gwybodaeth i rieni - glan conwy · bywyd a’i gwaith ar werthoedd moesol, ysbrydol a dyngarol. 2...

101
2019-20 PROSBECTWS YSGOL

Upload: others

Post on 12-Feb-2021

3 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • 2019-20

    PROSBECTWS YSGOL

  • YSGOL GYNRADD GLAN CONWY

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

    LLAWLYFR GWYBODAETH I RIENI

    2019-2020

    Ysgol Gynradd Glan Conwy, Ffordd Top Llan, Glan Conwy, Conwy LL28 5ST

    Ffôn: 01492 580421 Ffacs: 01492 580421 E-bost: [email protected] Gwefan: www.glanconwy.conwy.sch.uk

    @ysgolglanconwy

    Pennaeth: Mrs E. Price Williams Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs Mary Oliver Poachers Retreat

    21 Y Bryn Glan Conwy LL28 5NJ

    Pennaeth Statudol Dr Lowri Brown Gwasanaethau Addysg: Gwasanaethau Addysg Adeiladau’r Llywodraeth Coed Pella Bae Colwyn LL29 7AZ

    Swyddog Cyswllt / Arolygydd / Ymgynghorydd: Ms Iona Evans Gwasanaethau Addysg Fel yr uchod

    Er bod y manylion yn y ddogfen hon yn gywir pan gyhoeddwyd hwy ni ellir rhagdybio na fydd unrhyw newid a all effeithio ar y trefniadau perthnasol cyn dechrau neu yn ystod y flwyddyn ysgol neu mewn blynyddoedd i ddod.

    Mae’r ddogfen hon ar gael mewn ffurfiau eraill.

    mailto:[email protected]://www.glanconwy.conwy.sch.uk/https://www.google.co.uk/url?sa=i&rct=j&q=&esrc=s&source=images&cd=&cad=rja&uact=8&ved=0CAQQjRw&url=https%3A%2F%2Fabout.twitter.com%2Fpress%2Fbrand-assets&ei=-IONU-DhDMrKOePmgegB&bvm=bv.68191837,d.ZWU&psig=AFQjCNFAYcq5G6vivA6lkvsOF2787DlDLA&ust=1401869688244898

  • CROESO

    Annwyl Rieni Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn hollbwysig. Mae’r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Glan Conwy, credwn y gallwn gynnig pob un o’r pethau hyn. Ein hegwyddor canolog yw ceisio datblygu doniau pob disgybl i’r eithaf a chadarnhau hunan-barch a gwerth pob disgybl. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod chi a’ch plentyn ac os fydd gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, cofiwch gysylltu â mi yn yr ysgol. Yn gywir

    E Price Williams

    E. PRICE WILLIAMS

    Pennaeth

  • NOD AC AMCANION

    NOD YR YSGOL

    Nod yr ysgol yw sicrhau addysg o’r ansawdd orau bosib i bob plentyn yn unol â’u hoedran, eu gallu a’u diddordebau er mwyn iddynt dyfu yn bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer eu holl doniau a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog. Creu amgylchfyd ac awyrgylch lle gall disgybl dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus, yn ymwybodol o werthoedd moesol a dyngarol, gan ddatblygu hunan-barch a goddefgarwch tuag at eraill, ac felly ein arwyddair yw ‘Tyfu Gyda’n gilydd.’ Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf bosibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr unigolyn, y gymdeithas, yr Awdurdod Addysg Lleol, y Cwricwlwm Cenedlaethol, Y Cyfnod Sylfaen a’r Llywodraethwyr. Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg fel y gallant gymryd rhan llawn ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y gymdeithas ddwyieithog y perthyn iddi.

    AMCANION CYFFREDINOL

    1 Cynnal a chodi safonau cyflwyniad disgyblion ym mhob maes cwricwlaidd yn unol â

    gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol. 2 Gosod seiliau ar gyfer sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol yn yr ysgol. 3 Sicrhau cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a chyfoethog. 4 Galluogi pob unigolyn i feithrin gwybodaeth, agweddau a medrau sy’n berthnasol i

    fywyd cyfoes, i addysgu am oes ac i ddefnyddio amser hamdden yn greadigol. 5 Sicrhau cyfleoedd cyfartal a mynediad i’r cwricwlwm cyflawn.

    AMCANION PENODOL

    1 Sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n rhan o gymdeithas ddisgybledig sy’n rhoi bri yn ei

    bywyd a’i gwaith ar werthoedd moesol, ysbrydol a dyngarol. 2 Meithrin parch a goddefgarwch tuag at bobl o bob cefndir, cred a diwylliant a sicrhau

    cyfleoedd cyfartal beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb, oedran neu anabledd.

    3 Sicrhau y datblygir gallu pob disgybl i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg fel cyfrwng

    dysgu yn unol â Pholisi Iaith yr Awdurdod Addysg. 4 Sicrhau bod dilyniant a datblygiad yn y profiadau a’r gweithgareddau a ddarperir a

    bod cyfran helaeth o’r profiadau hynny yn adlewyrchu natur bywyd a diddordebau’r disgyblion.

    5 Sicrhau bod pob maes yn rhoi sylw i’r Cwricwlwm Cymreig.

  • 6 Galluogi disgyblion i ddefnyddio eu medrau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg

    gwybodaeth a chyfathrebu mewn amrywiaeth o gyd-destunau cwricwlaidd. 7 Sicrhau y defnyddir dulliau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel fydd yn cynorthwyo

    disgyblion i ddatblygu meddyliau ymchwilgar a bywiog, y gallu i gwestiynu a thrafod yn rhesymol, i ddatrys problemau real ac i weithio’n annibynnol.

    8 Darparu amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol a fydd o gymorth i ddatblygiad

    personol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion. 9 Darparu cwricwlwm eang sy’n datblygu potensial llawn pob disgybl. 10 Hybu partneriaeth rhwng yr ysgol ac ysgolion tebyg yn Ewrop neu’n rhyngwladol er

    mwyn cyfoethogi’r Cwricwlwm a datblygu dealltwriaeth y disgyblion o wledydd eraill, eu hiaith a’u diwylliant.

    11 Datblygiad Staff Sicrhau cyfle i hyfforddi yr holl staff yn ôl gofynion ac anghenion y staff eu hunain,

    anghenion y disgyblion, y Cwricwlwm a Deddfau Addysg 1986, 1988 a 1993. 12 Ceisio gwella’r adeiladau a sicrhau eu bod yn ateb gofynion Iechyd a Diogelwch.

    Hybu glanweithdra tu mewn a thu allan i’r ysgol a chreu amgylchfyd ysgol ddiddorol. 13 Annog cyswllt rhwng yr ysgol –

    a’r cartref

    a’r gymuned

    ag ysgolion eraill (meithrin, cynradd ac uwchradd)

    a diwydiant a masnach

    a’r Awdurdod Addysg ag asiantaethau perthnasol eraill.

  • DISGRIFIAD O’R YSGOL Lleolir yr ysgol ym mhentref Glan Conwy, yn edrych dros aber yr afon Conwy. Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol Feithrin / Babanod / Iau. Mae’n ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol. Mae ynddi 125 o blant. Cyflogir 5 o athrawon gan gynnwys y Pennaeth. Mae 5 cymhorthydd dosbarth yn gweithio yn yr ysgol gan gynnwys cymhorthydd dysgu lefel uwch. Mae’r mannau chwarae yn cynnwys llain galed, cae a chorlan gaeedig i’r plant Meithrin a derbyn ac hefyd blwyddyn 1 a 2.

    POLISI DERBYN YR YSGOL

    Yn rhan amser ym mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed. Yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn 4 oed. O.N. Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am polisi derbyn yr ysgol, ac mae copi o’u polisi ar gael gan Adran Addys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, neu swyddfa’r ysgol.

    ORIAU DYSGU Meithrin - 12.5 awr yr wythnos Babanod - 21 awr yr wythnos Iau - 23.5 awr yr wythnos Sesiwn Bore Meithrin: 9:00a.m. - 11:30a.m. Sesiwn y Bore Babanod: 9:00a.m. - 12:00p.m. Sesiwn y Bore Cynradd: 9:00a.m. - 12:00p.m. Sesiwn y Prynhawn Babanod: 1:00p.m. - 3:00p.m. Sesiwn y Prynhawn Cynradd: 1:00p.m. - 3:30p.m.

  • TREFN YR YSGOL

    Medi 2019

    Mr S. Morris Meithrin 16 16 Miss C. Hughes Derbyn a 11 >29 Blwyddyn 1 18

    Mrs M. Evans Blwyddyn 2 12 >30

    Blwyddyn 3 18

    Mrs Rh. Evans Blwyddyn 4 16 >26 Blwyddyn 5 10

    Mr J. Parry Blwyddyn 5 88 26 Blwyddyn 6 18

    Mrs E. Price-Williams Pennaeth Athrawes ADY & CPA Staff Ategol Cogyddes / Gofalwraig – Mrs Myra Cox Goruchwyliwr Clwb Brecwast a Cinio / Glanhawraig – Mrs Debra Morrison Cynorthwyd Cegin – Mrs Margaret Cassidy Glanhawraig – Mrs Glenys Davies Ysgrifennyddes – Mrs Jane Wright Cydlynydd Amddiffyn Plant - Mrs Eifiona Price Williams Ail Gydlynydd Amddiffyn Plant - Mrs M.Evans Cydlynydd Plant Mewn Gofal - Mrs Eifiona Price Williams

    TREFNIANT YMWELD

    Gall rhieni sydd yn ystyried anfon eu plant i’r ysgol hon wneud trefniadau i ymweld â’r ysgol i gasglu rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â’r Brifathrawes ymlaen llaw. Gwahoddir rhieni sydd â’u plant yn dechrau o’r newydd ymweld â’r ysgol ym mis Mehefin, cyn i’r plant ddechrau yn yr ysgol ym mis Medi. Dylai rhieni a phob ymwelydd weld y Brifathrawes yn gyntaf pan yn ymweld â’r ysgol.

    Fel rhan o’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol, cewch cysylltu â Mrs E Price-Williams, pennaeth yr ysgol er mwyn trefnu cymorth os oes gan riant neu ofalwr anghenion

    ychwanegol yn ymwneud ag anabledd a/neu iaith, mater diwylliannol y bydd arnynt angen cymorth mewn digwyddiad arbennig.

    Canllawiau I Ymwelwyr Rhaid i unrhyw un sy’n dod ar dir yr ysgol ar gyfer gweithgaredd nad yw’n gysylltiedig â’r ysgol gyfyngu eu hunain i’w man dynodedig, a pheidio ag ymwneud â’r disgyblion agweithgareddau’r Ysgol. Sylwer: ni chaniateir unrhyw gerbyd ar dir yr Ysgol heb ganiatad gan y Pennaeth.

  • .

    Y CORFF LLYWODRAETHOL

    Cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Lleol: Mrs Mary Oliver – Cadeirydd Mr Dewi Rees-Williams Mr Dave Rees Cynrychiolydd y Cyngor Cymuned: Y Cynghorydd Mrs Sue Edmondson (Aelod Cyfetholedig) Cynrychiolwyr y Rhieni: Mrs Sarah Lesiter-Burgess

    Mrs Esther Clements Mrs Alison Peel

    Miss Kelly Hughes

    Aelodau Cyfetholedig: Mr Adrian Pugh Mr Howard Vaughan Cynrychiolydd yr Athrawon: Mrs Michelle Evans Cynrychiolydd y Staff Ategol: Mr Stuart Morris Pennaeth: Mrs Eifiona Price Williams

    CODI TÂL AM WEITHGAREDDAU

    Codir TÂL LLAWN ar rieni am y canlynol: 1 Am unrhyw ddifrod i eiddo’r ysgol a wneir yn fwriadol gan eu plentyn. 2 Costau ymweliadau preswyl a drefnir gan yr ysgol neu’r Awdurdod

    Addysg Lleol (oddigerth pan roddir hawl i eithro o dalu). 3 Gweithgareddau a gynhelir y tu allan i oriau ysgol. 4 Costau cludiant yn ôl a blaen i’r pwll nofio. 5 Gwersi offerynnol – megis gitâr. Gofynnir am gyfraniadau gwirfoddol tuag at gostau ymweliadau addysgol, ymweliadau â’r theatr a chost gwahodd grwpiau theatrig / perfformwyr i’r ysgol. Fe fydd talu am rhai o’r gweithgareddau yn bosib trwy’r gwefan – Parentpay.com

  • POLISI ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

    Gwybodaeth am y ddarpariaeth ADY

    Egwyddorion

    Mae’r ysgol hon yn anelu at sicrhau cyfle cyfartal cwricwlaidd a chymdeithasol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

    Mae’r ysgol hon yn anelu at gydweithio’n effeithiol ag asiantaethau statudol ac eraill perthynol i’r plentyn a’i anawsterau.

    Mae’r ysgol hon yn anelu at weithio’n agos gyda rhieni er mwyn sicrhau partneriaeth effeithiol i helpu’r plentyn.

    Mae’r ysgol hon yn anelu at sicrhau ymateb ysgol gyfan i helpu’r plentyn.

    Amcanion

    Sicrhau bod cyfundrefn yn bodoli yn yr ysgol i adnabod yn gynnar y plentyn sydd ag anawsterau a all fod yn llesteirio ei addysg.

    Casglu gwybodaeth ynghyd gan athrawon ac eraill i sicrhau y ceir y ddealltwriaeth orau am natur anawsterau’r plentyn.

    Sicrhau y caiff y ddarpariaeth angenrheidiol ei gwneud ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

    Ceisio sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rhieni ac eraill mewn perthynas ag adnabod a darparu gwasanaeth.

    Y Trefniadau ar gyfer cydlynu’r ddarpariaeth

    Y Cydlynydd ADY sy’n gyfrifol am gydlynu’r gwasanaeth o fewn yr ysgol. Mae’r Cydlynydd g yn atebol i’r Llywodraethwyr.

    Cyfrifoldebau’r Cydlynydd yw:

    Gweithredu’r polisi o ddydd i ddydd

    Cydgysylltu â chyd-athrawon a’u cynghori

    Cydgysylltu’r ddarpariaeth i ddisgyblion ag ADY

    Cynnal cofrestr ADY yr ysgol a goruchwylio cofnodion pob disgybl ag ADY gan gadw ffeil o wybodaeth a chofnod ymyrraeth berthnasol am y plentyn

    Cysylltu gyda rhieni plant ag ADY

    Cydgysylltu ag asiantaethau cynnal eraill, e.e., addysg, iechyd, cymdeithasol, gwirfoddol

    Sicrhau adolygu’r trefniadau’n rheolaidd

    Bwydo anghenion hyfforddiant i mewn i gynllun datblygu’r ysgol.

    Hunanarfarnu a monitro y ddarpariaeth o fewn yr ysgol a gweithredu ar y canfyddiadau.

    Bwydo’r canfyddiadau yn dilyn arfarnu a monitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth i mewn i’r CDY ac adrodd i’r llywodraethwyr.

  • Trefniadau Mynediad

    Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion ag ADY i mewn i’r ysgol drwy:

    gydweithio gyda’r asiantaethau cynnal wrth dderbyn plentyn o’r newydd.

    fynychu cyfarfodydd swyddogol, fel adolygiadau datganiadau, e.e., trosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd, symud o ysgol arbennig

    drafodaethau a derbyn gwybodaeth, e.e., symud o ysgol i ysgol

    bwysigrwydd trafod â rhieni

    ymdrin â’r cais mewn dull cadarnhaol ac o fewn yr amgylchiadau sy’n bodoli o fewn yr ysgol ar yr adeg dan sylw.

    GWELER Y POLISI LLAWN AR WEFAN YR YSGOL NEU GELLIR CAEL COPI O

    SWYDDFA YR YSGOL.

    Y CWRICWLWM

    Ceisir sicrhau bod yr addysg sy’n cael ei chynnig yn eang a chytbwys. Credir y bydd yr addysg yn hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pob plentyn sydd yn yr ysgol. Rydym hefyd am wneud yn siŵr bod y cwricwlwm yn addas ar gyfer pob plentyn, yn eang ac yn gytbwys.

    AMCANION CYFFREDINOL

    Datblygu sgiliau llafaredd, llythrennedd a rhifyddeg yng nghyd-destun symbylu chwilfrydedd, dychymyg a diddordeb y plentyn.

    Cynyddu gwybodaeth y plentyn a datblygu ei allu i resymu er mwyn ei gynorthwyo i addasu i fyd sy’n cyflym newid ac yn mynd yn fwy soffistigedig yn ei brosesau a’i dechnegau, yn arbennig mewn perthynas â thechnoleg hysbysiaeth.

    Creu ymhob plentyn yr awydd i geisio am fwy o wybodaeth a phrofiadau yn ystod ei fywyd a datblygu ei feddwl a’i synnwyr moesol ac ysbrydol.

    Cynorthwyo’r plentyn i fedru byw a gweithio gydag eraill a datblygu agweddau fydd yn ei alluogi i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas.

    Datblygu yn y plentyn sensitifrwydd, gwerthfawrogiad esthetig a sgiliau hamdden.

    Rhoi sylw arbennig i bob plentyn sydd ag anghenion arbennig, e.e. rhai eithriadol o alluog a rhai sydd dan anfanteision amrywiol.

    Cyflwyno syniadau a chysyniadau a hynny trwy ddulliau bywiog a deinamig sy’n hawlio ymateb y disgybl.

    Y cwricwlwm Cenedlaethol 2008 a chwricwlwm cytun Addysg Grefyddol yw sail holl feysydd llafur yr ysgol.

    Mae croeso i rieni / warchodwyr gysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod gwaith eu plant, yna trefnir amser sy’n gyfleus i’r rhieni a’r staff. Yn yr un modd mae posibl gwneud cais i weld unrhyw ddogfennau perthnasol.

  • Pwrpas cyfundrefn addysg yw creu sefyllfaoedd a chyflenwi adnoddau fydd yn galluogi pob plentyn i dyfu yn bersonoliaeth lawn, i ddatblygu ac ymarfer ei holl ddoniau, fydd yn darparu ar ei gyfer yn ôl oedran, gallu a diddordeb, ac yn ei gymhwyso i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog, yn aelod fydd yn gallu cyfrannu iddi a derbyn oddi wrthi, a byw mewn heddwch a brawdgarwch gyda’i gyd-ddyn.

    Y mae i’r datganiad cyffredinol hwn dair agwedd gyd-berthnasol:

    a) Galluogi pob plentyn i ddatblygu i’w lawn botensial.

    b) Sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gyflwyno i’r etifedd Gymreig.

    c) Rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu fel aelod llawn o gymdeithas sy’n prysur newid.

    Mae’n ofynnol i bob ysgol baratoi a datblygu cynllun cynhwysfawr, yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Bydd y cynllun hon yn cynnwys manylion am y cwrs addysg a’r modd y mae’n cael ei weithredu er mwyn sicrhau bod yr addysg a gyfrennir i’r disgyblion yn cyfarfod yn llawn â’r amcanion sydd yn y dogfennau.

    Ar gyfer pob Maes Dysgu mae’r rhaglen addysgol yn cyflwyno’r hyn y dylid ei ddysgu i blant ac mae’r deilliannau yn pennu safonau perfformio disgwyliedig y plant.

    Fe lunir polisïau a Chynlluniau Gwaith ar gyfer yr agweddau hyn ar y cwricwlwm gan yr ysgol ac mae modd trefnu gyda’r Pennaeth i weld y Polisïau a’r Cynlluniau Gwaith yma yn yr ysgol.

    Yng Nghyfnod Allweddol 2 o’r Cwricwlwm Cenedlaethol cynhwysir y meysydd canlynol:

    Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Celf a Dylunio,

    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Hanes, Daearyddiaeth, Celf, Cerddoriaeth,

    Addysg Grefyddol ac Addysg Gorfforol, ABACH, a Dinasyddiaeth Byd Eang.

    CYFNOD SYLFAEN Yn y Cyfnod Sylfaen mae’r Cwricwlwm yn hybu cyfle cyfartal a gwerthoedd ac yn dathlu amrywiaeth. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cwmpasu anghenion datblygiadol plant a’u sgiliau ar draws y cwricwlwm, gan adeiladu ar eu profiadau dysgu, gwybodaeth a sgiliau blaenorol.

    Mae’r ddogfen ‘Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru yn cyflwyno’r cwricwlwm a’r deilliannau ar gyfer plant 3 i 7 oed yng Nghymru yn ystod y Cyfnod Sylfaen.

    Mae saith Maes Dysgu i’r Cwricwlwm. Bydd y Meysydd Dysgu yma yn cyd-fynd a chydweithio â’i gilydd i ddarparu dull traws-gwricwlaidd o greu cwricwlwm perthnasol ac ymarferol.

    Y saith Maes Dysgu yw:

    Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol

    Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu

    Datblygiad Mathemategol

    Datblygu’r Gymraeg

    Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r BydDatblygiad Corfforol

    Datblygiad Creadigol.

  • PATRWM GWAITH

    Ceisir sicrhau bod yr addysg a ddarperir yn hybu datblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pob disgybl a bod natur y cwricwlwm cyflawn yn wahaniaethol, eang a chytbwys. I ymateb â’r gofynion hyn bydd trefniadaeth y dosbarth yn hyblyg; weithiau darperir gwaith ar sail oedran plant, dro arall bydd plant o ystod oedran sy’n rhychwantu mwy nag un blwyddyn ysgol yn cyd-weithio ar yr un dasg. Dysgir y plant fel uned dosbarth sydd o dan ofal un athrawes/athro sefydlog. Yn ôl awgrym Cyngor Cwricwlwm Cymru cynllunir ar sail wyth agwedd ar ddysgu gan gynnwys pynciau craidd a sylfaenol. Nodir cyfraniad y meysydd hyn mewn dull systematig yng nghofnodion yr athro/athrawes. Er mwyn sicrhau nag eithrir elfennau hanfodol o’r cwricwlwm cyflwynir y profiadau a’r gweithgareddau i blant yn draws-ddisgyblaethol drwy ddilyn themau penodol. Byddwn yn gwneud gwaith Thema fesul tymor yn yr ysgol hon. Cynllunir ar gyfer cylch o ddwy flynedd yng Nghyfnod Allweddol 2 a thair blynedd yn y Cyfnod Sylfaen.

    Byddwn yn ceisio plethu agweddau o’r pynciau o fewn y Cwricwlwm i’n gwaith thema. Os nad ydy hyn yn bosibl yna fe fyddwn yn eu dysgu ar wahan. Fe fydd sgiliau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn cael eu hintigreiddio ir gwaith thema a’u dysgu yn draws gwricwlaidd er mwyn sicrhau datblygiad y sgiliau yma gan pob plentyn. Trefnir ein gwaith yn ôl gallu / aeddfedrwydd / anghenion y disgyblion o dan ein gofal.

    Byddwn yn cynnal y disgyblion sydd angen mwy o gynhaliaeth ac arweiniad ond eto’n ymestyn y rhai sy’n fwy abl a thalentog gan sicrhau eu bod yn wynebu sialensiau fydd yn eu hymestyn ymhellach. Byddent yn cael eu haddysgu ar adegau mewn grwpiau o allu cymysg, ar adegau eraill oedrannau cymysg, galluoedd neu oedrannau tebyg, mae hyn yn hollol ddibynnol ar nod ac amcanion y wers neu’r dasg. Caiff y plant eu hannog i ddatblygu hunanhyder, annibyniaeth wrth ddysgu a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

  • POLISI IAITH

    Diffiniad yr Ysgol yn ôl Llywodraeth Cymru ydyw:

    Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg yn bennaf ond a defnydd sylweddol o’r Gymraeg

    Y Cwricwlwm – Mae disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen yn cael profiad o’r meysydd dysgu yn y naill iaith a’r llall ond rhoddir mwy o bwyslais ar y Saesneg. Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg wrth addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 ond rhoddir mwy o bwyslais ar y Saesneg. Mae’r Gymraeg yn gyfrwng addysgu ar gyfer 25% o’r cwricwlwm cynradd yn gyffredinol.

    Iaith yr Ysgol – Cyd-destun ieithyddol yr Ysgol sy’n pennu iaith neu ieithoedd yr Ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y nail iaith a’r llall i gyfathrebu a’r disgyblion ac yng ngweinyddiaeth yr Ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg. Mae’r Ysgol yn cyfathrebu a’r rhieni yn y naill iaith a’r llall. Nôd yr ysgol yw galluogi pob disgybl hyd eithaf eu gallu fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn iddynt fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni. Bydd unrhyw ohebiaeth rhwng yr ysgol a’r cartref yn ddwyieithog.

    AMCANION PENODOL Addysg Feithrin Sicrhau drwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y ddwy iaith er mwyn eu galluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd maes o law. Adran Babanod Adeiladu ar y sylfeini ieithyddol a osodwyd drwy’r addysg feithrin. Cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn ac ymestyn gafael y plentyn ar yr ail iaith, boed Gymraeg neu Saesneg. Adran Iau Cadarnhau a datblygu Cymraeg a Saesneg y disgyblion hyd eithaf eu gallu ieithyddol.

    Asesu Asesir y plant ar ddiwedd Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn ôl eu datblygiad ieithyddol. Penderfyniad yr ysgol fydd cyfrwng yr asesiadau. Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Fe fydd disgyblion blwyddyn 2 hyd blwyddyn 6 yn eistedd profion Cenedlaethol Darllen,Rhifedd ac Ymresymu Rhifedd yn unol a chanllawiau cenedlaethol

  • POLISI GWAITH CARTREF

    Mae gwaith cartref yn arf bwysig yng nghynlluniau pob ysgol i ymestyn profiadau’r ysgol i’r cartref, ac i ennyn diddordeb y rhieni yn natblygiad eu plant. NOD 1 Ymestyn profiadau’r ysgol i’r cartref. 2 Annog cydweithrediad y rhieni i sicrhau fod y plentyn yn cael y budd mwyaf o’r ysgol. 3 Codi ymwybyddiaeth y rhieni o lwyddiant a chyrhaeddiadau eu plentyn. AMCANION 1 Cael y plentyn i gymeryd diddordeb a gweld pwrpas yn ei waith. 2 Cael y plentyn i sylweddoli fod perthynas rhwng ei waith ysgol a’i amgylchfyd allanol. 3 Datblygu cydweithrediad rhwng y cartref a’r ysgol.

    CANLLAWIAU GWEITHREDU a) Adran Iau 1 Llyfrau darllen yn mynd adref yn wythnosol. 2 Gwaith amrywiol mewn mathemateg, sillafu, iaith ac ymchwilio i ffeithiau/gwybodaeth

    fydd yn ymwneud â’r thema. 3 Geiriau Sillafu Personol. Bydd y gwaith sillafu yn codi o waith y plant. Bydd yr athro

    dosbarth yn rhoi prawf anffurfiol. 4 Bydd y gwaith yn cael ei roi i’r plant ar ddydd Gwener a disgwylir y gwaith yn ôl ddydd

    Mercher yr wythnos ganlynol. b) Adran Babanod 1 Llyfrau darllen yn mynd adref yn rheolaidd. 2 Gwaith amrywiol mathemateg, sillafu a chwilio am wybodaeth fydd yn ymwneud â’r

    thema. 3 Bydd y gwaith yn cael ei roi i’r plant ddydd Iau / Gwener a disgwylir y gwaith yn ôl erbyn dydd Mercher yr wythnos ganlynol.

    c) Pawb 1 O dro i dro fe all athro/athrawes ofyn i blentyn wneud gwaith ychwanegol er mwyn

    dileu rhyw wendid, neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig o’r gwaith. Bydd yr athro/athrawes yn trafod y gwaith yma ymlaen llaw gyda’r rhieni.

    2 Sylweddolir mai cyfrifoldeb y cartref yw’r plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni’r cyfrifoldeb hwnnw y bydd y rhieni yn arwyddo’r cytundeb sydd ynghlwm yn cytuno neu’n anghytuno i’w plentyn gael gwaith cartref.

    3 Cedwir cofnod o’r gwaith cartref a osodwyd i’r plant a hefyd o’r plant a ddychwelodd / ni ddychwelodd y gwaith.

    4 Ni fydd sylwadau yn cael eu rhoi ar waith na ddychwelwyd ar amser. DIWEDDGLO Gobeithir cael cydweithrediad llwyr rhwng yr ysgol a’r cartref er mwyn sicrhau datblygiad llawn pob plentyn.

  • GOFAL BUGEILIOL

    Rhoddir pob plentyn yng ngofal athro/athrawes arbennig, ond ceisia’r staff cyfan ymorol am les yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgol hon yn annog plant i fod yn hunan-ddisgybledig, yn gyfrifol ac i barchu eraill. Gwyddom y cawn gefnogaeth rhieni yn hyn o beth.

    DATGANIAD POLISI: YMDDYGIAD A DISGYBLU DISGYBLION NOD

    Sefydlu awyrgylch tawel, cynhyrchiol a hapus yn ein hysgol.

    AMCANION

    Meithrin mesur cynyddol o hunanddisgyblaeth a bob disgybl i ddysgu derbyn cyfrifoldeb am ei ymddygiad ei hun.

    CANLLAWIAU GWEITHREDU

    1 Hyrwyddo agweddau gofalgar tuag at eraill ble cydnabyddir a gwerthfawrogir

    llwyddiant ar bob lefel.

    2 Sefydlu ymateb cyson a di-oed i faterion ymddygiad trwy’r 3 Dynodi beth yw ymddygiad diogel a derbyniol. 4 Codi ymwybyddiaeth o beth sy’n dderbyniol. 5 Gweithio gyda rhieni / gwarcheidwaid i gyflawni ein nod gyffredin. 6. Enwebu llywodraethwr i gydweithio’n agos gyda’r pennaeth i sicrhau fod y polisi hwn

    a pholisïau cysylltiedig eraill yn gyfredol.

    SIARTER YSGOL Cyflwynir y siarter hon ar ddechrau bob blwyddyn academaidd ac fe’i trafodir yn y dosbarth. Mae angen i bob disgybl arwyddo copi o’r siarter ac fe’i harddangosir ar ddrws y dosbarth neu leoliad gerllaw. SIARTER YSGOL GLAN CONWY Parchu pawb a phopeth Gweithio hyd eithaf eich gallu Helpu eich gilydd Gwrando’r tro cyntaf Gofyn am gymorth Siarad am bryderon Ymddwyn yn gwrtais Codi eich llaw

  • RHEOLAU’R DOSBARTH Mae rhestr o reolau penodol y disgwylir i bob disgybl eu dilyn i sicrhau fod y dosbarth yn lle diogel, cadarnhaol sy’n annog y disgybl i ddysgu. Enghreifftiau o’r rheolau hyn yw: 1) Gwrando ar yr athro 2) Eistedd yn iawn 3) Llaw i fyny i gyfrannu 4) Gweithio yn dawel ar ben eich hun 5) Gweithio’n daclus a gofalus 6) Cadw’r dosbarth yn daclus.

    CYNLLUN YMDDYGIAD CADARNHAOL YR YSGOL Er mwyn annog y disgyblion i gadw at y siarter a rheolau’r dosbarth, byddwn yn cydnabod ymddygiad da drwy roi canmoliaeth, pwyntiau tai, sêr / sticeri, slipiau newyddion da a thystysgrifau yn ogystal â defnyddio systemau gwobrwyo eraill.

    YSGOL GYFAN

    Sêr / Sticeri Rhoddir seren / sticer i bob disgybl sy’n ymddwyn yn dda gan gadw at siarter y dosbarth ac am weithio’n ymdrechgar yn ystod y dydd. Gwobrwyir disgyblion hefyd am waith safonol a chwrteisi.

    Gwasanaeth Gwobrwyo Rydym yn dathlu cyraeddiadau disgyblion mewn gwasanaeth arbennig bob bore Gwener. Mae tystysgrifau megis ‘Seren yr Wythnos’ a ‘Seren Cymraeg yr Wythnos’ yn cael eu dosbarthu i ddisgyblion o bob blwyddyn ysgol am berfformio’n dda a gweithio’n galed yn ystod yr wythnos. Mae’r disgyblion hefyd yn cael eu gwobrwyo am safon eu gwaith / gwelliant sylweddol yn eu gwaith a chwrteisi pan fo’n briodol.

    Tystysgrifau Misol Cyflwynir tystysgrifau arbennig mewn gwasanaeth misol pan fo disgybl wedi perfformio’n dda am fis cyfan. Mae lluniau disgyblion sydd wedi cael tystysgrifau wedi eu harddangos yn y neuadd. Gwobrwyir y plant fydd yn derbyn tystysgrif gyda amser chwarae ychwanegol ar ddiwedd pob mis.

  • Os yw plentyn yn dewis torri un o reolau’r dosbarth neu’r siarter ysgol, yna cymerir y camau canlynol:

    CYFNOD SYLFAEN

    MEITHRIN

    Sawl gwaith y torrir y rheolau

    Enghreifftiau o gosbau am dorri rheolau

    Y tro 1af

    Rhybudd llafar – eu hatgoffa o reolau’r dosbarth

    2il dro

    Cael Wyneb Trist

    3ydd tro – Golau gwyrdd

    Gweithio ar ben eu hunain am 5 munud, neu aros i mewn amser chwarae am 5 munud – ‘amser allan’

    4ydd tro – Golau oren

    Gweithio ar ben eu hunain am 10 munud neu aros i mewn amser chwarae Hysbysu’r rhieni o’r digwyddiad ar ddiwedd y diwrnod

    5ed tro – Golau coch

    Anfon y disgybl i weld y pennaeth Galwad ffôn i’r cartref neu siarad gyda’r rhiant amser mynd adref.

    BLWYDDYN - DERBYN, 1 a 2

    Sawl gwaith y torrir y rheolau

    Enghreifftiau o gosbau am dorri rheolau

    Y tro 1af

    Rhybudd llafar – eu hatgoffa o reolau’r dosbarth

    2il dro Golau Oren

    Derbyn – 5 munud oddi ar amser chwarae Bl.1 neu 2 – 10- munud oddi ar amser chwarae

    3ydd tro – Golau Coch

    ‘Amser allan’ , dim dewis. Dim amser chwarae. Dim ‘Awr Aur’ dydd Gwener

    Os yn cael Golau Coch dwy waith mewn wythnos neu yn aml.

    Hysbysu’r rhieni o’r digwyddiad/au ar

    ddiwedd y diwrnod neu trwy alwad ffôn.

  • DISGYBLION CYFNOD ALLWEDDOL 2

    Sawl gwaith y torrir y rheolau

    Enghreifftiau o gosbau am dorri rheolau

    Tro 1af Enw wedi ei ysgrifennu ar

    Olau Du

    Rhybudd llafar - eu hatgoffa o reolau’r dosbarth.

    2il dro Golau Oren

    Colli 10 munud o amser chwarae.

    3ydd tro Golau Coch

    Colli dau amser chwarae. Dim iPad am weddill y diwrnod.

    4ydd tro 2il Golau Coch

    neu Golau Coch yn aml

    Dim amser chwarae am wythnos. Anfon y disgybl i weld y pennaeth Cael gair gyda rhieni’r disgybl. Gwahodd y rhieni i’r ysgol.

    Mewn achos o gamymddwyn difrifol, e.e. ymladd, defnyddio iaith amhriodol etc bydd y disgybl yn cael ei anfon at y pennaeth yn syth. Gelwir y rhieni i’r ysgol. Os oes gan yr ysgol unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad y plentyn am unrhyw reswm e.e. os ydynt yn cael sawl ‘golau oren neu coch’ o fewn yr wythnos yna bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhieni ynghynt na’r uchod i drafod. Bydd bob disgybl yn dechrau’r wythnos gyda dalen lân, ac yn cael y siawns o gael ‘rybudd llafar’ bob dydd.

  • PARCHU EIN GILYDD ARWEINIAD GWRTH-FWLIO

    Rhesymeg

    Mae gan bawb yn Ysgol Glan Conwy yr hawl i deimlo’n gartrefol, yn ddiogel a hapus. A dyma’r unig ffordd i holl aelodau’r ysgol allu cyrraedd eu llawn botensial. Mae unrhyw fath o fwlio yn rhwystro gweithredu cyfleoedd cyfartal. Mae gan bawb gyfrifoldeb i atal bwlio, ac yn y polisi hwn mae canllawiau i gynorthwyo’r ethos hon. Os digwydd bwlio rhaid i ddisgyblion a dargedir fod yn ffyddiog y gall yr ysgol ddelio â’r broblem mewn modd effeithiol. Ein nod ydyw herio unrhyw fath o fwlio, cynyddu’r cydymdeimlad ag unrhyw ddisgybl/unigolyn a gaiff ei fwlio a helpu i ddatblygu ethos gwrth-fwlio o fewn yr ysgol. Mae’r ddogfen yn amlinellu ein dull ni o weithredu yn Ysgol Glan Conwy.

    Nod ac amcanion y polisi Nod – beth ydym yn gobeithio ei gyflawni Cyflawni cyfrifoldeb statudol yr ysgol i barchu hawliau ein disgyblion, eu diogelu a

    hyrwyddo eu lles Hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o beth yw bwlio Egluro ein dull o ymateb i adroddiadau o fwlio gan ystyried ein hoblygiadau cyfreithiol, a

    dangos ein hymrwymiad i sicrhau fod pob digwyddiad yn cael ei ymchwilio a’i drin gyda chysondeb

    Amlinellu’r strategau fyddwn yn eu defnyddio i hyrwyddo ethos gwrthfwlio a pharchu amrywiaeth

    Amddiffyn lles yr holl ysgol a rhoi’r neges briodol i staff, disgyblion a rhieni/gofalwyr.

    Amcanion – sut ydym yn bwriadu cyflawni ein nod Byddwn yn sicrhau bod rhieni, staff a disgyblion yn gwybod am ein polisi ac yn deall

    natur bwlio a’i effaith ar unigolion a chymdeithas Byddwn yn hyrwyddo diwylliant o barchu ein hunain ac eraill trwy raglen ysgol gyfan fel

    PATHs, Amser Cylch, Rheolau ac Amser Aur a thrwy raglenni cwricwlar y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2

    Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar barchu ein hunain ac eraill trwy: wasanaethau, Ffrindiau Buarth, annog y cyngor ysgol i fod yn rhagweithiol ac ymgyrchoedd gwrthfwlio

    Byddwn yn dangos nad yw bwlio’n dderbyniol trwy osod sancsiynau a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu unigolion a grwpiau a dargedwyd

    Byddwn yn cofnodi pob achos o fwlio a chadw golwg ar themâu sy’n ail adrodd ac effeithioldeb y strategau i atal bwlio

    Byddwn yn herio plant sy’n bwlio mewn modd cadarn ac anfygythiol a’u darparu â chefnogaeth i herio eu hymddygiad problematig.

    Cysylltiadau â Chanllawiau Cenedlaethol a Pholisïau Eraill yr Ysgol

    Lluniwyd y polisi hwn i gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Cydberthynas Hiliol 2000, Deddf Gwahaniaethau ar sail Anabled, Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Cydraddoldebau 2010.

  • Diffiniadau a therminoleg Defnyddir sawl diffiniad o fwlio, ond rydym yn ei ystyried yn weithred sy’n fwriadol niweidiol sy’n targedu unigolyn neu grŵp, ei fod yn cael ei ail adrodd dros gyfnod o amser, (gan gydnabod y gall un digwyddiad yn unig achosi trawma i’r disgybl a gall gael ei gategoreiddio fel bwlio). Mae sawl gwahanol fath o fwlio, ond rydym yn cydnabod pedwar prif fath o fwlio sef:

    corfforol – sy’n cynnwys: taro, cicio, cymryd neu ddifrodi eiddo, aflonyddu rhywiol neu ymosod

    llafar – sy’n cynnwys: galw enwau, sarhau, gwneud sylwadau tramgwyddus a bygwth

    anuniongyrchol – sy’n cynnwys: lledu storïau cas neu storiâu am rywun, eithrio o grwpiau cymdeithasol,

    seibrfwlio – sy’n cynnwys: defnyddio ffôn symudol a’r rhyngrwyd (gan gynnwys safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, e-bost, fideo a gwib negeseua), i achosi gofid i rywun arall.

    Bwlio a Chydraddoldeb Mae Ysgol Glan Conwy yn cymryd agwedd ddifrifol iawn tuag at bob math o fwlio ac yn ystyried bwlio corfforol, llafar, anuniongyrchol a seibr yr un mor ddifrifol. Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau o ddisgyblion mewn perygl uwch o gael eu bwlio gan gynnwys:

    disgyblion gydag anghenion arbennig neu anabledd

    disgyblion lesbiad, hoyw, deuryw a thrawsrywiol, a

    disgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol neu grefyddol

    Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi naw nodwedd a amddiffynnwyd (oed, newid rhyw, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw, a thueddiadau rhywiol). O dan y ddeddf hon mae dyletswydd arnom i:

    gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erlid ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf;

    ymestyn cyfle cyfartal rhwng pobl gyda’r un nodwedd a amddiffynnwyd a rhai nad oes ganddynt rai; a

    meithrin perthynas dda rhwng pobl gyda nodwedd a amddiffynnwyd rhai nad oes ganddynt rai.

    Rydym yn arbennig awyddus i fonitro achosion sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r nodweddion a amddiffynnwyd. Bydd achosion o’r fath yn cael eu trin yn benodol gyda’r bwli (a’r rhieni / gofalwyr ble bo’n briodol) wrth reoli ar ôl y digwyddiad. Byddwn yn mabwysiadu ffordd fwy rhagweithiol o hyrwyddo parch tuag at amrywiaeth ac yn atal a lleihau effaith rhagfarn a gwahaniaethu os canfyddir tueddiadau sy’n awgrymu bod rhywbeth i bryderu amdano. Gofelir, pan fo hynny’n angenrheidiol, i gofnodi unrhyw ddigwyddiadau o natur erlid rhywiol a gormesol yn unol â’r drefn a geir yn y Protocol Amddiffyn Plant. Cofnodir achosion o fwlio gydag elfen neu anogaeth hiliol yn unol â disgwyliadau “Canllawiau a Gweithdrefnau i Ddelio Gyda Digwyddiadau Hiliol”.

    Sgôp y Polisi

    Mae’r polisi yn berthnasol yn bennaf i safle’r ysgol gan nad oes gan yr ysgol gyfrifoldeb uniongyrchol am fwlio sy’n digwydd mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae gennym fel ysgol ddiddordeb parhaus yn lles ac ymddygiad ein disgyblion, ac os byddwn yn clywed am

  • fwlio y tu allan i dir yr ysgol sy’n effeithio ar ein disgyblion byddwn yn cymryd y camau priodol i ofalu amser am les ein disgyblion. Gall hyn gynnwys:

    Siarad â swyddog cyswllt yr heddlu i benderfynu ar y ffordd orau i ymateb i sefyllfa

    Dweud wrth gwmnïau bysys am unrhyw achosion ar gludiant yr ysgol

    Cefnogi plant a’u rhieni i gyfyngu’r niwed achosir gan seibr-fwlio, e.e. dileu unrhyw ddelweddau/negeseuon annifyr o’r we

    Siarad â disgyblion am sut i osgoi a delio ag achosion sy’n digwydd y tu allan i’r ysgol a beth allant ei wneud os gwelant rywun yn bwlio

    Cynnwys rhieni, aelodau’r gymuned leol a/neu asiantau allanol perthnasol

    Trafod gyda phennaeth yr ysgol arall pan fo disgyblion o’r ysgol arall yn gysylltiedig â bwlio

    Annog y plant i beidio â dioddef yn dawel

    I bwy mae’r polisi’n berthnasol? Mae’r polisi’n berthnasol i bawb ar dir yr ysgol gan gynnwys yr holl staff, rhieni/gofalwyr, disgyblion a gwirfoddolwyr. Rydym yn cydnabod y bydd y rhan fwyaf o achosion o fwlio yn cynnwys plant yn bwlio disgyblion eraill, ond byddwn yn defnyddio egwyddorion y polisi hwn i ymchwilio a thrin achosion sy’n cynnwys grwpiau ar dir yr ysgol. Mae canllaw ym mholisi disgyblu’r staff a bydd y camau a amlinellwyd yn ein polisi ‘Diogelu Plant’ yn cael ei weithredu os bydd plant yn dweud am achosion difrifol o fwlio y tu allan i’r ysgol.

    Cyflwyno addysg gwrthfwlio Nod ein haddysg gwrth-fwlio yw hyrwyddo ethos o barch drosom ein hunain ac eraill. Rydym yn cydnabod ein bod yn byw mewn cymdeithas amrywiol a byddwn yn hyrwyddo dealltwriaeth a pharch dros bawb gan gynnwys: pobl o wahanol gefndiroedd hil, diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol, pobl gydag anabledd corfforol a dysgu. Ni fydd ein rhaglen yn barnu, heb stereoteip na stigmateiddio. Ni ddylai credoau personol ac agwedd staff neu asiantau allanol ddylanwadu ar ein rhaglenni addysg.

    Rheoli digwyddiadau a gysylltwyd â bwlio

    Mathau o ddigwyddiadau Gall digwyddiad fod yn annisgwyl, felly mae gennym ganllawiau manwl yn eu lle i gefnogi staff wrth gymryd camau priodol. Fel arfer bydd bwlio yn golygu disgyblion yn bwlio disgyblion eraill ond rydym yn cydnabod y gall fod yna achosion o aelodau o staff yn cael eu bwlio gan ddisgyblion neu’r gwrthwyneb. Os bydd disgybl yn dweud ei fod yn cael ei fwlio gan rieni/gofalwyr neu oedolion eraill bydd yn cael ei drin fel mater amddiffyn plant. Gall y math o ddigwyddiad gynnwys: galw enwau, ymosod corfforol, bygwth, dylanwadu ar, lledaenu gwybodaeth bersonol am rywun a gwahardd. Bydd pob achos yn cael ei drin o ddifrif a bydd y pennaeth yn cael ei hysbysu. Pan fo angen penderfynu ynghylch y gweithredu mwyaf priodol, bydd lles a diogelwch disgyblion a’r holl ysgol yn flaenoriaeth.

    Bydd achosion yn cael eu hymchwilio er mwyn cael y darlun cyfan (weithiau bydd gan blant

    sy’n bwlio gefndir o gamdriniaeth/bwlio gan eraill) Byddwn yn hysbysu heddwas cyswllt yr

    ysgol pan ddatgelir neu amheuir gweithgaredd troseddol.

    Ymateb i achosion Gweithredir fel a ganlyn:

    Siarad gyda’r unigolion sy’n gysylltiedig ag unrhyw ddigwyddiad o fwlio a gofnodwyd

    Siarad gyda rhieni/gofalwyr y dioddefwyr a’r gormeswyr honedig

    Cyfeirio digwyddiadau difrifol at sylw’r cydlynydd gwrth-fwlio

    Gwahodd rhieni/gofalwyr y disgyblion dan sylw i ddod i’r ysgol i drafod y digwyddiad

  • Hysbysu’r pennaeth ar unwaith

    Gweithredu’n gyflym ac yn briodol.

    Cefnogaeth i’r Unigolyn a Dargedwyd

    Bydd yr ysgol yn cynnig cymorth rhagweithiol, llawn cydymdeimlad a chefnogaeth i blant a dargedwyd gan fwli. Penderfynir natur yr ymateb gan anghenion arbennig yr unigolyn, a gall gynnwys:

    ymateb ar unwaith i rwystro’r digwyddiad, a diogelu’r unigolyn

    cadarnhad positif mai dweud am y digwyddiad oedd y peth cywir i’w wneud

    rhoi sicrwydd nad yr unigolyn a dargedwyd oedd yn gyfrifol am ymddygiad y bwli

    strategaethau i atal digwyddiadau pellach

    mynegi cydymdeimlad ac empathi

    cynghori

    cysuro cyfeillgar

    hyfforddiant pendantrwydd/datblygu hunan barch

    goruchwyliaeth/monitro ychwanegol

    creu grŵp cefnogi

    cymodi/mentora cyfoedion

    hysbysu/cynnwys rhieni/gofalwyr

    oedolyn yn cymodi rhwng gormeswr a dioddefydd (gan ofalu nad yw’r perygl yn cynyddu i’r un a dargedwyd)

    trefnu i adolygu cynnydd.

    Cefnogaeth i’r bwli

    Mae Ysgol Glan Conwy yn cymryd agwedd ddifrifol iawn tuag at fwlio, ac yn mabwysiadu dulliau cefnogol, pragmataidd, a cheisio datrys problemau mewn modd fydd yn galluogi gormeswyr i addasu eu hymddygiad. Credwn fod defnyddio sancsiynau yn yr ysgol yn ddefnyddiol i hyrwyddo newid ac i ddangos i rai sy’n bwlio nad yw eu hymddygiad yn dderbyniol. Bydd yr ymateb yn cael ei benderfynu gan anghenion unigol y plentyn a difrifoldeb y digwyddiad a gall gynnwys:

    gwobrau/atgyfnerthu cadarnhaol i blant er mewn hyrwyddo newid a rheoli ymddygiad annerbyniol

    gweithredu ar unwaith i rwystro bwlio sy’n digwydd

    gofalu fod bwlis yn sylweddoli nad yw eu hymddygiad yn dderbyniol

    colli manteision awr ginio/amser chwarae

    anfon plant i ‘gyfnod cosb’

    eu tynnu allan o ddosbarth/grŵp

    hysbysu rhieni/gofalwyr

    cynghori/cyfarwyddiadau ar ffyrdd gwahanol o ymddwyn

    cyfeirio at sylw’r gwasanaeth cynhwysiad cymdeithasol

    bod yn gyfryngwr rhwng y bwli a’r un a dargedwyd (os yn dderbyniol)

    cyfnod pendant o waharddiad

    gwaharddiad parhaol (mewn achosion difrifol a allai gynnwys trais).

  • Cofnodi achosion

    Cedwir cofnod o BOB achos o fwlio ar ffurflen Bwlio Conwy.

    Cyfrinachedd a diogelu plant Efallai y bydd angen cychwyn y Drefn Amddiffyn Plant lleol os yw diogelwch neu les disgybl

    (neu ddisgybl arall) dan fygythiad. Mae dyletswydd ar y bobl broffesiynol sy’n ymwneud i

    gyfnewid gwybodaeth er mwyn diogelu “plentyn” gan gadw at Weithdrefnau

    Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008. Ni all athrawon na phobl broffesiynol addo cyfrinachedd diamod i ddisgyblion mewn achosion o fwlio a dylid gwneud hyn yn glir o’r cychwyn. Os bydd disgybl yn datgelu gwybodaeth sy’n sensitif, nad yw’n gyffredinol hysbys ac mae’r disgybl yn gofyn iddo beidio cael ei ddatgelu, bydd yn cael ei drafod gyda’r pennaeth/cydlynydd diogelu. Bydd y cais yn cael ei anrhydeddu, fodd bynnag bydd cyfrinachedd yn cael ei dorri yn groes i ewyllys y disgybl pan:

    fo problem diogelu mae bywyd unigolyn mewn perygl o niwed difrifol i eraill trosedd yn cael ei datgelu. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud pob ymdrech i hysbysu’r disgybl yn gyntaf, esbonio pam fod angen i hyn ddigwydd a chael caniatâd y disgybl ynghylch y modd mae’r ysgol yn bwriadu defnyddio unrhyw wybodaeth sensitif. GELLIR GWELD COPI CYFLAWN O’R POLISI AR WEFAN YR YSGOL NEU GELLIR GOFYN AM GOPI O SWYDDFA’R YSGOL.

    DATGANIAD POLISI: ADDYSG RHYW A PHERTHNASOEDD

    Rhesymeg

    Mae Ysgol Glan Conwy yn anelu i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol, emosiynol a chorfforol bob dysgwr ac sy’n eu paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a heriau bywyd fel oedolyn. Mae llywodraethwyr a staff ein hysgol yn credu fod ABCh yn elfen hanfodol mewn addysg gytbwys a holistig. Addysgir ARhPh yn ein hysgol yng nghyd-destun y cyfnod sylfaen a Fframwaith ARhPh Cymru. Credwn y bydd rhaglen ARhPh a gynlluniwyd yn dda yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr i wneud dewisiadau diogel a chyfrifol wrth iddynt dyfu i fyny. Rydym yn cydnabod ein bod yn byw mewn cymdeithas amrywiol ac y bydd dysgwyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd teulu. Bydd ein rhaglen ARhPh yn anelu i fod yn sensitif a pharchu gwahaniaethau wrth alluogi dysgwyr i ddeall y gwahaniaeth rhwng perthnasoedd iach a pherthnasoedd nad ydynt yn iach a gwerthfawrogi pwysigrwydd amgylchedd sefydlog, diogel a chariadus ar gyfer bywyd teuluol.

    Nodau

    Bydd ein rhaglenni astudio yn anelu i helpu dysgwyr i symud o blentyndod trwy lencyndod i oedolaeth:

  • Datblygu agweddau cadarnhaol a gwerthoedd sy’n dylanwadu ar y ffordd maent yn ymddwyn

    Dechrau datblygu sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus i gadw eu hunain yn iach a ffurfio perthnasoedd iach

    Deall agweddau corfforol ac emosiynol blaen lencyndod

    parchu eu hunain ac eraill

    Gwerthfawrogi amrywioldeb a dathlu gwahaniaeth

    Adeiladu perthnasau llwyddiannus ac iach

    Gwerthfawrogi pwysigrwydd perthnasoedd personol sefydlog a chariadus

    Adnabod y gwahaniaeth rhwng cyffwrdd ac ymddygiad priodol ac amhriodol

    Gwybod sut i gael cyngor a chefnogaeth briodol

    Cyflwyno’r rhaglen ARhPh Yn y Cyfnod Sylfaen bydd ARhPh yn cael ei gyflwyno trwy’r agweddau cwricwlwm canlynol yn bennaf: Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywioldeb Diwylliannol a Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd. Mae ARhPh yn ffurfio rhan o ddarpariaeth ABCh yr ysgol yn CA2 gyda gwyddoniaeth ac addysg grefyddol yn cyfranu at agweddau penodol. Bydd y cydlynydd ABCh yn gyfrifol am gydlynnu darpariaeth ARhPh a darparu cefnogaeth i athrawon dosbarth • Bydd athrawon dosbarth fel arfer yn gyfrifol am ddarparu’r rhaglen, ynghyd â chefnogaeth gan y nyrs ysgol. • Addysgir ARhPh mewn grwpiau rhyw cymysg gyda sesiwn ddilynol merched neu fechgyn yn unig gyda’r nyrs Ysgol

    Gweithio gyda rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach

    Mae gan rieni/gofalwyr hawl i dynnu eu plentyn o addysg rhyw a gofynnir i’r rhai sy’n dymuno defnyddio’r hawl hwn hysbysu’r pennaeth yn ysgrifenedig fel nodir ym mhrosbectws yr ysgol. Bydd yr ysgol yn ymgynghori â rhieni ar y rhaglen ABCh trwy bostio gwybodaeth ar wefan yr ysgol a chynnal nosweithiau rhieni.

    SALWCH / DAMWAIN

    NOD

    Sicrhau fod lles a diogelwch plentyn yn cael ei ddiogelu mewn unrhyw argyfwng.

    Sicrhau fod yr athrawon, staff ategol, rhieni a gwarcheidwad yn gwybod beth yw’r drefn gweithredu mewn argyfwng.

    AMCANION 1. Sicrhau fod pawb yn yr ysgol yn gyfarwydd â lleoliad blwch Cymorth Cyntaf.

    2. Sicrhau fod cyfeiriadau a rhifau teleffon pob plentyn ar gael yn hwylus i holl staff yr ysgol.

    3. Sicrhau fod cyfeiriadau a rhifau teleffon man gwaith y rhieni ar gael yn hwylus.

    4. Sicrhau fod cyfeiriadau a rhifau teleffon meddyg teulu pob plentyn a’r ysbyty leol ar gael.

    5. Sicrhau fod yr ysgol yn gwybod am unrhyw gyflwr iechyd a all amharu ar y plentyn yn ystod ei amser yn yr ysgol e.e. caethder, clefyd siwgwr, clyw, golwg.

    CANLLAWIAU CYFFREDINOL 1. Rhaid i rhiant/gofalwr pob plentyn lenwi ffurflen yn rhestru’r manylion uchod (2-5).

  • 2. Dylai rhieni/gofalwyr hysbysu’r ysgol yn syth os bydd newidiadau yn y manylion.

    Dylai rhieni/gofalwyr unai gysylltu â’r Pennaeth yn bersonol neu ysgrifennu llythyr yn amlinellu unrhyw newidiadau.

    3. Fe fydd y Pennaeth yn gyfrifol am sicrhau fod gan staff cymhwyster Cymorth Cyntaf Cyfredol.

    4. Hysbysir y rhieni fod gan yr ysgol hawl i weithredu mewn unrhyw argyfwng os methir â chael eu caniatad mewn pryd.

    Salwch 1. Ni roddir unrhyw foddion i’r plentyn os nad yw’r moddion yn dyngedfenol i iechyd y

    plentyn a hynny am dymor hir. Dylid ategu’r dymuniad yma gyda nodyn gan y meddyg teulu neu lenwi ffurflen sydd ar gael gan y Pennaeth. Dylid labelu unrhyw foddion gyda enw’r plentyn a’i gadw gyda’r cyfarwyddiadau mewn lle diogel a ellir ei gloi os y bydd angen.

    2. Mae rhyddid i’r rhieni ddod i mewn i roi moddion i’w plentyn.

    3. Hysbysir y rhieni os yw plentyn yn sâl neu wedi bod yn cwyno drwy alwad ffôn neu gan yr athro dosbarth.

    4. Os yw’r plentyn yn sâl ac y teimlir y dylai adael yr ysgol gwneir trefniadau i riant ddod i nôl y plentyn o’r ysgol.

    5. Aelod o’r staff sydd â chymhwyster cymorth cyntaf fydd yn gwneud yr asesiad cyn cynghori’r Pennaeth.

    6. Cedwir moddion mewn lle diogel i ffwrdd o blant.

    GWEITHDREFN DAMWAIN

    a. Mân anafiadau

    Fe gaiff mân anafiadau megis sgriffiadau, chwydd a briwiau bychain eu trin ac fe fydd y rhieni / gofalwyr yn cael eu hysbysu ar ôl ysgol.

    b. Anafiadau seriws

    Fe fydd anafiadau seriws megis toriad croen drwg, ergyd llym i’r pen ayyb. yn derbyn triniaeth argyfwng priodol a caiff y rhiant / gofalwr ei hysbysebu yn syth. Os na ellir cysylltu â’r rhieni / gofalwyr, cysylltir â meddyg y disgybl am gyngor. Os na fydd rhiant / gofalwr yn gallu nôl y disgybl ar frys, fe fydd aelod o staff yn mynd a’r disgybl at y meddyg neu’r ysbyty neu cysylltir â’r gwasanaeth argyfwng ar unwaith.

    c. Anafiadau difrifol

    Pan mae anafiadau difrifol megis braich / coes wedi torri, anymwybodolrwydd, gwaedu difrifol ayyb. cysylltir â’r gwasanaethau argyfwng ar unwaith a bydd y disgybl yn cael ei gysuro ac yn derbyn y driniaeth argyfwng addas. Cysylltir â’r rhieni / gofalwyr a chaiff y disgybl eu hebrwng i’r ysbyty gan aelod o staff os na fydd rhiant / gofalwr wedi cyrraedd mewn pryd. Os bydd damwain yn digwydd yn yr ysgol bydd aelod o staff yn galw ar aelod o staff sydd â chymhwyster Cymorth Cyntaf i ddelio â’r broblem fel bod arolygiaeth o’r plant eraill yn cael ei gynnal. Pan yn delio â gwaedu neu taflu fyny dylai staff wisgo menyg.

  • Bydd dau aelod o staff yn delio â anaf sy’n golygu symud / tynnu unrhyw ddilledyn. Caiff pob damwain ac eithro mân anafiadau cael eu cofnodi yn y llyfr damweiniau a gedwir yn y swyddfa.

    Damweiniau i ddisgyblion sy’n cynnwys y pen

    Gall damweiniau sy’n cynnwys pen disgybl fod yn broblemus gan na fydd yr anaf yn amlwg

    pob amser a’r effaith yn amlygu ei hun ar ôl cyfnod o amser. Pan nad oes angen triniaeth argyfwng, bydd staff yr ysgol yn monitro’r plentyn am unrhyw arwydd o ysgydwad

    (concussion), hysbysir rhieni / gofalwyr unai trwy galwad ffôn neu gan yr athro/athrawes

    oherwydd y risg o ddatblygu ysgydwad (concussion) ar ôl cyfnod o amser.

  • POLISI FFÔN SYMUDOL

    Nod

    Nod y polisi yw hyrwyddo ymarfer diogel a phriodol trwy sefydlu canllawiau defnydd derbyniol clir a chadarn. Cyflawnir hyn trwy gydbwyso amddiffyn yn erbyn camddefnydd posib gan gydnabod fod ffonau symudol yn declynnau cyfathrebu effeithiol - sydd yn eu tro yn gallu cyfrannu at ymarfer diogelu ac amddiffyn.

    Sgôp Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob unigolyn sydd â ffôn symudol personol ar safle. Mae hyn yn cynnwys staff, gwirfoddolwyr, aelodau pwyllgor, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, ymwelwyr a defnyddwyr cymunedol. Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn.

    Datganiad polisi Cydnabyddir mai galluoedd soffistigedig nifer o ffonau symudol sy’n achosi’r pryder mwyaf, ac yn fwyaf tueddol o gamddefnyddio. Mae camddefnyddio yn cynnwys cymryd a dosbarthu delweddau anweddus, ecsploetio a bwlio. Gwerthfawrogir y gall fod yn anodd iawn canfod pan fydd dyfeisiadau yn bresennol neu’n cael eu defnyddio, yn arbennig o ran pethau megis camerâu. Mae’r defnydd o bob ffôn symudol yn gyfyngedig, waeth beth yw’r gallu. Y nod yw osgoi amharu a tharfu ar y diwrnod ysgol ac i leihau’r cyfleoedd i unrhyw unigolyn wneud unrhyw ddelweddau cudd neu gamddefnyddio ffonau mewn unrhyw ffordd arall.

    Cod ymddygiad Hyrwyddir cod ymarfer gyda’r nod o greu gweithlu cydweithredol, ble mae staff yn gweithio fel tîm, yn meddu ar werthoedd uchel ac yn parchu ei gilydd; gan greu morâl cryf a theimlad o ymroddiad yn arwain at gynhyrchedd uwch. Felly sicrheir fod gan bob ymarferydd: • Ddealltwriaeth glir o beth yw camddefnyddio. • Gwybod sut i leihau risg. • Osgoi rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus a ellir eu camddehongli • ac arwain at honiadau posib. • deall yr angen ar gyfer ffiniau proffesiynol a chanllawiau clir ar • ddefnydd derbyniol. • yn gyfrifol am hunan-gymedroli eu hymddygiad eu hunain. • yn ymwybodol o bwysigrwydd dweud ynghylch pryderon yn syth. Cydnabyddir yn llawn bod astudiaethau yn dangos yn gyson fod gosod rheoliadau a/neu waharddiadau ar weithredoedd yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol, gan arwain at ddiwylliant o ddrwgdybiaeth, ansicrwydd a chyfrinachedd. Felly rydym yn osgoi gosod rheolau llym, anhyblyg, oni bai fod y risgiau posib o beidio eu gorfodi yn llawer mwy na’r manteision. Felly hyrwyddir cytundeb o ymddiriedaeth o ran cario a defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol, a gytunir gan bob ymarferwr.

  • FFONAU SYMUDOL PERSONOL

    • Ni chaniateir i staff wneud/ateb galwadau/negeseuon testun yn ystod amser gwaith (ac

    eithrio amser egwyl)

    • Dylai staff sicrhau fod ffonau symudol yn cael eu diffodd neu yn dawel tra ar dir yr ysgol. Dylid eu cadw o’r golwg (e.e. drôr, bag llaw) a pheidio eu gadael ble gellir eu gweld.

    • Os bydd gan aelod o staff reswm arbennig (e.e. perthynas yn ddifrifol wael), byddant

    wedi dweud wrth y pennaeth a gallant adael eu ffôn ymlaen yn ystod oriau gwaith i gymryd galwad frys neu ddweud wrth swyddfa’r ysgol y bydd galwad frys o bosib yn cael ei gwneud i ffôn yr ysgol.

    • Ni chaniateir i staff ddefnyddio offer recordio ar eu ffonau symudol, er enghraifft: i

    recordio plant, neu rannu delweddau.

    • Ni ddylid defnyddio ffonau symudol yn rhywle ble mae plant yn bresennol (ee. dosbarth, buarth).

    • Cynghorir staff i beidio rhoi eu rhif ffôn cartref neu eu rhif ffôn symudol i ddisgyblion.

    Dylid ond cyfathrebu dros ffôn symudol pan fo’n angenrheidiol.

    • Ni ddylid cymryd lluniau a fideos o ddisgyblion gyda ffonau symudol. • Cynghorir staff i beidio â defnyddio rhifau ffôn symudol disgyblion un ai i wneud neu

    gymryd galwadau ffôn neu i anfon neu gael negeseuon testun disgyblion. • Ni ddylai staff gymryd rhan mewn sgyrsiau negeseuon ar unwaith (instant messaging)

    gyda disgyblion. • Gall unrhyw aelod o staff sy’n defnyddio ffôn symudol heb ganiatâd wynebu camau

    disgyblu gan y corff llywodraethol. Mewn rhai amgylchiadau, gellir ystyried torri’r polisi hwn fel camymddwyn difrifol gan olygu terfynu cyflogaeth. Dylai defnyddwyr ddweud wrth y pennaeth os amheuir bod y polisi wedi ei dorri.

    DEFNYDD DISGYBLION Rydym yn cydnabod fod ffonau symudol yn rhan o fywyd bob dydd i nifer o blant a’u bod hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth helpu disgyblion i deimlo yn ddiogel. Felly rydym yn hapus i ganiatáu i ddisgyblion ddod a’u ffonau symudol i’r ysgol os byddant yn dilyn ychydig o ganllawiau syml. Mae hyn yn cynnwys tripiau ysgol, tripiau preswyl a gweithgareddau allgyrsiol. • Dim ond disgyblion ym mlwyddyn 5 a 6 sy’n cael dod a’u ffonau symudol i’r ysgol • Oni bai y cafwyd caniatâd gan y pennaeth. • Bydd ffonau symudol yn cael eu rhoi i athro dosbarth y disgybl ar ddechrau’r diwrnod, a’u

    cloi yn ystod y diwrnod ysgol a’u casglu ar ddiwedd y diwrnod. • Ni chaniateir i ddisgyblion ddefnyddio eu ffonau symudol ar safle ar ddechrau neu

    ddiwedd y diwrnod ysgol. • Os yw disgyblion yn cael eu dal yn defnyddio eu ffôn, neu un a “fenthycwyd” yn ystod y

    diwrnod ysgol, y tu hwnt i’r canllawiau uchod, bydd y ffôn (gan gynnwys y cerdyn sim) yn cael ei gymryd i swyddfa’r ysgol ble gellir ei gasglu ar ddiwedd y diwrnod; hysbysir y rhieni.

  • • Yr ail dro mae disgybl yn cael ei ddal; cymerir y ffôn ganddynt yn ystod y diwrnod ysgol

    am weddill yr wythnos (neu’r wythnos ganlynol os cymerir y ffôn ar ddydd Gwener). • Y trydydd tro mae disgybl yn cael ei ddal cymerir y ffôn oddi arnynt i swyddfa’r ysgol.

    Cysylltir â’r rhieni a gofynnir iddynt ddod i’r ysgol i gyfarfod gydag uwch aelod o staff. Mae gan yr ysgol yr hawl i wrthod caniatáu i droseddwyr parhaus i ddod a ffôn symudol i’r ysgol.

    (dylid dehongli “defnyddio” fel siarad, anfon neges destun, cymryd lluniau neu wrando ar gerddoriaeth. Os nad yw ffôn wedi ei ddiffodd ac yn canu mewn gwers dylid rhoi rhybudd ond ni ddylid cymryd y ffôn oddi arnynt.)

    GWIRFODDOLWYR, YMWELWYR, LLYWODRAETHWYR A CHONTRACTWYR

    Disgwylir i holl wirfoddolwyr, ymwelwyr, llywodraethwyr a chontractwyr ddilyn ein polisi ffonau symudol tra ar dir yr ysgol.

    RHIENI

    Gall rhieni ond ddefnyddio ffonau symudol ar gyfer achosion brys pan fyddant ar dir yr ysgol a dywedir yn glir wrthynt y byddai’n well gennym nad ydynt yn defnyddio eu ffonau o gwbl tra eu bod yn yr ysgol.

    Fodd bynnag, rydym yn caniatáu i rieni ddefnyddio ffonau i dynnu llun neu fideo EU

    PLENTYN EU HUNAIN mewn digwyddiadau ysgol megis sioeau a mabolgampau.

    Mynnwn nad yw rhieni yn cyhoeddi unrhyw ddelweddau (e.e. ar Facebook) sy’n cynnwys plant heblaw rhai eu hunain.

    Bydd y polisi ffonau symudol yn cael ei rannu gyda staff a

    gwirfoddolwyr fel rhan o’u hanwythiad.

    Gwerthfawrogwn gefnogaeth pawb wrth weithredu’r polisi hwn er

    mwyn cadw ein disgyblion yn ddiogel.

    Rheoliadau Amddiffyn Data Cyffredinol (GDPR)

    Mae’r ysgol yn cydymffurfio a gofynion newydd ynglyn a sut i gadw gwybodaeth bersonol yn

    ddiogel.

  • CYSWLLT Â RHIENI NOD

    Croesawn y rhieni i’r ysgol, a thrwy gydweithrediad y rhieni, sicrhau fod y plentyn yn derbyn y budd mwyaf o’i addysg yn yr ysgol. AMCANION 1. I gael mwy o wybodaeth am y plentyn a hybu perthynas rhwng yr athro, y plentyn a’r

    rhiant.

    2. I drosglwyddo gwybodaeth am gynnydd y plentyn yn academaidd ac yn gymdeithasol.

    3. Meithrin cydweithrediad rhwng cartref a’r ysgol.

    4. Datblygu dealltwriaeth o amcanion a dulliau’r ysgol er mwyn sicrhau addysg o ansawdd dda.

    CANLLAWIAU CYFFREDINOL 1 Cynhelir cyfarfod ffurfiol gyda’r rhieni ddwy waith y flwyddyn; tair gwaith y flwyddyn

    yn achos plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig.

    a) Tymor yr Hydref – I alluogi’r ysgol i drafod cyrhaeddiad addysgol y plentyn a’r amcanion ar gyfer y dyfodol.

    b) Tymor y Gwanwyn – I alluogi’r ysgol adrodd yn ôl ar Cynlluniau Addysg Unigol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

    c) Tymor yr Haf – Cyfle i adrodd yn ôl ar ddatblygiad y plentyn yn ystod y flwyddyn a thrafod yr adroddiad blynyddol.

    ch) Rhieni Newydd – Croesewir rhieni a’r plant fydd yn dechrau’r ysgol o’r newydd ym Medi i ymweld â’r ysgol, cyfarfod yr athrawes dosbarth a’r Pennaeth. Ceir cyfle yma i’r Pennaeth drafod nod ac amcanion a dulliau dysgu’r ysgol ac i’r rhieni ofyn cwestiynau a thrafod yr ysgol.

    2 Rhoi cyfle i’r rhieni fwrw golwg dros waith y plant a thrafod adroddiadau addysgol ac

    ymddygiad. 3 Dangos i’r rhieni drwy ein croeso fod gwerth ar y wybodaeth unigryw sydd ganddynt

    am eu plentyn. 4 Sicrhau fod y rhieni yn ymwybodol ein bod yn cydweithio at yr un nod – fod eu

    plentyn yn cael y budd mwyaf posibl o’i brofiadau ysgol. 5 a) Mae’r ysgol yn croesawu rhieni i drafod datblygiad eu plentyn ar unrhyw adeg

    drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda’r Pennaeth.

    b) Yr un modd, bydd yr ysgol yn galw y rhiant i’r ysgol i drafod datblygiad eu plentyn os y teimlir ei fod yn addas gwneud hynny.

    CASGLIADAU Mae’r polisi yma yn datgan athroniaeth bwysig yr ysgol, sef fod y rhiant yn rhan bwysig yn natblygiad addysgol y plentyn ac y dylent gael cyfle i fod yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol.

  • CYSWLLT Â’R CARTREF Ni all yr ysgol hon lwyddo heb gefnogaeth y rhieni. Yr ydym felly yn eich annog i ymddiddori yn addysg eich plant ac i fod yn gefn i’r ysgol yn ei gwaith ac yn ei gweithgareddau cyhoeddus. Mae gan yr ysgol hon Gytundeb Cartref – Ysgol.

  • RHEOLAU’R YSGOL AR GYFER RHIENI 1 Pan fo rhieni’n ymweld â’r ysgol dylid mynd yn syth at y Brifathrawes, nid at yr athro/athrawes dosbarth. 2 Mynnir disgyblaeth ac ymddygiad da o fewn yr ysgol. 3 Ceisir sicrhau ymddygiad da ar yr iard. 4 Nid oes hawl gan yr un plentyn i adael yr ysgol oni fod cais ysgrifenedig wedi dod gan y rhieni. Disgwylir i rieni ddod i’r brif fynedfa i nôl eu plentyn. 5 Mae angen dillad addas ar gyfer chwaraeon, ymarfer corff a nofio. Ni chaniateir gwisgo clustdlysau yn y gwersi hyn. 6 Ni chaniateir i ni roi unrhyw fath o dabledi, eli, ‘drops’ na ffisig i’r plant heb ffurflen briodol wedi ei harwyddo gan y meddyg. 7 Pan fo’r tywydd yn arw gofynnir i rieni gadw cysylltiad cyson â ni. 8 Rhaid anfon nodyn neu wneud alwad ffôn i egluro absenoldeb. Dylid cael ffurflen arbennig i’w llenwi pan fydd teulu’n trefnu gwyliau blynyddol yn ystod y tymor ysgol.

    9 Dylid talu am ginio ysgol ar fore Llun, a’r arian mewn amlen/pwrs gydag enw’r plentyn

    arno, neu talu trwy Parentpay. Os ydych yn dymuno talu am ginio gyda siec yna dylid gwneud y siec yn daladwy i ‘Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.’ Mae gan y Brifathrawes yr hawl i wrthod cinio i ddyledwyr.

    10 Nid yw’r ysgol yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddisgyblion sydd ar diriogaeth yr

    ysgol cyn 8:50a.m. nac ar ôl 3:10p.m. (Babanod) neu 3:40p.m. (Iau). 11 Ni chaniateir i unrhyw drafnidiaeth ddod ar dir yr ysgol heb ganiatad ymlaen llaw gan

    y Brifathrawes.

    12 Gall rhieni ond ddefnyddio ffonau symudol ar gyfer achosion brys pan fyddant ar dir yr ysgol a dywedir yn glir wrthynt y byddai’n well gennym nad ydynt yn defnyddio eu ffonau o gwbl tra eu bod yn yr ysgol.Fodd bynnag, rydym yn

    caniatáu i rieni ddefnyddio ffonau i dynnu llun neu fideo EU PLENTYN EU

    HUNAIN mewn digwyddiadau ysgol megis sioeau a mabolgampau. Mynnwn nad

    yw rhieni yn cyhoeddi unrhyw ddelweddau (e.e. ar Facebook) sy’n cynnwys plant heblaw rhai eu hunain.

    YSGOL IACH Mae’r ysgol wedi ymrwymo i’r Cynllun Ysgol Iach felly rydym yn annog y plant i ddod â ffrwythau a llysiau i’r ysgol i’w bwyta yn ystod amseroedd egwyl. Rydym hefyd yn annog y plant i yfed dŵr yn ystod y dydd ac mae dwy ffynnon ddŵr ar gael i lenwi poteli yn yr ysgol.

    Ni chaniateir creision, siocled, bisgedi na melysion. Hyderwn y byddwch yn ein cefnogi yn yr ymgyrch yma.

  • POLISI CYSWLLT CYNRADD / UWCHRADD

    NOD Meithrin perthynas rhwng ysgolion er mwyn hyrwyddo cyd-weithio a dilyniant a fydd yn hybu a hyrwyddo cynnydd y disgybl. AMCANION 1 Sicrhau cyd-ddealltwriaeth a chydlyniad cwricwlaidd rhwng yr ysgolion uwchradd ac

    Ysgol Glan Conwy.

    2 Cynnig cyfleoedd i’r athrawon gael trin a thrafod materion sy’n berthnasol i’r ddwy sector.

    3 Hyrwyddo polisiau ac amcanion y dalgylch.

    4 Cynnig hyfforddiant.

    5 Hyrwyddo gweithgareddau ar y cyd rhwng yr holl ysgolion.

    6 Sicrhau fod trefn drosglwyddo effeithiol yn bodoli. CYFLWYNIAD Mae Ysgol Glan Conwy yn swyddogol yn bwydo dwy ysgol uwchradd – Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol y Creuddyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd newid yn y drefn yma gan fod rhieni yn dymuno i’w plant drosglwyddo y tu allan i’r dalgylch i Ysgolion Aberconwy a John Bright. Fe wahoddir cynrychiolydd o’r ysgol i fynychu cyfarfodydd cyswllt Ysgol Dyffryn Conwy a’r Creuddyn ac fe geir cefnogaeth parod y ddwy ysgol. Pwrpas y cyfarfodydd ydi: a) Codi ymwybyddiaeth yn y ddau sector am yr hyn sydd yn digwydd yn yr ysgolion ac i

    gynnig cymorth drwy drafodaeth a hyfforddiant er mwyn sicrhau cyd-ddealltwriaeth a chydlynedd cwricwlaidd rhwng ysgolion.

    b) Hyrwyddo’r drefn drosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd. Y DREFN DROSGLWYDDO Tymor yr Hydref

    Gwahoddiad i’r plant a’u rhieni ymweld â’r ysgolion uwchradd.

    Dogfenaeth am yr ysgolion uwchradd yn cael eu trosglwyddo i’r rhieni.

    Rhieni yn gwneud eu cais am leoliad mewn ysgol uwchradd.

    Gwahoddiad i gynrychiolydd o’r uwchradd i’r Adolygiad Trosianol.

    Tymor yr Haf

    Cyd-gysylltydd uwchradd yn ymweld â’r ysgol i gyfarfod y plant. Sgwrs â’r plant am wahanol agweddau bugeiliol a chwricwlaidd yn yr ysgol uwchradd.

    Pennaeth ac athro/athrawes Blwyddyn 6 Ysgol Glan Conwy yn trafod y plant gyda chyd-gysylltydd yr ysgol uwchradd.

  • Cyfle i’r plant ymweld â’r ysgol uwchradd am ddiwrnod.

    Cyfle i’r plant a’u rhieni ymweld â’r ysgol uwchradd.

    Trosglwyddo gwybodaeth am y plant o’r ysgol gynradd i’r uwchradd:- adroddiad blynyddol, canlyniadau asesiadau athro, adroddiadau Addysg Arbennig.

    Ceir adroddiad gan yr ysgol uwchradd ar y plant sydd wedi trosglwyddo ar ddiwedd Blwyddyn 7.

    CYDRADDOLDEB HILIOL AC AMRYWIAETH DIWYLLIANNOL

    Polisi’r ysgol yw hyrwyddo pob disgybyl i gyrraedd ei botensial beth bynnag yw ei ryw, hil, crefydd, anghenion ychwanegol neu gefndir cymdeithasol.

    DEDDF RHYDDID GWYBODAETH

    Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn mynnu bod cyrff a ariennir gan arian cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion yn egluro pa wybodaeth a cyhoeddir ganddynt. ‘Rydym wedi llunio cynllun cyhoeddi sy’n nodi’r holl wybodaeth a gyhoeddwn yn rheolaidd a ble i ddod o hyd iddo. Gofynnwch i’r Pennaeth am gael gweld y cynllun cyhoeddi neu ddarparu copi i chi yn rhad ac am ddim.

    CREFYDD Nid yw’r ysgol hon yn dal cysylltiad uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol. Y mae’r addysg grefyddol a gyflwynir yn seiliedig ar faes llafur y Cwricwlwm Cenedlaethol Cymreig. Gellir archwilio copi o’r maes llafur yn yr ysgol.

    Yn unol â Deddf Addysg 1988 mae’n rhaid cynnal gweithred o addoliad ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae’n rhaid i’r addoliad fod yn gyfan gwbl neu’n bennaf o natur Gristnogol ond nid yw i adlewyrchu hynodrwydd unrhyw enwad. Gellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu’r gwasanaethau crefyddol. Gofynnir i rieni drafod eu pryderon a goblygiadau ymarferol yr eithro gyda’r Pennaeth.

    CYSYLLTIADAU EWROPEAIDD

    Mae Llywodraethwyr a staff yr ysgol hon yn cydnabod yr angen i helpu disgyblion ddod yn fwy ymwybodol o’r Gymuned Ewropeaidd a’r Ewrop ehangach yr ydym yn byw ynddo. Ein nod yw:

    Hyrwyddo ymdeimlad o hunaniaeth Ewropeaidd trwy ddefnyddio gwybodaeth a data o wledydd eraill a thrwy gysylltiad rheolaid ag Ewropeaid eraill.

    Annog a pharchu dealltwriaeth am ddiwylliannau, etifeddiaeth ac aml-ieithrwydd gwledydd Ewropeaidd eraill.

    Galluogi pob disgybl i ddatblygu sgiliau, cysyniadau, gwybodaeth a dealltwriaeth briodol.

  • GWARCHOD PLANT MEWN YSGOLION Mae’r ysgol yn cydnabod ei dyletswydd statudol i weithio gydag asiantau eraill wrth warchod plant rhag niwed ac ymateb i gam driniaeth. Mae’r staff yn ceisio mabwysiadu agwedd agored sy’n derbyn tuag at blant fel rhan o’u gofal bugeiliol. Mae staff yn gobeithio y bydd rhieni a phlant yn teimlo yn rhydd i siarad am eu pryderon gan weld yr ysgol fel lle diogel pe bai anhawster yn y cartref. Bydd pryderon plant yn cael eu cymeryd o ddifrif os byddant yn ceisio cymorth gan aelod o staff. Fodd bynnag, ni all staff sicrhau cyfrinachedd pe bai’n rhaid cyfeirio pryderon i’r asiantaeth briodol er mwyn diogelu lles y plentyn.

    Os oes gan staff bryderon awyddocaol am unrhyw blentyn a all ddangos arwyddion o gam

    drin corfforol, cam drin emosiynol, camdrin rhywiol neu diffyg sylw, mae angen iddynt eu trafod gyda’r asiantaeth sy’n gyfrifol am ymchwilio a gwarchod plant.

    Mae’n rhaid i staff ddweud am eu pryderon wrth yr athro dynodedig os byddant yn sylwi niweidiau sy’n ymddangos yn fwriadol neu os dywed y plentyn rywbeth arwyddocaol.

    Fodd bynnag, nid yw athrawon yn cynnal ymchwiliadau na phenderfynu a yw plant wedi’u cam drin. Mae hyn yn fater i asiantau arbenigol. Dylai’r holl staff fod yn gyfarwydd â’r drefn ar gyfer cadw cofnod ysgrifenedig cyfrinachol ar unrhyw ddigwyddiad, a gydag anghenraid y Pwyllgor Gwarchod Plant Lleol. Gellir cael cyngor gan yr Awdurdod Addysg Lleol, y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r heddlu os yw’r staff yn ansicr sut i fynd ymlaen â’r mater. Mae amddiffyn plant yn bwysig. Ble’n briodol dylai llywodraethwyr geisio sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i alluogi’r tasgau angenrheidiol gael eu gwneud yn briodol o dan drefn rhyngasiantaeth. Bydd materion gwarchod plant yn cael eu trafod trwy’r cwricwlwm fel bo’n briodol, yn arbennig mewn Addysg Bersonol, Cymdeithasol a Iechyd. Bydd yr ysgol hefyd yn sicrhau bod bwlio yn cael ei nodi a’i drin fel bod unrhyw niwed a achoswyd i ddisgybl arall yn cael ei gadw i’r isafswm. Anogir yr holl blant i ddangos parch tuag at eraill ac i gymeryd cyfrifoldeb am amddiffyn eu hunain. Disgwylir i rieni gynorthwyo plant i ymddwyn mewn dull di-drais a difenwi tuag at staff a disgyblion eraill.

    Gall rhieni deimlo yn hyderus bod trefn yn ei lle i sicrhau bod yr holl staff a benodir yn addas i weithio gyda phlant. Mae trefn mwy anffurfiol yn cael ei defnyddio gyda chynorthwywyr gwirfoddol a staff nad ydynt yn addysgu. Fe ddywedir wrth staff ar unwaith os bydd angen defnyddio grym corfforol i amddiffyn plentyn rhag niwed, atal plentyn rhag niweidio eraill neu os bydd plentyn yn cael ei niweidio yn ddamweiniol. Ni fydd plant yn cael eu cosbi yn yr ysgol gan unrhyw ffurf o drawo neu ysgwyd neu driniaeth israddol arall. Gellir gwneud unrhyw gwyn am ymddygiad staff wrth y Pennaeth neu Gadeirydd y

    Llywodraethwyr. Bydd gan bawb hawl i wrandawiad teg, yn blant a staff. Bydd cwynion sy’n codi materion gwarchod plant yn cael eu hysbysu gan yr ysgol o dan drefn rhyng-asiantaeth leol. Yr athro dynodedig ar gyfer pob mater amddiffyn plant yn yr ysgol yw Mrs E Price-Williams, Mrs M.Evans a’r Llywodraethwr dynodedig yw Mrs M.Oliver.

  • Y person enwebedig ar gyfer amddiffyn plant o fewn yr Awdurdod Addysg Lleol pe na bai rhieni yn fodlon gyda ymateb yr ysgol yw Sian Pineau.

    POLISI CYNHWYSIAD FDFDFDDDDDDDDDDDDDDDD

    1. Bydd yr ysgol yn darparu cefnogaeth sensitif a phriodol er mwyn sicrhau y bydd y

    disgybl yn cael ei gynnwys yn holl weithgareddau’r ysgol.

    2. Bydd y Cwricwlwm yn cael ei addasu yn ôl gofynion yr unigolyn. 3. Pe byddai angen yn codi i wneud addasias i’r ysgol er mwyn gwella mynediad i’r

    ysgol ar gyfer plentyn nag ADY, byddai’r ysgol yn ymateb yn briodol. Byddai’n cysylltu â’r llywodraethwyr i drafod y newidiadau sydd angen eu gwneud ac yn cysylltu â’r AALI.

    DIOGELWCH

    Dyma bolisi iechyd a diogelwch Ysgol Glan Conwy sydd i’w ddarllen ynghyd â pholisiau iechyd a diogelwch Awdurdod Addysg Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Corff Llywodraethol yn ymrwymedig i ymorol am safon uchel iechyd, diogelwch a lles pob aelod o’r staff, y disgyblion, ymwelwyr a chontractwyr drwy sicrhau’r canlynol: 1. Amgylchedd iach a diogel drwy’r ysgol gyfan.

    2. Trefniadau i ofalu nad oes neb yn yr ysgol yn gweithio mewn sefyllfa beryglus, yn defnyddio offer anfoddhaol, sylweddau neu beiriannau peryglus.

    3. Darpariaeth effeithiol i dderbyn a rhannu gwybodaeth iechyd a diogelwch a dderbynnir oddi wrth yr A.A.Ll. a ffynonellau eraill.

    4. Hyfforddiant iechyd a diogelwch addas i’r holl staff.

    5. Mynedfeydd diogel i mewn ac allan o’r ysgol.

    6. Cyfleusterau lles priodol i’r holl staff.

    7. Trefniadau ar gyfer argyfyngau megis tân, cymorth cyntaf a digwyddiadau cysylltiol ag ysgolion.

    8. Monitro safonau iechyd a diogelwch yr ysgol ac adolygu ystadegau damweiniau / neu osgoi o drwch blewyn.

    9. Cysylltiad â chymorth arbenigol mewn materion iechyd a diogelwch (A.A.Ll.)

    10. Anogaeth i’r staff hyrwyddo safonau iechyd a diogelwch yn yr ysgol (cefnogi cyd-drafod).

    11. Caiff y polisi hwn ei adolygu a’i ddiweddaru fel bo angen.

  • GWEITHGAREDDAU YCHWANEGOL Gobeithia’r ysgol sicrhau cydweithrediad a chefnogaeth y rhieni gyda’r holl weithgareddau ychwanegol a drefnir. Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n agored i holl ddisgyblion yr ysgol sydd ym marn y Brifathrawes yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan ynddynt. Ni all yr ysgol dderbyn cyfrifoldeb am oruchwylio plant ar derfyn sesiynau’r clybiau / cymdeithasau uchod, a gofynnir i rieni / gwarcheidwaid sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau i hebrwng eu plant adref.

    GWEITHGAREDDAU CHWARAEON Rydym yn ffodus iawn o gael digon o ofod ar gyfer chwaraeon yn ein hysgol. Mae gennym gae mawr a hefyd iard / cwrt called addas. Ymgymerir ag amrwywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon yn ystod y flwyddyn lle y bydd plant yn datblygu eu hyder a’u sgiliau yn ogystal a cael cyfle i ddatblygu hyder mewn antunaethau awyr agored yng Nghanolfan Addysg Nant Bwlch yr Haearn yn ogystal a thaclo’r wal ddringo ar gae’r Ysgol. Mae unrhyw blentyn sy’n cymryd rhan yn cynrychioli’r Ysgol a chydnabyddir hyn fel braint sy’n gyfartal a chyflawniad academaidd ac artistig. Mae hefyd yn meithrin ysbryd cyd-dynnu ac yn datblygu sgiliau. Rydym yn anelu at roi cyfle i blant o bob gallu gymryd rhan mewn gweithgareddau cystadleuol.

    NOFIO

    Bydd cyfle i bob plentyn o Blwyddyn 1 hyd at flwyddyn 6 fynychu gwersi nofio yn ystod y flwyddyn addysgol. Byddwn hefyd yn eu haddysgu am Diogelwch Dŵr sy’n rhan bwysig o’r cwricwlwm nofio cenedlaethol.

    CHWARAEON Dysgir sgiliau pêl droed, rygbi, pêl rwyd, criced a rownderi i’r plant. Ceir cyfle i gystadlu mewn cystadleuthau dalgylch hefyd. Trefnir mabolgampau yn ystod tymor yr Haf a cheir cyfle hefyd i gymryd rhan ym mabolgampau’r dalgylch. Yr ydym hefyd yn cynnig gweithgareddau ar ôl ysgol gyda asiantaethau addysg gorfforol eraill.

  • YR URDD Anogir ymaelodaeth o’r Urdd, sef cyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfle i gael hwyl ac i baratoi ar gyfer Eisteddfod a Mabolgampau.

    GWISG YSGOL Mae gan yr ysgol hon wisg ysgol swyddogol, ond nid oes gorfodaeth ar blant i’w gwisgo. Er hyn, teimlir bod gwisg ysgol yn arwain at feithrin balchder yn yr ysgol ac ymdeimlad o berthyn iddi. RHAID labelu’r dillad yn eglur. Mae’r plant yn cael gwisgo clustdlysau bach os bydd angen. Ni chaniateir gwisgo clustdlysau o gwbl mewn gwersi addysg gorfforol na nofio.

    GWISG YSGOL SWYDDOGOL Gaeaf Haf Sgert neu biner lwyd Trowsus llwyd Ffrog siec coch a gwyn Siwmper neu cardigan goch Trowsus llwyd neu Trowsus bach llwyd Crys chwys coch yr ysgol Sgert neu biner lwyd Crys-polo coch neu gwyn Sanau gwyn neu llwyd Crys gwyn Siwmper neu cardigan goch Sanau neu drowsanau gwyn neu lwyd Crys-polo coch neu gwyn DILLAD ADDYSG GORFFOROL Trowsus bach/siorts du Crys-t gwyn neu coch Pumps Treinyrs

  • YMWELIADAU ADDYSGOL Yn ystod y flwyddyn bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ymweld â safleoedd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â’u themau. Mannau megis:

    Canolfan Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn

    Gwersyll yr Urdd Glan Llyn

    Blist Hill, Telford

    Deva, Gaer

    Llandudno

    Tŷ Mawr Wybrnant

    Plas Mawr, Conwy

    Gelli Gyffwrdd

    RSPB, Conwy

    Castell Dolwyddelan Credwn fod plant yn dysgu yn well pan y byddent yn cael profiadau byw a’u rhoi mewn sefyllfaoedd real unai o fewn neu oddi allan i’r dosbarth. Mae ymweliadau addysgiadol yn ran o roi’r profiadau yma i’r plant ac yn ymestyn eu dysgu. Ni allwn godi am y gweithgareddau yna yn gyfreithlon, serch hynny ni allwn gynnal y gweithgareddau heb ofyn am gyfraniad gwirfoddol ar gyfer y gost.

    TREFN GWYNO Mae’r Awdurdod Addysg Lleol, yn unol â gofynion yr Ysgrifennydd Gwladol, dan Adran 23 o Ddeddf Diwygio Addysg 1980, wedi sefydlu trefn i ystyried cwynion am y modd y mae Cyrff Llywodraethu’r ysgolion a’r Awdurdod yn gweithredu mewn perthynas â chwricwlwm ysgol a materion eraill cysylltiedig. Mae’r drefn hon wedi ei hamlinellu mewn dogfen bwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd ar gael yn yr ysgol. Darperir copi’n rhad ac am ddim, yn ôl y gofyn, i unrhyw rieni sy’n dymuno gwneud cwyn dan y trefniadau hyn, a gall yr Awdurdod ddarparu copi mewn iaith heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg os bydd hynny’n angenrheidiol.

    Pwysleisir fodd bynnag, y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaeth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaeth gyda’r Brifathrawes. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu’n disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gwyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol.

    Dylid cysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod unrhyw gwyn gyda’r Brifathrawes.

  • CINIO YSGOL Mae nifer o’n plant yn mwynhau cinio poeth ac mae croeso iddynt eu cael yn ein ysgol. Mae’r

    plant yn bwyta yn neuadd yr ysgol o dan oruchwiliaeth y staff amser cinio. Mae diod o ddŵr ar gael iddynt os ydynt yn dymuno. Os oes gan eich plentyn anghenion bwyta arbennig neu nid ydynt yn fod i fwyta rhai bwydydd yna hysbyswch ein cogyddes, Mrs Myra Cox yn ysgrifenedig os gwelwch yn dda ac fe wnaiff ei gorau i helpu gyda anghenion eich plentyn.

    Taliadau – a fedrwch sicrhau fod arian cinio yn cael ei dalu yn ystod yr wythnos y bydd yn cael ei fwyta trwy ParentPay neu trwy swyddfa’r Ysgol. (sieciau yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’) Os ydych yn derbyn Cymhorthdal incwm hwyrach fod gan eich plentyn yr hawl i ginio am ddim. Bydd pob ymholiad yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol a gellir cael y ffurflenni hawlio o swyddfa’r ysgol neu trwy ffonio’r Budd-dal Cartrefi ar 01492 576491.

    Prisiau Cinio Ysgol

    Dosbarth Dyddiol Wythnosol

    Cyfnod Sylfaen (Dosbarthiadau’r babanod)

    £2.50 £12.50

    CA2 (Adran Iau)

    £2.50 £12.50

    O.N. Cyngor Bwrdeistref Conwy sydd yn gosod y prisiau ac fe allent newid. Gweler copi o’r bwydlen ar wefan yr ysgol – www.glanconwy.conwy.sch.uk Fel arall mae copi galed ar gael yn Swyddfa’r ysgol.

    CLWB BRECWAST A CHLWB AR ÔL YSGOL Mae gan yr ysgol Clwb Brecwast sydd yn agored i bob disgybl o 8.10 am. Mae’r Clwb ar ôl Ysgol yn agored hefyd i bob disgybl. Cysyllter a Kath Jones ar 07716962425 am fwy o fanylion, ac i gofrestru.

    http://www.glanconwy.conwy.sch.uk/

  • CANLYNIADAU CYFNOD SYLFAEN 2018-2019

    ADRODDIAD CYMHARADWY Crynodeb o ganlyniadau asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion yn yr Ysgol (2018-19) ar ddiwedd Cyfnod Sylfaen, fel canran o’r rhai sy’n gymwys i ‘w hasesu. Nifer o blant 17

    Nodiadau N: Nid oes gan yr ysgol, oherwydd amgylchiadau, ddigion o wybodaeth na thystiolaeth i lunio asesiad athro D: Datgymhwyswyd o’r assesiad gan ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, neu os nad yw’n briodol I gynnig cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen fel mae’n ymwneud a’r plentyn ar y pryd. W: Gweithio tuag at Ddeilliant 1 y Cyfnod Sylfaen A: Tystiolaeth yn dangos bod plentyn yn sicr wedi cyrraedd holl elfennau Deilliant 6 mewn Maes Dysgu penodol.

    Mae’r canlyniadau yn cynnwys canlyniadau pob plentyn gan gynnwys y rhai sydd ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

    N D W 1 2 3 4 5 6 A

    Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol / Personal & social development, well-being & cultural diversity

    Ysgol/School

    0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 11.8 5.9 29.4 52.4 0.0

    Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (yn y Gymraeg) / Language, literacy & communication skills (in Welsh)

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0

    Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (yn Saesneg) / Language, literacy & communication skills (in English)

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 11.8 23.5 17.7 23.5 23.5 0.0

    Datblygiad mathemategol / Mathematical development

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 35.3 23.5 11.8 29.4 0.0

    Meysydd Dysgu

    Dewisol / Optional

    Areas of Learning:

    Datblygiad creadigol / Creative development

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 11.8 23.5 47.0 17.7 0.0

    Datblygiad corfforol / Physical development

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 11.8 29.4 58.8 0.0

    Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd / Knowledge & understanding of the world

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 17.7 17.7 35.2 29.4 0.0

    Datblygur’ Gymraeg / Welsh language development

    Ysgol/School 0.0 0.0 0.0 0.0 0.0 17.7 17.7 47.0 17.7 0.0

  • CANLYNIADAU CA2 2018-2019 Crynodeb o ganlyniadau asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion yn yr ysgol (2018-19) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 fel canran o’r rhai sy’n gymwys i’w hasesu.

    N D NCO1 NCO2 NCO3 1 2 3 4 5 6+ 4+

    %

    Saesneg

    English

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    44.5

    33.3

    0.0

    77.8

    Llafaredd Oracy

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    55.6

    22.2

    0.0

    77.8

    Darllen Reading

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    44.5

    33.3

    0.0

    77.8

    Ysgrifennu Writing

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    44.5

    33.3

    0.0

    77.8

    Mathamateg

    Mathematics

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    66.7

    11.1

    0.0 77.8

    Gwyddoniaeth

    Science

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    22.2

    66.7

    11.1

    0.0 77.8

    Cymraeg Ail

    Iaith

    Welsh 2nd

    Language

    Ysgol/School

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    0.0

    11.1

    11.1

    66.7

    11.1

    0.0

    77.8

    Dangosydd Pwnc Craidd

    Ysgol 77.8

    Nodiadau N: Ni ddyfarnwyd lefel am resymau heblaw datgymhwyso D: Datgymhwyswyd o dan Adrannau 113-116 o Ddeddf Addysg 2002 NCO1: Deilliant 1 Cwricwlwm Cenedlaethol NCO2: Deilliant 2 Cwricwlwm Cenedlaethol NCO3: Deilliant 3 Cwricwlwm Cenedlaethol Noder bod NCO1, NCO2 a NCO3 wedi disodli lefel W mewn blynyddoedd blaenorol 4+: % yn ennill y lefel disgwyliedig (L4+) Mae’r canlyniadau yn cynnwys canlyniadau pob plentyn gan gynnwys y rhai sydd ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

  • PRESENOLDEB YN YR YSGOL 2018 - 2019

    Tymor yr Haf 2018:

    Blwyddyn Presenoldeb

    (%)

    Absenoldeb

    Awdurdodedig (%) Di-Awdurdodedig (%)

    Meithrin 96.86 3.14 0.00

    Derbyn 94.35 5.07 0.58

    Blwyddyn 1 95.04 4.16 0.81

    Blwyddyn 2 96.85 2.37 0.78

    Blwyddyn 3 94.36 4.25 1.38

    Blwyddyn 4 95.34 3.50 1.17

    Blwyddyn 5 92.29 6.80 0.91

    Blwyddyn 6 97.43 2.45 0.12

    Tymor y Hydref 2018:

    Blwyddyn Presenoldeb

    (%)

    Absenoldeb

    Awdurdodedig (%) Di-Awdurdodedig (%)

    Meithrin 96.87 3.13 0.00

    Derbyn 97.07 2.93 0.00

    Blwyddyn 1 97.95 2.05 0.00

    Blwyddyn 2 97.03 2.25 0.72

    Blwyddyn 3 95.60 3.23 1.17

    Blwyddyn 4 94.09 4.84 1.07

    Blwyddyn 5 95.86 2.63 1.52

    Blwyddyn 6 93.76 4.19 2.05

    Tymor yr Gwanwyn 2019:

    Blwyddyn Presenoldeb

    (%)

    Absenoldeb

    Awdurdodedig (%) Di-Awdurdodedig (%)

    Meithrin 96.17 3.67 0.17

    Derbyn 97.37 2.63 0.00

    Blwyddyn 1 97.14 2.67 0.20

    Blwyddyn 2 96.51 2.94 0.55

    Blwyddyn 3 97.00 2.75 0.25

    Blwyddyn 4 94.34 4.05 1.61

    Blwyddyn 5 96.60 2.71 0.69

    Blwyddyn 6 87.76 9.11 3.13

    Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon yn bwysig iawn. Mae ein polisi ar Bresenoldeb yn diffinio absenoldeb ‘awdurdodedig’ ac ‘anawdurdodedig’ a’r gofynion gan Llywodraeth Cymru. (Mae copi o’r polisi ar gael ar gais.)

    Gwyliau Teuluol – Ni all ysgol ganiatau i blentyn golli mwy na 5 diwrnod ysgol ar gyfer gwyliau mewn unrhyw flwyddyn addysgiadol oni bai fod yna amgylchiadau eithriadol ac bydd angen i bresenoldeb eich plentyn fod dros 94%. Mae ffurflenni gwyliau ar gael o’r Swyddfa.

    Prydlondeb – Hoffem bwysleisio pwysigrwydd cyrraedd yn yr ysgol cyn 9 y.b.i sicrhau fod pob plentyn wedi setlo ac yn barod i ganolbwyntio ar ddysgu a datblygu. Mae cyrraedd yn hwyr yn achosi i blant deimlo yn ansefydlog ac yn amharu ar eu dysgu.

  • Monitro Presenoldeb – Caiff presenoldeb a phrydlondeb disgyblion eu monitro’n wythnosol. Byddwn yn cysylltu gyda chi os oes gennym bryderon. Caiff ein presenoldeb ei fonitro yn rheolaidd gan Mrs Katie Hazelgrove, sef Swyddog Lles Addysg ar gyfer Ysgol Glan Conwy, fydd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd sydd ei angen.

    Salwch – Os ydyw eich plenty yn absenol oherwydd salwch neu yn mynychu apwyntiad meddygol/deintyddol a wnewch chi adael i’r ysgol wybod trwy ffonio’r Swyddfa cayn 9:30y.b. ar y diwrnod. A fyddech cystal a galw i mewni’r Swyddfa gyda cadarnhad o apwyntiadau meddygol. Bydd hyn yn sicrhau fod yr ysgol yn cofnodi absenoldebau yn gywir. .

    GWYBODAETH YCHWANEGOL

    Arian Poced / Pethau Gwerthfawr Ni ddylai plant ddod ag arian i’r Ysgol os nad oes wir angen hynny arnynt ar gyfer pwrpas penodol e.e i dalu a arian cinio, ymweliadau addysgiadol, siop ffrwythau a.y.y.b.Os digwydd hynny, gofynnir idynt roi’r arian neu bethau gwerthfawr personol i swyddfa’r Ysgol ar ddechrau’r dydd i osgoi cwynion am golledion o bocedi, desgiau a.y.y.b.Ni all yr ysgol dderbyn cyfrifoldeb am eiddo coll.

    Teganau

    Ni chaniateir i’r plant ddod a theganau drud / pethau gwerthfawr / ffonau symudol i’r ysgol – gall colli neu torri hoff eitem neu eitem drud achosi llawer o bryder.

  • DYDDIADAU GWYLIAU A DYDDIAU HYFFORDDIANT MEWN SWYDD

    2019- 2020

    Dyddiadau

    Gwyliau Ysgol a

    Dyddiau

    Hyfforddiant

    Mewn Swydd

    (2019-2020) School Holiday

    Dates

    and

    Staff Training

    Days

    HYDREF 2019-2020 AUTUMN

    Dechrau’r Tymor 02/09/19 Term Start Hyfforddiant Mewn

    Swydd 02/09/19

    07/10/19

    Staff Training Days

    Cau Hanner Tymor 25/10/19 Half Term Close

    Agor Hanner Tymor 04/11/19 Half Term Open

    Diwedd Tymor 20/12/19 End of Term

    GWANWYN SPRING

    Dechrau’r Tymor 06/01/20 Term Start Hyfforddiant Mewn

    Swydd 06/01/20 Staff Training Day

    Cau Hanner Tymor 14/02/20 Half Term Close

    Agor Hanner Tymor 24/02/20 Half Term Open

    Diwedd Tymor 03/04/20 End of Term

    HAF SUMMER

    Dechrau’r Tymor 20/04/20 Term Start Hyfforddiant Mewn

    Swydd 20/04/20 Staff Training Day

    Dydd Gwyl Fai 08/05/20 May Day

    Cau Hanner Tymor 22/05/20 Half Term Close

    Agor Hanner Tymor 01/06/20 Half Term Open Hyfforddiant Mewn

    Swydd 26/06/20 20/07/20

    Staff Training Day

    Diwedd Tymor Dydd Gwener

    17/07/20 End of Term Friday

  • 2019-20

    SCHOOL PROSPECTUS

  • YSGOL GLAN CONWY

    Conwy County Borough Council

    INFORMATION FOR PARENTS

    2019 - 2020

    Ysgol Glan Conwy, Ffordd Top Llan, Glan Conwy, Conwy LL28 5ST

    Telephone: 01492 580421 Fax: 01492 580421 E-mail: [email protected] Web: www.glanconwy.conwy.sch.uk

    @ysgolglanconwy Headteacher: Mrs E. Price Williams

    Chair of the Governors: Mrs Mary Oliver

    Poachers Retreat 21 Y Bryn Glan Conwy LL28 5NJ

    Statutory Head Dr Lowri Brown of Education Services: Education Services Government Buildings Coed Pella Colwyn Bay LL29 7AZ

    Liaison Officer / Inspector / Adviser: Ms Iona Evans Education Services As above Tel: 01492 575011 Although the particulars in this