y tafod - mehefin 2012

36
ytafod a cylchgrawn cymdeithas yr iaith Mehefin 2012 Taith Tynged yr Iaith Manylion Ryff-geid Dathliadau a Gŵyl 50 Holl gyffro i Eisteddfod Dyffryn Nantlle

Upload: rhys-llwyd

Post on 07-Mar-2016

245 views

Category:

Documents

6 download

DESCRIPTION

Y Tafod - Mehefin 2012 Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

TRANSCRIPT

Page 1: Y Tafod - Mehefin 2012

ytafodacylchgrawn

cymdeithas yr iaithMehefin 2012

Taith Tynged yr IaithManylion

Ryff-geid

Dathliadau a Gŵyl 50Holl gyffro

i Eisteddfod Dyffryn Nantlle

Page 2: Y Tafod - Mehefin 2012

Prif SwyddfaSwyddogion Cyflogedig:

Dafydd Morgan Lewis

Post: Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria,

Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Ffôn: +44 (0)1970 624501

E-bost Prif Swyddfa: [email protected]

Swyddfa’r GogleddSwyddog Cyflogedig: Osian Jones

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r Gogledd, 10 Stryd y Plas,

Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR.

Ffôn: +44 (0)1286 662908Ffacs: +44 (0)1286 662902

E-bost Swyddfa’r Gogledd: [email protected]

Swyddfa’r DeSwyddog Cyflogedig:

Colin Nosworthy a Jamie Bevan

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r De, Ty’r Cymry, 11 Heol

Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ

Ffôn: +44 (0)2920 486469

E-bost Swyddfa Caerdydd: [email protected]

Swyddfa Sianel 62Swyddogion Cyflogedig:

Greg Bevan â Lleucu Meinir (rhan amser)

Ffôn: 07891 819972

E-bost Sianel 62: [email protected] [email protected]

hjkl

2 ytafod mehefin 2012

Page 3: Y Tafod - Mehefin 2012

ytafodacylchgrawn

cymdeithas yr iaithMehefin 2012

Taith Tynged yr IaithManylion

Ryff-geid

Dathliadau a Gŵyl 50Holl gyffro

i Eisteddfod Dyffryn Nantlle

ytafodaMehefin 2012

Golygydd Llinos RobertsDylunio a Chysodi Rhys Llwyd

Graffeg Ambiwlans Steffan Dafydd

4 Gair o’r Gadair Bethan Williams

5 Ryff-geid i Ddyffryn Nantlle Angharad Tomos

8 Map o ardal Steddfod yr Urdd

10 Digwyddiadau Steddfod yr Urdd

12 Adolygiad o CD Gwyneth Glyn Manon James

14 Tata Horizon Dylan Morgan

16 Dyfodol Digidol Adam Jones

18 Gŵyl Hanner Cant

21 Cynghrair Cymunedau Cymru Ffred Ffransis

24 Gigs Steddfod 2012 Bro Morgannwg

26 Sianel 62 Greg Bevan

28 Tynged yr Iaith Ned Thomas

30 Taith Tynged yr Iaith

5050

Lleoliad

croeso i’r teulu

GRUFF RHYS

tocynnau

MAES PEBYLL

Arddangosfa

“Mae’r Gymdeithas wedi trefnu sawl gig chwedlonol dros y blynyddoedd, ond Hanner Cant fydd y mwyaf eto… ni’n edrychymlaen yn ofnadwy i fod yn rhan o’r parti yma” Mark Lugg, Tŷ Gwydr

I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw

yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf.

Hanner Cant fydd y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau’n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Mae enwau’r artistiaid

yn cael eu cyhoeddi fesul wythnos – felly edrychwch ar y wefan am y rhestr diweddaraf.

Mae Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion, tua 15 milltir o Aberystwyth. Bu sawl gig hanesyddol yn y pafiliwn enfawr yng nghanol y pentref, yn cynnwys Twrw Tanllyd yn y 70au ac 80au, Rhyw Ddydd Un Dydd yn 1991 a Noson Claddu Reu yn 1992. Fyddwn ni’n meddiannu Pafiliwn Bont a Neuadd y Pentref am y penwythnos, felly bydd popeth dan do, gyda dewis o

ddiodydd a bwyd cynnes ac oer ar gael. Edrychwch ar hannercant.com am wybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd yr ŵyl (a rhowch wybod i ni os ydych chi am drefnu bws!)

Mae digon o le i wersylla, felly dewch â’ch pabell i aros am y penwythnos.£2.50 y pen y noson. Toiledau a chawodydd ar gael.

Cynnig arbennig: rhag-archebwch docyn penwythnos nawr o hannercant.com am ddim ond £25! Bydd tocynnau

pris llawn ar gael yn hwyrach am £30.

Mynediad am ddim i rai dan 13 oed, ardal blant, maes pebyll teuluol, a digon i

ddifyrru pawb o bob oed!

Dros y degawdau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal gigs mawr a bach ledled y wlad. Fyddwn ni’n dathlu perthynas glòs y Gymdeithas â cherddoriaeth Gymraeg mewn arddangosfa unigryw yn Hanner Cant. Os oes gennych chi unrhyw bosteri, lluniau, crysau tî, ffansins, cylchgronau neu straeon ac atgofion hoffech chi gyfrannu, cysylltwch ag [email protected] neu 01970 624501 os gwelwch yn dda.

Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr13–14 Gorffennaf 2012

Pafiliwn Pontrhydfendigaid

hannercant.com @hannercanthannercant.com @hannercant

Gruff Rhys Gai Toms Neil Rosser Sen Segur Gildas Gwyneth Glyn Y Bandana Huw M Y Saethau Heather Jones Mr Huw Lleuwen

Yucatan Fflur Dafydd Twmffat Yr Ods Cowbois Rhos Botwnnog Y Niwl JJ Sneed Y Lladron Alun Tan Lan Bob Delyn Bryn Fôn

Geraint Løvgreen Creision Hud Meic Stevens Llwybr Llaethog Mattoidz Tecwyn Ifan The Gentle Good Crash.Disco! Jakokoyak Tom ap Dan Gwibdaith Hen Frân Clinigol Colorama Ail Symudiad

Yr Angen Catrin Herbert Y Bwgan Tŷ Gwydr Jamie Bevan …a rhagor o enwau i’w cyhoeddi’n fuan!

Cadwch lygad ar ein gwefan a ffrwd Twitter am y diweddaraf:

2012 mehefin ytafod 3

Page 4: Y Tafod - Mehefin 2012

Mae pobl yn ddigon parod i gyhuddo ein Cymdeithas o ddifaterwch ynglŷn â’r hyn

sydd yn digwydd o ddydd i ddydd ac am wleidyddiaeth yn gyffredinol. Er bod rhyw wirionedd yn hyn, mae pobl yn teimlo pellter oddi wrth wleidyddiaeth ac yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae’r cwbl yn gallu ymddangos yn amherthnasol, yn rhywbeth nad ydyn nhw’n gallu bod yn rhan ohono ac felly ei fod yn fater i rywun arall.

Mae yna nifer o resymau gwahanol dros hynny a dydy’r system ei hun

ddim yn helpu weithiau. Wedi i dri ohonom dorri ar draws sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan fe wnaeth un o bwysigion y lle ddweud wrtha i:

‘You have no business doing that. There’s democracy going on in there – its nothing to do with you!’

Roedd ei ymateb yn adrodd cyfrolau, er nid yn hollol annisgwyl nac yn anghyffredin. Dyna rydyn ni wedi’n cyflyru i feddwl: fod gwleidyddiaeth a democratiaeth yn digwydd o fewn pedair wal San Steffan, ein Senedd ni ein hunain ac adeiladau cynghorau ledled y wlad - ac mae’n cyfraniad ni

Gair o’r GadairBethan Williams | Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

4 ytafod mehefin 2012

Page 5: Y Tafod - Mehefin 2012

at ddemocratiaeth yw i ethol pobl ar ein rhan i’w weithredu. Er mwyn bod yn rhan o ddemocratiaeth ac o wleidyddiaeth rhaid i ni ddilyn rheolau democratiaeth. Mae’r system ei hun yn dweud hynny wrthym ac yn ein cyflyru i’w dderbyn yn ddi-gwestiwn.

Ond eto, dydy’r system ddim bob tro o’n plaid – mae’r Gymdeithas wedi dweud eisoes fod ein cymunedau mewn perygl. Grymoedd gwleidyddol sydd wrth wraidd datblygiadau tai di-angen, cau ysgolion pentref a’u disodli gydag ysgolion mawr mewn trefi a chaniatáu datblygiadau adwerthu gan gwmnïau nad ydynt yn rhoi gwerth ar y Gymraeg na’r ardaloedd y maent yn dod yn rhan ohonynt. Yr un atebion sydd yn cael eu rhoi i bob ardal waeth beth fo’r heriau sydd yn eu hwynebu. Er gwrthwynebu’r pethau hyn, yn ôl y drefn sydd wedi’i osod ar ein cyfer, dydy e ddim yn gwneud gwahaniaeth. Pethau felly sy’n bwrw hyder pobl mewn democratiaeth.

Wedi blynyddoedd o ddilyn y drefn fe ddechreuais i sylwi nad yw popeth yn iawn – dydy’r system ddim yn arfogi pobl nac yn annog lleisiau. Yn fwy na hynny, gwelais fod cadw’n dawel yn golygu ymroi i’r system ac yn ei gymeradwyo, yn rhoi cred i’r rhai sydd yn rhan ohono fod

popeth yn iawn.

Petai’r dyn bach pwysig yn San Steffan wedi ystyried y peth, roedd democratiaeth yn digwydd yno o’i flaen - nid yn y ffordd fwyaf arferol efallai ac yn sicr nid mewn modd oedd wrth ddant pawb. O weld y gwendidau a’r heriau rhaid i ni ystyried sut y gallwn unioni hynny.

Wrth gydnabod fod y Gymraeg yn dirywio yn ein cymunedau a bod nifer o heriau a ffactorau yn cyfrannu at y dirywiad, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd ar daith drwy gymunedau ac ardaloedd ar draws Cymru. Mae pob cymuned y byddwn yn ymweld â hi yn unigryw a chanddi alwadau, anghenion a chryfderau amrywiol. O gydweithio gyda’n cymunedau a chymryd yr her o ddifri gallwn wneud gwahaniaeth a gweld adfer ein cymunedau Cymraeg.

Nid ydym yn honni fod yr holl atebion gennym, nac y byddwn yn trawsnewid cymunedau mewn cyfnod byr ond drwy fuddsoddi amser ac egni gallwn fedi llwyddiant tymor hir, yn hytrach na chwilio am ateb sydyn sydd yn datrys problemau dros dro.

Awn at ein cymunedau felly gyda gobaith, egni a pharodrwydd - ac ambiwlans!

Bethan Williams mewn gwrthdystiad gweriniaethol diweddar yn Merthyr | Llun: Edwyn Ap Harri

2012 mehefin ytafod 5

Page 6: Y Tafod - Mehefin 2012

Ni fu Eisteddfod yr Urdd yn yr ardal ers 1991, felly braf yw ei chroesawu yn ôl i erwau glan Glynllifon.

Os ydych yn aros ar y maes carafannau, mentrwch allan yn ystod yr wythnos, - mae digon i’w weld tu hwnt i’r waliau!

TafarnauTy’n Llan, Llandwrog – yr agosaf.Y Afr, PenygroesPen Nionyn, Groeslon

CaffisY Gath Ddu, Glynllifon, a swings ger llaw.Bwyty Lleu a siop sglodion, Dinas DinlleCaffi Home Bakery, Stryd yr Wyddfa, PenygroesY Crochan Blasus, Stryd Fawr, PenygroesDau fwyty Tsineaidd, un bwyty Indiaidd (tec awê yn unig) a siop sglodion ym Mhenygroes.Os ydych eisiau bwyty Indiaidd i eistedd, mae un yn Llanwnda, ger Capel Glanrhyd.Caffi Inigo Jones, Groeslon.

Am dro...Cofiwch ymweld â’r Iard yn Glynllifon - i weld y gweithdai crefftTraeth Dinas Dinlle, lle bu Lleu yn Chwedlau’r Mabinogi – cerddech i fyny’r

Ryff-geidAngharad Tomos

i Steddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle

6 ytafod mehefin 2012

Page 7: Y Tafod - Mehefin 2012

boncan i gael golygfa o Landwrog a’r mynyddoedd.

Ewch i weld eglwys hynafol Clynnog Fawr a Chanolfan Hanes Uwch Gwyrfai.

Taith agos yw yr un i weld Chwarel Lechi Dorothea yn Nhalysarn.

Os ydych yn hoffi’r mynyddedd, dringwch Grib Nantlle neu fynd am dro i Gwm Dulyn.

Ar y ffordd i Nantlle, edrychwch i’r dde i weld yr olygfa a swynodd Richard Wilson yn ei ddarlun enwog. Ewch ymlaen i’r pentref i weld un o’r ysgolion sydd dan fygythiad.

Talysarn - mae’r ciosg enwog y canodd Dafydd Iwan amdano yn dal yno!

Enwogion LleolRhosgadfan – Cae’r Gors, cartref Kate Roberts.Groeslon – cerddwch i fyny’r stryd i weld y lechen ar gartref y dramodydd John Gwilym Jones.Penygroes – ger y Neuadd Goffa mae englyn enwog Williams Parry sy’n sôn am ‘y rhwyg o golli’r hogia’.I Ysgol Dyffryn Nantlle yr aeth Bryn Terfel i’r ysgol. Llanllyfni – cartref yr actor a’r canwr, Bryn Fôn.Talysarn - cartref R.Williams Parry, y bardd, ac mae cofeb iddo yng nghanol y pentref.Ger y Cwt Band, mae Cloth Hall, a llechen i nodi mai dyna gartref Gwilym R. Jones.

Page 8: Y Tafod - Mehefin 2012

8 ytafod mehefin 2012

Groeslon

Penygroes

Talysarn Nantlle

Llanwnda

Rhosgadfan

Llanllyfni

Llandwrog

Clynnog fawr

Dinas Dinlle

Glynllifon

Pen nionyn

Caffi’r Gath Ddu

Myned

faBwyty lleu

ty’n llan

Yr Afr

crochan blasus, home bakery, chineese ac indians

chwarel

Ciosg

Caffi inigo jones

i borthmadog

i bwllheli

i gaernarfon

A499

A487

Page 9: Y Tafod - Mehefin 2012

y ryff-geid i steddfod yr urdd

2012

2012 mehefin ytafod 9

NantlleRhydDdu

Llanwnda

Rhosgadfan

Yr Wyddfa

cribnantlle

i feddgelert

Waunfawr

A4085

Page 10: Y Tafod - Mehefin 2012

Digwyddiadau Eisteddfod yr Urdd“Callia Carwyn” Ie i ynni adnewyddol, Na i niwclear2 yp, Dydd Mawrth, 5ed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mi fydd CYIG a PAWB yn lansio cerdyn post i Carwyn Jones yn gofyn iddo atal ei gefnogaeth i adeiladu adweithyddion niwclear newydd yng Nghymru.

Bydd siaradwr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sôn am y berthynas rhwng cymunedau hyfyw ac iechyd ac mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ‘Cryfder ar y Cyd’ ar y pwnc.

Richard Jones a Gwenda Jones, CaerdegogMenna Machreth, Dr Carl Clowes, Dylan Edwards

Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol7.30, Nos Fercher, 6ed Mehefin - Neuadd Goffa Pen-y-Groes

Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr ar y pwnc.

Pengwern Cymunedol, Saith Seren, Dyffryn Nantlle 20/20, Antur Stiniog, Antur Ogwen

Lansio “Taith Tynged yr Iaith”2yp, Dydd Iau, 7fed Mehefin – Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg byddwn yn teithio ar draws y wlad er mwyn gweithio gyda’n cymunedau i wrthdroi dirywiad cymunedau Cymraeg ac annog cymunedau i ymuno gyda Chynghrair Cymunedau Cymru er mwyn eu galluogi i lobio’n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.

Bethan Williams (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Meirion Davies (Menter Ogwen) ac eraill

Cyflwyno Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg2yp, Dydd Gwener, 8ed MehefinStondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mi fydd y Gymdeithas yn cyflwyno llyfryn i Gomisiynydd y Gymraeg sy’n cynnwys enghreifftiau unigolion o’u problemau gyda gwasanaethau Cymraeg.

Meri Huws, Hywel Williams AS, Dr Jerry Hunter, Judith Humphreys, Ceri Phillips

10 ytafod mehefin 2012

Page 11: Y Tafod - Mehefin 2012

GIG DeffRo’R DyffRyNBryn fon a’r BandWali Tomosy RhacsDrysau yn agor am 7.30, Nos Wener Mehefin 8fed

Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle

Plant £4Oedolion £8Teulu £20

Tocynnau ar gael o - Ysgol Dyffryn Nantlle, Siop Parry Penygroes, Palas PrintTrefnir gan - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg / Dyffryn Nantlle 20.20

Llynnoedd yr ArdalNos Fawrth, 7.00 | Neuadd Goffa PenygroesNoson o sleidiau gan y ffotograffydd lleol, Geraint Thomas. Cyfle unigryw i weld y lluniau yn ei gyfrol ddiweddar.Mynediad £2.00Dyffryn Nantlle 20/20

Taith Bryn fônNos Iau, 6.30 | Neuadd LlanllyfniCyfle i fynd am dro i weld y mannau gaiff eu crybwyll yng nghaneuon Bryn Fon.7.30 Dangos y Ffilm GauchoMynediad £2.00Dyffryn Nantlle 20/20

Noson Bwyd LleolNos Sadwrn, 6.30Crochan Blasus, PenygroesI bawb sydd wedi blino gormod i wneud swper! Dyffryn Nantlle 20/20

Page 12: Y Tafod - Mehefin 2012

Ers cyhoeddi ei hail albwm - ‘Tonau’ yn 2007 mae cefnogwyr Gwyneth Glyn wedi bod yn aros yn eiddgar

am ei thrydydd albwm, sef ‘Cainc’ a gafodd ei ryddhau ar label Gwinllan yn nechrau 2011. Yn wahanol i’w dau albwm blaenorol efallai, mae’r deg cân ar ‘Cainc’ i gyd yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae yna amrywiaeth o ganeuon bywiog i ganeuon i ymlacio iddynt. Gwyneth Glyn ei hun sydd wedi cyfansoddi’r caneuon i gyd, heblaw am ‘Nei Di Wely Clud’, sydd yn dôn draddodiadol Americanaidd.

Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae’r gân gyntaf sef ‘Ewbanamandda’ yn fywiog ac yn fachog. Yn bersonol buaswn i’n hoffi gweld mwy o ganeuon hwyliog fel hon ar yr albwm. Wedi dweud hynny, mae’r caneuon ysgafn fel ‘Ferch y Brwyn’ a ‘Fy Lôn Wen i’ hefyd yn hyfryd.

Mae’r ffaith bod offerynnau fel ffidil, crwth ac organ geg i’w clywed yn y caneuon yn rhoi naws gwerinol i’r albwm. Ond ar y llaw arall, mae drymiau a gitâr drydan hefyd i’w clywed ar ambell gân, sy’n rhoi amrywiaeth diddorol.

Trwy’r gân ‘Adra’ oddi ar ‘Wyneb Dros Dro’ yr adnabyddir Gwyneth Glyn fel cantores gan nifer o bobl. Petai rhaid i mi ddewis anthem fel hon oddi ar ‘Cainc’, ‘Lle Fyswn I’ fuasai’r gân honno. Dyma gân serch hyfryd sy’n sôn am y teimlad o fod ar goll heb un person arbennig. Gitâr acwstig yn unig sy’n cyfeilio, sydd yn rhoi naws ysgafn i’r gân.

Mae’r gân chwareus ‘Dansin Bêr’ yn debyg i ‘Cân y Siarc’ oddi ar ‘Tonau’. Mae’r ddwy gân yma’n profi dawn y gantores i adrodd stori trwy gân.

Pris yr albwm yw oddeutu £13, sydd braidd yn ddrud. Ond gyda’r cyfuniad o ganeuon bendigedig a thalent Gwyneth Glyn, mae hi werth bob ceiniog!

Mi fuaswn i’n rhoi 9/10 i’r albwm. Er ei bod hi braidd yn ddrud, gyda llais swynol Gwyneth Glyn byswn i’n medru gwrando arni am oriau!

Gwyneth Glyn yn swyno

12 ytafod mehefin 2012

Page 13: Y Tafod - Mehefin 2012

Pris £13 Sgôr 9/10 Adolygiad Manon James

Llun gwynethglyn.co.uk / John Pountney

2012 mehefin ytafod 13

Page 14: Y Tafod - Mehefin 2012

Newyddion digon anniddorol oedd i’w glywed ar y Post Cyntaf o gwmpas 8 o’r gloch

ar fore dydd Iau, Mawrth 29ain. Ond erbyn 8.20 darlledwyd y stori bod RWE ac E.On, y partneriaid sefydlodd cwmni niwclear Horizon yn tynnu allan o’u cynlluniau i godi adweithyddion niwclear newydd yn y Wylfa ac Oldbury ychydig filltiroedd dros y ffin i Loegr yn Sir Gaerloyw. Am weddill y diwrnod bu pump ohonom, yn lefaryddion PAWB yn gwneud cyfweliadau teledu, radio, a phapurau newydd. Nid oedd y cyhoeddiad yn syndod i ni gan fod amheuon cyson o’r Almaen ers Ebrill 2011 oedd yn awgrymu’n gryf na fyddai prosiect Horizon yn cael ei wireddu. Yn sgil trychineb niwclear Fukushima,

penderfynodd llywodraeth yr Almaen gau saith hen orsaf niwclear ar unwaith, a gosod 2022 fel y flwyddyn i gau pob gorsaf niwclear. Arweiniodd cau’r hen orsafoedd golled incwm i RWE ac E.On. Ar ben hynny, cynghorwyd RWE gan gwmni cyfrifyddion KPMG nad oedd y pris llawr carbon a gynigiwyd gan y Llywodraeth Brydeinig yn ddigon o gymorth ariannol i wneud buddsoddiad.

Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn ar unwaith oedd mynnu bod rhaid bwrw ymlaen gyda’r bwriad o ddatblygu Wylfa B gyda datblygwr newydd. Yr un oedd stori Albert Owen a Ieuan Wyn Jones. Erbyn y bore Gwener, Mawrth 30ain, gwelsom y cyfeiriad cyntaf bod

Tata Horizon, Rosatom Dim DiolchDylan Morgan

14 ytafod mehefin 2012

Page 15: Y Tafod - Mehefin 2012

Rhaid i ni barhau i ymgyrchu yn erbyn Wylfa B ac yn erbyn unrhyw gwmni sy’n llygadu’r safle.

Dylem hefyd ddatblygu ymgyrch genedlaethol Gymreig yn erbyn bwriad cwmni Ffrengig EDF i godi Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, safle sy’n beryglus o agos at Dde Cymru. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, Bydd PAWB a Chymdeithas yr Iaith yn cychwyn ymgyrch Callia Carwyn fydd yn pwyso ar Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru i wyrdroi eu penderfyniad gwarthus i gefnogi datblygu Wylfa B. Dewch yn llu i Uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod erbyn 2.00 o’r gloch ar brynhawn dydd Mawrth, Mehefin 5ed i lansio’r ymgyrch hon. Bydd cyfle yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg i hybu’r ymgyrch hon ac i danlinellu bygythiad adweithyddion niwclear enfawr Ffrengig posibl yn Hinkley Point. Mae bwriad hefyd i gynnal gweithdy ar ddyddiad i’w gadarnhau yn ystod y misoedd nesaf rhwng PAWB a’r Gymdeithas ynglŷn â rhaglen ynni adnewyddol i Gymru.

Beth nesaf felly?

cwmni niwclear gwladwriaethol Rwsia sef Rosatom yn dangos diddordeb mewn ehangu eu hymerodraeth niwclear ac yn llygadu asedau cwmni Horizon. Yn agos at bythefnos yn ddiweddarach daeth stori Rosatom i sylw ehangach, a diddorol iawn fu’r ymateb. Roedd llawer o bobl Môn yn teimlo rhyddhad o glywed penderfyniad y cwmnïau Almaeneg, ond trodd y rhyddhad hwnnw‘n ddrwgdybiaeth ac anghrediniaeth o glywed am ddiddordeb Rosatom. Diddorol iawn oedd sylwadau’r Cynghorydd Gareth Winston Roberts, Amlwch, cefnogwr selog i’r diwydiant niwclear. Yn y gorffennol, dadleuodd y Cynghorydd Roberts dros ynni niwclear fel y dechnoleg allai ddarparu sicrwydd cyflenwad, gan ychwanegu na ddylid gorfod dibynnu yn y dyfodol ar nwy o Rwsia i ddiwallu’n hanghenion ynni. Mae’n ymddangos ei fod braidd yn nerfus am y diddordeb a ddangoswyd gan Rosatom yn Wylfa B. Ac mae lle ganddo i fod yn nerfus. Dyma’r cwmni sy’n gyfrifol am bopeth niwclear yn Rwsia - pwerdai, arfau niwclear a llongau tanfor niwclear. Mae pymtheg o’r llongau tanfor niwclear hyn a ddaeth i ddiwedd eu hoes yn segur ac yn rhydu yn y môr ger Murmansk ac yn gollwng ymbelydredd i Fôr yr Arctig Rhagflaenydd Rosatom o dan y drefn Sofietaidd oedd yn gyfrifol am orsaf niwclear Chernobyl.

2012 mehefin ytafod 15

Page 16: Y Tafod - Mehefin 2012

Mae’r Grŵp Dyfodol Digidol wedi bod yn brysur iawn yn gweithio ar nifer o brosiectau

yn ddiweddar. Y prif bethau ‘da ni wedi bod yn canolbwyntio arnyn nhw yw S4C a radio lleol. Yn ddiweddar cynhaliwyd y cyfarfod S4Craffu cyntaf. Grŵp cysgodol yw S4Craffu gydag aelodau o Gymdeithas yr Iaith, cynrychiolwyr undebau megis Bectu a chynrychiolwyr annibynnol

o’r sector cynhyrchu. Bydd y grŵp yn monitro safon ac ansawdd S4C yn sgil y toriadau gan roi cyfle i chi leisio’ch pryderon.

Rydym hefyd wedi cynnal cyfarfodydd gydag Ofcom i drafod sefyllfa’r Gymraeg ar radio masnachol a chymunedol ar draws Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf datgelodd Ofcom eu bod wedi bod yn

Dyfodol DigidolAdam Jones

16 ytafod mehefin 2012

Page 17: Y Tafod - Mehefin 2012

paratoi geiriad i’w gynnwys yn y Ddeddf Darlledu Newydd fydd yn cael ei drafod gan y llywodraeth yn 2013. Bydd y geiriad hwn yn galluogi Ofcom i osod cymalau iaith wrth dyrannu trwyddedau i wahanol gwmnïau. Mae hyn yn gam mawr ymlaen ac rydym yn croesawu hyn yn fawr.

Ond mae digon eto gennym i’w wneud. Rydym wrthi’n trefnu protest y tu allan i

stiwdio ‘Town and Country Broadcasting’ er mwyn dwyn mwy o bwysau arnyn nhw i drin y Gymraeg yn gyfartal. Cadwch olwg ar ein gwefan am fanylion.

Ymunwch yn ein hymgyrch. Pobol sydd yn creu mudiad a chreu ymgyrch. Mae angen eich cefnogaeth chi!

Adam Jones

2012 mehefin ytafod 17

Page 18: Y Tafod - Mehefin 2012

5050

Lleoliad

croeso i’r teulu

GRUFF RHYS

tocynnau

MAES PEBYLL

Arddangosfa

“Mae’r Gymdeithas wedi trefnu sawl gig chwedlonol dros y blynyddoedd, ond Hanner Cant fydd y mwyaf eto… ni’n edrychymlaen yn ofnadwy i fod yn rhan o’r parti yma” Mark Lugg, Tŷ Gwydr

I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw

yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid ym mis Gorffennaf.

Hanner Cant fydd y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau, gyda bandiau’n chwarae ar dri llwyfan o 6yh nos Wener ac o ganol dydd Sadwrn hyd at yr oriau mân. Mae enwau’r artistiaid

yn cael eu cyhoeddi fesul wythnos – felly edrychwch ar y wefan am y rhestr diweddaraf.

Mae Pontrhydfendigaid yng ngogledd Ceredigion, tua 15 milltir o Aberystwyth. Bu sawl gig hanesyddol yn y pafiliwn enfawr yng nghanol y pentref, yn cynnwys Twrw Tanllyd yn y 70au ac 80au, Rhyw Ddydd Un Dydd yn 1991 a Noson Claddu Reu yn 1992. Fyddwn ni’n meddiannu Pafiliwn Bont a Neuadd y Pentref am y penwythnos, felly bydd popeth dan do, gyda dewis o

ddiodydd a bwyd cynnes ac oer ar gael. Edrychwch ar hannercant.com am wybodaeth ynglŷn â sut i gyrraedd yr ŵyl (a rhowch wybod i ni os ydych chi am drefnu bws!)

Mae digon o le i wersylla, felly dewch â’ch pabell i aros am y penwythnos.£2.50 y pen y noson. Toiledau a chawodydd ar gael.

Cynnig arbennig: rhag-archebwch docyn penwythnos nawr o hannercant.com am ddim ond £25! Bydd tocynnau

pris llawn ar gael yn hwyrach am £30.

Mynediad am ddim i rai dan 13 oed, ardal blant, maes pebyll teuluol, a digon i

ddifyrru pawb o bob oed!

Dros y degawdau, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal gigs mawr a bach ledled y wlad. Fyddwn ni’n dathlu perthynas glòs y Gymdeithas â cherddoriaeth Gymraeg mewn arddangosfa unigryw yn Hanner Cant. Os oes gennych chi unrhyw bosteri, lluniau, crysau tî, ffansins, cylchgronau neu straeon ac atgofion hoffech chi gyfrannu, cysylltwch ag [email protected] neu 01970 624501 os gwelwch yn dda.

Pumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr13–14 Gorffennaf 2012

Pafiliwn Pontrhydfendigaid

hannercant.com @hannercanthannercant.com @hannercant

Gruff Rhys Gai Toms Neil Rosser Sen Segur Gildas Gwyneth Glyn Y Bandana Huw M Y Saethau Heather Jones Mr Huw Lleuwen

Yucatan Fflur Dafydd Twmffat Yr Ods Cowbois Rhos Botwnnog Y Niwl JJ Sneed Y Lladron Alun Tan Lan Bob Delyn Bryn Fôn

Geraint Løvgreen Creision Hud Meic Stevens Llwybr Llaethog Mattoidz Tecwyn Ifan The Gentle Good Crash.Disco! Jakokoyak Tom ap Dan Gwibdaith Hen Frân Clinigol Colorama Ail Symudiad

Yr Angen Catrin Herbert Y Bwgan Tŷ Gwydr Jamie Bevan …a rhagor o enwau i’w cyhoeddi’n fuan!

Cadwch lygad ar ein gwefan a ffrwd Twitter am y diweddaraf:

Page 19: Y Tafod - Mehefin 2012

Page 20: Y Tafod - Mehefin 2012
Page 21: Y Tafod - Mehefin 2012

Mewn Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith ym mhentre Parc ar Sadwrn 17eg o Fawrth eleni, fe gyhoeddwyd y bwriad i sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru. Daeth degau o drigolion y pentre i arwyddo proclamasiwn yn cyhoeddi mai’r Parc oedd aelod cyntaf y Gynghrair - yn union fel y sefydlwyd Merched y Wawr yn yr un pentre genhedlaeth ynghynt. Cynhaliwyd y cyfarfod ar y dydd pan enillodd Cymru’r Gamp Lawn - gyda chant yn y neuadd yn gwylio’r gêm ar sgrîn fawr. Ond eto roedd bwriad difrifol y diwrnod hwnnw i gasglu ynghyd gwrthwynebiad i fwriad Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol. Roedd y diwrnod yn crisialu’r teimladau cymysg o bryder a gobaith sydd yn ein cymunedau Cymraeg. Dyma ran o anerchiad Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith i’r cyfarfod.

“Mae’r Rhybudd ar y giât o fwriad i gau’r ysgol yn rhybudd i ninnau na allwn ni bellach

ddibynnu ar ein Hawdurdodau Lleol nac ar y Llywodraeth i gynnal ein cymunedau lleol. Rhaid i ni gymryd y mater i’n dwylo ein hunain a sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru gan fod tynged yr iaith yn y fantol.

Sefydlu Cynghrair Cymunedau CymruFfred Ffransis

2012 mehefin ytafod 21

Page 22: Y Tafod - Mehefin 2012

Does dim synnwyr rhesymegol wrth wraidd y rhybudd i gau’r ysgol hon, a does neb mewn difri’n honni hynny. Dim synnwyr o ran addysg gan fod yr ysgol yn llwyddo ac y byddai model Ffederasiwn Penllyn yn cynnig profiadau addysgol ehangach. Dim synnwyr ariannol oherwydd ei bod yn amlwg y dylem, ar adeg o argyfwng economaidd, ddefnyddio’n llawn yr adnoddau sy gyda ni yn lle adnoddau drudfawr newydd. Dim synnwyr o ran llefydd gwag gan na honna neb fod cael gwared â 8 lle gwag yma’n cyflawni unrhyw ddiben. Dim synnwyr o ran cynnal cymuned Gymraeg gan fod y trigolion wedi tystio y caiff cymuned y plant ei chwalu i wahanol gyfeiriadau.

Does dim synnwyr oherwydd nad yw’r cynllun yn ymarferol. Yn syml iawn, mae’n “stitch-up” rhwng Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru - aberthu’r plant a’r ysgol er mwyn ceisio buddsoddiad ar gyfer cynllun sy’n gweddu â strategaeth bapur y

biwrocratiaid. Fuodd ‘na erioed wrando agored ar farn a phrofiad a phryder y bobl. Aeth Cyngor Gwynedd y tu hwnt i’w dyletswydd i gynnal trafodaethau yn y dalgylch ac yna symud trwy gamau ymgynghori hirfaith. Cywir oedd y camau oll, cywir ond gwag. Penderfynwyd ar ateb nad oedd unrhyw un yn y dalgylch wedi’i gefnogi, ac ni wnaeth y degau ar filoedd o ymatebion yn y broses ymgynghorol unrhyw wahaniaeth o gwbl i farn y Cyngor. Roedd yn “done-deal.”

Beth felly ddylai fod eich ymateb i’r Rhybudd ar y Giât ? Digalonni? Credu nad oes pwynt mewn gwrthwynebu ? Na, byddwch yn gwrthwynebu ac yn tystio i’r gwirionedd nid oherwydd disgwyliad o ennill brwydrau ond oherwydd mai dyna sydd iawn. Daliwch yn ffyddlon i dystio i’r gwirionedd am bwysigrwydd yr ysgol a’r gymuned, brwydrwch dros ddyfodol y plant ac fe brofwch y rhyddid na all Cyngor Gwynedd na neb ei dwyn oddi arnoch chi. Ar ryw ffurf neu’i gilydd, efallai tu hwnt i’n deall ni nawr, bydd eich

22 ytafod mehefin 2012

Page 23: Y Tafod - Mehefin 2012

ymdrech yn dwyn ffrwyth. Wrth frwydro dros y plant, dysgwch gan y bachgen bach a roddodd bopeth oedd ganddo - 5 torth a 2 bysgodyn - a gofyn am fendith ar ei ymdrech.

Dwi wedi dysgu nad yw’r Gymru Rydd yn gyfyngedig i sefydliadau fel senedd - er bod y rheiny’n bwysig i ni gael grym cynllunio at y dyfodol. Ond mae’r wir Gymru Rydd bob amser wedi bod yno yn ysbryd ein pobl i dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a roddwyd iddynt. Mae’r wir Gymru Rydd wedi torri allan o bryd i’w gilydd - ym mrwydr Tryweryn genhedlaeth yn ôl, yn ystod streic y glowyr a llu o ymdrechion dros ddyfodol ein cymunedau.

Yn wir, dysgodd fy nhad-yng-nghyfraith mai cymuned o gymunedau yw cenedl y Cymry. Yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf, dwi wedi gweld y Gymru Rydd mewn cyfarfodydd ac ymdrechion ledled ein gwlad. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd ym Mynyddcerrig wrth i fewnfudwyr fynnu dyfodol Cymraeg i’w plant yn eu cymuned. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd yn Llanwenog wrth i rieni fagu’r hyder i anfon swyddogion addysg ymaith. Dwi wedi gweld y Gymru Rydd yn fy mhentre fy hun wrth i drigolion barhau i feddiannu adeilad eu hysgol. Ac yn bennaf oll, dwi wedi gweld y Gymru Rydd yma yn Y Parc - yn eich ffyddlondeb a’ch parodrwydd i frwydro’n fwyfwy fel y cynydda’r argyfwng.

Dyma’r rhyddid a fydd yn esgor ar Gynghrair Cymunedau Cymru - llais unedig o’r diwedd i’n cymunedau ac ernes o’r Gymru Rydd.”

2012 mehefin ytafod 23

Page 24: Y Tafod - Mehefin 2012

Gigs Eisteddfod Genedlaethol Bro MorgannwgAwst 4ydd- 11eg 2012 | Clwb Rygbi Llanilltyd Fawr | Gwersylla £6 y nosonSadwrn 4ydd

Cwis Cawlach Mic Agored

Mynediad am Ddim

Sul 5ed

Noson o Flaen y Bocs gyda Sianel ‘62

Cyfarfod Mawr ‘Dyfodol S62’

Mynediad am Ddim

Llun 6ed

Noson Munud i Ddathlu

Yr Ods Y Rwtch Breichiau Hir

Dangos ffilm ‘Munud i Ddathlu’£7

Mawrth 7fed

Gig Coleg Cymraeg

Y Bandana Mr Huw Y Conductors Nebula£7

Mercher 8fed

Dathliad 50

Noson 50 – yng Nghwmni Tudur OwenDafydd Iwan Heather J Tony Schiavone Helen Prosser Sian Howys £7

Iau 9fed

Noson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion Cymru

Meic Stevens Huw M Jamie Bevan a’r Gweddillion £10

Gwener 10fed

Noson Tynged yr Iaith 2 / Cynghrair Cymunedau

Steve Eaves Lleuwen Ac eraill£10

Sadwrn 11eg

Gig ‘Cymdeithas: yn hyrwyddo’r SRG ers 1962’

Jess Clinigol Blaidd JJSneed £10

24 ytafod mehefin 2012

Page 25: Y Tafod - Mehefin 2012

2012 mehefin ytafod 25

Page 26: Y Tafod - Mehefin 2012

Prosiect gwirfoddol yw Sianel ‘62, i ddathlu 50 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Rydym yn dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh ac ar-alw yn dilyn y darllediad byw. Sianel ‘ifanc ei naws’ yw hi a phobol gyffredin yn y gymuned sydd yn datblygu’r syniadau a chynhyrchu’r rhaglenni o dan arweinyddiaeth tîm proffesiynol. Mae llwyddiant y prosiect yn ddibynnol ar eich cefnogaeth chi, felly cysylltwch os gallwch chi fod o gymorth. Mae ‘na groeso i unrhyw un gymryd rhan!

Dyma gyfle i chi felly i arddangos eich gwaith a datblygu eich sgiliau. Mae’r holl adnoddau ar gael gennym ni a byddwn yn cynnig hyfforddiant ar sut i’w defnyddio.

Os oes diddordeb gennych chi ond dim profiad nac offer, peidiwch â phoeni. Yr hyn sydd angen felly yw i chi feddwl am syniadau ar gyfer ffilmiau byr a rhaglenni a mynd ati i’w ffilmio.

Dwedodd cydlynydd y sianel Greg Bevan:

“Mae hwn yn brosiect nid yn unig i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas, ond hefyd yn brotest yn erbyn diffyg rhaglenni heriol am y Gymru gyfoes ar hyn o bryd. Mae’r sianel yn cynnig llwyfan newydd i leisiau amgen ac unigryw sydd yn tueddu cael eu hanwybyddu gan y darlledwyr traddodiadol.”

Gallwch hefyd gynnig gwaith a ffilmiau byrion rydych eisoes

Sianel ‘62 – eich sianel deledu chi!Dyma gyfle i greu teledu sydd werth ei wylio!

26 ytafod mehefin 2012

Page 27: Y Tafod - Mehefin 2012

wedi’u cynhyrchu, neu cynnig eich syniadau am raglenni newydd. Rydym yn edrych am ddigwyddiadau, gigs a mwy i’w ffilmio dros y misoedd nesaf. Dyma gyfle hefyd i bobl gyda diddordeb penodol mewn ffilm, teledu, cyfryngau, cynhyrchu, cyflwyno, sgriptio, dylunio ac animeiddio i ddefnyddio eu sgiliau at fudd y Gymraeg.

Wrth gwrs, gall sianel deledu fod yn fecanwaith dylanwadol a phwerus iawn, felly mae hwn yn gyfle digynsail i sefydlu’r strwythurau i rywbeth gall fod yn ganolog i ddiwylliant Cymru am flynyddoedd i ddod. Mae llwyddiant y fenter yn ddibynnol ar bobl yn cyfrannu, felly cysylltwch gyda ni os gallwch fod o gymorth – [email protected]

awenmeirion cy

f

llyfrau. disgiau. cardiau. crysau ‘cowbois’. crefftaucyflenwyr ysgolion a llyfrgelloedd. gwasanaeth post byd-eang

[email protected] Stryd Fawr, Y Bala01678 520658

2012 mehefin ytafod 27

Page 28: Y Tafod - Mehefin 2012

Ar Chwefror 13, 1962 gwahoddwyd Saunders Lewis, yr ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd

i draddodi darlith Gŵyl Ddewi y BBC ar y radio. Neges wleidyddol oedd ganddo yn dwyn y teitl ‘Tynged yr Iaith’ ac yn sgil ei neges ysbrydolwyd sefydlu Cymdeithas yr Iaith.

A hithau hanner can mlynedd ers traddodi’r ddarlith wreiddiol, pa mor berthnasol ym marn Ned Thomas yw geiriau Saunders Lewis erbyn heddiw? Yma mae detholiad o’i eiriau o’r rhagymadrodd i bumed argraffiad Tynged yr Iaith, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2012. Diolch am y caniatâd i’w ddefnyddio.

‘Aeth hanner canrif heibio, ac mae hynny’n amser maith mewn gwleidyddiaeth. Rhwng ein hamser ni a dyddiau y ddarlith daeth nifer o wledydd y Trydydd Byd yn rhydd o reolaeth yr ymerodraethau Ewropeaidd, a gwledydd yn nwyrain Ewrop a chanolbarth Asia yn rhydd o reolaeth Rwsia. Ymunodd y Deyrnas Gyfunol â’r Undeb Ewropeaidd ac yna cilio i’w hymylon. Roedd gosodiad Satre mai ‘gweithred chwyldroadol i’r Basgwr yw mynnu siarad ei iaith ei hun ‘ yn agos iawn at eiriau

cynharach Saunders Lewis: ‘Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.’ Heddiw, mae nifer o wladwriaethau yn Ewrop yn rhai ffederal neu ddatganoledig, ac mae rhai hawliau ieithyddol wedi eu gwarantu’n rhyngwladol i leiafrifoedd yn y gwledydd a lofnododd ac a gadarnhaodd Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.

Dinistriodd Thatcheriaeth y diwydiant glo a rhan helaeth o ddiwydiant dur Cymru, ynghyd â’r patrymau cymunedol oedd wedi tyfu o amgylch y diwydiannau trymion. Hunllef y 1950au oedd gweld diboblogi’r ardaloedd Cymraeg yn mynd rhagddo. O’r 1970au ymlaen, er bod Cymru’n dal i golli ei phoblogaeth gynhenid, yr oedd ton ar ôl ton o fewnfudwyr – y mewnlifiad – yn prysur newid cymeriad ieithyddol yr ardaloedd Cymraeg.

Yma fel yng ngwledydd y Gorllewin yn gyffredinol, gwelwyd secwlareiddio cynyddol, ac enillwyd hawliau sylweddol gan ferched. Agorodd cwymp comiwnyddiaeth y ffordd i oruchafiaeth ddilyffethair y farchnad rydd yn fyd-eang. Gwelwyd cwmnïau yn symud gwaith i ddwyrain Ewrop

Tynged yr IaithDetholiad o eiriau Ned Thomas o ragair y pumed argraffiad o’r ddarlith radio enwog gan Saunders Lewis, gyda chaniatâd caredig Ned.

28 ytafod mehefin 2012

Page 29: Y Tafod - Mehefin 2012

ac Asia, a llywodraeth ganol a lleol yn preifateiddio llawer o wasanaethau cyhoeddus. Ar ddechrau’r ganrif newydd fe gafwyd cyfnod o lewyrch economaidd byrhoedlog ym Mhrydain a gydredodd yn fras â degawd cyntaf datganoli. Effeithiodd pob un o’r datblygiadau hyn ar Gymru a’i phobl, ac ar y Gymraeg hefyd. Rydym yn ailddarllen Tynged yr Iaith mewn byd gwahanol iawn i fyd 1962.’

‘Amhosib yw tynnu un edefyn o wead cymhleth hanes yr hanner canrif ddiwethaf a chloriannu ei union ddylanwad. Heb ddylanwad cychwynnol Saunders Lewis ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a’i pholisïau tor cyfraith, mae’n bosib iawn na fyddai’r ymdrechion cyfansoddiadol dros yr iaith wedi llwyddo i’r un graddau ychwaith, gan iddo osod yr agenda, codi’r tymheredd gwleidyddol,

ysbrydoli’r ifanc, pigo cydwybod y rhai mwy cyffyrddus, a gosod esiampl. Afraid dweud mai gweithred Penyberth oedd yn rhoi’r awdurdod moesol i awdur y ddarlith radio ofyn am aberth gan eraill.’

‘Ond rydym yn dal yma, a’r iaith ‘yn iaith lafar ac yn iaith lên’. Enillwyd llawer o dir dros yr hanner canrif ddiwethaf, ond fe gollwyd tir hefyd. Os ydym yn credu yn y dyfodol, mae testun Tynged yr Iaith yn perthyn i ni nid fel clasur marw ond fel testun sydd ar gael i ni yn y presennol: i ddethol ohono, i’w ddehongli, i’w wrthod yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mi fydd yn glasur byw os bydd yn ysgogi trafodaeth bellach a gweithredu pellach. Y deyrnged orau i awdur y ddarlith fydd inni fod mor onest ag y gallwn wrth ei thrafod.’

Ned Thomas

2012 mehefin ytafod 29

Page 30: Y Tafod - Mehefin 2012

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn trefnu taith ar draws Cymru eleni i dynnu

sylw at sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol fel rhan o’n dathliadau hanner canmlwyddiant.

Fe ddangosodd y cyfrifiad diwethaf gwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan 70% o’r boblogaeth. Blaenoriaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y cyfnod nesaf fydd gwrthdroi hynny. Os yw’r iaith yn mynd i barhau fel iaith ffyniannus a hyfyw, mae rhaid i ni amddiffyn a thyfu’r nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith. Yn ein darlith Tynged yr Iaith 2, rydym yn gosod nod o sicrhau dyfodol i’r Gymraeg fel prif iaith ein cymunedau.

Pwrpas y daith

Yn ogystal â chyfle i ddathlu pumdeg mlynedd o ymgyrchu mae’r daith yn gyfle i ddatgan pwysigrwydd ein cymunedau Cymraeg, ac i edrych i’r dyfodol.

Byddwn yn annog aelodau’r Gymdeithas ar lawr gwlad i ddod yn fwy gweithgar yn ymgyrchoedd y Gymdeithas, ac yn annog aelodau newydd. Byddwn yn gweithio i weld aelodau mewn ardaloedd gwahanol o Gymru i ddod efo ni ar y daith.

Gobeithiwn y gallwn, ar y daith, sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru trwy rwydweithiau presennol a newydd er mwyn eu galluogi nhw i lobio’n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.

Lleoliadau

Fe fydd y daith yn dechrau yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri ym Mis Mehefin eleni ac yn teithio ar draws y wlad, gan orffen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth am y daith neu awgrymu lleoliad neu ddigwyddiad y dylen ni ymweld â nhw, cysylltwch ag Osian Jones [email protected] neu 01286 662908

Taith Tynged yr Iaith

30 ytafod mehefin 2012

Page 31: Y Tafod - Mehefin 2012

Datganiad o egwyddorionCynghrair Cymunedau Cymru

1. Creu ymwybyddiaeth genedlaethol o’r realiti nad oes dyfodol i’r Gymraeg heb y cymunedau lle mae hi’n parhau i fod yn iaith fyw.

2. Addysgu a chymhathu mewnfudwyr fel bod modd iddynt gyfoethogi ein cymunedau Cymraeg ac nid eu tanseilio.

3. Annog cyd-weithredu diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd rhwng y cymunedau Cymraeg sy’n rhan o Gynghrair Cymunedau Cymru.

4. Mynnwn chwyldroi’r drefn gynllunio a gosod yn ei le gyfundrefn gynaliadwy fydd yn adlewyrchu’r angen lleol am dai a lefelau cyflog lleol. Bydd y drefn newydd yn rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai.

5. Mae potensial gan bob cymuned yng Nghymru i ddatblygu’n gymuned Gymraeg. Gweithiwn i weld twf mewn canran siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau sy’n rhan o’r Gynghrair.

6. Mae sicrhau’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hawl sylfaenol na ddylid amddifadu unrhyw berson yng Nghymru ohono. Dylid gwreiddio addysg yn anghenion ein cymunedau.

7. Gwrthodwn y syniad o ddwyieithrwydd tocenistaidd ac anelwn at wneud y Gymraeg yn gyfrwng naturiol bywyd.

8. Gweithio i weld Cynghorau Sir a Chymuned a sefydliadau cyhoeddus eraill yn gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg, a mabwysiadu syniadau Dwyieithrwydd Cymraeg.

9. Gwrthodwn dderbyn grym economi’r farchnad rydd yn ddi-gwestiwn, ac fe weithiwn i drefnu bod yr economi yn gwasanaethu ein cymunedau yn hytrach na’u rheoli.

2012 mehefin ytafod 31

Page 32: Y Tafod - Mehefin 2012

6 MehefinEisteddfod yr Urdd, Dyffryn Nantlle Lansio Cynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol7.30 yh, Neuadd Goffa Penygroes

7 MehefinLansio Taith Tynged yr Iaith2 yp, Stondin Cymdeithas yr Iaith, Eisteddfod yr Urdd

9 MehefinMaes Sioe Ogwen, Bethesda Gig yn Neuadd OgwenBryn Fon + Y Bandana (Trefnir gan Pesda Roc)

13 MehefinFelinheli Cyfarfod Cyhoeddus yn y Felin Sgwrsio gyda Aled Job (Trefnir ar y cyd gyda Felinheli 70%)

Gig Tom ap Dan i ddilyn 7.30

14 MehefinLlangefniAmbiwlans ar y stryd yn ystod y dydd CemlynCyfarfod Cyhoeddus yng Nghapel Cemlyn i lansio Maniffesto Môn gyda Carl Clowes, Dylan Morgan ac Emlyn Richards, 7.30

15 MehefinBlaenau FfestiniogAmbiwlans ar y stryd o 12.30 ymlaenFfestiniogYmweld â Pengwern Cymunedol, 7.00

16 MehefinLlangadfanGwŷl y Can Offis, Ambiwlans yn yr wŷl

19 MehefinLlanrwst Ambiwlans yn y farchnad 9yb-4yh Penmachno Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd Ty’n y Porth gyda Ceri Phillips a Meirion Llywelyn, 7.00

21 MehefinBotwnnogYsgol Botwnnog, Ambiwlans yn ymweld Llangwnadl Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Llangwnadl gyda Chyfeillion Llŷn, 7.30

26 MehefinDinbych Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaen

27 MehefinLlandrillo Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaenWrecsamCyfarfod Cyhoeddus yn y Saith Seren, 7.30

30 MehefinLlangrannog Gŵyl Nol a Mlan, Ambiwlans yn yr wŷl

6 GorffennafTal-y-bont Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Pentref, 7.30yh

Taith Tynged yr Iaith

32 ytafod mehefin 2012

Page 33: Y Tafod - Mehefin 2012

7 GorffennafAberystwyth Ambiwlans ar y stryd o 10yb ymlaen

13-14 GorffennafPontrhydfendigaid Gwŷl Hanner Cant, Ambiwlans yn yr wŷl drwy’r penwythnos

17 GorffennafLlandysul Cyfarfod Awyr Agored o amgylch yr Ambiwlans Llanwenog Cyfarfod Cyhoeddus yn Ysgol Llanwenog

18 GorffennafCaerfyrddin Protest a chyfarfod cyhoeddus yn erbyn y datblygiadau tai anaddas

19 Gorffennaf Ystradgynlais Ambiwlans ar y stryd Ystalyfera Ambiwlans yn ymweld

25 GorffennafMerthyr Tudful Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Soar, 7yh

26 GorffennafTreorci Ambiwlans ar y stryd

28 GorffennafLlanilltud Fawr Ambiwlans ar y stryd Cas-gwent Ambiwlans yn ymweld Siop Sglodion Sgwar Beaufort a wnaed yn enwog gan Rhodri Morgan!

30 GorffennafEfail Isaf Cyfarfod Cyhoeddus yn Y Ganolfan

4 AwstEisteddfod Bro Morgannwg

Taith Tynged yr Iaith

2012 mehefin ytafod 33

Page 34: Y Tafod - Mehefin 2012
Page 35: Y Tafod - Mehefin 2012

Nid yw brwydr yr iaith ar benMae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau mae nid diwylliant lleiafrif bydd y Gymraeg dros yr hanner canrif nesaf ond y bydd yn briod iaith ein cenedl.

os wyt ti’n rhannu’r weledigaeth yma ymuna â ni heddiw!Enw

Cyfeiriad

Ffôn

Ebost

Wedi bod yn aelod o’r blaen

Nid wyf am dderbyn gohebiaeth

Diddordeb mewn maes arbennig o’r gwaith?

Archeb BancHoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc.

Enw’r banc

Cyfeiriad y Banc

Enw’r Cyfrif

Rhif y Cyfrif

Côd Didoli

Rwyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 30-16-02.

Ar y cyntaf o fis yn y flwyddyn ac wedi hynny bob mis y swm o:

£1 £2 £5 £10 £20 £25

Arall:

Arwyddwyd

Dyddiad

Aelodau dros droOs dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig:

Myfyriwr ysgol / chweched £3

Myfyriwr coleg £6

Di-gyflog £6

Pensiynwyr £6

Gwaith llawn amser £12

Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24

Dychwelwch i: CYIG, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Page 36: Y Tafod - Mehefin 2012