Teenage Kicks: Deuawd o ffilmiau John HughesSul 21 Ebrill

The Breakfast ClubUDA/1985/97mun/15 Cyf: John Hughes. Gyda Emilio Estevez, Judd Nelson, Molly Ringwald

Mae pum disgybl ysgol uwchradd yn cwrdd ar ôl cael eu cadw yn ôl ar ôl ysgol. Maen nhw’n siarad am eu teimladau a’u hargraffiadau dyfnaf ac yn cael bod ganddynt fwy yn gyffredin nag y tybiasant.

Weird ScienceUDA/1985/94mun/12A Cyf: John Hughes. Gyda Anthony Michael Hall, Kelly Le Brock

Mae Gary a Wyatt, dau ddisgybl cyffredin, yn cysylltu cyfrifiadur â phob offeryn trydanol yn y tŷ er mwyn creu merch eu breuddwydion, ffantasi mewn cig a gwaed. Ond a fydd hi’n ateb eu holl broblemau — neu’n arwain at gyfres o broblemau newydd?

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Bre

akfa

st C

lub,

Evi

l Dea

d

Art Car BootiqueSul 14 Ebrill Gweler t12 am fanylion

Evil DeadGwener 26 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2012/90mun/18 Cyf: Fede Alvarez. Gyda Elizabeth Blackmore, Jane Levy, Jessica Lucas

Mae merch ifanc o’r enw Mia yn mynd i gaban diarffordd yn y goedwig gyda’i brawd a grŵp o ffrindiau, lle maen nhw’n darganfod Llyfr y Meirw; mae hwnnw’n esgor ar arswyd annychmygadwy. Heb unrhyw effeithiau CGI, mae’r fersiwn newydd hirddisgwyliedig hon o glasur Sam Raimi (y ‘video nasty’ gwreiddiol) yn driw i’r ffilm gyntaf. Gweithiodd y cynhyrchwyr Raimi, Campbell a Tapert yn agos â’u dewis nhw o gyfarwyddwr, Fede Alvarez.

“Mae’r fersiwn newydd hon yn mynd i fod yn wych — dw i’n addo” Bruce Campbell

Ymunwch â ni ... am ddangosiad dwbl o’r Evil DeadSul 28 Ebrill

Evil Dead 2UDA/2013/90mun/18 Cyf: Sam Raimi Gyda: Bruce Campbell, Sarah Berry, Dan Hicks

Mae Ash yn ail-ymweld â’r caban gyda’i gariad Linda ac yn dod o hyd i chwaraewr tapiau sy’n gwysio ysbrydion y fall i feddiannu enaid Linda. Ar ôl goroesi ymosodiad gan y diafol ei hun, ac un arall gan gorff Linda, mae Ash yn llwyddo i weld golau dydd o’r newydd — ond mae her newydd yn ei wynebu yn y bore, wrth iddo ddod i gysylltiad â merch yr athro prifysgol a recordiodd y tâp gwreiddiol. Yn llawn hiwmor gwawdlyd, mae hwn yn ddilyniant egnïol ac afreolus.

Army of DarknessUDA/1993/81mun/15 Cyf: Sam Raimi Gyda: Bruce Campbell, Embeth Davidz, Marcus Gilbert

Mae Ash, sydd wedi colli un o’i freichiau, yn cael ei gludo gan rymoedd maleisus mewn llyfr dirgel yn ôl mewn amser i wlad ganoloesol. Â dim ond dryll, llif gadwyn a gwerslyfr gwyddoniaeth, mae e’n gorfod brwydro’r grymoedd dieflig sydd ar gerdded yno. + Beth am roi cynnig hefyd ar Stoker (t31), Faust (t37) a The ABCs of Death (t38)?

Page 34: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema34 029 2030 4400

Reincarnated Gwener 12 — Iau 18 EbrillUDA/2013/99mun/15 Cyf: Andy Capper. Gyda Snoop Dogg, Bunny Wailer

Mae angen i seren ym myd cerddoriaeth sy’n awyddus i aros ar y brig wybod sut i ailddyfeisio’i hun. Mae’r cyfarwyddwr Andy Capper yn cyfleu metamorffosis ac yn canolbwyntio ar gyfnod o fis yng ngyrfa Calvin Broadus Jr, yr artist a elwid gynt yn Snoop Dogg. Mae e’n cymryd enw newydd, Berhane (“The Light”) — ac enw llwyfan newydd a marweddog hefyd, Snoop Lion. Mae Snoop yn cyfnewid ei yrfa flaenorol fel hyslwr am oleuedigaeth ac yn troi ei ddatganiadau blaenorol ar eu pennau (o “Murder Was The Case” i “No Guns Allowed”), mewn ffilm ddogfen sy’n bortread doniol ac onest, ac yn llawn o olygfeydd annisgwyl a cherddoriaeth wych.

NBCQ: Flying Blind Sadwrn 13 — Iau 18 EbrillDG/2013/88mun/15 Cyf: Katarzyna Klimkiewicz Gyda: Helen McCrory, Najib Oudghiri, Kenneth Cranham

Mae peiriannydd awyrofod gwych yn ei chael ei hun mewn perthynas â myfyriwr iau wrth iddi weithio ar gontract llywodraethol i greu awyren milwrol. Wrth i ddyddiad cau y cytundeb agosáu, mae’r amheuon ynglŷn â’i chariad newydd yn cynyddu ac mae hi’n dod i ddeall mwy am natur ddirgel ei gyrfa broffesiynol a’i bywyd personol. Mae hon yn ffilm erotig gyntaf gan y cyfarwyddwr Klimkiewicz sy’n cynnwys perfformiad sicr gan Helen McCrory fel menyw y mae ei hunanhyder yn dechrau datod yn wyneb profiadau angerddol annisgwyl.+ Yn rhan o’r New British Cinema Quarterly, byddwn yn cynnal sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad ar ddydd Sadwrn 13 Ebrill www.nbcq.co.uk

Top:

Rei

ncar

nate

d, g

wae

lod:

Sid

e By

Sid

e

Side By Side Gwener 12 — Iau 18 EbrillUDA/2013/99mun/15 Cyf: Christopher Kenneally Gyda: Keanu Reeves, James Cameron, Martin Scorsese, David Lynch

Ers blynyddoedd cyntaf y sinema, mae gwneuthurwyr ffilmiau wedi arbrofi ac addasu eu gwaith yn unol â’r dechnoleg a oedd ar gael iddynt. Mae’r ffilm ddogfen hon yn ymchwilio i hanes ffilm ffotogemegol a ffilm ddigidol ac yn cynnwys sylwebaeth gan ei chynhyrchydd, Keanu Reeves, a fu ar flaen y gad ei hun yn ei ffilmiau gyda’r brodyr Wachowski. Mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau gyda chyfarwyddwyr, ffotograffwyr sinema a gwyddonwyr, sy’n datgelu eu profiadau a’u teimladau personol am weithio gyda chyfryngau gwahanol, ac yn gip amserol ar effeithiau’r chwyldro digidol ar ffilm yn yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt.

Page 35: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

TranceGwener 19 Ebrill — Iau 2 MaiDG/2013/105mun/15 Cyf: Danny Boyle Gyda James McAvoy, Vincent Cassel, Rosario Dawson

Mae Simon, arwerthwr celfyddyd gain sy’n gyfrifol am werthu darlun gan Goya, yn dod i gysylltiad â gang o droseddwyr sydd eisiau dwyn y darn amhrisiadwy. Ar ôl ergyd i’w ben yn ystod yr heist, mae e’n anghofio’n llwyr lle cuddiodd e’r llun. Ar ôl i fygythiadau corfforol ac artaith fethu ag arwain at atebion, mae arweinydd y gang, Frank, yn talu’r hypnotherapydd Elizabeth Lamb i chwilio yng nghilfachau tywyllaf psyche Simon. Wrth i Elizabeth ddechrau datod cymhlethdodau ei isymwybod drylliedig, mae’r ffiniau rhwng gwirionedd a thwyll ac awgrym yn dechrau pylu. Â’r ffilm gyffro ysigol, lawn steil hon, mae Boyle yn dychwelyd i’r sinema ar ôl blwyddyn pan enillodd statws trysor cenedlaethol iddo’i hun am ei waith ar seremoni agoriadol y Gêmau Olympaidd. + Gydag isdeitlau meddal ar ddydd Mercher 24 Ebrill am 2.30pm

The Incredible Burt WonderstoneSadwrn 13 — Mercher 17 EbrillUDA/2013/100mun/15 Cyf: Don Scardino Gyda: Steve Carell, Steve Buscemi, Jim Carrey, Alan Arkin

Mae ffefrynnau Las Vegas, Burt Wonderstone a’i ‘sidekick’ Anton, wedi gadael i’w sioe ddyddio — ac mae Steve Gray wedi dwyn eu cynulleidfa â’i driciau hyd a lledrith gerila. Mae Burt yn ei gael ei hun yn ddi-waith, yn ddiobaith ac yn dlawd. Rhaid iddo fynd ar ofyn ei fentor gwreiddiol, Rance Hanson, i geisio adfywio ei yrfa fel consuriwr.

RealityGwener 19 — Iau 25 EbrillYr Eidal/2012/116mun/15/isdeitlau Cyf: Matteo Garrone Gyda Aniello Arena, Paola Minaccioni, Loredana Simoli

Mae Luciano, yn werthwr pysgod hynaws sy’n datblygu obsesiwn â bod yn gystadleuydd ar sioe realiti ac yn dychmygu’r cyfoeth a’r enwogrwydd a ddaw yn sgil hynny. Wedi’i lywio gan ei freuddwydion, caiff ei arwain ar hyd llwybr o ganfyddiadau ffug a pharanoia tan i realiti Luciano ddechrau trawsffurfio’n gyfan-gwbl. Mae’r stori afreolus hon, gan gyfarwyddwr Gomorrah — sy’n ymdebygu i ffilm gan Fellini — yn dychanu’r obsesiwn modern ag enwogrwydd er ei fwyn ei hun ac yn archwiliad o’n syniad cyfoes o gymuned.

Sinema 35chapter.orgCh

wit

h:Tr

ance

, gw

aelo

d: R

ealit

y

Page 36: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema36 029 2030 4400

The Place Beyond The PinesGwener 19 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2013/140mun/TICh Cyf: Derek Cianfrance. Gyda Ryan Gosling, Bradley Cooper, Eva Mendes

Mae Luke yn symud byth a hefyd, perfformiwr triciau beic modur sy’n teithio o dref i dref gyda’r carnifal. Wrth iddo basio trwy ei dref enedigol, mae’n ceisio ailgysylltu â chyn gariad iddo ac yn dysgu ei bod hi, yn ystod ei absenoldeb, wedi rhoi genedigaeth i’w mab nhw, Jason. Yn benderfynol o adael y bywyd crwydrol a gofalu am ei deulu, caiff ei wthio mewn i yrfa newydd — fel lleidr banciau — gan ffrind amheus. Ond dim ond mater o amser yw hi cyn i Luke ddod i gysylltiad â’r heddlu – y cop lleol uchelgeisiol, Avery Cross, a’i fos llygredig. Ffilm gyffro uchelgeisiol yn llawn ‘swagger’ hyderus a sgôr afaelgar gan Mike Patton o Faith No More. Mae’r ffilm yn ddilyniant egnïol i ddrama ddelicet Cianfrance, Blue Valentine.

The

Plac

e Be

yond

The

Pin

es

Graham JonesPrif Daflunydd Fe alwodd Ken Loach heibio’r bwth taflunio yn ddiweddar i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le ar gyfer y dangosiad o The Spirit of ‘45. Er treulio miloedd o oriau ar y cynhyrchiad, mae e’n gwybod bod safon y cyflwyniad terfynol yn hollbwysig. Mae Side by Side (t34) yn edrych ar y daith ddi-droi’n-ôl o sinema analog i ddigidol; hwyl fawr i riliau trwm o ffilm 35mm bregus, henffych ddisgiau caled, lloerennau a ffrydio! Ond gwahanol ffyrdd o gyflawni’r un nod yw’r rhain. Byddwn yn parhau i gyflwyno ffilmiau mewn ffyrdd sy’n deilwng o fwriadau’r cyfarwyddwr ac o gynulleidfa frwdfrydig Chapter…

Page 37: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema 37chapter.org

The Spirit of ‘45Gwener 19 — Mawrth 23 EbrillDG/2013/98mun/U Cyf: Ken Loach. Gyda Ray Davies, Tony Benn

Roedd 1945 yn flwyddyn dyngedfennol yn hanes Prydain. Esgorodd yr undod a alluogodd i Brydain oroesi’r rhyfel, ynghyd ag atgofion chwerw o’r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, at weledigaeth o gymdeithas well. Mae Loach wedi creu naratif gwleidyddol a chymdeithasol cyfoethog sy’n defnyddio deunydd archif o’r cyfnod a chyfweliadau cyfoes â phobl sy’n cofio’r adegau hynny, fel y cyn-löwr, Ray Davies, o Gaerffili, a’r meddyg teulu arloesol o’r Cymoedd, Dr Julian Tudor-Hart.

Acoustic Routes Mawrth 23 + Mercher 24 EbrillDG/1992/102mun/12A Cyf: Jan Leman Gyda: Bert Jansch, Wizz Jones, Ralph McTell, Davey Graham

Wedi’i lleisio gan ffan enwog, Billy Connolly, mae’r ffilm yn adrodd stori’r gitarydd a’r canwr Bert Jansch, ffigwr amlwg yn nadeni cerddoriaeth werin Prydain y 1960au. Yn gymysgedd eclectig o ddylanwadau jazz, blŵs a cherddoriaeth glasurol a Cheltaidd, roedd purdeb ei sain fel petai’n cuddio natur hynod dechnegol ei chwarae. Fel bachgen yn ei arddegau, yn y 1960au cynnar, eisteddodd Bert wrth draed Brownie McGhee, a chael ei hudo gan ei chwarae ef. Ac â meistrolaeth syfrdanol wedyn, lluniodd ddehongliadau godidog o ganeuon blŵs a cherddoriaeth draddodiadol ar ei gitâr acwstig. Cafodd y gerddoriaeth ddylanwad pellgyrhaeddol ar genhedlaeth o gerddorion, gan gynnwys Bob Dylan a Neil Young, ac mae hi’n ysbrydoli cenedlaethau newydd o gitaryddion a chantorion heddiw. Wedi’i hail-fastro a’i diweddaru ar gyfer 20fed pen-blwydd ffilm wreiddiol y BBC, mae’r gwaith hwn yn cynnwys nifer o berfformiadau nas gwelwyd o’r blaen gan Jansch a’i gyfoeswyr.+ Ymunwch â ni am sesiwn-holi-ac-ateb gyda’r cerddorion Robin Williamson, Rhodri Viney a Chris Fowler ar Mawrth 23 Ebrill.

MAN ARALL

Faust yn y Coleg Cerdd a DramaGwener 19 EbrillYr Almaen/1926/115mun/Ffilm dawel gyda chyfeiliant byw Cyf: FW Murnau Gyda: Gosta Ekman, Emil Jannings, Camilla Horn

Mae Duw a Satan yn brwydro am reolaeth o’r Ddaear ac yn betio enaid yr alcemydd sanctaidd, Faust. Pan ddaw’r pla i’w bentref, mae Satan yn anfon y cythraul Mephisto i’w demtio â ieuenctid, rhamant ac atebion i broblemau’r pentrefwyr. A fydd e’n sylweddoli difrifoldeb ei gamweddau ac yn dod o hyd i achubiaeth cariad? Caiff y cynhyrchiad crand a thrawiadol hwn ei gyflwyno i gyfeiliant trac sain byw wedi’i greu a’i berfformio gan Steepways Sound Collective, sy’n defnyddio offer acwstig a synau wedi’u prosesu. £12/£10

+ Beth am roi cynnig hefyd ar Stoker (t31), Evil Dead (t33) a The ABCs of Death (t38)?

+ Cynhadledd Cysylltu Cynulleidfaoedd Arweiniad anhepgor i’r berthynas ddatblygol rhwng cynulleidfa a chynnwys mewn oes ddigidol a deunydd sydd ar gael “ar gais”. Bydd y digwyddiad undydd hwn yn cynnwys prif araith gan yr Arglwydd David Puttnam, seminarau, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio. I gael manylion a gwybodaeth am docynnau, ewch i www.filmagencywales.com neu dilynwch @FilmAgencyWales ar Twitter

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Aco

usti

c Ro

utes

, Fau

st

Page 38: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema38 029 2030 4400

The ABCs of DeathGwener 26 Ebrill UDA/Byd-eang/2012/124mun/18 Cyf: amrywiol. Gyda: Ingrid Bolso Berdal, Ivan Gonzalez, Kyra Zagorsky

Chwech ar hugain o gyfarwyddwyr. Chwech ar hugain o ffyrdd o farw. Y ffilm flodeugerdd fwyaf uchelgeisiol erioed, efallai, â segmentau wedi’u cyfarwyddo gan fwy na dau ddwsin o dalentau arswyd cyfoes mwyaf blaenllaw’r byd. Wedi’i hysbrydoli gan lyfrau addysgol i blant, mae’r ffilm yn cynnwys 26 o benodau unigol; mae pob un wedi’i chyfarwyddo gan gyfarwyddwr y neilltuwyd iddo un llythyren o’r wyddor. Cafodd y cyfarwyddwyr ryddid wedi hynny i ddewis un gair ac i greu stori am farwolaeth ar sail y gair hwnnw. Pryfoclyd, brawychus a doniol — allwch chi oroesi tan y sgrech olaf?+ Beth am roi cynnig hefyd ar Stoker (t31), Evil Dead (t33) a Faust (t37)?

Side EffectsGwener 26 Ebrill — Iau 2 MaiUDA/2013/106mun/15 Cyf: Steven Soderberg. Gyda: Jude Law, Rooney Mara, Channing Tatum

Ar ôl i’w gŵr, sy’n rheolwr ‘hedge fund’ gael ei garcharu am fasnachu mewnol, mae Emily’n dioddef o iselder ac, er gwaethaf aduniad â’i gŵr, yn byw mewn anobaith. Ar ôl newid meddygon a meddyginiaethau, mae ei seiciatrydd newydd, Jonathan Banks, yn rhagnodi meddyginiaeth newydd o’r enw Ablixa — ond mae sgil-effeithiau’r cyffur hwn yn arwain at ganlyniadau peryglus. Mae’r ffilm gyffro ardderchog hon — ei ffilm olaf un, meddai Soderberg — yn sylw amserol ar ein dibyniaeth fel cymdeithas ar feddyginiaethau a bas gysuron cyfoeth.

MAN ARALLNoys R Us ym Mar Roc a Chlwb Nos BogiezMae Sinema Chapter, ar y cyd â Bar Roc a Chlwb Nos Bogiez, yn cyflwyno Noson Ffilm Noys R Us. Ar ddydd Sul olaf y mis byddwn yn dangos eich hoff ffilmiau alt/roc/metal/pync yn eich hoff glwb roc. Yfwch, ymlaciwch a gwyliwch rai o’r ffilmiau cerddorol mwyaf ffrwydrol erioed.

Oil City ConfidentialSul 28 Ebrill Drysau’n agor am 7pm, ffilm am 8pmDG/2009/104min Cyf: Julien Temple

Ffilm Julien Temple, ‘Oil City Confidential’, am Dr Feelgood fydd yn lansio’n tymor o ffilmiau cerddoriaeth. Yn y 70au cynnar, ymddangosodd pedwar dyn mewn siwtiau rhad o Canvey Island i grafu wyneb roc a rôl a gadael dinistr tanllyd yn eu hôl. Ar ôl disgleirio yn sîn Llundain, fe wibion nhw drwy Ewrop a siartiau’r DG cyn mewnffrwydro — ar yr union eiliad yr oedd pync yn dechrau ac America’n gwahodd ... Daw aelodau o The Clash, Blondie a The Sex Pistols at ei gilydd, gydag aelodau Dr Feelgood, i adrodd hanesion am Canvey, Lloegr y 70au a band lleol gorau’r byd. Bydd yr holl elw o’r dangosiad yn cael ei gyfrannu at Ymchwil Canser y DG.

Mae tocynnau’n £5 a gellir eu prynu drwy Chapter ac yn Bogiez www.bogiez.com

The

ABCs

of D

eath

Page 39: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Sinema 39chapter.org

Efallai bod rhuthr gwyllt tymor yr Oscars ar ben am flwyddyn arall ond mae yna wanwyn cyffrous yn ein haros ym myd y sinema: comedi dywyll ogoneddus newydd gan Pedro Almodovar, I’m So Excited; Steve Coogan yn chwarae rhan dyn cyfoethocaf Prydain yn ffilm Michael Winterbottom, The Look Of Love; fersiwn hir-ddisgwyliedig Baz Luhrmann o The Great Gatsby. Hefyd ar y sgrin fawr fydd ffilm gyffro afaelgar Pablo Trapero am slymiau Buenos Aires, White Elephant. Bydd yna gyfle arall hefyd i chi weld y ffilm ddogfen rymus, McCullin, yn rhan o Ŵyl Ffotograffiaeth Diffusion, a gynhelir mewn lleoliadau ledled Caerdydd ym mis Mai – gewler tudalennau 4-7 a www.diffusionfestival.orgBydd popeth yn troi’n wyrdd ym mis Mehefin wrth i Ŵyl Ffilm Werdd y DG ddychwelyd ac fe allwch chi ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd a Gŵyl Caerdydd: Un Blaned ledled y ddinas. Bydd yna lawer o weithgareddau hwyliog yn ogystal ag awgrymiadau dyfeisgar ar gyfer achub y blaned — fel gwerthu ffilmiau cartref erotig ar y rhyngrwyd — gweler ffilm Michal Marczak, Fxxk For Forest.

Gyda

’r cl

oc, o

’r ch

wit

h uc

haf:

Whi

te E

leph

ant,

The

Gre

at G

atsb

y, M

cCul

lin, T

he L

ook

of L

ove

I ddod

Page 40: Chapter Ebrill Mai Mehefin 2013

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

Sammy’s Great Escape [2D]Gwener 29 Mawrth — Iau 4 EbrillUDA/2012/92mun Cyf: Vincent Kesteloot, Ben Stassen. Gyda Pat Carroll, Carlos McCullers II

Tra bod Sammy a Ray yn gofalu am eu crwbanod newydd-anedig, daw potsiwr i’w dwyn nhw a’u cymryd i fod yn rhan o sioe acwariwm. Ar ôl cynllunio dihangfa fentrus, caiff Sammy ei aduno â Shelly, ei gariad cyntaf.

The MuppetsGwener 5 — Sul 7 EbrillUDA/2011/109mun/U Cyf: James Bobin. Gyda Amy Adams, Jason Segel, Kermit y Broga, Yr Arth Fozzy

Mae Walter, ffan mwyaf un y Muppets, a’i ffrindiau, Gary a Mary, yn dysgu am gynlluniau dyn olew barus, Tex Richman, i ddinistrio Theatr y Muppets. Er mwyn achub y theatr, rhaid iddyn nhw aduno’r hen griw a chyflwyno’r Muppet Show gorau erioed!

Muppets Take ManhattanSadwrn 13 EbrillUDA/1984/94mun/U Cyf: Frank Oz Gyda: Jim Henson, Joan Rivers, Liza Minnelli

Mae’r Muppets yn dyheu am gael cyflwyno sioe gerdd ar Broadway ac mae Kermit eisiau digon o arian i allu priodi Miss Piggy. A all y ddau ddymuniad gael eu gwireddu? A fydd yna ddigon o amser i bob un gymryd ei le ar y llwyfan cyn i’r llen godi?

Muppets From SpaceSadwrn 20 EbrillUDA/1999/87mun/U Cyf: Tim Hill. Gyda: Jeffrey Tambor, Ray Liotta, Andie McDowell, Frank Oz

Mae Gonzo’n darganfod rhywbeth syfrdanol — mae ei rieni yn estroniaid o alaeth arall yn y gofod pell! Wrth iddo geisio dod o hyd i’w wreiddiau, mae’n ei gael ei hun yn rhan o gynllwyn dirgel gan y llywodraeth, dan arweiniad dyn drwg o’r enw K Edgar Singer.

Jack The Giant Slayer [2D]Sadwrn 27 EbrillUDA/2013/114mun/12A Cyf: Bryan Singer Gyda Nicholas Hoult, Ewan McGregor

Caiff hen ryfel ei hailgynnau pan mae gwas ffarm ifanc, yn ddiarwybod iddo, yn agor porth rhwng ein byd ni a hil o gewri arswydus. Yn rhydd ar y Ddaear am y tro cyntaf ers canrifoedd, mae’r cewri’n ymdrechu i adennill y tir a gollasant gan orfodi Jack i frwydro am ei fywyd i roi stop arnynt.

Carry On Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming! yn galluogi rhieni neu ofalwyr i weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i weld manylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod sy’n flwydd oed neu’n iau.Mynediad am ddim i fabanod. Nodwch os gwelwch nad yw tocynnau ar gyfer y dangosiadau hyn ar gael ar-lein. Dim mynediad oni bai bod babi gennych!

Gweler www.chapter.org am fanylion Ffilmiau Eraill i’r Teulu Cyfan ym misoedd Mai a Mehefin.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Mup

pets

, Jac

k Th

e Gi

ant

Slay

er

Sinema40 029 2030 4400