rhaglen canolfan dylan thomas

12

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 10-Mar-2016

248 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas, Mai - Awst 2009

TRANSCRIPT

Page 1: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:10 Page 1

Page 2: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

2 Mai - Awst 2009

Rhaglen CanolfanDylan ThomasMai – Awst 2009Croeso i'n rhaglen lawn ar gyfer yr Haf. Mae gennym yr hollddigwyddiadau arferol a bydd Theatr Amser Cinio yndychwelyd. Bydd hefyd cyfres o ddigwyddiadau 'Cinio aChelf' a 'Sain a Chynddaredd' a gynhelir amser cinio bobdydd Gwener sy'n cynnwys geiriau a cherddoriaeth, allawer o ddigwyddiadau cyffrous, unigryw. Welwn ni chi yno!

Os ydych am dderbyn ein e-byst i'ch hysbysu neu'ch atgoffa am y digwyddiadaudiweddaraf, e-bostiwch [email protected] Sylwer hefyd boddigwyddiadau'n cael eu cynnal o bryd i'w gilydd nad ydynt yn ein rhaglen argraffedig.

Y ffordd orau o gael eich hysbysu am y rhain yw bod ar ein rhestr e-bostio ac edrychar ein gwefan – www.dylanthomas.com

NosWener 1Mai 7.30pm

Darlleniad gan Dr. Kynpham Sing NongkynrihBu Kynpham, un o brif feirdd yr India, yn Abertawe ym 1995 panoedd ar daith gyda beirdd o ranbarth Khasi a drefnwyd gan NigelJenkins, ar gyfer Blwyddyn Lenyddiaeth y DU. Enillodd llyfr teithioNigel sef Khasia in Gwalia Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru ym 1996,a bydd yntau’n cyflwyno Kynpham sy’n fardd, yn awdur storïau acyn gyfieithydd, sy’n ysgrifennu yn yr iaith Khasi ac yn Saesneg ac ymae ei waith wedi’i gyhoeddi a’i gyfieithu’n helaeth.Tocynnau: Pris Llawn £3.00 Consesiynau £2.10 PTL Abertawe £1.20

Dydd Sadwrn 2Mai 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - Brief Encounter gan Noel CowardCyfle prin i weld addasiad llwyfan gan Adrian Metcalfe o ddarn Coward, a wnaed ynenwog wrth gwrs gan y fersiwn ffilm gyda Leslie Howard a Celia Johnson.Mae’r cynhyrchiad hwn sef cynhyrchiad Tour de Force mewncydweithrediad â Theatr of the Dales, yn paru Adrian a Sonia Beckunwaith eto, a hwythau newydd orffen perfformio fel Arglwydd acArglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad diweddaraf Fluellen!Cyfarwyddir y cynhyrchiad gan David Robertson ac mae’n cynnwyscerddoriaeth Rachmaninoff a berfformir gan Rob Marshall, a fuhefyd yn ymddangos gydag Adrian yn y cynhyrchiad diweddar oWarmley sy’n seiliedig ar fywyd Daniel Jones.Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4

Dr. Kynpham

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:10 Page 2

Page 3: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

3Rhaglen Lenyddiaeth

Nos Iau 7Mai 7.00pm

Lansio LlyfrGower in History: Myth, People, Landscape gan Paul FerrisMae pobl a digwyddiadau’n goleuo’r gorffennol yn llyfr newyddPaul Ferris ‘Gower in History: Myth, People, Landscape’, sy’n am-rywio o’r Foneddiges Goch a’r Dyn Crog i arbrawf rhyfela bacterolar y traeth. Yn briodol iawn i fywgraffydd Dylan a Caitlin Thomas,mae hyd yn oed yn cynnwys rhywfaint am Dylan Thomas.

MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

Dydd Gwener 8Mai 1pm

Celf i GinioY cyntaf mewn cyfres fisol newydd o sgyrsiau byr ar amrywiaetheang o bynciau celf y gallwch eu ffitio yn eich awr ginio, ganddechrau gyda:

CELFYDDYDAU FWDW HAITAIDD gan Phil Cope. Mae Phil sy’nawdur, ffotograffydd ac yn ymgyrchydd diwylliannol hefyd yngadeirydd Cronfa Haiti. Dewch i weld, trafod a chlywed am ydefnydd o ddoliau fwdw, piet tonneres cyn-Golombiaidd (cerrig

taranau), cerfluniau crefyddol, baneri gleiniog, cerddi a storïau mewn seremonïau fwdw.

Tocynnau: £5.00 YN UNIG GAN GYNNWYS cawl a brechdan o’n Caffi/Siop Lyfrau!

NosWener 8Mai 7.30pm

Dathliadmewnbarddoniaeth a cherddoriaeth ofywyd Letitia AnneRhysDathliad mewn barddoniaeth a cherddoriaeth o fywyd Letitia AnneRhys, bardd ac awdur o Abertawe (1937-2008). Bydd siaradwyr adarllenwyr yn cynnwys llawer o ffrindiau a chydweithwyr Letitia gangynnwys Stuart Jones, Ceri Thomas a’r cyfieithydd, Annest Wiliam.

Mynediad am ddim, gwydraid o win a thameidiau

Nos Fercher 13Mai

On the Edge wedi’i gyflwyno gan Mike Kelligan - LookWho’s Talking Now!Mae gwaith newydd a gwaith sydd eisoes yn bodoli ganddramodwyr o Gymru yn parhau gyda ‘A Pair of Cardiff Pants!’, dwyddrama gan yr arlunydd, y cyfansoddwr a’r dramodydd arobryn oFerthyr, Alan Osborne.Tocynnau: £3-00

Letitia Anne Rhys

Alan Osborne

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:10 Page 3

Page 4: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

4

Nos Iau 14Mai 7.00pm

Lansio Llyfr: ChimeraAntholeg o waith ysgrifennumyfyrwyr MA Coleg y Drindod CaerfyrddinChimera - anghenfil deuben neu sarff danllyd? Asiad genetig neufreuddwyd na ellir ei gwireddu? Gair sy’n ddiriaethol neu’n nefolaidd?Chimera - gair sy’n golygu un peth neu bopeth?Dyma’r syniad y mae awdur y storïau byrion a’r cerddi hyn yn ceisio’iarchwilio yn yr antholeg hon. Mae Chimera yn mynd â’r darllenydd ardaith drwy amser, gofod, ffantasi a realiti ar archwiliad sy’n cynnwyspob agwedd ar chimera, yn ddychmygol ac yn real, ym meddyliau ei awduron.Yn gasgliad o ddarnau gan awduron o bob oed a sawl cenedl ond un rhyw yn unig, maeChimera yn defnyddio ac yn darlunio profiadau helaeth ac amrywiol ei awduronbenywaidd ac yn creu sawl persbectif newydd i destun hynod ddiddorol.

Mynediad a gwin am ddim

NosWener 15Mai 7pm

Sain a Chynddaredd! Cyfres newydd achlysurol o ddigwyddiadau, yn cyfuno geiriaua cherddoriaeth a ffurfiau eraill o gelf: Stuff Happens! Cyflwynir gan Graham Isaac

Barddoniaeth, cerddoriaeth a chelf-fideo o Abertawe a thu hwnt.Noson danllyd yn cynnwys y farddoniaeth orau o bob cwr - o’r twrifori i lefel y stryd, darllenwyr sy’n adnabyddus yn ‘the Crunch’Junkbox, Canolfan Dylan Thomas, Framework Social, PrifysgolAbertawe a llawer o fannau eraill. Yn cynnwys perfformiadaucryno gan Graham Isaac, Peter Read, Simone-Mansell Broome,John Goodby, Adele Guemar, David Woolley, Al Kellermann, Nigel

Jenkins ac eraill. Yn dod â holl feirdd a cherddi Abertawe ynghyd, gyda stondinaullyfrau, cerddoriaeth a fideo.

Cefnogir gan Ganolfan Dylan Thomas a phrosiect System Farddoniaeth Fyd-eangLlyfrgell Farddoniaeth Canolfan y South Bank.

Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM A HOLL GWRW POTEL BRAINS YN £2.00!!

Nos Fercher 20Mai 7.30pm

Sain a Chynddaredd! Cyfres newydd achlysurol o ddigwyddiadau,yn cyfuno geiriau a cherddoriaeth a ffurfiau eraill o gelf:Sea Holly (Llyfrau Seren), nofel gan Robert Minhinnick restr fer GwobrOndaatje Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth 2008. Heno, rydym yn cyflwynotriniaeth amlgyfrwng o Sea Holly, gyda ffilm, delweddau, cerddoriaeth fyw,darlleniadau a chorws. Os ydych yn mwynhau ffeiriau hwyl, twyni tywod,gamblo, alcohol, ac yn anad dim, dirgelwch, mae hwn ar eich cyfer chi.Cydweithrediad rhwng Llyfrau Seren, Cymru Gynaliadwy a’r CyngorLlyfrau Cymraeg, mewn cydweithrediad â Chanolfan Dylan Thomas.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Mai - Awst 2009

RobertMinhinnick

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:10 Page 4

Page 5: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

5

Nos Iau 21Mai 7.30pm

Poets in the Bookshop – gydaMartin Daws‘Barddoniaeth beat y don newydd â naws gerddorol sy’n creu rhuban rhythmigo rethreg gyseiniol’(Adolygiad o wyl Fringe Caeredin 2008). Ysbrydolwyd MartinDaws o Ogledd Cymru i ysgrifennu barddoniaeth gan gerddi slam EfrogNewydd a welwyd yn y 1990au, ac roedd yn ail yng nghystadleuaethGwobr John Trip am Farddoniaeth Ddarllenedig yn 2008, pan oeddPeter Read o Abertawe yn fuddugol. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

NosWener 22Mai 7.30pm

I Like that Stuff! – Digwyddiad Dathlu ar gyfer AdrianMitchellNoson o farddoniaeth a cherddoriaeth i ddathlu bywyd un oberfformwyr barddoniaeth gorau a mwyaf ysbrydoledig Prydain achyfaill mawr i Abertawe, y bardd a’r dramodydd, Adrian Mitchell, a fufarw yn gynharach eleni. Bydd llu o’i ffrindiau o Abertawe yn cymrydrhan, gan gynnwys Nigel Jenkins a David Woolley, a gobeithio, gweddwAdrian sef Celia. Gyda cherddoriaeth gan Brian Breeze a ffrindiau.MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

Dydd Sadwrn 23Mai 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn John Tripp’s Tragic Cabaret wedi’iysgrifennu a’i berfformio gan Peter ReadYn enwog am ei bortreadau o Dylan Thomas, mae Peter Read o Abertawe nawr yn myndi’r afael ag un o feirdd eraill lliwgar Cymru. Roedd John Tripp yn rhan o’r genhedlaethymrysongar o feirdd o Gymru a oedd yn ysgrifennu yn Saesneg yn y 1960au, ac, yndebyg i Dylan Thomas, roedd yn rhyw fath o gymeriad dwys-ddigrif, a oedd yn tueddu igael ei hun mewn helbul yn aml. Comisiynwyd y sioe un dyn hon gan Academi achafwyd y perfformiad cyntaf yng Nghaerdydd yn gynharach eleni.

Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4

Nod Fercher 27Mai 7.30pm

Caffi GwyddoniaethDatblygiad Effaith Isel: Ymatebion Effaith Uchel i Newid yn yr Hinsawdd a Chynalad-wyedd gan Dr. Larch MaxeyMynediad Am Ddim

1 – 6Mehefin

Gŵyl Ffilmiau Bae AbertaweGwledd o ffilmiau blynyddol Abertawe, rhai hir a byr o bob cwr o’rbyd. Am fanylion llawn ewch i www.swanseafilmfestival.com

Adrian Mitchell

Martin Daws

Rhaglen Lenyddiaeth

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 5

Page 6: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

6

DyddMawrth 9Mehefin

Enillwyr Gwobr Dylan ThomasRachel Trezise a Nam LeAr ôl dwy wobr lwyddiannus gwerth £60,000 yn 2006 a2008 rydym yn croesawu’r ddau enillydd - y ddau ynawduron storïau byrion - sef Rachel Tresize o’r Rhonddaa enillodd gyda Fresh Apples, a Nam Le a anwyd ynFietnam a enillodd y llynedd gyda The Boat. Mae’r ddau wedi mynd o nerth i nerth ersennill, ac mae Rachel ar fin cyhoeddi ei llyfr newydd gyda Harper Collins.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

DyddMercher 10Mehefin

On the Edge - wedi’i gyflwyno ganMichael Kelligan - LookWho’s Talking Now!Mae gwaith newydd a gwaith sy’n bodoli eisoes gan ddramodwyr o Gymruyn parhau gyda ‘The Strange Case of Dr.Jekyll & Mr.Hyde’ fel yr adroddwydi Carl Jung gan un o garcharorion Gwallgofdy Broadmoor gan Mark Ryan.Tocynnau: £3-00

Nos Iau 11Mehefin 7.30pmCerddi Gweld a Hedfan – Chris KinseyMewn cydweithrediad ag Achub Milgwn Cymru (GRW)ac Ysbyty Adar Gwyr. Bydd Chris Kinsey, Bardd Bywyd Gwyllt BBC yFlwyddyn 2008, yn cyflwyno casgliad o ‘gerddi cwn ac adar’ o’ichasgliadau Kung Fu Lullabies a Houndlove. Rhoddir yr holl elw iGRW ac Ysbyty Adar Gwyr.

Tocynnau: Pris Llawn £5.00 Consesiynau £4-00

Dydd Gwener 12Mehefin 1pm

Celf i Ginio - Rhai Artistiaid Naratif o Gymru – Keith BaylissSgwrs ddarluniadol anffurfiol gan yr artist o Abertawe,Keith Bayliss, sy’n archwilio gwaith artistiaid o Gymru y

mae eu gwaith yn arddangosnaratif barddonol personol,gan gynnwys Tony Goble,William Brown a Clive Hicks-Jenkins.

Tocynnau: ££55..0000 YYNN UUNNIIGGGGAANN GGYYNNNNWWYYSS ccaawwll aabbrreecchhddaann oo’’nn CCaaffffii//SSiioopp LLyyffrraauu!!

Chris Kinsey

MarkRyan

Rachel Trezise Nam Le

Mai - Awst 2009

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 6

Page 7: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

7

Nos Wener 12 Mehefin 7.30pm

Sain a Chynddaredd! Ffynhonnau Sanctaidd: Cymru, Ary Ffordd Phil Cope a FfynnonBydd yr awdur a’r ffotograffydd Phil Cope yn rhoi sgwrs ddarluniadolac yn darllen cerddi sy’n cyd-fyndâ’i lyfr o ddelweddau trawiadol oFfynhonnau Sanctaidd Cymru. Yngwmni iddo bydd y band Cymreigmawr eu clod, Ffynnon, a fyddhefyd yn perfformio set gyfan ynystod ail hanner y noson.

Tocynnau: Pris Llawn £9.00 Consesiynau £7.00

Nos Fawrth 16 Mehefin 7.30pmRough Diamonds 09 #1Am newid eich pryd a gwedd? Eich ffordd o fyw? Eich golwgar y byd cyfan? Dewch i Rough Diamonds 09, arddangosfa argyfer dramâu newydd gan ddarpar ddramodwyr PrifysgolAbertawe! Mae’r rhaglen hon dros ddwy noson yn cynnwysdramâu sy’n edrych ar fywyd o safbwynt pâr o Jacs uchel-geisiol Abertawe sydd am agor bar gwin a chelf, meddygifanc sy’n mynd ar goll ac yn cael ei hunan yn Fiji a stiward yterasau pêl-droed sydd wedi syrffedu ar ei waith ac sydd am gyrraedd adref heb gael eiddyrnu. Dyma’r drydedd flwyddyn y mae rhaglen Greadigol a Chyfryngau Prifysgol Abertawewedi ymuno â Chanolfan Dylan Thomas i gyflwyno detholiadau o waith myfyrwyr MA sy’ngraddio. Cymeradwywyd y ddau ddiwethaf gan gynulleidfaoedd ac mae rhai o’r dramâu syddwedi ymddangos wedi mynd ymlaen i gael cynyrchiadau proffesiynol hyd llawn. Perfformir ydarnau wrth ddal y sgript gan aelodau o Gwmni Theatr Fluellen, Abertawe, ac fe’u cyfar-wyddir gan y dramodydd D.J. Britton, darlithydd mewn ysgrifennu dramatig ym MhrifysgolAbertawe. Ymhlith awduron eleni mae Jude Brazier, Rebacca Carrington, Sarah Elliot,Catrin Howell, Louise Hinchen, Angela Hughes, Glynis Judge, Vanessa Macdonald, AndrewMiles, Matt Williams, Rachel Williams, a Casey Westlake, a rhai gwesteion annisgwyl. Tocynnau: £3 (Consesiwn myfyrwyr £2)

Nos Wener 19 Mehefin 7.00pm

Seventh Quarry a Darllen Barddoniaeth Gydag August Bover o Gatalonia a Kristine Doll o UDA. Ydiweddaraf mewn cyfres o ddarlleniadau a gyflwynir gangylchgrawn The Seventh Quarry, mewn cydweithrediad âCross-Cultural Communications, Efrog Newydd, gan eiolygydd, y bardd o Abertawe, Peter Thabbit Jones. Gydacherddoriaeth gan y canwr-cyfansoddwr Terry Clarke.Tocynnau: MYNEDIAD AM DDIM

“Mae gan Ffynnon ffordd swynol a hudol oddiweddaru caneuon traddodiadol...mae’r hen ganeuon yn cadw eu hurddas.”

The New York Times, 2003

“Cerddoriaeth werin Geltaidd goeth agwefreiddiol wedi’i thrwytho mewn jazz acyn cyfuno’r traddodiadol a’r arloesol.”

BBC Radio 2.

Kristine DollAugust Bover

Rhaglen Lenyddiaeth

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 7

Page 8: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

8

Dydd Sadwrn 20 Mehefin 1pm Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - The Vice gan Luigi PirandelloDrama gyntaf Pirandello. Darn hynod ddiddorol lle mae dyn yn wynebu’i wraig wedi iddoddarganfod ei bod yn caru ar y slei gyda’i gyfreithiwr.Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4

Nos Fawrth 23 Mehefin 7.30pmLansio Nu: Fiction and Stuff Mae dau amcan i’r fenter newydd Parthaidd hon, Nu: Fictionand Stuff. I ddechrau, mae Nu yn ceisio rhoi llwyfan i awduronifanc o genhedlaeth newydd i arddangos eu talent mewncyhoeddiad o safon, a’r nod o gyrraedd cynulleidfa mor eang âphosib. Yn ail, mae Nu yn ceisio ysbrydoli a chymell darparawduron i ddilyn eu syniadau a’u huchelgais. Bydd cenhedlaethnewydd o awduron yn creu cenhedlaeth o waith ysgrifennunewydd, a’r gobaith yw y bydd Nu yn darparu ysgogiad pwysigi’r broses honno o greu. Ymhlith y cyfranwyr mae’r awduron oAbertawe, Allan Kellermann, Susie Wild a Rebecca John,

yn ogystal â thraethawd ffoto gan Jonathan Morris, y mae ei arddangosfa Sgwâr yCastell i’w weld yn Oriel y Coridor yng Nghanolfan Dylan Thomas ar hyn o bryd.

MYNEDIAD A GWIN AM DDIM

Nos Iau 25 Mehefin 7.30pm

Poets in the Bookshop – gydag Ivy AlvarezGanwyd y bardd gwadd, Ivy Alvarez, yn Ynysoedd y Philipines, ei magu ynTasmania ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith wedi’igyhoeddi a’i berfformio’n helaeth, bu’n artist preswyl sawl gwaith acmae wedi ennill amrywiaeth o wobrau. Ei chasgliad llawn diweddarafyw Mortal (Gwasg Red Mortal). Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

Dydd Sadwrn 27 Mehefin 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - The Duck Variations gan David MametComedi gwych gan yr awdur o America, David Mamet, lle mae dau ddynoedrannus yn trafod hwyaid, y gyfraith, cyfeillgarwch a marwolaeth

Tocynnau: Full Price £5 Concessions £4

Nos Fawrth 30 Mehefin 7.30pm Rough Diamonds 09 #1Gweler tudalen 7 am fanylionTocynnau: £3 (Consesiwn i fyfyrwyr £2)

Ivy Alvarez

Mai - Awst 2009

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 8

Page 9: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

9

Nos Iau 2 Gorffennaf 7.30pm

Sain a Chynddaredd! Gwledd o farddoniaeth a cherddoriaeth gydabeirdd o Gymru, Samantha WynneRhydderch – (ei chasgliad mwyaf diweddaryw ‘Not in These Shoes’ (Picador); DamianWalford Davies – (daeth Suit of Lights oSeren yn 2009), a Tiffany Atkinson –(eichasgliad diweddaraf yw Kink and Particle(Seren). Gyda cherddoriaeth gan DylanFowler - mae Dylan yn gitarydd achyfansoddwr clodfawr sydd wedicydweithio gyda Richard a DannyThompson, yn ogystal â cherddorion oDwrci, y Ffindir a dwyrain Ewrop –“cerddoriaeth â chalon acenaid...penderfyniad i anwybyddu ffiniaucydnabyddedig” (BBC)Cynhyrchiad ar y cyd â Cegin Productions

Tickets: Pris Llawn £5.00 Consesiynau £3.50 PTL Abertawe £2.00

Dydd Gwener 10 Gorffennaf 1pm

Celf i Ginio - Cyfarwyddo Shakespeare gan Peter Richards Mae Peter Richards, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Fluellen wedi bod yngyfarwyddwr theatr am dri deg saith o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedicaffael cryn wybodaeth ymarferol ynghylch bywyd a dramâu Shakespeare wrth gyfarwyddocynyrchiadau ledled Ewrop. Bydd yn trafod heriau cyfieithu testun Shakespearaidd i’rllwyfan a sut mae ein hagweddau at ei ddramâu wedi newid dros y blynyddoedd.

Tocynnau: ££55..0000 YYNN UUNNIIGG GGAANN GGYYNNNNWWYYSS ccaawwll aa bbrreecchhddaann oo’’nn CCaaffffii//SSiioopp LLyyffrraauu!!

Dydd Iau 16 Gorffennaf

Poets in the Bookshop – gyda Cynthia KramanY bardd gwadd y mis hwn yw’r bardd o Efrog Newydd, CynthiaKraman, - canoloeswr a chanddi ddoethuriaeth o BrifysgolLlundain a chyn bync-rociwr gyda’r band o Seattle ChinasComidas! Ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi yw The Touch ganLyfrau Bowery – “Llyfr rhagorol, anghyffredin, ysgytiol,diysgog, cyfareddol, doniol iawn, wedi’i llunio’n berffaith.”(BobHolman). Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tickets: Pris Llawn £4.00 Consesiynau £2.80 PTL Abertawe £1.60

DamianWalfordDavies

DylanFowler

TiffanyAtkinson

SamanthaWynneRhyderch

Rhaglen Lenyddiaeth

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 9

Page 10: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

10

Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn -Warmley gydag Adrian Metcalfe a Rob MarshallCyfle arall i weld portread cynnes a theimladwy o gyfaill mawr Dylan Thomas pan oedd yn blentyn, ycyfansoddwr o Abertawe, Daniel Jones. Mae Jones yn hel atgofion yn ddiweddarach yn ei fywyd am ydyddiau cynnar, sefydlu'r ‘Warmley Broadcasting Corporation’, llwyddiant Dylan, a thristwch ei farwolaethgynnar yn y pen draw. Gyda'r pianydd o Abertawe, Rob, yn chwarae'r gwaith gwreiddiol gan Jones.

Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4

Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 1pmTheatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - John Tripp’s Tragic Cabaret wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Peter ReadAm fanylion gweler 23 Mai uchod.Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4

Dydd Sadwrn 8 Awst 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - A Beast, an An Angeland a Madman wedi’i gyflwyno gan Gwmni Theatr FluellenMae taith wib boblogaidd Fluellen am fywyd a gwaith Dylan Thomas yn dychwelyd, sy'ncynnwys geiriau Dylan a'r rhai a oedd yn ei adnabod, gyda cherddoriaeth fyw gan ydelynores Delyth Jenkins.Tocynnau: Pris Llawn £5; Consesiynau £4

Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sadwrn 8 Awst 1pm

Theatr Amser Cinio Dydd Sadwrn - Dylan Thomas yn America yn cynnwys Peter ReadAr ôl dros 100 o berfformiadau, mae Peter Read yn dychwelyd unwaith etogyda’i bortread anghyffredin, doniol iawn a theimladwy o ddirywiad arafDylan drwy gyfres o deithiau i UDA. Wedi ei addasu gan Gwynne Edwardso eiriau gwych Dylan ei hun, mae’r sioe hon wedi cael adolygiadau 5 serenyng Ngwyl Caeredin, ac wedi ymddangos yn Llundain ac Efrog Newydd.

Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4

Dydd Sadwrn 22 Awst 1pm

One State of Happiness: Dylan Thomas and Laugharne wedi’i gyflwyno gan Gwmni Theatr FluellenMae 2009 yn nodi chwe deg mlynedd ers i Dylan Thomas symudi’r Ty Cychod yn Nhalacharn. Mae ‘One State of Happiness’ yndaith drwy flynyddoedd olaf ei fywyd yn Nhalacharn yng ngeiriau Dylan, ei ffrindiau a’ideulu. Daw’r teitl o lythyr a ysgrifennwyd gan Dylan i’w gymwynaswraig a pherchennogy Ty Cychod, Margaret Taylor, lle mae’n disgrifio Talacharn fel a ganlyn - “the pubbedand churched, shopped, gulled, and estuaried one state of happiness”.

Tocynnau: Pris Llawn £5 Consesiynau £4

PeterRead

Mai - Awst 2009

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 10

Page 11: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

11

Digwyddiadau eraill, Cyrsiau, Gweithdai etc...Cynhelir digwyddiadau rheolaidd drwy gydol mis Mai a mis Mehefin yng NghanolfanCelfyddydau Pontardawe, gan gynnwys bardd gwadd misol /sesiwn meic agored ar ailddydd Iau y mis a Diwrnod Llenyddiaeth ar 31 Mai sy’n cynnwys Robert Minhinnick, LynneBarrett-Lee ac eraill. Am fanylion llawn ffoniwch ganolfan Celfyddydau Pontardawe �01792 863722 nue � [email protected]

Mae tymor llawn o ddigwyddiadau bob nos Lun o fis Mai i fis Medi yn Nhy Cychod DylanThomas yn Nhalacharn i ddathlu 60 mlynedd ers i Dylan a Caitlin Thomas symud i’r Ty �Cychod. Mae’r rhain yn cynnwys Aeronwy Thomas, y Fonesig Joan Bakewell, Dic Jones,Gillian Clarke a Catrin Dafydd. Am fanylion llawn ffoniwch � 01994 232726 neu� [email protected] neu ewch i www.dylanthomasboathouse.com

Digwyddiadau yn Aberteifi – Word Up! Yng nghaffi’r Castell yn Aberteifi bob dydd Iau cyntaf y mis, gydabardd gwadd a meic agored. E-bostiwch � [email protected] neu ffoniwch � 01559 370517.Hefyd cynhelir gweithdai a chyrsiau yng Nghanolfan Ceridwen – gweler www.ceridwencentre.co.uk

Nos Wener 8 Mai 6.30pm

Prifysgol Gogledd Carolina, Wilmington, UDA yn cyflwyno Dylan ThomasBydd myfyrwyr o’r Brifysgol sydd wedi bod yn rhan o raglen gyfnewid ag Abertawe yncyflwyno perfformiad o gerddi, storïau byrion, llythyrau cariad a detholiadau o ddramâu ganDylan sydd wedi eu hysbrydoli yn ystod eu cyfnod yn Abertawe. Bydd eu perfformiad yncanolbwyntio ar berseinedd ysgrifennu Dylan. MYNEDIAD AM DDIM

Dydd Sadwrn Mai 9 - 10am tan 4pm – Canolfan Dylan Thomas Abertawe

Diwrnod Perfformwyr - ar gyfer beirdd, cantorion, actorion ac athrawon.Bydd y bardd, y gantores opera a’r athrawes llais, Rona Campbell, yn cynnig diwrnod i‘anadlu bywyd i’ch perfformiad’ gydag ymarferion anadlu a thaflu’r llais, a bydd yn cynnwysiechyd, osgo, cyflwyno a dysgu heb boen! Tocynnau: £30 - I gadw lle neu am fwy o fanylionffoniwch Rona ar � 01978 312790, 07758 617660 neu � [email protected]

28 - 30 Mai Oriel Gelf Gyfoes, Capel Salem, Banc Bell, y Gelli

Jamborî Barddoniaeth y Gelli Gwledd wahanol o farddoniaeth 'arbrofol' sy'n ymwneud â'r brif wyl, yn cynnwys JohnJames, Wendy Mulford, Peter Finch, Zoe Skoulding, John Goodby, David Greenslade aceraill. Am fanylion llawn, e-bostiwch � [email protected]

Dydd Sadwrn/Dydd Sul 6 a 7 Mehefin - Canolfan Dylan Thomas, AbertaweYsgrifennu Barddoniaeth ar gyfer llyfrau a’r llwyfan gyda Peter Read a Rona CampbellMae’r awdur a’r actor Peter Read wedi ennill Gwobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafarac mae saith o’i ddramâu wedi eu perfformio’n broffesiynol ac mae wedi cyhoeddi daugasgliad o gerddi. Mae gwaith y bardd Rona Campbell wedi ei ganmol gan Ted Hughes a’iberfformio gan Placido Domingo. Mae hefyd yn gantores opera broffesiynol ac mae’n cynnaldosbarthiadau ar ddefnyddio’r llais.

Tocynnau: £60 - I gadw lle neu am fwy o fanylion, ffoniwch Peter ar � 07931 614180

Rhaglen Lenyddiaeth

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 11

Page 12: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas

12 Mai - Awst 2009

2164

3-09

Des

ignp

rint

Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’rhawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

Canolfan Dylan Thomas, Somerset Place, Abertawe SA1 1RR� 01792 463980 � www.dylanthomas.com � www.dylan-thomas-books.com � [email protected]

Photograffig: Ivy Alvarez – Rachel Duncan (Australia); 15 May – Zara Bird Wood; Adian Mitchell – David Sillitoe;Rachel Trezise – Huw John; Nam Le – Dylan Thomas Prize Ltd.

Arddangosfeydd yn Oriel y Coridor,Canolfan Dylan Thomas...6 Mai – 7 Mehefin

Cymundeb Lluniadau cyfrwng cymysg arbapur gan Penny Hallas

9 Mehefin - 5 Gorffennaf

Sgwâr y CastellFfotograffau gan Jonathan MorrisNu gan Parthian - antholeg o waith ysgrifennu newydd o Gymru a lansiwydyng Nghanolfan Dylan Thomas ar 23 Mehefin. Meddai Jonathan, “Rwyfwedi tynnu lluniau nid yn unig o lanciau yn Sgwâr y Castell Abertawe, ondrwyf hefyd wedi tynnu lluniau mwy personol, mwy ystyriol wrth ymweld â’ucartrefi. Mae wedi bod yn un o’m nodau hefyd i ddangos i’r cyhoedd ochrarall, mwy personol y llanciau sy’n defnyddio Sgwâr y Castell, gan fod gog-wydd negyddol bob amser i’r hyn y mae llanciau’n eu gwneud yng nghanol

y ddinas. Fy nod cyffredinol yw bod yn feirniadol ond yn gadarnhaol wrth eu cynrychioli.”

7 Gorffennaf - 2 Awst

The Holy Wells of Cornwalltaith ffotograffig gan Phil Cope.

4 Awst - 6 Medi

John Uzzell Edwards – Paentiadau NewyddMae’r sioe un dyn hon yn arddangosfa o’r paentiadau diweddaraf yng ‘Nghyfres yCwilt Cymreig’ gan John Uzzell Edwards sydd wedi’i arddangos yn helaeth. ‘Fellypam rwyf yn ymddiddori cymaint mewn cwiltiau a blancedi Cymreig? Fel bachgen adreuliodd ei blentyndod yng Nghwm Rhymni, fe’mmagwyd yn defnyddio’r rhain, ond dim ond yn ddiweddar ymae eu strwythur, amrywiaeth y defnyddiau a’r dewis oliwiau wedi fy rhyfeddu. Gwnaed cwiltiau yng Nghymruers diwedd y 18fed ganrif. Roeddent yn cyflawni’r angen

ymarferol am orchuddion gwelyau cynnes, ac roeddent yn ffurf gynnar oailgylchu dillad a oedd wedi treulio a samplau teilwriaid. Roeddent hefyd ynenghraifft o wniadwaith gorau'r cyfnod. Ond i mi maent gymaint yn fwy na hyn - maent yn rhan ofynegiant artistig ein cyndeidiau, ac felly'n rhan bwysig o'n diwylliant Cymreig.

Y DIWEDDARAF!

Dydd Mercher 3 Mehefin 7pm Canolfan Dylan

Thomas Bydd y bardd o Aberteifi, Simone Mansell

Broome yn lansio ei chasgliad newydd ‘Juice of the Lemon’.

MYNEDIAD AM DDIM A LLUNIAETH www.simonemb.com

21643-09 Dylan Programme W:Layout 1 22/4/09 10:11 Page 12