tafod rhagfyr 2010
DESCRIPTION
Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith GymraegTRANSCRIPT
§ tach / rhag 2010
Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Pwy Dalodd Amdani?
Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith
* Neu yn Neuadd y Farchnad os bydd hi’n bwrw!
PROTEST 1 1am SADWRN 4 .1 2 .1 0 Y MAES*, CAERNARFONSiaradwyr: Hywel Williams AS a Dafydd Iwan Plaid Cymru, Siaradwr o’r Blaid LafurHywel Roberts PCS, Silyn Roberts UNSAIN, David Donovan BECTUMarc Jones Gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau, Mair Rowlands UMCB, Bethan Russell Mantell Gwynedd, Sel Williams Undeb y Darlithwyr, Erica Jones Pobol Peblig Ceri Cunnington Cymunedau’n G yntaf / Antur Stiniog, Anwen Davies Ymgyrch Ward AlawMenna Machreth a Sel Jones Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Plaid Cymru
Peidiwch â gadael i Lundain ladd S4C, Swyddi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Pensiynau, Ysbytai, Ysgolion, Diwylliant
www.cymdeithas.org
Taflen CymraegCoch.indd 1 18/11/10 22:10:53
Rhifyn arbennig
01 clawr.indd 2-3 21/11/10 21:33:00
02
senedd2010/11
cymdeithasyr iaith
gymraeg
cymdeithasyr iaith
gymraeg
§
cymdeithas§ o bobol sy’n gweithredu’n ddi-draisdros y gymraeg a chymunedau cymrufel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid
cymdeithas§
ytafod
cymdeithas yr iaith gymraegcymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas yr iaith gymraeg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cymdeithasyr iaith
gymraeg
cymdeithasyr iaith
gymraeg
§
cymdeithas§ o bobol sy’n gweithredu’n ddi-draisdros y gymraeg a chymunedau cymrufel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid
cymdeithas§
ytafod
cymdeithas yr iaith gymraegcymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas yr iaith gymraeg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
SWYDDOGIONCADEIRYDD Bethan Williams - [email protected]
IS GADEIRYDD CYFATHREBU A LOBIORhys Llwyd - [email protected] GADEIRYDD GWEINYDDOLSel Jones - [email protected] GADEIRYDD YMGYRCHOEDDHeledd Melangell Williams - [email protected]
TRYSORYDDDanny Grehan - [email protected] CODI ARIANGwyn Sion Ifan - [email protected] AELODAETHDewi Snelson - [email protected] GRWP ADLONIANT Y TAFODCai Niclas Wyn - [email protected] SWYDDOG GWEFAN A DYLUNIOElinor Gray-Williams - [email protected] GOLYGYDD Y TAFODLlinos Roberts - [email protected] SWYDDOG MENTRAU MASNACHOLAlaw Lewis - [email protected] YMGYRCHU AR Y WEHedd Gwynfod - [email protected] YMGYRCH DYFODOL DIGIDOLMenna Machreth - [email protected]
CADEIRYDD GRWP HAWL I'R GYMRAEGCeri Phillips - [email protected] YMGYRCHU HAWL I'R GYMRAEG Delyth Evans - [email protected] CYFATHREBU A HAWL I'R GYMRAEGSian Howys - [email protected] POLISI HAWL I'R GYMRAEGCatrin Dafydd - [email protected]
CYDLYNYDD YMGYRCH GWREIDDIWCH YN Y GYMUNED Tomos Owen - [email protected] GRWP CYMUNEDAU CYNALIADWYHywel Griffiths - [email protected] YMGYRCHU CYMUNEDAU CYNALIADWYEuros ap Hywel - [email protected] POLISI CYMUNEDAU CYNALIADWYSioned Haf - [email protected] CYFATHREBU A LOBIO CYMUNEDAU CYNALIADWY Emyr Aeron - [email protected]
CADEIRYDD GRWP ADDYSG Ffred Ffransis - [email protected] CYDLYNYDD YMGYRCH CADWN EIN HYSGOLIONAngharad Tomos - [email protected] ADDYSG GYDOL-OES Adam Jones - [email protected] HAWL I ADDYSG GYMRAEGMorgan Hopkins - [email protected] GRWP DYSGWYR A'R DI-GYMRAEG GWAG - Cysylltwch gyda Dafydd Morgan Lewis [[email protected]] os oes gyda chi ddiddordeb.
SWYDDOGION PRIFYSGOLCADEIRYDD CELL PRIFYSGOL BANGOR Ffion Humphries - [email protected] CELL PRIFYSGOL ABER Mair Evans - [email protected] CADEIRYDD CELL PRIFYSGOL CAERDYDD Elain Llwyd - [email protected] CELL MORGANNWG GWENT Iestyn ap Rhovert - [email protected]
SWYDDOGION CYFLOGEDIGSWYDDOG YMGYRCHU CENEDLAETHOLDafydd Morgan Lewis Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth. SY23 2AZ. 01970 624501 [email protected]@cymdeithas.org SWYDDOG MAES DYFED Angharad Clwyd EdwawrdsDolwerdd, Llanfihangel ar Arth, Pencader, SA39 9JU 01559 384378angharad . [email protected]
SWYDDOG MAES Y DEJamie Bevan Swyddfa'r De, Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ02920 [email protected]
SWYDDOG MAES Y GOGLEDD Osian Jones 10 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR 01286 [email protected] SWYDDOG CYFATHREBU CENEDLAETHOLColin Nosworthy Swyddfa'r De, Ty'r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd CF24 3AJ02920 [email protected]
SWYDDOGION RHANBARTHAUCADEIRYDD GWYNEDD-MôN Dewi Snelson - [email protected] CADEIRYDD CLWYD Glyn Jones - [email protected] CADEIRYDD CEREDIGION Angharad Clwyd [email protected] CAERFYRDDIN-PENFRO Sioned Elin - [email protected]
Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Rhifyn Tachwedd / Rhagfyr 2010[Raliau yn erbyn y TORI-adau / S4C].
ARGRAFFWYR:GWASG MORGANNWG
GOLYGYDD: DAFYDD MORGAN LEWIS
DYLUNIO: ELINOR GRAY-WILLIAMS
LLUNIAU: RHYS LLWYD,
A CRONFA'R GYMDEITHAS
Os oes gennych chi unrhyw newyddion o'ch ardal, straeon, lluniau, neu syniadau i'w cyfrannu, danfonwch nhw naill ai trwy'r cyfeiriad uchod, neu at tafod@
cymdeithas.org
PRIF SWYDDFA Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Mor, Aberystwyth. SY23 2AZ. [email protected] www.cymdeithas.org
cymdeithasyr iaith
gymraeg
cymdeithasyr iaith
gymraeg
§
cymdeithas§ o bobol sy’n gweithredu’n ddi-draisdros y gymraeg a chymunedau cymrufel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid
cymdeithas§
ytafod
cymdeithas yr iaith gymraegcymdeithas yr iaith gymraeg
cymdeithas yr iaith gymraeg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
§ Dydy ni ddim yn erbyn gweithredu uniongyrchol
wrth gwrs, fel mae'r ymgyrch Deddf Iaith yn dangos
ar hyn o bryd. Mae'r rhanbarthau wrthi'n cynnal
gweithredoedd i ddangos diffygion y Mesur Iaith, yn
arwain at drafodaeth ar lawr y Cynulliad ar y Mesur.
Er gwaetha'r ffaith fod y gwleidyddion yn honni fod
hawliau yn y Mesur Iaith, does dim. Gyda thoriadau
i wasanaethau cyhoeddus o bob math byddwn yn
siwr o weld lleihad yn y gwasanaethau Cymraeg
fydd ar gael. Mae swyddfa basport Casnewydd i
gau, bydd hynny'n golygu na fydd gwasanaethau
pasbort ar gael yng Nghymru - a fydd gwasnaethau
Cymraeg ar gael yn Peterborough? Bydd y toriadau
yn esgus rhy hawdd i gwmniau mawr beidio gynnig
gwasanaethau Cymraeg cyflawn. Dim ond dwy o
ymgyrchoedd y Gymdeithas yw'r rhain, mae nifer
o ymgyrchoedd eraill ar y gweill yn gymunedol ac
yn genedlaethol - cysylltwch gyda swyddogion yr
ymgyrch berthnasol neu gyda'ch swyddog maes/
cadeirydd rhanbarth.
Mae rhywbeth y gall pawb ei wneud, a gyda'n gilydd
gallwn wneud gwahaniaeth. Yr her i bob aelod dros y
misoedd nesaf yw i wneud eu rhan!
Fel rhan o ymgyrch S4C mae rhywbeth y gall pob un
ei wneud: annog pobl i arwyddo'n deiseb; dod i'n rali
yng Nghaernarfon ar Ragfyr y 4ydd i wrthwynebu'r
toriadau; i gyfrannu yn ariannol tuag at yr ymgyrch
neu wrth gwrs rydym yn galw ar bobl i wrthod
talu trwydded teledu o fis Rhagfyr, hyd nes bydd
cynlluniau'r Llywodraeth yn newid a'n bod ni'n cael
sicrwydd o ddyfodol S4C.
Bydd digwyddiadau eraill yn rhanbarthol - cysyllta
gyda dy swyddog maes/cadeirydd rhanbarth agosaf
am fwy o wybodaeth. Fel rhan o ymgyrch fel hon,
os yw pawb yn gwneud eu rhan, gallwn wneud
gwahaniaeth. Yr her i bob aelod dros y misoedd
nesaf yw i wneud eu rhan!
03
Gair o'r Gadair Bethan Williams
Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Wrth glywed yn gyntaf am brotestiadau myfyrwyr
ym mhrif swyddfeydd y Ceidwadwyr cododd fy
nghalon. O'r diwedd, dyma griw o fyfyrwyr yn
bwrw nol nid yn erbyn y Llywodraeth a'u toriadau
didrugaredd yn unig ond hefyd yn erbyn apathi.
Ond o glywed mwy daeth yn amlwg fod eu
protest yn un oedd yn dangos rhwystredigaeth,
yr awydd i fwrw nol doed a ddel beth oedd y
canlyniad ac nad digwyddiad adeiladol fel rhan o
ymgyrch glir oedd hon.
Petai'r myfyrwyr hynny wedi dod i rali 'Na i'r
Toriadau, Ie i S4C Newydd' yng Nghaerdydd
ddechrau Tachwedd byddent wedi cael agoriad
llygad. Daeth y dorf a'i neges ei hun - bod pobl yn
poeni am S4C ac nad ydym am adael i'r llywodraeth
wneud a fynant a'n sianel genedlaethol heb i
ni godi llais yn ei gylch o leiaf; a bod pobl eisiau
gwneud eu cyfraniad tuag at achub S4C.
Roedd y rali yn rhan o ymgyrch genedlaethol,
yn dangos fod modd gweithredu yn bositif ac
ysbrydoli pobl gan roi neges glir a chyfle i bob un
gyfrannu'n bositif.
02 03 SENEDD GAIR O'R GADAIR.indd 2-3 18/11/10 23:17:21
Rali y Sianel Erthygl gan Angharad TomosCydlynydd Ymgyrch Cadwn ein Hysgolion
Rydw i yn yr ysbyty yn sgwennu hwn. Does dim yn bod arnaf i, ond mae'r
mab wedi cael ei gymryd i mewn i gael triniaeth am asthma. Picio heibio
am ddôs o ffisig ddaru mi, ond roedd rhaid iddo aros dros nos, ac mae'n
edrych y byddwn yma am ail noson. Felly bydd rhaid i mi ohirio fy nhruth
am Niclas y Glais tan yr wythnos nesaf, gan fod y nodiadau i gyd adref. Ac
i'r rhai ohonoch na lwyddodd i gyrraedd Caerdydd i Rali'r Sianel, mi gewch
beth o fy araith yno yn ysgrifenedig.
Roedd yn rali arbennig o dda – y fwyaf ers tua ugain mlynedd mae'n siwr.
Roedden ni wedi rhyw amau ers pythefnos y byddai torf go dda yn dod
ynghyd. Bob tro mae'r Toriaid mewn grym, mae llawer mwy yn mynychu
ralïau. Roedd yr haul yn tywynnu, roedd edrych ymlaen mawr yn ein ty ni,
ac roedd y placard yn barod – 'Rhaid i CYW fyw!' (pawb a'i ddolur...) Yr unig
bryder oedd fod bricsen wedi ei thaflu drwy ffenest car y g_r yn ystod y
nos, ond byddai'n rhaid i'r broblem honno aros.
Ar y trên i mewn o Landaf, roedd y mwyafrif yn Gymry Cymraeg, ac roedd
hynny yn deimlad od. Roedd pawb a welem yn gwneud eu ffordd tuag
at Barc Cathays. Erbyn unarddeg, roedd y dorf wedi chwyddo i dros fil,
ac mae andros o gryfder i'w dynnu o ddod ynghyd. Mae'n rhoi grym, yn
rhoi hyder i chi. Cafwyd areithiau tanbaid. Tynnodd Menna Machraeth
ein sylw mai gwanc y banciau oedd yn gyfrifol am y toriadau, ond mai ni
sy'n gorfod talu'r pris. Pan ddaeth Ieuan Wyn ar y grisiau, fe'i cyflwynwyd
fel dirprwy Brif Weinidog. Pryd gawson ni rywun mewn swydd felly yn
annerch rali Cymdeithas yr Iaith o'r blaen? Roedd yn braf cael cefnogaeth
yr undebau, a chawsom annerchiad gan gynrychiolydd o undeb BECTU.
Peth anghyffredin oedd cael cefnogaeth y Blaid Lafur, a gorffennodd Paul
Flynn ei araith gyda'r dymuniad, “O bydded i'r sianel barhau'. Siaradodd
Angharad Mair yn ddiflewyn ar dafod, a diolch i Tinopolis, roedd dwy sgrin
fawr i bobl yng nghefn y dorf gallu gweld y siaradwyr. Dydyn ni erioed wedi
cael hynny o'r blaen mewn rali Cymdeithas yr Iaith, na system sain mor
wych. Ond wedyn, efo'r niferoedd arferol ddaw i raliau, does dim angen
sgrin i weld dros gefnau hanner cant o bobl!
Cloi y rali oedd fy ngwaith i, ac atgoffais y dorf o pa mor anodd oedd cael
gweithredwyr yng nghanol y Saithdegau. I'r rhai sydd eisiau'r hanes yn
fanylach, mae modd ei ddarllen yn 'S4C – Pwy dalodd amdani?' Os oes
gennych gopi o'r cyhoeddiad gwreiddiol mae'n eitha prin. Mor brin fel mai
dim ond copi Gwynfor Evans allen ni ddod o hyd iddo. Teipiodd ei ferch,
Meinir Ffransis, y cyfan drachefn (gan fod Gwynfor wedi tanlinellu cymaint
04 05
LLUNIAU: Rali S4C, Caerdydd (06.-11-10)
ar ei gopi ef) , ac roedd wedi ei gysodi mewn pryd
i'r rali. Dyma ail hanner fy nhruth i.
“Fe'i cawsom yn rhwydd am ddeuddeng mlynedd
a mwy. Gwnaeth rhai ohonom yn dda iawn o
S4C. Bellach mae'r mis mêl drosodd. Mae'r Toriaid
yn ôl mewn grym, diolch i'r Rhyddfrydwyr. Tan
yn ddiweddar, ron i wedi anghofio cymaint oedd
casineb y Toriaid tuag at yr iaith Gymraeg.
Anghofiais pa mor hunanol oeddynt, pa mor
farus. Does ganddyn nhw ddim cymaint o rym
ag ers talwm, ond maent mewn safle ddigon
cryf i wneud llanast mawr mewn ychydig bach
o amser.
Y peth pwysicaf heddiw yw rhoi toriadau'r sianel
yn eu cyd-destun gwleidyddol. Un agwedd yn
unig o doriadau'r Toriaid yw y bygythiad i S4C.
Mae bwyell y Toriaid yn bygwth pob agwedd o'r
sector gyhoeddus.
Rydw i'n deffro bob bore y dyddiau hyn yn diolch
nad ydwi'n hen, yn wael neu yn anabl . Dwi'n
diolch nad ydw i'n ddiwaith ac yn ddibynnol ar
fudd-daliadau'r Llywodraeth. Achos y rhain sy'n
mynd i ddioddef fwyaf – yr hen, y bregus, y
diymgeledd. Y cwestiwn mawr yw – beth ydym
ni am ei wneud?
Yn ein pentref ni, yr ydym wedi penerfynu
gwadd pawb dan yr unto. Nos Lun, Tachwedd
22, bydd gennym gyfarfod yn y Neuadd Goffa
ym Mhenygroes i gychwyn ymgyrch, 'Dyffryn
Nantlle yn erbyn y Toriadau'. Ar Ragfyr 4ydd yng
Nghaernarfon, bydd rali arall – 'Na i'r Toriadau!'
ac mae croeso i chi gyd ddod yno. Y gobaith
yw mai dyna fydd y patrwm drwy Gymru, pob
pentref, pob tref yng Nghymru yn trefnu cyfarfod
neu ddigwyddiad i fynegi ei gwrthwynebiad i'r
toriadau. Gallwn, fe allwn ni newid y sefyllfa.
Fedra i ddim meddal am well ffordd o baratoi ar
gyfer y Refferendwm am fwy o bwerau i Gymru fis
Mawrth nesaf. Oa mai fel hyn mae y Llywodraeth
yn gwarchod ein sefydliadau, yna mae'n hen bryd
i ni gael rhagor o rym dros ein ty ein hunian. Sut
bynnag fyddwn ni'n defnyddio'r grymoedd hynny,
fedrwn ni ddim gwneud gwaeth smonach nag
a wnaeth y Llywodraeth hon. Diolch yn fawr
am ddod i Gaaerdydd heddiw. Ar y ffordd adref,
trafowdwch pa gamau nesaf y gallwch ei cymryd
yn yr ymgyrch hon.”
Fel dywedodd Ieuan Wyn Jones wrth y dorf
ddydd Sadwrn, “Os yw gwarchod dyfodol ein
sianel deledu genedlaethol yn ormod o faich i'r
gweinidogion yn Llundain, yna datganolwch y
cyfrifoldeb, datganolwch yr arian, a'i drosglwyddo
i bobl Cymru.”
Yn ogystal a chael rhagor o bobl i fynychu raliau,
mae'r Toriaid yn gwneud peth arall yn dda. Maent
yn wych am ddarlunio'r sefyllfa yn ddu a gwyn.
Wedi'r ffiasco hon gyda S4C, mi dybiwn i y bydd
yn anodd iawn i rywun bleidleisio yn erbyn cael
rhagor o bwerau i'r Cynulliad ym mis Mawrth 2011.
04 05 angh t.indd 2-3 18/11/10 23:45:42
Beth alla i wneud? ...
Roedd y cyffro a’r bwrlwm i’w deimlo’n syth wrth i mi gerdded o’r car
tuag at adeilad yr hen Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Pawb llawn
cyffro, a’u egni yn byrlymu wrth aros i’r rali gychwyn. Wrth gychwyn
o’r ty y bore hwnnw, rhaid cyfadde’ nid oeddwn yn gwybod beth i’w
ddisgwyl gan taw dyma’r tro cyntaf erioed i mi fynychu rali mor fawr a
phwysig a hyn. Cefais sioc aruthrol wrth weld y nifer enfawr o’r bobl a
Heledd LlwydAelod o Gymdeithas yr Iaith.(16 oed).
Fy Rali cyntafllun: Rali 'na i Doriadau - Ie i S4C newydd', Caerdydd 06.11.2010.
oedd wedi troi i fyny i’r rali. Roeddwn methu’n lan a chredu bod pob un yma yn rhannu’r un bwriad a gweledigaeth.
Roeddwn i wedi clywed llawer iawn o son am y rali ar hyd y cyfryngau Cymraeg, ond wir nid oeddwn yn sylweddoli
bod cymaint o bobl yn poeni am dynged yr iaith. Roedd pawb yma a’r un gobaith. Rhaid dweud ei fod wedi gwneud
i mi deimlo’n llawn emosiwn. Roedd teimlad hapus iawn i’r diwrnod, rhywbeth nad oeddwn wedi ei ddisgwyl o gwbwl.
Roedd pawb yn chwerthin gyda’i gilydd ac yn mwynhau.
Wrth edrych i fyny ar y sgriniau teledu mawr, cefais sioc wrth weld wyneb mam ar y sgrin! Roedd llun ohoni rhyw
30 a mwy o flynyddoedd yn ol, adeg pan oedd yr ymgyrch i sefydlu sianel S4C yn ei hanterth. Roedd mam yma
eto, yn barod i frwydro. Roedd yn drist meddwl bod nifer fawr o’r bobl oedd yma o’m cwmpas, fel mam a dad, wedi
bod yma o’r blaen. Buont yn barod i ymgyrchu, mynd i garchar a hyd yn oed aberthu eu bywyd er mwyn cael sianel
Gymraeg i ni, eu plant, i’w gwylio. Mae’r broses yn ail-gychwyn eto. Wrth weld yr holl wynebau ifanc brwdrydig, llawn
angerdd, gwyddwn bod amser cyffrous iawn o’n blaenau.
NA I DORIADAU!
1. Arwyddwch y ddeiseb arlein - deiseb.cymdeithas.org
2. Lawr lwythwch y ddeiseb - a bwrw ati i gasglu llofnodion ffrindiau/ teulu / y dyn llaeth (gellir ei
lawrlwytho o’r wefan: deiseb.cymdeithas.org )
3. Sgwennwch at eich AS/AC - lleol yn pwyso arnynt i wneud popeth yn eu pwerau i sicrhau
dyfodol i’r unig sianel Gymraeg yn y byd, gan esbonio pwysigrwydd y sianel i barhad yr iaith
Gymraeg, ac i hyder y bobol sy’n ei siarad. Gellir gwneud hyn ar ein gwefan: cymdeithas.org/lobi.php
4. Cyfrannwch - Bu’r frwydr wreiddiol dros sianel Cymraeg yn hir a chostus. Cyfrannwch nawr
er mwyn helpu sicrhau ymgyrch llwyddiannus, nail ai trwy anfon siec at ein prif swyddfa neu arlein:
cymdeithas.org/cyfrannu/
5. Ymaelodwch - Os nad ydych chi’n aelod cyfredol o’r Gymdeithas, ymaelodwch fel bod modd i
ni adael i chi wybod beth sy’n digwydd gyda’r ymgyrch. Gellir gwneud hyn arlein: cymdeithas.org/
ymuno/
6. Cyfarfodydd – Cysylltwch a’ch swyddog maes am drefniadau diweddaraf eich ardal.
7. Protestiwch - Dewch i Rali 'Na i'r Toriadau - Ie i'n Cymunedau' yng Nghaernarfon - 04.12.10 11am ar
y Maes. Gwelwyd yn barod y cefnogaeth i Rali 'Nai i Doriadau - Ie i S4C newydd' yng Nghaerdydd ar
06.11.10. Cer i cymdeithas.org am fwy o wybodaeth ac i wylio fideo Bryn Fon.
* Neu yn Neuadd y Farchnad os bydd hi’n bwrw!
PROTEST 1 1am SADWRN 4 .1 2 .1 0 Y MAES*, CAERNARFONSiaradwyr: Hywel Williams AS a Dafydd Iwan Plaid Cymru, Siaradwr o’r Blaid LafurHywel Roberts PCS, Silyn Roberts UNSAIN, David Donovan BECTUMarc Jones Gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau, Mair Rowlands UMCB, Bethan Russell Mantell Gwynedd, Sel Williams Undeb y Darlithwyr, Erica Jones Pobol Peblig Ceri Cunnington Cymunedau’n G yntaf / Antur Stiniog, Anwen Davies Ymgyrch Ward AlawMenna Machreth a Sel Jones Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Plaid Cymru
Peidiwch â gadael i Lundain ladd S4C, Swyddi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Pensiynau, Ysbytai, Ysgolion, Diwylliant
www.cymdeithas.org
Taflen CymraegCoch.indd 1 18/11/10 22:10:53
* Neu yn Neuadd y Farchnad os bydd hi’n bwrw!
PROTEST 1 1am SADWRN 4 .1 2 .1 0 Y MAES*, CAERNARFONSiaradwyr: Hywel Williams AS a Dafydd Iwan Plaid Cymru, Siaradwr o’r Blaid LafurHywel Roberts PCS, Silyn Roberts UNSAIN, David Donovan BECTUMarc Jones Gogledd Cymru yn erbyn y Toriadau, Mair Rowlands UMCB, Bethan Russell Mantell Gwynedd, Sel Williams Undeb y Darlithwyr, Erica Jones Pobol Peblig Ceri Cunnington Cymunedau’n G yntaf / Antur Stiniog, Anwen Davies Ymgyrch Ward AlawMenna Machreth a Sel Jones Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Plaid Cymru
Peidiwch â gadael i Lundain ladd S4C, Swyddi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Pensiynau, Ysbytai, Ysgolion, Diwylliant
www.cymdeithas.org
Taflen CymraegCoch.indd 1 18/11/10 22:10:53
06 07.indd 2-3 21/11/10 19:23:11
Fel rhan o'r ymgyrch dros barhad S4C fe alwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Cyfafod
Cyffredinol ddiwedd mis Hydref ar i aelodau wrthod talu eu trwydded deledu. Yn unionsyth mae dros
50 wedi datgan eu parodrwydd i wneud hynny er mwyn gwneud cyfraniad i ennill y frwydr, ac ysgogi
eraill i ddilyn. Mae'r rhestr yn tyfu ac mae Cymdeithas yr Iaith yn galw arnoch CHI nawr i gwbwlhau'r
ffurflen isod a datgan eich parodrwydd i wrthod talu eich trwydded teledu ac i ymuno'n y frwydr....
Cwblhewch y ffurflen isod i ddatgan eich parodrwydd i wrthod talu eich trwydded teledu o'r 1af o
Ragfyr 2010! Dyma enwau y rhai sydd wedi datgan parodrwydd i wrthod talu eu trwydded deledu
hyd yma:
Sioned Elin, Osian Rhys, Gwenno Teifi, Elinor Gray-Williams ac Osian Jones, Euros ap Hywel, Selwyn
Williams, Maggie Hartman, Huw Prestatyn, Simon Brooks, Arfon Rhys, Hynek Vanousek, Carol Phillips,
Heledd Williams, Llyr Edwards ac Angharad Clwyd, Gwerfyl Williams, Branwen Brian ac Alun Cox, Jamie
Bevan, Sel Jones ac Eirian James, Ffred Ffransis, Gari Bevan, Toni Schiavone, Pandy Tudur, Bethan
Davies, Gareth Llyr Evans, Robin Campbell, S Thompson, Catrin Stevens, Iestyn ap Rhobert, Sian
Bevan, Catrin Stevens, Hedd Gwynfor, Angharad Tomos, Ben Gregory, Sian Howys, Gai Toms, Peter
Hughes Griffiths, Llion Bevan, Geraint Jones, Greg Bevan, Melissa Elek, Siân Cwper, Bryn Fôn ac Anna
Fôn, Jodie Douglas, Aled Wyn Huws, Aran Jones, Emyr Gibson,Heledd Meleri Wilson, Euros ap Hywel,
Delyth Eirwyn, Heledd ap Gwynfor, Pryderi ap Rhisiart, Guto Prys ap Gwynfor, Heddus Gwynedd ...
Beth alla i wneud? ...
8. Gwrthod talu’r drwydded teledu - Galwn ar bobl Cymru i ymrwymo i atal talu'r drwydded
deledu o'r 1af o fis Rhagfyr ymlaen oni gymerir camau cyn hynny i sicrhau fod annibyniaeth S4C yn
cael ei sicrhau drwy ei ryddhau o gydreolaeth y BBC a hefyd bod cyllid digonol ar gyfer sicrhau ei
dyfodol yn cael ei glustnodi. Gwelwn gynlluniau’r llywodraeth i uno S4C a BBC fel dim byd llai nag
ymdrech i ddiddymu’r sianel yn llwyr a hyn heb unrhyw fath o ymgynghoriad na thrafodaethau
gyda gwleidyddion / pobl Cymru. Yn y 70au gwrthododd miloedd o Gymru talu eu trwydded Teledu,
gorfodwyd y llywodraeth i sefydlu sianel Gymraeg. Nawr mae'n rhaid brwydro eto.
Datganaf na fyddaf yn adnewyddu fy nhrwydded deledu pan ddaw'n ddyledus, o'r 1af o Ragfyr 2010 ymlaen, onibai fod Llywodraeth Prydain yn sicrhau annibyniaeth a chyllido teg i S4C.
Enw:__________________ Rhif ffôn: __________ e-bost:_____________________________Cyfeiriad:___________________________________________________________________
Dychwelwch i: Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr,Aberystwyth, SY23 2AZ - Ffon: 01970 624501 – Ebost: [email protected]
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n talu am fy nhrwydded teledu?
Beth alla i wneud? ...
Mae’r isod yn syniad bras o’r hyn all digwydd yn seiliedig ar brofiadau personol aelodau. Mae’r dyddiadau yn rhoi syniad yn unig, fe all pethau symud yn llawer cyflymach neu’n arafach.
Cam 1 (Mis 1-4) Fe fyddwch yn derbyn llythyrau atgoffa gan yr asiantaeth ‘Trwyddedu Teledu’ (TV Licensing)
Cam 2 (Mis 4 ymlaen)
Os nad ydych yn ymateb i’r llythyron atgoffa fe fyddwch yn derbyn llythyron yn bygwth ymweliad gan
un o swyddogion ymholiadau’r asiantaeth.
Cam 3 (Mis 4 ymlaen)
Gall Swyddog ymholiadau ymweld â’ch eiddo. Does dim rhaid gadael y Swyddog i mewn. Os ydych chi,
fe fydd y Swyddog yn archwilio'r eiddo. Os yw’r Swyddog yn cadarnhau y dylech chi gael trwydded
teledu fe fydd yn cymryd datganiad dan rhybydd (Statement under caution). Os nad ydych chi’n rhoi
mynediad i’r Swyddog fe all wneud cais i’r llys ynadon am ‘search warrant’.
Cam 4 (2 Blwyddyn +) Fe all Trwyddedu Teledu dewis erlyn chi. Os maen nhw’n penderfynu erlyn chi clywir yr achos gan lys
ynadon. Os ceir chi yn euog y ddirwy fwyaf gallwch dderbyn yw £1000. Ni all y llys cymryd eich teledu na
gorchymyn i chi talu’r ffioedd dyledus.
Mae'n broses hir iawn iawn iawn (gan ddefnyddio achos un aelod fel enghraifft);
”Fe all bara am flynyddoedd lawer, gyda llythyrau dau fisol yn eich cyrraedd, beili yn ymweld ar d_
unwaith bob 6 mis. Achos llys tebygol wedi 3 blynedd. Ail adrodd y llythyrau cas ac ymweliad y beili.
Achos llys arall wedi 6 mlynedd. Carchar - annhebygol iawn, ond pwy a wyr.”
Wrth gwrs gall yr holl broses gael ei gyflymu trwy ysgrifennu at Drwydded Teledu yn esbonio pam nad
ydych chi’n bwriadu talu eich ffioedd!!
Ydy’r Cymry heddiw yn ddigon brwdfrydig i ennill y frwydr am yr eildro?
08 09.indd 2-3 21/11/10 20:24:27
Beth alla i wneud? ...
Defnyddiwch y templed isod i sgwennu at eich AS/AC - lleol yn pwyso arnynt i sicrhau dyfodol S4C . . .
Annwyl Aelod Seneddol,
Ysgrifennaf yn y gobaith y byddwch chi, fel fy AS lleol, yn addo pleidleisio yn erbyn cwtogi ar S4C, sydd yn
fuddsoddiad prin a hollbwysig yn yr iaith Gymraeg. Mae bwriad Llywodraeth y DU i wneud toriadau difrifol
o 24.4% i gyllideb S4C yn fygythiad cwbl glir i'r iaith Gymraeg. Mae'r penderfyniad i symud cyllideb a rhan o
reolaeth S4C i'r BBC hefyd yn tanseilio annibyniaeth y sianel, ac yn y pen draw mae'n fygythiad pellach i lefel
yr ariannu ar gyfer rhaglenni a deunydd Cymraeg.
Ystyriaf fwriad y Llywodraeth yn weithred sy'n gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn
drysor unigryw i bawb boed yn siarad yr iaith ai peidio. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei
bwriad i newid y fformiwla ariannu yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus. Fel un o'm haelodau etholedig lleol, hoffwn i
dderbyn eich ymatebion i'r cwestiynau canlynol:
* A fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y cymal/cymalau yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus a fyddai'n newid
cyfundrefn ariannu S4C? BYDDAF / NA FYDDAF
* Nid yw darlledwyr cyhoeddus eraill yn cael eu trin yr un modd ag S4C, felly a fyddwch chi'n cefnogi newid
strwythur S4C mewn Mesur Cyfathrebu ar wahân yn hytrach na thrwy'r Mesur Cyrff Cyhoeddus? BYDDAF
/ NA FYDDAF
* Ydych chi'n cefnogi sefydlu S4C newydd, sydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn gyfrifol am
allbwn aml-gyfryngol? YDW / NAC YDW
* Byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu y gall y BBC yn ganolog benderfynu ar gyllideb y sianel yn
flynyddol o 2015 ymlaen. Ydych chi'n cytuno bod hynny'n tanseilio annibyniaeth ariannol, ac oherwydd hynny
annibyniaeth olygyddol y sianel? YDW / NAC YDW
* Mae'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn rhoi grym i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu S4C trwy is-ddeddfwriaeth.
A fyddwch chi'n pleidleisio yn erbyn y cymal hwnnw yn y Mesur? BYDDAF / NA FYDDAF
Yn gywir,
[Eich enw llawn, eich cyfeiriad ebost ac eich cyfeiriad post].
Mae’r wythnosau diwethaf yma wedi bod yn gyfnod sur felys go-iawn o ran dyfodol yr iaith. Rai
wythnosau'n ôl roeddwn i yng nghyfarfod olaf Bwrdd Gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (enw newydd, a
gwell, y Coleg Ffederal Cymraeg gynt). Er na fydd y sefydliad fydd yn cael ei sefydlu dros y misoedd nesaf yr union
beth oeddem ni wedi bod yn ymgyrchu amdano dros y ddegawd diwethaf, does dim dwywaith mae’r ymgyrchwyr
rhagor na pobl y status quo sydd wedi cario’r dydd. Mae sefydliad newydd yn cael ei sefydlu er mwyn bod yng
ngofal addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch. Ac mi fydd ganddo gyllideb digon derbyniol ag ystyried
yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ond mae hwn yn rhywbeth i gadw llygad barcud arno.
Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni ddadlau o blaid yr angen am un corff penodol ac annibynnol i
ddatblygu a darparu addysg Gymraeg yn y sector, roeddem ni yn defnyddio S4C fel enghraifft o’r hyn roeddem
ni’n deisyfu. Yn y trafodaethau yma y darganfum fod rhai gwleidyddion, hyd yn oed o fewn y Blaid, ddim yn rhy siwr
iawn os oedd sefydlu S4C wedi bod yn syniad da! Ond roedd y ddadl yn tycio gyda’r rhanfwyaf o bobl. Cyn sefydlu
S4C mi oedd yna beth darlledu Cymraeg ar y telibocs ond roedd y cyfan yn dameidiog. Wrth sefydlu S4C gwelwyd
step change, ys dywed y Sais. Wedi sefydlu S4C roedd yna un corff a hwnnw’n gorff annibynnol a chanddo un
cenhadaeth ac un ffocws yn unig sef darlledu Cymraeg o safon. Wrth ddangos i bobl y newid er gwell y gwnaeth
sefydlu S4C i ddarlledu Cymraeg bu i ni ennill llawer drosodd i weld y byddai sefydlu Coleg Cymraeg yn dod a’r un
dylanwad llesol i addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch.
Ond, och! Ar yr wythnos lle gwthiwyd y Coleg Ffederal i’r dwr fe long ddrylliwyd S4C gan Lywodraeth
Llundain gyda’r BBC yn ceisio dwyn yr ysbail. Bellach, wrth geisio esbonio i bobl pam fod cadw S4C yn sefydliad
annibynnol yn bwysig mi fydda i’n defnyddio’r Coleg Cymraeg fel enghraifft. Yr eironi.
Rhys LlwydIs Gadeirydd Cyfathrebu a Lobio Y Gorau a'r Gwaethaf
llun: Myfyrwyr yn cysgu tu allan yn 2004. Protestio o’r cyfnod yna sydd wedi cael y Coleg Cymraeg i ni heddiw.
Mae’n tynnu yma i lawr,Yn codi draw:
10 11.indd 2-3 21/11/10 21:27:06