canolfan dylan thomas ionawr - ebrill 2010

10

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 10-Mar-2016

243 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

Canolfan Dylan Thomas Ionawr - Ebrill 2010

TRANSCRIPT

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:08 Page 1

Dydd Sadwrn 23 Ionawr 10am – 4pm

Gweithdy Darlleniad Coffáu'r HolocostMae Mel Kohlke o Brifysgol Abertawe'n arwain sesiwn a fydd yntrafod pa rwymedigaethau a dilemâu moesegol mae ysgrifennu amyr Holocost yn eu cyflwyno i ddarllenwyr. Bydd y sesiwn yn archwilio sut rydym yn mynd i'r afaelâ materion empathi, dwyn tystiolaeth eilaidd a mawrygu poen. Bydd y testunau a ystyrir yncynnwys barddoniaeth, stori fer, cofiant a darnau o weithiau hwy Celan, Levi, Delbo ac eraill.Bydd yr hanesion hyn hefyd yn cael eu rhoi mewn cyd-destun gyda chyfeiriad at ddarnaubeirniadol, gan archwilio cyflwyniad ac ymlediad cyffredinol yr hyn a elwir yn ddiwylliant trawma.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM ond cofiwch gofrestru ymlaen llaw

Nos Fercher 27 Ionawr 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth – Deiet ac Ymddygiad trwy OesDavid Benton, Athro Seicoleg, Prifysgol Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

Nos Iau 28 Ionawr 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau David Greenslade, The Dark Fairground Mwy o waith arloesol gan fardd a pherfformiwr hollol wreiddiol sy'n dwlu arweithio gydag artistiaid gweledol. Dyma lansiad llyfr celf sy'n cynnwyslluniau gan y diweddar William Brown a thestunau byrion gan Greenslade.Disgrifiwyd ar Radio Wales fel 'anhygoel a neilltuol'. Dyma deyrngedwefreiddiol i arlunydd a oedd hefyd yn dwlu ar weithio gyda beirdd. Mae lluniau ar gael ar safle blog y llyfr hwn - www.darkfairground.wordpress.comHefyd, i nodi Diwrnod Coffáu'r Holocost, rydym yn gwahodd darllenwyr meic agored i ddod âcherdd, neu ddarn byr o ryddiaith hyd yn oed, o'u gwaith eu hunain neu ysgrifennwr arall ar ythema honno os dymunant.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Nos Fawrth 4 Chwefror 7pm

Lansiad llyfr – Battle in Iraq gan J.M.Hammonda Flint gan Margaret RedfernMae dau fyfyriwr sydd newydd raddio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin gydagMA mewn Ysgrifennu Creadigol yn lansio'u llyfrau cyntaf ar y cyd. Mae Battle

in Iraq yn seiliedig ar lythyrau a dyddiaduron tad-cuJosephine Hammond o Irac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf,ond yn cysylltu'r digwyddiadau â'r sefyllfa bresennol, wrthi gwrs hanes y Dwyrain Canol gael ei drawsffurfio.

Chwedl farddonol yw Flint o gariad brawdol, yn seiliedigyn oes Edward I, yn dilyn anturiaethau'r cloddwyr ffosydd Will a Ned wrthiddynt gerdded o Gorsydd Lloegr i ogledd Cymru.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM, Ar y cyd â Gwasg Radcliffe a Honno.

2 Ionawr - Ebrill 2010

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:08 Page 2

3

Nos Fercher 10 Chwefror 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male!Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgriptmewn llaw rhagorol ac amrywiol yn cynnwys dramâu ganawduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Paying The Full Whack gan Gwenno DafyddYn actores, yn gantores, yn ddigrifwraig, yn awdures, yn ieithyddes, yn wir artistsawl rhan, magwyd Gwenno Dafydd yng ngogledd Sir Benfro. Ysgrifennwyd eidrama'n weddol fuan ar ôl rhyfel y Falklands. Unwaith eto, ar yr adegdrafferthus iawn hon ledled y byd, mae'n eich atgoffa'n drist o wrthdaro acoferedd dynol, gan weld y llun byd-eang trwy lygaid dau deulu ifanc o Gymru. Felactores, mae Gwenno wedi bod yn yr opera sebon Saesneg Casualty a'r operasebon Gymraeg Pobol y Cwm ac wedi cael llawer o rolau comedi ar y teledu.Hefyd, mae ganddi ei sioe un fenyw ei hun, yn seiliedig ar ganeuon Edith Piaf. Tocynnau: £4-00

Dydd Gwener 12 Chwefror 1pm

Celf i Ginio – Anne Price OwenDavid Jones: the Wedding of Form and ContentMae Dr Anne Price-Owen yn uwch ddarlithydd yng Nghanolfan Celf, Dylunio aChyfryngau Dinefwr, Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Ymunodd â'r sefydliadhwn ym 1995, ac ers hynny mae wedi cefnogi Ty Llên - Canolfan DylanThomas - yn gadarn. Mae Anne wedi cyhoeddi'n helaeth ar y celfyddydaugweledol a hefyd ar lenyddiaeth, yn enwedig ar farddoniaeth beirdd o Gymru.

Ei phrif ddiddordeb yw'r arlunydd-fardd David Jones (1895-1974), a sefydlodd Gymdeithas DavidJones ym 1996, blwyddyn ar ôl ei gynhadledd canmlwyddiant ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr PontSteffan. Bydd ei sgwrs yn archwilio'r berthynas rhwng celfyddydau llenyddol a gweledol DavidJones, ffenomen y mae'n credu ei bod yn arbennig o amlwg (ond ddim yn unigryw o gwbl) yngngwaith beirdd ac arlunwyr gweledol sy'n gweithio yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymchwilio ilyfr ar artistiaid benywaidd Cymru, i'w gyhoeddi gan Seren yn ddiweddarach eleni.

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan.

Dydd Gwener 12 Chwefror/Dydd Sadwrn 13 Chwefror

Gwyl Ladin Americanaidd Abertawe 2010Mae gwyl aml-gelf eleni'n canolbwyntio ar Frasil, gydacherddoriaeth, ffilm a dawnsio, arddangosiad Capoeira alluniau gan Erika Tambke. Am fwy o wybodaeth, gwelerwww.dylanthomas.com neu [email protected].

Tocynnau: Pob Tocyn o Ganolfan Dylan Thomas.

GwennoDafydd

Rhaglen Lenyddiaeth

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 3

4 Ionawr - Ebrill 2010

Nos Wener 19 Chwefror – 7pm

Lansiad Llyfr – Maggie Harris, After a visit to a Botanical GardenMae trydydd casgliad o farddoniaeth Maggie, y bardd o Gaiana sy'n gweithio yngNghymru, After a visit to a Botanical Garden (Gwasg Cane Arrow) wedi'i sbardunogan fudiad planhigion yn ogystal â phobl rhwng Ewrop a'r Byd Newydd ersdyddiau Raleigh. Caiff y lansiad hwn ei ddilyn drannoeth gan weithdy ysgrifennuar thema planhigion. Gweler isod. Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

Dydd Sadwrn 20 Chwefror 10.30 – 12.30

Gweithdy Ysgrifennu –Have Roots Will Travel gyda Maggie HarrisWedi lansio'i chasgliad newydd After a visit to a Botanical Garden y noson flaenorol,bydd Maggie Harris yn cynnal y gweithdy hwn sy'n canolbwyntio ar archwilio cynnarhelwyr planhigion, gan archwilio gwaith a ysbrydolwyd gan blanhigion a gerddi felsbringford i ysbrydoli ysgrifennu, yn farddoniaeth neu'n rhyddiaith.Tocynnau: £10.00

Dydd Sadwrn 20 Chwefror 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni Theatr Fluellen yncyflwynoMarch gan Alberto AdellachDychan brathog ar filitariaeth a chyflwr y dramodydd hwn o'r Ariannin sydd wedi'iesgeuluso'n gywilyddus. Cyflwyniad sgript mewn llaw yw holl ddramâu Theatr Amser Cinio abydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndir y ddrama o’i flaen. Tocynnau: £5.00

Nos Fercher 24 Chwefror 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth – Osgoi Marwolaeth trwy GyfrifiadurHarold Thimbleby, Prifysgol Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

Nos Iau 25 Chwefror 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau – Alison BielskiMae Alison, a gafodd ei geni yng Nghasnewydd, wedi cyhoeddi llawer ogasgliadau, ac mae'r diweddaraf, Sacramental Sonnets (Alun Books), wediennill 13 o wobrau am ei barddoniaeth. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Nos Wener 26 Chwefror 7pm

WomencentrestageEleni, mae sioe oriel gan WOMENCENTRESTAGE o fis Chwefror i fisMawrth ac yn cynnwys gwaith celf myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Abertaweac arlunwyr annibynnol eraill sydd naill ai wedi'u sefydlu neu'n dod i'ramlwg ym maes ffotograffiaeth, celfyddyd gain a thecstilau. Bydd ydigwyddiad hwn yn sesiwn rwydweithio i arlunwyr gyda siaradwr gwadd, cynfideos gan Broad Horizons, prosiect Abertawe i wneuthurwragedd fideo.

Tocynnau: Pris y tocyn ar gyfer y sioe fideos yn y nos yw £3, â'r elw at brosiectau menywodOxfam. Cadwch le'n gynnar ar gyfer y digwyddiad poblogaidd hwn

MaggieHarris

AlisonBielski

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 4

5

Dydd Iau 4 Mawrth

Diwrnod y LlyfrByddwn yn dathlu Diwrnod y Llyfr gyda chynigion yn ein siop lyfrau adigwyddiad gyda'r hwyr. Am fanylion llawn, gweler www.dylanthomas.comneu e-bostiwch [email protected]

Nos Wener 5 Mawrth 7pm Lansiad Llyfrau: Marion Preece - Man Falling off CliffCroeso i ddwy chwedl ar bymtheg yn hunllefau, comedi a’r swrreal.Byddwch yn barod i gerdded gyda sadistiaid ac angylion, i weldbuddugoliaeth dros anobaith ac i annog blaidd-ddynion. Byddwch ynbarod am unrhyw beth ... ac eithrio darllen esmwyth.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

Dydd Sadwrn 6 Mawrth 7pm Lansiad Llyfr - Stevie Davies, Into SuezMae Stevie Davies yn awdur un ar ddeg o nofelau (dwy wedi'urhestru ar gyfer Gwobr Booker) ac yn frodor o Abertawe. Mae einofel ddiweddaraf wedi'i gosod yn yr adeg cyn Argyfwng Swes,yn dempled ar gyfer ymosodiadau'r dyfodol (Irac ac Afghanistanyw'r diweddaraf). Trwy stori Joe, gweithiwr cyffredin ar y rhesflaen, mae Stevie'n archwilio sut nad yw agweddau

ymerodraethol at y Dwyrain Canol wedi newid ers 1950. Ymunwch â ni i drafod y themâu cyfoes achyfredol iawn hyn a gwrando ar ddarlleniadau o nofel hanesyddol bleserus dros ben.

Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books.

Nos Fercher 10 Mawrth 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male!Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgriptmewn llaw rhagorol ac amrywiol yn cynnwys dramâu ganawduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Gryfhead gan Lucy GoughMae Lucy wedi bod yn ysgrifennu dramâu ers 1986. Mae llawer o'idramâu llwyfan wedi'u perfformio'n broffesiynol a chyrhaeddodd yrownd derfynol ar gyfer Gwobr John Whiting a Gwobr Ysgrifennwr yFlwyddyn BBC Cymru (1994) gyda'i drama, Crossing The Bar. Roeddei darllediad cyntaf ar y BBC ym 1994 gydag Our Lady of Shadows(BBC Radio 3). Ers hynny, mae ganddi ddrama'r wythnos arWasanaeth Byd y BBC ac wedi cael pum drama ar BBC Radio 4. Fewnaeth ei dramateiddiad radio o Wuthering Heights ar gyfer Radio 4gael ei ddarlledu fel y stori gyfres glasurol yn Woman's Hour yn 2003.

Tocynnau: £4.00

StevieDavies

Rhaglen Lenyddiaeth

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 5

6 Ionawr - Ebrill 2010

Dydd Sadwrn 13 MawrthDiwrnod Sgwad Sgwennwyr Gyda chefnogaeth Academi a Chyngor Llyfrau Cymru, rydym yn nodi wythnos Diwrnod y Llyfrgyda diwrnod o ddigwyddiadau a gweithdai i aelodau Sgwad Sgwennwyr Ifanc Abertawe a’urhieni, mewn partneriaeth â Sgwad Sgwennwyr Pontardawe. Bydd y diwrnod hefyd yn agoredi unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’n Sgwadiau Sgwennu – mae Sgwad Iaith Gymraeghefyd yn cael ei sefydlu. Am y manylion llawn, e-bostiwch [email protected]

Nos Sul 14 Mawrth 7pm

Prosiect Myfyrwyr Americanaidd ar Ymweliad Dylan Thomas in Wales 2010 Seminar llenyddol 12 wythnos yw Dylan Thomas in Wales a gynigir gan Goleg Knox (Illinois,America), mewn cydweithrediad â Man Geni Carl Sandburg (America), CylchgrawnBarddoniaeth Abertawe'r Seithfed Chwarel (Cymru), Cysylltiadau Croesddiwylliannol (EfrogNewydd), ac mewn cysylltiad â Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Efrog Newydd.

I ddathlu bod y grwp cyntaf o fyfyrwyr wedi cyrraedd o America ac yn cymryd rhan yn yprosiect, cynhelir noson o farddoniaeth, drama a chanu a gaiff ei chyflwyno gan Peter ThabitJones, sef y tywysydd a’r trefnydd yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

Dydd Gwener 19 Mawrth 1pm

Celf i Ginio Jen Wilson How African American MusicCame to WalesBydd Jen, o Jazz Heritage Wales, Women in Jazz gynt, sydd bellachyn gweithio ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, yn cyflwyno sgwrsâ darluniau ar y pwnc "How African American Music Came toWales", sut mae'r cyfryngau'n cynrychioli'r gerddoriaeth a'rarloeswragedd a gyfrannodd at yr hyn a ddaeth i fod yn Jas. Darlun: Sheet Music, My Little Zulu Babe 1901

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan.

Nos Wener 19 Mawrth 7pm

Lansiad Llyfr - Byron Beynon, Nocturne in BlueMae cerddi Byron, y bardd a'r darlithydd o Abertawe, wediymddangos mewn sawl cyhoeddiad, gan gynnwys Agenda, PoetrySalzburg Review, Planet, The French Literary Review, Quadrant(Awstralia) a'r Istanbul Literary Review. Mae ei gasgliadau'ncynnwys: The Girl in the Yellow Dress, The Restaurant of Mud aCuffs. Cyhoeddir Nocturne in Blue gan Lapwing Publications(Belfast). Roedd Byron yn arfer bod yn gydolygydd RoundyhouseMagazine.

Tocynnau: MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 6

7

Dydd Sadwrn 20 Mawrth 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni TheatrFluellen yn cyflwyno Unveiling gan Vaclav HavelAr ôl llwyddiant drama Havel, Audience, y llynedd, dyma'r nesaf;dychan lle mae ei hunan arall, Vanek, yn westai cinio i gwpl syddwedi croesawu system ormesol eu gwlad â breichiau agored.

Cyflwyniad sgript mewn llaw yw holl ddramâu Theatr Amser Cinio abydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndir y ddrama o'i flaen.

Tocynnau: £5.00

Nos Iau 25 Mawrth 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Carol RumensMae Carol wedi cyhoeddi llawer o gasgliadau, gan gynnwys y diweddaraf,Blind Spots, a gyhoeddwyd gan Seren, ac wedi ennill llawer o wobrau amei barddoniaeth. Ar hyn o bryd, mae'n addysgu ysgrifennu creadigol ymMhrifysgol Cymru, Bangor. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Nos Fercher 31 Mawrth

Caffi Gwyddoniaeth i'w gadarnhauTocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

Dydd Sadwrn 10 Ebrill 1pm

Theatr Amser Cinio Cwmni TheatrFluellen yn cyflwyno Scenes of FearAddaswyd o ddramâu a barddoniaeth Bertolt Brecht. Golwg annifyr aryr Almaen Natsïaidd yn ystod y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd, wedi'igweld trwy lygaid y rhai a oedd yn gwrthwynebu Hitler, a'r rhai nadoeddent yn ei wrthwynebu. Cyflwyniad sgript mewn llaw yw hollddramâu Theatr Amser Cinio a bydd sgwrs am yr ysgrifennwr a chefndiry ddrama o'i flaen.Tocynnau: £5.00

Nos Iau 15 Ebrill - 7pm

Lansiad llyfrau a pherfformiad, Childe Roland: Ham & Jam and A Pearl: Two One-act PlaysMae prif fardd concrît Cymru'n cyflwyno dwy ddrama fer lle maePolonius yn holi'r Tywysog 'gwallgof' am wleidyddiaeth y byd a’r gair, gwallgofrwydd trefnus ein meistri. Llyfrau Hafan pamffled ‘Out of Line’ #11.

Tocynnau: Â holl elw'r llyfrau i elusen ffoaduriaid.

VaclavHavel

BertoltBrecht

Childe Roland

Rhaglen Lenyddiaeth

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 7

8 Ionawr - Ebrill 2010

Nos Iau 22 Ebrill - 7pm

Lansiad llyfrau a pherfformiad John Goodby:Wine Night WhiteBardd cybyddlyd a llac ei foesau, y siaredir yn aml amdano ... hic! ynllowcio sosej fel Saussure a chlirio'i lwnc â photel o plonc.

Llyfrau Hafan pamffled ‘Out of Line’ #12.

Tocynnau: Â holl elw'r llyfrau i elusen ffoaduriaid.

Dydd Gwener 23 Ebrill 1pm

Celf i Ginio - Stevie Davies ar George EliotBydd Stevie Davies, y nofelydd, a'r Athro Ysgrifennu Creadigol ymMhrifysgol Abertawe sy'n awdur sawl llyfr ar lenyddiaeth Fictoriaidd, ynsiarad am driniaeth wefreiddiol George Eliot o empathi ym myddychmygus Middlemarch.

Tocynnau: £5 yn cynnwys sgwrs 45 munud, cawl a brechdan.

Nos Fercher 28 Ebrill 7.30pm

On the Edge yn cyflwyno Deadlier than the Male!Mae tymor newydd Michael Kelligan o berfformiadau sgript mewn llaw rhagorol ac amrywiolyn cynnwys dramâu gan awduresau o Gymru sy'n gweithio yng Nghymru.

Don’t Breathe A Word gan Susan RichardsonMae Susan yn awdur pedair drama a gweithiai, am sawl blwyddyn, fel dramodydd ahwylusydd gweithdai i Something Permanent, cwmni theatr addysgol â chanolfannau yn yDU a Toronto, Canada.

Mae ei drama gyntaf, Two Of Me Now, yn ddrama farddonol am famolaeth fiolegol a llenyddol,fel a adlewyrchwyd ym mywydau a gwaith Virginia Woolf a Sylvia Plath. Dyfarnwyd y wobrgyntaf i Don’t Breathe A Word, drama am ysgrifennu asensoriaeth, yng Nghystadleuaeth Sgript DramaTimberlake Wertenbaker a chyrhaeddodd y rhestr fer yn yGystadleuaeth Ysgrifennu Drama Genedlaethol i Fyfyrwyr.Mae wedi'i pherfformio yng Ngwyl Ymylol Caeredin ,Platfform 4 Gwyl Theatr Caerwysg, Gwyl LenyddiaethCheltenham ac yn Theatr Llys y Barwn, Llundain.

Tocynnau: £4.00

Nos Fercher 28 Ebrill 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth Y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr a’r Peiriant ArafuGwrthbrotonau llai o lawer- Beth rydym yn gobeithio ei ddarganfod a phryd?Graham Shore a Mike Charlton, Prifysgol Abertawe

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

JohnGoodby

“Myfyrgar a diddorol…mae'rstori wedi'i hadrodd ynbrydferth, ag eglurder amanwl gywirdeb ”

The Scotsman

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 8

9

Nos Iau 29 Ebrill 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Maurice ScullyGanwyd Maurice yn Nulyn ym 1952. Ar ôl cael addysg yng Ngholeg yDrindod, aeth ati i olygu barddoniaeth, cyhoeddi a threfnu digwyddiadaullenyddol, yn ogystal â gweithio yn yr Eidal acAffrica yn yr '80au. Yn y '90au, bu'n addysgu ymMhrifysgol Dinas Dulyn. Rhwng '81 a '06 roeddyn ymgysylltiedig ag un prosiect, Things That

Happen, gwaith 8llyfr. Ymddangosodd Doing the Same inEnglish, detholiad o waith 1987 - 2008, yn '08

ac ymddangosodd Humming yn '09.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

MauriceScully

“Gwir olau i'r iaith.”Harry Gilonis, The Gig

ARDDANGOSFEYDD

23 Mawrth – 18 Ebrill

Lyndon MablyBurning – A random Event Darluniau’n defnyddio haearntawdd – archwiliad o siawns adewis – man cyfarfod yr awyddcelfyddydol a’r digwyddiad ar hap.

20 Ebrill – 16 Mai

Gus Payne Cydweithrediad rhwng yr arlunydd Gus Payne a’r bardd Mike Jenkins, a’rddau’n gweithio ym Merthyr. Mae’r gwaith newydd hwn yn canolbwyntio aridiomau ac ymadroddion Cymreig i archwilio ymwybyddiaeth gymdeithasol,democratiaeth a’r pwerau sy’n penderfynu ar y materion mawr ar ein rhan.

Tan 17 Ionawr

Cherry Pickles Darluniad o Haiti a'r Weriniaeth Ddominicaidd.

19 Ionawr – 14 Chwefror

David Greenslade a William BrownThe Dark Fairground Cydweithrediad rhwng y bardd Greensladea'r diweddar arlunydd William Brown.

16 Chwefror – 21 Mawrth

Menywod CanolLlwyfan delweddau ganartistiaid lleol iddathlu DiwrnodRhyngwladol yMenywod

“Rwy’n credu ei bod yn well darllen Scully mewnmannau cyhoeddus, traeth neu loches fysus panfydd pobl o'ch cwmpas... Rwy'n chwerthin lot.Mae'n fardd rhadlon ac mae hynny'n cael ei gyfleuyn ei waith. Er bod y rhyfeddod honedig yngngwaith Scully yn tarddu o'r amlwg cyffredinol,mae'r blodau y mae'n eu cynhyrchu'n bur ecsotig”

Augustus Young, Golden Handcuffs Review

Rhaglen Lenyddiaeth

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 9

10 Ionawr - Ebrill 2010

2347

2-10

Des

ignp

rint

Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglenhon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’rhawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

Canolfan Dylan ThomasSomerset Place, Abertawe SA1 1RR

01792 463980

www.dylanthomas.com

www.dylan-thomas-books.com

[email protected]

hybu llên literature promotionCYNGOR LLYFRAU CYMRUWELSH BOOKS COUNCIL

Cefnogir gan:

CYRSIAU/GWEITHDAI

DIGWYDDIADAU ERAILL

Yng Nghanolfan Dylan Thomas oni nodir yn wahanol

Sadwrn 23 Ionawr

Diwrnod Darlleniad Coffáu'r HolocostGweler tudalen 2 am fwy o fanylion.

Dydd Sadwrn 30/ Dydd Sul 31 Ionawr 10am – 4pm bob dydd

O'r Dudalen i'r Llwyfan - Cwrs Deuddydd ar Ysgrifennu Dramâu gyda Peter ReadCwrs deuddydd i awduron dramâu profiadol a newydd. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.peterread.co.uk

Am ragor o wybodaeth a ffurflen cadw lle, cysylltwch â Peter Read ar 07931 614180neu e-bostiwch [email protected] neu anfonwch amlen rag-dal i: 14 Overland Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4LS

Tocynnau: Cost y cwrs dau ddiwrnod yw £60

Dydd Sadwrn 20 Chwefror 10.30 – 12.30

Gweithdy Ysgrifennu – Have Roots Will Travel gyda Maggie HarrisGweler tudalen 4 am fwy o fanylion.

Dydd Sul 21 a 28 Chwefror a 7 a 14 Mawrth 10am – 4pm

Gweithdy Actio – The Craft of ActingFluellen Theatre Company yn parhau â’i gwrs actio agored ar gyfer sgiliau action sylfaenol. 

Tocynnau: £10 y sesiwn. Am fanylion/i gadw lle, ffoniwch 01792 368269 neu e-bostiwch [email protected]

13/14 Mawrth (drwy’r dydd)

Canolfan Ceridwen, Sir Gaerfyrddin: Penwythnos Ysgrifenwyr Gyda Diwrnod Ysgrifenwyr, Noson Llofruddiaeth Ddirgel a gweithdy Ysgrifennu StorïauDitectif gyda Sally Spedding. Am fanylion llawn, gweler www.ceridwencentre.co.uk neue-bostiwch [email protected] neu 01559 370517

23472-09 Dylan Programme Welsh:Layout 1 08/01/2010 11:09 Page 10