lliw eich arian

7

Upload: stonewall-cymru

Post on 23-Mar-2016

257 views

Category:

Documents


9 download

DESCRIPTION

Canllaw nwyddau a gwasanaethau newydd i bobl lesbiaid, hoyw a deurywiol.

TRANSCRIPT

Page 1: Lliw Eich Arian
Page 2: Lliw Eich Arian

Ac os y gall rhywun arall ei brynu neu eihawlio neu ei archebu, gallwch chi wneudhynny hefyd, boed yn ystafell ddwbl mewngwesty, gwasanaeth gan y GIC, neu’n brydbwyd rhamantus.

Mae’n beth rhyfedd pan fo pobl busnes yngwrthod arian da – fel y bunt binc – o achoseu rhagfarn yn erbyn y person sy’n cynnigyr arian hwnnw. Ond yn waeth na hynnymae’n anfoesgar, sarhaus, annheg a bellach –o’r diwedd! – anghyfreithlon.

Nod y deddfau newydd – Y DdeddfRheoliadau Cydraddoldeb (CyfeiriadeddRhywiol) 2007, os ydych chi eisiau’r teitl ynllawn – yw anghyfreithloni’r math hwn ogamwahaniaethu, gan olygu pan fo rhyw-beth yn cael ei gynnig, y gallwch chi ei gael.Beth bynnag yw lliw eich arian.

Page 3: Lliw Eich Arian

Mae yno ardd hyfrydac maent wedi bod mewn sawl gwleddbriodas hyfryd yno.

“O, mae’n ddrwg gen i,” meddai rheolwr y bwyty pan maent yn galw i gadarnhau’r trefniadau a phenderfynu ar y fwydlen. “Roeddwn i’n meddwlmai gwledd briodas oedd hon.”

“Wel, mae’n wledd Partneriaeth Sifil,” meddai un o’r menywod. “Digon tebyg.”

“Mae gen i ofn mai bwyty teuluol yw hwn,” meddai’r rheolwr. “Dydyn ni ddim yn gwneud y math yna o beth.”

“Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”

Page 4: Lliw Eich Arian

Mae’n benwythnos o wyliau iddynt ac roeddrhywun wedi argymell y lle hwn. Mae’n hyfryd.

“Fedrwch chi sicrhau ei fod yn wely dwbl?” meddai un o’r dynion wrth y gweithiwr yn y dderbynfa. Heb fod mewn ffordd bryfoclyd, ond y bwriad yw cael penwythnos rhamantus.

“Mae’n ddrwg gen i, dydyn ni ddim yn gwneud hynny yma,”

meddai’r gweithiwr yn y dderbynfa. “Dydyn ni ddim yn caniatáu i ddau ddyn rannu gwely dwbl.Gallwch gael dau wely sengl neu gallaf argymellgwesty arall os hoffech...”

“Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”

Page 5: Lliw Eich Arian

Dyma’uplentyn cyntaf ac maent yn teimlo’n gyffrous iawn ac am wneud popeth yn iawn.

“Dosbarthiadau i fenywod beichiog a’u partneriaid yw rhain,” meddai’r person sydd â’rrhestr enwau. “Nid cyfeillion.”

“O, mae’n iawn,” meddai’r fenyw feichiog, “nid fy ffrind yw hon, ond fy mhartner. Rydym ni’n cael y babi hwn gyda’n gilydd.”

“Wrth ddweud ‘partner’ rydyn ni’n golygu partner gwrywaidd,” meddai’r nyrs â’r rhestr. “Sef ‘tad’. Os fyddwn ni’n dechrau gadael pob math o bobl mewn…”

“Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”

Page 6: Lliw Eich Arian

Meysydd AllweddolAddysgNi all ysgol wrthod mynediadi ddisgyblion hoyw bellach amfod rhywun yn gwrthwynebu’rffaith eu bod nhw – neu eurhieni – yn hoyw. Ac ni ellir eutrin yn wahanol pan maentyno chwaith!

IechydNi all Meddygon Teulu eichgwrthod bellach am fod ynhoyw – roedd rhai yn gwneudhynny yn y gorffennol! – na’chatal rhag derbyn triniaeth ybyddent yn ei gynnig i unrhywun arall.

GwestaiGwelyau dwbl i bawb! Wel, os

ydynt yn dymuno hynny.Gwasanaethau CyngorByddai rhai cynghorau yngwrthod cydnabod bwliohomoffobaidd fel rheswm dadros ailgartrefu person (neudaflu cymydog allan o’igartref). Bellach mae’n rhaididdynt weithredu.Bwytai‘Dal llaw eich cariad ar drawsy bwrdd? Dim problem,madam.’ Nid yr arian yn unigsy’n bwysig – bellach nid oesangen i chi oddef cael eich trinyn wahanol i unrhyw un arall.Cwmnïau TeithioMae’r lleoliadau gwyliaucyplau-yn-unig bellach ynagored i bob math o gyplau.

Mae angen mis mêl ar boblhoyw hefyd!MabwysiaduRhaid i asiantaethau farnu eichaddasrwydd fel cwpwl ar, wel,eich addasrwydd fel cwpwl.Nid eich rhywioldeb.TaiOs oes ty neu fflat ar werth neu ar rent, ni all y perchennogna’r landlord eich gwrthod ar y sail eich bod yn hoyw.BancioRoedd rhai banciau yn arfergwrthod cyfrifon banc ar y cyd i gyplau o’r un rhyw.Nid oes modd iddynt wneudhynny bellach.

^

Gwir neu gauRhai chwedlau poblogaidd am yr hyn y byddy rheoliadau newydd yn eiolygu a pham y bydd pobbusnes – hoyw a strêt – ynllawer gwell eu byd.

Bydd yn golygu y bydd ynrhaid i glybiau hoyw ganiatáumynediad i bobl strêt.Gwir. Ond mae’r mwyafrif o glybiau hoyw yn gwneudhynny beth bynnag. Ynamlwg, gall y rheolwyr gadw’r hawl i beidio â chaniatáu mynediad i unrhywun y maent yn amau fydd yncreu trwbl, fel sy’n digwyddeisoes.

Bydd gwasanaethau cefnogihoyw a lesbiaidd hefyd ynagored i bawb.Gau. Os yw’r gwasanaethaucefnogi yn cael eu hanelu atran benodol o’r boblogaethyna byddant yn parhau i gaeleu targedu yn yr un modd.Felly os oes rhywun wedisefydlu clwb chwaraeon felbod lesbiaid ynysig yn medrucyfarfod, ni fydd y rheoliadaunewydd yn effeithio ar hynny.

Nid oes modd i chi gael rhywbeth fel clinig dynionhoyw bellach.Gau. Gallwch, mi allwch chi.Yn union yn yr un modd ag ymae gwasanaethau iechyd yncael eu cyfeirio yn benodol atfenywod neu blant neu’rhenoed, gellir targedugwasanaethau iechyd atddynion hoyw. Neu lesbiaid oran hynny. Mae anghenionpawb yn benodol.

Os ydych yn sefydliad crefyddol nid oes yn rhaid i chi gydymffurfio gyda’r rheolau hyn.Gau. Oes, mae’n rhaid i chi!Efallai nad yw’r rheoliadaunewydd yn cwmpasu gwasan-aethau fel priodasau neu fedydd,ond penderfynwyd na ddylaiunrhyw sefydliad crefyddolfedru cael ei eithrio’n awtomatigcyn belled ag y bo unrhyw betharall yn y cwestiwn.

Hyd yn oed os ydynt yn torri’rgyfraith hon, nid oes llawer ymedrwch wneud am y peth.Gau. Wrth gwrs y medrwch chi. Os ydych chi’n dioddefcamwahaniaethu o dan amodau’r rheoliadau, yn y llecyntaf dylech ddweud wrth y person yn uniongyrchol am ydeddfau newydd. Yn y pendraw, gallwch gymryd achos llys ac o bosib dderbyn iawndalhyd yn oed.

Page 7: Lliw Eich Arian

Cefnogwyd gan

Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth cyfeiriadedd rhywiol newydd i’ch

amddiffyn chi – a’ch arian – yn erbyn camwahaniaethu gan bobl ym myd busnes a gwasanaethau cyhoeddus.

Dyna’r ddeddf. Defnyddiwch hi!

Mwy o wybodaeth ar www.stonewall.org.uk