rhagfyr 2012

6
Cylchlythy Cylchlythy Rhagfyr Rhagfyr 2012 2012 Rhifyn : 9 Ffon Ffon : : (01978) 292092 (01978) 292092 Ebost Ebost : : [email protected] [email protected] Gwefan Gwefan : : www.wrexham.gov.uk/businessline www.wrexham.gov.uk/businessline Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y cylchlythyr. cylchlythyr. Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau. ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau. Tudalen Tudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnes Y diweddaraf o fyd busnes Tudalen Tudalen 2: Erthygl nodwedd Llinellfusnes 2: Erthygl nodwedd Llinellfusnes Tudalen 3 Tudalen 3 : Pam ddylai eich busnes ymddangos ar y we? : Pam ddylai eich busnes ymddangos ar y we? Tudalen Tudalen 4: Nid dyma’r lle i berswadio pobl i brynu! 4: Nid dyma’r lle i berswadio pobl i brynu! Swyddog Archwiliadau Eiddo Deallusol Rhad ac am Ddim Swyddog Archwiliadau Eiddo Deallusol Rhad ac am Ddim Tudalen Tudalen 5: Cyllid a Thollau Ei Rhagfyr 5: Cyllid a Thollau Ei Rhagfyr

Upload: businessline-wrexham

Post on 22-Mar-2016

229 views

Category:

Documents


0 download

DESCRIPTION

Are you interested in: keeping up-to-date with the launch of new grants, changes in business regulations, discovering seminars and workshops in the Wrexham area or networking with other enterprises to form contacts and share information? If so, please feel free to join our mailing list via the following link: http://www.wrexham.gov.uk/english/business/businessline/network.cfm

TRANSCRIPT

Page 1: Rhagfyr 2012

C y l c h ly thy C y l c h ly thy Rhag fy r Rhag fy r 20122012

Rhifyn : 9

FfonFfon : : (01978) 292092(01978) 292092

EbostEbost : : [email protected]@wrexham.gov.uk

GwefanGwefan : : www.wrexham.gov.uk/businesslinewww.wrexham.gov.uk/businessline

Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y Cysylltwch â Llinell Fusnes os ydych am i ni gyhoeddi eich hysbyseb yn y

cylchlythyr.cylchlythyr.

Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu Nid yw hysbysebion nac erthyglau cylchlythyr Llinellfusnes yn awgrymu

cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni cefnogaeth o unrhyw fath gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac ni

ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.ddylid casglu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.

TudalenTudalen 1: 1: Y diweddaraf o fyd busnesY diweddaraf o fyd busnes

TudalenTudalen 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes 2: Erthygl nodwedd Ll inel l fusnes

Tudalen 3Tudalen 3 : Pam ddylai eich busnes ymddangos ar y we?: Pam ddylai eich busnes ymddangos ar y we?

TudalenTudalen 4: Nid dyma’r l le i berswadio pobl i brynu! 4: Nid dyma’r l le i berswadio pobl i brynu!

Swyddog Archwil iadau Eiddo Deal lusol Rhad ac am Ddim Swyddog Archwil iadau Eiddo Deal lusol Rhad ac am Ddim

TudalenTudalen 5: Cyl l id a Thol lau Ei Rhagfyr 5: Cyl l id a Thol lau Ei Rhagfyr

Page 2: Rhagfyr 2012

Y diweddaraf o fyd busnes

• Gallwch wylio’r siaradwyr o Entrepreneurs Wales 2012: http://ow.ly/fLvXV

• Strategaeth farchnata a gafodd ei hanwybyddu: http://ow.ly/fLv6O

• Ymgyrch yw Ingenious Britain sydd wedi’i bwriadu i fusnesau bychain: http://ow.ly/fLuz6

• Mae’r Swyddfa Bost yn lansio gwasanaeth “Gollwng a Gadael” sydd wedi’i greu i fusnesau bach a chwsmeriaid sy’n defnyddio llawer ar y post: http://ow.ly/fLu16

• Cymerwch ran yng Ngwobrau Busnes SB Streamline UK a bydd cyfle i chi ennill £10,000. Y dyddiad cau yw Rhagfyr 31

ain 2012: http://ow.ly/fDQMI

• Os ydych yn bwriadu ehangu neu wella eich busnes, efallai y byddai Benthyciad Ariannol Busnes yn opsiwn da: http://ow.ly/fDQtZ

• Clinig cyngor am gyfrifyddiaeth i fusnesau bach: http://ow.ly/fDPdn

• Polisïau yswiriant; eich anghenion chi a’ch busnes: http://ow.ly/fDOP8

• Arloesi mewn Busnes: I gael gafael ar arian a chyngor arbenigol: http://ow.ly/fDOdv

• 10 awgrym ynghylch rhwydweithio eich busnes i’r lefel nesaf: http://ow.ly/fDN8K

• Beth all y siartiau pop ei ddysgu i’ch busnes? http://ow.ly/fw5FV

• Dyfeisiau symudol i dalu gyda cherdyn. Pa un ddylech chi ei ddewis? http://ow.ly/fmqUP

• Y pum awgrym gorau am werthu ar-lein adeg y Nadolig: http://ow.ly/fw5qM

• Cefnogaeth gydag Ynni a’r Amgylchedd gan Lywodraeth Cymru i fusnesau bach a chanolig: http://ow.ly/fuMrl

• Y gweinidog busnes yn cyhoeddi hwb o £40m i fusnesau bach: http://ow.ly/fnDwp

• HMRC yn ail lansio rhaglen wirio cofnodion busnes: http://ow.ly/fnDhn

• Cewch ddyfais symudol iZettle i ddarllen cardiau talu yn rhad ac am ddim i’ch busnes yma: http://ow.ly/fnCF5

• Golwg newydd i’r wefan Busnes Cymru sy’n haws ei defnyddio: http://ow.ly/fnDHR

• ProfileTree yn hysbysebu eich sgiliau a’ch gwasanaeth yn rhad ac am ddim: http://ow.ly/f9lqp

• Mae’r Gwobrau Menter yn agored erbyn hyn i fyfyrwyr presennol / graddedigion prifysgol diweddar: http://ow.ly/f9jE1

• Marchnata cyswllt yn debygol o chwyldroi defnydd busnesau o gyfryngau busnes fel llwyfan farchnata a gwerthu: http://ow.ly/f9iWl

A Great Business Opportunity in the Health

and Wellness Industry

Who Are We Looking For?

• Anyone who wants to take their wellness programme seriously and receive a 25% discount on future orders.

• Personal Trainers/Fitness Instructors who would like to provide nutritional products to their clients.

• New mothers torn between going back to work and staying home full-time.

• People who dislike their current job, but don't know what to do instead.

• Couples wondering how to manage with just one income after deciding to start a family.

• Graduates who don't want to follow the normal '45 year plan'.

For more information: www.Discover.TheWellnessOpportunity.co.uk

[email protected] 07581436446

A Great Business Opportunity in the Health

and Wellness Industry

Got The Strategy – Just Need To Deliver It?

If you manage a business, you are going to be

challenged every day.

Does your business have a great opportunity to grow,

but you need to organise your resources very quickly to benefit? Do you need to

completely transform, just in order to survive? Or do you need to raise new finance

and show your investors or the bank that you have the plan to deliver a return?

Is it budget time again and here you are looking at that 'impossible' set of targets

from HQ? Or do you want to provide a real boost and energy to your business

planning process and have all of your key people fully involved, aligned and

accountable?

BusinessPlanningExpert can bring the best experience and the most effective tools, to

help you plan, deploy and deliver your strategy. With no flowery language or

consultancy speak. Just powerful, proven tools that will help you navigate. Visit

www.businessplanningexpert.co.uk and sign up for more details, updates and free

materials.

Page 3: Rhagfyr 2012

Erthygl nodwedd Llinellfusnes

Pwysigrwydd gwirio beth yw gwerth credyd y cwmnïau rydych yn gweithio â nhw

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni heddiw mae’n anochel bod nifer fawr o fusnesau’n cael amser anodd yn

ariannol, a bod y lefelau dyled yn mynd allan o reolaeth mewn rhai amgylchiadau. Os ydych yn masnachu gyda

chwmnïau eraill gallech ddadlau ei bod hi’n fwy o syniad da nag erioed eich bod yn cadw llygad agos ar sgorau credyd

pobl, gan eu hasesu’n drwyadl yn nhermau’r risg a diogelu unrhyw fuddsoddiadau a wnewch.

Mae adroddiadau credyd yn rhoi cyfle i chi weld yr holl wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i wneud penderfyniadau

ariannol deallus ynglŷn â phwy i wneud busnes â nhw ac am ba bris. Allwch chi ddim cymryd yn ganiataol eu bod

nhw’n llwyddo’n economaidd, er enghraifft os nad oes gan gwmni’r arian i dalu am y nwyddau neu’r gwasanaethau

rydych yn eu darparu, bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar eich busnes a gallai, yn y pen draw olygu’r

gwahaniaeth rhwng elw a cholledS llwyddiant neu fethiant.

Mae adroddiadau credyd ar gael i unrhyw gwmni cyfyngedig a bydd y rhain yn rhoi cyfoeth o wybodaeth hynod

werthfawr a manwl i chi, megis:

- Gwybodaeth gyffredinol am gwmni - Manylion y cyfarwyddwr

- Manylion rhanddeiliaid a manylion morgais - Gradd / sgôr credyd

- Manylion unrhyw Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ)

- Manylion llawn a chymharu cyfrifon (o un flwyddyn i’r nesaf)

O’r wybodaeth yma byddwch yn gallu canfod a oes gan gwmni enw da neu a ydyw’n dirywio. Gall amgylchiadau

ariannol amrywio’n sylweddol o un flwyddyn i’r llall neu hyd yn oed o un mis i’r llall. Er bod cwmni’n perfformio’n dda

gyda sgôr credyd da ar un pwynt mewn amser, dylech gofio nad yw hyn bob amser yn aros yr un fath. Efallai mai’r

peth gorau i chi fyddai cadw llygad parhaol ar ddadansoddiad o sgôr credyd pobl.

Ynghyd ag ymchwilio cwmnïau y gallech ddewis gwerthu iddynt, gallwch hefyd ddefnyddio adroddiadau i ganfod pa

mor llwyddiannus yw eich cyflenwyr yn ariannol a, thrwy wneud hynny, efallai y byddwch yn osgoi dechrau gwneud

busnes gyda chwmni sydd ar fin mynd yn fethdalwr. Yn yr un modd, os ydych yn bwriadu ffurfio partneriaeth gyda

chwmni cyfyngedig, efallai y byddai’n fuddiol ymchwilio ac asesu eu statws ariannol a pha mor ddibynadwy ydynt cyn

arwyddo’r contract a chychwyn ar berthynas waith. Mae croeso i chi gysylltu â Businessline i ofyn am wiriad credyd

rhad ac am ddim ar unrhyw gwmni cyfyngedig sy’n masnachu yn y DU: [email protected] or

01978 292092

Gweithgaredd rhad ac am ddim, “Sut i wneud eich Cysylltiadau Cyhoeddus eich hun”

Hoffai Llinellfusnes eich gwahodd i fynd i seminar rhad ac am ddim wedi’i gynnal gan

newyddiadurwr sydd wedi ennill gwobrau, Mary Murtagh, a fydd yn rhannu ei harbenigedd fel

rhywun ar y tu mewn yn y cyfryngau gyda’i sesiwn flasu ‘Sut i wneud eich gwaith Cysylltiadau

Cyhoeddus eich hun’. Mae Mary yn teithio drwy Brydain gyfan yn rhannu ei gwybodaeth am

ffordd y gall busnesau dyfu drwy ddefnyddio’r cyfryngau. Mae hi’n hyfforddi pobl busnes,

busnesau newydd a mentrau cymdeithasol ar sut i ysgrifennu datganiadau gwych i’r wasg, yr

hyn mae newyddiadurwyr ei eisiau a sut i symud eu busnesau ymlaen yn gyflym drwy

ymddangos mewn papurau newydd, ar y radioSa’r teledu. Yn ystod y seminar awr yma, bydd Mary yn rhoi ei deg

awgrym gorau am greu datganiadau effeithiol i’r wasg, rhannu esiamplau o fywyd go iawn o sylwadau ei

chyn-gleientiaid yn y cyfryngau, yr effaith bositif a gafodd hyn ar eu busnes ac ateb unrhyw gwestiynau rydych bob

amser wedi bod eisiau eu gofyn i newyddiadurwr ond nad ydych wedi meiddio eu gofyn. Os hoffech fynd i unrhyw un

o’r ddau sesiwn yn Llyfrgell Wrecsam (4:15pm - 5;15pm neu 5:45pm - 6:45pm) i’w gynnal ar Ddydd Iau 24ain Ionawr

2013, bwciwch eich lle drwy glicio ar y ddolen a ganlyn: http://bit.ly/how-to-do-your-own-PR

Page 4: Rhagfyr 2012

Os ydych yn ystyried cychwyn busnes newydd neu os ydych yn rhedeg eich menter eich hun yn barod,

ond nad ydych ar y we eto, yna sut mae hyn yn edrych i gwsmeriaid posibl pan fyddwch yn rhoi eich

cerdyn busnes iddynt ac mae’ch cyfeiriad e-bost yn perthyn i un o’r darparwyr e-bost rhad ac am ddim

megis “Hotmail” neu “btconnect” ac ati ?

Mae angen i chi wneud i’ch cwsmeriaid deimlo fel petaent yn delio gyda rhywun sy’n broffesiynol ac yn

ddifrifol am eu busnes. Mae’n hawdd ac yn rhad i brynu a sefydlu eich Enw Parth eich hun, ac yna

gallwch ddefnyddio hwn ar gyfer eich cyfeiriadau e-bost ac, yn y pendraw, eich gwefan.

Yn gyntaf mae angen i chi gofrestru enw parth a fydd ar y ffurf yma: www.enweichcwmni.co.uk, yna

daw hwn yn eiddo i’r busnes ac ni all unrhyw gwmni arall ei gymryd. Dim ond £2.50 y flwyddyn yw’r

gost o gofrestru.

Yn ail mae angen i chi gynnal eich enw parth newydd, a fydd wedyn yn rhoi cyfleusterau e-bost i chi.

Fel arfer gallwch gael 5 neu fwy o enwau e-bost i’w defnyddio a dyma fel y bydd y rhain fel

arfer:- chi@eich cwmni.co.uk, [email protected], [email protected], ac ati.

Unwaith eto, dydy hyn ddim yn ddrud ac mae’n costio tua £4.00 y mis fel arfer.

Yn y pendraw efallai y byddwch eisiau eich gwefan eich hun. Nawr y mae eich enw parth eich hun

gennych, mae’r wefan yn syml a gallwch ei chael am fuddsoddiad bach iawn.

Pan fydd gennych eich cyfeiriad e-bost eich hun a gwefan hefyd, bydd pobl yn siŵr o’ch ystyried yn

fusnes mwy proffesiynol a difrifol, y bydd eich defnyddiau marchnata, megis penawdau papur llythyru,

cardiau busnes ac anfonebau yn ei gadarnhau, a’r gobaith yw y bydd hyn yn dod â mwy o fusnes i chi.

Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Your WEB co www.yourwebco.co.uk 01978 787623

http://bit.ly/business-discounts-Wrexham

Disgowntiau Busnes-i-Fusnes:

Cynigion disgownt newydd: Mae gostyngiadau bellach ar gael drwy Llinellfusnes gyda’r busnesau canlynol yn Wrecsam. Gweler y dudalen we a restrir uchod am ragor o wybodaeth:

Pam ddylai eich busnes ymddangos ar y we?

Page 5: Rhagfyr 2012

Nid dyma’r lle i berswadio pobl i brynu!

Mae llawer o resymau pam mae busnesau’n camddeall y cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf am ein

bod ar frys i ymuno â pharti’r cyfryngau cymdeithasol ac nad ydym yn meddwl am y ffordd gywir o

weithio. Mae’n anodd deall amgylchedd y cyfryngau cymdeithasol yn gyflym – yn arbennig o ystyried

faint o frys sydd i fusnesau bach ddechrau dod i ddeall y tirlun newidiol heb wneud gwallau difrifol.

Un o’r camgymeriadau mwyaf y mae busnesau bach yn eu gwneud yw pan fyddent yn dechrau

hysbysebu eu gwasanaethau neu eu nwyddau ar bethau fel Facebook gan feddwl mai dyma’r lle i

berswadio pobl i brynu. Dydy e ddim. Mae hon yn wers anodd i berchnogion busnes ei ddeall. Mae

Facebook yn ymwneud ag adeiladu perthynas â phobl ac mae hyn yn golygu y dylai’ch post fod am

ddarparu gwybodaeth sy’n ddefnyddiol i’r cwsmer, ateb eu cwestiynau a bod yn adnodd dibynadwy.

Dim ond tua 10% o’ch gweithgareddau ar y cyfrwng cymdeithasol ddylai ganolbwyntio ar farchnata

uniongyrchol neu eich hysbysebu eich hun.

Dydy’r cyfryngau cymdeithasol ddim i’ch hysbysebu eich hun, sy’n gamgymeriad arall. Ceisiwch siarad

gyda phawb sy’n postio ar eich wal (o fewn rheswm). Rhannwch gynnwys da a gewch gan bobl eraill yn

y diwydiant. Gofynnwch gwestiynau ac anogwch bobl i gyfranogi. Ac yn bwysicach na dim, cofiwch ei

bod hi’n well siarad llai a gwrando mwy weithiau.

Swyddog Archwiliadau Eiddo Deallusol Rhad ac am Ddim:

I ddathlu agor y swyddfa newydd yn Telford, ynghyd ag un arall yn Wrecsam, mae’r cwmni cyfreithiol

llwyddiannus ym maes eiddo deallusol, Wynne-Jones IP yn cynnig Archwiliadau Eiddo Deallusol yn rhad

ac am ddim i gwmnïau yn Swydd Amwythig a Gogledd/Canolbarth Cymru, yn ogystal â darparu

sesiynau cynghori rhad ac am ddim ar sut i wneud y defnydd gorau o gyfleoedd arbed treth y Bocs

Patent.

“Gallai unrhyw fusnes ym maes gweithgynhyrchu neu ddylunio, mewn unrhyw sector o beirianneg

fecanyddol i feddalwedd, golli allan ar fanteision masnachol mawr drwy beidio cofrestru hawliau Eiddo

Deallusol i amddiffyn eu syniadau a’u cynhyrchion,” meddai Ithel Jones, partner gyda’r cwmni pan

agorwyd swyddfa Wynne-Jones IP yn Telford. “Gyda chynllun gostwng treth gorfforaeth y Llywodraeth

‘Patent Box’ yn do di rym yn gynnar y flwyddyn nesaf, dylai’r cwmnïau yma roi eu hasedau IP yn uwch

nag erioed ar eu hagenda i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ar gael.”

Dylai unrhyw gwmni sydd eisiau manteisio ar y cynnig Archwiliadau IP rhad ac am ddim gysylltu ag Ithel

Jones ar yr e-bost ar [email protected] neu 01952 930123

Cyfrannwyd yr erthygl hon gan: Social Network Management Company

www.snmcompany.co.uk 01824 780909

Hysbysebwch eich busnes yama

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: http://bit.ly/UJlFeZ

Page 6: Rhagfyr 2012

Cyllid a Thollau Ei Rhagfyr

Datganiad yr Hydref y Canghellor ar Ragfyr y 5ed 2012.

Bydd Canghellor y Trysorlys, George Osbourne, yn rhoi Datganiad yr Hydref 2012 ar Ddydd Mercher 5 Rhagfyr

am 12.30pm.

Mae manylion llawn y datganiadau sy’n effeithio ar HMRC a’i gwsmeriaid yn dilyn datganiad y Canghellor i’r

Senedd ar gael drwy’r ddolen hon:

http://bit.ly/UftVjp

Gwybodaeth Amser Real (RTI): Amseru Ffurflenni PAYE amser real.

Yn Ebrill 2013, bydd cyflogwyr yn dechrau anfon gwybodaeth PAYE mewn amser real at HMRC, a rhaid anfon yr

wybodaeth yma ‘ar neu cyn’ y dyddiad y gwneir taliad i weithiwr cyflogedig.

Ond mewn nifer o sefyllfaoedd gall yr amseriad yma fod yn anodd neu’n amhosibl i gyflogwyr gadw ato. I helpu

cyflogwyr yn y sefyllfaoedd yma, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth sy’n nodi’r amgylchiadau lle byddwn yn

caniatáu amser ychwanegol: http://bit.ly/XxjR9X

TAW: newidiadau i wasanaethau ar-lein TAW.

Ar 31 Hydref 2012 ychwanegwyd ffordd newydd o gofrestru busnes ar gyfer TAW at wasanaeth cofrestru treth

ar-lein HMRC, a oedd yn cynnwys Hunanasesu, PAYE a Threth Gorfforaeth yn barod. Ar yr un pryd, aethom ati

hefyd i gyflwyno gwasanaeth amrywiadau newydd sy’n galluogi busnesau cofrestredig TAW i wneud mwy ar-lein:

http://bit.ly/TwcX1R

Mae arweiniad ar gofrestru am wasanaethau TAW ar-lein ar gael yma: http://bit.ly/cy5vJi

Lle mae fy ateb? Sut i ddilyn hynt eich ymholiad.

Ydych chi’n weithiwr cyflogedig, neu ydych chi’n talu treth ar bensiwn cwmni drwy PAYE? Hoffech chi ganfod

pryd y gallwch ddisgwyl cael ymateb i’ch ymholiad neu gais? http://bit.ly/QhZrxf

Mae HMRC wedi cyflwyno rhaglen olrhain ( http://bit.ly/Q6SPOx ) felly gallwch edrych i weld faint o amser bydd

yn ein cymryd i:

• dalu eich ad-daliad Treth Incwm

• ateb eich ymholiad cyffredinol am Dreth Incwm

• roi copi o wybodaeth unigol, megis eich cod treth neu fanylion tâl neu dreth

• anfon papur ysgrifennu neu ffurflenni HMRC atoch

Os nad yw eich ymholiad wedi’i gynnwys ar y rhestr yma, ni fyddwch

yn gallu defnyddio’r erfyn defnyddiol yma a bydd angen i chi gysylltu â

HMRC ( http://bit.ly/GApVkX ). Ond byddwn yn ychwanegu mwy o

bynciau at y rhaglen olrhain maes o law.