tocynnau unigol 2019 - st david's hall, cardiff

6
TOCYNNAU UNIGOL 2019

Upload: others

Post on 09-Jan-2022

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

TOCYNNAU UNIGOL 2019

Page 2: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

CROESO

Mae’r clyweliadau wedi bod yn rhagorol eleni; mae gwledd arbennig yn aros amdanom ym mis Mehefin, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth.Y Fonesig Kiri Te Kanawa Noddwr

Y Beirniaid

David Pountney Cadeirydd y Brif Wobr

John Gilhooly Cadeirydd Gwobr y Gân

José Cura Y Brif Wobr

Robert Holl Gwobr y Gân

Wasfi Kani Y Brif Wobr

Y Fonesig Felicity Lott Y Brif Wobr a Gwobr y Gân

Malcolm Martineau Gwobr y Gân

Frederica von Stade Y Brif Wobr a Gwobr y Gân

Rhwng dydd Sadwrn 15 a dydd Sadwrn 22 Mehefin 2019, bydd dinas Caerdydd, heb sôn am donfeddi’r BBC, yn llawn lleisiau anfarwol 20 o gantorion ifanc gorau’r byd wrth iddynt gystadlu am deitl BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Mae ein paneli wedi bod yn gwrando ar yr holl ddoniau lleisiol bendigedig sydd wedi gwneud cais i gymryd rhan ac, er nad oedd yn waith hawdd, rwy’n siwr y byddwch yn cytuno eu bod wedi dewis criw o gantorion rhagorol. Mae Canwr y Byd yn brofiad unwaith mewn oes i’r 20 ymgeisydd. Mae’n gyfle iddynt ganu gerbron cynulleidfaoedd mewn dau leoliad braf, sef Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – yn ogystal â gerbron miloedd yn rhagor o bobl drwy rwydweithiau’r BBC, i geisio ennill tair gwobr.

Mae ein cynulleidfaoedd yn enwog am eu brwdfrydedd a’u harbenigedd, ac maen nhw wrth eu bodd yn anghytuno â’r beirniaid! Mae tîm Canwr y Byd yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i Gymru ym mis Mehefin ar gyfer yr holl ddrama a chyffro – peidiwch â cholli’ch cyfle i sicrhau eich tocynnau.

David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd

Mae’n gymaint o anrhydedd bod wedi ennill y gystadleuaeth. Dyma freuddwyd yn dod yn wir. Mae ennill wedi bod yn hwb enfawr i fy ngyrfa i ac wedi agor drysau i gyfleoedd rhagorol a chyffrous. Diolch i chi am y llwyfan anhygoel yma.Catriona Morison, Yr Alban BBC Canwr y Byd Caerdydd, a Chydenillydd Gwobr y Gân, 2017.

Page 3: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

BBC Canwr y Byd Caerdydd Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn brofiad sy’n newid bywydau ugain o gantorion ifanc ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol. Mae dros 400 o gantorion dawnus o bob rhan o’r byd wedi gwneud cais, ac mae’r 20 olaf wedi mynd drwy broses ddethol galed i gael cyfle i berfformio o flaen ein panel o arbenigwyr nodedig. Bydd y cantorion yn canu i gyfeiliant dwy gerddorfa sydd gyda’r gorau yn y byd – Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Ewa Strusińska, a Cherddorfa WNO dan arweiniad Ariane Matiakh. Bydd y perfformiadau’n cael eu darlledu ar draws y BBC i gynulleidfaoedd ledled y DU a’r tu hwnt, a chaiff y pum canwr gorau eu dewis i gystadlu yn y rownd derfynol gyffrous yn Neuadd Dewi Sant. Bydd y canwr a gaiff ei enwi’n BBC Canwr y Byd Caerdydd yn derbyn Tlws Caerdydd ac £20,000.

Gwobr y Gân Mae Gwobr y Gân yn hoelio ein sylw ar y cantorion. Bydd y cantorion yn perfformio rhai o’r Lieder a’r Caneuon Celfyddydol prydferthaf yn y repertoire, a bydd pianyddion byd-enwog, gan gynnwys Llyr Williams a Simon Lepper, yn cyfeilio iddynt. Bydd y datganiadau arbennig yn cael eu perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant. Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Gwobr y Noddwr BBC Canwr y Byd Caerdydd a £10,000.

Gwobr y GynulleidfaEin cynulleidfaoedd fydd yn pleidleisio dros Wobr y Gynulleidfa, a chyflwynir y wobr yn ystod y rownd derfynol. Bydd yr enillwyr yn derbyn Gwobr Cynulleidfa’r Fonesig Joan Sutherland, £2,500 a thlws grisial. Eleni, mae’r wobr yn cael ei chyflwyno er cof am Dmitri Hvorostovsky, y bariton annwyl y mae colled fawr ar ei ôl a Chanwr y Byd Caerdydd yn 1989. Bu’r Fonesig Joan Sutherland yn noddwr i’r gystadleuaeth am sawl blwyddyn ac roedd hi’n gefnogol iawn i Dmitri, felly mae’n addas fod Richard Bonynge, ei gwr, wedi cytuno i gyflwyno Tlws Gwobr y Gynulleidfa eleni yn enw ei wraig.

Digwyddiadau YmylolUnwaith eto yn 2019, rydym yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ymylol drwy gydol yr wythnos, a gallwch chi fwynhau amrywiaeth ehangach nag erioed o ddigwyddiadau ledled Caerdydd a’r tu hwnt. Cynhelir sgyrsiau cyn y cyngherddau, dosbarthiadau meistr, datganiadau a ffilmiau, a bydd y rheini’n gwella'r profiad ac yn ychwanegu at eich mwynhad o'r gystadleuaeth. Bydd y manylion ar gael dros yr wythnosau nesaf – ewch i’n gwefan i gael yr wybodaeth. www.bbc.co.uk/cardiffsinger

Y GYSTADLEUAETH Y CANTORION

Roedd yr holl wybodaeth sydd yn y llyfryn hwn yn gywir pan gafodd ei argraffu. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i newid neu ganslo unrhyw ddigwyddiad o ganlyniad i ofynion darlledu a digwyddiadau byw.

20 o gantorion o bob rhan o'r byd, a dwy gerddorfa wych.

Conductor Ewa Strusińska

Conductor Ariane Matiakh

ROUWD 3:

ROWND 1:

Badral Chuluunbaatar Mongolia Baritone

Mingjie Lei Tsieina Tenor

Lauren Fagan Awstralia Soprano

Richard Ollarsaba UDA Bas-Bariton

Karina Kherunts Rwsia Mezzo

ROWND 2:

ROUWD 4:

Camila Titinger Brasil Soprano

Angharad Lyddon Cymru Mezzo

Patrick Guetti UDA Baswr

Lena Belkina Wcrain Mezzo

Leonardo Lee De Corea Bariton

Guadalupe Barrientos Yr Ariannin Mezzo

Katie Bray Lloegr Mezzo

Yulia Mennibaeva Rwsia Mezzo

Andrii Kymach Wcrain Baritone

Owen Metsileng De Affrica Tenor

Luis Gomes Portiwgal Tenor

Roman Arndt Rwsia Tenor

Adriana Gonzalez Gwatemala Soprano

Jorge Espino Mecsico Baritone

Sooyeon Lee De Corea Soprano

Page 4: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

Sgyrsiau cyn cyngherddau Siaradwr Cystadleuaeth y Brif Wobr: Donald Maxwell Siaradwr Cystadleuaeth Gwobr y Gân: Iain Burnside

Dros gyfnod y gystadleuaeth, gall unigolion sydd â thocynnau ddod i’n sgyrsiau poblogaidd yn rhad ac am ddim i glywed am y gerddoriaeth a fydd yn cael ei pherfformio. Cynhelir y sgyrsiau yn y lleoliad 45 munud cyn pob rownd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Neuadd Dewi Sant a’r ddwy rownd derfynol. Rhaglen Gallwch archebu rhaglen y gystadleuaeth ymlaen llaw nawr am £12. Bydd taleb yn cael ei hanfon gyda’ch tocynnau, a gallwch ei chyfnewid yn eich digwyddiad cyntaf. (Bydd rhaglenni ar gael ar wahân ar gyfer y rowndiau terfynol).

Mynediad Mae Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhan o gynllun cenedlaethol o’r enw Hynt sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru i ddarparu’r arferion gorau

posibl i gwsmeriaid o ran hygyrchedd a pholisi tocynnau teg. Mae gan unigolion sydd â chardiau Hynt yr hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim (lle bo’n bosibl) ar gyfer cynorthwyydd neu ofalwr personol ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydol sy’n rhan o’r cynllun.

Ewch i www.hynt.co.uk/cy/ i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Dolenni Clywed ar gael yn y ddau leoliad ac mae system is-goch ar gael yn y ddau awditoriwm, y gellir ei defnyddio gyda neu heb gymorth clyw. Cysylltwch â'r Neuadd ar 029 2087 8444 i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r ddau leoliad yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae nifer gyfyngedig o lefydd pwrpasol ar gael i gadeiriau olwyn a chynorthwywyr/gofalwyr ymhob perfformiad. Ewch i wefannau’r lleoliadau unigol i gael rhagor o wybodaeth am faterion mynediad.

I gael rhagor o wybodaeth am ein lleoliadau, ewch i'w gwefannau nhw; Neuadd Dewi Sant – stdavidshallcardiff.co.uk. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - rwcmd.ac.uk

TOCYNNAU’R GYSTADLEUAETHY Brif Wobr Pedwar cyngerdd, a'r rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

PSylwch: Mae'r holl docynnau ar gyfer datganiadau Gwobr y Gân yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Sadwrn 15 Mehefin am 2.30pm a 7.30pm, dydd Sul 16 Mehefin am 2.30pm a dydd Llun 17 Mehefin 2.30pm wedi’u gwerthu erbyn hyn ond gallwch holi yn nes at yr amser, ar 029 2087 8444, a oes tocynnau wedi dod yn ôl.

Rownd Derfynol Gwobr y GânNos Iau 20 Mehefin 7pm Neuadd Dewi Sant, pob sedd £22. Gall unigolion sydd â Thocyn Tymor ar gyfer y Brif Wobr brynu tocynnau am £20 yn unig.

Rownd 1 – Nos Sul 16 Mehefin 7pm Rownd 2 – Nos Lun 17 Mehefin 7pm Rownd 3 – Nos Fawrth 18 Mehefin 7pm Rownd 4 – Nos Fercher 19 Mehefin 7pmY Rownd Derfynol – Nos Sadwrn 22 Mehefin 7pm

*Mae’n bosibl mai nifer gyfyngedig o Docynnau Tymor fydd ar gael. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 i gael rhagor o fanylion.

Roedd y gystadleuaeth yn sicr yn un o eiliadau mwyaf hudolus fy mywyd i. Mae wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd i a ’ngyrfa yn canu!Ariunbaatar Ganbaatar, Mongolia Cydenillydd Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017

Dylai’r gynulleidfa fod yn eu seddi erbyn 6.45pm. Sylwch fod y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar nos Sadwrn eleni.

Rowndiau Y Rownd Derfynol

Tocyn Tymor *(y pedair rownd + y rownd derfynol)

Lleoliad

A £42 A £70 A £220 StondinauHaenau 1,2,8Haen 11 Rhesi A-E

B £30 B £55 B £165 Haenau 3, 7,Haen 10 Rhesi A-EHaen 11 Rhesi F-KHaen 12 Rhesi A-E

C £18 C £28 C £95 Haen 9 Haen 10 Rhesi F-H Haen 12 Rhesi F-H Haen 13

Llwyfan

Neuadd Dewi Sant

1

Seddi’r Llawr

28

9 1311

37

10 12

Page 5: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

DIGWYDDIADAU YMYLOLDOSBARTHIADAU MEISTR YNG NGHOLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU

Dosbarth Meistr gyda Malcolm Martineau• Dydd Mawrth 18 Mehefin 3.30pm

Dosbarth Meistr gyda Robert Holl• Dydd Mercher 19 Mehefin 3pm

Dosbarth Meistr Cyfarwyddo gyda David Pountney • Dydd Iau 20 Mehefin 10am

Dosbarth Meistr gyda José Cura• Dydd Iau 20 Mehefin 3pm

Dosbarth Meistr gyda’r Fonesig Kiri Te Kanawa• Dydd Gwener 21 Mehefin 10am

Dosbarth Meistr gyda Frederica Von Stade• Dydd Gwener 21 Mehefin 12.30pm

Dosbarth Meistr gyda’r Fonesig Felicity Lott• Dydd Gwener 21 Mehefin 2.30pm Tocynnau ar gyfer pob Dosbarth Meistr £11

Archebwch drwy Neuadd Dewi Sant 029 2087 8444 stdavidshallcardiff.co.uk

Digwyddiadau ymylol BBC Canwr y Byd Caerdydd.CYNGHERDDAU YNG NGHOLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU

Datganiad dros Amser Cinio – Katarina Karneus• Dydd Mawrth 18 Mehefin 1.15pm. Tocynnau £12

Datganiad dros Amser Cinio – Yng Ngolau'r LleuadDetholiad o ffefrynnau lloergan gyda chantorion o Ysgol Opera David Seligman.• Dydd Mercher 19 Mehefin 1.15pm. Tocynnau £8/£6

Datganiad dros Amser Cinio – Rhesi Llydan a Sêr DisglairCaneuon gan Hageman, Bolcom, Bernstein, Weill a Britten, gyda chantorion o Ysgol Opera David Seligman.• Dydd Iau 20 Mehefin 1.15pm. Tocynnau £8/£6

Sing Africa!Yn difyrru cynulleidfaoedd gyda chyfuniad o arddulliau gwahanol o gerddoriaeth gorawl a thraddodiadol De Affrica a repertoire clasurol Gorllewinol, ac yn arddangos rhai o ddoniau mwyaf disglair newydd De Affrica.• Dydd Gwener 21 Mehefin 8pm. Tocynnau £10-£15

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru029 2039 1391 rwcmd.ac.uk

Bydd y Brif Wobr y Rownd Derfynol Gwobr y Gân yn dychwelyd i neuadd gyngerdd genedlaethol Cymru, Neuadd Dewi Sant.

EIN LLEOLIADAUUnwaith eto, bydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei chynnal mewn dau o leoliadau cerdd arbennig y brifddinas.

Bydd perfformiadau Gwobr y Gân yn dychwelyd i neuadd fodern Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Neuadd Dewi Sant Yr Aes, Caerdydd CF10 1AHstdavidshallcardiff.co.uk 029 2087 8444

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Gerddi'r Castell, Caerdydd CF10 3ER rwcmd.ac.uk 029 2039 1391

Holwch Y Neuadd Fawr am wybodaeth am docynnau Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe01792 604900 greathallswansea.co.uk

Canolfan Celfyddydau Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE chapter.org 029 2030 4400

Neuadd Hoddinott y BBCCanolfan Mileniwm CymruSgwâr Bute, Caerdydd CF10 5AL wmc.org.uk 029 2063 6464

FFEFRYNNAU FRINGE

Y Fonesig Kiri Te Kanawa mewn SgwrsUn o’r cantoresau opera gorau yn sgwrsio• Dydd Sadwrn 15 Mehefin 11am. Tocynnau £12Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru029 2039 1391 rwcmd.ac.uk

Forget-me-not Chorus WorkshopGyda Kate Woolveridge• Dydd Mercher 19 Mehefin 10.30amAM DDIM ond rhaid cael tocynColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru029 2039 1391 rwcmd.ac.uk

Datganiad Academi Llais Ryngwladol CymruMae Academi Llais Ryngwladol Cymru yn gweithio gyda chriw dethol o gantorion o bob rhan o'r byd• Dydd Mercher 14 Mehefin 3pm. Tocynnau £10Neuadd Hoddinott y BBC, Canolfan y Mileniwm0800 052 1812 bbc.co.uk/now

Ar drywydd Adeline PattiDarganfyddwch fwy am fywyd y gantores enwog drwy daith i Graig-y-Nos, gan gynnwys sgwrs, tro, datganiad a chinio• Dydd Mercher 19 Mehefin, 10am – 4.30pmPris i'w gadarnhauArchebwch drwy Neuadd Dewi Sant029 2087 8444 stdavidshallcardiff.co.uk

ABC Opera gyda Mark Llewelyn EvansCyflwyniad hwyliog i opera ar gyfer y teulu cyfan • Dydd Sadwrn 22 Mehefin 1pm. Pris i’w gadarnahau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 029 2039 1391 rwcmd.ac.uk

GWYL GORAWL BAE ABERTAWE

Côr Orffews Treforys• Nos Sadwrn 15 Mehefin 7pm

Sing Africa!Yn difyrru cynulleidfaoedd gyda chyfuniad o arddulliau gwahanol o gerddoriaeth gorawl a thraddodiadol De Affrica a repertoire clasurol Gorllewinol, ac yn arddangos rhai o ddoniau mwyaf disglair newydd De Affrica. • Dydd Sul 16 Mehefin 2pm. Tocynnau £10-£15

Cyngerdd corawl, artistiaid a rhaglen i'w cadarnhau• Dydd Lun 17 Mehefin 2pm

Gweithdy Corawl, manylion i'w cadarnhau• Dydd Mawrth 18 Mehefin 2pm

Galargerdd Almaenig BrahmsGyda Chymdeithas Gorawl Prifysgol Abertawe a’r unawdwyr Elin Manahan Thomas a Robert Davies• Dydd Mercher 19 Mehefin 2pmHolwch Y Neuadd Fawr am wybodaeth am docynnau Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe 01792 604900 greathallswansea.co.uk

OPERA AR FFILM

Pum diwrnod o ffilmiau gwych yn ymwneud â byd yr Opera. Fe’u cynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, gyda Carlo Cenciarelli (o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd) yn eu cyflwyno. Ewch i wefan Chapter i gael manylion y ffilmiau • Dydd Mawrth 18 – 22 Mehefin Canolfan Celfyddydau Chapter 029 2030 4400 chapter.org

ˆ

Page 6: TOCYNNAU UNIGOL 2019 - St David's Hall, Cardiff

EVENT DIARY DYDDIADUR DIGWYDDIADAUSATURDAY 15 June DYDD SADWRN 15 Mehefin

SUNDAY 16 June DYDD SUL 16 Mehefin

MONDAY 17 June DYDD LLUN 17 Mehefin

TUESDAY 18 June DYDD MAWRTH 18 June

WEDNESDAY 19 June DYDD MERCHER 19 Mehefin

THURSDAY 20 June DYDD IAU 20 Mehefin

FRIDAY 21 June DYDD GWENER 21 Mehefin

SATURDAY 22 June DYDD SADWRN 22 Mehefin

Royal Welsh College of Music a Drama Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

11am- 12.30pm Dame Kiri Te Kanawa in Conversation Y Fonesig Kiri Te Kanawa yn Sgwrsio

1.45pm Iain Burnside Pre-recital talk Sgwrs cyn y datganiad

2.30pm Song Prize Recital 1 Y Wobr Datganiad 1

6.45pm Iain Burnside Pre-recital talk Sgwrs cyn y datganiad

7.30pm Song Prize Recital 2 Y Wobr Datganiad 2

1.45pm Iain Burnside Pre-recital talk Sgwrs cyn y datganiad

2.30pm Song Prize Recital 3 Y Wobr Datganiad 3

1.45pm Iain Burnside Pre-recital talk Sgwrs cyn y datganiad

2.30pm Song Prize Recital 4 Y Wobr Datganiad 4

1.15-2pm KATARINA KARNEUS Lunchtime Recital Datganiad Amser Cinio

3.30-4.30pm Masterclass with Malcolm Martineau Dosbarth Meistr gyda Malcolm Martineau

10.30-11.30am FORGET-ME-NOT CHORUS Workshop with Kate Woolveridge Gweithdy gyda Kate Woolveridge

1.15-2pm MOONSTRUCK Lunchtime Recital with Singers from the David Seligman Opera School Datganiad Amser Cinio gyda Ysgol Opera David Seligman

3-4pm Masterclass with Robert Holl. Dosbarth Meistr gyda Robert Holl

10-11.30am Directing Masterclass with David Pountney Dosbarth Meistr Cyfarwyddo gyda David Pountney

1.15-2pm BROAD STRIPES & BRIGHT STARS Lunchtime Recital with Singers from the David Seligman Opera School. Datganiad Amser Cinio gyda Ysgol Opera David Seligman

3-4pm Masterclass with José Cura. Dosbarth Meistr gyda José Cura

10-11.30am Masterclass with Dame Kiri Te Kanawa Dosbarth Meistr gyda Y Fonesig Kiri Te Kanawa

12.30-1.30pm Masterclass with Frederica von Stade Dosbarth Meistr gyda Frederica von Stade

2.30-3.30pm Masterclass with Dame Felicity Lott Dosbarth Meistr gyda Y Fonesig Felicity Lott

8pm Sing Africa!

1pm ABC of Opera with | gyda Mark Llewelyn Evans

St David’s Hall Neuadd Dewi Sant

6.15pm Donald Maxwell Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

7pm Main Prize Round 1 Prif Wobr Rownd 1

6.15pm Donald Maxwell Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

7pm Main Prize Round 2 Prif Wobr Rownd 2

6.15pm Donald Maxwell Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

7pm Main Prize Round 3 Prif Wobr Rownd 3

6.15pm Donald Maxwell Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

7pm Main Prize Round 4 Prif Wobr Rownd 4

6.15pm Iain Burnside Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

6.15pm Donald Maxwell Pre-concert talk Sgwrs cyn y cyngerdd

7pm Main Prize Final Rownd Derfynol Prif Wobr

BBC Hoddinott Hall Wales Millennium Centre Neuadd Hoddinott y BBC Canolfan y Mileniwm Cymru

3-4.30pm Recital Wales International Academy of Voice Datganiad Academi Llais Ryngwladol Cymru

Chapter Arts Centre Ganolfan Celfyddydau Chapter

3pm Film with pre-screening talk, see chapter.org for details Ffilm gyda sgwrs cyn sgrinio, gweler chapter.org am fanylion

3pm Film with pre-screening talk, see chapter.org for details Ffilm gyda sgwrs cyn sgrinio, gweler chapter.org am fanylion

3pm Film with pre-screening talk, see chapter.org for details Ffilm gyda sgwrs cyn sgrinio, gweler chapter.org am fanylion

3pm Film with pre-screening talk, see chapter.org for details Ffilm gyda sgwrs cyn sgrinio, gweler chapter.org am fanylion

3pm Film with pre-screening talk, see chapter.org for details Ffilm gyda sgwrs cyn sgrinio, gweler chapter.org am fanylion

The Great Hall, Swansea University Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe

7pm Morriston Orpheus Choir Côr Morriston Orpheus

2pm Sing Africa!

2pm Choral Concert Cyngherdd Corawl

2pm Choral Workshop Gweithdy Corawl

2pm Brahms German Requiem Swansea University Choral Society with Elen Manahan Thomas and Robert Davies Cymdeithas Gorawl Prifysgol Abertawe gydag Elen Manahan Thomas a Robert Davies

Craig-y-Nos Country Park Parc Gwledig Craig-y-Nos

10am – 4.30pm The Adelina Patti Experience Profiad Adelina Patti