sylw ar ardal caerdydd hydref 2012

18
CAERDYDD RHIFYN 4 | HYDREF 2012 SYLW AR ARDAL Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi Paratoi ar gyfer diwygio budd-daliadau

Upload: wales-west-housing

Post on 23-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

CAERDYDDRHIFYN 4 | HYDREF 2012

SYLW AR ARDAL

Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad

Ehangu GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria

Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi

Paratoi ar gyfer diwygiobudd­daliadau

Page 2: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

2 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio einhunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwyscymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydddrwy’r sefydliad cyfan.

Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôltair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaethIvor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fodyn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw KathySmart, aelod adnabyddus o gymyned fusnesCaerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo taicymdeithasol ers tro.

Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweldShayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swyddy Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swyddnewydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’nfalch o ddweud ein bod newydd benodi StevePorter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau.

Gyda newidiadau Diwygio Budd­daliadau yncarlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwyddeconomaidd parhaus a chynnydd yn y pwysauar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yncytuno bod angen i ni wneud llawer iawn obethau.

Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedauledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd ycylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gaelgwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith arlawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael

gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan.

Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhywdro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Dilynwch ni ar Twitter @wwha

Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales

CYFLWYNIADCroeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Caerdydd, sy’n dod â’rdiweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.

Page 3: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

3 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Llaneirwg: Ar stad dai fwyaf newydd TaylorWimpey yn Llaneirwg, byddwn yn darparunaw tŷ ar rent a thri thŷ i’w perchenogi argost isel yn Brython Drive. Mae disgwyl i’rrhain gael eu cwblhau yn ystod haf 2013.

Cyncoed: Cawsom ein dewis fel darparwyrtai fforddiadwy ym mhrosiect diweddarafBellway yng Nghaerdydd, Tŷ Gwyn. Bydd ycynllun yn darparu pedwar tŷ ar rent canolraddol. Rydym wrthi’n cwblhau’rmanylion gyda Bellway, a rhagwelwn y byddy cartrefi hyn yn cael eu cwblhau tua diwedd 2013.

Y Rhath: Rydym yn adeiladu deg rhandynewydd yn enw WWH yn Elm Street ar diryn union wrth ymyl ein cynllun tai er ymddeol, Willow Court. Mae CyngorCaerdydd wedi cyfrannu grant tai cymdeithasol at y cynllun, a fydd yn galluogi’r gwaith i ddechrau yn 2013, a’r disgwyl yw y bydd yn cael ei gwblhau yngynnar yn 2014.

EIN DATBLYGIADAU DIWEDDARAFYNG NGHAERDYDDRydym yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerdydd i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy y mae ei angen yn fawr yn y ddinas. Mae ein datblygiadau cyfredol yng Nghaerdydd yn cynnwys:

Page 4: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

4 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Cafodd un o’r grwpiau hyn, Caerau Potters, ydrydedd wobr yn y categori ‘Gwella’r Amgylchedd’ yng ngwobrau Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru(TPAS) yn Llandudno.

Defnyddiodd y grŵp grant Gwneud iddo Ddigwydd WWH i drawsffurfio llain o dir ynrhandir llysiau, gyda’r nod cyffredinol o wella’rardal yn ogystal â darparu llysiau cartref iachusi breswylwyr stad Caerau Court Road.Mae’r Caerau Potters wedi dal sylw preswylwyr eraill ar y stad, ac yn ddiweddar,cafodd y grŵp grant arall gan WWH i adeiladusied o ddeunyddiau cynaliadwy a chefnogi euhehangiad llwyddiannus.

Mae’r grŵp hwn yn un o nifer o grwpiaupreswylwyr gweithgar iawn sy’n cael cefnogaeth gan ein swyddogion tai yng Nghaerdydd. Mae grwpiau gweithgar eraill yncynnwys: Unity, Liberty ac Enigma, pob un yngweithredu yn ardal Caerau’r ddinas. Mewnmannau eraill yn Llaneirwg, mae’r cynlluniauyn parhau i breswylwyr WWH ddatblygu eugardd gymunedol eu hunain, gan weithiomewn partneriaeth â Linc a Hafod fel rhan oGompact Llaneirwg. Cadwch olwg am ragor onewyddion am y prosiect newydd a chyffroushwn yn rhifyn nesaf Sylw ar Gaerdydd.

GWEITHREDU CYMUNEDOLYN FYW AC YN IACHRydym yn falch o gefnogi nifer o grwpiau newydd a sefydledig sy’ncael eu harwain gan breswylwyr yng Nghaerdydd, sy’n gweithiogyda ni i wella eu hardaloedd lleol.

Mae’r ffotograffau uchod yn dangos y gwelliannau amlwg y mae’r grŵp wedi’u gwneud

Page 5: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

5 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Fe wnaeth castell neidio, paentio wynebau,gemau stryd a stondin gelf a chrefft gadw’rplant yn hapus, tra bu ein tîm Datblygu Cymunedol, ynghyd â phartneriaid fel yr

heddweision cymunedol, a thimau glanhaucymdogaethau Cyngor Caerdydd, yn ymgynghori â phreswylwyr ar eu blaenoriaethau ar gyfer Cynllun GwellaArdal East Tyndall Street.

DIWRNOD HWYLEAST TYNDALL STREET Roedd ein diwrnod hwyl blynyddol yn East Tyndall Street ynllwyddiant mawr eleni, gyda thros 40 o breswylwyr, eu plant,ffrindiau a theulu yn bresennol yn y digwyddiad yn ystodgwyliau haf yr ysgol yn Sblot.

Gill Sanger, Rheolwr Cyllid (Cyfrifo) yn mwynhau celf a chrefft gydag un o breswylwyr ifanc East Tyndall Street

Page 6: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

TŶ HAFANIan Davies o Solar Windows, gyda Kathy Smart, Cadeirydd WWH, ac Alison Stallard, Codwr Arian Busnesau a’r Gymuned Tŷ Hafan

Roedd yr arian yn rhan o gronfa a oedd yn cynnwys dros £2,500, a godwyd gan dîm llwyddiannus Tri Chopa Cymru GE AviationWales o bartneriaid contraction WWH, SolarWindows Limited.

Fe wnaeth Ian Davies, Mark Anderson, JeffCollins, Gary Seldon, Paul Miller a John Lewis,pob un yn gweithio i Solar Windows Ltd, gwblhau her y tri chopa mewn llai na 15 awrym mis Mehefin.

Ar ôl cyflwyno’r siec, fe wnaeth Kathy Smart,Cadeirydd WWH, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ymuno â thîm Solar Windows ardaith o amgylch yr hosbis, sy’n cynnig gofallliniarol i blant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu areu bywyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Dywedodd John Lewis, rheolwr contractau ynSolar Windows, sydd wedi gweithio mewnpartneriaeth â Wales & West er 2001: “Roeddy tywydd mor ddrwg fel na welom gopa unrhyw un o’r mynyddoedd y buom yn sefyllarnyn nhw! Ar Gader Idris, roedd cyfnodau a

roddodd fraw o ddifrif i ni, gan ei bod mor wlyba gwyntog. Disgynnais ddwywaith fy hunan,ac nid oes llawer o bethau y gallwch eugwneud i’ch paratoi ar gyfer hynny.

Ychwanegodd: “Ond pan oedd pethau’n myndyn anodd iawn, fe wnaethom gofio pam roeddem yn gwneud hyn, sef dros blant mewnsefyllfa waeth na ni ein hunain – ac fe roddoddhynny hwb i ni ddal ati”.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif WeithredwrWWH: “Roedd yn fraint mynd o amgylch TŷHafan, ac yn brofiad gwylaidd iawn gweld ygwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’rcyfleuster hwn, y mae angen mawr amdano,drwy ymdrechion clodwiw Solar Window Ltdyn ymateb i her Tri Chopa Cymru.”

Mae Solar Windows yn gweithio tuag at statwscarbon niwtral yn eu ffatri ym Medwas, acmaen nhw’n parhau i weithio mewn partneriaeth â Thai Wales & West i’n helpu ni igadw at ein hymrwymiad o adeiladu tai cynaliadwy.

Yn ddiweddar, cafodd cynrychiolwyr Tai Wales & West y pleser ogyflwyno siec am £600 i Dŷ Hafan, hosbis plant Cymru.

6 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 7: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

AIL GYTUNDEB NAWDD GAN WWH I’R ROMAN VILLAINS

Prif Weithredwr WWH Anne Hinchey gyda thîm Cynghrair Sul Caerdydd Lazarou, Roman Villains

Cafodd y sgwad o 21 chwaraewr, sy’n dod oardal Trelái / Caerau y ddinas, eu crysaunewydd â logo WWH gan Brif WeithredwrWWH, Anne Hinchey.

Dywedodd Kyle Offer, capten y Roman Villains: “Diolch enfawr i Wales & West amein noddi ni eto eleni. Cawsom dymor dallynedd, ac rydym yn gobeithio y gwnawn nihyd yn oed yn well y tro hwn.”

“Mae’r Roman Villains yn dîm cymunedol o Caerau, lle’r ydym yndarparu cartrefi fforddiadwy i gannoedd o bobl,” meddai AnneHinchey. “Mae’n bleser gallu noddi’rtîm eto, a dymunwn yn dda iddyn nhwar gyfer y tymor hwn a thu hwnt.”

Mae tîm y Roman Villains o Gynghrair Sul Caerdydd Lazarouwedi sicrhau nawdd gan Tai Wales & West am yr ail flwyddynyn olynol.

7 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 8: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012

Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff aphartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nosWener 19 Hydref.

Roedd preswylwyr Caerdydd yn amlwg iawnymysg yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd yrowndiau terfynol, fel y gwelir isod:

• Margaret Ingram­Williams, Cynllun er Ymddeol Limebourne Court, yr Eglwys Newydd – enillydd, Gwobr Garddwr Gorau (Cynlluniau er Ymddeol)

• Jordan Howe, Llaneirwg – enillydd, Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig

• UNITY, Caerau – rownd derfynol, Gwobr Prosiect Cymunedol

• Caerau Potters – rownd derfynol, Gwobr Garddwr Gorau (Anghenion Cyffredinol)

• Church Road Action Crew – rownd derfynol, Gwobr Garddwr Gorau (Anghenion Cyffredinol)

Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safonuchel o bob rhan o Gymru eleni ­ swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pamor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod einpreswylwyr.

Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawnat gyllideb y Gwobrau eleni.

Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm fer amy digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho i fyny i’ngwefan ac YouTube yn fuan iawn.

Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr:“A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed troeleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw einffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanola synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hunyn ein preswylwyr. Ein bwriad yw gweld twfcryf a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedaupobl, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi syniad da ibobl am rai o’r ffyrdd y mae hyn yn cael eigyflawni. Mae hi wedi bod yn noson hyfryd, acyn fraint o ddifrif cael clywed hanesion y rhaisy’n cymryd rhan.”

Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – ytro hwn, un a enillwyd gan ein tîm CysylltiadauCyhoeddus a Marchnata ein hunain, pangydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.

Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn nosonwych.

Winner of the Green Fingers (Retirement) Award is Margaret Ingram­Williams, pictured centre with l­r Sinead O’Neil and Rob Bevan, of category sponsors Ian Williams, Kathy Smart, Chair of WWH, and Steve Lenehan, also of Ian Williams.

Also pictured, teenagers from Church Road Action Crew, finalists in the Green Fingers (General Needs) Award category. Pictured with Richard Leyshon of category sponsorWates Living Space (left) and Kathy Smart, Chair of WWH(right).

8 | Sylw ar ardal CAERDYDD | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 9: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

9 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethaurydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bodni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhagmynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau.

Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i:

• baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol

• darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu

• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a

• lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faintpriodol.

Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefydyn gweithio’n agos â Moneyline Cymru(gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credydledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr igyllidebu’n effeithiol a chael mynediad atgredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.

PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAUEfallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai arhyn o bryd na Diwygio Budd­daliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewnawdurdodau lleol, swyddogion budd­daliadau tai, Tai CymunedolCymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’rnewidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’npreswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20yr awr (i weithwyr y tu allan i Lundain), acmae hynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswmcyflog cyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn obryd.

Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yngolygu nad oes unrhyw un yn gweithio i niam lai na £7.20 yr awr, ac ers mis Awsteleni, mae 40 o’n gweithwyr cyflogedig

wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.

Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nodcyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West.Mae hon yn foment arwyddocaol, ganmai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yngNghymru i sicrhau’r nod.”

ARWAIN Y SECTOR GYDA’R CYFLOG BYW

Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’npreswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon.

Page 10: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

10 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi caeleffaith yn ddiweddar yn cynnwys:

• De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwrdros ddwy flynedd gyda’n his­gwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd.Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Ben­y­bont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth dai’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd ade Cymru dros y misoedd nesaf.

• De Cymru ­ Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Pen­y­bont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mhen­y­

bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd igyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnesmewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau.

• Gogledd Cymru ­ Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam, cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yn codi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifynnau In Touch â Sylw ar ardal Caerdydd yn y dyfodol.

• Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymru yn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu pobl â chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac ynbriodol.

Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadaumewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byrheb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) aphrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn ynagored i bawb, heb ystyriaeth i oedran,cymwysterau na phrofiad blaenorol.

Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwiFfurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter SgiliauGweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk

Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’ndod o Ben­y­bont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrddCambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd inodi ei gymhwyster.

LLEOLIADAUGWAITHAR GAELMae helpu ein preswylwyr ielwa ar gyflogaeth a chyfleoeddhyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barodwedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac maegennym nifer o brentisiaid yngweithio ar ein prosiectau ledled Cymru.

Page 11: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

11 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

CYNHWYSIANT DIGIDOL

Y gyrwyr allweddol i ni yn ein buddsoddiad oran cynhwysiant digidol yw:

• helpu pobl i fod mewn sefyllfa well i ddelio â Diwygio Budd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol

• galluogi pobl i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau, a

• helpu ein preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gael mynediad at wybodaeth a nwyddau ar­lein

Mae ein cynllun peilot i ddod â mynediad bandeang WiFi fforddiadwy i Dŷ Pontrhun ymMerthyr Tudful yn weithredol erbyn hyn.

Ers 5 Gorffennaf, mae preswylwyr Tŷ Pontrhuna’u teuluoedd wedi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd o unrhyw ystafell yn yr adeiladdrwy ddyfais sy’n gallu cysylltu’n ddiwifr, ganddefnyddio cyfrinair unigol.

Cwmni Boyns o ogledd Cymru yw’r cyflenwr addewiswyd gennym ar gyfer y cynllun peilothwn, ac maen nhw wedi gosod llinell ffôn yn yradeilad, sy’n galluogi preswylwyr i gael hyd at2Mb o fand eang Wi­Fi.

Ar hyn o bryd, mae ein preswylwyr yn cael cysylltiad am ddim am 6 mis, ac ar ôl hynny fefyddan nhw’n talu swm fforddiadwy iawn o63c yr wythnos.

Ein nod yw dysgu o’r cynllun peilot hwn ermwyn ehangu WiFi a chysylltiadau band eangeffeithlon a fforddiadwy i gymaint â phosibl o’npreswylwyr ledled Cymru, ac rydym yn awr yndechrau gweithio ar ail brosiect peilot yn Nanty Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegol ymMhrestatyn, Sir Ddinbych.

http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4

Rhywbeth arall allweddol sy’n cael sylw gennym yw ‘cynhwysiantdigidol’ – sy’n galluogi ein preswylwyr i fynd ar­lein: cael mynediadat gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau cymorth priodol, cysylltu â’i gilydd a’u cymunedau drwy’r cyfrwng hwn, a gwneuddewisiadau gwybodus, ynghyd â’r gallu i gael mynediad at nwyddau am brisiau gostyngol.

Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn ymweld â phreswylwyr yn Nhŷ Pontrhun, a oedd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau TG igefnogi ein cynllun peilot WiFi band eang

Page 12: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

12 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn falch iawn o ddweud bod yr ymatebi’n gwedd newydd wedi bod yn gadarnhaoliawn, ac mae’n helpu i ledaenu’r neges am einstrwythur grŵp newydd, gyda GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria Ltd fel ein his­gwmnicyntaf.

Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw ar ardalCaerdydd, rydym yn falch o anfon dolen at einCynllun Busnes 2012, sy’n amlinellu cyfeiriadstrategol Grŵp Tai Wales & West ar gyfer ypum mlynedd nesaf.

Rhan arall o’r broses ail­frandio oedd creu einhis­frand newydd cyntaf, Connect24. Mae hynyn uno ystod gynhwysfawr o wasanaethaurydym yn eu darparu, gan gynnwys ein Larwmmewn Argyfwng, gwasanaethau y tu allan ioriau, a chymorth i weithwyr unigol.

O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaid corf­foraethol at ein portffolio yn ystod y misoedddiweddar, rydym nawr yn gofalu am fwy na20,000 o gartrefi ledled Cymru drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedicael ei hachredu gan y GymdeithasGwasanaethau Teleofal, gan ein galluogi iwneud atgyweiriadau a helpu pobl i gael yrhelp maen nhw ei angen mewn argyfwng.

Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai einCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu sefydliadau yn eich ardal chi sydd angen cefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch â CateDooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi, ar029 20415386.

AIL-FRANDIOOs ydych yn cael In Touch, eincylchgrawn chwarterol ibreswylwyr, fe fyddwch yngwybod yn barod ein bod wediail­frandio ym mis Ebrill eleni.

Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Pen­y­bont ar Ogwr, yn dangos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.

Page 13: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf,yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld ybydd hyn yn treblu.

Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru,mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod iCambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adainhon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.

Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystalâ darparu llwyfan diogel arall am ragor ogyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 ogeginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymruyn ystod y pum mlynedd nesaf.

CAMBRIA YN YMESTYNI OGLEDD CYMRU

Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannusiawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal âgosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne achanolbarth Cymru.

Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.

13 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 14: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

14 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglengrantiau tai cymdeithasol i bartneriaid yn yrawdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewncymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefinewydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolyguswyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd

bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1Mehefin eleni.

Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawnni barhau i gydweithio lle bo’n briodol iddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen ynfawr ledled Cymru.

CONSORTIWM SYNIADYn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn iffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwmwedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyafposibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol.

Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn,bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr taicymdeithasol gael mynediad at ygwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau felMoneyline Cymru ac undebau credyd lleol.

Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac ynawr mae WWH yn gweithio’n agos gydaMoneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro iystyried sut y gellir datblygu gwasanaethaunewydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’rnewidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r CredydCyffredinol.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehanguMoneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r

gangen ddiweddaraf wedi agor ym MerthyrTudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd.

Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneylineyn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbedion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan yProvident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.

MONEYLINE CYMRUYN EHANGU

Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd MoneylineCymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenterbwysig hon.

Page 15: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

15 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddynar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredudrwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hydyn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydymyn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudd­daliadau lles, yn enwedig cyflwyno’rCredyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloeddgwely’.

Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwylbuddsoddi £36m mewn cynnal a chadw agwella ein stoc bresennol.

Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu achaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg maidim ond un rhan o bump o’r buddsoddiadhwn fydd yn cael ei gyllido drwy grant taicymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda£70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol,a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol,trowch at dudalennau 28 a 29 o’n CynllunBusnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wediei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld arein gwefan www.wwha.co.uk

Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio ganLywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.

EIN PERFFORMIADARIANNOL

Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fodangen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydymeisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Ernad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhaucryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaiddsydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol,ac i gyflwyno syniadau newydd.

Cyfanswm

393

Wrecsam

127

Sir y Fflint

121

Sir Ddinbych

9Conwy

12

Powys

24

Merthyr Tudful

15

Bro Morgannwg

20

Pen-y-bont

39Caerdydd

26

Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar ysafle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrauyn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwnadeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pummlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm einhadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.

Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu arhyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol

Page 16: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

16 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gydaGwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ ermwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da oran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasolledled y wlad.

Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWHwedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei

roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yndarparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethdiogelwch tân.”

Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gydaGwasanaeth Tân y Canolbarth a GwasanaethTân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd oehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.

PARTNERIAETHGWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRUMae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn obryd, ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod.

Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.

Page 17: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

17 | Sylw ar ardal CAERDYDD | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

• Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gangael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawngweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis Elliott­Smith.

• Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012wedi nodi mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad nid­er­elw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau.

• Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n Gweithio am Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr

Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:

“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol.Roedd polisïau arloesol Tai Wales &West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’ucefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraffar y beirniaid.”• Mewn partneriaeth â GKR Maintenance & Building,

rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yng ngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.

GWNEUD Y PETH IAWN…Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff,ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael ynddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio.

Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal aChadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin

Page 18: Sylw ar ardal Caerdydd Hydref 2012

Tai Wales & West3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Hydref 2012