rhwydwaith ymchwil genedlaethol sêr cymru ar gyfer carbon ...genedlaethol sêr cymru ar gyfer...

12
Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd www.nrn-lcee.ac.uk

Upload: others

Post on 25-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol

    Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel,

    Ynni a’r Amgylchedd

    www.nrn-lcee.ac.uk

  • www.nrn-lcee.ac.uk

    E-bost: [email protected]

    Ffôn: 01248 388607/ 388609/ 382088

    Twitter: @nrnlcee

  • Croeso

    Dyma olwg cyffredinol ar yr ymchwil amrywiol a gefnogir gan yr Rwydwaith Ymchwil Genedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd (NRN-LCEE). Fel yr awgryma'r teitl, mae'r maes sydd gennym i'w drafod yn eang. Ond yn gryno, yn y pen draw rydym yn cefnogi ymchwil yng Nghymru i'r ffordd orau a chynaliadwy o reoli adnoddau naturiol, a darparu bwyd ac ynni mewn hinsawdd sy'n newid ac i boblogaeth sy'n cynyddu ar yr un pryd. Mae ein hamcanion yn glir iawn:

    - Cefnogi a hyrwyddo gwyddoniaeth ragorol yng Nghymru sy'n gystadleuol yn rhyngwladol.

    - Meithrin mwy o gydweithio rhwng ymchwilwyr yng Nghymru. - Sefydlu sail newydd i gynnydd cynaliadwy mewn arian ymchwil i Gymru. - Annog ymchwilwyr sydd â record ardderchog i sefydlu eu hunain yng

    Nghymru. Er mwyn cyflawni'r amcanion uchelgeisiol hyn, rydym wedi creu 8 clwstwr ymchwil i arwain ymchwil i'r pedair prif thema ganlynol ar gyfer y Rhwydwaith:

    1. Dwysáu mewn modd cynaliadwy 2. Llwybrau ynni carbon isel 3. Datblygu’r fio-economi – modelu cymdeithasol, economaidd a

    thechnolegol 4. Effaith newid hinsawdd a gweithgaredd dynol a sut gellir eu lliniaru

    Rwy’n hyderus y byddwch yn mwynhau'r cyflwyniad byr hwn i'n Clystyrau.

    Yr Athro David Thomas Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd Cyswllt: [email protected]

  • AQUAWALES: Minimising the Impacts of Intensive Aquaculture in the face of Climate Change

    Prifysgol Abertawe; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Caerdydd; Adnoddau Naturiol Cymru; Awdurdod Harbwr Caerdydd; FishGen; Natural Aptitude; Research Centre in Biodiversity and Genetic Resources; Sefydliad Gwy ac Wysg; Pontus Aqua; SkillFish

    Mae galw byd-eang am bysgod a physgod cregyn wedi codi 9% y flwyddyn dros y degawdau diwethaf, gyda phwysigrwydd ffermio pysgod yn parhau i gynyddu. Mae pysgodfeydd yng Nghymru yn cyfrannu tua £30miliwn y flwyddyn at economïau gwledig ac arfordirol, ac mae Llywodraeth Cymru yn anelu at ddyblu dyframaeth erbyn 2020. Ond er mwyn sicrhau cynaliadwyedd tymor hir a chyflawni gofynion diogelwch bwyd, mae'n rhaid i ddyframaeth arallgyfeirio a chynyddu dulliau magu rhywogaethau dyfrol, a fydd yn gorfod ffynnu ar lai o fwyd, llai o le a llai o ddŵr, a'r rhain oll wedi eu cymhlethu gan dymheredd cynhesach. Felly, y prif heriau a wynebir gan ddyframaeth dwys yw 1) lleihau ei ôl troed ecolegol, 2) lleihau'r risg o drosglwyddo clefydau a 3) rheoli cyflwyno rhywogaethau goresgynnol yn esgeulus. Mae AQUAWALES yn defnyddio arbenigedd cyfranogwyr academaidd a rhai nad ydynt yn academyddion, gan gynnwys rhanddeiliaid ac aelodau llywodraeth leol, a bydd yn targedu'r heriau hyn drwy gyfuno tri agwedd holl bwysig sy'n gysylltiedig â dyframaeth cynaliadwy: 1) dulliau magu, 2) gwrthsefyll clefydau a 3) cyflwyno rhywogaethau dyfrol goresgynnol. Drwy ddefnyddio dull amlddisgyblaethol o bontio - am y tro cyntaf - elfennau geneteg ac amgylcheddol (epigeneteg) pysgod sy'n cael eu magu, byddwn yn ystyried effeithiau genetig ac effeithiau nad ydynt yn rhai genetig ar fagu pysgod ac ymateb i orlenwi. Byddwn yn defnyddio dulliau o'r radd flaenaf i ymchwilio i effeithiau posib newid yn yr hinsawdd ar y risg o rywogaethau dyfrol anfrodorol sy'n gysylltiedig â dyframaethu a physgodfeydd.

    Arweinydd Clwstwr: Dr. Sonia Consuegra Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/aquawales

  • CLEANER COWS: Consequential Life Cycle Assessment of Environmental & Economic Effects of Dairy and Beef

    Consolidation and Intensification Pathways Prifysgol Bangor; Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Caerdydd;

    DairyCo; Farm Business Survey; HPC Cymru

    Mae cynhyrchu llefrith a bîff yn cyfrannu'n sylweddol at niweidio'r ecosystem drwy allyriannau nwyon tŷ gwydr, colli maetholion, allyriadau amonia, a disbyddu adnoddau cyfyngedig. Mae ffermydd llaeth Prydain yn system wych i astudio dwysáu cynaliadwy, oherwydd tueddiad parhaus o gyfuno a dwysáu (C&I). Mae i hyn oblygiadau ar gyfer effeithlonrwydd amgylcheddol systemau cynhyrchu bîff cysylltiedig, ac ar gyfer newid anuniongyrchol yn nefnydd y tir (iLUC) drwy gynhyrchu bwyd. Bydd CLEANER COWS yn defnyddio Asesiad Cylch Bywyd Canlyniadol (CLCA), modelu economaidd ac amgylcheddol i ganfod effeithiau ehangach cynhyrchu bîff ac iLUC ar wahanol raddfeydd. Bydd y Clwstwr yn datblygu fframwaith gwirioneddol rhyngddisgyblaethol a rhagorol yn wyddonol, gan ddefnyddio arbenigedd mewn LCA a modelu rheoli ffermydd, magu anifeiliaid, modelu economaidd, a data manwl ar fframwaith a thueddiadau ffermydd presennol. Gan alluogi adborth rhwng LCA, rheolwyr ffermydd ac elfennau economaidd, byddwn yn cymharu effeithlonrwydd adnoddau, amgylcheddol a chyllidol gwahanol fathau o ffermydd llaeth. Byddwn yn asesu effeithiau symud o un system fferm i'r llall ac yn asesu effeithiau adnoddau, amgylcheddol ac economaidd gymdeithasol ehangu systemau llaeth ar wahanol raddfeydd. Ar yr un pryd, byddwn yn ymchwilio pa arferion rheoli a all wella mannau problemus C&I yn fwyaf effeithiol, gan ystyried nifer o effeithiau amgylcheddol uniongyrchol ac anuniongyrchol. Bydd hyn yn darparu data sy'n berthnasol i bolisïau ynghylch sut i gynyddu cynaliadwyedd byd-eang cynhyrchu llaeth.

    Arweinydd Clwstwr: Dr. James Gibbons Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/cleaner-cows

  • CLIMATE-SMART GRASS: A Strategy for Grassland to Safeguard Forage Production against Extreme Weather Events through

    Resilience to Multiple Stresses Prifysgol Bangor; Prifysgol Aberystwyth; y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg

    Y defnydd tir mwyaf yng Nghymru yw gwell glaswelltiroedd sy'n cynnal ffermio da byw,

    ac maent yn elfen bwysig o economi Cymru. Rhagwelir y bydd tywydd eithafol fwyfwy

    rheolaidd yn effeithio'n negyddol ar yr ecosystemau hyn, gan arwain at effeithiau

    cynyddol difrifol i wasanaethau ecosystemau, yr economi amaethyddol a'r dirwedd

    ddiwylliannol. Gellir ychwanegu at y canlyniadau hyn os bydd digwyddiadau eithafol yn

    digwydd yn agos at ei gilydd. Er mwyn gwarchod elfennau ecolegol, economaidd-

    gymdeithasol a diwylliannol tirweddau amaethyddol ar gyfer y dyfodol, bydd angen i

    ddefnyddwyr tir fabwysiadu a gweithredu rhaglenni cyfannol tyfu planhigion sy'n

    gwrthsefyll yr hinsawdd. Gwneir hyn gyda strategaethau rheoli wedi'u seilio ar bridd ac

    anifeiliaid i alluogi i'r dirwedd wrthsefyll mwy nag un bygythiad. Mae CLIMATE-SMART GRASS yn mynd i'r afael â rhyngweithiadau rhwng planhigion a

    phridd mewn glaswelltiroedd ac effeithiau tywydd eithafol ar gynhyrchiant ffermydd a

    chyflwyno gwasanaethau ecosystemau. Ar yr un pryd byddwn yn cynllunio ac yn profi

    glastiroedd newydd i allu gwrthsefyll y cyfryw dywydd yn well. Bydd ein tîm

    amlddisgyblaethol yn datblygu a dilysu trefniadau newydd ar gyfer diogelu

    glaswelltiroedd cynhyrchiol tir isel. Bydd hyn yn gwella gallu ffermio yng Nghymru i

    wrthsefyll nifer o fygythiadau amgylcheddol a phennu'r ‘pwyntiau tyngedfennol’ y mae

    bygythiadau'n achosi newidiadau negyddol di-droi'n-ôl mewn gweithrediadau

    ecosystemau glaswelltiroedd. Mae'r ymchwil hon, sy'n berthnasol i bolisïau, yn rhoi

    dulliau rheoli newydd i'r diwydiant amaethyddol, gwneuthurwyr polisi a budd-ddeiliaid

    cysylltiedig er mwyn diogelu amaethyddiaeth yng Nghymru rhag tywydd eithafol ac

    ansicr yn y dyfodol.

    Arweinydd Clwstwr: Yr Athro Davey Jones Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/climate-smart-grass

  • GEO-CARB-CYMRU: Assessing, Characterising and Enhancing Geologic Carbon Storage and Geothermal Energy in Wales

    Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Caerdydd; Arolwg Daeareg Prydain - Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Prifysgol Leeds

    Ar hyn o bryd mae diwydiant trwm yn parhau i fod yn elfen bwysig o economi Cymru. Felly mae'n wlad sy'n allyrrydd carbon mawr, yn cynhyrchu 13% o garbon y DU ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan bobl. Drwy leihau allyriadau carbon, bydd GEO-CARB-CYMRU yn helpu i ddatblygu ynni carbon isel, yn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac yn darparu sicrwydd ynni a ffyniant economaidd, drwy ymchwilio dan y wyneb fel man ar gyfer llwybrau ynni carbon isel. Yn benodol, bydd yn nodweddu ac yn gwella systemau storio carbon daearegol (GCS) a systemau cynhesu dŵr daear yng Nghymru.

    Mae GCS yn cynnwys chwistrellu carbon deuocsid i greigiau tanddaearol, sy'n strategaeth hanfodol o bwysig o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Nid yw allyrwyr carbon yng Nghymru yn cael mynd yn rhwydd at gronfeydd nwy sydd wedi eu gwagio i gloddio am systemau GCS confensiynol. Felly mae'n hanfodol ymchwilio i opsiynau storio anghonfensiynol (glo a siâl) yng Nghymru. Mae dan y wyneb hefyd yn creu opsiynau gwych eraill ar gyfer ynni carbon isel. Yn benodol, gallai gwres dŵr daear sydd wedi ei gynhyrchu'n ficrobaidd ym meysydd glo Cymru fod yn opsiwn posib ar gyfer pympiau gwres o'r ddaear; gellid gwneud y defnydd mwyaf o'r rhain i gyflawni anghenion ynni carbon isel Cymru.

    Mae GEO-CARB-CYMRU yn bartneriaeth rhwng cydweithwyr academaidd a rhai nad ydynt yn academyddion o Gymru ac o weddill y DU. Byddwn yn datblygu dull sy'n cyfuno arbrofi, modelu a gwaith maes i nodweddu a gwella systemau GCS a systemau cynhesu dŵr daear yng Nghymru, yn rhychwantu'r geosffer-hydrosffer a'r atmosffer, a defnyddio system fodelu o raddfa mandwll i raddfa cronfa. Bydd hyn yn ffin ryngwladol i ddatblygiad economaidd carbon isel yn y dyfodol.

    Arweinydd Clwstwr: Dr. Andrew Mitchell Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/geo-carb-cymru

  • MULTI-LAND: Enhancing Agricultural Productivity and

    Ecosystem Service Resilience in Multifunctional Landscapes Prifysgol Bangor; Prifysgol Aberystwyth; Canolfan Ecoleg a Hydroleg

    Coed Cymru; Cyfoeth Naturiol Cymru; Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Disgwylir y bydd poblogaeth y byd yn cynyddu o ddau i dri biliwn dros y tri degawd

    nesaf, ac oherwydd y bydd cyfoeth yn cynyddu hefyd bydd y galw am gynhyrchion bwyd

    o ansawdd da yn parhau i godi. Bydd hyn ynghyd á chynnydd trefi a diraddio'r

    amgylchfyd yn cynnig her nas gwelwyd ei debyg o'r blaen i systemau bwyd ac amaeth.

    Yn enwedig yn wyneb newid yn yr hinsawdd mae'r rhain yn heriau mawr os am sicrhau

    defnydd cynaliadwy o dir ac amaethyddiaeth wydn, yn arbennig wrth gydbwyso

    sicrwydd bwyd a gwasanaethau ecosystem eraill, defnyddiau lluosog neu wrthwynebus

    o dir a swyddogaeth amaethyddiaeth mewn lleihau allyriadau nwyon ty gwydr.

    Pwrpas MULTI-LAND yw canfod rhyngweithiadau cadarnhaol rhwng coed, da byw a

    phridd a gwella ein dealltwriaeth o ymddygiad a metabolaeth anifeiliaid, (porthiant,

    twf, ysgarthu, a defnydd o loches) er mwyn gwella cynhyrchiant a lleihau allyriadau

    nwyon tŷ gwydr. Gall plannu mwy o goed ar y dirwedd gael effaith gadarnhaol ar

    reoleiddio'r hinsawdd a llifogydd trwy newid nodweddion ffisegol y pridd, hyrwyddo

    cadw carbon yn y pridd a gwarchod maetholion a lleihau allyriant nwyon tŷ gwydr.

    Byddwn yn edrych yn fanwl ar swyddogaeth systemau stribedi cysgodi wrth ddarparu

    gwasanaethau ecosystemau a gwella gwytnwch ecosystemau i darfiadau ar systemau

    da byw yn yr ucheldiroedd. Trwy greu tirwedd amlswyddogaethol a manteisio ar

    synergeddau posib coed a da byw rydym yn bwriadu dangos sut y gall dwysau arferion

    ffermio mewn modd cynaliadwy wella cynhyrchedd amaethyddol a bywoliaeth pobl

    leol tra'n gwella'r ffordd y cyflwynir ystod o wasanaethau rheoleiddio ecosystemau.

    Arweinydd Clwstwr: Dr. Andy Smith

    Cyswllt: [email protected]

    Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/multi-land

  • PLANTS and ARCHITECTURE Prifysgol Aberystwyth; Prifysgol Bangor; Prifysgol Caerdydd

    Mae'r Clwstwr Ymchwil 'Plants and Architecture' yn edrych ar y rhyngweithio rhwng adeiladau a phlanhigion, a'u hamgylchedd, at ddiben datblygu dinasoedd a chnydau'r dyfodol. Mae'r project hwn yn ailedrych ar y berthynas rhwng planhigion a phensaernïaeth drwy fio-ddynwared: athroniaeth gyfoes mewn pensaernïaeth sy'n chwilio am atebion ar gyfer cynaliadwyedd mewn natur. Drwy ddefnyddio'r dull hwn, rydym yn ceisio gwella cynaliadwyedd adeiladau a phlanhigion yn gyffredinol, yn ogystal â sicrhau bod adeiladau a dinasoedd y dyfodol yn fwy deniadol ac yn fwy gwyrdd. Mae'n her i bensaernïaeth ddarparu i gymdeithas amgylchedd bwrpasol ar gyfer y dyfodol sy'n effeithlon o ran adnoddau, yn effeithiol o ran darparu amodau gwaith a byw da, ac yn ddymunol i'r synnwyr. Mae planhigion yn cynnig nifer o bosibiliadau i helpu llywio cynlluniau datblygu cynaliadwy'r dyfodol, tra bod pensaernïaeth yn cynnig adnoddau a syniadau i helpu cynllunio cnydau sy'n cynhyrchu'n fwy cynaliadwy.

    Yn y dyfodol, bydd angen i ni ystyried sut y gellir cynhyrchu cnydau mewn dinasoedd. Mae hyn yn dechrau digwydd ac yn dod â manteision drwy leihau costau cludiant, yn ogystal â manteision esthetig a manteision o ran iechyd. Byddwn yn astudio'r defnydd o blanhigion ar adeiladau, gan gynnwys toeau a waliau gwyrdd. Byddwn yn astudio manteision cael planhigion mewn mannau byw mewn adeiladau a defnyddio planhigion fel ffynhonnell deunyddiau carbon isel i storio carbon a gwella cynaliadwyedd ac ansawdd yr aer mewn adeiladau. Ysbrydolwyd pensaernïaeth a bridio planhigion modern gan Natur er mwyn symud tuag at gynnydd radical mewn effeithlonrwydd, gan gynnwys defnyddio'r ynni, y dŵr a'r goleuni sydd ar gael, yn ogystal â goddefgarwch at eithafion hinsawdd. Drwy gyfnewid syniadau rhwng ein disgyblaethau, rydym yn credu y gallwn alluogi'r newidiadau trawiadol sydd eu hangen i gyflawni'r cynnydd hanfodol yng nghynaliadwyedd dinasoedd a chnydau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

    Arweinydd Clwstwr: Yr Athro Iain Donnison Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/plants-architecture

  • QUOTIENT: Quantification, Optimisation, and Environmental Impacts of Marine Renewable Energy

    Prifysgol Bangor; Prifysgol Abertawe; Prifysgol Caerdydd

    Mae moroedd sgafell gogledd orllewin Ewrop yn darparu adnoddau ynni o'r tonau a'r llanw o safon byd-eang ar gyfer datblygu diwydiant ynni adnewyddadwy'r môr ac felly'n cynnal nifer o ganolfannau prawf a phrojectau masnachol. Ond nid ydym eto'n deall yn llwyr natur yr adnoddau hyn, a'u rhyngweithio, a sut y bydd yr adnoddau (a dulliau llwytho dyfeisiau) yn datblygu o ganlyniad i lefel y môr yn codi a newidiadau mewn patrymau tywydd. Ni wyddom eto ychwaith beth yw'r ffordd orau i wneud y mwyaf o weithfeydd ynni môr fel bod modd casglu'r adnoddau ysbeidiol hyn at ei gilydd i ddarparu ffynhonnell bŵer gadarn, a lleihau effeithiau amgylcheddol ar yr un pryd.

    Mae QUOTIENT yn ymdrin â'r materion hyn mewn 4 thema ymchwil: 1) Asesu adnoddau; 2) Optimeiddio; 3) Effeithiau amgylcheddol; a 4) Effeithiau'r amgylchedd ar ddyfeisiau ynni adnewyddadwy. Byddwn yn ystyried sut mae adnoddau ynni'r môr yn rhyngweithio â'i gilydd dros amryw o raddfeydd, a phenderfynu ar y ffordd orau o reoli'r broses cloddio am ynni adnewyddadwy'r môr, am nifer o fathau o adnoddau, ar gyfer y dyfodol, a llywio polisïau ynni a buddsoddiad. Bydd y Clwstwr hefyd yn ymchwilio i sut mae adborth rhwng cloddio am ynni a'r adnodd yn dylanwadu ar y prosesau dynamegol sy'n cael eu hachosi gan yr adnodd, fel cludo gwaddodion a chynnal traethau a banciau tywod yn y môr. Yn benodol, bydd yr ymchwil hwn yn pennu sut mae'r fath effeithiau'n cymharu ag amrywioldeb naturiol, a sut y gellid defnyddio'r effeithiau hyn er ein budd ni. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddatrysiadau 3D cydraniad uchel ar uwchgyfrifiaduron dros raddfeydd amser penodol, yn amrywio o is-eiliad (tyrfol) i ddegawdol (yn cynnwys newid yn yr hinsawdd), ac ar draws amrywiaeth eang o raddfeydd o dyrbinau unigol i ymylon y sgafell gyfandirol, wedi eu dilysu a'u chreu'n baramedrau gan arsylwadau maes ac arbrofion labordy.

    Arweinydd Clwstwr: Dr. Simon Neill Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/quotient

  • RESILCOAST: Integrating Ecosystem Resilience into Coastal Planning for the Persistence of Natural Flood Protection and

    Wetland Ecosystem Services Prifysgol Bangor; Prifysgol Abertawe; Prifysgol Caerdydd; Canolfan Ecoleg a Hydroleg;

    Adnoddau Naturiol Cymru; NIOZ; Plymouth Marine Laboratory

    Rhagwelir cynnydd yn lefelau'r môr a chyfnodau tywydd eithafol sy'n dod yn fwy cyson erbyn hyn gyda newid yn yr hinsawdd, yn rhoi pwysau ar seilwaith diogelu'r arfordir. Mae corsydd halen arfordirol yn hollbwysig i'r seilwaith diogelu hwn drwy amsugno tonnau a chloi pridd i wreiddiau planhigion. Mae'r 'gwasanaeth ecosystem' hwn yn cynrychioli arbediad economaidd sylweddol o ran diogelu'r arfordir. Ond mae 'newidiadau cyflwr' sydyn, nas rhagwelir yn effeithio ar rai corsydd halen - maent yn newid eu safle neu yn troi yn wastadeddau llaid heb lysdyfiant, sy'n eu rhwystro rhag bod yn ddefnyddiol i amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd a rheoli buddion eraill yr ecosystem. Project amlddisgyblaeth yw RESILCOAST, sy'n cynnwys partneriaid o brifysgolion, y maes ymchwil ac o Lywodraethau Cymru, Lloegr a'r Iseldiroedd. Rydym yn ceisio deall beth sy'n rheoli gwydnwch corsydd, sut y bydd newid yn yr hinsawdd ac ecsbloetiaeth gan bobl yn effeithio ar 'newidiadau cyflwr'. Bydd RESILCOAST yn defnyddio ffosydd hydrolegol ac arbrofion maes o'r radd flaenaf i ymchwilio i wydnwch corsydd. Drwy ddefnyddio ffotograffi hanesyddol o'r awyr, byddwn yn datblygu dulliau newydd o ragweld 'newidiadau cyflwr' - rhywbeth sy'n brin o ran mwyafrif ecosystemau byd-eang. Bydd RESILCOAST yn ymchwilio, am y tro cyntaf, i'r ddamcaniaeth y bydd bioamrywiaeth corsydd halen yn gwella gwydnwch yn erbyn erydu ac ymyrraeth. Bydd hyn yn cael ei gysylltu ag ymchwil ar bolisi rheoli a chynllunio traethlinau, yn rhoi pwyslais arbennig ar forydau yng Nghymru. Mae RESILCOAST yn ceisio ateb y cwestiynau sylfaenol hyn: pa fuddion a gawn o'r corsydd halen hyn a pha mor werthfawr ydynt? Pa mor effeithiol yw'r polisi rheoli traethlinau presennol o ran ystyried 'newidiadau cyflwr'? Pa mor dda mae cynllunio ar gyfer rheoli traethlinau yn rhoi ystyriaeth i wydnwch naturiol?

    Arweinydd Clwstwr: Dr. Martin Skov Cyswllt: [email protected] Gwefan: http://www.nrn-lcee.ac.uk/resilcoast

    mailto:[email protected]

  • Mae'r NRN-LCEE yn un o 3 Rhwydwaith sy'n cael eu cefnogi gan Sêr Cymru. Mae ganddynt oll y nod yn y pen draw o

    ddatblygu gallu ymchwil hir dymor yng Nghymru. Y ddau Rwydwaith arall yw:

    Y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol mewn Peirianneg Uwch a Deunyddiau, mewn cydweithrediad â phartneriaid craidd o Brifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd a TWI Limited. Mae'r Rhwydweithiau yn cefnogi projectau sy'n cyfrannu at 3 prif thema ymchwil: Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, Technegau Modelu a Synwyryddion a Dyfeisiadau. Mae'r

    Rhwydwaith yn cefnogi amrywiaeth eang o Fyfyrwyr PhD, Cynorthwywyr Ymchwil Ôl-ddoethuriaeth a Chymrodorion Ymchwil gyrfa gynnar. Mae'r Rhwydwaith hefyd yn cefnogi Cymrodorion Diwydiant i hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio. Mwy o wybodaeth: http://www.ernw.ac.uk Ebost: [email protected]

    Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Gwyddorau Bywyd ac Iechyd yn cefnogi gwyddoniaeth o'r radd flaenaf yng Nghymru a datblygu triniaethau therapiwtig newydd lle ceir anghenion heb eu diwallu mewn meddygaeth a milfeddygaeth. Mae'r Rhwydwaith yn dod ag academyddion

    Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor ynghyd gyda'r bwriad o ddatblygu'r gallu ymchwil hir dymor yn y Gwyddorau Bywyd ymhellach. Mae'r Rhwydwaith yn cefnogi amrywiaeth eang o efrydiaethau PhD, Projectau Ymchwil a Grantiau Platfform. Mae'r Rhwydwaith hefyd yn hyrwyddo cydweithio gyda phartneriaid allanol fel y GIG, diwydiant a sefydliadau ymchwil rhyngwladol. Mwy o wybodaeth: http://www.lsrnw.ac.uk Ebost: [email protected]