arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig - estyn.gov.wales · arweiniad ar gyfer arolygu...

68
Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 Diweddarwyd Medi 2016 Darllenwch fwy yn estyn.llyw.cymru

Upload: truongnga

Post on 16-Feb-2019

213 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennigo Fedi 2010Diweddarwyd Medi 2016

Darllenwch fwy yn estyn.llyw.cymru

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at: Yr Adran Gyhoeddiadau Estyn Llys Angor Heol Keen Caerdydd CF24 5JW neu drwy anfon ebost at [email protected] Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru

Hawlfraint y Goron 2016: Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl

mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad penodol.

Cynnwys Tudalen

Cyflwyniad

Diben yr arweiniad hwn Sail gyfreithiol ar gyfer arolygu ysgolion arbennig Darpariaeth y blynyddoedd cynnar

Rhan 1: Cynnal arolygiadau

Cyflwyniad Egwyddorion arolygu Cod ymddygiad ar gyfer arolygwyr Disgwyliadau darparwyr Iechyd a diogelwch Ymateb i honiad ynghylch diogelu Dull arolygu Yr Ystafell Arolygu Rithwir Y tîm arolygu Cysylltu â’r ysgol cyn yr arolygiad Cynllunio’r arolygiad a pharatoi’r tîm Yn ystod yr arolygiad Bodloni gofynion statudol Ar ôl yr arolygiad Sicrhau ansawdd arolygiadau

Rhan 2: Llunio barnau

Ynglŷn â’r ysgol Crynodeb Disgrifiadau barn Barnu cwestiynau allweddol a dangosyddion ansawdd Argymhellion

Cwestiynau allweddol a dangosyddion ansawdd

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r deilliannau? Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth?

Atodiad 1: Y Fframwaith Arolygu Cyffredin Atodiad 2: Ffynonellau tystiolaeth Atodiad 3: Rheoliadau ac Arweiniad Atodiad 4: Holiadur i ddisgyblion Atodiad 5: Holiadur i rieni/gofalwyr Atodiad 6: Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol Atodiad 7: Adrodd ar ddata perfformiad mewn ysgolion arbennig ac

unedau cyfeirio disgyblion

1

1 1 2

3

3 3 3 4 4 4 5 5 5 6 7 8

10 11 12

13

13 13 14 15 15

15

16 22 35

45 47 50 58 61 63 64

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

1

Cyflwyniad

Diben yr arweiniad hwn

Mae’r arweiniad hwn yn nodi’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2016 ymlaen. Dibenion arolygu yw:

Darparu atebolrwydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy ein hadrodd cyhoeddus ar ddarparwyr

Hyrwyddo gwelliant mewn addysg a hyfforddiant

Llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru Mae’r arolygiaeth yn cynnal arolygiad craidd ar gyfer pob darparwr ym mhob sector addysg a hyfforddiant. Mae’r arweiniad hwn yn esbonio sut byddwn yn cynnal arolygiadau craidd. Pan fo’r arolygiad yn nodi pryder mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, yna bydd yr arolygiaeth yn cynnal gweithgarwch dilynol gyda’r darparwr. Mae Arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gyfer ysgolion ac arolygwyr yn amlinellu arweiniad yr arolygiaeth ar weithgarwch dilynol. Gall ysgolion arbennig ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu wrth wneud eu hunanarfarniad eu hunain. Yn ogystal, gall ysgolion ddefnyddio arweiniad yr arolygiaeth ar hunanarfarnu sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys dwy ran, sydd ynglŷn â:

chynnal arolygiad

llunio barnau Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad am arolygiadau ar gael ar wefan yr arolygiaeth, sef www.estyn.llyw.cymru.

Sail gyfreithiol ar gyfer arolygu ysgolion arbennig

Caiff arolygiadau ysgolion eu rheoli gan Ddeddf Addysg 2005 a rheoliadau cysylltiedig. Rhaid i arolygiadau gael eu cynnal gan dimau o arolygwyr, wedi’u harwain gan AEM, arolygydd ychwanegol neu arolygydd cofrestredig, a rhaid i adroddiad ysgrifenedig ddilyn. Mae Adran 28 Deddf Addysg 2005, yn dweud bod yn rhaid i arolygwyr adrodd ar:

y safonau addysgol a gyflawnir gan yr ysgol

ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol

i ba raddau y mae addysg yn bodloni anghenion ystod y disgyblion yn yr ysgol

ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol a’r ffordd y caiff ei rheoli, gan gynnwys a

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

2

yw’r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli’n effeithlon

datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn yr ysgol

chyfraniad yr ysgol at les y disgyblion Yn y sector ôl-16, mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd yng Nghymru adrodd ar:

ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant a ddarperir

y safonau a gyflawnir gan y rhai sy’n derbyn addysg a hyfforddiant

a yw’r adnoddau ariannol y trefnwyd eu bod ar gael ar gyfer y rhai sy’n darparu addysg a hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio i ddarparu gwerth am arian

Mae’r arweiniad hwn yn dehongli’r meysydd hyn yn fanylach. Caiff y categorïau canlynol o ysgolion eu harolygu o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005:

ysgolion cymunedol;

ysgolion sylfaen;

ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir;

ysgolion gwirfoddol a reolir;

ysgolion meithrin a gynhelir;

ysgolion arbennig; ac

unedau cyfeirio disgyblion.

Darpariaeth y blynyddoedd cynnar

Pan fydd darpariaeth y blynyddoedd cynnar nad yw’n rhan o’r ysgol (nid yw’r plant ar gofrestr yr ysgol), rhaid i arolygwyr wneud yn siwr bod y ddarpariaeth wedi cael ei chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a’r awdurdod lleol fel y bo’n briodol. Mae hwn yn fater diogelu pwysig a dylai arolygwyr godi’r mater gyda’r ysgol, os nad yw wedi cymryd y camau priodol.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

3

Rhan 1: Cynnal arolygiadau

Cyflwyniad

Mae’r adran hon wedi’i hamlinellu mewn ffordd sy’n adlewyrchu dilyniant y gwaith cyn, yn ystod ac ar ôl arolygiad craidd.

Mae’r arolygydd cofnodol yn gyfrifol am gynnal a rheoli’r arolygiad, ac ar gyfer yr adroddiad arolygu. Er bod yr arweiniad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar rôl yr arolygydd arweiniol, rhaid i holl aelodau’r tîm gydymffurfio â’r un gofynion arolygu.

Egwyddorion arolygu

Bydd arolygwyr:

Yn sicrhau bod arolygu o ansawdd uchel ac yn ymateb i anghenion pob dysgwr

Yn sicrhau bod barnau yn gadarn, yn ddibynadwy, yn ddilys ac wedi’u seilio ar dystiolaeth uniongyrchol

Yn cynnwys ysgolion yn llawn yn y broses arolygu, gan gynnwys defnyddio enwebeion

Yn defnyddio adroddiad hunanarfarnu’r ysgol fel y man cychwyn ar gyfer arolygu ac yn nodi materion allweddol ar gyfer ymchwilio iddynt er mwyn llunio barnau ar ddilysrwydd ei ganfyddiadau

Yn cynnwys arolygwyr cymheiriaid yn y broses arolygu

Yn sicrhau cyn lleied o ofynion ag y bo modd ar gyfer dogfennaeth a pharatoi gan yr ysgol

Yn cael safbwynt y dysgwyr a safbwynt rhanddeiliaid eraill

Yn cymhwyso egwyddor cydraddoldeb i’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein holl waith arolygu, gan ddarparu gwasanaethau dwyieithog lle bynnag y bo’n briodol

Bod yn adeiladol wrth nodi a chefnogi ysgolion sydd â meysydd pwysig i’w gwella

Cod ymddygiad ar gyfer arolygwyr

Dylai arolygwyr gynnal y safonau uchaf posibl yn eu gwaith. Rhaid i bob arolygydd fodloni’r safonau yng Nghod Ymddygiad Estyn. Wrth gynnal yr arolygiad, bydd arolygwyr:

Yn gwneud eu gwaith gyda didwylledd, cwrteisi a sensitifrwydd priodol

Yn arfarnu gwaith y darparwr yn wrthrychol

Yn adrodd yn onest, yn deg ac yn ddiduedd

Yn cyfathrebu’n glir ac yn agored

Yn gweithredu er lles y dysgwyr

Yn parchu cyfrinachedd yr holl wybodaeth sy’n dod i law yn ystod eu gwaith

Mae’n bwysig bod arolygwyr yn barnu effeithiolrwydd darpariaeth ac arweinyddiaeth ar eu cyfraniad at ddeilliannau ac nid ar sail unrhyw hoffter o ddulliau penodol. Yr allwedd i’r farn yw p’un a yw’r dulliau a’r trefniant yn addas i’r diben o gyflawni safonau uchel o ran gwaith ac ymddygiad i bob dysgwr.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

4

Dylai arolygwyr roi gwybod i Estyn am unrhyw achos canfyddedig neu wirioneddol o wrthdaro buddiannau cyn gynted ag y byddant ar yr arolygiad o’r ysgol.

Disgwyliadau darparwyr

Er mwyn i arolygu fod yn adeiladol ac yn fuddiol, mae’n bwysig bod arolygwyr a darparwyr yn sefydlu ac yn cynnal amgylchedd gweithio proffesiynol yn seiliedig ar gwrteisi, parch ac ymddygiad proffesiynol y naill at y llall. Disgwylir i arolygwyr gydymffurfio â Chod Ymddygiad Estyn, ond disgwyliwn hefyd i ddarparwyr:

Fod yn gwrtais ac yn broffesiynol

Cymhwyso’u codau ymddygiad eu hunain wrth ymdrin ag arolygwyr

Galluogi arolygwyr i gynnal eu harolygiad mewn modd agored ac onest

Galluogi arolygwyr i arfarnu’r ddarpariaeth yn wrthrychol yn erbyn y Fframwaith Arolygu Cyffredin

Defnyddio systemau electronig Estyn ar gyfer rheoli arolygiadau fel bo’r gofyn

Darparu tystiolaeth a fydd yn galluogi arolygwyr i adrodd yn onest, yn deg ac yn ddibynadwy ynghylch eu darpariaeth

Cynnal trafodaeth bwrpasol gyda’r arolygydd neu’r tîm arolygu

Cydnabod bod angen i arolygwyr arsylwi arfer a siarad â staff, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill heb bresenoldeb rheolwr neu uwch arweinydd

Tynnu unrhyw bryderon ynglŷn â’r arolygiad i sylw arolygwyr mewn modd amserol ac addas drwy’r enwebai neu uwch arweinydd

Gweithio gydag arolygwyr i sicrhau cyn lleied o aflonyddu a straen ag y bo modd trwy gydol yr arolygiad

Sicrhau iechyd a diogelwch arolygwyr tra byddant ar eu safle Adeg yr hysbysiad ynghylch yr arolygiad, dylai ysgolion adolygu cyfansoddiad y tîm arolygu. Cyfrifoldeb ysgolion yw amlygu unrhyw achos gwirioneddol o wrthdaro buddiannau cyn dechrau eu harolygiad.

Iechyd a diogelwch

Bydd arolygwyr yn cynnal arolygiadau yn unol ag arweiniad yr arolygiaeth ar iechyd a diogelwch. Os byddant yn sylwi ar unrhyw beth sydd yn eu barn nhw yn achosi perygl amlwg i ddiogelwch staff, ymwelwyr neu ddisgyblion, dylent rybuddio rheolwyr yn yr ysgol sy’n cael ei harolygu. Dylent roi gwybod iddynt hefyd os sylwir ar fygythiadau llai amlwg. Ym mhob achos dylai arolygwyr wneud nodyn electronig ar wahân o’r bygythiad a bod y rheolwyr wedi cael gwybod amdano. Dylent roi copi o hwn i’r swyddog arweiniol ar gyfer iechyd a diogelwch yn yr arolygiaeth. Dylai arolygwyr adrodd ar achosion amlwg o dorri deddfwriaeth iechyd a diogelwch yng Nghwestiwn Allweddol 2.

Ymateb i honiad ynghylch diogelu

Os caiff arolygydd wybod am honiad/amheuaeth ynghylch plentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n agored i niwed, dylai ddilyn y gweithdrefnau fel y maent wedi’u hamlinellu yn fersiwn gyfredol ‘Polisi a gweithdrefnau Estyn ar gyfer diogelu’ sydd ar gael ar wefan Estyn.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

5

Dull arolygu

Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r gweithdrefnau ar gyfer arolygiadau craidd o ysgolion arbennig. Bydd yr arolygiadau hyn yn cael eu hategu gan weithgarwch dilynol yn yr ysgolion hynny y canfuwyd, trwy eu harolygiad craidd, eu bod yn tanberfformio.

Y man cychwyn ar gyfer arolygu yw arfarniad yr ysgol o’i pherfformiad ei hun, wedi’i gefnogi gan wybodaeth berthnasol am berfformiad. Ni fydd arolygwyr yn arolygu pob agwedd ar y gwaith yn fanwl yn ystod arolygiad craidd. Byddant yn cymryd sampl o dystiolaeth i brofi arfarniad yr ysgol ei hun o’i gwaith. Bydd yr adroddiad hunanarfarnu yn arwain sut mae’r tîm yn cymryd sampl o’r dystiolaeth, ond bydd y prif ffocws bob amser ar y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni.

Y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion a’r cynnydd a wnânt yw’r mesur allweddol o ansawdd yr addysg y maent wedi’i chael ac o effeithiolrwydd arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol. Bydd arolygiadau yn canolbwyntio ar anghenion disgyblion ac effaith addysg a hyfforddiant ar godi safonau.

Gall y cyfnod arolygu a nifer yr arolygwyr amrywio yn ôl maint yr ysgol.

Bydd adroddiadau arolygu yn ymdrin â phob cwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd ac agwedd ar y fframwaith arolygu cyffredin ac unrhyw ofynion adrodd1.

Cynhelir pob arolygiad yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg, sydd ar gael ar wefan yr arolygiaeth www.estyn.llyw.cymru ac mae’n cael ei gefnogi gan arweiniad atodol ar arolygu datblygu’r iaith Gymraeg.

Yr Ystafell Arolygu Rithwir

Bydd yr arolygiaeth yn defnyddio system electronig ar gyfer rheoli sawl agwedd ar yr arolygiad. Yr enw ar y system hon yw’r ‘Ystafell Arolygu Rithwir’ (YAR). Dyma system ar y we sy’n caniatáu i ysgolion lwytho gwybodaeth i fyny ar gyfer yr arolygiaeth a lawrlwytho arweiniad oddi wrth yr arolygiaeth am y broses arolygu. Hefyd, yr YAR yw’r man lle gall ysgolion fynd at arweiniad yr enwebai ar baratoi ar gyfer yr arolygiad ac at yr holiaduron ôl-arolygiad.

Mae set gynhwysfawr o ddogfennau a fideos arweiniad ar gael ar wefan Estyn i helpu ysgolion ddeall a defnyddio’r system.

Y tîm arolygu

Bydd timau arolygu yn cael eu harwain gan arolygydd cofnodol (AEM, arolygydd ychwanegol neu arolygydd cofrestredig), gydag aelodau eraill o’r tîm yn cael eu cymryd o blith AEM neu arolygwyr ychwanegol. Gallai arolygwyr ychwanegol fod ar secondiad neu gontract i’r arolygiaeth. Bydd arolygydd cymheiriaid ym mhob tîm hefyd (staff o ysgol arall) ac arolygydd lleyg.

1 Gweler y cwestiynau allweddol a’r dangosyddion ansawdd ar dudalen 17. Gweler Atodiad 1 y

Fframwaith Arolygu Cyffredin.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

6

Mae’r arolygydd cofnodol yn rheoli’r tîm arolygu a’r broses arolygu gyfan, ac ef/hi yw’r unigolyn cyswllt cyntaf ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan yn yr arolygiad. Bydd ysgolion yn cael eu gwahodd i ddewis uwch aelod o staff, a elwir yr enwebai, i weithio gyda’r tîm arolygu. Bydd gan yr enwebai hynafedd digonol i weithredu fel unigolyn cyswllt rhwng yr ysgol a’r tîm arolygu ond nid oes angen iddo/iddi fod yn arweinydd yr ysgol.

Cysylltu â’r ysgol cyn yr arolygiad

Bydd yr ysgol yn cael pedair wythnos waith o rybudd am yr arolygiad. Ar ôl hyn, bydd yr arolygiaeth yn cysylltu â’r ysgol dros y ffôn i wneud y trefniadau ar gyfer yr arolygiad. Yn ystod y drafodaeth hon, bydd yr arolygiaeth:

Yn esbonio diben yr arolygiad ac yn trafod rhaglen amlinellol ar gyfer yr arolygiad

Yn trafod y wybodaeth benodol sydd ei hangen cyn yr arolygiad ac yn gwneud y trefniadau ar gyfer ei chael ar ffurf electronig drwy gyfrwng yr Ystafell Arolygu Rithwir

Yn gofyn a oes unrhyw faterion neu risgiau y dylai’r tîm fod yn ymwybodol ohonynt ac yn gofyn am sesiwn friffio gyffredinol ynghylch iechyd a diogelwch ar gyfer y tîm ar ddechrau’r arolygiad

Yn pennu a yw’r ysgol yn dymuno cael enwebai, ac os felly, yn cytuno ar rôl yr enwebai

Yn cytuno ar drefniadau ar gyfer trefnu cyfarfod gyda rhieni/gofalwyr

Yn trefnu bod tystiolaeth ategol ar gael, gan gynnwys samplau o waith disgyblion

Yn sicrhau bod gweithdrefnau cytûn ar gyfer mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu gŵynion a allai godi yn ystod yr arolygiad

Yn trefnu i aelod o’r corff llywodraethol gyfarfod ag arolygwyr yn ystod y cyfnod arolygu

Yn gwneud unrhyw drefniadau domestig, fel canolfan ar gyfer yr arolygwyr a pharcio

Yn gwneud trefniadau ar gyfer adrodd yn ôl ynghylch canfyddiadau’r arolygiad

Yn cytuno ar y trefniadau ar gyfer llenwi’r holiadur ôl-arolygiad

Yn hysbysu’r ysgol y bydd materion allweddol y trefniadau yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig

Bydd yr arolygiaeth yn gofyn am y wybodaeth ganlynol cyn gynted ag y bo modd:

gwybodaeth gefndir allweddol am yr ysgol

copi o adroddiad hunanarfarnu a chynllun gwella diweddaraf yr ysgol

manylion am amserlenni’r ysgol ar gyfer cyfnod yr arolygiad Os yw’r arolygiad yn cael ei gynnal ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, gall yr arolygiaeth ofyn am samplau o waith disgyblion o’r flwyddyn flaenorol, os yw ar gael. Ar gyfer disgyblion y mae eu cyrhaeddiad yn is, gall y samplau hyn gynnwys ffyrdd eraill o gydnabod a chofnodi cynnydd a chyflawniad fel ffotograffau a DVDau yn ogystal â gwaith ysgrifenedig.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

7

Bydd yr arolygiaeth yn gofyn i’r ysgol roi gwybod i bartneriaid a rhanddeiliaid eraill am yr arolygiad, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyfarfod cyn-arolygiad gyda rhieni/gofalwyr.

Pan gaiff ysgolion wybod am arolygiad, byddant yn cael gwybodaeth am sut i gynnal arolwg cyfrinachol ar-lein o ddisgyblion a rhieni/gofalwyr. Hefyd, bydd Estyn yn cynnal holiadur ar-lein cyn-arolygiad ar gyfer llywodraethwyr a’r holl staff addysgu a staff cymorth dysgu sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan yr ysgol. Bydd yr arolygon yn rhan o’r dystiolaeth cyn-arolygiad.

Os oes 100 o ddisgyblion neu lai, dylai pob disgybl gymryd rhan yn yr arolwg. Os oes mwy na 100 o ddisgyblion, dylai’r arolwg gynnwys o leiaf 100 neu 25% os yw cyfanswm nifer y disgyblion yn 400 neu fwy. Dylid dewis y sampl o ddisgyblion ar hap trwy drefnu gyda’r arolygiaeth. Cynigir holiaduron â symbolau lle bo’n briodol.

Yn ystod yr arolygiad, bydd arolygwyr yn cyfweld ag aelodau o gyngor yr ysgol a gallant hefyd gyfweld â grwpiau penodol eraill o ddisgyblion, i ddilyn trywyddau ymholi a nodwyd.

Ar gyfer ysgolion arbennig, bydd yr arolygiaeth yn defnyddio dull hyblyg ar gyfer gwrando ar ddysgwyr er mwyn bodloni anghenion unigol y disgyblion ym mhob ysgol.

Bydd yr arolygiaeth yn casglu ac yn dadansoddi ymatebion y dysgwyr a’r rhieni i’r holiadur. Bydd yn cyflwyno canlyniadau’r holiaduron i rieni a dysgwyr mewn atodiad i’r adroddiad arolygu.

Cynllunio’r arolygiad a pharatoi’r tîm

Wrth ystyried adroddiad hunanarfarnu’r ysgol ac unrhyw wybodaeth sydd gan yr arolygiaeth eisoes, bydd yr arolygydd cofnodol yn cynllunio’r arolygiad ac yn dyrannu cyfrifoldebau i aelodau o’r tîm arolygu.

Bydd yr arolygiaeth yn trefnu cael sesiwn friffio ar yr ysgol gan yr awdurdod lleol.

Bydd yr arolygydd cofnodol yn cwblhau sylwebaeth cyn-arolygiad (SCA). Bydd hyn yn cynnwys rhagdybiaethau wedi’u seilio ar yr adroddiad hunanarfarnu a gwybodaeth arall y bydd arolygwyr yn ei defnyddio i gyfeirio eu trywyddau ymholi yn ystod yr arolygiad.

Anfonir y sylwebaeth cyn arolygiad at yr enwebai ar y diwrnod gwaith olaf cyn wythnos yr arolygiad.

Mae arolygiadau yn cynnwys arsylwi addysgu, hyfforddi a gwaith gyda disgyblion. Disgwylir i ysgolion anfon cynllun llawn o’r holl weithgareddau a fwriedir yn ystod wythnos yr arolygiad at yr arolygydd cofnodol. Dylai hyn gynnwys unrhyw addysg oddi ar y safle y gall disgyblion fod yn ei chael. Ar sail y wybodaeth a gafwyd, bydd arolygwyr yn dewis sampl fechan o sesiynau i’w harsylwi ac arfarnu. Bydd y sampl yn adlewyrchu ystod gwaith yr ysgol ac yn cefnogi’r ymchwiliad i drywyddau ymholi a awgrymwyd gan ragdybiaethau cychwynnol arolygwyr.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

8

Yn ystod yr arolygiad

Y cyfarfod tîm cychwynnol

Yng nghyfarfod cychwynnol y tîm arolygu, dylid cael sesiwn friffio iechyd a diogelwch oddi wrth y darparwr. Ar ôl hynny, dylai’r tîm drafod y strategaeth ar gyfer yr arolygiad. Dylai hyn ddechrau gydag adroddiad hunanarfarnu’r ysgol a’r SCA. Bydd arolygwyr yn cymryd sampl o’r arfarniadau a wnaed gan yr ysgol, ac yn eu profi a’u dilysu.

Dylai’r trafodaethau ganolbwyntio ar y dystiolaeth y mae angen ei hadolygu. Bydd hyn yn cynnwys arsylwadau, samplau o waith disgyblion a chyfweliadau gyda disgyblion, staff a rhanddeiliaid eraill.

Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu

Bydd arolygwyr yn arfarnu’r ddarpariaeth ac yn llunio dwy farn allweddol gyffredinol. Bydd y barnau cyffredinol hyn yn deillio o’r barnau a luniwyd ar y tri chwestiwn allweddol. Mae pob cwestiwn allweddol wedi’i rannu’n ddangosyddion ansawdd sydd â nifer o agweddau.

Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu ymdrin â’r agweddau a dilyn y trywyddau ymholi a nodwyd sy’n benodol i’r ysgol.

Bydd y tîm yn sicrhau bod ganddynt ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen i lunio barnau. Bydd angen i’r tîm sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y dystiolaeth allweddol y gellir ei defnyddio i gadarnhau ei farnau. Dyma’r prif fathau o dystiolaeth:

briffiau gan yr awdurdod lleol

tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys data ar berfformiad a chynnydd disgyblion

arsylwi sesiynau addysgu neu hyfforddi a gweithgareddau eraill

samplau o waith disgyblion

barn disgyblion a rhanddeiliaid

trafodaethau gyda staff, arweinwyr a rheolwyr, llywodraethwyr neu gyrff goruchwylio eraill

Mae manylion y prif ffynonellau tystiolaeth wedi’u cynnwys yn Atodiad 2.

Bydd arsylwadau uniongyrchol o waith yn cael eu defnyddio gan y tîm lle bynnag y bo modd i gasglu tystiolaeth i gefnogi barnau. Bydd y tîm yn treulio rhwng 30% a 50% o’u hamser ar yr arolygiad yn arsylwi’r addysgu. Bydd arolygwyr fel arfer yn treulio dim llai na 30 munud yn arsylwi gweithgaredd dysgu.

Gall arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion i ddiwallu anghenion trywydd ymholi penodol.

Mae llais y dysgwr yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth o’u cyflawniad, eu hagweddau a’u lles. Bydd trafodaethau yn gyfle i archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’u gwaith, a pha mor dda y maent yn teimlo bod yr ysgol yn eu cefnogi ac yn cyfrannu at eu lles.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

9

Dylai’r disgyblion fydd yn cael eu cyfweld gael eu dewis yn ofalus er mwyn darparu tystiolaeth ar gyfer trywyddau ymholi penodol. Bydd arolygwyr yn gofyn am restr o ddisgyblion o’r ysgol ac wedyn yn dewis y rhai y maent yn dymuno cyfweld â nhw. Gall y tîm arolygu ofyn am restrau ar sail categorïau amrywiol, er enghraifft, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, siaradwyr Cymraeg, y rhai o gefndiroedd dan anfantais a grwpiau ethnig lleiafrifol. Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio, profion darllen ac unrhyw asesiadau perthnasol eraill. Bydd hyn yn helpu arolygwyr i farnu cynnydd disgyblion a llunio safbwynt am y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni o’i gymharu â mannau cychwyn. Bydd angen i’r tîm ystyried barn rhanddeiliaid ar yr ysgol a phrofi dilysrwydd y safbwyntiau hynny yn ystod yr arolygiad er mwyn llywio barnau. Mae’n bwysig bod yr arolygydd cofnodol yn cynnal cyfarfod dyddiol byr gyda’r pennaeth i gytuno ar drefniadau newydd, trafod materion sy’n peri pryder, egluro materion arolygu, cael rhagor o wybodaeth a thrafod canfyddiadau sy’n codi. Cofnodi tystiolaeth arolygu Bydd arolygwyr yn defnyddio amrywiol ffurflenni i gofnodi a choladu eu canfyddiadau a’u barnau. Gallai’r rhain ymwneud ag arsylwi ar weithgareddau dysgu, trafodaethau â disgyblion, craffu ar samplau o waith disgyblion, cyfweliadau â staff, arweinwyr a rheolwyr, a chraffu ar ddogfennau a gwybodaeth am berfformiad. Lle bynnag y bo’n bosibl ac yn ymarferol, bydd arolygwyr yn llenwi eu ffurflenni barnau yn electronig fel rhan o system electronig Estyn ar gyfer casglu, coladu a chofnodi canfyddiadau arolygu. Cyfarfodydd tîm Prif ddiben cyfarfodydd tîm yw llunio safbwynt cyffredinol, cywir, sydd wedi’i brofi’n drylwyr am safonau, ansawdd ac arweinyddiaeth. Bydd y tîm arolygu cyfan yn cytuno ar farnau cyffredinol sydd wedi’u seilio ar ddigon o dystiolaeth ddilys a dibynadwy. Bydd cyfarfodydd yn cynnwys agendâu clir a bydd cyfleoedd i arolygwyr:

Brofi’r barnau yn adroddiad hunanarfarnu’r ysgol

Trafod materion sy’n codi a thrywyddau ymholi

Datrys materion a rhagdybiaethau cyn-arolygiad

Trafod unrhyw fylchau yn sail y dystiolaeth

Ystyried prif ganfyddiadau ac argymhellion yr arolygiad Deialog broffesiynol Ar ddiwedd sesiwn arsylwi, dylai arolygwyr, cyhyd ag y bo’n ymarferol, gynnal deialog broffesiynol fer gyda’r aelod staff ar y gwaith a welwyd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cael trafodaeth lawnach yn ddiweddarach, ac os felly, dylid trefnu hyn ar ddiwedd y sesiwn. Dylid dweud wrth yr aelod staff mai barnau dros dro yw’r rhain ar

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

10

un agwedd ar y dystiolaeth ac y gellir diwygio’r holl farnau, ar ôl myfyrio arnynt, ar ôl archwilio gwaith disgyblion neu siarad â disgyblion, neu o ganlyniad i safoni o fewn y tîm. O’r herwydd, ni ddylai arolygwyr drafod unrhyw arfarniadau dros dro, ond dylid gallu gweld eu bod yn ceisio canolbwyntio ar unrhyw gryfderau neu feysydd i’w datblygu o ran y gwaith a welwyd.

Adborth ffurfiol

Ar ddiwedd y rhan ar y safle o’r arolygiad, bydd y tîm yn rhoi adborth llafar i arweinwyr a rheolwyr. Dylid gwahodd cynrychiolwyr o’r corff llywodraethol a’r awdurdod lleol neu’r consortiwm rhanbarthol i’r cyfarfod. Dylai’r adborth gyfleu’r prif farnau a’r rhesymau drostynt ar gyfer y ddwy farn gryno gyffredinol ac ar gyfer y cwestiynau allweddol a’r dangosyddion ansawdd.

Mae’r cyfarfod adborth yn rhoi cyfle i arweinwyr a rheolwyr glywed y barnau a myfyrio arnynt. Dylai’r adborth ganolbwyntio ar y cryfderau a’r meysydd i’w gwella a’r ffactorau sy’n cyfrannu atynt. Dylai’r arolygydd cofnodol esbonio i’r ysgol y gellir codi materion a’u trafod, gellir cywiro materion ffeithiol a gellir egluro barnau, ond na ellir negodi barnau. Dylai fod cysondeb bras rhwng yr arfarniadau sy’n cael eu hadrodd yn ôl a’r hyn sy’n ymddangos yn yr adroddiad ysgrifenedig oni bai bod angen newid yr arfarniadau o ganlyniad i safoni mewnol o fewn yr arolygiaeth ar ôl y rhan ar y safle o’r arolygiad.

Mae’r holl farnau yr adroddir amdanynt yn ystod arolygiad yn rhai dros dro ac yn amodol ar gael eu safoni gan PAEM. Maent yn gyfrinachol hyd nes cyhoeddi’r adroddiad.

Gweithgarwch dilynol

Yn ystod pob arolygiad craidd, bydd y tîm arolygu yn ystyried a oes angen gweithgarwch dilynol ar yr ysgol a bydd yn rhoi adborth clir i arweinwyr a rheolwyr yn ystod y cyfarfod adborth ffurfiol os oes angen unrhyw weithgarwch dilynol.

Bodloni gofynion statudol

Caiff gwaith ysgolion ei reoli gan ystod o ofynion statudol. Mae’r arolygiaeth yn disgwyl i ysgolion arfarnu pa mor effeithiol y maent yn bodloni’r gofynion hyn trwy eu gweithdrefnau hunanarfarnu arferol eu hunain. Dylent nodi pa mor dda y maent yn bodloni’r gofynion hyn yn eu hadroddiad hunanarfarnu. Bydd arolygwyr yn defnyddio’r adroddiad hunanarfarnu a gwybodaeth arall i nodi unrhyw faterion mewn perthynas â pha mor effeithiol y mae ysgol yn bodloni ei gofynion statudol. Bydd arolygwyr yn ymchwilio i’r materion hyn ymhellach yn ystod yr arolygiad pan fyddant yn debygol o gael effaith sylweddol ar safonau ac ansawdd.

Os methir bodloni gofynion statudol sy’n effeithio ar ansawdd a safonau, adroddir am hyn yn y testun a gall arwain at farn nad yw’n uwch na digonol ar gyfer y dangosydd ansawdd perthnasol.

Mae manylion am y gofynion statudol perthnasol wedi’u cynnwys yn Atodiad 3.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

11

Ar ôl yr arolygiad

Yr adroddiad arolygu

Mae’r arolygydd cofnodol yn gyfrifol am lunio adroddiad arolygu terfynol sy’n glir i gynulleidfa leyg ac yn ddefnyddiol i’r ysgol. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd prif gorff yr adroddiad yn hwy na phump neu chwe tudalen. Pan fyddant yn ysgrifennu adroddiadau, dylai arolygwyr ystyried arweiniad ysgrifennu Estyn sydd ar gael ar ein gwefan www.estyn.llyw.cymru.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau yn ddwyieithog lle gofynnir am hyn, yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Estyn.

Mae strwythur yr adroddiad arolygu wedi’i seilio ar ddwy farn gryno gyffredinol, tri chwestiwn allweddol a 10 dangosydd ansawdd a bydd ar y ffurf ganlynol:

Ynglŷn â’r ysgol Crynodeb

barn gyffredinol ar berfformiad presennol yr ysgol

barn gyffredinol ar ragolygon gwella’r ysgol Argymhellion Prif ganfyddiadau Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r deilliannau?

safonau

lles Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw’r ddarpariaeth?

profiadau dysgu

addysgu

gofal, cymorth ac arweiniad

amgylchedd dysgu Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth?

arweinyddiaeth

gwella ansawdd

gweithio mewn partneriaeth

rheoli adnoddau Atodiadau Atodiad 1: Adroddiad boddhad rhanddeiliaid Atodiad 2: Y tîm arolygu

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

12

Bydd y ddwy farn gryno gyffredinol a’r barnau ar gyfer y tri chwestiwn allweddol a’r 10 dangosydd ansawdd wedi’u seilio ar raddfa pedwar pwynt:

Rhagorol Da

Digonol Anfoddhaol

Bydd yr adroddiad yn dweud a oes angen unrhyw weithgarwch dilynol ar yr ysgol. Bydd yr adroddiad yn cael ei lunio o fewn graddfeydd amser statudol. Bydd yr arolygiaeth yn rhoi drafft hwyr o’r adroddiad i’r ysgol i helpu gwirio cywirdeb ffeithiol y cynnwys. Mae gan yr ysgol bum niwrnod gwaith i ystyried yr adroddiad drafft a nodi unrhyw gamgymeriadau ffeithiol.

Sicrhau ansawdd arolygiadau

Mae’r arolygiaeth wedi ymrwymo i:

ddewis, hyfforddi, briffio, cynorthwyo a defnyddio arolygwyr yn effeithiol, gan gynnwys arolygwyr cymheiriaid ac arolygwyr lleyg

hyfforddiant, briffio a chymorth effeithiol er mwyn galluogi’r enwebai i chwarae rôl weithredol

trafodaethau rheolaidd gyda’r pennaeth yn ystod yr arolygiad

meini prawf a systemau cofnodi sy’n cydymffurfio â’r fframwaith arolygu cyffredin a’r arweiniad

adolygu a dadansoddi tystiolaeth yn ofalus

adborth llafar diamwys ar y barnau cryno, y cwestiynau allweddol a’r dangosyddion ansawdd

adroddiadau sy’n gyson glir, cywir ac wedi’u cyflwyno’n dda

cynnal gweithgareddau safoni a gwella ansawdd mewnol priodol, gan gynnwys monitro arolygiadau o bryd i’w gilydd

Fel rhan o’i gweithdrefnau sicrhau ansawdd, mae’r arolygiaeth yn gwahodd ysgolion i lenwi holiadur ôl-arolygiad. Bydd yr holiadur ar gael i ysgolion yn yr YAR. Dylai ysgolion lenwi rhan gyntaf yr holiadur ar unwaith yn dilyn yr arolygiad ar y safle a’i gyflwyno’n electronig i Estyn drwy system yr YAR. Gall ysgolion lenwi ail ran yr holiadur yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad arolygu, eto drwy system yr YAR. Dylai ysgolion godi unrhyw bryderon am y dull o gynnal arolygiad gyda’r arolygydd cofnodol yn ystod yr arolygiad. Dylid trafod unrhyw wrthwynebiad i ganfyddiadau’r arolygiad gyda’r arolygydd cofnodol hefyd wrth iddynt godi yn ystod yr arolygiad. Yr arolygydd cofnodol fydd yn sicrhau ansawdd yr arolygiad yn gyntaf bob amser. Bydd yr arolygiaeth yn sicrhau ansawdd sampl o arolygiadau ac adroddiadau. Mae trefniadau Estyn ar gyfer delio â chwynion wedi’u cyflwyno yn ‘Gweithdrefn ar gyfer Delio â Chwynion’, sydd ar gael ar wefan yr arolygiaeth, www.estyn.llyw.cymru.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

13

Rhan 2: Llunio barnau

Mae’r arweiniad sy’n dilyn yn dangos sut i gwblhau’r adrannau ynglŷn â’r ysgol, y crynodeb ac argymhellion yr adroddiad, ac mae’n amlinellu’r gofynion adrodd ar gyfer pob cwestiwn allweddol.

Ynglŷn â’r ysgol

Dylai’r adran hon o’r adroddiad gynnwys gwybodaeth gefndir gryno am yr ysgol. Fel arfer caiff cynnwys yr adran hon ei gytuno gyda’r ysgol. Pan fydd anghytuno ynglŷn â chynnwys yr adran hon, bydd yr arolygydd cofnodol yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â beth i’w gynnwys yn yr adroddiad.

Rhaid i’r adran hon gynnwys gwybodaeth gryno am:

faint, natur a lleoliad yr ysgol

cefndir ac amgylchiadau’r disgyblion, gan gynnwys anfantais economaidd gymdeithasol, er enghraifft, canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, canran y lleiafrifoedd ethnig, canran y disgyblion ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig a’r disgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig, a symudedd y disgyblion

cefndir ieithyddol y disgyblion

nodweddion yr ardal y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu

unrhyw newidiadau arwyddocaol ers yr arolygiad diwethaf

unrhyw ffactorau perthnasol eraill

Dylai’r adroddiad gynnwys y datganiad isod os yw ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen ysgolion arloesi, sy’n deillio’n bennaf o adroddiad yr Athro Graham Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus (2015). Mae’r datganiad yn datgan bod yr ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen ac nid yw’n ddatganiad am ansawdd gwaith yr ysgol.

‘Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn ymwneud â’r cwricwlwm a/neu ddysgu proffesiynol.’

Yng ngoleuni datblygiadau cenedlaethol presennol, gallai arolygwyr ddarganfod bod ysgolion yn rhan o’r rhaglen ysgolion arloesi. Mae’n bosibl y bydd ysgolion eraill nad ydynt yn rhan ffurfiol o’r rhaglen hon yn cymryd rhan yn y gwaith hwn yn anffurfiol trwy gydweithio ag ysgolion arloesi, neu drwy grwpiau’r consortia rhanbarthol. Dylai arolygwyr ystyried arloesi ac ymagwedd hyblyg mewn modd cadarnhaol pan fydd ysgolion wedi ceisio bod yn greadigol ac yn ddychmygus wrth ddatblygu mentrau er budd disgyblion.

Crynodeb

Mae’r crynodeb yn cynnwys y ddwy farn gyffredinol ar berfformiad cyfredol yr ysgol a’i rhagolygon gwella. Dylai fod esboniad byr o’r rhesymau am y barnau hyn. Rhaid i’r crynodeb fod yn gyson â’r testun yng nghorff yr adroddiad a’r adborth llafar i’r ysgol.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

14

Barn gyffredinol ar berfformiad cyfredol yr ysgol Dylid seilio’r farn gyffredinol gyntaf ar y barnau a luniwyd ar y tri chwestiwn allweddol. Dylid rhoi’r pwys mwyaf i’r farn ar Gwestiwn Allweddol 1. Fel arfer, ni ddylai’r farn gyffredinol hon fod yn uwch na’r farn isaf a ddyfarnwyd i unrhyw gwestiwn allweddol. Gall y farn gyffredinol fod un lefel yn uwch na’r lefel isaf a ddyfarnwyd i unrhyw gwestiwn allweddol, ond rhaid esbonio’r rhesymau dros yr eithriad hwn yn glir ac yn llawn yn yr adroddiad. Yn ystod y broses o safoni barnau’r arolygiad, bydd eithriadau o’r fath yn cael eu hystyried yn ofalus. Barn gyffredinol ar ragolygon gwella’r ysgol Mae’r ail farn gyffredinol yn cynrychioli hyder arolygwyr yng ngallu’r ysgol i fynd ati i wella ei hun yn y dyfodol. Wrth lunio barn am y rhagolygon gwella, bydd arolygwyr yn ystyried i ba raddau y mae gan arweinwyr a rheolwyr:

y cynhwysedd a’r gallu i wneud gwelliannau a rhoi cynlluniau ar waith

hanes llwyddiannus o reoli newid, mynd i’r afael ag argymhellion o arolygiadau blaenorol a sicrhau gwelliant

blaenoriaethau clir a thargedau heriol ar gyfer gwella

cynlluniau cydlynus ac ymarferol i fodloni targedau

adnoddau i fodloni’r blaenoriaethau a nodwyd

systemau priodol i adolygu cynnydd, nodi meysydd ar gyfer eu gwella a chymryd camau effeithiol i’w cywiro

Dylai fod cysylltiad agos fel arfer rhwng y farn ar y rhagolygon gwella a’r barnau cyffredinol i’r dangosyddion ansawdd ar gyfer arweinyddiaeth a/neu wella ansawdd, neu ag agweddau arwyddocaol o fewn y dangosyddion ansawdd hynny sy’n cefnogi’r farn gyffredinol.

Disgrifiadau barn

Mae’r disgrifiadau canlynol wedi’u bwriadu i fod yn arweiniad i helpu arolygwyr i lunio barnau trwy ystyried cydbwysedd ac arwyddocâd cymharol y cryfderau a’r meysydd i’w gwella.

Rhagorol – Llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector

Da – Llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig y mae angen eu gwella’n sylweddol

Digonol – Cryfderau yn gorbwyso meysydd i’w gwella

Anfoddhaol – Meysydd pwysig i’w gwella yn gorbwyso cryfderau

Bydd angen i arolygwyr wirio pa un o’r disgrifiadau uchod sydd fwyaf addas ar gyfer pob un o’r barnau cryno, y cwestiynau allweddol a’r dangosyddion ansawdd.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

15

Barnu cwestiynau allweddol a dangosyddion ansawdd

Mae cyswllt cryf rhwng canlyniadau, darpariaeth ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Os yw arweinwyr a rheolwyr yn gweithio’n effeithiol, yna dylid adlewyrchu hyn yn y ddarpariaeth ac yn y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni. Felly, ni fydd y barnau ar gyfer Cwestiynau Allweddol 2 a 3 fel arfer ar lefel uwch na’r farn ar gyfer Cwestiwn Allweddol 1, ond gallant fod yn is. Pan fydd gwahaniaethau rhwng y barnau ar gyfer Cwestiwn Allweddol 1, a Chwestiynau Allweddol 2 a 3, dylid esbonio’r rhain yn nhestun yr adroddiad.

Fel arfer, dylai’r farn gyffredinol ar y cwestiwn allweddol adlewyrchu’r barnau ar gyfer y dangosyddion ansawdd yn y cwestiwn allweddol ac ni ddylai fod yn fwy nag un lefel yn uwch na’r lefel isaf a ddyfarnwyd i unrhyw ddangosydd ansawdd.

Ni ddylai’r farn ar reoli adnoddau fel dangosydd ansawdd fod yn uwch ar y raddfa na’r farn ar gyfer Cwestiwn Allweddol 1 fel arfer, ond gall fod yn is.

Argymhellion

Dylai’r argymhellion roi syniad clir a phenodol i’r ysgol o’r meysydd i’w gwella y bydd angen iddi fynd i’r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu. Dylai arolygwyr ysgrifennu’r argymhellion yn nhrefn eu blaenoriaeth a, lle bo angen codi safonau cyflawniad neu gyrhaeddiad, dyma fydd y brif flaenoriaeth. Dylai’r argymhellion ddeillio o’r prif farnau a dylent ddarparu sylfaen glir ac ymarferol y gall yr ysgol weithredu arni. Rhaid i arolygwyr gyfeirio at unrhyw faterion arwyddocaol a nodwyd yn yr adroddiad lle nad yw arfer yr ysgol yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.

Dangosyddion ansawdd

Mae’r 10 dangosydd ansawdd a ddefnyddir mewn arolygiadau wedi’u hamlinellu isod o dan y tri chwestiwn allweddol. Ar gyfer pob dangosydd ansawdd, mae ystod o agweddau. Mae arweiniad ar sut i arolygu’r dangosydd ansawdd wedi’i amlinellu o dan bob cwestiwn allweddol.

Dylai arolygwyr roi arfarniad cyffredinol ar gyfer yr holl gwestiynau allweddol a dangosyddion ansawdd a rhoi sylwadau ar bob agwedd.

Mae paragraffau enghreifftiol ar gyfer barnau da ac anfoddhaol yn esbonio pob dangosydd ansawdd. Ni ddylid defnyddio’r paragraffau hyn fel rhestrau gwirio crai, ond fel cyfeiriad i gefnogi’r broses o lunio barn. Dylid eu defnyddio ar y cyd â’r disgrifiadau barn. Dylai arolygwyr bwyso a mesur y dystiolaeth a phennu barnau ar sail y rhai sy’n cyd-fynd orau â’r disgrifiadau barn.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

16

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r deilliannau?

Wrth lunio barn gyffredinol ar gyfer y cwestiwn allweddol hwn, bydd arolygwyr yn rhoi’r pwys mwyaf i farnau am safonau.

1.1 Safonau

1.1.1 canlyniadau a thueddiadau mewn perfformiad o’u cymharu ag ysgolion tebyg a chyrhaeddiad blaenorol

1.1.2 safonau grwpiau o ddysgwyr 1.1.3 cyflawniad a chynnydd wrth ddysgu 1.1.4 medrau 1.1.5 yr iaith Gymraeg

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd

Dylai arolygwyr fod yn ymwybodol o’r ffaith na fydd hi bob amser yn bosibl nac yn briodol cymharu canlyniadau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig â meincnodau cenedlaethol, lleol a theuluol. Fodd bynnag, mae’n bwysig llunio safbwynt ynglŷn â’r graddau y mae potensial disgyblion fel dysgwyr yn cael ei gyflawni. Dylai arolygwyr ystyried cyflawniadau a chyrhaeddiad disgyblion yn erbyn data gwaelodlin.

Dylai arolygwyr bob amser ystyried yn ofalus a yw’r farn gyffredinol yn gyson â’r data sydd ar gael. Pan na fydd gwybodaeth am ddata yn cael ei hadlewyrchu ym marnau’r arolygwyr yn y dangosydd ansawdd hwn, dylai’r adroddiad esbonio’n glir pam.

Dylai arolygwyr ystyried y dystiolaeth o arsylwadau gwersi, trafodaethau gyda disgyblion a chraffu ar waith ysgrifenedig ac ymarferol yng ngoleuni’r data.

Ni ddylai arolygwyr ddyrannu mwy na thraean o’r adran ar safonau (1.1.1 ac 1.1.2) i sylwadau ar berfformiad yr ysgol mewn perthynas â data. Yn yr un modd, ni ddylai’r adroddiad gynnwys llawer o ddadansoddi data yn y fan hon, er enghraifft dadansoddiad manwl o berfformiad mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mhob cyfnod allweddol lle bo hynny’n berthnasol.

Dylid dyrannu dwy ran o dair o’r adran ar safonau i 1.1.3, 1.1.4 ac 1.1.5, ar ganfyddiadau mewn perthynas â chyflawniad a chynnydd mewn dysgu, medrau a datblygiad yr iaith Gymraeg.

1.1.1: canlyniadau a thueddiadau mewn perfformiad o’u cymharu ag ysgolion tebyg a chyrhaeddiad blaenorol

Dylai arolygwyr olrhain cynnydd disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion er mwyn asesu’r gwerth y mae’r ysgol wedi’i ychwanegu at y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni. Pan fo’n briodol, dylai arolygwyr gymharu canlyniadau disgyblion ar ddiwedd pob cyfnod allweddol gyda’u cyrhaeddiad blaenorol. Dylai’r cymariaethau hyn ystyried anghenion a galluoedd unigol disgyblion, data gwerth ychwanegol a pherfformiad ysgolion tebyg gan ddefnyddio data ystadegol meincnod pan fo hwn ar gael.

Mae Atodiad 7 yn rhoi arweiniad ar ddefnyddio data wrth arolygu ysgolion arbennig.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

17

Ar gyfer ysgolion arbennig, bydd arolygwyr yn rhoi mwy o bwyslais ar 1.1.3 ac 1.1.4 nag 1.1.1 oherwydd y diffyg data sydd ar gael i wneud cymariaethau ag ysgolion tebyg neu’r darlun cenedlaethol. Dylai arolygwyr ystyried a yw disgyblion yn symud ymlaen i gyrsiau, hyfforddiant, cyflogaeth neu ddarpariaeth arbenigol sy’n briodol ar gyfer eu gallu, eu diddordebau a’u perfformiad blaenorol. Yn benodol, ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, gallent ystyried cyrchfannau pob un o’r disgyblion ac nid yn unig y rhai sy’n aros ymlaen mewn darpariaeth ôl-16 yn yr ysgol. Dylent ystyried cyfran yr ymadawyr ysgol nad ydynt mewn cyflogaeth neu nad ydynt yn ymgymryd ag addysg a hyfforddiant (NACH). 1.1.2: safonau grwpiau o ddysgwyr Lle bo hynny’n briodol, dylai arolygwyr adrodd ar berfformiad disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Mae Atodiad 7 yn rhoi arweiniad ar ddefnyddio data ar gyfer adrodd ar berfformiad disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried perfformiad grwpiau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys:

bechgyn o’u cymharu â merched

plant y gofelir amdanynt

disgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol

disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu’r rhai sy’n perthyn i grŵp sy’n agored i niwed (gweler Atodiad 6 am esboniad o ADY)

Dylai barnau am gyflawniad disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ystyried eu cyflawniadau mewn perthynas â chyflawni nodau dysgu cytûn. Bydd pwysigrwydd cymharol deilliannau dysgu penodol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn wahanol yn ôl natur a difrifoldeb eu hanghenion unigol. Bydd barnau’n canolbwyntio ar gynnydd disgyblion. 1.1.3: cyflawniad a chynnydd mewn dysgu Dylai arfarniad arolygwyr o gyflawniad a chynnydd disgyblion fod wedi’i seilio ar arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a thrafodaethau gyda disgyblion a/neu eu staff cymorth. Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y mae disgyblion yn galw i gof ddysgu blaenorol, yn datblygu medrau meddwl, yn caffael gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau newydd ac yn cymhwyso’r rhain i sefyllfaoedd newydd. Pan fo modd, dylai arolygwyr arfarnu’r safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd, a barnu a yw’r rhain yn briodol i oedran, gallu ac anghenion unigol y disgyblion. Dylai arolygwyr ystyried cynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Bydd barnau am gyflawniad yn cael eu dylanwadu gan wybodaeth am anghenion a galluoedd unigol disgyblion a dylent gydnabod cynnydd a datblygiad disgyblion o fan cychwyn penodol, mewn perthynas â’r cyd-destun y maent yn dysgu ynddo a’u ADY penodol.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

18

Dylai arolygwyr hefyd ystyried tystiolaeth yng nghynlluniau addysg unigol (CAUau) disgyblion wrth lunio barn ar gyfradd y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud mewn perthynas â’u gallu.

1.1.4: medrau

Wrth arolygu medrau, dylai’r ffocws fod ar ba un a yw pob disgybl yn meddu ar y medrau mewn cyfathrebu, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) y mae eu hangen i fanteisio ar y cwricwlwm cyfan, a pha mor dda y mae’r cwricwlwm ehangach ei hun yn datblygu medrau disgyblion. Lle bo’n briodol, dylai arolygwyr hefyd ystyried pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu eu medrau meddwl ar draws y cwricwlwm.

Mae mwy o arweiniad ar arolygu medrau llythrennedd a rhifedd a medrau meddwl ar wefan Estyn (www.estyn.llyw.cymru).

Pan fo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried ac adrodd ar ddeilliannau mewn cymwysterau medrau sylfaenol a medrau allweddol, ac mewn perfformiad TGAU ac asesiadau cyfnod allweddol 3 mewn Saesneg a/neu Gymraeg, mathemateg a TGCh. Lle maent ar gael, dylai arolygwyr hefyd ystyried canlyniadau asesiadau perthnasol eraill, fel asesiadau o allu darllen disgyblion, wrth lunio barn ar fedrau llythrennedd disgyblion. I rai disgyblion, bydd asesiadau fel llwybrau ar gyfer dysgu a graddfeydd P yn rhoi mesur defnyddiol o’r cynnydd a wnaed.

Dylai arolygwyr adrodd ar safonau disgyblion ym medrau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu, ac mewn rhifedd a TGCh.

Dylai arolygwyr farnu safonau mewn medrau ar sail tystiolaeth o arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a thrwy siarad â disgyblion lle bo modd. Bydd arsylwi’n ofalus ar ddisgyblion mewn gwersi a siarad â disgyblion yn darparu tystiolaeth o fedrau siarad a gwrando, a medrau rhifedd disgyblion a’u gallu i feddwl. Bydd craffu ar waith yn dangos a yw disgyblion yn gallu ysgrifennu’n glir a darllen er mwyn deall a defnyddio eu medrau rhifedd ar y lefelau priodol a pha mor dda y maent yn ymgymryd â thasgau ymchwil.

Dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae medrau cyfathrebu disgyblion, gan gynnwys medrau cyfathrebu dieiriau a medrau meddwl, yn cynorthwyo neu’n rhwystro cynnydd o ran rhyngweithio yn yr ystafell ddosbarth, gydag athrawon a chyfoedion.

Yng ngoleuni’r datblygiadau cenedlaethol presennol, gallai arolygwyr ddarganfod bod ysgolion yn rhan o’r rhaglen ysgolion arloesi. Mae’n bosibl y bydd ysgolion eraill nad ydynt yn rhan ffurfiol o’r rhaglen hon yn cymryd rhan yn y gwaith hwn yn anffurfiol trwy gydweithio ag ysgolion arloesi, neu drwy grwpiau’r consortia rhanbarthol. Dylai arolygwyr ystyried arloesi ym maes TGCh ac ymagwedd hyblyg tuag ati mewn modd cadarnhaol pan fydd ysgolion wedi ceisio bod yn greadigol ac yn ddychmygus wrth ddatblygu mentrau er budd disgyblion.

Dylai arolygwyr nodi a dilyn trywyddau ymholi ynglŷn â pherfformiad grwpiau penodol o ddisgyblion (fel y rhai sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol) ac a ydynt yn cael anawsterau penodol o ran manteisio ar y cwricwlwm.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

19

1.1.5: Yr iaith Gymraeg Wrth lunio barn gyffredinol ar ddatblygiad disgyblion yn yr iaith Gymraeg, dylai arolygwyr ystyried beth mae’n rhesymol ei ddisgwyl, gan ystyried cefndir ieithyddol, cyd-destun yr ysgol a’r ardal y mae’n ei gwasanaethu a pholisi iaith Gymraeg yr awdurdod lleol. Er enghraifft, dylai disgyblion sy’n astudio Cymraeg fel ail iaith mewn ysgol sydd â ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg sy’n gwasanaethu ardal lle mae cyfran sylweddol o’r gymuned leol yn siarad Cymraeg gyflawni safonau uwch mewn Cymraeg nag mewn ysgol cyfrwng Saesneg sy’n gwasanaethu ardal lle caiff disgyblion nifer fach o gyfleoedd i ddod i gysylltiad â’r Gymraeg heblaw yn yr ysgol. Dylai arolygwyr ystyried:

cyrhaeddiad disgyblion yng nghyfnodau allweddol 1 a 2 mewn Cymraeg neu Gymraeg ail iaith, fel y bo’n gymwys, o’i gymharu ag ysgolion tebyg a chyrhaeddiad blaenorol

cyrhaeddiad disgyblion yng nghyfnodau allweddol 3 a 4, ac yn y sector ôl-16, mewn Cymraeg, llenyddiaeth Gymraeg neu Gymraeg fel ail iaith, fel y bo’n gymwys, o’i gymharu ag ysgolion tebyg a chyrhaeddiad blaenorol

lle bo’n gymwys, cyfran y disgyblion sy’n ennill cymhwyster cydnabyddedig yng nghyfnod allweddol 4 mewn Cymraeg fel ail iaith, gan gynnwys y cwrs TGAU llawn Cymraeg fel ail iaith

y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud mewn gwersi Cymraeg a Chymraeg fel ail iaith

mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, parhad rhwng diwedd cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 mewn perthynas ag asesiadau diwedd cyfnod allweddol mewn Cymraeg iaith gyntaf

mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyfran y disgyblion sy’n cwblhau eu gwaith cwrs a’u hasesiadau terfynol yn Gymraeg yn y cyrsiau y maent yn eu dilyn ar draws y cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16

yn y sector cyfrwng Saesneg yn benodol, cynnydd disgyblion o ran defnyddio’r Gymraeg yn oddefol ac yn weithredol mewn cyd-destunau gwahanol y tu hwnt i’w gwersi Cymraeg, er enghraifft mewn pynciau eraill, yn ystod cyfnodau cofrestru a gwasanaethau, ac mewn gweithgareddau allgyrsiol

Mae sawl ffactor pwysig i’w hystyried:

man cychwyn y disgyblion

nodau a pholisi’r sefydliad, a lle bo’n berthnasol, nodau a pholisi’r awdurdod lleol

y cynnydd a wna disgyblion mewn perthynas â’u man cychwyn

y trefniadau trosglwyddo i sicrhau bod disgyblion yn astudio Cymraeg (iaith gyntaf), os ydynt wedi dilyn y rhaglen astudio Gymraeg yng nghyfnod allweddol 2

Dylai arolygwyr roi sylwadau ar gyfran y disgyblion sy’n ennill cymwysterau, lle bo’n briodol.

Safonau da

Lle bo’n briodol, mae disgyblion yn ennill cymwysterau perthnasol. Mewn gwersi a

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

20

thros gyfnod, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn neu well yn eu dysgu ac mae’r gweddill yn gwneud cynnydd digonol o leiaf. Mae disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cyflawni’n dda. Mae disgyblion yn cymhwyso eu medrau cyfathrebu, rhifedd a TGCh yn gadarn mewn ystod o gyd-destunau yn unol â’u gallu. Maent yn datblygu’r medrau ehangach a’r cymhwyso sydd ei angen i’w paratoi ar gyfer cyfnod nesaf eu haddysg neu fyd gwaith a hyfforddiant. Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da wrth ennill medrau yn y Gymraeg.

Safonau anfoddhaol

Nid yw llawer o ddisgyblion yn caffael y medrau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn llwyddiannus i symud i gyfnod nesaf y dysgu. Nid yw’r disgyblion hyn yn gwneud cynnydd digonol o leiaf yn eu dysgu. Nid yw tueddiadau’n dangos llawer o welliant. Mae lleiafrif o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn tangyflawni mewn un cyfnod allweddol neu fwy. Nid yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn ymgymryd yn dda â’r gweithgareddau a ddarperir, ac adlewyrchir hyn yn y ffaith fod tasgau’n cael eu cwblhau’n wael. Nid yw disgyblion yn gwneud digon o gynnydd wrth ennill medrau yn y Gymraeg.

1.2 Lles

1.2.1 agweddau at gadw’n iach a diogel 1.2.2 cyfranogi mewn dysgu a’i fwynhau 1.2.3 ymglymiad cymunedol a gwneud penderfyniadau 1.2.4 medrau cymdeithasol a medrau bywyd

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd

Mae’r ffocws yn y cwestiwn allweddol hwn ar ddeilliannau yn hytrach na darpariaeth. Bydd cwestiynau allweddol eraill, yn enwedig Cwestiwn Allweddol 2, yn ymdrin â gwaith yr ysgol yn hyrwyddo lles disgyblion.

Dylai arolygwyr geisio barnu, cyhyd ag y bo’n bosibl, y materion hynny y mae gan yr ysgol rywfaint o ddylanwad drostynt. Dylent wneud yn siwr bod ymholiadau yn canolbwyntio ar effaith gwaith yr ysgol yn y maes hwn. Dylai arolygwyr ystyried tystiolaeth o arolygon disgyblion a rhieni.

1.2.1: datblygu agweddau at gadw’n iach a diogel

Wrth arfarnu’r graddau y mae dysgwyr yn teimlo’n iach, gall arolygwyr ystyried a yw disgyblion yn datblygu neu a ydynt wedi datblygu dealltwriaeth briodol o sut gallant ddod yn iach, trwy’r hyn y maent yn ei fwyta ac yn ei yfed a’r gweithgarwch corfforol y maent yn ymgymryd ag ef. Wrth arfarnu’r graddau y mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, gallai arolygwyr ystyried y graddau y mae disgyblion yn teimlo’n rhydd oddi wrth gam-drin corfforol a geiriol yn yr ysgol.

1.2.2: cyfranogi mewn dysgu a’i fwynhau

Wrth arfarnu cyfranogi mewn dysgu a’i fwynhau, dylai arolygwyr ystyried

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

21

presenoldeb, ymddygiad ac agweddau, a’r graddau y mae gan ddisgyblion lais yn yr hyn maent yn ei ddysgu, a sut. Wrth arfarnu presenoldeb, dylai arolygwyr ystyried y gyfradd bresenoldeb gyffredinol, gan nodi unrhyw amrywiadau rhwng grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft y rhai sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Dylent gymharu cyfraddau presenoldeb â ffigurau cenedlaethol a chyfraddau presenoldeb ysgolion tebyg. Er y gallai fod yn briodol nodi sut mae ysgol yn perfformio mewn perthynas â normau cenedlaethol, y data meincnod, lle mae ar gael, ddylai arwain barnau fel arfer. Lle bo’n gymwys, dylent ystyried sut gall cyflwr meddygol disgyblion effeithio ar eu presenoldeb. Dylai arolygwyr hefyd ystyried y graddau y mae disgyblion sydd â hanes o gael eu gwahardd, yn eu hysgol bresennol neu flaenorol, yn dangos ymddygiad ac agweddau da at ddysgu. Wrth arfarnu ymddygiad ac agweddau, dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae disgyblion yn dangos ymddygiad da mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Dylent arsylwi a yw disgyblion yn ystyriol, yn gwrtais ac yn uniaethu â’i gilydd ac oedolion yn dda. Yn ychwanegol, dylent edrych ar agweddau disgyblion at ddysgu, yn enwedig eu diddordeb yn eu gwaith, eu gallu i gynnal canolbwyntio a pha mor dda y maent yn ymgymryd â thasgau. Wrth arfarnu cyfraniad disgyblion at beth a sut maent yn dysgu, dylai arolygwyr ystyried:

a yw barnau disgyblion ar beth a sut maent yn dysgu yn cael eu cymryd o ddifrif

sut mae disgyblion yn trafod y testunau sydd i’w cwmpasu, ac yn helpu i gynllunio cynlluniau gwaith a gweithgareddau

a yw disgyblion yn gwneud dewisiadau ynghylch beth a sut maent yn dysgu 1.2.3: ymglymiad cymunedol a gwneud penderfyniadau Dylai arolygwyr arfarnu’r graddau y mae disgyblion, gan gynnwys y rhai o grwpiau gwahanol fel y rhai sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn ymgymryd â chyfrifoldebau, ac yn cymryd rhan yn yr ysgol a’r gymuned ehangach. Dylent ystyried cyfranogiad disgyblion mewn gwneud penderfyniadau, gan gynnwys effeithiolrwydd cyngor yr ysgol. Dylent farnu’r graddau y mae’r cyngor ysgol yn rhoi cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, yn rhoi cyfrifoldeb iddynt ac yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Dylent ystyried y graddau y mae pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai o grwpiau gwahanol, yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am eu bywyd yn yr ysgol. 1.2 4: medrau cymdeithasol a medrau bywyd Wrth arfarnu medrau cymdeithasol a medrau bywyd disgyblion, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion yn dangos parch, gofal a phryder at eraill, ac a ydynt yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a’u gwaith. Yn ychwanegol, dylai arolygwyr archwilio a oes gan ddisgyblion, gan gynnwys rhai o wahanol grwpiau, y medrau sydd eu hangen i wella eu dysgu eu hunain, i weithio gydag eraill, i ddatrys

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

22

problemau ac i ddatblygu eu meddwl er mwyn symud ymlaen i gyfnod nesaf y dysgu. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r holl ddisgyblion wedi’u paratoi ar gyfer bywyd a gwaith y tu allan i’r ysgol. Lefelau lles da Mae disgyblion yn gyffredinol yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac mae ganddynt agweddau cadarnhaol at fyw a bwyta’n iach. Lle bo’n briodol, maent yn mwynhau gweithgareddau gweithredol corfforol bywiog. Mae disgyblion yn dangos llawer o ddiddordeb a chymhelliant ac maent yn dangos balchder a hyder yn eu gwaith. Mae presenoldeb y rhan fwyaf o ddisgyblion dros y tair blynedd diwethaf yn llawer uwch na’r canolrif o’i gymharu ag ysgolion tebyg, ac maent yn brydlon yn gyson. Mae eu hymddygiad a’u hagweddau yn adlewyrchu eu cyfranogiad llawn mewn dysgu ac wrth wneud penderfyniadau am eu bywyd yn yr ysgol. Lefelau lles anfoddhaol Mae rhai grwpiau o ddisgyblion yn teimlo eu bod dan fygythiad o gael eu bwlio ac mae eu hagweddau tuag at fyw yn iach a gweithgarwch corfforol yn negyddol. Mae grwpiau o ddisgyblion yn dangos ymddygiad gwael yn rheolaidd ac mae hyn yn rhwystro cynnydd disgyblion eraill. Mae lleiafrif sylweddol o ddisgyblion yn aml yn gwastraffu amser trwy aflonyddwch lefel isel parhaus ac maent yn dangos diffyg ymgysylltiad mewn gwersi ac wrth wneud penderfyniadau. Mae cyfraddau presenoldeb disgyblion dros y tair blynedd diwethaf yn llawer is na’r cyfartaleddau cenedlaethol neu gyfraddau ysgolion tebyg. Ychydig iawn o arwydd o welliant y mae cyfraddau presenoldeb yn ei ddangos ac nid yw rhai disgyblion yn cyrraedd y dosbarth yn brydlon.

Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw’r ddarpariaeth?

Wrth lunio barn gyffredinol ar gyfer y cwestiwn allweddol hwn, bydd arolygwyr fel arfer yn rhoi’r pwys mwyaf i’r farn ar 2.2 (addysgu) pan fydd cydbwysedd rhwng y pedair barn yn y cwestiwn allweddol. Fel hyn, os yw dau ddangosydd ansawdd yn dda a dau yn ddigonol ar draws y cwestiwn allweddol, bydd y farn ar gyfer 2.2 (addysgu) yn cael ei phwysoli fel arfer er mwyn dylanwadu ar y farn gyffredinol a ddyfernir ar gyfer y cwestiwn allweddol.

2.1 Profiadau dysgu

2.1.1 bodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr/y gymuned 2.1.2 darpariaeth ar gyfer medrau 2.1.3 darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig 2.1.4 addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd 2.1.1: bodloni anghenion disgyblion a chyflogwyr/y gymuned Dylai arolygwyr nodi bod ysgolion yn rhydd i drefnu a chyflwyno’r cwricwlwm yn y ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer eu hamgylchiadau a’u hanghenion ar yr amod eu

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

23

bod yn cwmpasu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol. Dylid sicrhau mai’r brif ystyriaeth yw pa mor dda y caiff anghenion yr holl ddisgyblion eu bodloni gan y model cyflwyno.

Dylai arolygwyr farnu’r graddau y mae:

cynllunio profiadau dysgu yn llwyddiannus o ran ennyn diddordeb yr ystod lawn

o ddisgyblion

athrawon yn cydweithio i gynllunio rhaglenni hyblyg, ymatebol ac arloesol, yn cynnwys dewisiadau ar gyfer ailintegreiddio i ddarpariaeth y brif ffrwd lle bo hynny’n briodol

profiadau dysgu yn ymdrin â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol ym mhob cyfnod allweddol am amser digonol ac yn cynnwys y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol statudol

unrhyw gyfyngiadau ar y dewisiadau sydd ar gael er lles y disgyblion

y cwricwlwm yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau presennol wrth i ddisgyblion symud o’r Cyfnod Sylfaen i gyfnod allweddol 2, o’r cynradd i’r uwchradd ac wedyn trwy’r ysgol uwchradd

disgyblion y mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfan neu rannau ohono wedi cael eu datgymhwyso ohono, yn cael hawl i gwricwlwm sy’n briodol o eang a chytbwys

Yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16, dylai arolygwyr ystyried ansawdd yr opsiynau sydd ar gael gan gyfeirio at Lwybrau Dysgu 14-19. Os nad yw’r ysgol yn darparu opsiynau sy’n galluogi disgyblion i ddilyn eu llwybrau dysgu unigol, ac nad yw’n ystyried Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, yna mae hyn yn debygol o fod yn ddiffyg pwysig. Dylai arolygwyr ystyried a yw’r cwricwlwm yn darparu llwybrau dysgu unigol gyda’r canlynol:

ystod eang a chytbwys o brofiadau

cyfuniad o elfennau ffurfiol, rhai heb fod yn ffurfiol a rhai anffurfiol

gofynion a gwelliannau gofynnol y Craidd Dysgu, gan gynnwys profiad â ffocws gwaith a chyfranogiad cymunedol

y cyfle i gael cymwysterau priodol

mynediad cyfartal i ddewisiadau sy’n bodloni diddordebau, galluoedd ac arddulliau dysgu disgyblion

chymorth i oresgyn rhwystrau rhag dysgu

Yng ngoleuni’r datblygiadau cenedlaethol presennol, gallai arolygwyr ddarganfod bod ysgolion yn rhan o’r rhaglen ysgolion arloesi. Mae’n bosibl y bydd ysgolion eraill nad ydynt yn rhan ffurfiol o’r rhaglen hon yn cymryd rhan yn y gwaith hwn yn anffurfiol trwy gydweithio ag ysgolion arloesi, neu drwy grwpiau’r consortia rhanbarthol. Dylai arolygwyr fynd ati i ddeall sefyllfa benodol pob ysgol, yr heriau y mae’n eu hwynebu, a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu. Dylai arolygwyr ystyried arloesi yn y cwricwlwm cyfan, neu elfennau o’r cwricwlwm, ac ymagwedd hyblyg tuag ato, mewn modd cadarnhaol pan fydd ysgolion wedi ceisio bod yn greadigol ac yn ddychmygus wrth ddatblygu mentrau er budd disgyblion.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

24

Dylai arolygwyr archwilio trefniadau ar gyfer grwpio disgyblion trwy osod, ffrydio, bandio neu grwpio gallu cymysg. Dylent arfarnu effaith:

unrhyw achosion o anghydbwysedd o ran rhyw

grwpiau dosbarth sy’n rhy fawr neu’n eithriadol o fach

grwpiau tynnu allan Dylai arolygwyr ystyried natur a graddau dysgu y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys chwaraeon, clybiau, ymweliadau, digwyddiadau arbennig, cysylltiadau â’r gymuned a gweithgareddau allgyrsiol eraill. Dylent hefyd ystyried pa mor effeithiol yw’r trefniadau ar gyfer cyflwyno’r rhain a sut maent yn cydlynu â chynllunio cwricwlwm prif ffrwd. Yn benodol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol yn darparu profiadau a chyfleoedd sy’n cyfoethogi profiadau dysgu disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Wrth ystyried pa mor dda y mae profiadau dysgu yn paratoi disgyblion ar gyfer y cyfleoedd, y cyfrifoldebau a’r profiadau sy’n rhan o fywyd oedolyn, gallai arolygwyr arfarnu i ba raddau y mae’r ysgol yn darparu addysg effeithiol sy’n gysylltiedig â gwaith ac yn cynllunio ar gyfer llwybrau dilyniant disgyblion ôl-16. 2.1.2: darpariaeth ar gyfer medrau Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu, rhifedd, TGCh a medrau meddwl disgyblion ar draws y cwricwlwm/meysydd dysgu neu’r llwybr dysgu. Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y mae’r ysgol:

yn sicrhau bod disgyblion yn caffael y medrau llythrennedd, cyfathrebu, rhifedd a TGCh angenrheidiol er mwyn gallu manteisio ar y cwricwlwm ehangach

yn datblygu medrau disgyblion, yn enwedig eu medrau llythrennedd, drwy eu hastudiaethau ar draws y cwricwlwm

yn gwneud yn siwr bod darpariaeth ar gyfer y medrau wedi’i chydlynu’n briodol fel bod cydlyniad ym mhrofiad y disgyblion ar draws y cwricwlwm

Dylai arolygwyr graffu ar sampl o gynllunio’r ysgol ar gyfer hyn, gan gynnwys cynlluniau gwaith a chynlluniau gwersi, i farnu pa mor dda y mae staff wedi ymgorffori medrau yn enwedig medrau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu, TGCh a meddwl ym mhrofiad y disgyblion ar draws pynciau a meysydd dysgu. Gallai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn addasu rhaglenni astudio pan fydd disgyblion yn gweithio cryn dipyn islaw’r lefelau disgwyliedig. Dylent ddisgwyl i ysgolion wneud yn siwr bod gwaith yn addas o ran bod yn heriol ac ymestynnol ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus, a bod deunyddiau a dulliau cyflwyno yn gwahaniaethu’n addas er mwyn gwneud y cwricwlwm yn agored i ddisgyblion y mae eu hoed darllen yn is na’u hoed cronolegol. Gallai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae staff yn elwa ar gyfleoedd ar gyfer datblygu’r medrau hyn yn eu gwersi. Gallent ystyried y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng pynciau a’r cynlluniau Cymraeg/Saesneg, mathemateg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Gallent benderfynu a oes parhad yn nysgu’r disgyblion fel bod

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

25

y medrau y maent yn eu hennill mewn gwersi Cymraeg/Saesneg, mathemateg a TGCh yn cael eu hatgyfnerthu a’u gwella ymhellach yn eu hastudiaethau pwnc. Dylent gydnabod y bydd rhai gwersi a phynciau/meysydd dysgu yn naturiol yn cynnig mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r medrau hyn nag eraill. Dylai arolygwyr roi’r sylw mwyaf i’r modd y mae ysgolion yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd priodol ar draws yr ystod gallu llawn, a sut mae’r ysgol yn nodi diffygion ac yn mynd i’r afael â nhw. Wrth farnu ansawdd y ddarpariaeth, gallent ystyried effaith unrhyw strategaethau, polisïau neu drefniadau gwaith, gan gynnwys monitro ac arfarnu, sy’n anelu at sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau yn systematig, dros gyfnod ac mewn ystod eang o gyd-destunau. Dylent ddisgwyl i ysgolion wneud popeth sy’n bosibl i helpu disgyblion i gyflawni lefelau da o fedrau cyfathrebu, rhifedd a TGCh, a’u bod yn datblygu eu medrau meddwl i lefel briodol. Pan nad oes gan ddisgyblion fedrau digon cadarn neu dda, neu os ydynt yn syrthio’n ôl yn eu gwaith, dylai fod gan ysgolion gymorth ar waith i helpu’r disgyblion hyn i wella’r medrau hyn, fel darpariaeth ar gyfer gwella medrau sylfaenol disgyblion. 2.1.3: darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig Dylai arolygwyr arfarnu graddau ac ansawdd darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg o ran ei heffaith ar yr agweddau a restrir o dan adran 1.1.5. Dylai ysgolion ystyried polisi, amcanion a chanllawiau Llywodraeth Cymru a nodir mewn dogfennau fel ‘Ein Hiaith: Ei Dyfodol’, ‘Iaith Pawb’ a’r Strategaeth ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg. Dylai disgyblion fod yn ymwybodol o fanteision dysgu Cymraeg a dod yn gynyddol ddwyieithog. Mae’n ofyniad statudol bod pob disgybl yn dysgu Cymraeg hyd at oed gadael yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig, ac eithrio mewn achosion lle mae’r datganiad o anghenion addysgol arbennig yn pennu bod y disgybl wedi cael ei ddatgymhwyso o ddysgu Cymraeg. Mae gan ysgolion ddyletswydd statudol hefyd i roi ystyriaeth i bolisi iaith yr awdurdod lleol. Mewn ysgolion lle mae disgyblion yn astudio Cymraeg fel ail iaith, dylai arolygwyr ystyried a yw’r ysgol yn neilltuo digon o amser i ddisgyblion wneud cynnydd da, yn enwedig ar y cwrs byr TGAU mewn Cymraeg fel ail iaith. Os yw’r dyraniad amser ymhell islaw un awr yr wythnos, mae’n annhebygol bod disgyblion yn cyflawni’n dda. Mae rhai ysgolion cyfrwng Saesneg wedi addasu’u dull o gyflwyno Cymraeg fel ail iaith drwy gyflwyno darpariaeth ddwys am gyfnod cyfyngedig yn ystod y flwyddyn ysgol. Yn yr achosion hyn, gall y cyfanswm amser addysgu cyffredinol fod yn ddigonol. Fodd bynnag, mae risg uchel yn yr amgylchiadau hyn na fydd disgyblion yn gallu cynnal eu cynnydd mewn Cymraeg heb gyfleoedd rheolaidd i atgyfnerthu ac ymarfer yn y cyfamser. Y brif ystyriaeth ddylai fod gan arolygwyr yw pa effaith y mae’r model cyflwyno’n ei chael ar gyflawniadau disgyblion mewn Cymraeg. Yn y sector addysg Gymraeg, mae angen i arolygwyr ystyried ehangder y cyfleoedd i ddisgyblion astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac a oes dilyniant a pharhad rhwng cyfnodau allweddol ac o ran y cyfle i barhau i astudio pynciau trwy gyfrwng y

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

26

Gymraeg neu’n ddwyieithog. Dylent arfarnu effeithiolrwydd darpariaeth sy’n cael ei chyflwyno’n ddwyieithog.

Mae gorchmynion pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 3 yn cynnwys cyfeiriadau penodol at Y Cwricwlwm Cymreig. Dylai arolygwyr farnu’r graddau y mae’r ysgol yn hyrwyddo datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.

2.1.4: addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDFE)

Mae gan addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDFE) le amlwg ym mhynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, fel gwyddoniaeth a daearyddiaeth, ac mae’n un o’r pum thema yn y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae hefyd yn ymddangos yng Nghraidd Dysgu Llwybrau Dysgu 14-19 ac yng Nghymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Dylai arolygwyr ystyried y graddau:

y mae’r cwricwlwm a gweithgareddau allgyrsiol yn helpu dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, medrau a gwerthoedd ADCDFE

y mae’r ysgol yn gweithredu’n gynaliadwy, er enghraifft, o ran defnyddio ynni, lleihau gwastraff ac ailgylchu

y mae’r ysgol yn cyfrannu at ddinasyddiaeth fyd-eang, er enghraifft, trwy ddatblygu dealltwriaeth o’r byd ehangach

Profiadau dysgu da

Mae profiadau dysgu yn cynnig cyfleoedd ysgogol ar gyfer dysgu sy’n manteisio i’r eithaf ar brofiadau disgyblion yn yr ysgol a thu hwnt. Ceir hawl gyfartal i ystod eang o ddewisiadau lle bo’n berthnasol. Mae cynllunio a threfnu manwl a dychmygus yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu herio gan weithgareddau perthnasol sy’n darparu parhad ac yn atgyfnerthu’r dysgu mewn cyd-destunau sy’n ennyn diddordeb yr ystod lawn o ddisgyblion. Mae’r cwricwlwm yn diwallu anghenion neilltuol grwpiau ac unigolion penodol trwy gynnig rhaglenni personol ar gyfer disgyblion ag anghenion penodol. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer cyfathrebu, rhifedd a TGCh yn gydlynus ac yn cael ei hymgorffori’n gadarn ym mhrofiad pob un o’r disgyblion. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd da. Mae darpariaeth dda i alluogi disgyblion i ddysgu am gynaliadwyedd a datblygu dealltwriaeth o’r rôl sydd ganddyn nhw ac eraill mewn cymdeithas ac yn y byd. Mae’r cyfleoedd cyfoethogi yn amrywiol ac mae nifer fawr o ddisgyblion yn manteisio arnynt lle bo’n briodol.

Profiadau dysgu anfoddhaol

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys rhai agweddau arwyddocaol y mae angen eu gwella. Nid yw’r profiadau dysgu yn bodloni anghenion disgyblion, neu grwpiau penodol o ddisgyblion, yn llawn ac ni chaiff disgyblion eu herio i ymgymryd â dysgu er mwyn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Nid yw’r ysgol yn datblygu ac yn ymestyn medrau cyfathrebu, rhifedd a TGCh disgyblion, na’u hyder a’u gwybodaeth yn ddigon da.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

27

Ceir cyfatebiaeth wael rhwng anghenion a galluoedd dysgu’r disgyblion a’r gwaith a wnânt mewn gwersi a/neu yn ystod a lefel y cyrsiau y mae’r ysgol yn eu darparu. Ni chaiff disgyblion ddigon o gyfleoedd i ddysgu am Gymru a’r iaith Gymraeg a/neu ddinasyddiaeth fyd-eang a datblygiad cynaliadwy. Mae’r rhaglen gyfoethogi yn ymdrin ag ystod fechan iawn o weithgareddau a/neu ychydig iawn o ddisgyblion sy’n cymryd rhan.

2.2 Addysgu

2.2.1 ystod ac ansawdd y dulliau addysgu 2.2.2 asesu dysgu ac asesu ar gyfer dysgu

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd

Dylai’r ffocws fod ar effaith addysgu ar ddysgu ac nid ar ddefnyddio proses benodol ar wahân i’w heffaith.

2.2.1: ystod ac ansawdd y dulliau addysgu

Dylai arolygwyr arfarnu’r graddau y mae athrawon:

yn meddu ar wybodaeth bynciol dda a chyfoes

yn disgwyl llawer gan bob un o’r disgyblion

yn cynllunio’n effeithiol a bod ganddynt amcanion clir ar gyfer sesiynau a addysgir a phrofiadau dysgu eraill

yn defnyddio ystod o ddulliau ac adnoddau addysgu a hyfforddi sy’n ennyn diddordeb disgyblion ac yn eu hysgogi a’u herio i gyflawni’n dda

yn fodelau iaith da eu hunain

yn sefydlu perthynas waith dda sy’n meithrin dysgu

yn rheoli ymddygiad disgyblion yn gadarnhaol, yn ddiogel ac yn effeithiol, yn enwedig mewn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol

yn defnyddio staff cymorth dysgu yn effeithiol

yn llwyddiannus o ran darparu gwaith ymestynnol i fodloni anghenion pob un o’r disgyblion, er enghraifft, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n fwy abl a dawnus

2.2.2: asesu dysgu ac asesu ar gyfer dysgu

Dylai arolygwyr arfarnu a yw disgyblion yn adolygu eu dysgu eu hunain yn rheolaidd, yn deall eu cynnydd ac yn cymryd rhan mewn gosod eu targedau dysgu eu hunain. Dylent arfarnu:

pa mor dda y mae adborth yn galluogi disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella

a yw staff yn annog disgyblion yn gyson i ystyried adborth

pa mor dda y mae’r adborth yn datblygu gallu’r disgyblion i asesu eu perfformiad eu hunain a pherfformiad eu cyfoedion

a yw gwybodaeth asesu yn llywio’r cynllunio ar gyfer y dyfodol

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

28

Dylech arfarnu’r graddau y mae’r ysgol a’r athrawon:

yn bodloni gofynion statudol ar gyfer cofnodi ac achredu cyflawniadau dysgwyr

yn dadansoddi canfyddiadau asesu, gan gynnwys asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesiadau arholiadau cyhoeddus yn ogystal ag asesiadau eraill

yn darparu cofnodion clir, systematig, hylaw, cyson a defnyddiol ar bob disgybl

yn defnyddio cofnodion yn effeithiol i olrhain cynnydd gwahanol grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys cynnydd disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, cymharu canlyniadau â meincnodau ac ymyrryd mewn achosion unigol os bydd angen

yn llunio adroddiadau ar ddisgyblion sy’n glir, yn gyson ac yn llawn gwybodaeth, ac yn amlinellu meysydd i’w gwella

yn galluogi disgyblion i gyfrannu at gynnwys adroddiadau, lle bo’n briodol

yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall gweithdrefnau ac i allu gweld cofnodion ac adroddiadau sy’n ymwneud â’u plant

yn annog rhieni a gofalwyr i ymateb i adroddiadau ar gynnydd

lle bo’n berthnasol, yn gwneud trefniadau priodol ar gyfer cynnal a chofnodi canlyniadau adolygiadau blynyddol ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig

Addysgu da Mae’r rhan fwyaf o’r addysgu yn sicrhau bod disgyblion wedi’u cymell ac yn dangos diddordeb ac yn sicrhau cynnydd a dysgu da gan y disgyblion. Mae gan athrawon ac oedolion eraill wybodaeth bynciol hyfedr ac maent yn defnyddio ystod o ddulliau a gweithgareddau i ysbrydoli a herio’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae athrawon yn gwneud defnydd da a dychmygus o adnoddau, gan gynnwys technoleg, i wella’r dysgu. Mae’r cymorth gan oedolion yn cynnwys ffocws da ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at ansawdd dysgu’r disgyblion. Mae adborth manwl i ddisgyblion yn eu galluogi i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gynnal cynnydd da. Caiff cynnydd a lles disgyblion eu holrhain ar draws yr ysgol ar lefelau unigol, grŵp a phwnc neu feysydd dysgu, lle bo’n briodol. O ganlyniad, mae athrawon ac oedolion eraill yn cynllunio gwersi’n dda i fodloni anghenion dysgu’r disgyblion. Caiff rhieni/gofalwyr wybodaeth dda am gyflawniadau, lles a datblygiad eu plant. Addysgu anfoddhaol Nid yw’r addysgu yn galluogi disgyblion i ddysgu’n dda. Nid yw mwyafrif o wersi’n well na digonol ac mae lleiafrif o wersi’n anfoddhaol. Mae gormod o’r addysgu yn methu ennyn diddordeb disgyblion a’u hysgogi neu’n methu hyrwyddo eu dysgu a’u cynnydd. Nid yw athrawon ac oedolion eraill yn rheoli ymddygiad disgyblion yn ddigon da. Mae gwybodaeth bynciol lleiafrif sylweddol o athrawon yn annigonol a/neu mae ganddynt ddealltwriaeth wael o sut i fodloni anghenion dysgu disgyblion. Mae diffyg ffocws yng ngwaith athrawon ac oedolion eraill ac mae’n methu cefnogi anghenion disgyblion. Nid yw’r asesu yn rhoi ystyriaeth ddigonol i ddysgu blaenorol disgyblion ac nid oes gan athrawon ac oedolion ddealltwriaeth ddigon clir o anghenion disgyblion. Nid yw cynnydd a lles disgyblion yn cael eu holrhain yn effeithiol ar draws yr ysgol ar lefelau unigol, grŵp a phwnc nac ar draws meysydd dysgu. Nid yw’r ysgol yn rhoi digon o wybodaeth i ddisgyblion am eu cynnydd a/neu

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

29

sut gallant wella. Nid yw llawer o rieni/gofalwyr yn cael digon o wybodaeth am gynnydd a datblygiad eu plentyn.

2.3 Gofal, cymorth ac arweiniad

2.3.1 darpariaeth ar gyfer iechyd a lles gan gynnwys datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol

2.3.2 gwasanaethau, gwybodaeth ac arweiniad arbenigol 2.3.3 trefniadau diogelu 2.3.4 anghenion dysgu ychwanegol

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd

Dylai’r prif ffocws yn y dangosydd ansawdd hwn fod ar effaith gofal, cymorth ac arweiniad ar safonau a lles disgyblion yn hytrach nag ar y gweithdrefnau a’r trefniadau yn unig.

Yn y dangosydd hwn y bydd arolygwyr yn llunio’r prif farnau am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer diogelu a hyrwyddo lles, gan gynnwys:

amddiffyn plant

iechyd a diogelwch

bwlio

aflonyddu a gwahaniaethu

radicaleiddio ac eithafiaeth

bwyta ac yfed yn iach

difrïo hiliol

camddefnyddio cyffuriau a sylweddau

disgyblion sydd â chyflyrau meddygol

addysg rhyw a pherthynas

cymorth cyntaf

diogelwch ar ymweliadau addysgol

diogelwch y rhyngrwyd

lles disgyblion ar leoliadau galwedigaethol estynedig

materion a all berthyn yn benodol i ardal neu boblogaeth leol, er enghraifft gweithgarwch gangiau

diogeledd yr ysgol

rheoli disgyblaeth disgyblion gan gynnwys ymyrraeth ac atal corfforol

Yn benodol, dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y mae’r trefniadau yn cael effaith lesol ar ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r disgyblion hynny sy’n agored i niwed. Wrth arfarnu gofal, cymorth ac arweiniad, dylai arolygwyr ystyried barnau’r tîm ar safonau a lles.

2.3.1: darpariaeth ar gyfer iechyd a lles gan gynnwys datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol

Dylai arolygwyr arfarnu ac adrodd ar a oes gan yr ysgol bolisïau a threfniadau priodol ar gyfer hyrwyddo byw’n iach a lles disgyblion. Bydd y prif ffocws ar ystyried pa mor

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

30

dda y mae’r ysgol yn helpu disgyblion i gyflawni iechyd a lles emosiynol a chorfforol. Wrth edrych ar y dangosydd ansawdd hwn, mae’n bwysig eich bod yn ystyried barnau disgyblion a rhieni.

Dylai arolygwyr ystyried a oes gan yr ysgol drefniadau priodol i annog disgyblion i fod yn iach, gan gynnwys pa mor dda y mae’r ysgol yn darparu ar gyfer datblygiad

corfforol dysgwyr. Mae hyn yn dibynnu ar faeth priodol, ymarfer corff digonol, hylendid priodol, diogelwch a dewisiadau iach. Dylai arolygwyr hefyd edrych ar ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer addysg rhyw a pherthynas ac addysg am gamddefnyddio cyffuriau a sylweddau.

Dylai arolygwyr ystyried a oes gan yr ysgol drefniadau priodol ar gyfer hybu byw’n iach. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fodloni’r rheoliadau ar fwyta ac yfed yn iach, gan gynnwys adrodd i rieni ar eu trefniadau ar gyfer darparu brecwast a chinio, a bwyd a diod a ddarperir y tu allan i amserau bwyd.

Dylai arolygwyr adrodd ar achosion amlwg o dorri’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch o dan y dangosydd ansawdd hwn. Wrth ystyried materion iechyd a diogelwch, dylai arolygwyr roi ystyriaeth i ddiogeledd adeiladau’r ysgol a’r safle.

Dylai arolygwyr arfarnu’r trefniadau ar gyfer delio â gwahaniaethu, aflonyddwch a bwlio. Dylai’r ysgol feddu ar bolisi yn erbyn bwlio, a dylai staff, disgyblion a rhieni fod yn ymwybodol ohono a dylent roi ei weithdrefnau ar waith. Dylai gwaith yr ysgol ar fwlio, aflonyddwch a gwahaniaethu gynnwys ei threfniadau ar gyfer helpu’r disgyblion i reoli eu teimladau a datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch. Dylai arolygwyr wneud yn siwr bod disgyblion yn gwybod pwy i fynd atynt os ydynt yn pryderu. Dylai gwaith yr ysgol ar fwlio ac aflonyddwch hefyd gynnwys sut mae’n atal ac yn cael gwared ar rywiaeth, hiliaeth a homoffobia.

Dylai arolygwyr arolygu darpariaeth yr ysgol ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol a’r gwaith a wna’r disgyblion gyda’u tiwtor dosbarth a dylent hefyd adrodd ar y ddarpariaeth i ddisgyblion i wella’u dysgu eu hunain, gweithio gydag eraill a datrys problemau. Dylai arolygwyr farnu pa mor dda y mae rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol yr ysgol yn treiddio i bob agwedd ar fywyd yr ysgol ac yn cefnogi medrau cymdeithasol ac emosiynol pob grŵp o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Dylai arolygwyr farnu pa mor dda y mae disgyblion yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac yn ei fwynhau, ac a yw’r ysgol yn hyrwyddo ymddygiad a phresenoldeb da. Dylent ystyried cyfleoedd disgyblion i gyfrannu at y gymuned leol, gan gynnwys trwy weithgareddau allgyrsiol rheolaidd. Dylai arolygwyr arfarnu ymglymiad disgyblion mewn gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn debygol o gynnwys gwaith cyngor yr ysgol, ond dylai arolygwyr hefyd ystyried y graddau y mae’r ysgolion yn annog pob disgybl, gan gynnwys y rhai o grwpiau gwahanol, i gyfrannu. Wrth arfarnu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad ysbrydol, dylai arolygwyr ystyried a yw disgyblion yn cael cyfleoedd i:

ddatblygu synnwyr o chwilfrydedd trwy fyfyrio ar eu bywydau a’u credoau eu

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

31

hunain a phobl eraill, eu hamgylchedd a’r cyflwr dynol

ystyried cwestiynau sylfaenol bywyd gan gyfeirio at ddysgeidiaethau ac arferion crefyddau yn ogystal ag o’u profiad a’u safbwynt eu hunain

myfyrio ar eu credoau neu’u gwerthoedd eu hunain yng ngoleuni’r hyn y maent yn ei astudio mewn addysg grefyddol a phynciau eraill

Wrth arfarnu datblygiad moesol, dylai arolygwyr ystyried a yw’r ysgol:

yn meithrin gwerthoedd fel gonestrwydd, tegwch a pharch am wirionedd a chyfiawnder

yn hyrwyddo egwyddorion sy’n helpu disgyblion i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gywir a’r hyn sy’n anghywir

Wrth arfarnu datblygiad cymdeithasol, dylai arolygwyr ystyried a yw’r ysgol yn annog disgyblion i:

gymryd cyfrifoldeb, dangos blaengaredd a datblygu dealltwriaeth o fyw mewn cymuned

trafod a chytuno ar reolau grŵp

dysgu sut i uniaethu ag eraill a chymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain

cyfrannu at y gymuned leol, gan gynnwys trwy weithgareddau allgyrsiol rheolaidd

cyfrannu at wneud penderfyniadau, er enghraifft, trwy gyngor yr ysgol Wrth arfarnu datblygiad diwylliannol, dylai arolygwyr ystyried a yw’r ysgol yn annog disgyblion i ddeall a gwerthfawrogi eu diwylliannau eu hunain a diwylliannau eraill trwy eu hastudiaethau. Gall gweithredoedd o addoli a gwasanaethau fod â rhan bwysig mewn datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, ond nid ydynt yn rhagofyniad. Dylai arolygwyr arolygu gweithredoedd o addoli ar y cyd ym mhob ysgol nad ydynt yn darparu addysg enwadol. Dylent ystyried gweithredoedd o addoli ar y cyd yn eu rhinwedd eu hunain ac yng nghyd-destun cynllunio dros gyfnod. Mewn perthynas â gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd, dylent ond adrodd ar achosion lle nad yw’r ysgol yn cydymffurfio â’r rhain. 2.3.2: gwasanaethau, gwybodaeth ac arweiniad arbenigol

Dylai arolygwyr arfarnu:

pa mor dda mae’r ysgol yn rhoi cymorth unigol ar faterion addysgol a materion eraill

pa mor dda mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion yn gallu defnyddio ystod eang o wybodaeth

pa mor dda y mae athrawon yn cyflawni eu cyfrifoldebau ar gyfer arweiniad

a yw disgyblion yn gallu gwneud defnydd da o gymorth proffesiynol yn yr ysgol a chan wasanaethau arbenigol

effeithiolrwydd cysylltiadau’r ysgol gydag asiantaethau arbenigol fel yr heddlu, gwasanaethau iechyd, seicolegol, cwnsela a gwasanaethau cymdeithasol

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

32

Dylent farnu:

ansawdd yr arweiniad a’r cyngor a gaiff disgyblion, myfyrwyr a rhieni wrth iddynt

wneud dewisiadau am gyrsiau yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16, a lle bo dewisiadau ar gael, yng nghyfnod allweddol 3

ansawdd y wybodaeth a roddir i ddisgyblion, myfyrwyr a rhieni mewn llawlyfrau cwrs a deunyddiau eraill

effeithiolrwydd trefniadau’r ysgol i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr yn cael eu hawl sylfaenol i arweiniad gan anogwr dysgu diduedd

Dylai arolygwyr asesu cydlyniad ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cymorth personol ac arbenigol a pha mor dda mae’r ysgol yn ystyried anghenion disgyblion o wahanol grwpiau. Mae rhaglen arweiniad sydd wedi’i strwythuro a’i chydlynu’n ofalus yn cynnwys addysg ac arweiniad ar yrfaoedd, a dylai ystyried y Fframweithiau ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac ar gyfer Addysg ac Arweiniad ar Yrfaoedd.

2.3.3: trefniadau diogelu

Dylai trefniadau diogelu’r ysgol sicrhau bod recriwtio diogel a bod yr holl blant yn cael eu hamddiffyn. Dylai trefniadau gynnwys nodi plant sydd mewn angen neu sy’n wynebu risg o niwed sylweddol trwy gynnal cofnod o addasrwydd staff a chael trefniadau priodol ar gyfer amddiffyn plant. Hefyd, dylai gynnwys pa mor dda y mae’r ysgol yn hyrwyddo arferion diogel a diwylliant o ddiogelwch.

Mae’r arolygiaeth yn disgwyl i bob darparwr gydymffurfio â gofynion fel y cânt eu hamlinellu yn y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r maes hwn (gweler Atodiad 3).

Bydd angen i arolygwyr gadarnhau a yw trefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu disgyblion yn bodloni gofynion ac nad ydynt yn destun pryder.

Bydd arolygwyr yn ystyried darpariaeth yr ysgol ar gyfer amddiffyn plant gan gynnwys iechyd a diogelwch, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu a diogeledd yr ysgol. Dylai arolygwyr ystyried a oes gan yr ysgol weithdrefnau cadarn ar gyfer gwirio addasrwydd staff ac eraill sydd mewn cysylltiad â phlant, a bod yr holl staff yn gwybod beth i’w wneud er mwyn ymateb i faterion amddiffyn plant. Bydd angen i arolygwyr ystyried a oes gan yr ysgol bolisïau, gweithdrefnau a threfniadau adrodd priodol mewn perthynas ag ymyriadau corfforol a thynnu allan o wersi. Bydd arolygwyr yn archwilio unrhyw ardaloedd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer tynnu allan o wersi. Dylai arolygwyr ystyried sut mae’r ysgol yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio ac eithafiaeth.

2.3.4: anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Dylai arolygwyr arfarnu effeithiolrwydd trefniadau nodi a monitro’r ysgol ar gyfer ADY ac arfarnu a yw disgyblion ag ADY yn cael y cymorth tymor byr neu dymor hir sydd ei angen arnynt. I gael esboniad o ADY, gweler Atodiad 6.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

33

Dylai arolygwyr ystyried:

y graddau y mae’r ysgol yn galluogi disgyblion ag ADY i fanteisio ar bob maes o’r cwricwlwm, gan gynnwys pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol oni nodir bod datgymhwyso mewn datganiadau unigol

a yw systemau grwpio a chymorth yn bodloni’r ystod o anghenion heb gael effaith niweidiol ar ehangder, cydbwysedd a pharhad cwricwlwm y disgyblion

pa mor dda y mae’r ysgol yn integreiddio, yn cefnogi ac yn darparu ar gyfer disgyblion ag ADY mewn dosbarthiadau prif ffrwd ac mewn grwpiau arbennig, er mwyn iddynt allu cyflawni safonau priodol

ansawdd y cymorth, gan gynnwys priodoldeb trefniadau ‘ymdawelu’, ar gyfer disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol er mwyn iddynt allu cyflawni’r amcanion a nodir mewn cynlluniau addysg unigol, a lle bo’n briodol, datblygu eu hannibyniaeth fel dysgwyr

pa mor gyson y mae’r ysgol yn cynnal adolygiadau cynnydd rheolaidd, gan gynnwys adolygiadau blynyddol

a yw’r gweithdrefnau asesu, cofnodi ac adrodd yn bodloni’r gofynion statudol

a yw’r ysgol yn ymgynghori’n rheolaidd â rhieni/gofalwyr

digonolrwydd a defnyddioldeb y cyfraniadau gan gynorthwywyr cymorth dysgu, athrawon cymorth, seicolegwyr addysgol, arbenigwyr meddygol, parafeddygol a nyrsio ac asiantaethau allanol eraill

Gofal, cymorth ac arweiniad da

Mae trefniadau effeithiol yn bodoli i gefnogi iechyd a lles disgyblion yn ogystal ag annog eu hymglymiad yn eu hysgol neu’u cymuned ehangach. Mae’r trefniadau hyn yn cyfrannu’n dda at ddatblygiad a lles disgyblion ac yn cefnogi eu dysgu yn effeithiol. Gwneir trefniadau priodol gan yr ysgol ar gyfer hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach. Mae profiadau dysgu yn hyrwyddo datblygiad personol disgyblion yn dda, gan gynnwys eu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae’r ysgol yn rhagweithiol wrth adeiladu ar gydweithio ag asiantaethau allweddol eraill i leihau’r perygl o niwed i ddisgyblion. Mae cymorth sydd wedi’i dargedu’n glir ar gyfer grwpiau o ddisgyblion sy’n agored i niwed wedi arwain at welliant sylweddol, er enghraifft, mewn agweddau, ymddygiad, hyder, cyflawniad neu berthnasoedd. Mae rhaglenni sefydlu wedi’u teilwra’n dda i fodloni anghenion grwpiau gwahanol o ddisgyblion. Rhoddir cyngor ac arweiniad priodol ac amserol sy’n galluogi disgyblion i wneud dewisiadau hyderus a gwybodus. Mae trefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu disgyblion yn bodloni gofynion ac nid ydynt yn destun pryder. Mae’r ysgol yn nodi anghenion dysgu disgyblion pan fyddant yn ymuno ac yn sicrhau bod yr anghenion hyn yn cael eu bodloni. Gofal, cymorth ac arweiniad anfoddhaol Mae systemau gofal a chymorth yn cynnwys rhai diffygion, sy’n golygu nad yw unigolion neu grwpiau penodol o ddisgyblion yn llwyddo yn eu dysgu, eu datblygiad neu’u lles. Nid oes trefniadau priodol gan yr ysgol ar gyfer hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach. Nid yw’r ysgol yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol neu ddiwylliannol pob disgybl. Nid yw ystod o wasanaethau cymorth ar gael i bob disgybl. Mae ansawdd y cyngor a’r arweiniad a gaiff disgyblion yn anghyson. Nid yw rhaglenni sefydlu yn bodloni anghenion grwpiau gwahanol o ddisgyblion yn llawn.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

34

Mae rhai cofnodion, polisïau a gweithdrefnau (neu fwy ohonynt) ar goll neu wedi dyddio. Nid yw trefniadau’r ysgol ar gyfer diogelu disgyblion yn bodloni gofynion ac maent yn destun pryder difrifol. Ni chaiff anghenion dysgu unigolion eu nodi’n ddigon cynnar na chywir a/neu nid yw’r ysgol yn trefnu darpariaeth ddigonol ar gyfer eu hanghenion.

2.4 Yr amgylchedd dysgu

2.4.1 ethos, cydraddoldeb ac amrywiaeth 2.4.2 amgylchedd ffisegol

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd 2.4.1: ethos, cydraddoldeb ac amrywiaeth Dylai arolygwyr farnu pa mor dda y mae’r ysgol:

yn sefydlu ethos ysgol sy’n gynhwysol

yn ystyried ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth cefndiroedd y disgyblion ac yn gweithredu’n briodol ar y wybodaeth hon

yn cynnig hawl gyfartal i’r cwricwlwm a dysgu y tu allan i oriau, gan gynnwys teithiau ac ymweliadau addysgol

yn herio stereoteipiau mewn agweddau, dewisiadau, disgwyliadau a chyflawniadau disgyblion

yn dadansoddi, a lle bo’n briodol, yn mynd i’r afael â bylchau o ran rhyw mewn dewisiadau pwnc ac opsiwn

yn datblygu agweddau goddefgar ac yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion a’r staff yn rhydd oddi wrth aflonyddwch

wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw disgyblion a darpar ddisgyblion ag anableddau yn dioddef triniaeth lai ffafriol yn yr ysgol neu o ran derbyniadau a gwaharddiadau

Dylai arolygwyr wirio a oes gan yr ysgol gynlluniau cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu priodol sy’n bodloni gofynion statudol. Dylent arfarnu a yw’r ysgol:

yn meddu ar bolisi a ddeellir yn dda sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal a hawliau dynol

yn meddu ar gynllun gweithredu sy’n sicrhau bod y polisi’n cael ei gyflwyno

yn darparu hyfforddiant cydraddoldeb priodol ar gyfer staff

yn monitro ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion neu gŵynion cysylltiedig sy’n codi

2.4.2: amgylchedd ffisegol Dylai arolygwyr farnu:

a oes digon o adnoddau sy’n gweddu’n yn dda i anghenion y disgyblion

a yw’r adeiladau yn darparu amgylchedd dysgu ysgogol sy’n cael ei gynnal yn dda i gefnogi’r addysgu a’r dysgu

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

35

a yw’r adeiladau yn ddigonol ar gyfer nifer y disgyblion a’r gweithgareddau a gynigir

a yw’r toiledau a’r cyfleusterau newid yn briodol

a yw adeiladau a thir yr ysgol yn ddiogel ac yn cael eu cynnal yn dda Amgylchedd dysgu da Mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol lle caiff disgyblion hawl gyfartal i holl feysydd darpariaeth yr ysgol. Rhoddir pwyslais clir ar gydnabod, parchu a dathlu amrywiaeth. Caiff cyflenwad helaeth o adnoddau o ansawdd da ei weddu’n dda i anghenion dysgu’r disgyblion. Gwneir defnydd llawn o adnoddau perthnasol a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i ychwanegu at y cwricwlwm a’i gyfoethogi. Mae’r adeiladau o ansawdd da, ac yn ddiogel ac yn cael eu cynnal yn dda. Amgylchedd dysgu anfoddhaol Nid yw pob maes darpariaeth yr ysgol ar gael i rai disgyblion. Ni roddir digon o bwyslais ar gydnabod, parchu a dathlu amrywiaeth a/neu mae achosion o ymddygiad ac aflonyddwch gwahaniaethol. Nid oes digon o adnoddau i gefnogi’r addysgu a’r dysgu. Mae rhai rhannau neu fwy o adeiladau, cyfleusterau a/neu leoedd awyr agored yr ysgol mewn cyflwr gwael ac nid ydynt yn addas at eu diben. Nid yw adeilad a safle’r ysgol yn ddigon diogel.

Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth?

Wrth lunio barn gyffredinol ar gyfer y cwestiwn allweddol hwn, bydd arolygwyr yn rhoi pwys cyfartal i bob dangosydd ansawdd. 3.1 Y dangosydd ansawdd ar gyfer arweinyddiaeth

3.1.1 cyfeiriad strategol ac effaith yr arweinyddiaeth 3.1.2 llywodraethwyr neu fyrddau goruchwylio eraill

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd 3.1.1: cyfeiriad strategol ac effaith yr arweinyddiaeth Dylai arolygwyr ystyried i ba raddau y mae gan arweinwyr nodau clir, amcanion strategol, a chynlluniau a pholisïau sy’n canolbwyntio ar fodloni anghenion disgyblion. Dylent ofyn a yw’r cynlluniau hyn yn cynnwys ffocws priodol ac a ydynt yn cael eu gweithredu a’u monitro mewn ffordd amserol. Wrth arfarnu cyfeiriad strategol ac effaith yr arweinyddiaeth, dylai arolygwyr farnu:

pa mor dda y caiff rolau a chyfrifoldebau eu diffinio ac a yw’r rhychwantau cyfrifoldeb mewn uwch dimau rheoli a rheolwyr canol yn hyfyw a chytbwys

i ba raddau y mae pob un o’r staff yn deall ac yn cyflawni eu rolau mewn perthynas uniongyrchol â nodau, cynlluniau a chyfrifoldebau strategol penodol

pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn rheoli eu hamser eu hunain ac yn

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

36

blaenoriaethu gweithgareddau yn ymatebol

a yw dulliau rheoli prosiect yn cael eu defnyddio’n effeithiol i gyflwyno busnes yr ysgol

pa mor effeithlon y caiff cyfarfodydd eu cynnal i ganolbwyntio ar faterion perfformio pwysig a busnes craidd ac er mwyn cynhyrchu pwyntiau gweithredu clir sy’n cael eu cyflawni yn ddiweddarach yn unol â’r hyn a gytunwyd

a yw’r strwythurau rheoli a phwyllgor yn cydlynu â chyfeiriad strategol yr ysgol ac yn mynd i’r afael â materion craidd

pa mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio data i fonitro perfformiad a pha mor soffistigedig yw eu syniadau systemau

a yw rheolwyr yn cyfleu disgwyliadau uchel i’r rhai y maent yn eu rheoli

a yw rheolwyr yn cytuno ar dargedau heriol a realistig iddyn nhw eu hunain ac eraill, ac yn eu cyflawni

a yw rheolwyr yn trafod ac yn cydweithredu’n dda â staff mewnol ac asiantaethau allanol

Wrth arfarnu effaith arweinwyr, dylai arolygwyr ganolbwyntio ar y graddau y mae arweinyddiaeth a rheolaeth yn effeithiol o ran cynnal ansawdd uchel a gwella darpariaeth a safonau.

Dylai arolygwyr ystyried a yw arweinwyr:

yn cyfleu eu gweledigaeth ar gyfer yr ysgol yn dda ac yn archwilio sut i’w chyflawni, ar y cyd ag eraill

yn modelu ac yn hyrwyddo ymddygiadau a gwerthoedd sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at greu ethos ysgol lle mae disgyblion a staff yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi

yn cefnogi ac yn herio pawb yn weithredol i wneud eu gorau

yn adeiladu dealltwriaeth ar y cyd ac arweinyddiaeth ddosranedig i greu diwylliant dysgu ymatebol

yn rhannu’n argyhoeddiadol gyda rhanddeiliaid ac eraill yng nghymuned yr ysgol genhadaeth gyffredin i gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau

Yng ngoleuni’r datblygiadau cenedlaethol presennol, gallai arolygwyr ddarganfod bod ysgolion yn rhan o’r rhaglen ysgolion arloesi. Mae’n bosibl y bydd ysgolion eraill nad ydynt yn rhan ffurfiol o’r rhaglen hon yn cymryd rhan yn y gwaith hwn yn anffurfiol trwy gydweithio ag ysgolion arloesi, neu drwy grwpiau’r consortia rhanbarthol. Dylai arolygwyr ystyried i ba raddau y mae arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol yn cefnogi arloesedd a chreadigrwydd wrth gyflwyno cwricwlwm ysgogol i’w dysgwyr. Dylai arolygwyr ystyried arloesi ac ymagwedd hyblyg mewn modd cadarnhaol pan fydd ysgolion wedi ceisio bod yn greadigol ac yn ddychmygus wrth ddatblygu mentrau er budd disgyblion.

Dylai arolygwyr arfarnu effaith arweinwyr yn y ffordd y maent yn rheoli perfformiad staff er mwyn helpu staff i wella eu harfer. Dylent farnu hefyd a yw arweinwyr a rheolwyr yn mynd i’r afael â materion tanberfformio yn drylwyr ac yn uniongyrchol lle bo angen. Dylai arolygwyr farnu a yw rheoli perfformiad yn nodi anghenion hyfforddi a datblygu unigol ac ysgol-gyfan yn glir a ph’un a yw’r rhain yn cael eu blaenoriaethu’n briodol ac yr eir i’r afael â nhw yn llawn. Gallent nodi a gaiff targedau gwella eu gosod ar gyfer pob un o’r staff, sy’n cefnogi cyflwyno’r nodau strategol mewn cynlluniau datblygu ysgol a

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

37

chynlluniau gweithredu eraill. Dylent ystyried sut mae prosesau rheoli perfformiad yn effeithio ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu a deilliannau disgyblion.

Dylai arolygwyr arfarnu pa mor llwyddiannus y mae arweinwyr a rheolwyr wrth fodloni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol fel lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a Llwybrau Dysgu 14-19.

3.1.2: llywodraethwyr neu fyrddau goruchwylio eraill

Dylai arolygwyr farnu pa mor dda y mae’r corff llywodraethol yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ac yn rhoi ystyriaeth lawn i ddeddfwriaeth ac arweiniad perthnasol.

Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y mae llywodraethwyr:

yn deall eu rolau

yn cael gwybod am berfformiad yr ysgol a’r materion sy’n effeithio arno

yn darparu synnwyr o gyfeiriad ar gyfer gwaith yr ysgol

yn cefnogi’r ysgol fel ffrind beirniadol

yn dwyn yr ysgol i gyfrif am y safonau a’r ansawdd y mae’n eu cyflawni

yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i ddisgyblion, aelodau o staff, rhieni/gofalwyr neu unrhyw un arall am y gweithdrefnau os ydynt yn dymuno gwneud cwyn neu apelio

yn gwneud yn siwr bod grwpiau diduedd yn delio â chwynion yn brydlon

Arweinyddiaeth dda

Mae pob un o’r staff yn rhannu gweledigaeth, gwerthoedd a diben ar y cyd. Mae strwythurau rheoli a phwyllgor corfforaethol a syniadau systemau yn cefnogi safonau uchel o gyflwyno busnes ar draws holl waith yr ysgol. Mae arweinwyr yn cyfleu disgwyliadau uchel ar gyfer sicrhau gwelliant ac maent yn herio staff yn gadarnhaol ac yn effeithiol. Caiff polisïau a mentrau, gan gynnwys y rhai sy’n bodloni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, eu rhoi ar waith yn gyson. Mae arweinwyr a chyrff goruchwylio yn defnyddio gwybodaeth reoli berthnasol am berfformiad i fynd i’r afael â thanberfformio ac i osod amcanion a thargedau sy’n flaenoriaethau strategol. Mae llywodraethwyr ac awdurdodau goruchwylio yn dangos penderfyniad wrth herio a chefnogi’r ysgol i ysgogi gwelliannau angenrheidiol.

Arweinyddiaeth anfoddhaol

Nid yw arweinwyr a rheolwyr yn cyfathrebu’n dda ac nid ydynt yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer staff. Nid yw eu gweledigaeth yn canolbwyntio digon ar wella deilliannau dysgu a lles ar gyfer disgyblion, ac o ganlyniad, maent wedi bod yn aflwyddiannus ar y cyfan o ran gwneud gwelliannau a’u cynnal. Mae llinellau atebolrwydd yn aneglur. Ni chaiff polisïau a mentrau eu rhoi ar waith yn gyson. Nid yw arweinwyr a llywodraethwyr yn cael digon o wybodaeth berthnasol am berfformiad yr ysgol, a/neu maent yn methu ei defnyddio i lywio cyfeiriad yr ysgol, nodi tanberfformio neu ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Nid yw’r llywodraethwyr neu’r awdurdod goruchwylio yn cael digon o effaith ar gyfeiriad a gwaith yr ysgol ac nid ydynt yn herio’r ysgol yn ddigonol i ysgogi gwelliant. Nid yw’r corff llywodraethol neu’r awdurdod goruchwylio yn bodloni pob un o’i ddyletswyddau statudol.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

38

3.2 Gwella ansawdd

3.2.1 hunanarfarnu, gan gynnwys gwrando ar ddisgyblion ac eraill 3.2.2 cynllunio a sicrhau gwelliant

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd 3.2.1: hunanarfarnu, gan gynnwys gwrando ar ddysgwyr ac eraill Dylai’r prosesau hunanarfarnu a chynllunio datblygiad fod yn rhan reolaidd o fywyd gwaith yr ysgol. Dylai’r ffocws fod ar nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella, monitro darpariaeth ac asesu canlyniadau. Dylai’r broses gynnwys adolygiad trylwyr o bob agwedd ar fywyd yr ysgol a sut mae’r rhain yn effeithio ar y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni.

Dylai arolygwyr gadarnhau a yw’r ysgol yn cael ei rheoli ar sail asesiad cywir o’i chryfderau a’i gwendidau. Mae’n annhebygol y gall ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth fod yn dda os nad oes gan yr ysgol weithdrefnau hunanarfarnu effeithiol. Dylai arolygwyr ystyried a yw proses hunanarfarnu’r ysgol:

yn cael ei hymgorffori mewn cynllunio strategol ac yn defnyddio gweithdrefnau sicrhau ansawdd rheolaidd

yn cynnwys arfarnu a monitro trylwyr o ddata am safonau ac ansawdd yr addysg gan gynnwys ystyried tueddiadau a chynnydd dros gyfnod ar gyfer pob grŵp o ddisgyblion

yn defnyddio tystiolaeth uniongyrchol o ansawdd yr addysgu a’r dysgu

yn cynnwys pob un o’r staff wrth asesu canlyniadau a’u perfformiad eu hunain

yn annog disgyblion o bob grŵp i rannu eu safbwyntiau a chodi materion

yn ystyried safbwyntiau staff, rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid eraill

yn arwain at gynlluniau datblygu sy’n cael eu monitro yn erbyn targedau clir a meini prawf llwyddiant

yn defnyddio adolygiadau gan asiantaethau allanol lle bo’n briodol

yn arwain at welliant mewn safonau ac ansawdd 3.2.2: cynllunio a sicrhau gwelliant Wrth arfarnu effeithiolrwydd y cynllunio ar gyfer gwella, dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae arweinwyr a rheolwyr:

yn defnyddio gwybodaeth o hunanarfarnu i osod blaenoriaethau a thargedau heriol a phriodol ar gyfer gwella

yn targedu a chanolbwyntio’n benodol ar anghenion disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim

wedi blaenoriaethu’r materion y maent yn dymuno’u gwella

yn gweithredu strategaethau cadarn sy’n debygol o ysgogi’r gwelliannau dymunol

yn sicrhau bod gan bob un o’r staff eu rhan mewn rhoi’r strategaethau ar waith Dylai arolygwyr ystyried sut mae arweinwyr a rheolwyr yn sicrhau bod

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

39

blaenoriaethau’n cael eu cefnogi trwy ddyrannu adnoddau. Dylent arfarnu’r graddau y mae arweinwyr a rheolwyr yn diffinio camau gwella mewn graddfeydd amser penodol a realistig ac yn dyrannu cyfrifoldeb ar gyfer eu cyflwyno.

Dylai arolygwyr arfarnu hefyd a yw’r camau a gymerwyd wedi cael effaith gadarnhaol, a lle bo’n berthnasol, wedi arwain at welliannau mesuradwy mewn safonau.

Dylai arolygwyr ystyried sut mae’r ysgol wedi ymateb i argymhellion yr adroddiad arolygu diwethaf ac a yw camau’r ysgol wedi arwain at welliannau mewn safonau ac ansawdd. Dylent adrodd ar gynnydd rhagorol neu anfoddhaol yn unig.

Gwella ansawdd yn dda

Mae gan arweinwyr a rheolwyr ddarlun a dealltwriaeth gywir o gryfderau a gwendidau’r ysgol. Maent yn gwneud defnydd da o ystod o weithgareddau monitro trylwyr yn rheolaidd. Defnyddir data perfformiad yn gyson i fonitro cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella. Mae ffocws cynaliadwy ar gyflawni cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r ysgol. Mae’r ysgol yn gofyn barn disgyblion, rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach yn rheolaidd. Mae gan yr ysgol hanes da o gynnal neu wella safonau a darpariaeth.

Gwella ansawdd yn anfoddhaol

Mae diffyg trylwyredd yn y prosesau hunanarfarnu. Nid yw’r ysgol yn nodi meysydd i’w gwella yn llawn nac yn gywir ac, o ganlyniad, nid yw staff yn canolbwyntio ar y meysydd pwysicaf i’w datblygu. Nid yw hunanarfarnu perfformiad yn ddigon amrywiol ac nid yw’n gwneud defnydd digon da o ddata perfformiad a thystiolaeth arall gan yr holl bartneriaid allweddol. Nid yw’r broses hunanarfarnu yn rhoi digon o ystyriaeth i safbwyntiau disgyblion. Ychydig iawn o welliannau a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf, ac o ganlyniad, nid yw’r disgyblion yn gwneud digon o gynnydd.

3.3 Gweithio mewn partneriaeth

3.3.1 partneriaethau strategol 3.3.2 cynllunio, darparu adnoddau a sicrhau ansawdd ar y cyd

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd

3.3.1: partneriaethau strategol

Dylai arolygwyr arfarnu pa mor strategol y mae’r ysgol yn gweithio gyda’i phartneriaid i wella safonau a lles disgyblion a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Dylai’r prif ffocws yn y dangosydd ansawdd hwn fod ar effaith partneriaethau strategol ar safonau a lles disgyblion a’u heffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael ag amddifadedd disgyblion ac nid dim ond ar nifer ac ystod y partneriaid neu natur ac ansawdd y trefniadau partneriaeth.

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

40

Mae partneriaid yn cynnwys:

rhieni/gofalwyr

ysgolion cynradd partner

ysgolion eraill a darparwyr ôl-16 yn y rhwydwaith ardal

gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc

y gymuned

cyflogwyr lleol

ystod o asiantaethau amlddisgyblaethol a sefydliadau gwirfoddol

sefydliadau hyfforddiant cychwynnol i athrawon Dylai arolygwyr ystyried pa mor effeithiol y mae’r ysgol yn cydlynu’r partneriaethau hyn er mwyn ysgogi gwelliannau mewn safonau a lles disgyblion. Dylent ganolbwyntio ar ba mor dda y mae’r ysgol yn defnyddio partneriaethau strategol i helpu adeiladu ei chynhwysedd ar gyfer gwelliant parhaus a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Bydd angen i arolygwyr ystyried y ffordd y mae’r ysgol yn sicrhau bod cyswllt da, ymddiriedaeth a chyfathrebu clir rhwng partneriaid. Er enghraifft, gallent arolygu’r ffordd y mae’r ysgol yn gweithio gydag eraill fel rhan o’r Rhwydwaith 14-19 lleol, neu’r ffordd y mae staff yn galluogi partneriaid cymunedol i gyfrannu at nodau’r ysgol. 3.3.2: cynllunio, darparu adnoddau a sicrhau ansawdd ar y cyd Dylai arolygwyr ystyried sut mae staff yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio, rheoli a sicrhau ansawdd darpariaeth, er enghraifft drwy gydgyfrannu eu cyllid a’u hadnoddau. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol yn cydweithio â phartneriaid i gyflwyno rhaglenni a dewisiadau cydlynus. Dylent bennu a oes gan yr ysgol strwythurau a phrosesau effeithiol sy’n cyfrannu’n dda at arferion cydweithio. Dylai arolygwyr ystyried ansawdd y cynlluniau trosglwyddo a phennu pa mor effeithiol y mae’r ysgol yn gweithio gyda’i hysgolion partner:

i ddatblygu parhad mewn dysgu a lles

i safoni a sicrhau ansawdd asesu gwaith a chyrsiau disgyblion

i ddefnyddio adnoddau yn effeithiol sy’n cael eu rhannu rhwng partneriaid Ar gyfer cynllunio a darparu addysg 14-19, dylai arolygwyr farnu effeithiolrwydd partneriaeth yr ysgol gydag ysgolion eraill, sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant yn y gwaith. Bydd angen iddynt arfarnu pa mor dda y mae’r partneriaethau hyn yn darparu mynediad i ystod o gyrsiau addysg alwedigaethol ac addysg gyffredinol addas. Pan fydd disgyblion yn cael eu symud yn rheolaidd i’r ysgol neu oddi yno fel rhan o weithgarwch partneriaeth, dylai arolygwyr ystyried pa mor ddiogel ac effeithlon y mae trefniadau’r ysgol ar gyfer y gweithgareddau hyn o ddydd i ddydd. Dylent

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

41

ystyried effaith y gweithio mewn partneriaeth ar wella deilliannau, yn enwedig cyflawniad, ar gyfer y disgyblion hynny sy’n gweithio oddi ar y safle yn ogystal â disgyblion sy’n mynychu’r ysgol ar gyfer eu cyrsiau. Gweithio mewn partneriaeth yn dda Mae gweithgareddau partneriaeth yn cyfrannu’n gryf at wella safonau a lles disgyblion a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae gweithgareddau partneriaeth hefyd wedi ehangu’r ystod o ddewisiadau ar gyfer disgyblion. Mae hyn wedi sicrhau manteision sylweddol i lawer o ddisgyblion o ran gwelliant mewn safonau a lles. Mae’r ysgol yn ymgymryd â rôl flaenllaw i ddatblygu arferion cydweithio ac mae’n meithrin ymddiriedaeth a chyfathrebu da rhwng partneriaid. Mae staff yn canolbwyntio’n dda ar gynllunio a darparu adnoddau ar y cyd yn ogystal ag adeiladu cynhwysedd ar gyfer gwelliant parhaus. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â’r gymuned, cyswllt da a chyfathrebu da gyda rhieni/gofalwyr ac mae’n gweithio’n effeithiol gydag asiantaethau eraill gan alluogi staff i gyflwyno rhaglenni cysylltiedig sy’n gwella canlyniadau a lles disgyblion. Gweithio mewn partneriaeth yn anfoddhaol Nid yw gweithgareddau partneriaeth yn cyfrannu’n gryf at wella safonau a lles disgyblion nac yn helpu i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae rhywfaint o gynllunio ar y cyd yn digwydd ond mae’r partneriaethau’n rhai arwynebol ac nid yw’r ysgol bob amser yn cyfathrebu’n effeithiol gyda phob un o’r asiantaethau a’r partneriaid. Cyfran fechan o ddisgyblion sy’n elwa ar weithio mewn partneriaeth mewn gwirionedd. Mae gan yr ysgol rai cysylltiadau â’r gymuned ond cyfyngedig yw cyfraniad y rhain at ddatblygu agweddau cadarnhaol disgyblion at waith. Caiff rhieni/gofalwyr rywfaint o wybodaeth am gynnydd disgyblion ond ni ymgynghorir â nhw am ddatblygiad yr ysgol neu’r disgyblion yn y dyfodol.

3.4 Rheoli adnoddau

3.4.1 rheoli staff ac adnoddau 3.4.2 gwerth am arian

Materion wrth arolygu’r dangosydd ansawdd Fel arfer, ni ddylai’r farn gyffredinol ar y dangosydd ansawdd hwn fod yn uwch ar y raddfa na’r farn ar gwestiwn allweddol 1 ond gallai fod yn is. Wrth arolygu rheoli adnoddau, bydd arolygwyr yn barnu pa mor dda y mae’r ysgol yn cynllunio ac yn cynnal strategaethau effeithiol i sicrhau a monitro bod yr ysgol yn cyflawni gwerth am arian yn y ffordd y mae’n rheoli adnoddau, yn enwedig datblygiad staff. 3.4.1: rheoli staff ac adnoddau Dylai arolygwyr arfarnu pa mor dda y mae’r ysgol yn datblygu fel cymuned ddysgu gref ac yn cyflawni diwylliant o gydweithio mewn ysgolion ac ar draws ysgolion. Dylai arolygwyr ystyried y trefniadau i gefnogi ymgysylltiad gweithredol pob un o’r

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

42

staff wrth gynyddu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau proffesiynol, gan gynnwys cyfranogi mewn profiadau dysgu proffesiynol ysgol-gyfan. Gan ystyried y barnau o dan 2.2 ar addysgu, dylai arolygwyr farnu i ba raddau y mae’r staff:

yn cael eu cefnogi gan ddatblygiad proffesiynol parhaus

yn caffael gwybodaeth a medrau newydd i ddatblygu dulliau arloesol o ddysgu ac addysgu

yn cymryd rhan mewn arsylwi ystafell ddosbarth uniongyrchol

yn rhannu arfer dda gydag athrawon ac oedolion eraill yn yr ysgol a thu hwnt

yn myfyrio ar eu harfer eu hunain

yn arfarnu effaith dysgu proffesiynol ar ddysgu a lles eu disgyblion Dylai arolygwyr ganolbwyntio ar effaith rhwydweithiau a chymunedau dysgu proffesiynol ar godi safonau a gwella ansawdd y ddarpariaeth, a thalu sylw’n benodol i’r farn ar gyfer ansawdd yr addysgu (2.2). Yng ngoleuni’r datblygiadau cenedlaethol presennol, gallai arolygwyr ddarganfod bod ysgolion yn rhan o’r rhaglen ysgolion arloesi. Mae’n bosibl y bydd ysgolion eraill nad ydynt yn rhan ffurfiol o’r rhaglen hon yn cymryd rhan yn y gwaith hwn yn anffurfiol trwy gydweithio ag ysgolion arloesi, neu drwy grwpiau’r consortia rhanbarthol. Dylai arolygwyr ystyried pa mor effeithiol y mae unrhyw ddatblygiadau yn gysylltiedig â rhaglen Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella dysgu proffesiynol ymarferwyr, staff cymorth, athrawon ac arweinwyr ysgol er budd disgyblion. Dylai arolygwyr ddisgwyl i ysgolion gydweithio i nodi a chyflwyno strategaethau gwella a dysgu ar y cyd. Dylai arolygwyr ystyried ymglymiad yr ysgol mewn cymunedau dysgu proffesiynol yn yr ysgol a thu hwnt a chyfraniad yr ymglymiad hwn at feithrin gallu’r ysgol ar gyfer gwelliant parhaus. Gallai’r cymunedau hyn gynnwys rhwydweithiau lleol yng nghonsortia’r awdurdod lleol ac ymhlith teuluoedd ysgolion. Dylai arolygwyr farnu pa mor effeithlon ac effeithiol y mae arweinwyr a rheolwyr yn cynllunio ac yn cynnal strategaethau i reoli staff ac adnoddau. Gallai arolygwyr ystyried a oes unrhyw nodweddion rheoli clir sy’n cyfrannu at reoli adnoddau yn effeithlon neu’n amharu arno. Dylent ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr:

yn sicrhau bod yr ysgol wedi’i staffio’n briodol i addysgu’r cwricwlwm yn effeithiol

yn defnyddio staff i wneud y defnydd gorau o’u hamser, eu harbenigedd a’u profiad

yn datblygu arbenigedd staff i fodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim

yn nodi ac yn diwallu anghenion datblygu pob un o’r staff trwy systemau gwerthuso a rheoli perfformiad

yn gwneud defnydd effeithiol o amser cynllunio, paratoi ac asesu (CPA) athrawon

yn defnyddio strategaethau a phrosesau priodol i fodloni gofynion statudol y Cytundeb Cenedlaethol ar ‘Godi Safonau a Mynd i’r Afael â Baich Gwaith’ (Ionawr 2003)

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

43

yn rheoli ac yn defnyddio cynorthwywyr addysgu a staff nad ydynt yn addysgu

yn darparu’r safonau gorau posibl o adeiladau o fewn cyllideb yr ysgol

yn sicrhau bod gan ddisgyblion ddigon o adnoddau dysgu priodol

3.4.2: gwerth am arian

Wrth arolygu gwerth am arian, dylai arolygwyr ystyried effeithiolrwydd yr ysgol o ran cyflawni deilliannau da neu ragorol ar gyfer disgyblion, yng Nghwestiwn Allweddol 1. Fodd bynnag, os yw adnoddau’n cael eu rheoli’n wael, hyd yn oed os yw’r deilliannau’n dda, dylai’r farn gyffredinol adlewyrchu’r meysydd i’w datblygu a nodwyd.

Dylai arolygwyr ganolbwyntio llai ar fanylder y cyllidebau ariannol nag ar y graddau y mae penderfyniadau gwariant a chynllunio ariannol bras yr ysgol wedi’u seilio ar flaenoriaethau ar gyfer gwario ar welliant dros gyfnod.

Dylent ystyried y graddau y mae arweinwyr a rheolwyr:

yn gwybod costau rhaglenni a gweithgareddau presennol, yn parhau i’w hadolygu ac yn gofyn a ydynt yn gost effeithiol, er enghraifft, mewn perthynas â meintiau dosbarthiadau sy’n anymarferol

yn nodi blaenoriaethau a meysydd i’w datblygu ac yn dyrannu adnoddau yn briodol ac yn unol â meini prawf clir i adlewyrchu amcanion cytûn yr ysgol

yn gwneud trefniadau cyllidebu systematig a chywir, gan gynnwys trefniadau priodol ar gyfer cronfeydd wrth gefn

wedi sicrhau cydbwysedd synhwyrol rhwng y cyfrifoldebau y mae llywodraethwyr yn ymgymryd â nhw a’r rhai sy’n cael eu dirprwyo i’r pennaeth a’r staff

Dylai arolygwyr arfarnu:

effeithiolrwydd y ddarpariaeth o ran sicrhau deilliannau priodol ar gyfer disgyblion yn gyffredinol

y graddau y mae’r ysgol yn sicrhau cydbwysedd rhwng effeithiolrwydd ei darpariaeth yn erbyn costau yn llwyddiannus, gan gynnwys costau staffio

y graddau y mae’n gwneud defnydd da o’r cyllid a gaiff, yn enwedig y grant amddifadedd disgyblion

Dylai arolygwyr adrodd ar y graddau y mae’r ysgol yn defnyddio’r grant amddifadedd disgyblion yn dda. Ni ddylai’r farn ar ba mor dda mae’r ysgol yn defnyddio’r grant amddifadedd disgyblion fod yn uwch fel arfer na’r radd a roddwyd o dan 1.1.2 ar gyfer perfformiad disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond gall fod yn is.

Dylai arolygwyr ddatgan yn yr adroddiad fod yr ysgol yn cynnig gwerth am arian rhagorol, da, digonol neu anfoddhaol o ran y defnydd a wneir o’r gyllideb a ddyrannwyd i’r ysgol.

Rheoli adnoddau yn dda

Mae cymuned ddysgu broffesiynol, sefydledig yn yr ysgol yn galluogi staff i ddatblygu a rhannu eu gwybodaeth broffesiynol, ac mae’n cefnogi addysgu o ansawdd da ar

Arweiniad ar gyfer arolygu ysgolion arbennig o Fedi 2010 (Diweddarwyd Medi 2016)

44

draws yr ysgol. Mae rhwydweithiau effeithiol o arfer broffesiynol gydag ysgolion a phartneriaid eraill. Caiff adnoddau staffio ac adnoddau ariannol eu rheoli a’u defnyddio’n effeithiol i gefnogi gwella dysgu. Mae’r ysgol yn defnyddio staff addysgu a staff cymorth yn dda ac mae’r wybodaeth a’r arbenigedd ganddynt i ymdrin â phob agwedd ar gwricwlwm yr ysgol. Caiff effaith yr adnoddau ar addysgu a dysgu ei hadolygu’n gyson a chynllunnir ar gyfer anghenion yn y dyfodol. Mae penderfyniadau gwariant yr ysgol yn cysylltu’n dda â blaenoriaethau ar gyfer gwella a lles y disgyblion. Mae’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei wario’n dda. Mae’r defnydd o adnoddau ar y cyd trwy weithio mewn partneriaeth neu ffederasiwn yn effeithlon yn darparu gwerth da am arian oherwydd ei fod yn cyfrannu at ddeilliannau gwell a da ar y cyfan ar gyfer disgyblion mewn agweddau na allai’r ysgol ei hun eu darparu. At ei gilydd, mae’r deilliannau ar gyfer disgyblion yn dda. Nid oes unrhyw safonau anfoddhaol nac agweddau annigonol ar y ddarpariaeth. Rheoli adnoddau yn anfoddhaol Nid yw’r ysgol yn gwneud digon i hyrwyddo arfer orau ymhlith ei staff ei hun neu gyda’r gymuned ddysgu. Nid yw’r adnoddau ariannol wedi’u cysylltu’n llawn â blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a chynlluniau datblygu ysgol-gyfan. Nid oes digon o staff addysgu a staff cymorth arbenigol a phrofiadol cymwys gan yr ysgol sy’n meddu ar yr ystod lawn o wybodaeth ac arbenigedd i ymdrin â phob agwedd ar gwricwlwm yr ysgol. Nid yw’r ysgol yn defnyddio nac yn monitro adnoddau yn effeithlon nac yn cynllunio i wella adnoddau yn ddigon da i sicrhau gwerth am arian. Er y gallai’r canlyniadau fod yn anfoddhaol, yn ddigonol neu’n well, mae diffygion yn y ffordd y caiff adnoddau eu defnyddio a’u cymhwyso gan reolwyr. Nid yw’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei wario’n dda. Ychydig iawn o gydgyfrannu adnoddau yn effeithlon a geir, os o gwbl, gydag asiantaethau neu ddarparwyr eraill trwy weithgareddau partneriaeth ar y cyd neu ffederasiwn.

45

Atodiad 1: Y Fframwaith Arolygu Cyffredin

CWA

Dangosyddion Ansawdd

Agweddau

1

DEILLIANNAU

1.1 Safonau

1.1.1 canlyniadau a thueddiadau mewn perfformiad o’u cymharu â chyfartaleddau cenedlaethol, darparwyr tebyg a chyrhaeddiad blaenorol

1.1.2 safonau grwpiau o ddysgwyr 1.1.3 cyflawniad a chynnydd wrth ddysgu 1.1.4 medrau 1.1.5 yr iaith Gymraeg

1.2 Lles 1.2.1 agweddau at gadw’n iach a diogel 1.2.2 cyfranogi mewn dysgu a’i fwynhau 1.2.3 ymglymiad cymunedol a gwneud penderfyniadau 1.2.4 medrau cymdeithasol a medrau bywyd

2

DARPARIAETH

2.1 Profiadau dysgu 2.1.1 bodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr/y gymuned

2.1.2 darpariaeth ar gyfer medrau 2.1.3 darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig 2.1.4 addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a

dinasyddiaeth fyd-eang

2.2 Addysgu 2.2.1 ystod ac ansawdd y dulliau addysgu 2.2.2 asesu dysgu ac asesu ar gyfer dysgu

2.3 Gofal, cymorth ac arweiniad

2.3.1 darpariaeth ar gyfer iechyd a lles gan gynnwys datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol

2.3.2 gwasanaethau, gwybodaeth ac arweiniad arbenigol

2.3.3 trefniadau diogelu 2.3.4 anghenion dysgu ychwanegol

2.4 Yr amgylchedd dysgu

2.4.1 ethos, cydraddoldeb ac amrywiaeth 2.4.2 amgylchedd ffisegol

46

3

ARWEINYDDIAETH

3.1 Arweinyddiaeth 3.1.1 cyfeiriad strategol ac effaith yr arweinyddiaeth 3.1.2 llywodraethwyr neu fyrddau goruchwylio eraill

3.2 Gwella ansawdd 3.2.1 hunanarfarnu, gan gynnwys gwrando ar ddysgwyr ac eraill

3.2.2 cynllunio a sicrhau gwelliant

3.3 Gweithio mewn partneriaeth

3.3.1 partneriaethau strategol 3.3.2 cynllunio, darparu adnoddau a sicrhau ansawdd

ar y cyd

3.4 Rheoli adnoddau

3.4.1 rheoli staff ac adnoddau 3.4.2 gwerth am arian

47

Atodiad 2: Ffynonellau tystiolaeth

Y prif ffynonellau tystiolaeth sy’n berthnasol i gwestiynau allweddol a dangosyddion ansawdd

Cwestiwn Allweddol 1

Cwestiwn Allweddol 2 Cwestiwn Allweddol 3

1.1 1.2 2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Arsylwi:

Gwersi, sesiynau, gweithgareddau y tu allan i’r dosbarth a gweithgareddau cyfoethogi, amseroedd cinio ac egwyl, cyfnodau tiwtor, gwasanaethau ac addoli ar y cyd; gwersi addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gyrfaoedd, lle bo’n berthnasol, a natur a chyfraniad gwaith cartref.

Craffu ar waith cyfredol a blaenorol disgyblion, gan gynnwys unrhyw waith a wnaed oddi ar y safle a gwaith cartref; a marcio, sylwadau a gwaith dilynol.

Yr adnoddau dysgu sydd ar gael, gan gynnwys darpariaeth y llyfrgell, a chyfle i ddisgyblion a staff ddefnyddio ystod briodol o lyfrau, adnoddau TGCh, offer ymarferol a deunyddiau clyweled i gefnogi dysgu ac addysgu yn ystod a’r tu allan i oriau ysgol.

Cyflwr, ymddangosiad a’r defnydd o adeiladau a thir yr ysgol ac ansawdd arddangosiadau.

Adeiladau, offer a chymhorthion arbenigol ac adnoddau eraill.

Defnyddio adnoddau y tu allan i’r ysgol, fel cyfleusterau preswyl, ymweliadau addysgol ac adnoddau cymunedol.

Yr ysgol ar waith, fel y trefniadau addysgu, cymorth ar gyfer disgyblion ag ADY, gan gynnwys defnyddio athrawon a gwasanaethau cymorth, cynorthwywyr cymorth dysgu, arbenigwyr meddygol, parafeddygol a nyrsio, seicolegwyr ac asiantaethau allanol eraill.

48

Dogfennau:

Yr adroddiad hunanarfarnu.

Data asesu, gan gynnwys asesiadau’r CC, RE2/SSSP, adroddiadau Cronfa Addysg Cymru (WED), data meincnod LlC ac adroddiadau LlC/FFT ac arholiadau cyhoeddus, lle bo’n briodol; asesiadau athrawon ar ddiwedd y flwyddyn a’r cyfnod allweddol, sgorau profion darllen a rhifedd safonol ac unrhyw ddadansoddiadau gwerth ychwanegol.

Tystiolaeth o alluoedd disgyblion pan gânt eu derbyn fel y dangosir gan brofion sgrinio cychwynnol, asesiadau o gyrhaeddiad blaenorol a mesurau priodol eraill.

Gwybodaeth berthnasol sydd gan yr ysgol am ddisgyblion unigol.

Gwybodaeth am y targedau ar gyfer gwella a osodir ar gyfer yr ysgol, carfannau a disgyblion unigol.

Data ar ddisgyblion mewn darpariaeth bartneriaeth.

Barn disgyblion a rhieni/gofalwyr fel y cawsant eu mynegi mewn holiaduron.

Trefniadau sefydlu, trosglwyddo ac integreiddio disgyblion.

Datganiadau, cynlluniau addysg unigol, cynlluniau ymddygiad unigol, cynlluniau addysg personol, adolygiadau blynyddol a chynlluniau trosglwyddo, gwybodaeth sgrinio ac asesu a gweithdrefnau a manylion unrhyw ddisgyblion y mae eithriadau a newidiadau i ofynion y CC yn berthnasol iddynt, a darpariaeth amgen a wneir.

Dogfennaeth gwricwlwm, cynlluniau, polisïau, cynlluniau dewisiadau, cynlluniau gwaith ac amserlenni yr ysgol, gan gynnwys trefniadaeth a chyfansoddiad grwpiau addysgu; gwybodaeth am addysg iechyd, gan gynnwys addysg rhyw a sylw i gamddefnyddio sylweddau; y trefniadau ar gyfer gwaith cartref, fel polisïau ac amserlenni.

49

Asesiadau athrawon a chofnodion o gynnydd a chyflawniad ac asesiadau disgyblion, adroddiadau i rieni/gofalwyr a pholisïau a chanllawiau cofnodi ac adrodd.

Gwybodaeth am y trefniadau ar gyfer cydlynu a pharhad y cwricwlwm ar draws cyfnodau allweddol a rhwng ysgolion.

Dogfennaeth yr ysgol, gan gynnwys y cynllun gwella ysgol; cynlluniau datblygu adrannol a/neu bwnc, polisïau, y prosbectws a’r adroddiad blynyddol ar gyfer rhieni/gofalwyr.

Manylion unrhyw gŵynion neu apeliadau, gan gynnwys darpariaeth y CC ac addysg grefyddol neu addoli ar y cyd.

Gwybodaeth gan randdeiliaid, fel ymatebion ysgrifenedig gan fusnesau lleol a chysylltiadau addysg-busnes.

Gwybodaeth am staffio, disgrifiadau swydd ar gyfer staff, gan gynnwys cynorthwywyr cymorth dysgu ac athrawon cymorth ac arbenigol, llawlyfr staff, polisi ar gyfer datblygiad proffesiynol a chofnodion DPP.

Cofnodion cyfarfodydd staff, timau arweinyddiaeth pwnc, rheolwyr, llywodraethwyr a phartneriaid.

Dogfennau sy’n ymwneud â gwaith cyngor yr ysgol.

Y datganiad cyllideb diweddaraf ac adroddiad yr archwilydd, gwybodaeth am drefniadau rheoli cyllideb, gan gynnwys trefniadau ar gyfer dyrannu cyllid i benaethiaid cyllideb, a pholisïau codi tâl.

Data ar bresenoldeb, achosion ymddygiadol, a gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol.

Gwybodaeth am drefniadau partneriaeth gydag ysgolion a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys rhannu arfer dda, sefydlu a throsglwyddo disgyblion, cydlynu a pharhad y cwricwlwm a threfniadau integreiddio.

Trafod:

Trafodaeth gyda disgyblion, rhieni/gofalwyr, staff, llywodraethwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid sy’n ymweld.

50

Atodiad 3: Rheoliadau ac arweiniad Cyfuniad o reoliadau, mesurau a chylchlythyrau yw’r dogfennau a restrir isod, ac fe’u darperir er gwybodaeth ar gyfer arolygwyr. Nid yw’r rhestr hon yn drwyadl ac nid yw wedi’i bwriadu i fod yn rhestr wirio i arolygwyr adolygu ysgol. Fe’u darperir fel adnodd yn unig ar gyfer tîm arolygu pe bai’r angen yn codi. Mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol mai dogfennau statudol yw rheoliadau a mesurau. * Mae pob un o’r dogfennau yn berthnasol i Gwestiwn Allweddol 1 gan eu bod yn diffinio deilliannau ar gyfer disgyblion.

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Cynllun Hygyrchedd: Fel atodiad i’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Deddf Cydraddoldeb 2010;

Cynllunio ar gyfer Cynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion ag Anableddau: Cylchlythyr 15/2004 CCC

Cynllun Gweithredu yn Dilyn Arolygiad Ysgol: Deddf Addysg 2005. Pennod 4, Adrannau 39 a 43.

Gwrth-Fwlio: Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998 adran 61.

Targedau Presenoldeb: (Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998 adran 63); Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995; Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1997; Rheoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgolion ac Absenoldebau Anawdurdodedig) (Cymru) 2006; Gwaharddiadau o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion 01/2004 yn ymgorffori diwygiadau o Gylchlythyr 1(A) 2004, ailargraffwyd Chwefror 2008.

51

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Maint Dosbarth Rheoliadau Addysg (Ysgolion Babanod) Derbyniadau Ysgolion (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) Cymru, 2009 (Diwygiad).

Gweithdrefnau Cwyno: Adran 29 Deddf Addysg 2002; Arweiniad a geir yng Nghylchlythyr 03/2004 Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethol Ysgolion; Canllawiau i Gyrff Llywodraethol Ysgolion ynglŷn â Gweithdrefnau Cwyno yn ymwneud â Disgyblion Rhif 39/2006.

Cwricwlwm: Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gorchwyl) (Cymru) 2000;

Rheoliadau Trefniadau Asesu’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2005;

Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008;

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygiad) 2008; Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008; Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Cyflwyno Addysg Grefyddol i Ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru 2008; Addoli ar y Cyd (Fframwaith Safonau Ysgolion, 1998, adran 70), cylchlythyr 19/94, Addoli Crefyddol a Chydaddoli; Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn CA1 (Cymru) 2008; Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Cyfnod Sylfaen) 2008;

52

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Sicrhau Cysondeb mewn Asesiadau Athrawon: Arweiniad ar gyfer CA2 a CA3, ISBN 9780 7504 4478 1; Llwybrau Dysgu 14-19 Arweiniad II, Cylchlythyr 17/2006;

Trefniadau Cydweithredol Rhwng Sefydliadau AB ac Ysgolion 007/2009, Chwefror 2009;

Trawsnewid Darparwyr Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru: Cyflwyno Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, ISBN 978 0 7504 4787 4;

Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) ac Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith (AGG) yn y Cwricwlwm Sylfaenol (Cylchlythyr 13/2003).

Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang:

Strategaeth ar gyfer Gweithredu 055/2008 Ebrill 2008; Dealltwriaeth Ar y Cyd ar gyfer Ysgolion 065/2008, Gorffennaf 2008.

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: Deddf Cydraddoldeb 2010 Cynllun Cydraddoldeb Strategol Cynllunio i Gynyddu Mynediad i Ysgolion ar gyfer Disgyblion Anabl: Cylchlythyr CCC 15/2004

Gweithdrefnau Ariannol:

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999; Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALlau) (Cymru) 2004; Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008.

Polisi a Gweithdrefnau Diogelwch rhag Tân: Gorchymyn (Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith) (Diogelwch rhag Tân) 2005.

53

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Rhyddid Gwybodaeth: Rhaid i ysgol gynnal a chyhoeddi Cynllun Cyhoeddi;

(Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 adran 19).

Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr i Rieni: Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001;

Rheoliadau’r Cyfarfod Rhieni Blynyddol (Eithriadau) (Cymru) 2005.

Bwyta ac Yfed yn Iach

Mesur Bwyta ac Yfed yn Iach (Cymru) 2009

Cytundebau Cartref-Ysgol: Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998, Adrannau 110 a 111.

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel: Cyfrifoldebau cyrff llywodraethol ysgolion a sefydliadau AB a pherchenogion ysgolion annibynnol Cylchlythyr LlC 158/2015

Cyfarfodydd a Chofnodion y Corff Llywodraethol: Rheoliadau Llywodraeth Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

Disgyblion Mwy Abl a Dawnus: Cyflawni’r Her. Safonau Ansawdd mewn Addysg ar gyfer Disgyblion Mwy Abl a Dawnus, 006/2008, Mai 2008.

Safonau Cenedlaethol Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Mai 2007

Rheoli Perfformiad: Rheoliadau Llywodraeth Ysgolion (Cylch Gorchwyl) (Diwygiad) (Cymru) 2002.

Cydraddoldeb Hiliol a Chyfle Cyfartal: Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000. Gweler hefyd para. 2.4

54

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

– 2.6 o’r cyflwyniad i Gylchlythyr LlCC Cynhwysiant a Chymorth Disgyblion 2006.

Deddf Cydraddoldeb 2010 Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Radicaleiddio ac eithafiaeth: Mae Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar ysgolion i roi ‘ystyriaeth ddyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth’. Mae’r arweiniad cysylltiedig ar y Ddyletswydd Atal yn esbonio’n fanylach sut y disgwylir i ysgolion ymateb.

Cofrestr o Fuddiannau Busnes Penaethiaid a Llywodraethwyr: Rheoliadau Addysg (Cynllun Ariannol yr AALl) (Cymru) 2001.

Adrodd i Rieni a Disgyblion: Cylchlythyr 18/2006 LlCC “Cofnodion Addysgol, Adroddiadau Ysgolion a’r System Drosglwyddo Gyffredin” – Adran 3; Sut mae fy mhlentyn yn gwneud yn yr ysgol gynradd/uwchradd? Cyhoeddiad Blynyddol LlCC.

Ymyrraeth ddiogel ac effeithiol – defnyddio grym rhesymol:

Mae Adran 93 Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn galluogi staff ysgol i ddefnyddio’r grym hwnnw sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau canlynol i atal disgybl rhag gwneud neu barhau i wneud unrhyw rai o’r canlynol:

cyflawni trosedd;

achosi anaf personol i unrhyw unigolyn, neu ddifrod i eiddo unrhyw unigolyn (gan gynnwys y disgybl ei hun); neu

beryglu cynnal trefn a disgyblaeth dda yn yr ysgol neu ymhlith

55

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

unrhyw ddisgyblion sy’n cael addysg yn yr ysgol, boed yn ystod sesiwn addysgu neu fel arall.

Diogelu: Deddf Fframwaith Safonau Ysgolion 1998, adran 70

Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan; a chylchlythyr 34/02 CCC ‘Amddiffyn Plant: atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y gwasanaeth addysg’;

Canllawiau ar Addysg Plant y Gofelir Amdanynt gan Awdurdodau Lleol, Cylchlythyr 2/2001;

Cylchlythyr 005/2008 Diogelu Plant mewn Addysg;

Cylchlythyr 47/06 CCC Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion; Egwyddorion ac Arfer wrth gefnogi Cyflawniadau Disgyblion Ethnig Lleiafrifol (2006/7);

Addysgu Drama: Canllawiau ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant i Reolwyr ac Athrawon Drama Cylchlythyr 23/2006;

Deddf Amddiffyn Plant (1999); ‘Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant’ CCC (2000);

Rôl awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol o dan Ddeddf Addysg 2002. Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd 2001; Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn;

Cylchlythyr 52/95 y Swyddfa Gymreig ‘Amddiffyn Plant Rhag Cael eu Cam-drin: Rôl y Gwasanaeth Addysg’.

Oriau Cyswllt Ysgol ar gyfer Disgyblion: Cylchlythyr 43/90

Cynghorau Ysgol:

Rheoliadau Addysg (Cynghorau Ysgol) (Cymru) 2006; Cylchlythyr 42/2006;

56

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Canllawiau ar gyfer Cyrff Llywodraethol Ysgolion ar Sefydlu a Gweithredu Cynghorau Ysgol.

Cynlluniau Datblygu Ysgolion Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

Effeithiolrwydd Ysgolion: Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, ISBN 978 0 7504 4616 7; Fframwaith Effeithiolrwydd Ansawdd ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru Mawrth 2009, ISBN 978 0 7504 4928 1;

Y Wlad sy’n Dysgu, Awst 2001, ISBN 0 7504 2735 3; Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith.

Prosbectws Ysgol: Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygiad) 2001. Cylchlythyr 14/01 LlCC.

Addysg Rhyw: Adran 352 (1) (c) Deddf Addysg 1996. Nid yw’n ofynnol i ysgolion cynradd ond gallant benderfynu a ddylid cynnwys addysg rhyw yng nghwricwlwm yr ysgol a chadw cofnod ysgrifenedig.

Anghenion Arbennig: Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan AALlau) (Cymru) 2002;

Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer Cymru (ailargraffwyd 2004);

Disgyblion Heriol: Bodloni Anghenion Disgyblion ag Anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol, 2000.

Strwythur Staffio:

Rheoliadau Addysg (Adolygu Strwythur Staffio) (Cymru) 2005.

57

Cwestiwn Allweddol 1*

Cwestiwn Allweddol 2

Cwestiwn Allweddol 3

2.1 2.2 2.3 2.4 3.1 3.2 3.3 3.4

Gosod Targedau: Rheoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgolion ac Absenoldebau Anawdurdodedig) (Cymru) 1999.

Cynlluniau Trosglwyddo (Ysgolion Uwchradd Prif Ffrwd ac Ysgolion Cynradd);

Deddf Addysg 2002, Canllawiau 30/2006 LlCC.

58

Atodiad 4: Holiadur i ddisgyblion Holiadur i ddisgyblion – cynradd Soniwch wrthym am eich ysgol Os ydych chi’n cytuno â’r datganiad, ticiwch () yn y gofod nesaf ato. Os nad ydych chi’n cytuno, rhowch groes (x). Os nad ydych yn gallu ateb cwestiwn, gadewch ef yn wag.

Enw eich ysgol:

Bachgen Merch Rhowch gylch o amgylch un blwch

Grŵp Blwyddyn 3 4 5 6 Rhowch gylch o amgylch un blwch

Cwestiynau

1 Rwy’n teimlo’n ddiogel yn fy ysgol.

2 Mae’r ysgol yn delio’n dda ag unrhyw fwlio.

3 Rydw i’n gwybod pwy i siarad ag ef/â hi os ydw i’n poeni neu’n gofidio.

4 Mae’r ysgol yn fy nysgu sut i gadw’n iach.

5 Mae llawer o gyfleoedd yn yr ysgol i mi wneud ymarfer corff rheolaidd.

6 Rwy’n gwneud yn dda yn yr ysgol.

7 Mae’r athrawon ac oedolion eraill yn yr ysgol yn fy helpu i ddysgu a gwneud cynnydd.

8 Rwy’n gwybod beth i’w wneud a phwy i ofyn os ydw i’n gweld fy ngwaith yn anodd.

9 Mae fy ngwaith cartref yn fy helpu i ddeall a gwella fy ngwaith yn yr ysgol.

10 Mae gen i ddigon o lyfrau, offer a chyfrifiaduron i wneud fy ngwaith.

11 Mae plant eraill yn ymddwyn yn dda ac rwy’n gallu mynd ati i wneud fy ngwaith.

12 Mae bron pob un o’r plant yn ymddwyn yn dda amser chwarae ac amser cinio.

59

Holiadur i ddisgyblion – uwchradd

Enw eich ysgol:

Gwryw Benyw Rhowch gylch o amgylch un

blwch

Grŵp Blwyddyn 7 8 9 10 11 12 13 Rhowch gylch o amgylch un

blwch

Cwestiynau

Ticiwch un blwch

Cytuno’n gryf

Cytuno Anghytuno Anghytuno’n gryf

1 Rwy’n teimlo’n ddiogel yn fy ysgol.

2 Mae’r ysgol yn delio’n dda ag unrhyw fwlio.

3 Mae gennyf rywun i siarad â nhw os oes gennyf bryder.

4 Mae’r ysgol yn fy addysgu sut i gadw’n iach.

5 Mae digon o gyfleoedd i mi yn yr ysgol i wneud ymarfer corff yn rheolaidd.

6 Rwy’n gwneud yn dda yn yr ysgol.

7

Mae’r athrawon yn fy helpu i ddysgu ac i wneud cynnydd, ac maent yn fy helpu pan fydd gennyf broblemau.

8 Mae fy ngwaith cartref yn fy helpu i ddeall a gwella fy ngwaith yn yr ysgol.

9 Mae gennyf ddigon o lyfrau ac offer, a chyfrifiaduron, i wneud fy ngwaith.

10 Mae’r disgyblion yn ymddwyn yn dda ac rwy’n gallu mynd ati i wneud fy ngwaith

11 Mae’r staff yn trin pob disgybl yn deg ac yn dangos parch tuag atynt.

12 Mae’r ysgol yn gwrando ar ein barn ac yn gwneud newidiadau a awgrymir gennym.

13 Rwy’n cael fy annog i wneud pethau drosof i fy hun ac i ysgwyddo cyfrifoldeb.

60

14

Mae’r ysgol yn fy helpu i fod yn barod ar gyfer fy ysgol nesaf, coleg neu i ddechrau ar fy mywyd gweithio.

15 Mae’r staff yn fy mharchu i ac yn parchu fy nghefndir.

16 Mae’r ysgol yn fy helpu i ddeall a pharchu pobl o gefndiroedd eraill.

17

Atebwch y cwestiwn hwn os ydych ym Mlwyddyn 10 neu Flwyddyn 11: Cefais gyngor da pan oeddwn yn dewis fy nghyrsiau yng nghyfnod allweddol 4.

18

Atebwch y cwestiwn hwn os ydych yn y chweched dosbarth: Cefais gyngor da pan oeddwn yn dewis fy nghyrsiau yn y chweched dosbarth.

61

Atodiad 5: Holiadur i rieni/gofalwyr

Enw’r ysgol:

Cwestiynau Ticiwch un blwch

Cytuno’n gryf

Cytuno

Anghytuno

Anghytuno’n gryf

Ddim yn gwybod

1 Rwy’n fodlon â’r ysgol at ei gilydd.

2 Mae fy mhlentyn yn hoffi’r ysgol hon.

3 Cafodd fy mhlentyn help i ymgartrefu’n dda pan oedd yn dechrau yn yr ysgol.

4 Mae fy mhlentyn yn gwneud cynnydd da yn yr ysgol.

5 Mae’r disgyblion yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol.

6 Mae’r addysgu yn dda.

7 Mae’r staff yn disgwyl i fy mhlentyn weithio’n galed ac i wneud ei (g)orau.

8

Mae’r gwaith cartref sy’n cael ei roi yn adeiladu’n dda ar yr hyn y mae fy mhlentyn yn ei ddysgu yn yr ysgol.

9 Mae’r staff yn trin pob plentyn yn deg ac yn dangos parch tuag atynt.

10

Mae fy mhlentyn yn cael ei (h)annog i fod yn iach ac i wneud ymarfer corff yn rheolaidd lle bynnag y bo’n bosibl.

11 Mae fy mhlentyn yn ddiogel yn yr ysgol.

12

Mae fy mhlentyn yn cael cymorth ychwanegol priodol mewn perthynas ag unrhyw anghenion unigol.

13 Rwy’n cael gwybodaeth dda am gynnydd fy mhlentyn.

14

Rwy’n teimlo’n gyfforddus ynglŷn â mynd at yr ysgol gyda chwestiynau, awgrymiadau neu broblem.

62

15 Rwy’n deall gweithdrefn yr ysgol ar gyfer delio â chwynion.

16

Mae’r ysgol yn helpu fy mhlentyn i ddod yn fwy aeddfed, cymryd cyfrifoldeb a dod yn annibynnol.

17

Mae fy mhlentyn yn cael ei baratoi/ei pharatoi’n dda ar gyfer symud ymlaen i’r ysgol nesaf, i’r coleg, i waith neu ddarpariaeth arbenigol arall.

18 Mae ystod dda o weithgareddau, gan gynnwys teithiau neu ymweliadau.

19 Mae’r ysgol yn cael ei rhedeg yn dda.

63

Atodiad 6: Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae barn disgyblion a rhanddeiliaid eraill yn ffynonellau tystiolaeth ar gyfer pob cwestiwn allweddol.

Rhaid i arolygwyr sicrhau bod yr arfarniad o’r deg dangosydd ansawdd yn cynnwys cyflawniadau, agweddau a lles pob dysgwr, gan roi ystyriaeth benodol i ddeilliannau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ yn cael ei ddefnyddio i nodi disgyblion y mae eu hanghenion dysgu yn ychwanegol at anghenion mwyafrif eu cyfoedion. Mae’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ yn is-gategori o anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cael ei ddefnyddio i nodi’r dysgwyr hynny sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol fel y’u cyflwynir yn Neddf Addysg 1996 a Chod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cynnwys y rhai sydd:

ag anghenion addysgol arbennig

ag anableddau

ag anghenion meddygol

ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol a/neu anghenion iechyd meddwl

Mae dysgwyr yn fwy tebygol o fod ag ADY pan fyddant hefyd yn perthyn i grwpiau sy’n agored i niwed, gan gynnwys:

grwpiau ethnig lleiafrifol

ffoaduriaid/ceiswyr lloches

gweithwyr mudol

plant y gofelir amdanynt (PGA)

rhieni ifanc a merched ifanc beichiog

troseddwyr ifanc

oedolion, plant a theuluoedd mewn amgylchiadau anodd

disgyblion sydd mewn perygl o ddioddef bwlio homoffobig

gofalwyr ifanc

dysgwyr sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol

dysgwyr ag anghenion medrau sylfaenol

disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol

Sipsiwn a Theithwyr

64

Atodiad 7: Adrodd ar ddata perfformiad mewn ysgolion arbennig Adrodd ar ddata perfformiad mewn ysgolion arbennig Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r deilliannau? 1.1 Safonau Dylai’r prif ffocws fod ar gyflawniad yn hytrach na chyrhaeddiad. 1.1.1: canlyniadau a thueddiadau mewn perfformiad o’u cymharu â

chyfartaleddau cenedlaethol, ysgolion tebyg a chyrhaeddiad blaenorol a cymharu â chyfartaleddau cenedlaethol er mwyn nodi tueddiadau mewn

perfformiad dros dair blynedd o leiaf. Nid yw ysgolion arbennig yn cael Setiau Data Craidd Cymru Gyfan gan Lywodraeth Cymru eto. Bydd yr arolygiaeth yn cyhoeddi arweiniad pellach pan fydd y deunyddiau hyn ar gael ar gyfer ysgolion arbennig. Dylai arolygwyr ystyried a chynnig sylwadau ar ddilyniant a chyrchfannau dysgwyr yn 16 ac 19 oed lle bo’n briodol. Dylent ystyried a yw dysgwyr yn symud ymlaen i gyrsiau, profiadau dysgu pellach neu gyflogaeth sy’n briodol i’w gallu, eu diddordebau a’u perfformiad blaenorol. Ar ddiwedd y sector ôl-16, gallai arolygwyr ystyried a yw dysgwyr yn symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant priodol, cyflogaeth neu ddarpariaeth arbenigol addas. Dylid cymharu’r wybodaeth â data cenedlaethol, os yw hyn yn briodol.

Dylai arolygwyr ystyried nifer yr ymadawyr ysgol nad ydynt yn ymgymryd ag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant (NACH).

b cymharu ag ysgolion sy’n wynebu heriau tebyg

Nid oes data meincnod cenedlaethol ar gyfer ysgolion arbennig ar hyn o bryd i’w galluogi i gymharu cyrhaeddiad mewn perthynas ag asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol neu arholiadau allanol gyda chyrhaeddiad disgyblion ag anghenion tebyg mewn ysgolion tebyg.

c cymharu â chyrhaeddiad blaenorol y garfan

Dylai arolygwyr gymharu canlyniadau disgyblion ar ddiwedd pob cyfnod allweddol gyda’u cyrhaeddiad blaenorol. Dylai’r cymariaethau hyn ystyried data gwerth ychwanegol. Dylai arolygwyr olrhain cynnydd disgyblion unigol er mwyn asesu’r gwerth y mae’r ysgol wedi’i ychwanegu at y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni.

Ar gyfer disgyblion ag ADY, dylai barnau am gyflawniad ystyried eu cyflawniadau mewn perthynas â chyflawni nodau a thargedau dysgu cytûn. Bydd pwysigrwydd cymharol deilliannau dysgu penodol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig yn wahanol yn unol â natur a difrifoldeb eu hanghenion unigol. Bydd barnau’n canolbwyntio ar gynnydd disgyblion.

65

1.1.2 perfformiad grwpiau gwahanol o ddisgyblion

Lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr adrodd ar berfformiad disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. Dylai arolygwyr hefyd ystyried cyrhaeddiad grwpiau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys perfformiad bechgyn a merched.

Dylai arolygwyr ystyried y cynnydd a wnaed gan grwpiau gwahanol o ddysgwyr, fel plant y gofelir amdanynt, y rhai sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, unrhyw ddysgwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phlant Sipsiwn a Theithwyr. Fodd bynnag, ni fydd cymharu perfformiad gwahanol grwpiau o ddisgyblion bob amser yn briodol, oherwydd y carfanau bychain.

Barn gyffredinol ar safonau

Dylid rhagdybio y bydd cysylltiad agos rhwng y safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd mewn gwersi a pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau’r cwricwlwm cenedlaethol ac arholiadau allanol. Lle nad yw hyn yn wir, dylai arolygwyr archwilio, ac os bydd angen, esbonio’n glir y rhesymau am unrhyw wrthddywediadau amlwg.