december newsletter - cylchlythr rhagfyr
DESCRIPTION
Cardigan Castle - Castell AberteifiTRANSCRIPT
Castell Aberteifi
Cardigan Castle
Yn y rhifyn yma
—————
Included in this
issue
1. Nodyn wrth y
Cyfarwyddwr
Note from the Director
2. Ffair Nadolig a Ras Hwyl
Christmas Fair and Fun
Run
3. Blanced yr Eisteddfod
Eisteddfod Blanket
4. Casgliad Eisteddfodol
Eisteddfod Collection
5. Noson Gymdeithasol
Social Evening
6. Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol
Annual General Meeting
Gair wrth y Cyfarwyddwr
Wrth i ni ffarwelio â 2012 mae'n amser da i edrych yn ôl ar yr holl waith caled a'r cyflawniadau dros y 12 mis diwethaf. Mae'r gwaith ymroddedig gan yr holl wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff wedi arwain at ganiatâd llawn gan yr ariannwyr i symud ymlaen i wario’r £11m nid yn unig i adfywio safle Castell Aberteifi, ond trwy hefyd gefnogi ac ehangu'r datblygiad economaidd a chymunedol. Bydd y prif gontractwr ar gyfer y datblygiadau adeiladu yn dechrau ar y safle yn gynnar yn 2013 a byddwn yn annog y contractwr i weithio gydag a chefnogi busnesau lleol a dynion llafur. Mae cyfleoedd hefyd i ddatblygu cynlluniau i gael prentisiaethau treftadaeth adeiladu a hyfforddiant i bobl ifanc trwy ddysgu sgiliau treftadaeth traddodiadol iddynt. Mae prosiect y Castell erbyn hyn yn denu sylw cyfryngau Cenedlaethol a Rhyngwladol yn ogystal â sefydliadau treftadaeth. Mae ein hymgyrch aelodaeth ddiweddar wedi achosi cynnydd mawr yn y nifer o aelodau gyda phobl o bob cwr o Gymru yn ymaelodi, mae gennym hyd yn oed aelod newydd o Batagonia yn Ne America! Mae aelodaeth yn ymgyrch barhaus ac os ydych yn gwybod am rywun a fyddai'n dymuno ymuno, gofynnwch iddynt ymweld â'n gwefan neu ffoniwch ni yn y swyddfa. Wrth i ni edrych ymlaen at 2013, mae mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan sy’n sicrhau bod safle Castell Aberteifi yn lle i ymweld ag ef yn 2014. Bydd yr arteffactau a'r arddangosfeydd yn Nhŷ Castle Green yn bendant yn gyffrous yn ogystal â digwyddiadau rheolaidd, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr a hyfforddiant yn digwydd ar y safle. Un o’n prif syniadau er mwyn cynhyrchu incwm bydd cynnal digwyddiadau a phriodasau. Pwy fydd y pâr cyntaf i briodi yma? Byddwn yn gofyn felly am lawer iawn o gefnogaeth gan bobl sydd â diddordeb a chefndir yn y gweithgareddau masnachol. Y nod yn y pen draw yw cael safle sy'n fenter gymunedol a chreu swyddi a chyfleoedd i bobl leol tra hefyd yn dathlu treftadaeth bwysig sydd wedi goroesi yma yn Aberteifi.
Yr wyf yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn
Newydd Dda.
Cris Tomos, Cyfarwyddwyr Dros Dro
Note from the Director
As we say farewell to 2012 it is a good time to reflect back on all the hard work and achievements over the past 12 months. The dedicated work from all volunteers, trustees and staff has now resulted in full permission being given by the funders to move ahead and spend the £11m to not only regenerate the Cardigan Castle site, but also plan to support and widen economic and community development. The main contractor for the building developments will commence on site early 2013 and we will be encouraging the contractor to work with and support local businesses and trades men. There are opportunities to also develop heritage building appren-tice schemes and train young people in learning about traditional heritage skills.
The Castle project is now attracting attention form National and International media and heritage organisation. Our recent membership campaign has seen a seven fold increase in the number of members with many from across Wales, we even have a new member from Patagonia in South America. The membership is an on-going campaign and if you know of anyone who would wish to join please ask them to visit our website or call us at the office.
As we look forward to 2013 there are greater opportu-nities for people to become involved with ensuring the Cardigan Castle site becomes the place to visit in 2014. The artefacts and displays in the Castle Green House will definitely be an exciting draw as well as regular events, talks, master classes and training happening on site. One of our main income generating ideas will be functions and weddings. We therefore will be requiring a great deal of support from people who have an interest and background in these commercial activities. The ultimate aim is to have a site that is a community enterprise and generating jobs and opportunities for local people while also celebrating the important heritage that has survived here in Cardigan.
I wish you all an enjoyable Christmas and a
prosperous new year.
Cris Tomos, Interim Director
Rhifyn
Rhagfyr
December
02
Cysylltwch / Contact:
YCA Cadwgan BPT,
CASTELL ABERTEIFI,
2 Green Street,
Aberteifi, SA43 1JA
01239 615131
Blanced yr Eisteddfod yn
Codi Dros £2000
Mae Blanced yr Eisteddfod a gafodd ei hennill mewn raffl ar ddiwrnod Ffair Aberteifi ar y 10fed o Dachwedd wedi codi dros £2000 tuag at apêl y Castell. Fe wnaeth Catrin Miles Maer tref Aberteifi dynnu’r raffl ar stondin ffair y Castell ac fe gyhoeddodd enw’r enillydd lwcus, Delyth Davies o Bontyates, Llanelli. Yn ail, enillydd print Aneurin Jones oedd M.Harries o Faenygroes, Cei Newydd, ac yn drydydd ac yn ennill Cwilt Cymreig oedd Pam Harries o Aberteifi. Llongyfarchiadau i Delyth Davies am ennill y flanced a oedd wedi’i gwneud â llaw. Bydd hi’n dod i’r Castell yn ystod ein ffair Nadolig i gyfarfod â’r merched a fu’n gwau ac i gasglu ei gwobr. Mae hi hefyd yn fodlon i ni arddangos y flanced yn y Castell yn ystod y lansiad yn 2014.
Llwyddiant i’r Staff
Rydym yn falch iawn o'n
staff yma yng Nghastell
Aberteifi wrth i ni ddathlu
eu llwyddiannau. Fe
wnaeth Cris Tomos,
Cyfarwyddwr Dros Dro
ennill gwobr Robert Owen
2012 am gyd-weithredydd
y flwyddyn am ei waith
gyda chymdeithasau
cymunedol, cydfuddiannol
a chydweithredol.
Cyhoeddwyd Rhian Medi,
Swyddog Addysg ac
Allgymorth yn enillydd
gystadleuaeth stori fer
Cymraeg Allan Raine gan
ennill £200 mewn
seremoni wobrwyo yn Nhŷ
Castell, Aberteifi. Roedd
Bethan Wyn yn draean o'r
tîm buddugol Siarad
Cyhoeddus Saesneg o
dan 26 yn Felinfach gan
gynrychioli CffI Pontsian.
Llongyfarchion mawr i’r tri,
rydym yn falch iawn
ohonynt.
Staff Successes
We are very proud of our
staff here at Cardigan
Castle as we celebrate
their successes. Cris
Tomos, Interim Director
was awarded the Robert
Owen award for 2012 co-
operator of the year for his
work with community mu-
tual and co-operative soci-
eties. Rhian Medi, Educa-
tion and Outreach Officer
was announced the winner
of the Allan Raine Welsh
short story competition
winning £200 at an award
ceremony at Tŷ Castell,
Cardigan and Bethan Wyn
was a third of the winning
under 26 English Public
Speaking team at
Felinfach representing
Pontsian YFC. Many con-
gratulations to all three we
are very proud of them.
Eisteddfod Blanket
Raises Over £2000
Our wonderful Eisteddfod
Blanket was raffled at Cardi-
gan’s Annual Fair Day on the
10th of November raising over
£2000 towards the Castle ap-
peal. Catrin Miles the Mayor
of Cardigan drew the raffle at
the Castles Fair Stall and an-
nounced the lucky winner,
Delyth Davies from
Pontyates, Llanelli. Coming in
second and winning an Aneu-
rin Jones print was M. Harries
from Maenygroes, New Quay,
and in third place winning a
beautiful Welsh Quilt was
Pam Harries from Cardigan.
Congratulations to Delyth Da-
vies for winning the hand-
knitted blanket, she will be
coming to the Castle during
the Christmas Fair soon to
meet the knitters and collect
her prize. She has also kindly
agreed for the blanket to be
displayed at the Castle during
Codwch arian ar gyfer apêl y Castell wrth i chi
wneud eich siopa Nadolig ar-lein!
Mae easyfundraising.org.uk yn helpu elusennau i godi arian pan fydd eu cefnogwyr yn siopa ar-lein. Mae'n gweithio mewn ffordd debyg i safleoedd siopa teyrngar eraill, ond yn hytrach nag ennill pwyntiau wrth siopa, byddwch yn codi rhodd i YCA Cadwgan BPT. Mae mor syml â hynny! Gallwch siopa gyda thros 2,000 o siopau adnabyddus a bydd pob siop yn cyfrannu hyd at 15% o'r hyn a wariwch i’r elusen. Er enghraifft, bydd John Lewis yn rhoi 1%, Amazon 2.5%, The Body Shop 6%, bydd rhai manwerthwyr yswiriant hyd yn oed yn rhoi hyd at £30 am drefnu polisi gyda nhw! Y peth gorau yw na fydd yn costio dim mwy, nid oes unrhyw gost i'r achos da chwaith - mae'r gwasanaeth yn hollol rhad ac am ddim. Mae'n syml iawn - unwaith y byddwch wedi cofrestru gydag easydonating.org.uk, pan fyddwch yn siopa gydag un o'u manwerthwyr ar-lein, mae eu system yn cofnodi'ch pryniant, yn casglu’r rhodd gan yr adwerthwr ac yn ei throsglwyddo i YCA Cadwgan BPT. Dyna ni! Dim trafferth i chi, mae easyfundraising.org.uk yn gwneud yr holl waith caled wrth i chi siopa fel arfer. Cofrestrwch a chwilio am YCA Cadwgan BPT a dechrau codi arian!
Ffair Nadolig a Ras hwyl thema’r
Nadolig! Dewch i’n Ffair Nadolig rhwng 11yb-4yp ar y 15fed o Ragfyr yn y Bwthyn Melyn, Stryd Werdd, Aberteifi Dyma rai ffyrdd o helpu: 1) Rhoddi nwyddau - llyfrau, gwobrau raffl, potel i'r stondin boteli, rhoddion, trugareddau, crefftau cartref (e.e. addurni-adau Nadolig wedi'u gwau), cacennau, gwyrddlesni ar gyfer plethdorchau 2) Rhoddi addurniadau Nadolig 3) Cymorth i addurno'r ardal yn barod ar gyfer y Ffair 4) Cymorth ar y diwrnod - ar stondin, yn rhoi te, cerdded o gwmpas y dref gyda bwced rhoddion 5) Cymryd rhan ar y dydd - sio-pa yn y stondinau ac ymuno yn y ras hwyl am 2pm. Dewch mewn gwisg ffansi thema'r Nadolig a gallech chi ennill gwobr!
Christmas Fair and Christmas themed
Fun Run! Come along to our Christmas Fair 11am-4pm on the 15
th of
December at the Yellow Cot-tage, Green Street, Cardigan. Here's how you can help: 1) Donation of goods - books, raffle prizes, bottle for bottle stall, gifts, bric-a-brac, hand-made crafts (e.g. knitted Christ-mas decorations), cakes, greenery for wreaths 2) Donation of Christmas deco-rations 3) Help decorate the grounds in preparation for the Fair Day 4) Help out on the day - on a stand, serving tea, going round the town with a donations buck-et 5) Come along on the day - browse the stalls, and join in the fun run at 2pm. Dress up in Christmas-themed fancy dress and you could win a prize! Browse the various stalls and join in the Fun Run at 2pm. Dress up in Christmas-themed fancy dress, there’ll be a prize for the best dressed, so what will you be – a reindeer or Santa Claus …?
Raise money for the Castle appeal whilst you do your
Christmas shopping online!
easyfundraising.org.uk helps charities to raise mon-ey when their support-ers shop online. It works in a similar way to many other loyalty shopping sites, but instead of earning points when you shop, you raise a donation for YCA Cadwgan BPT. It's as simple as that! You can shop with over 2,000 well known stores and each will donate up to 15% of what you spend. For example, John Lewis will do-nate 1%, Amazon 2.5%, The Body Shop 6%, some insur-ance retailers will even do-nate up to £30 simply for tak-ing out a policy with them! The great thing is it won't cost you any more, there is no cost for the good cause either – the service is totally free. It's very simple - once you've registered with easydonating.org.uk, when you shop with one of their retailers online, their system makes a note of your pur-chase, collects the dona-tion from the retail-er and passes it to YCA Cadwgan BPT. That's it! No hassle for you, easyfundrais-ing.org.uk does all of the hard work while you shop as you normally would. Register and search for YCA Cadwgan BPT and start raising money!
Mae gan
Gastell Aberteifi
logo newydd!
Cardigan Castle
has its new logo!
Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod gennym aelod newydd o staff yn y Castell. Mae Michael White o Gilgerran wedi ymuno â'r tîm fel Cynorthwy-ydd yn yr ardd a Chymorth Gweinyddol. Yn yr ardd, mae ail ran y gwaith torri coed gan Ian Jones ARB Wales ltd a'i dîm wedi dechrau a bydd 4 coeden sycamorwydden yn dod i lawr yng ngardd y gegin yr wythnos hon. Mae celyn sy'n cael ei symud o'r safle yn cael ei ddefnyddio i greu addurniadau Nadolig a phlethdorchau i'w gwerthu yn y Ffair Nadolig.
We are very happy to announce
that we have a new member of
staff at the Castle. Michael White
from Cilgerran has joined the team
as an Assistant Gardener and
Administrative Support. In the
garden the second phase of the
tree felling work by Ian Jones ARB
Wales ltd and his team has started
and 4 sycamore trees will be
coming down in the kitchen garden
this week. Holly that is being
removed from the site is being
used to create Christmas
decorations and wreaths to be sold
at the Christmas Fair.
Yn yr Ardd In the garden
Casgliad Eisteddfodol Beth yw eich hoff atgof o’r Eisteddfod? Trist, hapus, doniol, diddorol, nid oes rhaid ei fod yn gysylltiedig gyda chystadlu a gall fod wedi digwydd yn ystod Eisteddfod yng Nghymru neu o gwmpas y Byd. Mae ein cyfraniad cyntaf i’r casgliad wedi dod o Eisteddfod yn Salisbury, De Affrica, felly rhannwch eich hanesion yng Nghasgliad Eisteddfodol yng Nghastell Aberteifi ar gyfer 2014. Cysylltwch gyda Rhian Medi [email protected] 01239 615131.
Eisteddfod Collection What is your favourite Eisteddfod memory? Sad, happy, funny, ridic-ulous, interesting, it needn’t be directly con-nected with competing and it may have hap-pened during any Ei-steddfod in Wales or around the World. The first contribution has al-ready been received from an Eisteddfod at Salisbury South Africa so share your stories in the Eisteddfod Collection at Cardigan Castle for 2014, contact Rhian Medi [email protected]
Digwyddiadau
Rhagfyr 15
Ffair Nadolig a Ras Hwyl
Ffair Nadolig / Ras hwyl thema’r Nadolig
– gwisgwch i fyny ac ymunwch yn y ras
hwyl i weld os allwch chi ennill y
gystadleuaeth gwisg ffansi! Fe fydd
gwobr am y wisg orau, felly beth fyddwch
chi - carw neu Sion Corn ...?
Rhagfyr 19
Father Cunnane
Darlithoedd y Castell, Tŷ Castell, Stryd
Werdd am 7.30yh yn rhad ac am ddim.
Noson Gymdeithasol
Ionawr 9
Diwrnod Hyfforddiant Digidol
Dysgwch sut i sganio ac archfio yma yn y
Castell.
Chwefror
Piler olaf yn dod lawr
Events
December 15
Christmas Fair and Fun Run
Christmas Fair / Christmas Themed fun
run – dress up to join in the fun run and
see if you can win the fancy dress com-
petition! There’ll be a prize for the best
dressed, so what will you be – a reindeer
or Santa Claus …?
December 19
Father Cunnane
Castle talks at Tŷ Castell, Green St at
7.30pm, free of charge.
Social Evening
January 9
Digital Training Day
Learn to scan and archive here at the
Castle.
February
Last Stanchion to come
down
CCB Cadwgan
Cafodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cadwgan ei gynnal ar Nos Lun 10 Rhagfyr am 5 o'r gloch yn Festri Capel y Tabernacl, Aberteifi. Fe roddodd Cris Tomos, David Taylor ac Elin Jones AC gyflwyniad ar y broses o ddatblygu safle’r Castell a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Elin Jones AC; "Bydd Castell Aberteifi yn allweddol i ddatgloi Ceredigion ar gyfer twristiaid." Cafodd strwythur yr Is-bwyllgorau eu cyflwyno i aelodau sy'n dymuno ymwneud â'r gwahanol ddatblygiadau ar y safle. Gallwch ymaelodi unrhywbryd a gallwch roi’ch enwau ymlaen i ymuno ag Is-bwyllgor o'ch dewis i fwrw ymlaen â'r datblygiadau a sicrhau bod Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Cadwgan yn gwbl gynhwysol wrth gynllunio gweithgareddau newydd ar y safle.
Is-bwyllgorau - Cymerwch ran!
Dyma'r Is-bwyllgorau, dewch yn aelod a chofrestrwch eich diddordeb i ymuno ag:
Is-bwyllgor Llywodraethu Canolog
Is-bwyllgor Adeiladu a Datblygu Safle
Is-bwyllgor Marchnata a Dehongli
Is-bwyllgor Masnachu Masnachol
Is-bwyllgor Aelodaeth a Gwirfoddoli
Is-bwyllgor Addysg ac Allgymorth
Is-bwyllgor Lansiad Swyddogol 2014
Cadwgan AGM
Cadwgan AGM was held on Monday 10 December at 5pm at the Tabernacle Ves-try, Cardigan. Cris Tomos, David Taylor and Elin Jones AM gave a presentation on the developments of the site and future plans. Elin Jones AM said; “Cardigan Castle will be the key for unlocking Ceredigion for tourists.” The new Sub-committee structure was introduced to members who wish to be involved with the various developments at the Castle site. You can still become a member who can put their names forward to join a sub-committee of their choice to drive forward the developments and to ensure that the Cadwgan Building Preservation Trust is a fully inclusive when planning the new ac-tivities on site.
Sub-committees – Get involved!
Here are the Sub-Committees, become a member and register your interest to join: Central Governance Sub Committee Construction and Site Development Sub Committee Marketing & Interpretation Sub Committee Trading and Commercial Sub Committee Membership & Volunteering Sub Commit-tee Education and Outreach Sub Committee Official 2014 Launch Sub Committee
Shane Williams MBE
Mae argraffiad cyfyngedig ar
gael nawr o brint paentiad
olew David Griffiths. Wedi ei
arwyddo gan Shane Williams,
mae’r copi 40 x 30 modfedd
yma yn argraffiad cyfyngedig;
dim ond 100 sy’n bodoli.
Archebwch heddiw, mae
printiau tebyg gan David
Griffiths wedi bod yn
fuddsoddiad da!
Copi wedi arwyddo â ffrâm
£350
Copi wedi arwyddo heb ffrâm
£320
Shane Williams MBE
Now Available, limited edition
David Griffiths oil painting
print. Signed by Shane Wil-
liams, this 40 x 30 inches copy
is a limited edition;
only 100 exist in the world.
Place your order today! Simi-
lar prints by David Griffiths
have proved a great invest-
ment!
Framed signed copy £350
Unframed signed copy £320
Noson Gymdeithasol
Mae noson gymdeithasol wedi ei threfnu ar
gyfer y staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr ar
ddydd Mercher 19 Rhagfyr am 7.30pm. Bydd y
Tad Cunnane yn rhoi cyflwyniad ac yna byddwn
yn cael amser i gymdeithasu dros ddiod a
bwyd. Cysylltwch â Gwenllian, os ydych yn
gallu bod yno, gofynnwn i bawb ddod â phlât o
fwyd gan ei fod yn bwffe 'rhoi a rhannu' os
gwelwch yn dda. Cysylltwch â
Social Evening There’s a social evening for staff, volunteers
and trustees on Wednesday 19 December at
7.30pm. Father Cunnane will be doing a
slideshow and then we’ll have time to socialise
over drinks and food. Please contact Gwenllian
if you can attend, also, can everyone please
bring a plate of food as it’s a ‘bring and share’
buffet. Contact