sefydlwyd 1867 cyfrol 154 rhif 2 ionawr 14, 2021 50c. siom … · 2021. 1. 14. · sefydlwyd 1867...

8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 154 Rhif 2 Ionawr 14, 2021 50c. SIOM SYMUD ‘MUNUD I FEDDWL’ Ers degawdau bu Munud i Feddwl yn cael eu ddarlledu am tua 7.25 bob bore ar Radio Cymru. Ond nid bellach. Mae BBC Cymru wedi symud y ‘slot’ ymlaen bedair awr i ganol rhaglen Shân Cothi. Yr awgrym yn e-bost Ynyr Williams, Golygydd Cynnwys, BBC Radio Cymru, yw bod y gwasanaeth newyddion boreol yn mynd i fod yn rhy llawn i adael lle i Munud i Feddwl. ‘Wrth i ni barhau i fod yng nghanol y pandemig, fe fydd sicrhau gwasanaeth newyddion cynhwysfawr wrth galon gwaith yr orsaf eto eleni. Dros y misoedd nesaf mi fyddwn hefyd yn pwyso a mesur y datblygiadau a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y Gwanwyn byddwn yn craffu ar y pleidiau gwleidyddol wrth ddilyn eu hymgyrchoedd ar gyfer Etholiad Senedd Cymru. A gyda hyn oll mewn golwg, mae’n timau o newyddiadurwyr yn paratoi rhag blaen er mwyn sicrhau fod y newyddion yn eich cyrraedd wrth iddo dorri,’ meddai. ‘Ynghanol y cyfnod prysur hwn, mae sicrhau gofod ar ein gwasanaeth ar gyfer myfyrdod dyddiol, yn holl bwysig. Rydym yn ymwybodol fod Munud i Feddwl yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein gwrandawyr yn hynny o beth. Fel y gwyddoch, mae’r eitem hirhoedlog hon yn gyfle i adlewyrchu, a gosod digwyddiadau a safbwyntiau mewn cyd-destun ysbrydol neu foesol ehangach, gan ein hysbrydoli neu ein herio – weithiau y ddau.’  Ond mae’n amlwg nad yw Munud i Feddwl yn ddigon ‘holl bwysig’ i’w gadw ar amser brig newyddion y bore. Ers dechrau’r mis, cafodd ei symud i 11.30 bob bore fel rhan o raglen Bore Cothi. Oherwydd prysurdeb eu rhaglenni newyddion dros y misoedd, dywed y BBC mai rhoi cyfle i Funud i Feddwl i gael sylw teilwng yw’r bwriad. ‘Fel sy’n digwydd nawr, mi fydd yr eitem yn parhau i fod â chynnwys cyfredol sy’n caniatáu i’r gwrandawyr oedi a myfyrio – i gymryd saib ac ymbwyllo. Ac mae rhoi slot parhaol i Munud i Feddwl yn rhaglen Shân yn cynnig cyfle gwych i ddenu cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd o ran hyd yr eitem,’ meddai Ynyr Williams. Y newid amser yn siomi Ond nid pawb sy’n croesawu’r newid. ‘A dweud y gwir, mae’n dipyn o siom,’ meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries, Llywydd yr Undeb. ‘Roedd darlledu Munud i Feddwl ynghanol cyffro’r gwasanaeth newyddion yn gyfle i wrandawyr bwyllo, a helpu iddynt wneud synnwyr o ambell destun heriol a dwys. ‘Roedd y slot ben bore yn golygu bod pobl yn clywed y darllediad tra’n gwisgo, yn bwyta brecwast neu’n gyrru i’r gwaith. O ganlyniad, roedd ystod eang o bobl o bob oed yn ei glywed. Er fod rhaglen Shân Cothi yn un boblogaidd, mae’r amseriad yn golygu mai dim ond bobl sydd adre ddiwedd y bore fydd yn clywed Munud i Feddwl o hyn ymlaen. Ac o ystyried dwyster Munud i Feddwl, ydyw rhaglen ysgafn yn gweddu i’r fath gyfraniad? Cwestiwn arall yw – beth fyddai’n digwydd petai rhaglen Shân yn dod i ben ymhen hir neu hwyr? O leiaf roedd y gwasanaeth newyddion yn gartref diogel ar gyfer Munud i Feddwl.’ Beth yw’ch barn chi, ddarllenwyr Y Tyst? A ddylai’r BBC ailystyried yn yr hydref, dyweder, pan fydd etholiadau Senedd Cymru a penllanw’r pandemig yma wedi mynd heibio? Anfonwch air atom. TEYRNGED I BETHAN ROBERTS, ARLOESWRAIG Y MUDIAD MEITHRIN Gyda thristwch cofnodir marwolaeth Bethan Margaret Roberts ar 11 Rhagfyr 2020 yn 88. Gwraig annwyl Glan, mam hoff Catrin, Elin ac Aled, mamgu a hen famgu balch Alys, Sara, a Matthew, Mari, Harry, Toby a Jack. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol breifat o dan ofal ei gweinidog y Parchedig Carys Ann a rhoddwyd i orffwys gyda’i phriod ym mynwent Capel y Wig, Blaencelyn, Llangrannog, Ceredigion. Anfonwyd llu o lythyrau a chardiau at y teulu yn mynegu geiriau o gydymdeimlad a llu o atgofion hyfryd. Gwerthfawrogir y cyfraniadau er cof am Bethan at Mudiad Ysgolion Meithrin ac Ambiwlans Awyr Cymru a dderbyniwyd trwy law yr ymgymerwr angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion SA44 5QH. Mynd yr ail filltir Yn ei theyrnged dewisodd y Parchg Carys Ann adnod o Efengyl Mathew 5:14, ‘Pwy bynnag a’th gymhello i fynd un filltir, dos gydag ef ddwy’ oherwydd y fraint i’w gweinidog ac aelodau Capel y Wig o gael adnabod Bethan am flynyddoedd lawer. Tystioaleth debyg gafwyd gan ei chyn- weinidog, y Parchg Ddr Alun Tudur, ac parhad ar dudalen 2

Upload: others

Post on 07-Feb-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Sefydlwyd 1867 Cyfrol 154 Rhif 2 Ionawr 14, 2021 50c.

    SIOM SYMUD ‘MUNUD I FEDDWL’Ers degawdau bu Munud i Feddwl yn cael eu ddarlledu am tua 7.25 bob bore ar Radio Cymru. Ond nid bellach. Mae BBC Cymru wedi symud y ‘slot’ ymlaen bedair awr i ganol rhaglen Shân Cothi.

    Yr awgrym yn e-bost Ynyr Williams, Golygydd Cynnwys, BBC Radio Cymru, yw

    bod y gwasanaeth newyddion boreol yn mynd i fod yn rhy llawn i adael lle i Munud i Feddwl.

    ‘Wrth i ni barhau i fod yng nghanol y pandemig, fe fydd sicrhau gwasanaeth newyddion cynhwysfawr wrth galon gwaith yr orsaf eto eleni. Dros y misoedd nesaf mi fyddwn hefyd yn

    pwyso a mesur y datblygiadau a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac yn y Gwanwyn byddwn yn craffu ar y pleidiau gwleidyddol wrth ddilyn eu hymgyrchoedd ar gyfer Etholiad Senedd Cymru. A gyda hyn oll mewn golwg, mae’n timau o newyddiadurwyr yn paratoi rhag blaen er mwyn sicrhau fod y newyddion yn eich cyrraedd wrth iddo dorri,’ meddai. 

    ‘Ynghanol y cyfnod prysur hwn, mae sicrhau gofod ar ein gwasanaeth ar gyfer myfyrdod dyddiol, yn holl bwysig. Rydym yn ymwybodol fod Munud i Feddwl yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein gwrandawyr yn hynny o beth. Fel y gwyddoch, mae’r eitem hirhoedlog hon yn gyfle i adlewyrchu, a gosod digwyddiadau a safbwyntiau mewn cyd-destun ysbrydol neu foesol ehangach, gan ein hysbrydoli neu ein herio – weithiau y ddau.’

     Ond mae’n amlwg nad yw Munud i Feddwl yn ddigon ‘holl bwysig’ i’w gadw ar amser brig newyddion y bore. Ers dechrau’r mis, cafodd ei symud i 11.30 bob bore fel rhan o raglen Bore Cothi. Oherwydd prysurdeb eu rhaglenni newyddion dros y misoedd, dywed y BBC mai rhoi cyfle i Funud i Feddwl i gael sylw teilwng yw’r bwriad.

    ‘Fel sy’n digwydd nawr, mi fydd yr eitem yn parhau i fod â chynnwys cyfredol sy’n caniatáu i’r gwrandawyr oedi a myfyrio – i gymryd saib ac ymbwyllo. Ac mae rhoi slot parhaol i Munud i Feddwl yn rhaglen Shân yn cynnig cyfle gwych i ddenu cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â rhoi mwy o hyblygrwydd o ran hyd yr eitem,’ meddai Ynyr Williams. 

    Y newid amser yn siomi Ond nid pawb sy’n croesawu’r newid. ‘A dweud y gwir, mae’n dipyn o siom,’ meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries, Llywydd yr Undeb. ‘Roedd darlledu Munud i Feddwl ynghanol cyffro’r gwasanaeth newyddion yn gyfle i wrandawyr bwyllo, a helpu iddynt wneud synnwyr o ambell destun heriol a dwys.

    ‘Roedd y slot ben bore yn golygu bod pobl yn clywed y darllediad tra’n gwisgo, yn bwyta brecwast neu’n gyrru i’r gwaith. O ganlyniad, roedd ystod eang o bobl o bob oed yn ei glywed. Er fod rhaglen Shân Cothi yn un boblogaidd, mae’r amseriad yn golygu mai dim ond bobl sydd adre ddiwedd y bore fydd yn clywed Munud i Feddwl o hyn ymlaen. Ac o ystyried dwyster Munud i Feddwl, ydyw rhaglen ysgafn yn gweddu i’r fath gyfraniad? Cwestiwn arall yw – beth fyddai’n digwydd petai rhaglen Shân yn dod i ben ymhen hir neu hwyr? O leiaf roedd y gwasanaeth newyddion yn gartref diogel ar gyfer Munud i Feddwl.’

    Beth yw’ch barn chi, ddarllenwyr Y Tyst? A ddylai’r BBC ailystyried yn yr hydref, dyweder, pan fydd etholiadau Senedd Cymru a penllanw’r pandemig yma wedi mynd heibio? Anfonwch air atom.

    TEYRNGED I BETHAN ROBERTS, ARLOESWRAIG Y

    MUDIAD MEITHRIN Gyda thristwch cofnodir marwolaeth Bethan Margaret Roberts ar 11 Rhagfyr 2020 yn 88. Gwraig annwyl Glan, mam hoff Catrin, Elin ac Aled, mamgu a hen famgu balch Alys, Sara, a Matthew, Mari, Harry, Toby a Jack. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol breifat o dan ofal ei gweinidog y Parchedig Carys Ann a rhoddwyd i orffwys gyda’i phriod ym mynwent Capel y Wig, Blaencelyn, Llangrannog, Ceredigion.

    Anfonwyd llu o lythyrau a chardiau at y teulu yn mynegu geiriau o gydymdeimlad a llu o atgofion hyfryd. Gwerthfawrogir y cyfraniadau er cof am Bethan at Mudiad Ysgolion Meithrin ac Ambiwlans Awyr Cymru a dderbyniwyd trwy law yr ymgymerwr angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pâl, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion SA44 5QH.

    Mynd yr ail filltir

    Yn ei theyrnged dewisodd y Parchg Carys Ann adnod o Efengyl Mathew 5:14, ‘Pwy bynnag a’th gymhello i fynd un filltir, dos gydag ef ddwy’ oherwydd y fraint i’w gweinidog ac aelodau Capel y Wig o gael adnabod Bethan am flynyddoedd lawer. Tystioaleth debyg gafwyd gan ei chyn-weinidog, y Parchg Ddr Alun Tudur, ac

    parhad ar dudalen 2

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 14, 2021Y TYST

    aelodau Ebeneser, Caerdydd. Bu i eglwys Ebeneser, Caerdydd a Capel y Wig elwa yn fawr o gael Bethan a Glan yn eu plith.

    Roedd Bethan yn berson oedd yn gwneud mwy na’r gofyn bob tro. Nid oedd ‘gwneud y tro’, na ‘ffwrdd a hi’, yn perthyn iddi. Roedd rhaid i bopeth fod yn iawn, ‘spot on’ bob tro. O ofyn am gymorth, buasai hi yno yn gadarn, yn sefyll wrth eich ochr, gan barchu y weinidogaeth Gristnogol.

    Daeth i’r byd ar 17 Ionawr, 1932 yn unig blentyn i Thomas a Sarah Ellen (Sal) Williams. Fe’i ganed a’i maged yn Pant, Llangrannog, cyn symud dros y ffordd i Delfryn, tŷ a godwyd gan ei thad-cu i’w mam. Addysgwyd Bethan yn ysgol Pontgarreg lle roedd ganddi dair ffrind a fu’n agos tan y diwedd, sef Elinor, Beti a Nel – y tair yn rhy fregus i ddod i’w gwasanaeth angladdol, ond roedd Gareth Llewelyn, mab Nel a mab bedydd Bethan yno.

    Roedd Bethan yn blentyn yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd, oedd yn arbennig o anodd i Bethan gan bod ei thad yn forwr, oedd i ffwrdd un tro am 5 mlynedd. Cafodd ei gipio gan yr Almaenwyr ym mis Ebrill 1940 yn Narvik, Norwy cyn cael ei symud i Sweden. Yna 1942 cafodd ei gipio eilwaith a’i anfon i garchar rhyfel ger Bremen.

    Dysgu Tom Jones

    Yn ystod y rhyfel aeth Bethan i ysgol uwchradd Aberteifi ac yna i Goleg St Mary’s (rhan o’r Coleg Normal wedyn) ym Mangor i astudio er mwyn dod yn athrawes. Ar ôl hynny, bu yn Aberystwyth am flwyddyn yn gwneud cwrs ôl-radd cyn cael swydd yn Nhrefforest a symud i fyw i Bontypridd. Yn ysgol Trefforest bu’n dysgu Cymraeg ac ymhlith y disgyblion roedd Tommy Woodward, ddaeth yn fyd-enwog fel y canwr Tom Jones. Bu Bethan hefyd yn dysgu Linda, a ddaeth yn wraig iddo.

    Cwrdd â Glan yn y cwrdd! 

    Yng nghapel Sardis, Pontypridd fe gyfarfu Bethan â Glan, a ddaeth yn ŵr iddi am dros 62 o flynyddoedd ar ôl priodi yn 1956. Ar ôl geni Aled, symudodd y teulu i fyw yn Pantmawr Road, Eglwys Newydd. Bryd hynny dechreuodd Bethan wrth ei gwaith pwysig gydag Ysgolion Meithrin gan ddechrau ysgol feithrin yn Rhiwbeina gyda Sali Hughes a chymorth Gwilym Roberts, a fu’n ffrind agos gydol oes.

    Ar ôl geni Elin a Catrin, fe aeth Bethan ’nôl i ddysgu yn rhan amser yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, oedd yn ysgol newydd ar y pryd, ond yn Eisteddfod Bangor 1971 roedd hi’n un o’r criw bach wnaeth sefydlu’r Mudiad Ysgolion Meithrin a hi oedd ysgrifennydd cyntaf y mudiad. Bu’n yn gweithio o’i thŷ yn Radyr, ac wrth ei gwaith a’r papurau i gyd ar fwrdd y gegin. Yn sgil marwolaeth Bethan, dywedodd Gwenllian Lansdown Davies, y cyfarwyddwr presennol, bod y rhod wedi troi yn llwyr yn 2020, gyda hithau yn gweithio o ford y gegin heddiw.

    Twf aruthrol Ysgolion Meithrin 

    Bu Bethan yn teithio ar hyd a lled Cymru, yn helpu pobl i sefydlu ysgolion meithrin ym mhob cwr o’r wlad. Dyrnaid o gylchoedd meithrin oedd yn bodoli yn 1971 ond ymhen 10 mlynedd roedd 350 ohonynt ledled Cymru. Gwaith gwirfoddol oedd hwn i Bethan ar y dechrau ond yn y pendraw fe gytunodd y Swyddfa Gymreig i roi rhywfaint o arian i’r mudiad ac fe agorwyd swyddfa yng Nghanolfan yr Urdd yn Conway Road. Er iddi roi’r gorau i’w gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn 1975, fe barahodd Bethan yn weithgar gyda’r Mudiad am flynyddoedd.

    Bu’n gweithio fel athro cyflenwi am gyfnod yn y Porth, a’r Barri cyn cael swydd dysgu Cymraeg yn ysgol newydd Glantaf yng Nghaerdydd yn 1978. Roedd wrth ei bodd yno ac yn falch iawn o fod wedi dysgu cynifer o blant sy’n dal i’w chofio hyd heddiw. Ymfalchïai yn y ffaith ei bod hi wedi dysgu llawer a ddaeth i amlygrwydd cenedlaethol a rhyngwladol, yn eu plith Eluned Morgan, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys, Jeremy Huw Williams, Ffion Hague a llawer mwy.

    Symud yn ôl i Langrannog 

    Ar ôl ymddeol yn 1989, fe symudodd Glan a Bethan yn ôl yn raddol dros y blynyddoedd i’w chartref yn Delfryn, Llangrannog, nes setlo’n barhaol yno yng nghanol y 90au. Taflodd ei hunan i mewn i fywyd y fro a’r sir, a bu’n weithgar gyda Merched y Wawr, Cymdeithas Ceredigion, Capel Crannog a Chapel y Wig. Cafodd Bethan a Glan eu anrhydeddu yn ddiaconiaid yng Nghapel y Wig gan gyflawni eu gwaith gydag anrhydedd a pharch eithriadol. Yn dilyn ymddeoliad Ann Tydfor, bu Bethan yn drysorydd Capel y Wig o 2007–14, gyda Glan yn gefn iddi yn y swydd. Ar achlysur ei hymddeoliad fel trysorydd,

    TEYRNGED I BETHAN ROBERTS – parhad cyfansoddwyd yr isod gan yr ysgrifennydd, Jon Meirion. Gwaith dyfal a gofalus – rhoi o hyd

    mor hael ac mor raenus; hi’r llaw, canghellor y llys a’i haeddiant anrhydeddus.

    Y ddau a oedd ddiwahan – a gwaddol egwyddor i’w hanian;

    cytûn wrth bwyso’r glorian – Rhannu mwy na’r arian mân.

    Dychwelid i Gaerdydd 

    Ar ôl i’r clefyd creulon dementia gael gafael ynddi, yn 2015 fe wnaed y penderfyniad anodd i fynd ’nôl i Gaerdydd er mwyn i’r merched allu rhoi gwell cefnogaeth a chymorth i’w tad oedd yn gofalu am eu mam. Erbyn 2016 roedd cyflwr Bethan wedi gwaethygu eto a bu raid iddi hi a Glan symud i gartref gofal Sunrise, Caerdydd lle bu farw Glan ym mis Mawrth 2019. Roedd Bethan wedi gorfod symud i dderbyn gofal yng nghartref Regency House. Ar ôl colli Glan fe wnaeth ei chyflwr ddirywio yn sylweddol. Gwerthfawrogir y gofal a dderbyniodd gan staff Regency House, ble bu farw.

    Rhoddwn ddiolch i Dduw am un oedd yn Gymraes i’r carn, yn hyrwyddo gweithgareddau cyfrwng Cymraeg trwy fudiadau fel yr Urdd ac addysg Gymraeg, Yr Eisteddfod Genedlaethol ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Carai ei gwlad a’i hiaith a charai ei phobl. Yn wraig fonheddig, alluog, driw i’w daliadau a’i gwreiddiau. Bydded i bob un gafodd y fraint o’i hadnabod ddiolch i Dduw am Bethan Roberts.

  • Gwers 27

    Y Sêr-ddewiniaidGweddiNefol Dad, diolch am hanes y geni fel ymae Mathew yn cyflwyno’r stori. Helpani i amgyffred pwysigrwydd yr hanesi’r efengylydd a pherthnasedd yr hanesi’n byd soffistigedig ac i’n cymdeithasgymhleth. Agor ein clustiau i wrandoa’n llygaid i weld. Amen.

    Darlleniad Mathew 2:1–12

    CyflwyniadMathew yn unig sy’n rhannu hanesymweliad y sêr-ddewiniaid âBethlehem er mwyn gweld y babanIesu. Efallai nad oedd Luc wedi clywedyr hanes, neu nad oedd y stori ynbwysig iddo. Ceir awgrym mewnmannau eraill eu bod wedi teithio oBersia, ac yn frenhinoedd yn eugwledydd eu hunain. Cyfeirir atynt fely Magi, a bod ganddynt ddoniaulledrithiol. Nid dyna bwyslais storiMathew. Roedd ef yn ysgrifennu argyfer pobl o dras Iddewig a oedd yngwybod fod Jerwsalem wedi syrthio yn70 OC a bod yr Iddewon wedi profigorthrwm a chaledi. Byddent yngyfarwydd â thª brenhinol Herod, ac nafu’r teulu hwn yn llywodraethu’n deg.Lladdwyd llawer o fechgyn dan

    ddwyflwydd oed oherwydd mympwyHerod, a dienyddiwyd Ioan Fedyddiwroherwydd twyll Herodias wrth hawliopen Ioan Fedyddiwr fel gwobr amddawnsio Herodias, eu merch (Marc6:21–9).

    Yn hanes ymweliad y sêr-ddewiniaid, tybiwyd mai tri ohonyntoedd yno, a hynny oherwydd enwir tairrhodd, er nad yw’r efengylydd ei hunyn dweud mai tri oedd yna. Onid ergydfawr Mathew wrth adrodd yr hanesoedd dweud bod Iesu yn fwy o freninna breniniaethau Israel, ac yn sicr ynfwy na’r sawl a wisgai goronbrenhiniaeth yr Iddewon adeg geni Iesua’r sawl a geisiodd ymddangos ynfrenin adeg croeshoelio Iesu.

    MyfyrdodMewn oes lle nad oes cymaint â hynnyo wledydd yn eu hystyried eu hunainfel brenhiniaeth, mae’r syniad o freninyn ddieithr i lawer. Prin y byddai sônam arlywydd chwaith yn helpu, gan fody brenin, mewn sefyllfa ddelfrydol, yncynnwys sofraniaeth ac undod ygenedl. Bydd y brenin a’i deulu y tuallan i gylch ‘y bobl’, ac eto, bu’rfrenhiniaeth ym Mhrydain ac mewngwledydd eraill yn y cyfnod diweddaryn ymdrechu’n galed i osgoi bod ynbell o’r bobl chwaith.

    Wrth gyfeirio at Iesu fel brenin, byddyr eglwys yn cydnabod bod iddoawdurdod a grym na all aelodau’reglwys eu hawlio, a bod y ‘deyrnas’ ynun yng Nghrist. Gwelir y brenin fel unsy’n amddiffyn a chynnal ei deyrnas acyn llywodraethu mewn modd sydd erlles ei ddeiliaid. Wrth gyfeirio at y sêr-ddewiniaid fel brenhinoedd, roedd eustatws yn hawlio sylw a pharch, abyddai Mathew yn cyhoeddi bodbrenhinoedd y tu allan i Iddewiaeth yncydnabod brenhiniaeth Iesu. Wrthiddynt blygu o’i flaen, gwelid y babanyn uwch na’r brenhinoedd oll.

    Pwy yw brenin ein byd ni, nid yn yrystyr wleidyddol o reidrwydd, ond fel ysawl sy’n llywodraethu ein bywydau?Gallai amryw gyfeirio at ‘fasnach’ felbrenin, neu ‘arfau niwclear’ fel y grympennaf. Byddai llawer yn gweld y‘drefn ddigidol’ fel arglwyddiaeth

    gyfoes, tra mae eraill yn gweld‘gwyddoniaeth’ fel sylfaen ystyr bywydyn ei holl gymhlethdodau. Efallai fodcyfeiriad at y sêr-ddewiniaid yn einhannog i ofyn beth yw dylanwadastronomeg a theithio’r gofod ar einffordd o feddwl a byw. Pwy yw breninein byd, ac yn arbennig ein byd bachni?

    Adeg y Nadolig a’r Ystwyll, nidmanylion stori’r geni a ‘drama plant yfestri’, fel y cyfeiriodd Dr GwynThomas ati yn ei gerdd enwog, ddylaifod yn ganolog, ond yr Efengyl oddimewn i’r hanesion hyn, sef bod Duwyng Nghrist yn achub y byd yr oedd ynei garu. Yn Ioan 3:16, cawn galon ydweud, a chalon hanes genedigaethIesu hefyd.

    GweddiDduw y datguddiad rhyfeddaf a fuerioed, hawliaist dy fyd, ac rwyt ynhawlio ein hamser a’n hymroddiad nihefyd. Plygwn, fel yr ymwelwyr o bell,wrth grud Iesu ac addoli mewnrhyfeddod syfrdan. Amen.

    Trafod ac ymateb

    • A gawsoch chi erioed eich cyflwynoi rywun enwog neu bwysig iawn?Rhannwch eich teimladau oscawsoch brofiad o’r fath.

    • Pa un yw’r hawsaf i benlinio ger eifron: y plentyn bychan fel a welir ynhanes y doethion yma gan Mathew,neu’r un a ddarlunnir gan Ioan yn eiDdatguddiad (1:12–16) ymysg ycanwyllbrennau a’i lygaid yn fflamdân?

    • A yw’r syniad o ‘frenhiniaeth’ yndal yn un y gellir uniaethu ag efheddiw?

    • Beth mae’n ei olygu i gydnabodIesu fel y Brenin a wasanaethwn ynein byw bob dydd?

    Ionawr 14, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    EGLWYSI CYLCH CARN INGLI(Bethlehem, Caersalem, Ebeneser,

    Jabes, Tabor)

    Mae’r Gweinidog, y Parchg Alwyn Daniels,bellach wedi ymddeol wedi deugainmlynedd o weinidogaeth ymroddedig athystiolaeth loyw yn ein cylch a thu hwnt.

    Byddwn yn cyflwyno tysteb i ddangos eingwerthfawrogiad o’i waith a’i wasanaeth efa Jean, ei briod, pan fydd amgylchiadau’ncaniatáu.

    Os carech chi gyfrannu, gellir anfon siec,taladwy i “Cyfrif Tabor, Bethlehem,Caersalem a Jabes”, at Gwenno Eynon,Glan Gwaun, Pontfaen, Abergwaun, SirBenfro SA65 9SG, cyn CHWEFROR 28,2021.

    DIOLCH YMLAEN LLAW.

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

    (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • CroesoMae ein lles ysbrydol yr un mor bwysigâ’n lles corfforol. Yn ystod y flwyddyna aeth heibio, bu her ddifrifol i’rddeubeth: mae pandemig COVID-19wedi peri i ni fod yn ofalus ynglªn â’nhiechyd, gan gymryd camau diogelwchmegis golchi’n dwylo, gwisgo mygydaua chadw pellter cymdeithasol. Bu rhaiohonom yn wael a chollodd eraillohonom rywun agos i ni. Amharwydhefyd ar fywyd gwaith llawer ohonom achadwyd teuluoedd ar wahân, yn aml argost bersonol ddifrifol. Efallai i hyn ollein gwneud yn fwy pryderus ynghylchein hiechyd ac yn fwy ymwybodol pamor fregus ydym. Ar yr un pryd buadeiladau eglwysig ar gau, gydagaddoli’n digwydd ar-lein. Prin fu’rcyfleoedd i gydaddoli ac i weddïo

    gyda’n gilydd. Mae’n ddigon posibl einbod yn teimlo ein bod wedi’n hynysuoddi wrth Dduw yn ogystal ag oddiwrth ein cymydog.

    Mae’r cyfnod clo yr ydym wedi bywdrwyddo wedi achosi i ni gymryd camyn ôl i feddwl eilwaith am einblaenoriaethau ac am y bobl a’r pethausy’n bwysig i ni, sydd yn gwneud einbywydau’n gyflawn. Mae’r cyfnodauhir heb weld ein teuluoedd estynediga’n cyfeillion a’r diffyg cyfle i rannupryd neu gyd-ddathlu pen-blwydd neubriodas yn enghreifftiau o hynny.

    Yn achos ein bywyd ysbrydol, bethyw’r peth pwysicaf ar gyfer ein lles?Wrth i fywyd eglwysig ddod i ben iraddau helaeth, am y tro cyntaf i’r rhanfwyaf o bobl, beth mae’n ei olygu i fodyn rhan o’r Un Eglwys, o Gorff Crist,pan mai dim ond ar sgrin y gliniadurrydym yn gweld ein chwiorydd a’nbrodyr?

    Pan fu i Gyngor Eglwysi’r Byd aChyngor y Pab er Hyrwyddo UndodCristnogol wahodd ChwioryddCymuned Grandchamp yn y Swistir ilunio’r deunydd ar gyfer yr WythnosWeddi am Undeb Cristnogol yn 2021,ni fyddent wedi gallu rhag-weld ypandemig a’i effeithiau. Eto, maeChwiorydd Grandchamp wedi cynnig ini rywbeth unigryw a gwerthfawr, sefcyfle i brofi dull o weddïo sydd ar yr unpryd yn hen iawn ac eto mor addas argyfer ein cyfnod ninnau. Mae rhythmauhynafol gweddi, a ganfyddir mewnllawer o urddau crefyddol a’utraddodiadau, yn ein dysgu ein bod, panfyddwn yn gweddïo, yn gwneud hynnynid yn unig ar ein pen ein hunain neu

    gyda’r rhai sydd yn y fan a’r lle gyda niond gyda’r Eglwys gyfan, Corff Crist,gydag aelodau’r teulu Cristnogol mewnlleoedd eraill a chyfnodau gwahanol.

    Gallai’r patrwm gweddi hwn, gyda’istrwythurau traddodiadol, ei emynau a’isalmau ac, efallai’n bwysicaf oll, eiysbeidiau tawel, yn wir fod yn rhoddbwysig oddi wrth Eglwys yr hen fyd i’rEglwys heddiw wrth iddi ymgodymu âheintiau a chyfnodau clo ac ynehangach gyda rhai o’r heriau dwyssy’n wynebu’r byd, yn fwyaf penodolnewid hinsawdd, hiliaeth a thlodi.Mae’r traddodiad hwn o weddi acysbrydolrwydd yn ein gwahodd, ergwaethaf y pethau sydd yn ein brifo acyn ein gwahanu, i rannu gweddi athawelwch â’n gilydd. Heb os, dynarodd hynod werthfawr yn y dyddiauhelbulus hyn. Dewch gyda ni yn ystodyr Wythnos Weddi am UndebCristnogol eleni a chamu i fan lle maecymdeithas a bendith. Yma cewch ‘fod’fel yr ydych a phrofi cynhaliaethgweddi a gwybod mai Duw, yngNghrist a thrwy’r Ysbryd Glân, sy’n eincynnal ac yn cyd-deithio â ni. Bobamser.

    Bob Fyffe,Ysgrifennydd Cyffredinol, EglwysiYnghyd ym Mhrydain ac Iwerddon

    Allan o’r cyflwyniad i adnoddau’rWythnos Weddi am Undeb Cristnogol.Nid oes adnoddau print ar gael i’whanfon allan eleni. Gellir dod o hyd i’rcyfan sydd ar gael yn y Gymraeg argyfer yr wythnos o ddilyn y ddolen hon:

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 14, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Mae astudiaeth newydd gan YouGov ynnodi bod y rhai yn eu harddegau hwyra’u hugeiniau cynnar (Cenhedlaeth Z,fel y’u gelwir) yn fwy tebygol o greduyn Nuw na phobl yn eu hugeiniau hwyra’u tridegau. Yn ôl yr astudiaeth, mae’rffaith fod pobl ifanc yn gallu cael gafaelar wybodaeth am ffydd mor rhwydd ar-lein yn un rheswm allweddol dros ynewid yn y duedd i ystyried pobl iau felrhai llai crefyddol.

    Mae ffactorau eraill yn cynnwys llaio ‘stigma’ am gredoau crefyddolymhlith grwpiau cymheiriaidCenhedlaeth Z, gan arwain atdrafodaethau mwy agored am ffydd.Mae arbenigwyr hefyd yn credu ygallai’r pandemig fod wedi peri i lawero bobl ifanc feddwl yn fwy difrifol amyr hyn maen nhw’n ei gredu, gan arwainat gynnydd mewn cysylltiad crefyddol.

    Cynyddodd nifer y rhai yn y grfipoedran 16 i 24 oed sy’n eu hystyried euhunain yn grefyddol i 23 y cant yn yrastudiaeth ddiweddaraf. Pan ofynnwydy cwestiwn i bobl ifanc 18 i 24 oed ymmis Ionawr, roedd y ffigur yn 21 y cant.Ar gyfer pobl 40 i 59 oed a 25 i 39 oed,

    fe ddisgynnodd i 26 y cant ac 19 y cant,yn y drefn honno.

    Dywedodd Dr Lois Lee, Cymrawdyn Adran Astudiaethau CrefyddolPrifysgol Caint, wrth y Times ei bod yn‘debygol iawn bod y pandemig wedieffeithio ar gredoau ac arferion dirfodolpobl’ ond nad oedd ‘wedi eihargyhoeddi eto y bydd wedi gwneudunrhyw grfip yn fwy neu’n llaicrefyddol yn y tymor hwy’.

    Nododd y gall amseroedd o argyfwngfod yn ‘amser archwilio’ o ran systemaucred personol. ‘O bosib mae data eleniyn dangos bod pobl ifanc yn mynddrwy’r math hwnnw o gyfnod archwilioyn fwy nag eraill,’ meddai.

    Nododd Stephen Bullivant, AthroCymdeithaseg Crefydd ym MhrifysgolSt Mary’s, Twickenham, fod ffigurau

    Yr Wythnos Weddiam Undeb Cristnogol 2021

    18–25 Ionawr

    Pobl ifanc yn troi at Dduw yn y pandemig?

    Llun: Unsplash

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Wrth wylio’r rhaglen Am Dro Selebs arS4C a gweld y cerddor AlwynHumphreys yn arwain taith gerdded ynYnys Môn o Biwmares i Benmon feaeth fy meddwl yn ôl i 1994. Roeddwni wedi cerdded y rhan honno o’r arfordirbron i bum mlynedd ar hugain yn ôl ardaith noddedig o gwmpas yr ynys gydarhai o aelodau Capel y Groes, Wrecsam,er mwyn codi arian i gynnal llochesnewydd i’r digartref yn y dref o’r enw StJohn’s.

    Dyna oedd dechrau’r gwaith ohelpu’r rhai oedd yn cysgu allan ar ystrydoedd gan fod eglwys St John’s ynWrecsam yn cynnig llety dros nos i hydat 15 o ddynion, os ydw i’n cofio’niawn. Ers y dyddiau hynny mae llawerwedi newid, ac mae cymaint o fudiadau,eglwysi ac unigolion yn cynnig cymorthi’r digartref.

    Mae 2020 wedi bod yn gyfnod herioli bawb oherwydd Covid-19, ond maesialensau gwahanol iawn wediwynebu’r sawl sy’n rhoi cymorth i’rdigartref. Pan oedd y don gyntaf o’rpandemig yn ymledu ym mis Mawrth,roedd cynllun Llety’r Gaeaf ynweithredol gan elusen Cyfiawnder TaiCymru. Ond roedd yn rhaid dod â’rcynllun hwn i ben bythefnos yn fuan, ac roedd nifer ohonom yn poeni beth oedd

    yn mynd i ddigwydd i’r ‘gwesteion’, felroeddem yn eu galw. Y peth olafroeddwn i eisiau oedd eu troi allan, ynôl ar y strydoedd. Ond derbyniodd pobCyngor Sir gymorth ariannol ganLywodraeth Cymru i ddarparu llety drosdro i’r rhai oedd yn dewis cysgu ar einstrydoedd fel nad oeddent yn lledaenu’rfirws. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsamroedd hyn yn wreiddiol yn golygudarparu llety mewn tri lleoliad: fflatiaumewn hostel myfyrwyr gan eu bod ynwag ac ar fin cael eu dymchwel cyncyfnod y clo, fflatiau gwarchodol sy’ncael eu rheoli gan elusen, a gwesty drosy ffin yn Swydd Caer. Roedd y trilleoliad yma’n rhoi llety cynnes i hyd at45 o bobl – dynion a merched o boboed. Yn fuan, fe gafwyd cytundeb gydanifer o grwpiau oedd yn gweithio gyda’rdigartref yn y dref yn barod i gynnigparatoi prydau bwyd a’u dosbarthu i’rlleoliadau hyn.

    Y newyddion da ydi fod y cyfnodhwn wedi rhoi amser i staff y Cyngorddod o hyd i lety parhaol i rai, agobeithio bod rhywfaint osefydlogrwydd bellach ym mywydaurhai sydd wedi treulio blynyddoedd ynddigartref. Erbyn hyn mae pryd poethamser cinio a bwyd dros y penwythnosyn cael ei ddosbarthu gan wahanol

    grwpiau i’r lleoliadau hyn ac i ambellunigolyn sy’n byw mewn llety’n cael eiddarparu gan y Cyngor. Ar ôl bod yncysgu allan ar y strydoedd am nifer oflynyddoedd, mae rhai unigolion yn eichael yn anodd trefnu siopa a pharatoibwyd, ac felly maent yn cael bwyd fel yrhai sydd mewn hosteli neu westy drosdro.

    Rydym yn croesawu dyhead yllywodraeth i gadw’r digartref oddi arein strydoedd ac yn gweddïo y byddrhywfaint o fendith yn dod allan o’rcyfnod anodd hwn wrth roi cyflegwirioneddol i’r digartref gaelsefydlogrwydd unwaith eto yn eubywydau. Diolch i staff yr hollGynghorau ac i’r cannoedd owirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser igeisio gwella bywydau’r rhai mwyafbregus yn ein cymdeithas.

    Geraint W. Jones, Rhosllannerchrugog

    Ionawr 14, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Covid 19 yn cynnig cyfle newydd i’r digartref

    Doedd dim modd tynnu lluniau’r rhaioedd yn eu bwyta, ond dyma’r

    brechdanau wedi eu paratoi ac ynbarod i fynd i’r lleoliadau gwahanol

    astudiaeth YouGov yn ‘torri ar draws ydisgwyliad tymor hir’ fod grwpiauoedran yn ‘raddol yn llai crefyddol’wrth iddynt fynd yn iau.

    Roedd yr arolwg, a gynhaliwydar-lein ddiwedd mis Tachwedd, yncynnwys sampl o 2,169 o bobl ac roeddyn cynnwys pedwar cwestiwn: aoeddent yn credu yn Nuw; os nadoeddent yn credu yn Nuw, a oeddent yncredu mewn rhyw fath o bfier ysbrydoluwch; a oeddent heb gredu yn ynaill na’r llall, neu nad oeddent yngwybod.

    (Ffynhonnell: Premier Christian News.Dolen i’r safle newyddion Cristnogol:https://premierchristian.news. Ceirgweddi fer ar ddiwedd pob erthygl, ganamlaf gydag anogaeth ar ôl hon i ofyn iDduw:

    Gweddïwn y bydd pobl ifanc yn parhaui ofyn cwestiynau sylfaenol bywyd, acy byddant yn cael eu harwain tuag atatti wrth iddynt wneud hynny. Tywallt dyysbryd ar Genhedlaeth Z yn ygwledydd hyn a gweddïwn y gallantddod ag adfywiad i’w cenhedloedd!)

    Sul, 17eg IonawrOedfa

    Dechrau Canu Dechrau Canmolam 11:00yb

    yng ngofal Parch. Evan Morgan, Caerdydd

    ––––––––––

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Nos Sul, Nia fydd yn cwrdd â CarolHardy, un sydd wedi trechu caethiwedalcohol ac erbyn hyn yn cynnigcymorth ac yn ysbrydoliaeth i erailldrwy ei gwaith yng nghanolfan adferStafell Fyw. A chawn fwynhauperfformiad tangnefeddus o Weddi’rArglwydd gan Joy Cornock.–––––––––––––––––––––––––––––

    Caniadaeth y CysegrSul, 17eg Ionawr7:30yb a 4:30yp

    Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno emynau am obaith

    ––––––Oedfa Radio Cymru17 Ionawr am 12:00yp

    yng ngofalJudith Morris, Penrhyn-coch

    Pobl ifanc yn troi at Dduw yny pandemig? (parhad)

  • Mae adroddiad newydd gan GymorthCristnogol: Cyfrif y Gost 2020:blwyddyn drychinebus i’n hinsawdd(Counting the Cost 2020: a year ofclimate breakdown) yn nodi 15 o’rtrychinebau mwyaf dinistriol a welwydyn ystod y flwyddyn.

    Roedd cost deg o’r digwyddiadauhyn yn $1.5 biliwn neu fwy, gyda nawohonynt yn creu difrod gwerth o leiaf$5 biliwn. Mae’r rhan fwyaf o’ramcangyfrifon hyn wedi eu seilio argolledion yswiriant, sy’n golygu bod ygwir gost yn debygol o fod yn llaweruwch eto.

    Un o’r rhain oedd storm Ciara adrawodd y Deyrnas Gyfunol, Iwerddona gwledydd eraill yn Ewrop ym misChwefror, gan gostio $2.7 biliwn a lladd14 o bobl. Cyhoeddodd AsiantaethAmgylchedd y Deyrnas Gyfunol 251 orybuddion ynghylch dfir yn gorlifo ynei sgil.

    Tra bo’r adroddiad yn canolbwyntioar gostau ariannol, sydd fel arfer ynuwch mewn gwledydd cyfoethogoherwydd bod ganddynt eiddo mwygwerthfawr, roedd rhai o’rdigwyddiadau tywydd eithafol hyn yndrychinebus mewn gwledydd tlawd, erbod y gost ariannol yn llai. Profodd DeSwdan, er enghraifft, ei llifogyddgwaethaf erioed; lladdwyd 138 o bobl adinistriwyd cnydau eleni.

    Digwyddodd rhai o’r trychinebau ynsydyn iawn, fel Seiclon Amphan, adrawodd Fae Bengal ym mis Mai acachosi difrod gwerth $13 biliwn mewn

    ychydig ddyddiau. Digwyddiadau erailla ddatblygodd dros fisoedd oedd yllifogydd a gafwyd yn China ac India, agostiodd $32 biliwn a $10 biliwn yr un.

    Yn Asia y bu chwech o’r degdigwyddiad hyn, pump ohonynt yngysylltiedig â thymor monsfin anarferolo wlyb. Ac yn Affrica dinistrioddheidiau enfawr o locustiaid gnydau allystyfiant ar draws sawl gwlad, gangreu difrod gwerth $8.5 biliwn. Mae’rdigwyddiad hwn wedi ei gysylltu âchyflwr gwlyb a grëwyd gan lawogyddanarferol o drwm oherwydd newid ynyr hinsawdd.

    Ond mae effaith y tywydd eithafolwedi ei brofi ledled y byd. Yn Ewroproedd cost y seiclonau Ciara ac Alex ynbron i $6 biliwn. Ac fe ddioddefodd yrUnol Daleithiau dymor o gorwyntoedda dorrodd bob record a thymor tebyg odanau, â chost o dros $60 biliwn.

    Dioddefodd rhai mannau llai poblogeffeithiau byd sy’n cynhesu. Yn Siberia,cafwyd record o 38 gradd Celsius ynninas Verkhoyansk yn ystod cyfnod owres mawr. Fisoedd yn ddiweddarach,ar ochr arall y byd, roedd gwres asychder yn gyfrifol am achosi tanau ynBolivia, yr Ariannin a Brasil. Er nachofnodwyd colledion dynol yn ydigwyddiadau hynny, gall difrod o’rfath gael effaith fawr ar fioamrywiaeth agallu’r blaned i ymateb i fyd sy’ncynhesu.

    Er bod newid hinsawdd wedieffeithio ar y digwyddiadau hyn igyd, cafodd llawer o wledydd nad

    ydyn nhw wedi gwneud fawr ddim igreu’r broblem eu heffeithio hefyd. Yneu plith yr oedd Nicaragua, addioddefodd yn sgil Corwynt Iota,storm gryfaf tymor corwyntoedd yrIwerydd, a’r Philipinas, lle ycyrhaeddodd corwyntoedd Goni aVamco’r tir gefn wrth gefn, bron.

    Tanlinellodd y digwyddiadau hyn yrangen am weithredu brys ynglªn â’rhinsawdd. Mae Cytundeb Paris, lle ygosodwyd y nod o gadw’r cynnydd yn ytymheredd i ‘dan 2 gradd Celsius’ ac i1.5 gradd yn ddelfrydol, o’i gymharu â’rlefelau cyn-ddiwydiannol, bellach yn5 mlwydd oed. Mae’n allweddol fodgwledydd yn cytuno ar dargedauuchelgeisiol newydd cyn y gynhadleddhinsawdd nesaf, a fydd yn cael eichynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd2021.

    Meddai awdur yr adroddiad, Dr KatKramer, sy’n arwain ar bolisi’rhinsawdd i Gymorth Cristnogol:

    ‘Mae pandemig Covid-19 yn naturiolwedi bod yn bryder mawr eleni. Ifiliynau o bobl yn rhai o rannau bregusy byd, mae’r chwalfa sy’n digwyddoherwydd y newid yn yr hinsawdd wedigwneud hyn yn waeth. Y newydd da, ynunion fel yn achos y brechlyn ar gyferCovid-19, yw ein bod yn gwybod sut idrin yr argyfwng hinsawdd. Mae’nrhaid inni gadw tanwydd ffosil yn yddaear, cynyddu’r buddsoddiad mewnynni gwyrdd a helpu’r rhai sy’n dioddefwaethaf.

    ‘Boed yn llifogydd yn Asia,locustiaid yn Affrica neu’n stormydd ynEwrop ac America, gwelwyd effeithiaucynyddol ddinistriol y newid yn yrhinsawdd yn ystod 2020. Mae’nhollbwysig fod 2021 yn dod â chyfnodnewydd o weithredu yn ei sgil. Gyda’rArlywydd-etholedig Joe Biden yn y TªGwyn, mudiadau cymdeithasol ardraws y byd yn galw am weithredu,buddsoddiad adferiad gwyrdd yn dilynCovid ac uwchgynhadledd hinsawdd yncael ei cynnal yn y Deyrnas Gyfunol,mae yna gyfle euraid i’r gwledydd hynein gosod yn ôl ar lwybr i ddyfodolmwy diogel.’

    Gellid lawrlwytho’r adroddiad o’ngwefan:

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 14, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Tywydd eithafol yn sgil newid hinsawdd yncostio biliynau i’r byd yn 2020 – adroddiad

    • Storm Ciara yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop ym mis Chwefror wedi costio $2.7 biliwn a lladd 14 o bobl• Miloedd wedi eu lladd ledled y byd gan lifogydd, stormydd gwynt, seiclonau a thanau• Yr Unol Daleithiau’n wynebu’r costau uchaf oherwydd y tymor corwyntoedd a’r tanau gwaethaf erioed

    Bugail sy’n gorfod cloddio am ddfir mewn gwely afon sych yn Ethiopia

  • Ionawr 14, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn Annibynnol‘O gallwn, gallwn golli ...’

    Na, nid trafod cywydd adnabyddus Gerallt Lloyd Owen yw bwriad y golofn hon, er cymryd llinell ohono fel teitl. Ystyr lythrennol y geiriau yw ein thema.

    Yn y llythyr at y Galatiaid rhestrodd Paul naw o ffrwythau’r Ysbryd: ‘Cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth ...’ [Beibl.net] Ond nid yw Paul yn crybwyll y rhinwedd sydd cyn bwysiced â’r un arall – y gallu i golli’n rasol.

    Gallai hyn swnio’n rhyfedd. Wedi’r cyfan, seiliwyd holl ddiwylliant y Gorllewin ar ennill. Llwyddiant mewn rhyfel, mewn busnes, yn academaidd. Does neb yn edmygu’r sawl sy’n colli o hyd! Onid un o’r geiriau Saesneg ffasiynol os am ddifrïo person a thanseilio’i werth yw ei alw yn ‘loser’ ?

    Atgasedd at golli Rhaid cyfaddef bod atgasedd at golli wedi gwreiddio’n ddwfn ynom, o’n plentyndod ymlaen. Gwelais fwy nag un plentyn yn llyncu mul neu’n mynd i ryw hysteria wedi cael ei drechu mewn eisteddfod neu gêm o ddrafftiau. Mae methu cael ein penodi i swydd neu hyd yn oed colli mewn cwis adeg y Nadolig yn gallu cnoi’n perfeddion ni!

    Gallwn wenu uwchben y tueddiad hwn. Ond y perygl yw y gall y ‘colli’ droi’n

    genfigen neu’n gasineb at y sawl a’n trechodd. Gall y teimlad ein bod wedi ‘cael cam’ droi’n obsesiwn afiach fydd yn suro’n calonnau am amser maith.

    Yr ysgogiad i hel meddyliau am y pwnc hwn oedd gwylio stranciau diweddar yr Arlywydd Donald Trump a’r digwyddiadau brawychus yn Washington a oedd yn benllanw i’r rheiny. Er mwyn dechrau cynhyrfu ei ffyddloniaid, mae’n debyg, honnodd Trump fisoedd ymlaen llaw y byddai’r Democratiaid yn ceisio ‘dwyn’ yr etholiad oddi wrtho trwy dwyll. Yn sgîl buddugoliaeth Joe Biden, lansiodd Trump lu o achosion llys drudfawr i geisio dymchwel y canlyniad, ond ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o dwyll etholiadol.

    Sathru ar gyfraith gwlad Bu hefyd yn ceisio bwlio llywodraethwr Georgia i ‘ddod o hyd’ i ddigon o bleidleisiau iddo gael cipio’r dalaith. Mae Trump wedi cadarnhau geiriau’r hanesydd Thucydides yn y 5ed ganrif CC, ‘Mewn democratiaeth, gall

    ymgeisydd aflwyddiannus gysuro ei hun bob amser mai trwy dwyll yn unig y collodd ...’ Yn anffodus, dangosodd y trais a’r fandaliaeth yn Washington na fydd y gŵr hwn byth yn bodloni ar ymgysuro’n unig.

    Gwelwn ei fod ond yn rhy barod i sathru ar gyfansoddiad a chyfraith ei wlad a hyd yn oed gweld tywallt gwaed er mwyn osgoi colli’r etholiad.

    Oherwydd, i’r rhai pwerus a chyfoethog, golyga ‘colli’ – etholiad neu achos llys – golli grym, dylanwad a chyfoeth. Mae’r anallu i dderbyn eich curo’n deg wrth wraidd llawer o’r anghyfiawnder a’r gormes yn y byd.

    Fflamau rhyfel cartref

    Ym Mawrth 2011, yn nhref Daraa yn Syria, bu gwrthdystiad heddychlon gan drigolion a ofynnai am etholiadau rhydd yn y wlad. Ysgrifennwyd graffiti ar waliau’r dref yn gofyn am ymddiswyddiad yr Arlywydd Bashar al Assad. Etholiad rhydd y gallai’r Arlywydd ei golli? Dim ffiars o beryg! Ymateb Assad oedd gorchymyn i’w filwyr saethu at y protestwyr. Ymhen dyddiau cynheuwyd fflamau’r rhyfel cartref yn Syria a gostiodd hyd yma ryw 80,000 o fywydau ac a ddinistriodd rannau helaeth o’r wlad. Dyna bris osgoi colli.

    Ni fyddai’n anodd rhestru toreth o wledydd eraill lle mae’r arweinwyr yn defnyddio trais ac artaith i ddileu pob posibilrwydd y gallen nhw golli eu safle a’u breintiau.

    Colli adeiladol

    Ond nid dadl mo hon y dylem ddysgu ein pobl ifainc i golli’n fwriadol ar y cae chware neu fethu eu harholiadau. Wrth reswm, mae angen hyfforddi’r ifanc – a’r hen – i wneud eu gorau glas ym mhob math o gystadleuaeth, ond gwneud hynny’n onest. A dylai’r hyfforddiant gynnwys yr elfen hollbwysig o sut mae derbyn colli.

    Gall colli fod yn llawer mwy adeiladol yn y pen draw nag ennill. Ysgrifennodd Robert Kiwosaki, y gŵr busnes a’r awdur, ‘Sometimes you win, and sometimes you learn.’ Dyna’r awgrym ein bod yn dysgu o’n camgymeriadau wrth golli, ond nad ydym yn dysgu dim newydd o’n buddugoliaethau.

    Mae colli’n rasol yn rhan o’r rhinwedd o ostyngeiddrwydd. Nid hawdd derbyn bod rhywun arall yn rhagori arnon ni, mewn eisteddfod, gêm neu fywyd. Ond rhaid gwneud. Fel arall, gall bywyd i bobl a gwledydd fynd yn annioddefol, neu’n amhosib.

    Mae’n rhy hwyr i awgrymu i Paul y dylai ychwanegu gostyngeiddrwydd a derbyn colli at ei restr o ffrwythau’r Ysbryd. Nid yw’n rhy hwyr i’w hychwanegu at ein rhestr ninnau. Na rhestr Donald Trump.

    Robat Powell (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

    yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    Y FFORDD I FEDD PANTYCELYN

    Er mai William Williams,

    Pantycelyn yw emynydd enwocaf

    Cymru, ni roddwyd fawr o sylw

    i’w feddrod – tan nawr.

    Claddwyd Williams yn 1791 ym

    mynwent eglwys Llanfair-ar-y-

    bryn, sydd ar gyrion tre fechan

    Llanymddyfri ym mhen ucha

    Dyffryn Tywi. Saif yr eglwys a’r

    fynwent ar safle hen gaer Rufeinig, ac er fod priffordd yr A483 i ganolbarth Cymru yn

    pasio o fewn ergyd carreg i’r bedd, doedd ’na ddim byd i dynnu sylw at hynny tan i

    griw bychan fynd ati i drefnu cyfres o arwyddion yn y dref ac hysbysfwrdd lliwgar y tu

    allan i’r eglwys.

    Lle canolog mewn hanes

    ‘Yn anffodus, dy’n ni yng Nghymru ddim yn tueddu i ddangos be sy’ gyda ni,’ meddai

    Dai Gealy, hanesydd lleol a fu’n gyfrifol am drefnu manylion yr hysbysfwrdd. ‘Ry’n ni

    yn ceisio tanlinellu’r ffaith fod y lle bach hwn yn ganolog i hanes Cymru.’

    Carreg dal o wenithfaen sy’n nodi bedd Williams. ‘Mae’r arwyddion a’r

    hysbysfwrdd yn dangos i bobol sut i ddod o hyd i’r bedd, sydd wedi ei guddio y tu

    cefn i’r eglwys,’ meddai’r cynghorydd sir lleol Handel Davies, a fu’n rhan o’r trefnu.

    ‘Dyma’r fenter ddiweddaraf i dynnu sylw at enwogion Llanymddyfri a’r cylch. Mae

    cofeb drawiadol Llywelyn ap Gruffydd Fychan ar fanc y castell, mae plac glas ar fur

    hen gartref y Ficer Prichard yn y dref, ac ry’n ni wedi rhoi arwyddion i ddangos y

    ffordd i ogof Twm Sion Cati sydd ym mhen uchaf afon Tywi.’

    Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yr arwyddion yn gymorth i bobl ganfod bedd

    Pantycelyn ac atyniadau hanesyddol eraill yr ardal pan fydd yr haint wedi mynd heibio.

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 14, 2021Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

    Golygydd Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Duw ar Zoom! (Nadolig yn yr Hendy-gwyn)‘Duw ar Zoom’ oedd testun cerdd ardderchog a ysgrifennwyd gan Casia Wiliam yn ystod y clo mawr ’nôl yn y gwanwyn. A Duw ar Zoom oedd hi yn yr Hendy-gwyn ar Daf yn ystod y Nadolig.

    Gyda sefyllfa Covid 19 yn beryglus iawn yn yr ardal, fel yng ngweddill Cymru, nid oedd dewis ond addasu a defnyddio’r dechnoleg gyfoes.

    Cafwyd oedfa Nadolig hyfryd gan y plant a’r ieuenctid ar y Sul cyn yr ŵyl. Roedd Siôn Corn wedi llwyddo i ddosbarthu’r anrhegion o flaen llaw, ac fel y gwelir yn y llun, fe wnaeth pawb agor ei anrhegion ar ddiwedd yr oedfa.

    Ar noswyl Nadolig cafwyd oedfa dan ofal oedolion ifanc y capel. Yn ogystal â stori’r geni, y thema a drafodwyd oedd un o storiâu mwyaf calonogol y flwyddyn sef Black Lives Matter.

    Dechrau’r flwyddyn

    Ar Sul cyntaf eleni fe wnaethom gynnal oedfa trwy gyfrwng Zoom am y tro cyntaf ac roedd yn braf gweld tua 35 o bobl wedi ymuno gyda ni. Os oes rhywun heb oedfa ar fore Sul ar hyn o bryd, mae croeso i chi ymuno â ni am oedfa Zoom. Cysylltwch am fwy o fanylion.

    Fel y dywed Casia Wiliam yn y gerdd mae’r pandemig wedi gorfodi ni i newid ac addasu ac fel y dywed rydym wedi darganfod fod llawer o’r dulliau newydd yn gweithio yn hynod o effeithiol. Maent wedi apelio at gynulleidfa nad oeddem yn sylweddoli eu bod â diddordeb mewn materion ysbrydol. Fe fydd yn ddiddorol gweld sut y byddwn yn cyfuno’r traddodiadol â’r newydd yn 2021 a thu hwnt.

    Guto Llywelyn

    Duw ar Zoom Rhywsut aeth Duw yn ddiarth. Rhwng y naw tan bump a plant i’w gwlau a gwaith yn galw doedd dim lle iddo yn sêt fawr fy mywyd.

    Bob hyn a hyn doi yn ôl yn annisgwyl wrth i mi lenwi troli, neu lyncu’r Ê ffôr sefnti ond wastad â chymun o euogrwydd am beidio twyllu ei dŷ cyhyd.

    Ond rŵan, a ninnau yng nghanol y tywyllwch tywyllaf, dyma fo, ar fy nglin, lond y sgrin, lond y gegin.

    Duw ar Zoom.

    A ffasiwn sinig, mi daerwn y byddwn wedi mynd am y groes yn syth, ond na, arhosais ennyd i glywed adnod, i geisio ei lais eto, i weld os medrwn estyn croeso iddo yn fy nhŷ fy hun.

    Ac yn lle’r festri oer a chwech yn gwmni dyma lond y we o gwmpeini; a dros goffi, mewn pajamas, yn ein gwlâu ella, daeth y ne’ atom ni.

    O dro i dro, rwan ei bod hi’n dechra g’leuo, wrth i mi osod bwrdd neu hel llestri brecwast, mewn eiliad o heddwch, mi gai ryw air bach efo fo

    a mae o’i weld ddigon bodlon i ni gwrdd fel hyn, yn bytiog rhwng prydau, a minnau heb ddim byd am fy nhraed.

    Casia Wiliam