sinema chapter tachwedd 2013

12
chapter.org @chaptertweets 029 2030 4400

Upload: chapter

Post on 23-Mar-2016

238 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Page 1: Sinema Chapter Tachwedd 2013

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Croeso i ganllaw bach Sinema Chapter mis Tachwedd. Mae ein tymor Gothig, Chapter yn y Tywyllwch (t3-5), yn parhau â detholiad o ffilmiau iasol, gan ddechrau gyda Some Sort of Monster — dathliad o hoff fonheddwr arswydus Prydain, Peter Cushing (t4). I brofi nad yw’r ffilmiau mwyaf atmosfferig yn dibynnu bob amser ar ddewiniaeth dechnegol, byddwn yn mynd yn ôl i ddyddiau cynnar y sinema gyda detholiad o ffilmiau byrion arswyd mud, gyda sgorau byw wedi’u cyfansoddi a’u perfformio gan y pianydd, Paul Shallcross (t5). Rydym yn archwilio’r ochr dywyll y tu hwnt i’r sinema hefyd, gyda’n gŵyl celfyddydau byw flynyddol, Experimentica (6-10 Tachwedd), sydd yn olwg ar letraws ar fyw â drwg-argoelion. Byddwn hefyd yn parcio’n hysgubau y tu allan i’r Eglwys Norwyaidd ar gyfer sioe gerddorol yn llawn ysbrydion a drychiolaethau — Apparitions of Spirits gan Gagglebabble (30 Hydref — 1 Tachwedd). Ond os byddai’n well gennych chi anwybyddu’r tywyllwch, peidiwch â phoeni, mae gennym ddigonedd o gomedïau, sioeau a ffilmiau cyffrous a rhaglenni dogfen i brocio’r meddwl — dihangfa berffaith! Byddwn hefyd yn cyflwyno’r gweithiau theatr Prydeinig gorau — gan gynnwys dangosiad byw o Richard II, gan y Royal Shakespeare Company, â neb llai na David Tennant yn chwarae’r brif ran (dydd Mercher 13) (t7). Ac i’r plantos? Mae gennym ddetholiad o ffilmiau a gweithgareddau — gweler tudalen 12 — sy’n addas i deuluoedd ac sy’n siŵr o ddifyrru pawb.

Croeso02 chapter.org

Delweddau’r clawr o’r chwith uchaf: Like Father Like Son, Prince Avalanche, The Counsellor

ChapterHeol y FarchnadCaerdydd CF5 1QE

029 2030 4400minicom 029 2031 3430

[email protected]

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/Chapter-cinema [email protected]

Page 3: Sinema Chapter Tachwedd 2013

03Sinemachapter.org

Häxan: Witchcraft Through the Ages Sul 3 TachweddSweden/1922/105mun/15. Cyf: Benjamin Christensen.

Ers ei dangos am y tro cyntaf yn 1922, mae’r ffilm hon sy’n archwilio rôl ofergoeledd yn y meddwl canoloesol wedi ennyn dicter a phrotest gan y cyhoedd yn gyffredinol a chan grwpiau crefyddol. Yn ddramateiddiad o weithgareddau a defodau satanaidd, gan cynnwys y modd y cafodd menywod a amheuid o fod yn wrachod eu harteithio a’u lladd, mae Häxan yn gampwaith gorffwyll a dychmygus. Bydd Bronnt Industries Kapital o Fryste (dan arweiniad y cyfansoddwr Guy Bartell, sydd wedi perfformio yn Chapter yn y gorffennol yn rhan o WOW gyda Turksib) yn creu gwaith cerddorol rith-weledol, sy’n amrywio o ddarnau trydanol/concrète oeraidd i weithiau o electronica ecstatig gyda hen gloc. £12/£10/£8

bronnt.com

The Wicker ManSul 10 + Maw 12 TachweddDG/1974/84mun/12A. Cyf: Robin Hardy. Gyda: Edward Woodward, Christopher Lee, Britt Ekland.

Ar ôl derbyn llythyr di-enw, mae’r Rhingyll Howie yn dod i Summerisle i ymchwilio i ddiflaniad merch ifanc ac yn synnu o weld bod poblogaeth amheus yr ynys yn gwadu bodolaeth y ferch goll. Mwy o syndod fyth i’r heddwas yw cael bod yr ynys yn cael ei rheoli gan gymdeithas libertaraidd sy’n cynnal defodau paganaidd dan arweiniad arglwydd Seisnig ecsentrig ond carismatig. Wedi’i gythryblu gan rywioldeb agored y gymuned, mae Howie’n cymryd agwedd elyniaethus tuag at y bobl a’u harweinydd ac mae ei anesmwythyd yn dwysau wrth iddo barhau â’i ymchwiliad. Ffilm ddeallus ac ysigol sy’n chwarae ag ofnau dan-yr-wyneb ac agweddau ar lên gwerin Prydain – a’r cyfan yn arwain at uchafbwynt arswydus.

L to

R: H

äxan

: Wit

chcr

aft

Thro

ugh

the

Ages

, The

Wic

ker M

an

GOTHIC: Tymor y WrachBydd ‘Tymor y Wrach’ mis Tachwedd yn archwilio byd o Gelfyddydau Tywyll ac yn cynnwys cyfle i weld rhai o glasuron sinema arswyd Prydain, ffilmiau mud â chyfeiliant cerddorol byw a digwyddiad i nodi canmlwyddiant Peter Cushing. I gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau newydd fan hyn ac o amgylch Cymru, wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i: www.chapter.org/chapter-yn-y-tywyllwch

Agor byd o ffilmiau Gyda chefnogaeth gan Rwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI ac ar y cyd â Gŵyl Ffilm Abertoir www.abertoir.co.uk/walesgoesdark www.chapter.org/chapter-yn-y-tywyllwch

Page 4: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema04 029 2030 4400

Some Sort of Monster: Canmlwyddiant Peter Cushing Dathliad o un o wŷr bonheddig mwyaf toreithiog a phoblogaidd byd arswyd Prydain. Rydym yn falch o allu croesawu’r awdur Tony Earnshaw a fydd yn cynnal noson arbennig i ddathlu bywyd dyn a oedd yn ystod ei yrfa yn greawdwr angenfilod, yn ddinistriwr angenfilod, ond byth yn anghenfil ei hun. Gellir prynu tocynnau ar wahân (prisiau tocyn arferol) neu brynu tocyn ar gyfer y digwyddiad cyfan — £12/£10/£8 — bargen! Mae tocynnau bellach ar gael hefyd ar gyfer ein dangosiad o Cushing yn Dr Who and the Daleks a Daleks — Invasion Earth: 2150 AD ar ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr.

Hound of the Baskervilles Sul 17 TachweddDG/1959/87mun/PG. Cyf: Terence Fisher. Gyda: Peter Cushing, Andre Morell, Christopher Lee.

Ar ôl dychwelyd i’r plasty teuluol ar rostir unig, ar ôl i’w dad farw mewn amgylchiadau amheus, mae Syr Henry Baskerville yn gorfod wynebu dirgelwch y ci goruwchnaturiol sydd, medden nhw, yn dial ar deulu Baskerville. Daw’r ditectif enwog Sherlock Holmes a’i gynorthwyydd Dr Watson i ymchwilio...

Peter Cushing and The Strange Case of The Concertina FactorTua 45 mun

Ymunwch â Tony Earnshaw, awdur An Actor and a Rare One — am noson yn seiliedig ar Peter Cushing a’i gyfnod o fwy na 25 mlynedd yn gwisgo het ‘deerstalker’ enwog Sherlock Holmes ar ffilm a theledu. Mewn portread oeraidd, cynnil ac asgetig, ceisiodd Cushing gyfleu purdeb a gwirionedd creadigaeth Conan Doyle ac fe dynnodd bob un — o stiwdio Hammer i’r BBC — yn ei ben wrth geisio cyflwyno ei weledigaeth ar y sgrin.

The Beast Must Die Sul 17 TachweddDG/1974/93mun/15. Cyf: Paul Annett. Gyda: Peter Cushing, Charles Gray, Michael Gambon.

Mae dyn busnes cyfoethog sydd hefyd yn heliwr arbenigol yn gwahodd grŵp o westeion i ymuno ag ef a’i wraig am benwythnos ar eu hystâd wledig. Ond buan y daw cyrff di-ri i amharu — ac mae’r llofruddiaethau yn awgrymu bod yna flaidd-ddyn gerllaw. Mae’r tŷ yn llawn camerâu a system ddiogelwch uwch-dechnolegol ac mae toriad o hanner munud tua diwedd y ffilm yn wahoddiad i’r gwesteion a’r gynulleidfa fel ei gilydd ystyried y dystiolaeth a phenderfynu pwy neu beth yw’r drwg yn y caws.

Houn

d of

the

Bas

kerv

illes

Page 5: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema 05chapter.org

Ffilmiau Byrion Arswyd Mud: Gyda chyfeiliant piano bywSul 24 + Maw 26 TachweddDetholiad o ffilmiau byrion arswyd mud o wawr yr 20fed ganrif, gyda sgorau cerddorol newydd sbon wedi’u comisiynu gan Ŵyl Arswyd Abertoir. Cyfansoddi a pherfformio gan Paul Shallcross.

La Légende Du Fantome Ffrainc/1908/13mun. Cyf: Segundo de Chomón.

Taith i’r is-fyd — cacoffoni seicedelig o ddeunydd gweledol trawiadol, madfallod dynol, Angau, cythreuliaid ac ysbrydion, pob un wedi’i uno gan gerbyd dieflig (car cyffredin, hynny yw) a naratif digon dryslyd i beri penbleth i Einstein. Profiad cofiadwy, honco bost.

Frankenstein UDA/1910/16mun. Cyf: J. Searle Dawley.

Wedi’i ffilmio gan Gwmni Edison yn 1910, hon oedd y fersiwn ffilm gyntaf erioed o nofel glasurol Mary Shelley. Mae’n cynnwys golygfa arswydus o’r “greadigaeth” sy’n dal i syfrdanu heddiw, er i’r dosbarthwyr honni eu bod nhw wedi meddalu “sefyllfaoedd gwrthun” nofel Shelley. Carreg filltir hynod ddiddorol yn hanes ffilm.

Le Spectre RougeFfrainc/1907/9mun. Cyf: Segundo de Chomón.

Mae dewin dieflig yn perfformio sioe hud yn nyfnderoedd uffern. Fodd bynnag, mae ei gam-driniaeth o’i gynorthwywyr benywaidd yn denu llid ysbryd da sy’n dechrau ymyrryd. Ag ambell i effaith arbennig arloesol (gan gynnwys menywod bychain mewn poteli gwydr), mae hon yn enghraifft gynnar o ffilmio “tric” sydd hyd yn oed yn llwyddo i ragweld dyfodiad y teledu.

The Jest DG/1921/15mun. Cyf: Fred Paul.

Cyfraniad Prydeinig gwych i gyfres y ‘Grand Guignol’. Ar ôl i’w wraig ei adael, mae hen ddyn yn dioddef 40 mlynedd o hiraeth ar ei hôl, tan i’w gyd-letywyr benderfynu chwarae tric maleisus arno... Y mwyaf modern o’r ffilmiau hyn o bell ffordd, mae’r gwaith yn cyflwyno naratif a allai gystadlu â’r straeon cyfoes gorau.

Chapter Wails: Blood on Satan’s ClawIau 28 TachweddDG/1971/93mun/18. Cyf: Piers Haggard. Gyda: Patrick Wymark, Linda Hayden, Barry Andrews.

Mae’r ffilm arswyd werin bwerus hon wedi’i gosod yn Lloegr yr 17eg ganrif — gwlad sy’n llawn ofergoeliaeth a drygioni. Dan arweiniad gwraig ifanc hardd, mae plant y pentref yn cwympo’n raddol dan ddylanwad cwfen o addolwyr y diafol ac mae’n rhaid i’r rheiny sydd ar ôl ddod o hyd i ffordd o ddinistrio’r bwystfil. Bydd Ben Ewart-Dean o Chapter Wails yn cyflwyno’r ffilm, ynghyd â pherfformiad cerddorol gan Marc Roberts a’r band gothig gwerin, Zeuk, sy’n chwarae cerddoriaeth acwstig gothig wedi’i hysbrydoli gan y trac sain anghyffredin gwreiddiol. Soundcloud/zeuk

NT Live: Frankenstein Dangosiadau Matinee Encore Llun 4 Tachwedd + Sul 1 Rhagfyr162mun/15. Cyf: Danny Boyle. Awdur: Nick Dear. Gyda: Benedict Cumberbatch, Johnny Lee Miller.

Yn blentynnaidd ei ffordd ond yn grotesg o ran ei bryd a’i wedd, caiff Frankenstein ei fwrw allan i fydysawd gelyniaethus gan ei greawdwr ofnus. Gan ddenu creulondeb lle bynnag yr â, mae’r Creadur di-gyfaill, cynyddol anobeithiol a dialgar, yn penderfynu chwilio am ei greawdwr a tharo bargen frawychus. Bydd Cumberbatch a Miller yn cyfnewid rhannau Victor Frankenstein a’r Creadur ym mhob fersiwn. Bydd Cumberbatch yn chwarae rhan Victor Frankenstein ar ddydd Llun 4 Tachwedd a Miller yn ei chwarae ar Sul 1 Rhagfyr£13/ £11/£10

NT L

ive:

Fra

nken

stei

n

Page 6: Sinema Chapter Tachwedd 2013

The Selfish GiantGwe 25 Hydref — Iau 7 TachweddDG/2013/93mun/15. Cyf: Clio Barnard. Gyda: Conner Chapman, Sean Thomas, Sean Gilder.

Mae ail ffilm nodwedd Barnard ar ôl The Arbor yn ein harwain yn ôl i Orllewin Swydd Efrog ac yn cyflwyno chwedl gyfoes am Arbor, 13 oed, a’i ffrind gorau, Swifty. Yn ddieithriaid yn eu cymdogaeth eu hunain, maent yn cwrdd â Kitten, deliwr sgrap lleol — ef yw’r Cawr Hunanol. Wrth gasglu metel sgrap ar er ran â cheffyl a chert, mae Swifty’n dysgu bod ganddo ddawn naturiol i drin ceffylau ac fe’i cyflogir fel marchog mewn rasys harnais anghyfreithlon. Mae hyn yn arwain at ddieithrio rhwng Arbor ac ef.

Clwb Ffilmiau Gwael Exterminator 2Sul 3 TachweddUDA/1984/90mun/18. Cyf: Mark Buntzman. Gyda: Robert Ginty, Mario Van Peebles, Deborah Geffner.

Bydd y Clwb Ffilmiau Gwael yn goleuo nosweithiau tywyll mis Tachwedd â llond lle o gyffro cyflym yr 80au. Mae Exterminator 2 yn adrodd hanes cyn-filwr yn Fietnam, John Eastland, a oedd yn ‘vigilante’ ymfflamychol o Efrog Newydd. Pan ddaw gang stryd ciaidd i ymosod ar ei gariad, sy’n ddawnswraig, rhaid iddo ddial ei cham. Ydych chi’n ddigon cryf? Ydych chi’n ddigon dewr? Ydych chi’n ddigon eofn i eistedd drwy’r ffilm gyfan? Nodwch os gwelwch yn dda: bydd sylwebaeth fyw yn cyd-fynd â’r ffilm hon.

Moviemaker ChapterLlun 4 TachweddSesiwn reolaidd i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos ffilmiau byrion. O bryd i’w gilydd, bydd y ffilmiau a ddangosir yn ystod sesiynau Moviemaker Chapter yn cynnwys deunydd anaddas i bobl ifainc felly rydym ynargymell y dylai mynychwyr fod dros 18 oed.Rhad ac am ddim

GloriaGwe 1 — Iau 14 TachweddChile/2012/109mun/is-deitlau/15. Cyf: Sebastian Lelio. Gyda: Paulina Garcia, Sergio Hernandez.

Mae Gloria’n fenyw 58 mlwydd oed sydd wedi ysgaru ond mae hi’n dal yn ifanc ei hysbryd. Yn benderfynol o drechu’i hunigrwydd, mae hi’n cadw’n brysur ac yn treulio’i nosweithiau’n chwilio am gariad mewn ystafelloedd dawns i oedolion sengl. Mae’r hapusrwydd bregus hwn yn newid wrth iddi gyfarfod â Rodolfo a dechrau perthynas ag ef sy’n ei gorfodi i wynebu realiti perthynas hir-dymor arall. Portread deallus sy’n cynnwys perfformiad canolog anhygoel gan Paulina Garcia. Mae hon yn ffilm o lawenydd a chraffter anarferol. Enillydd Arth Aur Gŵyl Ffilm Berlin am yr Actores Orau.

Like Father Like Son Gwe 8 — Iau 14 TachweddJapan/2013/120mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Hirokazu Koreeda. Gyda: Masaharu Fukuyama, Yoko Maki.

Mae Ryota, gŵr llwyddiannus, a’i wraig, Midori, yn derbyn galwad ffôn annisgwyl gan yr ysbyty ac yn dysgu eu bod wedi cymryd y babi anghywir adre’ gyda nhw ac nad eu plentyn nhw yw eu mab 6 blwydd oed. Cânt eu gorfodi, felly, i wneud penderfyniad sy’n newid eu bywydau — dewis rhwng eu plentyn naturiol, a godwyd gan deulu garw ond cariadus, a’r plentyn y maen nhw wedi’i godi mewn byd o waith caled ac uchelgais cymdeithasol. Mae hon yn stori deimladwy am ddyn sy’n gorfod penderfynu’n sydyn pa bethau mewn bywyd sy’n wirioneddol werthfawr. +SciSCREEN Maw 12 Tachwedd cardiffsciscreen.blogspot.co.uk

The Fifth EstateGwe 8 — Iau 14 TachweddDG/2013/124mun/15. Cyf: Bill Condon. Gyda: Benedict Cumberbatch, Daniel Bruhl.

Arweiniodd WikiLeaks a’r hanesion a gyhoeddodd am gyfrinachau ffrwydrol a masnachu gwybodaeth ddirgel at newid ein byd am byth. Mae’r ffilm yn dilyn Julian Assange a’i gydweithiwr, Daniel Domscheit-Berg, wrth iddyn nhw geisio datgelu gweithredoedd ysgeler a llygredigaethau arweinwyr, gan droi gwe-fan syml yn un o sefydliadau mwyaf dadleuol yr 21ain ganrif. Mae’r ffilm yn gofyn: beth yw cost cadw cyfrinachau mewn cymdeithas rydd — a beth yw cost datgelu’r cyfrinachau hynny?

Sinema06 029 2030 4400Gl

oria

Page 7: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema 07chapter.orgO’

r top

i’r g

wae

lod:

Jos

ie L

ong,

Ric

hard

II

Josie Long: Let’s Go Swimming & Romance and AdventureMaw 12 TachweddYmunwch â Josie Long ar gyfer y dangosiad arbennig hwn sy’n cynnwys dwy ffilm gomedi fer wedi’u hysgrifennu gan Josie Long a’u cyfarwyddo gan Douglas King am daith merch ifanc o blentyndod i fod yn oedolyn yn y byd cyfoes.Let’s Go Swimming: Mae Josie wedi gadael ei bywyd yn Llundain am fywyd gwell yn Glasgow; parc thema yn llawn bandiau indie — lle gall hi ddod o hyd i hapusrwydd a chael ei derbyn o’r diwedd. Ond dyw eistedd mewn caffis a mynd i gigs ar eich pen eich hun ddim mor grêt ag yr oedd hi wedi’i obeithio.Romance and Adventure: Darren yw ffrind gorau Josie. Mae Josie’n rhannu fflat gyda Darren. Yn nesu at ei 30 oed, mae Josie’n awyddus i wneud rhywbeth mawr. Gyda’i gilydd maent yn yfed ‘buckfast’, yn crwydro’r strydoedd, ac yn pendroni pam mae eu ffrindiau wedi troi’n hen a diflas. Nhw yn erbyn y byd yw hi bellach, neu dyna y mae Josie’n ei obeithio. Ond allwch chi ddibynnu mewn gwirionedd ar ffrind nad yw’n dymuno tyfu i fyny?

Rewind This!Gwe 15 TachweddUDA/2013/94mun/dim tyst 15 arf. Cyf: Josh Johnson. Gyda: Frank Henenlotter, Atom Egoyan, Mamoru Oshii, Cassendra Peterson.

Marwnad feddylgar a difyr i’r tâp VHS — y fformat a ddechreuodd y chwyldro diwylliannol sy’n golygu erbyn hyn bod ffilmiau di-ri ar flaenau eich bysedd. Roedd yn fformat y gellid ei wylio yn eich ystafell fyw, ei gopïo, ei drosglwyddo a’i ddosbarthu, ynghyd â deunydd pacio lliwgar, i greu diwylliant ffres ac amgen. Gyda chyfweliadau gwerthfawrogol gyda chyfarwyddwyr nodedig fel Henenlotter (Basket Case), sêr y cyfnod fel Elvira, a ffans a dalodd gannoedd o ddoleri am un tâp fideo, mae hon yn ffilm ddogfen amserol a difyr sy’n dangos sut y newidiodd y fformat y diwydiant ffilm am byth.

ROyAL SHAKESPEARE COMPANy

Richard II Yn fyw o Stratford-upon-Avon: Mer 13 TachweddEncore: Llun 18 TachweddGyda: David Tennant.

Richard yw’r Brenin, wedi’i ordeinio gan Dduw i arwain ei bobl. Ond mae ganddo hefyd wendidau cwbl ddynol. Mae ei falchder yn bygwth rhannu teuluoedd mawrion Lloegr ac arwain ei bobl i ryfel sifil llinachol a fydd yn para 100 mlynedd.Tocynnau ar gyfer y dangosiad byw: £17.50/£14/£13 Encore £13/£11/£10

Hamlet Encore: Llun 25 Tachwedd2009/182mun/12. Cyf: Gregory Doran. Gyda: David Tennant.

Cynhyrchiad gwisg-fodern arobryn yr RSC o stori drasig Tywysog Denmarc, wedi’i ffilmio ar leoliad gyda chast gwreiddiol y cynhyrchiad llwyfan.£13/£11/£10

Page 8: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema08 029 2030 4400

Captain PhillipsGwe 15 — Iau 21 TachweddUDA/2013/134mun/12A. Cyf: Paul Greengrass. Gyda: Tom Hanks, Catherine Keener, Barkhad Abdi.

Mae Greengrass yn troi ei sylw at stori wir y Capten Richard Phillips a’r llong a gafodd ei herwgipio yn 2009 gan fôr-ladron o Somalia. Yr MV Maersk Alabama oedd y llong gargo Americanaidd gyntaf i gael ei herwgipio ers dau gan mlynedd. Gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng prif swyddog yr Alabama a chapten y môr-ladron, mae’r ffilm yn bortread cyffrous a chymhleth o effeithiau dirifedi globaleiddio.

Enough SaidGwe 15 — Iau 21 TachweddUDA/2013/93mun/12A. Cyf: Nicole Holofcener. Gyda: James Gandolfini, Julia Louise Dreyfus, Catherine Keener.

Mae Eva’n treulio’i diwrnodau’n gweithio fel masseuse ac yn ceisio osgoi meddwl am ei merch sydd ar fin gadael i fynd i’r coleg. Yna mae hi’n cwrdd ag Albert — dyn dymunol, doniol, o’r un anian â hi, sydd hefyd yn gorfod wynebu ffarwelio ag anwylyn. Wrth i’w rhamant flodeuo, mae Eva’n dechrau cyfeillgarwch â Marianne — sydd yn berffaith, ar wahân i’r ffaith ei bod hi’n gyn-wraig i Albert. Yn sydyn, mae Eva’n amau ei pherthynas ei hun ag Albert wrth iddi ddysgu’r gwir am ei chariad newydd. Yn ei brif ran olaf, mae Gandolfini’n serennu mewn comedi graff a doniol sy’n archwilio’r llanast sy’n gallu deillio o gychwyn perthynas newydd.

Prince AvalancheGwe 15 — Iau 21 TachweddUDA/2013/94mun/15. Cyf: David Gordon Green. Gyda: Paul Rudd, Emile Hirsch.

Mae cwpl rhyfedd — Alvin sy’n fyfyrgar ac yn llym, a brawd ei gariad, Lance, sy’n wirion ac ansicr — yn gadael y ddinas i dreulio’r haf ar eu pennau’u hunain yn ail-baentio llinellau traffig ar ganol priffordd sydd wedi’i hanrheithio gan danau gwyllt. Wrth i’r ddau ddechrau eu taith ar hyd y wlad, a chyfnewid straeon, datgelir cyfeillgarwch annisgwyl ac annhebygol — cyfeillgarwch sy’n dangos y ffyrdd gwahanol sydd yna o ddod o hyd i’ch ffordd mewn bywyd. Wedi’i haddasu o’r ffilm o Wlad yr Iâ, Either Way, gyrrir Prince Avalanche yn ei blaen gan berfformiadau cryfion gan y ddau brif actor.

Child’s PoseSad 16 — Iau 21 TachweddRwmania/2013/112mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Calin Peter Netzer. Gyda: Luminita Gheorghiu, Bogdan Dumitrache.

Mae Cornelia’n aelod o elit breintiedig a bourgeois cymdeithas gyfoes Bwcarést. Ond ar ôl i’w mab, Barbu, daro a lladd bachgen ifanc yn ei gar un noson, daw ei greddf mamol ffyrnig i’r wyneb wrth iddi orfod delio â’r mater. Yn llawn enghreifftiau o’i chariad dall at ei mab, hyd yn oed wrth iddo fe ymddieithrio, fe’i datgelir hi o dipyn i beth fel cymeriad gwrthun, gwyrdroëdig. Astudiaeth dywyll a thrawiadol sy’n rhan o Don Newydd syfrdanol sinema Rwmania.

“Deialog siarp ac aml-haenog a pherfformiadau annisgwyl o gyfrwys.” Variety

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Eno

ugh

Said

, Prin

ce A

vala

nche

Page 9: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema 09chapter.org

FFILM A CHELFyDDyD:

The Lebanese Rocket SocietyMaw 19 TachweddLibanus/2013/95mun/PG arf. Cyf: Khalil Joreige, Joana Hajdithomas. Gyda: Manoug Manougian, John Markarian.

Golwg ddiddorol ar ymgais gwyddonwyr rebelgar i lansio rhaglen ofod, yn ystod blynyddoedd cynnar y 60au — cafodd eu hymdrechion eu dileu o hanes Libanus. Mae’r artistiaid yn dehongli’r hanes hwn drwy gyfrwng deunydd archif a chyfweliadau anhygoel â’r rheiny a oedd yn gysylltiedig â’r prosiect. Mae’r ffilm yn dod i ben â gweithred greadigol feiddgar a dyrchafol — caiff copi maint llawn o un o’r rocedi ei gludo trwy ganol Beirut (ac fe ddaw’r copi hwnnw’n osodiad parhaol yn y ddinas).+ Come Along Do.

PhilomenaGwe 22 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrDG/2013/94mun/12A. Cyf: Stephen Frears. Gyda: Judi Dench, Steve Coogan.

Yn seiliedig ar y llyfr gan gyn-ohebydd y BBC a swyddog cyfathrebu Downing Street, Martin Sixsmith, mae’r ffilm ddiddorol a chraff hon yn adrodd hanes Philomena Lee, Gwyddeles a oedd yn arfer golchi dillad yn Iwerddon. Cafodd ei phlentyn ei chipio oddi arni gan leianod a’i fabwysiadu yn America ac fe adroddir hanes ei brwydr hi, dros gyfnod o 50 mlynedd, i sicrhau aduniad â’i mab. Gan gyfarwyddwr The Queen, mae hon yn ffilm swynol sydd wedi ennill clod beirniaid mewn gwyliau ffilm ledled y byd.

The CounsellorGwe 22 — Iau 28 TachweddUDA/2013/111mun/TICh. Cyf: Ridley Scott. Gyda: Brad Pitt, Michael Fassbender, Penelope Cruz.

Pan ddechreua cyfreithiwr uchel ei barch fasnachu cyffuriau, caiff ei hun yng nghanol busnes anghyfreithlon a thros ei ben a’i glustiau mewn trafferth. Yn gyfuniad o ffraethineb nodweddiadol a hiwmor tywyll, mae sgript cyntaf Cormac McCarthy, enillydd Gwobr Pulitzer (No Country for Old Men) ar gyfer y sgrin fawr yn senario hunllefus wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilmiau nodedig, Ridley Scott (Prometheus). Gyda’i chast nodedig, mae’r ffilm hon yn addo bod yn daith a hanner.

One ChanceGwe 22 — Iau 28 TachweddDG/2013/103mun/TICh. Cyf: David Frankel. Gyda: James Cordon, Mackenzie Crook, Julie Walters, Alexandra Roach.

Wedi’i ffilmio mewn gwahanol leoliadau yn Ne Cymru, mae hon yn stori wir am fachgen o Bort Talbot, Paul Potts — cynorthwy-ydd siop swil sy’n cael ei fwlio gyda’r dydd ond sydd, gyda’r nos, yn ganwr opera amatur. Enillodd enwogrwydd ar ôl cael ei ddewis ar gyfer “Britain’s Got Talent” — ac ennill y gystadleuaeth honno yn y pen draw.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h uc

haf:

The

Leba

nese

Roc

ket

Soci

ety,

The

Cou

nsel

lor,

Phi

lom

ena

Page 10: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema10 029 2030 4400

Muscle ShoalsGwe 1 — Iau 7 TachweddUDA/2013/111mun/TICh. Cyf: Greg Camalier. Gyda: Keith Richards, Percy Sledge, Etta James, Alicia Keys, Rick Hall.

Roedd y dref fechan ar lan Afon Tennessee, Muscle Shoals, yn gartref i ddwy stiwdio bwysig yn hanes canu ‘soul’ America ac yn fagwrfa i beth o’r gerddoriaeth fwyaf creadigol a herfeiddiol. Dyma lle y daeth Aretha o hyd i’w llais, gyda chymorth grŵf solet a helpodd i ddiffinio oes aur R&B. Mae’r cynhyrchydd, Rick Hall, a oedd ar flaen y gad yn ystod degawdau o gythrwfl, yn adrodd hanes cred gyfriniol yng ngrym lle i ddylanwadu ar y cerddorion a recordiodd yno.

The Broken Circle BreakdownGwe 1 — Iau 14 TachweddGwlad Belg/2012/112mun/is-deitlau/15. Cyf. Felix Van Groeningen. Gyda: Veerle Baetens, Johan Heldenbergh, Nell Cattrysse.

Mae Elise a Didier yn cychwyn ar berthynas danbaid — er gwaetha’r gwahaniaethau rhyngddynt — ac yn dod yn agosach eto drwy gyfrwng eu band ‘bluegrass’. Ond ar ôl i’w merch fynd yn sâl ac wrth i dristwch adael ei ôl arnynt, mae’r ddau’n ymateb mewn ffyrdd gwahanol ac mae eu perthynas yn cael ei fygwth. Baled sinematig o gariad sy’n cynnwys trac sain gwych a pherfformiadau cain.

“The Broken Circle Breakdown yw’r fersiwn sinematig o albwm gwych sy’n cael ei chwarae mewn angladd. Yn y pen draw, mae’n ddathliad, ond mae tristwch torcalonnus y cariad a’r bywyd a gollwyd yn gwaedu ymhob nodyn.” Blake Howard, That Movie ShowYdy’r ffilmiau Sine Ffonig hyn yn apelio? Peidiwch â cholli’r perlau eraill hyn — Häxan: Witchcraft Through The Ages (t3), Ffilmiau Byrion Arswyd Mud: Gyda chyfeiliant piano byw gan Paul Shallcross, (t5) a One Chance (t9).

Machete Kills Gwe 22 — Mer 27 TachweddUDA/2013/107mun/15. Cyf: Robert Rodriguez. Gyda: Danny Trejo, Charlie Sheen, Michelle Rodriguez, Amber Heard.

Mae’r lladdwr cyflog o Fecsico, Machete, yn ei ôl, wedi’i recriwtio gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i frwydro unbeniaid treisgar â’u bryd ar lansio arf i’r gofod. Mwy o hwyl ‘Grindhouse’ sy’n cynnwys cyfres o berfformiadau ‘cameo’ gan rai o arwyr Hollywood.

Blue is the Warmest ColourGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrFfrainc/2013/180mun/18. Cyf: Abdellatif Kechiche. Gyda: Adèle Exarchopoulos, Léa Seydoux, Jérémie Laheurte.

Stori gain a hardd am wraig ifanc sy’n dioddef cyfnod ingol o hunan-ddarganfyddiad wrth iddi ddod yn oedolyn a phrofi cariad am y tro cyntaf. Mae Adèle yn gweld Emma mewn torf — rhyw fath o ddrych-weledigaeth rywiol — ac mae’r gwreichion yn tasgu. Mae eu byd yn teimlo’n gwbl ddilys ac oesol. Portread hyfryd o ddwy ferch yn eu harddegau sy’n delio â chymhlethdodau bywyd a rhywioldeb amrwd.

Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad matinee ar ddydd Mawrth 3 Rhagfyr ar gyfer trafodaeth grŵp ffilm LGBT Chapter.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Mus

cle

Shoa

ls, M

acet

e Ki

lls

Page 11: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema 11chapter.org

The Pervert’s Guide to IdeologyGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrUDA/2013/136mun/15. Cyf: Sophie Fiennes. Gyda: Slavoj Zizek.

Mae’r damcaniaethwr diwylliannol lliwgar, Slavoj Žižek, yn ymuno am yr eildro â’r cyfarwyddwr Sophie Fiennes (The Pervert’s Guide to the the Cinema) i daro golwg ddifyr arall ar sinema ac athroniaeth. Yn llawn brwdfrydedd heintus a’i ddiddordeb tanbaid mewn diwylliant poblogaidd, mae Žižek yn dehongli ffilmiau nodedig er mwyn archwilio a dangos y modd y maen nhw’n atgyfnerthu ideolegau eu cyfnod. Mae’r Titanic, wyau Kinder, clipiau newyddion ‘verité’, nawfed symffoni Beethoven a gweithiau propaganda epig o’r Almaen Natsïaidd a’r Rwsia Sofietaidd yn ysgogi ar rantio seicdreiddiol-sinematig pryfoclyd, llawn hiwmor.

Drinking BuddiesGwe 29 Tachwedd — Iau 5 RhagfyrUDA/2013/90mun/TICh. Cyf: Joe Swanberg. Gyda: Anna Kendrick, Jake M Johnson, Jason Sudeikis, Olivia Wilde.

Mae Luke a Kate yn gyd-weithwyr mewn bragdy yn Chicago lle maen nhw’n treulio’u dyddiau yn yfed ac yn fflyrtio. Maen nhw’n gweddu’n berffaith i’w gilydd — ddim ond eu bod nhw ill dau mewn perthnasau â phobl eraill. Mae Luke yn ystyried priodi’r ferch sy’n gariad iddo ers chwe blynedd ac mae Kate yn ceisio cadw pethau’n hamddenol gyda’i chariad hithau, Chris, sy’n gynhyrchydd cerddoriaeth. Ond wyddoch chi beth sy’n cymylu’r llinell aneglur rhwng bod yn ‘ffrindiau’ a bod yn ‘fwy na ffrindiau’? Cwrw.

DIGWyDDIAD:

Clwb Ffilm Merched WOW (Clwb Ffilm Merched BME gynt)Maw 12 TachweddMae’r dangosiadau hynod boblogaidd hyn yn dychwelyd i Chapter — roedd yna golled ar eu hôl. Bydd yna gyfres newydd a chyffrous o ddigwyddiadau achlysurol hefyd (i bawb a phob un). Dros gyfnod o wyth mlynedd, trefnodd y Clwb Ffilm nifer o ddigwyddiadau a dangosiadau ffilm, ac fe ddenodd filoedd o fenywod o gymunedau amrywiol ledled Caerdydd i wylio a thrafod ffilm. Mae’r Clwb Ffilm hefyd wedi dod yn ganolbwynt cymdeithasol poblogaidd, ac yn fan cyfarfod i fenywod o amrywiaeth o gefndiroedd. Felly, os ydych chi eisiau treulio amser gyda’r merched, bydd yna ddigonedd o ddangosiadau rheolaidd. I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Ffilm WOW i Ferched, i archebu tocynnau neu i gymryd rhan (os ydych chi’n barod i wirfoddoli), cysylltwch â Chydlynydd y Clwb Ffilm, Rabab Ghazoul, ar 07759 933311 neu e-bostiwch [email protected]

Drin

king

Bud

dies

Page 12: Sinema Chapter Tachwedd 2013

Sinema12 029 2030 4400

Turbo (2D)Sad 23 TachweddUDA/2013/96mun/U. Cyf: David Soren. Gyda: Ryan Reynolds, Paul Giamatti.

A all damwain ryfedd helpu malwen i wireddu ei breuddwyd – ennill ras yr Indy 500?

Wolf ChildrenSad 30 TachweddJapan/2012/117mun/dybio/TICh. Cyf: Mamoru Hosoda.

Wedi’u gorfodi i fyw y tu allan i’w cymdeithas, mae Yuki a Ame yn ysu am gael mynd i’r ysgol a bod yn normal. Mae eu mam yn cytuno i adael iddyn nhw wneud hynny — ar yr amod eu bod yn aros yn eu ffurfiau dynol, heb newid i fod yn fleiddiaid. Ffilm

‘anime’ hardd am dyfu i fyny a ffitio i mewn.

Digwyddiad ‘Moviemaker’ i Gnafon BychainThema: AngenfilodGwe 1 Tachwedd — 1-3pm Dewch i wylio a thrafod detholiad o ffilmiau byrion bwystfilaidd gyda Tom Betts ac i weld eich gweithiau chi ar y sgrîn. Bydd Tom yn cyflwyno’r sesiwn yn ei steil hawddgar ac unigryw ei hun ac yn rhoi’r cyfle i bobl ifainc gyflwyno’u ffilmiau byrion yng nghwmni cyd-gyfarwyddwyr ifainc.E-bostiwch [email protected] i gael manylion ynglŷn â chyflwyno eich ffilm.

RHAD AC AM DDIM ADDysGCwrs Animeiddio i DdechreuwyrBob dydd Sul, 13 Hydref-24 Tachwedd 4 — 7pmYdych chi erioed wedi ystyried sut y caiff eich hoff gartwnau eu creu? Dewch i ddysgu technegau animeiddio ac i wneud fideo cerddoriaeth wedi’i animeiddio ar y cwrs animeiddio hwn i oedolion dibrofiad. Caiff y cwrs ei arwain gan animeiddiwr proffesiynol o Winding Snake Productions. Fyddwch chi ddim yn edrych ar gartwnau yn yr un ffordd eto...Pris: £149 am 6 wythnos. Darperir yr holl offer a’r deunyddiau angenrheidiol. Gallwch ddewis talu £25 ychwanegol i gael achrediad Lefel 1 Agored Cymru. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch Chapter ar 029 2030 4400.

Carry on Screaming!Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry on Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.

Frankenweenie [2D]Gwe 1 — Sad 2 TachweddUDA/2012/87mun/PG. Cyf: Tim Burton. Gyda: Martin Landau, Winona Ryder.

Mae ci annwyl Victor, Sparky, yn dioddef tynged anffodus ac mae’r dyfeisiwr ifanc yn penderfynu ei atgyfodi yn y fersiwn fympwyol, ‘stop-motion’ hon gan y cyfarwyddwr nodedig, Tim Burton, o fyth Frankenstein.

Planes [2D] Sad 9 TachweddUDA/2013/92mun/U. Cyf: Klay Hall. Gyda: Dane Cook, Stacy Keach, Brad Garrett.

Mae Dusty yn awyren dyfrio cnydau ac yn breuddwydio am gystadlu mewn ras awyr enwog. Un broblem sydd yna – mae e’n ofni uchder. Ond gyda chymorth ei fentor, Skipper, a llu o ffrindiau newydd, mae Dusty’n mynd ati i wireddu ei freuddwydion.

Project Wild ThingSad 16 TachweddCyf: David Bond.

Wrth geisio sicrhau bod ei blant ei hun yn ymgysylltu â byd natur ac yn cymryd rhan yn y drafodaeth ehangach am yr amgylchedd, mae’r cyfarwyddwr Bond yn arwain cwest i annog ein plant ni i gyd i fanteisio ar fywyd yn yr awyr agored.Bydd yna weithgareddau rhyngweithiol yn gysylltiedig â’r dangosiad hwn ac fe fydd Chwarae Cymru yma i roi mwy o fanylion i chi am ymgyrch a gefnogir gan The Wild Network.

Turb

o

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Cysylltwch â ni i gael manylion am Ddangosiadau Mewn Amgylchiadau Arbennig.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688