pecyn adolygu cwestiwn 1b
DESCRIPTION
PECYN ADOLYGU CWESTIWN 1B. GRAMADEG CY3. Pecyn Adolygu Gramadeg. Bydd tri cwestiwn yn yr adran Gramadeg : Cwestiwn 1a): Bydd rhaid i chi lunio brawddeg i ddangos yn eglur ystyr a defnydd : B erfau Arddodiaid Idiomau Cysyllteiriau Cymalau Cwestiwn 1b): - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
PECYN ADOLYGU CWESTIWN 1B
GRAMADEG CY3
Pecyn Adolygu Gramadeg Bydd tri cwestiwn yn yr adran Gramadeg:
Cwestiwn 1a):
Bydd rhaid i chi lunio brawddeg i ddangos yn eglur ystyr a defnydd:- Berfau-Arddodiaid- Idiomau-Cysyllteiriau-Cymalau
Cwestiwn 1b):
Cywiro dau wall mewn brawddeg a nodi’r rheswm dros gywiro.
Cwestiwn 1c):
Cywiro deg gwall mewn paragraff. Gall y camgymeriadau gynnwys:-Treiglo-Berfau-Rhagenwau-Sillafu ac atalnodi- Troadau chwithig / idiomau- Camsillafu-Cymalau
Pob lwc!
TREIGLAD
MEDDAL
TREIGLAD
TRWYNOL
TREIGLAD LLAES
P > b P > mh P > ph
T > d T > nh T > th
C > g C > ngh C > ch
B > f B > m
D > dd D > n
G > _ G > ng
Ll > l
M > f
Rh > r
TABL TREIGLADAU
Amser Presennol (a Dyfodol)
Unigol Lluosog1. –af -wn2. –i -wch3. –(a) -antAmhersonol: -ir
Amser Gorffennol Unigol Lluosog1. –ais -(a)som2. –aist -(a)soch3. –odd -(a)sant
Amhersonol: -wyd
Amser Amherffaith
Unigol Lluosog1. –wn -em2. –it -ech3. –ai -ent Amhersonol: -id
Amser Gorberffaith
Unigol Lluosog1. –(a)swn -(a)sem2. –(a)sit -(a)sech3. –(a)sai -(a)sentAmhersonol: -(a)sid -(e)sid
BERFAUY Modd Mynegol
Person Unigol Lluosog1af Fy Ein2il Dy Eich
3ydd Ei gwrywaiddEi benywaidd
Eu
Rhagenwau a threigladauRhagenwau Dibynnol Blaen
h.y. Dyma’r rhagenwau sy’n dibynnu ar eraill yn y frawddeg:
Rheolau:•Ceir treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol gwrywaidd ‘ei’.•Ceir treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, ail unigol ‘dy’.•Ceir treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, cyntaf unigol ‘fy’.•Ceir treiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol benywaidd ‘ei’.
Hefyd:
• bod fi > fy mod = Y rhagenw dibynnol blaen cyntaf unigol ‘fy’ sy’n gywir o flaen y ferf ‘bod’ er mwyn dynodi meddiant. Ceir treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, person cyntaf unigol ‘fy’.
• eu gilydd > ei gilydd =Er bod y frawddeg yn sôn am fwy nag un person y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol ‘ei’ sy’n gywir gyda ‘gilydd’. Mae’n eithriad i’r rheol.
CENEDL ANGHYWIR =e.e.
Mae’r ferch yn cyfleu ei deimladau iddyn nhw’n eglur iawn. Camgymeri
adCywiriad Rheswm
ei deimladau ei theimladau Camdreiglad. Mae’r frawddeg yn cyfeirio at y ‘ferch’ ac felly mae angen y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd i gyd-fynd. Ceir treiglad llaes ar ôl y rhagenw dibynnol blaen, trydydd person unigol, benywaidd.
CAMSILLAFU
Rydw i wedi cyraedd tudalen olaf o’r llyfr.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
i.i cyraedd cyrraedd Camsillafiad. Mae angen dwblu’r ‘r’.
Bydd ei mham yn gwrthod mynd i siopa.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWM
3a ei mham ei mam Camdreiglad. Nid yw ‘mam’ yn treiglo ar ôl y rhagenw dibynnol blaen trydydd unigol benywaidd.
CENEDL ANGHYWIR – RHAGENW MEWNOL
Gwelodd y bardd lawer o’u gerddi mewn cylchgronau.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmo’u gerddi o’i gerddi Mae cenedl y rhagenw mewnol yn anghywir. Gan
mai enw unigol yw ‘bardd’ mae angen y rhagenw mewnol, trydydd person unigol, gwrywaidd yma i gyd-fynd.
RHAGENW MEWNOL + YCHWANEGU ‘H’
Bu Alaw yn alltud o’i ardal am ugain mlynedd.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMo’i ardal o’i hardal Mae angen ychwanegu ‘h’ o flaen enw
sy’n dechrau â llafariad os yw’n dilyn y rhagenwau mewnol ‘i.
y yr ‘rO flaen cytsain O flaen llafariaid
O flaen ‘h’Yn dilyn gair sy’n
gorffen gyda llafariaid.
Y fannod
Rheol:Mae enwau benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
e.e. Y bais, y gath
• Ceir eithriad i’r rheol hon: nid yw geiriau benywaidd unigol sy’n dechrau â ll a rh yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
e.e. y + llynges = y llynges nid y lyngesy + rheol = y rheol nid y reol
• Nid yw enw gwrywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. = e.e. Y ci
• Nid yw enw lluosog yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. = e.e. Y merched
CENEDL Y RHIFOLYNMae gen i dri cath.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWM
tri cath tair cath Mae cenedl y rhifolyn yn anghywir. Gan fod ‘cath’ yn enw benywaidd unigol mae’n rhaid cael y rhifolyn benywaidd ‘tair’ i gyd-fynd.
Rhifolion a threiglad
• Rheol: Mae enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un.
e.e. Un gath ddu, un gath wen.
• Rheol: Er bod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un, mae enw sy’n dechrau â ‘ll’ neu ‘rh’ yn eithrad i’r rheol.
e.e. Mae gen i un raw.
• Nid yw enw gwyrwaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un.
e.e. Un bwrdd oedd yn y dosbarth.
• Mae enw gwrywaidd/ benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn dau/dwy.
e.e. Mae gan y diafol ddau ben. Mae gen i ddwy fraich a dwy goes.
• Mae blynedd, blwydd ac weithiau diwrnod yn treiglo’n drwynol ar ôl saith/wyth.
e.e. Saith bunt gostiodd y bwyd. Roedd Alan yn yr ysgol â mi saith mynedd yn ôl.
• Ceir treiglad meddal ar ôl y rhifolyn saith/wyth.
e.e. Mewn wyth mlynedd byddaf yn mynd i Awstralia i fyw.
Pe / Os
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
Os bydden nhw
pe bydden nhw
‘Pe’ sy’n gywir yma yn hytrach na’r cysylltair ‘os’ gan mai ‘pe’ ddylid ei ddefnyddio i gyflwyno amod y mae ansicrwydd yn ei gylch.
•Os bydden nhw heb ildio bydden nhw wedi ennill.
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
pe bydda i os bydda i Y cysylltair ‘os’ sydd ei angen yma gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i gyfleu sicrwydd am rywbeth, ond bodd y sicrwydd hwnnw yn dibynnu ar rywbeth arall – yn amod y mae’n bosibl ei gyflawni. Mae ‘pe’ yn cael ei ddefnyddio i gyfleu amheuaeth ac felly nid yw’n berthnasol yma.
•Cewch degan heno pe bydda i wedi ei brynu yn y farchnad leol.
Mae / Mai
Mae – berf, 3ydd unigol Mai = cysylltair
Dyma gerddoriaeth na chlywais erioed ond gwn mae ef yw’r cyfansoddwr.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm
mae mai Y cysylltair ‘mai’ sydd ei angen yma ar ddechrau’r cymal enwol er mwyn pwysleisio ac nid y ferf ‘mae’.
Rydw i’n sicr mae’n mynd i groesi’r llinell yn y gêm heddiw.
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
mae e’n mynd ei fod e’n mynd
Mae angen y ferf ‘bod’ yn y cymal enwol.
Treigladau ar ôl arddodiaid
Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair (e.e. berf) ac enw/rhagenwe.e. Mae’r gath ar y mat.
Mae’r gadair o dan y bwrdd.
TREIGLAD TRWYNOL
Mae treiglad trwynol mewn enwau lleoedd sy’n dod yn syth ar ôl ‘yn’
Sylwch fel mae’r ‘yn’ yn newid weithiau:P P > mh ym MhwllheliT T > nh yn NhreforC C > ngh yng
NghriciethB B > m ym MangorD D > n yn NinasG G > ng yng
NgwyneddRheol: Ceir treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘YN’
P P > ph â phenselT T > th gyda thractorC C > ch tua cheiniog
TREIGLAD LLAES
Rheol: Ceir treiglad llaes ar ôl yr arddodiaid:â / gyda /tua
TREIGLAD MEDDAL
Rheol: Ceir treiglad meddal ar ôl yr arddodiaid:
am ar at gan
heb i o dan
tros trwy wrth hyd
ArddodiaidRhedeg arddodiaid yn anghywir Gofalwch eich bod yn rhedeg yr arddodiaid yn gywir: e.e. Mae’r dyn yn perthyn iddo fi
iddo fi > i mi
Rheol: Mae’r arddodiad ‘i’ wedi ei redeg yn anghywir yma
Defnyddio’r arddodiaid anghywir e.e. Rwy’n mynd i’r meddyg
i’r meddyg > at y meddyg
Rheol: Mae’r arddodiad anghywir wedi cael ei ddefnyddio.Mynd at berson yr ydych a mynd i le. Dylanwad cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
Camleoli arddodiaid e.e. Ble wyt ti’n dod o?
O ble wyt ti’n dod? Rheol: Mae’r arddodiad wedi cael ei gamleoli. Ni ddylid gorffen brawddeg gydag arddodiaid
Cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg
1. Byddai pethau’n well pe bydden nhw wedi gweithio’r broblem allan.Gweithio’r broblem allan > datrys y broblem
Rheol: Cyfieithiad uniongyrchol o’r idiom Saesneg. Dylid defnyddio’r ffurf Gymreig.
2. Mae’n hawdd i ddehongli.Hawdd i ddehongli > hawdd dehongli
Rheol: Cyfieithiad uniongyrchol o’r Saesneg yw ‘i ddehongli’. Mae berfenw Saesneg yn cynnwys y gair ‘to’. Ni ddylid cyfieithu ‘to’ i’r Gymraeg. Nid oes angen yr arddodiad ‘i’ yma felly.
3. ’Rydw i wedi cyrraedd y dudalen olaf o’r llyfr.y dudalen > tudalen
Rheol: Nid oes angen y fannod. Effaith cyfieithu uniongyrchol o’r Saesneg yw hyn.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmtomen domen Ceir treiglad meddal ar ôl y
sangiad.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmteuluoedd deuluoedd Ceir treiglad meddal ar ôl y
sangiad.
Y SANGIADCeir treiglad meddal ar ôl y sangiad: e.e.1. Gwelais, ar ôl dychwelyd, tomen o sbwriel yn y gegin flêr.
2. Gwelir, ar ddydd Sul, teuluoedd yn mynd am dro.
PRIFLYTHYREN
Mae angen llythyren fawr i enw priod e.e. Siôn a Siân
Camgymeriad Cywiriad Rheswmni na Defnyddiwyd y negydd anghywir.
NEGYDD ANGHYWIR
Chlywais i mo’r gwcw eleni gan ni fûm yn cerdded yn y wlad.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmna bûm na fûm Ceir treiglad meddal ar ôl y negydd
‘na’.
TREIGLO AR ÔL Y NEGYDD
Chlywais i mo’r gwcw eleni gan na bûm yn cerdded yn y wlad.
NEGYDDU ANGHYWIR
1 Dywedodd hi wrth ei mam fod dim ysgol yfory.2 Hoffwn ymddiheuro i chi bod fi ddim wedi gorffen y gwaith.3 Derbyniais y feirniadaeth fy mod i ddim yn gweithio’n ddigon caled.4 Welais i mo’r lili wen fach eleni gan ni fûm yn cerdded yn y wlad.5 Byddem ni’n deall y cerddi pe byddai’r beirdd ddim yn defnyddio cynghanedd.6 Fe adwaenon nhw ei gilydd yn yr orsaf er eu bod nhw ddim wedi cyfarfod cyn hynny.7 Mae’r heddlu heb wedi datgelu enw’r ferch a gyhuddwyd.8 Ysgrifennodd lythyr ddoe i swyddfa S4C yn cwyno bod dim digon o raglenni ar gyfer pobl ifanc.9 Mae’n debyg ni fyddant yn yr ysgol gan nad yw’r bws yn fodlon eu codi yn y pentref.10 Phrynais i mo’r tŷ ddoe am fod dim arian gen i.11 Clywais i mo John yn gweiddi ar y Prifathro, ond dywedodd wrtha i mai yn Gymraeg roedd yn gweiddi.12 Prynais i mo’r sgert ddoe am nad oedd arian gen i.13 Cwrddais i mo’r dyn a fu’n byw mewn bwthyn.
Camgymeriad Cywiriad Rheswm1. fod dim nad oes Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio
‘dim’ i negyddu cymal.2. bod fi ddim nad wyf Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio
‘dim’ i negyddu cymal.3. fy mod i ddim nad wyf Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio
‘dim’ i negyddu cymal.4. ni fûm na fûm Defnyddiwyd y negydd anghywir yma.5. pe byddai’r
beidd ddimpe na bai’r beidd
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu cymal.
6. er eu bod nhw ddim
er nad oedden nhw / er eu bod nhw heb gyfarfod
Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu cymal.
7. heb wedi nid yw’r heddlu wedi
Negyddu anghywir.
8. bod dim nad oes Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio ‘dim’ i negyddu cymal.
9. ni fyddant na fyddant Defnyddiwyd y negydd anghywir yma.10 am fod dim am nad oedd Negyddu anghywir. Ni ddylid defnyddio
‘dim’ i negyddu cymal.11. clywais i mo chlywais i mo Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu
yn y frawddeg y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. / Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
12. prynais phrynais Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu yn y frawddeg y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. / Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
13. cwrddais chwrddais Er nad yw’r negydd ‘ni’ wedi’i ysgrifennu yn y frawddeg y mae’n rhaid treiglo’n llaes mewn gosodiad negyddol. / Mae angen treiglad llaes wrth negyddu berf.
Ansoddair + enw benywaidd unigol:
e.e. Mae hon yn ystafell cul.
Ansoddair + enw gwrywaidd unigol:
e.e. Mae Pero yn gi ddel.
Ansoddair + enw lluosog:
e.e. Maent yn ddynion olygus iawn.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMystafell cul ystafell gul Mae ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl
enw benywaidd unigol.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMystafell cul ystafell gul Camdreiglad. Nid yw’r ansoddair yn
treiglo ar ôl enw gwrwyaidd unigol.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMdynion olygus dynion golygus Camdreiglad. Nid yw ansoddair yn
treiglo’ ar ôl enw lluosog.
Enw + yn traethiadol
Mae POB enw’n treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ traethiadol – enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog.
e.e.ENW BENYWAIDD = merch > yn ferch ENW GWRYWAIDD = bachgen > yn fachgen ENW LLUOSOG = merched > yn ferched
e.e. Mae Steffan yn disgybl cydwybodol.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMyn disgybl yn ddisgybl Mae’r enw gwrywaidd unigol ‘disgybl’
yn treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ traethiadol.
Mae ANSODDAIR yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’:
e.e. Mae’r gwpan yn poeth.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWMyn poeth yn boeth Mae’r ansoddair ‘poeth’ yn treiglo’n
feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmyn tawel yn dawel Mae ansoddair yn treiglo’n feddal
yn y traethiad ar ôl yn/’n ond nid oes treiglad os yw’r ansoddair yn dechrau gyda’r gytsain ‘ll’ neu ‘rh’.
OND:Nid oes treiglad os yw’r ansoddair yn dechrau gyda’r gytsain ‘ll’ neu ‘rh’.
e.e. Mae fy ngwaith yn ragorol.
CENEDL YR ANSODDAIR DANGOSOL
e.e. Cafodd y bachgen a’i frawd wobr y flwyddyn hwnnw.
CAMGYMERIAD CYWIRIAD RHESWM
blwyddyn hwnnw y flwyddyn honno Mae angen yr ansoddair dangosol benywaidd ar ôl enw benywaidd.
Camgymeriad Cywiriad RheswmHwn hon Mae cenedl y rhagenw dangosol yn anghywir.
Mae angen rhagenw dangosol benywaidd wrh gyfeirio at enw benywaidd.
CENEDL Y RHAGENW DANGOSOL
e.e. Hwn yw’r flwyddyn orau.
BerfauCwestiwn 1 b)
1. Amser anghywir y ferf – e.e.
Clywaf fod y bwyd yn dda yno neithiwr.
clywaf > clywais
Rheswm: Mae amser anghywir y ferf wedi cael ei ddefnyddio. Mae angen amser gorffennol y ferf yn y person cyntaf unigol gan fod y weithred wedi digwydd yn y gorffennol (neithiwr).
2. Berf Amhersonol v Berf Bersonol
Berfau Personol yr Amser Presennol =-af -wn-i -wch-a -ant
Berf Amhersonol yr Amser Presennol =
-ir
e.e.Gwelir y bardd lawer o’i gerddi mewn cylchgronau.
Gwelir > Gwêl
Rheswm: Nid berf amhersonol sydd ei angen yma am fod y ferf yn cyfeirio at berson. Dylid defnyddio’r trydydd person unigol yn yr amser presennol.
3. Terfyniad anghywir y ferf o fewn yr un amser
e.e.Gwyddaf fod llawer o drysorau yn yr amgueddfa y mae pobl leol yn ymddiddori ynddynt.
gwyddaf > gwn
Rheswm: Mae ffurf y ferf yn anghywir. Y person cyntaf unigol, amser presennol y berfenw ‘gwybod’ sy’n gywir.
Berfau
Camgymeriad Cywiriad Rheswmiii.ii mae hi wedi
gweldgwelodd hi Gan fod y ferf ‘aeth’ ar ddechrau’r
frawddeg mae angen defnyddio amser gorffennol y ferf i gyd-fynd. O’r herwydd, y ferf gryno, trydydd person, unigol, benywaidd yn yr amser gorffennol sydd ei angen yma.
Pan aeth i’r dref mae hi wedi gweld anrhegion yn y siopau.
DIM TREIGLAD AR ÔL BERF AMHERSONOL
e.e. Gwelir fod yr haul yn machlud yn awr .
Camgymeriad Cywiriad Rheswmiii.ii gwelir fod gwelir bod Camdreiglad. Nid oes angen treiglo
ar ôl berf amhersonol.
ARDDODIAID A BERFAU
e.e. Peidiwch a pharcio yma.
Camgymeriad Cywiriad Rheswmiii.ii peidiwch a peidiwch â Defnyddiwyd y gair anghywir yma.
Mae angen yr arddodiad ar ôl y ferf yn hytrach na’r cysylltair.
Am restr lawn o’r arddodiaid sy’n dilyn berfau/berfenwau penodol gweler y daflen ‘arddodiaid’ rydych wedi’i gael yn ystod y tymor.
GEIRYN GOFYNNOL ‘A’.
Dylid defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn anuniongyrchol.e.e.
A gyrhaeddi di cyn te?A ruodd y llew drwy’r nos?
•Wn i ddim os ydi hi wedi ysgrifennu ynglŷn â’r achos.
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
os ydi a ydi Dylid defnyddio’r geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn anuniongyrchol.
Os defnyddir y geiryn gofynnol ‘a’ i ofyn cwestiwn, mae’r ferf sy’n ei ddilyn yn treiglo’n feddal.e.e.A plannaf fi’r syniad yn ei ben ai peidio?
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
a plannaf a blannaf Y geiryn gofynnol ‘a’ sydd yma. Mae’n rhaid i’r ferf sy’n dilyn y geiryn gofynnol ‘a’ dreiglo’n feddal.
Cofiwch y gall camgymeriad fod yn gamgymeriad sillafu hefyd!
CYSYLLTEIRIAU
Cysylltair yw gair sy’n cysylltu dau beth â’i gilydd.e.e.
Siôn a Siân
CYSYLLTAIR – TREIGLAD MEDDAL
Mae enw/berfenw/ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl y cysylltair ‘neu’:e.e.
Coch neu binc?Beiro ddu neu goch sydd orau gen ti?
CYSYLLTAIR – TREIGLAD LLAES
Mae’r cysylltair â (as), a (and), oni / os na, na yn achosi treiglad llaes.
e.e. Mae gen i gi a chath.
Cysylltair - a/ac
ac = cysylltair – o flaen geiriau sy’n cychwyn â llafariad
e.e. Afal ac oren
a = cysylltair – o flaen geiriau sy’n cychwyn â chytsain
e.e. Sion a Sian
Mae’r cysylltair ‘a’ yn achosi treiglad llaes:
p >ph e.e. papur a phenselt > th e.e. crys a theic > ch e.e. car a cheffyl
TREIGLAD MEDDAL =
Mae yn traethiadol yn achosi treiglad meddal:
•Mae Elwyn yn ddyn diog = Mae’r enw ‘dyn’ yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
• Nid yw Morys yn ddiolchgar am ddim = Mae’r ansoddair ‘diolchgar’ yn treiglo’n feddal yn y traethiad ar ôl ‘yn’.
EITHRIAD: Nid yw ‘ll’ a ‘rh’ yn treiglo yn y traethiad ar ôl ‘yn’.e.e.
ll: A yw’r llety hwn yn lle cyfforddus?rh: Mae’n rhaw gadarn.
Gwrthrych yw’r un y digwydd y gweithgaredd iddo.
e.e. Taflodd y bachgen y garreg yn galed er mwyn torri’r ffenestr.
gwrthrych
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
cynlluniau pontydd
cynlluniau bontydd
Mae gwrthrych berf gryno yn treiglo’n feddal.
GWRTHRYCH BERF GRYNOFfurf gryno: Canodd y gân.
Ffurf gwmpasog: Yr oedd ef yn canu cân.
Mae gwrthrych berf gryno yn treiglo’n feddal:
e.e.Cynlluniau pontydd i’r cyngor lleol.
RHAGENW PERTHYNOLBeth yw’r rhagenw perthynol? Mae rhagenw perthynol yn gwneud yn lle enw mewn brawddeg, pan mae’r enw ei hun wedi digwydd yn y frawddeg yn barod. Er enghraifft:
Dyma’r bachgen. Torrodd y bachgen y ffenestr.Dyma’r bachgen a dorrodd y ffenestr.
Mae berf yn treiglo’n feddal os yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.
e.e.Dyma’r bachgen a plannodd yr ardd i mi.
Camgymeriad
Cywiriad
Rheswm
a plannodd a blannodd
Mae berf yn treiglo’n feddal os yw’n dilyn y rhagenw perthynol ‘a’.
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
i.i brynais phrynais Camdreiglad. Mae angen treiglad llaes am ei fod yn y ffurf negyddol.
i.ii am fod dim am nad oedd Defnydd anghywir o’r negydd. Ni ddylid negyddu cymal drwy ddefnyddio ‘dim’.
NEGYDDU
Brynais i mo’r tŷ ddoe am fod dim arian gen i.
Rhagenw Perthynol y, yr, ’r
1. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol y/yr/’r cyn arddodiad personol e.e.
Hwn yw’r car yr eisteddodd yr eliffant arno.
Hwn yw’r dyn a eisteddodd yr eliffant arno.
Camgymeriad
Cywiriad Rheswm
a eisteddodd yr eisteddodd
Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol ‘yr’ cyn yr arddodiad personol ‘arno’.
2. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol y/yr/’r cyn rhagenw personol e.e.
Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon.
Dyma’r dyn a welais ei gar yn yr afon.
Camgymeriad
Cywiriad
Rheswm
a welais y gwelais
Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol ‘y’ cyn y rhagenw dibynnol blaen, trydydd unigol ‘ei’.
3. Mae angen defnyddio’r rhagenw perthynol cyn berf yn y dyfodol neu’r amodol
e.e. Dyma’r dyn y bydd hi’n ei briodi.