y tafod - awst 2012

44
ytafod a cylchgrawn cymdeithas yr iaith Awst 2012 Brwydr y Beasleys cofio Manylion y Rali Genedlaethol holl gyffro Hanner Cant

Upload: rhys-llwyd

Post on 09-Mar-2016

245 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith

TRANSCRIPT

Page 1: Y Tafod - Awst 2012

ytafodacylchgrawn

cymdeithas yr iaithAwst 2012

Brwydr y Beasleyscofio

Manylion y Rali Genedlaetholholl gyffro

Hanner Cant

Page 2: Y Tafod - Awst 2012

Prif SwyddfaSwyddogion Cyflogedig:

Dafydd Morgan Lewis

Post: Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria,

Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Ffôn: +44 (0)1970 624501

E-bost Prif Swyddfa: [email protected]

Swyddfa’r GogleddSwyddog Cyflogedig: Osian Jones

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r Gogledd, 10 Stryd y Plas,

Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR.

Ffôn: +44 (0)1286 662908Ffacs: +44 (0)1286 662902

E-bost Swyddfa’r Gogledd: [email protected]

Swyddfa’r DeSwyddog Cyflogedig:

Colin Nosworthy a Jamie Bevan

Post: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Swyddfa’r De, Ty’r Cymry, 11 Heol

Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ

Ffôn: +44 (0)2920 486469

E-bost Swyddfa Caerdydd: [email protected]

Swyddfa Sianel 62Swyddogion Cyflogedig:

Greg Bevan â Lleucu Meinir (rhan amser)

Ffôn: 07891 819972

E-bost Sianel 62: [email protected] [email protected]

hjkl

2 ytafod awst 2012

Page 3: Y Tafod - Awst 2012

ytafodacylchgrawn

cymdeithas yr iaithAwst 2012

Brwydr y Beasleyscofio

Manylion y Rali Genedlaetholholl gyffro

Hanner Cant

ytafodaAwst 2012

Golygydd Llinos RobertsDylunio a Chysodi Rhys Llwyd

4 Gair o’r Gadair Bethan Williams

6 Brwydr y Beasleys Angharad Tomos

8 Adolygiad o CD Fflur Dafydd Lowri Johnston

10 Hybu gwaith Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

12 Apêl Plac Pontaddulais

13 Bandiau newydd y Sîn Roc Gymraeg

19 Darn o gelf Elen Gwenllian Hughes

20 Y Rali Flynyddol a’r Cyfarfod Cyffredinol

22 Gigs a Digwyddiadau’r Gymdeithas yn ’Steddfod

24 Adolygiad o ŵyl Hanner Cant Lewys Arôn

30 Atgofion cyn-gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith

39 Canu Wrth Ymaelodi Hedydd Ioan

40 Dyfodol Sianel ’62 Greg Bevan

2012 awst ytafod 3

Page 4: Y Tafod - Awst 2012

Er bod siwrnai ddaearyddol y Gymdeithas yn yr ambiwlans yn dod i ben yr wythnos hon

mae’r daith yn sicr yn parhau. Hyd yma rydym wedi cael ymateb cadarnhaol – drwy gynyddu aelodaeth y Gymdeithas, codi ymwybyddiaeth o sut gall unrhyw un fod yn rhan o’r frwydr dros ein cymunedau a thros y Gymraeg, ac wrth annog cymunedau i ddod yn aelodau o gynghrair newydd, Cynghrair Cymunedau Cymru, a fydd yn cyfarfod yn ffurfiol am y tro cyntaf ar faes yr Eisteddfod ddiwedd yr wythnos. Bydd yn gyfle i gymunedau sydd eisiau bod yn rhan o’r frwydr i drafod gyda’i gilydd yr heriau sydd yn eu hwynebu a sut i fynd i’r afael â’r heriau hynny.

Bu’r Gymdeithas ar daith ers ei sefydlu, ac mae’r daith hanesyddol honno i’w gweld yn yr uned drwy’r

wythnos. Wrth gyrraedd carreg filltir arall mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cofnodi ein llwyddiannau ni ac yn rhoi sylw iddynt. Fel yr ydym wedi ei bwysleisio sawl tro, mae’r hanner can mlynedd ddiwethaf wedi gosod sail cadarn iawn i ni allu adeiladu arni – a byddwn yn parhau i wneud hynny. Wrth i ni nodi’r holl gyraeddiadau a chydnabod pwysigrwydd rhain, mae’n rhaid sylweddoli nad yw pethau wedyn yn dod i stop. Nid yw’r daith ar ben o bell ffordd.

Rydym wedi gweld dyfodiad arwyddion ffyrdd dwyieithog, twf mewn addysg Gymraeg, sawl deddf iaith - gyda’r ddiweddaraf llynedd o’r diwedd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg, sefydlu sianel deledu Gymraeg (ac un sianel ar-lein yn Sianel 62), gweld creu Coleg Cymraeg a rhestr

Gair o’r GadairBethan Williams | Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

4 ytafod awst 2012

Page 5: Y Tafod - Awst 2012

hir o gamau mawr ymlaen. Er hynny rhaid i ni ystyried o ddifri a sylweddoli bod ‘Rhaid i Bopeth Newid’ yn slogan sydd yn parhau i fod mor wir ag erioed.

Does ond raid i ni edrych ar ein cynghorau lleol ni ein hunain a’r holl ddatblygiadau tai di-angen a’r ysgolion tan fygythiad i weld fod angen newid dramatig – bod angen sylweddoliad fod ysgolion yn fwy nag adeiladau sydd yn cynnig addysg cyfrwng Gymraeg a bod trefi a phentrefi yn fwy na chasgliad o dai ar gyfer y rhai sydd yn ddigon ffodus i allu eu fforddio.

Mae’n Cynulliad ni ein hunain yn gwrthod cymryd y Gymraeg o ddifri. Mae’r bil ieithoedd swyddogol, hyd yma, wedi dangos nad oes digon o ewyllys gwleidyddol i sicrhau y gallwn fel dinasyddion ac fel ymgyrchwyr iaith ymwneud â democratiaeth yn ein hiaith ein hunain, na galluogi pobl i weithio yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Saesneg yw iaith dydd i ddydd o hyd, tra bod gwneud defnydd o’r Gymraeg pan fydd yn gyfleus yn ymddangos yn ddigon.

Os ydyn ni wir yn credu y gall y Cynulliad fod yn gorff hollol dwyieithog yna mae’n rhaid iddo fod yn gallu darparu drwy’r Gymraeg. Y ffordd i wneud hynny yw sicrhau ei fod yn gorff sydd yn gweithredu yn Gymraeg gan gyfieithu i’r Saesneg fel bod angen – byddai hynny ddim yn broses dros nos ond gellid dechrau ar y daith honno yn syth er mwyn gweld newid sylweddol. Mae hyn yr un mor wir i gwmnïau mawr a sefydliadau sydd yn dod i drefi ar draws Cymru. Maen nhw’n norm erbyn hyn ond eto dydy’r Gymraeg braidd wedi eu cyffwrdd eto; dydy e ddim yn ystyriaeth iddyn nhw, ac

mae angen newid hynny. Os ydych chi am ddysgu mwy am sut gallwn ni wreiddio cwmnïau yn ein cymunedau dewch draw i siarad â ni.

Prosiect dros dro oedd Sianel 62, sydd bellach wedi dod i ben – am y tro. Mae’r gwasanaeth dal i fod ar gael ar alw wrth gwrs ond beth fydd y cam nesaf i’r sianel? Rydym wedi gweld ei werth fel arf ymgyrchu ac fel deunydd adloniadol ac nid ydym am weld ei golli yn barhaol. Bydd cyfle i drafod dyfodol y sianel, ac yn ogystal bydd noson o flaen y bocs nos Sul agoriadol y Steddfod. Bydd yn brofiad braf cyd-wylio’r sianel ar sgrin fawr. Fel mae ymgyrchu dros ddyfodol yr iaith yn nwylo pawb sydd am ymgymryd â her y frwydr, mae dyfodol Sianel 62 yn ein dwylo ni. Waeth beth gallwch chi gyfrannu dewch i rannu syniadau.

Stop nesaf taith Cymdeithas yr Iaith fydd y Rali Flynyddol sydd yn digwydd ar yr 8fed o Fedi, gyda Sesiwn Ryngwladol yn rhannu profiadau o dros y Byd am ymgyrchu dros ieithoedd dan ormes, sesiynau ymgyrchu a chyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae mwy o fanylion yn y Tafod ond bydd yn benwythnos fydd yn dathlu lle Cymdeithas yr Iaith fel rhan o’r chwyldro byd-eang dros ryddid a chyfiawnder.

Yn hanner cant oed bydd rhai yn meddwl dechrau arafu, ond mae gan y Gymdeithas ddilyniant brwdfrydig o egni newydd a ffres yn llawn awydd i gyfrannu , gwneud gwahaniaeth a pharhau i adeiladu ar seiliau’r hanner can mlynedd ddiwethaf o ymgyrchu.

Mae’r daith yn parhau ac mae angen i ni gyd fod yn rhan ohoni.

2012 awst ytafod 5

Page 6: Y Tafod - Awst 2012

Y stafell wag fedrai mo’i dychmygu. Y piano aeth gyntaf, cyn i Blaid Cymru ei brynu yn

ôl, ond pan ddaeth y beili yr eilwaith, diflannodd y piano eto. Wedyn daethant i nôl y drych, a hwnnw yn anrheg priodas gan fodryb. Fesul un, aeth y dodrefn, y cadeiriau, y soffa, ac yn y diwedd y carped. Ac mae stafell yn ddychrynllyd o foel heb garped. Mae’n rhoi ystyr newydd i hen, hen gerdd. Fedrwn i ddim peidio ei haralleirio – Ystafell y Beasleys, ystywyll heno, heb gelfi, heb garped....Roedd yna rywbeth ynddi fodd bynnag – potiau jam. Potiau o jam cartref Trefor Beasley.

A’r cyfan oherwydd y Gymraeg. Dyna sy’n anhygoel. Pan nad oedd neb arall yn meddwl gweithredu yn y modd hwn. Petai Trefor neu Eileen yn berson sengl, yn eithafwr brwd a fawr i’w golli, byddai’n haws deall. Ond roedden nhw’n bâr priod, â phlant.

Ac roedd hi’n frwydr wyth mlynedd o hyd. Mynd gerbron llys 16 o weithiau. Doedd gen i ddim syniad. A meddyliwch am yr argraff gafodd hynny ar y ddau blentyn bach....

Clywed yr hanes mewn darlith gan un o’r plant ddaru mi – Delyth Prys, a’i mab, Cynog. Mae cyfle i’w chlywed eto am 5pm bnawn Iau yr Eisteddfod

ym Mhabell y Cymdeithasau 2. Ewch i’w chlywed os cewch chi gyfle – mae’n chwip o ddarlith dda, ac yn argoeli i fod yn un o’r pethau difyrraf yn yr Eisteddfod. Cewch gip hefyd i weld lluniau unigryw o archif y teulu.

Beth oedd achos yr anghydfod? Papur treth gan y Cyngor. Derbyniodd Mr a Mrs Beasley y bil treth yn uniaith Saesneg, a dyma nhw’n penderfynu peidio talu nes cael un Cymraeg. Erbyn 1960, roeddent wedi ennill y frwydr, ond ar gost aruthrol iddynt eu hunain. Does ryfedd i Saunders Lewis gyfeirio atynt fel esiampl yn ei ddarlith enwog, Tynged yr Iaith. “Fe ellir achub y Gymraeg” meddai, “Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati...”

Penderfynais, ar flwyddyn dathlu 50 mlynedd ers y ddarlith, y dylid gwneud rhywbeth i dalu teyrnged i’r Beasleys. Y syniad gefais oedd cael uned wag ar faes yr Eisteddfod – uned i gynrychioli’r gwagedd yn stafell fyw y Beasleys. Uned efo dim byd ynddi, ar wahân i botiau jam. Fy ngobaith oedd y byddai’r Eisteddfod yn gyfrifol amdani ond ni chefais lwc efo hynny. Yn ansicr braidd, euthum ati i gasglu yr arian fy hun. Bu ymateb anhygoel, ac mewn llai na mis, yr oedd teirgwaith y swm angenrheidiol wedi ei godi. Mae sôn am ddrama rwan, sôn am gyfrol.

Brwydr y BeasleysAngharad Tomos

6 ytafod awst 2012

Page 7: Y Tafod - Awst 2012

Ewch draw i weld yr uned os byddwch yn yr Eisteddfod. Syllwch ar y gwagedd, a cheisiwch ddychmygu beth gostiodd y frwydr dros ffurflen Gymraeg i Trefor ac Eileen Beasley. “Eler ati o ddifrif “ ddywedodd Saunders. Ystyriwch chi beth allwch

chi ei wneud dros y Gymraeg ym mlwyddyn dathlu 50 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith. A boed i safiad y Beasleys ail-danio ein brwdfrydedd.

“Cofio eu haberth, a’u gweledigaeth, Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi” (Dafydd Iwan)

Brwydr y Beasleys

awenmeirion cy

f

llyfrau. disgiau. cardiau. crysau ‘cowbois’. crefftaucyflenwyr ysgolion a llyfrgelloedd. gwasanaeth post byd-eang

[email protected] Stryd Fawr, Y Bala01678 520658

2012 awst ytafod 7

Page 8: Y Tafod - Awst 2012

Pris £10 Label Rasal Adolygiad Lowri JohnstonLlun fflurdafydd.com

8 ytafod awst 2012

Page 9: Y Tafod - Awst 2012

Mae’n braf dal albwm newydd Fflur Dafydd yn fy llaw. Dwi wedi cyffroi achos dwi’n hoffi

Fflur Dafydd ac mae’n braf pan ma’ pobl chi’n ei hoffi yn rhyddhau cerddoriaeth newydd. Syml.

Mae’r gân agoriadol am ei merch Beca, ac mae’n gân sy’n codi’r hwyliau - yn sôn am fywyd newydd a’i golwg hi ar y byd. Mae ‘na lun hyfryd o Beca hefyd yn y llyfryn bach sy’n dod gyda’r CD. Mae’n albwm bersonol iawn, a dwi wrth fy modd gyda Y Ferch sy’n Licio’r Gaeaf, sy’n sôn am gwympo mewn cariad yn eira mis Mawrth ar Heol Awst, Caerfyrddin. Fel y ni’r Cymry, dwi’n hoffi clywed am lefydd dwi’n eu hadnabod mewn caneuon ac fel merch o Gaerfyrddin, mae hyn yn plesio.

Mae ‘Ray o’r Mynydd’ er cof am Ray Gravell ac mae’n gân deimladwy ac emosiynol sy’n rhoi’r crud drwyddai bob tro dwi’n gwrando arni. “Mae ‘na galon yn

y garreg hon sy’n fwy na’r byd i gyd” yw’r linell sy’n fy nal i bob tro…

Ceir caneuon er cof am fam-gu a thad-cu Fflur, ac er cof am yr emynyddes a’r bardd gwlad Martha Llwyd fu farw yn 1845 ond sy’n rhan o linach teulu Fflur. Fel un sydd â brawd bach hefyd dwi’n hoff o’r gân am ei brawd. Mae’r cyfan yn onest iawn ac mae’r straeon yn cael eu hadrodd mewn modd tyner a barddonol. Mae’r lluniau yn y llyfryn hefyd yn ychwanegu at y teimlad personol ac rwy’n teimlo fel mod i’n cael cip olwg i fywyd a hanes Fflur.

Mae tueddiad gan fandiau i gynhyrchu albymau hollol amhersonol ond mae hwn yn wahanol ac mae hynny i’w groesawu Mae’n albwm hawdd i wrando arno eto ond mae na ddyfnder iddo. Dwi’n eich annog i eistedd a gwrando yn astud ar y geiriau, a mwynhewch. Mae’n un da!

Coeden Deulu Fflur Dafydd

2012 awst ytafod 9

Page 10: Y Tafod - Awst 2012

Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg galwai’r lladmerydd cymdeithasiaeth a gwladgarwr

blaengar, R. J. Derfel, am Brif Athrofa addysg uwch yn darparu addysg Gymreig, ‘lle byddai’r iaith Gymraeg yn brif iaith’. Am ganrif a hanner claddwyd y syniad o goleg Cymreig a Chymraeg ond o’r diwedd sefydlwyd Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i hyrwyddo addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond beth am ran gyntaf gweledigaeth Derfel, sef addysg Gymreig?

Patrwm ffederal sydd i’r CCC ac fe’i llywir gan gyfarwyddwyr, y rhelyw wedi’u hapwyntio gan Lywodraeth Cymru i gynrychioli’r gwahanol brifysgolion. Er mwyn hyrwyddo addysg uwch Cymraeg a Chymreig ac i gadw llygad ar ddatblygiad y CCC sefydlwyd Corff Cysgodol Annibynnol i gynnig beirniadaeth adeiladol ar gynlluniau a gweithgareddau’r CCC. Mae’r Corff Cysgodol yn agored i bob cefnogwr addysg Gymreig ac fe’i harweinir gan 12 o gyfarwyddwyr gwirfoddol. Y cyfarwyddwyr cysgodol ynghyd â ChYIG sy’n trefnu’r Fforwm Agored yn yr Eisteddfod i roi cyfle i bawb i gyfrannu at y drafodaeth ynglŷn â chyfeiriad y CCC.

Nodir isod rhai pwyntiau i’w trafod yn y Fforwm Agored:

1. Dylai gweledigaeth y CCC fod yn llawer mwy na Chymraeg fel cyfrwng. Yn hytrach, mae angen mynegiant o weledigaeth ynglŷn â phersbectif diwylliannol Cymreig ar gynnwys a swyddogaeth addysg uwch. Dylid datgan yn glir mai blaenoriaeth y CCC yw gwasanaethu Cymru gan gynnig addysg sydd nid yn unig yn y Gymraeg ond yn Gymreig hefyd.

2. Nid yw darparu atodiadau cyfrwng Cymraeg i gyrsiau a gynlluniwyd ar sail paradeim Eingl-Americanaidd yng ngholegau eraill Cymru yn mynd i sicrhau addysg Gymreig. Yn hytrach, mae angen cynllunio cyrsiau o’r newydd yn Gymraeg o bersbectif diwylliannol gwahanol ar sail gweledigaeth athronyddol glir. Mae’r ffaith bod y CCC yn gorff ffederal yn golygu bod ganddo gyfle euraidd i ddatblygu cyrsiau traws-golegol yn seiliedig ar baradeim Cymreig. Mewn geiriau eraill rhaid i’r CCC ddatblygu, dilysu a pherchenogi ei raglenni a’i gyrsiau ei hun.

3. Y gyfran uchel o addysg uwch sy’n digwydd tu allan i’r colegau addysg uwch traddodiadol, yn bennaf yn y colegau addysg bellach.

Fforwm agored i hybu gwaith Y Coleg Cymraeg CenedlaetholPabell y Cymdeithasau 2, 2.00pm, Dydd Mercher Awst 8

10 ytafod awst 2012

Page 11: Y Tafod - Awst 2012

Am gyhyd bu’r rhelyw o ladmeryddion addysg Gymraeg yn pwysleisio’r Gymraeg fel cyfrwng. Gweledigaeth a fuasai’n ysbrydoli myfyrwyr ac a gynigir fel sail cynlluniau academaidd ar gyfer y CCC yw addysg Gymreig. Nid yn unig cyfrwng gwahanol ond cynnwys gwahanol wedi’i ddatblygu’n ymwybodol ar sail paradeim academaidd gwahanol yn codi o bersbectif diwylliannol gwahanol. Cynnwys gwerth chweil i fyfyrwyr Cymraeg; gwerth ei gyfieithu ar gyfer gweddill y byd. Y fath weledigaeth ac ysbrydoliaeth sydd yn brin yn natganiadau a dogfennau’r CCC hyd yn hyn.

Gobaith newydd?

4. Mae’r CCC mewn sefyllfa unigryw i roi sylw arbennig i addysg gydol oes ac i’r holl berthynas rhwng coleg a chymuned.

5. Cyflogadwyaeth myfyrwyr yn ogystal ag anghenion Cymru o ran llenwi swyddi.

6. Mae angen persbectif a pholisi adeiladol ynglŷn â lle’r Saesneg a fydd yn sail i ddealltwriaeth, diffiniad a defnydd cadarnhaol o ddwyieithrwydd.

7. Dylai cynlluniau’r CCC gynnwys gweledigaeth ryngwladol gydag amlieithrwydd cadarnhaol yn greiddiol. O lwyddo gyda’r weledigaeth o ddatblygu addysg Gymreig drwy gyfrwng y Gymraeg yna cam â gweddill pobloedd Cymru a’r byd fuasai eu hamddifadu o’r fath bersbectif diwylliannol gwerthfawr. Felly, dylid ystyried sut i drosglwyddo’r fath weledigaeth a phersbectif academaidd

drwy gyfrwng ieithoedd eraill, yn bennaf y Saesneg.

8. Dylid datblygu strategaeth ymchwil fydd yn cynnwys ymwneud ag anghenion ymchwil cyrff a chymunedau yng Nghymru, cydweithio rhwng colegau yng Nghymru a chyda colegau ar draws yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt.

9. Gan gymryd y bydd dulliau cywir o fesur cynnydd yn digwydd yna mae angen cyhoeddi mesuriadau syml a chryno o dwf addysg uwch Cymraeg.

10. Materion pellach i’w gwyntyllu yw denu myfyrwyr, cenhadu a marchnata, hawliau ac undeb myfyrwyr, meithrin ymdeimlad o berthyn i’r CCC, cymdeithas darlithwyr, cyrff ffederal, mentora ac addysg ddigidol.Sel Williams

Page 12: Y Tafod - Awst 2012

CoWbOiScRySe t lYsH cYmRaEg

CoWbOiScRySe t lYsH cYmRaEg

CoWbOiScRySe t lYsH cYmRaEg

CoWbOiS cRySe t lYsH cYmRaEg

I goffau sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mhontarddulais ar Awst 4 1962 mae Cymdeithas yr Iaith gyda

chefnogaeth Cyngor Tref Pontarddulais am godi plac ar Neuadd y Dref i gofio’r digwyddiad.

Gwneuthurwr y plac fydd Mr Ieuan Ress sy’n arbenigwr yn y Maes ac mae’r Cyngor Tref eisoes wedi cyfrannu £500 tuag at y gost o £1,700 +TAW.

Roedd hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol hanesyddol ac os ydych chi am gyfrannu rhywbeth at gost gwneud y plac byddem yn wirioneddol ddiolchgar. Dylech wneud eich sieciau’n daladwy i

‘Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’ neu ddod â chyfraniadau atom ar Uned y Gymdeithas ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yr Apêl am arian at Blac Pontarddulais yn cael ei lansio yn swyddogol yn yr Eisteddfod am 2 o’r gloch dydd Sadwrn Awst 4 ym mharti pen blwydd y Gymdeithas a gynhelir yn yr Uned.

Byddwn yn sicr yn rhoi gwybod i bawb sydd wedi cyfrannu am ddyddiad dadorchuddio’r plac ac yn eu gwahodd i’r seremoni.

Apêl Plac Pontarddulais

Page 13: Y Tafod - Awst 2012

gigsfClwb Rygbi Llanilltud Fawr Steddfod Bro Morgannwg

Mae lein-yp gigs Eisteddfod y Gymdeithas yng Nghlwb Rygbi Llanilltud Fawr eleni yn cynnwys rhai o artistiaid gorau a mwyaf adnabyddus Cymru. Byddwn hefyd yn rhoi llwyfan i rhai o fandiau newydd ac addawol y Sin Roc Gymraeg. Cyfle felly i ddod i’w hadnabod yn well...

Neb

ula Nebula

Band ifanc o Abertawe efo sŵn Indi Roc yw Nebula. Pump aelod sydd yn y band

a enillodd cystadlaethau Brwydr y

Bandiau C2 2012 a’r Eisteddfod yn

2011. Rydym yn ysgrifennu caneuon

gwreiddiol Cymraeg, gan geisio creu

cerddoriaeth newydd a gwahanol

ar gyfer y Sin Roc Gymraeg. Mae’r

band yn gweithio’n galed i godi eu

proffil ar y sin ac yn chwarae yn Maes

B 2012 yn ogystal a gigs Steddfod y

Gymdeithas.

Gig Coleg Cymraeg,

Nos Fawrth, Awst 7fed

2012 mehefin ytafod 13

Page 14: Y Tafod - Awst 2012

Y C

ondu

ctor

s

Y ConductorsGanwyd yng ngorllewin Cymru yn 2010, ac ers hynny

wedi cael eu chware yn gyson ar BBC Radio 1 a’u

cynnwys ar ‘Artrocker Radio’ ac ar raglen Bethan Elfyn

a Huw Stephens. Sefydlodd y band ddilyniant cadarn gyda’u

halbwm cyntaf ‘Dim Problem’ a gafodd ei ryddhau ar Recordiau

‘Deathmonkey’ haf diwethaf. Mae’r ‘Conductors’ wedi rhannu’r

llwyfan gyda The Heavy, Victorian English Gentlemans Club, The

Computers ac Exit International i enwi dim ond rhai. Ma’ nhw’n

siŵr o chwythu’r stereo!

Gig Coleg Cymraeg

Nos Fawrth, Awst 7fed

14 ytafod mehefin 2012

Page 15: Y Tafod - Awst 2012

Brei

chia

u H

ir

Breichiau HirBand egnïol a swnllyd o

Gaerdydd yw Breichiau Hir.

Mae’r band yn creu atmosffer

unigryw gyda dylanwadau post-

pync ac yn dangos angst gyda sŵn

mawr a chyffyrddiadau pync a roc. 6

aelod sydd i’r band - tri gitâr, un bas,

drymiwr a chanwr. Ma’ geirie pob cân

yn bwysig i’r band ac ma’r egni byw

mewn gigs yn rhywbeth cyson.

Noson Munud i Ddathlu,

Nos Lun, Awst 6ed

Blaidd

BlaiddMa’ Blaidd yn fand newydd

o Geredigion sy’n cynnwys Sam Rhys James

(gynt o’r Poppies) ar y gitâr a’r llais,

a’r brodyr Gary a Roy Price ar y

gitâr fas a’r drymiau. Grŵp pync

modern sydd yn brysur yn gigio’n

rheolaidd. Mae EP cyntaf y band ar

gael AM DDIM fan hyn: http://blaidd.bandcamp.com/

Mwy o wybodaeth ewch i:

facebook.com/blaiddcymru

twitter.com/blaiddcymru blaidd.bandcamp.com

Gig ‘Cymdeithas yn hyrwyddo’r SRG

ers 1962’, Nos Sadwrn, Awst 11eg

2012 awst ytafod 15

Page 16: Y Tafod - Awst 2012

Y Rw

tchY Rwtch‘Rydyn ni’n ddeuawd acwstig

newydd o Bontypridd, sydd

yn cael ein dylanwadau o

artistiaid a bandie fel Al Lewis, Huw

M a Cowbois Rhos Botwnnog. Ers

haf 2011 rydyn ni wedi bod yn paratoi

EP ac yn edrych ymlaen at chwarae

gigs o amgylch y wlad dros yr haf gan

gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Noson Munud i Ddathlu,

Nos Lun, Awst 6ed

Brom

as

BromasBand o Dde-Orllewin Cymru

yw Bromas sy’n chware cerddoriaeth Indie Rock.

Ffurfiwyd y band yn 2011 ar ôl i ni

gyd gwrdd ar gwrs Haf gyda’r Urdd

a sylweddoli bod y pedwar ohonom

wastad wedi bod eisiau dechrau

band ond erioed wedi gwneud.

Felly, ar ôl i Steff ddysgu’r ‘basics’

ar y bâs, dechreuon ni ysgrifennu

caneuon gwreiddiol a chwarae

‘covers’ Cymraeg. Ein dylanwadau ni

yn y SRG yw’r Ods a’r Bandana, a’r

dylanwadau rhyngwladol yw’r Foo

Fighters a Coldplay a llwyth o fandie

eraill. Aelodau’r band yw Owain

Huw, gitarydd a phrif leisydd, Llewelyn

Hopwood, allweddellau a phrif

leisydd, Steffan Cennydd, gitâr fâs, a

Cellan Wyn, drymiau. Ein gobeithion

ni ar gyfer y dyfodol yw i bobl

fwynhau ein caneuon am eu gwerth

cerddorol, a bydde medru hedleino

ym Maes B a gwyliau cerddorol eraill

ym Mhrydain yn fonws gwych.

Gig Coleg Cymraeg,

Nos Fawrth, Awst 7fed

16 ytafod mehefin 2012

Page 17: Y Tafod - Awst 2012

Castellnewydd Emlyn: 01239 711668 Llanelwy: 01745 [email protected] www.iaith.eu

y ganolfan cynllunio iaithwe ls h c en t re f o r l anguage p lann ingIAITH:

Page 18: Y Tafod - Awst 2012

Llyfrau haf Y Lolfa

www.ylolfa.com

Dyddiaduron 2012A4 – £6.95A5 – £5.95Poced – £4.95Ffeilo� aith – £6.95

Ymlaen am y 100!

£14.95

£9.95£9.95

£7.95

£8.95

£7.95

£5.95

£5.95 £5.95

Page 19: Y Tafod - Awst 2012

Darn o gelf gan Elen Gwenllian Hughes, Coleg Meirion Dwyfor. Cipiodd ail wobr yn Steddfod yr Urdd 2012.

2012 mehefin ytafod 19

Page 20: Y Tafod - Awst 2012

14:30, DYDD SADWRN, 8 MEDI 2012CANOLFAN Y MORLAN, ABERYSTWYTHRali �ynyddol arbennig i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith GymraegSiaradwyr yn sôn am eu pro�adau ymgyrchu ar draws y bydSiaradwyr: Mike Parker Awdur a Darlledwr, Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE, Paul Bilbao Sarria Kontseilua Gwlad y Basg, Sian Howys ac eraill

Cyfarfod Cy�redinol y Gymdeithas yn dechrau’r noson gynt am 7yh,Trafod ymgyrchoedd fore dydd Sadwrn o 10 o’r gloch yn y Morlan

Am ragor o wybodaeth - [email protected] neu �oniwch 01970 624501

diwylliantlleiafrif neubriod iaith cenedl?

cymdeithas.org RALI RYNGWLADOL

Dathlu 50 mlynedd o Ymgyrchu

Poster Rhynngwldol__2.indd 1 06/07/2012 19:27:48

Bydd y Rali Flynyddol eleni â naws ryngwladol iddi. Er ein bod yn dathlu hanner can mlynedd o

ymgyrchu dros y Gymraeg rydyn ni hefyd yn dathlu ein hymgyrchu fel rhan o’r chwyldro dros hawliau, rhyddid a chyfiawnder ar draws y byd. Bydd yn gyfle i glywed am sefyllfa ieithoedd mewn gwahanol rannau o’r byd a gweld ein lle ni yng Nghymru yn y chwyldro rhyngwladol.

Bydd Sesiwn y Cyfarfod Cyffredinol yn cael ei gynnal rhwng 7pm a 9pm ar Nos Wener, Medi 7fed. Byddwn yn trafod cynigion ac yn cyhoeddi enwau’r

sawl fydd ar y Senedd am y flwyddyn i ddod. Bydd angen i unrhyw gynigion ac enwebiadau ar gyfer y Senedd ddod i law erbyn Awst y 18fed. Bydd modd eu danfon drwy’r post neu eu cyflwyno i ni yn yr Eisteddfod.

Cynigion sydd yn gosod blaenoriaethau’r Gymdeithas am flwyddyn. Daw cynigion gan grwpiau ymgyrch, gan ranbarthau a gan unigolion sydd am gynnig ffyrdd y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar gyfer y flwyddyn. Bydd yr holl gynigion wedyn yn cael eu trafod gerbron pawb sydd yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol.

Y Rali Flynyddol a’r Cyfarfod Cyffredinol

20 ytafod awst 2012

Page 21: Y Tafod - Awst 2012

Ymgyrchu dros ieithoedd ar draws y byd Pa wersi all Cymru eu dysgu o bro�ad ymgyrchwyr mewn gwledydd eraill?

Paul Bilbao Sarria Mudiad Kontseilua, Gwlad y Basg

Maria Arenys sefydliad rhyngwladol CIEMEN, Catalonia

Reynaldo Mariqueo ymgyrchydd iaith Mapuche

François Alfondi ASE, Partitu di a Nazione Corsa

Enrique Uribe Jongbloed Prifysgol La Sabana, Chía, Colombia

Jill Evans ASE, Dr Elin Haf Gru�ydd Jones, Dr Sian Edwards, Menna Machreth, Toni Schiavone

CYNHADLEDDYmgyrchu tros Ieithoedd Tan Ormes10yb DYDD GWENER, 7 MEDI 2012CANOLFAN Y MORLAN, ABERYSTWYTH

SESIWN RYNGWLADOL CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG

diwylliantlleiafrif neubriod iaith cenedl?

Cost: rhad ac am ddim (£20 i gynrychiolwyr sefydliadau)

Darperir cy�eithu amlieithog gan Alan King

Cefnogir y digwyddiad gan Jill Evans ASE

Cofrestrwch ymlaen llaw: [email protected] �onio 02920 486469

www.cymdeithas.org

Bydd modd i unrhyw berson wrthwynebu neu gynnig gwelliant i unrhyw gynnig. Bydd pleidleisio ar yr holl gynigion sydd yn dod i law a bydd hawl pleidleisio gan unrhyw aelod cyfredol.

Y Senedd yw pwyllgor canol y Gymdeithas sydd yn rheoli ac yn llywio gwaith y Gymdeithas rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol. Mae aelodau’r Senedd yn gasgliad o bobl o’r holl grwpiau ymgyrch a swyddi amrywiol a byddwn yn cwrdd yn fisol i drafod manylion diweddaraf ymgyrchoedd a rhoi trefn ar unrhyw ddigwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod.

Mae gan y Gymdeithas bedwar Grŵp Ymgyrch sydd yn rhedeg ymgyrchoedd ac yn llunio polisi canolog. Yn ogystal mae gennym ymgyrchoedd i gynyddu aelodaeth a chodi arian.

Mae angen pobl i helpu gyda chynllunio, hyrwyddo, lobio, dylunio deunydd, rhannu syniadau, ymgyrchu, cynyddu gweithgarwch, llythyru, a gwneud gwaith caib a rhaw o bob math ac rydyn ni o hyd yn falch iawn o gael unrhyw gymorth. Os oes gennych chi ddiddordeb helpu’r Gymdeithas mewn unrhyw ffordd yna cysylltwch â ni: [email protected]

Y Rali Flynyddol a’r Cyfarfod Cyffredinol

2012 awst ytafod 21

Page 22: Y Tafod - Awst 2012

Rhagor o fanylion a thocynnau: [email protected] | 02920 486469 | cymdeithas.org/steddfod

Sadwrn, Awst 4ydd CWIS CAWLACH MEIC AGOREDMynediad am Ddim | 7yh

Sul, Awst 5edNOSON O FLAEN Y BOCS GYDA SIANEL ’62Mynediad am Ddim | 7yh

Llun, Awst 6edNoson Munud i DdathluYR ODS BREICHIAU HIRY RWTCH F�lm ‘Munud i Ddathlu’£7 | 7yh

Mawrth, Awst 7fedGig Coleg CymraegY BANDANA MR HUW Y CONDUCTORS NEBULA£7 | 7yh

Mercher, Awst 8fedDathliad 50 TUDUR OWEN yn cy�wynoDAFYDD IWAN + HEATHER JONES £7 | 7yh

Iau, Awst 9fedNoson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion CymruMEIC STEVENS HUW M £10 | 7yh JAMIE BEVAN A’R GWEDDILLIONGwener, Awst 10fedNoson Tynged yr Iaith 2 a Chynghrair Cymunedau Cymru STEVE EAVES LLEUWEN CASI WYN£10 | 7yh

Sadwrn, Awst 11egGig Cymdeithas yr Iaith yn hyrwyddo’r SRG dros y degawdau JESS CLINIGOL JJ SNEED BLAIDD £10 | 7yh

GWERSYLLA dim ond £6 y noson! Cawodydd, Bwyd,10% o ostyngiad i wersyllwyr wrth y bar, Llai na 2 �lltir o faes yr eisteddfod,Agos i dafarndai a siopau Llanilltud Fawr,Gigs dan d

+ ar y maes!Parti Pen-blwydd y Gymdeithas yn 50Dewch draw i dorri’r gacen!2pm Dydd Sadwrn Awst 4Pabell Cymdeithas yr Iaith

Gweithdy Sianel 623pm Dydd Llun, Awst 6Gofod Hacio’r Iaith, Pabell Cefnlen Sioe 50Rifíw am Gymdeithas yr Iaith 2.30pm Dydd Mawrth Awst 7Theatr Fach y Maes Fforwm agored i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2pm Dydd Mercher Awst 8Pabell y Cymdeithasau 2 Cerddi Hanner Cant1.30pm Dydd Iau Awst 9Y Babell Len

‘Brwydr y Beasleys’Cy�wyniad i ddathlu sa�ad y Beasleys dros y Gymraeg gydag aelodau o’r teulu yn cymryd rhan.5pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2 Ocsiwn Cyn – Gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 6pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau CymruCyfarfod cenedlaethol cyntaf y Gynghrair- croeso i bawb .Cadeirydd: Craig ab Iago12 o’r gloch Dydd Sadwrn Awst 11,Y Neuadd Ddawns

Steddfod Bro Morgannwg

gigsCymdeithas yr Iaith

Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

CyIG_Steddfod_2012_155x220mm.indd 1 14/07/2012 11:50:26

Page 23: Y Tafod - Awst 2012

Rhagor o fanylion a thocynnau: [email protected] | 02920 486469 | cymdeithas.org/steddfod

Sadwrn, Awst 4ydd CWIS CAWLACH MEIC AGOREDMynediad am Ddim | 7yh

Sul, Awst 5edNOSON O FLAEN Y BOCS GYDA SIANEL ’62Mynediad am Ddim | 7yh

Llun, Awst 6edNoson Munud i DdathluYR ODS BREICHIAU HIRY RWTCH F�lm ‘Munud i Ddathlu’£7 | 7yh

Mawrth, Awst 7fedGig Coleg CymraegY BANDANA MR HUW Y CONDUCTORS NEBULA£7 | 7yh

Mercher, Awst 8fedDathliad 50 TUDUR OWEN yn cy�wynoDAFYDD IWAN + HEATHER JONES £7 | 7yh

Iau, Awst 9fedNoson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion CymruMEIC STEVENS HUW M £10 | 7yh JAMIE BEVAN A’R GWEDDILLIONGwener, Awst 10fedNoson Tynged yr Iaith 2 a Chynghrair Cymunedau Cymru STEVE EAVES LLEUWEN CASI WYN£10 | 7yh

Sadwrn, Awst 11egGig Cymdeithas yr Iaith yn hyrwyddo’r SRG dros y degawdau JESS CLINIGOL JJ SNEED BLAIDD £10 | 7yh

GWERSYLLA dim ond £6 y noson! Cawodydd, Bwyd,10% o ostyngiad i wersyllwyr wrth y bar, Llai na 2 �lltir o faes yr eisteddfod,Agos i dafarndai a siopau Llanilltud Fawr,Gigs dan d

+ ar y maes!Parti Pen-blwydd y Gymdeithas yn 50Dewch draw i dorri’r gacen!2pm Dydd Sadwrn Awst 4Pabell Cymdeithas yr Iaith

Gweithdy Sianel 623pm Dydd Llun, Awst 6Gofod Hacio’r Iaith, Pabell Cefnlen Sioe 50Rifíw am Gymdeithas yr Iaith 2.30pm Dydd Mawrth Awst 7Theatr Fach y Maes Fforwm agored i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2pm Dydd Mercher Awst 8Pabell y Cymdeithasau 2 Cerddi Hanner Cant1.30pm Dydd Iau Awst 9Y Babell Len

‘Brwydr y Beasleys’Cy�wyniad i ddathlu sa�ad y Beasleys dros y Gymraeg gydag aelodau o’r teulu yn cymryd rhan.5pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2 Ocsiwn Cyn – Gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 6pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau CymruCyfarfod cenedlaethol cyntaf y Gynghrair- croeso i bawb .Cadeirydd: Craig ab Iago12 o’r gloch Dydd Sadwrn Awst 11,Y Neuadd Ddawns

Steddfod Bro Morgannwg

gigsCymdeithas yr Iaith

Clwb Rygbi Llanilltud Fawr

CyIG_Steddfod_2012_155x220mm.indd 1 14/07/2012 11:50:26

Page 24: Y Tafod - Awst 2012

Ar ôl misoedd o heip yn arwain at gig 50 Cymdeithas yr Iaith mae’n anodd credu bod y cwbl

drosodd. Os nad oeddech chi yno, neu wedi colli’r cyfan ar y teledu a’r radio yna dwi’n siŵr eich bod yn awyddus i wybod mwy am y gig Cymraeg mwyaf ers degawdau. Roedd trefnu bod hanner cant o fandiau i berfformio dros ddwy noson yn bownd o fod yn sialens, ond pob clod i’r trefnwyr, fe wnaeth popeth rhedeg yn esmwyth heb seibiant o fwy na phum munud rhwng y bandiau. Dyma i chi esiampl berffaith o gerddoriaeth ddi-dor.

Roedd tri llwyfan sef y brif lwyfan,

llwyfan y Tafod a hefyd y llwyfan acwstig gyda bandiau mwyaf addawol, llwyddiannus ac enwocaf Cymru yn llenwi’r lein-yp. Ar y llwyfan acwstig fe welon ni gymysgedd o bob math o gerddoriaeth,- o ganeuon pop Elin Fflur i anthemau Heather Jones ac o lais hudolus Gwyneth Glyn i ganeuon tecno Crash.Disco! a JJsneed. Ar lwyfan y Tafod roedd Brigyn yn cydweithio â Hefin Huws a Gwibdaith yn cydweithio â syrpreis mawr yr Ŵyl sef ymddangosiad Dafydd Iwan. Cafodd y brif lwyfan ei lenwi gan rhai o fawrion y SRG fel Meic Stevens, Bryn Fôn, Geraint Løvgreen a’r Enw Da ac wrth gwrs Gruff Rhys.

Hanner CantAdolygiad Lewys Arôn | Lluniau Rhys Llwyd

Dathlu hanner can mlynedd o ymgyrchu bywiog a cherddoriaeth fywPumdeg o fandiau, dwy noson, un parti mawr

13–14 Gorffennaf 2012, Pafiliwn Pontrhydfendigaid

24 ytafod awst 2012

Page 25: Y Tafod - Awst 2012

2012 mehefin ytafod 25

Page 26: Y Tafod - Awst 2012

Nos WenerGyda chymaint o dalent yn perfformio ar y noson roedd e’n amhosib i mi gael gweld pob un band. Perfformiad Heather Jones ar y llwyfan acwstig oedd yr uchafbwynt i mi. Pob tro dwi’n gweld Heather yn chware mae hi’n llwyddo i greu awyrgylch angerddol a doedd ei pherfformiad y tro yma yn ddim eithriad. Wrth i Heather ganu ‘Colli Iaith’ roedd distawrwydd llethol yn yr ystafell gyda phob aelod o’r gynulleidfa’n gwrando’n astud. Awyrgylch hudolus.

Roedd perfformiad Y Bandana ar y prif lwyfan yn wrthgyferbyniad llwyr, gyda’r awyrgylch yn newid

o un difrifol a dwys i un hwyliog a llawn egni. Pan gyrhaeddais i’r prif lwyfan roedd y gynulleidfa yn mynd yn hollol nyts wrth i’r Bandana ganu “Byth yn gadael y tŷ” gydag atsain lleisiau’r gynulleidfa’n canu’r gytgan yn ychwanegu at yr awyrgylch. Ond uchafbwynt y noson oedd perfformiad y dyn ei hun, y brawd hwdini, Meic Stevens. Dyma’r perfformiad gorau i mi erioed weld gan Meic, roedd e’n ymateb a rhywsut yn bwydo ar egni’r gynulleidfa. Fel y disgwyl, ‘Y Brawd Hwdini’ gafodd yr ymateb gorau gan hala pawb i neidio o gwmpas a sgrechian “Dim ond fi, y brawd Hwdini.” Llwyddodd Meic hefyd i

26 ytafod awst 2012

Page 27: Y Tafod - Awst 2012

dawelu’r gynulleidfa a chreu awyrgylch mwy emosiynol wrth ganu caneuon fel ‘Merch o’r ffatri wlân’. Roedd e’n bleser gweld ystod mor eang o ran oedran y gynulleidfa, ac roedd hyn yn brawf i mi fod y SRG yn fyw ac yn iach gyda phobl o bob oed yn gallu mwynhau cerddoriaeth amrywiol.

Dydd SadwrnGyda phawb yn dioddef ar ôl y noson gynt ro’n i’n disgwyl i ddydd Sadwrn ddechrau’n dawel, ond daeth pawb mas mewn llu eto. Erbyn y prynhawn roedd Y Neuadd Bentref yn llawn a braf gweld cymaint o blant bach yno,- pob un yn aros i glywed perfformiad Gwyneth Glyn. Dyw Gwyneth Glyn byth yn siomi. I mi, roedd

ei set yn gweud stori glir o’i phrofiadau bywyd, yn cynnwys cân am ei theithiau o amgylch y byd o’r enw ‘Merch y Brwyn’, a dyma i fi oedd y gân a wnaeth yr argraff fwyaf gan bod Gwyneth wedi rhoi gymaint o emosiwn a theimlad i’r perfformiad. Ffefryn y gynulleidfa oedd yr hen glasur “Adra” gyda phawb yn canu’r cytgan.

Y band nesaf welais i oedd Brigyn a Hefin Huws. Dwi wedi gweld Brigyn sawl gwaith o’r blaen ond dwi’n teimlo bod Hefin Huws wedi ychwanegu at berfformiad y band. Dyma’r adeg pan na’th y pafiliwn wir ddechrau llenwi. Nesa i berfformio oedd y dyn o Dreforys, Neil Rosser. Fe wnes i fwynhau ei berfformiad yn fawr iawn gyda’r canwr yn mynd nôl

2012 awst ytafod 27

Page 28: Y Tafod - Awst 2012

i’w wreiddiau a chanu ei stwff cynnar fel ‘Gwynfyd’ ac ‘Ar y Bara’ yn ogystal â’i glasur ‘Ochr Treforys o’r Dre’. Y band nesa welais i oedd Twmffat ar y prif lwyfan. Roedd y band, sydd newydd rhyddhau eu halbwm diweddaraf sef “Dydi fama ddim yn maddau i neb” wedi llwyddo codi tempo’r noson yn sylweddol wrth i egni’r band danio’r gynulleidfa gyda chaneuon fel “Twr Ifori” a “Cariad”. Erbyn i mi ddychwelyd ar ôl llenwi ‘mol roedd Gruff Rhys wedi dechrau ar ei berfformiad a’r lle yn hollol llawn. Dwi erioed wedi clywed cymaint o bobol yn canu’r un geiriau “Ni yw y byd”. Ro’n i’n hoff iawn o’r defnydd o arwyddion er mwyn cynnwys y gynulleidfa yn y perfformiad, a’r

ymateb yn wych – pawb yn screchen wrth i Gruff godi’r arwydd “Codwch y to”. Nesa ar y prif lwyfan oedd Geraint Løvgreen a’r Enw Da, a llwyddodd y band i gynnal y naws a hyd yn oed codi’r ysbryd gyda chaneuon fel ‘Entrepreneur’ a ‘Ffarwelio’. Roedd adran chwythbrennau ei fand yn neud e’n amhosib i beidio troi eich cluniau rownd a rownd. Roedd ambell i aelod o’r gynulleidfa ar ben ysgwyddau ffrindiau er mwyn cael gwell golwg ar y band. Sypreis y noson oedd ymddangosiad Dafydd Iwan fel gwestai arbennig Gwibdaith Hen Frân. Fe ddechreuodd ei set gan ein hatgoffa am un o’r brwydrau wnaeth ddylanwadu’n enfawr wrth ffurfio’r Gymdeithas sef ymgyrch y Beaslys,

28 ytafod awst 2012

Page 29: Y Tafod - Awst 2012

ac agorodd ei set gyda’i gân amdanynt. Ond i fi uchafbwynt ei berfformid oedd “Peintio’r byd yn wyrdd”. Dyma gân sy’n cael ei anghofio weithiau yng nghysgod anthemau mwyaf amlwg Dafydd Iwan fel ‘Yma o Hyd’ a ‘Pam fod Eira’n Wyn’. Unwaith eto roedd y gynulleidfa’n mynd yn hollol wyllt yn ystod y gân. Ar ôl i Dafydd Iwan gloi ei set gyda’r anfarwol ‘I’r Gad’ roedd pwysau ar Gwibdaith i gadw pawb yn gynnes nes perfformiad Bryn Fôn, a fe wnaethom nhw jobyn ardderchog o hyn gan gymysgu caneuon eu hunain ag ambell dôn draddodiadol.

Wrth i Bryn Fôn gamu ar y llwyfan roedd pawb yn llawn egni ac yn barod i ddawnsio i’w glasuron fel “Rebel Weekend” ac “Abacws”. Erbyn hyn roedd y cwrw wedi bod yn llifo a welais i symudiadau dawns creadigol iawn gan ambell aelod o’r gynulleidfa! Llwyddodd Bryn i gadw’r egni’n gyson trwy ei set, ac ar un adeg fe wnaeth e hyd yn oed neidio o’r llwyfan i fod ymysg y gynulleidfa. Erbyn diwedd set Bryn Fôn ro’n wedi blino’n racs felly nôl a fi i’r babell i gysgu. Mae’n ddrwg gen i am fethu’r bandiau ar ôl Bryn Fôn, ond dim ond hyn a hyn o ddawnsio a chanu dwi’n gallu gneud mewn un noson!

Os yw llwyddiant Hanner Cant yn profi unrhyw beth, mae’n dangos fod y Sin Roc Gymraeg dal yn fyw ac yn iach, a bod cerddoriaeth Gymraeg yn fodd pwysig o gadw ein diwylliant a’n hiaith yn fyw. Llwyddodd yr Ŵyl i ddod â chenedlaethau o Gymry , yr hen a’r ifanc, at eu gilydd ac rwy’n gobeithio wir mai hon fydd yr Ŵyl gerddoriaeth Gymraeg gyntaf o nifer dros y blynyddoedd i ddod.

2012 awst ytafod 29

Page 30: Y Tafod - Awst 2012

Atgofion cyn-gadeiryddion Cymdeithas yr IaithWrth i’r Gymdeithas ddathlu hanner can mlynedd dyma wahodd rhai o’r cyn-gadeiryddion i rannu peth o’u hatgofion nhw am eu cyfnod wrth y llyw.

John (Sion) Daniel Cadeirydd 1962-65

Wedi’r cadoediad a gyhoeddwyd yn 1962 fel ymateb i Gomisiwn David Hughes-Parry daeth y dasg di-ddiolch o weithredu’n gyfreithlon, pwyso a lobïo, deisebu ac yn y blaen. Mi osododd y gwaith caib a rhaw yma y sylfaen gadarn i allu dweud fod y Gymdeithas wedi ceisio ymgyrchu’n gyfreithlon, a pan ddaeth y ‘putsch’ yn Awst 1965 roedd modd i’r Gymdeithas ddangos eu bod nhw wedi troedio un llwybr heb lwc, a bod hi’n amser i gymryd un arall. Doedd dim drwgdeimlad o gwbl rhwng John Daniel a Cynog, ac mi weithiodd gyda Cynog a mynychu’r protestiadau tor-cyfreithiol a ddilynodd.

Cynog Dafis Cadeirydd 1965-66

Cwta flwyddyn (1965-6) y bues i’n gadeirydd y Gymdeithas. Sefydlwyd Pwyllgor Canol i gwrdd yn fisol o Awst 1965 ymlaen, ac yn ddiymdroi, penderfynwyd dirwyn i ben y cadoediad a oedd wedi dechrau gyda sefydlu Comisiwn Syr David Hughes-Parry ar statws cyfreithiol y Gymraeg. Trefnwyd cyfres o wrthdystiadau torfol yn erbyn gwrthodiad cyfleus Swyddfa’r Post i godi

arwyddion Cymraeg ar eu ‘llythyrdai’, yn Nolgellau, Llanbed a Machynlleth. Rhwng y cyntaf a’r ail fe newidiodd tacteg yr heddlu, o glirio’r gwrthdystwyr yn gorfforol allan o’r adeilad i oddefiaeth lwyr. Yn siomedig iawn i arweinyddiaeth y Gymdeithas, fuodd dim arestiadau.

Symudwyd ymlaen felly i ymgyrch newydd, sef gwrthod talu treth car. Carcharwyd Geraint Jones, Gwyneth Wiliam a Neil Jenkins a chynhaliwyd ralïau mawr i’w cefnogi. Roedd y llwyfan wedi’i osod ar gyfer yr ymgyrch dor-cyfraith estynedig a fyddai o dipyn i beth yn arwain at weddnewid statws swyddogol y Gymraeg a fframwaith polisi cyhoeddus ar y iaith.

Yn bwysicach efallai, fe radicaleiddiwyd sawl cenhedlaeth o bobl ifainc y bu eu dylanwad yn drwm wedi hynny ar wleidyddiaeth a bywyd sefydliadol a diwylliannol y genedl.

Gareth Miles Cadeirydd 1966-68

Yng nghyfarfod blynyddol 1966 yn y Belle Vue, Aberystwyth bu’r Gymdeithas yn agos iawn at rwygo a chwalu oherwydd anghytundeb ynglŷn

30 ytafod awst 2012

Page 31: Y Tafod - Awst 2012

â’r dull di-drais o weithredu. Llwyddwyd i uno’r Gymdeithas yn y cyfnod dilynol.

Daeth yr ymgyrch trwydded car i ben yn llwyddiannus, ac yn dilyn hynny penderfynwyd cynllunio (a chynllwynio) ar gyfer yr ymgyrch arwyddion ffyrdd yn ogystal â gwrthwynebu’r arwisgo. Rhain oedd ymgyrchoedd mwyaf trawiadol y cyfnod a arweiniodd at dro ar fyd yn hanes y Gymdeithas. Cyn hynny ychydig oedd yr unigolion oedd yn gweithredu drwy dorcyfraith, ond datblygodd y mudiad yn un torfol oedd rhaid ei gymryd o ddifrif.

Roeddwn i a’r arloeswr, y diweddar Owain Owain o Fangor (sylfaenydd Tafod y Ddraig), yn tanysgrifio i gylchgrawn Llydewig, Ar Vro. Dan olygyddiaeth yr ysgolhaig Per Denez roedd y cylchgrawn hwn yn trafod y byd o’r safbwynt Llydewig. Trawodd Owain Owain a minnau ar yr un erthygl am fudiad iaith yn Fflandrys, Gwlad Belg, oedd yn trafod ymgyrch paentio arwyddion ffyrdd uniaith Ffrangeg gyda phaent du a hynny rhwng cyfnod y ddau Ryfel Byd. Dyma fabwysiadu syniad a ddaeth yn egin ymgyrch y Gymdeithas i baentio arwyddion ffyrdd Saesneg, ond dewis paent gwyrdd yn hytrach na du.

Dafydd Iwan Cadeirydd 1968-71

Mae tuedd ynon ni gyd wrth i’r blynyddoedd basio i gredu mai ddoe oedd y diwrnod gorau. A’r ddoe hwnnw i mi oedd y degawd rhwng canol y 60au a

chanol y 70au, sy’n cynnwys y cyfnod fel Cadeirydd (1968 – 1971). Wedi ei sefydlu yn 1962, bu’r Gymdeithas yn teimlo’i ffordd am sbel, cyn i’r protestiadau ddechrau o ddifri trwy feddiannu’r swyddfeydd post. Dyna pryd y daethon ni i wrthdrawiad rheolaidd gyda’r cyhoedd, a hynny’n anodd i’w dderbyn weithiau, yn enwedig pan oedd Cymry Cymraeg yn methu cyrraedd y cownter i brynu stamp, neu i gasglu eu pensiwn. Am fy mod innau’n wyneb gweddol gyfarwydd, roeddwn i’n darged amlwg i’w cynddaredd.

Ond cadw persbectif sy’n bwysig i’r Gymdeithas ar hyd y daith, ac argyhoeddi pobol fod anghyfleustra dros dro yn hollol angenrheidiol wrth gario’r maen i’r wal. Ac yn gyfeiliant i’r cyfan roedd y caneuon a’r hwyl, y dagrau a’r chwerthin. Mae’n bwysig cadw i chwerthin.

Roedd cyfnod yr arwisgo yn gyfnod rhyfedd iawn. y Gymdeithas eisoes yn amhoblogaidd tu hwnt yn dilyn y peintio arwyddion, heb sôn am eu tynnu a’u malu. Honno oedd yr ymgyrch ddelfrydol am nad oedd modd i bobol ei hanwybyddu. Pobol wedi gwylltio wrth golli eu ffordd – a’r straeon yn amlhau am

2012 awst ytafod 31

Page 32: Y Tafod - Awst 2012

bobol yn methu cyrraedd ysbytai ac ati. Ac i ganol hyn i gyd daeth Carlo! Yna y gwelson ni mor ddwfn yw gafael y teulu brenhinol ar y Gymru Gymraeg.

Eironi’r peth oedd fy mod i wedi dadlau’n gry dros beidio gwastraffu gormod o amser gyda’r arwisgo. Yr arwyddion oedd ein blaenoriaeth ni. Ond cymerodd yr arwisgo drosodd am sbel, a Chymdeithas yr Iaith oedd yn ymgorffori’r diafol wyneb yn wyneb â’r prins bach diniwed, di-fai. Ac yn Steddfod yr Urdd Aberystwyth , ac yna

yn Steddfod y Fflint, chwythodd y cyfan yn ffrwydrad go iawn.

Ond o grombil y chwerwedd a’r rhwygo teuluoedd a’r carchariadau mynych y daeth y newid mawr i wleidyddiaeth Cymru. Beth bynnag yw gwendidau’r sefyllfa bresennol, rhaid cofio nad oedd gan y Gymraeg unrhyw statws swyddogol yn y 60au, ac yr oedd ysgolion Cymraeg eu cyfrwng yn brin fel aur; dim cyrsiau na neuaddau prifysgol Cymraeg, dim sianel deledu na radio

Cymraeg, a fawr ddim llewyrch ar y diwydiant cyhoeddi na recordio na’r theatr Gymraeg, - heb sôn am Senedd.

Erbyn hyn, mae Cymru wedi newid, a’r frwydr yn parhau. Ac i’r Gymdeithas y mae’r rhan fwyaf o’r diolch am y ddau beth. Pen-blwydd hapus ‘rhen chwaer.

Gronw ab Islwyn Cadeirydd 1971-73

Miniogrwydd ei feddwl a threiddgarwch ei ddadansoddi oedd ei gyfraniad. Rhoesant fin a fframwaith deallusol i’r ymgyrchu dros hawliau a statws y Gymraeg yn chwedegau hwyr y ganrif ddiwethaf. Bellach, bodola’r Gymraeg mewn byd gwahanol. Bu ennill, ond erys llawer i’w wneud. Os cafwyd statws a hawliau, dysgwyd nad hynny’n unig hyba fywyd. Erys yr angen i ddwyn i fod yr amgylchfyd sy’n meithrin bywyd iaith. Rheidrwydd angenrheidiol i bob ac unrhyw fywyd. Yn nathliadau hanner canrif Cymdeithas yr Iaith nodwn fod o hyd ystyriaethau a safbwyntiau i’w hystyried yng ngweithiau’r Athro J R Jones, Abertawe.

Ffred Ffransis Cadeirydd 1975-76

Y peth mwya nodedig yn ystod fy mlwyddyn i o gadeiryddiaeth oedd fod ein llywydd anrhydeddus, Saunders Lewis, wedi ymddiswyddo mewn protest yn erbyn y polisi o wrthwynebu fod Llu Awyr Prydain yn noddi’r gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi. Gwrthdrawiad o ran persbectif a golwg ar y byd. Dwedodd Saunders wrthyf mewn llythyr, “Credais bob

32 ytafod awst 2012

Page 33: Y Tafod - Awst 2012

amser fod gyrfa milwr yn un anrhydeddus. Mae’n amlwg nad oes lle i mi bellach yng Nghymdeithas yr Iaith”. I mi, roedd yn anhygoel y gallai unrhyw genedlaetholwr feddwl ei bod yn briodol fod y lluoedd imperialaidd yn gwasanaethu Cymru. Doedd e ddim yn fodlon siarad gyda fi am y mater, ond dwn i’m be allwn i neu fo wedi dweud beth bynnag. Dau olwg wahanol ar y byd.

Yn 1984, mor falch oeddwn fod y Gymdeithas yn cefnogi’r glowyr yn weithredol yn eu brwydr fawr - brwydr dros ddyfodol cymunedau Cymreig a Chymraeg. Datblygodd y dealltwriaeth, a’r slogan “Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid”.

Wynfford James Cadeirydd 1976-78

Bûm yn teithio sawl tro yn ystod mis Mehefin eleni ar y trên o Gaerfyrddin i Gaerdydd ac yn ôl. Mae clywed y cyhoeddiadau Cymraeg ar orsaf Caerdydd Canolog a hefyd yn Abertawe wrth drosglwyddo i drên i’r gorllewin yn parhau i roi gwefr a ias i mi. Nid felly yr oedd hi ar ddechrau’r saithdegau. Ac wrth ymlwybro i fyny aber Tywi i orsaf Caerfyrddin, daeth taith arall i’m cof sef y daith honno ar brynhawn Sadwrn yng nghwmni cyfeillion oedd heb docynnau. Ac wrth gyrraedd gorsaf Caerfyrddin bu’r sgwrs rhyngom ni a’r awdurdodau yn debyg iawn i’r ddeialog honno yn nrama Saunders Lewis ‘Yn y trên’.

Ond o’r teithiau di-docyn bwriadol hynny, daeth statws i’r Gymraeg ; atgof i ni gyd mai siwrne i’w theithio yw dyfodol y Gymraeg.

Wayne Williams Cadeirydd 1979-81

Dau Achos o Gynllwyn – Dau Begwn yr Ymgyrch Ddarlledu

Wrth ymateb i gais Tafod am bwt ar gyfer y cyhoeddiad hwn roedd yn anodd iawn meddwl am un digwyddiad yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd Y Gymdeithas – roedd llawer iawn o ddigwyddiadau – llawer iawn ohonynt yn ddoniol a difyr ac eraill yn ddifrifol a dirdynnol. Felly, dyma fi’n meddwl am y ddau gyhuddiad o gynllwyn a gefais yn fy erbyn - a digwydd bod roeddent yn cwympo mwy neu lai ar ddau begwn yr ymgyrch.

1971 – Brawdlys yr Wyddgrug – Achos Cynllwynio cyntaf yr Ymgyrch Ddarlledu a minnau’n ddisgybl Dosbarth 6 yn Ysgol Penlan, Abertawe. Cofiaf i Arfon Gwilym ofyn i mi ar Sgwâr Caerfyrddin mewn rhyw achos llys os oedd “pen da ‘da fi” a minnau’n ddiniwed yn meddwl ei fod yn gofyn am feiro!

Ychydig yn ddiweddarach roeddwn lan mast darlledu St. Hilary yng nghanol y nos gyda Trystan Iorweth. Gan fod tresmasu yn ‘drosedd’ sifil ar y pryd newidiwyd y cyhuddiad i “Gynllwynio i Dresmasu” er mwyn ei gwneud yn “drosedd” droseddol fel bod modd ein carcharu. Roedd yr Wyddgrug yn oer a diflas ac roeddwn yn falch cael mynd i’r carchar dros dro er mwyn cael gwres, bwyd gweddol a rhywle cyfforddus i gysgu! Syniad Ffred o foethusrwydd oedd bod pawb yn cysgu ar lawr Neuadd Babyddol yn y dre!

A deng mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl llawer iawn o ymgyrchu ac aberthu gan gannoedd ar gannoedd o Gymry – a

2012 awst ytafod 33

Page 34: Y Tafod - Awst 2012

bygythiad arwrol Gwynfor – dyma’r Sianel yn cael ei hennill..... ac achos cynllwyno olaf yr Ymgyrch i orffen y cyfan yn dwt –

1981 – Llys y Goron Bryste – a minnau’n athro ysgol uwchradd erbyn hynny ac yn dad newydd – Cyhuddiad o Gynllwynio i amharu ar ddarllediadau a difrodi safleoedd darlledu ar draws Cymru a Lloegr. Achos ‘catch all’ er mwyn cloriannu’r cyfan a dangos ‘nerth’ Prydeindod a minnau, Arwyn Sambrook ac Euros Owen yn cael ein carcharu ar y diwedd.

Serch hynny, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, darlledodd S4C am y tro cyntaf ac mae’n dal i ddarlledu – yn dyst i ddyhead a chreadigrwydd cenedl gyfan – er gwaetha’r bygythiadau diweddaraf – MAE’R YMGYRCH YN PARHAU!

Angharad Tomos Cadeirydd 1982-84

Roedd gen i ofn bod y ferch gyntaf i fod yn Gadeirydd, felly nesh i adael hynny i Meri Huws, a chymryd yr awenau wedyn. Cyfnod cynhyrfus oedd o, gan fod dwy ymgyrch yn cychwyn - yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd a’r ymgyrch dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg. Cofiwch mai Thatcher oedd mewn grym, a bu Streic y Glowyr yn drobwynt pendant yn hanes y Gymdeithas. Roedd ein ideoleg ni yn wrthbwynt llwyr i’r Llywodraeth, felly doedd na ddim ffasiwn beth â ‘thir cyffredin’. Roedd unrhyw fesur o ryddid yn freuddwyd bell iawn i ffwrdd! Ond roedden nhw wedi gorfod ildio sianel

deledu inni ym 1982, felly roedd hynny wedi bod yn hwb. Fel Cadeirydd, roedd rhaid rhoi 24/7 i Gymdeithas yr Iaith, ond yr hyn oedd yn hwb – fel bob tro – oedd dyfalbarhad aelodau eraill. Criw o bobl oeddech chi, eisiau newid y byd, a dyna sydd wedi fy nghadw i fynd efo’r mudiad. Dyna ei chryfder pennaf, ac mae’n rhyfeddol sut mae wedi dal ati.

Y dyfyniad sy’n aros yn y cof? Wyn Roberts (druan ohono, buom yn ei ddilyn yn ddi-drugaredd gan mai fo oedd wyneb y Torïaid yng Nghymru – er na chafodd o rioed y job o Ysgrifennydd Gwladol.) “Y drwg efo chi” meddai “ydi nad ydych chi byth yn fodlon. Unwaith rydych chi’n cael un peth, rydych chi wastad eisiau rywbeth arall!”

Toni Schiavone Cadeirydd 1985-87

Efallai mae peth gwirion iawn oedd derbyn yr enwebiad i fod yn Gadeirydd a finnau yn bennaeth adran mewn ysgol Uwchradd ac yn dad i ddau o blant bach (a rhagor i ddod!) Fodd bynnag dyna un o’r penderfyniadau pwysica’ i mi ei wneud yn fy mywyd a’r un rwy’n ymfalchïo ynddo yn fawr iawn.

Yn wleidyddol mae pedwar peth yn sefyll allan. Yr ymgyrch dros hawliau’r Gymraeg ym maes cynllunio a’r angen i ddefnyddio’r drefn cynllunio i warchod ac i ddatblygu’r Gymraeg yn ein cymunedau; yr ymgyrch dros Corff Datblygu Addysg Gymraeg, carchariad Ffred (ac eraill wedyn)a’r ymprydio yn sgil hynny; parhad o’r ymdrechion di-gyfaddawd dros Deddf Iaith Newydd; ac yn olaf, y

34 ytafod awst 2012

Page 35: Y Tafod - Awst 2012

penderfyniad gan y grŵp cysylltiadau rhyngwladol i wahodd cynrychiolwyr Sinn Fein draw i Gymru. Heb os yr ola’ oedd y digwyddiad a arweiniodd at y pwysau gwleidyddol a phersonol mwyaf a gefais fel Cadeirydd ac a gawsom fel teulu. Mawr yw fy niolch ac edmygedd o aelodau’r Senedd a phleidleisiodd yn unfrydol o blaid yr ymweliad er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig y sefydliad Cymreig a’r wasg Prydeinig a’r pwysau arnynt hwy fel unigolion. Digwyddiad hanesyddol ac arwyddocaol iawn. Trech gwlad nac Arglwydd! Fel arall - gigs Llanrwst, Rhyl a nifer o lefydd eraill gan gynnwys Steddfodau Roc Corwen, rhyddhau recordiau y Dull Di-Drais gan Llwybr Llaethog a ‘Galwad ar holl Filwyr Byffalo Cymru,’ casét H3 Pen-blwydd Hapus CYIG, gwerthu mygiau CYIG yn y mwd a’r glaw yn steddfod Abergwaun, ffansin ‘Llmych’ a’r hwyl o gael gafael ar arwydd ‘Sorry for the Delay’ ar gyfer protest ar do CBAC Ionawr 1af 1987(manylion gan Ffred, Anghard ac Arfon Jones!)

Helen Prosser Cadeirydd 1987-89

Anodd iawn yw ateb beth sy’n sefyll allan o ran dwy flynedd o gadeiryddiaeth Cymdeithas yr Iaith. Beth ydw i’n ei gofio? Y teithio, yr ymgyrchu, y galwadau ffôn di-rif, y Gymdeithas yn dathlu chwarter canrif, a’r fraint o fod yn aelod o fudiad o bobl yn gweithio tuag at y nod o ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Ond yr un peth sy’n sefyll allan sy’n perthyn i ddiwedd fy nghyfnod i fel cadeirydd

oedd cefnogaeth canwr Yr Alarm, Mike Peters. Fe ddaeth i annerch y Cyfarfod Cyffredinol a’r noson wedyn roedd cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant. Dw i ERIOED wedi gweld cymaint o bobl yn rhedeg i brynu crysau T. Llwyddodd Mike Peters i godi proffil y Gymdeithas a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith cynulleidfa newydd sbon.

Sian Howys Cadeirydd 1989-90

O 1985 i 1988 bûm yn gweithio fel Trefnydd y Gogledd. Dyma’r tro cynta i’r Gymdeithas sefydlu swyddi cyflogedig ar gyfer sefydlu a hybu gwaith celloedd yn y Rhanbarthau. Roedd yn adeg cyffrous iawn o ran ymgyrchu gwleidyddol ar y chwith gydag aelodau’r Gymdeithas wrthi

yn uno gyda sawl ymgyrch gwrth Dorïaidd - ymgyrch treth pen, cefnogi cymunedau glofaol rôl y streic faw, ymgyrchu gwrth apartheid ac ymgyrchu gwrth niwclear. Dysgon ni lot oddi wrth ein gilydd a lledon ni’r neges yn radical benderfynol - rhaid i bopeth newid os yw’r Gymraeg i fyw. Enillon ni Gorff Datblygu Addysg

2012 awst ytafod 35

Page 36: Y Tafod - Awst 2012

Gymraeg, dwysau’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd, cynnal llwyth o gigs a sefydlu Ffederasiynau Myfyrwyr Ysgol. Y neges fawr oedd mai brwydr oes yw brwydr yr iaith.

Arwel Rocet Jones Cadeirydd 1994-96

Doeddwn i ddim hyd yn oed yn Gadeirydd. Bore’r Cyf. Cyff. oedd hi yn y Talbot yn Aber (Orendy wedyn, Bella Vista ers hynny). Y prynhawn hwnnw oeddwn i’n cymryd at yr awenau. O’n i tu allan yn siarad efo Alun Llwyd a Dafydd Morgan Lewis yn rhyw led bwyso ar gar oedd wedi ei barcio yno.

Rhyw drin a thrafod sut y byddai’r diwrnod yn mynd ac yn ceisio proffwydo pwy fyddai yno o’r wasg. Yr hen ffefrynnau mae’n siŵr, fyddai Betts yno, fydda John Meredith siŵr o alw i mewn ac allan - ac wrth gwrs fe fyddai Gwilyn Owen yno. “Ella gallwn ni glymu hwnnw i fyny a’i guddio fo yn y tŷ bach am y diwrnod”, medda rhywun, fi mae’n siŵr. Chwerthin mawr a chytuno a cherdded i ffwrdd. Tawelodd y chwerthin pan gymrodd rhywun gip

dros eu hysgwydd a gweld fod gyrrwr y car yn eistedd ynddo. Neb llai na Gwilym Owen wrth gwrs. Dechrau da.

Gareth Kiff Cadeirydd 1996-98

Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu am fy nghyfnod fel Cadeirydd fy ymateb cyntaf oedd ble ddylwn i ddechrau ? Mae cymaint o atgofion- protestiadau, ymgyrchoedd, gwaith swyddfa ac wrth gwrs llawer o yrru i Aberystwyth a chyfarfodydd dros y wlad i gyd ! Yn ystod fy nghyfnod roedd llawer o ymgyrchoedd o bob math – Statws, Addysg, Deddf Eiddo – pob un yn bwysig , pob un yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg. Ond rhaid cofio mai cyfnod o newid mawr yn hanes Cymru oedd e. Yn ystod dyddiau olaf y Llywodraeth Dorïaidd meddiannodd grŵp ohonom swyddfa etholaethol William Hague yn Swydd Efrog. Fe oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd ac i bobl heddiw , i fi hefyd weithiau, mae’n anodd cofio pa mor chwyrn roedd cynifer o Gymry yn gwrthwynebu’r sefyllfa o wleidydd anetholedig o Loegr yn gweithredu fel meistr trefedigaethol.

Enillodd y Refferendwm yn ’97 gan drwch blewyn. Mae pawb yn ymwybodol o’r hanes ond beth sy’ ddim mor hysbys o bosib yw rôl y Gymdeithas yn yr ymgyrch dros y cam ansicr cyntaf ar y ffordd i ‘Rhyddid i Gymru’. Faint sy’n cofio’r daith gerdded trwy Gymru gyfan a ddechreuodd yn syth ar ôl Eisteddfod y Bala ’97 o faes yr Eisteddfod i Dryweryn ac yna trwy Gymru gyfan

36 ytafod awst 2012

Page 37: Y Tafod - Awst 2012

mewn pythefnos ? Aeth aelodau trwy gymunedau Cymraeg a Saesneg yn annog pobl i gredu ynddyn nhw eu hunain a’u gwlad. Nid rhan o’r ‘Ymgyrch Ie’ swyddogol oedd hyn ond rhan o ymgyrch y Gymdeithas – ‘Ie a Mwy’.

Wrth gwrs roedd y Blaid Lafur a ddaeth i rym yn ’97 yn gwybod bod rhaid ennill cefnogaeth pob carfan wladgarol neu genedlaetholgar er mwyn ennill y Refferendwm. Ond roedd ffactor arall hefyd – roedd gennym Gymro wrth y llyw yn y Swyddfa Gymreig o’r enw Ron Davies. Felly, oherwydd cyfuniad o ffactorau gwahanol aeth dirprwyaeth ohonom i gwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd ar 4ydd Gorffennaf ( dim arwyddocâd dw i’n siŵr ) 1997.

Dw i’n cofio sôn byddai rhaid i ni fynd drwy’r fynedfa arferol ar gyfer aelodau’r cyhoedd yn hytrach na’r drws ffrynt go iawn. Na – roedden ni’n benderfynol ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu y tu fas i’r lle y byddwn ni’n cerdded i mewn trwy’r drws a gafodd ei baentio droeon gan aelodau’r Gymdeithas. Ar ôl 28 mlynedd roedd y drws ar agor i Dylan Phillips (Ysgrifennydd y Grŵp Deddf Eiddo), Ffred Ffransis (Cadeirydd y Grŵp Addysg), Meirion Llewelyn Davies (Swyddog Datblygu) , Selwyn Jones a finnau fel Cadeirydd y mudiad. Trafodwyd materion yn ymwneud â Statws yr iaith, Trefn Addysg i Gymru a dyfodol cymunedau Cymraeg.

‘Cymdeitthhas (doedd dim Cysill ar y pryd gan y Western Mail) yr Iaith Gymraeg holds talks with Ron Davies : Discussions end 28 year gap’

‘After 28 years language activists And Welsh Office make peace – TRUCE’ bloeddiodd tudalen flaen y Daily Post gan atgoffa rhywun o benawdau yn ymwneud â Gogledd Iwerddon yn fwy na Chymru.

Ond credaf fod agwedd y wasg yn dangos yn glir beth oedd a beth yw grym y Gymdeithas. Nid yw’r Gymdeithas yn cyfaddawdu yn ei brwydr dros y Gymraeg. Ar adegau mae’n amhoblogaidd, anffasiynol hyd yn oed. Bob hyn a hyn mae rhywun yn codi ei lais i ddarogan marwolaeth y mudiad – mae angen mudiad(au) newydd – nid yw torcyfraith yn ddilys yn y Gymru gyfoes...... gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen.... OND y gwir yw ar ôl 50 mlynedd mae’r mudiad yn parhau. Dw i ddim yn weithgar yn ei rengoedd ers blynyddoedd ond dw i’n parchu’r rhai sy’n gwneud yr holl waith diflas, anffasiynol ac amhoblogaidd sydd angen ei wneud. Rhaid i rywun ei wneud a diolch i’r drefn bod pob cenhedlaeth yn cynhyrchu cymeriadau ystyfnig sy’n fodlon ysgwyddo’r baich.

Mae llawer wedi newid yng Nghymru mewn 15 mlynedd ond mae dyfodol y Gymraeg mewn sawl ffordd yn y fantol o hyd. Roedd angen y Gymdeithas yn ystod dyddiau’r ‘Governor Generals’, mae angen y mudiad arnom nawr a bydd angen y Gymdeithas arnom mewn 50 mlynedd ,hyd yn oed os daw Cymru’n wlad annibynnol. Felly i’r rhai ohonoch sydd wrthi heddiw anwybyddwch y lleisiau negyddol , y beirniaid llym yn eistedd yn eu swyddfeydd cyfforddus, y doethion deallusol yn eu tyrau ifori - parhewch gyda’r gwaith os gwelwch chi’n dda a DIOLCH.

2012 awst ytafod 37

Page 38: Y Tafod - Awst 2012

Menna Machreth Cadeirydd 2008-10

Bu’n gyfnod cyffrous oherwydd roedd rhai o’n hymgyrchoedd yn bolisïau Llywodraeth Cymru’n Un, felly roedd rhaid dal ati i ymgyrchu er mwyn sicrhau ein bod yn cael y gorau posib o addewidion y Llywodraeth.

Cyn i’r Cynulliad fedru deddfu ar y Gymraeg, bu’n rhaid mynd trwy’r broses gorchmynion deddfwriaethol (LCO) yn gyntaf er mwyn datganoli’r pwerau dros y Gymraeg i Gymru. Cyflwynasom dystiolaeth fanwl a chynhwysfawr i bwyllgorau’r Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ynglŷn

â hyn. Yna, ar ôl trosglwyddo’r pwerau, rhaid oedd pwyso a lobio’n ddwys am y tri egwyddor a obeithiem y byddai’n sylfaen i’r ddeddf: statws swyddogol i’r Gymraeg, hawliau i bawb yng Nghymru i ymwneud â’r Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg i fod yn eiriol ar ran y sawl sydd eisiau derbyn gwasanaethau Cymraeg. Fe wnes i symud i Gaerdydd am chwech mis er mwyn gallu ymwneud mynd i gyfarfodydd yn y Cynulliad! Yn yr un modd, roedd rhaid ysgrifennu dogfen yn amlinellu model posib ar gyfer y Coleg Cymraeg newydd

ac roedd rhaid cyfarfod â nifer fawr o bobl er mwyn ceisio cael cefnogaeth i’r ddogfen. Rhaid oedd sicrhau fod ein haelodau yn parhau â’r ymgyrch dorfol o blaid y pethau hyn drwy drefnu ralïau a defnyddio’r we i lythyru’r gwleidyddion drwy e-bost.

Ymgyrch arall bwysig oedd yr ymgyrch yn erbyn cau ysgolion pentrefol. Yn ystod y cyfnod hwn sylweddolom mor bwysig oedd rôl ysgol yn nhermau cynaliadwyedd y gymuned Gymraeg gyfan - dyma pam roedd cannoedd o rieni a phlant yn fodlon protestio mor gadarn yn erbyn y cau.

Yn ystod fy nghyfnod fel cadeirydd, penodwyd swyddog cyfathrebu a fyddai’n gyfrifol am gyfathrebu ein neges wrth ein haelodau, gwleidyddion a’r wasg. Ym mis Hydref 2010, gwnaed y penderfyniad annemocrataidd i dorri cyllideb S4C â’r bwriad i aberthu ei annibyniaeth drwy roi’r sianel yn nwylo’r BBC. Rhaid oedd ymgyrchu dros gyllid ac annibyniaeth y sianel, ond nid heb weld S4C yn diwygio ei hun yn y broses, ac fe ymrwymodd 150 i beidio â thalu eu trwydded teledu dros yr achos.

Yn hyn i gyd, daeth y dull di-drais yn bwysig iawn i mi. Amlygwyd y fath o frwydr roeddem yn ei wynebu - cymdeithas o bobl yn cyd-ymdrechu gyda’i gilydd mewn ysbryd cadarnhaol a chariadus yn erbyn trefn sy’n gweithio yn erbyn hawliau pobl. Sylweddolais mor bwysig oedd rôl Cymdeithas yr Iaith wrth leisio gweledigaeth i alw am drefn economaidd, gymdeithasol a diwylliannol i weithio er lles pobl Cymru a’r Gymraeg.

38 ytafod awst 2012

Page 39: Y Tafod - Awst 2012

Canu Wrth Ymaelodi

Tair wythnos yn ôl, roedd gig Hanner Cant yn Pontrhydfendigaid. Wnes i ymaelodi am y tro cyntaf

efo Cymdeithas yr Iaith. Gig Hanner Cant fydd y gig fwyaf tan 2062 pan fydd y Gymdeithas yn 100! (a fydda i yn 59). Dwi’n gallu meddwl am sgwrs rwan.HEDYDD: Dwi’n cofio Cymdeithas yr Iath yn 50.WYR:WaW! Da chi’n hen, Taid!HEDYDD:...................o. Nol i’r pwynt - fydd ‘na 100 o grwpiau a falle fydda i

yn un ohonyn nhw – Sobin a’r Smelis!!!Gath Y Mellt lwc dda. Roedd Y Saethau wedi eu

dewis ar fotiau ar Sianel 62. Roedden nhw yn sâl (eu hiechyd!) felly Y Mellt (oedd yn ail) gafodd fynd. Fy hoff rai i oedd Bandana, Swnami, Gruff Rhys a Bryn Fôn. A un waith, nes i weithio tu ôl i’r cownter. Roedd Siriol Teifi a’i brawd yn cario mlaen i ddwyn y Rhaglen. Nes i ddweud “Mae o am ddim os da chi’n talu £2”. Nes i hefyd ddwyn het Menna Machreth. Oooooooooooooo! Ges i amser da!.Nes i fynd i y sioe Sneb yn Becso Dam cwpwl o

wsnosa nôl hefyd. Roedd y sioe yn drawiadol iawn. Roedd na cyffuria ynddi OND roedd o’n dangos y gwir, sut roedd y cyffuria yn gallu cael gafel arna chi. Roedd y cast yn wych!. Roedd a nhw yn dangos emosiwn

gwych. Dwi’n mynd i gwersi actio ond hyd yn oed i fi roedd hwna fatha bod yn y West End. Roedd Dewi Pws a Hefin Elis yna hefyd.(posh).

Gan Hedyddd Ioan 9oed

2012 awst ytafod 39

Page 40: Y Tafod - Awst 2012

Ar ôl 6 mis o ddarlledu yn fyw dros y we, mae cyfnod peilot Si62 wedi dod i ben. Rydym

wedi cyflawni’r her enfawr o ddarlledu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn fyw bob wythnos am 6 mis! Mae’r sianel wedi darparu platfform ar gyfer dros 150 o eitemau o bob math ac wedi denu cyfraniadau gan dros 100 o bobl wahanol o bob cornel o’r wlad a thu hwnt. Mae miloedd wedi gwylio yn fyw ar nosweithiau Sul neu ar-alw yn ystod yr wythnos, a’r newyddion gwych yw bod yna awydd aruthrol i weld y sianel yn parhau.

Felly, rydym nawr yn symud mewn i gyfnod cyffrous iawn. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn trosglwyddo rheolaeth y sianel yn llwyr i ddwylo gwirfoddolwyr. Mae’r 6 mis cyntaf wedi gosod y strwythur

yn unig, a hynny yn bell o fod yn berffaith. Rhaid canolbwyntio nawr ar ddatblygu’r sianel ym mhellach, ei thynnu a’i wthio mewn i ffurf wirioneddol effeithiol a chwyldroadol o fewn y cyfryngau Cymraeg. Rhaid i ni hefyd gofio nad yw’r sianel yn cystadlu gyda S4C, ond ei fod yn cynnig opsiwn gwahanol, ategol, amgen a heriol. Mae canran fawr o’r adborth wedi canmol Si62 am ddarlledu eitemau na fyddwch yn debygol o gael ar deledu traddodiadol, sydd bellach yn profi bod y sianel wedi llenwi bwlch pwysig ym meddylfryd y Cymry cyfoes.

Mae’r sianel yn bwysig i bobl, ond sut ydym yn bwrw ymlaen i sicrhau nad dim ond adnodd defnyddiol yw’r sianel? Sut ydym yn sicrhau bod y sianel yn ganolog nid yn unig i waith parhaol y Gymdeithas, ond

Sianel ’62 – Y Dyfodol?Greg Bevan

40 ytafod awst 2012

Page 41: Y Tafod - Awst 2012

hefyd yn ganolog i fywyd a diwylliant Cymru a’r Cymry? Dyma’r cwestiynau a’r heriau sydd yn wynebu’r sianel dros y blynyddoedd i ddod.

Felly cofiwch, mae cynnal sianel deledu yn dibynnu ar amrywiaeth eang o sgiliau - os nad ydych chi’n gyfforddus gyda’r syniad o gynhyrchu campwaith, mae yna nifer o ffyrdd eraill gallwch chi gefnogi ymgyrch Si62. Os oes gennych chi syniadau am sut hoffech chi gyfrannu ac i fod yn rhan o ddyfodol y sianel, e-bostiwch fi nawr - [email protected].

Ac wrth gwrs, rhaid i mi ddiolch yr holl gyfranwyr a gwylwyr hyd yn hyn - eich sianel chi yw Si62!Sianel ’62 – Y Dyfodol?

www.sainwales.comffôn 01286 831.111 ffacs 01286 [email protected]

Sain y ’Steddfod!Dafydd Iwan Cana dy gânI gofnodi 50 mlynedd o berfformio mae Sain yn falch o gyflwyno set bocs – casgliad cyflawn o ganeuon Dafydd Iwan ar 12 CD – £29.99

Hefyd – llyfr newydd…

2012 awst ytafod 41

Page 42: Y Tafod - Awst 2012
Page 43: Y Tafod - Awst 2012

Nid yw brwydr yr iaith ar benMae Cymdeithas yr Iaith yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau mae nid diwylliant lleiafrif bydd y Gymraeg dros yr hanner canrif nesaf ond y bydd yn briod iaith ein cenedl.

Os wyt ti’n rhannu’r weledigaeth yma ymuna â ni heddiw!Enw

Cyfeiriad

Ffôn

Ebost

Wedi bod yn aelod o’r blaen

Nid wyf am dderbyn gohebiaeth

Diddordeb mewn maes arbennig o’r gwaith?

Archeb BancHoffwn fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chyfrannu drwy archeb banc.

Enw’r banc

Cyfeiriad y Banc

Enw’r Cyfrif

Rhif y Cyfrif

Côd Didoli

Rwyf yn eich awdurdodi i dalu i gyfrif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhif 81072102, Banc HSBC, 24 Sgwâr y Castell, Caernarfon 40-16-02.

Ar y cyntaf o fis yn y flwyddyn ac wedi hynny bob mis y swm o:

£1 £2 £5 £10 £20 £25

Arall:

Arwyddwyd

Dyddiad

Aelodau dros droOs dymunwch, gallwch ymaelodi am flwyddyn yn unig:

Myfyriwr ysgol / chweched £3

Myfyriwr coleg £6

Di-gyflog £6

Pensiynwyr £6

Gwaith llawn amser £12

Aelodaeth teulu (plant dan 16) £24

Dychwelwch i: CYIG, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Page 44: Y Tafod - Awst 2012

Rhagor o fanylion a thocynnau: [email protected] | 02920 486469 | cymdeithas.org/steddfod

Sadwrn, Awst 4ydd CWIS CAWLACH MEIC AGOREDMynediad am Ddim | 7yh

Sul, Awst 5ed Mynediad am Ddim | 7yhNOSON O FLAEN Y BOCS GYDA SIANEL ’62Llun, Awst 6ed £7 | 7yhNoson Munud i Ddathlu YR ODS BREICHIAU HIR Y RWTCH F�lm ‘Munud i Ddathlu’

Mawrth, Awst 7fed £7 | 7yhGig Coleg CymraegY BANDANA MR HUW Y CONDUCTORS NEBULAMercher, Awst 8fed £7 | 7yhDathliad 50 TUDUR OWEN yn cy�wynoDAFYDD IWAN + HEATHER JONES

Iau, Awst 9fed £10 | 7yhNoson PRS: Chwarae Teg i Gerddorion CymruMEIC STEVENS HUW M JAMIE BEVAN A’R GWEDDILLIONGwener, Awst 10fed £10 | 7yhNoson Tynged yr Iaith 2 a Chynghrair Cymunedau Cymru STEVE EAVES LLEUWEN CASI WYNSadwrn, Awst 11eg £10 | 7yhGig Cymdeithas yr Iaith yn hyrwyddo’r SRG dros y degawdau JESS CLINIGOL JJ SNEED BLAIDD

GWERSYLLA dim ond £6 y noson! Cawodydd, Bwyd,10% o ostyngiad i wersyllwyr wrth y bar, Llai na 2 �lltir o faes yr eisteddfod,Agos i dafarndai a siopau Llanilltud Fawr,Gigs dan do

+ ar y maes!Parti Pen-blwydd y Gymdeithas yn 50Dewch draw i dorri’r gacen!2pm Dydd Sadwrn Awst 4Pabell Cymdeithas yr Iaith

Gweithdy Sianel 623pm Dydd Llun, Awst 6Gofod Hacio’r Iaith, Pabell Cefnlen Sioe 50Rifíw am Gymdeithas yr Iaith 2.30pm Dydd Mawrth Awst 7Theatr Fach y Maes Fforwm agored i hybu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2pm Dydd Mercher Awst 8Pabell y Cymdeithasau 2 Cerddi Hanner Cant1.30pm Dydd Iau Awst 9. Y Babell Len

‘Brwydr y Beasleys’Cy�wyniad i ddathlu sa�ad y Beasleys dros y Gymraeg gydag aelodau o’r teulu yn cymryd rhan. 5pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2 Ocsiwn Cyn – Gadeiryddion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 6pm Dydd Iau Awst 9Pabell y Cymdeithasau 2

Cyfarfod Cynghrair Cymunedau CymruCyfarfod cenedlaethol cyntaf y Gynghrair- croeso i bawb . Cadeirydd: Craig ab Iago12 o’r gloch Dydd Sadwrn Awst 11, Y Neuadd Ddawns

Steddfod Bro Morgannwggigs

Cymdeithas yr IaithClwb Rygbi Llanilltud Fawr

Hysbys_CyIG_Steddfod_2012_180x129mm.indd 1 14/07/2012 11:49:42