cynllun datblygu lleol dinas a sir abertawe adroddiad ... · 23 gorffennaf - 12 hydref 2012...

35
Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad Ymgynghori ar Adnau Rheoliad 17

Upload: others

Post on 06-Oct-2020

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe

Adroddiad Ymgynghori ar Adnau

Rheoliad 17

Page 2: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

1 |

Cynnwys

1 Cyflwyniad

2 Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

3 Crynodeb o Brif Faterion i'w Harchwilio

4 Crynodeb o faterion a godwyd gan wrthwynebiadau i adnau ac ymateb argymelledig y cyngor.

4.1 Gwrthwynebiadau sy'n Ymwneud â Pholisïau'r CDLl Adnau

4.1.1 Pennod 1 - Strategaeth y Cynllun

4.1.2 Pennod 2 - Polisïau a Chynigion

4.1.3 Pennod 3 - Map Cynigion

4.1.4 Pennod 4 - Monitro a Gweithredu

4.2 Gwrthwynebiadau Ynghylch Safleoedd Penodol

4.2.1 Dyraniadau Ardaloedd Datblygu Strategol

4.2.2 H 1: Dyraniadau Safleoedd Tai Anstrategol

4.2.3 H 5: Dyraniadau Safleoedd Eithriadau Gwledig

4.2.4 Diwygiadau Ffiniau Aneddiadau

4.2.5 Sylwadau ar Safleoedd Amgen

4.3 Sylwadau ar gyfer Dogfennau Ategol y CDLl

4.3.1 Atodiadau'r CDLl Adnau

4.3.2 Cytundeb Cyflawni (Diwygiwyd Gorffennaf 2016)

4.3.4 Papur Diweddaru ar Gynllunio ar gyfer Twf Poblogaeth a Thai, Poblogaeth a Rhagamcanion Poblogaeth a Thai

Page 3: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

2 |

4.3.5 Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol ac Asesiadau Safle

4.4.6 Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

4.4.7 Papur Pwnc Dylunio 2013

4.4.8 Asesiad Llain a Lletem Las 2013

4.4.9 Papur Pwnc am Isadeiledd Gwyrdd - y diweddaraf 2016

4.4.10 Adolygiad o Ffiniau Aneddiadau 2016

4.4.11 Arfarniad Cynaladwyedd

4.4.12 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

5 Rhestr o'r holl sylwadau a dderbyniwyd a chrynodeb o ymateb y cyngor.

Atodiadau

Atodiad 1: Rhestr o Sylwadau, Sylwadau Cefnogi a Gwrthwynebiadau sy'n Codi Mân Faterion

Atodiad 2: Rhestr o Gynrychiolwyr sy'n gofyn am gael eu clywed mewn archwiliad

Atodiad 3: Hysbysiad o Adnau (Cymraeg a Saesneg)

Atodiad 4: Llythyr Ymgynghoriad ar Adnau (Cymraeg a Saesneg)

Atodiad 5: Ffurflen Ymgynghoriad ar Adnau (Dwyieithog)

Page 4: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

3 | Adran 1 - Cyflwyniad

1 Cyflwyniad

Mae'r Adroddiad Ymgynghori hwn wedi'i baratoi'n unol â gofynion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 1. fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 20152.

Yn unol â Rheoliad 17, cyhoeddwyd "Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol" i gyd-fynd â cham ymgynghori'r Cynllun Adnau, a oedd yn adrodd am y Camau Cyn-Adnau amrywiol a restrir yn Nhabl 1. Roedd yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn amlinellu'r:

camau a gymerwyd i roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad a chynnwys y gymuned drwy gydol camau cynnar proses baratoi'r CDLl;

y cyrff cysylltiedig a'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy yn y cam ymgynghoriad cyhoeddus cyn-adnau; a'r

prif faterion a godwyd yn y cam ymgynghoriad cyhoeddus cyn-adnau a sut mae'r rhain wedi dylanwadu ar baratoi'r CDLl Adnau.

Tabl 1 Camau Ymgynghori a gynhwysir yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol

Cam Cyfnod Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cytundeb Cyflawni (gan gynnwys Cynlluniau Cynnwys y Gymuned)

6 Ebrill - 29 Mai 2009

Safleoedd Ymgeisiol 27 Medi 2010 - 30 Medi 2011

Gweledigaeth, Amcanion ac Opsiynau Strategol

23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012

Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013

Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014 - 16 Ionawr 2015

Yn dilyn yr ymarferion ymgynghori uchod, yng nghyfarfod y cyngor ar 31 Mawrth 2015, penderfynodd aelodau y byddai'r Pwyllgor Cynllunio'n clywed deisebau dilys i Safleoedd Ymgeisiol cyn penderfynu ar ba safleoedd y dylid eu cynnwys yn y Cynllun Adnau. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd o'r Pwyllgor Cynllunio Arbennig a oedd yn agored i'r cyhoedd ar y dyddiadau canlynol:

1 Mehefin 2015

1 S.I.2005/2839(W.203) 2 S.I.2015/1598(W.197)

Page 5: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

4 | Adran 1 - Cyflwyniad

4 Mehefin 2015

8 Mehefin 2015

11 Mehefin 2015

6 Gorffennaf 2015

14 Gorffennaf 2015

Cynhaliwyd cyfarfod ychwanegol ar 11 Awst 2015, lle'r ystyriwyd safleoedd na chawsant eu cyflwyno yn y cam Safleoedd Ymgeisiol.

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 24 Medi 2015, cymeradwywyd argymhellion y Pwyllgor Cynllunio a chytunwyd ar restr o safleoedd tai a strategol i'w cynnwys yn y Cynllun Adnau.

Yn dilyn y broses gynhwysfawr yr ymgymerwyd â hi o ran safleoedd penodol, cynhaliwyd cyfres o Weithdai Polisi CDLl ar ddiwedd mis Chwefror a mis Mawrth 2016 y gwahoddwyd yr holl aelodau iddynt, yn ogystal ag asiantaethau allanol megis asiantaethau Llywodraeth Cymru a darparwyr cyfleustodau. Diben y gweithdai oedd rhoi cyfle i fynychwyr roi mewnbwn i'r broses drafftio Polisi Adnau ar y cam cynharaf.

Drwy gyfres o chwe sesiwn ddwy awr i ymgysylltu ag aelodau (fel y rhestrir isod), cafodd cynghorwyr gyfle i ystyried drafftiau cynnar polisïau CDLl a sicrhau bod y cynllun yn mynd i'r afael â'r holl faterion allweddol perthnasol yn addas. Roedd y gweithdai'n cynnwys cyflwyniadau gan Swyddogion Cynllunio Strategol ar feysydd pwnc amrywiol, a dilynwyd hyn gan sesiynau holi ac ateb gyda swyddogion a oedd yn cynrychioli meysydd polisi penodol megis cludiant ac addysg. Roedd y rhain hefyd yn cynnwys gwaith grŵp wedi'i hwyluso, a bu hyn yn ffordd werthfawr o nodi bylchau, hepgoriadau a gwaith ychwanegol i swyddogion ei wneud cyn i'r Cynllun Adnau gael ei gyflwyno'n ffurfiol i aelodau i'w gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad.

Tabl 2 Sesiynau Cynnwys Cynghorwyr

Dyddiad Pwnc

Dydd Mercher, 24 Chwefror 2016 (AM)

Tai

Dydd Gwener, 26 Chwefror 2016 (AM)

Dylunio a Chreu Lleoedd

Dydd Gwener 26 Chwefror 2016 (AM) Adnoddau Natur

Dydd Llun, 29 Chwefror 2016 (AM) Gŵyr a Chefn Gwlad

Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2016 (AM) Manwerthu ac Adfywio

Dydd Gwener 4 Mawrth 2016 (AM) Cludiant

Page 6: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

5 | Adran 1 - Cyflwyniad

Roedd ymarferion ychwanegol i gynnwys rhanddeiliad ar y cam 'cyn-adnau' hwn yn canolbwyntio ar archwilio materion allweddol y CDLl a nodwyd yn flaenorol yn ystod ymgynghoriad a choladu sylfaen dystiolaeth. Darparodd trafodaethau bord gron ac ymarferion grŵp gydag asiantaethau a sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru gyfle i fireinio manylion y polisi i osgoi materion yn cael eu codi mewn cam ymgynghori ffurfiol y gellid fel arall fod wedi cytuno arnynt a'u datrys ymlaen llaw.

Page 7: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

6 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

2 Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

2.1 Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Adnau - (Gorffennaf/Awst 2016) Rheoliad 17

Cymeradwywyd y CDLl Adnau gan aelodau at ddiben ymgynghoriad cyhoeddus ar 16 Mehefin 2016.3

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y CDLl Adnau'n ffurfiol o 18 Gorffennaf tan 31 Awst 2016 a defnyddiwyd amrywiaeth eang o ddulliau ymgynghori a oedd yn cynnwys:

Cyhoeddi fersiwn ryngweithiol o'r Cynllun Adnau ar system ymgynghori ar-lein y cyngor4. Roedd y system yn darparu cyfle i ddarllen yr adnau ar-lein a chyflwyno a gweld sylwadau yn erbyn elfennau penodol o bolisïau a chynigion y cynllun;

Gosodwyd hysbysiadau safle yn yr holl safleoedd dyranedig yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Mehefin i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad [ailosod yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Gorffennaf 2017 i hysbysebu cyfnod ymgynghori estynedig];

Cynhaliwyd arddangosfa ddwyieithog ym mhrif dderbynfa'r Ganolfan Ddinesig, ynghyd ag arddangosfa ddigidol dreigl ar sgriniau;

Cafwyd datganiadau i'r wasg ac erthyglau niferus yn y cyfryngau lleol;

Roedd posteri a ffurflenni adborth dwyieithog ar gael yn holl lyfrgelloedd y cyngor;

Anfonwyd 3 neges e-bost ddwyieithog ar-wahân a diweddariadau at holl ymgyngoreion ar y gwasanaeth e-ymgynghori ar y CDLl, Aelodau Ward a chynghorau cymuned;

Cynhaliwyd fforymau ymgyngoreion statudol a rhanddeiliaid/aelodau;

Cynhaliwyd 16 sesiwn cynnwys y gymuned mewn lleoliadau ledled y sir [gweler Tabl 2.1], a oedd fel arfer yn para 3 awr yr un, i arddangos gwybodaeth a chynnig cyfle i drafod materion Cynllun Adnau gydag aelodau o'r Tîm Cynllunio Strategol. Mae copïau o'r Ffurflenni Adnau ar gael a rhoddir cyngor ar sut i gyflwyno sylwadau ar yr adnau. Anfonwyd posteri hyrwyddol at holl leoliadau'r digwyddiad ymlaen llaw.

Tabl 2.1 Sesiynau Cynnwys y Gymuned

3 Cynllun Datblygu Lleol Adnau Dinas A Sir Abertawe

4 http://swansea.jdi-consult.net/ldpcym/index.php?

Page 8: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

7 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Dyddiad Amser Lleoliad

29/06/2016 9am-3pm Canolfan Siopa'r Cwadrant

01/07/2016 4pm-7pm Neuadd Bentre Felindre

04/07/2016 4pm-7pm Ysgol Gynradd Penllergaer

05/07/2016 10am-1pm Sefydliad Pontarddulais,

06/07/2016 10am-1pm Neuadd Bentref Newton

07/07/2016 4pm-7pm YGG Pontybrenin

08/07/2016 2pm-5pm Canolfan Gymunedol Parc Montana

11/07/2016 2pm-5pm Neuadd Blwyf Pennard

12/07/2016 4pm-7pm Canolfan Adnoddau Bro Abertawe

14/07/2016 1pm-4pm Canolfan Gymunedol Port Tennant

15/07/2016 2pm-5pm Canolfan Gymunedol y Clâs

19/07/2016 3pm-6pm Neuadd Bentref Pontlliw

20/07/2016 4pm-7pm Neuadd Eglwys Llangyfelach

21/07/2016 4pm-7pm Neuadd Rechabiaid Tregŵyr

23/08/2016 5pm-7pm Derbynfa'r Ganolfan Ddinesig

24/08/2016 5pm-7pm Derbynfa'r Ganolfan Ddinesig

2.2 Cytundeb Cyflawni

Mae'r Cytundeb Cyflawni'n disgrifio sut bydd proses baratoi'r CDLl yn cael ei rheoli ac mae'n cynnwys amserlen baratoi a Chynllun Cynnwys y Gymuned (CCG) sy'n esbonio polisïau'r cyngor ar gyfer cynnwys y gymuned wrth baratoi'r cynllun. Cyhoeddwyd Cytundeb Cyflawni drafft y cyngor ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai 2009, a chytunodd Llywodraeth Cymru ar y fersiwn derfynol ar 29 Hydref 2009. Ceir mwy o fanylion am y broses hon yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol.

Ar adeg yr Ymgynghoriad ar y CDLl Adnau, sicrhawyd bod Cytundeb Cyflawni wedi'i ddiweddaru ar gael i'r cyhoedd. Roedd y diweddariad yn cynnwys diwygiadau i'r amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl. Cytunwyd ar y fersiwn ddiweddaredig hon o'r Cytundeb Cyflawni gan Lywodraeth Cymru ar 6 Mehefin 2016.

Ar adeg cyflwyno'r CDLl i'w archwilio, diwygiwyd yr amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl eto i adlewyrchu dyddiad y cyflwyno. Diwygiwyd y Cytundeb Cyflawni'n briodol a chytunodd Llywodraeth Cymru arno ar

2.3 Arfarniad Cynaladwyedd

Roedd y CDLl Adnau'n destun Arfarniad Cynaladwyedd (AC). Cyhoeddwyd yr Adroddiad AC 5 ochr yn ochr â'r CDLl Adnau.

5 http://www.abertawe.gov.uk/ac/asscdll

Page 9: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

8 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Derbyniwyd 8 sylwad am yr adroddiad AC, (6 gwrthwynebiad a 2 o blaid). Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau o ran cynnwys yr adroddiad AC na'r dulliau a ddefnyddiwyd. Mae'r gwrthwynebiadau'n ymwneud â chynnwys Ardaloedd Datblygu Strategol yn y CDLl, yn benodol o ran y traffig cynyddol o ganlyniad i'r ADS. Cafwyd cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent o ran cynnwys yr amgylchedd hanesyddol yn yr AC. Cafwyd cefnogaeth o ran H5.4 Pennard, a fydd yn helpu i greu cymunedau cynaliadwy drwy ddarparu tai fforddiadwy i bobl leol.

Gan fod y diwygiadau a gynigiwyd yn fân newidiadau golygyddol ac yn esboniadau ar bolisïau a chynigion yr Adnau, ystyrir nad oes angen cynnal arfarniad cynaladwyedd, oherwydd nid ystyrir ei fod yn arwyddocaol mewn cyd-destun arfarniad cynaladwyedd.

2.4 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Roedd y CDLl Adnau'n destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC). Cyhoeddwyd yr Adroddiad ARhC6 gyda'r CDLl Adnau.

Derbyniwyd un ar ddeg o sylwadau am yr adroddiad ARhC, (4 gwrthwynebiad a 7 o blaid) gyda'r prif sylwadau gan CNC. Yn gyffredinol, mae CNC yn cefnogi'r canfyddiadau a amlinellir yn yr adroddiad ARhC. Fodd bynnag, mae angen egluro rhai pwyntiau sy'n ymwneud â rhyddhau dŵr ac effeithiau ar lygredd aer, ynghyd â sicrwydd bod y lliniaru a argymhellwyd yn yr adroddiad ARhC yn cael ei gynnwys yn y cynllun cyn i CNC allu cytuno'n llawn ar y casgliad cyffredinol. Mae sylwadau eraill yn ymwneud â phroses yr ARhC a hepgoriadau o'r asesiad.

2.5 Faint o Sylwadau a Gyflwynwyd i'r CDLl Adnau

Ar ôl yr ymgynghoriad ar y Cynllun Adnau, derbyniodd y cyngor gyfanswm o 2,505 o sylwadau gan 1,027 o unigolion, sefydliadau a phartïon eraill â diddordeb. Roedd rhai o'r sylwadau naill ai'n ceisio safleoedd newydd na chawsant eu cynnwys yn y CDLl Adnau, yn gwrthwynebu'r dyraniadau yn y CDLl Adnau neu'n ceisio ffiniau neu ddefnyddiau diwygiedig i safleoedd a ddyranwyd yn y CDLl Adnau.

Mae Tabl 2.2 isod yn darparu crynodeb bras o'r sylwadau wedi'i dadansoddi fesul Pennod/Adran o'r CDLl.

6 http://www.abertawe.gov.uk/arhccdll

Page 10: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

9 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Tabl 2.2 Crynodeb o Sylwadau'r CDLl Adnau:

Polisïau Nifer y Grthwynebiadau

Nifer y Sylwadau Cefnogi/Sylwadau

Cyfanswm y

Sylwadau

1. Y Strategaeth Gynllunio

5 4 9

1.1 Cyflwyniad 17 7 24

1.2 Gweledigaeth ac Amcanion Strategol

9 7 16

1.3 Strategaeth Twf

18 10 28

1.4 Themâu Allweddol

13 13 26

1.5 Diagram y Strategaeth

0 0 0

2. Polisïau a Chynigion

0 0 0

2.1 Cyflwyniad 0 0 0

2.2 Creu Lleoedd a Datblygu Cynaliadwy

38 16 54

2.3 Datblygu Strategol ac Uwchgynllunio

629 55 684

2.4 Gofynion a Rhwymedigaethau Isadeiledd

7 5 12

2.5 Tai 1042 96 1138

2.6 Amgylchedd Hanesyddol a Diwylliannol

36 15 51

2.7 Isadeiledd Cymdeithasol

52 13 65

2.8 Adfywio a Masnachol

17 21 38

2.9 Ecosystem a Gwydnwch

45 32 77

2.10 Datblygu Cefn Gwlad a Phentrefi

29 12 41

2.11 Twristiaeth a Hamdden

15 21 36

2.12 Trafnidiaeth, Symud a

25 20 45

Page 11: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

10 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Polisïau Nifer y Grthwynebiadau

Nifer y Sylwadau Cefnogi/Sylwadau

Cyfanswm y

Sylwadau

Chysylltedd

2.13 Ynni a Chyfleustodau

8 8 16

2.14 Adnoddau a Diogelu Iechyd y Cyhoedd

16 21 37

2.15 Rhestr o Dermau

0 0 0

3. Mapiau o Gynigion a Map Mewnosodedig

35 24 59

4.0 Monitro a Gweithredu

7 02 9

Sylwadau sy'n Ymwneud â Safleoedd

Dyraniadau Ardaloedd Datblygu Strategol SD A i SD L

629 55 684

Polisi H1 - Dyraniadau Safleoedd Tai Anstrategol

406 63 469

Polisi H5 - Dyraniadau Safleoedd Eithriad Gwledig

563 10 573

Cyfanswm 2090 415 2505

*DS - Efallai na fydd isgyfansymiau adrannau o'r cynllun yn creu cyfanswm yn sgîl cyflwyno sylwadau ar safleoedd dan amryfal adrannau o'r cynllun.

2.6 Ymatebion i'r Ymgynghoriad Ar-lein

Mae'r holl sylwadau a dderbyniwyd ar ddogfennau'r CDLl Adnau a'r ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar system ymgynghori ar-lein y cyngor7. Gellir gwneud hyn drwy ddethol rhan benodol o'r cynllun a chlicio ar eicon

y chwyddwydr i weld yr holl sylwadau a dderbyniwyd ar yr elfen honno o'r cynllun. Fel arall, mae swyddogaeth chwilio ar gael sy'n caniatáu i chi

7 http://swansea.jdi-consult.net/ldpcym/readdoc.php?docid=260

Page 12: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

11 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

archwilio sylwadau yn ôl cyfeiriad, person, asiant neu elfen o'r ddogfen. Mae cyfarwyddiadau llawn ar gael ar yr hafan8.

2.7 Dadansoddiad pellach o nifer y sylwadau a dderbyniwyd

Gall y dadansoddiad o nifer y sylwadau a dderbyniwyd gael eu dadansoddi ymhellach fel a ganlyn;

O'r sylwadau a dderbyniwyd, roedd 84% yn wrthwynebiadau ac 17% naill ai'n sylwadau cefnogi neu'n sylwadau cyffredinol a briodolwyd i'r cynllun;

Roedd y rhan fwyaf o'r sylwadau'n ymwneud â safleoedd unigol fel a ganlyn;

Polisi H5 - Safleoedd Eithriadau Gwledig (6 safle) 23%

Polisi H1 - Safleoedd Tai Anstrategol (51 o safleoedd) 19%

Ardaloedd Datblygu Strategol (ADS) (12 o safleoedd) 27%

8 http://swansea.jdi-consult.net/ldpcym/instructions.php?

83.4

12.7

3.9

Cefnogi/Gwrthwynebu

Object Support CommentGwrthwynebu Cefnogi Sylw

Page 13: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

12 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Roedd y nifer mwyaf o sylwadau a dderbyniwyd yn ymwneud â Pholisi H5: Safleoedd Eithriadau Gwledig [573 23%] gyda'r rhan fwyaf o'r sylwadau hyn yn ymwneud â 2 o'r 6 safle a ddyrannwyd;

Roedd cyfran sylweddol o sylwadau'n ymwneud â Safleoedd Tai Anstrategol Polisi H1. [469 19%]. Roedd ychydig llai na thraean o'r holl sylwadau a dderbyniwyd am Bolisi H1 yn ymwneud ag un safle, H1.23, sef Hen Lofa Cefn Gorwydd [134 28%]. Mae sawl un o'r sylwadau a gyflwynwyd yn erbyn Polisi H1 yn geisiadau am ddyrannu "Safleoedd Newydd" (Gweler adran 4.2.5 Sylwadau ar Safleoedd Amgen).

Mae sylwadau ar Ardaloedd Datblygu Strategol yn cyfrif am 27% o'r holl sylwadau. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn sylwadau sy'n ymwneud â SD A Pontarddulais [6%], SD B Pentre'r Ardd [4%], SD C Penllergaer [5%] a SD H Waunarlwydd [5%]. Roedd gweddill y safleoedd (SD D i G a SD I i L) yn derbyn 1% yn unig o bob un o'r sylwadau.

Mae 31% o'r sylwadau'n ymwneud â gwrthwynebiadau sy'n seiliedig ar bolisi. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud ag agweddau amrywiol ar y Polisi Tai a'r strategaethau gofodol ac anheddau, gyda'r gweddill yn cael eu dosbarthu'n gyfartal ar draws holl feysydd pwnc y cynllun.

Trosolwg o Sylwadau sy'n Ymwneud â Safleoedd

Ardaloedd Datblygu Strategol

Mae sawl un o'r safleoedd ADS yn destun gwrthwynebiadau/deisebau ar y cyd. Nid oedd y materion a godwyd mewn sylwadau ynghylch y safleoedd hyn yn annisgwyl, gan fod gwaith helaeth wedi'i wneud ar gynllunio cysyniad, gweithio gyda rhanddeiliaid a chyflwyno tystiolaeth o'u gallu i'w cyflawni. Mewn sawl achos, roedd y materion a godwyd eisoes wedi'u trafod â chynrychiolwyr yn ystod y sesiynau cynnwys y cyhoedd/rhanddeiliaid dros haf 2016.

A - Pontarddulais 6%

B - Pentre'r Ardd 4%

C - Penllergaer 5%

D - Llangyfelach/Penderi 1%

E – Heol Clasemont, Treforys 1%

F – Cefn Coed 1%

G – Felindre/C46 1%

H – Waunarlwydd 5%

Page 14: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

13 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

I – L - Bro Tawe, Abertawe Ganolog, Ffordd Fabian a Glan Afon Tawe

1%

Cyfanswm y Sylwadau a Dderbyniwyd (%) 27%

Polisi H1 - Safleoedd Tai Anstrategol 469 19%

Mae sylwadau ar safleoedd tai Polisi H1 yn ymwneud yn bennaf â:

Sylwadau ar safleoedd dyranedig H1 (addasrwydd a'r gallu i gyflwyno'r safleoedd, ceisiadau am ddileu, diwygio)

Ceisiadau am ddyrannu hen safleoedd ymgeisiol nad yw'r cyngor wedi'u dyrannu yn y CDLl

Ceisiadau am ddyrannu safleoedd newydd (nad oedd yn Safleoedd Ymgeisiol yn flaenorol)

Ceisiadau am ddiwygio ffiniau pentrefi.

Mae rhestr o sylwadau sy'n gofyn am safleoedd newydd neu ddiwygiedig neu ddileu safleoedd, a diwygiadau i ffiniau aneddiadau yn cael ei darparu yn Adran 2.4.5 Sylwadau ar Safleoedd Amgen. Caiff mwy o fanylion y diwygiadau y gofynnwyd amdanynt eu disgrifio yn y Gofrestr Safleoedd Amgen, sy'n cael ei chyhoeddi ar wahân.

A – Pontarddulais, 6%

B – Pentre'r Ardd, 4%

C – Penllergaer, 5%

D –Llangyfelach/Penderi, 1%

E – Heol Clasemont, Treforys, 1%

F – Cefn Coed, 1%

G – Felindre/J46, 1%

H – Waunarlwydd, 5%

I – L - Bro Tawe, Abertawe Ganologl,

Ffordd Fabian a Glannau Tawe, 1%

Sylwadau ar ADS

Page 15: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

14 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Mae'r rhan fwyaf o sylwadau ar H1 yn ymwneud â llond llaw o safleoedd yn unig. Derbyniwyd 134 o sylwadau (28% o sylwadau H1) o ran H1.23, hen Lofa Cefn Gorwydd, Heol Gorwydd, Tregŵyr Mae safleoedd eraill y derbyniwyd mwy na 10 o sylwadau arnynt yn cynnwys:

H1.9 Tir ar Heol Graigola, y Glais

H1.18 Tir ar Frederick Place, Llansamlet

H1.26 Tir ar Heol Carmel, Pontlliw

H1.25 Tir i'r de o Highfield, Heol Llwchwr, Pontybrenin

H1.29 Tir ar hen safle Canolfan Ddinesig Penllergaer, Penllergaer

H1.27 Tir yn The Poplars, Pontlliw

H1.43 Tir yn Nhŷ'r Cocyd, y Cocyd

H1.26 Tir ar Heol Mynydd Garnlwyd

Polisïau sy'n Seiliedig ar Bynciau 31%

Mewn rhai achosion, gwnaed gwrthwynebiadau i bolisïau sy'n seiliedig ar bynciau fel 'rhesymeg' i gyd-fynd â gwrthwynebiadau a wnaed i safleoedd penodol (h.y. tagfeydd traffig, diffyg darpariaeth gofal iechyd, cadw mannau agored etc.) Nid yw llawer o'r fath wrthwynebiadau'n cynnig newid i'r polisi sy'n seiliedig ar bwnc. Mae gwrthwynebiadau eraill i bolisïau sy'n seiliedig ar bynciau'n gofyn am fân ddiwygiadau i eiriad, y gellir ymdrin â hwy wrth eu harchwilio.

Page 16: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

15 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

2.8 Cwmpas gweddill yr Adroddiad Ymgynghori

Mae Adran 3 yr adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb trosgynnol o'r hyn y mae'r cyngor yn ei ystyried yn "Brif Faterion i'w Harchwilio" a godwyd gan y sylwadau, ac ymateb y cyngor i'r prif faterion hynny a sut yr aed i'r afael â hwy yn y CDLl Adnau.

Mae Adran 4 yr adroddiad hwn yn amlinellu crynodeb o'r prif faterion a godwyd gan y sylwadau ac ymateb y cyngor. Darperir hyperddolenni i alluogi cyfeirio hawdd i fanylion gwreiddiol y sylwadau yn system ymgynghori ar-lein y cyngor. Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar wrthwynebiadau sy'n codi prif faterion, er, lle y bo'n briodol, caiff prif faterion priodol a godwyd mewn sylwadau cyffredinol neu sylwadau cefnogi eu cynnwys hefyd. Er mwyn sicrhau cyflawnder, ceir rhestr o Sylwadau Cefnogi a Sylwadau a Gwrthwynebiadau sy'n codi mân faterion yn yr Atodiadau. Ceir adroddiad cwbl gynhwysfawr o'r holl sylwadau yn Adran 5.

Rhennir Adran 4 yn is-adrannau i adlewyrchu trefn cynnwys y cynllun fel a ganlyn:

Gwrthwynebiadau sy'n Ymwneud â Pholisïau'r CDLl Adnau

4.1.1 Pennod 1 - Strategaeth y Cynllun

Page 17: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

16 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

4.1.2 Pennod 2 - Polisïau a Chynigion

4.1.3 Pennod 3 - Map Cynigion

4.1.4 Pennod 4 - Monitro a Gweithredu

Gwrthwynebiadau Ynghylch Safleoedd Penodol

4.2.1 Dyraniadau Ardaloedd Datblygu Strategol

4.2.2 H 1: Dyraniadau Safleoedd Tai Anstrategol

4.2.3 H 5: Dyraniadau Safleoedd Eithriadau Gwledig

4.2.4 Diwygiadau Ffiniau Aneddiadau

4.2.5 Sylwadau ar Safleoedd Amgen

Adran 5 - Rhestr o'r holl sylwadau a dderbyniwyd a chrynodeb o ymateb y cyngor.

Diben Adran 5 yw darparu rhestr gynhwysfawr o'r holl sylwadau a dderbyniwyd. Mae'r rhestr hon yn cynnwys crynodeb o bob sylw ac ymateb manwl y cyngor. Darperir manylion cynrychiolwyr a hyperddolenni i'r sylwadau gwreiddiol sydd wedi'u storio yn system ymgynghori ar-lein y cyngor hefyd, ynghyd â dolenni i unrhyw ddogfennaeth ategol a gyflwynwyd. Caiff y ddogfen hon ei gosod yn nhrefn rhifiadol y cyfeiriadau at gynrychiolwyr (mewn cyferbyniad ag Adran 4 sy'n adlewyrchu trefn cynnwys y cynllun). Mae'r rhestr yn ffeil arbennig o fawr ac felly fe'i darperir drwy we-ddolen. Mae copïau caled ar gael yn y Llyfrgell Archwilio.

Page 18: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

17 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

3 Crynodeb o Brif Faterion i'w Harchwilio

3.1 Cyflwyniad

Un o ddibenion sylfaenol yr Adroddiad Ymgynghori hwn yw darparu crynodeb o'r prif faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y CDL Adnau ac er mwyn i'r Awdurdod Cynllunio Lleol amlygu pa feysydd y bydd angen craffu arnynt ymhellach yn ystod yr archwiliad.

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth o'r crynodebau manylach o faterion a nodir yn Adran 4 yr Adroddiad Ymgynghori hwn, i ddarparu datganiad cryno o'r sylwadau a dderbyniwyd i hysbysu'r archwiliwr o'r hyn y mae'r cyngor yn eu hystyried yn brif faterion i'w harchwilio.

3.2 Prif Faterion i'w Harchwilio

Trosolwg o'r Prif Faterion

Wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ynghylch y CDLl Adnau, mae'r cyngor o'r farn bod y prif faterion sy'n codi o'r broses ymgynghori y gall fod angen eu hystyried a'u hymchwilio ymhellach yn y Gwrandawiadau Archwilio'n cynnwys yn fras:

i. Strategaeth CDLl a Maint y Twf Addasrwydd a phriodoldeb y Strategaeth Datblygu (h.y. lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol); pam mae'r cyngor wedi cynnig y lefel o dwf a sut mae hyn yn ymwneud â'r cyflenwad o dir ar gyfer tai a chyflogaeth.

Y berthynas rhwng poblogaeth, aelwydydd ac anheddau. Yn arbennig, i ba raddau y mae sylfaen dystiolaeth y cyngor a'r gwaith mireinio arfaethedig i'r enghreifftiau o elfennau cyflenwi a ddisgrifir yn Adran 1.3 a PS3 y cynllun yn mynd i'r afael â'r gwrthwynebiadau a godwyd i'r Strategaeth Cynllun Adnau;

ii. Uwchgynllunio a Chreu Lleoedd Yr ymagwedd benodol a gymerir gan y cyngor sy'n sail i gyflwyno'r strategaeth, a phryderon ynghylch i ba raddau y bydd darparu'r gofynion datblygu a'r egwyddorion creu lleoedd yn effeithio ar gyflwyno safleoedd a ddyrennir yn y cynllun a'u dichonoldeb.

iii. Datblygiad Strategol Yr ymagwedd benodol at neilltuo ardaloedd datblygu strategol mawr i faterion sy'n ymwneud â'r egwyddorion creu lleoedd a'r gofynion datblygu a amlinellir yn y Polisi Datblygiad Strategol a'i effaith ar ddichonoldeb.

iv. Safleoedd Tai (Safleoedd Anstrategol ac Eithriadau Gwledig) Addasrwydd y safleoedd a ddyrannwyd a'r gallu i'w cyflwyno, ac a oes angen am safleoedd tai ychwanegol. Addasrwydd y 6 safle sydd wedi'u dyrannu'n safleoedd

Page 19: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

18 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

eithriadau gwledig a'r gallu i'w cyflwyno, ynghyd â phriodoldeb egwyddorion Polisi H5 sy'n sail i'r dyraniadau.

v. Safleoedd Amgen a Newid Ffiniau Addasrwydd y safleoedd a ddyrennir a'r gallu i'w cyflwyno a'r newid ffiniau sy'n gysylltiedig â hyn, ac a oes angen am safleoedd tai ychwanegol. Priodoldeb ffiniau anheddau ac a oes angen newid y ffiniau i gynnwys tir ar gyfer datblygiad preswyl bach annisgwyl, i gywiro gwallau mewn mapio ffiniau neu adlewyrchu pob caniatâd diweddar;

vi. Dichonoldeb Ariannol, y Gallu i Gyflwyno a Chamau Cyflwyno Priodoldeb safleoedd dyrannu tai y cynllun ac i ba raddau y mae tystiolaeth ar gael i ddangos bod y safleoedd a ddyrennir yn ddichonadwy a bod modd eu cyflwyno. Yn arbennig, i ba raddau y mae sylfaen dystiolaeth y cyngor yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan gynrychiolwyr ynghylch dichonoldeb dyraniadau Ardaloedd Datblygu Strategol i gyflwyno'r lefel o isadeiledd sy'n ofynnol yn y polisïau DS, ac effaith dichonoldeb ar gyflwyno'r holl safleoedd a ddyrennir fesul cam dros gyfnod y cynllun.

vii. Tai fforddiadwy Materion tai fforddiadwy sy'n gysylltiedig â chyflenwad, hyblygrwydd, dichonoldeb tai fforddiadwy ac a yw darpariaeth tai fforddiadwy wedi'i mwyafu; materion penodol sy'n ymwneud â phriodoldeb safleoedd eithriadau gwledig Polisi H5 a'r gallu i'w cyflwyno; materion sy'n ymwneud â'r gallu i gyflwyno cyfraniadau oddi ar y safle Polisi H4 a'i effaith ar y gallu i gyflwyno.

viii. Isadeiledd a Chludiant I ba raddau y bydd gofynion isadeiledd ffisegol a chymdeithasol yn cael eu darparu, ac ar yr adegau iawn i liniaru effeithiau datblygiad; yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â Mannau Agored, priffyrdd, draeniad, addysg a gofal iechyd sylfaenol;

Cadernid methodoleg yr Astudiaeth Trafnidiaeth Strategol sy'n sail i'r dadansoddiad o effaith gronnus datblygiadau safleoedd strategol ac sy'n darparu'r dystiolaeth ar gyfer y rhestr o Fesurau Blaenoriaeth a amlinellir yn yr Atodiadau i'r cynllun ac a adlewyrchir yn y gofynion Datblygu Safleoedd Strategol;

Gallu'r Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) i gefnogi maint y twf arfaethedig, yn enwedig o ran GTDG Tregŵyr, ac i ba raddau y bydd gofynion y datblygwr yn cyfrannu at Systemau Draenio Cynaliadwy i helpu i liniaru materion cynhwysedd. Effaith costau'r diweddariadau angenrheidiol i isadeiledd carthffosiaeth a dŵr ar gyflwyno safleoedd fesul cam, yn enwedig lle mae angen cyflwyno cyfraniadau i welliannau cyn cynlluniau

Page 20: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

19 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

arfaethedig yng nghynllun treigl Rheoli Asedau (CRhA) Dŵr Cymru. I ba raddau y mae'r adolygiad o'r Memorandwm o Ddealltwriaeth (MoDd) sy'n dod i'r amlwg yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd mewn sylwadau sy'n ymwneud â'r gallu i ymdopi â'r dyraniadau arfaethedig y cynllun yn y dalgylch.

ix. Gofynion Sipsiwn a Theithwyr Lefel y ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ac ymagwedd y cyngor at ddiwallu'r lefel angen ragamcanol;

x. Economi a Chyflogaeth Priodoldeb targed y cynllun ar gyfer creu swyddi newydd, yn enwedig o ystyried yr ysgogiadau economaidd sy'n dod i'r amlwg ers cyhoeddi'r Cynllun Adnau; sut bydd y cynllun yn cyflwyno lefel y rhagolygon swyddi a sut mae hyn yn ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth, yn enwedig "Adolygiad o Strategaeth Twf a Sylfaen Dystiolaeth Cynllun Datblygu Lleol Abertawe", a dyrannu tir cyflogaeth yn yr Ardaloedd Datblygu Strategol.

xi. Manwerthu Materion sy'n ymwneud â statws Parc Tawe a materion ehangach sy'n ymwneud â sut mae polisïau'r cynllun yn mynd i'r afael â pharciau manwerthu; eglurhad ar ddefnyddio'r prawf dilynol ym Mholisi RC2,

xii. Llain Las a Lletemau Glas Priodoldeb dynodiad Llain Las; Materion sy'n ymwneud â'r gostyngiad yn nifer a maint y lletemau glas; diffyg cyd-fynd â lletemau glas CDLl CNPT

xiii. Diogelu'r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol Priodoldeb cynnwys a geiriad polisïau sy'n ymdrin â Thirweddau Hanesyddol, adeiladau sy'n bwysig yn lleol, isadeiledd gwyrdd, AoHNE Gŵyr, Ardaloedd Tirwedd Arbennig, Safleoedd Dynodedig/Rheoliadau Cynefinoedd, Coed; Hepgor safleoedd arfordirol heb eu datblygu a Safleoedd Daearegol a Geomorffolegol o'r map cynigion;

xiv. Datblygiad mewn Ardaloedd Sensitif o ran y Gymraeg Priodoldeb y polisi i hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg mewn Ardaloedd Sensitif o ran y Gymraeg a'r tu allan iddynt, yn enwedig drwy ddarparu ysgolion Cymraeg. Cadernid ac eglurder y dystiolaeth i gefnogi'r diffiniad o Ardal sy'n Sensitif o ran y Gymraeg a sut yr aseswyd neu yr aed i'r afael â'r effaith ar y Gymraeg yn y cynllun.

xv. Proses Ymgynghori'r CDLl Digonolrwydd proses ymgynghori a chynnwys y CDLl.

Page 21: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

20 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

4. Crynodeb o'r Prif Faterion O ran y materion cyffredinol a amlinellwyd uchod, mae'r adrannau canlynol yn darparu rhestr o'r prif faterion a godwyd. Mae'r cyngor wedi ceisio mynd i'r afael â'r fath faterion yn y gwrthodiadau polisi perthnasol a amlinellir yn Adran 4 yr 'Adroddiad Ymgynghori' hwn ac ni chaiff y rhain eu hailadrodd isod.

i. Strategaeth y CDLl a Maint y Twf

Ceisiadau am ddyrannu safleoedd tai llai (anstrategol) ychwanegol yn y cynllun, gan nodi gorddibyniaeth ar Ardaloedd Datblygu Strategol.

Rhoi mwy o ddyraniadau tir llwyd yn lle dyraniadau tir glas

Effaith negyddol maint datblygiadau'r dyfodol ar isadeiledd presennol, gan gynnwys cludiant a draeniad, a chyfleusterau/darpariaeth gymunedol megis gofal iechyd sylfaenol a chyfleusterau addysg - yn enwedig diffyg gallu presennol canfyddedig i gymathu twf

Effaith bosib refferendwm yr UE 2016 ar ragolygon twf poblogaeth y dyfodol a'r gofyniad cyfatebol am dai a swyddi newydd.

Rhagamcanion gorobeithiol ac afrealistig o dwf yr economi a niferoedd swyddi yn y dyfodol.

Cais am egluro a/neu ailwerthuso cyfrifiadau cyflenwadau tir oherwydd problemau canfyddedig gyda thybiaethau a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd, a ffigur uchel y lwfans hyblygrwydd ar gyfer darpariaeth tai.

Mae rhai gwrthwynebwyr, adeiladwyr tai a pherchnogion tir yn bennaf, wedi herio'r strategaeth twf drwy hyrwyddo safleoedd amgen i'w dyrannu, fel modd o gyfiawnhau eu hangen cydnabyddedig am gynnwys safleoedd ychwanegol yn y cynllun.

Caiff rhai gwrthwynebiadau i ddyraniadau safle unigol (h.y. dileu safleoedd ar gais) eu creu ar sail her yn erbyn yr angen am gyfanswm y tai y mae eu hangen, gan gyfeirio at ddiffygion canfyddedig wrth ddadansoddi/asesu rhagolygon twf.

Effaith gronnus yr holl ddyraniadau ar gymeriad lleol a hunaniaeth ddiwylliannol, gan gynnwys mewn perthynas â'r Gymraeg.

ii. Uwchgynllunio a Chreu Lleoedd

Page 22: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

21 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Mae pryder bod y polisi'n rhy hir ac nad oes modd bodloni'r holl egwyddorion uwchgynllunio ar bob safle, yn enwedig mewn amgylchiadau lle y cyflwynir rhannau o safleoedd strategol cyn y safle ehangach, a lle caiff safleoedd penodol eu dyrannu'n ychwanegol ar gyfer cyfleusterau cymunedol ac eraill.

Mae'r defnydd o'r term 'rhaid' a'r term 'gofynnol' yn ddiangen ac yn amhriodol o gyfyngol. Mae angen mwy o hyblygrwydd/llai o ofyniad absoliwt i adlewyrchu natur ddatblygiadol barhaus cynigion, yn enwedig tystiolaeth am ddichonoldeb sy'n dod i'r amlwg

Mae Dŵr Cymru'n gofyn am eglurhad y gellir ceisio cyfraniadau datblygwyr yn ôl y galw, lle ceisir gwelliannau isadeiledd cyn rhaglen fuddsoddi Dŵr Cymru

Ni roddir digon o ystyriaeth i bobl sy'n colli golwg, yn enwedig o ran y defnydd arfaethedig o gynlluniau arwynebau a rennir sy'n creu diffyg gwahaniaeth rhwng y ffordd a'r palmant, a'r effaith negyddol ganlyniadol ar hyder a gwydnwch pobl â golwg rhannol

Mae CNC yn awgrymu y gall fod angen mwy o hyblygrwydd o ran niferoedd a dwysedd unedau ar safleoedd ADS er mwyn i ddatblygiad fodloni gofynion amgylcheddol polisïau. Rhaid i gamau datblygiadau strategol gael eu hintegreiddio ac adlewyrchu'r prif gynllun os yw'r isadeiledd gwyrdd a nodweddion y dirwedd i weithredu'n iawn a darparu'r buddion gofynnol. Mae angen rheolaeth integredig ar draws ADS, i gynllun cytunedig

Dylid ailystyried/codi'r trothwy o 100 o unedau yn y polisi hwn am ei fod yn debygol o oedi'r broses o gyflwyno'r cartrefi ar ddechrau'r cynllun. Mae angen egluro'r sbardun tebygol ar gyfer y gofyniad am godau dylunio a phrif gynlluniau is-ardal

iii. Datblygiad Strategol

POLISI SD 1: ARDALOEDD DATBLYGU STRATEGOL (POLISI

TROSGYNNOL)

Mae'r canlynol yn grynodeb o themâu/materion/sylwadau sy'n codi dro ar ôl tro sy'n ymwneud â'r egwyddor o ddyrannu'r holl Ardaloedd Datblygu Strategol. Ymdrinnir â materion sy'n benodol i bob mewn adrannau yn nes ymlaen yn y ddogfen.

Page 23: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

22 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Priffyrdd a Chludiant Tagfeydd lleol ac effaith gronnus ehangach ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth. Dibynadwyedd a chadernid yr Astudiaeth Trafnidiaeth Strategol. Digonolrwydd pwyntiau mynediad a nodwyd; lefelau parcio a ddarperir; darpariaeth teithio llesol

Perygl Llifogydd a Draeniad Pryderon ynghylch llifogydd yn effeithio ar y datblygiad a diffyg gallu'r isadeiledd draenio i ymdopi â hyn

Gofal Iechyd Diffyg gallu cyfleusterau Gofal Iechyd Sylfaenol (fel a godwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol - PABM) a meddygfeydd lleol i ateb y galw

Ysgolion Diffyg lle mewn ysgolion presennol a diffyg darpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg neu uwchradd mewn safleoedd DS.

Effaith Ddiwylliannol Pryderon arbennig yn cael eu codi ynghylch yr effaith andwyol ar y Gymraeg

Y Defnydd o Ganolfannau Amhreswyl a Masnachol/Cymunedol Ceisir eglurhad ynghylch a yw'r 'canolfannau lleol' a gynigiwyd yng nghynllun cysyniadau'r CDLl yn 'ddyraniad manwerthu'. Mae CNPT yn amlygu'r angen i osgoi effaith andwyol ar ganolfannau presennol

Dichonoldeb a Chyflwyno Mae tystiolaeth annigonol awgrymedig yn y cynllun ynghylch cost gofynion datblygiadau, a chyfyngiadau i gyflwyno, wedi'u hasesu'n ddigonol a'u hystyried mewn perthynas â chyflwyno fesul cam.

Cyflwyno Fesul Cam Pryderon ynghylch amseru datblygiad a chyflwyno gwelliannau i isadeiledd a chyfleusterau. Mae HBF yn gofyn am ddiwygio'r polisi i egluro manylion maint safle a chamau cyflwyno tai ac isadeiledd cysylltiedig

Effaith Amgylcheddol Pryderon ynghylch colli cynefinoedd a bywyd gwyllt ar safleoedd a cheisiadau am fwy o fanylion yn y polisïau ADS am gynigion ar gyfer lliniaru

Colli Tir Amaethyddol Tir o safon arbennig

Sŵn a Llygredd Aer Gan gynnwys yn ystod adeiladu

Page 24: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

23 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Colli Preifatrwydd a Golygfeydd Yn bennaf wedi'i achosi gan egwyddor adeiladu ar safleoedd tir glas

iv. Safleoedd Tai (Safleoedd Anstatudol ac 'Eithriadau Gwledig')

Roedd y rhan fwyaf o'r sylwadau'n codi materion a oedd yn dilyn themâu cyffredin, sy'n debyg i'r rhai a godwyd ar Ardaloedd Datblygu Strategol. Er enghraifft, yr effaith ar y rhwydwaith traffig/priffyrdd, yr effaith gymunedol a diwylliannol, maint y twf, yr amgylchedd, dŵr a draeniad, Gofal Iechyd Sylfaenol, addysg. Ymdrinnir â llawer o'r rhain yn yr ymatebion i sylwadau ar Ardaloedd Datblygu Strategol a Strategaeth/Maint Twf y CDLl (gweler yr adran uchod).

Mae'r adran isod yn amlygu rhai materion penodol a godwyd ar safleoedd arbennig;

Colli ardal o goetir GCC ar ran o H1.23, Tir yng Nglofa Cefn Gorwydd, y mae gwrthwynebwyr yn ei ystyried yn dir glas agored hygyrch. Maent wedi awgrymu bod y tir yn ansefydlog yn H 1.23 oherwydd hen fwynfeydd ar y safle. Mae pryder y bydd hyn yn arwain at gwymp, ac ymsuddiant a fydd yn effeithio ar y tai sydd yno'n barod.

Effaith ar ddynodiadau bioamrywiaeth (SoDdGA, SBCN, NERC) yn sgîl H 1.23 (uchod), H 1.9 Tir ar Heol Graigola, y Glais, H 1.46 Tir ar Heol Mynydd Garnlwyd, H 1.27 Tir yn The Poplars, Pontlliw

Bydd cymeradwyo datblygiad yn H 1.26 Tir ar Heol Carmel, Pontlliw yn gosod cynsail ar gyfer datblygiad mewn ardal gefn gwlad agored ac ymgyfuno Pontlliw a Phontarddulais.

Gwrthwynebu H 1.27 Tir yn The Poplars, Pontlliw. Tir sydd wedi'i gyfyngu gan amod gwerthu i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â phlant am byth. Mae pryder na chafodd enillion cynllunio blaenorol a sicrhawyd yn yr ardal eu bodloni gan ddatblygwyr

Gwrthwynebu H 1.46 Tir ar Heol Mynydd Garnlwyd. Bydd colli mannau agored yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles, ac yn cael gwared ar lwybr mynediad diogel i Barc Llywelyn. Dylai'r safle gael ei ddynodi yn yr asesiad mannau agored. Roedd y safle'n un pryniant gorfodol yn flaenorol i atal datblygiad tai, a gwrthodwyd ceisiadau cynllunio blaenorol i gadw tir glas at ddibenion hamdden.

Page 25: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

24 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Ni ddilynodd DASA arweiniad LlC ar ymgynghori. Nid ymgynghorwyd â phreswylwyr Heol Stepney ar y datblygiad yn H 1.43 Tir yn Nhŷ'r Cocyd, y Cocyd.

POLISI H 5 - SAFLEOEDD EITHRIADAU GWLEDIG

Lleoliadau dyraniadau yn AoHNE Gŵyr neu gerllaw iddi a materion yn ymwneud â'r effaith amgylcheddol o ganlyniad i hynny, yn benodol effaith y dirwedd ar yr AoHNE

Gwrthwynebiadau i'r egwyddor safleoedd "eithriadau gwledig" fel a ddisgrifir yn H 5 a'i gydweddoldeb â'r Canllawiau Cenedlaethol a dderbyniwyd oddi wrth y ddau unigolyn a rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Cwestiwn LlC ynghylch sut mae'r polisi'n ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth mai angen ar gyfer tai fforddiadwy yn unig sydd ym mharthau bro Gŵyr ac Ymyl Gŵyr.

Awgrymodd rhai gwrthwynebwyr yr ymdrinnir ag amcan y polisi'n fwy cadarn drwy asesiad sy'n seiliedig ar feini prawf a amlinellir yn ail ran Polisi H 5 yn hytrach na dyraniadau safleoedd penodol

Mae angen eglurhad ynghylch y diffiniad o 'dai'r farchnad angen lleol' a sut bydd y cyngor yn cymhwyso gwerthoedd adwerthu a chyfyngiadau deiliadaeth

Cadarnhau y gall gwybodaeth gan ymgeiswyr gyfeirio daliadaeth uned ac ystyriaethau cymysg.

Effaith y cyfyngiad anghenion lleol ar gyfer eiddo'r farchnad agored ar ddichonoldeb a chyflwyno tai fforddiadwy mewn ardal o angen uchel.

Methiant mewn tryloywder, gwallau a hepgoriad mewn perthynas â gwybodaeth am safleoedd yn ystod proses y CDLl, yn enwedig map cynigion gwallus yn ymwneud â'r Crwys

Colli tir amaethyddol o safon yn safleoedd y Crwys a Phennard

Priffyrdd a Mynediad: Pryder ynghylch effeithiau traffig cynyddol ar yr holl ffyrdd mynediad i'r safleoedd. Llwybr bysus anaml a diffyg llwybrau troed, yn enwedig cerdded i'r ysgol ar ffyrdd cul.

Page 26: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

25 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Pryder ynghylch dichonoldeb parhaus y Crwys fel cymuned bentref

Tir ansad a thwnnel pwll glo (gwythïen Penlan) ar safleoedd y Crwys

Diffyg cyfleoedd cyflogaeth wledig ym Mhennard

Pryder bod y safle'n rhy fawr i ddiwallu anghenion tai fforddiadwy isel canfyddedig yr ardal

Gwrthwynebiadau i'r ganran isel o dai fforddiadwy. Sut caiff meini prawf deiliadaeth leol eu bodloni

Mae'n anodd canfod perthynas safle Pennard â ffin yr AoHNE o'r map cynigion

Dylid cynnwys safle Pennard dan Bolisi H 1 yn hytrach na'r safle eithriadau

Awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen (gweler yr adran safleoedd amgen)

v. Safleoedd Amgen a Newid Ffiniau

Roedd y rhan fwyaf o safleoedd amgen yn gynigion i ehangu ffin yr anheddau trefol i gefn gwlad agored. Cynigiwyd safleoedd anstrategol (sy'n gallu cynnwys dros 10 o unedau ond llai na 500) gan ymgyngoreion mewn amrywiaeth o leoliadau 'Parthau Polisi Tai Strategol' fel a ganlyn:

o Gogledd-orllewin Ehangach Tregŵyr (Pen y Dre), Casllwchwr (i'r gogledd gerllaw'r foryd a de Casllwchwr a Phontybrenin), a Phenllergaer (i'r de o Barc Penllergaer ac i'r gogledd o'r pentref presennol), Pengelli, Llangyfelach,

o Gogledd Treforys/Pantlasau (i'r gogledd-orllewin o Ysbyty Treforys ac ar ymyl anheddiad Parc Gwernfadog) a Gellifedw

o Gorllewin Cilâ, Newton, Tŷ Coch a West Cross

Roedd chwech o'r Safleoedd Anstrategol a gynigiwyd yn gymharol fawr,, rhwng 11 a 15 hectar yr un, gan gynnwys safleoedd yng Nghasllwchwr, Treforys a Phenllergaer

Cynigiwyd nifer o safleoedd llai mewn ardaloedd mwy gwledig megis Garnswllt, Llanmorlais a Scurlage

Page 27: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

26 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Cynigiwyd un Datblygiad Strategol amgen yn Llangyfelach ar dir i'r de o'r A48 (y cyfeiriwyd ato gan y cyflwynydd fel Coed Dewi Sant), y byddai digon o le yno ar gyfer 500 o unedau newydd ac ysgol newydd, man agored, ardal hamdden a chanolfan leol/gymunedol). Mae'r safle'n un tir glas yn gyfan gwbl ger ardal cwrs golff 'Royal Fern'. Mae'r cyflwyniad yn cyfeirio at 'botensial datblygu' y tu allan i gyfnod CDLl y tir ychwanegol i'r gorllewin o'r safle amgen, hyd at Barc Busnes Penllergaer.

Roedd sylwadau hefyd yn ceisio addasiadau i ffiniau safleoedd, gan gynnwys dod ag ardaloedd cefn gwlad arfaethedig ar ymylon ardaloedd trefol i mewn i'r mapiau o ffiniau anheddau neu adlewyrchu caniatadau diweddar.

vi. Dichonoldeb Ariannol, y Gallu i Gyflwyno a Chamau Cyflwyno

Mae LlC yn tynnu sylw at y ffaith fod y safleoedd allweddol yn dibynnu ar welliannau isadeiledd y mae angen eu costio megis cynhwysedd y system garthffosiaeth a chludiant, y gall eu harwyddocâd gael effaith andwyol ar ddichonoldeb/amseru safleoedd

Mae LlC yn cynghori y bydd angen dangos bod safleoedd unigol a safleoedd ar y cyd ar gael yn wirioneddol a bod modd eu cyflwyno. Dylai hyrwyddwyr safleoedd barhau i fod yn rhan o'r broses a deall pwysigrwydd dangos eu bod yn gallu eu cyflwyno.

Dylai'r cyngor egluro ei fod yn hyderus na fydd y ffaith nad oes taliad Ardoll Isadeiledd Gymunedol ar waith yn effeithio ar gyflwyno safleoedd ac isadeiledd allweddol

Gwrthwynebiad i'r diffyg manylder a ddarperir yn y cynllun ynghylch unrhyw waith dichonoldeb safle yr ymgymerwyd ag ef, y mae angen iddo gydnabod galw tebygol y farchnad am dai ac effaith costau gofynion sylweddol datblygwyr a amlinellir yn y polisïau DS

Mae ceisiadau i ddyrannu mwy o safleoedd anstrategol yn y tymor byr, gan na fydd y DS yn cael eu cyflwyno tan gamau diweddarach y cynllun. Amlygir bod hyn yn bwysig o ystyried y diffyg cyflenwad tir 5 mlynedd presennol a dibyniaeth uchel y cynlluniau ar safleoedd DS.

Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am sut crëwyd y cynllun gweithredu ac a yw'n tybio y caiff ceisiadau cynllunio ar safleoedd DS eu penderfynu cyn mabwysiadu cynlluniau,

Page 28: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

27 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

ac y penderfynir ar geisiadau cynllunio erbyn diwedd ail gyfnod pum mlynedd y cynllun [2020]

Gallai'r posibilrwydd y bydd rhai o'r ADS yn tangyflawni ym mlynyddoedd cynnar y cynllun effeithio ar y cyflenwad tir pum mlynedd

Ceisir eglurhad ar sut a phryd y bydd tir sy'n eiddo i'r cyngor yn cael ei gyflwyno

vii. Tai Fforddiadwy

POLISI H 2: STRATEGAETH TAI FFORDDIADWY

Mae angen mwy o eglurhad ar Lywodraeth Cymru ar dybiaethau yn y dystiolaeth y mae'r angen am dai a'r targedau tai fforddiadwy a nodir ym Mholisi H 2 yn seiliedig arni.

Mae LlC yn gofyn am esboniad o'r lefel isel ymddangosiadol o angen fforddiadwy o'i gymharu ag ACLl tebyg ac esboniad o'r berthynas rhwng lefel y ddarpariaeth dai a'r targed tai fforddiadwy

Dylid diwygio'r targed tai fforddiadwy i gyfrif am holl gyfnod y cynllun ac nid 2017 i 2025

Awgrymir cynnwys tabl i ddangos dadansoddiad o sut bydd y cynllun yn cyflwyno'r lefel o dai fforddiadwy a bennir yn y targed

Gofynnir am eiriad ychwanegol i esbonio pa gyfraniad y gallai safleoedd annisgwyl ei wneud i'r holl gyflenwad tai fforddiadwy

Gofynnir am gyfiawnhad am y ffigurau 200 a 300 o gartrefi ar gyfer ardal Gŵyr ac Ymyl Gŵyr ac eglurhad am sut y cedwir prisiau'n fforddiadwy

Awgrymir nad yw Polisi H 2 yn gadarn a'i fod yn gwrthdaro â pholisïau cynllunio cenedlaethol ar gyfer safleoedd eithriadau ar gyfer tai fforddiadwy anghenion lleol gwledig. Dylid diwygio pumed paragraff Polisi H 2 drwy ddileu "rhan fwyaf" a "wedi'u cefnogi gan elfen leiafrifol o dai'r farchnad"

Dylai'r polisi wneud mwy i annog datblygwyr i ddarparu byngalos a thai sy'n briodol i'r henoed a phobl anabl

POLISI H 3: TAI FFORDDIADWY (TARGEDAU TFF)

Page 29: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

28 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Mae LlC ac eraill yn gofyn am eglurhad am y berthynas rhwng y sylfaen dystiolaeth a'r targedau a'r trothwyau a bennwyd yn y polisi. Mae hyn yn cynnwys egluro'r berthynas rhwng daearyddiaeth yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol a'r Astudiaeth Dichonoldeb Tai Fforddiadwy

Mae LlC yn gofyn am eglurhad am sut yr ystyriwyd costau taenellwyr a chyfraniadau a106

Ystyrir bod trothwy safle o 5 annedd neu fwy yn rhy isel ac yn niweidiol i gyflwyno tai'r farchnad a thai fforddiadwy. Dylid diwygio'r polisi fel y dychwelir i drothwy'r CDU sef 25 o unedau neu 1 hectar o dir

Dylai'r polisi gydnabod maint y cyfraniadau eraill y mae eu hangen ar Ardaloedd Datblygu Strategol fel y meini prawf ym mholisïau SD 2 ac IQ 1. Nid yw manylion gofynion sy'n benodol i safle ar safleoedd strategol ac eraill yn hysbys nes bod archwiliadau safle llawn yn cael eu cynnal, costau manwl ar gael a gwaith dichonoldeb safle wedi'i gyflawni.

Dylai sawl gwrthwynebiad, yn enwedig gan hyrwyddwyr safleoedd strategol, sy'n gofyn am esboniad o rôl dichonoldeb gael ei gynnwys yn y polisi er mwyn dangos yn glir y bydd gofynion tai fforddiadwy'n 'amodol ar ddichonoldeb' er mwyn adlewyrchu'n well y gofyniad i ystyried dichonoldeb a amlinellir mewn polisi cenedlaethol

Mae'r HBF yn gwrthwynebu'r gofyniad am 50% o dai fforddiadwy ar safleoedd yn PPTS Gŵyr ac Ymyl Gŵyr, ynghyd â'r trothwy o 2 uned ac ystyried hyn yn 'bolisi yn erbyn datblygiad'

viii. Isadeiledd a Chludiant

Mae pryder ynghylch darparu isadeiledd angenrheidiol ar yr adegau cywir i liniaru effeithiau datblygiad

Cais am gynnwys cynllun a rhaglen cyflwyno isadeiledd

Dylai'r cyngor ddarparu fersiwn ddrafft o'r Rhwymedigaethau Cynllunio cyn yr archwiliad. Nodwyd tagfeydd ar briffyrdd a phryderon diogelwch sy'n ymwneud ag ardaloedd penodol lle cynigir codi tai strategol ac anstrategol

Derbyniwyd heriau o ran cadernid methodoleg yr Astudiaeth Trafnidiaeth Strategol

Page 30: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

29 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Gofynnodd Network Rail am bolisi newydd sy'n gofyn i ddatblygwyr ariannu gwelliannau ansoddol y mae eu hangen ar isadeiledd presennol y rheilffyrdd o ganlyniad uniongyrchol i fwy o bobl yn defnyddio'r rheilffyrdd yn sgîl datblygiadau newydd

Dylid cynnwys strategaeth i gyflwyno cludiant cyhoeddus o ardaloedd gwledig i ganolfannau ardal, parciau manwerthu, mannau allweddol e.e. Ysbyty Treforys; a hefyd gysylltu aneddiadau allanol â'i gilydd

Codir pryderon yn aml am allu Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) i ymdopi mewn gwrthwynebiadau sy'n benodol i safle, yn enwedig o ran GTGD Tregŵyr a'r gofyniad i ddatblygwr gyfrannu at Systemau Draenio Cynaliadwy i helpu i liniaru'r sefyllfa hon. Dylid darparu gwybodaeth sy'n benodol i safle am wella'r isadeiledd carthffosiaeth a dŵr ar y cyd â Dŵr Cymru, ynghyd â'r gost, yr amseru a'u cynnwys yng Nghynllun Rheoli Asedau (CRhA) treigl Dŵr Cymru. Dylid esbonio camau cyflwyno a chyflwyno safleoedd, yn enwedig lle mae angen cyflwyno cyfraniadau at welliannau cyn cynlluniau arfaethedig Cynllun Rheoli Asedau Dŵr Cymru

Dywed LlC y dylai'r cyngor egluro a yw'r Memorandwm o Ddealltwriaeth wedi'i ddiwygio i sicrhau bod digon o le i gynnwys dyraniadau arfaethedig y cynllun yn y dalgylch

ix. Gofynion Sipsiwn a Theithwyr

Ceisiwyd eglurhad gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch nifer y lleiniau a ddyrennir yn safle H 6. Mae LlC yn mynnu bod y polisi'n dangos bod y safle'n ddigon mawr i ddiwallu'r angen a nodwyd dros holl gyfnod y cynllun, ac y gall y lleiniau gael eu cyflwyno yn yr amserlenni a nodwyd sydd wedi'u hamlinellu yn yr Asesiad o Anghenion Sipsiwn a Theithwyr

Materion Perygl Llifogydd: Dywed LlC a CNC ei fod yn hanfodol cynnal Asesiad Canlyniadau Llifogydd cyn archwilio'r CDLl i ddangos y gellir cyflwyno'r safle'n unol â gofynion TAN 15

Mae teuluoedd sy'n byw ar hyn o bryd ar y safle anawdurdodedig a oddefir yn Ffordd Millstream yn awyddus i aros yno. Ystyrir nad yw lefel y perygl llifogydd yn Ffordd Millstream yn waeth nag ar safle arfaethedig H6. Mae teuluoedd yn mwynhau preifatrwydd a

Page 31: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

30 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

diogelwch Ffordd Millstream, sy'n gyfleus ar gyfer yr ysgol a chyfleusterau lleol. Dywed teuluoedd nad ydynt am fyw ar safle dyranedig H 6, er nad ydynt yn gwrthwynebu 'r ffaith fod y safle wedi'i ddyrannu. Mae rhai'n nodi safle amgen posib yr hoffent iddo gael ei ystyried ar dir i'r de o Heol y Clâs, os nad yw aros ar Ffordd Millstream yn opsiwn.

Mae teuluoedd sy'n byw ar y safle awdurdodedig, Tŷ Gwyn, gerllaw safle dyranedig H 6, yn gwrthwynebu i'r darn llai o dir sydd agosaf at eu safle. Mae un teulu'n gwrthwynebu'r dyraniad cyfan. Rhoddwyd peth cefnogaeth i'r darn o dir dyranedig mwy pe bai'r safle'n cael ei ddylunio'n briodol a'i reoli'n effeithiol.

Darpariaeth ar gyfer Pobl Sioeau Teithiol: Mae LlC am gael eglurhad ynghylch y safle yn Nheras Railway, Gorseinon, ei addasrwydd a'r gallu i'w gyflwyno i ddiwallu'r angen am Bobl Sioeau Teithiol dros gyfnod y cynllun. Dylai'r safle gydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru (13.3), a TAN15 (6.2) mewn perthynas â pherygl llifogydd Categori C2

x. Economi a Chyflogaeth

Awgrymwyd bod y targed ar gyfer creu swyddi newydd yn afrealistig ac y gellid ei newid o ystyried effaith economaidd bosib canlyniad diweddar refferendwm yr UE

Mae Llywodraeth Cymru'n awgrymu y gallai diwygiadau egluro sut bydd y cynllun yn darparu'r 16 hectar o dir cyflogaeth Dosbarth B y mae tystiolaeth yn awgrymu bod ei angen. Dylai polisïau DS nodi faint o dir cyflogaeth (hectarau) sydd ar gael ac egluro sut y cyfrifir am y ddau safle sy'n arwyddocaol yn rhanbarthol e.e. Felindre, a dau ar bymtheg arall o safleoedd cyflogaeth presennol a ddiogelir ac a nodwyd yn y sylfaen dystiolaeth (Adolygiad Tir Cyflogaeth 2012) yn y cynllun i ddangos nad oes gor-ddarpariaeth

Dywed Llywodraeth Cymru y dylai'r cyngor ystyried yr angen i gyd-fynd â TAN 6 (Canllawiau Cenedlaethol) wrth benderfynu ar geisiadau ar ddefnyddiau cyflogaeth heb eu dyrannu ar ymylon aneddiadau a gweithio gartref

xi. Manwerthu

Page 32: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

31 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Mae pryder bod Parc Tawe wedi'i gategoreiddio fel parc manwerthu y tu allan i'r canol ac nid yw wedi'i nodi fel rhan o'r brif ganolfan fanwerthu

Gofynnir bod Polisi RC 2 a'r testun ategol yn cael ei ddiwygio i esbonio'n gliriach fod yr ymagwedd ddilyniannol yn cyd-fynd â Pholisi Cynllunio Cymru ac egluro pryd y bydd angen y prawf angen manwerthu

Awgrymir bod gwrthdaro rhwng Polisïau RC 7 ac RC 2. Mae Polisi RC 7 yn cefnogi datblygiad manwerthu mewn parciau manwerthu, ond mae Polisi RC 2 yn cynnwys parciau manwerthu fel rhan o'r hierarchaeth fanwerthu, sy'n cefnogi datblygiad o'r fath dim ond os na fydd safleoedd addas yn y canolfannau ar gael

Mae pryder bod Polisi RC 7 yn caniatáu defnydd manwerthu A1 newydd yn y parciau manwerthu (er ei fod yn gyfyngedig i nwyddau swmpus) oherwydd gallai hyn arwain at ehangu'r parciau manwerthu ymhellach er anfantais i ganolfannau traddodiadol presennol

xii. Llain Las a Lletemau Glas

Llain Las

Dynodiad Llain Las: Mae LlC, HBF ac eraill yn ystyried bod y dynodiad hwn yn anaddas. Mae LlC wedi awgrymu y gallai dynodiad Lletem Las fod yn fwy addas

Lletemau Glas

Llai o letemau glas: gwrthwynebir y gostyngiad yn nifer a maint lletemau glas. Codwyd gwrthwynebiad penodol i golli'r lletem las ym Mhantlasau

Dynodiadau Lletem Las: Gwrthwynebwyd y dynodiadau lletem las yng Ngellifedw a'r Glais

Sicrhau bod ardaloedd lletem las yn cyd-fynd ar draws ffiniau: Mae Castell-nedd Port Talbot yn pryderu nad yw'r ardaloedd lletem las yn cyd-fynd â'r rhai yn CDLl Castell-nedd Port Talbot

xiii. Diogelu'r Amgylchedd Adeiledig a Naturiol

Dylai'r polisi ar dirweddau hanesyddol, parciau a gerddi egluro'n fwy clir ei fod yn cynnwys tirweddau hanesyddol, parciau a gerddi

Page 33: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

32 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Er na chânt eu rhestru, mae adeiladau o bwys lleol yn haeddu elfen o amddiffyniad, ond ni ddylid rhoi'r un lefel o amddiffyniad ag adeiladau rhestredig

Mae CNC yn awgrymu y dylid cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y polisi ar ecosystemau, gan gynnwys pwysigrwydd ychwanegu 'darparu a gwella cymeriad tirwedd, diddordeb a gwerthfawrogiad hanesyddol' at y rhestr o wasanaethau ecosystemau isadeiledd gwyrdd ac ychwanegu enghreifftiau ychwanegol o isadeiledd gwyrdd at y testun ategol

Mae CNC a Chymdeithas Gŵyr wedi argymell bod y polisi ar AoHNE Gŵyr yn cael ei ddiwygio i fod yn fwy cadarnhaol, a bod angen datblygiad yno i wella'r AoHNE. Hefyd mae angen egluro y dylai'r datblygiad y tu allan i'r AoHNE, ond sy'n cael effaith ar yr AoHNE, gyfrannu at 'gadwraeth a chyfoethogi' yn hytrach na 'peidio â chael effaith andwyol ar' harddwch naturiol yr AoHNE

Mae LlC yn gwrthwynebu'r gofyniad polisi i ystyried yr effaith ar Ardaloedd Tirwedd Arbennig o gynigion datblygu y tu allan i'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Awgrymwyd bod dynodiadau Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn gwrthdaro ag Ardaloedd Chwilio Strategol TAN 8. Mae LlC yn pryderu bod y dynodiad Ardaloedd Tirwedd Arbennig ym Mawr yn cynnwys Ardaloedd Chwilio Strategol TAN 8 yn rhannol

Ceir gwrthwynebiadau i ddynodiad Ardaloedd Tirwedd Arbennig Gogledd-ddwyrain Gŵyr a Chwm Cocyd ar y sail bod y tir yn fwy addas ar gyfer datblygiad tai

Mae LlC yn ystyried bod y Polisi Safleoedd Dynodedig yn fwy cyfyngol na'r Rheoliadau Cynefinoedd, sy'n caniatáu rhesymau hollbwysig budd blaenaf y cyhoedd. Awgrymir diwygio'r polisi i sicrhau ei fod yn unol â'r Rheoliadau Cynefinoedd

Ceir cais i adlewyrchu arfordir annatblygedig a Safleoedd Daearegol a Geomorffolegol o Werth yn ofodol ar y Map Cynigion.

Awgrymodd CNC fod y polisi ar Effaith Coed yn rhoi mwy o bwyslais ar effaith gadarnhaol coed megis drwy argymhellion coed

xiv. Datblygiad Mewn Ardaloedd Sensitif o Ran y Gymraeg

Page 34: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

33 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau

Diwygio'r polisi i'w gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau o 25 neu fwy o anheddau y tu allan i Ardaloedd Sensitif o Ran y Gymraeg fod ag angen Cynllun Gweithredu o ran y Gymraeg

Dylai'r CDLl ymchwilio i sefyllfa'r Gymraeg yn yr ardaloedd lle cynigir codi tai newydd a dangos canran y siaradwyr Cymraeg; Gweithgareddau diwylliannol Cymreig; ac argaeledd addysg Gymraeg a'r heriau a wynebir. Nid yw'r cynllun yn mynd i'r afael â'r ardaloedd hynny lle mae angen datblygu'r Gymraeg fwyaf

Dylai'r holl ysgolion cynradd newydd ledled y sir (gan gynnwys y 5 yn y dyraniadau DS) fod yn rhai cyfrwng Cymraeg i wrthsefyll Seisnigo, ateb y galw a darparu 'cyfle cyfartal' i fynd i ysgol Gymraeg.

Bydd Polisi HC3 yn arwain at ddirywiad yn y Gymraeg a gwanhau diwylliant Cymreig

Mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn gofyn bod Ardaloedd Sensitif o Ran y Gymraeg yn cael eu dangos ar y Map Cynigion

Mae Polisi'r CDLl yn defnyddio'r un ymagwedd â'r CDU, ac eto mae maint y datblygiadau a gynigir mewn Ardaloedd Sensitif o Ran y Gymraeg yn fwy o lawer. Mae diffyg eglurhad ynghylch sut yr aseswyd yr effaith ar y Gymraeg ac yr aed i'r afael â hi.

xv. Proses Ymgynghori'r CDLl

Nid oes digon o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i'r CDLl i ysgogi diddordeb y cyhoedd

Nid ymgynghorwyd yn ddigonol â chymunedau unigol

Ni wrandawyd ar wrthwynebiadau blaenorol i gynigion drafft i ddyrannu safleoedd

Roedd diffyg ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu'r dystiolaeth angenrheidiol am gyfyngiadau safle

Mae'r ffurflenni ymgynghori'n rhy anodd i'w llenwi ac mae'r cyfleuster ar-lein yn rhy anodd i'w lywio

Nid oes fersiwn wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg o'r CDLl Adnau

Page 35: Cynllun Datblygu Lleol Dinas a Sir Abertawe Adroddiad ... · 23 Gorffennaf - 12 Hydref 2012 Strategaeth Ddewisol 12 Awst 2013 - 31 Hydref 2013 Mapiau Cynigion Drafft 4 Rhagfyr 2014

A d r o d d i a d Y m g y n g h o r i a r y C D U A d n a u ( M e h e f i n 2 0 1 7 )

34 | Adran 2 - Cynnwys, Ymgynghoriad a Chyfranogiad y Cam Adnau