ionawr 2013
DESCRIPTION
Ionawr 2013TRANSCRIPT
C y l c h ly thy C y l c h ly thy Iona wr Iona wr 20132013
Rhifyn : 10
FfonFfon : : (01978) 292092(01978) 292092
EbostEbost : : [email protected]@wrexham.gov.uk
GwefanGwefan : : www.wrexham.gov.uk/businesslinewww.wrexham.gov.uk/businessline
Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinellfusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y
cylchlythyr.cylchlythyr.
Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu
cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni
ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.
TudalenTudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnesY diweddaraf o fyd busnes
TudalenTudalen 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes
Tudalen 3Tudalen 3 : Beth ddylwn i gynnwys yn amodau a thelerau fy musnes?: Beth ddylwn i gynnwys yn amodau a thelerau fy musnes?
TudalenTudalen 4: Cwrs y Sefydl iad Siartredig Masnachu 4: Cwrs y Sefydl iad Siartredig Masnachu –– l lefydd am ddim! l lefydd am ddim!
Gweminarau am ddim Gweminarau am ddim -- Sut i gwblhau eich datganiad treth cyntaf Sut i gwblhau eich datganiad treth cyntaf
TudalenTudalen 5: 5: Pethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis Pethau pwysig Cyl l id a Thol lau: mis IonawrIonawr
Karen Morrisroe Gareth Hatton
http://bit.ly/karen-morrisroe http://bit.ly/gareth-hatton
Llinellfusnes
Y diweddaraf o fyd busnes
• Mae’n ymddangos bod marchnata cyswllt (affiliate marketing) yn mynd i chwyldroi’r ffordd mae cwmnïau’n defnyddio cyfryngau digidol fel llwyfan gwerthu a marchnata: http://ow.ly/f9iWl
• Sut mae tynnu sylw buddsoddwyr tuag at eich busnes bach chi? Dyma gyngor i chi: http://ow.ly/gttBC
• Gwasanaeth gwych i’ch cwsmeriaid – pum awgrym hawdd gan Alastair Kight o GRITIT: http://ow.ly/gtt8i
• Dan Cohen yn esbonio pam nad oes raid i fusnesau bach anobeithio ynglŷn ag e-fasnach: http://ow.ly/gtt3C
• Beth sydd gan Twitter, Facebook, LinkedIn a Pinterest i’w gynnig i’ch cwmni? http://ow.ly/gtsp0
• Ymunwch â Finance for the Future er mwyn cael cydnabyddiaeth am eich gwaith caled: http://ow.ly/gbIlP
• Mae 51% o berchnogion busnes yn disgwyl twf yn 2013: http://ow.ly/gbHwp
• Eisiau dechrau busnes, neu wrthi’n rhedeg busnes? Mae’n bosib fod bwrsari ar gael: http://ow.ly/gbF1b
• Helpu busnesau bach i wneud penderfyniadau credyd anodd: http://ow.ly/gbDsd - adroddiadau credyd am ddim oddi wrth y Llinellfusnes
• Pum awgrym ynglŷn â manteisio’n llawn ar ffwlbri prynu Ionawr: http://ow.ly/gw1Mq
• Creu’r cerdyn busnes gorau erioed: http://ow.ly/gbBuT
• Buddsoddiad o chwe miliwn o bunnoedd yn y diwydiannau creadigol, ac mewn galluoedd cynnwys digidol: http://ow.ly/fTZgC
• Cwmnïau’r gogledd yn medru ailgylchu hen bethau, a chyfrannu at elusennau, drwy B2C Give: http://ow.ly/fU0CU
• Mae angen i gwmnïau bach a mentergarwyr wybod sut yn union i hyrwyddo a gwerthu eu syniadau: http://ow.ly/fTXE8
• Mwy am “Trading for Good": http://www.tradingforgood.co.uk/about/
• Cyngor rhwydweithio i gwmnïau bach oddi wrth yr arbenigwyr: http://ow.ly/gw3uR
01978 292092
Gallwn eich helpu i:
• Gynyddu eich busnes
• Marchnata eich busnes
• Ymchwilio i’ch marchnad
• Gwirio credyd cwmnïau
Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Gogledd Ddwyrain Cymru
Rhieni sy’n gweithio:
• Cymorth i ddod o hyd i ofal plant a chostau gofal plant
• Cael cyfle i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cael gafael ar gredydau treth
• Cyllid teulu
Cyflogwyr:
• Cymorthfeydd gwybodaeth er mwyn rhoi cymorth i’r gweithwyr
• Cadw cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith
• Cymorth er mwyn cael llai o absenoldeb a dal gafael ar ragor o weithwyr
• Cynorthwyo’r gweithwyr trwy roi hyfforddiant iddynt a’u helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa
01978 292094
www.wrexham.gov.uk/fis
Erthygl nodwedd Llinellfusnes
Ugain mlynedd o lwyddiant i’r Llinellfusnes
Mae’n ugain mlynedd ers i’r Llinellfusnes ddechrau ar ei waith o ddaparu llu o wasanaethau cynorthwyol i fusnesau hen a newydd. Mae yna groeso mawr i chi bori ein gwefan am fwy o wybodaeth - mi synnwch chi faint o bethau sydd gennym ni ar eich cyfer:
Gwefan: http://www.wrexham.gov.uk/businessline Fideo hyrwyddo:http://bit.ly/businessline-video
E-lyfrau busnes yn rhad ac am ddim
Mae aelodau Llyfrgelloedd Wrecsam yn medru llwytho e-lyfrau yn rhad ac am ddim!
• Benthyg neu archebu hyd at bedwar e-lyfr ar y tro
• Cyfnod benthyg o dair wythnos (neu lai os ydych chi’n darllen yn gyflym, wrth reswm!). Ar ddiwedd y cyfnod, mae’r e-lyfr yn diflannu ar ei ben ei hun
• Ar gael 24/7 Ar gael i’ch PC, gliniadur neu Mac, gyda Adobe Digital Editions; yna rydych yn ei drosglwyddo i’ch darllenydd chi.
Ond os oes gennych chi app darllen e-lyfr mae’n bosib eu derbyn ar unwaith i’ch llechen a’ch ffôn.
Yn anffodus nid yw’r gwasanaeth ar gael ar Kindle ar hyn o bryd.
Yr anghenion:
• Cerdyn aelodaeth Llyfrgelloedd Wrecsam: http://bit.ly/join-wrexham-libraries
• Rhif PIN
• Cyfrifiadur neu ffôn call neu ddarllenydd e-lyfrau cytûn
Dyma ble i fynd i ddechrau: wales.libraryebooks.co.uk
Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei ariannu ar y cyd gan CyMAL (Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru) ac 17 awdurdod lleol.
I’ch atgoffa – digwyddiad am ddim Sut i wneud eich cysylltiadau cyhoeddus eich hun
Mae’r Llinellfusnes yn eich gwahodd yn gynnes i seminar rhad ac am ddim yng ngofal y newyddiadurwr amlwg Mary Murtagh, a fydd yn rhannu ei harbenigedd a’i phrofiadau mewn sesiwn o’r enw “Sut i wneud eich cysylltiadau cyhoeddus eich hun”.
Mae Mary’n teithio ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol yn esbonio sut mae’r cyfryngau yn medru tyfu busnesau. Mae hi’n hyfforddi egin-fusnesau, mentergarwyr a mentrau cymdeithasol ynglŷn â phwysigrwydd:
• datganiadau i’r cyfryngau gwych
• beth mae newyddiadurwyr prysur yn chwilio amdano sut i ymddangos yn y papurau newydd, ar y radio ac ar y teledu.
Mi fydd y seminar yma’n awr brysur; mae Mary’n symud yn gyflym. Ei chanolbwynt fydd ymarferoldeb y cyfan, gan amlygu nifer o enghreifftiau gwirioneddol a’r effaith gafodd y cyhoeddusrwydd ar y busnesau, cyn gwahodd eich cwestiynau - ia, newyddiadurwyr sy’n barod i ateb yn hytrach na holi!
Mae yna ddwy sesiwn yn Llyfrgell Wrecsam ar ddydd Iau, y 24ain o Ionawr 2013 - 4:15pm - 5:15pm neu 5:45pm - 6:45pm). I archebu’ch lle, ewch i http://bit.ly/how-to-do-your-own-PR
Dylai pob busnes fod â thelerau ac amodau, wedi eu llunio gan gyfreithiwr arbenigol yn neilltuol i’ch
cwmni chi.
Beth sydd angen ei gynnwys?
Rydym ni’n awgrymu y dylid cynnwys o leiaf pob un o’r rhain:
1. Hyd cyfnod y taliad – hynny yw, erbyn pryd mae’n rhaid talu anfoneb.
2. Cymal cadw’r hawliau – sef eich bod chi’n parhau’n berchen ar nwyddau a ddarparwyd i gwsmer
hyd nes eu bod nhw wedi talu amdanyn nhw’n llawn.
3. Cymal cyflymu – sef fod gennych chi’r hawl i fynnu taliad pob anfoneb ar unwaith os oes un
anfoneb yn hwyr.
4. Llog am daliadau hwyr – yn unol â’r hawliau sydd yn neddf Taliadau Hwyr o Ddyledion Masnachol
(Llog) 1998.
5. Cymal costau – sef fod gennych yr hawl i hawlio’n ôl y costau gweinyddol a chyfreithiol sydd
ynghlwm â sicrhau taliad hwyr (er enghraifft llythyr gennych chi, llythyr cyfreithiwr, y taliad am achos
llys, ac yn y blaen).
Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Bennett Williams Solicitors http://bennettwilliamssolicitors.com
0151 650 6908 [email protected]
http://bit.ly/business-discounts-Wrexham
Disgowntiau Busnes-i-Fusnes:
Cynigion disgownt newydd: Mae gostyngiadau bellach ar gael drwy Llinellfusnes gyda’r busnesau canlynol yn Wrecsam. Gweler y dudalen we a restrir uchod am ragor o wybodaeth:
Beth ddylwn i gynnwys yn amodau a thelerau fy musnes?
Cwrs y Sefydliad Siartredig Masnachu – llefydd am ddim!
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig un lle am ddim am bob lle sydd wedi ei archebu ar gwrs
marchnata’r sefydliad, sy’n dechrau yng nghanol Ionawr.
Mae’r CIM yn enw cyfarwydd i ni gyd. Dyma sefydliad marchnata rhyngwladol amlycaf y byd, gyda
dros chwe deg mil o aelodau.
Er mwyn cystadlu’n effeithiol, mae’n rhaid
gweithredu egwyddorion marchnata’n gywir.
A dyma’ch cyfle i:-
• astudio am dystysgrif neu ddiploma
• dysgu mewn ffordd addas ar eich cyfer chi,
gan astudio pethau ymarferol
• ffynnu yn eich maes.
Mae’r cynnig yn eich galluogi i anfon dau gynrychiolydd am bris un, neu drefnu bod dau gwmni’n anfon
un cynrychiolydd yr un, neu rannu’r gost gyda chyfaill neu gydweithiwr.
Dyma sut i gael mwy o fanylion:
www.in-business.org
01978 293 439
*Mae’n rhaid talu am un cwrs yn llawn ar y dechrau.
Gweminarau am ddim - Sut i gwblhau eich datganiad treth cyntaf:
Gydol mis Ionawr mae Cyllid a Thollau’n cynnig gweminarau i’ch arfogi i lenwi eich datganiad treth
ar-lein. Mae’r cyfan yn nwylo gweithwyr profiadol, sy’n medru eich tywys ar hyd pob cam o’r daith.
Er mai ar gyfer masnachwyr unigol sy’n llenwi’r datganiad ar-lein am y tro cyntaf mae’r gweminarau,
mae yna groeso i unrhyw un ymuno, ar gyfer dysgu neu atgoffa.
Ewch i ww.hmrc.gov.uk/webinars/live.htm am fanylion. Mae’n cael ei diweddaru’n wythnosol ac mae
yna gysylltiadau i bob gweminar unigol.
Ionawr 2013
10fed 7.00pm http://bit.ly/130Hwkq
19eg 11.00am http://bit.ly/S6Aokt
22ain 2.00pm http://bit.ly/UpxK6y
30ain 8.00am http://bit.ly/UK9duY
Hysbysebwch eich busnes yama
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: http://bit.ly/UJlFeZ
Pethau pwysig Cyllid a Thollau: mis Ionawr
Datganiad hydref y Canghellor
Er mwyn dysgu mwy am effaith y datganiad arnoch chi a’ch busnes, ewch i: http://bit.ly/Um7x7g
Datganiad hunanasesiad erbyn 31 Ionawr!
Mae’n rhaid i chi ei anfon erbyn 31 Ionawr er mwyn osgoi cosb, hyd yn oed os nad ydych chi'n
ddyledus o gwbl, er mwyn osgoi dirwy o £100.
Ai dyma fydd y tro cyntaf i chi anfon ar-lein? Cofiwch am ein gweminarau: http://bit.ly/130G15T
Barod am Weithredu Amser Real PAYE?
Mi fydd pob cyflogwr a darparwr pensiwn yn anfon eu manylion PAYE yn amser real erbyn Ebrill 2013,
ar wahân i rai amgylchiadau arbennig. Dim ond 13 wythnos i fynd!
Er mwyn eich paratoi mae gennyn ni gweminar 35 munud. Mae’n esbonio’r camau allweddol yn glir ac
yn gryno, gan eich arwain ar hyd pob cam o’r daith:
https://www3.gotomeeting.com/register/847105886
Efallai eich bod yn chwilio am rywun i ddatblygu eich meddalwedd PAYE: http://bit.ly/W5QSnF
A dyma ble i ddod o hyd i fanylion y cosbau am ddatganiadau hwyr neu anghywir ar gyfer 2012-2013 a
2013-2014: http://bit.ly/S6zrZB.
Newidiadau posib i’ch tystysgrif cofrestru TAW (TAW 4)
Rydyn ni wrthi’n cynnal a chadw ein systemau TAW, ac mae’n bosib y bydd hynny’n arwain at ychydig
o fân newidiadau. Os ydych chi’n derbyn tystysgrif newydd, rydyn ni’n gofyn yn garedig i chi fwrw
golwg manwl drosti er mwyn sicrhau fod y cyfan yn gywir. Diolch yn fawr:
http://bit.ly/RuCXLE
Gweithdai cynnal busnesau
Mae cwmnïau bach a chanolig yn cael eu gwahodd i gyfres o weithdai undydd, http://bit.ly/YXaBIG
sydd â’r bwriad o gynnig cefnogaeth ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi. Mae yna lefydd ar gael ar
gyfer digwyddiadau Ionawr, Chwefror a Mawrth 2013. Mi fydd y rhain yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn
â’r Blwch Patent, http://bit.ly/W5S5eE sydd ar gyfer cwmnïau sy’n barod i ddatblygu eu syniadau ac i
gynllunio ar gyfer y gostyngiad yn y dreth gorfforaethol (deg y cant) ar elw o batent. Mae Cyllid a Thol-
lau wedi cynhyrchu fideo esboniadol: http://bit.ly/Ubkq4t
Treth gemau peirianyddol – yr alwad olaf
Mae’r dyddiad olaf ar gyfer cofrestru wedi ei symud yn ôl i 11
Ionawr 2013. Mae yna fwy o fanylion am eich cyfrifoldeb, a sut i
ymgeisio, ar: http://bit.ly/VkGtq1