ionawr 2014 rhif 440 50c dod a bywyd yn ôl i’r stryd fawr ionawr 2014.pdf · 2019. 1. 25. ·...

20
Ionawr 2014 Rhif 440 50c Cofiwch Brynu Calendr Llais Ogwan at y flwyddyn newydd £4.00 yn y siopau lleol neu ffoniwch Dafydd Fôn Williams 01248 601583 SIOP OGWEN Mae’n siŵr bod y rhai craff ymhlith darllenwyr y Llais wedi sylwi bod gwaith adeiladu wedi bod yn mynd ymlaen yn hen siop ddodrefn Alfred C Jones ar Stryd Fawr Bethesda ers cyn y Nadolig. Bu’r siop yn wag am bedair blynedd cyn i Bartneriaeth Ogwen ei phrynu ym mis Tachwedd y llynedd. Cychwynodd y bartneriaeth fel is-bwyllgor o dri Chyngor Cymuned y Dyffryn gyda’r bwriad o ddod â gwasanaethau yn ôl i’r ardal, ond mae bellach wedi ei sefydlu fel Cwmni di-elw. Gyda phwysau ariannol ar y sector gyhoeddus o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol agos – ynghyd â dirywiad y Stryd Fawr - Dod a bywyd yn ôl i’r Stryd Fawr (Mae Llais Ogwan yn falch o gael cyhoeddi’r erthygl hon sy’n trafod menter newydd ar Stryd Fawr Bethesda. Mewn cyfnod pan mae cymaint o fusnesau bychain teuluol yn cau a’n trefi a’n pentrefi’n colli gwasanaethau o bob math mae’n braf clywed am griw o bobl gyda’r ynni a’r weledigaeth i geisio atal y dirywiad. Gol. ) mae Partneriaeth Ogwen yn gweld y pryniant yma yn gyfle euraidd i ddod â bwrlwm yn ôl i'r fro. Dywedodd Dafydd Meurig, Cadeirydd Partneriaeth Ogwen, “Yr ydym wedi bod yn cydweithio gyda gwahanol gyrff a gobeithiwn y bydd hynny’n parhau i’r dyfodol”. Yn ogystal â bod yn gartref parhaol i'r Heddlu yn y Dyffryn, bydd swyddfa Siop Ogwen ar gael i'w defnyddio gan glercod Cynghorau Cymuned yr ardal yn ogystal ag asiantaethau eraill. Mae bwriad hefyd i ddarparu gofod yn y siop ar gyfer crefftwyr a chynhyrchwyr lleol sy'n awyddus i arddangos eu cynnyrch. Bydd lloriau uchaf yr adeilad yn cael eu troi yn fflat o ansawdd uchel fydd ar gael am rent rhesymol i rywun lleol sy’n dymuno byw a gweithio yn eu cynefin. Mae pryniant yr adeilad yn ffrwyth llafur dwy flynedd o waith caled ar ran aelodau Partneriaeth Ogwen a swyddogion Cyngor Gwynedd i sicrhau cymorth ariannol digonol. Cafwyd £50,000 tuag at y pryniant gan gynllun 'Cymunedau Cynaliadwy' a weinyddir gan Gyngor Gwynedd, a daeth gweddill yr arian o Gronfa CAE, Heddlu Gogledd Cymru a'r Gronfa Buddsoddi Cymunedol. Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddu gymryd hyd at fis Mai eleni, ond y cyfamser bwriad Partneriaeth Ogwen yw penodi Prif Swyddog a fydd yn gweithio’n llawn amser o’r swyddfa yn Siop Ogwen pan fydd yr adeilad yn barod. Yr Heddlu ac eraill ar gael Gweledigaeth yr aelodau yw y bydd yr adeilad, a enwir yn Siop Ogwen, yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau a gollwyd o'r ardal, ac mae'r bartneriaeth yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn symud eu hunig swyddfa yn Nyffryn Ogwen i'r ganolfan newydd ar y Stryd Fawr.

Upload: others

Post on 21-Oct-2020

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Ionawr 2014 Rhif 440 50c

    Cofiwch Brynu

    Calendr Llais Ogwan

    at y flwyddyn newydd

    £4.00 yn y siopau lleol

    neu ffoniwch

    Dafydd Fôn Williams

    01248 601583

    SIOP OGWEN

    Mae’n siŵr bod y rhai craff ymhlithdarllenwyr y Llais wedi sylwi bodgwaith adeiladu wedi bod yn myndymlaen yn hen siop ddodrefn AlfredC Jones ar Stryd Fawr Bethesdaers cyn y Nadolig.

    Bu’r siop yn wag am bedairblynedd cyn i Bartneriaeth Ogwenei phrynu ym mis Tachwedd yllynedd. Cychwynodd ybartneriaeth fel is-bwyllgor o driChyngor Cymuned y Dyffryn gyda’rbwriad o ddod â gwasanaethau ynôl i’r ardal, ond mae bellach wedi eisefydlu fel Cwmni di-elw.

    Gyda phwysau ariannol ar y sectorgyhoeddus o ran darparugwasanaethau yn y dyfodol agos –ynghyd â dirywiad y Stryd Fawr -

    Dod a bywyd yn ôl i’r Stryd Fawr

    (Mae Llais Ogwan yn falch o gael cyhoeddi’r erthygl hon sy’n trafod

    menter newydd ar Stryd Fawr Bethesda. Mewn cyfnod pan mae cymaint

    o fusnesau bychain teuluol yn cau a’n trefi a’n pentrefi’n colli

    gwasanaethau o bob math mae’n braf clywed am griw o bobl gyda’r ynni

    a’r weledigaeth i geisio atal y dirywiad. Gol. )

    mae Partneriaeth Ogwen yn gweldy pryniant yma yn gyfle euraidd iddod â bwrlwm yn ôl i'r fro.

    Dywedodd Dafydd Meurig,Cadeirydd Partneriaeth Ogwen, “Yrydym wedi bod yn cydweithio gydagwahanol gyrff a gobeithiwn y byddhynny’n parhau i’r dyfodol”.

    Yn ogystal â bod yn gartref parhaoli'r Heddlu yn y Dyffryn, bydd

    swyddfa Siop Ogwen ar gael i'wdefnyddio gan glercod CynghorauCymuned yr ardal yn ogystal agasiantaethau eraill. Mae bwriadhefyd i ddarparu gofod yn y siop argyfer crefftwyr a chynhyrchwyr lleolsy'n awyddus i arddangos eucynnyrch. Bydd lloriau uchaf yradeilad yn cael eu troi yn fflat oansawdd uchel fydd ar gael amrent rhesymol i rywun lleol sy’ndymuno byw a gweithio yn eucynefin.

    Mae pryniant yr adeilad yn ffrwythllafur dwy flynedd o waith caled arran aelodau Partneriaeth Ogwen aswyddogion Cyngor Gwynedd isicrhau cymorth ariannol digonol.Cafwyd £50,000 tuag at y pryniantgan gynllun 'CymunedauCynaliadwy' a weinyddir ganGyngor Gwynedd, a daeth gweddillyr arian o Gronfa CAE, HeddluGogledd Cymru a'r GronfaBuddsoddi Cymunedol.

    Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddugymryd hyd at fis Mai eleni, ond ycyfamser bwriad PartneriaethOgwen yw penodi Prif Swyddog afydd yn gweithio’n llawn amser o’rswyddfa yn Siop Ogwen pan fyddyr adeilad yn barod.

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 1

    Yr Heddlu ac eraill ar gaelGweledigaeth yr aelodau yw ybydd yr adeilad, a enwir yn SiopOgwen, yn cael ei ddefnyddio iddarparu gwasanaethau a gollwydo'r ardal, ac mae'r bartneriaeth ynfalch iawn o gyhoeddi y byddHeddlu Gogledd Cymru yn symudeu hunig swyddfa yn NyffrynOgwen i'r ganolfan newydd ar yStryd Fawr.

  • Llais Ogwan

    Derfel Roberts [email protected]

    Ieuan Wyn [email protected]

    Lowri Roberts [email protected]

    Dewi Llewelyn Siôn 07901 [email protected] 913901

    Fiona Cadwaladr Owen [email protected]

    Siân Esmor Rees [email protected]

    Neville Hughes [email protected]

    Dewi A Morgan [email protected]

    Trystan Pritchard [email protected] 373444

    Walter W Williams [email protected]

    SWyDDOGION

    Cadeirydd:Dewi A Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor, Bethesda,Gwynedd LL57 3DT [email protected]

    Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

    ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

    Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ [email protected],uk

    y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN [email protected]

    PANEL GOLYGYDDOL

    Golygydd y Mis

    DyDDIADuR y DyFFRyN Rhoddion i’r Llais

    Llais Ogwan 2

    Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

    Golygwyd y mis hwn gan Derfel Roberts.

    Golygydd mis Chwefror fydd Ieuan Wyn,Talgarreg, Ffordd Carneddi, Bethesda,LL57 3SG. (01248 600297)[email protected]

    Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher,05 Chwefror, os gwelwch yn dda. Plygunos Iau, 20 Chwefror, yng NghanolfanCefnfaes am 6.45.

    £10 Dr Gwen Gruffydd, Aberystwyth£10 Dr Elwyn Hughes, Ystradgynlais£ 5 Dienw, Bethesda£ 5 J Williams, 20 Glan Ffrydlas,

    Bethesda£10 J. ac Ettie Evns, 10 Glan Ffrydlas,

    Bethesda£20 Dienw£20 Dienw, Llandygái£25 Iolo a Nesta Williams, Tal y Cae,

    Tregarth£10 Er cof annwyl am fy mam, Kitty

    Mesach Owen, gynt o 14 Gernant, Braichmelyn, ar ddydd ei phen-blwydd, 21 Ionawr. Oddi wrth Ogwena.

    £10 Er cof am ben-blwydd fy chwaer, Helen (19 Ionawr 1950) “Dal mae hiraeth yn fy nghalon”. David, Heulwen a Pat.

    £4.50 Vernon Davies, Rachub.£10 Dienw, Rachub£10 Er cof annwyl am y diweddar John

    Kenneth Hughes, Sŵn y Nant oddi wrth Fiona, Dafydd, Gwenllïan, Iestyn a Swyn

    Diolch yn Fawr

    Gwobrau Mis Ionawr£30.00 (181) Eurwen Morris

    Garnedd Uchaf, Bethesda£20.00 (185) Dafydd Roberts

    Cae’r Wern, Tregarth £10.00 (103) Gwen Ellis, Pant y Gwair

    Uchaf, Pont y Pandy.£5.00 (75) Annes Glyn,

    Bwthyn Cefn Braich, Rhiwlas.

    Mis Ionawr 2014

    22 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.

    25 Bore Coffi Cylch Meithrin. Cefnfaes. 10.00 -12.00

    28 Cangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00

    29 Cyfarfod Blynyddol Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

    30 Merched y Wawr Bethesda. “Llysiau Llesol Nain”. Cefnfaes am 7.00

    Mis Chwefror03 Merched y Wawr Tregarth. “Crwydro.”

    Angharad Tomos. Festri Shiloh am 7.45.08 Marchnad Ogwen.

    Clwb Rygbi Bethesda. 10.00 – 2.0015 Bore Coffi Eisteddfod Dyffryn Ogwen.

    Caffi Coed y Brenin. 10.00 – 12.00

    16 Plygu Llais Ogwan. Cefnfaes am 6.45.

    27 Merched y Wawr Bethesda. Dathlu Gŵyl Ddewi. Cefnfaes am 7.00

    Mis Mawrth01 Bore Coffi Plaid Cymru.

    Caffi Coed y Brenin. 10.00 - 12.00

    08 Marchnad Ogwen, Clwb Rygbi Bethesda. 10.00 - 2.00

    Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

    Cysodwyd gan Tasg, 50 Stryd Fawr Bethesda,

    LL57 3AN 07902 362 [email protected]

    Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

    01248 601669

    Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.

    `

    Ariennir yn rhannolgan Lywodraeth Cymru

    Annwy l Oly gy dd

    Gwledydd Prydain - £20Ewrop - £30Gweddill y Byd - £40

    Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

    01248 600184

    Archebu Llais Ogwan drwy’r Post

    -

    Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

    Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

    Llais Ogwan ar Dâp

    Arenig, 14, Erw Las,Bethesda

    Annwyl Olygydd,Hoffwn ddiolch o galon i’r canlynol, a fu’n

    cymryd rhan yn y Gwasanaeth NadoligCymunedol a gynhaliwyd yng NghapelJerusalem yn ddiweddar:

    Côr y Dyffryn, Corau Ysgol Dyffryn Ogwen,Hefin Evans, Manon Hughes, Neville Huws,Alun Llwyd, Angharad Llwyd, RhiannonLlwyd, Jenni Lyn, John Ogwen, BarbaraOwen, Elin Roberts, Gwenno Roberts,Lowri Roberts, Beti Rhys, Ffion Rowlinson,Paul Rowlinson.

    Hyfryd oedd gweld cynulleidfa deilwngiawn wedi ymgynnull ar gyfer noson ag iddinaws mor arbennig, ac mae fy nyled yn fawri bobl yr ardal am eu cefnogaeth.

    Llwyddwyd i godi’r swm anrhydeddus odros £465.00 tuag at waith CymorthCristnogol yn ynysoedd y Philipinau.

    Yn gywir iawn,

    Menai Williams

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 2

  • Mae tystiolaeth sy’n dangos yn gwbl glir nad oes dim sail dros godistad 69 o dai ym Methesda, Gwynedd. Ni ddylid bod wedi clustnodi’rsafle yn y lle cyntaf oherwydd roedd yn groes i ganllawiau’r cyngor sirei hun, ac ni ddylai fod wedi ei gynnwys yng Nghynllun DatblyguUnedol Gwynedd 2001-2016 fel tir i’w ryddhau ar gyfer ei ddatblygu.

    Mae dogfen a gyhoeddwyd gan Gyngor Gwynedd yn dangos nad oedddim cyfiawnhad dros ddynodi’r tir yng Nghoetmor ar gyfer eiddatblygu. Mae’r dogfen, sef Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd :Ymchwiliad Cyhoeddus - Papur Cefndir - Dosbarthiad Aneddleoedd,Ffiniau Datblygu a Dewis Safleoedd Dynodedig Cynllun DatblyguUnedol Gwynedd, yn cyfeirio at fwriadau’r cyngor mewn perthynas ârhyddhau tir i’w ddatblygu mewn gwahanol fathau o ardaloedd o fewny sir. Rhestrir Bethesda efo’r ardaloedd sy’n dod o dan y diffiniadCanolfannau Lleol, ac wrth gyfeirio at yr ardaloedd hynny, a’r math oddatblygiadau y gallent ymdopi â nhw, mae’r ddogfen yn nodi fel aganlyn:

    “Gallant ymdopi gyda dynodiadau cymhedrol o dai marchnad agored,lle mae angen hynny, heb amharu ar eu cymeriad gwledig.” (2.14)

    Yn y datganiad uchod mae tri maen prawf, sef nifer cymedrol o dai, yrangen am dai newydd, a gwarchod cymeriad gwledig yr ardal. Dweudy mae’r cyngor sir na ddylid rhyddhau tir os ydi’r datblygiad yn mynd ifod yn rhy fawr; os nad oes tystiolaeth i ddangos bod angen ydatblygiad; ac os ydi’r datblygiad yn amharu ar gymeriad gwledig yrardal.

    Wrth ryddhau’r tir dan sylw yng Nghoetmor, mae’r cyngor sir wedimynd yn groes i’w bolisi ei hun. Er mwyn dangos hynny, rydym wediedrych ar y tri maen prawf.

    1. Nifer cymedrol o dai. Ni ellir ar unrhyw gyfrif ddadlau bod codi 49o dai ar y farchnad agored (efo 20 o dai fforddiadwy) yn ddatblygiad“cymedrol”. Pa nifer sydd “gymhedol”? Gan fod y cwestiwn hwn ynfater cymharol yn dibynnu ar y cyd-destun, y cwestiwn i’w ofyn ydi afyddai’r nifer o dai yn operi newid sylweddol? Yn achos codi 69 o daiyng Nghoetmor, mae’r ateb yn amlwg. Byddai. Mae stad o’r maint hwnyn amlwg yn rhy fawr, ac yn sicr o gael effaith ar natur y gymunedleol. Ni ellir cael datblygiad o’r math yma heb achosi newid yngnghymeriad y gymdeithas. Nid cryfhau cymdogaeth Coetmor fyddaicodi stad 69 o dai ond ei newid yn sylweddol. Byddai’n debygol onewid cymeriad ieithyddol a diwylliannol y gymdeithas. Efo 69 o daiyn ychwanegol, byddai cymdogaeth Coetmor, a chymuned DyffrynOgwen, yn sicr o newid yn sylweddol.

    2. Yr angen am dai newydd. Mae’r canllawiau cynllunio a ddyfynniruchod yn nodi’n glir “lle mae angen hynny”, ac eto mae’r cyngor sir yncydnabod nad yw eu polisi cynllunio wedi ei seilio ar arolygonanghenion tai yn y gymuned leol. Mae’r cyngor sir wedi cydnabod nadoes arolwg o anghenion tai wedi ei gynnal yn lleol, ac nad yw’n fwriadyn y dyfodol chwaith. Felly, dopes dim tystiolaeth sy’n dangos bodangen stad 69 o dai yng Nghoetmor.

    Llais Ogwan 3

    3. Gwarchod cymeriad gwledig yr ardal? Tir glas yw’r safle dansylw yng Nghoetmor. Mae’n dir amaethyddol da ar ymylon Bethesda,ac felly mewn rhan o Ddyffryn Ogwen sy’n fwy gwledig ei gymeriad.Byddai codi stad 69 o dai yn cyfrannu i ddifetha cymeriad gwledig yrhan hon o’r dyffryn. (Rydym eisoes wedi pwysleisio mai’r polisicynllunio addas fyddai codi clystyrau bychain o dai, a hynny ar wasgaryn yr ardal, yn unol â’r gofyn lleol, fel eu bod yn plethu i mewn i weady gymdeithas.)

    Gwelir felly na ddylai’r tir dan sylw yng Nghoetmor fod wedi cael eiglustnodi ar gyfer ei ddatblygu. Sut fedr Gwasanaeth Cynllunio CyngorGwynedd argymell cymeradwyo datblygiad sy’n groes i ganllawiaupolisi cynllunio y cyngor ei hun?

    Dim Adroddiad Iaith ar Gael

    I wneud y sefyllfa’r fwy anfoddhaol byth, rydym wedi cael gwybod ganGyngor Gwynedd na chafodd adroddiad asesiad ardrawiad iaith ei luniopan oedd y cyngor yn paratoi Cynllun Datblygu Unedol 2001-2016 acyn ystyried pa diroedd y dylid eu rhyddhau ar gyfer eu datblygu.Roeddem wedi gwneud cais i Uned Polisi Cynllunio y cyngor am gopio’r model a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad ac am gopi o’r adroddiadyn nodi canfyddiadau a chasgliadau’r asesiad. Yr ateb a gawsom gan yrUned oedd nad oedd adroddiad wedi ei lunio. Rydym yn holi ymhellachynghylch y diffyg difrifol hwn. Dyma reswm arall dros wrthod caniatâdcynllunio i’r datblygiad arfaethedig yng Nghoetmor.

    Pwyllgor Diogelu Coetmor

    Yr Ymgyrch i Warchod Coetmor

    Dim Sail Dros Ddatblygu

    Mae’r cyngor sir wedi rhoi gwybod inni eu bod wedi derbyn cannoeddo lythyrau yn gwrthwynebu’r cais cynllunio. Ydych chi wedi anfonllythyr?

    Gallwch anfon llythyr copi caled at Glyn Llewelyn Gruffudd, UwchSwyddog Cynllunio, Swyddfa’r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli,Gwynedd LL53 5AA, neu lythyr e-bost (ar ffurf neges neu atodiad) i:[email protected]

    Dyma batrwm i chi ei ddefnyddio, os dymunwch:

    Annwyl Glyn Llewelyn Gruffudd,

    Cais Cynllunio C13/0412/13/AM (stad 69 o dai ar dir ger MaesCoetmor, Bethesda)

    Dymunaf ddatgan fy ngwrthwynebiad i’r cais cynllunio uchodoherwydd nid yw nifer y tai, sef 69, yn seiliedig ar arolwg lleol oanghenion tai, a byddai’n debygol o wanychu sefyllfa’r Gymraeg ynNyffryn Ogwen. Gofynnaf i Gyngor Gwynedd gomisiynu asesiadardrawiad iaith o’r datblygiad arfaethedig.

    Yn gywir

    FFLAT AR OSOD

    Rhes Ogwen, Bethesda3 ystafell wely

    Am fwy o fanylion:

    Cwmni Adwy Cyf

    01286 685 225 / 01286 685 205 /01286 685 206

    Os ydych yn ymwneud â grŵp cymunedol neuwirfoddol yng Ngwynedd, gallech fod yngymwys am hyd at £2,500 o gyllid tuag athyrwyddo a marchnata canol eich tref leol.

    O gynhyrchu arwyddion a phosteri sy’nhysbysebu digwyddiad, i ddatblygu gwefansy'n hyrwyddo’ch ardal fel lle gwych i ymweldâ hi – gall grwpiau cymunedol wneud cais amhyd at 75% o'u costau.

    Mae Cronfa Marchnata a Hyrwyddo CanolTref Gwynedd ar agor tan 31 Mawrth 2014, a’iphrif nod yw cefnogi mentrau sy'n cynyddunifer yr ymwelwyr a rhoi hwb i economi canolein trefi.

    Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones,aelod Cabinet Gwynedd dros yr Economi aChymunedau:

    Bywiogi Canol Trefi "Mae gan y Cyngor £15,000 fel rhan o'n

    cynllun tair blynedd Bywiogi a Gwella CanolTref. Gall mudiad cymunedol, cyngor tref neugymuned neu grŵp busnes wneud cais am hydat £2,500 i farchnata neu hyrwyddo canol trefi.

    "Rydym yn awyddus i glywed gan bobl syddam wella canol eu tref. Er enghraifft, gallai'rarian fynd tuag at gynllunio ac argraffupamffledi ar gyfer ymwelwyr, gwneudarwyddion a baneri ar gyfer atyniadau lleolneu hyrwyddo cyfres o ddigwyddiadau.

    "Mae arian hefyd ar gael i gynrychiolwyrfynychu sioeau masnach neu ddigwyddiadaueraill sydd yn llwyfan ar gyfer hyrwyddoardaloedd neu weithgareddau penodol."

    Am fwy o wybodaeth, a chopi o'r canllawiauar gyfer cwblhau'r ffurflen gais, cysylltwch âthîm Cist Gymunedol Gwynedd ar 01286679153.

    Mae taliadau yn cael eu dyfarnu ar sail 'y

    cyntaf i'r felin' ac ar gael yn ystod y flwyddynariannol 2013/14 yn unig. Bydd ymgeiswyr yncael gwybod os ydynt wedi bod ynllwyddiannus ai peidio o fewn pythefnos ogyflwyno’u cais.

    Cyll id ar gyfer hyrwyddo cymunedau Gwynedd

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 3

  • Cynhelir Gwasanaethau fel a ganlyn:

    Sul Cyntaf pob mis Cymun Bendigaid – 8.00amGwasanaeth Teuluol – 11.00amAil a thrydydd Sul pob mis - Cymun Bendigaid Cymraeg – 11.00amPedwerydd Sul pob mis - Cymun Bendigaid dwyieithog – 11.00amPumed Sul -Gwasanaeth ar y cyd gyda Mynydd Llandegai a Phentir(Lleoliad i’w gyhoeddi)Pob bore Mercher am 10.30am - Cymun Bendigaid

    Arch Noa - Clwb bach yw hwn ar gyfer plant bach cyn oed ysgol.Mae’n cyfarfod yn Ysgol Abercaseg pob bore Llun am 9.15am.

    Croeso cynnes i bawb i’r gwasanaethau uchod.

    Anfonwn ein cofion at bawb sydd yn dioddef o unrhyw anhwyldergan obeithio y daw adferiad buan i chwi i gyd.

    Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda a Bendithiol i bawb yn y plwyf.

    Eglwys Crist, Glanogwen

    Sefydliad y Merched, Carneddi

    Dyma ni ar ddechrau blwyddyn arall, sef 2014, ac ar yr ail o Ionawrcynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn ar noson stormllyd.Serch hynny roedd y croeso yn gynnes iawn gan ein llywyddnewydd, Margaret Williams. Dymunodd flwyddyn newydd dda i’raelodau i gyd, ond yn anffodus roedd ychydig o ymddiheuriadaugan rai oherwydd gwahanol amgylchiadau.

    Darllenwyd cofnodion mis Rhagfyr gan Jean Hughes ac fe aethMargaret ymlaen i ddarllen y llythyr misol, a thrafodwyd rhai o’rpynciau. Y prif bwnc oedd y ffaith y bydd Sefydliad y Merched yndathlu 100 mlwyddiant y flwyddyn nesaf ac felly bydd llawer oweithgareddau yn cael eu cynnal drwy’r wlad ac yn terfynu yn yrAlbert Hall yn Llundain ar 4 Mehefin 2015.

    Ein gŵr gwadd am y noson oedd Dafydd Morris, brodor o’r ardal,yn athro wedi ymddeol, yn sgotwr a cherddwr o fri, ond ddim yngwneud hyn mor aml yn awr ac yn difyrru ei hun yn barddoni, fel ygwelwn yn win papur bro, Llais Ogwan.

    Straeon am gymeriadau a hanesion digri a rhai ysbrydion oeddganddo heno. Cawsom noson ddifyr iawn yn ei gwmni a diolchwydiddo gan Margaret Williams ac i’r gwestwragedd am y baned.Enillydd y raffl oedd Beti Williams, yn rhodd gan MargaretWilliams.

    Blwyddyn newydd dda i chi i gyd yn y pentref, a phob bendith.

    BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431

    Siop KathyStryd Fawr, Bethesda

    Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592

    Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902

    Llais Ogwan 4

    DyweddïadLlongyfarchiadau i Ffion MaiRoberts a Dewi Lloyd Jones, 2 TanRhiw Tregarth ar eu dyweddïad ar15 Rhagfyr 2013. Pob dymuniad daam ddyfodol hapus a llewyrchus i’rddau ohonoch gan y teulu i gyd.

    DiolchDymuna Carol Thomas, 33Abercaseg, ddiolch i bawb am ycardiau a’r anrhegion ar ei phen-blwydd yn 65 oed.

    Pen-blwyddDathlodd Cara Ashton, Erw Las, eiphen-blwydd yn ddeunaw oed ar 12Rhagfyr 2013. Pob dymuniad da itiCara.

    YsbytyCofion cynnes a gwellhad buan i’rrhai a fu yn yr ysbyty ynddiweddar:-Mrs Parry, Adwy’r Nant;Mrs Sheila Evans, Abercaseg;Mr Thomas Jones, Rhos-y-Coed;Mr John Roberts, Ffordd Pant.

    Priodas RuddemLlongyfarchiadau i Gwyn a RhianRoberts, Rhes Victoria ar achlysurdathlu eu priodas Ruddem ar 28Rhagfyr 2013.

    Babi NewyddLlongyfarchiadau i Mr a Mrs MarcDignam ar enedigaeth merch fach ar19 Rhagfyr 2013. Chwaer fach iJoshua.

    Llongyfarchiadau hefyd i Nain aTaid, Rhes Pen-y-bryn a FforddStesion, sef Mr a Mrs K. Evans aMr a Mrs J. Dignam. Hefyd i’rddwy hen-nain, sef Mrs NancyEvans, Rhes Pen-y-bryn a MrsNancy Williams, Ffordd Stesion.

    MarwolaethAr 13 Rhagfyr 2013, yn sydyn yn eichartref, 15 Plas Popty, Bangor, agynt o 22 Rhes Ogwen, bu farwVanessa Charmaine Williams yn 49oed. Merch annwyl Mr a MrsGareth Williams, Rhes Ogwen achwaer hoffus Nigel a Simon amodryb Amy. Cynhaliwyd eihangladd ddydd Gwener, 20Rhagfyr, gyda gwasanaeth ynEglwys Crist Glanogwen amynwent Coetmor.

    Cydymdeimlwn â chi fel teulu yneich profedigaeth o golli merch achwaer annwyl.

    CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad at MrJohn Williams, Arafa Don, a’rteulu yn eu profedigaeth o golli eichwaer ar ddydd Nadolig, sef MrsBetty Davies, Rachub.

    Gorffwysfan, Stryd FawrAr ddydd Mercher, 15 Rhagfyr,bu’r aelodau ar wibdaith Nadolig iBodnant Bwyd Cymru am goffi amymryn o siop ac wedyn i WestyGlan Aber, Betws y Coed am eincinio Nadolig. Wedi cinio cafwydraffl fawr wedi ei threfnu ganVernon, a diolch i’r aelodau am ygwobrau. Diolchwyd i bawb gan yCadeirydd, Mr Eric Jones.

    CydymdeimloCydymdeimlwn â Mrs MargaretWilliams a’r teulu, Rhos-y-coed yneu profedigaeth o golli nith.Anfonwn ein cydymdeimlad atMrs Glenys Jones a’r teulu,Adwy’r Nant a Mrs Jean O Jonesa’r teulu, Coetmor.

    YsbytyDymunwn wellhad buan i NicolaHughes, Sŵn y Nant a gafoddlawdriniaeth yn YsbytyBroadgreen Lerpwl ym misTachwedd ac yna llawdriniaethbellach ym mis Rhagfyr yn YsbytyBrenhinol Manceinion lle y bu’nrhaid iddi dreulio cyfnod yNadolig. Brysia wella, Nicola, aphob dymuniad da yn y dyfodol.

    DiolchMae Cara Aston, Erw Las yndymuno diolch i deulu, ffrindiau achymdogion am yr holl gardiau acanrhegion a dderbyniodd arachlysur ei phen-blwydd ynddeunaw oed. Dymunwn ninnauyn dda iti hefyd Cara.

    Hoffai Siôn, John a Gwenllïan,Erw Las ddiolch o galon iweithwyr Chwarel Penrhyn am eurhodd ariannol i Siôn. Maent yngwerthfawrogi cefnogaeth ygymuned ar adeg mor anodd.Diolch yn fawr i bawb.

    Clwb Cerdded BethesdaHoffai pawb yn y Clwb Cerddedddiolch o galon i aelodau EglwysMaes y Groes, Talybont, ambaratoi y fath wledd ar ein cyferddydd Mawrth, 7 Ionawr. Diolchhefyd am y croeso cynnes syddi'w gael ganddynt bob mis o'rflwyddyn yn yr Ysgoldy Bach.Rydym yn gwerthfawrogi hyn ynfawr iawn!

    Merched y Wawr, Cangen Bethesda

    Cinio Nadolig Ar yr ail o Ragfyr, cawsom fwyhau ein Cinio Nadolig yng ngwestyRoyal Oak, Betws y Coed, dan drefniant trylwyr Jean a Gwenno.

    Anerchiad y Llywydd ( Y Fns. Elena Owen)Wedi dymuno Nadolig Llawen i bawb, llongyfarchwyd Megan Wynar drothwy pen-blwydd arbennig yn 90 oed. Yna, trosglwyddwydgwybodaeth fod y Pwyllgor Anabl yn casglu ar gyfer yr elusen‘Lloches i Ferched’ ac yn awyddus i dderbyn rhoddion o ddilladmerched a phlant, offer ymolchi, a.y.b. Mae llawer o ferched ynwynebu trais yn eu cartrefi a’r plant hefyd yn dioddef oherwyddhyn.Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad.

    Edrychwn ymlaen at ein cyfarfod mis Ionawr gyda Rhiannon Parryyn trafod ‘Llysiau Llesol Nain’.

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 4

  • Llais Ogwan 5

    Tyred, O, Seren siriol,

    Tyred i arwain dyn

    Eto ar lwybrau’r doethion

    At grud y Sanctaidd Un.

    Gwasanaethau i’w cofio.Ar y 3ydd, cynhaliwyd cyfarfod gweddi dan ofal Jean, gyda Mair,Elna, Megan Wyn a Minnie yn cynorthwyo, i gyfeiliant EileenEvans.

    Ar y 12fed, cynhaliwyd Cymdeithas y Chwiorydd gydag AdloniantNadoligaidd gan Gwenan Gibbard. Nid oedd yn noson gyfyngedig iferched ac fe gawsom gynulleidfa dda o wŷr a merched, a phawbwedi llwyr fwynhau.

    Ar fore’r 15fed, cawsom fwynhau Cyngerdd Nadolig gan blant yrYsgol Sul a’r plant hŷn. Roedd yr holl ymarfer wedi talu ar eiganfed a gwerthfawrogwn waith caled y plant a’r athrawon fu yn euhyfforddi.

    Ar yr 22ain,cafwyd gwledd yn y Gwasanaeth Nadolig Cymunedol,gyda Chôr Ysgol Dyffryn Ogwen a Chôr y Dyffryn a llawer oartistiaid eraill. Fe wnaed casgliad at drychineb y Philipinau o£455.30. Yr oedd yr eglwys eisoes wedi casglu £810, ac felly yngwneud casgliad terfynol o £1265.30. Diolch yn fawr i bawb am euhaelioni ac yn enwedig i’r Br. Griff Morris am ei waith caled gydaChymorth Cristnogol.

    Ar fore’r Nadolig, gweinyddwyd Sacrament gan y Parchedig JohnOwen ar y thema ‘Goleuni’, a’r gwasanaeth i gyd wedi ei drefnu’ngywrain.

    Estynnwn longyfarchion i’r canlynol :-I’r Br. Emlyn Evans ac i’r Fns. Megan Wyn Phillips ar ddathlu pen-blwydd arbennig yn 90 oed.Priododd Darren, mab y Fns. Marion Sullivan yn ddiweddar adymunwn y gorau i’r pâr hapus yn eu cartref yn Llundain.I Angharad ac Elfed ar eu dyweddïad. Mae Angharad yn ferch iOwen John ac Angharad Efans.I Huw Geraint, ŵyr i Myfanwy Jones, Gwernydd, sydd wedidyweddïo.I Muriel Williams, Garneddwen ar ddod yn hen nain am y 3ydd tro.Dymuniadau gorau iddynt i gyd.

    Cydymdeimlwn â Rhiannon Efans a Mair Jones sydd wedi collimodryb ym Manceinion.

    Diolchiadau. I Heulwen ac wyth o’r plant hŷn am eu gwaith ynaddurno’r Capel mor hardd ar gyfer y Nadolig.I Menai a Lowri am gynnal Clwb Nos Fawrth i ofalu am yr ieuancac i Walter a Menai am gludo rhoddion y Banc Bwyd i’r anghenus.Derbyniwyd llythyr o werthfawrogiad gan y Banc Bwyd yngNghaernarfon.

    Adnod y mis. Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nidyw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. Ioan 1.5

    Oedfaon i ddod.19 Ionawr Parchedig Pryderi Ll. Jones.26 Ionawr Br. Dafydd Iwan02 Chwefror Parchedig W.H. Pritchard.09 Chwefror Parchedig D.C. Williams.16 Chwefror Parchedig Trefor Lewis.

    yr Eglwys unedig

    "Llongyfarchiadau i RichardAled Griffith o Ffordd yStesion, Bethesda, ar eilwyddiant yn HyfforddiantCyfnod Un y Fyddin. Pobllwyddiant iddo yngNghyfnod Dau. Cariad mawroddi wrth Mam, Dad AlwenHaf a Heather xxx"

    Llongyfarchiadau CAPEL BETHANIABETHESDA

    Ni chynhelir oedfaon ym MisIonawr a Chwefror.

    Mis Mawrth02 Mr. Glyn Owen.16 Parchg. Gwynfor Williams.

    Oedfaon am 5.30

    Croeso Cynnes iBawb

    EGLWYS UNEDIGBETHESDA

    ‘LLENWI’R CWPAN’

    Dewch am sgwrs a phaned

    Bob bore dydd Iau

    rhwng 10.00 o’r gloch a

    hanner dydd

    Cadw GwenynAnghofiwch y tywydd llwyd agwlyb tu allan. Cofiwchbrynhawn yn yr ardd hafllynedd. Ar bob blodeuyn, arbob perth, mae gwenynen yncario’r neithdar a’r paill i’wchwch gwenyn.

    Gallwch chi gadw’ch gwenyneich hun. Meddyliwch am londsilff o botiau o fêl oren neufelyn wedi cynhyrchu gan eichgwenyn chi.

    Am fanylion pellach ewch iwefan Cymdeithas GwenynwyrCymru (www.wbka.com) llegewch rifau cyswlltcymdeithasau yn eich ardal chi.

    Trosglwyddo £407 i’r Tŷ GobaithDyna a wnaeth Linda, Neuadd Glasgoed, Penisarwaun, dridiau cyn yNadolig y flwyddyn 2013, a hynny ar ran D.N. Roberts ei thad, Martinei brawd, a’r teuluoedd oll i gyd. Bu farw Mair Roberts, yn wreiddiol oGarneddi, Bethesda, ar y dydd olaf o fis Awst y flwyddyn 2013. Yn eichynhebrwng ym Mhenisarwaun casglwyd arian er cof amdani. Eidymuniad oedd gweld yr arian yn cael ei ddefnyddio er budd TŷGobaith lles y plant a phobl ifanc, yn ogystal â’r staff goruchwylio ageir yn y canolfannau. Y mae’r teulu yn diolch o waelod calon i bawb agyfrannodd arian er cof am Mair.

    Gwasanaeth Nadolig Eglwys Unedig Jerusalem, Bethesda.

    GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]

    Blwyddyn Newydd Dda i holl drigolion Glasinfryn, WaenWen a Chaerhun. Cofiwch anfoneich newyddion ata’i yn ystod2014, boed hynny trwy gyfrwng e-bost, neu trwy’r post neu’r ffôn.Dwi’n edrych ymlaen at glywedgennych.

    Bingo NadoligDaeth nifer dda ynghyd i'r BingoNadolig a gynhaliwyd yn yGanolfan yng Nglasinfryn i godiarian at Ysgol Pendalar,Caernarfon ar 6 Rhagfyr. Gwnaedelw o £112. Diolch yn fawr iawn inifer o drigolion yr ardal am eurhoddion tuag at wobrau'r raffl, ac iMary, Myra ac Ann am gynnalTombola. Ni fydd Bingo yn cael eigynnal ym mis Ionawr a Chwefror.

    Clwb Cant y Ganolfan

    Rhagfyr£20 - 94 Carol Roberts, Caerhun£10 - 49 Carol Williams£ 5 - 20 Peter Banham £ 5 - 5 Mair Banham

    Bonws Nadolig - 37 Harry Dunn

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 5

  • Y GerlanAnn a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583

    Capel Carmel, LlanllechidBedyddBedyddiwyd Cian Amos Evans-Hughes Thomas, mab Sioned aKerian Thomas yng Ngharmel gyda'r Parch Tecwyn Roberts yngweinyddu.

    Yr Ysgol Sul

    Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant a'r bobl ifanc a'r themaeleni oedd, 'Goleuni'r Byd - Tywysog Tangnefedd.' Fel arfergwnaeth yr ifanc eu gwaith yn rhagorol a chawsom i gyd fendith ogyd-addoli yn eu cwmni. Rhannwyd y casgliad o £100 rhwng yrYsgol Sul ag apêl Haiti.

    Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig cynhaliwyd parti ar y cyd gydagaelodau Ysgol Sul Bethlehem, Talybont. Diolch i AngharadThomasam ddod i gyfarwyddo'r dawnsio ac i Neville Hughes amgyfeilio gyda'r gitâr i'r canu carolau. Mawr yw'r diolch i athrawon achyfeillion yr ysgol Sul am eu cymorth parod yn paratoi'r bwyd. Ynbwysicaf oll, diolch i Siôn Corn am alw heibio gyda siocled i bob un

    Clwb Dwylo PrysurCymerodd aelodau'r Clwb ranagoriadol yng ngwasanaethNadolig capel Nant y Benglogdrwy ddarllen o'r Beibl a chanucarolau. 'Roedd yn wasanaethhyfryd iawn, a diolch i aelodaua'r gynulleidfa am roi croesocynnes iddynt.

    Wedi cymryd rhan yngngwasanaeth Nadolig Carmelcafodd y bobl ifanc siawns iymlacio, a hynny yngNghanolfan Bowlio Deg,Llandudno ac yna pryd o fwydyn McDonalds cyn cychwynam adre.

    Bore’r NadoligCynhaliwyd gwasanaeth o ddarlleniadau amrywiol a chanu carolauar fore'r ŵyl. Diolch i'r aelodau a'r bobl ifanc am gymryd rhan, acyn arbennig i'r plant, Gwydion, Lucy, Charmaine a Mabon am ganudwy garol mor swynol. Daeth cynulleidfa niferus i'r gwasanaeth arhoddwyd y casgliad o £70 tuag ar Apêl Haiti.

    Llais Ogwan 6

    Rachub a Llanllechid

    Dilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880

    Capel BethelIonawr 19 Parchg Dafydd Job.26 Parchg Huw Pritchard

    Chwefror02: Parchg Eleri Lloyd Jones09: Y Gweinidog16: Mr Islwyn Hughes23: Parch. Dafydd Wyn Williams

    Oedfaon am 2.00 o’r gloch.Croeso cynnes i bawb.

    Carmel, Llanllechid

    Trefn Gwasanaethau

    Ionawr 201419 Parch Dafydd C. Williams 5.0026 Parch Gwynfor Williams 5.00

    Chwefror02 Mrs Mererid M Williams 5.0026 Parch Gwynfor Williams 5.0009 Parch John L. Jones 5.0016 Parch Gwyndaf Jones 5.00

    Ysgol Sul 10.30 y boreDwylo Prysur, Nos Wener 6.30 pm

    Croeso cynnes i bawb

    YsbytyAnfonwn ein cofion a'mdymuniadau gorau i nifer sydd yndioddef o salwch yn yr ardal. AtPearl Evans, Stryd Brittannia acAlice Jones, Tan y Garth sydd wediderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

    DyweddïoLlongyfarchiadau i Siân Wyn Jones,Lôn Groes a Nick Williams oFangor ar eu dyweddïad dros yNadolig. Dymuniadau gorau iddyntoddi wrth Andrew, Laura a Macsen,Nain Gwyneth, Peter, Janice,Freddie a Morgan a'r teulu oll..

    DyweddïoLlongyfarchiadau i Huw GeraintJones, Bron Arfon a Catrin Roberts,Ffrwd Galed, Tregarth ar eudyweddïad dros y Nadolig.

    CydymdeimloAr ddydd Nadolig bu farw un ogymeriadau'r ardal, Mrs Betty WynDavies, 'Rhen Ysgol a hithau'n 83mlwydd oed. Un o Fryntirion oeddMrs Davies yn wreiddiol ond bu'nbyw am gyfnod helaeth ym MaesBleddyn gyda'i diweddar ŵr Dennis.Magwyd iddynt chwech o blant ateilwng dweud fod eu gofal yn fawrdros y teulu. Roedd Mrs Davies ynweithgar gyda chlwb Pêl Droedllwyddiannus Llechid Celts yngwneud panad i'r chwaraewyr arhanner amser. Rhaid dweud ei bodyn gefnogwr brwd i Llechid Celtsyng nghanol chwedegau'r ganrifddiwethaf, tîm a gafodd lwyddiantmawr yn ystod y cyfnod. Nid oeddMrs Davies yn un am gadw'n dawelos teimlai fod y tîm yn cael cam. Nifu ei hiechyd yn rhy dda ersblynyddoedd ac fe symudodd i dai'Rhen Ysgol. Treuliodd gyfnod ynysbyty Gwynedd ym misoedd yrHydref, ac wedi dod adref i 'wchartref teimlodd garedigrwydd agofal mawr y plant a'u teuluoedd igyd drosti. Cynhaliwyd eu hangladdar 2 Ionawr gyda gwasanaeth danofal y Parch Dafydd CoetmorWilliams yng Ngharmel ac yna ymmynwent Coetmor. Anfonwn eincydymdeimlad at David, Gwenda,Alun, Maureen, Mair a Keith a'rteulu i gyd yn eu profedigaeth ogolli mam, nain a hen nain annwyl.

    Clwb Hanes LleolBydd y clwb yn cyfarfod yn FestriCarmel ar Nos Fercher, 29 Ionawr2014. Gobeithir dangos ffilmiau o'rardal a'i chymeriadau yn niwedd yrugeinfed ganrif. Bydd croeso mawri chwi ymuno gyda ni am 7.00 o'rgloch. Noson anffurfiol a gobeithioy gwnaiff y ffilmiau ddeffro’r cof acesgor ar nifer o storïau ag atgofionwedi i chwi weld y ffilmiau.

    Baban Newydd 2014Llongyfarchiadau i GavinPritchard ac Anita Hughes arenedigaeth merch, Dela, a hynnyar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn.

    Carmel, Llanllechid Te Bach

    Pnawn Llun 27 Ionawr Festri Carmel,

    2.30 - 4.00 Croeso Cynnes

    CLWB HANES RACHUB a LLANLLECHID

    Noson o Ffilmiau Lleol 7.00 o'r gloch

    Nos Fercher 29 Ionawryn Festri Capel Carmel

    Ymunwch gyda ni

    Mynediad 50c.

    GenedigaethLlongyfarchiadau mawr i Siân aSteffan, Rallt Isaf, ar enedigaethmab, Jac, a hynny ar ddiwrnod olafy flwyddyn. Dymuniadau gorau ichi fel teulu

    Nain a thaidRydym yn gyrru einllongyfarchiadau i Arfon a MairGriffith, Ffordd Gerlan, ar ddod yndaid a nain unwaith eto, a hynnypan aned Jac, yn fab bach i'wmerch, Siân, a'i phartner, Steffan.

    Pen-blwydd arbennigLlongyfarchiadau mawr i AlunOgwen Thomas, Ffordd Gerlan, arddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed arddydd Calan. Rydym i gyd yn ypentref yn gyrru ein cofion atat,Alun. Mor braf yw dy weld wedigwella yn dilyn salwch, ac ynbrasgamu o gwmpas y pentref eto.

    Hanner cantErbyn i'r Llais ymddangos, byddRichard Roberts, Ffordd Gerlan,wedi dathlu ei ben-blwydd ynhanner cant. Llongyfarchiadaumawr i ti, Dic, gobeithio'n fawr itifwynhau'r dathlu ar yr achlysurarbennig.

    Dymuniadau gorauGobeithio i chi i gyd gael Nadoligllawen, a blwyddyn newydd dda.Rydym wedi cael tywydd garwiawn dros y gwyliau; gobeithio nafu i neb ohonoch ddioddef unrhywlanastr na difrod. Pob hwyl i bobun ohonoch yn 2014

    TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853

    Diolch Pen-blwyddDymuna Ifan Jones, 1 Dolhelyg,ddiolch i bawb a gofiodd amdano arachlysur ei ben-blwydd arbennig ynddiweddar. Diolch o galon!

    GeniLlongyfarchiadau i Sarah a Gareth,10 Bro Emrys, ar enedigaeth eumerch fach, Seren Haf, ar 28Rhagfyr.

    CroesoMae Bill a Sarah Smith, a’u triphlentyn, Chloe, Harry, a Mia,wedi ymgartrefu ym Mro Awel,Dolhelyg.Croeso cynnes i chi i bentrefTalybont. Gobeithio y byddwch ynhapus yn ein plith!

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 6

  • LlandygáiEthel Davies, Pennard,

    Llandygái 353886

    Llais Ogwan 7

    Drwg oedd gennym glywed fod Sheila Owen wedi cael damwain yn eichartref ddechrau’r mis. Treuliodd amser yn Ysbyty Gwynedd cyn caelei symud i Ysbyty Stoke yn Swydd Stafford am lawdriniaeth. Mae hibellach gartref ac yn gwella’n raddol bob dydd.

    Nid yw Pat Morrell, Cap Coch, yn dda ei hiechyd ac yn treulioychydig o wythnosau yng Nghartref Cerrig yr Afon.Gwellhad buan i’r ddwy.

    Ar fore Sul y 1af o Ragfyr cynhaliwyd ein gwasanaeth carolau danarweiniad ein ficer y Parchedig John Matthews gyda Geraint Gill wrthyr organ. Cymerwyd rhan gan aelodau’r Eglwys ac yn dilyn cawsomluniaeth ysgafn wedi ei drefnu gan Phyllis Davies.

    Croeso gartref i Meirion Griffiths a’i deulu o Dde Affrica. Roeddentyn aros gyda mam Meirion, Mrs. Gracie Griffiths, yn “Llwyn yWern”.

    Yr un croeso i deulu Barry a Ivy Lill i Fro Emrys wedi teithio o ‘rAmerica, Rhydychen a Lerpwl. Roedd y ddau deulu wedi mwynhaudathlu’r ŵyl yn ein cwmpeini.

    Eglwys Maes y Groes, Talybont

    Capel Bethlehem

    Ionawr 19 Parch Pryderi Llwyd Jones,

    Cricieth26 : Mr Dafydd Iwan

    Chwefror 02 : Parch W.H. Pritchard09 : I’w gyhoeddi16 : Parch Trefor Lewis23 : Parchg. Cledwyn Williams,

    Bangor.

    Oedfaon am 2.00 oni nodir yn wahanol.Croeso cynnes i bawb.

    Bwrlwm BethlehemDechreuodd y tymor newydd am2.15 bnawn Iau, 9 Ionawr.Croeso i bawb alw am sgwrs aphaned bob bythefnos!

    Ysgol SulNid plant pob Ysgol Sul sydd yncael dau barti Nadolig, onddiolch i Ysgol Sul CarmelLlanllechid am eu gwahoddiadcaredig, mwynhaodd rhai oaelodau Bethlehem eu hail bartiar fore Sul, 22 Rhagfyr. Roeddhyn yn dilyn y parti a gafwydym Methlehem ar ôl iddyntgynnal yr Oedfa Nadolig ar 15Rhagfyr.

    DiolchDymuna Sheila Owen (Redfern,gynt), “Millbank”, Dolhelyg,ddiolch i’w theulu, cymdogion affrindiau oll am eu caredigrwyddtuag ati yn dilyn ei damwain yn eichartref y mis diwethaf. Diolch amyr holl gardiau, blodau acymweliadau wedi iddi ddod adrefo’r ysbyty.

    Rhai o blant Ysgol Sul Bethlehem Talybont yn cael hwyl yn y Parti yng Ngharmel Llanllechid

    SalwchRoeddem yn falch iawn o glywedfod Beryl Hughes, Yr Elan, yncryfhau bob dydd ac yn gallugwneud ychydig o waith tŷ o dro idro. Mae’n edrych ymlaen at ygwanwyn a’r haf iddi gael mynd iarddio.

    Mae Jim Hughes, ei gŵr, wedidychwelyd o Ysbyty Royal,Manceinion ar ôl cael rheolyddcalon newydd ddiwedd misTachwedd. Mae yntau’n dodymlaen yn dda hefyd. Yr un ywhanes Dr Pam Jones; mae hithaugartref ar ôl ei llawdriniaeth a’rboen wedi lliniaru tipyn.Anfonwn ein cofion anwylaf atbawb sydd yn wael: Ernie a NerysColeman, Olwen Latham, CassieTindall, Beryl Williams a DorothyProudly Williams. Dymunwnadferiad buan i bawb a BlwyddynNewydd Well!

    DiolchMae plwyfolion Talybont a fu yn y

    Parti Nadolig Pobl Hŷn ar 3Rhagfyr yn Neuadd Talgai yndiolch yn fawr am y wledd a’rcroeso a gawsant y prynhawnhwnnw. Roedd pawb wedimwynhau eu hunain ac ynddiolchgar iawn, yn arbennig iMrs Myfanwy Jones, pwyllgor yneuadd a phawb arall a fu’ngweithio’n galed i wneud y partiyn gymaint o lwyddiant. Bu unwraig garedig o Dalybont ynsiarad ar y ffôn (ar ran ei ffrindiau)ond roedd yn well ganddo fod ynddienw. Diolch iddi.

    Blwch Post NewyddDiolch o galon i bawb a fu’ngymorth i ni gael blwch postnewydd yn Llandygái. Bu’n rhaidi’r Swyddfa Bost gau’r hen un ganei fod yn rhy beryglus i’wddefnyddio. Roedd wedi cancro ytu mewn - a hynny cyn y Nadolig.Aeth llawer un ar y ffôn i gwyno abu’r Parchedig Aelwyn Roberts ynsiarad â’r wasg, a buan iawn ycafwyd blwch newydd. Diolch ynfawr i’r Swyddfa Bost. Clywaissôn y bydd y blwch yn cael cot obaent hefyd.

    Pen-blwyddGobeithio fod Erin Jones (4Llandygái gynt) wedi cael pen-blwydd wrth ei bodd ar Ionawr y

    cyntaf. Hawdd iawn yw cofio dyoed Erin, gan iti gael dy eni yn yflwyddyn 2000 a bu dy lun di a’rteulu yn y papur. Llwyddiantmawr i ti yn y dyfodol hefyd.

    Eglwys Sant Tegai

    GwaeleddBalch iawn ydym o weld MrsSue Matthews wedi gwella ar ôlei llawdriniaeth yn YsbytyGwynedd yn ddiweddar.Cymerwch ofal Sue.

    Anfonwn ein cofion anwylaf atMrs Jane Couch, Mr GwynneEdwards a Mr Harry Gross –gwellhad buan i chwithauhefyd.

    Pen-blwydd ArbennigRoedd Mrs Betty Marshall yncael ei phen-blwydd arbennig ar9 Rhagfyr a bu mor ffodus âchael Dau barti. Daeth Sarah aRichard, Robert a Sally, hebanghofio Katie a Thomas iddathlu gyda hi yn gyntaf.Roedd wrth ei bodd cael gweldy teulu i gyd gyda’i gilydd.Wythnos yn ddiweddarachcafodd barti yn nhŷ Hefina gydarhai o’i ffrindiau, a phawb wedi

    cael amser gwych. Diolch ogalon i chi Hefina. Bydd KatieMarshall, wyres i Betty, yn caelei phen-blwydd arbennig ar 29Ionawr pan fydd yn ddeunawoed. Pen-blwydd hapus Katie, allwyddiant mawr yn y dyfodol.

    Pen-blwyddBydd Hannah Louise yn dairoed cyn i Lais Ogwan ddodallan cyn diwedd Ionawr. Byddyn dathlu ar Ionawr yr wythfed.Gobeithio y cei di ddiwrnodhapus Hannah, ac y bydd ynalond trol o gardiau ac anrhegioniti. Pen-blwydd hapus i GethinJones, ŵyr i Hefin a Brenda, yBryn (gynt), a fydd yn cael eiben-blwydd yntau ar 8 Ionawryn bedair oed. Mae Gethin ynbyw yn Llundain lle mae Dylanei dad, a Sue ei fam, yn yrheddlu. Bydd Hefin a Brenda ynderbyn Llais Ogwan bob mis acyn falch iawn o ddarllen yr hollnewyddion.

    Gwasanaeth Naw Llith aCharolauYn Eglwys Sant Tegai ar nosSul, 22 Rhagfyr cynhaliwydgwasanaeth o Naw Llith aCharolau. Arweiniwyd yGwasanaeth gan y ParchedigJohn Matthews gyda Mr GeraintGill wrth yr organ. Roeddaelodau o’r tair eglwys yncymryd rhan ac yn cydweithio’nrhagorol. Ar ddiwedd y nosondaeth pawb ynghyd yn NeuaddTalgai i flasu gwin mwl Hefina,gyda mins peis, bisgedi atheisennau. Diolch i Nerys aHefina am drefnu popeth ac i’rmerched am helpu.

    Gwasanaeth UndebolCynhaliwyd gwasanaethundebol o’r Foreol Weddi ynEglwys Sant Tegai fore Sul, 29Rhagfyr. Roedd yn wir ddrwggennym glywed fod Mr KeithJones, a oedd i fod i gymryd ygwasanaeth, wedi cael ei daro’nwael a’i fod yn yr ysbyty.Gwellhad buan iddo ac i famLinda hefyd. Daeth AnnWilliams ac Edmond i’r adwy achawson wasanaeth clodwiw.Diolch i Geraint yr organydd,Rhian, Nerys, Catrin, Brenda,Brian a phawb arall am gymrydrhan hefyd. Roedd croeso yn yneuadd wedyn gan Nerys a’rtîm a chawsom goffi, te a minspeis. Diolch yn fawr i chwi igyd a Blwyddyn Newydd Dda.

    Pwy yw hwn?

    Cliw yng ngholofn Rhiwlas ar dudalen 9.

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 7

  • John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835

    Rhiwlas

    Llais Ogwan 8

    TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062

    Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192

    Cyfarchion dechrau BlwyddynBlwyddyn Newydd Dda i hollddarllenwyr Llais Ogwan gandrigolion Tregarth a’r cyffiniau.Gobeithio y byddwch yn caelBlwyddyn llawn iechyd abodlonrwydd a chofiwch adael i niwybod am unrhyw newydd yrhoffech ei roi yn Llais Ogwan. Eichpapur chi ydi o a heb gael y straeonni allwn eu trosglwyddo i’r Llais !

    ProfedigaethAr 9 Rhagfyr, yn sydyn yn eigartref, Chwarel Goch Isaf,Tregarth, bu farw Gwyn Williams,neu Gwyn Bangor o roi iddo ei enwar lafar ac fel aelod o Orsedd yBeirdd, ac yntau’n 88 mlwydd oed.Roedd yn hannu o ardal Glanadda,Bangor, a bu’n gweithio ym maesIeuenctid gyda’r Urdd a’rFfermwyr Ifanc cyn iddo ymunoâ’r BBC ym Mangor lle y treulioddy rhan helaeth o’i flynyddoeddgwaith yn trefnu a chynhyrchurhaglenni megis Talwrn y Beirdd,Sêr y Siroedd, Byd Natur a llawermwy. Roeddynt i gyd yn rhaglennipoblogaidd a safonol iawn ac roeddGwyn yn credu’n gryf y dylidmynd allan at y bobol i gynhyrchurhaglenni radio. Roedd yn gredwrcryf mai ‘Y bobol bia’r cyfrwng’cyn i’r slogan hwnnw fodoli !!

    Gweithiodd Gwyn yn gydwybodoliawn yn y gymdeithas yma ynNhregarth a Mynydd Llandygai arhyd y blynyddoedd. Pan aed ati yn1975 i sefydlu Ysgol Feithrin dan yMudiad Meithrin yma yn Nhregarthpwy well i fod yn Llywydd naGwyn. Bu’n aelod o BwyllgorCanolfan Tregarth o’r cychwyncynta’ ac ar Gyngor CymunedLlandygai lle'r oedd parch mawriddo. Bu ganddo gysylltiad agos agYsgol Bodfeurig lle bu’nLlywodraethwr ac yn flaenor yn eigapel, sef Capel y PresbyteriaidPenygroes, Tregarth.

    Bydd bwlch mawr ar ei ôl ar yraelwyd yn Chwarel Goch lle'r oeddmor gartrefol ymysg ei deulu, yranifeiliaid a byd natur ar ei orau.

    Cydymdeimlwn gyda Janet eibriod, yr hogiau Rhys Penrhyn aRheinallt a’i briod Julie ymMerthyr. Cofiwn yn arbennig hefydam ei chwaer Falmai (Bryn Cul)sydd mewn cartref gofal ymMangor ers rhai blynyddoedd a’rholl deulu yn eu galar. Cynhaliwydei angladd yng Nghapel Amana(Eglwys St. Ann a St. Mair)Mynydd Llandygái ar 17 Rhagfyr

    gyda’r gwasanaeth yng ngofal eigyfaill y Parchedig Huw JohnHughes, Porthaethwy, ac yna yn yrAmlosgfa ym Mangor.

    Merched y Wawr, Cangen Tregarth

    Bydd y Gangen yn cyfarfod ynFestri Capel Shiloh, Nos Lun, 6Ionawr pan ddaw Huw Davies,Tŷ Dŵr, Gerlan, i sgwrsio am eiwaith yn Antur Waunfawr ahynny am 7.30.

    Cofiwch hefyd am y wledd syddyn ein haros Nos Lun 3 Chwefroram 7.45 o wrando ar yr awduresAngharad Tomos, Penygroes, ynsiarad ar y testun ‘Crwydro’.Mae’r noson hon yn agored i’rbyd a’r betws ac yn cael ei noddigan Lenyddiaeth Cymru . Dewchyn llu.

    Ar 3 Mawrth bydd y gangen ynmwynhau Noson Gŵyl Ddewi yny Tŷ Golchi, Bangor gyda swperac adloniant gan Stephen Rees a’ifand.

    Am fwy o fanylion cysylltwchgydag Anwen Griffiths 601262neu Gwenda Davies 601062.

    Capel Shiloh

    Ysgol SUL AM 10.30OEDFA’R HWYR AM 5.00

    12 Ionawr Parchedig Idris Thomas, Dinorwig19 Ionawr Parchedig W.R. Williams, Y Felinheli26 Ionawr Parchedig Dafydd Coetmor Williams, Llanllechid02 Chwefror Parchedig Gwynfor Williams.09 Chwefror Diacon Stephen Roe, Porthaethwy16 Chwefror Parchedig Dafydd Hughes, Caernarfon23 Chwefror Trefniant Lleol

    Damwain i un o aelodau’r Ysgol SulCafodd Gwenlli Sanderson ddamwain ychydig ddyddiau cyn i’rysgol gau am wyliau’r Nadolig. Daliodd ei bys yn y drws a bu’nrhaid ei chludo i Ysbyty Gwynedd ac yna i Ysbyty Alder Hay ynLerpwl i gael llawdriniaeth i’r bys. Bu’n hynod o ddewr ac ymhen yrwythnos roedd wedi gwella’n ddigon da i gymryd rhan Gabriel ynnrama'r Nadolig gyda’r Ysgol Sul. Da iawn chdi Gwenlli. Rwyt i dyganmol am dy ddewrder.

    Cynhaliwyd dau wasanaeth yng Nghapel Shiloh i ddathlu Gŵyly Nadolig.Pnawn Sul, 22 Rhagfyr cafwyd gwasanaeth hyfryd dan ofal plant aphobl ifanc yr Ysgol Sul. Unwaith eto eleni cawsom gyfle i weld achlywed yr hen, hen stori yn cael ei chyflwyno gan y plant oedcynradd, gyda’r bobl ifanc a rhai o’r rhieni hefyd yn cynorthwyo.Cerys a Morus oedd yn cymryd rhan Mair a Joseff. Yr angylion oeddGwenlli, Nel, Hannah, Gwenno, Ela, Elliw ac Elysteg. Roedd daufugail bach yn gwneud eu gwaith yn rhagorol, sef, Iestyn a Tomos.Caleb, Shwnamis a Beca oedd y tri brenin o’r dwyrain ac yncyflwyno o Ddinas Bethlehem roedd Myfi.Diolch o galon i’r bobl ifanc am eu gwaith hynod o ganmoladwydrwy ychwanegu darlleniadau, unawdau a chyflwyniadau offerynnoli’r gwasanaeth. Y darllenwyr oedd Osian, Ifan, Tomos, Huw aJoshua.

    Cafwyd unawd gan Aziliz, deuawd ar y soddgrwth gan Elin aGwenno ac unawd ar y sacsoffon gan Tomos.

    Gwasanaeth oedd wrth fodd pawb oedd yn bresennol. I ddilyn,mwynhawyd Te Parti i bawb a daeth Siôn Corn i ddiweddu’r noson irannu anrhegion i’r plant a’r ieuenctid.

    Cynhaliwyd gwasanaeth Noswyl y Nadolig yn Shiloh yng ngofal yParchedig Gwynfor Williams a’r Parchedig John Matthews arhannwyd y sacrament o Swper yr Arglwydd yn ystod y gwasanaeth.

    CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad llwyraf at Mrs Valmai Evans, Bryn Culgynt, a nawr o Gartref Ceris, Bangor a’r plant Robin ac Ann Catrinyn eu profedigaeth o golli brawd ac ewythr, sef Gwyn Williams,Chwarel Goch Isaf, Tregarth

    GenedigaethLlongyfarchiadau i Bleddyn Williams a'i bartner Angharad arachlysur genedigaeth eu mab Osian Emlyn ar 21 Rhagfyr. MaeBleddyn yn fab i Angharad a Gerallt Williams, Ffordd Tanrhiw,Tregarth.

    GeniYn Llydaw, bythefnos cyn yNadolig, ganwyd merch i LleuwenSteffan a’i phriod Lan Tang. Ynaddas iawn o gofio amser yflwyddyn, fe’i henwyd hi yn Eira,chwaer dderbyniol iawn iCaradog. Dymunwn iddynt iechyda hapusrwydd fel teulu.

    Diolch Dymuna Eric Jones, 20 BroRhiwen ddiolch am yr hollalwadau ffôn a dderbyniodd ar ôltreulio cyfnod yn yr ysbyty.Diolch arbennig i Iona am eichymwynasgarwch

    Clwb 100 CanolfanTregarth

    Mis Rhagfyr

    58 Enid Roberts £1556 Peter Roberts £1518 Carys Williams £1012 Sulwen Jones £5

    Llogi Canolfan Tregarth

    Os ydych eisiau cynnalgweithgaredd yn y ganolfan,

    yna cysylltwch â

    Peter Roberts 602123, Angharad Williams 601544

    neu Rhys Llwyd 601606

    Gwasanaeth Nadolig Plant Capel Shiloh, Tregarth.

    Dathlu’r Nadolig

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 8

  • Llais Ogwan 9

    Dymuno GwellhadAnfonwn ein cofion a’ndymuniadau gorau at MaiWilliams, 16 Bro Rhiwen sydd ynYsbyty Gwynedd ar hyn o bryd (1Ionawr) ac wedi bod yno ers pethamser. Ein gobaith yw y cawn eigweld gartref yn fuan.

    Ar ôl treulio pythefnos yn yrysbyty, da yw clywed bod EricJones, 20 Bro Rhiwen, adref erbynhyn. Anfonwn ein cofion a’ndymuniadau gorau at Eric yntau.

    Hogyn o RiwlasMae’n bleser bob amser clywedam lwyddiant un o blant y pentref.Er iddo symud gyda’i deulu iGaernarfon pan oedd oddeutudeunaw oed, parhawn i gyfrif yractor Owain Arthur yn un ohonomni. Yma y cafodd ei fagu ac ynRhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogweny derbyniodd ei addysg.

    Fel un o Riwlas y mae papur yDaily Post yn ei gyfrif hefyd. Yroedd tudalen gyfan yn olrhain eihanes fel actor ar dudalen 6 ypapur ar 30 Rhagfyr. Yr hyn adynnai sylw oedd y pennawdmewn llythrennau breision “WestEnd Star has his sights set onAmerica! The RHIWLASactor....” Diolch Owain am roddi’rpentref ar y map.

    Holi am Hanes TafarnWedi darllen y cyfeiriad at dafarny Coach and Horses yn rhifynRhagfyr y Llais, bu nifer yn holiam ei lleoliad yn y pentref.Roedd y dafarn ar y gornel ynunion gyferbyn â giât yr Eglwys achyn troi i’r lôn gefn i gyfeiriadCefn Braich. Y mae’r ddau adeilady cyfeirir atynt yn dai erbyn hyn -yr eglwys a’r dafarn.

    YmddeolMae Dafydd a Carol Davies,Caeau Gleision, wedi ymddeol o’ugwaith. Dafydd o AmgueddfaLechi Llanberis lle bu ers llawerblwyddyn yn arddangos crefft ychwarelwr o hollti llechen las igreu llechi i’w rhoi ar wahanoladeiladau. Rhoddodd hyn ddysg adifyrrwch i lawer un a fu’n eiwylio, yn ymwelwyr ac yn blant oysgolion y cylch ac o ardaloeddehangach. Treuliodd Carolflynyddoedd fel nyrs yn YsbytyGwynedd, yn y theatrau ynbennaf. Yn aml, hi fyddai’r wynebolaf y byddai’r claf yn ei weld cyncael ei roi mewn trwmgwsg.Dymunwn ymddeoliad hir a hapusi’r ddau.

    Cais am NewyddionGan nad wyf yn crwydro’r pentrefmor aml ag yr oeddwn yn ycyfnod pan oeddwn yndosbarthu’r Llais ni chaf wybodcymaint am hynt a helynt pobl.Buaswn yn ddiolchgar felly osrhoddwch wybod imi am unrhywddigwyddiad lleol. Mae’r dyddiady mae’n rhaid i mi anfonnewyddion Rhiwlas at y golygyddi’w weld ar ail dudalen y papur.Hoffwn i dderbyn y newyddion oleiaf dridiau cyn hynny.

    Mynydd

    LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744

    Gwasanaethau

    Ionawr19: 9.45 Cymun Bendigaid26: 9.45 Boreol Weddi

    Chwefror 02: 9.45 Gwasanaeth Teuluol09: 9.45 Cymun Bendigaid (S)16: 9.45 Cymun Bendigaid23: 9.45 Boreol Weddi

    Braf oedd gweld cynifer o boblyng ngwasanaeth Noswyl yNadolig; diolch i bawb a'ncefnogodd yn ystod y flwyddyn2013, a dymunwn FlwyddynNewydd Dda i chwi oll.

    Ein dymuniadau gorau i bawbsy'n sâl ar hyn o bryd, anfonwnein cofion cywiraf atoch i gyd.

    Os oes unrhyw un yn dymunoderbyn Cymun yn eu cartrefcysylltwch â'r Deon Gwlad, yParchedig John Matthew(364991) neu un o'rgwardeiniaid - Peter Price (601199) neu Jane Williams (600434).

    Eglwys y Santes Ann

    a’r Santes Fair

    CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad atMrs Janet Williams, Rheinallt aJulie a Rhys, Chwarel Goch Isafyn eu profedigaeth o golli MrGwyn Williams, gŵr a thadannwyl iawn. Bydd colled fawr arei ôl. Cafwyd gwasanaeth yngNghapel Amana gyda’r ParchedigHugh John Hughes ac yna ynAmlosgfa Bangor.Rydym yn meddwl amdanoch felteulu.

    DiolchDymuna Iola a Steff ddiolch ibawb am anrhegion at y BingoNadolig. Cafodd y ClwbIeuenctid barti a galwad gan SiônCorn gydag anrheg i’r plant.Maent yn ddiolchgar i chi yn ypentref. Diolch i Bwyllgor yNeuadd am eu caredigrwydd ynanfon bocs o fisgedi i’r henoed yny pentref. Maent yn cofio am yrhenoed bob blwyddyn. Diolch ogalon i chi.

    Bydd y gweithgareddau’nailddechrau ym mis Chwefror abydd eich rhaglen yn ycylchlythyr a anfonir atoch.Diolch i Mr a Mrs Richard am eugwaith caled ar hyd y flwyddyn.

    FY NAIN A'I BRODYR A'I CHWIORYDD(Rhan 2)

    Bachgen o'r enw Lewys Jones Williams ddaeth ar ôl fy nain. Fe'i ganedym Mhenrhos, Pwllheli ar y deunawfed o Fehefin 1889. Roedd ynfachgen galluog ac fe dderbyniodd ei addysg gynradd yn YsgolGenedlaethol Pwllheli ond yn 1902 pasiodd ei arholiad fynediad i YsgolSir Pwllheli lle bu'n ddisgybl am bum mlynedd gan basio yn eiarholiadau derbyn i’r Brifysgol gyda rhagoriaeth yn Saesneg, Cymraeg,Hanes Cymru ac Arlunio. Yn wir, fe enillodd wobr am arlunio ynEisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1906 yn ogystal ag mewn mâneisteddfodau eraill tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir Pwllheli. Roedd Lewys yndipyn o lyfrbryf hefyd - yn union fel ei chwaer, Maggie Jones Williams.

    Aeth Lewys i Brifysgol Bangor rhwng 1909 a 1912 lle bu'n dilyn cwrsgradd B.A. tra'n ceisio ennill Tystysgrif Bwrdd Addysg y cyfnod ar yr unpryd i'w gymhwyso ar gyfer bod yn athro. Tra'n y Brifysgol bu'n dilyncwrs mewn Lladin ac Athroniaeth am un flwyddyn ac Almaeneg amddwy flynedd. Roedd Lewys yn ŵr egnïol oherwydd roedd yn aelod oBwyllgor Cynrychioli Myfyrwyr yn y Brifysgol yn ogystal â bod yngapten Clwb Rhwyfo'r sefydliad. Roedd hefyd yn aelod o gangen CorffHyfforddi Swyddogion y Brifysgol a chyn iddo adael y coleg roedd wediennill Tystysgrif "A" y Swyddfa Ryfel.

    Ym mis Hydref 1912, fe ddechreuodd Lewys Jones Williams ar eiddyletswyddau fel dirprwy brifathro yn Ysgol Eglwys Loegr, Tregarth, aoedd ar y pryd dan brifathrawiaeth y diweddar William Brock. Roeddcant a phump deg tri o blant yn mynychu gwersi yn yr ysgol y flwyddynhonno a deuai pump ohonynt o blwyf Llanllechid. Roedd o’n un da amgadw trefn ar ei ddisgyblion yn yr ysgol a’r pryd hwnnw roedd yn lletyayn Gorffwysfa, Ffordd Tanrhiw, Tregarth nepell o gartref William Brocky prifathro yn Sunnyside ar bwys hen orsaf Tregarth .

    Roedd Lewys yn egin-fardd o fri. Gallai gynganeddu'n rhwydd a'i gyfaillpennaf oedd David Ellis o Fferm Penyfed, Llangwm. Bydd y cyfarwyddyn gwybod mai ef oedd gwrthrych y nofelig Ffarwel Weledig ganCynan. Byddai Lewys a David Ellis a aeth ar goll yn y Rhyfel Mawr, yngohebu'n gynganeddol gyda'i gilydd o dro i dro.

    Gan fod tân gwladgarwch yn llosgi ym mynwes Lewys Jones Williams,fe wnaeth ymgais aflwyddiannus ddwywaith neu dair i ymrestru felmilwr cyn cael ei dderbyn yn aelod o fyddin yr Arglwydd Kitchener ynWrecsam ym mis Medi 1914. Roedd wedi bod yn ddirprwy brifathro ynYsgol Eglwys Loegr, Tregarth, am ddwy flynedd ond yn anffodus fe’illaddwyd ar faes y gad yn Ffrainc dridiau cyn y Nadolig 1915 ac fegafodd ei gladdu gan ei gyfeillion mewn mynwent eglwysig y diwrnodcanlynol.

    Rywdro wedi i'r Rhyfel Mawr ddod i ben, fe gafodd ei gorff ei ail gladduyng nghanol Mynwent Filwrol Lijssenthoek lle y gorwedd o hyd. Hiyw'r fynwent filwrol fwyaf ond un yng Ngwlad Belg. Mae ei enw wediei naddu ar y goflech a osodwyd ar yr ochr dde i lidiardau dur MynwentEglwys Y Gelli, Tregarth, i goffáu lladdedigion y ddau Ryfel Byd. Maewedi'i goffáu hefyd mewn llythrennau codi ar blac efydd yng nghynteddNeuadd Pritchard Jones, ym Mhrifysgol Bangor.

    Dyma sut y coffawyd Lewys Jones Williams gan y diweddar farddRobert Williams Parry a'i hadwaenai:

    Lewis annwyl sy a'i wyneb - heb ddim gwên,Heb ddim gair i'm hateb;Diffrwyth enaid ffraethinebRoed i oer lawr daear wleb

    Bachgen o'r enw David Larsing Williams oedd brawd ieuengaf MaggieJones Williams, fy nain. Ef a ddilynodd Lewys Jones Williams ynnhrefn dyddiadau geni’r teulu. Roedd ef dair blynedd yn iau na Lewys,ei frawd. Athro ydoedd wrth ei alwedigaeth ond bu hefyd yn filwr.Ymunodd â'r fyddin ym mis Awst 1914 ond,ymhen fawr o dro wedi iddogael ei ddanfon i Gallipoli gyda Byddin Ymgyrchol Môr y Canoldir, feddechreuodd gwyno fod ganddo waed a mwcws yn ei stôl a chafwyd eifod yn dioddef o'r cryd yn ogystal â dysentri a bu'r bib arno am amsermaith. Gan fod yr awdurdodau milwrol yn brawychu wrth ei weld ynbwrw bloneg yn gyson o ganlyniad i'w waeledd, fe'i danfonwyd yn ôl i'rDeyrnas Unedig ym mis Tachwedd 1915 am driniaeth ond gorfu iddyntei ryddhau o'r fyddin oherwydd gwaeledd ym mis Rhagfyr 1916.

    Bu David Larsing Williams yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon yngNgholeg Normal, Bangor o fis Medi 1916 tan fis Mawrth 1917. Ail-ymunodd â'r Fyddin ym mis Gorffennaf 1917 ond fe gafodd eirhyddhau'n derfynol o'r Fyddin ym mis Chwefror 1919.

    Roedd yn ôl ar y cwrs hyfforddi athrawon yng Ngholeg Normal, Bangor,o fis Ebrill 1919 tan fis Gorffennaf 1920. Wedi hynny bu'n dysgu mewnysgol yn Nantwich am dair blynedd ac yn Runcorn am bedair blynedd arddeg arall. Wn i ddim pa bryd y bu farw David Larsing Williams ondgwn mai gŵr di-briod ydoedd a'i fod wedi cael ei gladdu ym MynwentPenrhos yn yr un bedd â Maggie Jones Williams a'i gŵr a dau arall.

    Eunice Augusta Williams oedd chwaer ieuengaf fy nain. Fe'i ganed hi yn1897 ac athrawes ydoedd hithau wrth ei galwedigaeth. Erbyn y 1980aucynnar roedd hi wedi symud i Sussex i fyw gyda'i hepil.

    Dafydd Llewelun gynt o Dregarth

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 9

  • Llais Ogwan 10

    Pwy Sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes

    Dyddiadur Digwyddiadau 1865-1866

    1865• Dros ugain o gymdeithasau adeiladu ymMethesda, a hefyd ‘a Savings Bank,Insurance Schemes, five different FriendlySocieties and the Caellwyngrydd LendingSociety’.• 09/05/1865: Allan o 26 o dafarnwyr, dimond tri a wrthododd lofnodi deiseb i gau’rtafarnau ar y Sul.• 06/1865: Chwarelwyr y Penrhyn yn streicioond yn dychwelyd ar ôl 14 diwrnod.• 09/1865: Sefydlu Undeb Chwarelwyr yPenrhyn a 1800 o ddynion yn ymuno.• 03/09/1865: Pregethu am y tro olaf yn henEglwys St. Ann (a gladdwyd dan domennyddChwarel y Penrhyn yn fuan wedyn). YParchedig Morris Hughes a weinyddai ac efhefyd oedd wedi traddodi’r bregeth gyntaf ynyr hen eglwys.

    • 05/09/1865: Agor Eglwys newydd St. Annym Mryneglwys. Costiodd £4000 i’whadeiladu.• 08/1865: W. J. Parry a dirprwyaeth o’rchwarelwyr yn cyfarfod Edward GordonDouglas Pennant. Yntau’n gorchymyn W. J.Parry i gyflwyno George Sholto, ei fab, i’rgweithwyr, ac yn ychwanegu: ‘Tell them tobeware not to offend George, for if they do hewill never forgive; he can never forgive … It isso, George, is it not?’ Atebodd George Sholto:‘Let them try, and they will see’.• 12/1865: Dileu Undeb Chwarelwyr yPenrhyn ar ôl bygythiad gan y Cyrnol Pennant.

    1866• ‘Y mae hen balas Coetmor yn awr ynadfeiliedig, heb do, heb ffenestri, ac y maepeth ohono wedi syrthio …’.• George Sholto Douglas Pennant yn cymrydlle ei dad fel Aelod Seneddol i gynrychioli SirGaernarfon.• W. J. Parry ac eraill yn sefydlu CyfarfodyddLlenyddol Eglwysi Bethesda, Treflys a Saron(a Salem yn 1871). Mewn grym tan 1879.• W. J. Parry yn sefydlu Llyfrgell YsgolSabothol Bethesda, ‘un o’r rhai cyntaf, os nady gyntaf, o lyfrgelloedd a sefydlwyd ynglŷn agYsgol Sul yng Ngogledd Cymru’.• Dydd Gŵyl Ddewi: EisteddfodCymreigyddion Bethesda. • 02/04/1866: Agor Capel Treflys (A), ar dir aroddwyd yn rhodd gan David Roberts(Alawydd). Costiodd £930 i’w godi. Tynnwydi lawr yn 1974.• 23/06/1866: Agor Capel y Tabernacl (B) arAllt Pen-y-bryn, gyda 120 o aelodau ar dir aroddwyd yn rhodd gan Humphrey Ellis, Tai’rMeibion, perchennog Stad y Cefnfaes. • 03/08/1865: Edward Gordon DouglasPennant yn cael ei urddo’n ‘Baron Penrhyn ofLlandegai’.

    • Cyhoeddi Hynafiaethau Llandegai aLlanllechid, Hugh Derfel Hughes, 160tt.,Swyddfa ‘Yr Ardd’, Bethesda. Argraffwyd600 o gopïau. • Dim llai na 3000 o gyhoeddiadau’n dod ynfisol i blwyfi Llanllechid a Llandegai (ahynny’n ychwanegol at y degau oEsboniadau, Geiriaduron, y Gwyddoniadur,etc. a werthid yn y Dyffryn).

    Dyma’r rhai Cymraeg:Yn chwarterol: Y Traethodydd; Y Beirniad;Yn fisol: Y Drysorfa; Trysorfa’r Plant; Y Dysgedydd; Y Cronicl; Yr Ardd; Yr Eglwysydd; Yr Eurgrawn; Y Winllan; Y Greal; Yr Haul; Y Gwyliedydd; Y CyfaillEglwysig;Yn wythnosol: Baner ac Amserau Cymru; Yr Herald Cymraeg; Cronicl Cymru; Y BydCymreig.

    Dyma’r rhai Saesneg:Yn wythnosol: Sunday School Times; GoodWords; London Journal; Children’s Friend;Caernarvon and Denbigh Herald; NorthWales Chronicle; Liverpool Mercury; Newsof the World; Lloyd’s Weekly; Reynold’sIllustrated London News; Weekly Times;Public Opinion; Saturday Review; PennyIllustrated Paper; British Workman; Cassell’sIllustrated Paper;Yn ddyddiol: Times; Daily News; Standard;Morning Star; Liverpool Mercury.

    • 10/1866: W. J. Parry yn sefydlu DosbarthBeiblaidd yn ei gartref.

    I’w barhau

    Plaid Lafur

    Dyffryn Ogwen

    Ar ddiwedd mis Tachwedd aeth nifer o’r aelodau i weld y ffilm “Ysbryd1945” a ddangoswyd yn y Galeri, Caernarfon. Noddwyd y Noson ganUndeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) a da oedd gweld cymaint ooedolion ifanc yn bresennol.

    Ar ddechrau mis Rhagfyr cynhaliwyd Ffair Nadolig flynyddol y gangen,gan wneud elw sylweddol i goffrau’r gangen. Am y tro cyntaf,cynhaliwyd yr achlysur yng Nghaffi Coed y Brenin am fod NeuaddOgwen wedi cau dros dro. Hoffai’r gangen ddiolch i Karen a’i staff am ygymwynas ac i Bronwen Jones am helpu bob mis.

    Tua chanol y mis aeth nifer o aelodau’r gangen i gyfarfod o Blaid LafurArfon ym Methel i drafod y ddogfen bolisi am y berthynas rhwng y BlaidLafur a’r undebau ac am y cynnig i ddefnyddio etholiadau rhagarweiniol(fel a geir yn Unol Daleithiau America) mewn rhai etholiadau cyhoeddus.Etholwyd Louise Prendergast (Isgadeirydd yr etholaeth) o FynyddLlandygái i gynrychioli Arfon mewn cynhadledd arbennig yn Lloegr idrafod barn yr aelodau a’r undebau. Cyflwynwyd potel o Champagne iOwein Prendergast (ei gŵr) am recriwtio’r nifer mwyaf o aelodaunewydd yn Arfon eleni.

    Am fod pum nos Fercher ym mis Ionawr, atgoffir yr aelodau bodcyfarfodydd misol y gangen yn cael eu cynnal ar y bedwaredd nosFercher bob mis ac nid ar nos Wener olaf y mis.

    Mae’n fwriad cynnal te parti Arfon ar ddydd Sul tua diwedd mis Ionawrac ocsiwn addewidion tua dechrau mis Mawrth. Os oes gennychddiddordeb mewn bod yn bresennol neu mewn ymrwymo i addewiddylech gysylltu â Godfrey Northam, ysgrifennydd y gangen.

    Wu Shu KwanBocsio Cic Tsiaeneaidd

    Dyma lun o Jade Fitzpatrick, 16 oed o Rhes Ogwen, Bethesda, ynderbyn ei thystysgrif dysgu “Black Belt” oddi wrth y “GrandMaster” C. K. Chang yn Llundain.

    Bellach, mae Jade yn dysgu ei dosbarth Wu Shu Kwan ei hunan yngNghanolfan Gymdeithasol Tregarth bob nos Fercher o 6.30 tan 8.30.Os hoffech chi roi cynnig arni, hen neu ifanc, galwch heibio’rdosbarth neu ffoniwch 01248 602416.

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 10

  • NOSON O ADLONIANT yNG NGHWMNI

    y TRI DIGRI A HOGIA’R BONC

    £25 yN CyNNWyS

    COCTEL WRTH GyRRAEDD A

    CHINIO TRI CWRS O FLAS CyMRu

    Dydd Gwener 24ain Ionawr, 2014

    Ar gyfer bwcio neu am fanylion pellach cysylltwch â:

    Gwen OwenRhelowr Cyfarfodydd, Digwyddiadau a GwerthiantGwesty Y Royal FictoriaLlanberis Gwynedd. LL55 4TYFfôn : 01286 873 403E Bôst : [email protected] : www.theroyalvictoria.co.uk

    Llais Ogwan 11Llais Ogwan 11

    Canolfan CefnfaesBETHESDA

    GyRFA CHWIST

    Ionawr 28Chwefror 11 a 25am 7.00 o’r gloch

    Dewch i fwynhau nosweithiau difyr

    Beth sy’ndigwydd

    yn y Dyffryn?

    Sesiynau Siarad i Ddysgwyr

    Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick

    Bethesda 11.00 – 12.00 Dydd Sadwrncyntaf pob mis

    Peint a Sgwrs Douglas Arms

    Bethesda 20.00 – 21.00

    Trydydd Nos Lunpob mis

    Canolfan CefnfaesBore Coffi Cylch

    Meithrin Cefnfaes25 Ionawr 201410.00 - 12.00

    Cymdeithas HanesDyffryn Ogwen

    7.00 o’r gloch Nos Lun 10 Chwefror 2014

    yn Festri Capel Jerusalem

    Arwel Jones‘Cythraul y Bêl Gron’

    £1.50 wrth y drws neu am ddim i aelodau

    Caffi Coed y Brenin

    Bore CoffiEisteddfod

    Dyffryn Ogwen

    Sadwrn 15 Chwefror

    10.00 - 12.00

    Mynediad £1.00

    Marchnad Ogwen

    Yr ail ddydd Sadwrn yn fisol

    10am - 2pm

    8 Chwefroryn y Clwb Rygbi, Bethesda

    8 Mawrthyn y Clwb Rygbi, Bethesda

    Bwydydd, Crefftau, Caffi

    www.marchnadogwen.co.uk

    Twitter #marchnadogwen

    Facebook

    Festri Capel Jerusalem

    Cyfarfod Blynyddol

    Eisteddfod Dyffryn OgwenNos Fercher 29 Ionawr

    am 7.30 yr hwyr

    Croeso Cynnes i Bawb

    Merched y WawrCangen Tregarth

    Yn Festri Capel ShilohNos Lun 3 Chwefror am 7.45

    ANGHARAD TOMOS

    yn sgwrsio ar y testun

    “CRWYDRO”

    Croeso mawr i’r cyhoedd ddod i’r noson yma.

    Noddwyd gan LLENYDDIAETH CYMRU

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 11

  • Llais Ogwan 12 Llais Ogwan 12

    CHWILAIR IONAWR 2014BRENHINOEDD

    Y mis yma mae enw DEUDDEG BRENIN i’w darganfod. Mae un cliw wedi ei ddangos ynbarod. A oes modd i chwi ddarganfod y gweddill? (Mae LL, CH, DD, TH), acyb yn unllythyren yn y Gymraeg, ond i bwrpas y chwilair dangosir hwynt fel dwy lythyren ar wahân.

    Atebion gydag enw a chyfeiriad i Andre Lomozik, Zakopane, 7 Rhos-y-coed, Bethesda,Bangor, Gwynedd, LL57 3NW. Erbyn 5 Chwefror. Bydd gwobr o £5 i’r enw cyntaf allan o’rhet. Os na fydd unrhyw un wedi darganfod y deuddeg yna’r rhif agosaf fydd yn cael y wobr.

    Yng ngwasanaeth olaf y flwyddyn yn Eglwys Bethlehem Talybont fe ddywedodd y ParchedigTrefor Jones, Caernarfon, fod yna nifer helaeth o Frenhinoedd wedi eu henwi yn y Beibl, fellyrwyf wedi dewis deuddeg ohonynt i chwi ei darganfod.

    Dyma atebion Rhagfyr:- Angylion, Anrhegion, Cardiau, Celyn, Crud, Doethion, Drama’rGeni, Geni’r Iesu, Gwasanaeth Nadolig, Sion Corn, Twrci, Uchelwydd.

    Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir:- Elizabeth Buckley, Tregarth; Doris Shaw,Bangor; Marilyn Jones, Glanffrydlas, Bethesda; Merfyn a Laura Jones, Tregarth; Mair Jones,Ffordd Bangor; Elfed Bullock, Maes y Garnedd, Bethesda; Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch,Pwllheli; Herbert Griffiths, Tregarth; Eirlys Edwards, Bethesda.

    Enillydd Rhagfyr oedd:- Herbert Griffiths 46 Bro Syr Ifor, Tregarth, LL57 4AS.

    Y Gadwyn

    Dwy linach yn ei dolenni, yn dalDau deulu’n hir wrthi;

    Daeth hiraeth wedi’i thorriA bwlch mawr sy’n awr i ni.

    Adfail

    Yr hil garodd yr aelwyd lle bu tân,Lle bu tiwn a bywyd,

    Nawr dan we mae’r lle mor llwydYn nyrsio hen, hen arswyd.

    Y Dderwen a’i Phlant

    Un hen oedd hi, dros ganmlwydd oed,A bu’n frenhines yn y coed;

    Fe gafodd nifer fawr o blantA’u siglo wnaeth uwch sŵn y nant.

    Yr awel ysgafn garai honFel y câi ddawnsio ynddi’n llon

    A denodd yno ar ei brig Aelodau brwd o gôr y wig.

    Fe fethodd gwyntoedd brwnt a blinDdarganfod ble yr oedd y rhin

    A gadwai’r plant mor dynn wrth famFel na bo’r un yn derbyn cam.

    Di-ildio oedd y dderwen grefI’r stormydd cryfaf ddaeth o’r nef,

    Ond mellten lwyddodd ymysg brawI’w hollti’n ddwy a’i rhoi’n y baw.

    Ond ni chadd aros am yn hirI orwedd yno ar y tir;

    Fe’i gwelwyd hi gan ŵr trwy’r berthA gwyddai hwnnw ei gwir werth.

    Fe wnaeth ohoni grud gwerth chweilÂ’i gadarn bren o hyd a ddeil

    I siglo plant y tŷ yn awrYn ddiogel yno ar ei lawr.

    Y Gwyddonydd

    Awchus uwch cyfrinachau hir y gell Yw’r gŵr â’i adnoddau,

    A bydd ryw ddydd yn rhyddhauDaioni ei chadwynau.

    Dafydd Morris

    Nyth y Gân

    Pwy yw hwn?

    Gawsoch chi’r ateb?Dyma’r actor Owain Arthur o Riwlas sydd ar

    hyn o bryd yn difyrru cynulleidfaoedd yntheatrau’r West End yn Llundain.

    Pob lwc iti yn dy yrfa Owain.

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 12

  • Llais Ogwan 13Llais Ogwan 13

    Malinda Hayward(Gwniadwraig)

    Awel DegPenygroes, Tregarth.

    Am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -

    Ffoniwch 01248 601164

    DEWCH I WELDEICH

    CYFREITHIWRLLEOL

    SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR

    BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG

    BETHESDA01248 600171

    [email protected]

    CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF

    AM DDIM

    EWYLLYSIAU APHROFIANT

    SYMUD TŶ

    Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni

    OWEN’S TREGARTH

    Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr

    Cludiant Preifat a Bws Mini

    01248 60226007761619475

    MODURDY FFRYDLAS

    PerchennogA. Ll. Williams

    Stryd Fawr, Bethesda PROFION M.O.T.

    GWASANAETH ATGyWEIRIOTEIARS A BATRIS

    GWASANAETH TORRI I LAWRNEu DDAMWAIN

    600723 Ffacs: 605068

    ProfionM.O.T.

    CONTRACTWyR TOI2 Hen Aelwyd, Bethesda

    600633 (symudol) 07702 583765

    Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.

    Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.

    Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am

    waith diguro.

    m.hughesa’i fab

    Sefydlwyd 1969

    Torri GwalltiauDynion a Phlant

    gan Alison

    www.owenswales .co.uk

    Contractwyr Trydanol

    Jones & Whitehead Cyf

    Swyddfa GofrestredigPenrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU

    Ffôn: 01248 601257Ffacs: 01248 601982

    E-bost: [email protected]

    Bryan JonesClirio taiMân-weithiauCludiant ysgafn

    (Waeth pa mor fychan y dasg)

    Ffôn: 01286 673121Ffôn Lôn: 07527634023

    e-bost: [email protected]/bryanrajonesandson

    ymgymerwr adeiladu agwaith saer

    Ronald Jones

    Bron Arfon, LlanllechidBethesda

    01248 601052

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 13

  • Llais Ogwan 14

    AR DRAWS7 Mynd yn ôl efo Llew cyn troi i’r llyn

    (6)8 Edafedd (anagram) (6)9 “Tynged yr Iaith” (8)

    10 Cân i un (4)11 Prydydd breuddwydiol Y Lasynys(4,4)14 Rhych yr aradr (4)15 Gwahoddwr i’r llan (4)16 Clodfori (8)17 Gorchwyl gwenynwr (4)19 Cristion e.e. (8)21 Er y lwc, ffrae fawr a gafodd (6)22 Ai doeth ei wneud yn rhagorol brosben (6)

    I LAWR1 Sylfaenydd un o grefyddau mwyaf

    Asia (4)2 “- ------- cyn y storm”; y tawelwch o

    flaen drycin (1,7)3 Gwel nain mai dryslyd ac aneglur

    iawn yw’r esboniad (8)4 Canol tref y cofis (4)5 Iawn a phriodol (4)6 Talyllyn, Ffestiniog, Llyn Padarn,

    Wyddfa, etc. (8)12 Sefydlydd a chychwynnydd (8)13 Cyfeiriad yr aderyn di-gartref pan

    ddaw’r gwanwyn (8)14 Llawer iawn o bob math o bethau

    (4,1,3)18 Mae tir iddo yn y pentref agosaf i 4 I

    Lawr (4)19 Fe’i llosgid mewn odyn (4)20 Wedi denu yn ôl bydd ar ben ei hun

    (4)

    Croesair Ionawr 2014

    Atebion erbyn dydd Mercher, 5 Chwefror 2014 i:‘Croesair Ionawr’, Bron Eryri, 12 Garneddwen, Bethesda. LL57 3PD.

    Enw:

    Cyfeiriad:

    ATEBION CROESAIR RHAGFYR 2013

    AR DRAWS 1 Cenllysg, 5 Mellt, 7 Medru, 8 Dilety10 Lili, 11 Ceisiant, 13 Cegaid,14 Comedi, 17 Efengylau, 19 Emyr, 21 Yn aros, 22 Organ, 23 Drych, 24 Loetran.

    I LAWR1 Camel ac Oen, 2 Nadolig, 3 Y Sul, 4 Gadael, 5 Melysion, 6 Lletya, 9 Y TriBrenin, 12 Difyrrwch, 15 Edmygwr,16 Parsel, 18 Einir, 20 Bore

    Dyma ni’n croesawu’r flwyddynnewydd, a diolch i’r rhai ohonoch aanfonodd eich cyfarchion.

    Tybed mai prysurdeb y tymor oedd igyfrif am lai nag arfer o gynigion ynRhagfyr ?

    Ond diolch i’r canlynol am eu hatebionhollol gywir : Gareth William Jones,Bow Street; Ann Carran, Bethesda;Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch;Emrys Griffiths, Rhosgadfan; EllenWhitehouse, Birmingham; ElfedEvans, Llanllechid; Dulcie Roberts,Tregarth; E.E. Roberts, Llanberis.

    Ond y cyntaf allan o’r het, ac sy’nennill y wobr, oedd cynnig KarenWilliams, 15 Henbarc, Llanllechid,Gwynedd LL57 3RS. Da iawn chi.

    Ni chafodd neb holl groeseiriau 2013yn hollol gywir, ond yr agosaf i’r brigoedd Dilys A. Pritchard-Jones,Abererch ac Elfed Evans a KarenWilliams, Llanllechid. Canmoladwyiawn !

    Lleoliad Gwych ar gyfer Pob Achlysur

    Cyfleusterau gwych ar gael i fudiadau,cymdeithasau a thrigolion.

    Partïon, Bedydd, Cyfarfodydd, Gigs, Digwyddiadau,Cynadleddau, Priodasau a llawer mwy.....

    I logi’r clwb ar gyfer unrhyw achlysur galwch i mewn,ffoniwch neu e-bostiwch,

    Clwb Criced a Bowlio

    BETHESDALôn Newydd, Bethesda, Gwynedd LL57 3DT

    ClwbCricedBethesda (01248) 600833 [email protected]

    Oriau Agor Presennol

    Dydd Sul: 8pm i 12amDydd Llun: Ar Gais

    Dydd Mawrth: Ar GaisDydd Mercher: Ar GaisDydd Iau: 8pm i 12am

    Dydd Gwener: 7am i 12amDydd Sadwrn: 7pm i 12am

    Dyddiau ac amseroedd hyblyg ar gael ar gyfer llogi’r clwb

    Cyfleusterau: 3 ystafell fawr / 2 far / Llwyfan / Cegin, gyda chyfarpar / Digon o le parcio / Snwcer, Pŵl, Dartiau

    I glywed mwy am ddigwyddiadau a chynigion y clwb a chael eich ychwanegu at gylchrediad e-byst y Clwb,e-bostiwch: [email protected]

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 14

  • Llais Ogwan 15Llais Ogwan 15

    01248 361044 a 07771 634195

    Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -

    tripiau, priodasau, partïon ac ati.

    Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens

    Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda

    602112 (gyda’r nos 602767)Blodau ar gyfer pob achlysur

    Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan

    Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’

    MODURON PANDY

    Cyf.Tregarth

    Gwasanaeth AtgyweirioCanolfan ‘Unipart’

    M.O.T.

    Ffôn: 01248 600619 (dydd)

    Modurdy CentralCeir ail-law ar werth

    M.O.T. ar gaelHefyd

    Trwsio a GwasanaethAr Allt Pen-y-bryn, Bethesda

    601031

    Elwyn Jones & Cohefyd yn masnachu fel

    Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

    - Cyfreithwyr -

    123 Stryd FawrBangor

    Gwynedd(01248) 370224

    Ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiolGwasanaeth dwyieithog personol a chyfeillgar

    Swyddfeydd eraill:

    Llangefni Amlwch Benllech(01248) 723106 (01407) 831777 (01248) 852782

    Caernarfon Pwllheli(01248) 673616 (01758) 703000)

    Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini

    Ffôn: (01248) 600072

    Meysydd awyr PorthladdoeddContractau

    Contractwyr i Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru

    Blodau RaccaPENISARWAUN

    Planhigion gardd a basgedi crog o’ransawdd gorau

    - gan hogan o Rachub

    Ffôn: 01286 870605

    Arbenigwr mewn lloriau coed caled

    Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,

    adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu

    difrodi.

    Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909

    L. Sturrsa’i feibionsefydlwyd yn 1965

    ADEILADWYRHen Iard Stesion,

    Ffordd y Stesion, Bethesda

    Ffôn: 600953Ffacs: 602571

    [email protected]

    Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi

    Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr

    Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416

    neu galwch heibio’r dosbarth

    Dosbarthiadau

    yng Nghanolfan

    Gymdeithasol

    Tregarth bob

    nos Fercher

    6.30 tan 8.30

    WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 15

  • Marchnad Ogwen

    Drapia! Sach liain a lludw! Roedd Marchnad Ogwen y Nadolig morbrysur a hwyliog, dyma anghofio'n llwyr am dynnu llun a chael pwto hanes un o'r Stondinau i ddarllenwyr y Llais. Henaint!

    Cawsom Farchnad ardderchog gydag awyrgylch Nadoligaidd ynllawn bwrlwm. Daeth Siôn Corn heibio a rhannu melysion a rhoigwên ar wynebau'r hen blant. (Plant da iawn oedd yn y Farchnadhefyd gyda llaw). Diolch am alw Siôn Corn a da deall eich bod wedimwynhau'r mins peis.

    Mae ein dyled yn fawr i ferched Y Boncathod am greu naws morhyfryd i'r Farchnad drwy ganu carolau i ni. Roeddynt yn rhoi euhamser yn rhad ac am ddim ac yn casglu arian tuag at yr AmbiwlansAwyr. Da iawn chi genod a llawer o ddiolch.

    Ond mae ein diolch pennaf i chi ein cwsmeriaid - rhai ohonoch yndod yn ffyddlon bob mis i'n cefnogi. Daliwch ati!

    Bydd y Farchnad nesaf Chwefror 8fed yn y Clwb Rygbi. Croesocynnes i bawb wrth gwrs.

    Y gangen leol o'r NSPCC sy'n cynnal y Stondin Elusen misChwefror. (Mis Mai yw'r nesaf sydd ar gael).Gellir cysylltu â ni ar ein gwefan www.marchnadogwen.co.uk neuFacebook a Twitter.

    Blwyddyn Newydd Dda i holl gwsmeriaid y Farchnad a llawer oddiolch am eich cefnogaeth yn ystod 2013.

    Côr Meibion y Penrhyn

    Mae prysurdeb cyfnod y Nadolig drosodd bellach a’r holl garolau a’rcyfeddach yn cael gorffwyso am flwyddyn arall. Uchafbwynt y dathlu i nioedd y cyngerdd Nadolig mawr a drefnwyd gan y Daily Post yn yr Arenager Feniw Cymru, Llandudno i godi arian at Tŷ Gobaith. Roedd y neuaddenfawr yn llawn i’w hymylon gyda dros 900 o bobl wedi dod draw ifwynhau gwledd o ganu Nadoligaidd.

    Gio ComparioSeren y noson oedd Wynne Evans y tenor operatig o Gaerfyrddin, sy’n fwycyfarwydd inni oll fel Gio Compario, y gŵr sy’n hysbysebu’r wefancymharu prisiau ar y teledu. Canodd Wynne gyda’r holl artistiaid erailldrefniant o “Winter Wonderland”yn y Gymraeg gan Cefin Roberts, ac ynacanodd ddwy gân arall cyn y diwedd.

    Braint i holl aelodau Côr y Penrhyn oedd cael rhannu llwyfan gydaartistiaid mor dalentog â Wynne Evans, Elin Fflur, cyflwynydd y noson, aPeter Karrie y Cymro o Fro Morgannwg sydd wedi gwneud enw iddo’i hunar lwyfannau Llundain fel unawdydd mewn sioeau mor enwog a Phantomof the Opera. Cawsom hefyd gwmni Côr y Wiber o Gastell NewyddEmlyn, Côr Ysgol Bro Aled, Band Jas Ysgol Tryfan, Elan Meirion merch yrenwog Rhys Meirion a Steffan Morris chwaraewr soddgrwth talentog oGastell Nedd sydd yn sicr yn un o sêr y byd cerddorol yn y dyfodolBendigedig

    Canodd y côr “Bendigedig” gan Robat Arwyn a “Pererin Wyf” ar drefnianto “House of the Rising Sun” gan ein harweinydd Owain Arwel, a gellirclywed y ddwy gân ar ein CD diweddaraf “Anthem.” Yn ogystal ag arwainy côr ar y noson roedd Owain Arwel hefyd yn arwain Band Jas YsgolTryfan ac yn arwain y gynulleidfa i ganu rhai o’r carolau Nadoligcyfarwydd – mae prysurdeb ein harweinydd yn ddi-ball!

    Teledwyd y cyfan gan Rondo i’w darlledu ar S4C a gobeithio i chi gaelcyfle i weld a chlywed y cyfan dros y Nadolig. Blwyddyn Newydd Dda iholl garedigion y côr ac i’n holl ddarllenwyr.

    Rhaglen John Ogwen Mwynhaodd y côr le amlwg yn y rhaglen am “yr hogyn o Sling” hefyd adarlledwyd honno ddechrau’r mis. Roedd y côr wedi cael gwahoddiad iganu ‘Mardi Gras ym Mangor Ucha’ trefniant .Alun Llwyd o gân a wnaedyn enwog gan Bryn Fôn a Tshotoloza i drefniant Owain Arwel. Tystioddnifer o bobl fod hon yn un o’r rhaglenni gorau a ddarlledwyd dros yr ŵyl acmae’n brawf pellach bod enw’r côr yn mynd ar led gan fod treniadau i nifynd i Derby ym mis Ebrill. Bydd mwy am hynny yn y rhifynnau nesaf.

    Aelodau’r côr yn y stiwdio yng Nghaerdydd adeg recordio rhaglen John Ogwen

    Llais Ogwan 16

    YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA

    Yn eisiau cyn gynted â phosibTECHNEGYDD

    GWYDDONIAETH, DYLUNIO A THECHNOLEG ALLYFRGELLYDD

    Mae Ysgol Dyffryn Ogwen yn awyddus i apwyntio person brwdfrydigac egnïol i weithio fel Technegydd Gwyddoniaeth. Disgwylir i’r sawl a

    benodir weithio yn bennaf fel Technegydd Labordai yn y gyfadran Wyddoniaeth yn ogystal â

    chynorthwyo yn yr ystafelloedd Dylunio a Thechnoleg ac yn Llyfrgell yr ysgol ar adegau penodol.

    Bydd dyletswyddau gweinyddol penodol hefyd yn rhan o’r swydd.

    Oriau gwaith : 32½ awr yr wythnos(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau

    Hyfforddiant Mewn Swydd).Graddfa Cyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyferGweithwyr Llywodraeth Leol Raddfa GS5, pwyntiau 14 - 17 sef£11,957 - £12,797 y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

    Ffurflen gais a manylion ychwanegol am y swydd i’w cael gan y Swyddog Gweinyddol, Mrs Nerys Williams, Ysgol Dyffryn Ogwen,

    Ffordd Coetmor, Bethesda, , Bangor, Gwynedd LL57 3NNFfôn:01248 600291

    Ffacs:01248 600082; e-bost: [email protected],

    ac i’w ddychwelyd i’r ysgol erbyn hanner dydd, Dydd Gwener, 31ain Ionawr, 2014.

    Tywydd GarwMae’n werth cadw mewn cof y trefniadau sydd gan y Cyngor ar adegau odywydd garw.

    Mae gwefan y Cyngor yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn ystod cyfnodauo dywydd garw, a pan fo’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod tywydd garwar y ffordd.

    Cadwch olwg ar dudalen gartref gwefan y Cyngor yn ogystal â’r dudalenTywydd Garw www.gwynedd.gov.uk/tywyddgarw am yr arweiniaddiweddaraf.

    Mae’r wybodaeth yn cynnwys:• Ysgolion sydd ar gau oherwydd y tywydd • Llyfrgelloedd sydd ar gau oherwydd tywydd garw • Ffyrdd sydd wedi eu heffeithio • Cyngor i’r cyhoedd ar sut i gadw’n ddiogel

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 16

  • Siop Trin Gwallt a Harddwch

    Bethesda 600094Yn arbenigo mewn trin gwallt

    merched, dynion a phlant.Cynghori, gosod a thorri wigiau

    Rhai gwasanaethau harddwch a shafio (rasal “cut throat”)

    Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:

    adnewyddu neu o’r newydd

    Gweithdy Pen-y-brynCefn-y-bryn, Bethesda

    Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001

    Gwasanaeth personol ddydd a nos

    STEPHEN JONES

    †TREFNYDD

    ANGLADDAU

    Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau

    Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen

    Bethesda

    Ffôn: (01248) 600763 a 602707

    GWASANAETH DYDD A NOS

    01248 605566Archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol

    gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy

    Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos

    LONDISBETHESDA

    JOHN ROBERTS

    Teilsiwr

    Symudol: 07747 628650

    Paentiwr

    Papurwr

    Ffôn: 01248 600995

    Pob math o waith trydanol

    Huw Jonesymgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda

    phrofiad diwydiannol

    Y Wern, Gerlan, Bethesda

    Gwynedd LL57 3ST

    Ffôn: 01248 602480

    Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon

    Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle

    Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol

    Ffôn / Ffacs 01286 870882

    RICHARD S. HUMPHREYS

    Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *

    * Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor

    Llun – Gwener: 6.00 - 11.00Sadwrn: 3.30 – 12.00

    Sul: Pnawn 1.00 - 4.00, Hwyr 8.00 -11.0001248 600219

    www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan

    Gwyn, Christine a Geoffrey

    CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda

    Ffôn: 01248 [email protected]

    Bwyd cartref blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)

    Cinio arbennig bob dydd Iau

    Bwyd i’w gario allan

    Gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon o bob math -

    plant, pen-blwydd ac ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)

    Cacennau ar gyfer pob achlysur e.e. priodas neu ben-blwydd

    Prisiau rhesymol

    BISTRO’R BRENIN(Bwyty Trwyddedig)

    Rydym yn croesawu partïon o bob math – dathlu pen-blwydd

    ac achlysuron arbennig eraill.Beth am eich Parti Nadolig?

    Gadewch i Londri Coed y Brenin

    wneud eich golchi

    DAFyDD CADWALADRDAFyDD CADWALADR

    Cynhyrchion Coedlannol

    Coed Tân - Llwythi bach a mawrYsglodion pren i’r arddFfensio a thorri coed

    Asiant system gwresogi trwylosgi coed

    01248 605207

    Llais Ogwan 17

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 17

  • Llais Ogwan 18

    Gair o’r dosbarth

    Ysgol Dyffryn Ogwen

    Te prynhawn Nadolig Ysgol Dyffryn Ogwen 2013

    Eto'r flwyddyn hon bu’r te prynhawn yn llwyddiant. Croesawyd dros90 o’r henoed lleol i'r ysgol am brynhawn o luniaeth ysgafn acadloniant. Roedd y lluniaeth wedi cael ei baratoi gan grŵp Lletygarwchblwyddyn 10, a bydd eu perfformiad yn mynd at eu cymhwyster lefel 2BTEC. Gyda diolch i rai o’r busnesau lleol am eu cyfraniad tuag at yraffl, Lindys, Siapir, Cigydd Ogwen, Mabinogion, Copa, FfermBronydd, Dŵr y Mynydd, Tesco, Becws Dwyran a'r Dyn Llysiau. Hebeu cyfraniad ni fuasem wedi gallu cynnal y te Nadolig.

    Taith Manceinion Ar 18 Rhagfyr bu nifer oddisgyblion blynyddoedd 8,9 a 10 a'r daith i weld sioegerdd West Side Story yn yPalace Theatre ymManceinion. 'Roedd ydisgyblion wedi cyffroi ynlân yn cael mynd i siopa achael cinio yng NghanolfanSiopa Trafford yn ystod ybore. Roeddent wedigwirioni mwy fyth wrthgael profiad bythgofiadwyyn gwylio'r sioe gerddenwog gan LeonardBernstein yn ystod yprynhawn.

    Pantomeim Bu holl ddisgyblion blwyddyn 7 yn gweld perfformiad o’r pantomeim‘Sleeping Beauty’ yn Llandudno yn ystod yr wythnos olaf. Yr oedd ynberfformiad lliwgar, bywiog a swnllyd yn unol â thraddodiad ypantomeim Nadoligaidd, ac yr oedd y disgyblion a’r aelodau o staff,wedi cael bore difyr iawn. Diolch i’r adran Saesneg am drefnu.

    Yr Adran Addysg GorfforolMae’r Tîm rygbi dan 14 wedi ennill cynghrair ysgolion Arfon eleni arôl curo pob gêm. Yna, mewn gêm derfynol rhwng enillwyr ysgolionArfon ac enillwyr ysgolion Môn llwyddodd y tîm i guro YsgolLlangefni o 53 i 0. Bydd y tîm nawr yn chwarae yng nghwpan Cymruar ôl y Nadolig.

    Cynhaliwyd twrnameint Badminton ysgol gyfan ar ddydd Iau 19Rhagfyr. Roedd y llysgenhadon chwaraeon yn gyfrifol am sgorio athrefnu'r gystadleuaeth a gwnaethant ymdrech penigamp ohoni.

    Dyma'r canlyniadau -

    Bl 7 - 1af - Lowri Ford 2il - Cerys Thomas 3ydd - Beca NiaBl 8 - 1af - Sophie Ellis 2il - Nia George 3ydd - Catrin Williams

    1af - Sion Davies 2il - Mathew Buchanan 3ydd - Kieron BullockBl 9 1af - Manon Jones 2il - Jade Roberts 3ydd - Sophie Davies

    1af - Tomos Griffiths 2il - Owen Wilberforce 3ydd - Les Florence Bl10 1af - Sam Lewis 2il - Manon Williams 3ydd - Alys Haf

    1af - Aled Owsianka 2il - Iago Davies 3ydd - Chris Bareham

    CroesoCroeso mawr yn ôl i Mrs Cerys Roberts yn dilyn ei chyfnod mamolaeth adiolch i Mrs Fflur Roberts am ei holl waith tra yng ngofal DosbarthOgwen. Dymuniadau gorau iddi yn ei swydd newydd gyda’rComisiynydd Iaith.

    Daeth yn amser ffarwelio ag Iriati o Wlad y Basg. Bu Iriati yma gyda niyn yr ysgol am nifer o wythnosau gan gynorthwyo mewn amryw oddosbarthiadau. Ei dymuniad yw bod yn athrawes. Pob hwyl iddi asiwrne saff yn ôl i Wlad y Basg.

    Cinio a pharti Nadolig Buom yn gwledda ac yn mwynhau llond platiau o fwyd blasus yn y cinioNadolig ac wedyn yn y parti. Diolch yn fawr iawn i Anti Shirley ac AntiFiona am weithio mor galed i baratoi cinio blasus iawn i bawb. Cawsomymweliad gan Siôn Corn yn ystod y parti a diolch iddo yntau am allu dodi’n gweld yn ystod cyfnod mor brysur!

    Cyngerdd Nadolig Cafwyd cyngerdd Nadolig gwerth chweil unwaith eto eleni gyda’r capelyn llawn sŵn canu gwych. Adroddwyd hanes y stori fawr, sef y geni, acroedd pob plentyn wedi dysgu eu gwaith yn arbennig o dda. Diolch iJones and Whitehead am eu cymorth gyda’r llwyfan ac i swyddogionCapel Shiloh am eu cyd-weithrediad eto eleni.

    Ffair NadoligCafwyd ffair Nadolig lwyddiannus iawn eleni. Diolch o galon i’rCyfeillion newydd a oedd wedi gweithio’n galed iawn i sefydlu pwyllgora threfnu’r ffair. Diolch yn arbennig i Mrs Nikola Gale a Mr Mark Grayam gyd-drefnu’r cyfan. Diolch i’r cwmni ai lleol canlynol am eu rhoddionhael, yn cynnwys Pant-yr-Ardd, Morrisons, Mary Freeman a PhlasFfrancon. Diolch i chi gyd am gefnogi a llwyddwyd i godi £714.18. Byddy pwyllgor yn cyfarfod eto i drefnu digwyddiad arall yn fuan - croesocynnes i bawb.

    Ymweliadau Nadolig

    Cafodd pob dosbarth gyfle i fynd ar nifer o ymweliadau cyn diwedd ytymor gan fwynhau yn fawr. Dyma ychydig o’r hanes…

    Dosbarth Idwal (Meithrin a Derbyn) - Cawsom brynhawn i’w gofiopan aethom i Lanberis am daith ar y trên i weld Siôn Corn. Roedd pawbwrth eu boddau ar y trên a chael cyfle i ddweud wrth Siôn Corn eu bodwedi bod yn blant da trwy’r flwyddyn!

    Dosbarth Llywelyn (Blwyddyn 1) – Fe aethom am drip Nadoligaidd iAmgueddfa Lechi Cymru, Llanberis i wrando ar nifer o storiâu Cymreig.Roedd pawb wedi mwynhau creu addurn Nadolig gyda gweithwyr yrAmgueddfa, diwrnod bythgofiadwy!

    Dosbarth Dafydd (Blwyddyn 2) – Cawsom ymweld â Chapel y Ffynnonym Mangor er mwyn clywed neges beth yw gwir ystyr y Nadolig.Cafwyd hwyl yn gwrando ar y stori ac ymuno yn y gweithgareddau.Diolch yn fawr i aelodau’r Capel am y gwahoddiad a’r croeso.

    Dosbarth Tryfan ac Ogwen (Blwyddyn 3 a 5+6) - Profiad gwych oeddmynychu coedwig Castell Penrhyn er mwyn cymryd rhan mewngweithgareddau Nadoligaidd a mwynhau bod allan yn yr awyr agored.Tafwys cyfle i wneud addurniadau Nadolig hardd.

    Dosbarth Ffrydlas (Blwyddyn 4+5) – Fel rhan o’n gwaith ardrychinebau naturiol cawsom y fraint o gael cwmni Mr Gwyn Angell,gŵr sydd â chysylltiadau agos iawn â Haiti. Cawsom hanes y wlad a’rgwaith sy’n cael ei wneud yno ar hyn o bryd. Diolch iddo am roi o’iamser i ddod i sgwrsio â ni.

    Ysgol Tregarth

    Llais Ogwan 18

    Llo Ionawr 2014.e$S_Llais Ogwan 13/01/2014 15:46 Page 18

  • Ysgol Bodfeurig

    Ysgol Abercaseg

    Treuliodd plant y dosbarth derbyn fore bendigedig yn ymweld â gŵrarbennig iawn yn siop Tesco Bethesda! a’r gŵr arbennig yma oedd SiônCorn wrth gwrs! Roedd y plant wedi gwirioni wrth gael ‘roeddynt yngobeithio a fyddai yn eu sachau fore Nadolig! Bu Siôn Corn yn hynod oglên gyda’r plant drwy roi anrheg i bob un ohonynt. Fel arwydd o’ugwerthfawrogiad canodd y plant garol iddo cyn ymadael a’r siop Diolchi staff Tesco,am drefnu’r cyfan.

    Cystadleuaeth ‘Llun Nadolig’ Tesco. I’r rhai hynny ohonoch a wnaeth eich siopa Nadolig yn Tesco Bethesda.Daeth disgyblion yr ysgol i’r brig yn yr holl gategorïau mewncystadleuaeth a drefnwyd gan Tesco a derbyniodd y buddugwyr wobrauhael gan y cwmni. Llongyfarchiadau mawr i chwi i gyd.

    Dyma lun o’r enillwyr (Owain Williams, dosbarth meithrin ynabsennol pan dynnwyd y llun)

    Cyngerdd NadoligRoedd ffrwyth llafur holl ddisgyblion yr ysgol, o’r ieuengaf i’r hynaf, yncael ei arddangos ar lwyfan Ysgol Dyffryn Ogwen, mewn neuadd a oedddan ei sang, pan fu’r plant yn perfformio’r sioe Nadolig. Roedd thema’rsioe yn seiliedig ar y gwahanol olygfeydd a geir ar gardiau Nadolig. Ynôl y gymeradwyaeth a gafwyd ar ddiwedd y perfformiad roedd ygynulleidfa