gwybodaeth ysgolion i rieni 2014-15
DESCRIPTION
Gwybodaeth Ysgolion i Rieni 2014-15TRANSCRIPT
Gwasanaeth Derbyniadau i Ysgolionwww.pembrokeshire.gov.uk/education
Cyngor Sir PenfroGwasanaethau Addysg
Derbyniadau i ysgolion yn Sir Benfro
Gwybodaeth i Rieni
2014-2015
Doc PenfroY.G. Doc Penfro
Ysgol Gymunedol PennarYsgol Gatholig Santes Fair
PenfroY.G. Gelli Aur Golden Grove
Y.G. Monkton PrioryYsgol Penfro
Dinbych Y PysgodYsgol Babanod GRhDinbych y Pysgod
Ysgol Iau GymunedolDinbych y Pysgod
Ysgol Gatholig St Teilo’sYsgol Greenhill
AberdaugleddauY.G. Hakin
Ysgol Plant IauAberdaugleddauYsgol Babanod aMeithrin y Meads
Y.G.Rh. HubberstonYsgol Gatholig St Ffransis
Ysgol Aberdaugleddau
HwlfforddY.G. Fenton
Y.G. Mount AireyY.G. Prendergast
Ysgol Glan CleddauYsgol G.Rh. Hwlffordd
Ysgol GatholigMary ImmaculateY.G. Rh. St Marc
Ysgol Arbennig PortfieldYsgol Tasker-Milward
Ysgol Syr Thomas Picton
TyddewiYsgol Bro Dewi
Ysgol Gyfun Dewi Sant
CrymychYsgol PreseliYsgol y Frenni
AbergwaunYsgol Catholig yr enw
SanctaiddYsgol Bro Gwaun
Ysgol Glannau Gwaun
NeylandYsgol Gymunedol NeylandGwasanaeth Atgyfeirio
Disgyblion
Neges gan yCyfarwyddwrDros Blant ac Ysgolion
Medi 1af, 2013
Annwyl Riant neu Warcheidwad
Bwriad y llyfryn hwn yw eich cynorthwyo i wneud penderfyniadaupwysig ynglŷn ag ysgol i’ch plentyn. Cyn i chi ddweud i ba ysgol ybyddai orau gennych i’ch plentyn fynd, mae angen i chi ystyried yrwybodaeth a ddarparwyd yn y llyfryn hwn a bod yn ymwybodol o’r hyny gallwch ei wneud a sut i fwrw ati.
Hefyd, efallai y byddwch am ymweld ag ysgolion lleol a darllen euprosbectws ysgol cyn penderfynu pa ysgol y byddai orau gennych i’chplentyn ei mynychu.
Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael mynd i’r ysgola ddewiswyd gan eu rhieni, ac mae’r mwyafrif yn llwyddiannus. Foddbynnag, nid yw hyn yn bosibl bob amser ac mae’r llyfryn hwn yn egluroeich hawliau a’ch cyfrifoldebau. Dylech nodi nad yw’r ffaith bod plentynyn cael ei dderbyn i ysgol yn awgrymu bod cludiant i’r ysgol honno acoddi yno yn cael ei ddarparu. Dylech gyfeirio at y wybodaeth berthnasolyn ein polisi cludiant.
- 1 -
Rhagair
Pan fydd eich plentyn wedi dechrau’r ysgol gobeithiaf y byddwch ynrhoi pob cymorth i’ch plentyn gydol ei yrfa yn yr ysgol. Mae’r Cyngor Siryn awyddus i weld rhieni yn cymryd rhan ymarferol ym maes dysgu euplentyn. Bydd ysgol eich plentyn yn gallu dweud wrthych sut y gallwchgynorthwyo eich plentyn gartref. Mae profiad yn dangos bod y plantsy’n llwyddo orau yn yr ysgol yn elwa ar gefnogaeth a dealltwriaeth ddagan eu rhieni.
Cyhoeddir y llyfryn hwn yn flynyddol ac mae’n gywir adeg ei gyhoeddi.Byddwn yn croesawu eich awgrymiadau ar sut i’w wella. Llenwch yffurflen adborth sydd ar gael ar ein gwefan at y diben hwn.
Dymunaf bob llwyddiant i’ch plentyn yn y dyfodol.
Jake MorganCyfarwyddwr Dros Blant ac YsgolionCyngor Sir Penfro,Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TPFfôn (01437) 764551 Ffacs (01437) 775838Gwefan: www.pembrokeshire.gov.uk/education
Mae mwy o gopïau o’r llyfryn hwn ar gael gan Ganolfan Gyswllt yCyngor Sir: 01437 764551.
I gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn Braille, printmwy,ar dâp sain neu mewn iaith arall ffoniwch GyngorSir Penfro ar (01437) 776613.
- 2 -
TudalenMap yn dangos lleoliad ysgolion Sir Benfro ...................................... y tu mewn i’r clawr blaenNeges gan y Cyfarwyddwr Dros Blant ac Ysgolion ................................................................ 01Siarter Lleol - Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion ........................................................................ 05Cyfleoedd Cyfartal ................................................................................................................ 07
RHAN 1 - Dewis ysgol a gwneud cais am dderbyniadi) Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r ysgol? .................................................................... 08ii) Sut galla i gael lle mewn ysgol i’m plentyn 3 oed? .................................................... 09iii) Sut mae dewis ysgol i’m plentyn? ............................................................................ 10iv) Sut mae gwneud cais am le i’m plentyn? .................................................................. 11v) Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis? .............................................. 13vi) A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol? ................................................ 14vii) A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir eu derbyn? ............................ 14viii) Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu? ................................................................ 14ix) Sut caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol? ...................................... 17x) Os byddaf i’n colli’r dyddiad olaf cyhoeddedig ar gyfer derbyniadau, sut rhoddir sylw i’m cais? ...... 17xi) Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro? .................................................... 18xii) Beth yw Teuluoedd o Ysgolion? ................................................................................ 18xiii) Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant? ...................... 19xiv) Sut mae penderfynu ar gategori iaith ysgol? .............................................................. 19
RHAN 2 - Polisïau a’r gyfraith sy’n effeithio ar dderbyniadaui) Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’r ysgol? .................... 24ii) Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant? ................................................ 24iii) A oes terfyn ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion? .................................................. 25iv) Pam fod angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn? .......................... 25v) Enw cyfreithiol/hysbys plentyn .................................................................................. 26vi) Pa ddarpariaeth sydd gennych am blant pobl sydd yn Lluoedd Arfog y DU? .............. 26vii) Beth yw hawliau plant o dramor? .............................................................................. 27viii) Beth yw fy hawl i apelio? .......................................................................................... 27ix) A fydd prydau ysgol ar gael i’m plentyn? .................................................................. 28x) Sut galla i gael gwybod am hawl i brydau ysgol am ddim? ........................................ 30xi) A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol? .............................................................. 30xii) Pa gymorth ariannol fedraf hawlio? .......................................................................... 31xiii) Pa arholiadau cyhoeddus fydd fy mhlentyn yn eistedd? .............................................. 31xiv) Polisi ar Addysg Anghenion Arbennig .......................................................................... 31xv) Pa drefniadau amddiffyn plant sydd mewn grym? .................................................... 33xvi) Pa gostau fydd rhaid i mi dalu? ................................................................................ 34
- 3 -
Mynegai
RHAN 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolioni) Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall? .......................... 35ii) Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd? ...................................... 35
RHAN 4 - Cludiant ysgoli) Cyflwyniad .............................................................................................................. 37ii) Pellterau cerdded ...................................................................................................... 37iii) Ysgol addas .............................................................................................................. 38iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol .................................................................................. 38v) Natur y ddarpariaeth gludiant .................................................................................... 38vi) Llwybrau cerdded diogel .......................................................................................... 38vii) Ysgolion cyfrwng Cymraeg ........................................................................................ 39viii) Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ............................................................................ 39vix) Cludiant i ddysgwyr 16+ oed .................................................................................... 39x) Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig .............................................................. 40xi) Cludiant ar sail feddygol ............................................................................................ 41xii) Teithio rhatach .......................................................................................................... 41xiii) Ysgolion mewn awdurdodau cyfagos ........................................................................ 42xiv) Newid cyfeiriad ........................................................................................................ 42xv) Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol .................................................................... 42xvi) Codau Ymarfer .......................................................................................................... 42xvii) Pasiau bws .............................................................................................................. 43xviii) Mannau codi ............................................................................................................ 43xix) Ymddygiad ar fysiau ysgol ........................................................................................ 43xx) Difrod ........................................................................................................................ 44xxi) Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant ........................................................ 44xxii) Amgylchiadau ariannol .............................................................................................. 44xxiii) Apeliadau cludiant .................................................................................................... 45xxiv) Adolygu llwybrau cludiant ........................................................................................ 45xxv) Tywydd gwael .......................................................................................................... 45
RHAN 5 - Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol 2014-15 ........ 46
AtodiadauAtodiad 1 - Egluro’r derminoleg ...................................................................................... 47Atodiad 2 - Trefniadau Mynediad a meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion
gwirfoddol a gynorthwyir ................................................................................ 48Atodiad 3 - Cod Ymddygiad i ddisgyblion ar gyfer cludiant o’r cartref i’r ysgol/coleg ........ 58
- 4 -
Siarter Lleol -Gwasanaeth Derbyn i Ysgolion
Ym mis Ionawr 2013 roedd 70 ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu9298 disgybl oedran cynradd llawn amser a 1039 o rai rhan-amser, a7704 disgybl oedran uwchradd. Cyngor Sir Penfro yw’r awdurdodderbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir ynSir Benfro ac mae'r Uned Derbyn a Chynllunio Lleoedd yn delio â’r holldderbyniadau i ysgolion a’r trosglwyddiadau, ac eithrio i ysgoliongwirfoddol a gynorthwyir. Yr Awdurdod Derbyn ar gyfer ysgoliongwirfoddol a gynorthwyir yw corff llywodraethu yr ysgol dan sylw.
Gallwch ddisgwyl:
� derbyn cyngor dibynadwy a diduedd ynglŷn ag ysgolion a mynegidewis
� y bydd eich cais am le mewn ysgol yn cael ei drin yn deg ac yneffeithlon
� y cynigir lle ichi mewn da bryd (yn amodol ar dderbyn eich caismewn pryd)
� lle yn yr ysgol o’ch dewis oni bai bod mwy o geisiadau na’r niferderbyn yn caniatau mynediad. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yrholl geisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawfgordanysgrifio
� derbyn gwybodaeth am agweddau allweddol ar bolisïau'r CyngorSir ynglŷn â derbyniadau a chludiant ysgol
� cael gwybod sut i dderbyn prosbectws ysgol a sut i drefnu ymweliadag ysgol a gwybodaeth berthnasol arall am ysgolion yn Sir Benfro
� gwybodaeth ynglŷn â'r hawl i apelio os na roddir lle i chi yn yr ysgolo’ch dewis
� gweithdrefn gwyno agored, teg ac effeithiol os nad ydych yn fodlonar y gwasanaethau a dderbyniwch
- 5 -
Os yw eich plentyn wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ac nad ydychwedi cael lle yn yr ysgol o’ch dewis mae gennych hawl i apelio i banelapeliadau annibynnol.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich apêl yn ysgrifenedig. Bydd manylionynglŷn â sut i apelio yn y llythyr sy’n eich hysbysu am y penderfyniadac mae’r manylion yn y llyfryn hwn hefyd. Os ydych yn anfodlon ar ygwasanaeth a ddarperir gallwch wneud cwyn swyddogol. Mae gan yCyngor Sir weithdrefn Gwyno, Canmol a Chyflwyno Sylwadau sydd argael ar gais.
SYLWER:Mae’r wybodaeth yn y llyfryn yma yn berthnasol ac yn gywir ar adeg eigyhoeddi. Efallai y bydd rhaid addasu polisi, rheoleiddio, darpariaethneu adnoddau ar gyfer, neu yn ystod, y flwyddyn academaidd2014/15.
- 6 -
Cyfleoedd Cyfartal
Nid yw polisïau ac arferion y Cyngor Sir ynglŷn â derbyn athrosglwyddo disgyblion a darparu cludiant ysgol yn gwahaniaethol.Maent yn cydymffurfio a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae gwybodaeth am addysgu Cymraeg a Saesneg yn ysgolion SirBenfro ar dudalennau 20-23 y llyfryn hwn.
Pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol gofynnir ichi roi gwybodaetham ei gefndir ethnig. Gallwch ddewis peidio ag ateb y cwestiynau hyn.Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ei thrin yn hollolgyfrinachol ac fe’i defnyddir yn unig er mwyn sicrhau bod gwasanaethda a theg yn cael ei gynnig i holl aelodau’r gymuned.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cytuno ar Strategaeth Fynediad ar gyfer2013-2016 er mwyn parhau i wella hygyrchedd ysgolion i ddisgyblionanabl. Cyhoeddir hon ar wefan y cyngor sefwww.pembrokeshire.gov.uk. Mae’r Cyngor Sir yn darparu cymorth achanllawiau i ysgolion ar faterion yn ymwneud â hygyrchedd ac, ynarbennig, o ran eu cyfrifoldeb i baratoi Cynllun Mynediad i’r Ysgol.
Os ydych o’r farn eich bod wedi cael eich trin yn annheg o safbwyntcyfle cyfartal mewn perthynas â derbyn i ysgol neu gludiant ysgolcysylltwch â’r canlynol:Huw Jones, Swyddog Broffesiynol – Adran Plant ac YsgolionFfôn: 01437 775502 E-bost: [email protected]
Adran Plant ac Ysgolion, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP
Mae Cyngor Sir Penfro wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
- 7 -
i) Pryd gall fy mhlentyn ddechrau’r Ysgol?
Yn Sir Benfro gall plant gael eu derbyn i ysgol gynradd ar ddechrau’rtymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair, pedair neu pump oed. Sylwerfod addysg gorfodol yn dechrau pan fydd y plentyn yn cyrraedd pumpoed. Dyddiad pen-blwydd eich plentyn sy’n penderfynu pryd y gallddechrau’r ysgol, ni waeth beth yw dyddiad dechrau’r tymor. Mae’r tablisod yn dangos pryd y gall eich plentyn gael ei dderbyn i ysgol.
Pen-blwydd y plentyn Tymor Derbyn1 Ebrill - 31 Awst 2014 Hydref 20141 Medi - 31 Rhag 2014 Gwanwyn 20151 Ion - 31 Mawrth 2015 Haf 20151 Ebrill - 31 Awst 2015 Hydref 2015
Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd Sir Benfro yn cael eu gwasanaethu ganysgolion cynradd sy’n darparu ar gyfer disgyblion o 3+ i 11 oed a gallplant fynychu yn llawn amser pan fyddant yn bedair oed, neu’nrhan-amser yn dair oed yn yr ysgolion hynny sy’n gallu derbyn rhai tairoed. Pan fydd trefniadau’n bodoli rhwng ysgolion a darparwyr preifat,gall disgyblion ddechrau yn yr Ysgol ar ddechrau’r ail neu trydyddtymor yn dilyn penblwydd y plentyn yn dair oed. Dylech gysylltu a’rysgol er mwyn cael gwybodaeth am ei trefniadau penodol.
Mae disgyblion yn cael eu derbyn i ddosbarthiadau derbyn ar ôlcyrraedd pedair oed ac maent yn cael eu hannog yn gryf i fynychu’nllawn amser er mwyn elwa’n llawn o addysg a phrofiadau’r CyfnodSylfaen. Gwelir ystod oedran pob ysgol yn y rhestr ysgolion sydd ynmynd gyda’r llyfryn hwn.
- 8 -
Rhan 1 - Dewis a gwneud cais
ii) Sut galla i gael lle mewn ysgol i’m plentyn tair oed?
Mae hawl gan bob plentyn tair oed yng Nghymru i gael lle addysgolrhan-amser am ddim am o leiaf ddeg awr yr wythnos. Fel arfer, byddhwnnw ar gael yn eich ysgol ddalgylch, ond os nad yw eich ysgol leolyn derbyn plant tair oed gallwch gael lle rhan-amser am ddim mewncanolfan a gymeradwywyd gan Bartneriaeth Datblygiad y BlynyddoeddCynnar a Gofal Plant yn y sector nas cynhelir, e.e. meithrinfa preifat. Dimond un lle sydd ar gael ar gyfer pob plentyn. Bydd angen i chi ddarparullungopi o dystysgrif geni eich plentyn pan fyddwch yn gwneud caisam le rhan-amser mewn ysgol.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am lefydd y blynyddoedd cynnar yn ysector nas cynhelir gan y canlynol:Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Sir BenfroY Ganolfan Dechrau’n Deg, Cross Park, Pennar, Doc Penfro SA72 6SWFfôn: 01437 775700E-bost: [email protected] Wê: www.pembsfamilyinfo.co.uk
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn wasanaethdiduedd, am ddim sy’n cynnig gwybodaeth fanwl ynglŷn â’rddarpariaeth gofal plant gofrestredig yn Sir Benfro yn ogystal âgwybodaeth gyffredinol am amrywiaeth mawr o wasanaethau ar gyferplant 0 - 19 oed a’u teuluoedd yn y sir.
Menter gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg sydd â’r nod o roicychwyn gwell i blant 0-3 oed. Ardal darged Dechrau’n Deg yn SirBenfro yw Penfro, Doc Penfro a Aberdaugleddau, yn seiliedig arddalgylchoedd yr ysgolion canlynol:
� Ysgol GS Doc Penfro� Ysgol GS Pennar� Ysgol GS Gelli Aur / Golden Grove (lleoliad dwyieithog)� Ysgol GS Monkton Priory� Ysgol Babanod Y Meads
- 9 -
Nod y prosiect yw cynorthwyo plant a theuluoedd trwy ddarparu:� ymwelwyr iechyd ychwanegol - bydd hyn yn galluogi ymwelwyr
iechyd i leihau eu baich achosion yn yr ardal a darparu amrywiaethehangach o gefnogaeth;
� rhaglen sgiliau rhianta un i un neu mewn grŵp;� rhaglen sgiliau sylfaenol megis iaith a chwarae a gynigir mewn
gwahanol leoliadau;� Swyddog Gwybodaeth i gynnig gwybodaeth i rieni am y prosiect;� mae gofal plant ar gael trwy grwpiau chwarae sy’n cynnig gofal plant
am ddim i blant sy’n byw yn yr ardal Dechrau’n Deg; bydd hyn argael am 2½ awr y dydd, hyd at bum niwrnod yr wythnos, 42 wythnosy flwyddyn. Bydd gofal plant am ddim ar gael i rieni sy’n gweithiotrwy eu meithrinfa ddydd neu warchodwyr plant. Hefyd mae moddi chi gael eich cyfeirio at warchodwyr plant gan ymwelydd iechyd.
Yn ystod 2012-2015 mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dyblu nifer yplant yn Sir Benfro sy’n gallu elwa o’r Rhaglen Dechrau’n Deg. Ynogystal ag ymestyn i ardal Aberdaugleddau, fydd y darpariaeth ynymestyn i ardaloedd targedig yn Hwlffordd yn ystod 2014-15.
iii) Sut mae dewis ysgol i’m plentyn?
Mae pob ysgol yn Sir Benfro yn gwasanaethu ardal wedi’i diffinio, aelwir yn ddalgylch. Yr eithriad i hwn yw Ysgol y Preseli. Gan mai honyw’r ysgol uwchradd ddwyieithog dynodedig am y Sir, mae’ngwasanethu’r holl ddisgyblion sydd yn derbyn addysg cyfrwngCymraeg yn ysgolion gynradd y Sir (gweler Tud 20-23). Mae manylion yrardal y mae pob ysgol yn ei gwasanaethu ar gael yn yr ysgol, neu arwefan y Cyngor Sir. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynychu’r ysgolddalgylch sy’n gwasanaethu eu hardal, ond efallai y byddwch chi’ndewis ffafrio ysgol wahanol. Cyn gwneud hynny, dylech ddarllen yradrannau Teuluoedd o Ysgolion (Tud 18) a Chludiant Ysgol (Tud 37) yny llyfryn hwn, sy’n ystyried y goblygiadau addysgol a chludiant pan fyddeich plentyn yn mynychu ysgol o’ch dewis.
- 10 -
Mae rhestr o ysgolion yn y llyfryn hwn ac mae hefyd ar gael ar wefan yCyngor Sir. Mae hon yn dangos:
� Ystod oedran pob ysgol� Nifer y disgyblion ar y gofrestr� Cynhwysedd pob ysgol a’r nifer derbyn� Nifer o geisiadau ysgrifenedig a dderbyniwyd am bob ysgol� Nifer o apelau, a’r nifer oedd yn llwyddiannus� Categori iaith pob ysgol
Os ydych yn ystyried symud i ogledd ddwyrain Sir Benfro, mae angen ichi fod yn ymwybodol mai Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaithysgolion yr ardal honno.
Cynghorir chi i gysylltu â’r ysgol rydych chi’n ei hystyried er mwyn caelcopi o’i phrosbectws a threfnu gyda’r pennaeth i ymweld â’r ysgol cyngwneud eich penderfyniad.
Hefyd, gallwch gael gwybodaeth annibynnol am berfformiad ysgol trwyfynd i wefan ESTYN er mwyn gweld canfyddiadau ei hadroddiadarolygu diweddaraf. ESTYN yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi drosAddysg a Hyfforddiant yng Nghymru - www.estyn.gov.uk.
iv) Sut mae gwneud cais am le i’m plentyn?
P’un a ydych am i’ch plentyn fynychu eich ysgol ddalgylch neu ysgolwahanol dylech wneud cais ysgrifenedig i’r Swyddog Derbyniadau.Gallwch ddefnyddio’r ffurflen gais am dderbyniad AD1 sydd ar gael onifer o adeiladau’r Cyngor Sir, yn cynnwys eich ysgol dewisol; ynogystal, fedrwch ei lawrlwytho o wefan y Cyngor.
Rhaid dychwelyd ceisiadau am lefydd mewn ysgolion cymunedolneu wirfoddol a reolir i’r ysgol briodol neu at y SwyddogDerbyniadau erbyn y dyddiad cau a nodir yn adran 1v) isod.
- 11 -
Dylid dychwelyd ceisiadau am dderbyniad i ysgolion gwirfoddol agynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion Gatholig at bennaethyr ysgol dan sylw erbyn y dyddiad cau a nodir yn Atodiad 2. Yn ôl ygyfraith, mae’n rhaid gwneud pob cais am dderbyniad trwy lenwiffurflen gais. Nodwch fod dweud wrth bennaeth eich ysgol dewisol ynannigonol i sicrhau lle, ac er fedrwch ddychwelyd y ffurflen i’r ysgolhonno, ni fydd y Pennaeth yn gallu gwneud penderfyniad ar gynnig lle.Fodd bynnag os ydych am rhoi cais am le yn ysgol wirfoddol agynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol Gatholig, yna fyddmodd i’r Pennaeth gwneud y penderfyniad hwn.
Gellir ofyn i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad, e.e. ar ffurf biliaucyfleustodau diweddar, wrth wneud cais am le mewn ysgol. Hefyd, osydych yn gwneud eich cais cyntaf am le mewn ysgol a gynhelir yn SirBenfro, bydd angen i chi ddangos copi o dystysgrif geni’r plentyn.
Gallwch ddewis ffafrio mwy nag un ysgol. Bydd yr Awdurdod yndyrannu llefydd yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio sydd i’w weld ynadran 1viii. Gallwch fynegi eich bod yn ffafrio addysg trwy gyfrwng yGymraeg neu ysgol Eglwysig.
Os caiff eich plentyn ei dderbyn i addysg ran-amser mewn ysgol, rhaid ichi ail-ymgeisio am le yn yr ysgol pan fydd eich plentyn yn barod inewid i addysg lawn amser. Os oes mwy o geisiadau nag sydd o lefyddllawn amser ar gael, bydd y meini prawf gordanysgrifio a eglurir ynadran 1viii yn berthnasol.
Gellir tynnu lle mewn ysgol yn ôl os yw rhiant yn rhoi gwybodaethanghywir neu dwyllodrus wrth wneud cais am dderbyniad. Gall fodangen i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad mewn cysylltiad â’ch caisam le mewn ysgol.
- 12 -
- 13 -
v) Pryd dylwn i wneud cais am le yn yr ysgol o’m dewis?
Derbyn i Addysg Ran-amser ym mis Ionawr, Ebrill a Medi 2015
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis 30 Ebrill 2014
Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2014
Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â derbyn i’r meithrin
Derbyn i Addysg Llawn Amser ym mis Ionawr, Ebrill a 2015
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis 30 Ebrill 2014
Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2014
Dyddiad cau ar gyfer derbyn apelau statudol Cyn pen 10 diwrnodgwaith wedi hysbysu
Mae’r hawl i apelio yn berthnasol i lefydd ar gyfer disgyblion oedran ysgol statudol yn unig
Trosglwyddo i Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2014
Dosbarthu gwybodaeth drosglwyddo i rieni Cyn diwedd Tymoryr Hydref 2013
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni dewis 31 Ionawr 2014
Hysbysu am ganlyniadau ceisiadau Erbyn 31 Mawrth 2014
Dyddiad cau ar gyfer derbyn apelau statudol Cyn pen 10 diwrnodgwaith wedi hysbysu
Gellir gwneud cais am lefydd mewn dosbarthiadau meithrin aderbyn unrhyw bryd hyd at y dyddiadau cau a nodir. Er mwynlleddfu’r baich gweinyddol o ymdrin â cheisiadau, dylech ystyriedgwneud eich cais ar y cyfle cynharaf a pheidio ag aros tan fod ydyddiad cau yn agos. Nid oes unrhyw driniaeth ffafriol yn cael eirhoi i geisiadau cynnar.
vi) A fydd fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol?
Nid o reidrwydd. Nid yw derbyn plentyn i ysgol yn golygu bodcludiant am ddim yn cael ei ddarparu. Mae darparu cludiant yn fater arwahân. Nid yw’r Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion i ysgolionac eithrio eu hysgol ddalgylch neu eu hysgol agosaf, a hynny dim ond iddisgyblion cymwys. Rhaid i chi gofio mai chi fydd yn gyfrifol amdrefniadau a chostau cludiant os caiff eich plentyn ei dderbyn i ysgolnad yw’n ysgol ddalgylch neu’n ysgol agosaf. Mae Rhan 4 y llyfryn hwnyn egluro ein Polisi Cludiant yn llawn.
vii) A oes gan ysgolion derfyn ar nifer y disgyblion y gellir euderbyn?
Oes. Mae gan bob ysgol uchafswm ac ar sail hwnnw cyfrifir y NiferDerbyn cyhoeddedig. Rhaid i bob ysgol dderbyn disgyblion hyd at eunifer derbyn cyhoeddedig.
Bydd y nifer derbyn yn adlewyrchu uchafswm yr ysgol ar gyfer pobgrŵp blwyddyn a dyrennir lle i’ch plentyn mewn ysgol oni bai ei bodhi’n llawn. Os bydd nifer y ceisiadau yr un peth neu’n llai na’r NiferDerbyn, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu derbyn. Os fydd nifer yceisiadau yn fwy na’r Nifer Derbyn, bydd yr holl geisiadau yn cael euhasesu yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, gyda llefydd yn cael eucynnig yn unol a hynny.
viii) Sut mae llefydd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu?
Cyngor Sir Penfro yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolioncymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro. Mae polisi derbyn ameini prawf gordanysgrifio'r Cyngor a welir isod yn berthnasol i’r hollysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir yn Sir Benfro.
- 14 -
Bydd plant yn cael eu derbyn i’r ysgol a ddewiswyd pan fo darpariaetha lle yn caniatáu. Os oes mwy o geisiadau am fynediad i ysgolioncymunedol a gwirfoddol a reolir na’r llefydd sydd ar gael, bydd yCyngor Sir yn defnyddio’r meini prawf gordanysgrifio canlynol (wedi’ugweithredu yn ôl eu trefn) i flaenoriaethu ceisiadau rhieni sydd wedidewis yr ysgol:
Meini Prawf Gordanysgrifio ar gyfer Ysgolion Cymunedola Gwirfoddol a Reolir yn Nhrefn Blaenoriaeth
1. Cyn ddisgyblion a disgyblion presennol sy’n derbyn gofal ganawdurdodau yng Nghymru a Lloegr yn unol ag A.22 Deddf Plant1989.
2. Disgyblion sy’n byw o fewn y dalgylch y bwriadwyd i’r ysgol eiwasanaethu;
3. Disgyblion sy’n mynychu ysgolion bwydo (h.y. ysgolionbabanod sy’n bwydo ysgolion iau neu ysgol gynradd yn yr un“teulu” ag ysgol uwchradd - gweler adran 1il a’r rhestr ysgolionsydd wedi’i mewnosod);
4. Siblingiaid (disgyblion sydd â brodyr neu chwiorydd hŷn neuhanner brodyr neu chwiorydd neu blant sy’n byw ar yr unaelwyd) yn mynychu’r ysgol a ddewiswyd ar adeg eu derbyn;
5. Disgyblion lle bo tystiolaeth eithriadol meddygol neucymdeithasol, sydd yn cyfiawnhau mynediad i ysgol arbennig(e.e. llythr oddiwrth gweithiwr iechyd broffesiynol.
Pan fydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, bydd blaenoriaeth yncael ei roi, o dan bob categori gordanysgrifio, i frodyr a chwioryddgenedigaeth luosog (e.e. efeilliaid neu dripledi). Os yw’r plentynolaf i’w dderbyn hyd at y Nifer Derbyn yn un o enedigaeth luosog,yna bydd yr Awdurdod Derbyn yn derbyn y brodyr/chwiorydd eraillyn ogystal.
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’nbyw agosaf at yr ysgol, wedi’i fesur yn ôl y pellter cerdded byrrafo’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle mae anneddbreifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.
- 15 -
Mae’r Cyngor Sir yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS) igyfrifo pellterau o’r cartref i’r ysgol mewn milltiroedd. Bydd y llwybrteithio byrraf yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio data’r Arolwg Ordnans(AO) o’r man lle mae cartref yr ymgeisydd yn cwrdd â’r brifforddgyhoeddus hyd at y man lle mae mynedfa agosaf yr ysgol yn cwrdd â’rbriffordd gyhoeddus. Pennir cyfesurynnau cyfeiriad cartref ymgeisyddtrwy ddefnyddio data’r AO a Rhestr Eiddo. Os bydd unrhyw ddadleuonyn codi ynghylch pellterau, bydd swyddog yn mesur y pellter ganddefnyddio cerbyd sydd ag odomedr wedi’i raddnodi.
Mae’n bwysig bod pob cais yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau abennwyd fel y gellir eu hystyried gyda’i gilydd ac fel y caiff y meiniprawf gordanysgrifio eu gweithredu’n deg a chyfiawn ym mhob achos.Golyga hynny hefyd y gellir ymdrin yn brydlon ag unrhyw apelau ac ygellir gwneud y penderfyniad mewn da bryd cyn y dyddiad y disgwylir i’rplentyn ddechrau’r ysgol. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar -bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig yncael eu hystyried gyda’i gilydd.
At ddibenion derbyn i ysgolion a chludiant ysgol, ystyrir bod disgyblionyn byw yng nghyfeiriad y rhiant yr oeddent yn byw gydag ef/hi yn yflwyddyn flaenorol. Os bydd y disgybl wedi byw gyda mwy nag unrhiant neu rywun â chyfrifoldeb rhiant, a heb symud yn barhaol i un o’rddau gyfeiriad, yna bydd y cyfeiriad lle bu’r disgybl yn byw am y nifermwyaf o ddiwrnodau ysgol yn cael ei ystyried fel y cyfeiriad cartref.
Os na fydd y Cyngor Sir yn gallu cynnig lle i blentyn yn yr ysgol o’udewis yn ystod y cylch derbyn arferol o ganlyniad i ordanysgrifio, rhoddir eienw ar restr aros tan 31 Awst cyn dechrau’r flwyddyn academaiddberthnasol. Bydd y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw lefydd a fydd yn dod ar gaelyn cael ei rhoi yn unol â’r meini prawf gordanysgrifio uchod ac nid yn ôldyddiad cyflwyno’r cais gwreiddiol am le.
Gweler Atodiad 2 am feini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion gwirfoddol agynorthwyir.
- 16 -
ix) Sut caf i wybod am ganlyniad fy nghais am le mewn ysgol?
Cewch lythyr gan Swyddog Derbyniadau’r Cyngor Sir a fydd yn rhoicanlyniad unrhyw gais am dderbyniad. Os caiff cais ei dderbyn, byddangen i chi gadarnhau a fyddwch yn derbyn y lle a gynigiwyd neubeidio. Os digwydd i’ch cais gael ei wrthod, bydd y llythyr adderbyniwch yn amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad a’ch hawl iapelio yn erbyn y penderfyniad, os yw’n gymwys.
x) Os byddaf i’n colli’r dyddiad olaf cyhoeddedig ar gyferderbyniadau, sut rhoddir sylw i’m cais?
Bydd ceisiadau hwyr am lefydd h.y. ceisiadau a dderbynnir ar ôl ydyddiad cau, yn cael eu hystyried ar ôl yr holl geisiadau a dderbyniwydmewn pryd (oni bai bod rhesymau eithriadol pam fo’r cais yn hwyr, ymae’n rhaid eu hegluro adeg gwneud y cais). Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio, gan ystyried nifer ydisgyblion presennol/darpar ddisgyblion pan wneir y cais. Bydd hyn yngolygu os yw’r ysgol a ddewiswyd gennych wedi derbyn gormod ogeisiadau, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais er mwyn i’ch plentynfynychu’r ysgol ddalgylch, y gallech fod yn llai tebygol o gael lle wedi’iddyrannu os yw eich cais yn hwyr.
Os ydych yn ailfeddwl am eich dewis o ysgol ar ôl cyflwyno’ch caisgwreiddiol rhaid i chi hysbysu’r Swyddog Derbyniadau yn ysgrifenedig.Os gwneir y penderfyniad hwn ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, ynacaiff eich cais am eich dewis newydd ei ystyried yn gais hwyr hyd ynoed os cafodd eich cais gwreiddiol ei dderbyn mewn pryd.
- 17 -
xi) Alla i wneud cais am ysgol y tu allan i Sir Benfro?
Gallwch, ond yn yr achos hwn, dylech wneud cais i’r Cyngor sy’n cynnalyr ysgol o’ch dewis. Mae pob Cyngor Sir yn cynhyrchu llyfryngwybodaeth i rieni ac yn cynnwys meini prawf a chanllawiau ar gyfergwneud cais.
Os ydych am wneud cais am le mewn ysgol yn un o’n hardaloeddCyngor Sir cyfagos, dyma sut y dylid gwneud cais:
Sir Gaerfyrddin CeredigionCyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau CymunedolCyngor Sir Caerfyrddin Cyngor Sir CeredigionAdran Addysg a Phlant, Adran Addysg a Gwasanaeth CymunedolAdeilad 2, Canolfan Rheidol,Parc Dewi Sant, Rhodfa Padarn,Heol Ffynnon Job, Llanbadarn Fawr,Caerfyrddin SA31 3HB Aberystwyth SY23 3UEFfôn: 01267 246500 Ffôn: 01970 617911
xii) Beth yw teuluoedd o ysgolion?
Mae ysgolion yn Sir Benfro yn gweithredu ar sail 'teulu o ysgolion' acmae cydweithredu agos rhyngddynt. Mae pob teulu yn cynnwys ysgoluwchradd a'r ysgolion cynradd sy’n bartneriaid neu sy'n ei bwydo. Nodmodel y teuluoedd o ysgolion yw cryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolionmewn ffordd sy’n sicrhau cynnydd, parhad a chynhaliaeth i ddisgyblionwrth iddynt symud trwy wahanol gyfnodau eu haddysg. Mae plant felarfer yn trosglwyddo i’r ysgol gyswllt yn y teulu o ysgolion, ond bydddisgyblion nad ydynt yn mynychu eu hysgol gynradd ddalgylch yn caelcynnig lle yn yr ysgol uwchradd ddynodedig sy’n gwasanaethu eucyfeiriad cartref. Mae rhai ysgolion cynradd yn 'bwydo' mwy nag unysgol uwchradd oherwydd bod eu dalgylchoedd yn gorgyffwrdd.
- 18 -
xiii) Beth os ydw i’n dymuno addysg dan ddylanwad yr Eglwys i’m plant?
Mae gwybodaeth gyffredinol am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (yrEglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig) ar gael gan y CyfarwyddwrAddysg Esgobaethol priodol. Dyma’r cyfeiriadau a’r manylion cyswllt:
Yr Eglwys yng Nghymru Yr Eglwys GatholigY Parch. Bryan Witt Mr Bernard StuartCyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth Cyfarwyddwr Addysg yr EsgobaethY Ficerdy, Y Swyddfa LysolHeol y Bont, 27 Heol y CwfaintSanclêr, Abertawe SA1 2BXCaerfyrddin SA33 4EE Ffôn: 01792 652757Ffôn: 01994 230266 Ffacs: 01792 458641
e-bost: [email protected]
Corff llywodraethu’r ysgol dan sylw fydd yn ymdrin â derbyn disgyblion iysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Dylid gwneud ceisiadau am lefyddmewn unrhyw un o’r ysgolion hyn yn uniongyrchol i’r ysgol. Mae gan yrysgolion hyn eu meini prawf gordanysgrifio eu hunain, a cheir manylion yrhain yn Atodiad 2.
xiv) Sut mae penderfynu ar gategori iaith yr ysgol?
Mae’r Cyngor Sir yn credu’n gryf mewn gwerth addysgol caffael dwyiaith. Nod y polisi dwyieithog hwn yw addysgu disgyblion fel eu bod yngwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg wrth adael yr ysgolgynradd, fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y gymunedddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
Mae addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael yn Sir Benfro, naill ai mewnysgolion cymunedol yn yr ardaloedd traddodiadol Cymraeg eu hiaithyng Ngogledd Sir Benfro, neu mewn ysgolion neu unedau cyfrwngCymraeg dynodedig yng Nghanolbarth a De’r Sir. Mae gan bob ysgolgategori iaith sy’n diffinio i ba raddau y mae’r Gymraeg a’r Saesneg yncael eu haddysgu yn Ysgolion Sir Benfro.
- 19 -
Ad
dysg
u’r
Gym
rae
ga
’rS
ae
sn
eg
yn
ysg
olio
nC
yn
rad
dS
irB
en
fro
Cwric
wlwm
Iaith
yrYs
gol
Canlyniada
u
WM
Cyfrwng
Cymraeg
Cyfn
odSy
lfaen
–trw
ygy
frwng
yGy
mra
eg.
Cyfn
odAl
lwed
d2
(CA2
)–o
leia
f70%
o’r
addy
sgu
trwy
gyfrw
ngy
Gym
raeg
.
Cym
raeg
ywia
ithcy
fath
rebu
gyda
disg
yblio
nac
iaith
gwai
thyr
ysgo
lodd
ydd
iddy
dd.
Mae
’rys
goly
ncy
fath
rebu
gyda
rhie
niyn
ydd
wy
iaith
.
Bydd
disg
yblio
n,be
thby
nnag
ywia
itheu
cartr
ef,y
nga
llum
ynd
ymla
eni
ddar
paria
eth
uwch
radd
trwy
gyfrw
ngy
Gym
raeg
acer
byn
diw
edd
CA2
bydd
ant
wed
icyr
raed
dyr
unsa
fon
ynSa
esne
gâ
disg
yblio
nm
ewn
ysgo
lion
llem
aeSa
esne
gyn
brif
gyfrw
ng.
DS
DwyFfrw
d
Mae
Cym
raeg
ynbr
ifgy
frwng
neu
Saes
neg
ynbr
ifgy
frwng
ynbo
doli
gyda
’igi
lydd
ynyr
ysgo
lion
hyn
Defn
yddi
rCym
raeg
aSa
esne
gyn
gng
wai
thpo
bdy
ddyr
ysgo
l.Pe
nder
fyni
ryri
aith
gyfa
thre
buar
sail
natu
rydd
arpa
riaet
hgw
ricw
laid
d.M
ae’r
ysgo
lyn
cyfa
thre
bugy
darh
ieni
yny
ddw
yia
ith
Argy
ferd
isgy
blio
nyn
yffr
wd
Gym
raeg
–di
sgw
ylia
dau
arfe
rolf
elar
gyfe
rCat
egor
i1.
Argy
ferd
isgy
blio
nyn
yffr
wd
Saes
neg
–di
sgw
ylia
dau
arfe
rolf
elar
gyfe
rCa
tego
ri5.
TR
Ysgo
lDrosian
nol
Cyfn
odSy
lfaen
–m
eysy
dddy
sgu
trwy
gyfrw
ngy
Gym
raeg
ynbe
nnaf
.
CA2
–de
fnyd
diry
ddw
yia
ithon
dgy
dam
wy
obw
ysla
isar
Gym
raeg
–50
%-7
0%
Cym
raeg
ywia
ithgw
aith
pob
dydd
yrys
gol.
Blae
noria
eth
faw
rigr
euet
hos
Cym
raeg
.M
ae’r
ysgo
lyn
cyfa
thre
bugy
darh
ieni
yny
ddw
yia
ith.
Efal
laiy
bydd
rhai
disg
yblio
n,yn
enw
edig
oga
rtref
iCym
raeg
euhi
aith
,yn
gallu
myn
dym
laen
idda
rpar
iaet
huw
chra
ddtrw
ygy
frwng
yGy
mra
eg.
Bydd
pob
disg
yblw
edic
yrra
edd
yrun
safo
nyn
Saes
neg
âdi
sgyb
lion
mew
nys
golio
nlle
mae
Saes
neg
ynbr
ifgy
frwng
.
Cwric
wlwm
Iaith
yrYs
gol
Canlyniada
u
EW
Cyfrw
ngSa
esne
ggy
dade
fnyd
dsy
lwed
dolo
Gym
raeg
Cyfn
odSy
lfaen
-m
aedi
sgyb
lion
ynca
elpr
ofia
do’
rmey
sydd
dysg
uyn
ydd
wy
iaith
ond
gyda
mw
yo
bwys
lais
arSa
esne
g.CA
2-
addy
sgu
yny
ddw
yia
ithon
dgy
dam
wy
obw
ysla
isar
Saes
neg.
Cym
raeg
yngy
frwng
addy
sgu
neu
ddys
gu-
rhw
ng20
%a
50%
o’r
cwric
wlw
mcy
nrad
dyn
gyffr
edin
ol
Pend
erfy
niri
aith
neu
ieith
oedd
pob
dydd
yrys
golg
angy
nnw
ysie
ithyd
doly
rysg
ol.
Defn
yddi
rydd
wy
iaith
igyf
athr
ebu
gyda
disg
yblio
na
gwei
nydd
u’ry
sgol
.Bl
aeno
riaet
hfa
wri
greu
etho
sCy
mra
eg.
Mae
’rys
goly
ncy
fath
rebu
gyda
rhie
niyn
ydd
wy
iaith
.
Disg
wyl
irfe
larfe
ryby
dddi
sgyb
lion
ynm
ynd
ymla
enid
darp
aria
eth
uwch
radd
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g,on
dy
bydd
eusg
iliau
’nw
elly
ny
Gym
raeg
ynai
liai
th.
Rhai
disg
yblio
nyn
gallu
dily
nni
fer
gyfy
nged
igo
bync
iau
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
EM
Ysgo
lCyf
rwng
Saes
neg
Cyfn
odSy
lfaen
–m
aepo
bdi
sgyb
lyn
cael
prof
iad
o’rm
eysy
dddy
sgu
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g.CA
2–
Addy
sgir
yGy
mra
egyn
aili
aith
.M
aella
inag
20%
o’ra
ddys
gutrw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
eg.
Saes
neg
ywia
ithgw
aith
pob
dydd
yrys
gol
–rh
ywfa
into
gyfa
thre
buyn
Gym
raeg
gyda
disg
yblio
ner
mw
yngw
ella
euga
llui
ddef
nydd
ioCy
mra
egpo
bdy
dd.
Mae
’rys
goly
ncy
fath
rebu
gyda
rhie
niun
aiyn
Saes
neg
neu
yny
ddw
yia
ith.
Disg
wyl
irfe
larfe
ryby
dddi
sgyb
lion
yntro
sglw
yddo
idda
rpar
iaet
huw
chra
ddtrw
ygy
frwng
Saes
neg
acy
bydd
anty
npa
rhai
iddy
sgu
ynbe
nnaf
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g,ac
yndy
sgu’
rGym
raeg
fela
ilia
ith.
Cyfn
odSy
lfaen
:3-
7oe
dCy
fnod
Allw
eddo
l2:
7-11
oed
Cwric
wlwm
Iaith
yrYs
gol
Canlyniada
u
Ad
dysg
uC
ym
rae
ga
Sa
esn
eg
me
wn
Ysg
olio
nU
wc
hra
dd
Sir
Be
nfr
o
EW
Cyfrw
ngCy
mra
egAd
dysg
irpo
bpw
nche
blaw
Saes
neg
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
ibob
disg
ybl.
Gall
rhai
ysgo
lion
gyflw
yno
term
inol
egSa
esne
gm
ewn
unne
udd
auo
bync
iau
Cym
raeg
ywia
ithcy
fath
rebu
gyda
disg
yblio
na
gwai
thpo
bdy
ddyr
ysgo
l.M
ae’r
ysgo
lyn
cyfa
thre
bugy
darh
ieni
yny
ddw
yia
ith
Bydd
yras
esu
ynCy
fnod
Allw
eddo
l3(C
A3)
CA3
acCy
fnod
Allw
eddo
l4(C
A4)t
rwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
ymm
hob
pwn
hebl
awSa
esne
gne
uie
ithoe
dder
aill.
Bydd
disg
yblio
nyn
gallu
myn
dym
laen
idd
arpa
riaet
hôl
-16
Cyfrw
ngCy
mra
eg
Dw
yieithog
AB BB CB CH
Mae
4oisraniad
aui’r
catego
rihw
nyn
ôlypync
iauaad
dysgirtrwy
gyfrwng
yriaith
Gymraeg
acaoes
darpariaethgyfoch
rogyn
Saesne
g.2A
Addy
sgir
ole
iaf8
0%o’
rpyn
ciau
(heb
law
Saes
neg
aCh
ymra
eg)t
rwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
ynun
igib
obdi
sgyb
l.Ad
dysg
irun
neu
ddau
oby
ncia
uir
aidi
sgyb
lion
ynSa
esne
gne
u’rd
dwy
iaith
.2B
Addy
sgir
ole
iaf8
0%o’
rpyn
ciau
(heb
law
Saes
neg
aCh
ymra
eg)t
rwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
ond
addy
sgir
hwy
hefy
dtrw
ygy
frwng
Saes
neg.
2CAd
dysg
ir50
-79%
o’rp
ynci
au(h
ebla
wSa
esne
ga
Chym
raeg
)trw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
egon
dad
dysg
irhw
yhe
fyd
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g.2C
HAd
dysg
irpo
bpw
nc(h
ebla
wSa
esne
ga
Chym
raeg
)ibo
bdi
sgyb
lyn
ydd
wy
iaith
.
Pend
erfy
niri
aith
neu
ieith
oedd
pob
dydd
yrys
golt
rwy
eich
yd-d
estu
nie
ithyd
dol.
Defn
yddi
rydd
wy
iaith
igyf
athr
ebu
gyda
disg
yblio
na
gwei
nydd
u’ry
sgol
.Rh
oddi
rbl
aeno
riaet
hfa
wri
greu
etho
sCy
mra
eg.
Mae
’rys
goly
ncy
fath
rebu
gyda
rhie
niyn
ydd
wy
iaith
.
Argy
ferd
isgy
blio
nyn
2A,2
Ba
2Csy
’ndi
lyn
yni
ferf
wya
fogy
rsia
utrw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
eg,b
ydda
i’ras
esu
ynCA
3ac
CA4
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
yny
pync
iau
hynn
yac
yby
dden
tyn
gallu
sym
udym
laen
idda
rpar
iaet
hôl
-16
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
mew
npy
ncia
ua
ddew
isir.
Argy
ferd
isgy
blio
nyn
2CH
bydd
dai’r
ases
uyn
CA3
acCA
4trw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
egym
mho
bpw
nche
blaw
Saes
neg
acy
bydd
enty
nga
llusy
mud
ymla
enid
darp
aria
eth
ôl-1
6trw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
egm
ewn
pync
iau
add
ewis
ir.
Cwric
wlwm
Iaith
yrYs
gol
Canlyniada
u
EW
Cyfrw
ngSa
esne
ggy
dade
fnyd
dsy
lwed
dolo
Gym
raeg
Addy
sgir
yny
ddw
yia
ithga
nad
dysg
u20
-49%
o’rp
ynci
autrw
ygy
frwng
yGy
mra
eg.
Bydd
aipo
ppw
ncyn
cael
eidd
ysgu
fela
rferh
efyd
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g
Pend
erfy
niri
aith
neu
ieith
oedd
pob
dydd
yrys
golt
rwy
eich
yd-d
estu
nie
ithyd
dol.
Defn
yddi
rydd
wy
iaith
igyf
athr
ebu
gyda
disg
yblio
na
gwei
nydd
u’ry
sgol
.Rh
oddi
rbl
aeno
riaet
hfa
wri
greu
etho
sCy
mra
eg.
Mae
’rys
goly
ncy
fath
rebu
gyda
rhie
niun
aiyn
ydd
wy
iaith
neu
ynSa
esne
g
Gelli
das
esu
disg
yblio
nsy
’ncy
mry
dde
wis
iada
ucy
frwng
Cym
raeg
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
yny
pync
iau
hynn
yar
bob
lefe
laby
dden
tyn
gallu
sym
udym
laen
iast
udio
ôl-1
6trw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
egyn
ypy
ncia
uhy
nny.
EM
Ysgo
lcyf
rwng
Saes
neg
Addy
sgir
disg
yblio
nyn
benn
aftrw
ygy
frwng
Saes
neg.
Gelli
dad
dysg
uCy
mra
ega
addy
sgir
ynai
liai
thhy
dat
CA4
(gal
laig
ynnw
ysCy
mra
egyn
iaith
gynt
af)t
rwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
neu
drw
ydd
efny
ddio
’rdd
wy
iaith
Saes
neg
ywia
ithbo
bdy
ddyr
ysgo
l,on
dm
aerh
ywfa
into
gyfa
thre
buyn
Gym
raeg
gyda
’rdi
sgyb
lion,
gyda
’rno
do
wel
laeu
gallu
idde
fnyd
dio
Cym
raeg
pob
dydd
.M
ae’r
ysgo
lyn
cyfa
thre
bugy
darh
ieni
unai
yny
ddw
yia
ithne
uyn
Saes
neg.
Gelli
das
esu
unrh
ywdd
isgy
blio
nsy
’ncy
mry
dde
wis
iada
ucy
frwng
Cym
raeg
trwy
gyfrw
ngyr
iaith
Gym
raeg
yny
pync
iau
hynn
yar
bob
lefe
laby
dden
tyn
gallu
sym
udym
laen
iast
udio
ôl-1
6trw
ygy
frwng
yria
ithGy
mra
egyn
ypy
ncia
uhy
nny.
Bydd
ai’r
rhan
fwya
fo’r
disg
yblio
nyn
cael
euha
sesu
ynSa
esne
gac
ynsy
mud
ymla
enia
stud
ioôl
-16
trwy
gyfrw
ngSa
esne
g
Cyfn
odAl
lwed
dol3
:11
-14
oed
Cyfn
odAl
lwed
dol4
:14
-16
oed
i) Yn ôl y gyfraith, pa oed sydd yn rhaid i’m plentyn fod i fynychu’rysgol?
Rhaid i rieni plant rhwng 5 a 16 oed sicrhau bod eu plant yn derbynaddysg llawn amser addas. Mae plentyn yn cyrraedd oedran ysgolgorfodol ar ddechrau tymor yn dilyn ei b/phenblwydd yn 5 oed. I’rgwrthwyneb, rhaid i bobl ifanc aros yn addysg llawn amser tan eu bodwedi cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol; y dyddiad gadael ysgolyw’r dydd Gwener olaf yn Mehefin yn y flwyddyn ysgol mae’r plentyn yncyrraedd 16 oed.
ii) Sut mae’r Cyngor Sir yn diwallu fy newis fel rhiant?
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r Cyngor Sir wneud trefniadau i rienifynegi ym mha ysgol y maent am i’w plentyn gael ei addysg, a darparucyfle i roi rhesymau dros eu dewis cyn cynnig unrhyw lefydd. Rhaid i’rAwdurdod Derbyn ddiwallu eich dewis os yw hynny’n bosib, ond gallrhai ffactorau atal hyn, yn cynnwys:
� defnyddio adnoddau ac adeiladau’n effeithlon
� darparu addysg yn effeithlon
� cyfyngiadau statudol ar faint dosbarthiadau
Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn, sy’n cael ei ddefnyddio fel canllawwrth benderfynu a yw unrhyw grŵp blwyddyn mewn ysgol yn llawn neua oes llefydd ar gael. Os oes mwy o geisiadau nag o lefydd, yna bydd ymeini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii yn berthnasol. Mae NiferDerbyn pob ysgol i’w weld yn y rhestr ysgolion yn y llyfryn hwn.
- 24 -
Rhan 2 - Polisïau a’r gyfraith
Gall rhieni fynegi dewis ar gyfer addysg eu plant pan fyddan nhw’n:� 3 oed - dosbarthiadau / unedau blynyddoedd cynnar ynghlwm wrth
ysgolion babanod neu gynradd (lle bo'r rhain ar gael). Mae plant tairoed yn mynychu’n rhan-amser yn unig
� 4- 5 oed - Ysgolion babanod neu adrannau babanod ysgolion cynradd� 7 oed - Ysgolion iau� 11 oed - Addysg uwchradd
iii) A oes terfyn ar faint dosbarthiadau mewn ysgolion?Oes. Ar wahân i rai eithriadau cyfyngedig iawn, dywed y gyfraith nachaiff unrhyw ddosbarth babanod gynnwys mwy na 30 o ddisgyblionsy’n cael eu dysgu gan un athro neu athrawes. Mae LlywodraethCynulliad Cymru hefyd wedi pennu targed na ddylai unrhyw ddosbarthiau fod yn fwy na 30 o ddisgyblion.
iv) Pam fod angen i chi wybod am gyfrifoldeb rhiant dros fy mhlentyn?Mae'n rhaid i ysgolion wybod pwy sydd â ‘chyfrifoldeb rhiant’ ar gyferpob plentyn. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod awdurdodpriodol yn cael ei roi pan fo angen caniatâd rhieni ar yr ysgol. Bydd yngwneud yn siŵr hefyd bod unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant nadydynt yn byw gyda’r plentyn yn gallu derbyn adroddiadau ysgol a chaelcyfle i gymryd rhan yn addysg y plentyn, gan fod ganddynt hawl i gaelyr wybodaeth hon oni bai bod gorchymyn llys penodol sy’n atal hynny.� Mae gan famau gyfrifoldeb rhiant bob amser� Mae gan dadau gyfrifoldeb rhiant am blentyn hefyd os oeddent yn
briod â'r fam adeg geni'r plentyn, (ac mae hyn yn parhau wediunrhyw ysgariad / gwahaniad / ailbriodi) hyd yn oed os yw'r plentynyn byw ar wahân iddyn nhw.
� Nid oes gan dadau dibriod gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig, ondgallant ei gael trwy briodi’r fam neu drwy gofrestru neu ailgofrestrueu henw ar y dystysgrif geni neu drwy’r llysoedd.
� Gall llys-rieni, perthnasau ac unigolion eraill gael cyfrifoldeb cyfreithiolrhiant ond nid ydynt yn ei gael yn awtomatig. Dylech gael gair gydachyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth os oes angen i chi gael cyfrifoldeb rhiant.
- 25 -
Gofynnir i chi gydweithio â staff yr ysgol a’r Swyddog Derbyniadaudrwy roi manylion yr unigolion sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ddisgybli’r ysgol. Dylid hysbysu'r ysgol ynglŷn ag unrhyw newidiadau yn ytrefniadau am gyfrifoldeb rhiant neu ofal am eich plentyn o ddydd iddydd. Mae unrhyw gyfeiriad at rieni yn y llyfryn hwn yn cynnwys pawbsydd â chyfrifoldeb cyfreithiol rhiant dros ddisgyblion.
Os oes gan fwy nag un person gyfrifoldeb rhiant dros blentyn, gofynniri’r unigolyn sy’n llenwi’r cais am le mewn ysgol drafod a chytuno’r caisgyda’r rhai eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant, lle wyddys ble maent. Osna wyddys ble mae’r unigolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant, dyliddatgan hynny yn ysgrifenedig.
v) Enw cyfreithiol / hysbys plentyn
Enw cyfreithiol eich plentyn yw’r hyn sydd ar ei dystysgrif / ei thystysgrifgeni. Cofiwch sicrhau mai’r enw hwn a roddir ar bob ffurflen gais amdderbyn a throsglwyddo. Os yw eich plentyn yn cael ei adnabod wrthenw arall, yna dylid cynnwys yr enw hwnnw hefyd ar y ffurflenniperthnasol. Mae gweithdrefnau penodol i’w dilyn ar gyfer newid enwcyfreithiol plentyn, ac mae modd gwneud hyn trwy Weithred NewidEnw neu Ddatganiad Statudol. Mynnwch gyngor cyfreithiol cyn ystyriedhyn a gofalwch fod ysgol eich plentyn yn ymwybodol o unrhywnewidiadau wedi hynny i enw cyfreithiol y plentyn trwy ddarparu copio’r dogfennau perthnasol.
vi) Pa ddarpariaeth y byddwch yn ei gwneud ar gyfer personélLluoedd Arfog y DU?
Mae teuluoedd personél Lluoedd Arfog y DU a gweision eraill y Goronyn gorfod symud yn aml o fewn y DU a thramor, yn aml yn gymharol fyrrybudd. O ganlyniad, ystyrir ceisiadau am leoedd ysgol ar gyfer yflwyddyn ysgol sydd i ddod os cânt eu cyflwyno ynghyd â llythyrswyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor aChymanwlad yn datgan dyddiad dychwelyd. Yna dyrennir lleoedd ysgolymlaen llaw os bydd yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd ynsymud i’w leoliad newydd. Derbynnir hefyd gyfeiriad post uned ganbersonél y lluoedd arfog os na fydd cyfeiriad cartref newydd ar gael.
- 26 -
vii) Beth yw hawliau plant o dramor?Mae gan blant o dramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yn y DU, boedhynny gyda’u rhieni neu hebddynt, yr un hawliau i addysg â phlant sy’nDdinasyddion Prydeinig. O ganlyniad, bydd y Cyngor Sir yn trinceisiadau o’r fath am gael eu derbyn i ysgolion yn yr un modd. Foddbynnag, mae’n rhaid darparu pasbort yr ymgeisydd i ddangostystiolaeth o Ddinasyddiaeth Brydeinig neu Breswyliad Cyfreithiol yn yDU ac er bod copi o’r ‘Cliriad Mynediad’ perthnasol yn dderbyniol felarfer, mae’r Cyngor Sir yn cadw’r hawl i ofyn am weld yr un gwreiddiol.
viii) Beth yw fy hawl i apelio?Os na ddyrannir lle i’ch plentyn yn yr ysgol o’ch dewis, yna cynigir llemewn ysgol arall. Rhaid i chi benderfynu a ydych am dderbyn y lle arallneu apelio i Banel Apêl annibynnol. Fodd bynnag, dim ond pan fydd eichplentyn wedi cyrraedd oedran ysgol statudol y gellir cyflwyno apêl.
Rhaid i apelau gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig, gan amlinellu’r rhesymaudros wneud hynny, a’u hanfon at y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion.Plant cyn pen 14 diwrnod (10 diwrnod gwaith) wedi i chi gael eichhysbysu na fu eich cais am le mewn ysgol yn llwyddiannus. Bydd apelauyn cael gwrandawiad ac yn cael eu hystyried gan y Panel Apelau cyn pen30 diwrnod ysgol wedi’r dyddiad cau penodol ar gyfer derbyn apelau,neu cyn pen 30 diwrnod ysgol o dderbyn yr apêl yn ysgrifenedig osgwneir yr apêl y tu allan i’r broses dderbyn sydd wedi ei hamserlennu.Ceir gwrandawiad ar apelau a dderbynnir yn ystod gwyliau haf yrysgol o fewn 30 diwrnod gwaith. Bydd gennych yr hawl i gyflwyno eichachos i'r Panel yn bersonol. Gall y Panel ganiatáu i chi ddod â ffrind gydachi neu gael eich cynrychioli; hefyd, caniateir i blant roi tystiolaeth osydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae penderfyniad y Panel Apêl yngorfodi’r Cyngor Sir. Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion i ufuddhau.
Noder mai dim ond ar gyfer disgyblion sydd wedi cyrraedd oedran ysgolgorfodol y gellir cyflwyno apelau derbyn.
Os gwrthodir lle i chi mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, bydd yrysgol dan sylw yn dweud wrthych beth yw ei gweithdrefn apelio.
- 27 -
ix) A fydd prydau ysgol ar gael i fy mhlentyn?
Bydd, darperir prydau ysgol gan Dîm Arlwyo Cyngor Sir Penfro. Mae’rbwydlenni wedi’u dadansoddi o ran maeth ac maent yn cydymffurfio âstrategaeth Blas am Oes Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir unrhan o dair o ofynion maeth ag egni dyddiol plentyn. Anogir plant i roicynnig ar fwydydd newydd ac i fwynhau eu pryd mewn awyrgylchhapus a chymdeithasol. Yn aml, mae eistedd gyda ffrindiau yn helpubwytawyr ffwslyd i fwyta bwyd na fyddant yn ei fwyta gartref ac mae’nhelpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a fydd yn hanfodol ynddiweddarach mewn bywyd.
Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod pobcynhwysyn yn bodloni’r safon uchaf ac nad oes ynddo ychwanegionniweidiol. Daw llawer iawn o’r cynnyrch bwyd o’r ardal leol.
Mae gan Prydau Ysgolion Cynradd eu masgot eu hunain, Lenni’rGenhinen. Mae gan Lennie wefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ymae ei hangen ar unrhyw riant neu blentyn am brydau ysgol. Gallwch eigweld ymawww.lunchwithlennie.co.uk
Ceir dwy fwydlen y flwyddyn sy’n cael eu harddangos yn arwyddionLenni’r Genhinen yn yr ysgol. Rhoddir llyfryn bwydlen i bob plentyn fyndadref ag ef i’w drafod â’i rieni. Mae’r bwydlenni hefyd ar gael i’w gweldar ein gwefan www.lunchwithlennie.co.uk
Gellir darparu ar gyfer pob gofyniad deietegol arbennig, e.e. llysieuwyr,y rhai a chanddynt ddiabetes, seliag, anoddefiad llaeth neu gnau ar gaisysgrifenedig gan feddyg neu Dietegydd. Gellir lawrlwytho ffurflen achael rhagor o wybodaeth am ofynion deietegol arbennig o dan yradran i rieni ar y wefan prydau ysgol www.lunchwithlennie.co.uk
Gellir gweld cost bresennol pryd ysgol ar y wefan neu gofynnwch yn yrysgol. Gellir talu’r ysgol bob tymor, bob pythefnos neu’n wythnosol,
- 28 -
- 29 -
ymlaen llaw trwy siec (yn daladwy i “Cyngor Sir Penfro”) neu drwy arianparod. Mae amlenni talu ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn.
Mae pecynnau cinio ar gael i bob plentyn ar gyfer tripiau ysgol; maeffurflenni ar gael yn yr ysgol neu ar y wefan.
Mae’r Cyngor Sir yn darparu llaeth am ddim i ddisgyblion o dan 7 oed.Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth ysgol eich plentyn.
Mae ysgolion uwchradd yn darparu Gwasanaeth Ffreutur Arian Parod.Caiff y bwyd ei goginio’n ffres ar y safle, caiff byrbrydau ysgafn eugwerthu amser egwyl ac mae byrbrydau iach ar gael mewn peiriannaugwerthu trwy’r dydd. Mae gan ein hysgolion uwchradd bolisi gwerthuiach.
Mae system archebu ymlaen llaw ar gael mewn rhai ysgolion uwchraddsydd yn galluogi disgyblion i archebu eu cinio yn ystod yr egwyl ac ynaei gasglu yn y lôn giwio cyflym yn ystod yr awr ginio.
Mae un o’n hysgolion uwchradd yn gweithredu system arlwyo hebarian lle rhoddir cerdyn talu i blant a bydd rhieni yn rhoi arian arno.
I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgolion uwchradd, edrychwch aradran y Parth Bwyd ar www.pembrokeshireyouthzone.co.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch bwydlenni ynysgol eich plentyn neu gwestiynau cyffredinol am wasanaeth prydaubwyd yr ysgol, cysylltwch â’r Adran Arlwyo ar 01437 775912
x) Sut galla i gael gwybod am hawl i Brydau Ysgol am Ddim?
Fel rhieni neu gwarcheidwaid, bydd eich plentyn yn gymwys i dderbynprydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn:� Cymhorthdal Incwm� Lwfans Ceiswyr Gwaith - ar sail Incwm yn unig� Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth� Credydau Treth Plant, gydag Incwm Aelwyd sydd dan £16,190 y
flwyddyn (noder nad yw Credyd Treth Gwaith yn gymwys hyd ynoed os yw’n cael ei dderbyn ar ben y budd-daliadau hyn)
� Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm yn Unig� Cefnogaeth o dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Os byddwch yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anogir chi i lenwiffurflen gais sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yng NghanolfannauGwasanaeth Cwsmeriaid y Cyngor Sir neu y gellir ei lawrlwytho o wefany Cyngor. Gallwn eich sicrhau bod staff ysgolion a swyddogion yCyngor Sir ar gael i’ch cynorthwyo i lenwi ffurflenni cais.
xi) A fydd fy mhlentyn yn gwisgo gwisg ysgol?
Mae llawer o ddisgyblion ysgolion cynradd a disgyblion pob ysgoluwchradd yn Sir Benfro yn gwisgo gwisg ysgol. Bydd ysgol eichplentyn yn rhoi manylion i chi yn rhan o’i phrosbectws.
Gallai grantiau Gwisg Ysgol tuag at gost gwisg ysgol uwchradd fod argael os yw rhieni yn cael prydau ysgol am ddim i’w plant neu’n caelbudd-daliadau penodol eraill. Nid yw gwisg ysgol yn orfodol mewnysgolion cynradd, ac nid oes grantiau am ddillad ar gael i ddisgyblion ooedran ysgol gynradd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael a ffurflennicais trwy ffonio 01437 764551, neu drwy ysgrifennu i’r GwasanaethauRefeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP.
- 30 -
- 31 -
xii) Pa gymorth ariannol y gallwn fod yn gymwys i’w gael?
Os yw eich plentyn yn aros yn yr ysgol ar ôl yr oedran gadael statudol,gallai fod yn gymwys i gael Lwfans Cynhaliaeth Addysg LlywodraethCymru. Mae’r budd-dal yn ddibynnol ar brawf modd a bydd arnochangen darparu manylion am eich incwm. Mae ffurflenni cais ar gael ganysgol uwchradd eich plentyn neu ar wefan Lwfans Cynhaliaeth AddysgCymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ceir gwybodaeth am gael cymorth ariannol ar gyfer dillad ysgoluwchradd a phrydau ysgol ym mharagraffau (x) a (xi) o’r adran hon.
xiii) Pa arholiadau cyhoeddus y bydd fy mhlentyn yn eu sefyll?
Mae pob arholiad cyhoeddus a drefnir ar gyfer eich plentyn yncydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chânt eu cymeradwyo gan y GronfaDdata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru.
Yr ysgol sy’n penderfynu cofrestru eich plentyn ar gyfer arholiadaucyhoeddus. Mae’n rhaid talu ffi am bob arholiad ac mae’r ysgol yn talu’rgost hon pan gaiff eich plentyn ei gofrestru am y tro cyntaf. Os yw eichplentyn yn colli arholiad heb reswm meddygol dilys, yna chi fydd yngyfrifol am dalu’r ffi. Yn yr un modd, gallech fod yn gyfrifol am dalu’r ffiam ailsefyll arholiadau. Fodd bynnag, bydd yr ysgol yn gallu darparurhagor o fanylion i chi am y materion hyn.
Bydd pob ysgol yn rhoi manylion eu canlyniadau arholiadau cyhoeddus ichi os gofynnwch amdanynt.
Yn ogystal â’r uchod, yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i wellasafonau llythrennedd a rhifedd, bydd yn ofynnol i bob dysgwr ymmlynyddoedd 2 i 9 (7-14 oed) gael ei asesu’n flynyddol trwy ddefnyddioprofion darllen a mathemateg cenedlaethol. Bydd y rhain yn dechrau yn 2013.
xiv) Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol?
Bydd pob ysgol yn anelu tuag at fodloni anghenion disgyblion achanddynt amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Gallai plant achanddynt anghenion dysgu ychwanegol gynnwys plant a chanddyntanawsterau dysgu neu anghenion addysgol arbennig, plant sy’n derbyngofal, gofalwyr ifanc, plant o gefndir lleiafrifol ethnig a chanddynt yGymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol, plant mewn angen aphlant a chanddynt anableddau corfforol. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiffplant a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol eu haddysgu yn yrysgol leol, ochr yn ochr â’u cyfoedion lle gallant elwa o amrywiaeth eango ddulliau cymorth o fewn agwedd ysgol gyfan tuag at gynhwysiant.Mae ysgolion yn cydweithio’n agos a’u Llywodraethwr sydd a cyfrifoldebdros anghenion ychwanegol.
Mae’n bwysig adnabod ac asesu plant a chanddynt anghenion dysguychwanegol yn gynnar yn eu cyfnod ysgol. I rai, bydd hyn wedi’i wneudcyn iddynt gael eu derbyn i’r ysgol. Mewn ysgolion, mae gan athrawondosbarth rôl bwysig o ran helpu i nodi anghenion dysgu ychwanegol eudisgyblion a chaiff hyn ei wneud yn aml trwy ddefnyddio arbenigeddstaff yr ysgol. Bydd cefnogaeth aml-asiantaeth yn cael ei benderfynu gannatur anghenion y plentyn unigol.
Mae athrawon arbenigol a seicolegwyr addysg yn gweithio gydagysgolion i gynorthwyo’r broses o nodi a bodloni anghenion dysguychwanegol plant na ellir bodloni eu hanghenion yn yr ysgol yn unig.Mae’r plant hyn ar gam ym mhroses ymateb graddedig yr ysgol a elwiryn Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Rhyngddynt, mae gan yr athrawona’r seicolegwyr wybodaeth a phrofiad ynghylch seicoleg addysg,anawsterau dysgu penodol a chyffredinol, anawsterau lleferydd, iaith achyfathrebu a rheoli ymddygiad. Mae athrawon arbenigol a staff cymortha chanddynt gymwysterau ym meysydd nam gweledol, clywedol,corfforol, ASA (Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig) ac amlsynnwyr hefydar gael i weithio mewn ysgolion.
- 32 -
Mae gan bob ysgol arian ychwanegol yn ei chyllideb i helpu i fodlonianghenion y rhan fwyaf o ddisgyblion a chanddynt anghenion addysgolarbennig, ac mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion AddysgolArbennig neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a all ddarparucyngor a chymorth i staff a phlant mewn ysgolion a chysylltu agasiantau allanol.
Ar gyfer y nifer fach iawn o ddisgyblion a chanddynt anghenionaddysgol difrifol a chymhleth, ystyrir gwneud datganiad o anghenionaddysgol arbennig. Caiff llawer o’r disgyblion hyn eu haddysgu mewnysgolion prif ffrwd ond maent yn cael cymorth ychwanegol neu cânt euhaddysgu mewn unedau anghenion cymhleth yn rhai o’n hysgolion lledarperir lefel o ffocws uwch o gymorth. Mae rhai plant a chanddyntddatganiadau o anghenion addysgol arbennig yn mynd i YsgolArbennig Portfield, ac yn yr achosion mwyaf difrifol, mae’n bosibl ybyddent yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth arbenigol y tu allan iSir Benfro, dan nawdd y Cyngor Sir.
Os ydych yn pryderu y gallai eich plentyn fod ag anghenion addysgolarbennig, dylech yn gyntaf siarad ag athro’r dosbarth, y pennaeth neuGydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu Gydlynydd AnghenionDysgu Ychwanegol yr ysgol. Mae cyfathrebu rhwng yr ysgol a rhieni ynhanfodol ar bob cam. Gallwch hefyd gysylltu â swyddogion anghenionaddysgol ychwanegol a chynhwysiant y Cyngor Sir a all ddarparugwybodaeth i rieni plant oed ysgol a phlant oed cyn-ysgol. Gellircysylltu â nhw trwy ffonio 01437 764551.
xv) Pa drefniadau amddiffyn plant sydd ar waith
Gofal a lles disgyblion yw un o’r prif bryderon i bob ysgol a cheirGweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan y mae’n rhaid i staffysgol eu dilyn er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant. Mae gan bobysgol athro penodol a chanddo gyfrifoldeb am ddelio â materion
- 33 -
amddiffyn plant ac am ddelio ag achosion unigol o amheuaeth ogam-drin. Os ceir amheuaeth o gam-drin, mae’r ysgol yn gorfodcyfeirio’r mater at y Tîm Asesu Gofal Plant o fewn yr AdranGwasanaethau Cymdeithasol er mwyn iddo gynnal ymchwiliad. Ermwyn amddiffyn a diogelu plentyn, bydd weithiau yn hanfodol i gysylltuâ’r Tîm Asesu Gofal Plant heb roi gwybod i’r rhieni. Mae gan yr ysgolddyletswydd statudol i weithredu er lles y plentyn. Mae hwn yn faesgwaith sensitif ac mae cymorth rhieni yn bwysig pan fo ysgolion yngweithredu i ddiogelu plant. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bodstaff ysgolion yn gweithio gan ganolbwyntio ar les eich plentyn.
xvi) Pa gostau y mae’n bosibl y bydd rhaid i mi eu talu?
Yn ystod cyfnod eich plentyn yn yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o’rgweithgareddau sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol yn rhad ac am ddim.Fodd bynnag, ceir achlysuron lle gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag aty costau. Gellir cael gwybodaeth am bolisi ysgol ynghylch codi tâl apheidio â chodi tâl ar gyfer gweithgareddau ysgol gan Bennaeth yrysgol o dan sylw.
- 34 -
i) Beth yw’r weithdrefn os ydw i am symud fy mhlentyn i ysgol arall?
Mae’r Cyngor yn barod i ystyried ceisiadau am drosglwyddo rhwngysgolion ar adegau ar wahân i amserau derbyn arferol. Fodd bynnag,os ydych yn ceisio trosglwyddo eich plentyn, rhaid ichi drafod hyn yngyntaf gyda phennaeth presennol eich plentyn neu bennaeth yflwyddyn mewn ysgol uwchradd. Dylech hefyd gysylltu â phennaeth yrysgol y dymunwch i’ch plentyn fynd iddi. Gan nad yw trosglwyddo ynystod y tymor yn cael ei annog, trosglwyddir fel arfer ar ddechrau tymoryn unig, ac eithrio pan fo’r sefyllfa’n codi am fod y teulu wedi newidcyfeiriad. Rhaid llenwi’r ffurflen gais am drosglwyddo, ffurflen TR1, ymmhob achos, ac mae hon ar gael ar wefan y Cyngor Sir neu ar gais.
Os ydych yn gwneud cais am drosglwyddo oherwydd eich bod ynpryderu ynglŷn â chynnydd eich plentyn neu oherwydd bod unrhywbroblemau yn ysgol eich plentyn, fel cam cyntaf dylech drafod y matergyda phennaeth yr ysgol bresennol. Mae newid ysgolion yn gallu bodyn brofiad anodd i ddisgyblion a gall darfu ar drefniadaethdosbarthiadau. Dylid gwneud hyn pan fydd popeth arall wedimethu, ac ni ddylid ei ystyried hyd nes y rhoddwyd sylw priodol i’rholl ffyrdd posibl eraill o ddatrys problemau. Mae’n arferol iSwyddog Cymorth Disgyblion drafod cais am drosglwyddo gyda rhieni.Mae llyfryn o’r enw “Newid Ysgolion - Canllaw i Rieni” yn cynnwysgwybodaeth ychwanegol am y broses drosglwyddo ac unrhywoblygiadau posibl. Mae ar gael ar gais gan y Swyddog Derbyniadau neuyn ysgol eich plentyn, neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor.
ii) Sut mae trefnu i’m plentyn drosglwyddo i ysgol uwchradd?
Mae ysgolion uwchradd Sir Benfro yn cynnig addysg gyfun iddisgyblion o bob gallu rhwng 11 a 18 oed. Mae trosglwyddo o addysggynradd i addysg uwchradd yn digwydd fel arfer ym mis Medi yn dilynpen-blwydd y plentyn yn un ar ddeg oed. Gall Pennaeth ysgol gynradd
- 35 -
Rhan 3 - Trosglwyddo rhwng ysgolion
- 36 -
eich plentyn roi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r ysgol uwchradd y dylai eichplentyn ei mynychu fel arfer. Mae manteision addysgol i fynychu’r ysgolsy’n gysylltiedig ag ysgol gynradd y plentyn fel rhan o’r “teulu oysgolion” (adran 1xii).
Byddwn yn anfon pecyn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd atoch trwyysgol gynradd eich plentyn tua diwedd tymor yr Hydref cyn y disgwyliri’ch plentyn symud i ysgol uwchradd. Gofynnir i chi fynegi eich dewis oysgol uwchradd erbyn diwedd y mis Ionawr canlynol. Bydd y rhain yncael eu hystyried ym mis Chwefror/Mawrth a chewch eich hysbysu amy canlyniad ddiwedd mis Mawrth.
Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol yr ystyrir trosglwyddo disgyblion iaddysg uwchradd cyn eu pen-blwydd yn un ar ddeg neu roi caniatâdiddynt aros yn yr ysgol gynradd wedi 11 oed, a hynny ar argymhelliadSeicolegydd Addysg y Cyngor Sir. Mae’r dyddiadau cau a’r gweithdrefnauarferol ar gyfer trosglwyddo i ysgol uwchradd hefyd yn berthnasol ynachos ceisiadau am drosglwyddo’n gynnar i ysgol uwchradd.
Os oes mwy o geisiadau am lefydd na’r llefydd sydd ar gael bydd ymeini prawf gordanysgrifio yn adran 1viii) yn berthnasol.
Ni ddylech ragdybio y bydd mynychu unrhyw ddiwrnod neu nosonagored ar gyfer darpar ddisgyblion uwchradd yn golygu y caiff yplentyn ei dderbyn i’r ysgol neu y caiff cludiant ei ddarparu.
Ysgol y Preseli yng Nghrymych yw’r ysgol uwchradd ddwyieithogdynodedig ar gyfer Sir Benfro. O ganlyniad, mae’r ysgol yn unigrywgan ei bod yn gwasanaethu disgyblion tu hwnt i’r talgylch daearyddoluniongyrchol, yn cynnwys y plant hynny sydd yn mynychu YsgolGymraeg Glan Cleddau yn Hwlffordd a’r Unedau Iaith yn ne’r Sir. Mae’rddarpariaeth yma yn ymestyn at ddisgyblion eraill sydd yn derbynaddysg cyfrwng Cymraeg yn ysgolion Sir Benfro. O ganlyniad, dynodirpob Ysgol gynradd yn Sir Benfro sydd yn darparu addysg cyfrwngCymraeg fel ysgol sydd yn “bwydo” Ysgol y Preseli.
Noder: Mae’r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond gall newid oganlyniad i newidiadau yn y gyfraith neu bolisi’r Cyngor Sir.
i) Cyflwyniad
Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Sir Penfro (fel yr Awdurdod Lleol) iddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol i’whysgol fwyaf addas agosaf a gynhelir os ydynt yn byw yn bellach na’rpellter cerdded statudol.
Caiff cludiant am ddim ei ddarparu yn unol â Mesur Teithio ganDdysgwyr Cymru - Canllawiau Gweithredol a pholisi cludiant ysgolionCyngor Sir Penfro fel yr amlinellir isod. Mae’r trefniadau hyn ynberthnasol i ddysgwyr sy’n byw yn Sir Benfro neu sy’n cael eu hystyriedyn gyfrifoldeb Cyngor Sir Penfro.
ii) Pellterau cerdded
Bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant:1. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg gynradd
yn byw mwy na dwy filltir * o’r ysgol addas agosaf.2. os yw plentyn oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn addysg uwchradd
yn byw mwy na thair milltir* o’r ysgol addas agosaf.
* Caiff y pellter byrraf sydd ar gael ei fesur o’r man lle mae’r anneddbreifat yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus, hyd at y fan lle mae mynedfaagosaf yr ysgol yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.Ceidw’r Cyngor yr hawl i enwi, fel ysgol addas, un wahanol i’r ysgolddalgylch.
- 37 -
Rhan 4- Cludiant Ysgol
iii) Ysgol addas
Darperir cludiant i’r ysgol ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir iwasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu i’r ysgol addas agosaf abennir gan y Cyngor Sir.
iv) Rhieni’n dewis ysgol wahanol
Ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhywgyfraniad at gostau cludiant ar gyfer disgyblion sy’n cael eu derbynmewn ysgol o ganlyniad i ddewis y rhieni, os nad honno yw’r ysgolagosaf na’r ysgol ddalgylch. Dan yr amgylchiadau hyn y rhieni sy’ngyfrifol am wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac am holl gostau’rcludiant. Cynghorir chi i ystyried y goblygiadau cludiant cynmynegi eich dewis mewn perthynas â lle mewn ysgol.
v) Natur y ddarpariaeth gludiant
Os y Cyngor Sir sy’n gyfrifol am drefniadau cludiant, ym mhob achosbydd y Cyngor Sir yn penderfynu ar y math mwyaf priodol o gludiant i’wddarparu neu a ddylai ddarparu lwfans milltiroedd.
vi) Llwybrau cerdded diogel
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant os yw o’r farn na all disgyblgerdded y ffordd agosaf sydd ar gael yn rhesymol o ddiogel yngnghwmni oedolyn os oes angen, ac os yw’r ffordd arall yn fwy na’rpellter statudol ar gyfer cerdded i’r ysgol. Wrth bwyso a mesurdiogelwch llwybr teithio sydd ar gael, rhoddir ystyriaeth i’r perygl posibly gallai traffig ei achosi, cyflwr y briffordd a’r dirwedd ac a oesgwasanaeth bws am dâl ar gael. Bydd pob achos yn cael ei ystyried ynôl ei haeddiant ei hun.
- 38 -
vii) Ysgolion cyfrwng Cymraeg
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i addysg uwchradd cyfrwngCymraeg. Caiff cludiant ei ddarparu o fannau codi dynodedig yn unig argyfer disgyblion sy’n bodloni’r meini prawf pellter statudol. O ystyriednatur y llwybrau teithio hyn a’r pellterau dan sylw, cyfrifoldeb y rhienifydd sicrhau bod y disgyblion yn dod i’r mannau codi dynodedig. Byddy disgyblion hynny sy’n mynd i Ysgol Glan Cleddau ac i UnedauCymraeg yn Ne Sir Benfro sy’n byw o fewn yr ardal y mae’r ysgolionhynny wedi’u dynodi i’w gwasanaethu, ac ysgolion yng ngogledd y sir,yn cael eu cludo i Ysgol y Preseli o fannau dynodedig os ydynt ynbodloni’r meini prawf pellter.
Yn achos disgyblion o’r ardal a ddynodwyd i’w gwasanaethu gan Ysgoly Preseli (ar hyn o bryd yr ysgol uwchradd ddwyieithog ddynodedig)nad yw eu rhieni yn dymuno iddynt dderbyn addysg ddwyieithog,darperir cludiant i’r ysgol uwchradd arall agosaf yn unig; mae’rddarpariaeth mewn perthynas â’r mannau codi dynodedig yr un morberthnasol yn yr achos hwn.
viii) Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Mae’r trefniadau arferol ar gyfer dalgylchoedd yn berthnasol. Dim ondi’r ysgol wirfoddol a gynorthwyir agosaf o fewn wyth milltir o gartref ydisgybl y bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant gyda chonsesiwn, osyw’r disgybl yn byw y tu allan i’r pellter cerdded statudol ac os yw’nmynd i’r ysgol ar sail ffydd a bod tystiolaeth o hynny mewn llythyrategol gan offeiriad/ficer lleol y plentyn.
ix) Cludiant i ddysgwyr 16+ oed
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant fel y gwêl yn ddoeth, ar ôloedran ysgol gorfodol os yw dysgwr o Sir Benfro yn byw yn bellach nathair milltir o’r ysgol neu’r coleg agosaf lle mae rhaglen astudio addasar gael. Rhaid i’r dysgwr fod yn astudio yn llawn amser a’i fod o dan 19oed ar 1 Medi yn y flwyddyn academaidd pryd y dilynir y cwrs. Darperircludiant i’r ysgol uwchradd ddalgylch a ddynodwyd gan y Cyngor Sir
- 39 -
wasanaethu cyfeiriad cartref y dysgwr, neu i’r ysgol/coleg agosaf. Caiffaddysg gyffredinol (h.y. Safon Uwch/UG neu TGAU) ei darparu fel arferyn yr ysgol ddalgylch ac ni ddarperir cludiant fel rheol ar gyfermynychu y tu allan i’r dalgylch ar gyfer y rhaglenni astudio hyn. Maeysgolion yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau i bobl ifanc 16+ oed acfel arfer, byddai disgwyl i ddysgwyr sy’n dymuno dilyn addysggyffredinol ddewis o’r amrywiaeth sydd ar gael. Nid yw’r Awdurdod, felarfer, yn darparu cludiant ar sail dewisiadau pynciau unigol. Mae gan yCyngor Sir yr hawl i godi tâl am gludiant dewisol ar gerbydau dancytundeb, a chant wneud hynny yn unol a’r polisi cludiant.
x) Disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant i ddisgyblion â datganiad yn unolâ’r meini prawf hyn:
� Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiantysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’nderbyn addysg gynradd sy’n byw dros 2 filltir o ysgol gynradd ydalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megiscar y teulu neu gerbyd Motability.
� Nid yw’r disgybl, oherwydd ei anabledd, yn gallu defnyddio’r cludiantysgol arferol a ddarperir i ddisgyblion oedran ysgol gorfodol sy’nderbyn addysg uwchradd sy’n byw dros dair milltir o ysgol uwchradd ydalgylch ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall o gludiant megiscar y teulu neu gerbyd Motability.
� Mae’r disgybl yn byw o fewn 2 filltir o ysgol gynradd y dalgylch neuo fewn tair milltir o ysgol uwchradd y dalgylch ond nid yw’n gallucerdded i’r ysgol ac nid yw’n gallu defnyddio unrhyw fath arall ogludiant megis car y teulu neu gerbyd Motability.
� Mae’r Panel Cynhwysiant yn argymell y dylid lleoli disgybl mewn ysgolnad yw’n ysgol ddalgylch a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni.
� Rhaid i gyngor meddygol gan Ymgynghorydd Meddygol y disgyblgadarnhau’r angen. Ni dderbynnir cyngor unrhyw weithiwrproffesiynol meddygol arall.
- 40 -
Ni ddarperir cludiant i ddisgyblion ag anghenion arbennig dan yramgylchiadau canlynol:
� os yw’r rhieni yn dewis ysgol y tu allan i’r dalgylch� i fynd i arholiadau y tu allan i’r trefniadau cludiant arferol� i fynd i glybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol� i fynd i wersi nofio oni bai fod y plentyn yn defnyddio cadair olwyn
ac nid oes modd arall iddo fynd i wersi nofio, os felly gallai’rGwasanaethau Addysg dalu’r rhiant am gludo’r plentyn.
Gallai’r Cyngor Sir ddarparu cynorthwyydd ar gyfer disgyblion âdatganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig sy’n gymwys i gaelcludiant o dan y meini prawf diffiniedig. Darperir cynorthwywyr ar ôl iswyddogion perthnasol ystyried beth yw anghenion unigol y disgyblneu’r grŵp o ddisgyblion dan sylw a’r math o gludiant sydd ar gael abydd hynny yn ôl yr hyn y gwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr drosPlant ac Ysgolion.
xi) Cludiant ar sail feddygol
Bydd y Cyngor Sir yn ystyried darparu cludiant tymor byr ar gyferdisgyblion os oes angen cludiant ar blentyn am resymau meddygol fel ygwêl yn ddoeth gan y Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Dylidgwneud cais trwy anfon llythyr at y Rheolwr AAA i’r cyfeiriad islawynghyd â thystiolaeth ategol gan ymgynghorydd meddygol y dysgwr. Nidderbynnir cyngor unrhyw weithiwr proffesiynol meddygol aral.
Y Rheolwr AAA, Cyngor Sir Penfro, y Gwasanaeth Addysg,Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP
xii) Teithio rhatach
Gellir caniatáu i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael cludiant amddim gael llefydd teithio rhatach ar gerbydau contract, ar ôl gwneudcais ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion, os oesseddau dros ben ar gael. Bydd y llefydd teithio rhatach hyn yn rhai dros
- 41 -
dro ac yn brin a gellir eu tynnu’n ôl unrhyw adeg fel y gwêl y Cyngor Siryn dda e.e. pan na fydd seddau ar gael. Gallai hyn ddigwydd ar fyrrybudd ac wedi hynny, y rhieni fydd yn gyfrifol am gludiant. Rhaid i’rCyngor Sir benderfynu ar nifer y disgyblion cymwys y mae angencludiant arnynt er mwyn gweld a oes llefydd dros ben ar gael argerbydau contract neu beidio. Felly, ni chaiff tocynnau teithio rhatacheu dosbarthu nes bod y flwyddyn ysgol wedi cychwyn ers rhaiwythnosau. Mae gan y Cyngor Sir hawl i godi tâl am seddau teithiorhatach ar gerbydau contract a gall wneud hynny yn unol â’i bolisicludiant.
xiii) Ysgolion mewn Awdurdodau Lleol cyfagos
Bydd y Cyngor Sir yn darparu cludiant yn unol â’r gyfraith a’i polisimewn perthynas â disgyblion sy’n mynychu ysgolion mewnAwdurdodau Lleol cyfagos.
xiv) Newid cyfeiriad
Gall y Cyngor Sir ddarparu cludiant i ddisgyblion, ar ôl iddynt newidcyfeiriad yn ystod blwyddyn olaf arholiadau TGAU neu Safon Uwch, ermwyn sicrhau dilyniant yn eu haddysg. Rhaid gwneud cais i’rCyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion. Ni fydd darpariaeth o’rfath yn parhau ym Mlynyddoedd 12 ac 13 os yw disgyblion wedi symudyn ystod blwyddyn 11.
xv) Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol
Nid oes gan y Cyngor Sir unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddarparucludiant ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol ac nid yw’ngwneud hynny fel arfer.
xvi) Codau Ymarfer
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llunio Codau Teithio ar gyferpawb sy’n ymwneud â chludiant ysgol ac mae’r rhain yn rhoi cyngor achanllawiau ynglŷn â sut y gellir cwblhau’r daith i’r ysgol ac yn ôl ynddiogel. Cyhoeddir y rhain yn Atodiad 3.
- 42 -
xvii) Pasiau bws
Rhoddir pas bws i’r disgyblion hynny o oedran ysgol uwchradd sydd â’rhawl i gael cludiant, ar yr amod eu bod yn llenwi ‘Ffurflen Gais am BasBws Cludiant Ysgol’. Rhaid iddynt fynd â’u pas bws gyda nhw bobdydd a rhaid iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan Swyddogion y CyngorSir neu weithwyr y contractwyr. Gellir gwrthod gadael i ddisgyblion syddheb bas bws deithio ar y bws. Codir tâl am bas bws newydd. Mae ffurflengais am bas bws ar gael ar gais neu gellir ei lawrlwytho o wefan y Cyngor;mae fersiwn ar-lein ar gael hefyd i’w llenwi a’i chyflwyno’n electronig. Dylidllenwi ceisiadau yn llawn, gan gynnwys llofnod gan yr ysgol (ac eithrioar-lein ac ar gyfer y derbyniad cyntaf i ysgol uwchradd), a’u hanfon at yCyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion.
Yn achos disgyblion ysgol gynradd, mae’n rhaid gwneud cais am basbws yn yr un modd ag ar gyfer disgyblion uwchradd yn y paragraffuchod; fodd bynnag, ni ddosberthir pasiau bws unigol. Yn hytrachrhoddir rhestr o enwau disgyblion i’r cwmni bws yn nodi pwy sydd â’rhawl i gludiant am ddim ar bob llwybr bws.
xviii) Mannau codi
Oherwydd natur wledig y Sir nid oes modd trefnu bob amser bodllwybrau’r cerbydau yn agos at gartrefi’r holl ddisgyblion sy’n teithio.Felly, gall fod rhaid i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i’w plant deithio i’rman codi agosaf ac yn ôl. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y pellter hwnmor fyr â phosibl. Cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod y disgyblion yn caeleu hebrwng yn ddiogel i’r cerbyd ac oddi arno.
xix) Ymddygiad ar fysiau ysgol
Efallai y bydd disgyblion y mae eu hymddygiad yn annerbyniol neu hebfod yn cydymffurfio â’r Cod Ymddygiad yn ystod y daith i’r ysgol ac yn ôlyn cael y trefniadau teithio wedi’u tynnu’n ôl a bydd y cyfrifoldeb amgludiant i’r ysgol ac yn ôl wedyn yn nwylo’r rhieni. Defnyddir camerâu
- 43 -
Teledu Cylch Cyfyng ar rai cerbydau er mwyn monitro ymddygiad. Ygyrrwr fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r disgyblion ar y cerbyd yn ystody daith i’r ysgol ac yn ôl. Bydd y gyrrwr yn hysbysu’r Cyngor Sir amunrhyw achosion o ymddygiad gwael a gall trefniadau teithio gael eudiddymu. Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau sydd dan gontract i’rCyngor Sir.
xx) Difrod
Bydd y Cyngor Sir neu’r Contractwyr yn gwneud cais am iawndal ganrieni lle bu eu plant hwy yn gyfrifol am ddifrod bwriadol.
xxi) Cyfrifoldeb rhieni mewn perthynas â chludiant
Rhieni sy’n gyfrifol am:� sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl, os nad
yw’n gymwys i gael cludiant� gwneud cais i’r Cyfarwyddwr dros Plant ac Ysgolion am
gludiant os yw eu plentyn yn gymwys� sicrhau bod eu plentyn yn barod ac yn aros am y bws ar yr amser
ac yn y man priodol. Cyfrifoldeb y rhieni yw diogelwch y plentyn cynmynd ar y bws ac ar ôl dod oddi arno. Cyfrifoldeb y rhieni ywgwneud trefniadau i’w plentyn fynd i gwrdd â’r cludiant a ddarperirac am sicrhau bod eu plentyn yn cael ei hebrwng i’r cerbyd ac oddiyno os oes angen
� sicrhau bod ymddygiad eu plentyn, pan fo’n defnyddio cludiantysgol, yn gymdeithasol dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r CodauTeithio cymeradwy
� sicrhau bod eu plentyn yn cael ei gludo i’r ysgol ac yn ôl os yw’rcludiant wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymddygiad gwael
� hysbysu’r Cyngor Sir yn ysgrifenedig pan nad oes angen cludiantysgol mwyach.
xxii) Amgylchiadau ariannol
Nid yw amgylchiadau ariannol y rhieni yn dylanwadu ar ddarparucludiant.
- 44 -
xxiii) Apeliadau Cludiant
Os digwydd anghydfod sy’n ymwneud â gweithredu a dehongli polisicludiant o’r cartref i’r ysgol, dylid cyflwyno apêl i’r Cyfarwyddwr drosPlant ac Ysgolion.
xxiv) Adolygu llwybrau cludiant
Bydd yr Awdurdod yn adolygu’r llwybrau a’r cludiant a ddarperir ynrheolaidd er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon. Gellir gweithredunewidiadau i’r llwybrau yn ystod blwyddyn academaidd.
xxv) Tywydd garw
Os bydd y tywydd yn arw, neu os bydd amgylchiadau eraill nasrhagwelwyd yn codi, gellir gwneud newidiadau dros dro i’r cludiant addarperir. O dan rai amgylchiadau efallai na fydd yn bosibl gweithredullwybr o gwbl neu wasanaethu rhan o’r llwybr yn unig. Os na fydd llwybrysgol/coleg yn gweithredu yn y bore, oherwydd tywydd garw, ond eichbod yn dewis mynd â’ch plentyn (plant) i’r ysgol eich hun, yna byddangen i chi wneud trefniadau i gasglu eich plentyn (plant) ar ddiwedd ydiwrnod ysgol.
- 45 -
- 46 -
5. Dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol - 2014-15
Hanner-Tymor NiferTymor Dechrau dyddiau
Dechrau Diwedd Diwedd ysgol
Hydref Dydd Mawrth Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Gwener2014 2 Medi 2014 27 Hyd 2014 31 Hyd 2014 19 Rhagfyr 2014 74
Gwanwyn Dydd Llun Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Gwener2015 5 Ion 2015 16 Chwef 2015 20 Chwef 2015 27 Mawrth 2015 55
Haf Dydd Mawrth Dydd Llun Dydd Gwener Dydd Llun2015 14 April 2015 25 Mai 2015 29 Mai 2015 20 Gorff 2015 64
Diwrnodau Athrawon dan Dydd Llun 1 Medi 2014 &gyfarwyddydd: Dydd Llun 13 Ebrill 2015 2
Cyfanswm 195
NODIAD
i) Bydd dydd Llun 1 Medi 2014 a dydd Llun 13 Ebrill Ionawr 2015 ynddiwrnodau dynodedig hyfforddi staff pan fydd yr holl ysgolion a gynheliryn Sir Benfro ar gau. Cynhelir tri diwrnod hyfforddi staff arall pan fyddysgolion ar gau yn ôl yr hyn y gwêl pob ysgol unigol yn ddoeth. O bryd i’wgilydd gellir cytuno ar ddiwrnodau ychwanegol pan fydd ysgolion ar gau atddibenion penodol. Bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i chi am y rhain.
ii) Bydd pob ysgol ar gau ddydd Llun 4 Mai 2015 ar gyfer Gŵyl Banc CalanMai.
iii) Mae Gwener y Groglith a Llun y Pasg ar 3 Ebrill a 6 Ebrill 2015 yn ôl eutrefn.
Gall y calendr hwn newid yn sgil unrhyw ofynion gwasanaeth neu bolisi’rllywodraeth. Er bod newidiadau o’r fath yn anarferol, dylech nodi nad ywCyngor Sir Penfro yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golledion a achosirmewn perthynas â threfniadau gwyliau diwygiedig yn dilyn newidiadau o’r fath.
Rhan 5 - Tymhorau a gwyliau
- 47 -
Blwyddyn AcademaiddBlwyddyn Ysgol sy’n cychwyn ar Fedi 1af ac yn gorffen ar yr 31ain Awst canlynol.
Nifer DerbynUchafswm nifer y disgyblion sydd i’w derbyn i’r ysgol mewn grŵp blwyddyn arbennig.
DalgylchYr ardal ddaearyddol y bwriadwyd i’r ysgol ei gwasanaethu, sydd yn achos Ysgol y Preseli, SirBenfro yn ei chyfanrwydd, fel yr ysgol uwchradd ddwyieithog penodedig.
Ysgol GyfunYsgolion sy’n darparu ar gyfer disgyblion o bob gallu rhwng 11 ac 18 oed. Mae Cyngor SirPenfro yn cynnal 8 ysgol gyfun.
Oedran Ysgol GorfodolYn ôl y gyfraith, mae disgyblion rhwng 5 ac 16 oed yn gorfod derbyn addysg lawn amser sy’nbriodol i’w hoedran, eu gallu a’u tueddfryd.
Cyngor SirDyma’r corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am drefnu a chynnal gwasanaethau addysg. CyngorSir Penfro sy’n gyfrifol am hyn yn Sir Benfro. Mae’r Cyngor Sir yn cyflawni amrywiaeth oswyddogaethau statudol.
CwricwlwmYr holl weithgareddau a chyfleoedd ar gyfer dysgu a ddarperir gan ysgol.
Ysgol a GynhelirYsgol a ariennir ac a gynhelir gan Gyngor Sir Penfro (sef yr Awdurdod Addysg Lleol).
Ysgol nas Cynhelir neu Ysgol AnnibynnolYsgol nad yw’n cael ei hariannu na’i chynnal gan Gyngor Sir.
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir (yr Eglwys yng Nghymru neu’r Eglwys Gatholig)Ysgol a gynhelir a sefydlwyd gan gorff gwirfoddol (fel arfer yr Eglwys yng Nghymru neu’rEglwys Gatholig). Mae ysgolion a gynorthwyir yn rheoli eu derbyniadau eu hunain a’u maesllafur Addysg Grefyddol ac yn cyflogi eu gweithwyr eu hunain.
Ysgol Wirfoddol a ReolirMae hon yn ysgol a gynhelir lle mae Addysg Grefyddol yn cael ei darparu yn unol â maes llafurcytunedig yr Awdurdod. Gellir cynnig rhywfaint o hyfforddiant enwadol.
Egluro’rderminolegAtodiad 1
Ysgol GG St Mark, Hwlffordd
Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau ynysgrifenedig i’r Pennaeth.
Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 24, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifiocanlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth:
1. Plant sy’n Derbyn Gofal2. Chwiorydd a brodyr plant sydd eisoes yn yr ysgol.3. Plant sy’n byw yng nghymuned Pont Fadlen.4. Plant aelodau mewn gair a gweithred yr Eglwys yng Nghymru (dylai’r cais gael ei ategu gan
ddatganiad Offeiriad y Plwyf).5. Plant rhieni o enwadau eraill sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig (dylai’r
cais gael ei ategu gan ddatganiad eu Harweinydd Ffydd).6. Plant rhieni sy’n arddel crefyddau eraill, sy’n dymuno i’w plentyn gael addysg ysgol yr
Eglwys Anglicanaidd.7. Plant rhieni sy’n dymuno i’w plentyn fynychu Ysgol St Mark.
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’ifesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle maeannedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at yPennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan yr Esgobaeth, ybydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl iapelio”? i gael mwy o wybodaeth.
Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Marks yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan nafydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r teleraua gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw“Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?”
Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyriedgan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblionpresennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
- 48 -
Trefniadau derbyn a mwy o geisiadauna nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyferysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Atodiad 2
Ysgol Bro Dewi, Tyddewi
Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’rPennaeth.
Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 21, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifiocanlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth:
1. Plant sy’n Derbyn Gofal2. Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol.3. Plant sydd â brodyr a chwiorydd sydd eisoes yn yr ysgol ar yr adeg derbyn. (I gynnwys
hanner brodyr a chwiorydd sy’n byw ar yr un aelwyd)4. Plant rhieni o enwadau Cristnogol sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol y mae eu rhieni’n
dymuno’n benodol i’w plentyn gael addysg ysgol eglwysig. (Gyda llythyr ategol gan euhoffeiriad neu weinidog.)
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’ifesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle maeannedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at yPennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad ynrhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy owybodaeth.
Mae Ysgol Bro Dewi yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallu cynnig lle ynystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysir i restrau arosyr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut mae llefydd ysgol yncael eu dyrannu?”
Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyriedgan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblionpresennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
- 49 -
Ysgol GG St Oswald, JeffreystonCyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’rPennaeth.
Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 17, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifiocanlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth:a) Plant sy’n derbyn gofal sy’n gymunwyr y ffydd Anglicanaiddb) Plant sy’n derbyn gofalc) Plant sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol ar y dyddiad derbyn arfaethedigch) Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgold) Plant o deuluoedd sy'n byw y tu allan i'r dalgylch sy'n gymunwyr rheolaidd mewn Eglwys
Anglicanaidd yn y dalgylchdd) Plant sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, sy’n gymunwyr rheolaidd
mewn Eglwys Anglicanaidde) Plant o deuluoedd o enwadau Cristnogol eraill sy'n byw y tu allan i'r dalgylch y mae eu
rhieni yn dymuno iddynt gael addysg mewn ysgol Eglwys Anglicanaiddf) Plant o deuluoedd sy’n byw y tu allan i’r dalgylch fel a ddiffinnir yn 2 uchod, nad ydynt yn
addolwyr Cristnogol gweithgar ond y mae eu rhieni’n dymuno iddynt gael addysg mewnysgol Eglwys Anglicanaidd.
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’ifesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle maeannedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at yPennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad ynrhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy owybodaeth.
Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir St Oswald yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan nafydd yn gallu cynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r teleraua gymhwysir i restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw“Sut mae llefydd ysgol yn cael eu dyrannu?”
Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyriedgan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblionpresennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
- 50 -
Ysgol WG St Aidan’s, Cas-wis
Yr Awdurdod Derbyniadau ar gyfer yr ysgol hon yw’r Corff Llywodraethol. Adolygir y polisiderbyniadau bob blwyddyn.Mae ein polisi derbyn wedi ei ddatblygu er mwyn sicrhau system gyson a theg ar gyfer derbyndisgyblion i’n hysgol, yn enwedig os yw’n debygol y bydd nifer y lleoedd wedi ei chyfynguoherwydd cyrraedd y rhif derbyn o 21.Mae Ysgol WG St Aidan’s yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru sydd yn y bôn yn gwasanaethu’rgymuned ym mhlwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis ac mae’rpolisi derbyniadau yn adlewyrchu hyn yn ei restr â blaenoriaeth o feini prawf.Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i dderbyndisgyblion yn y drefn ganlynol:1. Unrhyw blant sydd wedi eu nodi ar Gofrestr y Plant sy’n Derbyn Gofal2. Plant o blwyfi Llanhuadain, Walton East, Clarbeston Road, Slebech a Chas-wis.3. Chwiorydd a brodyr plant sy’n mynd i’r ysgol adeg y derbyn, yn cynnwys hanner chwiorydd a brodyr.4. Plant rhieni Anglicanaidd sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.*5. Plant rhieni o enwadau Cristnogol eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Anglicanaidd.*6. Os bydd rhai yn gyfartal o ran y meini prawf, cynigir lleoedd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at
yr ysgol, wedi eu mesur yn ôl y pellter byrraf o’r giât agosaf sydd ar gael gan yr ysgol i fan llemae annedd breifat y disgybl yn cwrdd â’r heol gyhoeddus.
*Mae’n rhaid i flaenoriaethau 4 a 5 fod wedi eu cefnogi gyda llythyr gan ficer/offeiriad/gweinidog.
Yr oed arferol ar gyfer derbyn i ysgol yn Sir Benfro, mewn ysgol fel St Aidan’s heb ddarpariaethfeithrin, yw dechrau’r tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. I ddibenion derbyn i’rysgol, dyddiadau dechrau’r tymhorau yw’r 1 Ionawr, y 1 Ebrill a’r 1 Medi. Nid oes rhaid, foddbynnag, i addysg orfodol ddechrau tan y tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed.
Wrth eu derbyn i’r ysgol mae’r plant yn cael eu cofnodi yn y Gofrestr Dderbyn. Mae eu manylion,ynghyd ag unrhyw wybodaeth y mae’r rhieni yn ei rhoi, yn cael eu cynnwys mewn cofnodioncyfrifiadur sy’n rhwym wrth reoliadau diogelu data.
Os gwrthodir mynediad, yna mae gan rieni’r hawl i wneud un apêl i gorff annibynnol y byddai’rCorff Llywodraethol yn ei sefydlu. (Sylwer – bydd y corff hwn yn annibynnol o’r ysgol a’r CorffLlywodraethol a bydd ei benderfyniad yn orfodol i bawb.) Mae’n gwneud yr apêl yn ysgrifenedigi’r Pennaeth.
Bydd yr Awdurdod Derbyniadau yn parchu’r egwyddor gyffredinol bod rhaid addysgu disgyblionyn unol â dymuniadau eu rhieni, oni bai y byddai derbyn y plentyn hwnnw yn peryglu’rddarpariaeth o addysg effeithlon.
Dylid gwneud ceisiadau am le yn Ysgol WG St Aidan’s yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Mae ffurflengais ar gael gan yr ysgol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 30 Ebrill cyn y flwyddyn galendry mae angen lle yn yr ysgol ynddi..
- 51 -
Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd, Abergwaun
Mae’r Enw Sanctaidd yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Addysg LleolSir Benfro sy’n ei chynnal.Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol i dderbyndisgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan:a) gofynion y gyfraith.b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a chyflawni ei
Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu.c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu.ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth.
Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparuaddysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le yma gefnogia pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n ei darparu.Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneud cais a chaeleu hystyried am le yma.Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2014 yw 18. Osbydd nifer yr ymgeiswyr yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth igeisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddir gwybod i’rllywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyniadau.Bydd rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar Ffurflen Gais Derbyn i’r Ysgol a’i dychwelydi’r ysgol erbyn y 30 Ebrill fan bellaf yn y flwyddyn cyn derbyn.Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb am benderfynu ynghylch derbyniadau i’wBwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau ar gyferderbyniadau, wedi eu gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru.Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i BanelApeliadau. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc y Llywodraethwyr yn yr ysgol ofewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad. Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau drosapelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyr dderbyn penderfyniad y panel apeliadau.
Meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gaelOs bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yngweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na’r nifer sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn y flaenoriaeth.1. Pob plentyn Catholig sydd wedi ei fedyddio ac yn byw yn nalgylch yr ysgol.2. Pob plentyn sydd wedi ei fedyddio yn yr Eglwys Uniongred ac sy’n byw yn nalgylch yr ysgol.3. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn sydd wedi eu
bedyddio’n Gatholigion.4. Ymgeiswyr gyda chwiorydd neu frodyr ar y gofrestr yn y flwyddyn dderbyn nad ydynt yn
Gatholigion.5. Disgyblion Catholig o’r tu allan i’r dalgylch.6. Plant o enwadau Cristnogol eraill.7. Plant y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig
- 52 -
Mae gan bob ysgol ddyletswydd i dderbyn plant gyda Datganiad o Anghenion Addysgol panyw’r ysgol wedi ei henwi yn y datganiad.Ym mhob dosbarthiad uchod rhoddir blaenoriaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal.
Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o ran nifer y ceisiadau sydd wedi eugwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, yna bydd y Pwyllgor Derbyniadau yn cynnig lleoeddyn gyntaf i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, yn ôl y daith gerdded fyrraf ar heolydd cyhoedduso ddrws blaen y plentyn i brif fynedfa’r ysgol.
Ysgol Gatholig y Santes Fair, Doc Penfro
Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’rPennaeth.
Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 16, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifiocanlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth:
1. Plant Catholig sy’n derbyn gofal2. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion y Santes Fair, Doc Penfro, a St.
Joseph’s, Penfro3. Plant Catholig, wedi eu bedyddio, i rieni sy’n blwyfolion plwyfi sy’n ffinio ar y rhai sydd wedi
eu rhestru uchod neu sydd wedi symud i’r ardal4. Plant sy’n derbyn gofal nad ydynt yn Gatholigion5. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brodyr neu chwiorydd eisoes yn yr ysgol6. Cristnogion o enwadau eraill7. Eraill sy’n dymuno i’w plant gael addysg Gatholig
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi’ifesur yn ôl y pellter cerdded byrraf o’r gât ysgol agosaf sydd ar gael hyd at y man lle maeannedd preifat y disgybl yn cwrdd â’r briffordd gyhoeddus.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon atGadeirydd y Pwyllgor Apêl yn yr ysgol. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, asefydlwyd gan Swyddfa’r Esgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweleryr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth.
Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallucynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysiri restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut maellefydd ysgol yn cael eu dyrannu?”
- 53 -
Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyriedgan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblionpresennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r Llywodraethwyr fod yn fodlon mai awyrgylch crefyddol amoesol yr ysgol yn anad dim sy’n bwysig i’r rhai sy’n gwneud y cais ac na fydd derbyn rhagor oblant yn amharu ar ddefnyddio adnoddau’n effeithlon.
Ysgol Gatholig Sant Teilo, Dinbych-y-pysgodCyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’rPennaeth.Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 15, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifiocanlynol, wedi’u cymhwyso mewn trefn blaenoriaeth:
1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn yplwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu.
2. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’ndarparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth).
3. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion y mae eu teuluoedd yn byw ym Mhlwyf Holyrood aTheilo Sant.
4. Plant eraill wedi’u bedyddio’n Gatholigion. Bydd angen Cadarnhad o Fedyddio.5. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion gyda brawd neu chwaer yn yr ysgol yr amser y maen
debygol y derbynnir hwy.6. Plant o Enwadau Cristnogol eraill.7. Plant nad ydynt yn Gatholigion sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol adeg y derbyn.8. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig.9. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu plentyn.10. Plant y mae’r AALl wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol.
Yn achos ymgeiswyr cyfartal, cynigir y llefydd i’r disgyblion sy’n byw agosaf at yr ysgol. Bydd ypellter yn cael ei fesur o ddrws ffrynt mynediad y dderbynfa i ddrws ffrynt tŷ neu fflat yrymgeisydd. Yn achos plentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’rcyfrifoldeb pennaf yn ystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fyddy ffactor penderfynu wedyn. Bydd rhaid darparu llythyr gan y rhieni i gadarnhau’r ffaith honno.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at yPennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, y bydd ei benderfyniad yn rhwymolar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth yw fy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth.
- 54 -
Ysgol Gatholig Mary Immaculate, Hwlffordd
Cyfrifoldeb y Corff Llywodraethol yw derbyn plant i’r ysgol, a dylid gwneud ceisiadau i’rPennaeth.
Y Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol yw 29, a lle nad yw nifer y ceisiadau’n uwch na’r nifer hon, ynaderbynnir pob ymgeisydd. Pe bai mwy na’r nifer uchod o geisiadau’n cael eu derbyn ar gyfergrŵp blwyddyn unigol, bydd disgyblion yn cael eu derbyn ar sail y meini prawf gordanysgrifio arhestrir islaw. Ymhob pob categori, bydd plant mewn gofal yn derbyn blaenoriaeth:
1. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion sy’n derbyn gofal o fewn y sir. Ni roddirblaenoriaeth i geisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd.
2. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion eglwysi Dewi Santa Phadrig Sant Hwlffordd, ac eglwys y Beichiogi Dihalog, Arberth. Ni roddir blaenoriaeth igeisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd.
3. Plant sydd wedi eu bedyddio’n Gatholigion y mae eu rhieni yn blwyfolion plwyfi cyfagos i’rrhai a restrir uchod neu sydd wedi symud i’r ardal. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau yn ycategori hwn oni bai y cyflwynir tystysgrif Bedydd.
4. Plant y mae eu rhieni yn aelodau gweithgar a gweithredol o Eglwysi Ynghyd yng Nghymru(Cytûn) ac yn byw yn yr ardaloedd y cyfeirir atynt yng nghategori 2. Ni roddir blaenoriaeth igeisiadau yn y categori hwn oni bai y cyflwynir llythyr ategol gan y gweinidog presennol yncadarnhau Bedydd neu ddatganiad ategol o gysylltiad neu gyfeiriad wedi’i lofnodi gan ygweinidog neu gynrychiolydd yr eglwys yn cadarnhau aelodaeth o’r eglwys.
5. Plant sydd ag angen meddygol neu gymdeithasol. Bydd angen llythyr gan feddyg neuweithiwr proffesiynol iechyd yn rhoi tystiolaeth ategol i gyd-fynd â’r cais. Rhaid i’rdystiolaeth ategol hon nodi’r rhesymau penodol pam mai Ysgol Mary Immaculate yw’r ysgolfwyaf addas a’r anawsterau a achosir pe bai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol arall. Niroddir blaenoriaeth oni bai bod tystiolaeth ategol.
6. Plant nad ydynt wedi’u bedyddio sydd â brodyr neu chwiorydd yn yr ysgol.
Yn achos ymgeiswyr cyfartal a bod angen torri’r ddadl mewn unrhyw un o’r categorïau uchod,bydd y llywodraethwyr yn derbyn yr ymgeiswyr hynny sy’n byw agosaf at yr ysgol. Yn achosplentyn y mae ei rieni yn rhannu cyfrifoldeb ar y cyd, y rhiant sydd â’r cyfrifoldeb pennaf ynystod yr wythnos ysgol ac y mae ei breswylfan yn agosach at yr ysgol fydd y ffactorpenderfynu. Bydd y llywodraethwyr yn defnyddio’r llwybr cerdded byrraf a gyfrifir ganddefnyddio data llwybrau unigol yr Arolwg Ordnans o ddrws ffrynt yr ysgol i ddrws ffrynt tŷ neufflat yr ymgeisydd. Lle bydd angen, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am gymorth gan yrawdurdod lleol i benderfynu pa un yw’r llwybr byrraf.
Mae gan rieni y mae eu cais am le i’w plant yn aflwyddiannus yr hawl i apelio yn erbyn ypenderfyniad i beidio â’u derbyn. Dylai’r apêl hon fod yn ysgrifenedig a dylid ei hanfon at yPennaeth. Caiff yr apêl ei chlywed gan Banel Apêl annibynnol, a sefydlwyd gan Swyddfa’rEsgobaeth, y bydd ei benderfyniad yn rhwymol ar bob parti. Gweler yr adran o’r enw “Beth ywfy hawl i apelio”? i gael mwy o wybodaeth.
- 55 -
Mae Ysgol Gatholig Mair Ddihalog yn gweithredu rhestr aros ar gyfer rhieni pan na fydd yn gallucynnig lle yn ystod y cylch derbyn arferol oherwydd gordanysgrifio. Mae’r telerau a gymhwysiri restrau aros yr un fath â thelerau’r Cyngor Sir, fel a ddisgrifir yn yr adran o’r enw “Sut maellefydd ysgol yn cael eu dyrannu?”
Bydd ceisiadau am lefydd a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig, yn cael eu hystyriedgan yr ysgol ar ôl yr holl geisiadau hynny a dderbyniwyd mewn pryd. Bydd ceisiadau’n cael euhystyried ar sail y meini prawf gordanysgrifio uchod, a chan ystyried nifer y disgyblionpresennol/darpar ddisgyblion. Mae’r hawl i apelio yn gymwys i geisiadau hwyr hefyd.
Mae’r fersiwn lawn o’r trefniadau derbyn ar gael gan yr ysgol.
Ysgol Gatholig Sant Francis, Aberdaugleddau
1. Mae St Francis yn Ysgol Gynradd Gatholig yn Esgobaeth Mynyw. Awdurdod Lleol Sir Benfrosy’n ei chynnal.
2. Mae’r Corff Llywodraethol yn gyfrifol am benderfynu ynglŷn â’r polisi sy’n berthnasol idderbyn disgyblion i’r ysgol. Mae wedi ei gyfarwyddo ar gyfer y cyfrifoldeb hwn gan:a) gofynion y gyfraith.b) cyngor Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth ynglŷn â natur a diben ei gyfrifoldebau a
chyflawni ei Weithred Ymddiriedolaeth ac Offeryn Llywodraethu.c) ei gyfrifoldeb tuag at yr ysgol a’r gymuned Gatholig y mae’n ei gwasanaethu.ch) cymeriad Catholig yr ysgol a’i Datganiad Cenhadaeth.Mae ethos yr ysgol hon yn Gatholig. Sefydlwyd yr ysgol gan yr Eglwys Gatholig i ddarparuaddysg i blant teuluoedd Catholig. Gofynnwn I bob rhiant sy’n gwneud cais am le ymagefnogi a pharchu’r ethos hwn, ei bwysigrwydd i gymuned yr ysgol a’r addysg y mae hi’n eidarparu. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl rhieni nad ydynt o’r un ffydd â’r ysgol hon i wneudcais a chael eu hystyried am le yma.Nifer Derbyn yr Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2014 yw 27.Os bydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r nifer derbyn, bydd y llywodraethwyr yn rhoiblaenoriaeth i geisiadau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru ar yr amod y rhoddirgwybod i’r llywodraethwyr am y cais hwnnw cyn gwneud penderfyniadau ynghylchderbyniadau. Os bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael o fewn dosbarthiad,bydd y llywodraethwyr yn rhoi blaenoriaeth i blant sy’n byw agosaf at yr ysgol, wedi eibenderfynu yn ôl y pellter byrraf.
3. Mae’r ysgol yn gwasanaethu, yn y lle cyntaf, plant sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion, sy’nbyw ym mhlwyf Sant Francis o Asisi yn Aberdaugleddau.
4. Mae’n rhaid gwneud ceisiadau am le yn yr ysgol ar y ffurflen dderbyniadau a’i dychwelydi’r ysgol erbyn y 30 Ebrill 2014 fan bellaf.
5. Mae’r Corff Llywodraethol wedi dirprwyo cyfrifoldeb dros benderfynu ynghylch derbyniadaui’w Bwyllgor Derbyniadau, a fydd yn ystyried pob cais yr un pryd ac wedi’r dyddiad cau argyfer derbyniadau, wedi’u gwneud yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu rhestru dros ydudalen.
- 56 -
6. Bydd disgyblion a dderbynnir i’r ysgol yn mynd i’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2014.7. Os bydd cais am dderbyn wedi ei wrthod gan y Corff Llywodraethol, gall rhieni wneud apêl i
Banel Apeliadau Annibynnol. Mae’n rhaid anfon yr apêl hon yn ysgrifenedig at glerc yLlywodraethwyr yn yr ysgol o fewn 14 o ddyddiau (10 diwrnod gwaith) wedi’r gwrthodiad.
Meini Prawf DerbyniadauOs bydd nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd y Corff Llywodraethol yngweithredu’r meini prawf ‘mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael’ canlynol yn nhrefn yflaenoriaeth:1. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion ‘Sy’n Derbyn Gofal’, yng ngofal yr awdurdod lleol, yn y
plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu..2. Plant wedi’u bedyddio’n Gatholigion yn y plwyfi y mae’r ysgol yn eu gwasanaethu.3. Plant eraill sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion.4. Plant sy’n Derbyn Gofal sydd yng ngofal yr awdurdod lleol (plant mewn gofal) neu y mae’n
darparu llety iddynt (e.e. plant gyda rhieni maeth).5. Plant sydd â brawd neu chwaer yn yr ysgol amser y derbyn.6. Plant o enwadau Cristnogol eraill.7. Plant o grefyddau eraill y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig8. Plant nad ydynt yn Gatholigion y mae eu rhieni yn dymuno addysg Gatholig ar gyfer eu
plentyn.9. Plant y mae’r Cyngor Sir wedi gofyn yn benodol am le iddynt yn yr ysgol.
• Unrhyw amser y bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, o ran nifer yceisiadau sydd wedi eu gwneud o dan unrhyw ddosbarthiad uchod, bydd y PwyllgorDerbyniadau yn cynnig lleoedd yn gyntaf i’r plant sy’n byw agosaf at yr ysgol yn ôl y daithgerdded fyrraf ar heolydd cyhoeddus. Bydd rhaid i bob ymgeisydd Cristnogol ddangostystysgrif bedydd.
• Mae’n rhaid i rieni roi rhesymau dros apelio yn ysgrifenedig a bydd rhaid i’r Llywodraethwyrdderbyn penderfyniad y Panel Apeliadau.
• Os yw’r ysgol wedi ei henwi mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae gan yCorff Llywodraethol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol.
• Fel y mae’r gyfraith yn mynnu, ni fydd y Corff Llywodraethol yn derbyn mwy na 30 oddisgyblion i’r un dosbarth Derbyn neu Gyfnod Sylfaen.
- 57 -
- 58 -
Mae eich diogelwch yn bwysig iawn. Rhaid i chi ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel wrth deithio i’r ysgolneu’r coleg ac oddi yno, p’un ai ydych chi’n defnyddio bws, trên, tacsi neu’n beicio neu’n cerdded neu’ndefnyddio unrhyw ddull arall. Os byddwch chi’n defnyddio’r bws i fynd i’r ysgol neu’r coleg, mae’n rhaidi chi ddilyn y rheolau yn y CodYmddygiad wrth Deithio ar FysiauYsgol.
Os nad ydych yn dilyn y Cod hwn, er eich diogelwch eich hun, gall awdurdodau lleol, ysgolion acholegau gymryd camau yn eich erbyn. Gall hyn olygu tynnu eich hawl i gael cludiant i’r ysgol oddiarnoch, a hyd yn oed eich gwahardd o’r ysgol.
> Parchwch bobl eraill bobamser, gan gynnwysdisgyblion eraill, y gyrwyr a’rcyhoedd.
> Parchwch y cerbydau a’reiddo sydd ynddynt bobamser.
> Byddwch yn gwrtais bobamser.
> Peidiwch byth â thaflusbwriel ar hyd y lle.
> Rhaid i chi ufuddhau i’rgyfraith bob amser.
> Rhaid i chi ymddwyn yndda bob amser wrthdeithio.
> Rhaid i chi ddilyncyfarwyddyd y gyrrwr bobamser wrth deithio.
> Peidiwch â thynnu sylw’rgyrrwr.
> Croeswch y ffordd ynddiogel ac mewn moddsynhwyrol bob amser.
> Defnyddiwch lwybr diogelwrth deithio bob amser.
> Bod yn ddiogel wrthdeithio.
> Cael eich trin yn deg achyda pharch.
> Dweud wrth rywun os ywrhywun neu os oesrhywbeth yn achosiproblemau i chi.
> Peidio â chael eich bwlioneu eich poeni.
Cod Teithio a Chod Ymddygiadwrth Deithio ar FysiauLlywodraeth Cymru
Atodiad 3
- 59 -
> Pan fyddwch yn aros wrth safle bws,gwnewch yn siwr eich bod yn arosmewn lle synhwyrol oddi ar y ffordd.
> Trefnwch gyda’ch rhieni beth i’wwneud os na fydd y bws yn cyrraeddneu os byddwch yn colli’r bws.
> Pan ddaw’r bws, arhoswch iddo stopio.Peidiwch byth â gwthio neu ruthro at ydrws.
> Dangoswch eich pàs (os rhoddwyd un ichi) pan fyddwch yn mynd ar y bws.
> Ar fws ysgol, arhoswch yn eich seddnes i chi gyrraedd pen y daith.
> Ar fws cyhoeddus, dewch o hyd i seddwag os oes un ar gael.
> Peidiwch byth â chreu rhwystr yn yr eilgyda’ch bag neu eiddo arall.
> Gwisgwch y gwregys diogelwch bobamser os oes un ar gael.
> Rhaid i chi beidio â thynnu sylw’rgyrrwr pan fydd yn gyrru.
> Peidiwch byth â bwyta nac yfed ar y bws.
> Peidiwch byth â thaflu dim i mewn i’r bwsnac oddi ar y bws.
> Peidiwch byth ag achosi difrod nafandaleiddio unrhyw ran o’r bws.
> Peidiwch byth ag agor y drysau neu’rallanfeydd ar y bws ac eithrio mewnargyfwng.
> Dilynwch gyfarwyddiadau’r gyrrwr neu’rcynorthwyydd teithwyr bob amser.
> Os digwydd damwain, arhoswch ar y bwsnes i chi gael cyfarwyddiadau i adael. Osnad yw’n ddiogel i aros ar y bws, ynadefnyddiwch yr allanfa fwyaf diogel i fyndoddi arno.
> Peidiwch byth â cheisio mynd ar y bws neuoddi arno hyd nes y bydd wedi stopio.
> Ewch oddi ar y bws yn drefnus ac ynsynhwyrol, gan fynd â’ch holl eiddo gydachi.
> Peidiwch byth â chroesi’r ffordd o flaen ybws na chwaith yn agos at gefn y bws.
- 60 -
Nodiadau