wise kids leaflet: copyright (in welsh)

1
Materion Hawlfraint Materion Hawlfraint www.wisekids.org.uk Tra gall rhaglenni rhannu ffeiliau fel BitTorrent, BearShare, FrostWire ac ati, gael eu defnyddio i rannu cynnwys cyfreithlon, maent yn aml yn cael eu defnyddio i rannu cerddoriaeth a ffilmiau sydd dan hawlfraint. Gall defnydd o'r fath eich gwneud yn agored i dderbyn cynnwys sydd ddim yn addas, firysau a chael eich erlyn yn gyfreithiol. Mae hyn yn bod oherwydd gall unrhyw un uwchlwytho ffeiliau i’w rhannu, gan ddefnyddio’r rhaglenni hyn, ac, mewn rhai achosion gall y ffeiliau gynnwys firysau. Gyda rhai rhaglenni rhannu ffeiliau, rydych mewn gwirionedd yn chwilio cynnwys cyfrifiaduron rhanwyr eraill! Mae gwrando ar gerddoriaeth a gwylio fideos ar-lein gan ddefnyddio Spotify ac YouTube yn wych! Gallwch hefyd brynu a lawrlwytho cerddoriaeth o Amazon, iTunes a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, mae yna rai pobl o hyd hoffai lawrlwytho’u ffeiliau cerddoriaeth a ffilmiau am ddim, a rhaglenni cyfrifiadur hefyd, mewn rhai achosion! Mae gan hyn nifer o ganlyniadau, a dyma rai pwyntiau allweddol i chi eu cadw mewn cof: Gofalwch bob amser gydnabod ffynhonnell eich gwybodaeth, hyd yn oed os cawsoch yr wybodaeth oddi ar wefan. Mae yna lawer o fyfyrwyr sydd ddim yn gwneud hyn, ac yn mynd i drwbwl! Yn gyffredinol, mae’r deunydd sydd ar gael ar- lein dan hawlfraint yn awtomatig oni bai ei fod yn dweud yn wahanol Os ydych yn gallu creu cerddoriaeth, fideo neu gynnwys arall, ac am gael trwydded i’ch gwaith am ddim, tra’n caniatáu iddo gael ei rannu, gallwch ddefnyddio trwydded Creative Commons – fel y ddogfen hon! Sefydliad wedi’i leoli yn UDA yw Creative Commons: http://www.creativecommons.org sy’n amcanu at helpu pobl i drwyddedu a rhannu eu cynnwys yn hawdd, tra’n cadw hawliau priodol. Felly hefyd, os ydych yn chwilio am luniau, fideos a cherddoriaeth ar gyfer eich gwaith cartref neu’ch prosiectau sy’n gyfreithlon i’w defnyddio, edrychwch ar wefan Creative Commons: http://search.creativecommons.org Pe byddech am wrando ar gerddoriaeth ar-lein am ddim, mae safleoedd fel: http://www.youtube.com, http://www.spotify.com, http://www.deezer.com a http://www.we7.com yn wych! Bydd rhai o’r safleoedd hyn hefyd yn gadael i chi lunio rhestrau chwarae o’ch hoff ganeuon a’ch fideos cerddoriaeth Mae lawrlwytho a rhannu cerddoriaeth, ffilmiau, rhaglenni a chynnwys sydd dan hawlfraint yn anghyfreithlon yn y DU. Mae llawer o bobl yn dadlau ynglŷn â hyn a hawliau digidol eraill. Yn y DU, mae’r Diwydiant Pornograffi Prydeinig wedi erlyn unigolion am rannu cerddoriaeth dan hawlfraint gan ddefnyddio rhaglenni fel Limewire. I ddysgu mwy am y materion hyn, gweler: https://www.eff.org a http://www.pro-music.org Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

Upload: wise-kids

Post on 14-Jul-2015

50 views

Category:

Education


9 download

TRANSCRIPT

Page 1: WISE KIDS Leaflet: Copyright (In Welsh)

Materion HawlfraintMaterion Hawlfraint

www.wisekids.org.uk

• Tra gall rhaglenni rhannu ffeiliau fel BitTorrent, BearShare, FrostWire ac ati, gael eu defnyddio i rannu cynnwys cyfreithlon, maent yn aml yn cael eu defnyddio i rannu cerddoriaeth a ffilmiau sydd dan hawlfraint. Gall defnydd o'r fath eich gwneud yn agored i dderbyn cynnwys sydd ddim yn addas, firysau a chael eich erlyn yn gyfreithiol. Mae hyn yn bod oherwydd gall unrhyw un uwchlwytho ffeiliau i’w rhannu, gan ddefnyddio’r rhaglenni hyn, ac, mewn rhai achosion gall y ffeiliau gynnwys firysau. Gyda rhai rhaglenni rhannu ffeiliau, rydych mewn gwirionedd yn chwilio cynnwys cyfrifiaduron rhanwyr eraill!

Mae gwrando ar gerddoriaeth a gwylio fideos ar-lein gan ddefnyddio Spotify ac YouTube yn wych! Gallwch hefyd brynu a lawrlwytho cerddoriaeth o Amazon, iTunes a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, mae yna rai pobl o hyd hoffai lawrlwytho’u ffeiliau cerddoriaeth a ffilmiau am ddim, a rhaglenni cyfrifiadur hefyd, mewn rhai achosion! Mae gan hyn nifer o ganlyniadau, a dyma rai pwyntiau allweddol i chi eu cadw mewn cof:

• Gofalwch bob amser gydnabod ffynhonnell eich gwybodaeth, hyd yn oed os cawsoch yr wybodaeth oddi ar wefan. Mae yna lawer o fyfyrwyr sydd ddim yn gwneud hyn, ac yn mynd i drwbwl! Yn gyffredinol, mae’r deunydd sydd ar gael ar- lein dan hawlfraint yn awtomatig oni bai ei fod yn dweud yn wahanol

• Os ydych yn gallu creu cerddoriaeth, fideo neu gynnwys arall, ac am gael trwydded i’ch gwaith am ddim, tra’n caniatáu iddo gael ei rannu, gallwch ddefnyddio trwydded Creative Commons – fel y ddogfen hon! Sefydliad wedi’i leoli yn UDA yw Creative Commons: http://www.creativecommons.org sy’n amcanu at helpu pobl i drwyddedu a rhannu eu cynnwys yn hawdd, tra’n cadw hawliau priodol. Felly hefyd, os ydych yn chwilio am luniau, fideos a cherddoriaeth ar gyfer eich gwaith cartref neu’ch prosiectau sy’n gyfreithlon i’w defnyddio, edrychwch ar wefan Creative Commons: http://search.creativecommons.org

• Pe byddech am wrando ar gerddoriaeth ar-lein am ddim, mae safleoedd fel: http://www.youtube.com, http://www.spotify.com, http://www.deezer.com a http://www.we7.com yn wych! Bydd rhai o’r safleoedd hyn hefyd yn gadael i chi lunio rhestrau chwarae o’ch hoff ganeuon a’ch fideos cerddoriaeth

• Mae lawrlwytho a rhannu cerddoriaeth, ffilmiau, rhaglenni a chynnwys sydd dan hawlfraint yn anghyfreithlon yn y DU. Mae llawer o bobl yn dadlau ynglŷn â hyn a hawliau digidol eraill. Yn y DU, mae’r Diwydiant Pornograffi Prydeinig wedi erlyn unigolion am rannu cerddoriaeth dan hawlfraint gan ddefnyddio rhaglenni fel Limewire. I ddysgu mwy am y materion hyn, gweler: https://www.eff.org a http://www.pro-music.org

Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB