m 2012 r 423 50c cario’r fflam - llais ogwan mehefin 2012.pdfm 2012 r 423 50c darlith goffa dafydd...
TRANSCRIPT
-
Mehefin 2012 Rhif 423 50c
DarLiTH GOFFa DaFYDD OrWiG2012
"a oes Bywyd yn y Bydysawd ?"
Traddodir y ddarlith gan Yr athro Deri Tomos
yn Llyfrgell Bethesda
Nos Lun 18fed Mehefin 20127.30 o’r gloch
Croeso Cynnes i BawbMynediad am Ddim
Mari DavieS ydw i a dwi’n 15 oed ac yn byw yn Gerlan a chefais yfraint a’r anrhydedd o gludo’r ffagl Olympaidd dros Bont Borth arFai 29ain. Hoffwn ddiolch i Lisa Williams, cyn swyddog 5x60 yr
ardal am fy enwebu. Cefais fy enwebu oherwydd fy mod yn LlysgennadIfanc Aur ar gyfer y Gemau Olympaidd. Yn rhinwedd y swydd byddaf ynceisio codi ymwybyddiaeth o’r Gemau Olympaidd, ceisio cynydducyfranogiad mewn chwaraeon yng Ngwynedd a rhoi gwybod amegwyddorion y Gemau Olympaidd. Cefais fy enwebu i fod yn Llysgennadoherwydd fy mod yn hwylio fel rhan o Garfan Cymru a Phrydain ac ynmynd i gystadleuthau rhyngwladol yn cynrychioli Cymru a Phrydain.
Roedd y profiad o gael bod yn ran o daith y Ffagl Olympaidd yn wych!Mae’n brofiad bythgofiadwy a dwi’n teimlo yn freintiedig iawn fy mod wedicael bod yn ran o’r Gemau. Roedd hi’n gychwyn cynnar i mi ar fore Mai29ain oherwydd roedd gofyn i mi fod ym Miwmares erbyn 5:30! Chysgaisi ddim llawer y noson gynt oherwydd fy mod yn edrych ymlaen gymaint acyn teimlo ychydig yn nerfus. Roeddwn i’n poeni am faglu yn fwy na dim!Ond ar y diwrnod aeth popeth yn wych. Roeddwn i hefyd yn fwy ffodus’na mae rhai pobl yn wybod, gan fy mod wedi cael rhedeg 600m yn lle’r300m arferol. Roedd hyn hefyd yn golygu fy mod wedi cael cario dwy ffagleuraidd hardd. Roedd hi’n fore ychydig yn emosiynol i mi. Doeddwn iddim yn disgwyl tyrfa hanner y maint a welais wrth gamu oddi ar y bws.Hoffwn ddiolch i bawb am ddod i weld y fflam, a hefyd i fy nghefnogi i.Roedd hi’n braf gweld llawer o wynebau cyfarwydd yn y dyrfa fawr, rhaiohonynt yn ffrindiau a ddaeth i’m gwylio cyn mynd i’r ysgol. Diolch genod!Dwi’n teimlo fy mod wedi cael diwrnod anhygoel y byddaf yn ei gofioweddill fy oes.
Cario’r FflamYn ystod y bore bûm yn ymweld â’rYsgol Feithrin yn y Caban ynGerlan, Ysgol Abercaseg ac YsgolPen y Bryn er mwyn dangos y ffagla rhannu fy mhrofiadau. Diolch ynfawr am y croeso cynnes a gefais agobeithiaf fod gweld y ffagl yn euhysgol yn ysbrydoliaeth i bobl ifancyr ardal gymryd rhan mewnchwaraeon.
Sioe Dyffryn Ogwenwedi ei chanslo
Cafodd Sioe AmaethyddolDyffryn Ogwen, a oedd i fod igael ei chynnal yn Nôl Ddafyddar 9 Mehefin ei chanslo am y trocyntaf erioed oherwydd y tywydd.
Sefydlwyd y sioe 40 mlynedd ynôl ac roedd edrych ymlaen at ydathlu. Cadeirydd y Sioe ywAlwyn Lloyd Ellis. “Rydan ni wedibod yn lwcws efo’r tywydd dros yrholl flynyddoedd,” meddai “acmae’n drist iawn ein bod wedigorfod canslo eleni.”
Mae’r sioe yn wynebu collledariannol enfawr oherwydd yllifogydd.
-
Llais Ogwan
Derfel roberts [email protected]
ieuan Wyn [email protected]
Lowri roberts [email protected]
Dewi Llewelyn Siôn [email protected]
Fiona Cadwaladr Owen [email protected]
Siân esmor rees [email protected]
Neville Hughes [email protected]
Dewi a Morgan [email protected]
Dafydd Fôn Williams [email protected]
Walter W Williams [email protected]
SWYDDOGiON
Cadeirydd:André Lomozik, Zakopane,7 Rhos-y-Coed, Bethesda, Bangor,Gwynedd LL57 3NW 602117
Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]
Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]
Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ 600872
Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN 600184
PANEL GOLYGYDDOL
£18 Gwledydd Prydain£27 Ewrop£36 Gweddill y Byd
Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]
-Golygydd y Mis
archebu Llais Ogwan drwy’r Post
DYDDiaDur Y DYFFrYN rhoddion i’r Llais
Llais Ogwan 2
Clwb Cyfeillion Llais Ogwan
Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:
Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853
Llais Ogwan ar Dâp
Golygydd y mis hwn oedd Dewi LlewelynSiôn.
Golygydd Mis Gorffennaf fydd Dewi A.Morgan, Park Villa, Lôn Newydd Coetmor,Bethesda LL57 3DT (01248) 602440.dewimorgan@fsmail,net
Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher, 4 Gorffennaf, os gwelwch yn dda. Plygunos Iau, 19 Gorffennaf yng NghanolfanCefnfaes am 6.45.
£12.50 Elwyn Hughes, Ystradgynlais£10.00 Carys a David O’Connor a’r
Merched, Sling, Tregarth.
£ 5.00 Er cof am fam a nain annwyl, Catherine Mary Owen, 22 Maes
Ogwen, a hunodd yn dawel ar 4
Mehefin 1978 yn 60 mlwydd oed.
Oddi wrth Llywela O’Brien.
£20.00 Er cof am Albert Williams, 21 Glan Ffrydlas, Bethesda a fyddai wedi bod
yn 90 oed ar 10 Mai 2012 oddi wrth
Muriel a’r teulu.
£25.00 Er cof am Rhiannon Rowlands a fyddai'n dathlu ei phenblwydd ar 29
Mehefin, oddi wrth Arthur, Olwen,
Myrddin, Huw a'r teulu.
Gwobrau Mis Mehefin£30.00 (64) Rita Bullock, 30 Maes y Garnedd, Bethesda.£20.00 (169) Rita Lewis, 2 Pantglas, Bethesda.£10.00 (119) Helen Wyn Williams, 5 Llwyn Bleddyn,Rachub.£5.00 (20) Andre Lomozik, 7 Rhos y Coed, Bethesda..
Gwerth f awrog iad
Mis Mehefin
16 Bore Coffi Capel Jerusalem. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.
18 Cyfeillion Ysbyty Gwynedd. Diwrnod Agored yn Awel y Nant, Bethesda. 10yb – 10yh.
23 Bore Coffi Eglwys Crist Glanogwen. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.
26 Plaid Cymru Cangen Dyffryn Ogwen.Cefnfaes am 7.00
27 Te Mefus yn Festri Bethlehem, Talybont, am 7.0
28 Plaid Lafur Cangen Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.
28 Merched y Wawr, Bethesda. Taith Ddirgel.
30 Bore Coffi Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Neuadd Ogwen. 10.00 - 12.00
Mis Gorffennaf
05 Sefydliad y Merched Carneddi. Gwibdaith Addysgiadol.
07 Bore Coffi Clwb Camera Dyffryn Ogwen. Neuadd Ogwen, 10.00 – 12.00
13 Noson Goffi. Canolfan Rachub. 5.30 – 7.30
14 Marchnad Cynnyrch Lleol Ogwen. Llys Dafydd Bethesda. 10.00 – 2.00.
14 Bore Coffi NSPCC. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.
18 Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol Neuadd Talgai. Yn y neuadd am 7.00
21 Bore Coffi Eglwys y Santes Fair Tregarth. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.
25 Plaid Lafur Cangen Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.
27 Bingo at Radio Ysbyty Gwynedd. Canolfan Glasinfryn am 7.30.
28 Bore Coffi Neuadd Talgai. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.
31 Plaid Cymru Cangen Dyffryn Ogwen.Cefnfaes am 7.00
Mae Mr Emlyn Evans wedipenderfynu ymddeol o’r PanelGolygyddol wedi blynyddoedd owasanaeth gwerthfawr. DymunaLlais Ogwan ddiolch iddo am eiholl waith cydwybodol a thrylwyrwrth olygu’r Llais. Diolch hefydam ei gefnogaeth ymarferolmewn amryfal ffyrdd. Byddwn yngweld eich colli Emlyn!Ymddeoliad hapus i chi!
Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan
Cysodwyd gan Tasg, Gorffwysfa, Sling, Tregarth
LL57 4RJ 07902 362 [email protected]
Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY
01248 601669
Hysbysebwch yn LlaisOgwan
Cysylltwch â Neville Hughes
01248 600853
Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.
-
Llais Ogwan 3
Pwy Sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes
Capeli ac Eglwysi Dyffryn Ogwen – Rhan 3
Dyma ran olaf y rhestr o addoldaiDyffryn Ogwen. Pwysleisiafunwaith eto mor brin ac annigonolyw’r ffeithiau ac mor barod ydw i idderbyn unrhyw ychwanegiad neugywiriad.
PPantdreiniog. Crybwyllodd fy ffrind,John Ffrancon Griffith (JFfG o hynymlaen), iddo ddod o hyd i gofnod amgapel wedi’i godi ym 1787 ymMhantdreiniog.Peniel (Llanllechid) (MC). Codwyd ym1834, ailgodwyd ym 1838 athrydyddgodwyd ym 1876-7. Chwalwydtua 1991. Mae cofnod gan JFfG mai 1787oedd dyddiad codi’r capel cyntaf ar ysafle.Peniel (Mynydd Llandygái) (MC).Sefydlwyd yr Achos ym 1845, codwyd yCapel ym 1871. Caewyd rywdro yn y1950/60au ac mae’n debyg iddo gael eichwalu tua diwedd y 1960au. Peniel (Rhiwlas) (A). Codwyd ym 1865.Deil yn agored.Pentir (MC). Codwyd capel bychan ym1817 yn Waun Pentir. Codwyd capelnewydd i gymryd ei le (ym Mhentir) ym1827 ac ailgodwyd ym 1868. Pan godwydcapel newydd ar y bryn, mae’n bosib i’rhen gapel gael ei addasu yn rhes o bedwartŷ a alwyd yn Queen’s Terrace (a thrwy ydiweddar Glynne Thomas ac Owi Robertsailenwyd y rhes yn Hen Gapel tua diweddy 1990au). Caewyd Capel Pentir tua 2002a throwyd yn dŷ.Pen-y-groes (Tre-garth) (MC). Codwydym 1837, helaethwyd ym 1840.Chwalwyd y Capel tua 1993 ondparhawyd i gynnal gwasanaethau yn yFestri. Daeth yr Achos i ben ddiwedd 2008ac unwyd ag Eglwys Unedig Bethesda.Mae byngalo wedi’i godi ar y safleychydig flynyddoedd yn ôl.Pisgah (Rhiwlas) (W). Agorwyd ym 1863.Deil yn agored.
R – SRehoboth (Parc Moch) (W). Agorwyd ym1831. Dychwelodd yr aelodau i’w mameglwys – Shiloh, Tregarth – ym 1836.Salem (Carneddi) (A). Agorwyd ym 1870.Caewyd ym 1971 ac fe’i chwalwyd ym1972. 1871 JFfGSalem (Rachub) (W). Agorwyd ym 1877.Roedd y capel cyntaf ym mhen draw StrydSalem (ac addolid yno tua 1837) cyn i’rgynulleidfa symud i’r capel newydd ym1877. Deil yn agored. 1830 JFfGSaron (Ty’n y Maes) (A). Agorwyd ym1860. Caewyd ym 1970 a throwyd yn dŷtua 2002. 1861 JFfGSoar (W) (Glasinfryn). Ni wn fawr ddimo’i hanes heblaw iddo gael ei droi’n storfai ffarmwr ac wedyn i gwmni dodrefn. Maeplac yn dal uwch ben y drws ffrynt: ‘Leaseof the site was granted by the RightHonourable George Sholto Gordon, Lord
Penrhyn, 1892’ ond roedd yr achos eisoeswedi’i sefydlu yn Soar, fel ‘cangen’ oGapel Shiloh, Tre-garth, flynyddoedd cynhynny; cyfeirir ato gan Hugh DerfelHughes yn ei Hynafiaethau … agyhoeddodd ym 1866, Trowyd yr hengapel yn dŷ ar dro’r ganrif bresennol. Siloam (Bethesda) (W). Agorwyd iddechrau yn Stryd y Felin (Cae Star),trowyd y safle yn dai annedd (SiloamSquare) a chodwyd capel newydd ar AlltPen-y-bryn ym 1872. Shiloh (Tre-garth) (W). Agorwyd ym1828, ailgodwyd ym 1858 athrydyddgodwyd ym 1896. Deil ynagored.
T – YTabernacl (Bethesda) (B). Codwyd ym1866. Caewyd tua 1978. Adnewyddwydgan Gangen Bethesda o GymdeithasArlunwyr a Dylunwyr Cymru. Llosgwyd ycapel yn ulw ym mis Gorffennaf 1998 achafodd ei ddymchwel ym mis Ebrill2001. Safle tri o dai newydd erbynheddiw. Treflys (Gerlan) (A). Agorwyd ym 1866(1865 yn ôl JFfG), caewyd tua 1973 achwalwyd y capel ym 1974. Tros y Ffordd (A). Codwyd tua 1820.Trowyd yn dŷ ac yna’n swyddfa cyn iddoddiflannu dan domennydd Chwarel yPenrhynYsgoldy (Rhiwlas) (MC). Sefydlwyd yrAchos ym 1847, codwyd y capel ym 1862.Caewyd tua 2000 ac mae stad fach o daibellach ar y safle.
Rwy’n siŵr y bydd rhai o drigolionDyffryn Ogwen, wedi darllen y rhestrau oaddoldai yn y Dyffryn, wedi sylweddolimor brin yw’r ffeithiau mewn sawl achos(ac efallai heb fod yn gwbl gywir ambelldro, chwaith). Da o beth fyddai i rywunfynd ati i ymchwilio’n fanylach a dyfnachi hanes addoldai’r Dyffryn – beth amdani?
Wrth gloi, mae’n werth sylwi bod rhyw 57o addoldai wedi eu rhestru uchod. Er bodenghreifftiau o uno capeli a gorgyffwrddo’r herwydd, ac er nad oedd pob un o’raddoldai yn agored yr un adeg yn union,hoffwn gyflwyno’r ffigurau bras a ganlyni nodi faint sy’n dal i gael eu defnyddioheddiw:
Capeli - 9Bethania (Bethesda) (A); Bethel (Rachub)(B); Bethlehem (Tal-y-bont) (A);Bethmaaca (Glasinfryn) (A); Carmel(Rachub) (A); Eglwys Unedig Bethesda(MC); Peniel (Rhiwlas) (A); Pisgah(Rhiwlas) (W); Shiloh (Tre-garth) (W)
Eglwysi - 7Eglwys Crist Glanogwen (Bethesda);Eglwys Goffa Robertson (Coetmor) –claddedigaethu’n unig; Eglwys Llandygái;Eglwys Maes y Groes; Eglwys St Cedol(Pentir); Eglwys St Mair a St Ann (MynyddLlandygái); Eglwys (Babyddol) SeintiauPius X a Rhisiart Gwyn (Bethesda).
HenaintBle’r aeth y seren ddisglair Oedd yn dy lygaid di,A’r heulwen oedd bob amserYn gwenu arnom ni?
Fe gefaist wrth heneiddioFlynyddoedd digon hallt,A’r lloer yn awr sy’n mynnuBod yno yn dy wallt.
Y seren ddaw ar brydiauA’r heulwen yn ei hôlWrth i ti fagu’r wyrionYn dyner yn dy gôl.
PriodiHir oedi fu’r cariadon yn eu byd
Uwchben eu gofidion,A’r ddau’n llawn o ddagrau llonLaw yn llaw’n tyngu llwon.
Telynau NaturY delyn yw’r awel wrth fwthyn bach tawelSy’n chwarae bob dydd wrth y drws,Ac yno mae’r blodau’n ymateb i’r nodauTrwy ddawnsio mewn gwisgoedd mor dlws.
Eu dawns sydd yn denu yr hwn sy’n trwm ganuA glanio ar wefus sawl un,Ac yna ffrwythloni a chael ei fodloniCyn dychwel i’w gwch bach ei hun.
Ar frigyn mae’r fronfraith a’r gân fwyaf perffaithI’w chlywed yn braf ac mor glir,A rhaid ydi gwrando â phleser fan ynoAr hon fu’n telori mor hir.
Mae’r awel a’r gwenyn a’r fronfraith o’r cychwynYn tiwnio’u telynau mor gainI greu hyfryd nodau a thrwy eu bywydauMewn gerddi neu lwyni y drain.
Y GellYno, nid oes llawenydd, na rhyddid
Fel y rhoddo’r mynydd;Drws dur a sad oer y syddYn boen i’r llygaid beunydd.
Dafydd Morris
Y CaribîPyrth coedwig nef fel perthi – blodeuog,
Blawd ewyn ar dwyni;A phrydferth fel coelcerthi,Alawon lloer ar lan lli.
Molly, yr Ast FachAnwylyn ydyw Molly,Un hardd a doniol yw hi.Tirion gwirion ei gwên,Un hoff yw, un a’i phawenFeddal, a chwarae fyddwn;Hi’n falm cu fel y mae cŵn.Dwys yw ei henaid iasol,A’i nwyd mwyn wrth neidio o’m hôl;Bwyta, cysgu, llyfu llaw,A’i dwli’n sibrwd alaw.Oriau llon rhag oriau lleddf,Iacháu enaid â’i chynneddf.Llawn asbri a hwyl anwylyn,Chwarae’n deg a chwarae’n dynn.Rhaid canmol dwli Molly,Nid cath yw Molly ond ci.
Goronwy Wyn Owen
Nyth y Gân
-
Llais Ogwan 4
BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431
Siop KathyStryd Fawr, Bethesda
Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592
Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902
EGLWYS UNEDIGBETHESDA
Gwasanaethau'r Mis
17 Mehefin Mr. T. Alun Williams24 Mehefin Parch. Harri Owain Jones1 Gorffennaf Parch. Trefor Lewis8 Gorffennaf Y GWEINIDOG15 Gorffennaf Parch. John Owen (Rhuthun)
Yr eglwys unedigGweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes
Anfonwn gofion at ein holl aelodau sydd yn wael ar hyn o bryd, rhai yndisgwyl mynd i'r ysbyty ac eraill yn dechrau gwella ar ôl eu triniaethau.Gobeithio y daw'r haf a gwell iechyd i bawb. Mae gweithgareddau'rgaeaf yn dirwyn i ben ond mae'r Cyfarfod Gweddi ddechrau'r mis a'rSeiat yn dal ymlaen. Dal yn brysur hefyd mae Clwb Nos Fawrth y boblifanc a’r Clwb Celf bob yn ail fore Mercher ac fe ellwch gael paned arfore Iau. Croeso i holl gyfarfodydd yr eglwys.Eurwen Morris oedd yn gyfrifol am Gyfarfod Gweddi mis Mai arddiwrnod cyntaf y mis a chafodd gymorth gan Minnie Lewis a'r Parch.John Owen. Bu rhai ohonom yng nghyfarfodydd Undeb Athrofa'r Balayn Llandudno y diwrnod hwnnw. Pwnc y Gynhadledd oedd Y BeiblHeddiw a chawsom ddarlithoedd arbennig iawn gan Dr. Gareth Ll.Jones a Dr. JohnTudnoWilliams. Drannoeth, aeth rhai ohonom i Sasiwny Chwiorydd yn Llanidloes.Bu nifer o'r plant yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdder mwyn cymryd rhan yn y Gwasanaeth bore Sul a phasiant y plant. Pobhwyl i'r rhai fydd yn cystadlu. Mae rhai eisoes wedi cael llwyddiant ynyr adrannau celf a llenyddiaeth. Bore Sul, 20 Mai, cawsom wasanaetharbennig gan y plant a'r athrawon, sef Y Neges Heddwch. Gwobrwyd yplant hefyd am eu gwaith yn dysgu adnodau ac emynau.Roedd 27 Mai yn Sul y Pentecost a chafwyd gwasanaethau arbennig odan ofal Parch. Cynwil Williams, Caerdydd.
Merched y Wawr Cangen BethesdaCynhaliwyd cyfarfod olaf ond un y tymor yng Nghanolfan Moelyci.Yn hytrach nag ymgynull yn ein cartref arferol sef Canolfan Cefnfaes,daethom ynghyd mewn carafán ym Moelyci. Mawr oedd y croeso i niac o dan lywyddiaeth Margaret Jones, cawsom gyfarfod byr i drefnu aty flwyddyn nesaf yn bennaf. Roeddem wedi cyfarfod wythnos ynghyntyn nhy'r Llywydd i drefnu rhaglen ac i gael golwg ar y gwaith a wnaedo dan arweiniad Margaret a Jên, ei merch, ar gyfer addurno pabellMerched y Wawr yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghlynllifon.
Llongyfarchiadau i bawb a fu wrthi yn helpu gyda'r gwaith. Criw bacha ddaeth ynghyd i Foelyci ac anfonwn gofion at bawb oedd ddim yndda. Gobeithio y bydd pawb yn medru dod ar y Daith Ddirgel sydd yncael ei threfnu gan Glenys Clark. Llongyfarchwyd Gwenno Evans arddathlu penblwydd arbennig a dymunwyd yn dda i'r plant fydd ynsefyll arholiadau y mis yma a'r rhai fydd yn cystadlu neu'n cymryd rhanyng nghyngerddau Eisteddfod yr Urdd.
Ar ôl cael paned dderbyniol iawn yn y garafán cawsom beth o hanes y llea'r gwaith a wneir yno. Roeddem wedi synnu fod cymaint o waith yn caelei wneud yno a ninnau yn gwybod fawr ddim am y lle. Os na fuoch ynoeisoes, da chi ewch draw i weld y lle ac i brynu yn y siop. Cewch groesomawr ganddynt, rwyn siwr. Diolchodd Jennie Jones am y croeso.Byddwn yn mynd ar wibdaith y mis nesaf a chofiwch ein bod wrthi ynparatoi rhaglen ddiddorol ar gyfer mis Medi. Croeso mawr i aelodaunewydd ymuno gyda ni.
Capel Bethania
Oedfaon17 Mehefin: Y Parchedig Gwynfor Williams01 GorffennafY Parchedig John Owen15 GorffennafY Parchedig Gwynfor WilliamsMis Awst: Wedi Cau
Oedfaon am 5.30 o’r gloch
Croeso Cynnes i Bawb
Diwrnod agoredyng nghartref Eira a Joe
29 Ffordd Ffrydlas.
raffl a bwrddgwerthu
Dydd Llun 18 Mehefin10.00 y.b. tan 10.00 y.h..
Mynediad £1.00Croeso cynnes i bawb
GeniLlongyfarchiadau i Emma a Siôn,55a Stryd Fawr, ar enedigaethmerch fach, Catrin Mai ar 14 Mai.
Diolch,Dymuna Mrs Glenys Lloyd Jones,24 Glanffrydlas, ddiolch o galon ideulu a ffrindiau am eu cefnogaetha’u caredigrwydd yn ystod eiarhosiad yn yr ysbyty. Diolchhefyd am y cardiau a’r anrhegion adderbynwyd ganddi ar ei phen-blwydd arbennig. Diolch yn fawr.
YsbytyCofion a gwellhad buan at y rhai afu yn yr ysbyty yn ddiweddar, yneu plith Sara Thomas, RhesGordon a Mrs Beryl Williams,Maesygarnedd.
MarwolaethauAr 10 Mai yn ei chartref, 20 Llawry Nant, bu farw Mr DerekVaughan Gladwysh yn 35 oed.Cymar Catrin a thad Holly aDerek, mab Mr Derk Gladwysha’r ddiweddar Mrs FredaGladwysh, brawd Nigel acAmanda ac ewythr i’w plant.Cynhaliwyd ei angladd fore dyddIau 17 Mai, gyda gwasanaeth ynEglwys Crist, Glanogwen amynwent Eglwys Coetmor.Gwasanaethwyd gan y ficer, yBarchedig Nia Williams.Cydymdeimlwn â chi fel teulu yneich profedigaeth fawr a sydyn ogolli Derek.
Yn ei gartref yng Nghaernarfon,yn 71 oed, bu farw Mr JohnKenneth Owen, mab y diweddarMr a Mrs John Owen; tadAnthony, Vincent, Paul a’rdiweddar Ellen a Christopher;brawd Iris a Terry a thaid a hen-daid. Cynhaliwyd ei angladdddydd Gwener 18 Mai gydagwasanaeth a chladdu yn EglwysCoetmor. Gwasanaethwyd gan yficer, y Barchedig Nia Williams.Anfonwn ein cydymdeimlad atochfel teulu.
Ar 26 Mai yn ei gartref, 5 ArafaDon, bu farw Mr Brian Costelloyn 66 oed. Roedd yn briod i MrsNerys Costello ac yn dad annwyl iBrian, Craig, Diane a Paula ac ynfab-yng-nghyfraith i Mrs VeraJones, Glanffrydlas. Cynhaliwydgwasanaeth fore dydd Iau 31 Maiyn Eglwys Crist Glanogwen amynwent Coetmor.
Gwasanaethwyd gan y ParchedigJohn Matthews a’r BarchedigJennie Hood. Cydymdeimlwn â chiNerys, a’r teulu i gyd, ar golliBrian.
Croeso AdrefCroeso adref i Mr Percy Parry, 43Erw Las a dreuliodd gryn amser ynyr ysbyty ers mis Ionawr.
CroesoMae Kevin a Nia Williams wedisymud o Gefn Cwlyn i Erw Las.Croeso mawr iddynt i’w cartrefnewydd.
DiolchMae teulu’r ddiweddar MennaCharles Armstrong (Morris gynt)yn ddiolchgar iawn am bob arwyddo gydymdeimlad ar achlysur collimam, priod, merch a chwaerannwyl iawn. Diolch hefyd am yrhoddion ariannol tuag at elusenHospis Tŷ’r Eos, Wrecsam.
Gorffwysfan, Stryd Fawr
Cafwyd bore coffi llwyddianusiawn yn Neuadd Ogwen foreSadwrn, 5 Mai, a gwnaed elw o£295.00. Roedd yno raffl rhagorol,gyda diolch i Vernon am gasglugwobrau gan fasnachwyr y StrydFawr. Diolch yn fawr iawn i chi igyd am eich haelioni a diolch i’raelodau am bob cymorth i wneud ybore yn llwyddiant. Diolchwyd ibawb gan y Cadeiryddd, Mr EricJones. Anfonwyd rhodd o £50.00 atwaith Ysgol Dyffryn Ogwen.
Gwibdaith DdirgelDydd Mawrth 26 Mehefin byddwnyn cychwyn o Lanffrydlas am 8.24y bore, Adwy’r Nant 8.30, Rachub8.35, Tregarth 8.45.
Albert WilliamsDymuna teulu y diweddar AlbertWilliams, 21 Glanffrydlas,Bethesda, ddiolch o galon iffrindiau ac i bawb a ddangosoddgydymdeimlad a charedigrwyddtuag atynt yn eu profedigaeth ogolli gŵr, tad, taid a hen daidannwyl.Diolch i’r Parchedig GeraintHughes am y gwasanaeth yn yrAmlosgfa, Bangor, ac am eigymorth a’i garedigrwydd i ni felteulu. Diolch hefyd am yr hollgardiau a’r rhoddion tuag at yGymdeithas Alzeimer. Diolch ynarbennig i staff Plas Garnedd,Llanberis am eu gofal ac i GaffiCoed y Brenin am y bwydardderchog, ac i Stephen Jonesam ei wasanaeth a’i gymorth.
EGLWYS UNEDIGBETHESDA
yng Nghapel Jerusalem
Estynnir croeso cynnes ibawb i oedfaon Sul
Bore Gwasanaeth ac Ysgol Sul am 10.00
Hwyr Gwasanaeth am 5.00
EGLWYS UNEDIGBETHESDA
‘LLENWI’R CWPAN’
Dewch am sgwrs a phaned
Bob bore dydd Iau rhwng 10.00 o’r gloch a
hanner dydd
-
Llais Ogwan 5
CAPEL CARMEL
Gwasanaethau
Mis Mehefin24 Mrs Mererid M Williams
Mis Gorffennaf01 Parch. Marcus W. Robinson08 Mr J. O. Roberts15 Y Gweinidog 2.00 a 5.00
Pob gwasanaeth am 5.00 oninodir yn wahanol.
Yr Ysgol Sul am 10.30 y.b.Dwylo Prysur Nos Wener 6.30
Croeso Cynnes
CAPEL BETHEL
Gwasanaethau
Mis Mehefin24 Mr Jack Roberts
Mis Gorffennaf01 Parch. Merfyn Jones08 Y Gweinidog15 Parch. Dafydd Job22 Parch John Rice Rowlands
Oedfaon am 2.00 o’r gloch.
Croeso cynnes i bawb.
Rachub a LlanllechidDilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880
raymond Tugwell, 9 Ffordd Llanllechid 601077
Llais Ogwan 5
Canolfan rachub
Noson GoffiNos Wener, 13 Gorffennaf
5.30 - 7.30 yr hwyr
Stondinau a Raffl
Mynediad £1.00
Yr elw er budd Gerallt Jones(Trefnir gan Bwyllgor y Ganolfan)
Bu aelodau’r Clwb Dwylo Prysur am dro o amgylch Gwarchodfa NaturAberogwen gyda Mr Ben Stammers yn arwain. Diolch iddo am eintywys ni gan ddangos adar amrywiol sydd ar lan y môr, ar yr afon ac ary tir. Cawsom noson ddiddorol dros ben er fod y gwynt ychydig yn fain.Bydd Mari Rowlinson, un o aelodau’r Clwb, yn dathlu ei phen-blwyddyn ddeunaw oed ddechrau Mehefin ac rydym i gyd yn y Clwb amddymuno pen-blwydd hapus iddi. Cawsom barti yn y festri i ddathlu’rpen-blwydd a rhoddwyd anrheg i Mai gan y bobl ifanc. Mae’r Clwb arei wyliau rwan dros gyfnod yr haf, a byddwn yn ail ddechrau ym misMedi.
Capel Carmel
Gwellhad BuanAnfonwn ein cofion at Mrs OlwenNewis, Rhes Bryn Owen sydd ynyr ysbyty, ac at Keith Thomas.Llwynbleddyn sydd wedi derbynllawdriniaeth i’w ben-glin.
CydymdeimloGyda thristwch y derbyniwyd ynewyddion am farwolaeth TomFfrancon Jones, Maes Bleddyn –Twm Ffrancs i’w lu o gyfeillion.Cymeriad hoffus, bob tro â gwên,er iddo wynebu salwch creulondros y blynyddoedd diwethaf. Eiddiddordeb mawr oedd bywydawyr agored. Anfonwn eincydymdeimlad at Eleanor a’r teuluoll yn eu colled.
Cydymdeimlwn hefyd gydagAmanda a Stephen, StrydBritannia, a Derek Gladwysh,Llanfairfechan ar achlysur tristiawn mawrwolaeth Derek, mab abrawd yn ddiweddar.
Anfonwn ein cydymdeimlad atGlenys a John Temple Morris,Maes Bleddyn yn eu profedigaetho golli mam Glenys.
Llonygyfarchiadaui Mr a Mrs Gwyn Jones, LônGroes ar yr achlysur hapus o ddodyn daid a nain am y tro cyntaf.Ganwyd mab i Andrew a Laura
ym Mangor ar 18 Mai, MacsenGwilym. Llongyfarchiadau hefyd iGwyneth Jones, Stryd Fawr ar ddodyn hen nain ac i Siân sy’n fodryb amy tro cyntaf.
Dymuna Andrew a Laura ddiolch ynfawr am yr holl anrhegion a’r cardiaua dderbyniwyd ar enedigaeth MacsenGwilym Jones.
Pen-blwydd Hapus i Iain Scott y Swyddfa Bost arachlysur dathlu ei ben-blwydd yn 60oed. Gobeithio ei fod wedimwynhau’r dathlu.
DiolchDymuna Siân a Neil, Bryn,Llanllechid ddiolch o galon am ynegeseuon, galwadau ffôn a chardiaua dderbyniwyd tra bu Siân yn derbyntriniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar
GeniLlongyfarchiadau i Emma a Siôn,Maes Bleddyn ar enediageth merch,ac i Nain a Taid, sef Julie a Dewi, ac iEdrich ac Alice ar ddod yn hen nain athaid.
Cyfarchion Pen-blwyddPen-blwydd hapus iawn i ChrisJeffreys, 17 Maes Bleddyn, a fydd yn50 mlwydd oed ar 3 Gorffennaf.Dymuniadau gorau oddi wrth Llinos,Louise, Craig a Sophie.
Llongyfarchiadaucalonnog i Cheryl a
Steven a briododd ar31 Mawrth 2012, aphob dymuniad daiddynt at y dyfodol
CarneddiDerfel roberts, Ffordd Carneddi,Bethesda 600965
Ar fore Sadwrn, 26 Mai, roedd Pwyllgor Canolfan Rachub wedi trefnu"Taith Ferfa Noddedig" i godi arian at y Ganolfan. Cymerwyd rhan ganbedwar o bobl a dyma lun dau ohonynt ar gychwyn y daith, sef GodfreyNortham a Gruff Elis-Williams. Gwthiwyd y ferfa drwy Hen Barc iRachub ac o amgylch yr ardal. Deallwn fod y cyfanswm a gasglwyd ogwmpas £300. Dymuna'r pwyllgor ddiolch i Mr. Gareth Lewis,Bethesda, am fenthyg y ferfa.
Helfa Ferfa
-
Llais Ogwan 6
eglwys Maes y Groes
Gyda thristwch y daeth y newyddam farwolaeth Betty Ellis, CilMarian, Llandygái ar y 25ain o Fai.Bu farw yn dawel yng NghartrefNyrsio Glan Rhos, Brynsiencyn.Merch ieuengaf Mr a Mrs RobertDewi Ellis, Tŷ Uchaf gynt, achwaer arbennig y diweddarMegan. Bydd bwlch enfawr ar eihôl gan iddi fod yn aelod ffyddlona gweithgar yn yr Eglwys amflynyddoedd.
Cynhaliwyd ei hangladd yn yrEglwys ar y 1af o Fehefin danarweiniad ein ficer y ParchedigJohn Mathews gyda Barry Wynnewrth yr organ. Roedd nifer dda ynbresennol i dalu'r deyrnged olaf iBetty. Fe’i rhoddwyd i orffwys ymmynwent yr Eglwys.
Hoffem fel aelodau estyn eincydymdeimlad dwys â'r teulu yn euprofedigaeth.
Treuliwyd noson hwyliog yn yrYsgoldy ar nos Fercher 23ain o Faipryd cynhaliwyd noson o Fingo.Diolch i Hefina Watts ac AnnPritchard am fod yn gyfrifol amalw'r rhifau ac i Phyllis Davies amdrefnu'r lluniaeth ysgafn. Roeddnifer yn bresennol a diolch iddynthwythau am ein cefnogi ac i bawbam eu rhoddion at y raffl
TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853
GwasanaethauMehefin 17 : Parch. John Lewis Jones,
Llandudno;
24 : Parch. Harri Owain Jones,
Llanfairpwll;
Gorffennaf 1 : Parch. Trefor Lewis;
8 : Y Gweinidog;
15 : Parch John Owen, Rhuthun
22 : Y Gweinidog;
29 : Mr. J. O. Roberts, Bethesda.
Oedfaon am 2.00 . Croeso cynnes i bawb.
Yr Ysgol SulLlongyfarchiadau i naw o blantYsgol Sul Bethlehem ar gael eugwobrwyo am eu gwaith yn yrYsgol Sul. Cawsant dystysgrifi’w chadw ynghyd â gwobrariannol yng Nghymanfa’rYsgolion Sul a gynhaliwyd yngNghapel Pendref Bangor ar foreSul, 20 Mai.
Dyma eu henwau :- Elliw Louise Jones, CoreyDesch, Emily Louise Williams,Sam Desch, Brandon Alford,Joseph Roberts, Ceri LouiseThomas Jones, Chloe ElizabethWilliams a Cara Lois Dewhirst.Da iawn chi i gyd!
Cymanfa’r AnnibynwyrBraint oedd cael croesawuCymanfa Ganu Dosbarth Bangora Bethesda i Fethlehem am y trocyntaf erioed. Fe’i cynhaliwyd arnos Sul, 20 Mai, o dan arweiniadMr. Elfed Morgan Morris,Deiniolen, gyda Mrs. Helen WynWilliams, Carmel wrth yr organ.Cafwyd eitemau ardderchog gangôr o blant Ysgol Llandygai.Dechreuwyd y cyfarfod gan Mrs.Jean O. Hughes a thri o blant yrYsgol Sul, sef Cara, Ceri aJoseph. Llywyddwyd y nosongan ein gweinidog, Y ParchedigGeraint Hughes.
Te MefusEdrychwn ymlaen at ein TeMefus Blynyddol yn FestriBethlehem ar nos Fercher, 27Mehefin am 7 o’r gloch.Croeso i bawb.
Capel Bethlehem,
TalybontLlandygáiEthel Davies, Pennard,
Llandygái 353886
Eglwys Sant Tegai
CydymdeimladRydym yn cydymdeimlo gydaRuth, Scott a Callum, 2Pantrafon, Mynydd Llandygái yneu profedigaeth o golli Modryb iRuth (chwaer y ddiweddarNancy Roberts). Bu farw MrsMay Morgan ar 12 Mai yn dawelyng Nghartref Gofal PlasGarnedd, Llanfairpwll, ar eiphen-blwydd yn 91 oed.Cynhaliwyd yr angladdcyhoeddus yn Amlosgfa Bangorar ddydd Iau, 17 Mai. Estynnwnein cydymdeimlad dwys hefyd iGareth, Heulwen a’r teulu oll yneu colled.
DiolchHoffem ddiolch i bawb fu’nllafurio’n galed yn y gwresllethol i dacluso’r fynwent a’rrhodfa o’r drws i’r giat, ar ddyddSadwrn 26 Mai. Mae’n edrychyn ddigon o ryfeddod! Diolch i’rrhai a fu’n tacluso hefyd ynystod yr wythnos – benditharnoch! Roedd y cinio ynNeuadd Talgai yn flasus iawn –diolch ferched. Roeddem ynfalch dros ben cael cwmni MrsSharon Phennah o OgleddCarolina eleni eto a bu’n sgwrsioam yr hyn y mae wedi eiddarganfod ymhellach am eihynafiaid oedd yn byw ynLlandygái yn y bedwaredd ganrifar bymtheg. Cawsom gyfarfod âSharon Phennah yngngwasanaeth y Foreol Weddi arddydd Sul, 27 Mai gyda’r AthroIan Russell yn cymryd ygwasanaeth a Mr Geraint Gillwrth yr organ.
GwaeleddAnfonwn ein cofion at Mrs JaneCouch, Mrs Berys Edwards, MrGwynne Edwards a Mr HarryGross sy’n dal i fod yn wael yneu cartrefi. Brysiwch i wella.
Pen-blwyddDymunwn ben-bwydd hapus iHuw Llewelyn ar 30 Mehefin.Gobeithio y cei ddiwrnod i’wgofio. Rwyt yn lwcus mai arddydd Sul y mae’r dathliad ac nafydd angen i ti fynd i’r ysgol.
DiolchBore Mercher, 2 Mai, daeth yParchedig Ken Padley, Bangor igymryd y gwasanaeth ynabsenoldeb ein ficer, y ParchedigJohn Matthews. Roedd John aSue wedi cymryd egwyl fer iymweld â theulu Sue yn y Fenni.Diolch yn fawr i’r ParchedigKen Padley am ddod atom.Roeddem yn falch o’i gyfarfod.
Rydym hefyd yn falch fod MrJohn Morrell wedi gwella’nddigon da i ddod atom foreMercher. Gwyddom ei fod yncael andros o waith cerdded ondy mae’n mynnu mynd at yr allorbob tro i gael ei gymun. Daliwchati John. Roedd yn braf gweldMiss Nesta Hughes wedidychwelyd o’i gwyliau ac yn ôl
pob sôn wedi mwynhau ei hunanyn ardderchog. Diolch o galon iMuriel am gymryd rhan yn ygwasanaeth, ymorol am y te, ycoffi a’r bisgedi ac am edrych arein holau amser y baned. Maeein dyled yn fawr i chi.
Te Mefusyn
Festri Bethlehem Talybont
Nos Fercher, 27 Mehefin
am 7 o’r gloch nos
Elw at y capel
Neuadd TalgaiLlandygái
Cyfarfod CyffredinolBlynyddol
Nos Fercher 18 Gorffennafam 7.00 o’r gloch
Croeso i Bawb
Sefydliad y MerchedCroesawyd pawb i gyfarfod misMai gan Ann, y llywydd.Yn absenoldeb Sheila darllenoddEirlys y cofnodion.Daeth nifer o ymddiheuriadau i lawac yna darllenodd Ann lythyr yffederasiwn. Nodwyd nifer obwyntiau gan gynnwys y diwrnodrhyngwladol a gynhelir ynLlanberis ddiwedd mis Mehefin.
Un penderfyniad oedd i’w roigerbron y cyfarfod blynyddol eleniac roedd pawb o’r farn bod gwirangen mwy o fydwragedd i’rGwasanaeth Iechyd Gwladol. MaeDwygyfylchi i bleidleisio ar einrhan yn Llundain.Cafwyd swper bach wedi eiddarparu gan yr aelodau. Enillwydy raffl gan Nancy Williams.
CydymdeimloCydymdeimlwn â Mr a Mrs MerfynJones, 21 Pentre Llandygái a’r teuluyn eu galar o golli chwaer yngnghyfraith Merfyn, sef MrsMargaret Hefina Jones, MaesHyfryd, Gaerwen yn 63 mlwydd.Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ar 8Mai a chynhaliwyd ei hangladd ynAmlosgfa Bangor ar ddydd Iau, 17Mai. Mae’n meddyliau gydagEdwin ei gŵr, a Karolyn, Nicola,a’u teuluoedd.
Newyddion TristYchydig dddyddiau cyn i’r Llaisfynd i’r wasg clywsom amfarwolaeth Miss Betty Ellis, Cil-Marian, Bryn, Llandygái yngnghartref nyrsio Brynsiencyn ar 25Mai. Cawn gyfle i ddweud rhagoryn y rhifyn nesaf ond yn y cyfamseranfonwn ein cydymdeimlad dwysafat y teulu a’i ffrindiau.
GwaeleddRydym yn cofio am y cleifion y mishwn eto: Mrs Gill Bullen, Mr a MrsErnie Coleman, Jim a BerylHughes, Mair Leverett, OlwenLytham, Gwen Morsley, BettyWilliams, Dorothy Proudley-Williams, Joan Willis a phawb arallsydd yn wael. Dymunwn adferiadllwyr a buan i bawb.
BingoCynhaliwyd Bingo yn NeuaddTalgai ar nos Fawrth, 15 Mai ac felarfer roedd yn noswaith hwyliogiawn. Roedd Pauline a Raymondwedi bod yn brysur yn trefnu popetha diolch i’r ddau, i’r merched oeddyn y gegin ac, wrth gwrs, i’r rhaioedd yn bresennol.
FfarwelioBydd Tina, Jamie a Jacob, Pennant,Pentre, Llandygái yn symud i fyw iDdwygyfychi, Conwy yn ystod misMehefin. Gobeithio y bydd y tri ynhapus yn eu cartref newydd.Byddwn yn eu colli’n arw ondgwyddom y bydd Jacob yn dod ynaml i weld Nain a Taid yn rhif 21,
YsbytyDymunwn wellhad buan i JohnEdward Jones, Bro Awel, Dolhelyg,a gymerwyd i Ysbyty Gwynedd ynddiweddar.
Hen Daid a NainLlongyfarchiadau i Llew ac EnfysJones, 2 Cae Gwigin, ar ddod ynhen daid a hen nain am yr wythfedtro. Croeso mawr i Lleucu agyrhaeddodd ddiwedd mis Mai.
-
Llais Ogwan 7
Blodau Racca
PENISARWAUNPlanhigion gardd a basgedi crog o’r
ansawdd gorau - gan hogan o Rachub
Ffôn: 01286 870605
Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:
adnewyddu neu o’r newydd
Gweithdy Pen-y-bryn
Cefn-y-bryn, Bethesda
Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001
Gwasanaeth personol ddydd a nos
STEPHEN
JONES
†TREFNYDD
ANGLADDAU
Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau
Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen
Bethesda
Ffôn: (01248) 600763 a 602707
GWASANAETH DYDD A NOS
01248 605566archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol
gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy
ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos
LONDISBETHESDA
Hysbysebwch yn yHysbysebwch yn y
Llais: Cysylltwch â:Llais: Cysylltwch â:
Neville HughesNeville Hughes
600853600853
JOHN ROBERTS
Teilsiwr
Symudol: 07747 628650
Paentiwr
Papurwr
Ffôn: 01248 600995
arbenigwr mewn lloriau coed caled
Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,
adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu
difrodi.
Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909
Posh PawsTacluso Cŵn
Busnes lleol
Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00
Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon
Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen
01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]
Vivien, Amanda, Jenny a NicolaGEmWAITH BO-WEN
GWASANAETH TYLLU CLUSTIAU
601888
Siswrn ArianTrin Gwallt Merched,
dynion a Phlant
aur
Gostyngiad o20%
Os nad mewn sêl eisoes
Ymgymerwr adeiladu agwaith saer
Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid
Bethesda
01248 601052
CaFFi SereNBeTHeSDa
Ffon: 01248 600661
Oriau agorLlun i Gwener: 8.00 tan 4.00Dydd Sadwrn: 8.00 tan 1.00
BWYD CarTreFPryd arbennig (Special) bob dydd
Cinio rhost bob dydd Gwener Bwyd i’w fwyta allan
Croeso cynnes gan Sue a’r staff
-
Llais Ogwan 8
GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]
CydymdeimladAr 7 Mai yn dawel yn Ysbyty Eryri,bu farw Eifion Jones, Bro Eryri,Waen Wen.
Yr oedd Eifion Tyn Ffridd, fel yradnabyddid ef, yn un o hengymeriadau'r ardal. Bu’n amaethuyn Nhyn Ffridd am flynyddoedd acyn danfon llefrith i nifer o strydoeddBangor am gyfnod hir ymmhedwardegau a phumdegau'rganrif ddiwethaf.
Yr oedd Eifion bob amser yn wên igyd ac yn llawn hwyl. Byddai’nderbyn y Llais yn rheolaidd bob misac yn gefnogol iawn i’r papur agweithgareddau cymdeithasol y froac yn barod i gyfrannu tuag atunrhyw achos lleol.
Y mae’n deg dweud ei fod yn un o’rrhai olaf o hen drigolion ei gyfnod abydd colled fawr ar ei ôl.
Cynhaliwyd yr angladd yn EglwysPentir ar ddydd Llun 14 Mai a daethcynrychiolaeth deilwng yno.Cydymdeimlir â’r teulu yn euprofedigaeth, yn enwedig ei ddwyferch Janice a Sandra a’u teuluoedd.
Bingo a Noson GoffiCynhaliwyd Bingo yn y Ganolfan ar18 Mai tuag at Farchogaeth i’rAnabl yn Nhreborth a gwnaed elw o£115. Diolch yn fawr iawn i bawbam eu cyfraniadau tuag at y noson.
Cynhelir y Bingo nesaf ar 27Gorffennaf am 7.30 yh, gyda’r elwyn mynd tuag at Radio YsbytyGwynedd. Byddwn yngwerthfawrogi unrhyw gyfraniadautuag at y gwobrau a’r raffl.
Dymuniadau GorauAnfonwn ein dymuniadau gorau amwellhad buan i Mair Williams,Tyddyn Heilyn, sydd wedi caeltriniaeth yn Ysbyty Llandudno ynddiweddar.
Clwb Cant Y Ganolfan Mis Mai£20: Rhif 90 - Jan Sandham£10: Rhif 76 - Elsie O Jones£10: Rhif 44 - Grace Mudd£10: Rhif 17 - Myfyr Parry
FfarwelPob dymuniad da i Rhys ac Elenid,oedd yn byw yn Nheras Elisabeth,Glasinfryn, sydd wedi symud i fywi’r Felinheli. Mae lleoliad eu cartrefnewydd am fod yn arbennig ogyfleus i Rhys gan ei fod yngweithio fel dyn camera i’r cwmnicynhyrchu teledu, Cwmni Da, syddâ swyddfa yn y Felinheli, yn ogystalâ Chaernarfon.
Pentiranwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir 01248 355686
YsbytyDymunwn wellhad buan i JohnEdward Jones, Bro Awel,Dolhelyg, a gymerwyd i YsbytyGwynedd yn ddiweddar.
Hen Daid a NainLlongyfarchiadau i Llew acEnfys Jones, 2 Cae Gwigin, arddod yn hen daid a hen nain amyr wythfed tro. Croeso mawr iLleucu a gyrhaeddodd ddiweddmis Mai.
GarddwestCynhalwyd ein Garddwestflynyddol eleni yn y Ficerdy,Pentir, trwy garedigrwydd yParch. a Mrs John Matthews arbrynhawn Sadwrn y 26ain o Fai.
Agorwyd yr Arddwest gan einFicer, y Parch. Nia C Williams;ar ôl agor yr arddwest cymerwydyr awenau gan Anwen Thomasa’n harweiniodd drwyweithgareddau’r prynhawn .
’Roedd amryw o stondinau, aHelfa Drysor o amgylch gardd yFicerdy. Enillwyyr yr Helfa oeddCassie a Cara.
’Roedd cystadleuaeth arbennig iblant Ysgol Rhiwlas, sef CwpanGoffa Leslie Crocombe. Yrenillydd yn yr Adran Babanodoedd Keira Bailey HughesBlwyddyn 1, ac enillydd yrAdran Iau oedd Jenny WarrenBlwyddyn 4.Roedd sawl gwahanol raffl sef ,Raffl Plant, Raffl Teisen a RafflLlun, a oedd yn rhoddedig ganAlan Jones, Waun Wen. Yrenillwyr oedd:
Raffl Plant: 1af taleb £25 HMV – Cassie Dodd.Raffl Llun: Bill Perry. Nant Y GarthRaffl Teisen: Nesta Barton, Rhiwen.
Ar ddiwedd prynhawnllwyddianus a fwynhawyd ganlawer diolchwyd i bawb am eucefnogaeth gan y Barch. NiaWilliams.
Yn dilyn yr arddwest cynhalwydbwffe yn y Faenol Arms, Pentir,lle cawsom amser i farwelio a’nFicer, y Barchedig Nia C.Williams a adawodd y Plwyf ary 27 o Fai. Yn ystod y nosoncawsom amser i ddiolch i Niaam ei Gweinidogaeth, eichymorth a’i chyfeillgarwchdros y pedair blynnedd a hannerddiwethaf.
Cyflwynwyd i Nia rodd gan yrEglwys ym Mhentir i ddangosein gwerthfawrogiad o’i gwaithcaled yn y plwyf. Pob lwc Niaar eich pererindod dros fisoeddyr haf a’ch swydd newydd yn yGadeirlan ym Mangor yn MisMedi.
CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad atAnti Maggie ar teulu yn eiprofedigaeth o golli merch, chwaer,gwraig a mam annwyl, sef MrsOlive Jones, Talmignedd, Nantlle.
Dymuno gwellhadAnfonwn ein cofion at Pat Jarvis,Bro Infryn, Glasinfryn, sydd ar hyno bryd yn Ysbyty Gwynedd a PatCook, Rhyd y Groes, sydd ar hyn obryd yn Ysbyty Walton, Lerpwl.Brysiwch wella eich dwy.
BingoCynhelir noson o Fingo yngNghanolfan Glasinfryn, Nos Wener22 Mehefin am 7.30pm. Croesocynnes i bawb.
Te PrynhawnCynhelir prynhawn o sbri DyddSadwrn 21 Gorffennaf yn GlynCottage, Nant y Garth. Byddlluniaeth, stondinau, raffl acadloniant. Croeso cynnes i bawb.
Gerddi’n AgoredMae yna ddwy ardd yn agor i'rcyhoedd dan y "Cynllun GerddiCenedlaethol" ar 7 Gorffennaf.Bydd gerddi Belinda Thompson,Tŷ Uchaf, Pentir a Iwan Thomas aLisa Eagle, 2 Rhyd y Groes ynagor eu giatiau am 12.00 pm ag yncau am 4.00 pm. Hefyd mi fydd tea chacennau a phlanigion ar werthyn Bryn Meddyg, Pentir.Gobeithiwn gael tywydd braf ermwyn mwynhau'r digwyddiad yma- croeso i bawb.
CydymdeimladAr fore dydd Gwener Ebrill 20fedbu i Hilda Mary Keen (Mollie)gynt o Tŷ Nant, 6 Rhyd-y-GroesPentir huno yn dawel yn ei chwsgyn Nghartref Glyn Menai Treborthyn 97 mlwydd oed.
Mae ein cydymdeimlad gyda eibrawd John a’i chwaer ynnghyfraith Sue, ei nithoedd Clare,Sali a’i neiaint Steven ac AndrewGanwyd Hilda Mary Keen ynNottingham ym mis Tachwedd1914.
Pan oedd Hilda tua wyth mlwyddoed, penderfynodd nad oedd ynhoffi yr enw Hilda a dechreuoddalw ei hyn yn Mollie. Ac felly yradnabu pawb hi o hynny ymlaen.
Mynychodd Ysgol UwchraddGenethod Nottingham ac oddi ynoaeth yn ei blaen i Gartref DrBarnardo's i astudio gofal plant.Tair mlynedd wedyn aeth ymlaen iwneud ei chwrs nyrsio yn YsbytyBartholomew yn Llundain adilynodd hyn drwy ennill diplomamewn fferyllyddiaeth.
Penderfynodd Mollie geisio amswydd fel matron mewn ysgol
breswyl i fechgyn. Tra’n gweithioyn Essex rhaid oedd i blant a staffyr ysgol gael eu symud iddiogelwch oherwydd yr ail RyfelByd, ac i Gastell Deudraerth ynMhortmeirtion y symudwyd hwy. Dyma pryd y cychwynodd cariadMollie at Ogledd Cymru.Symudodd yn ôl i Loegr amgyfnod, ond nid oedd Lloegr yncyffwrdd â Mollie yn yr un moddar ol ei harhosiad yn Nghymru.Symudodd i Benrhyndeudraeth iweithio mewn meddygfa ynMhotrhmadog.
Mae llawer yn cofio Mollie ar eibeic yn trafaelio yn ôl ac ymlaendros y Cob ym mhob tywydd. Arymddeoliad Dr Morris symudoddMollie i gychwyn gweithio ynYsbyty Dewi Sant yn Mangor felfferyllydd. Dyma pryd yrymgartrefodd Mollie yn Tŷ Nant,Rhyd-y-Groes, Pentir.
IMae’r rhai a oedd yn adnabodMollie yn gwybod am ei chariad atanifeiliaid, natur, yr awyr agoreda’i gardd. Roedd amgylchedd achadwraeth yn flaenllaw iawnganddi. Ymgyrchodd yn frwd iddiddymu’r defnydd o chwyn-laddwyr yn Mhentir er mwynannog blodau gwyllt i dyfu. Ynfynych iawn ym mhob tywyddbyddai Mollie yn cerdded â’i chi(neu gŵn) i fyny Moelyci, yn amlgyda chath yn eu dilyn am ran ordaith.
MarwolaethAr Mai 17, 2012 yn 100 mlwyddoed, hunodd Ms Nancy Williams,Tan y Grisiau Pentir yn NghartrefPreswyl Plas Hedd, Bangor.
Estynwn ein cydymdeimlad iGeraint, Vivienne, Alison, Dilysa’r teulu oll yn eu colled a’uprofedigaeth.
Cynhaliwyd Gwasanaethcyhoeddus yn Amlosgfa BangorDydd Mercher, 23 Mai gyda’rParchedig John Pritchard yngwasanaethu.
Yn 1939 ymgartrefodd AntiNancy yn Nhan y Grisiau, Pentirgyda’i theulu o Ben y Ffridd,Rhiwlas, ac yno tan yn ddiweddariawn bu Anti Nancy yn byw ynannibynnol gyda cefnogaeth teulua ffrindiau gwych. Bydd colled mawr i ni oedd morfreintiedig chael adnabod Nancy ,neu Anti Nancy fel y gelwid hi ganlawer.
eglwys Sant Cedol
Clwb 100 Mis Mai 2012
1af Rhif 33 Nia Roberts, Rhiwlas
2ail Rhif 36 Ellis Davies, Deiniolen
3ydd Rhif 8 John a Janet Rees, Pentir
eglwys Sant Cedol
-
Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda
602112 (gyda’r nos 602767)Blodau ar gyfer pob achlysur
Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan
Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’
CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda
Ffôn: 01248 602550
Bwyd cartref blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)
Cinio arbennig bob dydd Iau
Bwyd i’w gario allan
Gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon o bob math -
plant, pen-blwydd ac ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)
Cacennau ar gyfer pob achlysur e.e. priodas neu ben-blwydd
Prisiau rhesymol
Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini
Ffôn: (01248) 600072
Meysydd awyr PorthladdoeddContractau
Contractwyr i Wasanaeth ambiwlans Gogledd Cymru
Gorsaf betrolB E R A N
D e i n i o l e nFfôn: Llanberis 871521
ar agor bob dydd 24/7
Petrol • Diesel • Nwy Calor • GloCylchgronau • Papurau newydd Cardiau pen-blwydd • Melysion
Tocynnau loteri Gwasanaeth PAYPOINT ar gyfer
trydan, nwy, ffonau symudol,trwyddedau teledu ayyb
MODURON
PANDY
Cyf.
TregarthGwasanaeth Atgyweirio
Canolfan ‘Unipart’M.O.T.
Ffôn: 01248 600619 (dydd)
Modurdy CentralCeir ail-law ar werth
M.O.T. ar gaelHefyd
Trwsio a Gwasanaeth
Ar Allt Pen-y-bryn, Bethesda 601031
Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *
* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor
Llun – Gwener: 6.00 - 11.00Sadwrn: 3.30 – 12.00
Sul: Pnawn 1.00 - 4.00, Hwyr 8.00 -11.0001248 600219
www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan
Gwyn, Christine a Geoffrey
BISTRO’R BRENIN(Bwyty Trwyddedig)Rydym yn croesawu partïon
o bob math – dathlu pen-blwydd
ac achlysuron arbennig eraill.
Ffoniwch01248 602550
e-bost : [email protected]
MODURDY FFRYDLAS
Perchenogioni.D.Hughes ac a. Ll. Williams
Stryd Fawr, Bethesda PrOFiON M.O.T.
GWaSaNaeTH aTGYWeiriOTeiarS a BaTriS
GWaSaNaeTH TOrri i LaWrNeu DDaMWaiN
600723 Ffacs: 605068
ProfionM.O.T.
01248 361044 a 07771 634195
Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -
tripiau, priodasau, partïon ac ati.
Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens
Torri GwalltiauDynion a Phlant
gan Alison
Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon
Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle
Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol
Ffôn / Ffacs 01286 870882
RICHARD S. HUMPHREYS
Pob math o waith trydanol
Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda
phrofiad diwydiannol
Y Wern, Gerlan, Bethesda
Gwynedd LL57 3ST
Ffôn: 01248 602480
Llais Ogwan 9
-
John Huw evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835
Rhiwlas
Clwb RhiwenTreuliwyd awr ddifyr yn y Clwb ar16 Mai wrth i ni gael y fraint ogroesawu Brenda Wyn Jones,Trgarth i roi sgwrs. Sôn wnaeth hiam yr ifaciwîs a ddaeth i aros i’nbro ar ddechrau’r ail ryfel byd. Yplant druan a orfodwyd i gefnu areu cartrefi a’u rhieni ar fyr rybudda symud i ardaloedd a roddaiiddynt ddiogelwch mewn cartrefidieithr o gyrraedd y bomiau a’r hollerchylltra.
Yr hyn wnaeth ychwanegu at ydiddordeb yn y testun oedd fod daua oedd yn bresennol wedi bod ynffoaduriaid eu hunain. SymudoddPamela Lyddon o Lannau Mersi iRallt Pentir a John Austin oLundain i ardal Wrecsam ac yna iDdyffryn Ogwen.
Hefyd cofiai rhai o’r aelodau amblant o Lerpwl yn cyrraeddRhiwlas ac yn aros yn eu cartrefi.Roedd ambell un wedi cadw mewncysylltiad am flynyddoedd, acambell un fel Marshall Yates wediaros, a chael cartref gyda JohnElwyn ac Enid Jones yn Mronallt.Buan y daeth y plant hyn yn rhugleu Cymraeg wrth fynychu’r ysgol achymysgu â phlant y pentref. Ionaddiolchodd i Brenda. Cyfeiriodd atifel un a oedd yn feistres ar greudiddordeb ymhlith ei gwrandawyr.
Camu YmlaenLlongyfarchiadau i Martha ParryOwen, Aralia, Waun Pentir ar gaelei debyn fel prentis gyda’r GridCenedlaethol o blith nifer fawr ogeisiadau. Bydd y cwrs yn parhauam gyfnod o dair blynedd pryd ybydd Martha yn rhannu ei hamserrhwng Nottingham a gorsaf drydanPentir. Mae Martha yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Rhiwlas,Ysgol Dyffryn Ogwen a CholegMenai, lle bu’n dilyn cwrs mewnpeirianneg.
Mynegi CydymdeimladCydymdeimlwn yn gywir iawngyda Dilys Parry, Bryn Tirion,ynghyd â chysylltiadau eraill MissNancy Williams, Tan y Grisiau,Pentir, a fu farw ddechrau Mai yngant oed. Er mai modryb i’w mamydoedd mewn gwirionedd, fel AntiNansi y byddai Dilys yn eichyfarch ac Anti Nansi oedd hi i’rrhan fwyaf o bobl oedd yn eihadnabod. Ond roedd y berthynascydrhwng y ddwy yn llawer mwyna pherthynas deuluol; roeddent ynffrindiau pennaf. Bu Dilys yngaredig iawn wrthi gydol yblynyddoedd ac Anti Nansi ynwerthfawrogol o hynny, fel yr oeddyn gwerthfawrogi pob cymwynasgan ei theulu a chan gymdogion.
Byddai galw heibio Tan y Grisiauam sgwrs gydag Anti Nansi ynbrofiad i’w drysori. Ei phlentyndodym Mhen y Ffridd, Rhiwlas, fyddai
testun y sgwrs gan amlaf. Minnau âchof plentyn am ei rhieni ac amCeinwen ei chwaer a oedd yn bywgartref ar y pryd. Ei thad ynchwarelwr ac wedi parhau yn ychwarel hyd ei fod dros ei bedwarugain oed. Cadwai dair neu bedair ofuchod godro ar y tyddyn – Ceinwenyn corddi a ninnau fel plant yn galwam laeth enwyn – llond piser amddimai, a ninnau’n chwyrlïo’r pisero gwmpas ein pennau ar y fforddadref heb golli cymaint â diferyn.
Ia, rhyw din-droi o gwmpas Pen yFfridd fyddai’r sgwrs gan ddod agatgofion i’r wyneb oedd wedi hir-helyn y cof. Braint oedd cael eihadnabod.
Noson Gaws a GwinNos Sadwrn, 12 Mai, fe gafwydnoson o gaws a gwin yng nghartrefAlex a Gareth yng Ngharreg y Gath.Roedd y tywydd yn ffafriol iawn acroedd yn ddigon braf i allu treuliopeth amser yn yr awyr agored.Cafwyd croeso arbennig yno a dewisda o gaws a gwin!
Yn bresennol hefyd roedd RhysTrimble sy’n awr yn byw ymMethesda a chafwyd noson ddifyr ynei gwmni. Darllennodd amrywiaetho farddoniaeth, gan gynnwys eiwaith ei hun.
Merched y Wawr,Cangen Rhiwlas.
Cyfarfu’r gangen nos Fawrth, 8Mai, a llywyddwyd y noson ganIona. Roeddem fel aelodau ynmeddwl am Maggie Jones wediiddi gael profedigaeth lem o golliei merch, Olive. Cydymdeimlwydâ Dilys hefyd; bu farw ei hewythrym Milton Keynes.
Cawsom fwy o wybodaeth ambabell y mudiad gan Linda;byddwn yn helpu gyda’r te foredydd Gwener. Hefyd bydd rhai o’raelodau yn plygu’r Llais ym misGorffennaf. Mae’n amser ethol Is-lywydd cenedlaethol ac elenidoedd dim pendroni; dewiswydpleidleisio dros Einir, sy’n aelodo’r gangen. Penderfynwyd ein bodam fynd i Ardd Fôn, y Felinheliam ein swper y mis nesaf.
Ein gŵr gwadd oedd GwilymEvans o Lanberis a chawsomhanes ei hen daid, sef yr un a oeddyn gyfrifol am gynhyrchu OelMorris Ifans. Un o Lanffestiniogydoedd, ac yn sicr roedd yn ddyno flaen ei oes, yn gwybod ynunion sut i farchnata ei gynnyrch.Roedd ganddo bosteri arbennig;rhai Cymraeg wedi eu dylunio ganW. Mitford Davies ac roedd ynargrafffu llythyrau a dderbynioddyn canmol yr oel i’r entrychion.Roedd yn cael ei argymell felmeddyginiaeth at bron pob clwy.Daeth Gwilym a llawer oenghreifftiau o boteli, tuniau abocsys gydag ef i ni gael eugweld. Cytunai pawb ein bod wedicael noson hyfryd a diolchwyd iGwilym gan Gwen. Diolch hefyd iCarol a Sally am wneud y baned.
Gwanaethpwyd £100 o elw atApêl Eisteddfod yr Urdd, Rhiwlasa Phentir. Mae’r Pwyllgor Lleolyn hynod ddiolchgar i Alex aGareth am gynnal y noson ac amy croeso a gafwyd.
Cymorth CristnogolBu’r casglyddion o gwmpas ypentref eto eleni. Dymuna’rtrefnwyr ddiolch i bawb agyfrannodd, boed y swm yn fawrneu’n fach, gan fod pob ceiniogi’w thrysori. Diolchir hefyd i’rcanlynol am eu casglu:Dyddgu Pritchard Owens, DilysParry, Iona Jones, Bethan W.Jones, Rhian Evans, Steffan Job aJohn H Evans.
TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062
Olwen Hills (anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192
Gair o ddiolchDymuna Margaret, Dwynwen,Rhian, Dilwyn a Dylan a theulu’rdiweddar Elfrys Price Jones, 27Bro Syr Ifor, Tregarth, ddiolcham bob arwydd o gydymdeimlada charedigrwydd tuag atynt yn euprofedigaeth. Diolch am ycardiau a’r rhoddion ariannol agasglwyd at elusennau NSPCC a‘Help for Heroes’. Diolcharbennig i’r Parchedig DewiMorris ac i’r meddygon a staffWard Moelwyn, YsbytyGwynedd. Diolch hefyd i nyrsysardal Meddygfa Bethesda, iswyddogion Capel Shiloh ac iStephen Jones am y trefniadautrylwyr.
GenedigaethLlongyfarchidau mawr i Eirwen aWyn Williams a’r teulu, TyddynDicwm, Tregarth am ddod ynNain a Taid i Greta Grug oAberystwyth. Ganed Greta ynYsbyty Glangwili, Caerfyrddin iElwyn a Kate ar Fai 17. MabEirwen a Wyn yw Elwyn acanfonwn ein cofion atynt felteulu. Dyma wneud Nia a Kevin,Tyddyn Dicwm Bach yn fodrybac ewythr i Greta. Dyma’r ailddathliad i’r teulu. Ganed merchfach, Lili Gwenllian i ferchKevin, sef Ceri, a’i phartnerJames ym Manceinion.
LlongyfarchiadauYn ddiweddar gwnaed BetiMorris, Ffordd Tanrhiw, gynt oSling, yn hen nain i Twm Mabon.Ganed Twm i’w hwyres Fflur a’iphriod Gethin Evans ac maent ynbyw yn Clwt y Bont. Mae Ffluryn actores broffesiynol a gwelirGethin yn cyflwyno rhaglen arnos Wener ar y teledu.Llongyfarchiadau i chwithau felteulu.
Yn yr ysbytyBu Alun Owen, Craig y Pandy ynYsbyty Gwynedd yn ystod yrwythnosau diwethaf. Gobeithioeich bod yn teimlo ychydig ynwell Alun.
EGLWYS Y SANTES FAIR,Tregarth
PriodasLlongyfarchiadau i Rhian WynPritchard a Siôn Lloyd MortonPritchard ar achlysur eu priodasar 12 Mai yn eglwys y SantesFair. Gweinyddwyd gan y Ficer,y Parchedig John Matthews, a’rorganydd oedd Mr JamesGriffiths. Pob lwc a dymuniadda i chwi eich dau i’r dyfodol.
GwaeleddDymuniadau gorau am wellhadbuan i Mr Alun Owen, CraigPandy sydd wedi cael triniaethyn Ysbyty Manceinion
Bore CoffiCynhelir Bore Coffi at yr eglwysyn Neuadd Ogwen ar 21Gorffennaf o 10.00 – 12.00 yb.Byddwn yn falch iawn odderbyn unrhyw gacennau,nwyddau, llyfrau a gwobr rafflac ati tuag at yr achlysur, gydagwerthfawrogiad a diolch.
Diolch yn fawr iawn i bawb ameich cefnogaeth i’r Clwb Cant.Eleni ’rydym wedi codi oddeutu£570 at yr eglwys ac wedi taluallan £570 mewn gwobrau.Byddwn yn defnyddio peth o’rarian sydd yn y cyfrif i osodsystem wresogi newydd yn yreglwys gan obeithio y byddwn igyd yn manteiso o’r gwres ygaeaf nesaf ! Mae blwyddynnewydd y Clwb Cant yn dechraumis Mehefin, byddwn yncroesawu aelodau newydd i’rClwb !
Miri Mehefinyng
Nghapel Shiloh,Tregarth
Dydd Sul, 24 Mehefin
Am 2 o’r gloch
Arweinydd Owain Arwel Davies, Bethesda
Cyfeilydd D. Wyn Williams, Tregarth
Te parti i bawb yn dilyn y miriDewch i fwynhau gwledd o ganu.
Llais Ogwan 10
Clwb Cant Y GelliMis Mai
£20 - 2 -Linda Irons£10 -117 - Ann Jones£10 - 9 - Raymond Daxter£5 - 87 - Miss J Gordon
-
Merched y Wawr, CangenTregarth
Yng nghyfarfod mis Mai o’r gangencroesawyd atom J Richard Jones,Llangefni – neu Dic Rhosgoch i’wgyfeillion.
Treuliasom dros awr ddifyr iawn ynei gwmni gan iddo ddarlithio adangos sleidiau am un o feirddamlycaf a mwyaf toreithiog YnysMôn, sef John Evans, a adnabyddiryn well fel y Bardd Cocos. Cawsomenghreifftiau lu o’i waith hynod, yncael eu hadrodd gydag arddeliad ganDic. Pwy all fyth anghofio am yllewod o boptu’r bont wedi iddo euhanfarwoli yn rhai o’i benillionamlycaf.
Gobeithio yn arw y cawnbresenoldeb Richard eto yn ystod ytymor nesaf. Rydym yn mwynhau eigwmni a’i afiaith.
Cawn hanes ein taith flynyddol yn yLlais nesaf.
CAPEL SHILOH
Oedfaon gyda’r nos am 5.30 acYsgol Sul am 10.30 os na nodir ynwahanol.
Mehefin 17 Ysgol Sul
Parchedig Siôn Aled Owen,
24 2 o’r gloch Miri Mehefin,
sef Cymanfa Ysgolion Sul Arfon yn
Shiloh. Arweinydd Owain Arwel
Davies, Bethesda, a’r Cyfeilydd
D. Wyn Williams, Tregarth.
Tê Parti i bawb yn dilyn.
Cynhaliwyd Oedfa ar gyfer y teuluyn Shiloh, fore Sul, Mai 13, arddechrau wythnos CymorthCrisnogol. Cymerwyd rhan ganEsme, Morus, Osian, Hannah,Siwnamis, Caleb, Gwenlli, Aziliz,Huw, Cerys Elen , Elliw a Gwenno.Cafwyd cymorth hefyd gan y rhienisef, Christine Morris Jones, BethanCrowe, Elen Sanderson, AndreaWilliams, Gwenan Efans, FfionKervegent, D.Wyn Williams aGwenda Davies.
Yn ystod y gwasanaeth cafwydcyfle i weld ffilm am Llinos oDrefor yn paratoi ar gyfer taith iSierra Leone yng NghyfandirAffrica. Roedd pentrefwyr Treforwedi bod yn casglu arian yn ddiwydar gyfer Cymorth Cristnogol drwygyfrwng amryw byd o weith-gareddau yn y pentref a’r ardalgyfagos. Yna gwelwyd Llinos yn uno bentrefi Sierra Leone a’r ysgolnewydd a adeiladwyd gydachymorth arian Cymorth Cristnogol.Roedd yn oedfa hyfryd a gwnaedcasgliad tuag at waith CymorthCristnogol gan drosglwyddo £100 iGronfa Cymorth Cristnogol DyffrynOgwen yn dilyn yr oedfa. Diolch ibawb am wneud eu rhan mor dda
Mae dwy o aelodau ffyddlonafCapel Shiloh wedi cael cyfnodaubyr yn yr ysbyty, sef Iris Harper, TŷNewydd , Llandygái, a GwenllïanOwen, Meillionnydd, Tal y Cae.Gwellhad llwyr a buan i’r ddwy.
Mynydd
LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744
GenedigaethLlongyfarchiadau i Iwan a’i gymarar enedigaeth bachgen bach. Hefydi Glyn ac Anwen ar ddod yn daid anain. Dymuniadau gorau i chi i gyd.
Llongyfarchiadau i Helen Menai arenedigaeth merch fach. Lotti. Hefydi Buddug a Hefin ar ddod yn nain athaid. Cofion atoch chi a’r teulu.
GwaeleddAnfonwn ein cofion at Mr GwilymBullock sydd ddim yn dda. Cofionat Carys O’Connor sy’n dioddef o’rEryr a hefyd at Maureen sydd ddimrhy dda.
Dymuniadau GorauDiolchwn i’r Barchedig Nia Williamssydd yn gadael ar ôl 5 mlynedd. Byddcolled fawr ar eich ôl. Diolchwn ambob cymwynas a charedigrwydd acam eich gwaith caled yn ein plith. Poblwc a dymuniadau gorau yn eichswydd newydd yn y Gadeirlan.Cafwyd cinio yng Nghaffi Coed yBrenin i Nia ac aelodau Eglwys ySantes Ann a’r Santes Fair. Achlysurtrist ond pawb wedi mwynhau! Diolchi Karen a Lynda am y wledd a’rcroeso.
Clwb 100 Canolfan Tregarth
Mis Ebrill33 Marian Griffiths £15
12 Richard Griffiths £10
19 Arthur Williams£ 5
Mis Mai2 Owena Jones £15
9 Sara Oliver £10
12 Sulwen Jones £ 5
Llais Ogwan 11
Eglwys y Santes Ann a’r Santes Fair
17 Mehefin: 9.45 Boreol Weddi24 Mehefin: 9.45 Cymun Bendigaid1 Gorffennaf: 9.45 Gwasanaeth Teulu8 Gorffennaf: 9.45 Cymun Teuluol15 Gorffennaf: 9.45 Boreol Weddi
Braf oedd gweld cynifer o bobl ynngwasanaeth y Sulgwyn ac yna yny cinio ym Methesda i ddathlu'rcyfnod o bedair blynedd y bu'rficer, y Barchedig Nia Williams ynein gwasanaethu yn St. Ann.Dymunwn yn dda iddi yn eiswydd newydd.
Gyda thymor gwyliau'r haf ynagosau, dymunwn wyliau hapus ibawb - cofiwn yn arbennig einpobl ifainc sydd wedi bod ynsefyll arholiadau dros yrwythnosau diwethaf.
Cofiwn am bawb sy'n sâl ar hyn obryd, ac anfonwn ein cofioncywiraf atoch i gyd.
Gerlanann a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583
Nain a ThaidLlongyfarchiadau gwresog iBrian a Kathy Thomas, Ciltrefnusar ddod yn daid a nain i CaironLee, sef mab bychan eu merch,Joanna, a’i phartner, Richard.Llongyfarchiadau hefyd i JoanEdwards, Glanrafon am ddod ynhen nain unwaith eto.
Penblwydd yn 60Rydym yn llongyfarch DewiGriffith, Ciltrefnus, ar ddathlu eiben-blwydd yn 60 oed ynddiweddar. Aeth y teulu iddathlu’r achlysur i Tenerife.Gobeithio iti gael penblwydd i’wgofio Dewi, a phob dymuniad dai’r dyfodol.
Hanner cantLlongyfarchiadau calonnog iShirley Morris, Ciltrefnus, arddathlu ei phen-blwydd yn 50oed. I Lanzarote y mae Shirley a’rteulu yn mynd i ddathlu. Pobhwyl i tithau, Shirley. Mwynha’rdathlu, a dymuniadau gorau i ti
DeunawMae dau o’r ardal yn dathlu eupenblwydd yn ddeunaw oed y mishwn. Y cyntaf yw Siôn WynOwen, Waun Gwiail, a chaiff eiddilyn yn ddiweddarach yn y misgan Mark Speddy, Stryd yFfynnon. Gobeithio y cewch eichdau ddiwrnodau i’w cofio yndathlu’r pen-blwydd. Eindymuniadau gorau i’r ddauohonoch ar gyrraedd eich deunaw
oed, a phob dymuniad da i’rdyfodol.
ProfedigaethRydym yn cydymdeimlo’nddwys gyda Nerys Costello,a’r hogiau, Brian a Craig,Stryd y Ffynnon, yn euprofedigaeth o golli gŵr athad annwyl, sef y diweddarBrian Costelloyn dilyngwaeledd blin. Derbyniwch igyd ein cydymdeimlad felardal. Ein cydymdeimlad,hefyd, i Rhiannon a MartinSturrs, Stryd y Ffynnon, yneu profedigaeth o gollibrawd-yng-nghyfraith
CydymdeimloRydym yn cydymdeimlo’nfawr iawn gyda JaneWilliams, a’r teulu, Stryd yFfynnon, yn eu profedigaethlem o golli mab annwyl, ydiweddar Alan, a fu farwtrwy ddamwain yn Sheffield,ac yntau ond yn 24 oed.Rydym i gyd yncydymdeimlo’n ddwys gydachi wedi clywed ynewyddion brawychus athrist.
Cartref newyddCroeso i Karen Roberts a’rplant i’w cartref newydd ynStryd Goronwy. Dod yn eihôl i’r Gerlan mae Karen ganmai yn Stryd y Ffynnon yganed ac y magwyd hi.Gobeithio y byddwch ynhapus iawn fel teulu yn einplith.
Y CabanCynhelir Cyfarfod Blynyddoly Caban am 7.00 ar yr ail oOrffennaf yn y Caban.Croeso cynnes i bawb.
Mae’r band lleol, Vintage Magpie, sy’n cynnwys dau o bobl ifancyr ardal, Elin Cain, Ffordd Gerlan, a Callum O’Marah, Gerlan,wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar, gan berfformio yngNgwesty’r Llangollen, ac yn y clwb enwog, y Cavern, yn Lerpwl.Maent yn perfformio hefyd ar faes yr Eisteddfod yng Nglynllifon.Da iawn chi, a phob llwyddiant i’r band i’r dyfodol.
Llwyddiant Band
-
Llais Ogwan 12
O’r CyngorCyngor Cymuned Bethesda
Rhybudd hysbysebu sedd wagMae trefn newydd ar gyfercyfethol ac mae ffurf y rhybuddwedi newid. Dylai unrhyw raisydd eisiau cael eu cyfetholwneud cais ysgrifenedig i Glerc yCyngor. Penderfynwyd rhoddi'rrhybudd ar hysbysfwrdd yCyngor
Teledu GorffwysfanDerbyniwyd e-bost gan y Cyng.Ann Williams yn cadarnhau nadyw defnyddwyr Gorffwysfaneisiau'r defnydd o deledu yno.Penderfynwyd ceisio am ad-daliad ar y drwydded deledu apheidio â gosod blwch digidolyno.
Ail Rybudd Gorchymyn CyngorGwynedd (Lon Ddŵr, Bethesda)(Gwaharddiad TrafnidiaethTrwodd Dros Dro) 2012.Daw’r gorchymyn i rym ar 28Mai er mwyn caniatau gosoddwythellau BT o dan y ffordd.
Parc Cenedlaethol EryriGwahoddiad i Ddiwrnod Agoredy Gyfarwyddiaeth Rheoli Tir ymmhencadlys y Parc ymMhenrhyndeudraeth ar 19Mehefin 2012. Mae’rGyfarwyddiaeth yn cynnwyspedwar maes gwasanaeth sef: yGwasanaeth Amaethyddiaeth aChadwraeth, yr AmgylcheddNaturiol a Choedwigaeth,Wardeniaid a Mynediad, acAddysg a Chyfathrebu
Lansiad Cynghrair CymunedauCymru Gwahoddiad gan Gymdeithas yrIaith Gymraeg ar gyfergweithgaredd ar nos FercherMehefin 6 am 7.30 yn NeuaddGoffa Penygroes. Bydd hyn ynrhan o weithgarwch yGymdeithas yn EisteddfodGenedlaethol yr Urdd. Neilltuirrhan o’r noson i lansio llyfrnewydd Carl Clowes.
Camerâu Cylch-Cyfyng ynardal Stryd Fawr BethesdaNi fyddai system o’r fath o lawero werth i’r ardal heb gaelswyddog monitro a byddai angencael linc i’r ystafell monitro yngNghaernarfon. Byddai yn llawerrhy gostus (degau o filoedd) caely linc ac efallai na fyddai ddimond yn symud y broblem i rannaueraill o’r pentref. Bydd y SCCHHeddlu Gogledd Cymru yn ceisiocael y camera dros dro yn ôl i’rardal ger siop Spar. Eisoes roeddy Cynghorydd Ann Williams a’rClerc wedi cyfarfod a chwmniCCTV Systems i edrych arsystem heb gael y linc ond nifyddai system o’r fath yneffeithiol oherwydd na fyddaiddim ond yn gallu recordio ac niellid chwyddo'r lluniau i gaelmwy o fanylder. Felly, ni fyddaiyn effeithiol dros y pellterangenrheidiol.
Eisteddfod yr Urdd 2012Llythyr yn gofyn a oes gan yCyngor ddiddordeb mewn prynufflagiau coch, gwyn a gwyrdd(bynting) i groesawu'r Eisteddfodi’r ardal. Penderfynnwyd prynubynting a’i osod yn ardalBethesda. Y Cynghorwyr E MaryJones (Cadeirydd 2012-13), WalterWilliams a’r Clerc i weithredu.
Welsh Slate Ymgynhoriad â’r Gymuned ynymwneud â datblygiad arfaethedigyn Chwarel y Penrhyn - Cynhelirarddangosfeydd cyhoeddus yn ymannau canlynol:- Neuadd GoffaMynydd Llandygái ar ddydd Llun20 Ebrill 12:00 tan 8:30 a ChlwbRygbi Bethesda ar ddydd Mercher11 Ebrill o 12:00 tan 8:30.Cadarnhawyd fod nifer o’r aelodaua’r Clerc wedi mynychu a'i fod yngyflwyniad da i’r datblygiadau.
Polisi Rhoddion neu Nawddi sefydliadau elusennol amudiadau lleol.
• Dylai’r Cyngor, fel rheol,ganiatáu nawdd i fudiadau asefydliadau lleol o fewn DyffrynOgwen yn unig, ond cytunwyd ydylid rhoi ystyriaeth arbennig i raisefydliadau cenedlaethol megis yrEisteddfod Genedlaethol a’r Urdd.
• Ceisiadau o hyn ymlaen igyrraedd y Clerc erbyn diweddmis Rhagfyr, gyda’r dyraniadaui’w gwneud yng nghyfarfod misIonawr y Cyngor. Dylid hysbysu’rnewid hwn yn Llais Ogwan.
• Pan dderbynnir cais, dylid anfonllythyr o gydnabyddiaeth at bobymgeisydd gan egluro’r drefnddyrannu ac i ofyn am gopi o’radroddiad ariannol neu gyfriflen.
Menter Iaith Dyffryn Ogwen -Tesco Bethesda - Copi o lythyr atTesco yn gofyn iddynt weithreduegwyddorion yn ymwneud â’riaith Gymraeg yn eu siop newydd.Maent yn gofyn yn benodol iddyntddilyn Strategaeth Iaithgenedlaethol Llywodraeth Cymru,sef Iaith fyw: Iaith byw 2012.Penderfynwyd gyrru llythyr atTesco yn cefnogi safbwynt yFenter Iaith.
Cyngor Cymuned Llanllechid
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddolar 14 Mai, 2012 yn Festri CapelBethleham Talybont.
Yn bresennol: Y Cynghorwyr Margaret Fernley,Megan Tomos, Rhian Haf , KevinWilliams,Wyn Bowen Harries,Karen Desch, Jaqueline Hughes,Stephanie Jones.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gany Cynghorwyr Meirion Davies,Darelle Smith a Dafydd Meurig.
Ethol swyddogion:Cadeirydd: Y Cynghorydd Meirion DaviesIs gadeirydd: Y Cynghorydd Megan Harries,Megan Tomos, Margaret Fernley
Is-bwyllgor Llwybrau/Cyllid:Kevin Williams, Margaret Fernley,Megan TomosPwyllgor Neuadd Talgai: Margaret FernleyPwyllgor Traeth Lafan: Wyn Bowen HarriesPwyllgor Llys Dafydd: I'w benodiTŷ Newydd: Karen Desch a Jacqueline HughesUn Llais Cymru: Darelle SmithPartneriaeth Ogwen: Megan Tomos a Kevin Williams.
Yn dilyn y cyfarfod blynyddolcynhaliwyd cyfarfod cyffredinolmis Mai gyda'r Is Gadeirydd, yCynghorydd Megan Tomos yn ygadair.
Er nad oedd yn bresennol roeddDafydd Meurig wedi cysylltugyda'r clerc i adrodd ei fod wedicyfarfod â swyddog trafnidiaeth ary safle ac roedd y swyddog wedicadarnhau bod y safle yndderbyniol. Roedd swyddog eiddoo'r Cyngor Sir hefyd wedicadarnhau nad oes gwrthwynebiad iosod hysbysfwrdd ar y safledewisedig. Fodd bynnag, byddrhaid cael caniatâd cynllunio.
Derbyniwyd cais arfaethedig i gaurhan o ffordd diddosbarth gerTalybont. Trafodwyd y cais ac febenderfynwyd cefnogi'r cais i gaurhan o'r ffordd.
Derbyniwyd copi o lythyr ganFenter Iaith Dyffryn Ogwen ymaent wedi ei yrru at gwmni Tescoi sicrhau gwasanaeth trwy'rGymraeg i drigolion y dyffryn panagorir y siop ym Methesda. Cafwydcais i'r cyngor cymuned gefnogitrwy ysgrifennu at Tesco yn yr unmodd. Penderfynwyd llythyru âTesco.
Derbyniwyd cais cynllunio ganBarc Cenedlaethol Eryri i osodffenestr do fwy, a chais ôl-weithredol i osod ffliw ar gyfer stôfgoed yn Hen Capel Peniel,Llanllechid. Trafodwyd y cais acnid oedd unrhyw wrthwynebiad.
Cyngor Pentir
Yng nghyfarfod mis Mai o'rCyngor etholwyd y Cyng DewiJones, Penrhosgarnedd yngadeirydd am y flwyddyn 2012-13gyda'r Cyng Lowri James, Pentiryn Is-gadeirydd.
A4244 Derbyniwyd adroddiad gan y CyngLowri James yn dilyn cyfarfod arsafle y ffordd uchod. Yn bresennol'roedd cynyrchiolwyr o'r Heddlu, yCyngor Sir, Parchu Pentir a’rCyngor Cymuned ynghyd ag AlunFfred Jones A.C. Teimlai maicyfarfod digon siomedig ydoedd ary cyfan a bod yr heddlu yn bendantyn erbyn gosod cyfyngiad argyflymder ar y ffordd. Serch hynny,
adroddodd fod cyfarfod arall i'wdrefnu yn swyddfeydd y cyngor Sira hynny mae'n debyg yn ystod misMehefin.
Tŷ Coch, GlasinfrynDerbyniwyd gwybodaeth y bydd
gwrandawiad i Apêl perchennog yreiddo uchod i benderfyniad yCyngor Sir i wrthod hawl cynllunioi drosi tai allanol yn ddau fwthyngwyliau ac un anedd. Mae'r CyngorCymuned wedi gwrthwynebu’r caisar sail cyflwr y ffordd a'rposibilrwydd o gynnydd mewntrafnidiaeth os aiff y cynllun yn eiflaen. Mae pryder hefyd am yposibilrwydd o orlifo ar y safle.Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnalyn neuadd Glyder Fawr, Penrallt,Caernarfon ar Fehefin 26 am 10.00o'r gloch.
CaerhunDerbyniwyd cais gan BwyllgorLlais Cymuned Caerhun i gaelgosod hysbysfwrdd yn y pentref ahefyd i wneud gwaith cynnal achadw ar y gysgodfan bws leol.
Wedi trafodaeth fe benderfynwydgofyn am brisiau am hysbysfyrddaui Gaerhun, Pentir, Glasinfryn aPhenrhosgarnedd o faint 2' x 2'Soniwyd hefyd y gallai trigolion yr
ardal, trwy wahanol Gymdeithasaudderbyn cyfrifoldeb am y byrddauunwaith y bydd y Cyngor wedi eugosod. Nodwyd y bydd angen hawlcynllunio i osod rhai ym Mhentir,Glasinfryn a Chaerhun. Ynglŷn â'rgysgodfan bws penderfynwydgofyn i Mr Gwyn Williams dorridrain/gwair o amgylch y gysgodfaner mwyn gweld maint y gwaithsydd ei angen arno.
Gwasanaeth PostTrafodwyd lythyr gan JamesGriffiths yn nodi ei siom fod y postyn yn yr ardal yn cael ei ddosbarthuyn hwyr iawn. Dilynwyd y matergan y Clerc a chafodd ymateb gan ySwyddfa Bost yn nodi fod yramseroedd y mae'r Post yn cyrraeddBangor wedi newid.
Eglurwyd y byddai'r post yncyrraedd rhwng 3-4 o'r gloch y boredro yn ôl, ac wedi ei ddidoli ybyddai'r postmon ar y ffordd erbyn6.30 -7.00 o'r gloch. Erbyn hyn nidyw'r llythyrau yn cyrraedd yGanolfan ym Mangor tan 7.30, sy'ngolygu ei bod wedi 9.00 o'r gloch ary postmon yn cychwyn ar ei daith.
Eglurwyd hefyd fod y Llywodraethyn caniatau i lythyrau gael eudosbarthu i fusnesau a chartrefierbyn 4.00 o'r gloch y prynhawn,hynny heb gosb ar y PostBrenhinol. Teimlai Mr Griffiths nadyw hyn yn deg â thrigolion yr ardal.Cafodd y Clerc hefyd gyfle i holiynglŷn â blwch postio Caerhun,sydd wedi cael ei dynnu oddi ynoar ôl cael ei daro gan gar ers drosflwyddyn bellach.
Bwriad y Post Brenhinol yw gosodblwch postio newydd ger StadCaerhun. Er mwyn gwneud hynrhaid wrth hawl cynllunio, ond hydy gŵyr y Cyngor nid yw'r Post wedigwneud cais hyd yma.
-
Llais Ogwan 13
CYSTADLEUAETHGOLFF EISTEDDFOD YR
URDD
Dydd Sadwrn. Mai 19, cynhaliwyd Cystadleuaeth Golffarbennig ar Gwrs Golff Sant Deiniol. Cystadleuaethoedd hon oedd wedi ei threfnu gan aelodau o BwyllgorApêl Codi Arian Bethesda a Llanllechid at Eisteddfodyr Urdd Eryri, pwyllgor bychan sydd wedi bod ynhynod o brysur dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynceisio cyrraedd y targed o £19,000 a roddwyd i’r ardal.Trwy garedigrwydd Pwyllgor y Clwb Golff, a roddoddy cwrs inni am y diwrnod heb godi’r un geiniog,trefnwyd cystadleuaeth i dimau o 4, a chystadleuodddros 90 o olffwyr, y mwyafrif helaeth yn aelodau oGlwb Golff Sant Deiniol. Llwyddodd y diwrnod i godi£685 at y targed, trwy dâl mynediad y cystadleuwyr araffl arbennig a drefnwyd. Braf yw cael nodi fod targedyr ardal bellach wedi ei gyrraedd, diolch i nifer oweithgareddau amrywiol dros y cyfnod, cefnogaeth haely Cynghorau Cymuned, ac unigolion lluosog agyfrannodd o’u hamser ac yn ariannol.
Hoffai trefnwyr y diwrnod Golff ddiolch o galon i’rcanlynol am noddi’r gwobrau.
C L Jones Bethesda, Cyflenwyr Defnyddiau Adeiladu;G L Jones Bethesda, Meysydd Chwarae; ModurdyCentral, Bethesda; Tafarn y Tarw, Bethesda; Ron Jones,Adeiladwyr, Rachub; Modurdy Ffrydlas; KennyRoberts, Toeau Bangor; Stephen Jones, YmgymerwrAngladdau, Bethesda; So Chic, Bangor.
Heb gefnogaeth hael y noddwyr, ni fyddai’r swm mawro arian wedi bod yn bosibl.
Diolch, hefyd, i bawb a gyfrannodd wobrau at y raffl
Hoffem ddiolch yn arbennig i Bwyllgor Glwb GolffSant Deiniol am ganiatau i ni ddefnyddio’r cwrs igynnal y gystadleuaeth, ac i bawb a fu’n cystadlu ynystod y dydd. Heb gefnogaeth y Clwb a’r aelodau nifyddai’r diwrnod wedi bod yn bosibl.
Canlyniadau’r Gystadleuaeth,
1 Aled Hughes, Alan Hughes, Steffan Evans, S Haynes, gyda sgôr o 1212 A Gwyn Jones, JD Williams, Ieuan Roberts, RhysParry gyda sgôr o 1193 Owen Blydenstein, Stephen Morris, DafyddPritchard, Siôn Morris gyda sgôr o 115Y ddreif hiraf Mathew BastonAgosaf at y twll: 8fed J Richards, 17eg MathewBaston
Enillwyr y Raffl 1 Cyril Morris 2 Derek Owen 3 Mike Bryant 4 Gareth Jones 5 Kenny Roberts 6 Owain RhysMorgan 7 Elin ac Eiry Owen 8 Sheila Phillips 9 Mike Bryant 10 Sioned Mai Jones 11 Nia Llwyd
Cyngor Cymuned Llandygái
Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol yn NeuaddGoffa Mynydd Llandygái. Etholwyd yCynghorydd Rhys M. Llwyd yn gadeirydd a’rCynghorydd Dafydd Owen yn Is-gadeiryddam y flwyddyn 2012 – 2013.
Estynwyd croeso i ddau aelod newydd sef yCynghorydd J. Clifford Jones a’r CynghoryddEmyr Parri. Cyfetholwyd Mrs Elin Sandersoni’r sedd a oedd yn wag yn dilyn yr etholiad.
Diolchwyd i’r Cynghorydd Mrs Mair OwenPiece am ei llafur a’i hymroddiad yn ystod eithymor fel cadeirydd a dymunwyd yn dda i’rswyddogion newydd ac i’r Cynghorydd GwenGriffith ar gael ei hail ethol i’r Cyngor Sir.
Etholwyd y Cynghorwyr Rhys M. Llwyd aMrs Angharad Williams ar bwyllgor CanofanTregarth, y Cynghorydd Mrs Einir Frodshamar Bwyllgor Neuadd Goffa Mynydd Llandygáia’r Cynghorydd Mrs Mair Leverett arBwyllgor Neuadd Talgai. Bydd y CynghoryddMrs Mair Owen Pierce ar y CydbwyllgorGwarchod Cymunedol, y Cynghorydd MsLynn Ashton ar Lywodraethwyr YsgolBodfeurig, y Cynghorydd Emyr Parri ar YsgolTregarth a’r Cynghorydd Mrs Mair Leverett arYsgol Llandygái. Cynrychiolir y Cyngor arBwyllgor Ardal Un Llais Cymru gan yCynghorwyr Rhys M. Llwyd, Dafydd Owen aMrs E. Frodsham. Bydd y Cynghorydd DafyddOwen ar Dîm Prosiect Bangor a’r CynghoryddMrs Gwen Griffith yn cynrychioli mewncyfarfodydd gyda’r heddlu. Y CynghoryddMrs Einir Frodsham fydd yn cynrychioli’rcyngor ar Bwyllgor Cyswllt Chwarel yPenrhyn.
Mae’r Cyngor Sir wedi trefnu i ymchwilio ibroblem llifogydd a byddir yn cysylltu ynglŷnâ baw ceffylau ar Lôn Las Ogwen a goleuadaucyhoedddus yn yr ardal. Penderfynwydcefnogi llythyr Menter Iaith Dyffryn Ogwen arTesco.
D. E. HUGHESa’i fe ib ion cyf
YMGYMerWYr aDeiLaDauN.H.B.C.
Gardd eden, Stryd Fawr,rachub, LL57 3HF
Ffôn a Ffacs 01248 602010
Plaid Cymru,
Cangen
Dyffryn Ogwen
Cynhaliwyd cyfarfod Nos FawrthMai 29 gyda Paul Rowlinson yny gadair.
Llongyfarchwyd y cynghorwyrcanlynol ar eu hethol yn enwPlaid Cymru:-
Cyngor Llandygai: Emyr Parri, John Clifford Jonesac Elin Sanderson
Cyngor Llanllechid:Darelle Wyn Smith
Derbyniwyd newyddion da ganysgrifennydd aelodaeth y gangenbod amryw o aelodau newyddwedi ymaelodi yn ystod yflwyddyn.
Yng ngweithlen Mai/Mehefincafwyd neges gan Leanne Woodeto yn datgan bod nifer yraelodau yn cynyddu ac maiymlaen yw’r nod.
Cynhelir yr Ysgol Haf ynLlangrannog a’r GynhadleddGenedlaethol yn AberhondduMedi 14-15.
Diolchwyd i bawb am eu gwaithymgyrchu yn ystod yr etholiadsirol a llongyfarchwyd yCynghorwyr Dafydd Meurig,Ann Williams a Dyfrig Jones arddod yn aelodau o GyngorGwynedd am dymor pellach.Diolchwyd hefyd i Dafydd Owenam ddod mor agos at lwyddiantyn dilyn ymgyrch galed ynNhregarth a Mynydd Llandygai.
Yn sgil yr hyn sy’n digwydd yn ychwarel ar hyn o bryd gydallawer o’r gweithwyr ar bedwardiwrnod yr wythnos o waithtrefnodd y Cynghorydd AnnWilliams bod aelod y cynulliadAlun Ffred yn ymweld â’rchwarel gyda hi. Bydd yr A.C. yncodi’r mater yn y Cynulliad ganbod y sefyllfa yn creu pryder.
Trefnwyd ein bod yn cael stondinyn y sioe amaethyddol gydagwahoddiad i Alun Ffred A.C. aHywel Williams A.S. Bydd yrA.C. hefyd yn ymweld agysgolion Abercaseg a Phen yBryn. Diolchwyd i’r timBalchder Bro lleol am osodbasgedi crog i harddu’r ardal.
Cyn terfynnu anrhegwydCeinwen Evans gyda phlanhigyno degeirian am ei blynyddoedd owasanaeth fel ysgrifennydd.
Cofiwch bod croeso i chi ymunoâ Phlaid Cymru ar unrhyw adeg.Cysylltwch â Neville Hughes ar01248 600853 [email protected]
Paul Rowlinson, Cadeirydd Cangen Plaid CymruDyffryn Ogwen yn cyflwyno rhodd i
Ceinwen Evans, i ddiolch am ei holl waith fel einYsgrifennydd dros nifer o flynyddoedd.
Llys Dafydd, Bethesda
Canolfan Awyr Agored
Dyffryn Ogwen
PriSiau LLOGi£10 am sesiwn o 4 awr
(e.e. 9.00 y bore i 1.00 y pnawn;1.00 i 5.00 neu 5.00 i 9.00 yr hwyr
£10 yn ychwanegol am ddefnyddio’rCIOSG
Gostyngiadau am ddiwrnod cyfan
£50.00 ychwanegol am logi pabell
Cysyllter â Caren Brown,14 Ffordd Gerlan, Gerlan, Bethesda,
LL57 3ST (602509)
-
Llais Ogwan 14
Symudol 078184 10640 01248 601 466
OWEN’S TREGARTH
Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr
Cludiant Preifat a Bws Mini
01248 60226007761619475
Plymio a GwresogiTŷ Capel Peniel, Llanllechid
Rhif Corgi 190913
Tony Davies
AR DRAWS1. Gofyn pa reswm sydd i fynd yn
ôl i gael golwg ar y map (3)3. Ap mewn cilt (3)5. Chdi barddonol efallai (4)8. Siarad efo chi’ch hun, mewn
drama weithiau (5)9. Er y dryswch, mae oll yn deg
wrth ei llusgo at y cyfrifiadur (7)10. Un sy’n creu Cerdd Dant (7)12. Sion, y cyflwynydd radio a
theledu, ac yn fenywaidd (5)13. Hattersley a Jenkins, hoelion
wyth i Lafur gynt (3)15. Gwaedd gymysg i ddangos barn (5)17. Llestr pren i ddal cynnyrch y
fuddai (3)19. Haul a hindda, gwynt ac eira (5)20. Wedi ein copïo ni, crewyd yr un
bach pren (7)23. Ffefrynnau E.R.II (1,6)24. Gwynto’n ddrwg o’r de i’r
gogledd (5)25. Dangos perchnogaeth (4)26. Mae un goch yn Llantysiliog (3)27. Mynd efo’n gilydd (3)
I LAWR1. Mae aelodau y grwp oll yn
pendroni a thrafod (7)2. Yr unig ŵr aeth i nôl y deg a’u
malu, er i lawer iawn eu torri wedyn (5)
3. Amser byr i’r cyntaf ynghanol yrhai distaw (5)
4. Chaiff o nac aur nac arian nac efydd yn Llundain yn haf 2012 (5)
5. Gormod o drafnidiaeth ar y ffyrdd sy’n creu y rhain (7)
6. Cwyro a chaboli oedd yn cadwrhai derw Cymru
ar eu gorau (7)7. Ei ---- ; dweud pwy ydyw (4)
11. Mae o’n rêl hen --- ; gallai fod yn Sais yn Llywodraeth Cynulliad Cymru (3)
14. Gwneud eich hun yn ddewrach(7)
15. O’r plentyn i’r oedolyn (7)16. Balm. (3)18. Os i mewn y cadwch eich
teimladau cymysg ni fedrwch ei ddangos (7)
19. Mae gan giaffar Drefain ddau ohonynt, wan a tŵ (4)
20. Rhoi hergwd. (5)21. Dryswch doniol heb yr hanner
cant sy’n cytuno (5)22. Hen arferiad Cymreig o
grwydro’r wlad i ganu acadrodd stori am eich bwyd a’ch cynhaliaeth (5)
ATEBION CROESAIR MAI
AR DRAWS 1. Gwresog; 5.Bwced; 8. Dethol; 9. Eithafol; 10.Tragwyddol; 12. Ein; 13. Cwt glo;14. Iasoer; 17. Aer; 18. Diflaniad;20. Amaethwr; 21. Amcan; 23.Cath ddu; 24. Dydd Gwyl.
I LAWR 1.Godot; 2.Ruth; 3. Sul,gwyl; 4. Gweiddi; 5. Bethel; 6.Cyfoethogi; 7. Delynor;11. Anturiaeth; 13. Crafanc; 15.Arabaidd; 16. Y Foryd; 18. Dathlu;19. Dynol; 22. Cyw.
Croesair Mehefin 2012
Enw:
Cyfeiriad:
‘Croesair Mehefin’ Bron Eryri, 12 Garneddwen, Bethesda. LL57 3PD.
Yr unig gamgymeriad y mis hwnoedd yr un a wnes i !!!Anghofiais roi cliw 22 I Lawr ichi. Ond gan eich bod yn griwmor ddeallus yr oedd yn amlwg ibawb ohonoch mai ‘Cyw’ oeddyr ateb, felly nid amharodd arymgais neb. Llongyfarchiadauam ddod yn gyntaf allan o’r het ymis yma i Dulcie Roberts, 1 Ffrwd Galed, Tregarth, LL574PF. Da iawn y gweddill ohonochhefyd am atebion hollol gywir :Heulwen Evans, Dilys Parry, Jean
Vaughan Jones, Rhiwlas;E.E.Roberts, Llanberis; Doris Shaw,Bangor; Emrys Griffiths,Rhosgadfan; Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch; Gareth W. Jones,Bow Street; Karen Williams, ElfedEvans, Llanllechid; Jean Hughes,Talybont; Rosemary Williams,Tregarth; Ann Carran, Anne Smith,Rita Bullock, Bethesda.Atebion erbyn dydd Mercher, 4Gorffennaf i ‘Croesair Mehefin’Bron Eryri, 12 Garneddwen,Bethesda. LL57 3PD.
C H W i L a i r
Gobeithio na fydd hyn yn ormod o siom i chigystadleuwyr y Chwilair, ond ni fydd y chwilair ynymddangos am rhai misoedd eto. Hoffwn ddiolch ynfawr i chwi oll am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd,a hefyd am y cyfeillgarwch a’r hwyl o fis i fis.
Dyma atebion Mai: Argraffwyr, Banc, Cigydd, Clydwyr,Crydd, Ffotograffydd, Gwerthwr Ffrwythau, Gwesty,Masnachwr Glo, Meddyg, Peintiwyr Tai, Triniwr Gwallt.
Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir:Mair Jones, Ffordd Bangor; Rosemary Williams,
Tregarth; Mrs G. Clark, Tregarth; Eirlys Edwards,Bethesda; Merfyn a Laura Jones, Tregarth; DorisShaw, Bangor; Marilyn Jones, Glanffrydlas Bethesda;Llewela O’Brien, Bangor; Elfed Bullock, Maes yGarnedd Bethesda; Herbert Griffiths, Tregarth.
enillydd Mai oedd: Herbert Griffiths 46 Bro Syr IforTregarth Bangor Gwynedd LL57 4AS
Hysbysebwch eich gweithgareddau
aM DDiM
yn y Llais!
Cysylltwch â Neville Hughes
600853
-
Llais Ogwan 15
NeuaDD OGWeN BeTHeSDa
GYrFa CHWiST26 Mehefin
10, 24, 31 Gorffennaf
am 7 o’r gloch
Dewch i fwynhau nosweithiau difyr
Beth sydd ymlaen yn y Dyffryn?
NeuaDD OGWeN,BeTHeSDa
23 Mehefin: Eglwys Crist, Glanogwen
30 Mehefin: Eisteddfod Dyffryn Ogwen07 Gorffennaf: Clwb Camera Dyffryn Ogwen14 Gorffennaf: NSPCC21 Gorffennaf: Eglwys y Gelli, Tregarth
(Bob bore Sadwrn am 10.00 o’r gloch)
BOreauCOFFi
14 GorffennafMarchnad Cynnyrch Lleol
Llys Dafydd, BethesdaLL52 3LU
10.00 – 2.00www.facebook.com/marchnad-
cynnyrch-lleol-ogwen-local-produce-
market
Taith Gerdded Flynyddol
Llyn Ogwen i Fethesda21 Gorffennaf 2012. Bws i Lyn Ogwen
o’r Clwb Rygbi am 11.30
Bydd cyfle am bicnic ar y daith
Bydd yr arian a godir yn cael ei rannu
rhwng Mudiad Canser a Lwcemia mewn
plant (Ysbyty Gwynedd), HYAS (Hawliau
Plant) gyda chyfraniad at daith Mali
Parry Owen i Hondwras i wneud gwaith
gwirfoddol.
Manylion gan Raymond neu Ann ar
01248 601077
Sesiynau Siarad i Ddysgwyr
Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick 11.00 – 12.00 Dydd Sadwrn cyntaf pob mis
Peint a Sgwrs Douglas Arms Bethesda
20.00 – 21.00
Trydydd Nos Lun pob mis
CYLCH MeiTHriN CeFNFaeSCYLCH Ti a Fi
FFair HaFSaDWrN 23 MeHeFiNLleoliad i’w gadarnhau
Dewch yn llu i gael hwyl. Mwy o fanylion i ddilyn
Cymdeithas
Rhieni a Chyfeillion
Ysgol Glanaethwy
Nos Fercher27 Mehefin
Cynhelir
Helfa Drysorar droed
ym Mharc Menai, Bangorgyda
Soch Rhost
i ddilyn
£5 y pen gan gynnwys bwyd
Ymholiadau: 600627
-
Ysgol Dyffryn Ogwen
Gair o’r dosbarth
Gwobr Dug CaeredinDros y flwyddyn ddiwethaf mae’r disgyblion canlynol wedi bod ynbrysur iawn yn ennill Gwobr Efydd Dug Caeredin:Llifon Ashton, Paul Jones, Rhys Williams, Tomos Lloyd-Williams,Ben Roberts, Chris Roberts, Ashley Williams, Simon Williams.I gyrraedd y nod maent wedi gorfod:-
* Chwarae gemau mabolgampau.* Helpu yn y gymuned gyda nifer o brosiectau i wella’r amgylchedd.* Dysgu sgiliau newydd fel adeiladwaith.* Cymryd rhan mewn cyrsiau awyr agored.* Cerdded 16 milltir gan wersylla am noson a chario popeth
roedd arnynt ei angen ar eu cefnau.
Da iawn chi hogiau, ymdrech ragorol!
Pencampwr Bocsio CymruLlongyfarchiadau mawr i David Florence Blwyddyn 7 ar ddod yn bencampwr bocsio Cymru yn ei gategori pwysau.
Gwerthu Bwyd Iach Diolch i gydweithfa fwyd newydd (‘food cooperative’) sydd wedicael ei sefydlu yn yr ysgol, gall y staff fanteisio ar y cyfle i brynullysiau a ffrwythau iachus a ffres am bris rhesymol. Mae’rgydweithfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru igynorthwyo grwpiau cymunedol i redeg eu cydweithfeydd bwyd euhunain. Mae gan y prosiect gysylltiadau a Her Iechyd Cymru aNewid am Oes.
Mae’r fenter yn cael ei rhedeg gan rai o ddisgyblion yr ysgol. Maentyn cael y cyfle i fod yn gyfrifol am reoli'r prosiect a gwerthu'rcynnyrch o’r gydweithfa fwyd.
Eisteddfod Genedlaethol yr UrddLlongyfarchiadau i ddau ddisgyblsydd wedi ennill gwobrau yngnghystadlaethau gwaith cartref yrUrdd. Enillodd Gruffudd Jones y wobrgyntaf yn y gystadleuaeth 3D iddisgyblion Blynyddoedd 7,8 a 9,
a chafodd Buddug Roberts yr ail wobram gyfansoddi darn Rhyddiaith iflwyddyn 7. Llongyfarchiadau mawri’r ddau.
Noson Cabaret!Bydd disgyblion hŷn yr ysgol yn cynnal noson cabaret yn y TŷGolchi, Bangor ar nos Sadwrn, Mehefin 23. Dewch yn llu ifwynhau noson wefreiddiol o gerddoriaeth amrywiol gan unigolion,deuawdau ac ensemble lleisiol. Bydd yr adloniant yn dechrau am 7.30 ond bydd bwyd ar gael i’warchebu o 6 o’r gloch ymlaen. Cysylltwch â’r Tŷ Golchi er mwynbwcio bwrdd. Bydd mynediad am ddim ond bydd cyfle i gyfrannu tuag at elusenYmchwil Cancr Cymru. Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y noson.
Llais Ogwan 16
Ysgol Llandygái
Cyngor YsgolMae’r Cyngor Ysgol wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ac wedipenderfynnu canolbwntio ar entrepreneuriaeth. Maent wedi cystadluyng nghystadleuaeth YR APRENTIS - yn meddwl am gynllun busnesnewydd . Bydd y disgyblion buddugol yn cael y cyfle i sefydlu achychwyn gweithio ar eu busnes newydd. Pob dymuniad da iddynt.
Tlws Chwaraeon i BawbEnillwyd y tlws am godi y swm uchaf o arian tuag at y fenter uchodgan Ddosbarth Awel- llongyfarchiadau mawr!!
Llysgennad Ifanc y Gemau OlympaiddDewiswyd Leon Hughes fel llysgenad ifanc i’r gemau Olympaidd arran yr ysgol a cafodd y profiad o weithio a chreu gwaith Celf ar ythema Bangor yn Ysgol Glancegin – profiad ardderchog.
Gemau Olympaidd Ysgolion BangorBu rhai o ddigblion yr Adran Iau yn cystadlu yn frwd yn y gemau –cawsant y cyfle i wneud ffrindiau newydd yn ogystal â chael chrys T igofio’r achlysur.
Dosbarth GwawrFel rhan o’u thema Ein Byd Gwyrdd mae’r disgyblion wedi bod ynbrysur yn creu paent newydd gyda gwahanol bowdwr ac wedi bod yncreu amrywiol bethau gyda bocsys - ailgylchu !!!
Dosbarth HeulwenMae’r disgyblion wedi bod yn paratoi at berfformio yn y GwasanaethYsgol – thema y gwasanaeth oedd Y Fflam Olympaidd gan fod niferohonynt wedi gweld y dorch yn teithio o amgylch y fro yn ddiweddar.
Dosbarth Enfys a Thraed BachBu y plant ar drip yn ddiweddar fel rhan o’u thema dosbarth -Trychfilod yr Ardd. Cawsant ddiwrnod i’w gofio yng nghwmni y pilipala gan ddysgu am gylch bywyd y trychfil lliwgar.Diolch i staff Pili Palas am eu croeso cynnes.
Ffair HafCynhelir y ffair ar Nos Wener 29ain o Fehefin am 5 o’r gloch.Croeso cynnes i bawb.
Ysgol Tregarth
Fflam OlympaiddDiolch i bawb a drodd allan i gefnogi Andy Walling, tad Sally tra’nrhedeg gyda’r ffagl Olympaidd ym Mangor. Roedd yn anrhydedd mawri Andy ac yn destun balchder i’r teulu a’r ysgol. Gwisgodd nifer fawro’r disgyblion ddillad yn lliwiau’r cylchoedd olympaidd ar Mai 28ed igofio am y digwyddiad hanesyddol.
Ymweliad GhanaPob hwyl i Mrs Halliday, Miss Humphreys, Miss Rachel a Miss Bethanar eu taith i’n ysgolion partner yn Ghana. Mae’r bedair yn edrychymlaen yn fawr iawn at y profiad a’r antur yno.
Ffrâm Newydd
Bu cyffro mawr yn ddiweddar pan ddaeth ffrâm chwarae newydd i gaeau’r ysgol. Mae’r babanod wedi cael môr o hwyl
yn dringo, sleidio, hongian a neidio!
-
Ysgol Rhiwlas
Garage Band
Bu plant yr adran Iau yn cyfansoddi cerddoriaeth anhygoel gydachymorth Cwmni William Mathias a Cynnal. Roedd pawb wedimwynhau y profiad yn fawr ac i brofi eu doniau cafodd pob un C.D ifynd adra gyda’u cyfansoddiad arno. Y cwbl sydd angen rwan ydy iMrs Green greu dawnsfeydd i gyd-fynd a’r miwsig.
Llais Ogwan 17
TrosglwyddoBraf oedd cael croesawu Mrs Anita Owen o Ysgol Dyffryn Ogwenatom. Cafodd cyfle i siarad gyda Lucy a Nia sy’n trosglwyddo yno ymmis Medi ac mae’r ddwy yn edrych ymlaen yn fawr i fynd yno iymweld yn fuan.
Huw Warren a’i Fand JazzWel, am lwcus – pwy alwodd draw i’r ysgol ond Huw Warren a BandJazz. Gwrandawodd y plant am awr gyfan heb symud (ond am gyfnod oddawnsio i’r gerddoriaeth!) ac wedyn cael cyfle i chwarae rhaiofferynnau. Mawr yw ein diolch i Mrs Carol Williams am drefnu’rymweliad.
Rhieni wedi helpu i ddatblygu ardal tu allan.Diolch hefyd i’r rhieni a fu’n gweithio’n galed yn datblygu’r ardal tuallan i blant y Cyfnod Sylfaen. Bu’r plant hefyd yn peintio’r tŷ bach tuallan gyda Mrs Halstead.
Ysgol Bodfeurig
Gŵyl Tag RygbiCafodd tîm rygbi yr ysgol ddiwrnod bendigedig ar gaeau rygbi Bethesdayn cymryd rhan mewn gŵyl Tag Rygbi. Cafwyd diwrnod prysur iawnyn cystadlu yn erbyn ysgolion eraill yr ardal a dyna braf oedd ennillgwobr ar ddiwedd y dydd am y tîm oedd wedi gwella fwyaf.Llongyfarchiadau mawr hefyd i Macsen o flwyddyn 5 am gael y wobram y chwaraewr oedd wedi gwella ei sgiliau fwyaf.
Cystadleuaeth Diwrnod y LlyfrLlongyfarchiadau mawr iToby Cash o flwyddyn 2am ennill un o 10 gwobrmewn cystadleuaeth iddathlu Diwrnod y Llyfr.Roedd dros 730 o blantwedi cystadlu trwy greullun o’u llyfr perffaithgyda’r frawddegagoriadol berffaith. Daiawn ti Toby!
Staff yr ysgolHoffem groesawu AntiKate i dîm staff yr ysgol.Mae Anti Kate wedi bodar hyfforddiant yn yrysgol ers blwy