pecyn recriwtio · 2020. 3. 25. · pecyn recriwtio. croeso opi o’r hysbyseb yn y yfryngau trefn...
TRANSCRIPT
-
Penodi
Rheolwr Gyfarwyddwr
Cartrefi Conwy
Pecyn Recriwtio
-
Croeso
Copi o’r Hysbyseb yn y Cyfryngau
Trefn Sefydliadol
Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn
Crynodeb o’r Amodau a Thelerau
Sut i Wneud Cais
Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth *(fersiwn Word ar gael i’w lawrlwytho)
Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy
Ynglŷn â’r Swydd
Dogfennau Pwysig Eraill
-
Annwyl ymgeisydd,
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio gyda Chartrefi Conwy fel Rheolwr Gyfarwyddwr
nesaf Cartrefi Conwy. Wrth i’r Rheolwr Gyfarwyddwr presennol ymddeol, rydym yn chwilio
am aelod newydd i’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol a fydd yn dal i hybu twf gan ddangos y
gallu i arwain mewn diwylliant bywiog sydd â phobl yn ganolog iddo.
Mae’n lle unigryw i weithio ynddo. Enwyd Cartrefi Conwy yng Nghant Uchaf papur newydd y Times o gwmnïau dielw i weithio iddynt, ac mae’r ymateb a gafwyd o'r arolwg yn dweud y cyfan... “Rwy’n teimlo’n gryf bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud gyda’n gilydd yng Nghartrefi Conwy yn gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl.” Rydyn ni wir yn canolbwyntio ar y gymuned, ac o’r cychwyn cyntaf rydyn ni wedi ymdrechu i greu cymunedau i ymfalchïo ynddynt. Y llynedd fe wnaethom ddathlu dengmlwyddiant ers sefydlu Cartrefi Conwy, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein cymdogaethau. Efallai mai dim ond megis dechrau ydym ni, ond rydyn ni wedi ennill enw da iawn am fod ar flaen y gad yn yr hyn rydym yn ei wneud. Amlygwyd hynny pan ddaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, i ymweld â’n cynllun i wella’r amgylchedd yn Nhre Cwm fis Awst diwethaf. Dywedodd: “Does dim dwywaith fod hwn yn un o’r enghreifftiau gorau o gynlluniau adnewyddu tai cymdeithasol rwyf wedi’u gweld yng Nghymru. “Pe gallem ni grisialu’r hyn mae Cartrefi Conwy wedi’i gyflawni yma a’i ddefnyddio ymhobman arall, byddai Cymru gyfan ar ei hennill.”
Efallai bod yno Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig mwy yng Nghymru, ond rydyn ni’n
cystadlu gyda’r goreuon ac yn dod yn fwyfwy dylanwadol yn y sector. Byddwn yn disgwyl ichi
gynnal a datblygu ein proffil yn rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn meithrin
partneriaethau a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein dyheadau yn y dyfodol yn ogystal â
gweithredu ein cynlluniau presennol. I roi rhyw syniad ichi; rydyn ni wrthi’n datblygu 450 o
gartrefi newydd erbyn 2025, mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd hyn yn dilyn
ymlaen o lwyddiant ysgubol ein Gwasanaeth Byw’n Annibynnol, ac yn newid y ffordd y mae
ein cwsmeriaid yn meithrin cyswllt â ni drwy annog pobl i gyfathrebu'n ddigidol. Rydyn ni
hefyd yn bwriadu ymestyn ein his-gwmni Creu Menter a’r fenter newydd ar y cyd, Cartrefi
Calon.
Mae hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun y Credyd Cynhwysol, y rhaglen di-garbon a’r
adolygiad tai fforddiadwy sy’n dod â newidiadau inni a’n cwsmeriaid. Rydyn ni’n gwybod y
bydd yn rhaid inni ddal i arloesi wrth wynebu’r heriau hyn. Ar yr un pryd byddwch yn gweithio
gyda mi wrth drafod cyfleoedd a syniadau newydd ar gyfer ein cynlluniau i’r dyfodol. Byddwch
yn defnyddio’ch profiad helaeth mewn amrywiaeth o sectorau i greu datrysiadau a
phartneriaethau, a bydd gennych hanes o gynhyrchu budd cymunedol.
Rwy’n arbennig o falch o’r hyn yr ydym wedi'i gyflawni yn ein 11 mlynedd gyntaf, ac mae ein
gwerthoedd yn adlewyrchu'r math o bobl rydym ni'n eu recriwtio yng Nghartrefi Conwy, ac
felly byddwn wrth fy modd yn clywed oddi wrthych chi os ydych chi:
Yn ymrwymo i ansawdd Yn arloesol
Yn gwneud y peth iawn
-
Mae Cartrefi Conwy yn sefydliad sydd ar seiliau ariannol cryf ac mae cyfleoedd cyffrous ar y
gorwel, felly mae'n amser delfrydol i rywun uchelgeisiol ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth
blaengar. Mae’r wybodaeth yn y pecyn ymgeisio yn rhoi syniad ichi o’r gwaith rydym yn ei
wneud, ond os hoffech chi wybod mwy gallwch fynd i’n gwefan, neu am sgwrs gyfrinachol
cysylltwch â Susan Richardson yn EMA ar 079366 890790.
Rydym wrthi’n llunio ein cynllun busnes newydd ond mae ein Gweledigaeth bresennol yn
cynnwys pedair thema strategol:
Os hoffech chi ymuno â ni ar y daith, rhowch wybod inni pa wahaniaeth y gallwch ei wneud a
pha rinweddau y byddwch yn eu cyfrannu fel y gallwn ragori ar ein llwyddiant hyd yma.
Edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais, erbyn hanner dydd ar Ebrill 6ed 2020.
Andrew Bowden, Prif Weithredwr Grŵp, Cartrefi Conwy
-
Ynglŷn â’r ardal y byddwch chi’n byw a gweithio ynddi...
Ar hyn o bryd mae Cartrefi Conwy’n gweithredu mewn pedair sir yng ngogledd Cymru
(Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd) ac mae gennym uchelgeisiau i fynd ymhellach.
Dair blynedd yn ôl enwyd gogledd Cymru’n un o’r mannau gorau yn y byd i ymweld â hwy yn
rhestr flynyddol Lonely Planet.
Gogledd Cymru oedd yr unig ran o’r Deyrnas Gyfunol ar y rhestr, gan ddod yn bedwerydd o
blith yr holl leoedd a gafodd glod gan banel o awduron, cyhoeddwyr ac arbenigwyr ym maes
teithio.
Mae gan ogledd Cymru lawer iawn i’w gynnig, gan gynnwys gweithgareddau awyr agored fel
syrffio, dringo, cerdded, beicio, hwylio, caiacio a hwylfyrddio, y gallwch eu mwynhau mewn
cefn gwlad godidog, safleoedd treftadaeth y byd a threfi glan môr poblogaidd.
Wrth i ogledd Cymru ennill enw da am y bwrlwm o ddigwyddiadau bwyd, diwylliant a
chelfyddydau, mae rhywbeth at ddant pawb yma. Mae pris tŷ ar gyfartaledd yn y Gogledd yn
£184,238 (Rightmove 2020) o gymharu â chyfartaledd £234,742* y DU, ac felly mae’n lle
deniadol i fyw a gweithio ynddo am nifer o resymau.
Saif Prif Swyddfa newydd Cartrefi Conwy, sydd wedi ennill safon ragorol BREEAM, ar arfordir
bendigedig gogledd Cymru (gyda golygfeydd dros y môr!). Mae’n hawdd cyrraedd y swyddfa
ar wibffordd yr A55, dim ond tri chwarter awr o brysurdeb dinas hanesyddol Caer, ac nid
nepell i ffwrdd mae Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n lle gwych i bobl sy’n hoff o gyffro’r awyr
http://go.theguardian.com/?id=114047X1572903&url=http%3A%2F%2Fwww.lonelyplanet.com%2Fbest-in-travel&sref=https://www.theguardian.com/travel/2016/oct/25/north-wales-lonely-planet-2017-lonely-planet-best-in-travel-listhttps://www.theguardian.com/uk/wales
-
agored, neu sydd eisiau llonydd a thawelwch.
*Y Gofrestrfa Tir, Rhagfyr 2019
-
F1 Mawrth 2020
1
Rheolwr Gyfarwyddwr- Cartrefi Conwy Proffil y swydd PWRPAS Y SWYDD
Bydd deiliad y swydd yn...
Gweithio gyda’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol a’r Bwrdd i lywio cyfeiriad strategol y busnes trwy gyd-gynhyrchu gyda phob budd-ddeiliaid; bwrw ymlaen gyda’r cynllun strategol a’i adolygu, rheoli adnoddau’n effeithiol i gyflwyno cynlluniau a darparu sicrwydd i’r Bwrdd.
Arwain, datblygu a thyfu’r tîm darparu, y gadwyn gyflenwi, sylfaen cwsmeriaid a pherthnasau strategol o fewn y rhanbarth.
Galluogi datblygu a strategaethau llwyddiannus sydd yn ein helpu i greu cymunedau i fod yn falch ohonynt; yn cynnwys adfywio cymunedol, datblygu cymdogaeth, rheoli asedau’n weithgar, diogelwch tenantiaid, cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol; darparu arweinyddiaeth strategol sydd yn canolbwyntio ar gwsmeriaid i Gartrefi Conwy a galluogi cydweithwyr i gyflwyno perfformiadau uchel ar draws y busnes.
Cyfrannu at ddatblygu strategaethau risg a diwylliant o ymwybyddiaeth risg ar draws Cartrefi Conwy a sicrhau cydymffurfedd yn erbyn safonau cydymffurfio y rheoleiddiwr.
HYD A LLED Y SWYDD
- Cyfanswm trosiant y sefydliad £25m
- 4000 o gartrefi ar draws deiliadaethau cymdeithasol, canolradd a rhentu i berchnogi
- Cyfrifoldeb dros reoli pobl, 147 yn anuniongyrchol, a chyfanswm o 175 o weithwyr yn y
busnes cyfan
- Bydd yn rhaid teithio rhywfaint yn rhanbarthol ac yn genedlaethol
CYSYLLTIADAU ALLWEDDOL
Yn atebol i’r: Prif Weithredwr Grŵp
Tîm: Y Tîm Arweinyddiaeth Weithredol
Yn rheolwr atebol dros: Pennaeth Cymdogaethau, Pennaeth Datblygu, Rheolwr Adfywio Cymunedol, Rheolwr Adfywio Cymunedol
Allanol: Arweinwyr gwleidyddol yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Cymheiriaid yn y Sector Tai, Cartrefi Cymunedol Cymru, Y Sefydliad Tai Siartredig, swyddogion Undebau Llafur
Mewnol: Byrddau Cartrefi Conwy a phwyllgorau aelodau eraill o’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, cydweithwyr yn y tîm ehangach a’u cynrychiolwyr.
-
F1 Mawrth 2020
2
FFOCWS A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Arwain y busnes
Gyrru a goruchwylio cynlluniau ac adnoddau Cartrefi Conwy mewn perthynas â: darpariaethbresennol gwasanaethau landlordiaid ac yn y dyfodol, iechyd a diogelwch, gwerth cymdeithasol,rheoli asedau, datblygu, cydymffurfio a chyflwyno’r cynllun busnes, darparu sicrwydd i bwyllgorauperthnasol a’r Bwrdd.
Datblygu rhwydweithiau effeithiol yn lleol a ffurfio cysylltiadau strategol hirdymor â phartneriaidmewn ffordd sy’n gwella perfformiad ac yn ychwanegu gwerth at y busnes.
Atebolrwydd a llywodraethu
Gweithio gyda’r Prif Swyddog Gweithredol ac aelodau o’r tîm Gweithredol er mwyn sicrhaullywodraethu ac atebolrwydd effeithiol o ran y cynlluniau busnes
Darparu gwybodaeth briodol ac amserol, gan alluogi trafodaeth agored a thryloyw rhwngswyddogion gweithredol ac anweithredol, gan osod safonau uchel o ran uniondeb.
Gweithio â'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol wrth yrru cynlluniau busnes yn eu blaenau a phennuamcanion strategol.
Sicrhau y caiff polisïau a chynlluniau priodol eu llunio a’u lledaenu gydol y busnes a’u bod yngydnaws ag ymddygiad a gwerthoedd cytûn.
Cydweithio â’r tîm Gweithredol i sicrhau bod risg yn cael ei reoli’n briodol a’i liniaru.Arwain y profiad i gwsmeriaid
Arwain diwylliant sy’n rhoi pwyslais cryf ar berfformiad ac ymrwymo i ragoriaeth, ganganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau amrywiol, o ansawdd ac sy’n werth am arian sy’n bodloniholl anghenion y cwsmeriaid.
Cefnogi awyrgylch lle mae barn y cwsmeriaid yn ganolog i ddatblygu’r gwasanaeth, a bodgwasanaeth i gwsmeriaid mewnol yn rhan annatod o’r diwylliant.
Adnabod cyfleoedd i fod yn arloesol a gwella gwasanaethau a chyfathrebu, yn enwedig trwydechnoleg newydd.
Cyflwyno newidiadau yn y dirwedd tai fforddiadwy i sicrhau fod pawb yn deall yr effeithiau posib,yn manteisio ar gyfleoedd ac yn eu rheoli'n dda.
Arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau sydd yn amrywio ac yn galluogi ymrwymo a dylanwaduar gwsmeriaid Cartrefi Conwy.
Gwrando ar farn cwsmeriaid Cartrefi Conwy, a rhoi cyngor i’r tîm Gweithredol ehangach a’r Bwrddam gyfleoedd i wella profiad y cwsmeriaid.
Arwain pobl
Arwain a chefnogi prosesau rheoli newid sydd yn cyflwyno uchelgais twf y Bwrdd a chreu’r sgiliau,profiad a gallu i greu dyfodol cynaliadwy.
Arwain tîm rheoli’r tîm rheoli, ei gymell a’i ddatblygu fel bod ei berfformiad yn gyson o safonuchel, ei fod yn gwireddu ei botensial ac yn darparu gwasanaeth o ansawdd da i Gartrefi Conwy,drwy ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i rymuso rheolwyr a meithrin diwylliant cryf o reoliperfformiad.
Arwain drwy esiampl i hyrwyddo gwerthoedd y Grŵp a sefydlu diwylliant o berfformiad cryf,gwerth gorau, cydweithio, dysgu parhaus a chreadigrwydd, er mwyn darparu gwasanaeth o’r raddflaenaf i gwsmeriaid a sicrhau fod yno weithwyr hyblyg sy’n medru datrys problemau gydol ybusnes.
Cyfrannu at reoli newid, integreiddio a gwella yn effeithiol.
Cefnogi diwylliant sy’n gwerthfawrogi a chlodfori amrywiaeth o ran proffil a syniadau.
Cefnogi diwylliant cadarnhaol o les o fewn y gweithlu i sicrhau fod gan Cartrefi Conwy y gallu igyflwyno ei amcanion strategol.
*Ni all proffil swydd arwain ar raddfa fel hon ymdrin â phob mater a all godi, ac mae disgwyl i ddeiliady swydd fod yn ddigon hyblyg i gyflawni dyletswyddau eraill fel y bo’r angen er mwyn sicrhauperfformiad effeithiol o ran y swydd a’r busnes yn gyffredinol.
-
F1 Mawrth 2020
3
Manylion am yr unigolyn
CYMWYSTERAU Aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig neu gymhwyster/profiad cyfwerth
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn maes sy’n gysylltiedig â thai/rheoli strategol
IOSH cyfarwyddo’n Ddiogel neu gymhwyster Iechyd a Diogelwch cyfwerth (dymunol)
PROFIAD
Profiad sylweddol mewn uwch swydd berthnasol ym maes tai cymdeithasol
Profiad o gyfranogiad sylweddol yn arwain sefydliad maint canolig gan gynnwys cyfrannuat y lleoliad a chyflwyno gweledigaeth strategol
Profiad o arwain a datblygu timau o fewn busnes sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
Profiad o weithio’n effeithiol â Byrddau neu Bwyllgorau.
Profiad o gydweithio ar lefel uwch ar draws sefydliad maint canolig/mawr ar sawl safle.
GWYBODAETH
Tystiolaeth o ddoethineb masnachol mewn lle gwaith.
Dealltwriaeth fanwl o reoleiddio, polisi, deddfwriaeth tai a darparu grant i wasanaethautai cymdeithasol a gwasanaethau cysylltiedig
Deall deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gofynion cydymffurfio yn y sector taicymdeithasol
Y cyd-destun gwleidyddol a chyfreithiol y mae Cartrefi Conwy yn gweithredu ynddoSgiliau craidd
Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio TG fel teclynnau rheoli data a phrofiad cyffredinol argyfer cyfathrebu (e.e. Skype for Busnes, Microsoft 365, ac ati)
Doethineb ariannol cryf
Rhinweddau personol
Arweinydd gwirioneddol, gydag ymrwymiad i ansawdd, gwasanaethau i gwsmeriaid, arferorau a gwerth gorau ymhob agwedd ar weithrediad y sefydliad.
Egni sylweddol a'r gallu i gyflawni canlyniadau, gweithio dan bwysau a chyflawni o fewnterfynau amser llym.
Medru arwain timau a gweithio’n dda fel aelod o dîm.
Yn gydnerth ac yn gadarn gydag agwedd gadarnhaol.
Sgiliau gwych o ran cyfathrebu a dylanwadu ar bobl.
Gwerthoedd cymdeithasol cryf
Llysgennad ar gyfer Cartrefi Conwy, cwsmeriaid a chynrychioli’r rhanbarth mewn moddcadarnhaol.
-
Crynodeb o’r Amodau a Thelerau
Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy Cyflog: Cystadleuol (gan ddibynnu ar allu a phrofiad)
Bonws: Hyd at 10% o’r cyflog ar sail perfformiad arbennig (asesir hyn fis Gorffennaf)
Lleoliad: Abergele, gogledd Cymru
Pecyn Adleoli: Os bydd arnoch angen adleoli er mwyn gweithio gyda ni, gallwn gytuno ar becyn adleoli hyblyg ar ôl eich penodi.
Lwfans Car: 10% o’r cyflog
Gofal Iechyd Preifat: Byddwch yn rhan o’n cynllun gofal iechyd preifat i swyddogion gweithredol, ac felly byddwch yn medru cael archwiliadau neu driniaethau meddygol yn gyflym os bydd arnoch eu hangen.
Pensiwn: Cynllun pensiwn â buddion diffiniedig, neu gynllun cyfraniadau diffiniedig pe byddai’n well gennych (gellir cynnig dewis o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol â buddion diffiniedig, neu Gynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol os ydych mewn cynllun SHPS ar hyn o bryd).
Gwyliau: 33 diwrnod o wyliau bob blwyddyn yn ogystal â gwyliau banc statudol (byddwn fel arfer yn cau dros y Nadolig, ac felly bydd arnoch angen cymryd tridiau o wyliau ar gyfer hynny).
Tâl Salwch: Hyd at chwe mis o gyflog llawn a chwe mis arall ar hanner cyflog (gan ddibynnu ar hyd eich gwasanaeth)
Cynllun Arian Parod Gofal Iechyd: Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o fuddion gofal iechyd drwy ein cynllun, a ddarperir ar hyn o bryd gan: UK Healthcare
Dysgu a Datblygu: Rydym yn ymrwymo i ddatblygu cydweithwyr ac yn cynnig hyfforddiant helaeth i'ch cefnogi yn eich swydd, neu i'ch helpu i symud ymlaen i swyddi eraill, ac yn cynnig nawdd ar gyfer cymwysterau ffurfiol a phroffesiynol.
Ffioedd Proffesiynol: Byddwn yn talu’r tâl aelodaeth blynyddol ar gyfer un corff proffesiynol cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â’ch swydd.
http://www.ukhealthcare.org.uk/cartreficonwy
-
Polisïau Cyfeillgar i Deuluoedd: Mae gennym amrywiaeth o bolisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd a fydd yn eich cynorthwyo i gael cydbwysedd rhwng y gwaith a’r cartref.
Cyfnod prawf: Bydd cyfnod prawf o chwe mis ar gyfer y swydd, lle bydd cyfnod rhybudd o fis i chi a Chartrefi Conwy os am ddiweddu’r swydd. Ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf, bydd y cyfnod rhybudd yn chwe mis.
-
Sut i wneud cais
Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd hon. Os ydych chi wedi darllen yr wybodaeth i’r
ymgeiswyr ac yn dymuno gwneud cais, dilynwch y canllawiau isod.
Y Broses Ymgeisio
Cyflwynwch Curriculum Vitae (CV) cyfredol a llythyr eglurhaol, gan sicrhau eich bod yn
defnyddio’r cyfeirnod HRMDCC.
Mae’n bwysig bod eich CV yn cynnwys tystiolaeth bod eich profiad a’ch sgiliau’n berthnasol i’r
meini prawf a nodir yn y swydd-ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn. Dylech hefyd gynnwys
yn eich CV:
Enw llawn a chyfeiriad post;
Rhif ffôn cartref ac yn y gwaith, rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost (dylid nodi y byddwn
yn gohebu â chi’n electronig yn bennaf);
Hanes cyflogaeth (gan esbonio unrhyw fylchau);
Addysg a’r dyddiadau yr enilloch chi eich cymwysterau;
Aelodaeth gyfredol o gymdeithasau/sefydliadau proffesiynol perthnasol, a’r dyddiadau ymaelodi.
Dylech ddefnyddio eich llythyr eglurhaol (dim mwy na thair tudalen) i esbonio pam mae’r
swydd hon wedi'ch denu chi, a sut fydd eich profiad yn cyfrannu at ddatblygiad Cartrefi Conwy.
Byddwn yn gweld eich llythyr eglurhaol fel rhan bwysig o’ch cais, a byddwn yn cyfeirio ato wrth
asesu eich cymhelliant ar gyfer y swydd.
Gofynnwn ichi hefyd gwblhau Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal.
Mae amserlen y Drefn Asesu a Dethol i’w gweld isod. Yn eich llythyr eglurhaol dylech roi
gwybod a oes unrhyw drafferth o ran y dyddiadau a bennwyd, a/neu unrhyw ddyddiadau pan
na fyddwch ar gael i’ch asesu. Fe geisiwn fod yn hyblyg yn hyn o beth, ond gallai fod yn anodd
cynnull y panel dethol ar ddyddiadau gwahanol gan fod gan bobl ymrwymiadau eraill.
Dychwelwch eich cais erbyn hanner dydd, 6 Ebrill 2020 (yn ddelfrydol ar ffurf electronig) i
[email protected]. Byddwn yn cadw eich cais yn gwbl gyfrinachol.
mailto:[email protected]
-
Y Drefn Asesu a Dethol Byddwn yn ystyried ac yn asesu pob cais ar sail gofynion y Manylion am yr Unigolyn, ac yn
llunio rhestr hir o ymgeiswyr ar sail hynny. Os byddwch chi’n llwyddiannus yn y cam cyntaf
hwn, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost, yn syth ar ôl y cyfarfod i bennu’r
rhestr hir.
Amserlen
Proses Dyddiad
Y Dyddiad Cau a hysbysebwyd ar gyfer ceisiadau:
Hanner dydd, Ebrill 6ed 2020
Llunio rhestr fer (ni fydd gofyn i ymgeiswyr fod yn bresennol)
Dydd Mawrth, Ebrill 8ed 2020
Cyfweliadau Sgrinio (bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu cyfweliadau, ac efallai y caiff y rhain eu cynnal ar sail rhithwir i gefnogi ymdrechion sy’n ymwneud â chyfyngu COVID-19, neu fel arall fe gânt eu cynnal yng ngogledd Cymru)
Dydd Iau, Ebrill 16ed 2020
Cyfweliadau ac Asesiadau Terfynol (bydd rhaid i ymgeiswyr lenwi proffil personoliaeth ar-lein cyn y cyfweliad)
I gael ei gadarnhau
Manylion Cyswllt Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd neu’r drefn asesu a dethol, neu os
hoffech chi gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol ag ymgynghorydd, mae croeso ichi gysylltu â
Susan Richardson yn EMA ar 07366 890790
Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon.
Siobhan Johnson
Pennaeth AD