torri coed: cael caniatâd · torri coed cael caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. torri coed am...

14
Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

Upload: others

Post on 07-Sep-2020

21 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

Torri Coed:Cael Caniatâd

cyfoethnaturiol.cymru

Page 2: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

1. CyflwyniadPam ein bod ni’n cyhoeddi

trwyddedau cwympo coed a phwy sydd angen trwydded?

Gweler Tudalen 3

2. EsemptiadauGwiriwch yn gyntaf i weld pa un ai a yw esemptiad trwydded cwympo

coed yn gymwys

Gweler Tudalen 4

4. Rheolaethau eraillYdych chi angen caniatâd gan

awdurdod lleol neu gorff statudol arall hefyd?

Gweler Tudalen 7

5. Gwneud cais am drwydded cwympo coed

Sut i wneud cais am drwydded cwympo coed oddi wrth CNC, a’r cosbau am gwympo coed

heb drwydded

Gweler Tudalen 10

Mae’r diagram hwn yn dangos prif adrannau’r llyfryn a gellir ei ddefnyddio i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i’r adran rydych chi ei hangen

3. Yr AmgylcheddOes ystyriaeth amgylcheddol

benodol i’ch cynigion?

Gweler Tudalen 5

Page 3: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

3cyfoethnaturiol.cymru

CyflwyniadCyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff a noddir gan Lywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am drwyddedu torri coed yng Nghymru. Rydym yn gwarchod coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru trwy reoli torri coed, a byddwn yn annog arferion da mewn perthynas â choedwigaeth trwy osod safonau, rhoi cyngor a darparu gwybodaeth.

Mae torri coed yn cael ei reoli oherwydd y gwerth mae cymdeithas yn ei roi ar goed a gorchudd coed. Rydym yn cyhoeddi trwyddedau torri coed lle bo angen fel bod y gwaith torri yn gyfreithiol, yn cael ei wneud yn unol â’r safonau a osodir yn Safon Coedwigaeth y DU, ac fel ei fod yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru sy’n hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a lles pobl Cymru.

Bydd y llyfryn hwn yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wybod am gael caniatâd i dorri unrhyw goed, i chi eich hun neu i rywun arall. Arweiniad yn unig yw hwn. Os ydych yn ansicr a oes angen trwydded arnoch, yna edrychwch ar ein gwefan cyfoethnaturiol.cymru neu i gael arweiniad pellach cyn i chi ddechrau torri gallwch anfon e-bost atom ni ar [email protected] cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeriaid ar 0300 065 3000.

Mae’n debygol y bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni os ydych yn dymuno torri coed sy’n tyfu (yn ‘tyfu’ yw’r term a ddefnyddir yn y Ddeddf Coedwigaeth 1967). Byddwn fel arfer yn rhoi hyn i chi drwy drwydded torri, ond mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen caniatâd pellach arnoch chi, gan gynnwys caniatâd gan awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill; ceir manylion am y rhain yn y llyfryn hwn (gweler adrannau 3 a 4). Mae hyn yn berthnasol weithiau, hyd yn oed os nad oes angen trwydded torri coed arnoch.

Rhaid i bawb sy’n ymwneud â thorri coed, p’un ai a ydyn nhw’n gwneud y gwaith eu hunain neu’n cyflogi eraill - er enghraifft, os mai chi yw’r perchennog, asiant, masnachwr coed neu gontractwr - sicrhau bod trwydded torri coed neu ganiatâd torri arall wedi ei roi cyn bod unrhyw waith torri yn digwydd, neu fod un o’r eithriadau yn berthnasol. Rhaid iddyn nhw sicrhau hefyd bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â thelerau unrhyw ganiatâd arall gan CNC, neu gan awdurdod lleol neu gorff statudol arall.

Os nad oes trwydded neu ganiatâd torri arall yn ei le, neu os yw’r coed anghywir yn cael eu torri, a’i bod yn ymddangos y dylech fod wedi cael trwydded neu ganiatâd arall, yna gellir erlyn unrhyw un sy’n gyfrannog. Peidiwch â dechrau torri coed hyd nes ein bod wedi cyhoeddi trwydded neu ganiatâd arall sy’n ofynnol.

Mae unrhyw dorri coed a wneir heb drwydded neu ganiatâd cwympo arall yn drosedd, oni bai ei fod dan eithriad.

a. Trwyddedau torri coed

1.

Page 4: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

4 Torri Coed: Cael Caniatâd

Eithriadau i’r angen am drwydded torri coedMewn unrhyw chwarter calendr gallwch dorri hyd at 5 metr ciwbig heb drwydded cyn belled nad oes mwy na 2 fetr ciwbig yn cael eu gwerthu. Diffinnir chwarter calendr fel 1 Ionawr i 31 Mawrth, 1 Ebrill i 30 Mehefin, 1 Gorffennaf i 30 Medi, a 1 Hydref i 31 Rhagfyr. Dylech gadw tystiolaeth os ydych yn torri mwy na 5 metr ciwbig dros chwarteri calendr olynol. Efallai y bydd y cyfrifiannell cyfaint pren ar forestry.gov.uk yn ddefnyddiol os ydych yn ansicr sut i fesur 5 metr ciwbig.

Efallai y byddwch yn cyflawni trosedd ar wahân dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 os ydych yn clirio ardal o goetir dros gyfnod o amser, a hynny heb ganiatâd. Disgwylir fel arfer i goetiroedd gael eu hailstocio ar ôl llwyrgwympo (gweler adran 3d).

Nid oes angen caniatâd gan CNC yn achos rhai mathau o dorri. Mae Deddf Coedwigaeth 1967 a’r rheoliadau cysylltiedig (gweler y rhestr ar dudalen 9), yn nodi’r eithriadau hyn yn llawn.

Rhestrir y prif gategorïau o eithriad isod:

a. Brigdocio a brigdorri, fel tocio, brigdocio, codi coron a lleihau coron, ond gweler hefyd adran 4 Rheolaethau Eraill ar Dorri Coed

b. Torri coed ffrwythau, neu goed sy’n tyfu mewn gardd, perllan, mynwent neu fan agored cyhoeddus megis tir sydd wedi’i osod allan fel gardd gyhoeddus

c. Torri coed sydd, pan fyddan nhw’n cael eu mesur ar uchder o 1.3 metr o’r ddaear:

i. â diamedr o 8 centimetr neu lai ii. os wedi’u teneuo, â diamedr o 10 centimetr neu lai iii. os yw’n goedlan ar hyn o bryd (h.y. wedi’i rheoli’n flaenorol drwy

dorri i hyrwyddo twf lluos-goesynnau sy’n codi ar neu’n agos at lefel y ddaear) neu isdyfiant, â diamedr o 15 centimetr neu lai

d. Torri coed sydd eu hangen ar unwaith er mwyn cyflawni datblygiad a awdurdodwyd gan ganiatâd cynllunio

e. Gwaith a wnaed gan rai darparwyr gwasanaethau nwy, trydan a dwr ac sy’n hanfodol ar gyfer darparu’r gwasanaethau hyn

2.

Page 5: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

5Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

3.

f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad hwn ond yn berthnasol os oes perygl go iawn yn hytrach na pherygl rhagweledig, neu niwsans fel y’i cydnabyddir yn y gyfraith. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y coed yn achosi perygl, er enghraifft drwy adroddiad arbenigwr coed achrededig neu dystiolaeth ffotograffig. Nid yw coeden afiach o reidrwydd yn beryglus (gweler adran 4e). Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â ni os ydych yn ystyried torri coeden neu goed sy’n beryglus yn eich barn chi. Efallai y byddwn yn gallu rhoi cynghori chi fyddai’n lleihau’r perygl heb unrhyw dorri coed. Gallwch gael eich erlyn am dorri coed yn anghyfreithlon os dangosir nad oedd y goeden neu’r coed yn cyflwyno perygl gwirioneddol neu uniongyrchol neu nad oeddent yn cyflwyno niwsans fel y’i cydnabyddir yn y gyfraith

g. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal lledaenu pla neu bathogen cwarantîn, pan wneir hynny yn unol â’r Rhybudd Statudol Iechyd Planhigion (SPHN) a wasanaethir gan CNC

h. Torri yn cael ei wneud yn unol ag unrhyw rwymedigaeth a osodir gan neu dan Ddeddf Seneddol, e.e. hysbysiad a gyflwynir gan awdurdod priffyrdd

Cysylltwch â CNC os nad ydych yn sicr a yw’r eithriadau hyn yn berthnasol.

Deddfwriaeth ac ystyriaethau amgylcheddolMae rhai rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid wedi dirywio ledled Ewrop i’r fath raddau fel eu bod bellach yn cael gwarchodaeth arbennig dan y gyfraith. Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn rhestru rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a warchodir, gyda lefelau gwahanol o warchodaeth yn ôl eu hanghenion; mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 yn rhestru rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid a warchodir (cyfeirir atynt fel ‘rhywogaethau Ewropeaidd a warchodir’); ac mae Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhestru rhywogaethau a chynefinoedd uchaf eu blaenoriaeth sydd dan y bygythiad mwyaf ac yn gofyn am gamau cadwraeth.

Mae angen i chi gymryd camau rhesymol i chwilio am bresenoldeb rhywogaethau gwarchodedig ac i asesu a all y rhain gael eu heffeithio gan eich gweithrediadau arfaethedig. Mae angen sylw arbennig gyda golwg ar adar ac ystlumod a allai fod yn nythu neu’n clwydo yn y coed rydych yn bwriadu eu torri, yn ogystal â mamaliaid preswyl fel pathewod a moch daear. Gall cyfraith bywyd gwyllt fod yn gymhleth, ac er nad yw bob amser yn anghyfreithlon torri pan fydd yr anifeiliaid hyn yn bresennol neu yn ystod y tymor nythu, mae’r gyfraith yn mynnu bod rhagofalon yn cael eu cymryd. Efallai y bydd angen i chi geisio cyngor proffesiynol pellach ac mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi gynnwys datganiad dull gyda’ch cynigion torri coed. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen trwydded rhywogaeth ar wahân hefyd.

a. Diogelu bywyd gwyllt

Page 6: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

6 Torri Coed: Cael Caniatâd

Mae rhai ardaloedd o dir a moroedd yn ‘ddynodedig’, sy’n golygu bod ganddynt statws arbennig fel ardaloedd gwarchodedig oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol. Mae enghreifftiau o safleoedd dynodedig yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a safleoedd Ramsar. Os bydd eich gweithrediadau coedwigaeth arfaethedig yn digwydd mewn coetir o fewn safle dynodedig, neu os gall effeithio ar safle ACA, AGA neu Ramsar, er bod y coetir ei hun y tu allan i’r safle, yna bydd angen asesiad pellach a byddwn yn trafod hyn gyda chi.

Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw waith a allai effeithio ar SoDdGA, yna dylech ddweud wrthym am hyn yn eich cais fel y gall unrhyw effeithiau tebygol gael eu hasesu. Byddwn yn ymgynghori yn fewnol fel rhan o’r broses ymgeisio ac yn cysylltu â chi yn ôl yr angen. Os nad ydych yn dweud wrthym am y SoDdGA ac nid yw hyn yn cael ei nodi yn eich cais, yna ni fydd eich trwydded torri coed yn cwmpasu’r agwedd hon ar eich gwaith ac efallai y byddwch yn cyflawni trosedd.

Mae rhagor o wybodaeth am safleoedd dynodedig yng Nghymru ar gael o naturalresources.wales/guidance-and-advice Os ydych yn meddwl y gallai eich gweithrediadau arfaethedig effeithio ar safle dynodedig, ond nad ydych yn siwr am hynny, yna cysylltwch â ni i drafod ymhellach, os gwelwch yn dda.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi i ni’r pwer i lunio cytundebau rheoli tir gyda pherson sydd â buddiant yn y tir. Gellir defnyddio’r cytundebau hyn i bennu amodau cytundebol i unrhyw dorri coed sydd wedi’i gymeradwyo ochr yn ochr ag amodau’r drwydded torri coed safonol (i ailstocio’r ardal gyda choed ac i gynnal y rhain am 10 mlynedd). Bydd amodau ychwanegol yn fwyaf tebygol o gael eu hystyried lle mae angen gwarchod nodwedd sydd o ddiddordeb ac sydd wedi’i nodi mewn Ardal Cadwraeth Arbennig, mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig neu safle Ramsar, ond gellir eu defnyddio hefyd gael i bennu amodau cadwraeth natur a gytunwyd, amodau tirwedd neu amodau amgylcheddol i helpu gweithredu’r ddyletswydd bioamrywiaeth a ofynwyd gan y Ddeddf.

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a choed, sef Coetiroedd Coetiroedd i Gymru, yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cael gwared ar goetir a cholli gorchudd fforest yng Nghymru. Felly, byddwn fel arfer yn gosod amodau ynghlwm wrth bob trwydded i lwyrgwympo er mwyn sicrhau ailstocio a dylech esbonio sut rydych yn bwriadu ailstocio’r unrhyw ardaloedd y byddwch yn eu llwyrgwympo. Byddwn yn asesu eich cynigion ailstocio yn erbyn Safon Coedwigaeth y DU ac yn trafod y rhain gyda chi cyn i’ch trwydded gael ei chyhoeddi. Os ydych yn bwriadu llwyrgwympo ac nid ailstocio’r ardal, yna byddwn yn ystyried yr agwedd hon ar eich cais dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999.

c. Amodau ychwanegol

d. Ailstocio ar ôl torri

b. Safleoedd dynodedig

Page 7: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

7Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

Byddwn yn asesu a yw eich cais yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) 1999. Os felly, yna mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bellach am eich cynigion ymlaen llaw er mwyn galluogi’r rhain i gael eu hystyried.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth naturalresources.wales/permits-and-permissions/tree-felling-and-other-regulations

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coetiroedd a choed, sef Coetiroedd i Gymru, yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cael gwared ar goetir, ac ni fyddwn fel rheol yn cytuno i glirio coetir ar gyfer defnydd amaethyddol neu ar gyfer datblygu. Os ydych yn dymuno clirio tir ar gyfer amaethyddiaeth, yna efallai y byddwn yn gofyn i’r adran yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am amaethyddiaeth i asesu’r cyfraniad y byddai’r tir ychwanegol yn ei wneud i economi eich daliad amaethyddol cyn gwneud ein penderfyniad. Byddwn yn cysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â phob achos o ddatblygu arfaethedig.

Rheolaethau eraill ar dorri coedMae yna nifer o reolaethau eraill ar dorri coed y gallai fod angen i chi eu hystyried. Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded torri coed rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn ystyried yr holl ddeddfwriaethau eraill. Rydym yn tynnu eich sylw at yr enghreifftiau canlynol sy’n ymdrin yn bennaf â’r angen i gael caniatâd i dorri coed:

Mae Gorchmynion Cadw Coed (GCC) ac ardaloedd cadwraeth yn cael eu dynodi gan yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl), cyngor lleol fel arfer, er mwyn gwarchod coed a choetiroedd penodol rhag difrod bwriadol a dinistr. Os ydych yn dymuno torri coeden neu goed sy’n cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed neu sydd mewn ardal gadwraeth ac nad yw esemptiad rhag torri o adran 2 yn gymwys, yna bydd angen trwydded torri coed arnoch oddi wrth CNC.

Os bydd eithriad yn berthnasol, er enghraifft oherwydd eich bod yn gwneud gwaith ar goeden gardd, yna ni fydd angen trwydded torri coed arnoch oddi wrth CNC. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd dal angen caniatâd yr ACLl arnoch i dorri eich coeden neu goed gan fod Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn cynnwys rhestr wahanol o eithriadau. Os yw eich coeden neu goed mewn ardal gadwraeth, yna bydd angen i chi roi 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw i’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud unrhyw waith torri coed, topio, tocio neu ddadwreiddio. Dylech wirio hyn yn uniongyrchol gyda’ch Awdurdod Cynllunio Lleol.

f. Bwriad i drawsnewid i amaethyddiaeth neu dorri ar gyfer datblygu

a. Gorchmynion Cadw Coed ac Ardaloedd Cadwraeth

e. Asesu Effeithiau Amgylcheddol

4.

Page 8: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

8 Torri Coed: Cael Caniatâd

Os ydych yn gwneud cais am drwydded torri coed oddi wrth CNC, lle mae’r goeden neu’r coed yn cael eu diogelu gan Orchymyn Cadw Coed neu mewn ardal gadwraeth, yna byddwn yn ymgynghori’n uniongyrchol gyda’r ACLl ynglyn â’ch cais. Os byddwch yn anghofio dweud wrthym fod Gorchymyn Cadw Coed yn bod, ac nad yw’r ffaith hon yn cael ei chodi naill ai gennym ni ein hunain drwy ein proses wirio cyfyngiadau neu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy unrhyw ymgynghoriad y gallant ei wneud mewn perthynas â’n cofrestr gyhoeddus, yna ni fydd unrhyw drwydded torri coed a gyhoeddir gennym yn cynnwys torri’r coed sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed ac efallai y byddwch yn cyflawni trosedd drwy eu cwympo.

Mae gwybodaeth bellach am Orchmynion Cadw Coed a choed mewn ardaloedd cadwraeth ar gael yn gov.uk/guidance/tree-preservation-orders-and-trees-in-conservation-areas

Os ydych yn bwriadu torri coed gwrych, yna dylech wirio’r eithriadau torri ar adran 2 yn gyntaf. Os nad yw eich gwaith yn dod dan un o’r eithriadau hyn, yna bydd angen trwydded torri coed arnoch o CNC er mwyn i chi gyflawni’r agwedd hon ar eich gwaith. Os ydych yn bwriadu cael gwared ar eich gwrych, yna mae’n ofynnol i chi dan Reoliadau Gwrychoedd 1997 i ymgynghori â’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) cyn gwneud hynny. Noder y gall gweithrediadau penodol ar wrychoedd arwain at dorri trawsgydymffurfio a gall arwain at osod cosb ariannol ar eich taliadau uniongyrchol. Dylech drafod hyn gyda’ch ymgynghorydd coetir Glastir os oes gennych un, a chysylltu’n uniongyrchol gyda’r ACLl yn ôl y gofyn.

Mae gwybodaeth bellach am y Rheoliadau Gwrychoedd ar gael yn legislation.gov.uk

Os ydych yn dymuno gwneud unrhyw waith a allai effeithio ar Heneb Gofrestredig yna dylech ddweud wrthym am hyn yn eich cais. Dylech hefyd ddweud wrthym os ydych chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd angen caniatâd gan Cadw cyn bod gwaith torri coed yn cael ei wneud.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt, ar gael gan cadw.gov.wales

Mae rheoliadau’n bodoli i atal lledaeniad plâu a phathogenau coed. Mae mesurau rheoli yn eu lle i gyfyngu ar symud pren a mewnforio ac allforio cynhyrchion pren a rhisgl rhai rhywogaethau penodol oni bai bod pasbort planhigion yn dod gyda nhw. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gyfrifol am reoli mewnforio o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a symud deunydd o Brydain Fawr i mewn i’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys darparu pasbortau planhigion a chofrestru masnachwyr coedwigaeth.

b. Rheoliadau gwrychoedd

c.Henebion Cofrestredig

d. Ystyriaethau o ran iechyd planhigion wrth symud pren

Page 9: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

9Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

Yn achos rhai sefyllfaoedd lle mae haint pla neu bathogen wedi cychwyn, mae’n bosibl y bydd angen caniatâd pellach arnoch i symud deunydd heintiedig, er enghraifft lle mae Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) wedi’i gyhoeddi oherwydd presenoldeb Phytophthora ramorum, pathogen sy’n effeithio ar goed llarwydd a rhywogaethau eraill o blanhigion prennaidd. Os ydych wedi cael Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol am P. ramorum, yna bydd angen i chi gael trwydded symud yn ychwanegol at eich trwydded torri coed neu SPHN er mwyn symud eich coed.

Gellir cael trwyddedau symud oddi wrth Tîm Trawsffiniol y Comisiwn Coedwigaeth (0300 067 5155).

Rydym yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o’r risgiau sy’n cael eu peri gan blâu a phathogenau, i fod yn wyliadwrus wrth wirio cyflwr eich coed a’ch coetiroedd, ac i gymryd camau cyfrifol wrth frwydro yn erbyn bygythiadau i iechyd coed. Gallwch roi gwybod am arwyddion o blâu coed a phathogenau allweddol drwy ddefnyddio’r ffurflen adrodd ar-lein yn Tree Alert: treealert.forestry.gov.uk Fel arall, gallwch roi gwybod i CNC am unrhyw achos o doriant sydd dan amheuaeth.

Mae gwybodaeth bellach am blâu a phathogenau coed a bioddiogelwch ar gael oddi wrth naturalresources.wales/guidance-and-advice

Mae Chalara clefyd gwywo coed ynn, a achosir gan y pathogen Hymenoscyphus fraxineusfraxineus, yn glefyd difrifol ymhlith coed ynn ac yn aml yn un sy’n lladd coed ynn ifanc ac mae’n gallu gwanhau coed ynn hyn yn ddifrifol dros nifer o flynyddoedd. Bydd lefelau haint dwys yn yr olaf yn debygol o arwain at ostyngiad yng nghyfanswm y dail fydd yn y goron a chynnydd mewn math o aildyfiant a elwir yn epicormics. Bydd y coed yn staenio a’r risg o ymosodiad gan bathogenau eilaidd fel ffwng mêl (rhywogaeth o’r genws Armillaria), a all ladd y coed, yn cynyddu.

Os yw eich coed yn cael eu heintio gan H. fraxineus yna bydd angen i chi ystyried diogelwch y cyhoedd a monitro eich coed, yn enwedig mewn ardaloedd â lefelau uchel o fynediad i’r cyhoedd. Mae CNC yn cyhoeddi trwyddedau torri coed er mwyn torri coed sy’n tyfu, ac nid oes unrhyw eithriad dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 o ran torri oed afiach. Os gwelwch yn dda, nodwch y camau yn adran 2f ar dudalen 3 sydd angen i chi eu hystyried os ydych yn bwriadu torri coed dan yr eithriad ar gyfer coed peryglus.

e. Cwympo coed ynn wedi’u heintio a choed afiach eraill

Page 10: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

10 Torri Coed: Cael Caniatâd

a.Pwy all wneud cais?

b.Sut i wneud cais

c. Torri coed fel rhan o gynllun Glastir Llywodraeth Cymru

d.Ystyried cais

Gwneud cais am drwydded i dorri coedGallwch wneud cais am drwydded torri coed os ydych yn berchen ar y tir lle mae’r coed yn tyfu; os ydych yn brydlesai a bod eich prydles yn rhoi’r hawl i chi i dorri’r coed; neu gallwch ddangos bod gennych hawl gyfreithiol i dorri’r coed. Gall asiant sy’n gweithredu ar ran y perchennog neu ddeiliad y brydles wneud cais i dorri’r coed, ond bydd y drwydded yn cael ei chyhoeddi yn enw’r perchennog neu brydlesai’r tir.

Gallwch gael ffurflen gais oddi naturalresources.wales/permits-and-permissions/tree-felling-and-other-regulations neu drwy gysylltu â ni yn uniongyrchol. Bydd ein ffurflen gais yn dweud wrthych beth yw’r wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i ni, gan gynnwys y safonau mapio sy’n rhaid i ni eu cael er mwyn dangos lleoliad y coed rydych yn dymuno eu torri.

Byddwn yn anelu at gyhoeddi eich trwydded torri coed cyn pen 3 mis o dderbyn cais sydd wedi’i gwblhau’n gywir. Os na fydd y cais yn gywir, neu os nad yw’r wybodaeth bellach y gofynnir amdani yn cael ei darparu, yna mae’n bosib y bydd eich cais yn cael ei ohirio ac efallai y bydd angen i ni ofyn a ydych yn cytuno i estyniad.

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith torri neu deneuo fel rhan o’ch cais cynllun Glastir, yna dylech drafod hyn gyda’ch ymgynghorydd Glastir os oes gennych un, ond dylech fod yn ymwybodol, os gwelwch yn dda, mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud cais am drwydded torri coed os oes angen un arnoch. Gellir gwneud hyn fel y disgrifir uchod, a byddwn yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ynglyn â’ch cais am drwydded torri coed. Unwaith y byddwch wedi torri eich coed mae’n ofynnol i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau ailstocio sy’n rhan o’r drwydded.

Pan fyddwn yn derbyn eich cais am drwydded torri coed byddwn yn cydnabod ei dderbyn cyn pen 3 diwrnod gwaith. Efallai y bydd angen i ni archwilio eich coed ac fel arfer byddwn yn cysylltu â chi o fewn tair wythnos i drefnu ymweliad safle os oes angen.

Oni bai bod eich cais ar gyfer teneuo yn unig, neu’n ymwneud â choed llarwydd yn bennaf, yna bydd gwybodaeth a godir o’ch cais yn cael ei rhoi ar ein cofrestr gyhoeddus. Bydd y manylion yn aros ar y gofrestr am 4 wythnos er mwyn rhoi cyfle i bobl gyflwyno sylwadau ar y cynigion. Ni allwn ddarparu trwydded hyd nes bod y cyfnod hwn wedi mynd heibio.

Efallai y byddwn hefyd yn ymgynghori’n fewnol a chyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw faterion amgylcheddol neu ddefnydd tir sy’n effeithio ar eich cynigion. Gallwch weld copi o’n cofrestr gyhoeddus ar naturalresources.wales/permits-and-permissions/tree-felling-and-other-regulations

5.

Page 11: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

11Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

Os bydd eich cais am drwydded torri coed yn cael ei wrthod ddwywaith am y cynigion sy’n ymwneud â’r un ardal a’r un gwaith (a bod o leiaf 3 blynedd wedi mynd heibio rhwng ein gwrthodiad cyntaf a’r rhai dilynol), neu os nad ydych yn cytuno â’r amodau ailstocio sydd ar eich trwydded torri coed, yna gallwch wneud cais i weinidogion Cymru am i’n penderfyniad gael ei adolygu. Gall y gweinidog ofyn am bwyllgor cyfeirio annibynnol i roi cyngor cyn penderfynu p’un ai i gadarnhau neu ddiwygio ein penderfyniad.

Fel arfer bydd trwydded torri coed yn ddilys am 2 flynedd ar gyfer trwyddedau llwyrgwympo neu 5 mlynedd am drwyddedau teneuo, ond gall hyn amrywio o achos i achos, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Os ydych yn annhebygol o gwblhau eich holl waith torri coed cyn i’ch trwydded ddod i ben, yna dylech gymryd camau i adnewyddu hon mewn da bryd. Wrth gwblhau cais am drwydded torri coed gallwch nodi pa mor hir yw’r cyfnod yr hoffech ei gael i gyflawni eich gwaith torri. Os oes angen cyfnod hwy arnoch i dorri eich coed, efallai oherwydd maint eich coetiroedd a maint eich gweithrediadau arfaethedig, yna efallai y byddwch am ystyried gwneud cais am gynllun rheoli coedwigoedd tymor hir, a fydd yn rhoi caniatâd am hyd at 10 mlynedd. Cofiwch gysylltu â ni os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, os gwelwch yn dda.

Os ydych yn gwerthu tir sydd dan drwydded torri, yna cofiwch ddweud wrthym, ynghyd â phwy yw’r perchennog newydd, os gwelwch yn dda. Dylech hefyd ddweud wrth y perchennog newydd am y drwydded ac unrhyw amodau sy’n berthnasol, p’un ai a ydych wedi gwneud y gwaith torri coed ai peidio. Os byddwch yn gwerthu’r tir ar ôl torri ond cyn i’r ailstocio ddigwydd, yna dylech roi gwybod i’r darpar brynwr am y rhwymedigaeth hon. Byddwn yn dal yn mynnu bod ailstocio’n cael ei wneud ar ôl torri’r coed, gan gynnwys unrhyw ailstocio y cytunwyd arno drwy ganiatâd cwympo a ddarparwyd drwy gynllun grant.

Mae Llywodraeth Cymru weithiau’n gallu cynnig grantiau ar gyfer ehangu, adfywio a rheoli coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru drwy ei gynllun Glastir ac efallai y bydd yn gallu cynnig cymorth gyda’r ailstocio sy’n ofynnol fel rhan o’ch trwydded torri coed.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru: gov.wales

f. a mor hir fydd eich trwydded torri coed yn para

g. Newid perchnogaeth

h.Grants for Grantiau ar gyfer ailstocio

e. Hawl i gyfeirio at weinidogion Cymru

Page 12: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

12 Torri Coed: Cael Caniatâd

Cosbau am dorri coedheb drwyddedMae’n drosedd i dorri coed trwyddedadwy heb gael trwydded neu ganiatâd dilys arall. Gall hyn olygu, ar gollfarn, dirwy o hyd at £2,500 neu ddwywaith gwerth y coed, pa un bynnag yw’r uchaf. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â thorri coed, er enghraifft, y perchennog, asiant, masnachwr coed neu gontractwr.

Os ydym yn fodlon bod y perchennog neu ddeiliad prydles wedi cyflawni trosedd, yna mae gennym y pwer i gyflwyno hysbysiad ailstocio ar gyfer y tir dan sylw er mwyn i hwnnw gael ei ail-blannu â choed. Mae gennym y pwer hefyd i erlyn y troseddwr. Mae torri coed yn anghyfreithlon yn torri trawsgydymffurfio a gall hyn arwain at osod cosb ariannol ar eich taliadau uniongyrchol. Mae ceisio marchnata coed a dorrwyd yn anghyfreithlon yn drosedd dan Reoliadau Coed a Chynhyrchion Pren (Rhoi ar y Farchnad) 2013.

Mae hysbysiadau ailblannu yn ei gwneud yn ofynnol bod y coed newydd yn cael eu cynnal a’u cadw i safon dderbyniol am hyd at 10 mlynedd. Os na fyddwch yn cydymffurfio ag amodau trwydded torri coed neu hysbysiad ailstocio yna mae gennym y pwer i gyflwyno hysbysiad gorfodi fydd yn ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd camau i gwrdd â’r amodau. Mae’n drosedd peidio ag ufuddhau rhybudd gorfodaeth a gall arwain at ddirwy anghyfyngedig.

6.

Page 13: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

13Torri Coed: Cael Caniatâd cyfoethnaturiol.cymru

Y GyfraithRhestrir y prif gyfreithiau sy’n llywodraethu ein rheolaeth ehangach mewn perthynas â thorri coed isod. Mae copïau ar gael oddi wrth legislation.gov.uk

• Deddf Coedwigaeth 1967 fel y’i diwygiwyd• Rheoliadau Coedwigaeth (Torri Coed) 1979 (SI 1979 Rhif 791) fel y’u

diwygiwyd• Rheoliadau Coedwigaeth (Eithriadau o Gyfyngu ar Dorri) 1979 (SI 1979

Rhif 792) fel y’u diwygiwyd• Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel y’i diwygiwyd• Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i diwygiwyd• Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 fel y’i diwygiwyd• Rheoliadau Gwrychoedd 1997 (SI 1997 Rhif 1160) fel y’u diwygiwyd• Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (S I 1999 Rhif 1892) fel

y’u diwygiwyd• Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a

Lloegr) 1999 (SI 1999 Rhif 2228) fel y’u diwygiwyd• Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Phytophthora ramorum)

(Prydain Fawr) 2004 (SI 2004 Rhif 3213) fel y’i diwygiwyd• Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 (OS 2005 Rhif 2517)

fel y’i diwygiwyd• Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (SI 2017

Rhif 1012)• Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru)

(SI 2004 Rhif 1656) fel y’u diwygiwyd• Rheoliadau Pren a Chynhyrchion Pren (Rhoi ar y Farchnad) 2013 (SI 2013

Rhif 233)• Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Noder, os gwelwch yn dda, nad yw’r rhestr hon yn gyflawn a bod yna nifer o ddeddfau eraill sy’n rhoi i awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill yr hawl i reoli torri coed.

Mae copïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn y llyfryn hwn ar gael fel a ganlyn:

• Safon Coedwigaeth y DU [ISBN Rhif: 978 0 85538 830 0]; ar gael ar-lein yn forestry.gov.uk/ukfs

• Coetiroedd i Gymru [Rhif ISBN: 978 0 7504 5034 8]; ar gael ar-lein yn gov.wales

7.

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw ymgyrraedd at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol yn ei holl waith. Mae hyn yn golygu gofalu am yr aer, tir, dwr, bywyd gwyllt, planhigion a’r pridd er mwyn gwella llesiant Cymru a darparu gwell dyfodol i bawb.

Page 14: Torri Coed: Cael Caniatâd · Torri Coed Cael Caniatd cyfoethnaturiol.cymru 5 3. f. Torri coed am ei fod yn angenrheidiol i atal perygl neu atal neu leihau niwsans. Bydd yr eithriad

Cyhoeddwyd gan: Cyfoeth Naturiol Cymru, Ty Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP

@NatResWales @NatResWales

Os hoffech yr wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â ni: 0300 065 3000 (Llun-Gwener 8am-5pm)[email protected]

cyfoethnaturiol.cymru© cyfoethnaturiol.cymru

Cedwir pob hawl. Ni cheir ailgynhyrchu’r ddogfen hon heb ganiatâd ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Mawrth 2019

Argraffwyd ar bapur Revive offset wedi’i ailgylchu 100%