ebrill 2013
DESCRIPTION
Businessline newsletterTRANSCRIPT
C y l c h ly thy C y l c h ly thy Eb r i l l Eb r i l l 20132013
Rhifyn : 13
FfonFfon : : (01978) 292092(01978) 292092
EbostEbost : : [email protected]@wrexham.gov.uk
GwefanGwefan : : www.wrexham.gov.uk/businesslinewww.wrexham.gov.uk/businessline
Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y
cylchlythyr.cylchlythyr.
Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu
cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni
ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.
TudalenTudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnesY diweddaraf o fyd busnes
TudalenTudalen 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes
Tudalen 3Tudalen 3 : Manteision rhannu eich gwasanaethau a’ch cynnyrch: Manteision rhannu eich gwasanaethau a’ch cynnyrch
TudalenTudalen 4: Pam defnyddio astudiaethau achos ar eich gwefan? 4: Pam defnyddio astudiaethau achos ar eich gwefan?
Golwg ar becyn gwasanaeth y Ll inel l fusnesGolwg ar becyn gwasanaeth y Ll inel l fusnes
TudalenTudalen 5: 5: Pethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis Ebri l lPethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis Ebri l l
Y diweddaraf o fyd busnes
• Her i fentergarwyr - TestTown – deg mil o bunnoedd a’r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygu canol trefi:
http://ow.ly/jEX22
• Cyfle i gamu i ffau Y Dreigiau Gwyllt! http://ow.ly/jEWIu
• Arian ar gyfer cwmnïau lletygarwch a bwyd: http://ow.ly/jEVcC
• Canllaw AM DDIM i Gyllideb 2013, gyda dadansoddiad arbenigol a chyngor i’ch busnes:
http://ow.ly/jETSs
• Gwasanaeth argraffu a phost rhad i fusnesau: http://ow.ly/jETlI
• Nodweddion pwysig gwefan yn 2013: http://ow.ly/jESXK
• Pymtheg ap ar-lein gwych ar gyfer hyrwyddo eich cwmni: http://ow.ly/jESKH
• Pedwar yswiriant i’w hystyried ar gyfer eich busnes: http://ow.ly/jESxI
• Chwe pheth sy’n medru dinistrio cwmni: http://ow.ly/jESoq
• E-lyfr AM DDIM gyda 50 awgrym effeithiol ond rhad ar gyfer marchnata: http://ow.ly/jdKTB
• Marchnata cynnwys – “darparu gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid posib drwy flog, podlediad,
neu fideo”: http://ow.ly/jdHZt
• Os nad ydych yn gyfarwydd â marchnata, mae creu brand o’r cychwyn cyntaf yn medru ymddangos
yn frawychus. Dyma ychydig o gymorth a chysur: http://ow.ly/jdJM6
• E-fasnach - cyfloed di-ben-draw i fasnachwyr bach: http://ow.ly/jdHtw
• Gŵyl fasnachu fwyaf Prydain yn dod i Lerpwl: http://ow.ly/jdKeo
• Ysgogi’r dorf; dod o hyd i gwsmeriaid ar-lein, a’i denu nhw atoch chi: http://ow.ly/jdEdG
• Chwilio am fenter busnes? http://ow.ly/jdBiX
• Y deg awgrym gorau i osgoi treth: http://ow.ly/jdGB0
• PleaseFund.Us – ariannu syniadau gwych: http://ow.ly/jdD0v
• Y fframwaith ar gyfer busnesau twristiaeth ddigidol – hwb enfawr i’r diwydiant croeso:
http://ow.ly/jFE0P
01978 292092
Gallwn eich helpu i:
• Gynyddu eich busnes
• Marchnata eich busnes
• Ymchwilio i’ch marchnad
• Gwirio credyd cwmnïau
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gogledd Ddwyrain Cymru
Rhieni sy’n gweithio:
• Cymorth i ddod o hyd i ofal plant a chostau gofal plant
• Cael cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cael gafael ar gredydau treth
• Cyllid teulu
Cyflogwyr:
• Cymorthfeydd gwybodaeth er mwyn rhoi cymorth i’r gweithwyr
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cymorth er mwyn cael llai o absenoldeb a dal gafael ar ragor o weithwyr
• Cynorthwyo’r gweithwyr trwy roi hyfforddiant iddynt a’u helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa
01978 292094
www.wrexham.gov.uk/fis
Erthygl nodwedd Llinellfusnes
Mae’r Llinellfusnes wrthi’n creu pecyn hysbysebu lleol, sy’n rhestru cyfleoedd i fusnesau lleol hen a
newydd. Mi fydd y pecyn yn cynnwys cyfleoedd hysbysebu mewn:
• Papurau newydd a gwefannau
newyddion lleol
• Cylchgronau cymunedol lleol
• Gwasanaethau marchnata
uniongyrchol i gartrefi
• Cyfleoedd drwy Wrexham Savers a
The Best of Wrexham
• Gorsafoedd radio lleol
• Clybiau chwaraeon
• Grwpiau busnes a thudalennau
cyfryngau cymdeithasol
• Adeiladau cymunedol Wrecsam
• Cyfeirlyfrau ar-lein - hysbysebu
am ddim
• Trafnidiaeth gyhoeddus
• Hysbysebu ar docynnau
• a llawer iawn mwy
Os ydych chi’n ymwybodol o unrhyw
gyfleoedd, a fyddai’n bosib ein e-bostio er
mwyn i ni ei gynnwys yn y pecyn:
Rydyn ni’n gobeithio cyhoeddi’r pecyn ar y 5ed o Ebrill 2013. Os ydych chi’n awyddus i gael copi, ond
heb ymuno â rhestr bostio’r Llinellfusnes hyd yn hyn ( http://bit.ly/ymunwch-a’n-rhestr-bostio ), yna
e-bostiwch [email protected]
ac mi gewch chi gopi ar unwaith. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad os ydych chi’n awyddus i gael copi
caled.
Ffôn: 01978 292092 Cyfeiriad: Llinellfusnes, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu,
Wrecsam, LL1 1AU.
Mi fydd cyfres ffilmiau hynod lwyddiannus Twilight yn gorfod dod i ben rywbryd, gan ei bod wedi ei
seilio ar gyfres o lyfrau sydd wedi gorffen. Ond mi gafodd rywun syniad da - mi rannwyd yr olaf, Break-
ing Dawn, i mewn i ddwy ffilm er mwyn ennill mwy o arian. Mae’r un peth yn wir am The Hobbit - tair
ffilm hir iawn o un llyfr eithaf byr.
Beth sydd i gyfrif am hyn? Mi fyddai’r cynhyrchwyr yn honni ei fod yn gyfle i wneud mwy, i gynnig mwy
i’r dilynwyr ac yn y blaen. Ond, wrth reswm, y rheswm ydi gwneud arian.
Beth am ystyried y syniad yma ar gyfer eich busnes? A oes yna gyfle i rannu eich gwasanaethau neu
eich cynnyrch yn ddarnau manach? A oes yna gyfle i’w hail-becynnu? Mae pawb yn hoffi gweld
pethau ‘newydd’, hyd yn oed os mai wedi ailgylchu ydyn nhw mewn gwirionedd. Beth am ddefnyddio’r
deunydd crai mewn ffordd newydd?
Rydyn ni wedi gwneud hyn, gan roi’r gorau i’r gweithdai undydd traddodiadol a chreu pecynnau
hyfforddiant llai. Mae’n boblogaidd hefo’n cwsmeriaid oherwydd ei fod yn eu galluogi i ddysgu yn y
bore, a gweithredu yn y prynhawn, yn llythrennol. Mae hefyd yn golygu llai o amser o’r gwaith, yn
amlwg. Y gyfrinach, wrth gwrs, ydi sicrhau nad ydyn ni’n colli’r cig wrth dynnu’r braster; mae angen
cadw popeth perthnasol, a chanolbwyntio ar y pethau creiddiol hanfodol.
Beth am ystyried rhywbeth tebyg?
Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Purple Patch Development www.purplepatchdevelopment.co.uk
07827 401684 [email protected]
http://bit.ly/business-discounts-Wrexham
Disgowntiau Busnes-i-Fusnes:
Cynigion disgownt newydd: Mae gostyngiadau bellach ar gael drwy Llinellfusnes gyda’r busnesau canlynol yn Wrecsam. Gweler y dudalen we a restrir uchod am ragor o wybodaeth:
Manteision rhannu eich gwasanaethau a’ch cynnyrch
Pam defnyddio astudiaethau achos ar eich gwefan?
Mae mwy a mwy o gwmnïau’n defnyddio teclynnau hyrwyddo gwefannau. Ond mae astudiaeth achos yn cynnig mwy. Mae’n gyfle i ddangos sut mae eich gwasanaeth neu gynnyrch yn gweithio ‘yn y byd go iawn’. Hynny yw, mae’n dangos eich bod yn medru cyflawni’ch addewidion. Mae’r wybodaeth mae’r cwsmer yn ei weld ar wefan yn medru bod yn rhy benodol, yn rhy dechnegol, neu’n rhy faith. Mae astudiaeth achos yn ei alluogi i weld sut yn union mae’n medru defnyddio eich cynnyrch. Sut i greu astudiaeth achos 1. Penderfynwch beth i’w amlygu
2. Cysylltwch â phawb sydd angen eu caniatâd
3. Penderfynwch ar nifer y geiriau – mae rhwng 400 a 500 yn iawn
5. Sefydlwch batrymlun gyda’r adrannau yma:
A Cefndir
B Problem
C Datrysiad
Ch Canlyniad.
Does dim angen cynnwys y rhain fel penawdau yn y ddogfen orffenedig, ond maen nhw’n ddefnyddiol i chi wrth ysgrifennu. 6. Cefndir – disgrifio’r cwsmer, eu gwaith, beth rydych yn ei ddarparu ar eu cyfer. 7. Problem – disgrifiwch sefyllfa’r cwsmer cyn dod atoch chi. Beth oedd o’i le, neu ar goll. Beth oedd yr her? Beth fyddai peryglon peidio gweithredu wedi bod? 8. Datrysiad - disgrifiwch y newidiadau ymarferol a wnaed gennych chi. 9. Canlyniad – disgrifiwch y canlyniadau. Arbed amser, gwario llai, ennill mwy o archebion, ac yn y
Golwg ar becyn gwasanaeth y Llinellfusnes:
Mae’r pecyn wedi cael ei ddiweddaru. Dilynwch y cyswllt i ddarganfod mwy am wasanaethau
gwybodaeth busnes amrywiol y Llinell Fusnes, sy’n cynnwys:
• Rhestrau e-bost ‘busnes i fusnes’ sy’n neilltuol i chi
• Gwiriadau credyd – sicrhau pa mor ddibynadwy mae’r bobl rydych yn delio gyda nhw
• Ymchwil i’r farchnad - y presennol a’r dyfodol i bob un o’r prif sectorau
Ewch i: http://bit.ly/ZGUO52
Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Lateral Knowledge www.lateralknowledge.com
01244 314392 [email protected]
Hysbysebwch eich busnes yama
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: http://bit.ly/UJlFeZ
Pethau pwysig Cyllid a Thollau: mis Ebrill
Y gyllideb
Y gyllideb, a’i heffaith arnoch chi: http://bit.ly/10w5Gik
Treth incwm symlach – Sail Arian Parod, a Threuliau Symlach
Yn natganiad y Gyllideb ar yr ugeinfed o Fawrth, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan ddau fesur
newydd – sy’n cael eu disgrifio fel Treth Incwm Symlach – i helpu busnesau bach i dalu eu treth incwm.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2013/14 ac ymlaen mae busnesau sydd ddim yn gorfforedig
( http://bit.ly/XbrySz ) ac sydd ag incwm llai na’r trothwy TAW yn medru dewis sut i gyfrifo’r dreth ar yr
aerian sy’n dod i mewn ac sy’n mynd allan (sef y ‘sail arian parod’). Mae’n osgoi’r angen i wneud
newidiadau treth sydyn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan fod y rheolau yma ar gyfer busnesau mwy
a mwy cymhleth.
Mae pob cwmni sydd heb gael ei gorffori, o bob maint, yn medru defnyddio cynllun symlach i hawlio
rhai treuliau busnes cyffredin; dyma’r ‘treuliau symlach’.
Mae mwy o fanylion, ac esboniad o bwy sy’n gymwys, ar http://www.gov.uk ac mae
http://bit.ly/17bjOny hefyd yn cynnig cyngor, gweminar, a fideo YouTube. Cofiwch hefyd am y golofn
olygyddol arbennig yn rhifyn nesaf Negeseuon Allweddol, a fydd yn mynd i lawer mwy o fanylder.
Mae Gwybodaeth Amser Real (RTI - Real Time Information) wedi dechrau
Mi gofiwch i ni gyhoeddi llawer o wybodaeth - http://bit.ly/16u065k - yn ystod mis Mawrth ynglŷn â
chofnodi PAYE ar y pryd. Mi wnaethon ni dynnu sylw - http://bit.ly/17bk06k - am y trefniadau ar gyfer
cyflogwyr, a’r diweddaraf - http://bit.ly/11hT9D8 ym mis Mawrth. Mae yna hen ddigon o gyngor a
chymorth ar gael, yn rhad ac am ddim, wrth i Cyllid a Thollau deithio’r wlad yn esbonio’r cyfan.
Ffoniwch 08456 032 691 neu ewch i http://www.business-events.org.uk i hawlio’ch lle.
Cyflogwyr – esboniad o sut mae angen i’ch gweithwyr ddweud wrth Cyllid a Thollau eu bod
wedi symud tŷ
Mae yna dudalen neilltuol, http://bit.ly/14CyInf . Dyma’r ffordd gyflymaf a mwyaf diogel. Byddai’n
drueni pe bai ad-daliad yn mynd i’r cyfeiriad anghywir!
Rhyddhad TAW ar ddyledion drwg
Mae’n bosib hawlio TAW ar rai dyledion sydd heb gael eu talu - http://bit.ly/14LdBj1 .
Ond mae’n bosib y bydd angen i chi ad-dalu TAW yr ydych wedi
ei hawlio os nad ydych chi wedi talu am nwyddau neu
wasanaethau yr ydych wedi eu derbyn.