wise kids leaflet: smart phones, social networks, messenger, chat and location services (in welsh)

1
Ffonau Smart, Rhwydweithiau Cymdeithasol, Messenger, Sgwrsio a Gwasanaethau Lleoli Ffonau Smart, Rhwydweithiau Cymdeithasol, Messenger, Sgwrsio a Gwasanaethau Lleoli www.wisekids.org.uk Ystyriwch o ddifri beth ydych chi’n ei rannu ar eich proffil, ac ychwanegwch ffrindiau yr ydych yn eu nabod mewn bywyd go iawn yn unig. Addaswch eich gosodiadau preifatrwydd a rhannwch eich postiau, lluniau a chysylltiadau eraill gyda ffrindiau yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw yn unig. Mae’n hawdd camddeall sgyrsiau ar-lein, felly byddwch yn gwrtais ar-lein Mae apps rhannu lleoliad fel Foursquare yn caniatáu i chi ‘siecio i mewn’ a rhannu eich lleoliad. Meddyliwch yn ofalus cyn galluogi i hyn ddigwydd, a gwnewch yn siŵr mai dim ond ffrindiau/teulu sydd â mynediad at yr wybodaeth hon. Gallwch wneud hyn drwy addasu eich gosodiadau preifatrwydd yn yr apps/ y rhaglenni a ddefnyddiwch Os byddwch yn derbyn ceisiadau, negeseuon cas neu amhriodol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyffyrddus, blociwch yr anfonwr, a dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Argraffwch gopi o’r negeseuon hyn fel tystiolaeth. Mae’n beth da hefyd riportio hyn yn uniongyrchol i’r gwasanaeth gwefan/ ffôn symudol. Mae yna ddeddfau yn erbyn camddefnyddio cyfrifiadur, grwmio ac aflonyddu, ymhlith troseddau eraill, ac mae gennych chi’r hawl i deimlo’n gwbl ddiogel Peidiwch fyth â mynd i gwrdd â ffrind Rhyngrwyd ar eich pen eich hun. Ewch ag oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo gyda chi, a chwrdd mewn man cyhoeddus Mae Gwasanaethau Rhwydweithio Cymdeithasol fel Gweplyfr, Bebo, Trydar, Pinterest, Foursquare, Messenger WindowsLive, Messenger BlackBerry (BBM), Skype, Whatsapp a Viber yn wych i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu! Mae gan y rhan fwyaf o’r rhain oedran lleiaf cyn y gallwch ymuno - 13 ar gyfer Gweplyfr! Unwaith y mae gennych gyfrif gallwch gael mynediad at y gwasanaethau hyn ar ystod o ddyfeisiadau yn cynnwys yr iPad, Xbox, Nintendo DS a ffonau smart! Dyma rai cynghorion i’w cadw mewn cof: Defnyddiwch god pin ar eich ffôn symudol a switshiwch Bluetooth i ffwrdd neu ‘cuddiwch’ ef pan nad ydych yn ei ddefnyddio, er mwyn cyfyngu ar gamddefnydd gan eraill. Mae rhoi enw unigryw i’ch ffôn fel nad oes bosib adnabod y model na’r perchennog hefyd yn syniad da! Os ydych wedi bod yn derbyn negeseuon testun premiwm sy’n defnyddio eich credyd, gallwch rwystro hyn trwy decstio’r gair STOP i’r gwasanaeth hwnnw. Am fwy o wybodaeth, gweler: http://www.phonepayplus.org.uk Gofalwch allgofnodi bob amser ar ôl defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau uchod (neu debyg) i rwystro eraill rhag defnyddio eich hunaniaeth Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB

Upload: wise-kids

Post on 14-Jul-2015

44 views

Category:

Education


5 download

TRANSCRIPT

Page 1: WISE KIDS Leaflet: Smart Phones, Social Networks, Messenger, Chat and Location Services (in Welsh)

Ffonau Smart, Rhwydweithiau Cymdeithasol, Messenger, Sgwrsio a Gwasanaethau Lleoli

Ffonau Smart, Rhwydweithiau Cymdeithasol, Messenger, Sgwrsio a Gwasanaethau Lleoli

www.wisekids.org.uk

• Ystyriwch o ddifri beth ydych chi’n ei rannu ar eich proffil, ac ychwanegwch ffrindiau yr ydych yn eu nabod mewn bywyd go iawn yn unig. Addaswch eich gosodiadau preifatrwydd a rhannwch eich postiau, lluniau a chysylltiadau eraill gyda ffrindiau yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw yn unig. Mae’n hawdd camddeall sgyrsiau ar-lein, felly byddwch yn gwrtais ar-lein

• Mae apps rhannu lleoliad fel Foursquare yn caniatáu i chi ‘siecio i mewn’ a rhannu eich lleoliad. Meddyliwch yn ofalus cyn galluogi i hyn ddigwydd, a gwnewch yn siŵr mai dim ond ffrindiau/teulu sydd â mynediad at yr wybodaeth hon. Gallwch wneud hyn drwy addasu eich gosodiadau preifatrwydd yn yr apps/ y rhaglenni a ddefnyddiwch

• Os byddwch yn derbyn ceisiadau, negeseuon cas neu amhriodol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyffyrddus, blociwch yr anfonwr, a dywedwch wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo. Argraffwch gopi o’r negeseuon hyn fel tystiolaeth. Mae’n beth da hefyd riportio hyn yn uniongyrchol i’r gwasanaeth gwefan/ ffôn symudol. Mae yna ddeddfau yn erbyn camddefnyddio cyfrifiadur, grwmio ac aflonyddu, ymhlith troseddau eraill, ac mae gennych chi’r hawl i deimlo’n gwbl ddiogel

• Peidiwch fyth â mynd i gwrdd â ffrind Rhyngrwyd ar eich pen eich hun. Ewch ag oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo gyda chi, a chwrdd mewn man cyhoeddus

Mae Gwasanaethau Rhwydweithio Cymdeithasol fel Gweplyfr, Bebo, Trydar, Pinterest, Foursquare, Messenger WindowsLive, Messenger BlackBerry (BBM), Skype, Whatsapp a Viber yn wych i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu! Mae gan y rhan fwyaf o’r rhain oedran lleiaf cyn y gallwch ymuno - 13 ar gyfer Gweplyfr! Unwaith y mae gennych gyfrif gallwch gael mynediad at y gwasanaethau hyn ar ystod o ddyfeisiadau yn cynnwys yr iPad, Xbox, Nintendo DS a ffonau smart! Dyma rai cynghorion i’w cadw mewn cof:

• Defnyddiwch god pin ar eich ffôn symudol a switshiwch Bluetooth i ffwrdd neu ‘cuddiwch’ ef pan nad ydych yn ei ddefnyddio, er mwyn cyfyngu ar gamddefnydd gan eraill. Mae rhoi enw unigryw i’ch ffôn fel nad oes bosib adnabod y model na’r perchennog hefyd yn syniad da! Os ydych wedi bod yn derbyn negeseuon testun premiwm sy’n defnyddio eich credyd, gallwch rwystro hyn trwy decstio’r gair STOP i’r gwasanaeth hwnnw. Am fwy o wybodaeth, gweler: http://www.phonepayplus.org.uk

• Gofalwch allgofnodi bob amser ar ôl defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau uchod (neu debyg) i rwystro eraill rhag defnyddio eich hunaniaeth

Hawlfraint © 2012 WISE KIDS. Trwydded Creative Commons: CC BY-NC-ND 3.0http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/deed.en_GB