ddiogelwch canllaw i ysgolion cyfnod allweddol 1 a 2 ......manteision y technolegau newydd hyn. yn...

63
Ymateb i E- Ddiogelwch Canllaw i Ysgolion Cyfnod Allweddol 1 a 2 Caerdydd yn Erbyn Bwlio a Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Caerdydd

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Ymateb i E-Ddiogelwch

    Canllaw i Ysgolion

    Cyfnod

    Allweddol 1 a 2

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio a Gwasanaeth

    Ymgynghorol Addysg Caerdydd

  • Contents

    Rhif Adran Teitl Rhagair Chris Jones, Prif Swyddog Ysgolion Adran 1: Pwysigrwydd E-Ddiogelwch Adran 2: Beth yw E-Ddiogelwch? Adran 3: Pam bod E-Ddiogelwch yn Bwysig? Adran 4: Rôl Rhieni a Gofalwyr Holiadur i Rieni a Gofalwyr Cymorth Pellach i Rieni Adran 5: E-Ddiogelwch a Staff Rolau a Chyfrifoldebau Staff Adran 6: Llunio Polisi E-Ddiogelwch

    Cynnwys Polisi E-Ddiogelwch

    Adran 7: Sut mae E-Ddiogelwch yn Berthnasol i Gwricwlwm 2008 Adran 8: E-Ddiogelwch a'r Fframwaith Cyfreithiol Adran 9: Seiber-fwlio Canolbwyntio ar Seiber-fwlio mewn E-Ddiogelwch Goblygiadau Cyfreithiol Atal Seiber-fwlio Ymateb i Seiber-fwlio Seiber-fwlio a Chynlluniau Gwers

    Atodiadau

    1 Llythyr i Rieni a Gofalwyr 2 Holiadur i Rieni a Gofalwyr 3 Cwricwlwm TGCh 2008 4 Cynlluniau Gwers ac Adnoddau E-ddiogelwch 5 Llyfryddiaeth

  • Rhagair

    Dros y blynyddoedd diweddar, mae byd addysg wedi cael ei weddnewid droeon, ac mae ein disgyblion bellach yn gallu cael mynediad at gwricwlwm mwy coeth ac amrywiol nag erioed, a hynny'n rhannol yn sgil yr ystod eang o dechnolegau y gallwn eu defnyddio er mwyn dysgu ac addysgu. Mae ehangder cynyddol y datblygu technolegol yn effeithio ar bob agwedd ar gymdeithas, ac mae'r ystafell ddosbarth wedi elwa'n fawr ar y cyfoeth o adnoddau TGCh sydd ar gael bellach i ddisgyblion ac addysgwyr fel ei gilydd. Er bod nifer ohonom wedi byw drwy ddatblygiad y chwyldro technolegol hwn a welwn o'n cwmpas, sy'n gwella'n bywydau mewn amryw o ffyrdd, mae'n amlwg nad yw'n plant a'n pobl ifanc ond yn gyfarwydd â byd sy'n cynnwys y technolegau hyn, a’u bod yn ei chael hi'n anodd dychmygu cyfnod hebddynt. Mae ein pobl ifanc yn dibynnu ar dechnoleg sy'n gymharol newydd i ni, gan ei defnyddio nid yn unig er mwyn dysgu, ond hefyd i chwarae, cymdeithasu, rhwydweithio a chyfathrebu a'r byd eang. Mae'r rhagolygon y bydd ein pobl ifanc yn arwain datblygiadau technolegol y dyfodol, gan wthio gwyddoniaeth a thechnoleg i gyfeiriadau sy'n anodd i ni eu dychmygu yn yr oes hon, yn syniad cyffrous. Gan gadw hyn mewn cof, ystyriwn sut y byddwn yn addysgu'n disgyblion i ddefnyddio adnoddau ac offer a fydd yn anochel yn anarferedig o fewn cyfnod byr, ac yn cael eu disodli gan dechnoleg gyflymach, sy'n fwy datblygedig a chymhleth.

    Er bod yn rhaid i ni addysgu'n pobl ifanc ynghylch sut i ddefnyddio'r offer, mae'n gynyddol amlwg fod yn rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar ddefnyddio technoleg mewn modd diogel a chyfrifol – sgiliau ac ymwybyddiaeth a fydd yn para am oes, beth bynnag fo'r newidiadau ym myd technoleg. Yn sgil yr adroddiadau cynyddol am gam- drin technoleg, plant yn eu peryglu eu hunain, yn cael eu haflonyddu neu eu cam-drin a seiber-fwlio, mae'n anorfod mai ein rôl yw hyrwyddo e-ddiogelwch oddi mewn i'r cwricwlwm TGCh ac ABCh a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan tuag at e-ddiogelwch er mwyn addysgu ein plant a'u hamddiffyn rhag peryglon posibl. Mae'r pwyslais ychwanegol ar e-ddiogelwch yn y cwricwlwm TGCh ar gyfer Cymru, ynghyd â'r adnoddau ychwanegol sydd ar gael i ni gan asiantaethau'r llywodraeth, fel Becta, yn gysur mawr. Mae'r adnodd hwn, a ddatblygwyd gan Caerdydd yn erbyn Bwlio a'r Gwasanaeth Cynghori TG yn amlygu unwaith eto sut mae dinas a sir Caerdydd yn arwain y gwaith o hyrwyddo addysg flaengar a chynhwysol i'w holl blant a phobl ifanc.

    Chris Jones Prif Swyddog Ysgolion

  • Pwysigrwydd E-Ddiogelwch

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cynlluniau Gwersi

    Er bod modd archwilio e-ddiogelwch yn gyffredinol drwy'r holl gwricwlwm, pryd bynnag y defnyddir TGCh fel offeryn dysgu ac addysgu, rhaid i ysgolion hefyd ddatblygu strategaethau, polisïau ac addysg benodol ym maes e-ddiogelwch, ar gyfer disgyblion o bob oed. Mae goblygiadau ymddygiad anniogel ar-lein neu drwy ddefnyddio technolegau newydd yn sylweddol. Gan hynny, ni ddylai'r Cydlynydd TGCh neu'r Rheolwr Rhwydwaith orfod ysgwyddo'r rôl o gydlynu ac ymwreiddio arferion e-ddiogel drwy'r holl ysgol ar eu pen eu hunain; yn hytrach dylid mabwysiadu'r rôl fel ymagwedd ysgol gyfan, gan gynnwys holl gymuned yr ysgol, ynghyd â rhieni a gofalwyr.

    DEFNYDD O'R RHYNGRWYD YMYSG POBL IFANC YN EU HARDDEGAU

    • Bydd bron hanner o blant 12–15 mlwydd oed yn cael sgyrsiau Negesydd Chwim (IM) o leiaf unwaith bob dydd ac mae traean ohonynt (33%) yn sgwrsio ar IM droeon bob dydd

    • Bydd 48% yn defnyddio e-bost o leiaf unwaith bob dydd

    Dengys ystadegau fod mwy o blant a phobl ifanc nag erioed yn defnyddio technoleg newydd i gyfathrebu, cymdeithasu, chwarae a dysgu. Mae technoleg fel y Rhyngrwyd, e-bost, ffonau symudol a chonsolau gêm erbyn hyn yn rhan o'n cymdeithas ac yn rhan o fywyd bob dydd nifer ohonom. Mae amryw o fanteision i dechnolegau o'r fath, ac maent wedi newid a siapio'r ffordd rydym yn gweithio, yn byw ac yn cyfathrebu ag eraill. Ond wrth i oedran y plant sy’n dechrau defnyddio’r rhain ostwng yn gynyddol, cydnabyddir yr angen i addysgu a chodi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion o beryglon yn ogystal â manteision y technolegau newydd hyn. Yn ôl Becta, asiantaeth y llywodraeth sy'n hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu, dylid dechrau addysg e-ddiogelwch cyn gynted ag y bo'r dechnoleg yn cael ei chyflwyno i blant. Gwneir defnydd cynyddol o TGCh drwy'r cwricwlwm, ac yn sicr mae gan nifer o blant fynediad at y Rhyngrwyd, gemau cyfrifiadur a ffonau symudol gartref. Mae hyn yn realiti sy'n destun pryder – er ein bod yn cynnig yr offer i'n plant a'u dysgu sut i'w defnyddio, a ydym hefyd yn eu haddysgu ynghylch cyfrifoldeb, ymwybyddiaeth a diogelwch?

  • Beth yw E-Ddiogelwch?

    Mae a wnelo E-Ddiogelwch ag addysgu ynghylch sut i ddefnyddio technoleg newydd mewn modd diogel a chyfrifol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r negeseuon craidd, sef cynnwys, cyswllt a masnach ddiogel wrth ddefnyddio technoleg. Gall hyn gynnwys mynd i wefannau a chynnwys ar-lein, e-bost, ystafelloedd sgwrsio ar-lein, ffonau symudol, gemau cyfrifiadurol a chonsolau gêm, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, negeseua chwim (IM), firysau a sbam. Ceir nifer o risgiau allweddol yn gysylltiedig â defnyddio technolegau newydd, gan gynnwys: • Perygl corfforol • Camdriniaeth rywiol • Bwlio • Dwyn hunaniaeth • Ymddygiad anghyfreithlon • Dod i gysylltiad â chynnwys amhriodol • Defnydd obsesiynol o TGCh • Tor-hawlfraint

    Mae a wnelo cynnwys diogel â chadw plant rhag cael mynediad at neu ddod i gysylltiad â chynnwys amhriodol, gan gynnwys cynnwys o natur bornograffig, cas, treisgar sy'n gyffredinol anaddas i'w hoed neu'n anghyfreithlon. Mae a wnelo cynnwys diogel hefyd â risgiau diogelwch fel adware, spyware, firysau a sbam. Mae a wnelo cyswllt diogel â'r risgiau sy'n gysylltiedig â chysylltiadau amhriodol drwy dechnoleg fel neges-destun, ystafelloedd sgwrsio ar-lein, negeseua chwim (IM) ac e-bost. Mae risgiau'n cynnwys y perygl o gysylltu â paedoffilwyr, 'paratoi' plant a phobl ifanc, cyswllt gan bobl sy'n annog ymddygiad amhriodol neu fentrus, er enghraifft cwrdd â 'ffrind' ar-lein yn y byd go iawn a seiber-fwlio, lle defnyddir technoleg i fwlio ac aflonyddu ar eraill. (Gweler yr adran ar seiber-fwlio am fwy o wybodaeth). Mae a wnelo masnach ddiogel â goblygiadau ariannol a masnachol defnyddio technoleg newydd, er enghraifft os bydd plant yn cynnig manylion cerdyn credyd rhiant ar-lein. Mae a wnelo masnach ddiogel hefyd â chofrestru'n ddiogel ar wefannau masnachol, e-bost sothach a sbam, gwasanaethau pris premiwm ar ffonau symudol ac ymwybyddiaeth o hysbysebu ar-lein a hysbysebu masnachol drwy fathau eraill o dechnoleg newydd.

  • Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan UK Children Go Online (UKCGO) o 2003-2005 o'r defnydd a wneir o'r rhyngrwyd ymysg plant a phobl ifanc 9-19 oed, canfuwyd: • Bod gan 75% fynediad at y rhyngrwyd

    gartref • Bod gan 92% fynediad at y rhyngrwyd

    yn yr ysgol • Bod gan 71% fynediad at y rhyngrwyd

    drwy gyfrifiadur, tra bo 38% yn cael mynediad drwy ffôn symudol

    • Bod 38% o atebwyr yr arolwg yn ymddiried yn y rhan fwyaf o'r wybodaeth sydd ar-lein

    • Bod 28% o rieni sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn eu disgrifio'u hunain yn ddechreuwyr, o’i gymharu â dim ond 7% o blant

    • Bod 79% o bobl ifanc yn defnyddio'r rhyngrwyd yn breifat heb oruchwyliaeth eu rhieni

    • Bod 57% o blant a phobl ifanc 9-19 oed wedi dod i gysylltiad â phornograffi ar-lein ar ddamwain

    • Bod 49% yn dweud eu bod wedi cynnig gwybodaeth bersonol, er mai dim ond 5% o rieni sy'n tybio bod eu plentyn wedi cynnig gwybodaeth o'r fath

    Pam bod E-Ddiogelwch yn Bwysig?

    Er bod nifer o oedolion yn eu hystyried eu hunain yn ddefnyddwyr cymharol gymwys o'r rhyngrwyd ac o ffonau symudol, mae'n amlwg fod plant a phobl ifanc bellach yn manteisio ar dechnoleg mewn ffyrdd gwahanol i genedlaethau hŷn. Mae pedwar blynedd ers canlyniadau arolwg UKCGO, ac mae'n amlwg mai dim ond cynyddu y mae defnydd pobl ifanc o dechnoleg.

    Tra'r oedd llawer ohonom yn defnyddio'r rhyngrwyd i edrych ar wybodaeth sy'n cael ei chreu gan gorfforaethau mawr e.e. Microsoft, Amazon, BBC ac ati, yn yr hyn a elwid yn ‘amgylchedd gwe 1.0’, mae defnyddwyr erbyn hyn yn ffafrio amgylcheddau ‘web 2.0’; wrth i fwy o bobl ychwanegu eu cynnwys eu hunain at y rhyngrwyd a'r amgylchedd ddechrau troi i fod yn fwy rhyngweithiol a phersonol. Er enghraifft, nid dangos erthyglau newyddion yn unig a wna'r rhan fwyaf o hafanau papurau newydd - maent hefyd yn rhyngweithio â'r defnyddiwr drwy gynnig fideos, delweddau, cwisiau a chynnwys defnyddiwr. Heddiw, nid edrych ar gynnwys yn unig a wna pobl ifanc, ond ei greu hefyd. Maent nid yn unig yn lawrlwytho cynnwys, fel cerddoriaeth neu ddelweddau, ond hefyd yn ei lanlwytho, gan ychwanegu eu safbwyntiau, eu cerddoriaeth a'u delweddau ayb eu hunain. Mae plant a phobl ifanc bellach yn weithgar eu defnydd o dechnoleg newydd. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd ymdrin a mynd i'r afael ag e-ddiogelwch, wrth i ddefnydd pobl ifanc o dechnoleg yn newid a'u sgiliau ddatblygu. Er bod gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron ysgolion, llyfrgelloedd a chyhoeddus feddalwedd hidlo a monitro sy'n atal unrhyw ddefnydd peryglus neu amhriodol, nid oes gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron cartref yr un nodweddion diogelwch, ac yn bwysicach na hynny, nid yw meddalwedd hidlo neu fonitro'n addysgu plant a phobl ifanc ynglŷn â'r hyn a allai fod yn amhriodol i'w lanlwytho, sut i ddelio â rhai sy'n cysylltu â nhw'n ddigroeso a chodau ymddygiad moesol a hawliau a chyfrifoldebau. Fel addysgwyr, ni sydd piau'r rôl honno, mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr, a'r plant eu hunain.

  • Er mai ysgolion erbyn hyn, o bosib, sy'n gyfrifol am addysgu e-ddiogelwch drwy'r cwricwlwm TGCh, mae gan rieni a gofalwyr rôl amlwg a phwysig wrth atgyfnerthu'r negeseuon hyn gartref. Mae nifer o rieni'n datgan bod eu sgiliau ar y rhyngrwyd ac wrth drin technolegau newydd yn brin, ac yn aml gall y bwlch rhwng plant a rhieni gynyddu, gan adael rhieni'n ansicr ynglŷn â'r hyn y mae eu plant yn ei wneud ar y rhyngrwyd, a sut i fynd i'r afael â hynny. Rhaid i ysgolion sydd am fabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan tuag at e-ddiogelwch gydnabod pa mor bwysig yw hi i addysgu a chynorthwyo rhieni; ceir llythyr enghreifftiol er mwyn cyflwyno'ch polisi e-ddiogelwch i rieni yn Atodiad 1.

    Rôl Rhieni a Gofalwyr

    Er bod gan gyfleusterau mewn ysgolion a chan gynghorau feddalwedd hidlo, monitro a diogelwch ar gyfrifiaduron er mwyn atal plant rhag cael mynediad at gynnwys amhriodol, nid yw'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron cartref yn cynnig yr un mesurau diogelwch, ac mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad cynyddol at y rhyngrwyd heb fod dan oruchwyliaeth oedolyn - drwy gyfrifiadur yn yr ystafell wely neu drwy ryngrwyd diwifr ar ffôn symudol. Ceir hefyd oblygiadau moesol a chyfreithiol sy'n gysylltiedig â phlant yn lanlwytho cynnwys ar y we, yn anfon negeseuon neu ddelweddau amhriodol, yn seiber-fwlio a mwy, y mae angen i rieni a gofalwyr eu hategu ac addysgu plant yn eu cylch yn barhaus.

    Mae arolygon yn awgrymu bod y bwlch rhwng gallu a sgiliau rhyngrwyd rhieni a'u plant yn lledu, gan adael nifer o rieni'n ansicr ynglŷn â'r hyn y mae eu plant yn ei wneud ar-lein a sut i'w haddysgu ynglŷn â defnydd mwy diogel a phriodol o dechnoleg. Gall ysgolion gefnogi rhieni a gofalwyr yn hyn o beth drwy gyfleu beth yw rheolau'r ysgol ar gyfer e-ddiogelwch a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag e-ddiogelwch ymysg rhieni drwy hyrwyddo polisïau, a chynnal cyflwyniadau a sesiynau penodol i rieni er mwyn amlygu pwysigrwydd y mater, gan hyrwyddo ffyrdd iddynt wneud technoleg y cartref yn fwy diogel.

    Cynghorion i helpu rhieni a gofalwyr • Annog rhieni i osod cyfrifiaduron mewn ystafelloedd teulu (yn hytrach nag ystafelloedd

    gwely'r plant) gyda chefn y cyfrifiadur yn erbyn y wal • Gosod meddalwedd monitro a hidlo er mwyn rhwystro mynediad at gynnwys amhriodol

    (gellir prynu'r mathau hyn o0 feddalwedd o unrhyw siop TG) • Defnyddio cyfeiriad e-bost teuluol, yn hytrach na bod gan blant eu cyfeiriadau e-bost

    preifat eu hunain • Trafod materion diogelwch personol ar y rhyngrwyd gyda'u plant – e.e. peidio rhannu

    gwybodaeth bersonol • Gwella'u sgiliau ar y rhyngrwyd – mae gan wefannau fel www.bbc.co.uk wybodaeth i

    helpu oedolion i ddeall y technolegau'n well

  • Holiadur i Rieni a Gofalwyr

    Rôl Rhieni a Gofalwyr

    Mae'r adnodd hwn yn cynnwys holiadur i rieni a gofalwyr (yn Atodiad 2) a fydd yn galluogi ysgolion i gael safbwyntiau a chanfyddiadau rhieni ynglŷn â'u defnydd eu hunain o'r rhyngrwyd a thechnolegau eraill, yn ogystal â'u canfyddiadau ynglŷn â'r modd y mae eu plant yn defnyddio'r rhyngrwyd. O'i ddefnyddio ar y cyd â'r holiadur i ddisgyblion (a geir yn adnoddau cynllun gwers 1), caiff ysgolion wybod am y defnydd amrywiol a wneir o dechnolegau gan blant a'u rhieni, ac yn galluogi rhieni i sicrhau eu bod yn gwybod yr hyn y mae eu plant yn ei wneud ar-lein. Bydd canlyniadau'r holiaduron hyn yn galluogi ysgolion i greu cynlluniau gwers a chynlluniau gwaith e-ddiogelwch, yn seiliedig ar y canlyniadau, yn ogystal â thargedu gwaith arall - cyflwyniadau codi ymwybyddiaeth i rieni, er enghraifft.

    Cymorth Pellach i Rieni Ar gais, gall CAB gynnal cyflwyniadau a sesiynau i rieni a gofalwyr ar e-ddiogelwch a seiber-fwlio, gan roi trosolwg o destunau, cynghorion ac argymhellion ar gyfer hyrwyddo e-ddiogelwch gartref, ac adnoddau i'w rhannu ymysg rhieni. Cysylltwch â CAB ar [email protected] neu ar (029) 2061 7632 am fwy o wybodaeth. Er mwyn rhoi'ch cyflwyniad eich hunan i rieni neu am fwy o wybodaeth ynglŷn â chefnogi rhieni a gofalwyr ym maes e-ddiogelwch, ewch i: www.childnet-int.org/kia www.kidsmart.org.uk www.thinkuknow.co.uk www.ceop.gov.uk

  • E-ddiogelwch ar gyfer Staff Er bod addysg a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag e-ddiogelwch ymysg disgyblion yn hanfodol, mae hi hefyd yn bwysig bod gan staff ymwybyddiaeth o e-ddiogelwch yn eu hystafell ddosbarth a'u man gwaith, gan gynnwys wrth ddefnyddio offer yr ysgol. Dylai staff fod yn ymwybodol o bolisïau ac arferion yr ysgol wrth ddefnyddio TGCh fel offeryn addysgu, ymchwilio a chynllunio, neu wrth gael mynediad at gynnwys preifat yn yr ysgol, e.e. e-bost. Mae angen i ysgolion fynegi canllawiau clir a phriodol i staff ysgolion, er enghraifft drwy amlinellu'r defnydd priodol o offer ysgol fel ffôn symudol, camerâu digidol a chyfrifiaduron yr ysgol, a goblygiadau mynediad gan staff at ddeunydd amhriodol neu anaddas yn yr ysgol neu ymddygiad anghyfreithlon drwy ddefnyddio offer yr ysgol. Mae polisi E-Ddiogelwch neu Ddefnydd Derbyniol o TGCh yn hanfodol i gyfleu'r negeseuon hyn i staff, ac i sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyson ymysg staff o dechnoleg newydd. Ceir canllawiau pellach ar lunio neu ddatblygu polisïau E-Ddiogelwch neu Ddefnydd Derbyniol yn Adran 6 yr adnodd hwn.

    Rolau a Chyfrifoldebau Staff Er bod e-ddiogelwch yn fater i'r ysgol gyfan, ceir rolau amrywiol i staff wrth gynorthwyo i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan. Dylai athrawon dosbarth ac arweinwyr pwnc ystyried goblygiadau e-ddiogelwch o fewn eu meysydd pwnc, neu ym mhob gwers lle defnyddir TGCh fel offeryn dysgu ac addysgu, yn ogystal â chanolbwyntio'n benodol ar ddiogelwch oddi mewn i TGCh neu ABCh fel cynllun gwaith. Dylai timau bugeiliol ac uwch reolwyr ystyried goblygiadau ymateb i les disgyblion yn dilyn digwyddiad o gamddefnyddio neu gam-drin TGCh, a'r fframwaith deddfwriaethol wrth ystyried e-ddiogelwch. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd sefydlu polisi clir a hygyrch ar gyfer E-Ddiogelwch neu Ddefnydd Derbyniol o TGCh. Rôl uwch-reolwyr neu'r Pennaeth hefyd yw cydlynu a chadw cofnodion o unrhyw gamddefnydd o TGCh neu gam-drin technoleg sy'n cael eu riportio i'r ysgol, a hysbysu asiantaethau perthnasol fel bo'n briodol, fel yr heddlu. Y Pennaeth sy'n gyfrifol yn gyffredinol am e-ddiogelwch a chadw amgylchedd TGCh diogel, ac felly dylent gydlynu, datblygu a hyrwyddo polisïau i gefnogi staff o ran datblygu, darparu ac ymwybyddiaeth o e-ddiogelwch. Dylai'r Pennaeth hefyd weithredu fel unigolyn cyswllt i'r Corff Llywodraethu drwy sicrhau yr hysbysir ac yr ymgynghorir â'r corff ynghylch newidiadau a datblygiadau i'r polisi a'r cwricwlwm. Mae'r Pennaeth, yr uwch reolwyr neu'r rheolwr rhwydwaith (os oes gan ysgol un) hefyd yn gyfrifol am gynnal offer TGCh, gan gynnwys defnydd diogel a chyfrifol ohonynt gan staff, gan sicrhau bod offer monitro a hidlo priodol wedi'u gosod ar gyfrifiaduron yr ysgol, a gweithdrefnau wedi'u sefydlu i ymateb os canfyddir defnydd neu gynnwys amhriodol ar offer yr ysgol.

  • Creu Polisi E-Ddiogelwch

    Anogir ysgolion i ddatblygu polisi e-ddiogelwch i amddiffyn disgyblion a staff, ac i sicrhau y codir ac yr ystyrir materion diogelwch sy'n gysylltiedig â'r defnydd o dechnoleg gan holl gymuned yr ysgol. Yn ôl adroddiad y Gweithgor Strategaeth TGCh Ysgolion i Lywodraeth Cynulliad Cymru, ‘Gweddnewid Ysgolion gyda TGCh’ mae gan "ysgolion ran glir i'w chwarae wrth addysgu a hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o'r Rhyngrwyd." Pwrpas polisi e-ddiogelwch yw ystyried defnydd diogel o'r rhyngrwyd ac o dechnolegau eraill o fewn amgylchedd yr ysgol. Dylai'r polisi sefydlu rheolau a defnydd derbyniol yr ysgol o dechnoleg, sut y bydd yr ysgol yn amddiffyn plant rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio technoleg, a rôl y rhyngrwyd a thechnolegau eraill wrth ddysgu ac addysgu, gan gynnwys sut y bydd plant yn cael eu haddysgu'n benodol ynghylch e-ddiogelwch. Gall polisïau e-ddiogelwch gynnwys neu gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r polisi Defnydd Derbyniol o TGCh, a dylai gyflenwi polisïau eraill yr ysgol, fel y Polisi Amddiffyn Plant, y Polisi Ymddygiad a'r Polisi Gwrth-fwlio, a chael ei weithredu ar y cyd â'r polisïau hynny. Dylid adolygu a diweddaru polisi e-ddiogelwch yn rheolaidd – o leiaf unwaith bob blwyddyn – er mwyn adlewyrchu newidiadau a datblygiadau ym myd technoleg.

    Canllawiau ar gyfer Creu Polisi E-Ddiogelwch Ystyriwch bwysigrwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o'r rhyngrwyd a thechnolegau eraill gan ddisgyblion a staff fel ei gilydd. Efallai y bydd ysgolion am ddarparu cydlynydd e-ddiogelwch i reoli gweithrediad y polisi a monitro e-ddiogelwch drwy'r holl ysgol. Gallai'r Pennaeth, aelod o'r uwch dîm arwain, cydlynydd TGCh, cydlynydd amddiffyn plant neu reolwr rhwydwaith ymgymryd â'r rôl honno. Efallai y bydd ysgolion hefyd am benodi gweithgor i ddatblygu'r polisi e-ddiogelwch, ac i ymgynghori â disgyblion (yn dibynnu ar eu hoedran), rhieni a gofalwyr, a chael eu safbwyntiau wrth greu'r polisi. Dylid hyrwyddo'r polisi ymysg yr holl staff drwy'r ysgol, yn ogystal â rhieni a gofalwyr, a dylai gael ei gymeradwyo gan lywodraethwyr yr ysgol. Canllawiau ar gyfer creu polisi e-ddiogelwch ar gyfer ysgol yw'r pwyntiau canlynol, a dylai pob ysgol unigol eu hystyried i weld a ydynt yn addas neu'n berthnasol.

  • Cynnwys Polisi E-Ddiogelwch

    Diffiniad o e-ddiogelwch Dylid nodi ystyr e-ddiogelwch yn glir yn y polisi, a pham ei fod yn bwysig i'r ysgol ei ystyried. Dylai'r diffiniad ystyried y lefelau amrywiol o gymhwysedd ac o ymwybyddiaeth ymysg staff o dechnolegau newydd, felly ni ddylid defnyddio unrhyw fyrfoddau yn y polisi heb gynnwys eglurhad clir, e.e. cyfeirio at 'instant messenging' fel IM.

    Pwrpas y polisi Amlinelliad cryno o bwrpas y polisi e-ddiogelwch – dylai hyn gynnwys addysgu, amddiffyn a chodi ymwybyddiaeth ymysg staff, yn ogystal â disgyblion.

    Cyfeirio at bolisïau eraill Dylai'r polisi e-ddiogelwch gyfeirio at bolisïau eraill a bod yn berthnasol iddynt, gan gynnwys y polisi amddiffyn plant a'r polisi gwrth-fwlio. Dylai ysgolion sicrhau bod cynnwys y polisïau hyn yn gyson, er enghraifft, bod cosbau am gamddefnyddio technoleg yn briodol ac yn gyson â chosbau am ymddygiad drwg o fath arall.

    Rôl technoleg o fewn yr ysgol Dylai'r polisi roi amlinelliad o'r mathau o dechnoleg a ddefnyddir yn yr ysgol, a defnydd derbyniol o'r dechnoleg honno, ar gyfer staff a disgyblion. Dylid ystyried sut mae'r rhyngrwyd ac offer eraill yn berthnasol i ddysgu ac addysgu, a sut y bydd staff yn rheoli hyn. Dylid amlinellu canllawiau i staff ar ddefnyddio'r rhyngrwyd a thechnolegau eraill y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth (fel ffonau symudol a chamerâu digidol yr ysgol) yn y polisi e-ddiogelwch.

    Sut yr addysgir e-ddiogelwch Dylai'r polisi amlinellu sut a pham y bydd e-ddiogelwch yn cael ei addysgu i ddisgyblion, gan roi ystyriaeth i addasrwydd yr addysg e-ddiogelwch o ran oedran. Dylai'r polisi amlinellu pwy fydd yn cydlynu'r cynlluniau gwaith ar gyfer addysgu e-ddiogelwch - efallai mai'r cydlynydd e-ddiogelwch fydd yn gwneud hyn, os bydd ysgol yn penodi un.

    DEFNYDD O'R RHYNGRWYD YMYSG POBL IFANC YN EU HARDDEGAU Mae mwy na chwarter (27%) o blant yn eu harddegau'n defnyddio gwasanaethau blogio (dyddiaduron ar-lein) unwaith yr wythnos neu'n amlach, ac mae un o bob 10 yn ymweld â blogiau bob dydd.

  • Rheoli mynediad at y rhyngrwyd ac at dechnoleg Dylai'r polisi gynnwys canllawiau ynglŷn â'r modd y bydd yr ysgol yn bwriadu rheoli diogelwch disgyblion a staff wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg. Dylid rhoi pennawd ar wahân ar gyfer pob agwedd ar dechnoleg, e.e. y rhyngrwyd, e-bost, gwefan yr ysgol, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol ac ati. Dylai'r polisi gyfeirio at hidlo a monitro'r feddalwedd sydd yn ei lle, ond dylai hefyd annog y darllenwr i farnu ohono'i hun wrth ddefnyddio'r dechnoleg. Dylid amlinellu'r rheolau ar gyfer defnyddio'r dechnoleg yn yr adran hon, e.e. E-bost - Ni chaiff disgyblion ond defnyddio cyfrifon e-bost ar system yr ysgol.

    Camddefnyddio technoleg Gan greu cysylltiadau â pholisïau ymddygiad a gwrth-fwlio, dylai'r polisi e-ddiogelwch gyfeirio at y cosbau i ddisgyblion sy'n camddefnyddio technoleg neu'n torri rheolau'r ysgol mewn perthynas ag e-ddiogelwch. Dylai cosbau fod yn gyson â chosbau eraill am ymddygiad gwael, er enghraifft dylai disgybl sy'n defnyddio e-bost neu negeseua chwim i fwlio gael ei ddisgyblu'n unol â'r polisi gwrth-fwlio.

    Cwynion ynghylch e-ddiogelwch Dylai'r polisi amlinellu sut yr ymdrinnir â chwynion ac adroddiadau am ymddygiad anniogel neu beryglus fel canllaw i staff - e.e. disgyblion sy'n cael mynediad at gynnwys amhriodol yn ddiarwybod. Dylid creu cysylltiadau hefyd â gweithdrefnau amddiffyn plant, os bydd e-ddiogelwch yn fater amddiffyn plant. Dylai disgyblion gael gwybod sut a phwy i'w hysbysu am gamddefnyddio technoleg a seiber-fwlio. Gall pobl ifanc hefyd roi gwybod am gam-drin ar-lein, gan gynnwys seiber-fwlio, drwy wasanaeth y Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yn www.ceop.gov.uk

    Cyflwyno'r polisi Dylai'r polisi amlinellu sut y bydd yn cael ei gyfathrebu i staff a rhieni, a sut y bydd y cynnwys perthnasol yn cael ei gyfathrebu i'r disgyblion.

    Rolau a chyfrifoldebau staff Dylid amlinellu cyfrifoldebau'r holl staff yn glir, gan gynnwys cyfrifoldeb staff i beidio â chamddefnyddio technoleg. Efallai y bydd ysgolion am gynnwys cod ymddygiad TGCh ar gyfer staff i sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb proffesiynol wrth ddefnyddio TGCh i addysgu ac i gyfathrebu â disgyblion.

    Cynnwys Polisi E-Ddiogelwch

  • Cyfrifoldebau rhieni a gofalwyr Dylai ysgolion ystyried sut maent yn bwriadu hysbysu rhieni ynglŷn â chynnwys y polisi e-ddiogelwch ac a ydynt am gael caniatâd rhieni i ddisgyblion gael mynediad i'r rhyngrwyd yn yr ysgol. Dylid hysbysu'r rhieni hefyd ynglŷn â rheolau'r ysgol ar gyfer defnyddio'r rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg, a'u hannog i gyfathrebu'r rheolau hyn i'r plant wrth iddynt ddefnyddio'r rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg y tu mewn a thu allan i'r ysgol. Dylai polisïau hefyd amlinellu cyfrifoldebau rhieni a gofalwyr wrth gefnogi neges ysgolion ynghylch e-ddiogelwch. O ystyried pwysigrwydd cefnogaeth rhieni tuag at e-ddiogelwch a'u dealltwriaeth ohono, efallai y bydd ysgolion yn dymuno cyflwyno'r cysyniad o e-ddiogelwch i rieni a gofalwyr mewn cyflwyniad neu noson rieni.

    Cynnwys Polisi E-Ddiogelwch

    Monitro, gwerthuso ac adolygu Dylai'r polisi gyfeirio at sut a phryd y bydd yn cael ei fonitro, a chan bwy, a nodi dyddiad i'w adolygu.

  • Sut mae E-Ddiogelwch yn Berthnasol i Gwricwlwm 2008 Wrth i'r baich ar ysgolion o ddarparu addysg drwy ddefnyddio TGCh yn ddiogel gynyddu, mae'r CAB a'r Gwasanaeth Cynghori TG yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwersi e-ddiogelwch penodol ar gyfer disgyblion yng nghyfnodau allweddol un a dau, ac wedi creu cyfres o gynlluniau gwersi ac adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm TGCh, ABCh a Dinasyddiaeth. Yn y cwricwlwm TGCh newydd ar gyfer 2008 canolbwyntir erbyn hyn ar addysgu diogelwch TGCh ac ar addysgu disgyblion ynglŷn â'r peryglon a'r risgiau wrth ddefnyddio technoleg. Yn Atodiad 3 ceir crynodeb byr o'r cwricwlwm TGCh ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae'r cynlluniau gwers a'r adnoddau e-ddiogelwch yn cydymffurfio â Rhaglen Astudio 2008. Dyma'r prif bethau y bydd disgyblion yn eu dysgu:

    • Defnyddio offer TGCh a gwybodaeth addas yn ddiogel a chyfreithlon

    • Defnyddio ystod o adnoddau ac offer TGCh yn annibynnol ac ar y cyd

    • Dod yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd mewn TGCh ac ystyried y materion cymdeithasol, economaidd, moesegol a moesol sy'n codi yn sgil effaith TGCh a'r defnydd ohono.

    Bydd y cynllun gwaith yn canolbwyntio ar ganllawiau iechyd, diogelwch ac amddiffyn plant oddi mewn i'r rhaglen astudio, ac yn ystyried:

    • Sut a pham rydym yn defnyddio technoleg newydd i gyfathrebu

    • Risgiau a manteision technoleg newydd • Defnyddio ac ymddiried mewn cynnwys

    ar-lein • Diogelwch personol wrth ddefnyddio

    technoleg newydd • Ymddygiad anghyfrifol ac anniogel • Seiber-fwlio • Sut i ddefnyddio offer mewn modd

    diogel

  • E-Ddiogelwch a'r Fframwaith Cyfreithiol Mae a wnelo e-ddiogelwch hefyd â sicrhau bod disgyblion a staff yn gwneud defnydd cyfreithlon o'r rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg, gan fod cyfreithiau sifil a throsedd bellach yn rheoli nifer o agweddau ar ddefnydd a chamdriniaeth o'r rhyngrwyd ac o fathau eraill o dechnoleg. Dylid hysbysu disgyblion a staff ynglŷn â pha weithgareddau y gellid eu barnu'n droseddau a sut a phryd y dylid rhoi gwybod am weithred, cynnwys neu gyswllt amhriodol neu anghyfreithlon. Mae'r cyfreithiau canlynol yn berthnasol i addysgu a hyrwyddo e-ddiogelwch, ond nid rhestr gynhwysol mohonynt. Mae effaith a natur newidiol y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg yn awgrymu y gallai'r gyfraith gael ei newid, felly dylai gweithwyr proffesiynol gael gwybodaeth yn rheolaidd a defnyddio'u doethineb wrth ymdrin ag e-ddiogelwch.

    • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990

    (Gan gynnwys hacio, ymosodiadau gwrthod gwasanaeth, cael mynediad at ffeiliau neu feddalwedd heb ganiatâd). • Deddf Cyfathrebu 2003 (adran 127) (Anfon neges neu ddeunydd arall sy'n hynod dramgwyddus neu o natur anweddus, anllad neu fygythiol, er enghraifft drwy'r rhyngrwyd neu ffôn symudol) • Deddf Troseddau Rhyw 2003 (gan gynnwys paratoi dioddefwr)

    • Deddf Diogelu Data 1998 (Mewn perthynas â thrin gwybodaeth bersonol) • Deddf Cyfathrebu Maleisus 1998 (gan gynnwys aflonyddu, bwlio a seiberstelcio) • Deddf Cyhoeddiadau Anllad 1959 a

    1964 (Gan gynnwys deunydd anghyfreithlon ar y we neu a drosglwyddir drwy'r we, a chyfathrebiadau electronig) • Deddf Telathrebu 1984 (Gan gynnwys deunydd anghyfreithlon ar y we neu a drosglwyddir drwy'r we, a chyfathrebiadau electronig) Ceir mwy o wybodaeth a manylion pellach ynglŷn â'r Deddfau hyn yn www.opsi.gov.uk/acts

  • DEFNYDD O'R RHYNGRWYD YMYSG POBL IFANC YN EU HARDDEGAU Yn 2006 lluniodd MSN (MSN.co.uk) adroddiad ar seiber-fwlio, yn seiliedig ar astudiaeth YouGOv o 518 o blant a'u rhieni. Canfu'r adroddiad: Yng Nghymru:

    • Fod chwarter (25%) o bobl ifanc yn gwybod rhywun sydd wedi cael ei seiber-fwlio

    • Fod 13% wedi profi seiber-fwlio eu hunain

    • Fod 42% wedi dioddef seiber-fwlio am wythnos neu'n hirach

    • Fod bron deuparth ohonynt (64%) wedi cael eu seiber-fwlio gan fwy nag un unigolyn arall FFYNHONNELL: MSN Cyber bullying report 06

    Seiber-fwlio Canolbwyntio ar seiber-fwlio mewn e-ddiogelwch Seiber-fwlio yw defnyddio technoleg (yn enwedig ffonau symudol a'r rhyngrwyd) i ddiraddio, brifo neu aflonyddu ar rywun yn fwriadol. Yn debyg i ffurfiau traddodiadol o fwlio, gall seiber-fwlio fod yn fwriadol ac yn ailadroddus, a gall anghydbwysedd grym ei gwneud hi'n anodd i ddioddefwr ei amddiffyn ei hun neu ofyn am gymorth. Gall seiber-fwlio ddigwydd mewn 7 prif ffordd: • Drwy e-bost • Galwad ar ffôn symudol • Neges-destun • Negesydd Chwim (IM), e.e. MSN • Ystafelloedd sgwrsio ar-lein • Gwefannau rhwydweithio cymdeithasol,

    e.e. Bebo, MySpace, Facebook • Negeseuon llun / fideo Bydd y bwli'n defnyddio'r ffurfiau hyn o dechnoleg i fwlio, er enghraifft drwy bostio sylwadau cas ar broffil rhywun ar wefan rhwydweithio cymdeithasol Gall seiber-fwlio fod ar amryw o ffurfiau, er enghraifft: • Bygwth neu frawychu

    Anfon bygythiadau at bobl dros ffôn symudol, drwy e-bost neu ar-lein ac ati

    • Aflonyddu neu stelcio Monitro neu gysylltu ag unigolyn arall yn ddigroeso, a hynny droeon a thros gyfnod hir.

    • Bwlio'n seiliedig ar ddifrïo / difenwi / ragfarnu Gallai hyn fod yn wadio cyffredinol neu'n fwlio hiliol, homoffobig neu rywiaethol.

    • Anwybyddu / gwrthod gan gyfoedion / eithrio Sefyllfa lle mae grŵp caeedig yn gwrthod cydnabod un defnyddiwr yn fwriadol.

    • Dwyn hunaniaeth, mynediad anawdurdodedig a chymryd arnoch fod yn rhywun arall ‘Hacio’ drwy ganfod beth yw enw defnyddiwr a chyfrinair, neu eu dyfalu.

    • Drwy bostio'n gyhoeddus, anfon neu drosglwyddo gwybodaeth neu ddelweddau Datgelu gwybodaeth ar wefan.

    • Manipiwleiddio Gallai olygu gwneud i bobl siarad neu ymddwyn mewn modd herfeiddiol.

  • Seiber-fwlio Gall seiber-fwlio fod yn estyniad o fwlio wyneb yn wyneb, lle mae'r cyflawnwr yn defnyddio'r dechnoleg fel dull ychwanegol o gynhyrfu neu aflonyddu ar y dioddefwr; fodd bynnag, mae seiber-fwlio yn wahanol i ffurfiau mwy traddodiadol o fwlio mewn amryw o ffyrdd: • cyswllt 24/7 – gall ffurfiau traddodiadol

    o fwlio fod wedi'u cyfyngu i iard yr ysgol neu'r ystafell ddosbarth. Potensial seiber-fwlio yw y gall ymwthio'n barhaus i gartref neu ofod personol yr unigolyn.

    • Effaith– mae potensial i seiber-fwlio

    gael effaith llawer ehangach a llawer mwy – gyda'r potensial i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang yn gyflym, a'r posibilrwydd y gallai'r cynnwys aros ar-lein am byth.

    • Canfyddiad o anhysbysrwydd – gall

    offer technolegol fel y rhyngrwyd a negeseuon testun greu canfyddiad o anhysbysrwydd a allai annog unigolyn ifanc i ymddwyn yn wahanol i'r ffordd y byddai'n ymddwyn fel arfer. Ceir llai o ofn ynglŷn â chael eich dal, a gall hynny achosi i'r bwlio fod yn fwy ciaidd a ffyrnig.

    • Proffil bwli/dioddefwr – mae seiber-

    fwlio'n newid proffil y 'bwli' traddodiadol – gall anhysbysrwydd olygu bod unrhyw un o unrhyw oed, rhyw a maint yn teimlo'i fod yn gallu bwlio rhywun arall.

    • Effaith gwylwyr – gall eraill gyfrannu'n anfwriadol tuag at seiber-fwlio a chynyddu 'effaith gwylwyr’, er enghraifft drwy anfon neges neu ddelwedd waradwyddus ymlaen.

    • Tystiolaeth – yn wahanol i nifer o

    ffurfiau traddodiadol o fwlio, mae seiber-fwlio'n cynnig tystiolaeth gynhenid, ar ffurf cynnwys negeseuon, negeseuon e-bost, delweddau ac ati.

    Goblygiadau cyfreithiol Tra bo dyletswydd gofal ar ysgolion i ddiogelu disgyblion rhag cael eu bwlio, ceir gofynion cyfreithiol ychwanegol sy'n effeithio ar atal ac ymateb i seiber-fwlio. Yn ôl Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (DAA 2006) mae gan Benaethiaid 'i raddau rhesymol' rym i reoli ymddygiad disgyblion pan na fyddant ar safle'r ysgol. Bydd llawer iawn o seiber-fwlio'n digwydd y tu hwnt i giât yr ysgol, ond mae'n effeithio ar les, gallu academaidd ac ymddygiad disgyblion tra bônt yn yr ysgol. Er nad yw seiber-fwlio'n drosedd, gallai nifer o gyfreithiau a allai fod yn berthnasol, yn enwedig os ceir aflonyddwch neu ymddygiad bygythiol: • Deddf Amddiffyn rhag Aflonyddwch 1997 • Deddf Cyfathrebu 2003 • Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988 • Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 • Deddf Cyhoeddiadau Anllad 1959 Gan fod seiber-fwlio'n gallu ymddangos fel gweithred ddienw, mae'n bwysig hysbysu disgyblion ynghylch canlyniadau a goblygiadau cyfreithiol ymddygiad o'r fath.

  • DEFNYDD O'R RHYNGRWYD YMYSG POBL IFANC YN EU HARDDEGAU Mae merched:

    • Ddwywaith yn fwy tebygol o adnabod rhywun neu amryw o bobl sydd wedi cael eu seiber-fwlio – dros draean (34%) o'i gymharu ag un o bob chwech ymysg bechgyn (17%)

    • Yn fwy tebygol na bechgyn o fod wedi dioddef seiber-fwlio eu hunain (18%)

    • Yn fwy tebygol na bechgyn o feddwl bod seiber-fwlio'n waeth na bwlio corfforol (14%) FFYNHONNELL: MSN Cyber bullying report 06

    Seiber-fwlio Atal Seiber-fwlio Mae cysylltiad clir rhwng seiber-fwlio ac addysg e-ddiogelwch, gan fod pwysigrwydd addysgu pobl ifanc ynghylch hawliau, cyfrifoldebau a hunanreolaeth wrth ddefnyddio technoleg hefyd yn cynnwys cydnabod y modd y defnyddir y dechnoleg mewn perthynas ag eraill. Dylai addysgu disgyblion i ddeall ystyr seiber-fwlio, ei effaith a'r modd y dylid ymateb iddo, fod wedi'i ymwreiddio yn y cwricwlwm e-ddiogelwch ehangach. Mae technoleg fel ffonau symudol a'r rhyngrwyd yn rhan enfawr o fywydau pobl ifanc, ac er bod modd cyfyngu ar y defnydd ohonynt yn yr ysgol, mae'n bwysig cydnabod bod nifer o blant a phobl ifanc yn cael rhyddid llwyr i ddefnyddio'r technolegau hyn fel y mynnent, ac yn aml heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl, y tu allan i'r ysgol. Felly mae'n hanfodol ein bod yn addysgu ac yn rhoi gwybod i ddisgyblion sut i ddefnyddio technoleg mewn modd cyfrifol. Gellir atal seiber-fwlio mewn amryw o ffyrdd: • Polisi: Dylai polisi gwrth-fwlio'r ysgol

    gyfeirio at seiber-fwlio fel ffurf gynnil ar fwlio, gan roi diffiniad ohono a chydnabod sut y bydd yr ysgol yn ymateb iddo. Dylai polisi Defnydd Derbyniol o TGCh ac/neu bolisi E-Ddiogelwch yr ysgol hefyd gyfeirio at seiber-fwlio.

    • Codi Ymwybyddiaeth: gan gynnwys drwy

    wersi penodol ar e-ddiogelwch gyda disgyblion, dylid ystyried codi

    ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o seiber-fwlio, gan gynnwys galluogi disgyblion i ddeall sut i ymateb yn effeithiol i achosion o seiber-fwlio, a chydnabod defnydd cadarnhaol a diogel o dechnoleg.

    • Codi Ymwybyddiaeth ymysg Rhieni:

    gan y bydd seiber-fwlio'n aml yn digwydd y tu allan i'r ysgol, mae'n bwysig hysbysu rhieni a gofalwyr ynghylch ystyr seiber-fwlio, sut y gellir ei atal gartref, a sut y gallant ymateb i ddigwyddiadau.

  • Seiber-fwlio Ymateb i Seiber-fwlio Dylai'r ysgol ymdrin ag achosion o seiber-fwlio yn yr un modd ag unrhyw fath arall o fwlio, gan gofnodi ac ymchwilio i ddigwyddiadau, cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr a chosbi cyflawnwyr yn unol â pholisïau ymddygiad a gwrth-fwlio yr ysgol. Dylid annog disgybl sydd wedi dioddef seiber-fwlio i beidio ag ymateb i negeseuon neu sylwadau a wneir, a chymryd camau i atal bwlis o restrau cysylltiadau (e.e. ar restr eu gwefan rhwydweithio cymdeithasol neu eu cysylltiadau negeseua chwim), newid cyfrineiriau neu eu rhif ffôn symudol a chadw unrhyw gynnwys fel tystiolaeth. Yn ogystal â hyn, dylid darparu dulliau i ddisgyblion roi gwybod am seiber-fwlio, er enghraifft rhifau cyswllt Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd neu ddarparwyr ffonau symudol, y mae llawer ohonynt bellach yn cyflogi timau sy'n ymdrin yn benodol â galwadau maleisus. Dylid hefyd hysbysu disgyblion a'u teuluoedd os yw'n bosibl y gallai digwyddiad fod yn fater i'r heddlu. Dylai ysgolion hefyd fod yn ymwybodol y gall staff hefyd ddioddef seiber-fwlio, a dylid adlewyrchu hyn oddi mewn i bolisïau gwrth-fwlio a pholisïau eraill tebyg. Dylid addysgu staff ynglŷn â'r hyn yw seiber-fwlio, a sut y gallant ymateb iddo.

    Canllawiau Pellach Ceir nifer o adnoddau defnyddiol i gefnogi ysgolion wrth ymdrin â seiber-fwlio. Mae'r DCSF wedi cynhyrchu canllaw sy'n dwyn y teitl, 'Safe to Learn: Embedding Anti-Bullying Work in Schools’, y gellir cael mynediad ato yn www.teachernet.gov.uk/publications Ar gais, gall CAB hefyd roi cefnogaeth uniongyrchol i ysgolion a gwasanaethau eraill ym maes seiber-fwlio.

    Seiber-fwlio a Chynlluniau Gwers Mae'r cynllun gwaith e-ddiogelwch a gynhyrchwyd gan CAB a'r Gwasanaeth Cynghori TG yn mynd i'r afael â seiber-fwlio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3, gan gydnabod achosion o seiber-fwlio a chamddefnyddio technoleg sydd wedi digwydd ymysg plant mor ifanc â 7 neu 8 oed. Nod y cynlluniau gwersi a'r adnoddau yw cynnig cyfleoedd i amlygu risgiau yn ogystal â manteision y dechnoleg ac annog defnydd mwy diogel a chyfrifol ohoni.

    FFEITHIAU AM SEIBER-FWLIO

    • Mae 1 o bob 20 o bobl ifanc yn eu harddegau'n cyfaddef eu bod wedi cymryd rhan yn y weithred o fwlio rhywun arall ar-lein. FFYNHONNELL: MSN Cyber bullying report 06

  • Atodiad Teitl

    1 Llythyr enghreifftiol i rieni a gofalwyr 2 Holiadur i Rieni a Gofalwyr

    3 Cwricwlwm TGCh 2008 4 Cynlluniau Gwers ac Adnoddau E-ddiogelwch 5 Llyfryddiaeth

    Atodiadau

  • Annwyl Riant / Ofalwr, 20 Medi 2010 Ynglŷn â Pholisi E-ddiogelwch Ysgol Gynradd xxxx Yn ddiweddar, lluniodd Ysgol Gynradd xxxx bolisi e-ddiogelwch ar gyfer staff, disgyblion a rhieni. Rydym yn cydnabod y gall y rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg fod yn offerynnau dysgu ac addysgu sy'n ychwanegu at y cwricwlwm ac yn gwella sgiliau disgyblion, ond mae risgiau cydnabyddedig yn gysylltiedig â bod ar-lein a defnyddio mathau eraill o dechnoleg, fel ffonau symudol. Gan hynny, bydd Ysgol Gynradd xxxx yn addysgu e-ddiogelwch i ddisgyblion yn rhan o'r cwricwlwm TGCh ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Yn y gwersi hyn, canolbwyntir ar roi sgiliau i blant a sicrhau eu bod yn deall sut i fod yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys: • Risgiau a manteision technoleg • Sefydlu barn briodol ynglŷn â chynnwys ar-lein • Diogelwch personol ar-lein • Defnyddio offer mewn modd diogel a bod yn gyfrifol ar-lein Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i'ch hysbysu ynglŷn â rheolau'r ysgol ar gyfer defnydd diogel o'r rhyngrwyd ac o dechnoleg. Mae copi o'r rheolau hyn wedi'i amgáu gyda'r llythyr hwn. Gellir cael copi o'n polisi e-ddiogelwch newydd ar gais o swyddfa'r ysgol. Yn ddiffuant, Enw Pennaeth ………………………………………………………………………………………………………………………………………

    Caniatâd i gael mynediad i'r rhyngrwyd Caniatâd Rhiant / Gofalwr

    Rwyf wedi darllen a deall rheolau e-ddiogelwch yr ysgol ac yn rhoi caniatâd i'm plentyn gael mynediad i'r Rhyngrwyd. Rwy'n deall y bydd yr ysgol yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau na all disgyblion gael mynediad at ddeunydd amhriodol, ond rwy'n deall bod hyn yn dasg anodd.

    Llofnod: __________________________

    Printiwch eich enw: ________________

    Dyddiad: __________________________

    Cytundeb Disgybl

    Rwy'n cytuno i gadw at y rheolau e-ddiogelwch

    Llofnod: __________________________

    Printiwch eich enw: ________________

    Dosbarth: _________________________

    Atodiad 1: Llythyr enghreifftiol i rieni a gofalwyr

  • Atodiad 2: Holiadur i Rieni a Gofalwyr

    Holiadur E-Ddiogelwch i Rieni / Gofalwyr

    Llenwch yr wybodaeth ganlynol drwy roi tic yn y bly chau priodol. Diolch.

    1.) A oes gan eich plentyn y canlynol: (ticiwch gynifer o'r opsiynau ag y dymunwch)

    Ffôn symudol

    Cyfrifiadur gartref

    Cyfrifiadur glin Consol gemau

    Chwaraeydd cerddoriaeth MP3

    2.) Sut mae eich plentyn yn cael mynediad i’r rhyngrwyd? (ticiwch gynifer o'r opsiynau ag y dymunwch)

    Yn yr ysgol Cyfrifiadur gartref

    Ffôn symudol

    Drwy'r Teledu

    Drwy gonsol gemau

    3.) Os oes gennych gyfrifiadur gartref, ble mae eich plentyn yn ei ddefnyddio?

    Yn ei ystafell wely

    Mewn ystafell deulu

    Mewn swyddfa gartref

    Symudol - e.e. cyfrifiadur glin

    Arall

    4.) Pa mor aml fydd eich plentyn yn defnyddio'r rhyngrwyd?

    Bob dydd Fwy nag unwaith yr wythnos

    Unwaith yr wythnos

    Unwaith y mis

    Lai nag unwaith y mis

    5.) Os yw eich plentyn yn ei ddefnyddio bob dydd, am faint o oriau y bydd yn ei ddefnyddio? Llai nag 1 awr y dydd

    1 – 2 awr

    2 – 3 awr

    3 – 4 awr

    Mwy na 4 awr y dydd

    6.) Beth mae eich plentyn yn hoffi ei wneud fwyaf ar-lein? (ticiwch gynifer o'r opsiynau ag y dymunwch) Ystafelloedd Sgwrsio

    Blogiau (dyddiadur ar-lein)

    Cerddoriaeth (e.e. iTunes)

    Newyddion

    Negesydd Chwim (MSN, Yahoo)

    Chwarae Gemau

    Rhannu ffeiliau (e.e. LimeWire)

    Teledu'r Rhyngrwyd

    Rhwydweithio Cymdeithasol (Bebo, Myspace)

    Pori'r We

    Siopa

    Arall (nodwch) …………………………….

    Nifer o blant.................. Bachgen

    Oedran(nau):…………… Merch

  • 7.) Pa mor aml fyddwch chi'n defnyddio'r rhyngrwyd?

    Bob dydd Fwy nag unwaith yr wythnos

    Unwaith yr wythnos

    Unwaith y mis

    Lai nag unwaith y mis

    8.) Beth fyddwch chi'n hoffi ei wneud fwyaf ar-lein? (ticiwch gynifer o'r opsiynau ag y dymunwch) Ystafelloedd Sgwrsio

    Blogiau (dyddiadur ar-lein)

    Cerddoriaeth (e.e. iTunes)

    Newyddion

    Negesydd Chwim (MSN, Yahoo)

    Chwarae Gemau

    Rhannu ffeiliau (e.e. Limewire)

    Teledu'r Rhyngrwyd

    Rhwydweithio Cymdeithasol (Bebo, Myspace)

    Pori'r We

    Siopa

    E-bost

    9.) A yw'ch plentyn yn defnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Bebo a Myspace? Ydy

    Nac ydy

    Ddim yn gwybod

    10.) Os oes gennych gyfrifiadur neu gyfrifiadur glin gartref, a oes unrhyw feddalwedd hidlo ac/neu fonitro arno ? (e.e. meddalwedd sy'n atal plant rhag cael mynediad at wefannau neu gynnwys penodol) Oes

    Nac oes

    Ddim yn gwybod

    11.) Sut fyddech chi'n disgrifio'ch sgiliau ar-lein?

    Dim sgiliau o gwbl

    Dechreuwr Arferol Cymwys Arbenigol

    12.) A yw eich plant erioed wedi derbyn unrhyw neges-destun neu e-bost digroeso? Do

    Naddo

    Ddim yn gwybod

  • 13.) A yw eich plentyn erioed wedi cael mynediad at gynnwys amhriodol ar-lein, e.e. cynnwys i oedolion? Do

    Naddo

    Ddim yn gwybod

    14.) A yw eich plentyn erioed wedi cynnig gwybodaeth bersonol ar-lein? (e.e. cyfeiriad, rhif ffôn) Do

    Naddo

    Ddim yn gwybod

    15.) A yw eich plentyn erioed wedi dioddef seiber-fwlio?(lle defnyddir technoleg fel negeseuon-testun, e-bost neu wefannau i fwlio) Do

    Naddo

    Ddim yn gwybod

    16.) Pa mor bryderus ydych chi ynglŷn â diogelwch eich plentyn ar-lein ac wrth ddefnyddio technoleg fel ffonau symudol?

    Pryderus iawn

    Ychydig yn bryderus

    Ddim yn bryderus o gwbl

    17.) A hoffech chi gael mwy o gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth ynglŷn ag e-ddiogelwch? Hoffwn

    Dim diolch

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio (CAB) [email protected]

    Diolch am lenwi'r holiadur hwn. Bydd eich atebion yn galluogi CAB ac ysgol eich pl entyn i addysgu plant ynghylch sut i

    ddefnyddio'r rhyngrwyd a mathau eraill o dechnoleg yn ddiogel, a rhoi cefnogaeth well i rieni a gofalwyr.

    Ar ôl ei gwblhau, anfonwch yr holiadur yn ôl i ysgo l eich plentyn.

  • Atodiad 3: Cwricwlwm TGCh Cyfnod Allweddol 2

  • Gellir gweld y cwricwlwm TGCh llawn yn www.cymru.gov.uk

  • Cynlluniau Gwers Cyfnod Allweddol 2 Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cynlluniau gwers ac adnoddau e-ddiogelwch ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae'r gwersi'n archwilio agweddau allweddol ar e-ddiogelwch, gan gynnwys sut a pham rydym yn cyfathrebu, dulliau cyfathrebu, rhannu gwybodaeth drwy ddefnyddio technoleg newydd, ymddiried mewn gwybodaeth ar-lein, cadw gwybodaeth bersonol yn breifat a seiber-fwlio. Mae'r cynlluniau gwersi'n cynnwys yr holl adnoddau a'r wybodaeth atodol angenrheidiol, a gellir eu defnyddio yn eu cyfanrwydd fel cynllun gwaith, neu eu haddasu fel bo'r angen i ddiwallu anghenion eich disgyblion. Mae pob cynllun yn adeiladu ar y wers flaenorol, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion, ond gellir defnyddio pob gwers yn unigol. Dyma nod pob gwers: 1. Sut a pham rydym yn cyfathrebu 2. Cadw gwybodaeth bersonol yn breifat 3. Aros yn ddiogel ar-lein 4. Ymddiried mewn cynnwys 5. Sgwrsio'n ddiogel ar-lein 6. Seiber-fwlio

    Atodiad 4: Cynlluniau Gwersi ac Adnoddau E-Ddiogelwch Cyfnod Allweddol 2

    Ceir nifer o gynlluniau gwersi ac adnoddau ychwanegol i gyflenwi ac adeiladu ar y cynllun gwaith hwn. Mae'r Ganolfan CEOP (y Ganolfan Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein) wedi creu gwefan sy'n dda am gynnig adnoddau i athrawon, sydd i'w chael yn www.thinkuknow.co.uk Mae'r wefan hefyd yn cynnwys gwasanaethau, ffilmiau a holiaduron a gallwch archebu adnoddau am ddim hefyd i'w hanfon i'ch ysgol, fel taflenni i ddisgyblion a phosteri a thaflenni i rieni/gofalwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg. Er bo modd cynnal pob gwers yn unigol, yn rhan o godi ymwybyddiaeth yn ystod yr Wythnos Gwrth-fwlio er enghraifft, mae CAB a'r Gwasanaeth Cynghori TG yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i roi pwyslais ar e-ddiogelwch drwy gydol y flwyddyn ysgol a datblygu neu ddychwelyd i gynllun gwaith o'r naill flwyddyn i'r llall, yn ogystal â thrafod e-ddiogelwch mewn gwasanaethau rheolaidd, drwy sesiynau amser cylch, wrth drafod atal bwlio, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ym mis Chwefror bob blwyddyn, a phryd bynnag y defnyddir TGCh fel offeryn dysgu ac addysgu.

  • Teitl: E-ddiogelwch: Cyfathrebu ag Eraill Hyd: 1 awr Gwers: 1 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Ymchwilio sut a pham ein bod ni’n cyfathrebu ag eraill, gan archwilio risgiau a manteision. Amcanion Dysgu: • Archwilio a nodi dulliau cyfathrebu. • Deall pam bod pobl yn cyfathrebu. • Deall risgiau a manteision dulliau cyfathrebu

    amrywiol.

    Adnoddau: Holiadur Disgyblion (Think U Know) Taflen Waith Disgyblion – ‘Sut ydyn ni’n Cyfathrebu’ Gwahanol ffyrdd o gyfathrebu i ddisgyblion eu hadolygu - llythyr, ffacs, taflen, poster, e-bost, ayb. Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat.

    Cyflwyniad: 15 munud Cyflwyno’r pwnc e-ddiogelwch – beth yw ei ystyr a pham bod angen i ni fod yn ymwybodol o'n diogelwch wrth ddefnyddio gwahanol dechnolegau. Gweithgaredd 1: Holiadur Disgyblion 15 munud Defnyddio Adnodd 1 – yr holiadur disgyblion, gofyn i bob disgybl gwblhau’r holiadur i archwilio sut maent yn defnyddio technolegau newydd. Efallai y dymunwch fynd trwy bob cwestiwn â’r grŵp dosbarth cyfan ar gyfer y disgyblion hynny nad ydynt yn deall rhai o’r technolegau. Pwysleisiwch y dylid cadw’r atebion yn breifat ac y bydd y canlyniadau yn gyfrinachol.

    Pwyntiau trafod:

    A oes unrhyw un yn gwybod beth yw e-ddiogelwch?

    Ar ba adeg y dylem ni feddwl am ein diogelwch a bod yn synhwyrol? A yw’r rheolau hynny’n berthnasol pan fyddwn ar y rhyngrwyd neu’n

    defnyddio ffonau symudol er enghraifft? Pa fath o reolau sydd gennym yn barod wrth ddefnyddio cyfrifiaduron?

    Efallai y byddech yn dymuno gwneud pôl gwelltyn i weld faint o blant sydd â ffonau symudol, sy’n defnyddio’r rhyngrwyd bob dydd, sy’n defnyddio gwasanaeth Negeseuon Gwib er enghraifft MSN ayb, yn ogystal â gofyn i blant

    Wedi i chi gasglu canlyniadau'r holiadur i ddisgyblion, byddwch yn gallu barnu eu gwybodaeth a’u harbenigedd wrth iddynt ddefnyddio technolegau newydd, ac os

    ydynt yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a all fod yn beryglus. Bydd hyn yn eich galluogi i barhau i ddarparu gwersi uniongyrchol a thynnu sylw at yr angen am waith

    mwy trylwyr, sy’n cynnwys rhieni a gofalwyr os oes angen hynny.

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES Caerdydd yr Erbyn Bwlio – Cynlluniau Gwersi

  • Pwyntiau trafod:

    A oes rhai dulliau o gyfathrebu yn fwy peryglus nac eraill? (E.e. sgwrsio dros y we, dros y ffôn neu trwy lythyr?)

    Beth mae’r peryglon hyn yn eu golygu i ni trwy ddefnyddio’r dulliau hyn o gyfathrebu?

    A ddylai’r peryglon hyn ein harbed rhag defnyddio rhai dulliau o gyfathrebu?

    Gweithgaredd 2: Sut ydyn ni’n Cyfathrebu 15 munud Gofyn i’r disgyblion restru gwahanol ddulliau o gyfathrebu a'u hysgrifennu ar y bwrdd. Trafod pa rai sy’n ffurfiau cyfathrebu traddodiadol a pha rai sy'n newydd. E.e. llythyr, e-bost, galwad ffôn, ffacs, ayb. Mewn grwpiau, gofyn i ddisgyblion drafod pa ddulliau cyfathrebu y byddent yn eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan ddefnyddio Adnodd 2 – taflen waith disgyblion 'Sut ydyn ni'n Cyfathrebu'. Gofyn i ddisgyblion adrodd eu canlyniadau a thrafod fel dosbarth. Gweithgaredd 3: Risgiau a Manteision 15 munud Fel dosbarth, rhestru risgiau a manteision gwahanol ffurfiau cyfathrebu. Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd – gyda phwy ydyn ni’n cyfathrebu, pam a sut, a risgiau a manteision ffurfiau cyfathrebu. Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Enwi nifer o ffurfiau traddodiadol a dulliau newydd o gyfathrebu. • Nodi risgiau a manteision ffurfiau cyfathrebu. • Deall y cysyniad o wybodaeth bersonol a phreifat. • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan fynegi meddyliau a theimladau.

    Pwyntiau trafod:

    Pa ddulliau o gyfathrebu ydyn ni’n eu defnyddio amlaf? Ydy ein ffrindiau yn defnyddio’r un dulliau cyfathrebu? A yw’n rhieni?

    Oes gwahaniaeth yn y ffordd mae plant a phobl ifanc yn cyfathrebu a’r ffordd mae pobl hŷn ac oedolion yn cyfathrebu? Pam?

    A oes rhai ffyrdd o gyfathrebu yn fwy priodol ar gyfer rhai achosion?

    Pwyntiau trafod: Ddysgoch chi unrhyw beth am bwy yr ydym yn cyfathrebu â nhw a sut? A oes unrhyw beth y byddech yn newid yn y dyfodol wrth gyfathrebu â

    rhywun nad ydych yn gallu ei weld (e.e. sgwrsio ar-lein, negeseuon testun)?

  • Nodiadau’r Athro: Bydd angen i chi sicrhau bod y dosbarth yn ystyried ffurfiau technoleg newydd fel ffyrdd o gyfathrebu: • Sgwrsio ar-lein • Negeseuon testun • Negeseuon llun • Gwefannau • Gwefannau Rhwydweithio Cymdeithasol (e.e. MySpace, Bebo, Facebook) • Galwad ffôn • Blogiau neu Flogiau (dyddiaduron ar-lein neu ddyddiaduron fideo ar-lein) Annog disgyblion i ystyried pam bod mwy o bobl ifanc yn defnyddio’r ffurfiau hyn o gyfathrebu na phobl hŷn. Efallai y dymunwch bwysleisio bod y mwyafrif o bobl yn cyfathrebu wyneb yn wyneb neu drwy fodd gohiriedig, megis ysgrifennu llythyrau tan yn ddiweddar. Erbyn hyn mae cyfathrebu yn digwydd ar unwaith. A oes unrhyw fanteision neu risgiau i gyfathrebu ar unwaith?

  • Teitl: E-ddiogelwch: Gwybodaeth Bersonol Hyd: 1.5 awr Gwers: 2 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Archwilio sut i fod yn ddiogel ar-lein a phwysigrwydd cadw gwybodaeth bersonol yn breifat. Amcanion Dysgu: • Archwilio’r ffyrdd y mae pobl yn cyfathrebu • Deall y cysyniad o wybodaeth bersonol a

    phreifat. • Deall rheolau diogelwch ac ymddygiad

    cyfrifol wrth ddefnyddio technolegau newydd.

    • Archwilio sut a pham ein bod ni'n rhannu gwybodaeth, rhoi gwybodaeth a derbyn gwybodaeth.

    • Deall y cysyniad o ddiogelwch personol mewn bywyd go iawn a ‘bywyd ar-lein’.

    Adnoddau: Canlyniadau’r Holiadur Disgyblion Taflen waith disgyblion 3 - 'Pwy fyddech chi'n rhoi gwybod iddynt?' (Gwahanol ffurfiau o gyfathrebu - e-byst, taflenni, post sothach, ayb) Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat.

    Cyflwyniad: 5 munud Ailadrodd cynnwys y wers flaenorol – sut ydyn ni’n cyfathrebu, gyda phwy a pham. Ailadrodd rhai o risgiau a manteision gwahanol ffurfiau o gyfathrebu, gan gynnwys ffurfiau traddodiadol a newydd. Archwilio a yw ffurfiau newydd o gyfathrebu yn peri rhagor o risg a pheryglon y dylem fod yn ymwybodol ohonynt, a'r rheswm dros hyn (e.e. gall fod rhagor o risgiau wrth sgwrsio ar-lein gyda rhywun na wyneb yn wyneb oherwydd efallai nad ydynt yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw). Gweithgaredd 1: Canlyniadau Holiadur Disgyblion 10 munud Gan ddefnyddio canlyniadau’r holiadur disgyblion, adrodd yn ôl i’r disgyblion beth yw’r prif ffurfiau cyfathrebu i ddisgyblion yn y dosbarth. Trafodwch a yw'r canlyniadau yn syndod iddynt ai peidio. Gweithgaredd 2: Gofyn, rhoi, rhannu gwybodaeth 30 munud Trafod a rhestru’r rhesymau pam ein bod ni’n cyfathrebu ag eraill. Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng gwahanol ffurfiau cyfathrebu sy’n gofyn am wybodaeth, rhoi gwybodaeth a rhannu gwybodaeth.

    Pwyntiau trafod: A yw pob plentyn yn gallu defnyddio’r dulliau cyfathrebu yr ydym ni’n eu

    defnyddio, (er enghraifft ffonau symudol a’r rhyngrwyd)? A yw plant bob amser wedi cyfathrebu yn y ffyrdd hyn?

    Sut ydyn ni wedi dysgu i ddefnyddio’r dulliau cyfathrebu hyn? A oes unrhyw un wedi trafod peryglon neu’r materion diogelwch sydd

    ynghlwm â’r mathau hyn o gyfathrebu?

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES Caerdydd yr Erbyn Bwlio – Cynlluniau Gwersi

  • Os yw’n bosibl, dangoswch nifer o ffyrdd o gyfathrebu i ddisgyblion i'w hadolygu a phenderfynu a ydynt yn peri risg neu’n fanteisiol, a beth sy'n achosi’r risg neu fantais iddynt – e.e. llythyr gan ffrind, post sothach, enghraifft o e-bost sothach, poster yn hysbysebu rhywbeth, taflen, ayb. Mewn grwpiau, gofynnwch i’r disgyblion gwblhau’r daflen waith ‘Pwy fyddech chi’n rhoi gwybod iddynt – Adnodd 3. Mae’r daflen waith hon yn rhoi enghreifftiau o nifer o ddarnau o wybodaeth y gellir eu datgelu, sy’n gofyn i ddisgyblion ystyried wrth bwy y byddent yn datgelu’r wybodaeth. Trafod y cysyniad o wybodaeth bersonol a phreifat. Gweithgaredd 2: Diogelwch Personol mewn Bywyd Go Iawn 15 munud Fel dosbarth, trafod sut y byddai disgyblion yn sicrhau eu bod yn ddiogel mewn bywyd bob dydd. Beth fyddent yn ei wneud i fod yn ddiogel? E.e. wrth groesi’r ffordd, defnyddio gwrthrychau peryglus megis siswrn neu gyllell, peidio siarad â phobl ddieithr. Trafod beth sy’n gwneud iddynt feddwl am eu diogelwch - e.e. maent yn gwybod bod rhywbeth yn beryglus, nid ydynt yn ymddiried yn rhywun, mae ofn arnynt. Trafod a yw'r rheolau hyn yn berthnasol ar-lein neu wrth gyfathrebu â rhywun nad ydych yn gallu eu gweld. Gweithgaredd 3: Datgelu Gwybodaeth Bersonol 15 munud Ailadrodd y drafodaeth gynharach am bwy y byddem yn datgelu neu roi gwybodaeth iddynt sy’n bersonol i ni, a phryd mae angen i ni fod yn ofalus wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol. Bydd y gêm ddyfalu seml hon yn annog disgyblion i ystyried sut y gellid defnyddio gwybodaeth bersonol i adnabod rhywun. Gofyn i ddisgyblion weithio mewn parau neu chwarae fel dosbarth cyfan. Yr athro neu un disgybl yn y pâr yn rhoi disgrifiad o berson maen nhw’n meddwl amdano, person yn yr ysgol neu berson enwog y bydd y mwyafrif o’r plant yn gwybod amdano. Disgyblion i ddyfalu pwy a ddisgrifir, e.e. “Rwy’n meddwl am ferch ym mlwyddyn 5 â gwallt golau...." “Rwy’n meddwl am berson enwog iawn sy’n chwarae pêl-droed..." “Rwy’n meddwl am athro â’i enw’n cychwyn ag S...." Gall disgyblion ofyn cwestiynau i gael cliwiau pellach cyn dyfalu pwy yw’r person.

    Pwyntiau trafod:

    Beth fyddai angen i chi ei ystyried cyn penderfynu a yw rhywbeth yn beryglus neu o werth (e.e. pwy sydd wedi ei ysgrifennu, y cynnwys, a yw’n gofyn am

    rywbeth, a ydych chi’n ymddiried yn y cynnwys neu’r awdur, ayb). Pa wybodaeth fyddech chi’n hapus ei rhannu gyda phawb?

    Pa wybodaeth yr hoffech ei chadw’n breifat? Pam? A oes angen i ni ystyried pa wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani gan eraill,

    yn ogystal â’r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i bobl eraill? Oes rhai pobl na fyddem eisiau cyfathrebu â nhw o gwbl?

    Sut fydden ni’n gwybod pwy yw’r bobl hyn os oeddem yn sgwrsio ar-lein?

  • Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd - beth yw gwybodaeth bersonol, sut y byddwn yn cadw'n hunain yn ddiogel mewn bywyd go iawn, pam bod angen i ni gadw'n ddiogel ar-lein neu wrth sgwrsio â phobl nad ydym yn eu hadnabod, sut ydyn ni’n adnabod pobl gan ddefnyddio gwybodaeth bersonol a beth i’w ystyried wrth sgwrsio ar-lein a defnyddio technolegau newydd. Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Enwi nifer o ffurfiau traddodiadol a dulliau newydd o gyfathrebu. • Nodi risgiau a manteision ffurfiau cyfathrebu. • Deall y cysyniad o wybodaeth bersonol a phreifat. • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan fynegi meddyliau a theimladau. Nodiadau’r Athro: Os yw’n bosibl, ewch i ystafell sgwrsio ar y rhyngrwyd ac arsylwi sgwrs gyffredinol, neu ewch i elfen ystafell sgwrsio CEOPS/Caffi Seiber ThinkUKnow (mae’r Caffi Seiber yn adnodd addysgu a dysgu ar gyfer plant, gan ganolbwyntio ar addysgu diogelwch y rhyngrwyd, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn y cynlluniau gwersi hyn. Mae elfen ystafell sgwrsio o fewn y Caffi Seiber sy’n dangos sut mae sgwrsio ar y rhyngrwyd yn gweithio. Gall sgwrsio ar-lein olygu bod rhywun yn cynefino ar unwaith ac mae'n hawdd iawn teimlo'n gyffyrddus i rannu gwybodaeth mewn cyfleuster sgwrsio na fyddai rhywun o angenrheidrwydd yn ei rhannu wyneb yn wyneb. Dylech fod yn ymwybodol pa mor hawdd yw darparu gwybodaeth bersonol wrth sgwrsio, a dylech sicrhau bod disgyblion yn ymwybodol o'u gweithredoedd ar-lein.

    Pwyntiau trafod: Pa wybodaeth wnaeth eich helpu i adnabod y person yr oeddech yn meddwl

    amdano? Weithiau, dim ond un neu ddau ddarn o wybodaeth sydd eu hangen er mwyn

    adnabod rhywun, weithiau bydd angen mwy arnom. Oes angen i ni feddwl am y wybodaeth yr ydym yn ei rhoi i bobl amdanom

    ni’n hunain? Pam?

  • Teitl: E-ddiogelwch: Aros yn Ddiogel Ar-lein Hyd: 1.5 awr Gwers: 3 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Archwilio sut i fod yn ddiogel ar-lein a phwysigrwydd cadw gwybodaeth bersonol yn breifat. Amcanion Dysgu: • Deall y cysyniad o wybodaeth bersonol a

    phreifat. • Deall y rheolau diogelwch ac ymddygiad

    cyfrifol wrth ddefnyddio technolegau newydd.

    • Deall y cysyniad o ddiogelwch personol mewn bywyd go iawn a ‘bywyd ar-lein’.

    • Dysgu rheolau SMART wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd.

    • Archwilio’r gwahaniaeth rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

    Adnoddau: Cardiau ‘personol!’ ac awgrymiadau cwestiynau Adnodd 4 – Meddwl CAMPUS Adnodd 5 - Datganiadau a Senarios (bydd angen copi ar gyfer pob grŵp) Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat, CAMPUS.

    Cyflwyniad: 5 munud Ailadrodd cynnwys y wers flaenorol – gall gwahanol ffurfiau o gyfathrebu gynnwys gofyn am wybodaeth gennym ni, gallwn ni fod yn rhannu gwybodaeth neu roi gwybodaeth. Mae peth gwybodaeth yn bersonol ac ni ddylid ei rhannu. Gall rhoi gwybodaeth bersonol i eraill roi cliwiau iddynt ynglŷn â phwy ydyn ni ac nid ydym o angenrheidrwydd eisiau iddynt wybod pwy ydyn ni. Byddwn yn rhoi gwybodaeth bersonol i eraill o dro i dro y dylid ei chadw’n breifat. Gweithgaredd 1: Personol! 15 munud Rhowch y disgyblion mewn grwpiau o 3 i chwarae’r gêm Personol!, gan roi cerdyn Personol i un o bob tri. Dylai un disgybl ofyn i ddisgybl arall cyfres o gwestiynau amdanyn nhw, fel pe baent yn sgwrsio am y tro cyntaf. Os yw’n ddiogel i wneud hynny, gall y disgybl ymateb, ond os oes angen rhywfaint o wybodaeth bersonol, mae’n rhaid iddynt ddangos y cerdyn Personol. Dylai’r trydydd person arsylwi a nodi unrhyw adeg y rhoddwyd gwybodaeth bersonol heb i’r person sylweddoli, gan adrodd yn ôl ar ddiwedd y gêm.

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cynllunio Gwersi

  • Gweithgaredd 2: CAMPUS 10 munud Cyflwyno’r neges CAMPUS – gweler Adnodd 4 – meddwl CAMPUS, a thrafod pam bod y neges CAMPUS mor bwysig. (Fel gweithgaredd estynedig efallai yr hoffech ofyn i ddisgyblion greu poster meddwl CAMPUS i’w arddangos wrth ymyl cyfrifiadur yr ystafell ddosbarth neu yn yr ystafell TGCh. Gweithgaredd 3: Datganiadau a Senarios 25 munud Dylai disgyblion weithio mewn grwpiau bychain. Rhowch siswrn i bob grŵp, a chopi o Datganiadau a Senarios. Fel dosbarth cyfan neu yn eu grwpiau, gofynnwch i ddisgyblion edrych ar y datganiadau a senarios ac yna'u torri’n stribedi. Gofynnwch i ddisgyblion a yw’r datganiadau/senarios yn disgrifio rhyngweithio wyneb yn wyneb, neu gyfathrebu ar-lein, neu os yw’r ddau yn berthnasol. Fel dosbarth edrychwch ar bob un o’r datganiadau/senarios a lle mae pob grŵp wedi’u gosod. A oedd pawb yn cytuno? Gofynnwch i’r disgyblion a oes unrhyw un wedi profi unrhyw un o'r senarios hyn ac a fyddent yn fodlon rhannu'r profiad. Archwiliwch a yw disgyblion wedi ystyried cyn hyn a yw rhai pethau ond yn addas ar gyfer rhyngweithio wyneb yn wyneb, a pham. A yw hyn yn newid y ffordd y byddant yn ymddwyn ar-lein nawr? Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd - beth yw gwybodaeth bersonol, pam na ddylem roi gwybodaeth bersonol i bobl, beth yw rheolau CAMPUS a’r gwahaniaethau rhwng cyfathrebu ar-lein a chyfathrebu wyneb yn wyneb. Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Deall y cysyniad o wybodaeth bersonol a phreifat. • Deall ac ailosod y rheolau CAMPUS • Deall y gwahaniaeth rhwng cyfathrebu ar-lein a wyneb yn wyneb, a rhai o'r

    peryglon sy'n gysylltiedig â chyfathrebu ar-lein. • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan siarad am feddyliau a theimladau. Nodiadau’r Athro: Wrth drafod cyfathrebu ar-lein a wyneb yn wyneb, dylai athrawon fod yn fodlon trafod rhai o’r peryglon sy'n gysylltiedig â chyfathrebu ar-lein, (e.e. os nad ydych chi'n gwybod pwy ydych chi'n siarad â hwy ar-lein, gallai hyn fod yn beryglus). Fodd bynnag, mae’n bwysig darparu cydbwysedd clir ac iach rhwng sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r peryglon, tra’n rhoi pwyslais ar fanteision niferus technolegau newydd – gan gynnwys sgwrsio ar-lein. Dylai athrawon osgoi gwneud gormod o’r mater, ond eto dylent sicrhau bod plant yn ymwybodol o’r peth.

  • Teitl: E-ddiogelwch: Ymddiried mewn cynnwys Hyd: 1.5 awr Gwers: 4 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Archwilio cynnwys ar-lein, penderfynu ynglŷn â didwylledd ac addasrwydd gwefannau. Amcanion Dysgu: • Archwilio dilysrwydd gwybodaeth ar y

    rhyngrwyd • Dechrau gwneud penderfyniadau call ac

    ystyrlon ynghylch ymddiried mewn cynnwys ar-lein ai peidio

    • Cymharu a chyferbynnu gwahanol ffynonellau gwybodaeth.

    • Archwilio’r gwahaniaeth rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

    Adnoddau: Adnodd 6 – Ymddiried yn y Cynnwys: Cwestiynau Cwis Adnodd 7 – Taflen waith cwis Adnodd 8 – Taflen waith Cymharu Gwefannau Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat, CAMPUS, gwefan, cyfeiriad y wefan, peiriant chwilio, bar chwilio, ymddiried, cymharu, rhwydd i’w ddefnyddio.

    5 munud Ailadrodd cynnwys y wers flaenorol - beth yw gwybodaeth bersonol, pam na ddylem roi gwybodaeth bersonol i bobl, beth yw rheolau CAMPUS a’r gwahaniaethau rhwng cyfathrebu ar-lein a chyfathrebu wyneb yn wyneb. Gweithgaredd 1: Archwilio’r rhyngrwyd 15 munud Fel dosbarth cyfan, trafod y gwahanol fathau o wybodaeth a gyhoeddir ar y rhyngrwyd, gan wneud y rhestr ar y bwrdd. Gofynnwch i ddisgyblion sut mae gwybodaeth ar y rhyngrwyd yn wahanol i wybodaeth mewn llyfrau, papurau newydd, cylchgronau neu'r teledu. A yw o angenrheidrwydd yn fwy cywir a chyfoes? Pam ein bod ni’n ei ddefnyddio? Beth yw’r manteision? Gofynnwch i ddisgyblion a oes unrhyw anfanteision neu risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio gwybodaeth ar y Rhyngrwyd. Gweithgaredd 2: Ymddiried yn y Cynnwys 25 munud (Bydd angen i chi sicrhau bod gan bob pâr/grŵp bach fynediad i gyfrifiadur â rhyngrwyd.) Fel dosbarth, trafodwch sut y byddech yn chwilio am rywbeth ar y rhyngrwyd (h.y. defnyddio peiriant chwilio.) Os oes gennych beiriant chwilio penodol yn yr ysgol, tynnwch sylw'r plant at hyn wrth iddynt chwilio am atebion i gwestiynau mewn cwis arbennig. Os nad ydych yn defnyddio peiriant chwilio penodol, rhowch gynnig ar Google www.google.co.uk neu beiriant plant penodol (â mynediad i ddeunydd sensitif yn gyfyngedig) ceisiwch www.askkids.com Dangoswch i blant sut i chwilio am wybodaeth, gan ddefnyddio’r bar chwilio, i’r rheiny

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cynllunio Gwersi

  • Pwyntiau Trafod:

    Cymharwch atebion y dosbarth – a gafodd pawb yr un atebion? A wnaethon ni gyd ddefnyddio’r un gwefannau i gael yr atebion? Os na, pam? (Trafodwch yr holl wefannau sydd ar gael sy’n cynnwys yr un wybodaeth)

    Sut ydym yn gwybod bod gwefan yn dweud y gwir? Beth all hyn ei olygu pan fyddwn yn chwilio am atebion neu wybodaeth

    bwysig? (H.y. na ddylem ymddiried ym mhopeth yr ydym yn ei ddarllen na’i weld, ac y dylem edrych am ffynonellau eraill – dod o hyd i sawl ffynhonnell i

    brofi bod yr ateb yn gywir. Ydym ni’n ymddiried ym mhopeth sydd ar y we? Pam ddim?

    Pa bethau sy’n gwneud i ni ymddiried mewn gwybodaeth ar wefan? (Pwy sy’n darparu – e.e. BBC, sut olwg sydd arno, pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio’r wefan, ayb).

    nad ydynt yn gwybod. Defnyddio Adnodd 6 – ‘Ymddiried yn y Cynnwys: Cwestiynau Cwis’ gofynnwch i blant weithio mewn parau neu grwpiau bychain i ddod o hyd i’r cwestiynau cyn gynted â phosib, gan gofnodi eu hatebion ar y daflen waith cwis – Adnodd 7. Bydd angen iddynt gofnodi eu hateb, lle cawsant y wybodaeth (cyfeiriad y wefan) a pha beiriant chwilio a ddefnyddiwyd. Efallai y dymunwch wneud cwestiwn fel dosbarth cyfan i gynorthwyo'r plant sy'n cael trafferth wrth chwilio ar-lein. Gweithgaredd 3: Cymharu Gwefannau 15 munud Gofynnwch i ddisgyblion ddewis dwy wahanol wefan o'r rhestr ganlynol i'w harchwilio, gan dreulio amser yn edrych ar y cynnwys a chael ymdeimlad o’r safle. Gofynnwch i ddisgyblion gwblhau Adnodd 8 – Taflen waith Cymharu Gwefannau. Mae’r daflen waith yn gofyn iddynt werthuso'r cynnwys, gan ystyried: • A yw’n ddeniadol a rhwydd i ddefnyddwyr? • A yw’n cynnwys unrhyw beth sy’n gwneud iddynt deimlo’n anghyffyrddus? • A yw’r penawdau’n berthnasol ar gyfer yr hyn maent am ei ddarganfod? • A yw’r dolenni’n ddefnyddiol? www.cbbc.co.uk www.pbskids.org/dragontales www.kids.nationalgeographic.com www.myfunnyanimals.com Trafodwch beth ddylen ni ei wneud os nad ydyn ni’n ymddiried mewn gwefan. Beth ddylai disgyblion ei wneud os ydynt yn teimlo’n anghyffyrddus â’r hyn sydd ar wefan? Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd - ni allwn wastad ymddiried yn y wybodaeth sydd ar y rhyngrwyd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein barn wrth benderfynu'r hyn a gredwn o'r hyn a ddarllenwn ar y rhyngrwyd. Mae'n bwysig dweud wrth rywun os ydym yn teimlo'n anghyffyrddus â rhywbeth a welwn ar y wefan.

  • Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Deall y gwahaniaeth rhwng cynnwys ar-lein a ffurfiau mwy traddodiadol. • Penderfynu ar ddilysrwydd ac addasrwydd gwefannau • Ystyried a ydynt yn ymddiried mewn cynnwys gwefannau • Deall ac ailosod y rheolau CAMPUS • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan fynegi meddyliau a theimladau. Nodiadau’r Athro:

  • Teitl: E-ddiogelwch: Sgwrsio Ar-lein Hyd: 1.5 awr Gwers: 5 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Archwilio sut i sgwrsio’n ddiogel ar-lein. Amcanion Dysgu: • Deall sut i ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio

    yn gall a diogel. • Cychwyn gwneud penderfyniadau call ac

    ystyrlon ynghylch ymddiried ai peidio yn y cynnwys ar-lein a phobl ar-lein

    • Cymharu a chyferbynnu gwahanol ffynonellau gwybodaeth.

    • Archwilio’r gwahaniaeth rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

    Adnoddau: Adnodd 9 – Astudiaeth Achos Adnodd 10 – Taflen Waith Astudiaeth Achos Mynediad i’r rhyngrwyd Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat, CAMPUS, gwefan, cyfeiriad y wefan, ystafell sgwrsio, Negeseuon Gwib.

    5 munud Ailadrodd cynnwys y wers flaenorol – beth ddylen ni edrych amdano wrth benderfynu os ydym yn ymddiried mewn gwefan, beth i'w wneud os nad ydym yn ymddiried mewn gwefan neu ei bod yn gwneud i ni deimlo’n anghyffyrddus; ni allwn ymddiried bob amser yn y wybodaeth a welwn ar y rhyngrwyd. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein barn wrth benderfynu'r hyn a gredwn wrth ddarllen gwybodaeth ar y rhyngrwyd. Gweithgaredd 1: Pam Sgwrsio? 15 munud Cyfeiriwch yn ôl at ganlyniadau'r holiadur neu gofynnwch i ddisgyblion godi eu dwylo os ydynt yn sgwrsio ar-lein. Trafodwch pa mor aml y bydd disgyblion yn sgwrsio, a gyda phwy. A yw disgyblion yn siarad gyda ffrindiau mewn bywyd go iawn? Pwy arall fyddwn ni’n siarad â hwy? Tua faint o gysylltiadau sydd gennym yn ein rhestr ffrindiau? Trafodwch pa ddulliau y bydd disgyblion yn eu defnyddio’n gyffredinol i sgwrsio (e.e. MSN [Negeseuon gwib], safleoedd sgwrsio penodol neu safleoedd gemau â chyfleusterau sgwrsio.) Trafodwch pam bod pobl yn sgwrsio ar-lein. Beth yw’r manteision? Risgiau? Gweithgaredd 2: Astudiaeth Achos 15 munud Defnyddio Adnodd 9 – Astudiaeth Achos – Sgwrsio ar-lein, darllenwch yr astudiaeth achos yn uchel i’r dosbarth. Gofynnwch i’r disgyblion weithio mewn grwpiau bychain i gwblhau’r Daflen Waith – Adnodd 10 gysylltiedig, gan ofyn i ddisgyblion ystyried: Pa wybodaeth na ddylai Abby fod wedi'i datgelu? Pam ydych chi’n meddwl y rhoddodd Abby y wybodaeth honno? Pam nad yw’n syniad da i Abby fod wedi rhoi’r wybodaeth honno?

    GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cynlluniau Gwersi

  • Beth allai Abby fod wedi’i wneud yn lle hynny? Beth all Abby ei wneud nawr? Wrth bwy gall Abby ddweud os ydy hi'n bryderus neu’n gofidio? Fel dosbarth cyfan, rhannwch atebion ac archwiliwch unrhyw debygrwydd a gwahaniaethau mewn atebion. Gweithgaredd 3: Caffi Seiber 25 munud (Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd angen i bob disgybl fod â mynediad i’r rhyngrwyd, gan weithio’n unigol, mewn parau neu mewn grwpiau o dri). Bydd disgyblion yn archwilio sut i sgwrsio yn y Caffi Seiber - adnodd Think u Know. Anogir athrawon i archwilio’r safle cyn gofyn i’r disgyblion wneud hynny. Mae gan y wefan Think u Know nifer o adnoddau defnyddiol i blant, athrawon a rhieni. Ewch i www.thinkuknow.co.uk am ragor o wybodaeth. Mae’r Caffi Seiber yn adnodd i bobl ifanc archwilio agweddau o’r technolegau newydd yn ddiogel megis sgwrsio ar-lein, e-bost, ffonau symudol. Mae’n adnodd rhyngweithiol, wedi’i animeiddio, a gynlluniwyd i addysgu plant tra’n cael hwyl. Gofynnwch i ddisgyblion deipio http://www.thinkuknow.co.uk/8_10/cybercafe/cafe/base.aspx neu cliciwch ar Cyber Café o brif wefan Think u Know. Gofynnwch i ddisgyblion sgrolio ar draws i’r chwith a chlicio ar y cymeriad ‘Sam’. Bydd hyn yn mynd â chi i'r Caffi Seiber sy'n archwilio ystafelloedd sgwrsio. Mae’r cymeriad Sam yn sgwrsio mewn ystafell sgwrsio. Mae'r safle yn gofyn i ddisgyblion ddewis ystafell sgwrsio. Bydd y safle yn mynd â defnyddwyr trwy sgwrs Sam â phlant eraill yn yr ystafell sgwrsio. Yna gofynnir iddynt wneud penderfyniadau ar ran Sam ynglŷn â phwy y dylai siarad â hwy a pha wybodaeth y dylai ei rhoi i eraill. Gall defnyddwyr glicio ar y botwm ‘Chat room help’ ar yr ochr dde unrhyw bryd os ydynt yn cael trafferth. Gyda phob ateb, rhoddir cyngor ac awgrymiadau i’r defnyddiwr. Fel dosbarth, trafodwch pa mor realistig yw ystafell sgwrsio, mewn perthynas â’u profiadau o ystafelloedd sgwrsio. Trafodwch pa mor ddefnyddiol yw’r cyngor a roddwyd ac a fyddent yn defnyddio neu a ydynt wedi defnyddio ystafell sgwrsio wedi’i chynllunio’n benodol i blant. Pam? Gweithgaredd 4: Sgwrsio Ar-lein, Sgwrsio mewn Bywyd Go Iawn 15 munud Lluniwch y colofnau hyn ar y bwrdd gyda’r teitlau, 'Sgwrsio mewn Bywyd Go Iawn, 'Ystafell Sgwrsio' a 'Sgwrsio Negeseuon Gwib'. Trafodwch y gwahaniaethau rhwng y tri, gan nodi ym mhob colofn beth fyddai angen i chi ei ystyried i gadw’ch hunan yn ddiogel ar-lein yn gysylltiedig â phob un math o 'sgwrs'. Trafodwch beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau â'r 3 math hyn o sgwrs. Gweithgaredd 5: Rheolau Sgwrsio! 10 munud Trafodwch a yw'r un rheolau yn berthnasol wrth sgwrsio ar-lein â sgwrsio mewn bywyd go iawn? (E.e. ymddygiad da, siarad yn neis, bod yn ddiogel, peidio â rhoi gwybodaeth bersonol, ayb). A oes unrhyw reolau ychwanegol? Gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn y colofnau, lluniwch rai rheolau syml i'w cofio wrth sgwrsio ar-lein, gan gyfeirio’n ôl at y rheolau CAMPUS hefyd. Efallai y dymunwch arddangos y

  • rhain wrth ymyl y cyfrifiaduron ac yn yr ystafell TGCh. Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd – mae sgwrsio ar-lein ac y bersonol yn wahanol, ond mae’r un rheolau’n berthnasol. Mae angen bod yn hynod ofalus wrth sgwrsio ar-lein. Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Deall beth yw sgwrsio ar-lein a llywio eu ffordd o gwmpas yr ystafell sgwrsio • Nodi nifer o reolau sy'n berthnasol i sgwrsio ar-lein. • Nodi'r gwahaniaeth rhwng sgwrsio ar-lein a sgwrsio gyda rhywun yn y byd go iawn. • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan siarad am feddyliau a theimladau. Nodiadau’r Athro:

  • GWASANAETH YSGOLION A DYSGU GYDOL OES

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio – Cynlluniau Gwersi

    Teitl: E-ddiogelwch: Seiber-fwlio Hyd: 1 awr Gwers: 6 Cyfnod Allweddol 2 Nod y Wers: Deall a diffinio seiber-fwlio, gan archwilio sut i’w fwydro. Amcanion Dysgu: • Diffinio seiber-fwlio • Archwilio’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd

    rhwng seiber-fwlio a ffurfiau mwy traddodiadol o fwlio

    • Nodi'r gwahanol ffurfiau o seiber-fwlio • Deall beth i'w wneud os dewch ar draws

    seiber-fwlio

    Adnoddau: Adnodd 11 – Taflen waith Tebygrwydd a Gwahaniaeth Geirfa: Cyfathrebu, e-ddiogelwch, technoleg, rhyngrwyd, risg, mantais, personol, preifat, CAMPUS, gwefan, cyfeiriad y wefan, ystafell sgwrsio, Negeseuon Gwib, neges destun, seiber-fwlio, bwlio, diffinio.

    Cyflwyniad: 5 munud Ailadrodd cynnwys y wers flaenorol – wrth sgwrsio ar-lein mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r gwahanol reolau a’n diogelwch. Mae sgwrsio ar-lein yn wahanol i sgwrsio wyneb yn wyneb. Mae rhai sgyrsiau yn fwy priodol ar gyfer wyneb yn wyneb. Gweithgaredd 1: Beth yw seiber-fwlio? 15 munud Fel dosbarth, trafodwch beth yw bwlio, a pha fathau a ffurfiau o fwlio a geir. Trafodwch lle y gall bwlio ddigwydd a phryd, gan ddefnyddio profiadau disgyblion o weld bwlio'n digwydd os ydynt yn fodlon rhannu. Eto fel dosbarth, trafodwch beth yw seiber-fwlio, gan archwilio’r 7 gwahanol fath o seiber-fwlio: Drwy neges destun, e-bost, negeseuon gwib, gwefannau, galwad ffôn, neges llun/fideo, ystafelloedd sgwrsio. Gweithgaredd 2: Gwahaniaethau a thebygrwydd 15 munud Mewn grwpiau bychain, gofynnwch i ddisgyblion ddefnyddio Adnodd 11 – taflen waith Gwahaniaethau a Thebygrwydd i gofnodi sut mae bwlio a seiber-fwlio yr un fath, a sut mae'n gwahaniaethu. Efallai bydd angen i chi annog disgyblion i ystyried: • Teimladau’r bobl gysylltiedig (nid y dioddefwr yn unig, ond y bwli a'r gwylwyr

    hefyd). • Y math o fwlio • Lle mae'n digwydd • Sut a lle maent yn ceisio cymorth Gofynnwch i ddisgyblion adrodd atebion yn ôl i'r dosbarth gyfan a’u cymharu. Gweithgaredd 3:Ffilm Seiber-fwlio 20 munud

  • Dangoswch y ffilm seiber-fwlio ‘Let’s Fight it Together’ y gellir ei lawrlwytho www.digizen.org/cyberbullying/film Mae’r ffilm yn 6 munud o hyd. Anogir staff i weld y ffilm gyntaf cyn ei dangos i’r disgyblion i sicrhau ei bod yn addas i’w disgyblion. Mae CAB yn argymell dangos y ffilm i CA2 yn unig, ond yn eich annog i wneud eich penderfyniadau eich hunain, gan ddibynnu ar aeddfedrwydd eich disgyblion ac amlder seiber-fwlio yn eich dosbarth. Mae’r ffilm yn dangos prif gymeriad sy’n profi seiber-fwlio gan ffrindiau dosbarth trwy negeseuon ymosodol ar ei ffôn symudol ac wrth sgwrsio ar-lein, gyda’r heddlu’n cael eu galw yn y pen draw. Gall y ffilm beri gofid i rai disgyblion. Ar ôl gwylio’r ffilm hon, trafodwch gyda’r disgyblion beth fydden nhw’n ei wneud pe baent yn sefyllfa Joe. Trafodwch gyda phwy allant siarad â hwy neu ddweud wrthynt, a’r camau ymarferol y dylen nhw eu cymryd – e.e. cadw negeseuon a negeseuon testun, hysbysu’r heddlu neu ddarparwyr rhyngrwyd/ffôn ynghylch seiber-fwlio, ayb. Trafodwch rôl y gwyliedyddion wrth barhau â seiber-fwlio neu ei atal (e.e. dweud wrth rywun, peidio pasio’r negeseuon ymlaen, peidio chwerthin gydag eraill, ayb). Hysbyswch y disgyblion fod gan eich ysgol Bolisi Atal Bwlio, gan ddarparu copi os yn bosibl. Trafodwch beth yw’r rheolau a’r cosbau o fod yn gysylltiedig â bwlio yn eich ysgol, gan sicrhau bod plant yn ymwybodol y bydd seiber-fwlio yn cael ei gosbi. Casgliad 5 munud Ailadrodd y prif bwyntiau a drafodwyd – mae seiber-fwlio yn fath o fwlio, ond gall fod ar sawl ffurf. Mae seiber-fwlio yn rhywbeth difrifol iawn a gall fod yn drosedd. Mae gennym oll rôl i’w chwarae wrth frwydro yn erbyn seiber-fwlio ac mae nifer o wahanol ffyrdd o geisio cymorth ac adrodd amdano. Cyfle i asesu: Dylai’r mwyafrif o ddisgyblion allu: • Deall y diffiniad o fwlio a seiber-fwlio, gan archwilio’r gwahaniaethau a

    thebygrwydd. • Nodi’r 7 math o seiber-fwlio a gwybod beth i’w wneud pe bai’n digwydd iddyn nhw

    neu rywun maent yn eu hadnabod. • Deall rôl y gwyliedyddion o ran cyfrannu at, neu atal, seiber-fwlio. • Deall cosbau a rheolau’r ysgolion ynghylch bwlio, gan gynnwys seiber-fwlio (polisi

    atal bwlio). • Cyfrannu at drafodaethau dosbarth a grŵp, gan siarad am feddyliau a theimladau. Nodiadau’r Athro:

  • Holiadur Cyfnod Allweddol 1

    1.) Oes gennych chi gyfrifiadur? Oes

    Nac oes

    2.) Ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ? Ydw

    Nac ydw

    3.) Ydych chi’n siarad â ffrindiau ar y rhyngrwyd? Ydw

    Nac ydw

    4.) Ydych chi’n chwarae gemau ar y rhyngrwyd? Ydw

    Nac ydw

    5.) Ydych chi’n defnyddio e-bost ? Ydw

    Nac ydw

    6.) Oes gennych chi ffôn symudol ? Oes

    Nac oes

    Oedran:............................... Bachgen

    Merch

  • Cafodd yr holiadur hwn ei addasu o’r holiadur Think u Know sydd i’w ganfod ar www.thinkuknow.com

    Holiadur Cyfnod Allweddol 2

    1.) Pa mor aml ydych chi’n defnyddio’r Rhyngrwyd?

    Bob dydd Mwy nag unwaith yr wythnos

    Unwaith yr wythnos

    Unwaith y mis

    Llai nag unwaith y mis

    2.) Os ydych yn ei ddefnyddio bob dydd am faint o oriau ydych chi’n ei ddefnyddio? Llai nag 1 awr y dydd

    1 – 2 awr

    2 – 3 awr

    3 – 4 awr

    4awr y dydd

    3.) Beth rydych chi’n hoffi ei wneud orau ar-lein? Dewiswch un. Ystafelloedd Sgwrsio’r Rhyngrwyd

    Blogiau

    Cerddoriaeth (e.e. iTunes)

    Newyddion

    Negeseuon Gwib (MSN, Yahoo)

    Chwarae Gemau

    Rhannu ffeiliau (e.e. Limewire)

    Rhyngrwyd TELEDU

    (Bebo, Myspace)

    Gwe Pori

    Siopa

    Arall (Nodwch) …………………………….

    4.) Ydych chi’n chwarae gemau ar y rhyngrwyd? Ydw

    Nac ydw

    Oedran:............................... Bachgen

    Merch

  • 5.) Pa wefannau ydych chi’n chwarae gemau arnynt amlaf? Dewiswch un. BBC Games

    Miniclip

    Runescape

    XBOX Live

    World of Warcraft

    Nintendo Wii

    Neopets

    Playstation Online

    Club Penguin

    Arall (Nodwch) …………………………….

    6.) Ydych chi’n defnyddio rhwydweithio cymdeithasol fel Bebo a Myspace? Ydw

    Nac ydw

    7.) Pa wefan rhwydweithio cymdeithasol ydych chi’n ei defnyddio amlaf? Dewiswch un. Bebo

    Myspace

    Facebook

    Faceparty

    Friendster

    Piczo

    Profile Heaven

    Arall (Nodwch) …………………………….

    8.) Ydych chi’n defnyddio rhwydweithio cymdeithasol ar eich ffôn symudol ? Ydw

    Nac ydw

    9.) Ydych chi’n defnyddio Negeseuon Gwib (MSN, Yahoo) ar eich ffôn symudol ? Ydw

    Nac ydw

    10.) Ydych chi’n defnyddio gwefannau fel youtube a Wikipedia? Ydw

    Nac ydw

    Diolch am lenwi'r holiadur hwn.

    Caerdydd yn Erbyn Bwlio (CAB) [email protected]

  • Adnodd 2: Sut Ydym ni'n Cyfathrebu

    Enw: _________________________________ Dyddiad: __________________

    Math o gyfathrebu Pryd fyddem ni’n ei ddefnyddio? Pwy fyddai’n ei ddefnyddio?

    Rhif Ffôn Cartref

    Ffôn symudol

    E-bost

    Llythyr

    Negeseuon testun

    Poster

    Taflen

    Ystafell Sgwrsio

    Negeseuon Gwib (e.e. MSN)

    Gwefan Rhwydweithio Cymdeithasol (e.e. Bebo)

  • Adnodd 3: Wrth bwy fyddech chi’n dweud?

    Enw: _________________________________ Dyddiad: __________________

    Edrychwch ar y darnau gwybodaeth canlynol y gallai rhywun ofyn amdanynt. Torrwch bob un allan, a phenderfynu wrth bwy fyddech chi’n dweud pob darn o wybodaeth, gan baru’r wybodaeth â'r person ar dudalen 2. Gallech roi ychydig o

    wybodaeth i fwy nag un person, neu nifer o bobl hyd yn oed.

    Enw Cyntaf

    Cyfenw

    Ysgol

    Cyfeiriad

    Rhif ffôn

    Cyfeiriad e-bost

    Hoff liw

    Eich diddordeb

    Hoff dîm chwaraeon

    Dyddiad Geni

    Dinas yr ydych chi’n byw ynddi

    Arwydd Geni

    Oed

    Enwau eich ffrindiau

    Eich cyfrinair ar gyfer eich cyfrifon e-bost a

    MySpace

  • Nawr, torrwch y disgrifiadau hyn o wahanol bobl a phenderfynu pa wybodaeth y byddech chi’n ei ddweud wrthynt, gan osod y labeli gwybodaeth wrth ymyl bob

    person. Efallai rhoddir ychydig o wybodaeth i fwy nag un person.

    Eich Athro

    Ffrind ystafell sgwrsio

    Eich ffrind gorau yn yr ysgol

    Y gyrrwr bws

    Y meddyg

    Dyn yn y stryd

    Heddwas

    Cystadleuaeth ar wefan

    Mam eich ffrind

    Dynes ar y bwrdd

    Cynorthwy-ydd siop

    Eich cefnder/cyfnither

    Hen ddyn neu fenyw yn aros mewn ciw

  • Adnodd 4: Personol! Torrwch y cardiau ‘Personol!’ canlynol i’w defnyddio yng ngwers 3, gweithgaredd

    1. Mae angen un cerdyn ar gyfer pob grŵp neu grŵp o dri.

    Personol!

    Personol!

  • Adnodd 5: Meddwl CAMPUS

    S Diogel Cadwch yn ddiogel drwy fod yn ofalus i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol (megis enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad cartref neu enw ysgol) gyda phobl nad

    ydych yn ymddiried ynddynt ar-lein.

    M Cyfarfod Gall cyfarfod pobl yr ydych wedi bod mewn cysylltiad â hwy ar-lein yn unig fod yn beryglus. Gwnewch hynny â chaniatâd eich rhieni neu ofalwyr yn unig, a dim ond

    pan fyddant yn mynd gyda chi.

    A Derbyngar Gall derbyn e-byst, negeseuon gwib neu agor ffeiliau, lluniau neu negeseuon testun gan bobl nad ydych yn eu hadnabod arwain at broblemau. Gallant gynnwys firws

    neu negeseuon cas.

    R Dibynadwy Gall rhywun ar-lein fod yn dweud celwydd ynglŷn â

    phwy ydyn nhw, ac efallai nad yw gwybodaeth a gewch ar y rhyngrwyd yn ddibynadwy.

    T Dweud Dywedwch wrth eich rhieni, gofalwr neu oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt, os bydd rhywbeth neu rywun yn gwneud i chi deimlo’n anghyffyrddus neu’n

    bryderus. Gallant eich helpu i adrodd ar www.thinkuknow.co.uk, a siarad â rhywun a all helpu.

    ARHOSWCH a MEDDYLIWCH

  • Adnodd 6: Datganiadau a Senarios

    Rydych chi’n gwybod â phwy rydych chi’n

    siarad oherwydd eich bod yn gallu eu gweld

    Gallwch siarad â rhywun mewn gwlad

    arall

    Nid ydych chi’n gwybod â phwy rydych chi’n siarad oherwydd nad ydych yn gallu eu

    gweld

    Gallwch esgus bod yn

    rhywun arall

    Gallwch ddyfalu beth yw oedran y person

    Nid ydych yn gwybod a ydynt o ddifrif ai

    peidio

    Mae’n rhwydd deall beth mae pobl yn ei olygu oherwydd

    gallwch glywed tôn eu llais

    Mae’n rhaid i chi feddwl yn ofalus cyn rhoi gwybodaeth

    bersonol iddynt, megis lle’r ydych yn byw

  • Adnodd 6: Datganiadau a Senarios

    Wyneb yn Wyneb

    Ar-lein

    Y ddau

  • Cyfnod Allweddol 2 Cynllun Gwaith E-ddiogelwch

    Adnodd 7: Cwis Ymddiried mewn Cynnwys

    Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd ar y plant, un ai'n unigol neu mewn grwpiau bychain i gwblhau'r ymarfer hwn.

    Bydd angen i ddisgyblion ddefnyddio peiriant chwilio i ganfod yr atebion i’r

    cwestiynau hyn. Efallai y dymunwch ofyn i wahanol grwpiau ddefnyddio gwahanol beiriannau chwilio, i weld a fydd hyn yn effeithio ar yr atebion.

    Gofynnwch i ddisgyblion gofnodi atebion eu grŵp ar y daflen waith gysylltiedig,

    'Adnodd 8: Atebion y Cwis' gan nodi eu hateb, lle cawsant y wybodaeth (cyfeiriad y wefan) a pha beiriant chwilio a ddefnyddiwyd i ganfod y wybodaeth.

    Cwestiwn 1 Faint o filltiroedd i ffwrdd o’r Haul mae’r Ddaear? Ateb: 93 miliwn milltir Cwe