386 ionawr 2014 50c elusennau yn elwa o...

20
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 386 386 386 386 386 Ionawr 2014 Ionawr 2014 Ionawr 2014 Ionawr 2014 Ionawr 2014 50c Llongyfarchiadau i deulu Dwyrhiw sef Cyril ac Awel a’u mab, Tony, am ennill cystadleuaeth Adran 21 - Fferm Organig Orau.Cymdeithas Amaethyddol Sir Drefaldwyn 2013. ELUSENNAU YN ELWA O £15,000 GWOBR AMAETHYDDOL YR HEN YR HEN YR HEN YR HEN YR HEN, HEN ST HEN ST HEN ST HEN ST HEN STORI ORI ORI ORI ORI Plant bach Ysgol Sul Capel Cymraeg y Trallwm yn cyflwyno Stori’r Geni mewn gwasanaeth arbennig cyn y Nadolig. Trefnwyd taith feic noddedig fis Medi diwethaf o Gaergybi i Gaerdydd er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen Cancr. Roedd y daith yn llwyddiant ysgubol ac ar ddiwedd mis Rhagfyr daeth y beicwyr ynghyd i gyflwyno’r arian i’r ddwy elusen. Bydd Ymgyrch Cancr y Fron ac Elusen Cancr y Plant yn elwa o £7,500 yr un. Yn y llun uchod gwelir Arwel a Lynne Evans, Llangadfan a Lloyd James, Llanerfyl yn derbyn y sieciau ar ran y ddwy elusen. Roedd swm anhygoel yr arian a godwyd yn brawf o’r gwaith hyrwyddo di-flino a fu am fisoedd cyn hyd yn oed eistedd ar yr un beic. Llongyfarchiadau i bawb a fu ynghlwm â’r prosiect. Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan a Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan a Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan a Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan a Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan a Mr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r Mr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r Mr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r Mr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r Mr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014. BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014. BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014. BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014. BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.

Upload: others

Post on 21-Oct-2020

6 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    386386386386386 Ionawr 2014Ionawr 2014Ionawr 2014Ionawr 2014Ionawr 2014 5555500000ccccc

    Llongyfarchiadau i deulu Dwyrhiw sef Cyril ac Awel a’u mab, Tony,am ennill cystadleuaeth Adran 21 - Fferm OrganigOrau.Cymdeithas Amaethyddol Sir Drefaldwyn 2013.

    ELUSENNAU YN ELWA O £15,000

    GWOBR AMAETHYDDOL YR HENYR HENYR HENYR HENYR HEN,,,,, HEN ST HEN ST HEN ST HEN ST HEN STORIORIORIORIORI

    Plant bach Ysgol Sul Capel Cymraeg y Trallwm yn cyflwyno Stori’rGeni mewn gwasanaeth arbennig cyn y Nadolig.

    Trefnwyd taith feic noddedig fis Medi diwethafo Gaergybi i Gaerdydd er mwyn codi arian argyfer dwy elusen Cancr. Roedd y daith ynllwyddiant ysgubol ac ar ddiwedd mis Rhagfyrdaeth y beicwyr ynghyd i gyflwyno’r arian i’r

    ddwy elusen. Bydd Ymgyrch Cancr y Fronac Elusen Cancr y Plant yn elwa o £7,500yr un.Yn y llun uchod gwelir Arwel a Lynne Evans,Llangadfan a Lloyd James, Llanerfyl yn

    derbyn y sieciau ar ran y ddwy elusen.Roedd swm anhygoel yr arian a godwyd ynbrawf o’r gwaith hyrwyddo di-flino a fu amfisoedd cyn hyd yn oed eistedd ar yr un beic.Llongyfarchiadau i bawb a fu ynghlwm â’rprosiect.

    Llongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan aLlongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan aLlongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan aLlongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan aLlongyfarchiadau i Mr Maldwyn Evans, Belan-yr-argae, Llanllugan aMr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’rMr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’rMr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’rMr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’rMr Ivor Hawkins, Pontrobert. Cafodd y ddau eu hanrhydeddu gyda’r

    BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.BEM (British Empire Medal) yn Rhestr Gwobrau’r Frenhines 2014.

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    DYDDIADUR

    Rhifyn nesaf

    A fyddech cystal ag anfon eichcyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyn dyddSadwrn, 18 Ionawr Bydd y papur yn caelei ddosbarthu nos Fercher Ionawr 29.

    Ion. 11 Noson yng nghwmni Glyn Owens, LindaGittins, Aled Wyn Davies, Edryd Williamsa Sara Meredydd. Canolfan y Banw,Llangadfan. Elw at Gronfa’r EisteddfodGenedlaethol.

    Ion. 16 Pwyllgor Apêl Eisteddfod Genedlaethol2015 ardal Pontrobert a Llangynyw ynLlangynyw am 7.30

    Ion. 17 Bingo yn Neuadd Pontrobert am 7.30Ion. 24 Gyrfa Chwist yn Neuadd Pontrobert am 8

    o’r glochIon. 24 Dawns Ffrindiau Ysgol Llanerfyl yn

    Neuadd Llanerfyl gyda ‘Up-All-Nite’Chwef. 21/22 Pantomeim Llanfair yn yr Institiwt.Mawrth 1 Cinio G@yl Ddewi yng Nghanolfan

    Gymunedol Dolanog. Manylion: Felicity01938 810901. Er budd Apêl EisteddfodGenedlaethol 2015

    Mawrth 15 Cyngerdd gyda’r Glerorfa yngNghanolfan y Banw

    Mawrth 13/14/15 – G@yl Ddrama Eisteddfod Talaitha Chadair Powys – Dyffryn Ceiriog

    Mai 5 Taith Gerdded a Barbeciw CanolfanGymunedol Dolanog. Er budd ApêlEisteddfod Genedlaethol 2015

    Mai 24 Cyngerdd gyda Gwyn Hughes Jones aChôr Godre’r Garth yn Theatr Llwyn

    Meh. 21 Taith Gerdded Plu’r Gweunydd yn ardalLlanwddyn

    Meh. 21 Carnifal LlanfairGorff. 5 Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2015

    yn y DrenewyddGorff. 18 a 19 – Eisteddfod Talaith a Chadair Powys

    – Dyffryn CeiriogMedi 13 Cyngerdd Mawreddog gyda Rhys

    Meirion, Dilwyn Morgan ac eraill yngNghanolfan Hamdden Caereinion. Erbudd Apêl Eisteddfod Genedlaethol 2015

    Medi 25 Pwyllgor Blynyddol Plu’r Gweunydd ynNeuadd Pontrobert

    GOFGOFGOFGOFGOFALAETH BRO CAEREINION - 2015ALAETH BRO CAEREINION - 2015ALAETH BRO CAEREINION - 2015ALAETH BRO CAEREINION - 2015ALAETH BRO CAEREINION - 2015Ion. 4 Cyfarfod Dechrau’r Flwyddyn yn

    EbeneserMawrth 1 Gwasanaeth G@yl Ddewi yn NolanogEbrill 3 Gwasanaeth y Pasg yn LlanfairMeh. 7 Cyfarfod yn AdfaHydref 4 Oedfa Ddiolchgarwch yn Bethel, LlanerfylTach. 29 Cyfarfod yr Adfent yn Rhiwhiriaeth

    RHIFYN NESAF

    D JONES HIREAR GAEL I’W HURIO

    Ritchie 3.0M Grassland Aerator

    Chwalwr Tail SKH deuol 7.5 tunnellSKH 7.5 ton dual muck spreader

    07817 900517

    DiolchDymunaf i, John Defi Rhandir, ddiolch o galonam yr holl gardiau, anrhegion, dymuniadau daa’r ymwelwyr a gefais ar achlysur fy mhenblwyddarbennig yn ddiweddar. Mwynheais fy hun ynfawr a chefais fy mhlesio yn arw. Diolch i chi.

    DiolchMae Elvet a May Lewis, Brynhyfryd, Dolanog yndymuno diolch yn fawr iawn i’w teulu, cymdogiona ffrindiau am yr holl garedigrwydd acymholiadau ffôn a dderbyniwyd yn ystod eucyfnod hir (Elevet, 12 wythnos; May, 7 wythnos)yn ysbytai Amwythig a Thrallwm, o Awst iDachwedd 2013. Dymunant ddiolch yn arbennigi ddoctoriaid a nyrsys gwych fu’n gofaluamdanynt. Dymunant hefyd ddiolch i FeddygfaCaereinion ac i Ofalwyr am eu gofal teyrngar arôl iddynt ddod adref o’r ysbyty.

    DiolchDymuna Ceinwen a Gwynfryn, Llwynhir,Llwydiarth, ddiolch i bawb am y caredigrwydd addangoswyd tuag at Ceinwen tra bu yn YsbytyGlan Clwyd am gyfnod o dri mis yn ddiweddar.Gwerthfawrogwyd yr holl ymholiadau, cardiau allythyron ac ymweliadau a dderbyniwyd.Diolch i’w theulu ac i bawb am bob cymwynas.

    Cyfarchion Blwyddyn NewyddDymuna Elwyn a Nest, Gwynfa, Salop Road, YTrallwm, Flwyddyn Newydd Dda i’w ffrindiau igyd. Hefyd, diolch o galon am gofio amdanomyn ystod cyfnodau o salwch. Cofiwch alw heibiounrhyw bryd am baned!

    Cyfarchion Blwyddyn NewyddHoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda abodlon i’m teulu a chyfeillion gan obeithio ycewch iechyd da i’w mwynhau.Joan Roberts, Braich-yr-Eithin, Rhuthun

    TÎM PLU’R GWEUNYDD

    O’R GADER

    Nid yw Golygyddion na Phwyllgor Plu’rGweunydd o anghenraid yn cytuno

    gydag unrhyw farn a fynegir yn y papurnac mewn unrhyw atodiad iddo.

    DiolchI Mr Bob Morgan, Foel am ei rodd tuag at DaithGerdded Plu’r Gweunydd yn 2014.

    Rhannu’r canrannauRhannu’r canrannauRhannu’r canrannauRhannu’r canrannauRhannu’r canrannauMae ein meistri ym Mrwsel wedicyhoeddi bod gan bob gwlad ynEwrop yr hawl i dynnu hyd at 15% o

    gymhorthdal pob ffarmwr. Fel roedd y Plu ynmynd i’r wasg, dyma faint mae’r gwledydd amei dynnu o daliadau uniongyrchol:Lloegr: 12% Yr Alban: 9.5%Gogledd Iwerddon: 7% Cymru: 15%Yr Eidal: 0% Ffrainc: 3%Yr Almaen: 4.5% Iwerddon: % bach iawn...tra bod Gwlad Pwyl a Slofacia ynmodiwleiddio ar ei ‘nôl o 25% ac 18.5%. Hynnyyw, rhoi mwy o daliad sengl i’w ffermwyr.A hithau’n flwyddyn newydd, fy adduned eleniydi astudio rhywfaint bach ar economeg. R@an,dydw’i ddim llawer o economegydd eto ond fewelwch o’r ystadegau uchod fod ffermwyr Cymruyn mynd i fod o dan anfantais cwbl amlwg yn yfarchnad leol/Ewropeaidd/fyd-eang. A phafarchnad arall sydd ar ôl?!Yn ffodus, dwi’n fwy o arbenigwr arwleidyddiaeth. Faint o weithiau ’den ni ’diclywed Alun Davies [bos amaethyddiaethCaerdydd] yn deud fod raid i ffarmwrs fod yn‘effishynt’ a chystadlu efo’r farchnad. ‘Busnes’yden ni medde fo, nid adran i’r llywodraeth daflupres ati. Digon teg. Os felly, nid adran i dynnupres oddi wrthi yden ni chwaith.Mae’r ddwy undeb yng Nghymru yn rhy wan olawer i herio Alun Davies. Ac mae llawer offarmwrs Maldwyn a Chymru yn rhy glên. Ynrhy fonheddig ac yn rhy barod i wrando ar eiriaugwên deg. Celwydd fydde rhai yn ei alw fo...nidy baswn i’n meiddio awgrymu hynny fy hun,’dech chi’n deall.Dameg i gloi. Roedd gweinidog o Gaerdydd,mi alwn ni o’n Neilon Dafedd. Roedd on aelodo’r Blaid Ofer. O flaen ei gefnogwyr yn y trefyddpoblog, aeth i ben ei focs sebon a chyhoeddi’ndalog fod lladron i’r gorllewin ac i’r gogledd yndwyn pres y trefi. “Na phoenwch” meddai, “fe afar eich rhan yn null yr enwog ‘Itac Nôis Mwt’ adwyn y pres yn ôl ar eich rhan”. Bloeddiodd ydorf eu cymeradwyaeth, ac wrth i’r dyrfa gilio,clywodd y gweinidog nifer ohonynt yn llefaru ybyddent yn cefnogi Neilon Dafydd i fod ynarweinydd y Blaid Ofer ryw ddydd. Ciliodd ygweinidog gan lwyddo’n gelfydd i adael i’r olwgflin, benderfynol, gadarn ar ei wyneb guddio’rwên letach na’i waled.

    * * *TTTTTamed o hanesamed o hanesamed o hanesamed o hanesamed o hanesRhyw syniad newydd i’r flwyddyn newydd ydi‘Tamed o Hanes’.Pa mor hen ydi iaith y papur ‘ma? Rhyw bedairmil o flynyddoedd oed, yn fras. O fewn blwyddynneu gant...ish.Mae rhai yn dadlau i’r Celtiaid, a’u hiaith,gyrraedd ymhell cyn hynny, ond mi setlwn ni arddyddiad am r@an. Go brin, er hynny, y bydde’ni heddiw’n gallu cynnal rhyw lawer o sgwrspetai ni’n mynd yn ôl yn y tardis efo’r hen ddoctori’r flwyddyn 2000cc. Y Frythoneg oedd yr iaithtrwy ‘Ynys Prydain’, mam y Gymraeg os liciwchchi. Pan adawodd y Rhufeiniaid, a’r dylanwadmawr a gafodd y Lladin ar y Frythoneg/Cymraeg,gallwn ddechrau galw’r iaith yn ‘Gymraeg’ ynhytrach na ‘Brythoneg’. Erbyn y 6ed ganrif agwaith Aneurin a Taliesin [G@yr a aeth Gatraetha.y.b], byddem yn gallu cynnal sgwrs efo nhw, achyn hynny mae’n si@r gen i. Y Lladin aCymraeg, felly, oedd prif ieithoedd ‘YnysPrydain’ wedyn am ganrifoedd a chanrifoedd.Ond pa iaith oedd yma cyn i’r Celtiaid gyrraedd?A faint o ddylanwad honno sydd ar ein gwefusauni, y Cymry Cymraeg heddiw? Mwy na ’den ni’nmeddwl, synnwn i damed.

    ARHOLIADAU CERDDLlwyddodd y canlynol mewn Arholiadau Cerdda gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2013. Maentyn ddisgyblion i Dr. David Jones, Plasnewydd,Llanerfyl.P ianoPianoPianoPianoPianoGradd 3: Lili Davies, Glantanant (Distinction)Gradd 4: Annie May, Cringoed Isaf (Distinc-tion).

    TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, Meifod

    Trallwm. Ffôn: 01938 500733Swyddog Swyddog Swyddog Swyddog Swyddog TTTTTechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg Gwybodaethechnoleg GwybodaethDewi Roberts, Brynaber, Llangadfan

    Golygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolNest Davies

    Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolAlwyn a Catrin Hughes, Llais Afon,

    Llangadfan 01938 [email protected] Steele, Eirianfa

    Llanfair Caereinion 01938 [email protected]

    CadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddArwyn Davies

    Coedtalog, Llanerfyl, 01938 820710Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddDelyth Francis

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 33333

    GWRAIG Y RHEITHOR- MRS ELSIE THOMAS

    Gofynnwyd i mi ysgrifennu am fy atgofionplentyndod am Mrs Elsie Thomas, gwraig R.S.Thomas a elwid hefyd yn Mildred Eldridge.Fe briododd hi y Parch. Ronald Stuart Tho-mas ar Orffennaf 5ed 1940. Er iddi am lawero’i bywyd fyw yng nghysgod R.S. roedd hibedair mlynedd yn h~n nag ef ac yn artistcydnabyddedig pan gyfarfu’r ddau.Merch i berchennog siop emau yn Surrey oeddhi a bu’n astudio yn y Coleg Celf Brenhinol.Enillodd wobrau yno ac arddangoswyd eigwaith yn Arddangosfa Haf yr AcademiFrenhinol. Yn wir enillodd arddangosfabersonol o’i heiddogryn glod. Ond roeddrhywbeth am y bywydhwn nad oedd ynapelio ati ac ym 1937mae’n cael gwaith felathrawes yn YsgolRamadeg Croesoswallt gan letya yn y Waunlle cyfarfu R.S., y ciwrat lleol.Hyd at ei marwolaeth yn 1991, dilynodd R.S.ar ei daith o le i le, yn gyntaf i Fanafon yn SirDrefaldwyn ac yna i Geredigion ac yn derfynoli L~n. Daliodd i beintio ac i ddysgu celf ynachlysurol, ond roedd ei gyrfa fel pe bai’nddarostyngedig i un y bardd. Yn y cyfnodhwn ni chynhyrchodd ond un darn o waithgwirioneddol bwysig, cyfres o furluniaugogyfer ag Ysbyty Orthopedig Agnes Hunt yngNghroesoswallt. Ymddengys fod saflegwledig y Rheithordy ym Manafon yn apelioyn fawr, a chefais ar ddeall ei bod yn gyndyno adael.Mae’n dipyn o ymdrech i’w chofio hi yma ymManafon. Yn anffodus roeddwn i yn rhy ifanci werthfawrogi’r wraig dalentog hon ac wrthedrych yn ôl mae’n chwith na wyddwn i brydhynny yr hyn a wn yn awr. Eisteddai ar yrochr dde i’r eglwys, tua dwy res o’r ffrynt ac

    roeddwn i gyda fy rhieniyn eistedd ar yr ochrchwith hanner ffordd i lawrcorff yr eglwys. Edmygwnei dillad llac a llaes, a’ihetiau cantell llydan ar benei gwallt trwchus byr oeddbob amser mor llachar.Byddwn yn ei gwylio’nddyfal yn ystod ygwasanaethau – efallaifod hyn yn fy nghadw’nddiddig.Mrs Thomas oedd â gofalam yr Ysgol Sul am 2.30yn y prynhawn. Byddai’nein dysgu sut i wneudlluniau dyfrlliw. Penliniemrhwng eisteddleoedd ganbeintio ar y seddi, nes irywun gwyno am y d@roedd yn cael ei golli ar ycorau derw. Byddem yncael partïon Ysgol Sul arbrynhawn G@yl San

    Steffan. Fe’u cynhelid yn yr ysgol. Cofiafgoeden Nadolig anferth yng nghornel yrystafell ddosbarth. Byddai Mrs Thomas wediei haddurno’n brydferth gydag addurniadau o’igwaith ei hun. Gan ei bod yn amser rhyfel niellid prynu pethau o’r fath. Roedd ynaganhwyllau go iawn ar y canghennau. O dany goeden roedd yna anrheg i bob plentyn ynyr Ysgol Sul. Yn llawn cyffro ceisiem ddyfalubeth oedd yn y parseli. Llyfrau oedd ynddyntefallai. Mae gen i o hyd gopi o ‘NimbletoesBirthday’ gan Dorothy Richards, a’r lluniau wedieu gwneud gan Elsie Thomas. Mae gen i

    hefyd gopi o’r Ob-servers Book ofBritish Wild Flow-ers wedi ei lofnodigan R.S. Thomas.Ar Dachwedd 5ed,diwrnod GutoFfowc byddai’r

    Rheithor a Mrs Thomas yn cynnal parti tângwyllt ar gaeau yn ymyl y Rheithordy.Achosai’r jaci jympar i bawb neidio. Deuaityrfa fawr ynghyd i weld y goelcerth a’r tângwyllt.Byddai fy rhieni yn rhentu tir yr eglwys ac maeun o’n bustych yn ymddangos mewn llun oGwydion, eu hunig blentyn. Does gen i ddimcof amdano fo ond rwy’n cofio Nyrs Bebb oeddyn gofalu amdano, ac am ei mab Roy, oeddyn byw yn y rhan honno o’r Rheithordy aneilltuwyd ar gyfer gweision a morynion.Anfonwyd Gwydion i ffwrdd i ysgol breswylbreifat, a dyna pam efallai nad oes gen iatgofion amdano.Mrs Thomas oedd â gofal am Undeb y Mamaua byddai’n gweini te yn yr Ysgol. Hi hefydoedd yn addurno’r eglwys ar gyfer yGwasanaeth Diolchgarwch a’r Pasg. Roeddganddi gryn ddawn artistig i arddangos blodauoedd wedi dod o’i gardd hi ei hun.

    gan Ruth Hall

    Yn ystod y Nadolig a’r Pasg anfonai gardiauatom yr oedd hi ei hun wedi eu peintio. Pamna fyddwn i wedi eu cadw! Byddai’n gwneudllawer o luniau dyfrlliw o’r adar ym Manafon,ac yn ddiweddarach byddai Cwmni CardiauMedici yn gwneud cardiau ohonynt. Credafei bod yn wraig rheithor ragorol, yn cefnogi eig@r wrth i enwogrwydd hwnnw dyfu. Cynbelled â bod ei gyrfa ei hun yn y cwestiwn fegymrodd gam yn ôl, gan ei bod yn artistamlwg cyn cyfarfod ei [email protected] yna nifer o gyfeiriadau at Mrs Thomasmewn dyddiadur sydd wedi goroesi o 1944.Un noson ym mis Ionawr daeth hi ac R.S.acw am swper, a dywedodd hi pan ddaw’rPasg y daw ag anrheg i mi. Ddiwedd Ebrillmae’r ddau yn mynd i ffwrdd am wyliau byr.Yna ym mis Medi ac R.S. wedi mynd i’r Albani wylio adar mae hi yn dod i’n t~ ni i swpergyda jar o fêl yn anrheg. Ymddengys fellyfod R.S. ac Elsie yn cadw gwenyn achosroedd mêl yn beth drud iawn i’w brynu yn1944.Credaf y gallaf ddweud fod gen i atgofionhapus iawn am Mrs Thomas.

    “Yn ystod y Nadolig a’r Pasganfonai gardiau atom yr oeddhi ei hun wedi eu peintio. Pamna fyddwn i wedi eu cadw!”

    Gwydion

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

    Ffordd Salop,Y Trallwm.

    Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    LLANGADFAN

    Y corws yn cyflwyno’r caneuon ac yn symud i’r gerddoriaeth. Sioe a brofodd yn dipyn o herond yn un gwerth chweil gan fod plant Ysgol Dyffryn Banw erbyn hyn yn gyfarwydd efo uno glasuron Charles Dickens.

    Bob Cratchet - Kyffin Morgan aScrooge - Rhun JonesJacob Marley, Tudur Evans

    Scrooge - Rhun Jones

    Y Carolwyr ar y stryd

    HUW EVANSGors, Llangadfan

    Arbenigwr mewn gwaith:

    Codi siediau amaethyddolFfensio

    Unrhyw waith tractorTroi gydag arad 3 cwys ‘spring’

    a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’Torri gwair a thorri gwrych

    01938 820296 / 07801 583546

    Scrooge

    DathluDyma lun gwych o John Defi Davies, Rhandiryn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ym Mwyty’rDyffryn yn ddiweddar. Sylwch ar y fan fachwerdd ar y gacen - addas iawn!

    Gwellhad buanRoedd yn ddrwg iawn gennym glywed nadyw Mr Dewi James, Bryngwalia wedi bod ynteimlo’n dda iawn yn ddiweddar. Anfonwn eincofion ato am wellhad buan.

    YmddeolMae Barry Smith, Maesderwen wedipenderfynu rhoi ei draed i fyny ac ymddeolo’i waith gyda’r Comisiwn Coedwigaeth. Dwi’nsiwr y bydd swper ar y bwrdd i Nerys bobnos a’r dystio i gyd wedi ei wneud!

    Swydd newyddPob dymuniad da i Hazel, Abernodwydd syddwedi cael swydd newydd fel bydwraig ynYsbyty Drenewydd.

    Mr a Mrs

    Arwel a Lynne, Catrin a Richarda Gareth ac Yvonne

    Cafwyd noson lwyddiannus dros ben yngNghanolfan y Banw wedi ei threfnu yn bennafgan Delyth, Rhandir Isaf a Bethan,Maesderwen gyda chymorth aelodau

    WAYNE SMITH‘SMUDGE’

    10% i ffwrdd gyda’r hysbyseb hon

    PEINTIWR AC ADDURNWR23 mlynedd o brofiad

    ffôn Cwpan Pinc01938 82063307971 697106

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 55555

    FOELMarion Owen

    820261Bu ond y dim i mi golli’r cwch y mis yma!Prysurdeb y Nadolig a thristwch yw fy unigesgus.

    Tristoedd sylweddoli nad oedd gwasanaeth i’r planta’r bobl ifanc yng Nghapel y Foel y Sul cyn yNadolig. Roedd hwn yn wasanaeth roeddpawb yn edrych ymlaen ato.

    Tristwchyw cyhoeddi fod Parti Dawns Llangadfan wedidod i ben. Bu Parti Dawns yn y Foel,Llangadfan neu yn Llanerfyl ers sawlblwyddyn. Oes gobaith y daw rhywun i’rbwlch? Does dim a’m plesiai i’n well.

    Llongyfarchiadaui Ceri, Llety’r Bugail ar ei dyweddïad ychydigddyddiau cyn y Nadolig. Mae’n gweithio felmilfeddyg yn Stoke on Trent ar hyn o bryd.

    Dathlu PenblwyddiCarol Popplewell, Y Gerddi (Ionawr 1af);Mandy Jones, Y Dyffryn (Ionawr 21ain) aLaura Roberts, Y Ddôl (Ionawr 25).

    GwaeleddAnfonwn ein cofion at y rhai sydd wedi bodyn wael yn ystod y mis. Gobeithio i chi gaelNadolig wrth eich bodd, a’ch bod yn teimlo’nwell ar ei ôl.

    Ga’ i ddymuno Blwyddyn Newydd Ddai holl ddarllenwyr y Plu.

    Pwyllgor y Ganolfan. Noson Caws a Gwinoedd hon gyda chwis ‘Mr a Mrs’ i ddilyn.Roedd y ddwy wedi bod yn brysur tu hwnt ynsicrhau rhoddion gan wahanol gwmnïau acunigolion gan gynnwys Sally Anne Neville;Berwyn Davies; y cigydd Richard Williams;Wynnstay a Spar Llansantffraid; Emyr Wyn;Alfie Edwards; Morrisons Y Trallwng; RickKorsak a David Oliver. Llwyddwyd i gadwenwau’r cyplau oedd am gymryd rhan yn ycwis yn gyfrinach llwyr tan y noson. Credwchfi, mae’r ardal gyfan yn adnabod y cyplau ynllawer iawn gwell ar ôl y noson honno!Diolch yn fawr i’r tri cwpwl am fod mor baroda dewr i gymryd rhan ac i bawb am eucefnogaeth. Llwyddwyd i wneud elwsylweddol a fydd yn cael ei rannu rhwng GofalCancr y Fron a Chanolfan y Banw.

    CydymdeimladCydymdeimlwn yn ddwys iawn â Brian ac AnnEvans, Bryncudyn a’u teulu ar farwolaethmam Brian, Mrs Ruby Evans, LlanfairCaereinion. Roedd Mrs Evans yn wraig i MrIfan Evans a fagwyd yn Llidiart yr Ergyd,Llangadfan. Dathlodd y ddau 70 mlynedd ofywyd priodasol rai dyddiau cyn ei marwolaethsydyn. Bu’r ddau yn byw yn Tanfron,Rhiwhiriaeth lle bu iddynt fagu 5 o blant, Brian,Ron, Elwyn, Primrose a Bronwen.Cydymdeimlwn â’r teulu oll.

    CynefinCynefinCynefinCynefinCynefinAlwyn Hughes

    Blwyddyn Newydd Dda i bawb!Dyma ddechrau blwyddyn arall ond feymddengys fod yr hen arferiad o Hel Calennigwedi darfod o’r tir. Gynt roedd hi’n arferiad ifynd o amgylch cartrefi yn hel Calennig ganganu hen rigymau a phenillion. Nid oedd ynarferiad i hel calennig ar ôl canol dydd Calan.Dyma enghreifftiau o rai rhigymau a oedd yngysylltiedig â hel calennig o lyfr Tegwyn Jones‘Ar Dafod Gwerin’.

    Blwyddyn Newydd DdrwgA llond y t~ o fwg,Pen’r hen geiliog o dan y drws,Pen’r hen wraig yn sitrws. (Trefaldwyn)

    C’lennig a ch’lennigA byddwch yn g’lonnog;Dyma fachgen bach tlawdHeb ddime na cheiniog.Bwyd a diodAc arian yn barod;Blwyddyn Newydd DdaI chwi sy’n deulu da.Os gwelwch chwi’n dda ga’i geiniog?(Llanwddyn, Trefaldwyn)

    Gwrandewch ar fy nhestun,Pan ddechreuodd y flwyddyn,Pan darodd hi ddeuddeg o’r gloch,Pob hwyl i chi ddynionA merched a meibionA defaid a gwartheg a moch.Fy neges arbennig yw mofyn calennigWrth fyned o amgylch eich tai;Ceiniog rwy’n derbynY mwya cyffredinA cheiniog a dime gan rai.(Trefaldwyn. Cyfansoddwyd yn arbennig argyfer plant ardal Llanerfyl i’w ganu neu eiadrodd).

    Os oes gan rywun hen benillion Calennig,hoffwn eu derbyn er mwyn eu cadw a’udiogelu ar gyfer y dyfodol.

    Cyfarfodydd BachRoedd hi’n arferiad i gynnal Cyfarfodydd Bachneu Gyfarfodydd Cystadleuol mewn capeli erstalwm. Rwyf yn ddiolchgar i Joyce Davies,Garreg Wen, Llanfair am raglen CyfarfodCystadleuol a gynhaliwyd yng Nghapel Saron,Dolanog ar Dachwedd y 3ydd tua chanol tridegau’r ganrif ddiwethaf. Yn ddiddorol iawnnodir enwau’r cystadleuwyr a’r enillwyr. Roeddy cyfarfodydd yma’n ddechreuad i lawer aadawodd eu marc ar fywyd diwylliannol yrardal.

    Cyfarfod Cystadleuol SaronCyfarfod Cystadleuol SaronCyfarfod Cystadleuol SaronCyfarfod Cystadleuol SaronCyfarfod Cystadleuol SaronTTTTTachwedd 3yddachwedd 3yddachwedd 3yddachwedd 3yddachwedd 3ydd

    Canu Emyn 310: Beth yw’r utgorn glywa’ i’nseinio

    CystadlaethauCystadlaethauCystadlaethauCystadlaethauCystadlaethau1. Unawd dan 14. (Irene Griffiths, Gartheilien)2. Adroddiad dan 10. (John Ellis Lewis)3. Deuawd unllais dan 14. (Ellis Ellis a GeorgePhillips)

    4. Anerchiad gan y Llywydd8. Adroddiad dan 14. (Dolana Lewis)9. Unrhyw Unawd. (Miss L. Harris)10. Sillafu chwech o eiriau Cymraeg (Miss F.Lewis, Irene Griffiths ac Edwin Williams)11. Deuawd Unllais Agored12. Cyfieithu chwech o eiriau Saesneg iGymraeg (Megan Evans)13. Cyd-adrodd i bedwar (Robert Evans, JohnLewis, Miss W.James a Mrs Ellis)14. Darllen darn heb ei atalnodi (Megan,Morfydd, Bert)15. Prif Adroddiad (Miss Winnie Jones)16. Limerig (Winnie Jones, Pont Robert)17. Pedwarawd18. Diolchiadau

    Canu emyn 718: Cofia’n Gwlad BenllywyddTirion

    Mewn rhai cyfarfodydd bach roeddcystadlaethau gwaith coed yn ogystal. Ynaml gofynnid am gambren mochyn neu brengwneud rhaffau neu stwmpar maip neu datws.Gwelir enghreifftiau o’r rhain yn y llun. MauriceEvans, Tynrhos a wnaeth y cambren, adywedodd wrthyf mai dyma’r unig un a wnaetherioed. Defnyddid pren onnen gyda’r graenyn rhedeg ar ei hyd er mwyn cryfder. Cofier ybyddai pwysau mawr ar y cambren oherwyddcrogid y mochyn i fyny arno ar ôl iddo gael eiwaedu. Gadewid y mochyn i hongian tan ydydd canlynol, pan ddeuai’r lladdwr mochynyn ei ôl i’w dorri i fyny.

    http: / /www

    http: / /www

    http: / /www

    http: / /www

    http: / /www.pethepowys.co.uk

    .pethepowys.co.uk

    .pethepowys.co.uk

    .pethepowys.co.uk

    .pethepowys.co.uk

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    Ffermio- Nigel Wallace -

    CARTREF

    Ffôn:Carole neu Philip ar 01691 648129

    Ebost:[email protected]

    Gwefan:www.cartrefbedandbreakfast.co.uk/rooms

    Gwely a BrecwastLlanfihangel-yng Ngwynfa

    Te Prynhawn a BwytyByr brydau a phrydau min nos ar gael

    Cinio Dydd Sul (archebu o flaen llaw)

    BOWEN’S WINDOWSGosodwn ffenestri pren a UPVC o

    ansawdd uchel, a drysau acystafelloedd gwydr, byrddau ffasgia

    a ‘porches’am brisiau cystadleuol.

    Nodweddion yn cynnwys unedau28mm wedi eu selio i roi ynysiad,

    awyrell at y nosa handleni yn cloi.

    Cewch grefftwr profiadol i’w gosod.

    BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,

    TRALLWM, POWYSFfôn: 01938 811083

    Gwaith tractor yn cynnwysTeilo â “Dual-spreader”Gwrteithio, trin y tir â

    ‘Power harrow’,Cario cerrig, pridd a.y.y.b.

    â threlyr 12 tunnell.Hefyd unrhyw waith ffensio

    Cysylltwch â Glyn Jones:

    01938 82030507889929672

    Contractwr Amaethyddol

    Sicrwydd Bwyd a Gobeithionar gyfer y Dyfodol

    Y Cwestiwn.Y Cwestiwn.Y Cwestiwn.Y Cwestiwn.Y Cwestiwn. Ni phrydera’r rhan fwyaf o boblyn y wlad hon am Sicrwydd Bwyd. Daw bwydo’r archfarchnadoedd ac ymddengys y rhainbob amser i fod yn llawn dop ohono. Felly niwêl y mwyafrif broblem. I’r rhai ohonom sy’nffermio ac eraill sy’n gwybod y gwirioneddam sut y cynhyrchir bwyd ac o ble mae’ndod, mae golwg braidd yn wahanol ar bethau.Gwyddom o’r newyddion fod poblogaeth ybyd yn codi ac felly’r galw am fwyd. Ar yr unpryd mae’r arwynebedd o dir ar gael igynhyrchu bwyd yn gostwng o achosadeiladu ynghyd ag erydiad ac effeithiaunaturiol eraill, e.e. cynnydd mewnanialdiroedd. Ar ben hyn yn yr UE a Phrydainyn arbennig, gwelwn amrywiaeth o bolisïaucadwraeth sydd i gyd yn golygu lleihaucynhyrchu bwyd os nad ydynt yn ei stopio’nhollol. Y cwestiwn yw, ‘A ydym ar ein fforddyn ddall at ryw argyfwng yn y dyfodol ynarbennig yn y wlad hon, os bydd mewnforionyn peidio â bod ar gael neu a oes gobaith i’rdyfodol os cymerir ffordd o fynd ati sy’nadeiladol ac â synnwyr cyffredin?Beth yw Realiti’r Dyfodol?Beth yw Realiti’r Dyfodol?Beth yw Realiti’r Dyfodol?Beth yw Realiti’r Dyfodol?Beth yw Realiti’r Dyfodol? Roedd rhaglenobeithiol iawn ar BBC2 7/11/13 - ‘Don’t Panic:the Truth about Population.’ Ynddi cyflwynoddyr Athro Hans Rosling ryw ystadegau diddorol.Yn rhan fwyaf y byd gan gynnwys yr India aThsieina, mae’r gyfradd genedigaethau yncwympo a theuluoedd cyfartalog yn gostwngo bump i ychydig dros 2 o blant. Os digwyddhyn dros y byd i gyd, bydd poblogaeth ynsefydlogi ar tua 11 biliwn tua 2100. Codi safonbyw’r tlotaf, gostwng marwolaethau plant acaddysg, yn arbennig i ferched, yw’r ffactorauallweddol. I gyflawni hyn mae’n hanfodolcysoni Affrica â gweddill y byd. Os gellircyflawni’r sefydlogrwydd hwn, a allwn wedynfwydo’r boblogaeth? Cred yr Athro Rosling ygall hyn gael ei gwneud ond ni fydd yn hawdd.Roedd yn berthnasol fod rhaglen yr AthroRosling wedi dilyn un ar BBC4, ‘Survivors:Nature’s Indestructible Creatures’. Mae hon

    yn gyfres gan yr Athro Richard Fortey sy’nbwrw golwg ar rywogaethau sy wedi goroesidigwyddiadau eithafol yn hanes y byd sydd âdifodiant enfawr yn rhan ohonynt. Yr ateb ywbod gan y goroeswyr hyn nodweddion arbenniga’u galluogodd i wrthsefyll y digwyddiadau hyn.Os dadleir mai’r argyfwng potensial sy’nwynebu dynoliaeth yw’r ffaith fod y boblogaethyn cynyddu y tu hwnt i’w gallu i gynhyrchudigon o fwyd, ein nodwedd goroesi mae’ndebyg fydd ein gallu i ddatblygu technoleg agobeithio gweithredu gyda synnwyr cyffredinac â rhagofal.TTTTTechnoleg.echnoleg.echnoleg.echnoleg.echnoleg. Er mwyn gweithredu technolegac yn arbennig i’w datblygu i’w photensialllawn, mae angen rheoli neu gael gwared âgwastraff ac â chwant. Mae llawer o wastrafftrwy ryfeloedd mewn llawer rhan o’r byd. Maeangen argyhoeddi pobl bod goroesi’n dibynnuar greu llywodraethau teg a sefydlog gan eubod yn hanfodol i ymdrin â materion mewncenhedloedd lle ceir problemau yn ymwneudâ hwy. Wedyn chwant, rhywbeth a ddaeth ynrhemp yn y sector ariannol fel yr achoswyd yrargyfwng economeg presennol. Gwelircanlyniad y ddau beth hyn gyda’r diffyg ariandigonol neu weithiau gyda chau sefydliadauymchwil. Dylai’r rhain dderbyn digon o ariani’w galluogi i fwrw ymlaen i ddatrys ein llu obroblemau.Mae llawer o waith da ar y gweill er gwaethafy problemau. Yn fy nghyfres ‘Bwyd a Ffermiomewn Byd o Brinder’ soniais am angen iddefnyddio carthion yn well i ailgylchuplanhigion. Un pwynt oedd bod ffynonellaupresennol o ffosffad ac o botash yn mynd ilawr. Yn y Guardian 6/11/13 roedd darn am ygwaith carthion yn Slough lle gwneir gwrtaithffosffad o beledu glan yn awr trwy adennillffosffad o garthion. Detrys hyn y broblembotensial o ledaenu haint os defnyddir carthionfel gwrtaith heb driniaeth addas. Amcangyfrifiry gallai’r dechnoleg hon arbed rhyw 20% o’r138,000 tunnell o ffosffad a fewnforir ar hyn obryd. Yn ddiddorol oedd Peter Melchett oGymdeithas y Pridd yn canmol y dechnoleghon. Byddwn wedi meddwl bod gormod obrosesi diwydiannol yma i Gymdeithas y Pridd,o ystyried eu hagwedd tuag at wrteithiau eraillsy wedi cael prosesu mewn ffatrïoedd.Gwelais hefyd ddwy erthygl ddiddorol yngnghylchgrawn Prifysgol Bryste, Nonesuch,Hydref 2013. Roedd y gyntaf yngl~n ag

    ymchwil yn Ethiopia gan Dr Juliet Biggs amdapio ynni daearwresol mewn ardaloedd âgweithred ddaearegol uchel i gynhyrchutrydan. Mae’r gwaith ar y cyd â chwmni o Wladyr Iâ - mae Gwlad yr Iâ yn wlad arall âgweithred ddaearegol uchel lle mae’rdechnoleg hon yn berthnasol. Mae Ethiopiayn un o’r mannau cythryblus yn Affrica o ranrhyfeloedd a newyn. Gallai darparu trydanwneud llawer i godi safonau byw ac felly rheolipoblogaeth a thrwy hynny wella sicrwyddbwyd yma.Roedd yr ail ddarn gan Ashley Dale am waithar y blaned Mawrth gyda NASA ac AsiantaethGofod Ewrop. Maent yn profi ambell offer acamgylchedd gyda’r nod o fynd â chriw i’rblaned Mawrth. Hefyd bwriad y prosiect ywprofi ‘candidate micro-organisms forterraforming the Martian environment intosomething more hospitable for us’. Hyd ynoed os yw darogan yr Athro Rosling yn gywir,sef bydd poblogaeth y byd yn sefydlogi arlefel y gall gael ei bwydo o adnoddau’r byd,cydnebydd y byddai hyn yn sefyllfa dynn. Pebai senario Ashley Dale o le ychwanegol i fywar Fawrth yn wireddadwy, gallai hyn leihau’rpwysau ar y ddaear i ryw raddfa. Syniadauanhygoel ond yn ôl pob golwg nid yn amhosibl!Y Sefyllfa Bresennol.Y Sefyllfa Bresennol.Y Sefyllfa Bresennol.Y Sefyllfa Bresennol.Y Sefyllfa Bresennol. Dechreuagweinidogion y llywodraeth ac eraill siarad amSicrwydd Bwyd a’r pwysigrwydd o gynnal adatblygu cynhyrchu a’r dechnolegangenrheidiol. Yn anffodus nid yw eu polisïaua’r rheiny o’r UE eto wedi troi o ddifrif i’rcyfeiriad hwn. Mae’n amlwg y gall dyfodol âSicrwydd Bwyd gael ei gyflawni ond maemabwysiadu technoleg newydd yn hanfodol.Mae’n rhaid i bolisïau newid yn gyflymach agweithredu’r dechnoleg newydd gael eigyflymu. Ar hyn o bryd rhoddir gormod o sylwi broblemau honedig am yr amgylchedd acam les anifeiliaid ynghyd â’r broses bresennolo gynllunio sy’n hir ac yn ddrud. Yngl~n âhyn roeddwn yn falch o weld bod Frazer Joneswedi cael caniatâd o’r diwedd i’w uned llaethnewydd yn Nhre’r Llai. Er nad wyf yn si@rbod y safle’n ddelfrydol, gwelaf hyn felbuddugoliaeth i ddatblygu dros ‘nimbyism’ achodi gwrthwynebiadau ffug. Nid yw prosesymgeisio sy’n costio £300,000 ac yn cymrydchwe blynedd yn ffordd i gyflawni’rdatblygiadau angenrheidiol tuag at SicrwyddBwyd.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 77777

    Croesair 204- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -

    (12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

    Enw: _________________________

    Ar Draws1. Dynolryw bychan (7)5. Esgid y march (5)8. Symudiad rheolaidd y môr (5,1,3)9. Roedd ganddi ben aur (3)10. Am ben ôl y babi (4)12. Cryfder y castell (8)14. Sied yr esgimo (3,3)15. Sied dofednod (3,3)17. Cnawd mwnci tywyll! (3,3,2)18. Bu Bethan a Rusell yn byw yma (4)21. Mae ei enw yn ôl ac ymlaen (3)22. Yn bodoli bob amser, yn ôl y Sais (5,1,3)24. Stori’r plant “Twdwls a Twm a _ _ _ _ (1,4)25. 19 yn gywir! (7)

    I Lawr1. Ail bryd y Nadolig (5)2. Mae gennym i gyd un (3)3. Coffad cyntaf mis diwethaf (4)4. Edward Fychan (3,3)5. Pentref Dic y rhedwr o’r de (8)6. Daw gwenwyn o hwn (4,5)7. Gall 6 fod yn hyn (7)11. Gwlad bell, Gymreig (9)13. Dwy ran o dair i ddechrau (8)14. Teisen cynnyrch iâr (5,2)16. Disgrifiad tyner (6)19. G@yl fyr newydd fod! (5)20. ____ na ddaw, tebyg y daw (4)23. Dawns ar ôl roc (3)

    Atebion 203Ar draws: 1. Yfory; 3. Steffan; 6. Coes gam;5. Ringo; 9. Ocsigen; 11. Denu; 13. Llew Du;15. Rim Rim; 18. Agor; 20. Lle ynni; 23.Awydd; 24. Yr India; 25. Godineb; 26. NeintI Lawr: 1. Ymhwil; 2. Ysgwydd; 3. Samson;4. Ewros; 5. Finegr; 7. Eos; 10. curo; 12.Euan; 14. Iranian; 17. Meddiant; 19. Gilydd;21. Nodyn; 12. BidDiffyg gen i yn 25 ar draws yn amharu ar 19 ilawr. Felly ei anwybyddu ac Ivy, Primrose acOlwen yn gywir. Rhaid i mi gael 3 potel felly!Blwyddyn Newydd Dda.

    Bu farw Idris Jones, cyn bennaeth yr AdranGymraeg yn Ysgol Uwchradd y Trallwm,ychydig cyn y Nadolig. Cydymdeimlwn â’rteulu a diolchwn i Trefor Owen am ei deyrngedddiffuant iddo a draddodwyd yn ei angladd.Rwyf yn ei chyfri’n fraint i roi gair o goffâd amIdris oherwydd buom yn ffrindiau da am droshanner can mlynedd. Fe wnaethom gyfarfodam y tro cyntaf yng Nghyfarfod PregethuMoreia, Llanfair Caereinion yn 1961. Ypregethwr gwadd oedd y Parch. John Roberts,Porthmadog.Un o blant disglair Sir Feirionnydd oedd Idrisac roedd yn ymfalchïo yn ei dras – ‘Dosbarthy Ddwy Afon’, chwedl yntau.Ganwyd Idris yn 1932, yr ieuengaf o dri brawd.Cafodd ei addysg yn ysgolion Bryncrug aThywyn a graddiodd yn y Gymraeg ymMhrifysgol Bangor ac yna bu raid iddo ymunoâ’r fyddin i wneud ei “National Service”.Pan oedd yn yr ysgol a’r coleg datblygodd eiddiddordeb a’i allu fel pêl-droediwr. Bu’n aelodo dimoedd yr ysgol a’r pentref a thîm Aelwydyr Urdd. Yn ystod ei oes, bu’n gefnogwr brwdi dîm “Manchester United”.Roedd gan Idris synnwyr digrifwch affraethineb, ac ar brydiau gallai fod yn ddonioliawn a meddai ar y ddawn i ddynwared. Roeddwrth ei fodd yn dynwared “Ifas y Tryc”, ermawr ddiddanwch.Byddai hefyd yn cymryd rhan flaenllaw ymmhasiantau enwog Bryncrug, a hefydcymerodd ran mewn dramâu ac operâu agyflwynwyd yn Ysgol Tywyn.Yn ystod ei gyfnod ym Mangor cyfarfu âHeulwen a phriodi. Yn dilyn bod yn y Fyddin,bu Idris a Heulwen yn byw ym Mirminghamlle bu’r ddau yn athrawon. Ymaelododd y ddauyng nghapel Suffolk Street a dod o danddylanwad y Gweinidog, y diweddar BarchedigJohn Smith, a oedd yn arwr mawr gan Idris.Yn 1961 cafodd Idris ei benodi’n athroCymraeg yn yr Ysgol ‘Fodern’ yn y Trallwm,ac yna yn bennaeth yr adran yn yr YsgolUwchradd. Roedd yn athro da a chafoddddylanwad mawr ar amryw o’r disgyblion.Un o brif ddiddordebau Idris oedd darllen, yn

    arbennig felly Barddoniaeth a LlenyddiaethGymraeg.Canolbwynt ei ddiddordebau o’r cychwyn ymMryncrug oedd gweithgareddau Capel Beth-lehem a pharhaodd dylanwad y capel ymmywyd Idris hyd y diwedd. Roedd ei ffyddgadarn a’i ymroddiad i’r Capel hwn yn ddiwyro.Cafodd ei ddewis yn ddiacon yn 1969.Pregethwr yn bendant oedd Idris; credai’nangerddol mewn pregethu ac yn yWeinidogaeth. Gofid parhaus iddo oedd nadoeddem fel Gofalaeth yn medru sicrhauGweinidog. Parchai urddas y pulpud aphregethiad y Gair. Gwelais ef lawer gwaithwedi llwyr ymgolli wrth wrando ambell bregeth,ac yna byddai wrth ei fodd yn trafod a chanmoly cennad. “Dyna i ti bregeth”, fyddai ei sylwyn aml. Soniai am bregethwyr oedd wedi caeldylanwad arno. Ei ffefryn oedd y Parch. JohnSmith, Brimingham, ac enwai hefyd IsaacJones, Abergele, J.W. Jones, Conwy, ac wrthgwrs, yr enwog Tom Nefyn, a llawer, llawer orai eraill.Medrai Idris hefyd saernïo pregeth – tri pheny rhan amlaf, ac os oedd yr Ysbryd o’i blaidbyddai’n cael hwyl arni.Dros y blynyddoedd llenwodd Idris ambell iswydd gyfrifol yn yr Eglwys hon:Ysgrifennydd Cyhoeddiadau am dros 20mlyneddYsgrifennydd y Pwyllgor BugeiliolLlywydd Cyfarfod Chwarter CyfundebMaldwynCadeirydd Cyngor Eglwysi Ynghyd y Trallwm.Yn y flwyddyn 1976 dathlwyd canmlwyddianty Capel hwn a bu Idris yn gyfrifol am gasglu’rhanes ac o ganlyniad cyhoeddwyd y llyfryn“Cofio Doe”, dogfen werthfawr o hanes ycapel. Bu’n pregethu am flynyddoedd yn ycylch yma a thu hwnt.Roedd ei gartref a’i deulu yn bwysig iawn iddoa mawr fu ei gonsyrn am y plant i gyd. Bucolli Heulwen yn ergyd drom iddo ond trwygymorth ei deulu a’i ffrindiau llwyddodd i ddodtrosti yn bur dda.Yn ystod y misoedd diwethaf ni fu ei iechydyntau yn rhy dda ond cafodd ofal ei deulu, ynarbennig Mair, gan ei bod yn gallu dod adrefyn weddol aml, a hefyd bu Evelyn a Cecil yngaredig iawn wrtho.Diolch am gael ei adnabod dros gyfnod hir.Coffa da am ffrind arbennig.

    Trefor

    ar ddydd Llun a dydd Gwener

    PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

    yn ymarfer uwch ben

    Salon Trin GwalltAJ’s

    Stryd y BontLlanfair Caereinion

    Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

    E-bost: [email protected]

    ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

    Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

    Idris Jones

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybontsydd yn ei argraffu

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIRAIRAIRAIRAIRCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINION

    Plygain yr IfancRydym yn synhwyro fod y Nadolig yn agosáubob blwyddyn pan glywn am y paratoadau atBlygain yr Ifanc. Mae’r blygain hon wedi henennill ei phlwy yn Llanfair erbyn hyn ac yncael ei threfnu gan Bwyllgor yr Urdd. Roeddcapel Moreia yn orlawn ar gyfer y Blygain eleniar y nos Sul gyntaf ym mis Rhagfyr.Arweiniwyd y Blygain gan Haf Howells,Goetre. Agorwyd y Blygain gan aelodau YsgolSul, Llanfair a chymerwyd rhan gan bartïono Ysgol Llanerfyl, Ysgol Llanfair, YsgolRhiwbechan ac Ysgol Pontrobert a chan gr@po ferched ifanc Llanerfyl. Diolchwyd i bawbgan Elen Jones, Hafod a chafodd y carolwyri gyd luniaeth ar y diwedd, a baratowyd ganaelodau pwyllgor yr Urdd.

    Goleuadau’r Nadolig

    Greta a Jacob yn cwrdd Siôn Corn yn Ffairyr Eglwys

    Cyneuwyd goleuadau lliwgar y Nadolig ynLlanfair nos Wener Rhagfyr 6ed gan yr ACRussell George. Yn dilyn hyn cafwydgorymdaith drwy’r dref o dan arweiniad GeraintPeate a Band Arian Porthywaun.

    Cinio RygbiCynhaliwyd y cinio blynyddol yn y Ganolfangyda Phil Bennet yn siaradwr gwadd.

    Dymuniadau gorauDymuniadau gorau i Alwena Williams,Bodawen a gafodd brofion yn Stoke cyn yNadolig. Cofiwn hefyd am Richard Muscroft,Swyddfa’r Post sydd yn yr ysbyty ac am yteulu sy’n ymdrechu i gadw’r Post ar agormewn amgylchiadau anodd.

    ColledionEstynnwn ein cydymdeimlad i Mr Ifan Evans7 Hafan Deg (a Thanyfron gynt) a gollodd eiwraig, Ruby, ac i’r plant - Brian, Ron, Elwyn,Primrose a Bronwen a’u teuluoedd a golloddfam a nain annwyl yn sydyn, ychydig cyn yNadolig. Cynhaliwyd ei hangladd yng nghapelMoreia ar Ragfyr 23ain ac i ddilyn ynAmlosgfa Aberystwyth.Roedd Ruby ac Ifan newydd ddathlu 70mlynedd o fywyd priodasol mewn parti yng

    Nghefncoch.

    DCDCDarlledwyd rhaglen o ‘Dechrau Canu DechrauCanmol’ a recordiwyd yn yr eglwys yn ôl ymmis Mehefin ar Ragfyr 15. Bydd rhaglen arallyn ymddangos yn nes ymlaen. Arweiniwyd ycanu gan Linda Gittins gyda Huw Davies wrthyr organ.

    Merched y WawrNos Fercher, 27 Tachwedd cafwyd nosongartrefol yng nghwmni dwy chwaer o’r ardal.Cyflwynodd Elen, ein llywydd, Vivien a Moiraa ddaeth atom i ddangos lluniau roedd eudiweddar dad, sef Brian Jones, Tynyfawnog,wedi eu tynnu amser maith yn ôl. Dangoswydy lluniau gan Viv ac roedd Moira yn darllenbarddoniaeth i gyd-fynd â nhw. Roedd pawbwedi mwynhau’r amrywiaeth o luniau ac ynrhyfeddu at eu cyflwr da. Diolchwyd yn gynnesi’r ddwy gan Megan Ellis.Roedd pawb yn falch o weld Megan Owen ynôl efo ni ar ôl ei llawdriniaeth. LlongyfarchwydMary am ei herthygl yn y Wawr ar ColinetteYarns a diolchwyd i’r modelau Eiry, Bronwenac Alwena a diolchwyd i Carys Evans,Plasiolyn am ei gwaith clodwiw gyda’r lluniau.Daeth y noson i ben gyda phaned a baratowydgan Menna a Myra, ac enillwyd y raffl ganEveline.Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig RhanbarthMaldwyn yn Eglwys Sant Tudur, Darowenbrynhawn Sul, 8 Rhagfyr a chynrychiolwydein cangen gan Elen Davies, a ganodd garol.Mwynhaodd yr aelodau’r daith i Ddarowen a’rcyfle i fwynhau te a sgwrs yng nghanolfanGlantwymyn ar ddiwedd y prynhawn.Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y gangenyng Nghapel Ebeneser nos Sul 15 Rhagfyr.Cyflwynwyd y darlleniadau, y gweddïau a’rcarolau gan Joyce Ellis, Sian Foulkes, MennaLloyd, Joyce Davies, Eveline Ellis, MarianJames, Mair Jones, Megan Ellis a RoseJones. Canwyd Carol gan Elen Davies a hihefyd a drefnodd y rhaglen. Cyflwynwyd carola phregeth fer gan y Parch. Peter Williams.Gwnaed casgliad o £60 tuag at Uned yrArennau yn Ysbyty Trallwm.Cynhaliwyd cyfarfod o’r gangen hefyd arRagfyr 18fed pan wahoddwyd ein cigydd lleol,Richard Williams, Pandy, Foel atom i ddangossut i baratoi darnau blasus o gig at yr #yl.Roedd yn gwneud i’r cyfan ymddangos ynrhwydd a chyflwynodd hefyd fanylion am eiyrfa hyd yma. Pob lwc iddo yn ei fenternewydd yn Llanfair.Bydd ein cyfarfod nesaf ddydd MercherIonawr 29 pan fyddwn yn treulio prynhawn ynsiop Colinette Yarns.

    Gwasanaeth Nadolig y PlantDiolch i blant yr Ysgol Sul, yr hyfforddwyr a’rrhieni am wasanaeth cofiadwy ym Moreia ySul cyn y Nadolig. Cyflwynodd y plant Stori’rGeni yn eu ffordd ddihafal eu hunain, canwydcarolau a chyflwynodd Mrs Ruth Waltonanrhegion Nadolig i’r plant. Cyflwynwyd ygwasanaeth a diolchwyd i bawb a gymeroddran gan Mr John Ellis a mwynhaodd pawbbaned a mins pei ar y diwedd.

    90 oedLlongyfarchiadau i Miss Bronwen Jones, gynto Frongoch Hall, Cefncoch a ddathlodd eiphen-blwydd yn 90 oed ar 13 Rhagfyr. Bu’nathrawes yn Ysgol Gynradd Rhiwabon acroedd ei thad yn brifathro ar un adeg yn YsgolCwm, Cefn Coch.

    Eglwys y Santes FairCynhaliwyd llu o wasanaethau yn yr Eglwysdros y Nadolig. Ar ddechrau’r mis cyflwynwydDrama’r Geni yn yr Eglwys ac ynagwasanaeth Chistingle a drefnwyd yn yrEglwys gan yr Ysgol Gynradd. CafwydGwasanaeth hefyd ar Noswyl Nadolig.

    Gwasanaeth Carolau UndebolCynhaliwyd cyfarfod undebol yn yr Eglwys arRagfyr 29. Cyflwynwyd darlleniadau, acharolau gan Rhianon Jones, Ivy Evans, HuwEllis, Ruth Ellis, Katie Langford, ElinorLangford, Siân Davies a Huw Davies a GeraintPeate, a chyflwynwyd deuawd swynol ganCarys a Gillian Plasiolyn. Canwyd carolau ganblant yr Ysgol Sul a chan blant Ysgol Sul yrEglwys, a chafwyd neges amserol gan yFicer, Parch. David Dunn. Trefnwyd ygwasanaeth gan Mrs Megan Roberts.

    Cefnogi’r CarnifalCynhaliwyd noson o ganu carolau yn y LlewDu ar Ragfyr 22 i godi arian at bwyllgor yCarnifal. Cafwyd eitemau gan gôr lleol, Cas-tle Belles a chan Deulu Moeldrehaearn. Daethtyrfa dda ynghyd a chodwyd £280 tuag atGarnifal 2014.

    PantomeimBydd y Pantomeim blynyddol yn cael eigynnal yn yr Institiwt ar Chwefror 21 a 22.Os hoffech gymryd rhan ffoniwch Pauline neuClive ar 811355.

    RHIWHIRIAETH

    CAFFIa SIOP

    Nwyddau, Papurau Newydd Lleol aChenedlaethol * Byr-brydau a Chinio

    Poeth ac Oer * Bwyd i fynd allan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

    S I O PS I O PS I O PS I O PS I O PDydd Llun i Ddydd Gwener

    8.00 tan 5.00Dydd Mercher tan 12.30

    Dydd Sadwrn 8.00 tan 4.00Dydd Sul 8.30 tan 3.30

    CAFFICAFFICAFFICAFFICAFFIDydd Llun i Ddydd Gwener

    8.00 tan 4.00Dydd Mercher - ar gau

    Ddydd Sadwrn 8.00 tan 3.30Dydd Sul 8.30 tan 3.00

    Y CWPAN PINCym mhentre Llangadfan

    DyweddïoLlongyfarchiadau i Carwyn Hoyle, a Molliesydd wedi dyweddïo. Mae Mollie yn dod ynwreiddiol o Lundain ond mae ei theulu yn bywyn Nhrefaldwyn erbyn hyn.

    Swydd NewyddLlongyfarchiadau hefyd i Haf Hoyle sydd wedicael swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ymaes Oedolion yn y Drenewydd.

    FfarwelioCladdwyd llwch Arwyn Tyisa mewngwasanaeth yng nghapel Seilo o danarweiniad y Parch. Peter Williams cyn yNadolig.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 99999

    Mae 3 gwraig o Lanfair yn dymuno cael lifft iTheatr Hafren, nos Sadwrn, 15 Mawrth

    i weld ‘Only Men Aloud’!Os gallwch helpu

    ffoniwch Doreen: 810185

    ANGEN LIFFT!

    PARTI NADOLIG YR HENOEDPARTI NADOLIG YR HENOEDPARTI NADOLIG YR HENOEDPARTI NADOLIG YR HENOEDPARTI NADOLIG YR HENOEDTrefnwyd Parti Nadolig ar gyfer pensiynwyr Llanfair Caereinion yn YsgolUwchradd Caereinion. Daeth tua 50 o henoed Llanfair i fwynhau adloniantNadoligaidd gan Gôr a Band yr Ysgol cyn mwynhau gwledd o ddanteithionwedi eu paratoi gan ddisgyblion Arlwyo a Lletygarwch Bl.10.Diolch yn arbennig i Alan Watkin (AW Coaches) am gludo’rpensiynwyr i’r Ysgol ac i Glwb Rygbi Cobra am noddi’rdigwyddiad.

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    BECIAN DRWY’R LLÊNS gyda Pryderi Jones(E-bost: [email protected])TTTTTri g@r doeth…a barddoniaeth.ri g@r doeth…a barddoniaeth.ri g@r doeth…a barddoniaeth.ri g@r doeth…a barddoniaeth.ri g@r doeth…a barddoniaeth.Blwyddyn newydd dda! Ar ddechrau blwyddynnewydd dyma fwrw trem sydyn yn ôl arddiwedd y fllwyddyn ddiwethaf ac ar dri dyn agafodd gryn sylw gan y wasg a’r cyfryngau.

    Nelson MandelaNelson MandelaNelson MandelaNelson MandelaNelson MandelaYchydig o Gymraeg oedd gan y diweddarNelson Mandela a dyna pam mae’n debyg eifod yn troi at farddoniaeth Saesneg am gysurac am ysbrydoliaeth. Un o’i hoff feirdd oeddy bardd Victorianaidd William Ernest Henley,g@r o Swydd Gaerloyw a aned ym 1848.Dioddefodd gyda’r ddarfodedigaeth neu’rdiciâu yn ddeuddeg oed a bu’n rhaid torri rhano’i goes i ffwrdd. ‘Invictus’ yw’r gerdd enwocafganddo ac mae’n bosib iddo ei llunio i gyfleu’rgwytnwch a’r dyfalbarhad a oedd eu hangenarno ac yntau heb ei goes. Beth bynnag,mae’n debyg bod Nelson Mandela yn caelcysur mawr o’r gerdd hon ac yn ei hadroddi’w gyd-garcharorion ar Robben Island. Fefyddai angen ysbrydoliaeth a chysur arnochmewn cell wyth troedfedd wrth wyth troedfeddam ddeunaw a mwy o flynyddoedd.

    InvictusOut of the night that covers me,Black as the pit from pole to pole,I thank whatever gods may beFor my unconquerable soul.

    In the fell clutch of circumstanceI have not winced nor cried aloud.Under the bludgeonings of chanceMy head is bloody, but unbowed.

    Beyond this place of wrath and tearsLooms but the Horror of the shade,And yet the menace of the yearsFinds and shall find me unafraid.

    It matters not how strait the gate,How charged with punishments the scroll,I am the master of my fate,I am the captain of my soul.

    R.S.ThomasAeth can mlynedd heibio ers geniR.S.Thomas. G@r a ddysgodd Gymraeg ynrhugl ond a deimlai’n brin o hyder i farddoniyn yr iaith. Efallai fod rhai o ddarllenwyr y Pluyn ei gofio yn gwasanaethu fel offeiriad ymManafon yn y pedwardegau. Rydw i yn eigofio’n iawn yn dod i siarad efo ni fyfyrwyrym Mangor erstalwm yn ei ddyffyl coat a’idei coch. Rhamantu a wnâi bryd hynny amgerdded i fyny allt Glanrafon yn ei ieuenctidac am y peth gwaethaf am fynd yn hen – fodmerched, bellach, yn peidio â throi i edrycharno wrth iddo fynd heibio! Mae’n debyg eifod yn @r a oedd yn ddrysfa o gyferbyniadaua’i bod yn hawdd cael camargraff ohono. Dynagafodd un o ohebwyr Stryd y Fflyd pan aethi’w gyfweld a thynnu’r llun anffodus hwnnwo’r bardd yn edrych yn o sarrug yn nrws eifwthyn ger Aberdaron. Daeth y prifardd TwmMorys i achub cam ei gyfaill gyda’r awdldeyrnged fer hon. Rhaid cofio bod R.S. ynadarwr brwd.

    R.S.Mae’r hen wynt fu gynt o’i go’heddiw drwy’r Rhiw yn rhuo,a s@n y derw’n y dona dyr yn Aberdaron.Mae hi’n dymor mynd o’maar holl wenoliaid yr ha’,ond mae’r adar yn arosar y graig arw a’r rhos.

    Be’ welodd yr hac boliog – o Lundain,a landiodd mor dalog?Nid brenin ar ei riniog,nid dyn trist, a’i Grist ar grog,

    Ond dyn gwyllt, fel dewin o’i go’. - Hyll iawnyw’r lluniau ohono:R.S. sych yn ei ddrws o,ac R.S. oer ei groeso.

    R.S. yn oer ei groeso?Nid i’r un o’i adar o!Carai ei wraig, carai win,carai’r ifanc, a’r rafin,a charai holl drwch yr iaith,ei hofarôls, a’i hafiaith …

    Bu’r gwaith, a’r bara a’r gwinolaf ym Mhentrefelin,ac mae’r gwynt drwy Gymru i gyd,Manafon, a Môn hefyd.Ond mae’r adar yn arosar y graig arw a’r rhosaros byth, R.S., y byddadar mân dewr y mynydd.

    Yr Arglwydd Wyn RobertsCymro glân gloyw oedd y diweddar WynRoberts o Lansadwrn, Sir Fôn. Wedi eiymadawiad cafwyd rhaglen deyrngedddadlennol amdano ar S4C. Arferai fy nhaidyn Llannerch-y-medd ganmol Syr Wyn i’rcymylau yn gyson, nid am ei wleidyddiaeth,prysuraf i ychwanegu, ond yn hytrach am eiallu i ennill ysgoloriaeth i Harrow a Rhydychenac am ei iaith groyw, ei ddiwylliant a’ifoneddigrwydd. Fe’i portreadwyd fel g@r awnaeth lawer iawn y tu ôl i’r llen dros Gymrua’r iaith Gymraeg. Darbwyllodd Magi Thatcheryngl~n ag S4C, cyfarfu â Chymdeithas yrIaith, bu’n weithgar gyda’r Ddeddf Iaith adiwygiadau Addysg a olygai ddysgu’r iaithGymraeg yn ysgolion Cymru. Fe’i disgrifiwydgan bwysigion fel ‘angel gwarcheidiol yr iaithGymraeg’ a ‘Chymro mwyaf ei genhedlaeth’.Roedd hefyd wrth ei fodd gyda barddoniaethac fe gynigiodd am goron yr eisteddfodgenedlaethol un tro. Siom enbyd, ac eto nidsyndod mawr imi ychwaith, oedd honiad yrhaglen na throsglwyddodd Syr Wyn Robertsyr iaith Gymraeg i’w blant ei hun. Wedi clywedhynny, bu bron iawn imi wneud yr hyn a wnaethAlex Higgins flynyddoedd yn ôl a thaflu’rteledu drwy’r ffenest! Rydw i’n ffodus bod einteledu ni yn fawr ac yn hen erbyn hyn ac ynrhy drwm i’w thaflu. Roedd hi hefyd yn awrrhy hwyr o’r nos imi alw am help llaw fynghymydog Glyn Tynrhos i ymrafael â hi.

    TORIADAUMae Cyngor Sir Powys yn wynebu toriadauo £40 miliwn. Heb amheuaeth fe fydd hynyn effeithio yn arw iawn ar nifer o’rgwasanaethau yr ydym yn eu cymryd ynganiataol ar hyn o bryd. Mae’r Cyngor eisiaugwybod beth yw ein barn ni am hyn i gyd acfe gynhelir nifer o gyfarfodydd cyhoeddusdrwy’r Sir yn ystod mis Ionawr lle bydd cyflei ni roi mynegiant i’r farn honno. Cynhelircyfarfod o’r fath yn y Trallwng ar Ionawr 16er nad oes lleoliad nac amser pendant wediei gyhoeddi ar ei gyfer eto.Gwasanaeth BysusGwasanaeth BysusGwasanaeth BysusGwasanaeth BysusGwasanaeth BysusGyda thoriadau, gellwch fentro mai’rardaloedd mwyaf gwledig fydd yn dioddefgyntaf. Mae sïon cryf ar led eisoes fod ygwasanaeth bys rhwng y Foel a’r Trallwmmewn perygl. Dyma wasanaeth sy’n gwblhanfodol i nifer o bobl yn yr ardal hon, ynarbennig pobl h~n yn y gymdeithas. Maentyn ei ddefnyddio er mwyn gallu mynd i siopa,torri eu gwallt, neu i ymweld â’r deintydd, ydoctor a’r banc. Dyma wasanaeth sy’n rhoicyfle iddynt fynd o le i le. Hebddo byddentyn gaeth i’w cartref.Mae hwn yn wasanaeth sy’n cyfoethogibywydau. O’i golli byddai bywydau pawbgymaint â hynny yn dlotach. Mae’r rhyddidgynigir ganddo yn hanfodol.Os ydych am weld y gwasanaeth hwn yn caelei warchod yna arwyddwch y deisebauperthnasol sydd ar gael yn y Cwpan Pinc,Caffi Rita, Swyddfa Bost Llanfair Caereiniona nifer o lefydd eraill. Manteisiwch hefyd ary cyfle i fynegi eich barn wrth eichcynghorwyr lleol Viola Evans a Myfanwy Al-exander.Mae hwn yn argyfwng. Ond fe ddylemfanteisio ar hynny er mwyn ceisio gwella’rgwasanaeth sydd ar gael. Wedi’r cwbl digonsimsan fu’r gwasanaeth trafnidiaethcyhoeddus ym Mhowys gyda gormod o fysusgweigion i’w gweld yn teithio o gwmpas y lle,mewn ambell dre tra bod ardaloedd eraill hebwasanaeth o gwbwl. Prin fod y cysylltiadrhwng prif drefi’r Sir yn foddhaol, a beth amy cysylltiad rhwng y gwasanaeth bysus a’rgwasanaeth trên yn yr ardal?Tebyg ei bod hi’n fwriad gan y Cyngor Sir iedrych ar y strwythur. Dewch i ni obeithio ybydd hyn yn arwain at wella’r gwasanaeth ynhytrach na’i ddileu. Mae dyfodol cefn gwlad,a safon byw y rhai ohonom sy’n byw yno yndibynnu ar y penderfyniad y daw’r Cyngor Siriddo.

    Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

    MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

    Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.Ffôn: 01650 531210

    KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

    Petrol a’r PluFfôn: 820208

    POST A SIOPLLWYDIARTH

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 1111111111

    Ann y Foty a Boddi Cymoedd CYSTADLEUAETHSUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: __________________

    ____________________________________

    ____________________________________

    Dymuniadau gorau ar gyfer 2014 i selogion ySudocw. Diolch yn fawr iawn i Tudor Jonesam yr anrheg Nadolig - llyfr llawn posauSudocw – digon o bosau i gadw ni fynd amddegawd!!!Derbyniais 27 o atebion cywir gan y canlynol:Anne Wallace, Craen; Heather Wigmore,Llanerfyl; Ann Evans, Bryncudyn; HywelRoberts, Penybontfawr; Beryl Jacques,Cegidfa; David Smyth, Foel; Malcolm Lloyd,Carno; Ella Morris Jones, Abermiwl; JeanPreston, Dinas Mawddwy; R. Morris,Wrecsam; Gwynfryn Thomas Llwynhir; J.Jones, Y Trallwng; Ieuan Thomas, Caernar-fon; Tudor Jones, Arddlîn; Gordon Jones,Machynlleth; Cledwyn Evans, Llanfyllin;Gwyndaf Jones, Llanbrynmair; M.E. Jones,Croesoswallt a Megan Roberts, Llanfihangel;Maureen, Cefndre; Glenys Richards,Pontrobert; Rhiannon Gittins, Llanerfyl; Wat,Brongarth; Oswyn Evans, Penmaenmawr;Eirys Jones, Dolanog; Eirwen Robinson, CefnCoch ac Arfona Davies, Bangor. Yr enwcyntaf allan o’r het oedd Hywel Roberts,Penybontfawr sydd yn enill tocyn gwerth £10i’w wario yn un o siopau W.H. Smiths.Anfonwch eich atebion ar gyfer Sudocw misIonawr at Mary Steele, Eirianfa, LlanfairCaereinion, Y Trallwm, Powys neu CatrinHughes, Llais Afon, Llangadfan, Y Trallwm,Powys, SY21 0PW erbyn dydd Sadwrn Ionawr18fed. Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn tocyngwerth £10 i’w wario yng Nghanolfan ArddioDerwen, Cegidfa.

    Siop Trin Gwallt

    A.J.’sAnn a Ann a Ann a Ann a Ann a KathyKathyKathyKathyKathy

    yn Stryd y Bont, LlanfairAr agor yn hwyr ar nos Iau

    Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 8112271227122712271227

    Yn ddiweddar bum yn darllen llyfrdiddorol iawn o’r enw ‘Sefyll yn yBwlch. Brwydr Llangyndeyrn1960-1965’.Llyfr yw hwn sy’n adrodd yr hanesam fwriad corfforaeth Abertawe ifoddi Llangyndeyrn fel bod digon o

    dd@r i gyflenwi anghenion gorllewinMorgannwg.Awdur y llyfr yw W.M. Rees. Ef oeddgweinidog y Bedyddwyr yn yr ardal ar y prydac fe’i dewisiwyd yn ysgrifennydd y PwyllgorAmddiffyn. Mae Mr Rees wedi marw ersblynyddoedd bellach ond daeth ei fab ar drawsllawysgrif o’i eiddo oedd yn sôn am yr helynta dyma yw’r llyfr hwn.Rhaid dweud na ellid neb gwell na W.M. Reesi fod yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn.Cyn troi at y weinidogaeth fe fu’n lowr ynAberdâr ac yn heddychwr yn ystod y RhyfelByd Cyntaf. Felly roedd yn gwybod yn iawnsut i herio awdurdod a sefyll tros ei hawliau.Fe gododd yr helynt yn Llangyndeyrn yn fuaniawn ar ôl colli’r frwydr yn Nhreweryn aChlywedog. Pwnc dadleuol iawn oedd boddicymoedd ar y pryd. Ond yn wahanol iDryweryn fe enillwyd y frwydr ynLlangyndeyrn. Pam tybed.Llyfr rhagorol yw un Mr Rees, sy’n rhoiarweiniad clir iawn i unrhyw un ar sut iamddiffyn bro rhag unrhyw fygythiad o’r tuallan. Rhaid yn gyntaf sicrhau fod ygymdogaeth leol yn gwbl unedig. Rhaid ennillcefnogaeth o’r tu allan gan sicrhau ar yr unpryd fod yr ymgyrch yn aros yn nwylo’r boblleol. Rhaid llythyru’n eang â gwleidyddion,arweinwyr cynghorau a gw~r amlwg eraill.Mae’n ddiddorol gymaint o gefnogaeth gafwydyn Llangyndeyrn gan Gymry blaengarAbertawe ei hun. Ond fe ddaeth cefnogaetho dros y byd i gyd.Roedd yna barodrwydd hefyd i orymdeithio aphrotestio ac i weithredu yn ddi-drais hefyd.Llwyddwyd i rwystro’r ymchwilwyr rhag dodat y tir heb i neb gael ei anafu. Pwysig hefydoedd y berthynas dda a fagwyd rhwng yrymgyrchwyr a newyddiadurwyr y wasg a’rcyfryngau.Wrth gymharu yr hyn a ddigwyddodd ynLlangyndeyrn gyda’r methiant yn Nhrywerynmae rhywun yn holi eto beth oedd achos yfuddugoliaeth yn Sir Gaerfyrddin.I ddechrau roedd y cwm yn y de yn fwyffrwythlon a phoblog. Rhaid dweud hefyd nadoedd Abertawe efallai yn ‘elyn’ morbenderfynol â Lerpwl. Ond y pennaf reswm

    mae’n siwr yw i’r ymgyrchwyr yn Llangyndeyrnlwyddo i argyhoeddi awdurdodau gorllewinMorgannwg i foddi darn arall o wlad heb ihynny effeithio ar neb. Dyna sut y daeth LlynBriane i fodolaeth.Doedd yna ddim ail ddewis pan foddwydTryweryn. Yn wir, os cofiaf yn iawn bwriadcyntaf dinas Lerpwl oedd boddi Dolanog. Feachosodd hynny helynt ofnadwy wrth gwrsgan fod hynny yn peryglu Dolwar Fach, cartrefAnn Griffiths.Y diwrnod o’r blaen wrth edrych drwy henbapurau sydd gen i yn y t~ yma dyma ddodar draws copi o’r Genhinen (1955) ac ynddo’renglyn cywaith hwn gan T. Llew Jones ac AlunCilie.

    DolanogDyffryn yr emyn, a rydd – y treisiwr Trosot ei lifogydd?O na, rhaid dy gadw’n rhydd,Hawlia Ann dy fro lonydd.

    Dolanog, heb dy lwyni? – heb dy dai Heb dy dawel erddi?A welir ton yn cronniUwch hoff fan ei choffa hi?

    Tybed faint ohonoch chi ddarllenwyr y Plusydd ag atgofion am yr helynt hwn?

    Ni foddwyd Dolanog wrth gwrs. Ond nid dynaddiwedd y sôn am foddi cymoedd Maldwynchwaith. Yn fuan ar ôl i Langyndeyrn gael eiarbed mae W.M. Rees yn sôn amdano ei hunyn cael gwahoddiad yn 1966 i ymweld â nifero fannau yn Sir Drefaldwyn. Cafodd ei wahoddyma am fod Bwrdd D@r Hafren am foddi nifero gymoedd yn yr ardal. Yn wir roedd yna sônam fesur a thyllu 29 o lefydd ar y dechrau.Gostyngodd hyn i 19 ac yna i 10. Daeth yrhif i lawr i 2 ac yna i fyny i 8 eto.Mae gennyf rhyw gymaint o gof am yr helynt.Cafodd W.M. Rees y fraint o annerch yPwyllgor Amddiffyn a sefydlwyd.Roedd pob Cwm yn yr ardal hon ar y rhestrgan gynnwys Cwm Twrch a Chwm Nant yrEira. Hyd yn oed Meifod, os cofiaf yn iawn.Tybed oes gan rywun atgofion am yr helynthwn? A beth ddaeth o gofnodion y PwyllgorAmddiffyn? Tybed oes yna aelodau o’rPwyllgor Amddiffyn fedrai adrodd yr haneswrthym.Ni chafodd unrhyw gwm ei foddi yn y diwedd.Ond fe ddaeth mewnlifiad o fath gwahanol gannewid ein cymunedau yn llwyr.

    Morris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant Hire

    OFFER CONTRACWYRAR GAEL I’W HURIO

    gyda neu heb yrwyrCyflenwyr Tywod, Graean a

    Cherrig FforddGosodir Tarmac a Chyrbiau

    AMCANGYFRIFON AM DDIMFfôn: 01938 820 458

    Ffôn symudol: 07970 913 148

    CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

    Gwaith Cerrig

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    COLOFN MAI

    G wasanaethau A deiladu D avies

    Drysau a Ffenestri UpvcFfasgia, Bondo a Bargod Upvc

    Gwaith Adeiladu a ToeonGwasanaethau Cynnal a Chadw Eiddo

    Gwaith tirRheiliau Haearn, Giatiau a Balconïau

    Ffôn: 01938 820521 Symudol: 07933 452175

    www.davies-building-services.co.uk

    Ymgymerir â gwaith amaethyddol,domesitg a gwaith diwydiannol

    Beth gwell na swffle safri, maethlon, blasusa phoeth ar ddiwrnod oer o Ionawr. Mae’nsiwr y bydd gan lawer ohonoch fanion ofwydydd ar ôl gwledd y Nadolig.

    Swffle tri chaws a llugaeron25g (owns) o fenyn25g (owns) o fflwr300ml (1/2 peint) o laeth25g (owns) o unrhyw gaws glas wedi eifriwsioni25g (owns) o gaws aeddfed25g (owns) o gaws hufennog neu feddal felBrie25g (owns) o friwsion bara gwynpinsied o baprica neu bupur cayennepinsied o tumericpinsied o nytmeg6 @y gan wahanu’r gwyn a’r melyn

    Paratoi’r saws gan ddefnyddio’r menyn, y fflwra’r llaeth.Cymysgu’r cawsiau i mewn i’r saws poeth acychwanegu’r blasau a’r llugaeron a’r melynwyau.Iro dysgl swffle a thaenu’r briwsion bara drosy gwaelod a’r ochrau.Curo’r gwyn wyau hyn yn drwchus a’u plygu imewn i’r gymysgeddswffle yn ofalus ganddefnyddio llwy fwrddfetal.Arllwys y cyfan i’rddysgl swffle achoginio am rhyw 25munud mewn ffwrnboeth 2000C/nwy 6hyd nes bydd y swfflewedi codi a setio.Mwynhewch y swffle heb oedi a BlwyddynNewydd Dda i ffrindiau’r Plu!

    Ffair Nadoligfair Nadoligfair Nadoligfair Nadoligfair NadoligCawsom noson lwyddiannus iawn gyda nifer o bobl y pentref wedi dod i gefnogi. Gwnaeth dosbarthMrs Parry yn hynod o dda ar eu stondinau menter a busnes gan wneud elw da iawn. Bydd hanneryr elw yn mynd tuag at elusen y Philipinau.

    Logo Ysgol NewyddLogo Ysgol NewyddLogo Ysgol NewyddLogo Ysgol NewyddLogo Ysgol NewyddMae Ysgol Pontrobert yn lansio logo newydd. Llongyfarchiadau gwresog i Jasmin Teague amddylunio ein logo newydd. Cafwyd ymateb ardderchog i’r gystadleuaeth unigryw yma a bydd yrysgol yn defnyddio’r logo gwreiddiol yma o hyn ymlaen.

    Cyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligRoedd y neuadd yn orlawn nos Fawrth y 17 o Ragfyr i’n cyngerdd Nadolig. Enw’r cyngerdd elenioedd Nadolig yn Rwla. Roedd y ddrama yn dilyn cymeriadau Gwlad y Rwla wrth iddynt geisiodarganfod gwir ystyr y Nadolig. Cafwyd noson arbennig a phawb wedi mwynhau.

    PPPPParararararti Nadoligti Nadoligti Nadoligti Nadoligti NadoligCawsom brynhawn gwych yn dawnsio, chwarae gemau a bwyta yn ein parti Nadolig. Yna cawsomymwelydd pwysig iawn, y dyn ei hun.....Siôn Corn! Roedd ei sach yn llawn o anrhegion ar gyfer yplant. Prynhawn hyfryd.....

    YSGOL PONTROBERT

    YSGOL PONTROBERTYSGOL PONTROBERT

    YSGOL PONTROBERT

    YSGOL PONTROBERT

    Castell y WaunCastell y WaunCastell y WaunCastell y WaunCastell y WaunBu dosbarth y Cyfnod Sylfaen yn hynod o lwcus i gael tywydd sych yn ystod eu hymweliad i Gastelly Waun. Gwelon nhw goed yn cael eu torri ac yna rhai newydd yn cael eu plannu. Yna roedd hi’nbryd mynd am drip o gwmpas y goedwig, gan ddilyn cliwiau oddi wrth anifeiliaid y goedwig er mwyndarganfod caban Siôn Corn. Pan gyrhaeddon nhw’r caban roedd Siôn Corn yn aros amdanynt ermwyn darllen stori a chreu addurniadau Nadolig. Cafodd pawb amser wrth eu bodd ac roeddanrheg oddi wrth Siôn Corn yn coroni diwrnod arbennig iawn

    DiwrDiwrDiwrDiwrDiwrnod siwmperi Nadolignod siwmperi Nadolignod siwmperi Nadolignod siwmperi Nadolignod siwmperi NadoligAr ddydd Gwener y 13eg o Ragfyr gwisgon ni ein siwmperi Nadolig er mwyn casglu arian tuag atelusen Achub y Plant. Casglon ni £52 ar gyfer yr achos da ac roedd pawb wedi mwynhau.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 1313131313

    DOLANOG

    LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Carys Dolwar Fach ar eihymweliad â’r Labordy Ffisegol Genedlaethol(National Physical Laboratory, NPL), ynTeddington, Llundain ar Dachwedd 29ain. RoeddCarys yno fel un o 15 o beirianwyr ifanc gorauPrydain yn dangos eu cynllun peirianneg iwyddonwyr NPL a chael cyngor dan y CynllunCynghori i baratoi am gystadleuaeth peiriannyddifanc gorau Prydain, i’w chynnal ym mis Mawrthym Mirmingham yn y National Exhibition Cen-tre. Pob lwc i Carys.Hefyd llongyfarchiadau i Carys ar ei llwyddiantyn eisteddfod Llanrhaeadr ym Mochnant –cafodd ail wobr am ganu deuawd efo ElenVaughan a 3ydd am yr unawd dan 25 oed.Llongyfarchiadau i Steffan Harri, Plas Coch ar eilwyddiant yn y sioe ‘Spamalot’ yn Theatr y Play-house, Y West End yn Llundain. Roedd PaulGriffiths yn ei erthygl ‘Steffan yn dwyn y sioe’ (yCymro 20ed Rhagfyr) yn yn rhoi clod mawr iddoar ôl ei weld yn dirprwyo un o’r prif actorion, sef‘Lancelot’ a’r ffaith ei fod hefyd yn cyfrannu’nnosweithiol at sawl cymeriad arall yn y sioe. MaeSpamalot i’w weld yn y Playhouse tan yr 22ain oChwefror. Da iawn Steffan!Saethodd Siôn Rhoslas ei lwynog cyntaf gerTyncul, rhywbeth na fedrodd ei dad wneudddeuddydd ynghynt!!

    GenedigaethRoedd y baneri yn chwifio yn Rhoslas ar y 27aino Ragfyr gyda’r newyddion fod Ani Llwyd wedi’igeni. Llongyfarchiadau gwresog i Betsan a Llionar enedigaeth eu merch fach ac i Edfryn aMererid ar ddod yn Daid a Nain am y tro cyntaf.Anrheg Nadolig perffaith iddynt ac Ewyrth Siônyn siwr o fod yn falch o gael rhannu dyddiad eibenblwydd gydag Ani hefyd. Synnwn ni ddimnad oedd na ‘dinc o iodl’ i’w glywed yn yr aweldros Foncyn y Foel y diwrnod hwnnw!

    Pen-blwydd yn 90Anfonwn ein dymuniadau gorau a’nllongyfarchiadau at Elfed Lewis, Brynhyfryd afydd yn yn 90 oed ar Ionawr 17.

    Cymdeithas y MerchedAr Ragfyr 10ed cafwyd noson ‘Gwaith Ffelt’ gydaRowena Morris. Arddangosodd Rowena sut iwneud ffelt, gan ddechrau gyda’r cnu. Hefydarddangosodd engreifftiau hardd o’i ffeltwaith.Eirian Roberts oedd yng ngofal y raffl, gydaDelyth Francis a Beryl Roberts yng ngofal ypaned.

    Gwellhad a SalwchRydym yn dymuno gwellhad i Morris Bebb, GroesDdu sydd wedi bod yn ysbyty Telford, i John Gill(h~n), Tan yr Allt yn ysbyty Amwythig ac i ManonLewis, Rhoslas sydd wedi bod yn ysbytyAmwythig wedi damwain i’w phen-glin wrthchwarae pêl-rwyd. Rydym yn dal i ddymunogwellhad i Olwen Jones y Lawnt yng NghartrefHermitage, y Trallwm, a hefyd i Bethan Torne,Glyn Isaf a Gweni Thomas, Efail Wig.

    Pwyllgor Apêl Eisteddfod 2015Bydd y cyfarfod nesaf yn neuadd Dolanog nosLun, Ionawr 27 am 7.30 yh i aelodau pentrefiDolanog, Llwydiarth a Llanfihangel. Croeso ibawb.

    Canolfan Gymunedol DolanogSgyrsiau ‘Gweithgareddau awyr agored’Bydd rhain am 7.30 o’r gloch yn y Ganolfan.Mynediad £3.00 yn cynnwys lluniaeth ysgafn.Chwefror 04 (nos Fawrth) - Viv Church,Rhosybreidden. Pysgota

    PONTROBERTElizabeth Human,T~~~~~ Newydd 500493

    PenblwyddiRhaid ymddiheuro i Tom Jones, Dros-y-nant,ac i Lewys Lewis, Gwernfawr – y ddau wedidathlu penblwydd yn 21 a dim gair yn y Plu!Llongyfarchiadau i Menna Lloyd ac i BarbaraDavies y ddwy wedi dathlu’r saith deg ac iMegan Rhos yn dathlu 90 ar Ionawr 11eg.

    Clwb CyfeillgarwchBu’r aelodau a rhai o’r cynorthwywyr yn dathluyn y Tanws. Croesawyd pawb yno gan Ritaa hi ddiolchodd i’r teulu Hughes am y cinio.Diolchodd Gwen i Rita am ei gwaith drwy’rflwyddyn, i Kate Beach yr ysgrifenyddes ac iKen Tatlow, y trysorydd.

    Clwb Cinio Dydd GwenerBu aelodau a ffrindiau’r Clwb hefyd yn dathluyn y Tanws. Diolchodd Glenys Price i Angelaac Ivor Hawkins a’r criw am drefnu’r cinio bobdydd Gwener – a’r aelodau yn sicr ynmwynhau ac yn edrych ymlaen am gaelsgwrs, cinio ac adloniant.

    Cymdeithas GymraegCafwyd noson o Hawl i Holi yn NeuaddMeifod. Croesawyd pawb yno gan Menna asoniodd am Mona Jones oedd newydd ddod iYsbyty Trallwm a dymunodd yn dda iddi ac iAlun ei g@r. Roy Griffiths oedd Cadeirydd ynoson a fo gyflwynodd y panel sef – AlwenaTynmynydd, Mary Steele, Arwyn Groe a TomEllis. Cafwyd noson dda efo amrywiaeth ogwestiynau diddorol. Cynigiwyd y diolchiadaugan Nia Rhosier ar y diwedd.

    Eisteddfod Mathrafal 2015Cafwyd cyfarfod i drefnu pwyllgor apêl ar gyfer

    ardal Pontrobert a Llangynyw ac i ddechraumeddwl am weithgareddau codi arian at ySteddfod. Bydd y cyfarfod nesaf ynLlangynyw ar Ionawr 16 am 7.30 – dewch igefnogi.

    GwellhadDymunwn wellhad buan i Barbara Daviessydd wedi cael llawdriniaeth i’w phenglin ynddiweddar.Dymunwn wellhad buan i Helen Dolfeiniogsydd newydd dderbyn llawdriniaeth dros yNadolig. Brysia wella.

    DyweddïadLlongyfarchiadau i Iolo White a Louise Kenny,ac i Robert Jones, Cefngolau a Ruth Waltonar eu dyweddïad. Pob lwc i’r ddau gwpl.

    CyngerddCawsom gyngerdd bendigedig gan y plant arRagfyr 17eg – a chan mai Llinos Gruffuddsy’n gyfrifol am hanes yr ysgol bob mis rhaiddiolch yn fawr iddi am ei chyfraniad adymuno’n dda i Llinos ac Andrew ar ddydd eupriodas ddiwedd Rhagfyr. Pob dymuniad da ichi eich dau i’r dyfodol.

    Plygain Peniwel, Penllys aPhontrobertCafwyd cynrychiolaeth dda i’r Blygain.Croesawyd pawb i’r Neuadd ym Mhontrobertgan Dr Margaret Jones. Roedd 8 parti yncanu a hynny yn cynnwys 2 unawdydd ifanc.Ymunodd 17 o ddynion i ganu Carol y Swper.Cafwyd paned a sgwrs ar y diwedd.

    Eglwys Sant IoanBu Gwasanaeth Carolau a Darllen blynyddolar Noswyl y Nadolig dan arweiniad y ParchJane James. Dechreuodd y gwasanaeth yny tywyllwchtywyllwchtywyllwchtywyllwchtywyllwch ond yna bu goleuni! Roedd ydarlleniadau gan aelodau’r gynulleidfa efoBeryl Jones wrth yr organ i ganu’r carolau.Cafwyd gwin poeth a mins-peis ar y diwedd.

    LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAdeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr TTTTTai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac EstyniadauGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu Gerrig

    Ffôn: 01938 810330

    ANDREW WATKIN

    Froneithin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,

    01938 810242/01938 811281 [email protected] /www.banwyfuels.co.uk

    TANWYDD

    OLEWON AMAETHYDDOL

    POTELI NWY

    BAGIAU GLO A CHOED TAN

    TANCIAU OLEW

    BANWY FEEDS POB MATH O FWYDYDD

    ANIFEILIAID ANWES

    A BWYDYDD FFERM

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    Meifod 500355 a 500222

    Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

    Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Dervac Olew Iro a

    Thanciau StorioGWERTHWR GLOCYDNABYDDEDIG

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    Brian LewisGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymio

    a Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

    Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

    Ffôn 07969687916neu 01938 820618

    Garej Llanerfyl

    Ffôn LLANGADFAN 820211

    Ceir newydd ac ail lawArbenigwyr mewn atgyweirio

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    Colofn y DysgwyrLois Martin-Short

    Ysgolion IonawrOs hoffech chi gyfle i gael dau ddiwrnod oGymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill, maedewis o gyrsiau ym mis Ionawr.Ionawr 3-4 (Gwener / Sadwrn): Coleg MeirionDwyfor, DolgellauIonawr 25-26 (Sadwrn / Sul): CanolfanGymunedol Buttington / TrewernMae’r cyrsiau’n cychwyn am 9.30 ac yngorffen am 3.30. Maen nhw’n costio £16 neu£11 gyda chonsesiwn. Bydd te a choffi ar gael(dewch â chwpan a phecyn cinio). Am fwy ofanylion ac i gadw lle, ffoniwch Menna, 01686614226, e-bostio [email protected] neu ewchi www.learnwelshinmidwales.

    Gr@p y Flwyddyn 2013 yn ennillGr@p y Flwyddyn 2013 yn ennillGr@p y Flwyddyn 2013 yn ennillGr@p y Flwyddyn 2013 yn ennillGr@p y Flwyddyn 2013 yn ennillgwobrgwobrgwobrgwobrgwobrLlongyfarchiadau mawr i Denice, Helena,Cynthia, Ronnie, Alun a Julie o Drefaldwyn.Maen nhw wedi sefydlu gr@p darllen ‘Eiddew’,ac o ganlyniad wedi ennill £100 a’r wobr ‘Gr@py Flwyddyn 2013’. Aeth Julie i SeremoniWobrwyo yr Adran Addysg a Dysgu GydolOes yn Aberystwyth ym mis Tachwedd. Mae’rgr@p yn cyfarfod bob pythefnos am 6:30 nosIau, yn Ivy House Cafe, yn Nhrefaldwyn. Amfanylion y cyfarfod nesaf, ffoniwch Denice01686 668746.

    Enillwyr Eisteddfod y FoelTestun y Traethawd i’r Dysgwyr yn Eistedd-fod y Foel ym mis Tachwedd oedd “Ardal fyMagu”. Alun Bowen o Ffordun enillodd y wobrgyntaf. Roedd Sheila Thompson yn ail aGillian Jenkinson o Langadfan yn drydydd.Llongyfarchiadau i chi i gyd.

    Phil Jones Phil Jones Phil Jones Phil Jones Phil Jones dw i . Dw i’n byw yn Hanwoodger Amwythig. Dw i wedi ymddeol ond miweithies i fel gwas sifil am dri deg pump oflynyddoedd. Dw i’n dysgu Cymraeg ynMiddletown (Treberfedd) bob bore Gwenerefo Heddwen Roberts. Mae ’na naw yn ydosbarth a dan ni’n hoffi dysgu Cymraegefo’n gilydd - ond mae o’n anodd! Dw i’n hoffigarddio, chwarae bowls, cerdded yn y wlada mynd ar wyliau yn y garafán. Does gen iddim amser sbâr rhwng popeth.

    Dod i ’Nabod y DysgwyrDod i ’Nabod y DysgwyrDod i ’Nabod y DysgwyrDod i ’Nabod y DysgwyrDod i ’Nabod y Dysgwyr

    Glyn ThomasGlyn ThomasGlyn ThomasGlyn ThomasGlyn Thomas dw i. Dw i’n byw yn New-port, Sir Amwythig. Dw i’n dod o Wolver-hampton yn wreiddiol ond roedd fy nhad yndod o’r Trallwng. Dw i wedi ymddeol ond ro’ni’n athro Cemeg cyn ymddeol. Mae gen iddwy ferch. Dw i’n dysgu Cymraeg ar hyn obryd efo Heddwen Roberts yn Middletown.Yn fy amser sbâr dw i’n chwarae a dyfarnuhoci. Fi ydy rheolwr tîm hoci Cymru - dyniondros 65. Dw i’n teithio i lawer gwlad i chwaraehoci. Ro’n i yn Barcelona yn ddiweddar ondmi wnaethon ni golli, ond fi oedd DYN Y GÊM(man of the match!)

    David JarvisDavid JarvisDavid JarvisDavid JarvisDavid Jarvis dw i. Dw i’n byw yn Arddleen efo Jane. Dw i’n dod o Lundain yn wreiddiolac mi wnaethon ni symud i Gymru yn 2010. Dw i’n hoffi hen feiciau modur. Mae gen ibump ac mae gan Jane ddau. Yn fy amser sbâr dw i’n gweithio ar y rheilffordd ager ynLlanfair Caereinion. Dw i’n dysgu Cymraeg ers tair blynedd achos dw i’n byw yng Nghymru.Jill Williams oedd fy nhiwtor ond Heddwen Roberts ydy fy nhiwtor i r@an ym Meifod.

    YR UN LLE OND GYDA WYNEB NEWYDD

    B T SBBBBBINDING TYRE SERVICE

    Y GAREJ ADFA SY163DB

    TEIARS, TRWSIO PYNJARSCYDBWYSO OLWYNION, TIWBIAU

    MEWNOL

    YYYYY ST ST ST ST STOC MWYOC MWYOC MWYOC MWYOC MWYAF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS YNGYNGYNGYNGYNGNGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!

    GWAITH AMAETHYDDOL

    TRELARS4X4 PEIRIANNAU

    HOFFECH CHI I NI DDOD ALLAN ATOCH CHI?

    RYDYM YN CYNNIG GWASANAETH SYMUDOLSYMUDOLSYMUDOLSYMUDOLSYMUDOL

    I DRWSIO A GOSOD TEIARS!

    YN BAROD I’W FFITIO

    GWASANAETH BONEDDIGAIDD A CHWRTAIS

    Ffôn: 01938 81119901938 810347

    Symudol: 07523 359026

    Am gymorth gyda:

    • Yswiriant Ty a Char • Yswiriant Busnes a Cherbydau Masnachol• Pensiynau • Buddsoddiadau

    Mae Ymgynghorwyr Ariannol NFU Mutual yn cynghori arwasanaethau yr NFU Mutual ac mewn achosion arbennig, rhaidarparwyr eraill. Mi fyddwn yn egluro’r gwasanaethau a gynigiri chwi, ag ein costau.

    Am sgwrs iawn ynglyn a’ch anghenion cysylltwch a’ch swyddfa leol, neu galwch i mewn.

    Swyddfa Llanfair Caereinion 01938 810224

    Agent of The National Farmers Union Mutual Insurance Society Limited.

    YSWIRIANT ARGARREG EICH DRWS

    argraffu daam bris da

    holwch Paul am bris ar [email protected] 832 304 www.ylolfa.com

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 1515151515

    Mr. Bryn EllisY TRALLWMRona Evans01938 552369

    Mair a MarthaTrefnwyd gwasanaeth Nadolig ar gyfer eincyfarfod Mair a Martha fis Rhagfyr ac fegawsom brynhawn bendithiol iawn.Gwasanaeth o garolau a darlleniadau am ‘YGeni’ ydoedd ac aelodau o’r gymdeithas agymerodd ran. Elliw Morris oedd wrth y pi-ano. Cafwyd darllen gan Mona Lewis, PamOwen, Marian Thomas, Enid James, LeahJones, Josephine Jones a Theodora Hamer-Harvey ac fe’n harweiniwyd mewn gweddi gany Cadeirydd. Wedi’r gwasanaeth cawsom ollbaned a the blasus. Cofiwch na fydd cyfarfodym mis Ionawr. Fis Chwefror cynhaliwn eincyfarfod blynyddol.

    Dymuniadau daPen-blwydd hapus i Enid James ar ei phen-blwydd ym mis Rhagfyr. Hefyd gwellhad buani Ciss Davies sy wedi treulio peth amser ynyr ysbyty ond nawr wedi dod adre.

    Cymdeithas ParkinsonAr y 27ain o Dachwedd difyrrwyd ugainohonom gan Mr A J Crowe a ddaeth i ddangosei sleidiau o’r plasau ac eglwysi ar lannaudeheuol o’r afon Hafren, a’u hanes. Ar y 12fedo Ragfyr cynhaliwn ein parti Nadolig yn festri’rCapel Cymraeg yn y Trallwng, ac ar y 30aino Ionawr, byddwn yn dod ynghyd i gael eincyfarfod blynyddol am ddau’r prynhawn yn yTrallwng. Os am fwy o wybodaeth cysylltwchâ Marilyn ar 01686 640106.

    Y BlygainCynhaliwyd Plygain y Trallwm Nos FawrthRhagfyr 10fed yn y Capel Cymraeg. Agorwydy Blygain gan Gwyndaf James a chymeroddtri ar ddeg o bartïon ac unigolion ran yn ygwasanaeth. Yn dilyn canu Carol Y Swpergan y dynion mwynhaodd bawb lluniaethblasus a baratowyd gan ferched yGymdeithas.

    ColledionBu farw Mr Idris Jones, Peniarth, Cefn Hawysar Ragfyr 11eg. Cydymdeimlwn â Huw,Margaret, Gwenda Mair a’u teuluoedd yn euprofedigaeth o golli eu tad. Cynhaliwyd ei

    angladd yng nghapel Cymraeg y Trallwmddydd Gwener Rhagfyr 20fed. Roedd ygwasanaeth yng ngofal y Parch RaymondHughes a thalwyd teyrnged iddo gan Mr EricWyn Jones, Trefor Owen a’r Athro SionedDavies.Bu farw Betty Jones, Garreg Drive ar Ragfyr13eg. Cydymdeimlwn â Richard yn eibrofedigaeth o golli ei fam.Cynhaliwyd yr angladd yn amlosgfa Amwythigar Ragfyr 27ain.

    BedyddDydd Sul Tachwedd 24ain bedyddiwyd CaidenThomas Evans mab Alwyn a MarieEvans, @yr bach i Geraint a Margaret Evans,Ffordun.Roedd y gwasanaeth yng ngofal Mr Tom Ellisa braf oedd gweld y teulu wedi dod ynghyd i’rbedydd.

    HELEN DAVIES Dip.CFHP, MPSPractYMARFERWR IECHYD TRAED

    I drefnu apwyntiad yn eich cartref,cysylltwch â Helen ar:

    07791 22806507791 22806507791 22806507791 22806507791 22806501938 81036701938 81036701938 81036701938 81036701938 810367

    Maesyneuadd, Pontrobert

    Gwasanaeth symudol:* TTTTTorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewineddorri ewinedd* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Cael gwared ar gyrn* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Lleihau croen caled a thrwchus* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Casewinedd* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Lleihau ewinedd trwchus* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd* Trin ewinedd gyda haint ffwngaidd

    Huw Lewis

    Ffôn: Meifod 500 286

    Post a Siop Meifod

    Adeiladau newydd, EstyniadauPatios, Gwaith cerrig

    Toeon

    Tanycoed, Meifod, Powys,SY22 6HP

    Ffôn: 07812197510 / 01938 500514

    GARETH OWEN

    CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR ADEILADUADEILADUADEILADUADEILADUADEILADU

    Dyfynbris am Ddim

    Pedair CenhedlaethTynnwyd y llun uchod ar achlysur dathlu pen-blwydd Nest yn 90 oed yng Nghastell Deudraethddiwedd Hydref. Yn y llun mae Nest ac Elwyn Davies, Gwerfyl a Gareth, Tomos (mab Gwerfyl)a Vicky, ei wraig, a’u mab bach, Benjamin Roberts.

    Gwasanaeth NadoligAr ddydd Sul Rhagfyr 22ain cafwydgwasanaeth arbennig yng ngofal plant a phoblifanc y Capel Cymraeg. Dramodwyd Stori’rGeni drwy ddarlleniadau a charolau achymerwyd rhan gan Martha Macdonald, Tho-mas Weaver, Tomos Owen, BethanMacdonald, Carys Owen, Manon a GruffHamer, Jim a Lucy Ward, Nia Weaver,Bernard Gillespie a Sian Weaver. Diolch iSiân a’r rhieni am roi o’u hamser i ddysgu’rplant.

    Cartref NewyddPob dymuniad da i John a Joanne MacDonalda’r plant, Martha, Bethan ac Efan sy’n symudac yn ymgartrefu yn yr Amwythig. Byddhiraeth ar eu hôl ond rhaid fydd dod nôl i’rTrallwm yn aml i weld taid a nain, John acElliw Morris. Pob lwc yn y t~ newydd a’r ysgolnewydd.

    MARS Annibynnol

    Montgomery House, 43 Ffordd Salop,Y Trallwng, Powys, SY21 7DX

    Ffôn 01938 556000

    Ffôn Symudol 07711 722007

    Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol

    Trevor JonesRheolwr Datblygu Busnes

    Morgeisi * Pensiynau * Buddsoddiadau * Cynilion* Yswiriant Bywyd * Diogelu Incwm

    * Adeiladau a Chynnwys

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014

    I.P.E. 810658LLANLLUGAN

    20142014201420142014 Dyma ni eto yn troedio i mewn i’r flwyddynnewydd,— “C’lennig yn gyfan ar fore dyddCalan, a blwyddyn newydd dda i chwi”. Dymaun o’r penillion yr oeddem yn ei lefaru wrthfynd o ddrws i ddrws ar fore Calan, ‘dymunafflwyddyn dda ac yn enwedig un iachus i chwigyd!!

    Gwaeledd Gwaeledd Gwaeledd Gwaeledd Gwaeledd Yr un modd rwy’n dymuno iechyd da i DorothyTy-Bach, Ellis Sychnant, Richard WilliamsPencoed a dorrodd ei fraich yn chwarae pêl-droed, hefyd i Dora Tynllan a gafodd gwympgo boenus rai wythnosau yn ôl.

    6060606060 Mae Norman brawd Dora, Llewelyn a Byronwedi dathlu 60 o flynyddoedd o fywydpriodasol. Dymuniadau gorau i chwi.

    AderAderAderAderAderynynynynyn Yr oeddwn wedi mynd i wasanaeth boreol ynyr eglwys. Ar ddiwedd yr oedfagofynnodd Gareth Carreg-y-big i mi ddyfalupa aderyn a welodd ac a glywodd y borehwnnw. Doedd gen i ddim syniad ac feddywedodd - “corn chwiglen!” Roeddwn ynmeddwl mai draw ar lan y môr maen nhw yradeg yma o’r flwyddyn. Falle eich bod chwiyn gwybod yn well?

    FfairFfairFfairFfairFfair Cafwyd bore ardderchog ar gyfer y FfairNadolig a gynhaliwyd yn y Dafarn. Roeddsawl stondin ac wrth gwrs galwodd Santaheibio felly roedd y lle yn byrlymu gyda phlanta babanod. Gwnaethpwyd dros £600 tuag atyr eglwys.

    65.65.80.90.65.65.80.90.65.65.80.90.65.65.80.90.65.65.80.90. Yn diweddar dathlodd ein cyn gymdogionbenblwyddi go arbennig, Glyn Pencoed, a

    ADFARuth Jones, Pentalar

    810313

    NadoligNadoligNadoligNadoligNadolig Cynhaliwyd gwasanaeth carolau ar fore Sulcyn y Nadolig yn Eglwys y plwyfLlanwyddelan. Roedd yr Eglwys wedi eihaddurno yn dlws iawn gan yr aelodau.Darparwyd paned a mins-pei i bawb yn y festriar ddiwedd y gwasanaeth.

    GeniGeniGeniGeniGeni Mae hi’n #yl y Geni a ganed merch fach o’renw Nansi ar Ragfyr 19 i Ellen a SimonHughes a chwaer fach i Ashlee.Mae Ellen yn ferch i Bryn a Shirley, Tycoch aganed y ferch fach ar benblwydd Ellen.Ganed merch fach o’r enw Ellie i Sharon aJames Vaughan, Adfa a chwaer fach i Kim aRyan. Mae Sharon yn ferch i David a RuthIsaac.Llongyfarchiadau hefyd i Chris a Julie Fryer,Pantycrai ar ddod yn daid a nain ar ôlgenedigaeth merch fach o’r enw Ellie i’wmerch Millie sy’n byw yng Nghaersws.

    Gillian Vicarage, hefyd Brenda o DdolyfardynFawr, ac yna nid anghofiwnBronwen hithau yn gynt yn dod o FrongochHall. Pob dymuniadau da i chwi i gyd. Hip,hip hwre!!!

    Henoed Daeth bron i hanner cant o henoed i’r henysgoldy am swper a oedd wedi ei baratoi ganaelodau Canolfan Cwm. Roedd y byrddaua’r swper yn hyfryd ac yna cawsom adloniantgan Richard Jones Caebryn.

    A.TA.TA.TA.TA.T.B.B.B.B.B..... Tua chanol mis Rhagfyr aeth aelodau affrindiau draw i’r Henllan am swper Nadolig.Bu canmoliaeth mawr iddynt yn y gwesty.Hyfryd iawn, roedd y lle yn gynnes a’r bwydyn flasus iawn. Y nos Iau ganlynol daethManon a Mark o gymdeithas R.S.P.B. iGanolfan y Cwm.

    GeniLlongyfarchiadau i Gwyn ac Angie Crugnantar ddod yn daid a nain eto pan aned mabbach i Robert a’i bartner.

    CarolauCarolauCarolauCarolauCarolau Prynhawn Sul yn eglwys Llanllugan daethcynulleidfa dda iawn i ganu carolau ac iwrando ar ddarlleniadau o’r Ysgrythur. Roeddy gwasanaeth o dan ofal y Parch. Mary Dunngyda’r Parch. David Dunn yn rhoi araith facha bendithio‘r Preseb a oedd wedi cael eiwneud gan Mr John Woolam a’i ddiweddarwraig, Val. Rhannwyd anrhegion i’r plantoscyn diweddu gyda phaned o de a chacen.

    Drws Drws Drws Drws Drws Diar mi, Diar mi, beth nesaf? PrynhawnSadwrn diwethaf aeth un o’r aelodau i mewni‘r eglwys a sylwi fod rhywun wedi torri drwsy festri. Yn gynharach yn y dydd roedd aelodarall wedi bod yno i lanhau erbyn y Sul acroedd popeth yn iawn. Felly a ddigwyddoddhyn rywbryd rhwng hwyr y bore a chyn canoly prynhawn?

    GWE FAN

    GWE FAN

    GWE FAN

    GWE FAN

    GWE FAN

    Safwe ddiddorol yw Llên Natur,www.llennatur.com, sef ‘GwefanNaturiaethwyr a phobl Cymru’. Un o’r rhannaumwyaf diddorol ar y safle yma yw’r‘Tywyddiadur’; adnodd yw hwn lle cewchedrych ar gofnodion o’r tywydd a nifer o bethaueraill. Daw’r cofnodion o ffynonellau gwahanolond y dyddiaduron yw’r rhai mwyaf diddorol imi. Mae cofnodion Cymraeg a Saesneg i’wcael. Cewch chwilio rhwng dyddiadau arbennighefyd i fyny at y presennol fwy neu lai. Dymaenghreifftiau o aeaf caled 1963 – ‘eira a lluwchmawr, gorfod gwagio to’r t~’ (DyffrynArdudwy), ‘peipen d@r trydan Maentwrog ynrhewi a byrstio gan lifo trwy’r coed a chreuhafn anferth’ a ‘-26.1C y tymheredd oeraf drosBrydain y dyddiad hwn’ (yn Newport, SirAmwythig). Mae cofnodion hefyd o fywydnatur gan gynnwys pryd a ble gwelwyd adara phlanhigion gwahanol. Yn ogystal, ceir nifero gyfeiriadau at ffermio e.e. ‘Mathew Pantglasa finne yn mynd i Pentre Llanwddyn ar trap igyfarfod defaid cychwyn 5ogloch. Bos yndwad i lawr 315 o ddefaid ag wyn. Heffer yndwad a llo’ (o ddyddiadaur, Hugh Jones, CwmCanol, Llansilyn, Sir Ddinbych, 10ed oFehefin, 1925). Mae cofnod ddiddorol oddyddiadur D.O. Jones, Padog o fis Mawrth,1947 yn sôn am awyren Dakota yn cael eiharwain gan dannau i fannau ar fryniau ynardal Llangadfan er mwyn helpu dwy fil ofamogiaid a oedd wedi eu cau i mewn ganeira ac yn newynnu. Soniwyd hefyd amddefaid, a oedd wedi dod i lawr o’r Berwyn,yn syrthio yn farw ar y stryd ym Mhen y BontFawr ar yr un adeg. Fel cyferbyniad i’r tywyddhyn cawn ‘Haf gogoneddus 1949 yn para oheddiw [sef Meh. 21] dan ganol mis hydref’ –rwan dyna beth ydy haf! Mae sylwadau fel yrhai sydd ar y wefan yma yn dangos pa morbwysig a defnyddiol yw cofnodi pethau rwanar gyfer y dyfodol! Yn y llyfrgell mae copi oddyddiadur 1887 William Jones, ffermwr oAberdaron.Ar y wefan cewch bori drwy ôl-rifynnau bwletinLlên Natur Cymdeithas Edward Llwyd syddar ffurf PDF. Mae clipiau fideo ar gael hefyd,fel dawns noswylio drudwennod pier Aberyst-wyth. Ar gael hefyd mae oriel luniau gangynnwys rhai a dynnwyd yn ddiweddar iawn.Safwe ddiddorol dros ben!

    A oes arnoch angen glanhaueich simnai cyn y gaeaf,

    neuhoffech chi brynu coed tân?

    Cysylltwch â Richard JenkinsPont Farm

    Betws Cedewain, Y DrenewyddFfôn: 07976872003 neu

    01686 640 906

    LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    Gwasanaeth Carolau’r EglwysDaeth cynulleidfa niferus ynghyd i’r gwasanaethcarolau dwyieithog ar bnawn Sul, Rhagfyr yr22ain. Trefnwyd ac arweinwyd y gwasanaethgan y Parch. Canon Llewelyn Rogers.Cyflwynwyd y darlleniadau gan KathleenMorgan, Menna Rowlands, Annwen acAngharad Richards, Clare Bale a’r CanonRogers. Yr organydd oedd Eirlys Richards a’rcasglyddion oedd Eifion a Kathleen Morgan.Arddurnwyd yr Eglwys gan Kathleen, MorwennaHumphreys a Brian Jones yn y nawsNadoligaidd. Mwynhawyd paned a mins peis,yng ngofal Annie Roberts a Morwenna, arddiwedd y gwasanaeth. Diolchwyd i bawb am ygefnogaeth.

    CofionDymunwn y gorau i Ceinwen Thomas, BrianJones a Dei Williams, sydd wedi dychwelydadre ar ôl cyfnod yn yr ysbyty. Da deall bodDilys Lloyd yn teimlo’n well.

    YmddeoliadDymuniadau gorau i Mary Jones,Aberdwynant sydd wedi ymddeol fel athrawesyn ddiweddar.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2014 1717171717

    LLANERFYL

    BAR BISTRO Y 3 DIFERYN Bridge House Llanfair Caereinion Prydau 3 chwrs. Bwyd Cartref gan ddefnyddio Cynnyrch Cymreig. Seidr Cymru, Rhestr Win helaeth.ARCHEBWCH NAWR AR GYFER Y NADOLIG! drwy ffonio Ruth Kempe: 01938 811917

    CYNGERDD

    DISNEY

    Cinio CymunedolCafwyd cinio cymuned llwyddiannus iawn wediei drefnu gan y Cyngor Bro ar Ragfyr 9fed.Daeth oddeutu 60 i wledda a pharatowyd ybwyd yn ôl yr arfer gan Bethan o Fachynlleth.

    BingoRoedd y Neuadd yn llawn i Bingo ola’rflwyddyn – darparwyd pynsh a mins-peis acenillwyd hamper y Nadolig gan Ella Jones,Tyntwll. Noson hwyliog iawn.

    Siôn CornDaeth Siôn Corn i ymweld â phlant yr YsgolFeithrin a hefyd disgyblion Ysgol Llanerfyl –roedd pawb wedi cynhyrfu wrth weld Siôn Cornyn cerdded trwy’r pentre a sach ar ei gefn.

    YmwelyddBraf oedd gweld Eirlys Gardden a’r teulu ynymweld dros y Nadolig – cafwyd cinio Nadoligyn y Cann Office efo Gwyn, Lloyd a Siân a’uteuluoedd. Diwrnod hwyliog iawn.

    Noswyl NadoligCynhaliwyd y gwasanaeth Noswyl Nadolig ynyr Eglwys gyda chynulleidfa dda iawn o blantac oedolion. Gweinyddwyd y Cymun gan yParch. Glyn Morgan. Darllenwyd y llithoeddgan Linda ac Olwen ac Emma Morgan oeddwrth yr organ.

    GwellhadDymunwn wellhad buan i Luned Pencomminsar ôl llawdriniaeth cyn y Nadolig. Mae Meicyn nyrs ardderchog erbyn hyn!

    Llongyfarchiadau i Carys, Elain, Emma a Medi am ennill y ras gyfnewid gymysg yng Nghala’rUrdd yn y Drenewydd ac hefyd i Medi Lewis am ennill y ras rydd i ferched bl 3 a 4. Pob lwciddynt yn y rownd Genedlaethol yng Nghaerdydd yn mis Ionawr.

    YSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYLYSGOL LLANERFYL

    Y Sioe Gerdd eleni oedd Disney ac feswynodd y disgyblion y