y selar - mehefin 09

24
RHIFYN 18 . MEHEFIN . 2009 RH RH IF IF F I YN YN YN Y 1 18 8 8 8 . . . ME E E E ME ME ME ME M HE H H H H H H H H H H H H I I I I I FIN N N N . . 20 20 009 09 09 9 9 09 9 9 9 9 9 y Selar AM DDIM GWYLIAU’R HAF MR HUW CLINIGOL SIOPAU RECORDIAU ANNIBYNNOL ...A LLAWER MWY! HUWM

Upload: y-selar

Post on 22-Mar-2016

260 views

Category:

Documents


11 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn yn trin a thrafod y Sin Roc Gymraeg!

TRANSCRIPT

Page 1: Y Selar - Mehefin 09

RHIF

YN

18

. M

EHEF

IN .

20

09

RHRHRIFIFFI

YN

YN

YN

Y 11

8

8

8

8. . .M

EEEEM

EM

EM

EM

EM

HE

HHHHHHHHHHHHHHIIIIIFIN

N

NN

. . 20

200

09

09

0999

0999999

y Selar AMDDIM

GWYLIAU’R HAF

MR HUW

CLINIGOL

SIOPAU RECORDIAU ANNIBYNNOL

...A LLAWER MWY!HUWMtemplateyselar.indd 1templateyselar.indd 1 20/5/09 09:31:3320/5/09 09:31:33

Page 2: Y Selar - Mehefin 09

templateyselar.indd 2templateyselar.indd 2 20/5/09 09:32:0620/5/09 09:32:06

Page 3: Y Selar - Mehefin 09

Ariennir Y Selar gan grant Cyngor Llyfrau Cymru. Argraffwyd gan Y Lolfa.Rhybudd - Defnyddir iaith gref mewn mannau, ac iaith anweddus mewn mannau eraill yn Y Selar.

3

4

12

18

CLINIGOL

DAU I’W DILYN

MR HUWG

OLY

GY

DD

OL

8

y SelarRHIFYN 18 . MEHEFIN . 2009

HU

W M

I gyfi eithu geiriau enwog y Gorky’s Zygotic Mynci,

wel tydi hi’n ddiwrnod braf. Ac ma’i wastad yn

ddiwrnod braf pan mae rhywun yn cael eu bachau

bach blewog ar gopi newydd sgleiniog o’r Selar

yn tydi. Allwn ni ddim sicrhau y bydd yr haul yn

tywynnu tu allan, ond da ni’n sicr fod yr haul

yn tywynnu ar eich bywyd pan fyddwch chi’n

mwynhau pawennu trwy dudalennau’r cylchgrawn

hwn.

Mae ‘na thema o ryw fath i’r rhifyn hwn o’ch hoff

gylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg ... wel, mwy o

enw amlwg na thema erbyn meddwl. Hoff enw’r

Selar ar hyn o bryd ydy ‘Huw’. Ma’r cloriau ma’n

llawn dop o Huwiaid - mr huw, Huw M, a hyd yn oed

cyfraniad bach gan dduw’r tonfeddi radio ... Huw

Stephens.

Ta waeth, mae’r rhifyn hwn hefyd wedi ei gyhoeddi

mewn pryd i ‘Steddfod yr Urdd, sy’n golygu ei bod

hi’n ddechrau tymor gwyliau’r haf, ac yn hynny

o beth mae gennym ni ddetholiad o’r gwyliau

cerddorol y dyle chi eu mynychu eleni. Mae ‘na

lwythi o stwff arall hefyd, felly bwrw’ch mewn iddi’n

hytrach na gwastraffu rhagor o amser yn darllen y

siarad wast ‘ma ... a chofi wch, ni ellir bwyta’r wy cyn

ei ddodwy!

OWAIN S

GolygyddOwain Schiavone ([email protected])

DylunyddDylunio GraffEG(elgangriffi [email protected])

MARCHNATAEllen Davies([email protected])

CyfranwyrHuw Stephens, Emyr Glyn Williams, Ian Cottrell, Toni Schiavone, Dewi Snelson, Aled Ifan, Lowri Johnston, Hefi n Jones, Leusa Ffl ur, Lisa Gwilym, Mari Løvgreen, Gwilym Morus

templateyselar.indd 3templateyselar.indd 3 20/5/09 10:06:2020/5/09 10:06:20

Page 4: Y Selar - Mehefin 09

4 myspace.com/ymrhuw

... ac wedi recordio albwm newydd. Ydy wir, mae’r gwir amharchus mr huw, neu Huw Owen gynt o Kentucky AFC a’r Cacan Wy Experience, wedi rhyddhau ei ail albwm stiwdio, Hud a Llefrith. Fel ei gynnig cyntaf, Llond Lle o Hwrs a Lladron, mae’r albwm newydd yr un mor ffraeth ac yn llawn hiwmor tywyll. Aeth Y Selar i gwrdd â Huw ...

Rhyddhawyd Llond Lle o Hwrs a Lladron yn swyddogol yn haf 2007. Dwi’n deud ‘swyddogol’ gan fod fersiwn bras o’r albwm, a recordiwyd yn ei gartref gan Huw ei hun, wedi bod yn hofran o gwmpas ers peth amser cyn i Rasal/Copa gymryd y prosiect ymlaen yn fasnachol. Efallai fod hyn yn enghraifft arall o bersonoliaeth anghonfensiynol Huw Owen, oherwydd gellid dweud heb amheuaeth fod ei gerddoriaeth yn wahanol iawn i unrhyw beth arall a geir o fewn y sin Gymraeg ar hyn o bryd … ac efallai gwahanol i unrhyw beth a gafwyd erioed.

Felly, wrth i’r ail albwm gyrraedd y siopau, i ba raddau mae cerddoriaeth mr huw wedi datblygu yn ystod y ddwy fl ynedd ddiwethaf? “Mae o wedi

newid o ran sw^ n yn bendant.” meddai Huw, “Ond o ran fy agwedd tuag ata fo, di hynna ddim wedi newid o gwbwl. Dwi dal i recordio yn yr un ffordd jyst bod gennai fwy o deganau i recordio â nhw erbyn hyn. Odd ‘Llond lle...’ ddim wedi ei recordio efo neud albwm mewn golwg. Dwi jyst yn hoff iawn o recordio cerddoriaeth. Digwydd bod o’n i wedi casglu digon o ganeuon a ges i gynnig eu rhyddhau ar ffurf albwm, neu ‘casgliad o ganeuon gan yr un person’ fel dwi’n licio meddwl amdano fo.”

Mae Huw yn rhoi’r argraff mae trwy ddamwain y gwnaeth o ryddhau ei albwm cyntaf, ond does dim byd yn ddamweiniol am ei gyfansoddi - dyma gerddor sy’n amlwg wedi gweithio’n galed ar ei grefft ac erbyn hyn wedi darganfod ei niche. “Dwi’n ffan o recordio mewn ffordd eitha amrwd, dwi’m yn un sy’n licio petha efo gormod o sglein arnynt. Mae cael y band tu ôl i fi wedi effeithio rhywfaint ar y ffordd ma’r record newydd yn swnio hefyd.” Er bod yr albwm newydd yn cyd-fynd â naws lo-fi y cyntaf, yn sicr mae yna sw^ n llawnach a llawer yn fwy aeddfed iddi.

Un agwedd sy’n sicr yn parhau yn ei gerddoriaeth yw’r hiwmor unigryw, sydd wedi cymryd twist tywyllach ar Hud a Llefrith. “Mae o fwy tywyll ond ma ‘Llond lle o Hwrs a Lladron’ efo’i adegau tywyll hefyd. Dwi’m yn cysidro bod be dwi’n neud na deud yn ‘agos i’r asgwrn’ o gwbwl. Ella na jyst deud petha mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r rhan fwyaf o bobol ydw i, dwnim.” Er nid at ddant pawb mae’n siw^ r, mae themâu ei ganeuon yn chwa o awyr iach yn y sin “Ma na gymaint o gachu a chelwydd yn dod allan o gegau rhai pobol mae o’n anhygoel. Well gin i fod yn onest am wn i a deud fy nweud ma siw^ r. Dwi’n licio deud storïau a ma na wirionedd ym mhob cân, ella wedi’i

“ MA NA GYMAINT O

GACHU A CHELWYDD YN

DOD ALLAN O GEGAU

RHAI POBOL MAE O’N

ANHYGOEL.

guddio ar adegau, a ddim dro arall.”Oes wir, mae ‘na storïau yng

ngherddoriaeth mr huw, ond oes yna gymeriadau a storïau go iawn yn cuddio yno? “Oes, ond tydi’r bobl yna ddim yn gwbod na amdanyn nhw ma’r gân chwaith, dio’m yn rwbath nai weiddi allan. Ma chydig o ddirgelwch yn mynd yn bell. Ambell dro fi ydi’r person dan sylw, a weithia dwi jyst isho cuddio tu ôl i rywbeth neu guddio rhywun dwi’n nabod tu ôl i gymeriad arall.”

Er y bydd llawer yn gweld geiriau caneuon Hud a Llefrith yn dywyll iawn, ac efallai hyd yn oed yn frawychus ar adegau, mae’r gerddoriaeth ei hun yn wrthgyferbyniad llwyr. Mae’r alawon yn fywiog, sionc a hapus – gall un ddarganfod ei hun yn canu’n llon ‘ma gen i ffrind gorau marw, ma di marw’ neu ‘mi nath i chdi betha drwg, drwg, drwg yn dy gwsg’ ar hap yn

MR HUW,MR HUW,MA NHW’N DEUD DY FOD TI’N FYW

templateyselar.indd 4templateyselar.indd 4 20/5/09 10:06:3120/5/09 10:06:31

Page 5: Y Selar - Mehefin 09

5

cyfweliad: mrhuw

“ DWI’M YN UN SY’N LICIO PETHA EFO

GORMOD O SGLEIN ARNYNT

ystod y dydd. Ydy’r gwrthgyferbyniad hwn yn un bwriadol? “Does na’m byd yn fwriadol pan dwi’n chwarae neu recordio cerddoriaeth. Ella na jyst fy mhersonoliaeth sy’n dod allan - mae o jyst yn digwydd. Dwi erioed wedi meddwl pan ma gen i ddarn o gerddoriaeth ysgafn neu fywiog, i ysgrifennu geiriau tywyll neu beth bynnag tisho’i alw o i fynd efo fo.”

Mae’r caneuon yn sicr yn radio friendly dros ben, yn fyr (pob un yn llai na thair munud o hyd) a bachog, ond di rhywun ddim yn dychmygu y bydd Jonsi a Nia yn chwarae rhyw lawer ar y traciau – yn sicr fydd ‘na ddim lot o alw ar ‘Ar Eich Cais’! “Di fawr o bwys gen i os gawn nhw eu chwarae ar y radio neu ddim. Dwi’m yn mynd i newid be dwi’n neud jyst er mwyn ella cael fy chwarae ‘chydig mwy ar y radio. Byswn i dal yn neud be dwi’n neud os bysa neb yn rhoi fy CDs allan neu neb yn eu prynu nhw. Sbia di ar albyms gen fandiau mawr fel petai – tair neu bedair cân sydd yn cael eu dewis ar gyfer senglau, sef y caneuon ar gyfer radio, ond am ryw reswm yng Nghymru ma pobl, neu’r ‘goruwch bwerau’ ella, yn gobeithio fod pob cân yn addas ar gyfer radio. Caneuon + radio = arian”

Rhywbeth arall sy’n gyson yn natur Huw ydy ei brysurdeb pan mae’n dod i deithio’r wlad i berfformio’n fyw, ac roedd yr un peth yn wir am Kentucky AFC, felly mae rhywun yn cael yr argraff ei fod yn mwynhau gigio. “Mae perfformio’n fyw yn bwysig iawn i mi. Dydy o byth yr un fath ddwywaith ac mae pob tro’n brofi ad. O’n i’n arfer gneud gigs ar ben fy hun ar ôl i Kentucky orffen, a chyn i ni orffen i ddeud y gwir, a odd hynny’n hwyl ac yn dipyn gwahanol i fod yn chwara efo Endaf a Geth. Rw^ an ma gen i fand o bedwar efo fi , sy’n hollol wahanol eto ac yn brofi ad anhygoel.”

argraff ei fperfformioDydy o bytac mae poarfer gneui Kentuckyddddddddddeud y gwyn dipyn gEndaaaaaf a Gebebebebebedwdwdwdwdwaraaa efoyn bbbbbrororororofi ad

templateyselar.indd 5templateyselar.indd 5 20/5/09 10:06:5120/5/09 10:06:51

Page 6: Y Selar - Mehefin 09

6

Er ei fod yn cael ei weld fel ‘band un dyn’, roedd Huw wedi dechrau adeiladu ei fand pan ryddhawyd ei albwm cyntaf, ond erbyn hyn mae ganddo bedwarawd sefydlog y tu ôl iddo. Fel dywed Huw, “dwi’n gaeth iddyn nhw erbyn hyn!”. Ond faint o gyfraniad a geir gan aelodau’r band ar Hud a Llefrith? “Nath yr hogia helpu fi allan efo rhywfaint o’r recordio. Ges i help i recordio’r dryms gan Al, nath Iwan bach o fas a chanu, a mi nath Dyl chwara gitâr ar gân ola’r albwm. Ges i hefyd help ambell un meddw i recordio’r clapio! Er bod Rhys yn y band erbyn hyn hefyd, nath o ymuno ar ôl i mi orffen yr albwm. O’n i’n meddwl fysa fo’n dda cal pobl eraill ar yr albwm, ac yn fyw dwi’n hoff iawn o’r hogia’n rhoi slant eu hunain ar betha. Ma’r caneuon yn gallu swnio’n wahanol iawn yn fyw i be ma nhw ar CD. Mae o’n cadw petha’n ffresh a diddorol a dwi’n dysgu bob tro.”

Yn olaf, y cwestiwn sydd ar wefusau pawb - o ble ddaeth yr enw gwych i’r albwm, Hud a Llefrith? “Ma’r teitl wedi bod gen i ers amser maith, ers cyn i ‘Llond Lle...’ ddod allan. Dwi jyst yn licio’r ffordd mae o’n sownio a dwi’n hoff o chwarae efo geiriau. Dwi’n licio teitlau albyms diddorol. Byswn i wedi gallu galw fo yn rhywbeth holl mindblowing fel ‘mr huw 2’.” Byddai hynny yn anghonfensiynol!

GES I HEFYD HELP

AMBELL UN MEDDW

I RECORDIO’R

CLAPIO!“ “

APÊL BERSONOL GAN MR HUW“Prynwch Hud a Llefrith, er dwi’m yn rhoi cachiad am werthiant, ond yn amlwg dwisho pobl ei glywed o, llosgwch gopi gan ffrind, dwyn un, neu ddwyn £10 o bwrs nain a’i wario ar ‘Hud a Llefrith’ yn hytrach na seidr a gliw.”

hiad am werthiant, ond yngan ffrind, dwyn un, neu rith’ yn hytrach na seidr a

myspace.com/ymrhuw

templateyselar.indd 6templateyselar.indd 6 20/5/09 10:07:1820/5/09 10:07:18

Page 7: Y Selar - Mehefin 09

7

NEWYDDION TEXAS RADIO BANDMae TRB wedi bod yn brysur iawn yn y stiwdio dros y misoedd diwethaf yn recordio eu halbwm ddiweddaraf, enw i’w gadarnhau. Mae’r albwm 11 trac wedi ei chwblhau ac wrthi’n cael ei chymysgu ar hyn o bryd mae’n debyg. Does dim cadarnhad yngly^ n â pha label fydd yn rhyddhau’r CD, ond gobeithio y bydd yn cael ei rhyddhau cyn diwedd y fl wyddyn.

Codwyd ambell ael wrth gyhoeddi enillwyr Gwobrau RAP Radio Cymru yn ddiweddar. Dim un yn fwy efallai na phan gyhoeddwyd mai ‘Swynol’ gan Texas Radio Band oedd yn cipio’r categori ‘Cân Orau’! Ond diawch, ma hi’n gân dda ar y naw wyddoch chi ac yn llawn haeddu’r wobr. Felly pa well dathliad nag argraffi ad ecsgliwsif o’r geiriau yma yn Y Selar ... ond gyntaf, dyma Mini o’r band i egluro’r cefndir:Mini: “Sgwennes’ i Swynol rhywbryd yn ystod Haf 2005 tra oni’n byw mewn ogof yn Sbaen. Doedd yr ogof ddim yn ogof draddodiadol y byse arth neu blaidd yn dewis byw ynddi, ond ogof gyda

fascade bwthyn bach ar ochr mynydd gyda chegin, trydan, gwelyau, teledu, bath a chawod. Un diwrnod, tra’n potchan yn yr ogof, plyges i fy Yamaha sampler bach glas mewn i’r wal a dechreues i recordio gwahanol lw^ ps gyda’r unig offeryn oedd gyda fi ar y pryd, sef nylon string guitar. Mae tri phrif sample ar y gân, sef ‘nwdli picking guitar lw^ p’, ‘bwmbastic bes lw^ p’ a ‘rata-tat-tat percussion’, yn ffurfi o asgwrn cefn y gân orffenedig. Ar ôl cael grw^ f y gân yn ei lle, es i dros top y lw^ ps ac mi wnaeth Adolfo (ffrind o’r pentre) ddod lan gyda string arrangement ... a hei Presto, cân y fl wyddyn 2008 .

BERWYN GOCH, AFON AEDDFED,

COLLI GWYNEDD AR DAITH,

FESUL UN, WYNEB WEIRED,

LLECHU GWYN O DAN DRAED,

NEIDIO LAN A LAWR

WRTH SAETHU ARNO LAWR O’R MYNYDD GWYRDD,

I’R SIOP AR BEN Y STRYD, I’R LLE DY GES DI’R ARIAN Y TRO CYNTAF,

AR ÔL GWELD.

SWYNOL YW DW^

R HI,

TRWYNOL YW SW^

N HI,

SWYNOL YW DW^

R HI,

FERSIWN NEWYDD O’R HEN HANES,

PLASTIC WELLIES AR DRAED,

BALCHDER BYDDAR, SÔN AM BRWYDRE’

CYFRANNU AT YR ENAID.

NEIDIO LAN A LAWR

WRTH SAETHU ARNO LAWR O’R MYNYDD GWYRDD ,

I’R SIOP AR BEN Y STRYD, I’R LE DY GES DI’R ARIAN Y TRO GYNTAF,

AR ÔL GWELD.

SWYNOL YW DW^

R HI,

TRWYNOL YW SW^

N HI,

SWYNOL YW DW^

R HI

Tanysgriffi iwch

Ddiddordeb mewn

cyfrannu i’r Selar?

ebostiwch:

[email protected]

trwy ymuno a grw^p Y Selar

ar facebook neu ebostiwch

eich enw, cyfeiriad ac ebost i

[email protected]

www.myspace.com/yselar

SWYNOL

GEIRIAU SY’N

GYRRU’R GÂN?

templateyselar.indd 7templateyselar.indd 7 20/5/09 10:07:3020/5/09 10:07:30

Page 8: Y Selar - Mehefin 09

8 [email protected]

DAU I’W DILYN

Pwy: Band o’r Bala myn diawch i! Ia wir, band pedwar aelod sydd i gyd yn chweched dosbarth Ysgol y Berwyn. Osian Williams sy’n canu ac yn chwarae’r drymiau, Ifan Jones yn canu ail lais a chwarae’r gitâr, Tomos Edwards ar y bas a Gruffydd Edwards ar y gitâr. Mi wnaethon nhw ffurfi o yn Haf 2008 “jysd trwy jamio a bocha o gwmpas”, cyn i Osian ddechrau ysgrifennu caneuon gwreiddiol i’r band. “Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n hen bryd gweld mwy o gynnyrch cerddorol yn dod o ardal y Bala” meddai Osian.

Y Sw^ n: Mae’r band i gyd yn hoffi ’r un math o gerddoriaeth, ac maen nhw’n disgrifi o eu sw^ n fel “roc eithaf trwm ond gyda melodiau cryf”. Er bod agweddau o’u cerddoriaeth sy’n debyg i un neu ddau o fandiau Cymraeg diweddar, mae yna egni a sw^ n eithaf ffres iddyn nhw o fewn y sin ar hyn o bryd – sydd efallai’n adlewyrchiad o’r ffaith eu bod nhw’n hoffi arbrofi gyda rhythmau gwahanol ac anarferol, “dyne wrach sy’n ein gwneud ni’n wahanol”. Ymysg eu dylanwadau maen nhw’n rhestru “pob band Cymraeg safonol, Gola Ola ag Y Rei yn sefyll allan”, yn ogystal â Biffy Clyro, Kings of Leon, Arctic Monkeys, Bob Dylan, Bruce Springsteen a MGMT y tu hwnt i Gymru.

Hyd yn hyn: Mae’r band wedi recordio demo yn nhy^ Osian ac yn gobeithio gwerthu tipyn o gopïau ohono. Mae caneuon y demo i’w clywed ar eu tudalen MySpace (ac yn swnio’n dda), ac mae Lisa Gwilym wedi bod yn chwarae’r traciau ar ei rhaglen ar Radio Cymru. Maen nhw wedi chwarae nifer o gigs ysgol a lleol, ac yn ddiweddar iawn roedden nhw ar lineup gig Taith Tafod Cymdeithas yr Iaith ym Mhlas Coch, Bala. Maen nhw hefyd lawr i chwarae ar uned Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ... yn y Bala wrth gwrs.

Cynlluniau: Mae’r dyfodol hirdymor braidd yn ansicr ar hyn o bryd gan

Y SaisPwy: I ddeud y gwir, mae Y Sais yn chydig bach o ‘supergroup’ o Wynedd. Maen nhw’n gyfuniad o ddau set o frodyr, sydd hefyd yn aelodau o dri band gwahanol rhyngddyn nhw! Mae Dion a Cynyr Hammer ill dau yn aelodau o Operation Circus, tra fod Carwyn Ginsberg yn y Fennel Seeds ac Owain Ginsberg, gynt o’r Heights wrth gwrs, erbyn hyn yn aelod o Get Out Clause. Daeth Y Sais i fodolaeth tuag at ddiwedd 2008. Y Sw^ n: Gan fod Owain yn y band mae cymariaethau gyda’r Heights/Gogz yn anochel, ac yn sicr mae ‘na debygrwydd yn sw^ n Y Sais. Meddai Owain am eu sw^ n, “mae cerddoriaeth y band yn syml, roc indie eitha pync gyda digon o tempo a drive” ac yn ychwanegu “gydag un neu ddwy gân ychydig yn seicadelig.” Bach o bopeth felly, ac yn sicr mae ôl cerddorion profiadol ar y caneuon sydd i’w clywed ar eu safle MySpace.

Candelas: Mae’r band wedi recordio

MAE’R BANDIAU CYMRAEG NEWYDD YN DAL I YMDDANGOS YM MHOBMAN AR HYN O BRYD –

DYMA DDAU SYDD WEDI CREU ARGRAFF AR Y SELAR YN DDIWEDDAR.

r

Get eth

s/

yn ac ol u

Hyd yn hyn: Mae Y Sais yn y broses o recordio EP ar hyn o bryd. Maen nhw hefyd eisoes wedi gwneud ymddangosiadau teledu ar raglenni Bandit ac Uned 5, yn ogystal â gigs bach “intimate i ffrindiau ac ychydig o outsiders”. Maen nhw hefyd wrthi’n trefnu taith o ryw fath ar gyfer mis Awst, felly cadwch olwg amdanyn nhw.

GWRANDWCH ARNYN NHW OS YDYCH

CHI’N LICIO:Rock gyda lot o gitars, The Heights, Frizbee

templateyselar.indd 8templateyselar.indd 8 20/5/09 10:08:1020/5/09 10:08:10

Page 9: Y Selar - Mehefin 09

9

COLOFN LISA GWILYM

HWRE I HEATHER!

ww

w.m

ysp

ace

.co

m/c

and

ela

sban

d

Un o arloeswyr y sin gerddoriaeth yng Nghymru oedd enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2009, a fy mraint i oedd cael datgelu hynny wrth Heather Jones, a chyfl wyno’r wobr iddi!

Nes i gyfarfod Heather yn iawn am y tro cynta nôl ym mis Chwefror 2006, a hynny pan ddoth hi draw i Fangor i recordio Sesiwn Acwstig ar gyfer fy rhaglen radio. Fe wnes i jyst dotio ar ei chwmni yn syth - mae hi’n berson mor annwyl ac agored, ac mae’n hawdd siarad efo hi am oriau. Ar ben hynny, mae ganddi lais peraidd sydd mor naturiol, sy’n mynnu sylw, ac sy’n rhoi gwefr anhygoel i bwy bynnag sy’n ddigon lwcus i fod yn gwrando.

Mae Heather ‘di bod yn perfformio fel unawdydd ers dechre’r chwedegau, a hefyd ‘di bod yn aelod o sawl grw^ p. Mae’n siw^ r ma’r un mwya’ adnabyddus o’r rheini oedd y Bara Menyn, efo dau arall o gewri’r Sin Roc Gymraeg, sef Geraint Jarman a Meic Stevens. Grw^ p cellweirus, dychanol oedd y Bara Menyn, ond dim pawb oedd yn sylweddoli hynny, ac fe gafodd y grw^ p dipyn o lwyddiant!

Ar ôl i’r Bara Menyn chwalu, roedd y saithdegau yn ddegawd cynhyrchiol iawn i Heather ar ei liwt ei hun, a bron bob blwyddyn fe wnaeth hi ryddhau caneuon cofi adwy. Yn ’71, y glasur ‘Colli Iaith’. Cyhoeddi ‘Cwm Hiraeth’, ac ennill Cân i Gymru yn 1972 efo ‘Pan Ddaw’r Dydd’. Rhyddhau’r albwm roc gynta erioed

yn y Gymraeg - ‘Mae’r Olwyn Yn Troi’, ac ail EP i Sain o’r enw ‘Gwrandewch Ar Fy Nghân’ yn 1973. Heb anghofi o chware rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur yn 1974, a recordio ‘Jiawl’ yn 1976. Roedd hon yn sicr yn oes aur i Heather, a hynny ym myd gwrywaidd roc a rôl Cymru. Roedd yn rhaid iddi frwydro yn erbyn rhagfarnau’r oes i gael ei derbyn fel merch yn canu roc, gan gymryd ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Janis Joplin a Joni Mitchell.

Mae hi wedi newid ei delwedd a’i harddull droeon ar hyd y blynyddoedd, ‘di gorfod ‘ail-greu’ ei hun, a ‘di dod nôl yn gryfach bob tro. A’r un peth sydd ‘di aros yn gyson drwy’r cyfan ydi’r llais angylaidd a’i chariad at gerddoriaeth

Mae’n dal i recordio a pherfformio ledled Cymru, ac yn cael pleser o gydweithio efo artistiaid cyfoes, fel Alun Tan Lan a Gwyneth Glyn. Dwi’n mawr obeithio y bydd hynny’n parhau am fl ynyddoedd i ddod. Dwi hefyd yn hynod falch, o’r diwedd, bod Heather yn gw’bod ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gwaith gwych ma hi wedi ei wneud dros y degawdau, a bod ei phwysigrwydd a’i chyfraniad yn cael eu cydnabod.

Hwre fawr i’r llais hudolus a’r hyfryd Heather Jones!

Gellir clywed Lisa Gwilym am 10pm bob nos Iau a nos Wener ar C2 Radio Cymru.

www.myspace.com/ysaiscymraeg

eu bod i gyd yn gobeithio mynd i golegau gwahanol fl wyddyn nesaf. Ond, maen nhw’n gobeithio cadw momentwm y band i fynd pan fyddan nhw adref o’r coleg “pob gwylie fyddwn ni’n gal, allwch chi fetio byddwn ni efo’n gilydd yn chwara ac yn trio cal gymaint o gigs a phosib.” Yn y dyfodol agos maen nhw’n ceisio cael gymaint o sylw a chyhoeddusrwydd a phosib er mwyn cael slot mewn llwythi o gigs dros yr haf!

GWRANDWCH ARNYN NHW OS

YDYCH CHI’N LICIO: Gola Ola, Y Rei, Kings of Leon

GIGS: 1 Awst – Gigs Cymdeithas yr Iaith, Steddfod Bala

Cynlluniau: Gobeithio fydd y daith yn dod at ei gilydd, ac yna EP i’w ryddhau erbyn diwedd yr haf. Yn ôl Owain mae pob trac ar yr EP “wedi ei recordio ar ‘boss digital 7 trac’ yn fy ‘stafell wely” ac maent yn addo y bydd yn llawn cymeriad!!

MAE CERDDORIAETH Y BAND

YN SYML, ROC INDIE EITHA

PYNC GYDA DIGON O TEMPO

A DRIVE“ “

templateyselar.indd 9templateyselar.indd 9 20/5/09 10:12:1120/5/09 10:12:11

Page 10: Y Selar - Mehefin 09

10

Y TRYSORAU PRIN

[email protected]

Roedd dydd Sadwrn, Ebrill 18 yn ddiwrnod cenedlaethol siopau recordiau annibynnol. Gyda’r oes ddigidol bellach yn ei hanterth, mae rhai’n amau pa mor berthnasol yw’r math hwn o fusnes ... ond mae ‘na rai unigolion ymrwymedig a thriw sy’n parhau i ymgasglu yn awyrgylch unigryw’r siopau hyn. Toni Schiavone sy’n gasglwr recordiau a fu hefyd yn gweithio mewn siop recordiau yn Llundain sy’n egluro pam mae siopau recordiau annibynnol yn llefydd mor arbennig:

Nid yn unig cael cyfweliad, ond roedd rhaid cymryd prawf cyn cael swydd yn y ‘Record and Tape Exchange’. Roedd Brian y rheolwr o fl aen ei amser! Swp o 100 o recordiau yn amrywio o Top of the Pops, i Van Der Graaf Generator a Prince Buster, Vivaldi i Louis Armstrong, Nick Drake, Jimmy Smith, Moby Grape a’r Meters. Y gamp oedd prisio gymaint â phosib o fewn

deg munud gan roi ystyriaeth i gyfl wr y clawr, cyfl wr y fi nyl a gwerth y record ar y farchnad ail-law. Roedd y prawf yn golygu tynnu’r record allan o’r clawr, barnu ei hansawdd a’i gwerth, ei dychwelyd a rhoi sticer â phris ar y clawr. Llwyddiant yn dibynnu ar ehangder eich gwybodaeth a chyfl ymder wrth ddod i farn a phrisio.

Os rwy’n cofi o’n iawn rhoddais bris ar dros hanner cant – a chefais y swydd.Breuddwyd i gasglwr recordiau yw gweithio mewn siop recordiau ail-law. Roeddwn wedi ymgyfarwyddo â’r Record and Tape Exchange fel lle hanfodol i gael recordiau rhad a rhai prin ers tro byd. Dyma werth gwirioneddol y siopau recordiau annibynnol - pethau prin, pethau anghyffredin a phethau annisgwyl, boed yn newydd neu’n ail-law. Mae angen rhyw fath o drefn o fewn y siop - ond dim rhy drefnus. Rhaid hefyd cael y bobl iawn y tu

ôl i’r cownter. Pobl sy’n deall eu stwff ac yn deall pryd i siarad a phryd i adael rywun chwilota. Os oeddech yn ffyddlon i’r siop, yna roeddech yn gwybod y bydde nhw’n cadw pethau o ddiddordeb i chi ar un ochr fel rhyw fath o wobr.

Roedd hyn i gyd yn digwydd yn y Record and Tape Exchange. Roedd trawstoriad rhyfedd o bobl yn gweithio yno hefyd - Dave y cerddor jazz a gyfl wynodd fi , a llawer o gwsmeriaid, i Thelonious Monk a Miles Davies, Andy a oedd yn mynnu cyrraedd mewn cot ffwr anferth a sbectol haul - wastad yn cyrraedd yn hwyr ac yn gadael yn gynnar. Andreas y proto-pync a Roger y casglwr blues yn byw mewn ffl at gyda miloedd o recordiau blues ac R’n B, soffa, gwely, a dim arall. Roedd gan Brian dair siop ar y pryd - un yn Shepherd’s Bush (amrywiol iawn ac eitha rhad), Notting Hill Gate (recordiau o safon uwch a

Hoff siop: Spillers, Caerdydd. Mae Nick y perchennog a’i ferch Ashli yn hynod o neis, mae’r lle yn chwedlonol - y siop recordiau hynaf yn y byd i gyd. Mae eu cefnogaeth o gerddoriaeth Gymraeg yn beth gwych, ac mae eu cefnogaeth i’r sin yn Nghaerdydd yn bwysig iawn. Yn debyg i Cob Bangor neu Andy’s Aberystwyth, maen nhw’n barod i helpu.

Record diwethaf a brynwyd: Y CD diwethaf i fi brynu yn

Spillers oedd albwm Dan Deacon, cynhyrchydd a pherfformiwr electro o fri, wedi ei argymell gan Huw Evans. Pam mae siopau annibynnol mor bwysig/arbennig: Nhw sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n mynd mlaen yn lleol, a rhoi cyfl eoedd i fandiau werthu eu CDs, senglau, crysau-t ac yn y blaen, pan dydi’r siopau recordiau mwy, sy’n prysur ddifl annu, ddim isho gwbod. Wedi deud hyn, mae lawr lwytho yn beth hynod o gyfl eus, felly ma rhaid

i siopau, fel mae Rough Trade yn Llundain wedi gneud, newid a meddwl am ffyrdd gwahanol o ddenu pobl mewn.

Huw Stephensers, Caerdyddd. .chennog a’ihynod o neis,wedlonol - y hynaf yn y byyd defnogaeth o ymraeg yn beeththeu cefnogaetth h

erdydd yn n debyg iu Andy’s

maen nhw’n

af a brynwyd:i fi brynu yn

SpSppilleeersrsrs o ooedee d dd alalalallbwbwbwbwbwm m mm DaDaDan nnnDeDeeacacononon,, cycc nhhnhyryryryrchchchydyydydydd d d a aaphphhererfffff ororormimimm wrwrwr e eeleecctctttrororooo ooo ff ffririririri, ,, weweweweweedididididid eiei a aargrggymymymmeeele l gagagaan n nn HuHuuuuww w w w EvEvEvE anananans.s.sss

PaPaPam m m mamamaaae eee siopopopppauauauuua aaaannnnnnnnnnibibbbynynnnnononononoolmomomor r bwbwbwwysysysysysiigg/a/aa/arbrbrbrbenenennninininiigggg: : NhNhNhhww w ww sysysysyyyy’n’n’n’n’ adadllelewywywyrcrcrcchhuhh ’rr’r h hhhynynyyny s ssssyy’y’y’y’nnn mymymymyndndndnn mlmlaeaaen nn ynynyn llleolol, ,, a aaa rrhrhhhooioioii ccccyflyflyflfl e eeeoeoeoeoeeddddddddddddd i i fafaandnddiaiaiauu u wwewew rtrthuhuhuhu eeeuuu CDCDCDCDs,s,s,, sesengnnglaaau,u,u, c cccryyysasas u-u-u--t t acacacacac yyyyn nn y y yy blblblb aeaeaeaeaeaeaen,n,nnn,n, papannn dydydydididi’rrr ssioioopapapaapauu uu rererererecocococcordrdrdiaiaiaiaau u uuumwmwwy,y, sssy’y’y’n n n prprrysysyssurururuu d dddddidididiifl fl fl fl anananana nnununu,, ,dddddimim ii ishshsho oo o gwgwwboboobod.ddd. WWWWeedededdii i i dedededeudududddd hyhyn,nn, mmmaeaeaee llawawwr r r r lwlwlwytyyttthohohohoo yy yynnn bebebbebeeththththhhh hyhynnod d d oo o gggyfl flfl eueue s,s, f felelelellylylylyly m mmma a aa rhrhrhhr aiaiaiaiaiaaid dddddd

i iii ii i sisisisisis opopopopo auauau, ,,, feffefefeffel ll l l mamamamamamaamam ee e e e eee RoRoRoRoRoRoRoR ugugugughh hh hhh TrTTTTrTrTrT adadaadadaddadadaa eeeeeeynynynynynynyn LLLLlululuuundnddn aiaiaaaiaaiin n nnnn n n wewewewweweweewedidididddid g g ggggggnenennenen ududududududddd, ,,, , , neneneneneeeeneewwwiwwiwwww d d d ddddda a aaaaa mmemememmedddddddd wlwlwlwlwwlwl a aaa aaamm m mmm ffffffffffffffffyryryryryryyy dddddddddddddd g ggggwawawawawawawawawahhahahahahahahaannonononon ll ll o o ooooo ddddddddd enenennuuu popopopopopopobblblblbbl mmmmmmmm eweweweweweweewn.nn.n.n.n

SIOPAU RECORDIAU ANNIBYNNOL

templateyselar.indd 10templateyselar.indd 10 20/5/09 10:08:3520/5/09 10:08:35

Page 11: Y Selar - Mehefin 09

11

Ian CottrellHoff siop: Kelly’s yn y Farchnad Ganolog yng Nghaerdydd a The Record Shop oddi ar Albany Road yn Y Rhath. Dwi’n methu dewis un dros y llall, mae’r ddwy gystal a’i gilydd. Mae’u dewis nhw o albyms a 12”’s funk/disco/soul yn anhygoel ac mae’n rhaid mod i ‘di treulio diwrnodau o fy mywyd ynddyn nhw yn ystod y ddeunaw mlynedd diwetha’.Record diwethaf a brynwyd: Dwi’m yn cofi o off top fy mhen gan fy mod i jyst yn mynd yno heb fwriad o brynu unrhyw beth penodol, ond dod allan efo pentwr o stwff. Be sy’n dda ydy bod y perchnogion yn tueddu i roi discount os ti’n prynu mewn bulk. Dyna chi dip gwerthfawr!Pam mae siopau annibynnol mor bwysig/arbennig: Dwi’n prynu stwff vinyl ail law o’r ddwy siop; stwff fyswn i’n methu ffeindio unman arall yng Nghaerdydd, achos bod na prin unrhyw siopau recordiau ar ôl yn y ddinas!

Emyr Ankst

mwy cyfoes/poblogaidd) a Ladbroke Grove (y siop rataf gyda dwsinau o gopïau o rai recordiau a lot fawr o rwtsh). Roedd Ted Carrol o’r siop ‘Rock On’, canllath i ffwrdd yn aml yn galw mewn ac yn prynu swp o’r recordiau rhataf - gan gynnwys llawer iawn o recordiau T. Rex, Troggs a Small Faces am 10c yr un. Roedd Ted Carrol o fl aen ei amser hefyd! Yn Rock On, a oedd wrth gefn caffi bach iawn, cefais bethau o’r pumdegau a chwedegau fel Huey Piano Smith and the Clowns, Irma Thomas a Bobby Bland.

Nôl yng Nghymru, yn y De Siop Recordiau Hag yn Llambed ac yn Aberystwyth Andy’s. Yn y Gogledd - siopau recordiau yn Nhreffynnon, Prestatyn a’r Rhyl i gyd o fewn cyrraedd, ond y Mecca oedd siopau ‘Recordiau Cob’, Bangor a Phorthmadog. Trwy gydol yr wythdegau a’r nawdegau Cob Bangor oedd y lle i fi . Y newid o fi nyl i CD yn amharu dim ar y casglu gydag Owen, Alan Holmes, Paul ac eraill yn llawn gwybodaeth - gwyddoniaduron ar goesau. Os am blues, R ‘n B a Soul, Owen; Paul oedd yr arbenigwr ar Bob Dylan, Alan y dyn ar gyfer y Pixies, Can a Kraut-Rock. Nid jyst y prynu oedd yn bwysig ond y drafodaeth am record ddiweddaraf Ffa Coffi Pawb neu’r Gorky’s yn ogystal â’r diweddaraf o Willie Nelson, yr Holmes Brothers neu’r sin Gymraeg. Dyma le y cefais focs set fi nyl ‘Atlantic Rhythm and Blues’ 1947-1974 a thrysorau eraill gan Swamp Dogg, Detroit Spinners (Pick of the Litter - clasur!), senglau promo Van Morrison, CDs Eirin Peryglus, Catatonia, Datblygu a’r Tystion, Phyllis Dillon, Augustus Pablo a nifer o’r CDs reggae a rhyddhawyd ar label Blood and Fire. Mae rhai recordiau pwysig iawn yn fy nghasgliad wedi eu lleoli mewn amser ac mewn lle arbennig iawn - Cob Bangor. Roedd, ac mae gan y siop yr ogle, y golwg a’r bersoniaeth unigryw sydd yn gyfuniad

o’r bobl, y recordiau a’r CDs, posteri ar y wal a thafl enni ar y cownter - y cymeriad sydd yn perthyn dim ond i’r siopau annibynnol gorau.

Erbyn hyn, am resymau gwaith a theulu mae Cob Porthmadog a Spiller’s Caerdydd (MC Mabon - ‘Jonez-Williamz’ a Giant Sand oedd y pethau diwethaf a gefais yn Spiller’s) wedi cymryd lle Cob Bangor. Y naill a’r llall am resymau cwbl wahanol - un wrth basio ar y ffordd i ddal y trên, a’r llall yn gofyn am ymweliadau arbennig pob hyn a hyn. Mae criw Port yn deall i’r dim mai llonydd i chwilio yw’r angen mwya’ ac mae’r amrediad eang ac anferth o CDs ail-law yn gofyn am yr amser yma. Ar ddiwedd y dydd dod ar draws yr annisgwyl a’r prin yw’r atyniad mawr - a dim ond mewn siopau annibynnol mae hynny’n digwydd - boed yn newydd neu’n hen, ar fi nyl neu CD. Gyda llaw mae ‘na gasgliad anhygoel o CDs jazz ym Mhort ar hyn o bryd!

Hoff siop: Cob Bangor wrth gwrsPam mae siopau annibynnol mor bwysig/arbennig: Mae unrhyw beth sy’n medru lleihau natur ‘ultra’ masnachol y diwydiant cerddoriaeth yn beth da. Erbyn heddiw priority y siopau mawr ydy gwerthu lle ar eu silffoedd i’r cwmnia mawr, sy’n golygu fod y gerddoriaeth newydd, difyr (llai poblogaidd a lleol) ddim yn cael cyfl e teg i ddenu

cynulleidfa a lot o’r amser ddim hyd yn oed ar werth yn y siopa yma. Efo siopa annibynnol mae na fwy o bwyslais ar gynnig amrywiaeth sydd i wneud fwy efo cynnwys y recordiau yn hytrach na jest faint o gyllideb hyrwyddo sy’n gysylltiedig a’r hyn sy’n cael ei ryddhau.Record diwethaf a brynwyd: Ar fi nyl, albyms newydd gan PJ Harvey, Faust, S/T ac yn ail law The Fall a Die Haut a 13th Floor Elevators.

Mae ‘na lyfr bach da am dranc siopau recordiau annibynnol allan rwanLast Shop Standing: Whatever Happened to Record Shops?Graham Jones (Proper Music Publishing)

templateyselar.indd 11templateyselar.indd 11 20/5/09 10:13:0220/5/09 10:13:02

Page 12: Y Selar - Mehefin 09

Oni ar fy ffordd i gyfarfod artist Cymraeg newydd a chyffroes o’r enw ‘Huw M’ – enw ychydig yn ddiddychymyg i fand dyma fi ’n meddwl, mae o jyst fel anagram o Mr Huw, heb yr ‘r’…Don i’m yn gwbod be i alw fy hun! Huw Meredydd Roberts ydw i, ac odd na lot o bobl yn ‘ngalw fi ’n Huw M beth bynnag. Nesh i ystyried sawl enw gwahanol cyn meddwl ‘ydw i rili isho galw fy hun yn rhywbeth obscure?’ O’n i bob tro’n dod nôl at ‘Huw M’, achos artist unigol ydw i yn y bôn, ac wel dyna ‘di’n enw fi !

Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld Huw yn y Sin Roc Gymraeg, roedd yn aelod o’r band Chouchen a ddaeth i ben yn 2006 ar ôl rhyddhau dwy albwm, un EP a sesiwn i Radio 1. Felly sut ddaeth project unigol Huw M i weld golau dydd?

O’n i dal yn cyfansoddi wedi i Chouchen ddod i ben, felly ddechreuish i fynd i nosweithiau open mike yn ardal Pontypridd a Chaerdydd. Nesh i rili mwynhau o a chael blas ar y profi ad o chwarae, a defnyddio’r pedals a ballu.

Yna es i mlaen i gydweithio ag Erddin [Llwyd] a rhyddhau senglau a gafodd eu chwarae ar Six Music. Mi oedd hynna’n annisgwyl gan ein bod ni wedi eu rhyddhau nhw’n eithaf distaw a low-key, doedd dim lansiad mawr, odd o’n braf cael ein chwarae ar y radio fel ‘na.

Mae gan Ffl ur Dafydd ei Barf, a Bob Delyn ei Ebillion; mae gan Dafydd Iwan ei Fand ac mae gan John ei Alun. Oes gan Huw M rhywun?Jyst fi ydi o’n fyw. ‘Dw i’n iwsho rwbeth o’r enw loop station, gitâr, keyboard a ‘chydig o percussion hefyd, fel one man band math o beth!

‘Dwi di rhyddhau albwm yn ddiweddar o’r enw Os Mewn Sw^ n, ac ar yr albwm mae merch o’r enw Lucello sef Lucy O’Connor yn chwarae’r cello, mae hi’n hollol hollol anhygoel; yna mae Bethan y wraig – mae hi’n canu ar yr albwm, ac yn clocsio hefyd mewn un cân! Ac wedyn nath cynhyrchydd yr albwm, Frank Naughton, chwarae dryms a bit a bobs eraill. Ond yn y bôn, mae o’n broject unigol.

Wedi dweud hynny, mae gen i gyngerdd wythnos i heddiw yng Nghanolfan y Mileniwm ac mae Lucy’n mynd i chwarae a Beth yn mynd i ganu, felly honna fydd y gig cyntaf i fi neud efo rhywun arall yn y band. Gai weld sut mai’n mynd, ond ma’n rhaid fi ddeud fod bod yn artist unigol yn gymaint haws. Pan ti’n cal cynnig gig, ti’n cal penderfynu yn y fan a’r lle os dwi’n gallu neud o yn lle gorfod ffonio pawb. Ac mae’n haws trefnu ymarfer hefyd!

A sôn am albwm newydd, sut sw^ n sydd i ‘Os Mewn Sw^ n’? Amwni fod yr albwm ei hun yn eithaf acoustici, ond yn fyw mae o dipyn yn fwy upbeat. Mae ‘na ddylanwad gwerin yna, ac Ewropeaidd- fel miwsig o Ffrainc.

Bues i’n byw yn Ffrainc am ryw dri mis – o’n i’n gyfl wynydd radio, yn cyfl wyno

ALBWM AUR

HUW

12 www.myspace.com/huwmm

MAE’N YMDDANGOS FOD HUW

YN ENW POBLOGAIDD O FEWN

Y DIWYDIANT CERDDORIAETH

GYMRAEG. MAE GENNYCH CHI’R

DDAU HUW ... STEPHENS AC EVANS

I DDECHRAU, HEB SÔN AM HUW

‘BUNF’ O’R SUPER FURRY’S, HUW

MR HUW A’R HUW Y CYFEIRIER ATO

YN ORGAN AUR HUW GAN EITHA TAL

FFRANCO. WEL, MAE ‘NA UN ARALL

AR Y SIN RW^

AN AC WEDI RHYDDHAU

EI ALBWM CYNTAF YN DDIWEDDAR.

LEUSA FFLUR AETH I GWRDD Â HUW

M CYN EI GIG TAITH TAFOD AR BEN

BRYN ‘CONSTI’ YN ABERYSTWYTH...

...TI DDIM YN

DDIBYNNOL BELLACH

AR LABELI NEU AR

DDARLLEDWYR

“ “

templateyselar.indd 12templateyselar.indd 12 20/5/09 10:13:1020/5/09 10:13:10

Page 13: Y Selar - Mehefin 09

13

rhaglen o’r enw La Ballade Musicale - mae Ballade yn air Ffrangeg sy’n golygu ‘mynd am dro’ felly mae ‘na pun fanna sy fel mynd am dro cerddorol, ond eto fel ballad cerddorol … ond dim fi nath feddwl am yr enw!

Dwi’n meddwl mai fy hoff artist Ffrangeg i ydi Yann Tiersen - fo nath miwsig y ffi lm Amelie, mae’n dod o Lydaw ac mae wedi moderneiddio cerddoriaeth draddodiadol Ffrainc.

Mae gen i hefyd ddylanwadau o Dde America, dwi’n licio petha o Brasil yn fawr iawn. Roedd ‘na symudiad cerddorol ym Mrasil yn y 60au o’r enw Tropicália, nath o bara am fl wyddyn ac odd o’n andros o ddifyr - artistiaid fatha Caetano Veloso a Gilberto Gil – nathon nhw ‘run peth - sef cymryd cerddoriaeth draddodiadol Brasil a’i moderneiddio.

Ydy’r dylanwad hwn o foderneiddio caneuon traddodiadol wedi treiddio i gerddoriaeth Huw M felly? Yndi, mae ‘na ddwy gân ar yr albwm lle ‘dw i ‘di cymryd geiriau hen benillion a gwneud cân newydd ohonyn nhw, fel Hiraeth Mawr Hiraeth Creulon a Michelle Michelle (Cariad Cyntaf). Ond swni’m yn ystyried fy hun yn artist gwerin yn ystyr fy mod yn artist gwerin!

MA’N RHAID FI DDEUD FOD

BOD YN ARTIST UNIGOL YN

GYMAINT HAWS“

cyfweliad: huwm

templateyselar.indd 13templateyselar.indd 13 20/5/09 10:13:2020/5/09 10:13:20

Page 14: Y Selar - Mehefin 09

14

Felly beth sydd nesa i Huw M?Dwi ar hyn o bryd ar mini taith i drio hyrwyddo’r albwm ers ddechrau mis Mawrth, felly mae gen i lot o gigs yn dod fyny mis Ebrill a mis Mai.

Ond y peth mawr nesaf ydi gwneud rhywbeth efo Llwyd [Erddin Llwyd a oedd hefyd yn aelod o Chouchen]. Hoffwn i wneud albwm arall rhyw ben, ond cyn hynny cydweithio â Llwyd i wneud EP ella, neu albwm fer. Ryden ni’n gweithio’n dda efo’n gilydd ac yn gallu dod fyny

â syniadau da. Mae stwff unigol Llwyd a stwff unigol Huw M yn hollol wahanol, felly mae project Llwyd ac Huw M yn rhywbeth hollol wahanol eto. Mae genon ni’r ddwy gân honno, ac ryden ni’n gweithio ar fwy. Mae Erddin yn byw yn y Gogledd a fi yn y De, dyna lle mae’r we yn dod yn handi eto, rydan ni’n reit ddibynnol arno i drafod syniadau. Enw’n sengl ddiwethaf ni oedd Dechre’n y Dechre. Nesh i recordio rhan ohoni adre efo banjo, gitâr a chanu, wedyn ei gyrru draw i Erddin a nath

o ychwanegu offerynnau ei hun a chanu, a’i gymysgu ei hun, ac anfon fersiwn i mi ar y we. Be o’n i’n licio amdano fo oedd i fod o mor wahanol, wedi cael ei stripio i lawr – odd o jyst yn well. Pe bawn i wedi neud y gân fy hun, Huw M fyse fo, neu se Erddin wedi ei neud o ei hun, Llwyd fyse fo. Ond nathon ni o efo’n gilydd – hollol wahanol.

Swnio’n gyffroes, felly be fydd enw’r project newydd ‘hollol wahanol’ hwn? Ymm, Llwyd a Huw M ella?!

Mae clawr yr albwm wedi ei ddylunio gan Aled Cummins, sy’n galw ei hun yn !!Arth!!. Daeth Huw i gysylltiad ag o dros y we, ar ôl prynu llun ganddo o’r enw Blackbirds 2. Mae clawr ‘Os Mewn Sw^ n’ yn seiliedig ar elfen o’r llun hwn a’r syniad o one man band. Wedi bod yn ddewr a’i rhyddhau ei hun, sut ymateb y mae’r albwm wedi ei gael hyd yn hyn? Ar i-tunes mae rhywun di-Gymraeg wedi rhoi adolygiad, a 4 seren! Mae rhywun hyd yn oed wedi prynu’r albwm o America! Mae’r we wedi chwalu lot o ffi niau. Se ti methu neud y math yna o beth 5 mlynedd yn ôl.

Enghraifft arall dda o’r we ydi fi deos. Nesh i fi deo wythnos diwethaf ar Pier Bangor efo camera digidol normal a’i rhoi ar y we yn syth, technoleg hawdd iawn a dio’m di costio dim un geiniog i’w wneud. Mae radio a’r teledu dal i fod yn bwysig iawn, ond ti ddim yn ddibynnol bellach ar labeli neu ar ddarlledwyr, mae’r outlet neu’r platfform yna’n barod.

Yn seren y Sin Roc ar benwythnosau ond yn gynhyrchydd parchus i C2 ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Bwrlwm cyffro cerddorol y stiwdio oedd un o’r prif resymau i Huw M ailafael yn ei gerddoriaet h…Dwi’n gweithio bob dydd hefo miwsig newydd, dwi wrth fy modd efo hynna. Mae’r Sin Gerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd yn eithaf cyffrous, mae ‘na gymaint o dalent newydd ifanc fel Bandana, a Nos Sadwrn Bach, yn ogystal â’r artistiaid mwy profi adol sydd dal i ryddhau albyms a stwff cyffrous fel MC Mabon, Gwyneth Glyn, Gareth Bonello, mr huw, Euros Childs a Gruff Rhys. Dyna un rheswm pan nes i ail ddechrau chwarae – teimlo’r cyffro, a bod isho bod yn rhan o’r cyffro hwnnw yn y Sîn.

Fel cynhyrchydd i C2, y platfform mwyaf i gerddoriaeth Gymraeg, mae’n siw^ r bod modd manteisio ar hynny i gael sylw i Huw M?Na! Yr ateb ydi, na. Os dwi’n y stiwdio, ‘se fy ngherddoriaeth i ddim yn cael ei chwarae. Fyswn i byth yn dewis fy miwsig fy hun i’w chwarae. Swni’n anghyffyrddus bod yn y stiwdio a bod un o nghaneuon i’n cael ei chwarae. A hefyd mae’n well gen i fod yr amod yna’n glir, fel bod na ddim perygl o unrhyw confl ict of interest.

MAE OS MEWN SWN AR GAEL I’W LAWR

LWYTHO ODDI AR I-TUNES AC I’W

PHRYNU AR CDBABY.COM

www.myspace.com/huwmm

MAE’R SIN GERDDORIAETH GYMRAEG AR HYN O BRYD

YN EITHAF CYFFROUS, MAE ‘NA GYMAINT O DALENT

NEWYDD IFANC EITHAF CYFFROUS,“

templateyselar.indd 14templateyselar.indd 14 20/5/09 10:28:5620/5/09 10:28:56

Page 15: Y Selar - Mehefin 09

Y GOLOFN WADDMOR NAFF, MA’N CW

^

L

Pa mor cw^ l dwi’n cael gwahoddiad i sgwennu yn Y Selar?! Neu fel ddudodd Dyl Mei wrtha fi ddoe, “ti mor naff, ma’n cw^ l” – dwi’m yn siw^ r os di hunna’n beth da neu beidio ... ta waeth, dwi ddim yma i fwydro (gormod) ond i sôn am y bandiau sydd wedi creu argraff arna fi yn y Sin Roc Gymraeg yn ddiweddar. Dwi’n lwcus iawn efo fy swydd yn Uned5 o gael cyfarfod a gwrando ar lwyth o fandiau ac artistiaid bob wythnos ...

*Rhydian Bowen Phillips newydd dorri ar draws fy nheipio yn gofyn am mensh – felly dyma chdi Rhydian - haia.*

Dwi ar ddallt fod na lot o bobl yn cymryd y cyfl e i gael rant yn y golofn yma – ond nai jyst ddim sôn am unrhyw fandia dwi ddim yn licio achos ma mam di magu fi i fod yn gwrtais a charedig (diolch mam). Reit, dwi di penderfynu gneud siart yn arbennig i’r Selar – ‘5 ucha perfformiada byw gora Uned5 yn ystod y fl wyddyn ddwytha yn ôl Mari Løvgreen’ (teitl bachog ta be?). Nai roi rhesymau dros eu dewis nhw wedyn, felly (drumroll) dyma nhw:

1) Derwyddon Dr Gonzo2) Elin Ffl ur3) Frizbee4) Genod Droog5) Yr Ods

Dewis diddorol dwi’n clywed chi’n deud! Cyn i chi feirniadu, dyma’r rhesymau hollbwysig:

1) Dwi ddim yn meddwl bod angen rheswm efo rhein nagoes? Hollol wych

yn fyw – llwyth o egni a hwyl a ddim yn cymryd eu hunan ormod o ddifri. Hunna a’r ffaith bo fi ’n ffansio hanner y band. (Dwi’m yn poeni os dwi rhy hen i gyfadda hunna).2) Bob tro ma Elin Ffl ur yn canu’n fyw yn y stiwdio, ma PAWB yn stopio i wrando. Ma ganddi un o’r lleisia gora o gwmpas a ma na rwbath amdani hi (no pun intended) sy jyst yn neud i chi gymryd sylw.3) Oni bob tro’n cynhyrfu cyn i Frizbee ddod ar y rhaglen fatha groupie bach pathetic. Band byw gwych. Yndw, dwi’n drist bonw di gorffan – dod ag atgofi on chwerw o East 17 yn gwahanu yn 1997.4) Nath Genod Droog neud i fi licio rap Cymraeg am y tro cynta. Oedda nhw hefyd yn gwbod sut i ddiddanu a chynnal sioe – rwbath di lot o fandia ddim yn trafferthu gneud. Eto, colled fawr i’r sin, ond oleia gaethon ni albwm wych ganddyn nhw.5) Band newydd mwya addawol Cymru ar hyn o bryd. Dwi’n licio bo nhw’n swnio chydig yn hen ffasiwn a retro – ac eto efo agwedd reit ysgafn ar fod mewn band – efo’r pwyslais ar gael hwyl. Atgoffa fi o Big Leaves – a ma hunna’n gorfod bod yn beth da.

Neshi ddim rili mwynhau meddwl am 5 ucha – pam neshi roi’r ffasiwn bwysa ar fy hun?! Dwi’n teimlo ddylswn i roi mensh i’r bandiau sy’n gneud i fi chwerthin – Gwibdaith, Ryan Kift, Plant Duw, mr huw – ella fysa well i fi stopio rw^ an, neu fydd raid i fi enwi pawb rhag ofn i fi bechu ...

gyda Mari LovgreenHITS YR

HAF!CLINIGOL - MELYS

EINIR DAFYDD - PWY BIA’R ABER?

Llys-y-Coed, Heol Dinbych-y-Pysgod,Aberteifi SA43 3AH [email protected] (01239) 614691

Yn eich siop leol a trwy wefan Fflachwww.fflach.co.uk hefyd ar iTunes

AR WERTH AR FAES EISTEDDFOD YR URDD AR STONDIN SHWL DI MWL

Stori RyfeddolMEIC STEVENS

www.ylolfa.com

£9.95

Argraffi ad Newydd

£9.95

“Ni welwyd ei thebyg ers

Cerddi’r Cywilydd”

Y Cymro

Barddoniaeth

Rhan 2

Rhan 1

templateyselar.indd 15templateyselar.indd 15 20/5/09 10:20:5920/5/09 10:20:59

Page 16: Y Selar - Mehefin 09

16

GYDA NIFER O’R CYFRYNGAU’N GWNEUD FFWS AM Y DIGWYDDIADAU CERDDOROL SYDD DDIM YN DIGWYDD ELENI, MAE’N WELL

GENNYM NI YN Y SELAR FOD YN BOSITIF A CHANOLBWYNTIO AR Y GWYLIAU CERDDOROL FYDD YN CAEL EU CYNNAL DROS YR

HAF YMA YNG NGHYMRU! LOWRI JOHNSTON SY’N ARGYMELL PA DDIGWYDDIADAU Y DYLECH EDRYCH YMLAEN ATYNT ELENI.

YDY, MAE’R HAF AR GYRRAEDD AC MAE’N AMSER UNWAITH YN RHAGOR I FWRW GOLWG – A MYND YN HYNOD EGSEITED – AR

GYFER GWYLIAU’R HAF! PEIDIWCH Â DIGALONNI NAD OES SESIWN FAWR ELENI, ACHOS MA’ ‘NA DDIGON YN DIGWYDD AR DRAWS

CYMRU, A RHYWBETH AT DDANT PAWB. DYMA FWRW GOLWG DROS RAI OHONYNT FELLY...

GW^ YL WAKESTOCK Abersoch Dyddiad : 10/11/12 GorffennafBandiau : Moby, NERD, Dizzee Rascal, Super Furry Animals, Calvin Harris, Pigeon Detectives, Zutons, Just Jack, Mr Scruff, Ebony Bones, Yr Ods, Sibrydion, Zane Lowe a Huw Stephens yn djo, a lot lot mwy! Tocynnau : £90 am y penwythnos, £115 yn cynnwys gwersylla, £40 am docyn diwrnod. www.wakestock.co.uk

THE SQUARE FESTIVAL Borth, ger AberystwythDyddiad : 24/25/26 Gorffennaf Bandiau : Yn cynnwys ... Supergrass, The Beat, Skindred, The Holloways, Drymbago, Threatmantics, Race Horses, The Joy Formidable, Cuba Cuba, Derwyddon Dr Gonzo, a llawer iawn mwy.Tocynnau : £45 am dri diwrnod, £5 am wersylla am y penwythnoswww.thesquarefestival.com

GW^ YL NO^ L A MLA'N LlangrannogDyddiad : 20 Mehefi nBandiau : Meic Stevens a’r Band, Ffl ur Dafydd a’r Barf, The Gentle Good, Cerrig Melys, Karac, Lowri Evans, Radwm, The Fat Spanners ... a mwy! Gw^ yl newydd mewn lleoliad arbennig yn Llangrannog, Ceredigion!Tocynnau : Adloniant am ddim, gwersylla ar gael.

GW^ YL BEDROC

GW^ YL MALDWYN

Dyddiad : 19/20/21 Mehefi n Bandiau : Nos Wener – Y Tebot Piws, Meic Stevens, Huw Chiswell, Katell KeinegDydd Sadwrn – (Llwyfan Cymdeithas yr Iaith – Y Clwb Rygbi) – Yucatan, Eitha Tal Ffranco, Al Lewis, Clinigol, Yr Annioddefol, Y Bandana, Just Like Frank, RTR, Llygredd SwnNos Sadwrn – Jess, Gwibdaith Hen Fran, Y Diwygiad, Plant Duw, Y Betti GalwsDydd Sul – Cerddoriaeth DraddodiadolTocynnau : Nos Wener - £6, dydd Sadwrn am ddim, nos Sadwrn £6.Yn ôl Jamie Bevan, un o drefnwyr yr w^ yl, “dyle pobol ddod i’r w^ yl oherwydd awyrgylch clos a chroesawgar y cymoedd a’r cyfl e i weld rhai o enwau mwyaf yr SRG mewn un lle.” Mae’n addo bod yn w^ yl fach dda!www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk

Gwesty’r Cann Offi ce, Llangadfan, PowysDyddiad : 5/6/7 Mehefi n Bandiau : Nos Wener – Geraint Løvegreen a’r Enw Da, Wyrligigs, Stomp Ffermwyr IfancNos Sadwrn – Eilir Jones (Ffarmwr Ffowc!), Plethyn, Gwibdaith Hen Fran, Aveldro (o Lydaw)

Hefyd llwyth o bethau eraill heblaw cerddoriaeth gan gynnwys dawnsio gwerin, straeon i blant gan Cath Aran, ymryson ‘da Mei Mac, barbaciw a fez nos i orffen y cyfan nos Sul!Tocynnau : £10 y noson, o’r Cann Offi s 01938 8202028 820202

GWYLIO’R GWYLIAU

[email protected]

templateyselar.indd 16templateyselar.indd 16 20/5/09 10:17:1320/5/09 10:17:13

Page 17: Y Selar - Mehefin 09

byw ac astudio drwy’r Gymraeg

www.bangor.ac.uk

• Mae'r Gymraeg yn rhan gwbl naturiol o fywyd myfyriwrym Mangor.

• Prifysgol Bangor sy’n cynnig y nifer fwyaf o gyrsiau drwygyfrwng y Gymraeg

• Bywyd cymdeithasol Cymraeg heb ei ail. Trefnir llu oweithgareddau hamdden a chymdeithasol gan UndebMyfyrwyr Cymraeg Bangor.

• Neuadd breswyl fywiog Gymraeg sy’n gartref i fyfyrwyrCymraeg o bob cwr o Gymru.

• Mae bwrsariaethau o £500 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'ndewis astudio'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, a£250 y flwyddyn i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrsdrwy'r Gymraeg.

AM FWY O FANYLION CYSYLLTWCH Â’R UNED RECRIWTIO MYFYRWYR.Ffôn: 01248 382005 / 383561•E-bost: [email protected]

GW^ YL GOPR AMLWCHGigs Cymdeithas yr Iaith a Maes BDyddiad : 1-8 Awst Mae’n addo bod yn wythnos ffanastig yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala eleni, gyda bandiau gwych yn chwarae i Gymdeithas yr Iaith a Maes B. Bydd uchafbwyntiau gigs Cymdeithas yr Iaith yn cynnwys Bob Delyn a’r Ebillion, Meic Stevens, Heather Jones, Derwyddon Dr Gonzo, Cowbois Rhos Botwnnog a Plant Duw, gyda gw^ yl trwy gydol y dydd ar y dydd

Sadwrn olaf. Bydd Maes B yn cynnig dewis helaeth hefyd, gan gynnwys Race Horses, Cate le Bon, ac fe fydd Derwyddon Dr Gonzo a Cowbois Rhos Botwnnog yn gorffen yr wythnos mewn steil yno ar y nos Sadwrn. Digon o ddewis felly, ac fe fydd maes yr Eisteddfod yn llawn dop o ddigwyddiadau a bandiau yn ystod y dydd hefyd. Dwi methu aros!

Mwy o wybodaeth: www.cymdeithas.org / www.maesb.comEIS

TEDDFO

D GEN

EDLAET

HOL B

ALA

Dyddiad : 21/22/23 Awst Bandiau : Jarvis Cocker, Bon Iver, Wilco, British Sea Power, Emmy the Great, Four Tet, Noah and the Whale, Errors, Sibrydion, Rodriguez, i enwi ond rhai. Gw^ yl unigryw mewn

lleoliad perffaith!Tocynnau : Oedolyn - £115, Myfyrwyr - £99, Arddegwyr (13 i 17 oed) £50. Plant dan 12 am ddim.www.thegreenmanfestival.co.uk

GW^ YL Y GARREG LAS Llanfyrnach, Sir BenfroDyddiad : 31 Gorffennaf – 2 Awst Bandiau : Heb eu cadarnhau eto, ond bydd 5 llwyfan gan gynnwys y prif lwyfan, llwyfan ddawns, acwstig a ‘myfyrwyr’. Bydd hefyd llwyth o weithdai dros y penwythnos.Tocynnau : £37 www.celticbluerock.org.uk

Dyddiad : 28/29/30 Awst Bandiau : Yn cynnwys Race Horses, Meic Stevens, Y Bandana, Chwarter Call, Y Wyrligigs, Ed Holden, Celt, Bryn Fôn a loooods mwy. Digon o amrywiaeth i gadw pawb yn hapus!Tocynnau : Rhad ac am Ddim, Gwersylla yn £10 y noson.www.gwylgopr.co.uk

GW^ YL Y DYN GWYRDD

templateyselar.indd 17templateyselar.indd 17 20/5/09 10:17:2220/5/09 10:17:22

Page 18: Y Selar - Mehefin 09

?18

Mae’r grw^ p electroneg, Clinigol, wedi bod yn ymddangos fan hyn a fan draw ar y sin ers rhai blynyddoedd bellach. O’r diwedd, ar ôl cyfuno gyda gwesteion arbennig i ryddhau tri sengl, maen nhw’n barod i ryddhau eu halbwm gyntaf, Melys, ddiwedd mis Mai. Aeth Y Selar draw i gwrdd ag aelodau craidd Clinigol i ddysgu ychydig bach mwy am y prosiect a’r albwm newydd:

Pwy ydy Clinigol - beth ydy cefndir y grw^ p? Aled: Dau frawd, Geraint ac Aled, sy’n dwli ar gerddoriaeth. Daethon ni at ein gilydd tua diwedd 2002 er mwyn creu y math o gerddoriaeth ry’n ni’n mwynhau gwrando arno, yn y Gymraeg, gan fod cerddoriaeth electroneg Gymraeg yn gymharol brin.Geraint: Peth cynta nethon ni oedd sesiwn gyda C2 yn 2005, wedyn dath y sengl Eiliad ar label Ciwdod yn Rhagfyr 2006, dath yr ail sengl Y Gwir yn Hydref 2007 ar ôl gweithio gyda Llwybr Llaethog, dechrau’r fl wyddyn nethon ni ryddhau sengl rhif 3 Hufen Iâ yn ddigidol, a nawr, o’r diwedd, ma’r albwm yn barod!

I rywun sydd heb glywed y senglau, sut fydde chi’n disgrifi o cerddoriaeth Clinigol?

G: Hooky, catchy pop gyda dylanwadau electro, dawns ac ychydig o R&B. Cerddoriaeth ar gyfer y penwthnos, ar gyfer parti, sy’n sexy ac edgy gobeithio gyda bach o agwedd. A: Cerddoriaeth i roi chi mewn hwyliau da. Rhywbeth i wrando arno wrth baratoi i fynd mas ar nos Sadwrn neu i droi lan yn uchel yn y car tra bod yr haul yn gwenu.G: Yn fwy na dim mae’n gerddoriaeth ar gyfer dawnsio a rhywbeth sydd i fod yn damaid bach o hwyl.

O lle ydych chi’n tynnu eich dylanwadau?A: O nifer o lefydd - cerddoriaeth pop, house, yr 80au, R&B a hip hop. Fi mwy mewn i gerddoriaeth ddawns, pobl fel Alan Braxe a Fred Falke ar hyn o bryd, sydd wedi benthyg lot o synau’r 80au, a phobl fel Giorgio Moroder. Mae Geraint mwy mewn i R&B a bach o hip-hop, ac yna ry’ ni’n cwrdd rhywle yn y canol. Hefyd, cynhyrchwyr pop/dawns fel Stuart Price, Richard X a Xenomania.G: Yn sicr ma’r ochr gynhyrchu wedi ei ddylanwadu yn gryf gan stwff electro... ond o ran y melodïau a’r geiriau wi’n sgwennu, cerddoriaeth bop y siartiau sydd wedi dylanwadu arnai fwya, boed yn pop/dawns Prydeinig neu R&B Americanaidd, yr hook

sy’n bwysig, ‘wi wastad yn trio sgwennu rhywbeth catchy ... weden i mai Everything But The Girl oedd wedi gwneud i mi eisiau sgwennu caneuon, yna ma popeth o Nik Kershaw i Goldfrapp i Madonna wedi dylanwadu ar y caneuon ac i’w clywed yn ein melodïau.

Sut ymateb ydych chi wedi cael i’r senglau?A: Cymysg i ddechrau, i fod yn onest, gyda rhai yn gefnogol iawn, tra bod eraill falle ddim cweit yn deall beth oedden ni’n trio neud.G: Ond ma’r ymateb wedi gwella gyda phob sengl, ma’r ymateb i Hufen Iâ er enghraifft, di bod yn hynod bositif. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen gymaint at ryddhau’r albwm, ni wedi dysgu cymaint dros y bedair mlynedd dwetha, ma’r caneuon ry’ ni’n sgwennu yn well, ma safon y cynhyrchu wedi codi, ni’n fwy hyderus a sicr yn beth y ni’n neud a dwi’n falch iawn o beth ry’ ni wedi gwblhau ar Melys.A: 2009 fydd blwyddyn electro pop! Mae’r Pet Shop Boys wedi ennill Brit, ac mae artistiaid fel Little Boots, Frankmusic, La Roux ac Empire of the Sun yn cael lot o sylw. Gobeithio fydd hyn yn treiddio \

HOLLOL GLINIGOL

www.myspace.com/clinigolmusic

templateyselar.indd 18templateyselar.indd 18 20/5/09 10:17:2820/5/09 10:17:28

Page 19: Y Selar - Mehefin 09

19

trwyddo i’r sin Gymraeg, achos mae angen mwy o amrywiaeth!

Da chi’n licio tynnu gwesteion arbennig mewn i weithio gyda chi, pam hynny?G: Am sawl rheswm, yn bena, wi’n credu fod lleisiau merched yn gweithio yn lot gwell ar gerddoriaeth ddawns. Mae natur y gerddoriaeth felly yn golygu bod rhaid i ni agor e mas, a ma hwnna’n beth cyffrous iawn, ceisio darganfod y llais mwya addas i ganu cân. Ma nifer o sub-genres ar yr albwm, felly ry’ ni wedi defnyddio cantorion sy’n gweddu steil y caneuon. Ma Nia Medi yn wych yn neud

stwff dawns, ma Siwan Morris yn berffaith ar gyfer caneuon mwy sexy ... ar gyfer Dim Ond Ti Sydd Ar Ôl roedd angen llais pur a melancolig, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu unrhyw un ond Heather Jones yn canu’r gân - felly roedd e’n ryddhad mawr pan wnaeth hi gytuno!! Yna weithiau wi’n sgwennu cân sydd eisiau llais dyn fel Eiliad a Gyd O’r Blaen, felly fi sy’n canu nhw, achos bo fi ’n tsiep!A: Mae’n gyffrous gweithio gyda phobl gwahanol ac mae’n helpu creu mwy o amrywiaeth.G: Ydy, a mae fe di bod yn brofi ad gwych cael cwrdd a gweithio gyda chymaint o bobl talentog, gwahanol.A: A fydden i byth wedi caniatáu i Geraint neud rap fel Cofi Bach!

Sut beth ydy gweithio gyda diva’s Cymraeg go iawn fel Margaret Williams a Heather Jones?G: Peth cyffrous dros ben, yn brofi ad positif iawn ac yn lot o sbort! Ma’r ddwy yn real pros a ro ni mor chuffed bo nhw wedi cytuno neud! Roedd Heather mor agored i’r holl beth, yn llawn brwdfrydedd ac yn mwynhau’r sialens o neud rhywbeth hollol newydd a gwahanol. Yna gyda Margaret, roedd e’n gwmws fel o’n i wedi

dychmygu. Nath hi droi lan yn edrych yn amazing a glamorous, treulio rhyw hanner awr yn recordio’r vocal ac yna difl annu…true diva! Gwych!

Beth all pobl ddisgwyl o’r albwm?A: Slick, edgy pop gyda rhai o sêr mwya Cymru ...G: ... i gyd yn dod at ei gilydd o dan faner hapus Clinigol!A: Albwm sy’n unashamedly pop ac sy’n unashemdly electro.G: Mae’r tair sengl a hefyd Am Wastraff ar yr albwm ...A: Ac ma nhw i gyd wedi cael eu hail-recordio neu eu hail-gymysgu ... felly ma popeth ar yr albwm yn newydd! 12 trac i gyd, rhai caneuon pop, peth dawns, peth electro a bach o R&B / hip-hop hefyd!G: Sain credu bod dim byd tebyg i hwn wedi cael ei wneud o’r blaen yng Nghymru, mae’r holl beth yn eitha unigryw. Mae’r gerddoriaeth yn wahanol ac ma’r defnydd o westeion yn wahanol - lle arall gewch chi Cofi Bach a Margaret Williams ar yr un albwm?! Felly trowch y stereo lan - mae’n amser dechre’r parti!!!

MAE ALBWM GYNTAF CLINIGOL, MELYS, ALLAN

AR 25 MAI.

WI’N CREDU FOD

LLEISIAU MERCHED YN

GWEITHIO YN LOT GWELL

AR GERDDORIAETH

DDAWNS

“ “

templateyselar.indd 19templateyselar.indd 19 20/5/09 10:17:3320/5/09 10:17:33

Page 20: Y Selar - Mehefin 09

Rhyw fl wyddyn nol roedd llawer o sôn am y ffaith fod newidiadau gan y cwmni sy’n rheoli breindaliadau i gerddorion yn debygol o arwain at golledion mawr i gerddorion a labeli recordiau Cymraeg, a pheri bygythiad gwirioneddol i’r sin. Ers hynny mae’r mater wedi tawelu yn y wasg a’r cyfryngau, felly penderfynodd Y Selar ofyn i Gwilym Morus dynnu sylw’r darllenwyr at y mater pwysig hwn.

Does ‘na fawr neb yng Nghymru sy’n cychwyn allan mewn band pop i wneud pres. Y sylw, yr hwyl, y wefr o gael llwyth o bobl yn grwfi o / neidio o gwmpas / gwrando - ia. Ond y pres? Na.

Ond, mae chwarae mewn band yn costio. Mae offerynnau da yn ddrud; mae teithio i gigs yn gorfod digwydd rhywsut; mae amser stiwdio’n gallu bod yn gostus, a rhyddhau CD yn gallu bod yn boenus ar y banc. Mae pob cam o yrfa cerddor yn mynd i gostio rhywbeth neu’i gilydd, ac mewn sin cyfyng, bach fel yr hyn sydd yng Nghymru, does ‘na ddim llawer o gyfl eoedd i wneud yr arian yna’n ôl. Dwi’n nabod digon o fandiau a cherddorion sydd wedi buddsoddi miloedd o bunnau yn eu cerddoriaeth,

ond i ennill ambell i ddeg punt am eu trafferthion.

Ond does ‘na neb yn cwyno lawer, oherwydd fel arfer da ni gyd yn neud y pethau ‘ma allan o gariad a’r ysfa i brofi gwefr y gig byw (ac allan o’r gobaith afrealistig yna fydde ni’n “gneud hi” rhyw ddydd, pan fydd y byd yn cydnabod ein hathrylith!). Mae’r ego massage o gael llwyth o bobl yn meddwl dy fod ti’n cw^ l am ryw awran ar nos wener yn ddigon o dâl fel arfer (ac i’r gwrthwyneb, llwyth o bobl yn meddwl dy fod ti’n dwat jest yn neud i ti weithio’n galetach at tro nesaf!). Rhaid i ni beidio anghofi o fod y rhan fwyaf o’r sin bop yng Nghymru’n rhedeg ar fawr mwy nag ewyllys da.

Felly sut mae cerddorion a labeli Cymraeg yn ennill digon o bres i dalu am y pethau angenrheidiol ‘na - y gitârs, y stiwdios a’r CDs? Y posteri, y PAs a’r petrol? Yn syml iawn, drwy freindaliadau sy’n cael eu talu gan y radio a’r teledu am gael defnyddio’u caneuon. Pob tro da chi’n clywed cân ar y radio neu deledu, mae’r cyfansoddwyr a’r perfformwyr yn cael eu talu ychydig. Fedra i’m meddwl am lawer

o gerddorion Cymraeg dyddiau yma sy’n gallu ariannu eu hunain ar werthiant CDs a thâl gigs yn unig.

Fydden i’n tybio fod tua 90% o gerddorion pop Cymru ar hyn o bryd yn dibynnu ar y breindaliadau hyn am y rhan fwyaf o’u hincwm, a dim llai na phob un o’r labeli, ac yng Nghymru, mae bron bob ceiniog o’r arian yna’n cael ei ail-fuddsoddi yn y gerddoriaeth. Does ‘na ddim llawer sy’n gallu fforddio cymryd cut i fyw arno - mae’r rhan fwyaf yn crafu byw mewn ffyrdd eraill. I’r rhan fwyaf o gerddorion, ail-fuddsoddi taliadau breindaliadau ydi’r unig ffordd o gadw’r sioe ar y ffordd.

SGRIWIO CERDDORION CYMRAEG

Huw StephensNos Lun a nos Fawrth am 10pmac ar

bbc.co.uk/c2

templateyselar.indd 20templateyselar.indd 20 20/5/09 10:22:3120/5/09 10:22:31

Page 21: Y Selar - Mehefin 09

A wyddoch chi be? Ers Ebrill 2007 mae breindaliadau radio, sef ffynhonnell ariannol bwysicaf y sin bop Gymraeg, wedi bod yn gostwng yn raddol. Erbyn haf 2010 bydd y raddfa wedi disgyn tua 80% - colled o tua £1.3 miliwn i’r diwydiant cyfan pob blwyddyn. Pwy a w^ yr beth fydd goblygiadau hirdymor hyn ar ddiwylliant iaith Gymraeg, ond fedrwch chi fod yn sicr o un peth, heb yr arian breindaliadau yna i dalu am ryddhau CDs, does dim bwys pa mor ymroddgar ac angerddol y mae cerddorion Cymru, bydd llai a llai o gynnyrch Cymraeg yn cael ei greu, ei werthu a’i ddarlledu. Bydd y blodau tlws ‘ma’n dechrau gwywo, a’r ardd yn dechrau edrych fel lle difl as iawn i fyw ynddi.

Y broblem ydi, tydi’r bobl sy’n deud be ‘di gwerth cerddoriaeth ym Mhrydain, ac sy’n casglu a dosbarthu’r breindaliadau, (sef corff yn Llundain o’r enw PRS) ddim yn credu fod cerddoriaeth Gymraeg werth llawer o gwbl. Mae cerddor sy’n llwyddo i gael cân wedi ei chwarae ar Radio 1 ar hyn o bryd yn cael tua £15 pob munud. Nawr, cymharwch hynny â Radio Cymru, lle bydd cerddor yn lwcus i gael 50c y funud.

Wel, digon teg, dwi’n clywed rhai ohono chi’n deud. Mae Radio 1 yn orsaf llawer mwy poblogaidd gyda mwy o wrandawyr. Ond ystyriwch hyn - petai 200 o gerddorion yn East Sussex yn penderfynu rhoi’r Fender yn y to a rhoi’r gorau i ryddhau recordiau,

fyddai’r Bib hyd yn oed yn sylwi? Petai 200 o gerddorion Cymraeg yn penderfynu gwneud yr un peth, pa mor gyfl ym fyddai Radio Cymru’n rhedeg allan o gerddoriaeth newydd i’w chwarae? Blwyddyn? Mis? Wythnos? Dros nos? Y pwynt ydi, i Gymru, ac i Gymry Cymraeg, mae cerddoriaeth iaith Gymraeg werth llawer iawn mwy na 50c y funud. Mae cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chreu a’i darlledu mewn amgylchiadau hollol wahanol i gerddoriaeth Saesneg, a dim ond carfan fechan iawn o gerddorion sy’n gallu ei chreu, yn wahanol i’r sin Saesneg lle mae miliynau o gerddorion yn rhyddhau cynnyrch pob blwyddyn. Felly pam fod PRS yn mesur gwerth y sin Gymraeg gyda ffon fesur Saesneg? Does dim synnwyr i’r peth.

Oni ddyle pris rhywbeth adlewyrchu’r ymdrech mae’n cymryd i’w greu a’r defnydd a wnaed ohono? A ddyle plymiwr o Rosybol dderbyn £5 am ddiwrnod o waith pan mae’r beipen gopr yn unig wedi costio £30 iddo? A ddyle cerddor dderbyn £1.50 am gân sydd wedi costio tua £200 iddo gael hi’n barod ar gyfer y radio neu’r teledu, a hynny heb unrhyw sicrwydd bydd y cynhyrchwyr yn penderfynu ei defnyddio hyd yn oed? Na ddyle siw^ r dduw, yn enwedig pan mae’r orsaf radio a’r sianel deledu’n cael eu hariannu gan bres cyhoeddus, pres sydd i fod yn grant i iaith a diwylliant Cymru gyfan, ac nid jest pres chware i

haid o gyfryngis dosbarth canol lawr yng Nghaerdydd. Jest achos fod cerddorion yn creu allan o’r awydd (neu’r angen) i wneud, does dim rhaid cymryd mantais ohonyn nhw, nagoes?

A pham fod PRS yn handlo breindaliadau cerddorion Cymraeg yn y lle cyntaf? Wel, does ‘na neb erioed wedi cwestiynu pam, hynny ydi, tan iddyn nhw ddechrau hacio’r blodau tlws ‘ma lawr gyda bwyell. Mae’n hen bryd i gerddorion Cymru sylweddoli fod gyno nhw’r hawl i ofyn pris teg am eu caneuon. Os ydi’r BBC ac S4C isho cerddoriaeth Gymraeg ar eu gwasanaethau, grêt, gwnewch a chroeso, ond dangoswch ychydig o barch at eich UNIG gyfl enwyr yng Nghymru gan sicrhau ein bod ni’n gallu o leiaf parhau i greu cerddoriaeth, heb sôn am wneud bywoliaeth allan ohoni.

Mae’n amser i gerddorion Cymru adael PRS a thrafod ein telerau’n hunain gyda’r cyfryngau Cymraeg, gan ofyn pris teg am ein gwaith, yn lle gorfod derbyn twpdra llond llong o siwts mewn swyddfa lawr yn Llundain. Mae’r cyfryngau yng Nghymru wedi cael uffar o ddil da allan o gerddorion Cymraeg ers degawdau, ond mae’r telerau newydd ma’n golygu fod ni jest yn cael ein sgriwio’n dwll gan yr union gyfryngau sydd i fod i’n cefnogi ni. Os ydan ni isho sin gerddoriaeth iach yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol, mae’n amser gwneud rhywbeth amdano, cyn fydd hi’n rhy hwyr.

dweud ei ddweud: gwilym morus

templateyselar.indd 21templateyselar.indd 21 20/5/09 10:22:3320/5/09 10:22:33

Page 22: Y Selar - Mehefin 09

22

adolygiadau

ADH DREAMS

THE STILLETOES (ANKSTMUSIK)(ANKSTMUSIK)

Pa mor cw^ l yw’r Stilletoes?! Ma’ rhaid i fi gyfadde’ - er gwarth mawr i fi - nagon i wedi clywed y Stilletoes tan i fi gael gafael ar y cd ‘ma, ac er mod i wastad ‘di meddwl bod nhw’n cw^ l (jyst drychwch arnyn nhw), waw ges i’m mhlesio. Bois bach, ma’r albwm ‘ma’n wych! Mae’n llawn angerdd, cyffro, sw^ n, ac mae jyst yn albwm da iawn iawn. Ma’ llais Efa yn unigryw

ac yn amrwd, ac mae geiriau’r caneuon yn glyfar, yn onest ac yn profocio. Ma’ digon o amrywiaeth i’r caneuon, dim jyst ‘sgrechen’ (chwedl dad), ac ma Caeth i Gymru yn saib amserol reit yng nghanol yr albwm. Dyma gân sy’n cwestiynu Cymru a ffordd y Cymry o afael yn dynn ar yr iaith. Mae ‘na lot o gwestiynu gwleidyddol yma, ac mae’n ddiddorol gwrando’n ofalus ar y geiriau a neges y band. Ma’ rhywbeth yn wahanol ymhob cân, dwi’n hoff o

Hypocrite Hyper Shit yn enwedig, ac wrth gwrs y gân sy’n agor yr albwm gyda bang - Smoke’n’Snort. Mae’n albwm eitha’ hir gyda 14 cân ac mae’n

teimlo’n albwm llawn. Dwi’n ffan, a ddylech chi fod hefyd! Dim whare.

8/10 LOWRI JOHNSTON

HUD A LLEFRITH

mr huw (COPA)

Fel arfer wrth adolygu albwm newydd dwi’n canolbwyntio bron yn llwyr ar safon y gerddoriaeth. Ond wrth wrando ar Hud a Llefrith daeth yn amlwg nad albwm arferol mo hon!

Dyma ail gynnig mr huw ar ein diddanu, a beth bynnag yw eich barn chi amdano, yn sicr mae’n ddiddanwr! Mae geiriau hollol nyts yr albwm yn awgrymu nad yw mr huw yn cymryd ei hun ormod o ddifri, ond credaf mai masg yw hyn i gerddor sy’n llawn angerdd a brwdfrydedd. Er bod pynciau reit dywyll (marwolaeth yn bennaf) yn cael eu trafod yn yr albwm, mae vibe reit hapus iddi - hafaidd a dweud y gwir. Albwm i wrando arni wrth deithio i un o wyliau’r haf eleni.

Yn gerddorol mae tair cân yn sefyll allan. Pethau Bach, Ffrind Gora Marw ac Y Dyn, Y Chwedl, gyda riffs ac alawon bachog yn perthyn iddynt. Ond yn llenyddol, mae’r albwm yn gyfanwaith gwych. A yw mr huw yn ceisio dwyn mantell MC Mabon fel artist mwyaf nyts yr SRG?! Ewch i brynu copi er mwyn barnu dros eich hunain!

7/10ALED IFAN

MELYS CLINIGOL

OS MEWN SW^

N HUW M

RHAID RHAID

GWRANDOGWRANDO

Gan fod Cymry’n rhoi llawer o bwys ar farn sylwebyddion o’r tu allan ac yn cael trafferth meddwl dros eu hunain ar brydiau, efallai bydd gan rai ohonoch chi ddiddordeb mewn clywed fod Stuart Maconie ar BBC 6 Music wedi disgrifi o’r trac Rhywbeth Dros Dro wrth ei chwarae fel ‘A stunningly beautiful piece of music’. Sy’n hollol wir, ond nid yw’n gân sy’n sefyll allan ar yr albwm yma, oherwydd mae mwy ohonynt, o oes. Pob un wan jac i ddeud y gwir!

Aeddfedrwydd meddyliol fydd yn gwahaniaethu barn am Huw M. Os wyt ti’n ystyried cân newydd Green Day yn fuddugoliaeth ysgubol yna ni fyddi’n neidio mewn gorfoledd i hwn. Ond os ydi treulio pnawn poeth o haf yn

La Rochelle yn swnio’n apelgar yna bydd Os Mewn Sw^ n yn albwm perffaith. Nid mod i ‘di gwneud y fath beth chwaith, ond ma’n swnio’n amser hyfryd, lle bynnag y mae’r dref yng nghân Plethyn. Defnyddiwyd y gymhariaeth annoeth yna o bosib oherwydd bod awyrgylch Ffrengig i fwy nag un gân, a hynny yn fendigedig yn Y Drôr sy’n Dal y Sanau, sydd yn gân mor wych dwi’n ystyried gweddill y caneuon fel planedau ffrwythlon perffaith o amgylch ei haul gogoneddus yn y system solar hyfryd a yw Os Mewn Sw^ n. Hwre ar bob cyfrif.8/10HEFIN JONES

Pop, hip hop, dawns, electro, R&B a Margaret Williams be arall sydd ei angen de! Mae bron bob elfen o gerddoriaeth i’w chlywed ar yr albwm hon. Wedi dweud hynny, y dylanwad mwyaf amlwg ydy synths yr wythdegau. Wrth wrando ar yr albwm yn ei chyfanrwydd mae’n anodd peidio â chlywed sain debyg i ‘Neon Neon’ ddim bod hynny yn beth drwg o bell ffordd.

Mae Siwan Morris, Cofi Bach, Nia Medi, Margaret Williams, Heather Jones a Marged Parry i gyd yn cyfrannu’n lleisiol i’r albwm sydd yn golygu

fod yna ddimensiwn gwahanol ar gyfer bron pob cân. Oherwydd hyn mae’r albwm yn llwyddo i gadw diddordeb rhywun o’r dechrau i’r diwedd. Fy hoff gân i ar yr Albwm ydy Hufen Iâgyda Marged Parry. Cân llawn hwyl ac er iddi gael ei rhyddhau fel sengl ym mis Ionawr, cân ar gyfer yr haf ydy hi heb os.

Does yna ddim llawer o grwpiau sydd yn creu pop electronig yn y Gymraeg felly mae’n braf gweld band fel Clinigol yn ymddangos ar y sin. Hwre!

8/10DEWI SNELSON

Tydi cerddoriaeth gwerin draddodiadol ddim yn apelio rhyw lawer atai. Ydi, ma’n iawn yn ei lle, ond go brin ei bod hi’n mynd i achub y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Wedi dweud hynny, mae gwerin sy’n cael ei dehongli mewn ffordd ‘wahanol’ yn fater gwahanol iawn. Dyma a geir ar albwm gyntaf 9Bach, caneuon gwerin traddodiadol gyda twist, a twist eithriadol o effeithiol ydy o hefyd. Yn yr un modd â Gareth Bonello, mae Lisa Jên Brown a’i gw^ r Martin Hoyland yn defnyddio caneuon sy’n

adnabyddus i ni gyd, ac yn rhoi stamp unigryw eu hunain arnyn nhw. Yr hyn sy’n creu argraff ar yr albwm hon ydy’r modd cynnil maen nhw wedi mynd o’i chwmpas hi. Oes, mae ‘na ddefnydd o offerynnau ‘modern’, ond y defnydd amgen ar offerynnau traddodiadol,

y delyn, y cello, sy’n creu’r argraff fwyaf. Wedi dweud hynny, mae’r bas a’r offerynnau taro hefyd yn iasol ar adegau. Dyma albwm gynnil a chlyfar iawn - gwerin gyda gwahaniaeth.

7/10OWAIN SCHIAVONE

9BACH

9BATH (GWYMON)(GWYMON)

[email protected]

templateyselar.indd 22templateyselar.indd 22 20/5/09 10:22:3820/5/09 10:22:38

Page 23: Y Selar - Mehefin 09

23

RHAID

GWRANDO

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

www.

sain

wale

s.com

w

ww.ra

sal.n

et

www

.mys

pace

.com

/gwy

mon

w

ww.m

yspa

ce.c

om/la

belc

opa

Huw M Os Mewn SwnRasal LL014 - £6.32 iTunes yn unig. Allan nawr

Yr Ods Fel hyn am Byth - Ffordd ti’n troi dy LygaidCopa LL005 - £1.58 iTunes yn unig. Allan nawr

Mr Huw Hud a LlefrithCopa CD006 - £9.78 Allan nawr

Mr Huw Ffrind Gora MarwCopa LL008 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

Al Lewis Trywydd IawnRasal LL015 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

The Gentle Good While you slept I went out walkingGwymon CD004 - £12.70 Allan nawr

Lleuwen Lili Wen FachGwymon LL006 - £0.79 iTunes yn unig. Allan nawr

Goreuon Bryn FônSain SCD2615 - £9.78

Al Lewis Band Sawl Ffordd AllanRasal CD028 - £9.78Dyddiad rhyddhau : 01/06/09

9BachGwymon CD007 - £9.78Dyddiad rhyddhau : 15/06/09

Daniel Lloyd Tro ar FydRasal CD029 - £9.78Dyddiad rhyddhau : 06/07/09

Derwyddon Dr Gonzo Stonk!Copa CD007 - £9.78Dyddiad rhyddhau : 27/07/2009

Mynnwch gopi! Ewch i wefan Sain

www.sainwales.comneu mae modd i chi lawrlwytho traciau unigol o iTunes

miwsig, miwsig, rhowch i mi . . . .

templateyselar.indd 23templateyselar.indd 23 20/5/09 10:22:4920/5/09 10:22:49

Page 24: Y Selar - Mehefin 09

templateyselar.indd 24templateyselar.indd 24 20/5/09 10:53:5520/5/09 10:53:55