rhaglen canolfan dylan thomas

10

Upload: city-and-county-of-swansea

Post on 09-Mar-2016

246 views

Category:

Documents


6 download

DESCRIPTION

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi - Rhagfyr 2009

TRANSCRIPT

2 Medi - Rhagfyr 2009

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi - Rhagfyr 2009Fel arfer, uchafbwynt misoedd olaf y flwyddyn yw Gwyl DylanThomas (26 Hydref - 9 Tachwedd) sy’n dathlu ei deuddegfed pen-blwydd eleni.

Dylai’r rhaglen lawn fod ar gael tua diwedd mis Medi ond, cyn ac ar ôl yrwyl, bydd gennym ein cymysgedd arferol o ddigwyddiadau rheolaidd acunigol, gan gynnwys y gyfres darllen dramâu, Ar yr Ymyl, Caffi Gwyddoniaeth,Beirdd yn y Siop Lyfrau a’r gyfres Celfyddyd i Ginio ymhlith y digwyddiadau rheolaidd.Bydd digwyddiadau unigol yn cynnwys lansiadau a darlleniadau gan Parthian Books a’rcylchgronau Roundyhouse a Seventh Quarry. Os nad ydych ar ein rhestr e-bostio, cysylltwch â[email protected], ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadauychwanegol neu newidiadau i’n rhaglen ar gael ar ein gwefan www.dylanthomas.com

Nos Fercher 9 Medi 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi’i gyflwyno gan Michael KelliganY diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ ganddramodwyr cyfoes o Gymru, Dandelion gan Patrick Jones - Efallaibod y pum cymeriad hyn yn byw mewn hosbis, ond mae digon ofywyd, cariad ac ysbryd ganddynt o hyd. Gyda Michael Kelligan felEarnest. Wedi’i gyfarwyddo gan Allan Cook.

Tocynnau: £3.00

Dydd Gwener 11 Medi 1pm

Celfyddyd i GinioEin hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol!Holy Wells: Wales ... on the road yw teitl darlith/perfformiad newyddgan Phil Cope. Cyhoeddwyd ei lyfr Holy Wells: Wales, a photographicjourney gan Seren y llynedd, gyda chyflwyniad gan Jan Morris a cherddi

gan nifer o feirdd o Gymru, gan gynnwys R. SThomas, Rowan Williams a Gillian Clarke. Bu’rlluniau hyfryd yn destun arddangosfa yngNghanolfan Dylan Thomas ym mis Gorffennaf. Mae’r perfformiadhwn yn cynnwys storïau, mythau a cherddi, gyda chyfeiliant hudolgan Bronwen Thomas ar y delyn a’r sielo.

Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan

Dydd Sadwrn /dydd Sul 12-13 Medi

Ysgrifennu ar gyfer y Dudalen a’r LlwyfanGyda Peter Read a Rona Campbell – gweler Cyrsiau, tudalen 7 am fanylion llawn.

Patrick Jones

Bronwen Thomas

3

Nos Wener 18 Medi 7pm

10 mlynedd o RoundyhouseMae rhifyn yr hydref o’r cylchgrawnRoundyhouse yn dathlu barddoniaeth ganfenywod. Darlleniadau gan Ivy Alvarez,Catherine Fisher, Frances Presley a llawermwy o berfformwyr gwych. Ymunwch â chriwRoundyhouse, Alexandra Trowbridge-Matthews, Phil Carradice, Sally Roberts-Jones a BrianSmith, am y cyntaf o’r achlysuron i ddathlu’n 10fed pen-blwydd! Bydd sesiwn meic agored.

Tickets: Mynediad Am Ddim

Nos Fercher 23 Ionawr 7.30pm

Theatr PlayhousePedair drama hanner awr gan ddramodwyr lleol, gan gyflwyno - Slammed gan AlexJames, Around the Block gan Caroline James, The Vampyres gan Margaret Hembrow aMurdering Shakespeare (or What you Kill) gan Kevin Johnson.

Tocynnau: £4.00, £3.00

Nos Iau 24 Medi 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Peter DaleDarllenydd gwadd y mis yw Peter Dale, bardd, cyhoeddwr achyfieithydd profiadol iawn. Symudodd Peter i Gaerdydd yn 2008 ac, ynddiweddar, cyhoeddwyd Local Habitation (Gwasg Anvil), ei gasgliadcyntaf ers 2002. Sesiwn meic agored arferol hefyd.

Tocynnau: Pris Llawn - £4; Consesiynau - £2.80; PTL Abertawe - £1.40

Dydd Sadwrn 26 Medi 10am - 4pm

Along the ShorelineGweithdy barddoniaeth gydag Angela Morton. Gweler cyrsiau, tudalen 7 am fanylion llawn.

Nos Fercher 30 Medi 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ Dr. Dan Forman – Moch Daear a TB.Tocynnau: Mynediad Am Ddim

Nos Iau 1 Hydref 7pm

Lansio Llyfr – Vicar Joe’s Religious Joke Book gan Kevin John a Peter ReadYn dilyn llwyddiant dramâu Peter, Toshack or Me a To Hull and Back ynTheatr y Grand, Abertawe, mae Peter, Kev a Joe wedi dod at ei gilydd igreu’r casgliad hwn o jôcs a sylwadau crefyddol a ffraeth! Peidiwch âcholli dychweliad Joe i Theatr y Grand ym mis Tachwedd/Rhagfyr yn VicarJoe’s No, No Nativity!Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Gwasg y Lolfa

Catherine FisherFrances PresleyIvy Alvarez

Peter Dale

Rhaglen Lenyddiaeth

Nos Fercher 7 Hydref 7pm

Lansiad gan Parthian – Landeg White a Jeni WilliamsMae Landeg White yn lansio ei wythfed gasgliad o gerddi,Singing Bass, a bydd y bardd o Abertawe, Jeni Williams, ynlansio Being the Famous Ones yma’n gyntaf.Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediadâ Parthian Books

Dydd Gwener 9 Hydref 1pm

Celfyddyd i GinioEin hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargenddiwylliannol! Bydd y ffotograffydd o Abertawe, BernardMitchell, sy’n adnabyddus am ei ddelweddau o awduron acartistiaid, yn cyflwyno Photographing People, sgwrs

ddarluniadol am ei anturiaethau wrth dynnu lluniau amrywiaeth eang o bobl -o boblenwog i feirdd ac arlunwyr a’r dyn a’r fenyw yn y stryd!

Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan

Nos Wener 9 Hydref 7pm

Eric Maddern - What the Bees Know Mae Eric, sy’n storïwr ac yn gerddor ac yn cadw gwenyn ei hunan, yncyflwyno perfformiad heriol am y salwch sy’n effeithio arnom a’r hyn aallai ein hiacháu. Drwy gyfuno ei ganeuon pwerus ei hun, storïau llawndoethineb diamser, cerddi, proffwydoliaeth ynghyd â sgyrsiau â gwenyn, mae Eric ynllwyddo i gyrraedd hanfod y broblem mewn modd ysgafn. Mae’n datgelu bod rhaid i bawbddysgu gwybodaeth y gwenyn os ydym i ‘gymryd y cam mwyaf erioed ar gyfer ein heneidiau’ac ymgymryd â her y cyfnod tyngedfennol hwn. Mae’r sioe yn emosiynol, yn ysgogol, weithiau’nddoniol ac yn aml yn procio’r meddwl. Mewn cydweithrediad â Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe.

Tocynnau: £6.00; £4.00 Consesiynau

Nos Iau 15 Hydref 7pm

Lansio llyfr – Gower – Nigel Jenkins a David Pearl Dynodwyd Penrhyn Gwyr yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’gyntaf Prydain fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n lle arbennig iawn ilawer o bobl. Mae Gower yn dathlu’r arfordir eiconig hwn mewn cyfrolfoethus. Mae Nigel Jenkins yn archwilio’n fanwl i hanes ei fro frodorol

drwy gyfres o draethodau byr sy’n cyfuno darnau doniol â gemau llenyddol, a’r cyfan yn creucyfrol swynol, bersonol a hawdd ei darllen. Mae’n llawn delweddau gwefreiddiol sy’n portreaduagweddau annisgwyl ar Benrhyn Gwyr. Mae lluniau David Pearl yn llawn ansawdd, dyfndera deallusrwydd llygad y ffotograffydd. Yn debyg i eiriau Nigel, maent yn annerch y darllenyddmewn ffordd gyfeillgar ac uniongyrchol, gan gyfleu gwir natur Gwyr yn ei holl ogoniant.

Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim. Mewn cydweithrediad â Gwasg Gomer.

4 Medi - Rhagfyr 2009

Eric Maddern

5

Nos Wener 16 Hydref 7pm

The Seventh Quarry

Mae’r cylchgrawn barddoniaeth Abertawe, wedi’i olygugan y bardd o Abertawe Peter Thabit Jones, yncyflwyno Noson o Gerddi o America, gyda Sultan Cattoac Aleksey Dayen. Bydd Peter Thabit Jones hefyd yncyflwyno caneuon gan Terry Clarke. Cydweithrediad rhwng The Seventh Quarry a Cross-Cultural Communications, Efrog Newydd.

Tocynnau: Mynediad Am Ddim

Nos Fercher 21 Hydref 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ Dr John Emsley, Prifysgol Caergrawnt - Better Looking,Better Living, Better Loving - dan nawdd Gymdeithas Frenhinol CemegTocynnau: : Mynediad Am Ddim

Nos Iau 22 Hydref 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Paul HenryBardd gwadd y mis yw Paul Henry o Gasnewydd, sydd wedi cyhoeddipum casgliad, a’r diweddaraf yw Ingrid’s Husband gan Seren.

Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

27 Hydref - 9 Tachwedd

Deuddegfed Ŵyl Flynyddol Dylan ThomasAm fanylion llawn, gweler Llyfryn yr Wyl ar wahân neu ewch i www.dylanthomas.com

Dydd Gwener 13 Tachwedd

Celfyddyd i GinioEin hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargen ddiwylliannol! Mae’r bardd,cyfieithydd a darlithydd o Abertawe, Malcolm Parr, yn cyflwyno sgwrs ddarluniadol amyr artist penigamp, enigmatig ac unigryw, Stanley Spencer.

Tocynnau: £5.00 for a 45 minute talk, includes soup and a sandwich

Nos Fercher 18 Tachwedd 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi ei gyflwyno gan Michael KelliganY diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ ganddramodwyr cyfoes o Gymru, Straight Talk - drama newydd gan DanAnthony. Mae plismon a’i hysbyswr yn cwrdd ar fainc parc. Mae’rplismon yn cael ei ddenu i fyd hudol lle mae’r llinell rhwng ffaith achelwydd yn pylu ac mae ei freuddwyd (i fod yn blismon da) yn cael eigwireddu. Wedi ei gyfarwyddo gan Simon West.

Tocynnau: £3.00

Aleksey DayenSultan Catto

Paul Henry

Simon West

Rhaglen Lenyddiaeth

6 Medi - Rhagfyr 2009

Nos Fercher 25 Tachwedd 7.30pm

Caffi Gwyddoniaeth ~ I’w gadarnhauTocynnau: Mynediad Am Ddim

Nos Iau 26 Tachwedd 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - Anna LewisBardd gwadd y mis yw Anna Lewis. Mae cerddi Anna wedi ymddangosmewn llawer o gylchgronau, gan gynnwys Poetry Wales a’r New WelshReview, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr a bwrsari. Bydd eichasgliad cyntaf yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

Nos Wener 27 Tachwedd 7.30pm

The Shoe Shine gan Richard LloydDrama un act newydd, wedi’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan Richard Lloyd o Abertawe,sydd hefyd yn un o’r tri actor, ynghyd â Julie-Anne Grey a Rob Stradline. Mae’r ddramaddiddorol hon yn son am bâr newydd briodi sy’n cael cyfarfod buddiol gyda rhywun âsylwadau doeth am y byd. Wedi’i chyfarwyddo gan Steve Grey.Tocynnau: £3.00

Nos Iau 3 Rhagfyr 7pm

Digwyddiad er budd y Sefydliad MeddygolDigwyddiad celfyddydol blynyddol i gynyddu ymwybyddiaeth am yr elusen bwysig hon.

Am fwy o fanylion, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01792 701588

Nos Wener 4 Rhagfyr 7pm

Dylan Thomas yng Nghymru - Prosiect Myfyrwyr o America ar Daith

Seminar llenyddol 12 wythnos yw Dylan Thomas yngNghymru a ddarperir gan Knox College (Illinois, America)mewn cydweithrediad a’r Carl Sandburg Birthplace(America), y cylchgrawn barddoniaeth o Abertawe, TheSeventh Quarry (Cymru), Cross-Cultural Communications(Efrog Newydd) a Chanolfan Ryngwladol Cymru (EfrogNewydd). Yn yr UD bydd y myfyrwyr yn astudio bywyd agwaith llenyddol Dylan Thomas. Yng Nghymru byddant ynastudio effaith hanes naturiol a deinamig diwylliannolCymru ar waith y llenor. I lansio’r prosiect newydd a chyffrous hwn, bydd y bardd oAmerica, Robin Metz, a’r bardd o Abertawe, Peter Thabit Jones, yn darllen rhai o’u cerddia siarad am y prosiect. Bydd y canwr-gyfansoddwr o Abertawe, Terry Clarke, ynperfformio caneuon am Dylan Thomas hefyd.

Tocynnau: Mynediad Am Ddim

Anna Lewis

Robin Metz Peter Thabit Jones

7

Nos Fercher 9 Rhagfyr 7.30pm

Ar yr Ymyl - wedi’i gyflwyno gan Michael KelliganY diweddaraf yn ein cyfres o berfformiadau ‘darllen o’r sgript’ ganddramodwyr cyfoes o Gymru, A Marriage of Convenience gan IanRowlands. Yn sgil cynyrchiadau Michael Kelligan o Blue Heron in theWomb a Blink, mae’r cyfarwyddwr Gareth Potter yn dychwelyd at yddrama arobryn hon y bu’n perfformio’r rhan o Rowland, y dyn ifancchwilgar, ynddi’n wreiddiol. Tocynnau: £3.00

Dydd Gwener 11 Rhagfyr

Celfyddyd i GinioEin hachlysur misol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am fargenddiwylliannol! Yn dilyn ei sgwrs hynod lwyddiannus ym misGorffennaf, mae’r actor a chyfarwyddwr, Peter Richards o GwmniTheatr Fluellen, yn cyflwyno Directing Shakespeare - Act Two!

Tocynnau: £5.00 am sgwrs 45 munud, gan gynnwys cawl a brechdan

Nos Iau 17 Rhagfyr 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau - John BarnieBardd gwadd y mis yw John Barnie o Aberystwyth, bardd, ysgrifennwrrhyddiaith, beirniad a chyn olygydd y cylchgrawn Planet. Enillodd casgliaddiwethaf John, Trouble in Heaven, le ar restr hir Llyfr y Flwyddyn Cymru 2008.

Tocynnau: Pris Llawn £4, Consesiynau £2.80, PTL Abertawe £1.40

CYRSIAU yng Nghanolfan Dylan ThomasDydd Sadwrn/Dydd Sul 12 a 13 Medi - Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Ysgrifennu Barddoniaeth ar gyfer y dudalen a’r llwyfan gyda Peter Read a Rona CampbellMae Peter wedi ennill Gwobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar. Mae saith o’i ddramâu wedieu perfformio’n broffesiynol ac mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o gerddi. Mae gwaith y barddRona Campbell, enillydd Gwobr Arvon, wedi ei ganmol gan Ted Hughes a’i berfformio gan PlacidoDomingo. Mae’n gantores opera broffesiynol ac mae’n cynnal dosbarthiadau ar ddefnyddio’r llais.

Tocynnau: £60 - I gadw lle neu i gael mwy o fanylion, ffoniwch Peter ar 07931 614180

Dydd Sadwrn 26 Medi 10am - 4pm

Along the Shoreline - Gweithdy Barddoniaeth gydag Angela MortonDiwrnod o ysbrydoliaeth, myfyrio ac ysgrifennu sydd â’r nod o’ch helpu i ddarganfod eich ‘traethlin’eich hun ac ymateb iddo, i ysgrifennu’n farddonol am yr hyn sy’n digwydd ar ymylon eich profiad.Mae Angela Morton wedi cyhoeddi llawer o gerddi, gan gynnwys un casgliad cyflawn, ac mae wediarwain nifer o weithdai mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae’r gweithdy hwn yn croesawuysgrifenwyr newydd a phrofiadol. Dylech gadw lle ymlaen llaw gan fod lleoedd yn gyfyngedig i 12.

Tocynnau: £10.00

Gareth Potter

JohnBarnie

PeterRichards

Rhaglen Lenyddiaeth

8 Medi - Rhagfyr 2009

10 a 17 Hydref a 14 ac 28 Tachwedd

Dosbarth Meistr Canu i Berfformwyr - Rona CampbellBydd cantorion yn gweithio gyda Ms Campbell mewn gwyr ac, yn y prynhawn, bydd cyfleiddynt berfformio o flaen cynulleidfa mewn awyrgylch dosbarth meistr anffurfiol. Dewchâ’ch cyfeillion a’ch tiwtoriaid cerdd. Bydd Ms Campbell yn gweithio ar eich perfformiad,eich dehongliad, osgo eich corff a’ch techneg. I fanteisio i’r eithaf ar y dosbarth hwn,dylech fod yn gyfarwydd â’ch geiriau a’ch cerddoriaeth, beth bynnag fo eich dull o ganu –boed hwnnw’n ganu poblogaidd, clasurol, caneuon neu gabaret. Os ydych yn paratoi amglyweliad, gradd mewn cerddoriaeth, arholiad Safon Uwch neu TGAU, neu’n mwynhaucanu er ei fwyn ei hun, mae croeso i bawb. Dylai cantorion baratoi detholiad o ganeuon ibara 15 munud ar y mwyaf. Dylech ddewis dull o gerddoriaeth sy’n gweddu i’ch llais.Anfonwch ddau lungopi at Ms Campbell o leiaf pythefnos cyn eich dosbarth. 

Rona Campbell oedd prif soprano gydag Opera Metropolitana de Caracas, Venezuela, acmae wedi astudio gydag Alfredo Hollander o Opera Gwladol Vienna a Gerald Davies yngNghymru. Bu’n chwarae nifer o rannau, gan gynnwys Rosalinder yn Die Fledermaus,Susanna yn Le Nozze di Figaro, y Spinster yn Lord Byron’s Love Letters, y Bartered Bride,ynghyd â rhannau yn Gianni Schicchi a Hansel and Gretel. Mae’n arbenigo mewnailhyfforddi’r llais canu sydd wedi ei niweidio ac, yn ddiweddar, ymddeolodd fel PennaethAstudiaethau Lleisiol Gwasanaethau Cerdd Wrecsam. Mae ganddi brofiad o ganeuon acoratorios Seisnig, Bach, Mozart, Britten, Vaughan Williams a sioeau cerdd. Tocynnau: £30.00 y diwrnod. Am fwy o fanylion – [email protected] neu ffoniwch 01978 312790/07758 16660

Siop Lyfrau Cover to Cover, Y Mwmbwls. Digwyddiadau dathlu’r degfed ben-plwydd:Dydd Mercher 12 Awst, 12.30pm yn Cover to Cover

Bydd Griff Rhys Jones yn arwyddo copïau o RiversEi lyfr newydd sy’n cyd-fynd a’i gyfres ar BBC, River Journeys.

Tocynnau: Mynediad Am Ddim. Cysylltwch â Cover to Cover osnad oes modd i chi fod yn bresennol ond hoffech gael copi wedi’i arwyddo.

Nos Wener 11 Medi, 7.30pm yng Nghaffi Surfside, Caswell

Joe DunthorneBydd Joe yn darllen o’i lyfr cyntaf hynod ddoniol, Submarine.Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’r llyfr wedi cael ei gyfieithu i chweiaith ac mae ffilm yn cael ei chynhyrchu gyda Michael Sheen ynactio ynddi a Ben Stiller yn gynhyrchydd gweithredol.Cerddoriaeth gan y gitarydd lleol, Simon Parton.

Tocynnau: £2 ar gael gan Cover to Cover. Ad-delir pris y tocyn i’rrhai sy’n prynu’r llyfr

Griff Rhys Jones

Joe Dunthorne

9

Dydd Sul 20 Medi, 2.00-4.00pm yng Nghanolfan Ostreme

Julia Donaldson a’r arlunydd Axel Scheffler yn arywddo eu llyfrBydd Julia Donaldson a’r arlunydd Axel Scheffler - y ddau yn boblogaidd iawn ym mydllyfrau darluniadol i blant - yn arwyddo copïau o’u llyfr newydd Tabby McTat ar eu hunigymweliad â Chymru eleni. Mae croeso i blant ddod â’u cathod meddal eu hunain i wneudi Tabby deimlo’n gartrefol. Yn ogystal, bydd ymddangosiad arbennig gan y Gruffalo sy’ndathlu ei ddegfed pen-blwydd hefyd.

Tocynnau: Mynediad am ddim. I archebu copi o’r llyfr am y pris arbennig o £8.99, cysylltwchâ Cover to Cover. Bydd llyfrau heb eu harchebu ar gael ar y diwrnod am y pris arferol o £10.99.

Am fanylion pellach, cysylltwch â: Cover to Cover, 58 Heol Newton, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4BQ 01792 366363 www.cover-to-cover.co.uk [email protected]

Digwyddiadau eraill, Cyrsiau, Gweithdai etc...Mae tymor llawn o ddigwyddiadau bob nos Lun drwy gydol mis Medi yn Nhy Cwch DylanThomas yn Nhalacharn i ddathlu 60 mlynedd ers i Dylan a Caitlin Thomas symud i’r TyCwch. Am fanylion llawn, ffoniwch 01994 232726 neu [email protected] neu ewch i www.dylanthomasboathouse.com

Digwyddiadau yng Ngheredigion - Mae Word Up! yn digwydd bob nos Iau cyntaf y mis yngNghaffi’r Castell yng Ngheredigion, gyda bardd gwadd a sesiwn meic agored. E-bostiwch [email protected] 01559 370517. Hefyd cynhelir gweithdai a chyrsiauyng Nghanolfan Ceridwen - gweler www.ceridwencentre.co.uk

Arddangosfeydd yn Oriel y Coridor, Canolfan Dylan Thomas7 - 20 Medi

Bear Hunt a Jack in a Box Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn cyflwynoarddangosfa Dechrau Da a Dechrau’n Deg offotograffau gan ddisgyblion ysgolion Waun Wen aTownhill, yn deillio o ddau brosiect gwahanol.

21 Medi - 4 Hydref

All the Colours of LightArddangosfa o waith plant a ysbrydolwyd gan yr Artist Mary LloydJones, i gyd-fynd â lansio llyfr a phecyn athrawon newydd am waithyr artist gan Carolyn Davies a Lynne Bebb.

Am fwy o wybodaeth am arddangosfeydd eraill mis Hydref a misTachwedd, gweler llyfryn Gŵyl Dylan Thomas.

Rhaglen Lenyddiaeth

10 Medi - Rhagfyr 2009

Arddangosfeydd parhad...5 - 18 Hydref

Teithiau arddangosfa o waith gan ddisgyblionpedair ysgol gynradd yn SirGaerfyrddin a fu’n gweithio gyda’rartist Keith Bayliss a’r bardd PeterRead. Mae’r disgyblion wedi creucerddi, rhyddiaith, paentiadau,argraffiadau a cherfluniaeth, sy’narchwilio themâu a ysbrydolwyd gan yrartistiaid Tony Goble a William Brown.

1 Rhagfyr - mis Ionawr 2010

Cherry Pickles Paentiadau o Weriniaeth Dominica.

2247

7-09

Des

ignp

rint

Gwneir pob ymdrech i sichau bod y manylion yn yrhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a SirAbertawe yn cadw’r hawl i newid unrhyw ran o’rrhaglen hon heb rybudd.

Canolfan Dylan ThomasSomerset Place, Abertawe SA1 1RR

01792 463980

www.dylanthomas.com

www.dylan-thomas-books.com

[email protected]

FABIAN

Ù

Ù

ÙNCP

SAINSBURYS

SWANSEAMUSUEM

TESCO

CivicCentre

Marina

ÙTO M4J45Parc Tawe

BUS STATION

Plantasia

Castle

CastleSquare

DylanThomasCentre

DylanThomasTheatre

H.M. PRISON

GrandTheatre

MANSELL ST

ALEX

THE KINGSWAY

O

RCHA

RD S

STRAND ROW

WATERFRONTMUSUEM

WATERFRONTMUSUEM

VICTORIA ROAD

QUAY

PA

RADE

HIGH STREET CASTLE ST WIND ST

OXFORD STREET

ST MARY’S ST

WEST WAY

PRINCESS WAY

SOMERSET PLACE

TERMOUTH ROAD

hybu llên literature promotionCYNGOR LLYFRAU CYMRUWELSH BOOKS COUNCIL

Cefnogir gan: