adroddiad arolygu ar gyfer

21
Adroddiad Arolygu ar gyfer Cartref Gofal Plas Newydd Ffordd Pwllheli Cricieth LL52 0RR This report is also available in English Mae'r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg Dyddiad Cwblhau'r Arolygiad 23/11/2020

Upload: others

Post on 23-Dec-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Adroddiad Arolygu ar gyfer

Cartref Gofal Plas Newydd

Ffordd Pwllheli Cricieth

LL52 0RR

This report is also available in English

Mae'r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Dyddiad Cwblhau'r Arolygiad

23/11/2020

Llywodraeth Cymru © Hawlfraint y Goron 2020. Cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth sydd yn y cyhoeddiad hwn (ac eithrio'r logos) yn ddi-dâl, mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. Gallwch weld y Drwydded Llywodraeth Agored ar wefan yr Archifau Gwladol, neu gallwch ysgrifennu at The Information Policy Team, The National Archives, Kew, London, TW9 4DU, neu anfon e-bost at: [email protected] Rhaid i chi atgynhyrchu ein deunydd yn fanwl gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Ynglŷn â Chartref Gofal Plas Newydd

Y math o ofal a ddarperir

Gwasanaeth Cartref Gofal

Oedolion Heb Ofal Nyrsio

Darparwr Cofrestredig Pangea Healthcare Ltd

Lleoedd cofrestredig

18

Iaith y gwasanaeth

Y ddwy

Arolygiad blaenorol Arolygiaeth Gofal Cymru

Hwn oedd yr arolygiad cyntaf ers i'r gwasanaeth gael ei gofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

A yw’r gwasanaeth hwn yn darparu’r Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg?

Nac ydy

Crynodeb Cartref gofal preswyl yw Plas Newydd, a leolir yng Nghricieth, Gwynedd. Mr Aga Yamin yw'r unigolyn cyfrifol a'r darparwr. Mae'r bobl sy'n byw yn y cartref yn hapus, ond gwelsom fod angen gwella rhai agweddau ar y gofal a'r cymorth cyffredinol, niferoedd y staff, ffactorau amgylcheddol, y broses o reoli meddyginiaethau, goruchwyliaeth, a rheolaeth y gwasanaeth. Mae'r darparwr yn gweithio gydag AGC ac awdurdodau lleol i wella'r materion hyn.

Llesiant

Nid yw'r bob amser yn gallu cefnogi'r bobl i gadw'n brysur a chymdeithasu. Dywed y bobl sy'n byw yn y cartref nad oes unrhyw weithgareddau'n cael eu cynnal yn y cartref i'w hysgogi, a'u bod wedi diflasu. Gwelsom nad yw'r bobl yn cael cynnig gweithgareddau nac yn cael eu galluogi i gymdeithasu â'i gilydd. Mae cynlluniau gweithgareddau ar waith ond nid yw'r rhain yn cael eu dilyn. Dywed y bobl â'r staff wrthym mai'r rheswm dros hyn yw prinder staff a diffyg amser i gynnal gweithgareddau. Gwelsom nad oes gweithgareddau penodol sy'n addas i bobl â dementia yn cael eu cynnig i bobl i ysgogi eu gwybyddiaeth a'u cof. Mae hyn yn fater difrifol gan fod angen i bobl gael eu hysgogi a chael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau er mwyn cynnal eu diddordebau, eu cymhelliant a'u gwybyddiaeth. Nid yw'r darparwr wedi sicrhau bod pobl yn cael dewis o ran eu prydau dyddiol. Dywed y bobl wrthym nad ydynt yn cael dewis o brydau. Gwelsom nad oedd un unigolyn yn hoffi'r pryd a gynigiwyd iddo ac na chynigiwyd dewis arall iddo, ac felly bu'n rhaid iddo fynd heb ran o'i bryd. Gwelsom nad oes bwydlenni'n cael eu harddangos yn y cartref er mwyn i'r bobl wybod pa brydau sy'n cael eu cynnig. Dywedodd un preswylydd wrthym “it’s always chicken” (cyw iâr dro ar ôl tro); gwelsom mai pastai cyw iâr oedd i ginio ar ddiwrnod ein hymweliad. Dywedodd preswylwyr eraill wrthym nad oeddent yn gwybod pa bryd y byddent yn ei gael. Nid yw hyn yn cydymffurfio â'r rheoliadau: mae angen deiet amrywiol a chytbwys ar bobl er mwyn cynnal eu hiechyd a'u harchwaeth. Gwelsom fod pryderon yn cael eu codi, ac nad oedd y gwasanaeth bob amser yn rhoi gwybod i AGC na'r tîm Diogelu am y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â materion, fel sy'n ofynnol. Mae gan y darparwr ddyletswydd gofal i roi gwybod i'r tîm diogelu ac AGC am ddigwyddiadau diogelu er mwyn sicrhau bod y bobl yn cael gofal diogel. Dywedodd y rheolwr wrthym nad yw'r staff yn cael eu cefnogi nac yn cael arweiniad o ran eu perfformiad. Hefyd, dywedodd y staff wrthym nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu hymarfer dyddiol. Ni all y bobl fod yn hyderus eu bod yn cael gofal gan staff sy'n cael eu rheoli a'u cefnogi'n briodol. Nid yw hyn yn cydymffurfio â'r rheoliadau. Rydym wedi rhoi hysbysiad brys i'r darparwr yn nodi bod angen iddo fynd i'r afael â'r materion hyn.

Gofal a Chymorth

Nid yw'r staff yn cael eu galluogi i gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol. Mae'r rheolwr wedi llunio cynlluniau personol, sy'n manylu ar ddewis arferion, hoff bethau a chas bethau y bobl, ond nid yw'r canlyniadau bob amser yn cael eu cyflawni oherwydd prinder staff. Gwelsom fod y staff yn frysiog wrth roi gofal ac nad oeddent yn gallu diwallu anghenion unigol y bobl. Gwelsom y rotas gwaith sifft a oedd yn dangos bod nifer sylfaenol o staff yn cyflawni'r dyletswyddau, gan olygu nad oedd fawr ddim hyblygrwydd pe bai staff yn absennol. Nid yw hyn yn adlewyrchu ansawdd y gofal a addewir yn Natganiad o Ddiben y cartref, ac nid yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau. Nid yw'r staff bob amser yn gallu rhoi gofal mewn modd amserol. Gwelsom nad oedd y staff bob amser yn gallu cyflawni pob tasg mewn modd amserol oherwydd prinder staff ar ddyletswydd Dywedodd unigolyn wrthym ei fod yn aml yn gorfod aros am amser hir i gael help i fynd i'r tŷ bach. Dywedodd unigolyn arall wrthym fod y staff yn brysur iawn ac nad oedd yn hoffi eu poeni. Nid yw hyn yn cyfateb i ansawdd y gofal a gynigir yn y Datganiad o Ddiben na'r hyn sy'n ofynnol yn y Rheoliadau. Gall y darparwr roi cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg. Gwelsom fod nifer o'r staff yn gallu sgwrsio yn Gymraeg os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Gwelsom y staff yn sgwrsio â'r bobl mewn modd cyfeillgar a pharchus. Dywedodd y bobl wrthym fod y staff yn ofalgar ac yn eu trin â pharch. Mae angen i'r darparwr sicrhau bod arferion da ar waith ar gyfer storio a rhoi meddyginiaethau yn y cartref. Gwelsom nad oedd y cwpwrdd meddyginiaethau wedi'i gloi yn ystod ein hymweliad, a gwnaethom ofyn i'r rheolwr ei gloi a chadw'r allweddi'n ddiogel. Gwelsom rownd meddyginiaethau yn mynd rhagddi, ac nad oedd yr arferion mor gadarn ag y byddem yn ei ddisgwyl. Gwelsom hefyd fod y broses o reoli meddyginiaethau nad oedd eu hangen yn y cartref mwyach, yn wael. Mae angen i'r darparwr fynd i'r afael â hyn, gan nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Yr Amgylchedd

Gwelsom fod angen gwella’r amgylchedd yn sylweddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben. Gwelsom nad oedd hylendid y cartref yn cyrraedd y safon y byddem yn ei disgwyl, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Gwelsom fod problemau yn ymwneud â chyflwr rhai o'r matresi a glendid cyffredinol rhai o'r ystafelloedd. Deallwn fod y darparwr eisoes yn mynd i'r afael â hyn a'i fod wedi prynu matras newydd. Roedd y teledu yn y brif lolfa yn achosi rhwystredigaeth i'r bobl, gan nad oedd yn gweithio'n dda; mae'r darparwr wedi mynd i'r afael â hyn ac wedi prynu teledu newydd. Gwelsom nad oedd meddyginiaethau'n cael eu storio'n briodol mewn oergell meddyginiaethau ddynodedig; mae'r darparwr bellach wedi prynu oergell meddyginiaethau. Mae problem logistaidd o ran cario dillad budr drwy'r gegin i gyrraedd y golchdy. Nid yw'r polisi golchi dillad yn mynd i'r afael â hyn yn llawn. Mae'n ofynnol i'r darparwr ystyried dull amgen er mwyn rheoli heintiau'n well. Mae angen i'r polisi golchi dillad adlewyrchu hyn. Gwelsom fod y cartref yn anniben a bod perygl o faglu am fod cymhorthion cerdded y bobl yn cael eu cadw yng nghanol yr ardal fwyta. Mae angen i'r darparwr barhau i wella amgylchedd y cartref er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau.

Arwain a Rheoli

Nid yw'r darparwr yn goruchwylio'r gwasanaeth yn ddigonol. Nid yw'r darparwr wedi ymweld â'r cartref yn rhinwedd ei swydd fel unigolyn cyfrifol, fel sy'n ofynnol gan y rheoliadau, ac felly, nid yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau. Mae angen gwella'r cyfathrebu rhwng y darparwr a'r rheolwr er mwyn sicrhau y caiff y wybodaeth ddiweddaraf ei rhannu am yr hyn sy'n digwydd yn y cartref, yn ogystal â gwybodaeth amserol am unrhyw faterion. Mae angen goruchwylio a chefnogi'r rheolwr a'r aelodau allweddol o'r staff wrth eu gwaith, er mwyn sicrhau ymarfer da. Mae'n ofynnol i'r darparwr fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Nid yw'r darparwr wedi cwblhau adroddiad asesu ansawdd ar gyfer y gwasanaeth er mwyn dangos dealltwriaeth dda o'i weithrediad, ei ddiffygion a'i gryfderau, a'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn gwella. Nid yw lleisiau'r bobl na'u teuluoedd yn cael eu clywed, am na ofynnir am eu barn. Felly, ni all y bobl ddylanwadu ar y gwaith o gynllunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu eu hanghenion. Mae'n ofynnol i'r darparwr fynd i'r afael â hyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Nid yw'r darparwr wedi sicrhau niferoedd digonol o staff sy'n meddu ar y sgiliau priodol i ddarparu gofal diogel i'r bobl. Mae diffyg strwythur rheoli yn y cartref i sicrhau arweinyddiaeth gadarn ar gyfer y staff yn absenoldeb y rheolwr neu mewn argyfwng. Mae'n ofynnol i'r darparwr newid y sefyllfa o ran staffio a'r trefniadau rheoli er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau.

Y meysydd i'w gwella a'r camau a nodwyd yn yr arolygiad blaenorol

Dim

Meysydd lle y mae angen gweithredu ar unwaith

Rheoliad 21 – gofal a chymorth. Rhaid i ddarparwr y gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n diogelu, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

Rheoliad 34 – staffio. Y rheswm dros yw hyn yw nad yw'r darparwr bob amser wedi gwneud yn siwr bod niferoedd digonol o staff yn gweithio yn y cartref i sicrhau ansawdd y gofal.

Rheoliad 56 (1) – yr amgylchedd. Y rheswm dros hyn yw nad yw'r darparwr wedi sicrhau bod safonau hylendid da yn y cartref.

Rheoliad 58 (1) – meddyginiaethau. Rhaid i'r darparwr hwn sicrhau bod systemau diogel ar waith ar gyfer storio a rhoi meddyginiaethau yn y cartref.

Rheoliad 66 (1) – goruchwylio a rheoli'r gwasanaeth. Rhaid i'r darparwr sicrhau y caiff ansawdd y gofal yn y cartref ei oruchwylio'n gadarn.

21(1)

34(1)

56(1)

58(1)

66

Gwelsom ganlyniadau gwael i'r bobl a/neu risg i lesiant y bobl, sy'n debygol o barhau os na chymerir camau gweithredu. Felly, rydym wedi cyflwyno hysbysiad (diffyg cydymffurfio) gweithredu â blaenoriaeth ac rydym yn disgwyl i'r darparwr gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â hyn a gwneud gwelliannau.

Meysydd y mae angen eu gwella

Dim

Dyddiad Cyhoeddi 02/03/2021

Arolygiaeth Gofal Cymru

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Hysbysiad Diffyg Cydymffurfio

Gwasanaeth Cartref Gofal

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi’r meysydd lle nad yw eich gwasanaeth yn cydymffurfio â’r

rheoliadau. Mae'n ofynnol i chi, y person cofrestredig, gymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio o fewn yr amserlenni a bennir.

Mae cyflwyno'r hysbysiad hwn yn fater difrifol. Os na lwyddir i gydymffurfio, bydd

Arolygiaeth Gofal Cymru yn gweithredu yn unol â’i pholisi gorfodi.

Mae mwy o gyngor a gwybodaeth ar gael ar ein gwefan www.arolygiaethgofal.cymru

Cartref Gofal Plas Newydd

Ffordd Pwllheli

Cricieth LL52 0RR

Dyddiad cyhoeddi: 22/01/2021

Gofal a Chymorth Ein Cyf: NONCO-00009924-FKXW

Y diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad hwn

Amserlen gwblhau 11/01/21

Disgrifiad o'r diffyg cydymffurfio / Camau gweithredu

Rhif y rheoliad

Rheoliad 21 – gofal a chymorth. Rhaid i ddarparwr y gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n diogelu, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

21(1)

Tystiolaeth

- Nid yw'r person cofrestredig yn cydymffurfio â rheoliad 21 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

- Y rheswm dros hyn yw nad yw'r darparwr bob amser wedi sicrhau bod y gofal a'r cymorth a ddarperir yn diogelu, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.

- Y dystiolaeth: Gwelsom nad oedd y polisïau a'r gweithdrefnau mewn perthynas â rheoli heintiau yn cael eu dilyn. Nododd Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol y bu'n rhaid i wyth aelod o'r staff ynysu ar ôl dod i gysylltiad ag aelod arall o'r staff a gafodd ganlyniad positif i brawf COVID-19. Clywsant fod y staff wedi bod yn rhannu lifftiau ac yn cael cinio gyda'i gilydd heb wisgo masgiau na chadw pellter cymdeithasol. Rhoddwyd cyngor i'r rheolwr. Fodd bynnag, yn ystod yr arolygiad, gwelsom fod pob aelod o'r staff yn cael egwyl gyda'i gilydd heb gadw pellter cymdeithasol. Roedd y rheolwr yn ymwybodol o hyn ond nid oedd wedi cymryd camau i'w atal rhag digwydd. Roedd hyn hefyd yn golygu nad oedd y staff ar gael i ymateb i anghenion y bobl. Gwelsom y rheolwr yn cynnal rownd meddyginiaethau heb olchi ei dwylo cyn dechrau'r rownd nac yn ystod yn rownd. Mae gweithdrefnau a pholisïau golchi dwylo'r cartref yn pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo er mwyn atal heintiau rhag lledaenu; nid oedd y rheolwr yn dilyn y gweithdrefnau hyn. Mae'r Datganiad o Ddiben yn nodi bod y gwasanaeth yn cefnogi hawl pobl i "Make personal life choices such as the food you eat” (Gwneud dewisiadau personol megis y bwyd rydych yn ei fwyta) ac "we regularly assess and act on the service users nutritional needs” (rydym yn asesu anghenion maethol defnyddwyr y gwasanaeth yn rheolaidd, ac yn gweithredu arnynt). Yn ystod yr arolygiad, dywedodd y bobl wrthym nad oeddent yn gwybod beth oedd i ginio. Dywedodd un unigolyn mai cyw iâr oedd i ginio fwy na thebyg, gan mai dyna y maent yn aml yn ei gael. Pastai cyw iâr a llysiau oedd i ginio. Nid oedd unrhyw ddewisiadau bwyd eraill ar gael. Mae'r Datganiad o Ddiben yn nodi bod prydau'n cael eu cynllunio yn unol â dymuniadau a dewisiadau pobl, bod rhyddid i bobl newid eu dewis o fwyd, a bod dewis o brydau'n cael ei gynnig bob amser. Yn ystod yr arolygiad, gwelsom un unigolyn yn gwrthod bwyta'r pryd a gynigiwyd iddo,

ac yn dweud nad oedd yn ei hoffi; ni chynigiodd y staff bryd arall iddo yn ei le, felly bu'n rhaid i'r unigolyn fynd heb ran o'i bryd. Edrychodd yr arolygydd ar gynllun y fwydlen ar gyfer y diwrnod, ac nid oedd yn adlewyrchu'r pryd a gynigiwyd yn llwyr. Nid oedd y dewisiadau bwyd yn cael eu harddangos ar fwrdd bwydlen nac yn unrhyw le arall er mwyn cefnogi'r bobl a'u hatgoffa am y dewisiadau a oedd ar gael. Cawsom gopi o fwydlen dreigl tair wythnos, a gwelsom nad oedd dewis o brydau ar gael i'r bobl bob amser. Mae Datganiad o Ddiben y gwasanaeth yn nodi bod y cartref yn cynnig "Range of social activities, which meets the needs of the service users. Ensuring that activities are offered to each service user, which are appropriate to their needs, abilities, and expressed wishes” (Amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, sy'n diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cynnig i bob un o ddefnyddwyr y gwasanaeth, sy'n briodol i'w hanghenion, eu galluoedd, a'u dymuniadau). Yn ystod yr arolygiad, gwelsom nad oedd unrhyw weithgareddau'n cael eu cynnig i'r bobl, ac nad oedd unrhyw ddeunyddiau gweithgareddau i ddangos bod gweithgareddau'n cael eu cynnal fel arfer. Dywedodd y staff a'r bobl sy'n byw yn y gwasanaeth wrthym mai cyfyngiadau cyllidebol gan y darparwr oedd y rheswm dros hyn. Nid oedd y teledu yn y lolfa yn gweithio'n iawn ac roedd yn diffodd ei hun, a oedd yn rhwystredig i'r bobl. Dywedodd un unigolyn wrthym y bu'n rhaid iddo gael llyfrau posau neu y byddai'n mynd "out of their mind" (o'i gof) oherwydd y diflastod. Rhoddodd y rheolwr gopïau i ni o gynlluniau gweithgareddau dyddiol, a oedd yn rhoi manylion nifer o weithgareddau megis llyfrau bywyd personol, sgyrsiau, gemau, cerddoriaeth, celf a chrefft. Fodd bynnag, roedd y daflen lofnodi a ddarparwyd gyda'r cynlluniau gweithgareddau yn wag felly nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y gweithgareddau hyn wedi cael eu cynnig i'r bobl na thystiolaeth bod unrhyw un wedi cymryd rhan. Mae gan nifer o bobl sy'n byw yn y cartref ddementia. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o unrhyw weithgareddau sy'n addas i bobl â dementia yn y cartref er mwyn ysgogi'r cof neu annog y bobl i gymdeithasu. Felly, ni chaiff gofal a chymorth yn ôl cynllun personol y bobl, eu hoff bethau a'u cas bethau, eu cefnogi'n llawn gan nad oes gan y bobl ddewis na rheolaeth dros eu diwrnod na'u deiet. Mae teuluoedd wedi codi pryderon ag AGC am ddiffyg glendid yn y cartref, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Gwelsom nad oedd y cartref yn cyrraedd y safonau glanhau a ddisgwylir. Gwelsom fod matres gwlyb un unigolyn, a oedd wedi'i staenio ag wrin, wedi’i osod wrth y ffenestr i sychu. Roedd y carped yn ddu â baw a bryntni. Roedd ffrâm y gwely a'r byrddau sgyrtin hefyd yn fudr. Roedd angen glanhau ardaloedd o garpedi ym mhob rhan o'r cartref. Gwnaethom siarad â'r person a oedd yn defnyddio'r matres; dywedodd wrthym ei fod yn "not good" (wael), ond roedd ar ddeall na fyddai'r darparwr yn prynu matres newydd yn ei le. Cadarnhawyd hyn gan yr aelod o'r staff hefyd. Mae Datganiad o Ddiben y gwasanaeth yn nodi y gofelir am bobl ag urddas â pharch. Nid yw amodau cysgu'r unigolyn hwn yn cynnig urddas na pharch. Gwnaethom ofyn i'r darparwr am dystiolaeth bod yr unigolyn hwn wedi cael ei atgyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol am gymorth a chyngor ar anymataliaeth; ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth. Felly, nid yw'r unigolyn hwn wedi cael ei gefnogi i gynnal ei annibyniaeth na'i anghenion personol. Hefyd, o ran ei anghenion personol mewn perthynas â mynd i'r toiled, gwnaethom ofyn am dystiolaeth ei fod wedi cael ei atgyfeirio at Uwch-ymarferydd Nyrsio Anymataliaeth, ac nid ydym wedi cael y dystiolaeth hon. Mae Datganiad o Ddiben y gwasanaeth yn nodi y caiff pobl eu cefnogi i gyflawni eu cynlluniau personol a'u canlyniadau. Yn ystod yr arolygiad, nododd yr arolygydd fod y staff yn frysiog ac

nad oedd ganddynt amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r bobl. Gwnaethom siarad â'r bobl sy'n byw yn y cartref, a ddywedodd wrthym, er bod y gydberthynas rhyngddynt â'r staff yn dda iawn, bod y staff yn aml yn brysur ac yn frysiog, ac na allant ymateb iddynt mewn modd amserol. Yr effaith ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yw nad yw'r gofal a gynigir iddynt bob amser yn unol â'r hyn a nodir yn y Datganiad o Ddiben. Nid yw hawl pobl i gael dewis a rheolaeth dros eu diwrnod bob amser yn cael ei gefnogi. Mae'r diffyg gweithgareddau yn y cartref yn golygu na chaiff y bobl eu hysgogi ac na chânt eu hannog i gymdeithasu. Mae'r ffactorau amgylcheddol o ran glendid a dodrefn a chyfarpar priodol yn herio gofal dyddiol y bobl.

Arwain a Rheoli Ein Cyf: NONCO-00009926-YCVN

Y diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad hwn

Amserlen gwblhau 11/01/21

Disgrifiad o'r diffyg cydymffurfio / Camau gweithredu

Rhif y rheoliad

Rheoliad 34 – staffio. Y rheswm dros yw hyn yw nad yw'r darparwr bob amser wedi gwneud yn siŵ\r bod niferoedd digonol o staff yn gweithio yn y cartref i sicrhau ansawdd y gofal.

34(1)

Tystiolaeth

- Nid yw'r person cofrestredig yn cydymffurfio â rheoliad 34 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

- Y rheswm dros hyn yw nad yw darparwr y gwasanaeth wedi sicrhau bod niferoedd digonol o staff yn y gwasanaeth, gan ystyried y Datganiad o Ddiben, anghenion gofal a chymorth yr unigolyn, a chefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

- Y dystiolaeth: Nid yw'r darparwr wedi rhoi system gadarn ar waith i bennu nifer y staff sydd eu hangen i ddarparu gofal a chymorth dibynadwy i unigolion, gan ystyried canlyniadau a ddymunir y bobl. Rydym wedi trafod materion staffio â'r darparwr ond nid yw wedi gallu darparu dull gweithredu clir i ni mewn perthynas â'r mater hwn. Caiff anghenion staffio eu cyfrifo'n rhannol ar sail anghenion hanesyddol a'r oriau staff sydd ar gael i gyflenwi sifftiau – heb ystyried anghenion unigol y bobl na chyflenwad ar gyfer salwch ac argyfwng. Mae'r ddarpariaeth staffio yn seiliedig ar nifer penodol, heb unrhyw hyblygrwydd yn y system, felly, nid yw niferoedd y staff bob amser yn adlewyrchu anghenion y bobl na'r staff er mwyn ymateb i anghenion sy'n newid. Yn ôl y Datganiad o Ddiben, caiff pobl eu cefnogi i gyflawni eu nodau a’u canlyniadau ac i wneud dewisiadau personol. Gwelodd yr arolygydd fod y staff yn frysiog ac yn brysur yn rhoi gofal sylfaenol. Hefyd, dywedodd y bobl sy’n byw yn y cartref wrthym fod y staff yn brysur iawn yn rhoi gofal sylfaenol ac nad oes ganddynt amser ar gyfer gweithgareddau na sgwrs. Dywedodd un teulu wrthym, er ei fod yn hapus gyda’r gofal a roddir yn y cartref, y gellid gwella’r cyfathrebu â theuluoedd am fod y staff yn brysur, a bod yn rhaid i'r teulu ffonio’r gwasanaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei berthynas. Dywedodd yr Unigolyn Cyfrifol, y rheolwr, a’r staff wrthym fod gan y bobl sy’n dod i fyw yn y cartref lefel gynyddol uwch o anghenion, o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio yn yr ardal. Nid yw darpariaeth staffio’r cartref yn adlewyrchu hyn, yn enwedig yn ystod y nos, pan fydd dau aelod o’r staff ar ddyletswydd. Rydym wedi gofyn i’r Unigolyn Cyfrifol am wybodaeth am y ddarpariaeth yn ystod y nos pan fydd angen dau aelod neu fwy o’r staff i ddarparu cymorth i bobl sy’n byw yn y cartref. Fodd bynnag, nid yw’r Unigolyn Cyfrifol wedi darparu ymateb clir i’n cais.

Derbyniodd AGC bryder am ddiffyg cefnogaeth i lesiant y staff. Gwnaethom ofyn am y gefnogaeth a roddir i'r staff a'u llesiant yn ystod yr arolygiad. Dywedodd y staff wrthym nad oeddent yn cael cyfle i drafod unrhyw absenoldeb neu anghenion yn dilyn salwch ac nad oeddent wedi cael sesiynau / hyfforddiant i’w cefnogi yn ystod y pandemig. Cadarnhaodd y rheolwr nad oedd cefnogaeth o’r fath yn cael ei darparu i’r staff. Nid oes unrhyw gynlluniau wrth gefn ar waith i gyflenwi mewn achosion o absenoldeb oherwydd salwch ac argyfwng. Dywedodd y rheolwr wrthym ei bod yn pryderu na ellid defnyddio staff asiantaeth i gyflenwi mewn achosion o absenoldeb oherwydd salwch, gan arwain at brinder staff yn y cartref. Dywedodd yr unigolyn cyfrifol wrthym nad oedd yn teimlo bod y rota wedi’i strwythuro fel y byddai wedi gobeithio er mwyn manteisio i’r eithaf ar oriau staff, gan olygu nad oedd rhai o’r staff yn gweithio eu horiau a gontractiwyd. Gwelsom fod tri aelod o’r staff, weithiau mwy, yn cael cymryd diwrnodau o wyliau ar yr un pryd. Gwelsom fod staff yn absennol oherwydd salwch ar sawl sifft, a oedd yn arwain at anawsterau o ran sicrhau bod y nifer cywir o staff ar ddyletswydd. Bu’n rhaid i wyth aelod o’r staff (gan gynnwys y rheolwr) ynysu yn ystod un cyfnod o bandemig COVID-19, gan adael y gwasanaeth heb ddigon o staff, staff heb arweinyddiaeth na chynllun wrth gefn. Cwynodd y staff am hyn i AGC a’r awdurdod lleol, gan nodi nad oeddent yn teimlo’n ddiogel a’u bod wedi cael eu "left to get on with it" (gadael i fwrw ati), gan orfod gweithio oriau hir i gyflenwi sifftiau eu hunain. Bu'n rhaid i AGC a'r awdurdod lleol ymyrryd er mwyn sicrhau bod digon o staff yn y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn pan oedd yr aelodau o'r staff yn hunanynysu. - Yr effaith ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yw na allant fod yn hyderus eu bod yn cael

gofal gan niferoedd digonol o staff. Ni all y bobl gael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau bob amser neu nid ydynt bob amser yn gallu gwneud dewisiadau mewn bywyd bob dydd am fod y staff yn brysur yn rhoi gofal sylfaenol. Ni all y bobl fod yn hyderus bod cynllun wrth gefn cadarn ar waith i ymdopi ag achosion o absenoldeb oherwydd salwch neu argyfwng.

Yr Amgylchedd Ein Cyf: NONCO-00009927-XMQR

Y diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad hwn

Amserlen gwblhau 11/01/21

Disgrifiad o'r diffyg cydymffurfio / Camau gweithredu

Rhif y rheoliad

Rheoliad 56 (1) – yr amgylchedd. Y rheswm dros hyn yw nad yw'r darparwr wedi sicrhau bod safonau hylendid da yn y cartref.

56(1)

Tystiolaeth

- Nid yw'r person cofrestredig yn cydymffurfio â rheoliad 56(1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

- Y rheswm dros hyn yw nad yw'r darparwr wedi sicrhau safonau hylendid boddhaol wrth ddarparu'r gwasanaeth.

- Y dystiolaeth: Cyn yr arolygiad, cafodd AGC bryder gan deulu am gyflwr y toiledau yn y cartref. Gwnaethom siarad â'r rheolwr a ddywedodd wrthym eu bod yn cael eu glanhau, ond bod y preswylwyr yn eu baeddu'n aml. Gwnaethom ofyn a oedd amserlenni ar waith ar gyfer glanhau'r toiledau, a dywedwyd wrthym nad oedd amserlenni o'r fath ar waith. Yn ystod yr arolygiad, darparodd y rheolwr amserlenni glanhau'r toiledau i ni ar gyfer tri diwrnod ar ddiwedd mis Tachwedd 2020. Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y toiledau'n cael eu harchwilio'n gyson drwy gydol y dydd na'u bod yn cael eu harchwilio bob dydd. Nid oedd unrhyw archwiliadau'n cael eu cwblhau yn ystod y nos er mwyn sicrhau eu bod yn lân ar gyfer y bore canlynol. Darparodd y rheolwr restr wirio ar gyfer archwilio'r gweithle i ni, wedi'i dyddio 18 Tachwedd 2020. Roedd y rhestr wirio yn nodi bod y waliau'n dangos arwyddion o ddifrod, lleithder neu lwydni mewn dwy ystafell a'r toiledau ar y llawr gwaelod. Roedd hefyd yn nodi nad oedd unrhyw finiau ailgylchu yn y cartref, a bod rhai eitemau o ddodrefn yn y cartref yn ansefydlog ac wedi'u difrodi. Nid oedd y ddogfen wedi'i llofnodi i ddangos pwy oedd wedi cwblhau'r rhestr wirio ac nid oedd unrhyw gamau gweithredu/canlyniadau wedi'u nodi i gadarnhau bod gwelliannau wedi'u cynllunio/gwneud. Wrth arolygu'r cartref, gwelsom fod ardaloedd yn anniben a bod fframiau cerdded wedi'u gadael yn yr ardal fwyta, gan greu perygl o faglu i'r bobl. Gwelsom nad oedd tymereddau'r oergelloedd a'r rhewgelloedd yn cael eu harchwilio'n gyson er mwyn sicrhau diogelwch bwyd. Gwelsom y staff yn cario dillad budr drwy ardal gweini bwyd. Roedd y bagiau dillad budr ar agor, gan greu risg o haint. Roedd llestri a chyllyll a ffyrc arall ar yr arwynebau yn yr ardal gweini bwyd ac, felly, yn agored i haint microbaidd. Gwnaethom ofyn i'r rheolwr am bolisi golchi dillad; rhoddwyd gweithdrefn newydd (a ysgrifennwyd ym mis Tachwedd 2020) i ni, felly nid oedd yn glir pa bolisi oedd ar waith cyn hyn. Nid oedd y polisi'n rhoi arweiniad clir i'r staff ynghylch y weithdrefn orau ar gyfer golchi dillad er mwyn sicrhau mesurau rheoli heintiau da.

Gwelsom fod meddyginiaethau'n cael eu cadw mewn blwch plastig budr, a oedd yn sticlyd. Gofynnodd yr arolygydd i'r rheolwr ei lanhau. Gwelodd yr arolygydd fod matres unigolyn yn wlyb ag wrin ac wedi'i staenio. Roedd hwn wedi'i osod wrth ffenestr i sychu. Nododd yr unigolyn a'r aelod o'r staff fod hyn yn broblem gyson. Roedd y llawr o dan y gwely yn ddu â baw a bryntni, ac roedd y carped wedi'i staenio yn gyffredinol. Roedd ffrâm y gwely a'r byrddau sgyrtin hefyd yn fudr. Yn ystod yr ymweliad arolygu, nododd yr arolygydd fod angen glanhau rhai ardaloedd a chadeiriau, neu osod rhai newydd yn eu lle. Cadarnhawyd hyn gan y staff a'r bobl sy'n byw yn y cartref hefyd. Roedd y cartref yn anniben yn gyffredinol ac roedd staeniau ar y llawr ym mhob rhan o'r cartref. Dywedwyd bod matres arall mewn cyflwr gwael. Gwnaethom drafod hyn â'r unigolyn cyfrifol, a ddywedodd wrthym mai eiddo'r unigolyn oedd y matres, a'i fod wedi gwrthod cael un newydd yn ei le. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw gofnodion o'r trafodaethau hyn â'r unigolyn nac o'r ffordd yr oedd unrhyw risgiau o haint yn cael eu rheoli. - Yr effaith ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yw na allant fod yn hyderus eu bod yn byw

mewn amgylchedd glân sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant.

Arwain a Rheoli Ein Cyf: NONCO-00009929-SGPJ

Y diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad hwn

Amserlen gwblhau 11/01/21

Disgrifiad o'r diffyg cydymffurfio / Camau gweithredu

Rhif y rheoliad

Rheoliad 58 (1) – meddyginiaethau. Rhaid i'r darparwr hwn sicrhau bod systemau diogel ar waith ar gyfer storio a rhoi meddyginiaethau yn y cartref.

58(1)

Tystiolaeth

- Nid yw'r unigolyn cofrestredig yn cydymffurfio â rheoliad 58 (1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

- Y rheswm dros hyn yw nad yw darparwr y gwasanaeth wedi sicrhau bod trefniadau ar waith i storio a rhoi meddyginiaethau'n ddiogel.

- Y dystiolaeth: Cyn yr arolygiad, cafodd AGC bryder am arferion storio a rhoi meddyginiaethau gwael yn y cartref, ac ystyriwyd hyn yn y rhan hon o'r arolygiad. Caiff meddyginiaethau eu cadw ym mhrif ardal fwyta'r cartref. Gofynnodd yr arolygydd am brofion tymheredd amgylchynol er mwyn sicrhau eu bod ar y lefelau cywir ar gyfer storio meddyginiaethau. Dywedodd y rheolwr nad oedd unrhyw dymereddau wedi'u cofnodi i ddangos bod tymereddau cywir ar gyfer storio meddyginiaethau yn cael eu cynnal. Gwelodd yr arolygydd fod y cwpwrdd meddyginiaethau ar agor. Roedd hyn yn peri risg ddifrifol i iechyd a diogelwch y bobl sy'n byw yn y cartref (yn enwedig pobl sy'n byw â dementia) pe baent yn cael gafael ar y cwpwrdd ac yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn neu'n cymryd gorddos o feddyginiaethau presgripsiwn. Gofynnodd yr arolygydd am yr allweddi, a phwyntiodd y rheolwr at dop y cwpwrdd. Gofynnodd yr arolygydd am i'r cwpwrdd gael ei gloi, ac i'r rheolwr gadw'r allweddi mewn man diogel. Nid yw hyn yn cydymffurfio â'r polisïau a'r gweithdrefnau ar gyfer storio a rhoi meddyginiaethau'n ddiogel. Gwnaethom ofyn am gofnodion i ddangos hyfforddiant ar feddyginiaethau a chymwyseddau ar gyfer y staff; cawsom dystiolaeth ar gyfer un aelod o'r staff ond nid oedd unrhyw gofnodion o hyfforddiant ar feddyginiaethau ar gael ar gyfer unrhyw aelod arall o'r staff a oedd yn rhoi meddyginiaethau. Felly, ni allai'r darparwr ddarparu tystiolaeth bod y staff wedi cael hyfforddiant priodol ar roi meddyginiaethau. Cyn yr arolygiad, cawsom bryder bod y cwpwrdd meddyginiaethau yn cynnwys meddyginiaethau diangen yr oedd angen iddynt gael eu dychwelyd i'r fferyllfa neu eu dinistrio. Dywedodd y rheolwr wrthym nad oedd hyn wedi digwydd oherwydd cyfyngiadau gwaith, a dywedodd nad oedd y fferyllfa leol wedi eu casglu yn ddiweddar ond y byddai'n ei ffonio. Dylid gwaredu meddyginiaethau heb eu defnyddio yn ddiogel fel mater o flaenoriaeth am fod eu

storio mewn cwpwrdd heb ei gloi yn peri risg i iechyd a diogelwch y bobl ac yn cynyddu'r posibilrwydd o gamgymeriad wrth roi meddyginiaethau. Gwelsom nad oedd y rheolwr yn cadw at arferion cadarn ar gyfer atal achosion o groesheintio, megis golchi dwylo cyn ac yn ystod y rownd meddyginiaethau, a oedd yn peri risg o haint, yn enwedig yn ystod pandemig presennol COVID-19. Gwnaethom ofyn am gopïau o archwiliadau meddyginiaeth diweddaraf y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu storio a'u rhoi'n ddiogel, a bod cyflenwad digonol ohonynt. Fodd bynnag, ni ddarparwyd y rhain. Gallai archwiliadau o'r fath fod wedi amlygu'r materion a nodwyd gennym yn ystod yr arolygiad er mwyn galluogi'r darparwr i gymryd camau amserol i leihau'r risgiau i iechyd a diogelwch y bobl. - Yr effaith ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yw na allant fod yn hyderus bod

meddyginiaethau'n cael eu storio'n ddiogel yn y cartref er mwyn sicrhau eu hiechyd a'u diogelwch eu diogelu.

Arwain a Rheoli Ein Cyf: NONCO-00009930-MXWC

Y diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr arolygiad hwn

Amserlen gwblhau 11/01/21

Disgrifiad o'r diffyg cydymffurfio / Camau gweithredu

Rhif y rheoliad

Rheoliad 66 (1) – goruchwylio a rheoli'r gwasanaeth. Rhaid i'r darparwr sicrhau y caiff ansawdd y gofal yn y cartref ei oruchwylio'n gadarn.

66

Tystiolaeth

- Nid yw'r darparwr cofrestredig yn cydymffurfio â rheoliad 66 (1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.

- Y rheswm dros hyn yw nad yw'r unigolyn cyfrifol wedi goruchwylio'r gwasanaeth yn unol â'r camau a ddisgrifir yn rheoliadau 64, 72 a 73.

- Y dystiolaeth: Mae'r unigolyn cyfrifol a'r rheolwr wedi codi pryderon ag AGC am ddiffyg cyfathrebu â'i gilydd. Cadarnhawyd y diffyg cyfathrebu hwn gan y staff sy'n gweithio yn y gwasanaeth. O ganlyniad, dywedodd yr unigolyn cyfrifol, y rheolwr â'r grŵp o staff wrthym nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Fodd bynnag, nid oedd yr unigolyn cyfrifol wedi cymryd camau cadarn i ddatrys y mater hwn. Gwnaethom ofyn am gopi o adolygiad chwemisol y gwasanaeth o ansawdd y gofal, sy’n ystyried barn y bobl, eu teuluoedd, y staff a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y gwasanaeth. Nid yw’r unigolyn cyfrifol wedi cwblhau adolygiad o’r fath, ac ni all ddangos gwybodaeth am lesiant y bobl na’u canlyniadau personol a ddymunir. Dywedodd dau allan o dri o'r teuluoedd y gwnaethom siarad â nhw nad ydynt yn adnabod yr unigolyn cyfrifol newydd ac nad ydynt wedi cael unrhyw ohebiaeth ganddo. Dywedodd y staff wrthym nad ydynt wedi cyfathrebu llawer â'r unigolyn cyfrifol ac nad ydynt yn ymwybodol o ddymuniadau'r darparwr na'i weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth, sy'n destun pryder iddynt. Nid yw'r unigolyn cyfrifol yn goruchwylio'r materion amgylcheddol yn ddigonol. Pan wnaethom drafod y materion yn ymwneud â hylendid, croesheintio a chynnal a chadw ag ef ar ddiwedd yr arolygiad, nododd yr unigolyn cyfrifol nad oedd yn ymwybodol o'r materion, ond dywedodd wrthym y byddai'n gwneud gwelliannau. Nid yw'r gofal a ddisgrifir yn y Datganiad o Ddiben, sy'n hyrwyddo hawliau'r bobl, eu hunigoldeb, eu dewis a'u rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, yn cael ei gyflawni am nad yw'r bobl yn cael dewis o ran deiet na gweithgareddau yn eu bywydau dyddiol. Ar adegau, mae niferoedd annigonol o staff i gyflawni'r telerau a ddisgrifir yn y Datganiad o Ddiben o ran gofal.

Nid yw'r unigolyn cyfrifol wedi rhoi systemau digon cadarn ar waith i sicrhau adnoddau, cyfleusterau a chyfarpar digonol yn y cartref. Gwelsom hyn yn ystod yr arolygiad a chadarnhawyd y materion a welsom gan y staff, y bobl sy'n byw yn y cartref, a'u teuluoedd. Nid oes gan yr unigolyn cyfrifol systemau ar waith i adolygu ac asesu'r ffordd y mae'r rheolwr yn rhoi camau a nodwyd yng nghanfyddiadau archwiliadau sicrhau ansawdd ar waith. Nododd y rheolwr ei bod yn darparu adroddiad misol i'r unigolyn cyfrifol. Nododd yr unigolyn cyfrifol nad oedd yn cael fawr ddim gohebiaeth gan y rheolwr ac nad oedd yn ymwybodol o'r materion yn y cartref. Gwnaethom ofyn am enghreifftiau o unrhyw adroddiadau a ddarparwyd i'r unigolyn cyfrifol gan y rheolwr, ond ni chawsom unrhyw adroddiadau o'r fath. Nid oes unrhyw linellau atebolrwydd, dirprwyo na chyfrifoldeb clir, wedi'u dogfennu, rhwng yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr. Mae'r unigolyn cyfrifol wedi anfon disgrifiadau swydd, ond heb unrhyw gyfeiriad o ran cyfrifoldebau dirprwyedig rhwng yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr. Nid oes unrhyw strwythur rheoli wedi'i ddogfennu. Cyn yr arolygiad, pan fu'n rhaid i wyth aelod o'r staff ynysu yn sgil pandemig COVID-19, nid oedd unrhyw gynllun wrth gefn ar waith ar gyfer y staff nac unrhyw linell atebolrwydd yn absenoldeb y rheolwr. Roedd hyn yn golygu nad oedd y staff yn cael y gefnogaeth na'r cyfeiriad yr oedd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion iechyd, diogelwch a llesiant y bobl yn hyderus. Nid oes unrhyw gynllun wrth gefn ar waith yn absenoldeb aelodau allweddol eraill o'r staff, megis y staff glanhau. Ni nodwyd hyn yn fater gan yr unigolyn cyfrifol yn ystod achos diweddar pan fu'n rhaid i'r staff glanhau hunanynysu yn sgil pandemig COVID-19. Bu'n rhaid i AGC ymyrryd er mwyn sicrhau staff cyflenwi i gyflawni'r dyletswyddau glanhau. Roedd y mater hwn yn arbennig o bwysig o ystyried yr achos positif o COVID-19 ymhlith y staff ac, felly, yr angen i lanhau'r cartref yn drylwyr. Gwnaethom ofyn am fanylion am drefniadau'r unigolyn cyfrifol ar gyfer goruchwylio ac arfarnu'r rheolwr, ond ni ddarparwyd y manylion hyn. Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr unigolyn cyfrifol yn rhoi cymorth ffurfiol i'r rheolwr. Nid yw’r rheolwr bob amser mewn cysylltiad uniongyrchol â’r unigolyn cyfrifol nac yn cael cyfle i gyfarfod ag ef yn ffurfiol fel rhan o adolygiadau sicrhau ansawdd er mwyn datrys unrhyw faterion a gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol. Nid oes unrhyw dystiolaeth o archwiliadau o’r gwasanaeth, a allai helpu i sicrhau bod systemau diogel ar waith mewn perthynas â rheoli meddyginiaethau, storio bwyd, maeth, rheoli heintiau, goruchwylio’r staff a chadw at bolisïau a gweithdrefnau, cefnogi’r staff, hyfforddiant, ac iechyd y croen (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr). Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr unigolyn cyfrifol yn goruchwylio ansawdd y gofal a roddir yn y cartref. Nid yw’r staff yn cael fawr ddim cefnogaeth. Gwnaethom ofyn i’r rheolwr am gofnodion y cyfarfod staff diweddaraf a chawsom agenda ar gyfer un cyfarfod ym mis Ionawr 2020. Fodd bynnag, ni ddarparwyd unrhyw gofnodion i ddangos bod y cyfarfod wedi’i gynnal, y materion a drafodwyd, na bod unrhyw gamau gweithredu gofynnol wedi’u cwblhau. Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth arall o gyfarfodydd. Nododd pryder a godwyd gydag AGC nad oedd llesiant y staff yn cael ei gefnogi, ac nad oedd unrhyw gyfweliadau dychwelyd i’r gwaith yn cael eu cynnal ar ôl absenoldeb staff oherwydd salwch. Hefyd, roedd aelodau o’r staff yn cymryd absenoldeb oherwydd salwch yn rheolaidd, a hynny ar y funud olaf, am nad oedd unrhyw ganlyniadau. Ni allem weld unrhyw dystiolaeth bod cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith yn cael eu cynnal ar ôl

absenoldeb oherwydd salwch. Cyfaddefodd y rheolwr nad oedd yn cynnal cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith am nad oedd wedi cael hyfforddiant i wneud hynny. Eglurodd AGC fod hyn yn rhan annatod o’r rôl y disgwylid iddi ei chyflawni. Nid yw’r unigolyn cyfrifol wedi ymweld â’r cartref ers mis Chwefror 2020. Mae hyn wedi golygu nad yw wedi gallu cyflawni ei rwymedigaethau fel unigolyn cyfrifol y gwasanaeth, ac nad yw wedi nodi’r materion a nodwyd gennym yn ystod yr arolygiad. Nid yw wedi mynd i’r afael â materion mewn modd cadarn nac amserol. - Yr effaith ar y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yw na allant fod yn hyderus bod rheolaeth,

ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth yn cael eu goruchwylio’n gadarn. Nid oes unrhyw linellau atebolrwydd na strwythur rheoli clir, ac mae hyn yn peri risg i’r bobl yn achos argyfwng neu absenoldeb aelodau allweddol o’r staff.