dogfen ymgynghori ffurfiol - cyngor sir ddinbych · mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad...

49
1 Dogfen Ymgynghori Ffurfiol Cynnig i gau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau ysgol newydd. Chwefror 2015

Upload: vodien

Post on 25-Sep-2018

217 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

1

Dogfen Ymgynghori Ffurfiol

Cynnig i gau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r

disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu

Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau ysgol

newydd.

Chwefror 2015

Page 2: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

2

Cynnwys

Rhif Disgrifiad Rhif Tudalen

1. Cyflwyniad 3

2. Crynodeb o’r Cynnig 4

3. Proses Ymgynghori 4-5

4. Rhannu Eich Barn 6-7

5. Pŵer i Wneud Penderfyniad 8

6. Cefndir y Cynnig 8-10

7. Y Ddarpariaeth Gyfredol: Ysgol Rhewl 10-16

8. Categori iaith: Ysgol Rhewl 16-18

9. Darpariaeth Amgen 18-26

10. Darpariaeth Anghenion Dysgu Atodol 26

11. Darpariaeth Uwchradd 26

12. Y Cynnig yn Fanwl: Disgrifiad a Rhesymeg 27-30

13. Digonolrwydd cyfleusterau a safle'r ysgol 30-34

14. Beth yw’r Opsiwn a Gynigir? 34-35

15. Opsiynau Eraill 35-38

16. Trefniadau Derbyn 38

17. Goblygiadau Cludiant 39

18. Goblygiadau Staffio 39-40

19. Beth yw'r Goblygiadau Ariannol? 40-41

20. Beth yw anfanteision a risgiau’r cynnig? 41

21. Effaith Gymunedol, ar yr Iaith Gymraeg ac ar Gydraddoldeb 42-43

22. Esboniad o'r Broses Statudol 44

Ffurflen Ymateb Ymgynghoriad Ffurfiol 44-49

Atodiad 1- Gwybodaeth Ychwanegol

Page 3: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

3

1. Cyflwyniad

1.1. Dechreuodd yr adolygiad o ddarpariaeth addysgol yn ardal Rhuthun yn 2013.

Cafodd 11 o ysgolion eu cynnwys yn yr adolygiad, oherwydd cymhlethdodau a'r cyd-

ddibyniaethau, cafodd yr adolygiad ei gynnal yn raddol.

1.2. Mae ardal Rhuthun yn wynebu nifer o heriau gwahanol, gan gynnwys;

Lleoedd Gwag;

Cyflwr ac addasrwydd safleoedd ysgol;

Darpariaeth ystafelloedd dosbarth symudol;

Effeithlonrwydd ystâd ysgolion a chynaliadwyedd.

1.3. Amcanion yr adolygiad yw mynd i'r afael â'r heriau hyn a sicrhau bod safon uchel y

ddarpariaeth yn cael ei gynnal a'i gryfhau ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cyngor wedi bod

yn glir ers dechrau’r adolygiad nad yw'n gysylltiedig â safonau a chyrhaeddiad

addysgol, gan fod lefelau addysg ar draws ardal Rhuthun yn dda. Mae'r adolygiad a’r

argymhellion dilynol yn ceisio cynnal a chryfhau'r ddarpariaeth hon.

1.4. Mae cyfres o argymhellion wedi cael eu gwneud i Gabinet Sir Ddinbych ers mis

Mehefin 2013. Mae'r cam hwn o'r adolygiad yn canolbwyntio ar ysgolion tref Ysgol

Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, gan gynnwys Ysgol Rhewl oherwydd pa mor agos

ydyw at y dref.

1.5. Cytunodd y Cabinet ym Mehefin 2013 na ddylid gwneud unrhyw gynigion ffurfiol

ynghylch Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Rhewl hyd nes y bydd cyfnod

pellach o ddichonoldeb wedi cael ei gynnal. Mae’r cyfnod dichonoldeb hwn, i asesu

opsiynau ar gyfer pob ysgol, wedi digwydd yn ystod tymor yr Hydref 2014.

1.6. Cynigir y bydd Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn cael eu symud o’u safleoedd

presennol i gyfleusterau newydd, pwrpasol ar safle Glasdir.

1.7. Gellir gweld trosolwg manwl o'r opsiynau a archwiliwyd ar gyfer Ysgol Rhewl yn

adran 15 y ddogfen hon.

Page 4: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

4

2. Crynodeb o'r cynnig

2.1. Cynigir y bydd Ysgol Rhewl yn cau ar 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i

un ai Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau’r ysgol

newydd. Bydd adeiladau’r ysgol newydd yn cael ei lleoli ar safle Glasdir i'r Gogledd o

Ruthun.

2.2. Mae cynaliadwyedd hirdymor Ysgol Rhewl wedi cael ei ystyried fel rhan o'r ardal tref

ehangach fel rhan o Adolygiad Ardal Rhuthun. Prif gymhellion y cynigion ar gyfer ardal

tref Rhuthun yw addasrwydd a chyflwr safleoedd ysgolion a lleoedd dros ben o fewn y

dref. Credir bod y cymhellion hyn yn effeithio ar gynaliadwyedd tymor hir Ysgol Rhewl.

2.3. Wrth ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer safle Glasdir, roedd angen asesu effaith

y cyfleusterau newydd ar Ysgol Rhewl oherwydd pa mor agos ydoedd i'r ysgol, tua 1.1

milltir, o safle Glasdir. O ystyried nifer y disgyblion a'r angen tymor hir i fuddsoddi yn

yr adeilad, credir mai cau'r ysgol a throsglwyddo’r disgyblion i naill ai Ysgol Pen Barras

neu Ysgol Stryd y Rhos yw'r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer yr ardal ehangach tref

Rhuthun.

3. Proses Ymgynghori

3.1. Cymeradwywyd ymgynghoriad ffurfiol gan Gabinet Sir Ddinbych ar 13eg Ionawr, 2015

ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl. Mae’r ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal i sicrhau

bod gan yr holl bartïon perthnasol gyfle i gyfrannu at y pwnc pwysig hwn.

3.2. Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal o 10fed Chwefror 2015 tan 23ain o

Fawrth 2015.

3.3. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y rhain yn

cael eu trefnu mewn fformat ‘noson rieni’ pan fydd mynychwyr yn gallu trafod gyda

swyddogion ar ffurf un i un. Mae manylion y cyfarfodydd wedi eu cynnwys yn y llythyr

sydd wedi ei rannu.

3.4. Mae'r ddogfen ymgynghori ffurfiol hon wedi cael ei hanfon at amrywiaeth eang o

ymgynghorwyr gan gynnwys yr ymgynghorwyr statudol canlynol:

a. Rhieni, athrawon a staff cynorthwyol Ysgol Rhewl;

b. Cadeirydd y Llywodraethwyr a Chyngor Ysgol yr ysgolion canlynol:

i. Ysgol Rhewl;

ii. Ysgol Pen Barras;

iii. Ysgol Stryd y Rhos;

Page 5: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

5

iv. Ysgol Borthyn;

v. Ysgol Carreg Emlyn;

vi. Ysgol Gellifor;

vii. Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd;

viii. Ysgol Bro Cinmeirch.

c. Esgobaeth Llanelwy yr Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Gatholig Rufeinig

Wrecsam;

d. Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr pob Ysgol yn Sir Ddinbych

e. Cyngor Sir y Fflint;

f. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

g. Darparwyr meithrinfeydd annibynnol yn ardal Rhuthun;

h. Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych a Phartneriaethau Datblygiad

Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

i. Pob un o Aelodau Cyngor Sir Ddinbych;

j. Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli’r ardaloedd a gaiff

eu heffeithio gan y cynnig;

k. Cyngor Cymuned Llanynys;

l. Cyngor Tref Rhuthun;

m. Gweinidogion Llywodraeth Cymru;

n. Estyn;

o. Undebau llafur athrawon a staff perthnasol

p. Taith;

q. Gwasanaeth Effeithiolrwydd Ysgolion (GwE)

r. Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru

3.5. Mae fersiwn atodol o'r ddogfen ymgynghori ffurfiol hon wedi cael ei llunio ar gyfer

plant a phobl ifanc sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y cynnig. Bydd y ddogfen hon

ar gael yn yr ysgolion a enwir o fewn y cynnig hwn. Ysgrifennwyd y ddogfen plant a

phobl ifanc yn arbennig i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall y broses ymgynghori a

chymryd rhan ynddi.

3.6. Bydd digwyddiadau ymgynghori hefyd yn cael eu cynnal gyda disgyblion Ysgol Rhewl,

Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.

3.7. Mae'r ddogfen hon, y ddogfen plant a phobl ifanc a dogfennau ategol perthnasol wedi

cael ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych a gellir eu gweld drwy ddilyn y ddolen

hon;

www.denbighshire.gov.uk/modernisingeducation

Page 6: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

6

4. Rhannu eich barn

4.1. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi rannu eich barn gyda ni. Amlinellir y rhain isod

gyda manylion perthnasol ar gyfer cyflwyno eich barn.

Mewn person

Mae'r dyddiadau ac amseroedd y cyfarfodydd ymgynghori wedi cael eu cynnwys yn y

llythyr eglurhaol. Cynhelir cyfarfodydd gyda staff, rhieni, disgyblion a'r Corff

Llywodraethol.

Bydd y cyfarfod rhieni yn cael ei gynnal mewn fformat noson rieni. Mae hyn yn caniatáu i

fynychwyr siarad â swyddogion ar sail 1-i-1. Er mwyn sicrhau bod pob mynychwr yn cael

y cyfle i leisio eu barn mae angen cadw lle yn y cyfarfod.

I archebu lle anfonwch e-bost [email protected] neu ffoniwch

01824 706127. Bydd e-bost cadarnhau yn cael ei anfon atoch i gadarnhau eich amser.

Yn Ysgrifenedig

Gallwch lenwi'r ffurflen yn electronig drwy ddilyn y ddolen hon;

https://www.surveymonkey.com/r/YsgolRhewlCymraeg

Os ydych yn dymuno gwneud ymateb ysgrifenedig pellach cyflwynwch eich barn

trwy ddefnyddio'r manylion isod;

Mae ffurflen ymateb wedi ei hatodi i'r ddogfen hon, gallwch lenwi a chyflwyno

hon drwy'r post i;

I sylw’r Tîm Moderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay,

Rhuthun, LL15 1YN

Neu gallwch ei sganio at;

[email protected]

Plant a phobl ifanc

Bydd digwyddiad ymgynghori yn cael ei gynnal gydag aelodau o Gyngor yr Ysgol.

Bydd hwn yn cael ei hwyluso gan swyddog o Sir Ddinbych, a’u rôl yw ymgysylltu

ac ymgynghori a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Page 7: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

7

4.2. Gwnewch yn siŵr bod pob barn yn cael ei gyflwyno erbyn 23/03/2015. Ni fydd

unrhyw gyflwyniadau hwyr yn cael eu cynnwys o fewn dadansoddiad ar gyfer yr

adroddiad ymgynghori ffurfiol.

4.3. Yn ogystal, efallai na fydd unrhyw farn neu ymateb a gyflwynwyd drwy unrhyw

gyfeiriad post neu e-bost arall yn cael eu cynnwys o fewn dadansoddiad ar gyfer yr

adroddiad ymgynghori ffurfiol.

4.4. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol, cesglir yr holl sylwadau a'u hystyried cyn

gwneud unrhyw argymhelliad i symud ymlaen i'r cam nesaf.

4.5. Noder na fydd ymatebion sydd yn cael eu cyflwyno yn ystod yr Ymgynghoriad

Ffurfiol yn cael eu cyfri fel gwrthwynebiadau i’r cynnig. Dim ond os fydd Rhybudd

Statudol yn cael ei gyhoeddi y gall gwrthwynebiadau gael eu cyflwyno a’u cofrestru.

4.6. Bydd adroddiad ymgynghori ffurfiol, a phob ymateb, yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet

yn Mai 2015. Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys argymhelliad gan swyddogion.

4.7. Y Cabinet fydd yn gwneud penderfyniad a ddylid symud ymlaen i'r cam nesaf a

chyhoeddi hysbysiad statudol.

Proses Cynnig Trefniadaeth Ysgolion

Argymhelliad: Gwneir argymhelliad i Gabinet Sir Ddinbych i ymgynghori’n ffurfiol-

Ionawr 2015.

Ymgynghori Ffurfiol: Bydd cyfnod o ymgynghori ffurfiol yn digwydd rhwng

10/02/2015 a 23/03/2015. Yn ystod y cyfnod hwn gall partïon â diddordeb fynegi eu

barn ynghylch y cynnig.

Adroddiad Ymgynghori Ffurfiol: Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol bydd

ymatebion yn cael eu coladu a'u cyflwyno i'r Cabinet ar ffurf Adroddiad Ymgynghori

Ffurfiol, gan gynnwys argymhelliad gan swyddogion. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar

wefan Sir Ddinbych.

Hysbysiad Statudol: Os mai’r argymhelliad yw i symud i gam nesaf y broses, bydd

angen i’r Cabinet gytuno i hynny. Os bydd hyn yn cael ei gytuno, bydd hysbysiad

statudol yn cael ei gyhoeddi. Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fod am 28

diwrnod. Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr

ysgol.

Adroddiad Gwrthwynebiad: Pe bai hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi ac y ceir

gwrthwynebiadau, bydd y gwrthwynebiadau hyn yn cael eu coladu i ffurfio

adroddiad gwrthwynebiad. Bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o bob

gwrthwynebiad a wnaed ac ymateb yr awdurdod. Bydd yn ofynnol i'r adroddiad gael

ei gyhoeddi cyn diwedd 7 niwrnod sy’n dechrau ar ddiwrnod unrhyw benderfyniad

ar y cynnig.

Page 8: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

8

5. Pŵer i wneud penderfyniad

5.1. Mae hawl gan Gyngor Sir Ddinbych i gyhoeddi cynigion i sefydlu ysgol ardal newydd

yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2103i. Yn unol â hynny,

gall y Cyngor gyhoeddi’n ffurfiol fod ysgol yn cau ar ôl dilyn y drefn statudol gywir.

Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolionii yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn.

6. Cefndir y cynnig

6.1. Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych y Fframwaith Polisi Moderneiddio

Addysgiii ym mis Ionawr 2009 i ddarparu llwyfan sy'n sail i adolygu'r ddarpariaeth

ysgol bresennol.

6.2. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i holl blant a phobl

ifanc y sir. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae'r Cyngor wedi cytuno bod

‘moderneiddio'r ddarpariaeth addysg’ yn flaenoriaeth gan ein bod yn cydnabod

pwysigrwydd cael adeiladau ysgol, amgylcheddau dysgu ac adnoddau sy'n diwallu

anghenion Cymru yn yr 21ain ganrif.

6.3. Gwyddom fod yn rhaid i ni newid a moderneiddio darpariaeth addysg ledled y Sir,

gan na ellir parhau i gynnal gwelliannau mewn addysg heb wneud newidiadau i'r

ffordd y darperir addysg. Mae angen i ysgolion allu darparu'r profiad dysgu gorau

posibl er mwyn i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych gael y cyfleoedd ehangaf sydd ar

gael iddynt fel bod modd iddynt wireddu eu llawn botensial

6.4. Yn mis Tachwedd 2012, bu i Gabinet Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyo dechrau

ymgynghoriad anffurfiol ar ddyfodol addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Roedd y

ddogfen ymgynghoriad anffurfiol yn amlygu nifer o faterion a oedd angen

ymgymryd â hwy er mwyn sicrhau cynnaldwyedd tymor hir. Roedd y rhain yn

cynnwys:

Cynnaldwyedd Ysgolion a Darpariaeth Safon Uchel;

Lleoedd Gwag;

Cyflwr ac addasrwydd adeiladau ysgolion (gan gynnwys defnydd o gabannau);

Recriwtio Penaethiaid;

Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg;

6.5. Daeth yr ymgynghoriad anffurfiol i ben ar y 22ain o Fawrth 2013 ac ystyriwyd y

materion a godwyd yn ystod y cyfnod yn fanwl gan Gyngor Sir Ddinbych. Cafwyd 63

llythyr ac ebost gan fudd-ddeiliaid ynghyd a 195 holiadur wedi eu cwblhau gan rieni.

Page 9: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

9

Mae canfyddiadau’r ymgynghoriad anffurfiol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor

fel rhan o’r broses ymgynghori.

6.6. Cafodd ei argymell i'r Cabinet ym Mehefin 2013 na fydd unrhyw gynigion ffurfiol ar

gyfer ysgolion y dref yn cael eu datblygu hyd nes bod cyfnod o astudiaeth

dichonoldeb manwl wedi ei gynnal. Gwnaethpwyd y gwaith dichonoldeb yn nhymor

yr hydref 2014. Roedd y gwaith dichonoldeb hefyd yn gallu darparu dadansoddiad

mwy manwl o 3 safle, sef safle Ysgol Rhewl, y safle a rennir ar hyn o bryd ar gyfer

Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras a safle Glasdir.

6.7. Yr opsiwn a ffafrir yw adleoli Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras i gyfleusterau

newydd, pwrpasol ar safle Glasdir.

6.8. Mae’r Cyngor yn wrth ddod ar cynnig yma ymlaen o’r farn y bydd y newidiadau a

gyflwynir o fudd tymor hir i blant a phobl ifanc o fewn ardal cymuned Rhewl. Mae’r

ddogfen ymgynghori yma o fewn adran 7 yn darparu gwybodaeth ynglŷn â safonau

addysgol yn Ysgol Rhewl. Mae adran 13 y ddogfen yn darparu sylwebaeth ar

ddigonolrwydd adeiladau a chyfleusterau cyfredol. Yn ystyried yr elfennau hyn,

mae’r Cyngor o’r farn bod y ddarpariaeth gyfredol yn Ysgol Rhewl yn darparu

safonau da, gyda’r mwyafrif o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Ond mae pryder

am hyfywdra tymor hir, gyda phryder y gall maint yr ysgol effeithio ar allu’r ysgol i

ymateb i gynnydd mewn galw’r cwricwlwm. Mae digonolrwydd cyfredol yr adeilad

hefyd yn rhwystr i gynnal y ddarpariaeth yn y tymor hir.

6.9. Wrth ddatblygu’r cynnig mae’r Awdurdod Lleol wedi ystyried yn ofalus effaith

tebygol y cynnig ar ddeilliannau, darpariaeth a rheolaeth ac arweinyddiaeth. Mae

o’r farn bod y buddion disgwyliedig yn gorbwyso’r anfanteision gan gymharu ar

presennol. Mae adran 12 yn darparu sylwebaeth ynglŷn ag effaith y cynnig ar yr

ardaloedd pwysig yma ac yn amlygu nifer o fanteision gyda’r gallu i gynnig mwy o

ddosbarthiadau addas i’r oedran, y cyfle i gael mynediad at gwricwlwm mwy manwl

o ganlyniad i fwy o arbennigedd staff ac i ddarparu strwythur tim arweinyddiaeth

datblygedig i oruchwylio darpariaeth addysg. Mae’r buddsoddiad a gynnigir mewn

adeilad newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos sydd y ddarpariaeth

amgen a enwir yn galluogi disgyblion drosglwyddo o Ysgol Rhewl i gael eu haddysgu

mewn adeilad modern pwrpasol. Yn adran 20 mae’r ddogfen yn amlygu

anfanteision posib o’r cynnig ac mae’r rhain yn cael eu datblygu’n bellach o fewn

Asesiad Effaith Cymunedol. Er hyn mae Cyngor Sir Ddinbych wrth ddatblygu’r cynnig

hyn o’r farn bod y manteision yn gorbwyso’r anfanteision wrth ystyried anghenion

tymor hir disgybl o gymuned Rhewl a hefyd y budd addysgiadol i holl ddisgyblion yr

ardal.

Page 10: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

10

6.10. Mae'r cynnig hwn yn rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun,

ac mae’r cynnig hwn yn symud ymlaen ar yr un pryd ag:

i. Y cynnig ar gyfer ysgol ardal newydd yn lle Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac

Ysgol Pentrecelyn;

ii. Adeilad ysgol ardal newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, sydd ar hyn o bryd

yn gweithredu ar ddau safle yng Nghlocaenog a Chyffylliog.

iii. Cyfleuster addysgol newydd pwrpasol a fydd yn galluogi adleoli Ysgol Pen

Barras ac Ysgol Stryd y Rhos.

7. Y Ddarpariaeth Bresennol: Ysgol Rhewl

7.1. Mae'r adran hon yn rhoi manylion am y ddarpariaeth bresennol yn Ysgol Rhewl.

7.2. Mae Ysgol Rhewl wedi ei leoli yng nghanol pentref Rhewl gyda ffin orllewinol y safle

yn ffinio â'r A525. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ystod oedran o 3-11 oed. Mae'r ysgol

wedi cael ei nodi fel ysgol gynradd Categori 2- Dwy Ffrwd. Dyma le mae dau fath o

ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr (Cymraeg a Saesneg) gyda rhieni/disgyblion yn

dewis naill ai darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn bennaf neu gyfrwng Saesneg yn

bennaf.

7.3. Yng nghyfrifiad ysgolion (CYBLD) Medi 2014 roedd 53 o ddisgyblion llawn amser a 3

disgybl rhan-amser (meithrin) yn mynychu Ysgol Rhewl. Mae'r siart isod yn dangos y

nifer disgyblion llawn amser a rhan amser dros gyfnod o ddeng mlynedd;

28 33

41 38

34 41

34 34 37

55 50

2

8 6

3 10

9

6 4 8

5 4

2004 2005 2006 2007 2008 2009 2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl NOR 2004-2014*

Full Time Part Time

Page 11: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

11

7.4. Mae 38.5% o’r disgyblion cyfredol yn dod o bentref Rhewl a'r ardal gyfagos. Mae

61.5% o'r disgyblion yn byw tu allan i'r pentref. Mae'r map isod yn dangos y dalgylch

ar gyfer blwyddyn academaidd 2014-2015;

7.5. Mae capasiti llawn amser adeilad yr ysgol wedi ei gyfrifo yn 82 disgybl. Yn mis Medi

2014 roedd 53 disgybl llawn amser a 3 disgybl rhan amser yn yr ysgol. Mae gwarged

o 29 lle llawn amser, sydd yn cyfateb i 35.4%. Y rhif derbyn ar gyfer yr ysgol ydi 11.

7.6. Mae gan yr ysgol ddwy ystafell ddosbarth mawr ac mae ganddi grwpiau blwyddyn

cymysg. Mae’r dosbarthiadau meithrin a Chyfnod Sylfaen wedi eu lleoli o fewn

Dosbarth 1 ac mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 wedi'u lleoli yn Nosbarth 2. Gellir

rhannu’r ystafelloedd dosbarth mawr yn ardaloedd addysgu llai. Mae'r tabl isod yn

dangos y dadansoddiad o ddisgyblion yn ôl grŵp blwyddyn;

Meithrin Derbyn Bl. 1 Bl. 2 Bl. 3 Bl. 4 Bl. 5 Bl. 6

3 5 6 9 8 5 9 11

23 (3 RhA/ 20 LlA) 33

7.7. Y gymhareb disgybl-athro ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf oedd 15.

Page 12: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

12

7.8. Pob gwanwyn mae Sir Ddinbych yn cyfrifo rhagamcanion o niferoedd disgyblion gan

ddefnyddio data cyfredol. Mae’r rhagamcaniad hyn yn awgrymu gostyngiad yn nifer

o ddisgyblion ar y gofrestr dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’r rhagamcaniad nifer

disgyblion llawn amser isod;

Ysgol 2015 2016 2017 2018 2019

Ysgol Rhewl 50 46 42 41 39

7.9 Roedd dyddiad cau ceisiadau derbyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (2015/16)

ar ddiwedd mis Tachwedd 2014. Hyd ddechrau mis Chwefror mae 3 cais ar gyfer

dosbarth derbyn ac un cais ar gyfer dosbarth meithrin wedi ei gyflwyno.

7.10 Mae’r tabl isod yn dangos lefel cyrhaeddiad a chyflawniad Ysgol Rhewl ar ddiwedd

Cyfnod Sylfaen dros y 5 mlynedd diwethaf ochr yn ochr â chyfartaledd lleol a

cenedlaethol;

DPC* DDCS*

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl 100% 100% 66.7% 83.3% 85.7%

Cyfartaledd Lleol 82.4% 79.8% 86.4% 84.9% 86.1%

Cyfartaledd Cenedlaethol 81.6% 82.7% 80.5% 83% 85.2% *2010-2011 yn cyrraedd Dangosydd Pwnc Craidd - DPC. Cafodd y DPC ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 ei ddisodli

gan Ddangosydd Deilliant Cyfnod Sylfaen – DDCS.

7.11 Mae’r tabl isod yn darparu data meincnodi ynglŷn â’r deilliannau disgwyliedig ar

ddiwedd y Cyfnod Sylfaen. Mae’r meincnodi yn cymharu perfformiad teulu o

ysgolion sydd â nifer tebyg o hawlio Cinio Ysgol am Ddim;

% of Ddisgyblion yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig

2012 2013 2014

Rhewl 66.7% 83.3% 85.7%

Uchaf 100.0% 100.0% 100.0%

Chwartel Uchaf 89.8% 90.0% 95.1%

Canolrif 82.7% 83.2% 90.0%

Chwartel Isaf 72.7% 75.1% 83.3%

Isaf 33.3% 28.6% 0.0%

7.12 Mae’r tabl isod yn dangos lefel cyrhaeddiad a chyflawniad ar ddiwedd Cyfnod

Allweddol 2 ar gyfer Ysgol Rhewl dros y 5 mlynnedd diwethaf;

% yn cyflawni Lefel 4+ DPC yng Nghyfnod Allweddol 2*

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl 100% 100% 100% 100% 75%

Page 13: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

13

Cyfartaledd Lleol 78.1% 82.3% 83.5% 86% 86.6%

Cyfartaledd Cenedlaethol 78.2% 80% 82.6% 84.3% 86.1%

Cyfartaledd Teulu 73.7% 74.9% 80.9% 84.1% 84.2%

*DPC- Dangosydd Pwnc Craidd

7.13 Mae’n bwysig nodi bod y nifer sydd yn cael eu hasesu ymhob blwyddyn yn gymharol

isel, ac felly nid yw cymhariaeth gyda cyfartaledd lleol a cenedlaethol ddim o hyd yn

bosib.

7.14 Mae cyfartaledd Anghenion Addysgol Ychwanegol yr ysgol dros y 5 mlynedd

diwethaf wedi ei dangos yn y tabl isod ochr yn ochr â chyfartaledd lleol a

cenedlaethol;

2010 2011 2012 2013 2014 Rhewl – Gweithred Ysgol

N/A* N/A 18.8% N/A N/A

Cyfartaledd Awdurdod Lleol – Gweithred Ysgol

12.2% 12.9% 12.8% 12.5% 12.5%

Cyfartaledd Cymru – Gweithred Ysgol

15.5% 15.2% 15.6% 15.2% 15.1%

Rhewl – Gweithred Ysgol Mwy

N/A* N/A N/A 15.6% N/A

Cyfartaledd Awdurod Lleol – Gweithred Ysgol Mwy

11.5% 10.6% 11.8% 12.2% 12.8%

Cyfartaledd Cymru – Gweithred Ysgol 8.5% 8.7% 8.9% 9.2% 8.8%

Rhewl – Gyda Datganiad N/A* N/A N/A N/A N/A Cyfartaledd Awdurdod Lleol – Gyda Datganiad

1.4% 1.4% 1.1% 0.9% 1.1%

Cyfartaledd Cymru – Gyda Datganiad 2.0% 1.9% 1.8% 1.7% 1.7%

* Mae’r Data yn gyfrinachol o ganlyniad i nifer fach o ddisgyblion yn y flwyddyn. Gall datgelu’r data

arwain at ddatgelu’r disgyblion unigol..

7.15 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn ag Anghenion Addysgol Ychwanegol ac effaith y

cynnig ar ddisgyblion gydag Anghenion Addysgol Ychwanegol yn rhan 10 o’r ddogfen.

7.16 Mae cyfartaledd Cinio Ysgol am Ddim yr ysgol dros y 5 mlynnedd diwethaf yn cael eu

dangos ochr yn ochr gyda chyfartaledd lleol a cenedlaethol yn y tabl isod;

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl

20.5% 20.7% 21.6% 16.8% 10.7%

Cyfartaledd Lleol

18.4% 20.0% 20.9% 21.3% 21.2%

Cyfartaledd Cymru

18.9% 20.0% 20.6% 20.8% 20.5%

Page 14: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

14

7.17 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chyrhaeddiad, meincnodi a gwybodaeth gyd-destunol

yr ysgol ar gael ar wefan Fy Ysgol Leoliv.

7.18 Roedd arolwg Estyn diwethaf yr ysgol yn Mai 2011, roedd y sylwadau isod wedi eu

cynnwys yn yr adroddiad;

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd y Rhewl ym mhentref bach Rhewl ger Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mae’n

darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 11 mlwydd oed. Mae nifer y disgyblion a

dderbynnir yn cynrychioli’r ystod gallu llawn.

Daw pob un o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith. Nid oes unrhyw

ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Caiff disgyblion eu haddysgu trwy gyfrwng y

Saesneg yn bennaf, ac maent yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Fodd bynnag, ysgol ddynodedig

ddwyieithog yw hi, sy’n darparu ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, yn

unol â’r galw.

Mae 34 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr ac mae pedwar plentyn arall yn mynychu’r

feithrinfa ar sail ran-amser. Ers adleoli cylch chwarae’r pentref, mae’r ysgol hefyd yn derbyn

plant cyn oedran meithrin. Caiff y ddarpariaeth hon, ‘Pili Pala’, ei chyflwyno yn ystafell

ddosbarth y Cyfnod Sylfaen ac mae’n cynnwys plant o ardaloedd eraill yn lleol lle nad yw’r

ddarpariaeth hon ar gael.

Bu cynnydd yn nifer y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd

diwethaf. Y ffigur presennol yw tua 26% o ddisgyblion, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru

gyfan, sef ychydig llai na 20% ar gyfer ysgolion cynradd.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan draean o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Nid oes

gan unrhyw ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er Medi 2007.

Yn 2010-2011, y gyllideb ysgol unigol fesul disgybl ar gyfer Ysgol Gynradd y Rhewl yw

£4,574, sy’n cymharu ag uchafswm o £18,610 ac isafswm o £2,626 ar gyfer ysgolion

cynradd yn Sir Ddinbych. Yr ysgol sydd â’r 14eg cyllideb uchaf fesul disgybl o’r 53 ysgol

gynradd yn Sir Ddinbych.

Crynodeb

Perfformiad presennol yr ysgol Da

Rhagolygon gwella’r ysgol Da

Cwestiwn Allweddol Barn

Pa mor dda yw’r deilliannau? Da

Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da

Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da

Page 15: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

15

Perfformiad presennol Rhagolygon Gwella

Argymhellion

Mae perfformiad cyffredinol yn dda oherwydd:

ethos cynhwysol yr ysgol a chymuned dwymgalon a chyfeillgar yr ysgol;

safonau cyflawniad da’r disgyblion a’u gallu i ddefnyddio medrau yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm;

ystod dda o weithgareddau dysgu sy’n ennyn ac yn cynnal diddordeb y disgyblion;

lefelau uchel o bresenoldeb ac ymddygiad, gyda disgyblion yn bwrw ymlaen â’r dysgu’n dda;

y ffordd y mae’r ysgol yn hyrwyddo lles disgyblion yn llwyddiannus; a’r

gweithdrefnau effeithiol ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion ac ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, yn enwedig mewn llythrennedd

Mae’r rhagolygon gwella yn dda oherwydd:

hanes da yn sicrhau deilliannau gwell i ddisgyblion;

yr ymrwymiad amlwg i welliant parhaus mewn darpariaeth a deilliannau;

dealltwriaeth glir o’r agweddau ar y ddarpariaeth y mae angen eu datblygu ymhellach a’r parodrwydd i ystyried safbwyntiau llywodraethwyr, rhieni a disgyblion;

cynllun datblygu ysgol strwythuredig sy’n nodi cynigion clir a phriodol ar gyfer datblygu’r ysgol;

y ffordd y mae corff llywodraethol yr ysgol yn gweithredu fel ffrind beirniadol; ac

ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol eraill fel cymuned ddysgu broffesiynol.

Er mwyn gwella, mae angen i’r ysgol: A1 sicrhau bod gweithgareddau dysgu yn ymestyn disgyblion o bob gallu mewn dosbarthiadau prif ffrwd, yn enwedig disgyblion uwch eu gallu yng nghyfnod allweddol 2; A2 gwella dealltwriaeth disgyblion o beth i’w wneud i wella ansawdd eu gwaith, yn enwedig ansawdd y marcio ac ymglymiad disgyblion mewn hunanasesu ac asesu cyfoedion; A3 datblygu cynllunio a gweithredu’r ddarpariaeth ar gyfer medrau ymhellach, i sicrhau parhad a dilyniant mewn datblygiad medrau disgyblion; a A4 gwella rôl uwch reolwyr mewn arfarnu parhad a dilyniant yn y ddarpariaeth ac yng nghyflawniadau disgyblion ar draws yr ysgol.

Allwedd Diffiniadau Barn Estyn

Cwestiynau Allweddol Fframwaith

Pa mor dda yw’r deilliannau?

Pa mor dda yw’r ddarpariaeth?

Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth?

Barn

Rhagorol - Llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector

Da - Llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig sydd angen eu gwella’n sylweddol

Digonol - Mae cryfderau’n gorbwyso’r meysydd i’w gwella

Page 16: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

16

Anfoddhaol - Mae cryfderau’n gorbwyso’r meysydd i’w gwella

7.19 Mae’r cylch chwarae 'Pili Pala' wedi ei leoli yn yr ysgol; mae gan y cylch chwarae dwy

sesiwn y dydd (bore a phrynhawn) ar gyfer plant rhwng 2 flwydd a hanner a throsodd.

Mae'r cylch chwarae yn meddiannu gofod o fewn y Feithrinfa a'r dosbarth Cyfnod

Sylfaen. Yn yr arolwg diwethaf o’r cylch chwarae yn 2013 roedd 5 o blant wedi'u

cofrestru, 2 ohonynt yn cael nawdd blynyddoedd cynnar.

7.20 Mae'r ddarpariaeth amgen arfaethedig yn cynnig gofal ar ffurf grwpiau chwarae,

clybiau brecwast a chyfleusterau ar ôl ysgol. Canfu Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant

Sir Ddinbych 2014 bod digon o leoedd gofal plant ar gael o fewn ardal Rhuthun gyda

nifer o leoedd dros ben. Nid yw’n debygol y bydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar

fynediad i ofal plant gan fod yna ddigon leoedd dros ben ar gael, gan gynnwys lleoedd

wedi eu cyllido ar gyfer blynnyddoedd cynnar.

8. Categori Iaith

8.1. Mae Ysgol Rhewl yn ysgol Categori 2. Caiff ysgolion Categori 2 eu diffinio fel ysgolion

cynradd dwy ffrwd. Mae'r diffiniad canlynol wedi cael ei gymryd o'r ddogfen

wybodaeth 'Diffinio Ysgolion yn ôl y Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg' a gyhoeddwyd

gan Lywodraeth Cymruv;

Diffiniad o Ysgol Gynradd Dwy Ffrwd

Y Cwricwlwm: Mae dwy fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr yn yr ysgolion

hyn. Mae rhieni/disgyblion yn dewis naill ai'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn

bennaf neu gyfrwng Saesneg yn bennaf sydd, fel arfer, yn cael ei ddarparu fel yng

nghategorïau 1 a 5 yn y drefn honno.

Iaith yr Ysgol: Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngweithrediad yr ysgol o ddydd i

ddydd. Pennir iaith cyfathrebu gyda'r disgyblion gan natur darpariaeth y cwricwlwm,

ond mewn rhai ysgolion rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg drwy gydol

yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith.

Canlyniadau: Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg, disgwylir y byddant yng

Nghategori 1. Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Saesneg, disgwylir y byddant yng

nghategori 5.

8.2. Mae categoreiddio ieithyddol yr ysgolion yn Sir Ddinbych yn cael ei archwilio ar hyn

o bryd gan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg. Disgwylir y bydd adroddiad ar y

Page 17: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

17

canfyddiadau gydag argymhellion yn cael ei gyflwyno i bwyllgorau archwilio Cyngor

Sir Ddinbych yng ngwanwyn 2015.

8.3. Yn yr arolwg diweddaraf Estyn Ysgol Rhewl (Mai 2011) disgrifiwyd darpariaeth iaith

yr ysgol fel yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg gyda Chymraeg yn cael ei ddysgu fel

ail iaith.

8.4. Mae’r tabl isod yn dangos gwybodaeth ynglyn a’r rhuglder disgyblion yn yr iaith

Gymraeg;

Nifer y disgyblion ar y cofrestr (CYBLD Ionawr 2014)*

Rhugl yn y Gymraeg Gallu siarad Cymraeg ond nid yn rhugl.

Ddim yn gallu siarad Cymraeg

Ysgol Rhewl 0 49 1

*CYBLD – Cyfrifiad blynyddol Ysgolion

8.5. Mae’r tabl isod yn dangos iaith gartref disgyblion yr ysgol;

Disgyblion Llawn Amser (CYBLD Ionawr 2014)*

Cartrefi sy’n siarad Cymraeg

Cartrefi sy’n siarad Saesneg

Dwyieithog

Ysgol Rhewl 13 37 0

8.6. Am y cyfnod 2010-2014 ni aseswyd unrhyw ddisgyblion yn yr ysgol fel Cymraeg iaith

gyntaf ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Mae'r tabl isod yn dangos canran y

disgyblion sy'n ennill Lefel 4 ac uwch mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod

Allweddol

2010 2011 2012 2013 2014

Amh. 50% 100% 100% 50%

8.7. Mae'r tabl isod yn dangos niferoedd y disgyblion sydd wedi eu hasesu naill ai drwy

gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 ers 2007;

Iaith 2007/2008 2008/2009 2009/2010 2010/2011 2011/2012 2012/2013 2013/2014

Saesneg 4 5 1 2 3 7 4

Cymraeg 1 1 1 0 0 0 0

Cyfanswm Disgyblion

5 6 2 2 3 7 4

8.8. Mae mwyafrif y disgyblion yn trosglwyddo o Ysgol Rhewl i Ysgol Brynhyfryd ar gyfer

addysg uwchradd. Mae Ysgol Brynhyfryd yn rhoi darpariaeth ddwyieithog gan

gynnig Ffrwd Gymraeg, Ffrwd Saesneg a Ffrwd Ddwyieithog. Mae’r holl ddisgyblion

o Ysgol Rhewl, bron yn ddieithriad, yn trosglwyddo i Ysgol Brynhyfryd ar gyfer eu

Page 18: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

18

haddysg uwchradd. Mae'r tabl isod yn dangos y cyfrwng iaith y caiff disgyblion o

Ysgol Rhewl eu haddysgu;

Blwyddyn Cymraeg Iaith 1af Cymraeg 2il Iaith Cyfanswm

2009 1 5 6

2010 0 2 2

2011 0 2 2

2012 0 3 3

2013 0 7 7

2014 0 4 4

Cyfanswm 1 23 24

Mae’r tabl isod yn dangos deilliant Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg ail

iaith ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiwethaf;

Saesneg Cymraeg Iaith Gyntaf Cymraeg Ail Iaith

Ysgol Rhewl* 100% N/A 50%

Ysgol Pen Barras 93.1% 93.1% N/A

Ysgol Stryd Y Rhos 100% N/A 73.1%

Sir Ddinbych 89.2% 85.1% 74%

Cymru 88.4% 88.1% 73.1% * Mae nifer y disgyblion ymhob blwyddyn yn gymharol isel, ac felly nid yw cymhariaeth a chyfartaledd lleol a

chyfartaledd cenedlaethol bob tro yn bosibl.

9. Darpariaeth amgen

9.1. Pe bai’r cynnig presennol yn mynd yn ei flaen, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi

cynnig y gallai disgyblion drosglwyddo i naill ai Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y

Rhos i gyd-fynd ag agor y cyfleusterau newydd, yn amodol ar ddewis y rhieni, er

mwyn sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn addysg i safon uchel cyson. Mae hi’n

bosibl y bydd rhai rhieni yn dymuno cael darpariaeth amgen ar gyfer eu

plentyn/plant. Mae’r ddarpariaeth amgen posibl wedi eu hadnabod gan ddefnyddio

data cyfredol ar ddewis iaith a lleoliad cartrefi disgyblion presennol.

Ysgol Math Disgyblion

Llawn Amser*

Disgyblion Rhan

Amser*

Lleoedd Llawn Amser

Lleoedd Rhan Amser

Pellter o Ysgol Rhewl

Ysgol Pen Barras, Rhuthun LL15 1DY

Cyfrwng Cymraeg Categori 1, Cymunedol

223 36 252 36 Tua. 2.5 milltir**

Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun LL15 1DY

Cyfrwng Saesneg Categori 5, Cymunedol

151 14 189 23 Tua 2.5 milltir**

*Fel ag CYBLD Medi 2014. **I’r safle presennol, tua 1.1milltir i’r safle arfaethedig datblygiad Glasdir.

Page 19: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

19

9.2. Mae’r Cyngor yn cynnig darparu cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras ac

Ysgol Stryd y Rhos ar safle Glasdir yn Rhuthun. Cynigir y bydd capasiti y ddwy ysgol

oddeutu 270 disgybl llawn amser (Ysgol Pen Barras) ac 180 disgybl llawn amser

(Ysgol Stryd y Rhos). Y nifer derbyn yn seiliedig ar y capasiti uchod fyddai 35 a 25 yn

ol eu trefn. Disgwylir y capasiti ar gyfer darpariaeth meithrin fyddai 35 a 25 yn ol eu

trefn.

9.3. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi adnabod ysgol eraill yn yr ardal a all gael eu

heffeithio os bydd rhieni yn dewis darpariaeth amgen. Mae’n ystyrlon tybio, yn

seiliedig ar y dewis o iaith a lleoliad cartrefi, y bydd yr ysgolion canlynol yn cael ei

effeithio os bydd y cynnig yn cael ei weithredu;

Ysgol Math Disgyblion Llawn

Amser*

Disgyblion Rhan

Amser*

Lleoedd Llawn Amser

Lleoedd Rhan

Amser

Pellter (o Ysgol Rhewl)

Ysgol Borthyn, Rhuthun

Cyfrwng Saesneg Categori 5, VC Eglwys Yng Nghymru

142 20 142 20 Tua 1.3 milltir

Ysgol Gellifor, Gellifor

Cyfrwng Saesneg Categori 5, Cymunedol

87 7 91 10 Tua 1.4 millltir

* Fel ag Medi 2014- CYBLD. 9.4. Mae math gwahanol o ddarpariaeth hefyd ar gael ar ffin dalgylch, sydd yn cynnwys;

Ysgol Math Disgyblion Llawn

Amser*

Disgyblion Rhan

Amser*

Lleoedd Llawn Amser

Lleoedd Rhan

Amser

Pellter (o Ysgol

Rhewl) Ysgol Llanbedr, Llanbedr

Cyfrwng Saesneg Categori 5, VC Eglwys Yng Nghymru

22 22 54 11 Tua 3.2 milltir

Ysgol Llanfair DC**, Llanfair DC

Dwy Ffrwd Categori 2, VC Eglwys Yng Nhymru

92 14 113 14 Tua 4.3 milltir

Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog/ Cyffylliog (Ysgol dau safle tan 2017)

Cyfrwng Cymraeg Categori 1, Cymunedol

60 14 80 11 Tua 4.3 milltir (Cyffylliog) Tua 6 milltir (Clocaenog)

Ysgol Bro Cinmeirch,

Cyfrwng Cymraeg

69 17 80 11 Tua. 2.9 milltir

Page 20: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

20

Llanrhaeadr Categori 1, Cymunedol

**Mae Ysgol Llanfair DC yn rhan o gynnig adrefnu ysgolion ychwanegol. Cynigir y bydd Ysgol Llanfair DC yn

cau i ffurfio ysgol ardal newydd yn ardal Ysgol Llanfair DC ar gyfer disgyblion Ysgol Llanfair DC ac Ysgol

Pentrecelyn.

9.5. Rhaid nodi bod rhai disgyblion yn teithio i Ysgol Rhewl tu hwnt i ‘ddalgylch naturiol’

yr ysgol er hyn mae niferoedd y disgyblion yn fach ac wedi eu gwasgaru yn

ddaearyddol felly bydd yr effaith ar ysgolion yn yr ardaloedd hynny yn isel.

9.6. Mae gwybodaeth bellach yn cael ei ddarparu yn Atodiad 1, sydd yn cymharu Ysgol

Rhewl, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras gyda darpariaeth amgen rhesymol

arall. Mae’r wybodaeth sydd yn atodiad 1 yn ystyried;

Cyrhaeddiad Addysgol (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2);

Cinio Ysgol am ddim;

Data Anghenion Addysgol Ychwanegol;

Nifer y disgyblion cyfredol llawn amser (CYBLD Medi 2014);

Nifer y disgyblion cyfredol meithrin rhan amser (CYBLD Medi 2014);

Nifer y disgyblion am y 5 mlynedd diwethaf;

Rhagamcanion niferoedd disgyblion am y 5 mlynedd nesaf;

Crynodeb o adroddiadau Estyn ar gyfer pob ysgol (sydd heb eu cynnwys yn y

brif ddogfen);

Gwybodaeth ynglyn ac addasrwydd a chyflwr adeiladau a safleoedd

ysgolion.

9.7. Mae’r wybodaeth sydd yn atodiad 1 yn awgrymu y bydd holl ddarpariaeth amgen

yn o leiaf cynnal y safon o ddarpariaeth addysg ar gyfer disgyblion Ysgol Rhewl.

Mae lleoedd dros ben ymhob ysgol amgen ac yn gallu parhau i ddarparu

cwricwlwm llawn yng Nghyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

9.8. Mae’r rhan yma yn canolbwyntio ar ddarpariaeth addysg yn yr ysgolion sydd wedi

enwi yn y ddogfen, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras. Mae gwybodaeth am

ddeilliannau addysg a darpariaeth yn cael ei gynnwys yn atodiad 1 i bwrpas

cymharu.

9.9. Mae’r tabl sydd yn dilyn yn dangos deilliant Cyfnod Sylfaen ar gyfer Ysgol Rhewl,

Ysgol Stryd yn Rhos ac Ysgol Pen Barras, ac yn rhoi cyfle i rieni gymharu;

Page 21: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

21

DPC* DDCS*

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl 100% 100% 66.7% 83.3% 85.7%

Ysgol Stryd y Rhos 88.9% 90% 95.2% 100% 100%

Ysgol Pen Barras 100% 97.1% 95.5% 94.7% 93.5%

Cyfartaledd Sir Ddinbych 82.4% 79.8% 86.4% 84.9% 86.1%

Cyfartaledd Cymru 81.6% 82.7% 80.5% 83% 85.2% *2010-2011 yn cyrraedd Dangosydd Pwnc Craidd - DPC. Cafodd y DPC ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 ei

ddisodli gan Ddangosydd Deilliant Cyfnod Sylfaen – DDCS.

9.10. Mae’r tabl isod yn dangos deilliannau Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer Ysgol Rhewl,

Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, ac yn rhoi cyfle i rieni gymharu;

% yn cyflawni Lefel 4+ DPC yng Nghyfnod Allweddol 2*

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Rhewl 100% 100% 100% 100% 75%

Rhos Street School 93.5% 93.3% 96.6% 92.6% 100%

Ysgol Pen Barras 97.1% 90% 96.8% 94.3% 89.7%

Cyfartaledd Sir Ddinbych 78.1% 82.3% 83.5% 86% 86.6%

Cyfartaledd Cymru 77% 80% 82.6% 84.3% 86.1%

* Dangosydd Pwnc Craidd

9.11. Mae’r gymhareb disgybl i athro yn Ysgol Stryd y Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol

Rhewl ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol yn cael eu harddangos isod;

Ysgol Cymhareb Disgybl / Athro

Ysgol Stryd y Rhos 18.5

Ysgol Pen Barras 19.2

Ysgol Rhewl 15

9.12. Mae cyfartaledd 3 blynedd hawl am Ginio Ysgol am Ddim ar gyfer Ysgol Stryd y

Rhos, Ysgol Pen Barras ac Ysgol Rhewl yn cael ei gynnwys yn y tabl isod i ddiben

cymharu;

2010 2011 2012 2013 2014

Ysgol Stryd y Rhos

6.3% 8.9% 11.3% 11.1% 12%

Pen Barras

0.7% 1.3% 1.3% 1.3% 1.6%

Ysgol Rhewl

20.5% 20.7% 21.6% 16.8% 10.7%

Cyfartaledd Lleol

18.4% 20.0% 20.9% 21.3% 21.2%

Cyfartaledd Cymru

18.9% 20.0% 20.6% 20.8% 20.5%

Page 22: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

22

9.13. Cynhaliwyd arolwg Estyn diweddaraf Ysgol Stryd y Rhos ym Mawrth 2013. Roedd

yr adroddiad yn cynnwys y sylwadau canlynol;

Cyd-destun

Mae Ysgol Gymunedol Stryd y Rhos wedi ei lleoli yn Rhuthun ac yn rhannu ei safle ac Ysgol

gynradd cyfrwng Cymraeg. Daw disgyblion o gefndiroedd gwahanol a maent yn byw yn y

dref ar pentrefi o amgylch.

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng oedran 3 a 11. Ar hyn o bryd mae 169

disgybl yn mynychu’r ysgol, gan gynnwys 13 sydd yn mynychu dosbarth meithrin yn rhan

amser. Mae niferoedd disgyblion wedi disgyn ers yr arolwg diwethaf. Mae’r ysgol wedi ei

threfnu i wyth dosbarth oedran unigol. Nid oes unrhyw disgybl yn siarad Cymraeg fel iaith

gyntaf ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth ar gyfer Saesneg fel iaith

ychwanegol. Daw pedwar ar ddeg y cant o ddisgyblion o gymuned ethnig leiafrifol.

Mae wyth y cant o ddisgyblion ar hawl i ginio ysgol am ddim, sydd yn is na cyfartaledd yr

awdurdod lleol a Chymru. Mae’r ysgol wedi adnabod 9% o ddisgyblion ac anghenion

addysgol ychwanegol ac ychydig o ddisgyblion gyda datganiad.

Mae’r ysgol yn rhannu nifer o adnoddau gyda’r ysgol cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys

ystafell gyfrifiaduron, neuadd, ffreutur ar cae. Mae disgyblion blwyddyn 5 a blwyddyn 6 yn

cael eu haddysgu mewn adeilad arwahan i’r prif adeilad ysgol yn ymyl y cae chwarae.

Mae’r pennaeth yn ei swydd ers Ebrill 2009 a bu i’r ysgol gael ei arolygu ddiwethaf yn Medi

2007.

Mae cyllideb unigol Ysgol Stryd y Rhos fesul disgybl ar gyfer 2012-2013 yn £3,810 y disgybl.

Y mwyafswm fesul disgybl yn Sir Ddinbych yw £9,659 ar lleiafswm ydi £3,064. Mae Ysgol

Stryd y Rhos 36 allan o 52 ysgol gynradd yn Sir Ddinbych o safbwynt y gyllideb ysgol fesul

disgybl.

Crynodeb

Perfformiad presennol yr ysgol Da

Rhagolygon gwella’r ysgol Rhagorol

Cwestiwn Hanfodol Barn

Pa mor dda yw’r deilliannau? Da

Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da

Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da

Page 23: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

23

Perfformiad presennol Rhagolygon gwella Argymhellion

Mae perfformiad presennol yn dda gan;

Mae bron i bob disgybl yn llwyddo i gyrraedd safon da mewn nifer o agweddau o’i gwaith a mae nifer o ddisgyblion sydd yn fwy abl yn llwyddo’n dda;

Mae’r addysgu yn herio ac yn ymgysylltu a disgyblion;

Bod disgyblion yn ymddwyn yn dda, hyderus ac yn awyddus i ddysgu; ac

Mae’r ysgol yn darparu gofal da a cefnogaeth i ddisgyblion gan gynnwys disgyblion gyda anghenion ychwanegol.

Mae rhagolygon ar gyfer gwella yn rhagorol gan;

Fod yr uwch reolwyr ar llywodraethwyr a gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol, sydd wedi ei seilio gan gynllunio at wella eithradol o effeithiol;

Mae’r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth cryf iawn ac yn cael ei gefnogi gan dim o uwch arweinyddion effeithiol;

Mae’r ysgol yn parhau i adolygu effaith mentrau newydd drwy fonitro trwyadl;

Mae’r ffocws glir ar wella yn cael effaith bositif iawn ar y safonau y mae disgyblion yn cyflawni; ac

Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd da iawn ers yr ymweliad diwethaf.

Er mwyn gwella mae’r ysgol angen; A1: Gwella safon ysgrifennu’r bechgyn. A2: Sicrhau bod disgyblion yn defnyddio eu gwybodaeth or Iaith Gymraeg yn ystod diwrnod yr ysgol. A3: Gwella presenoldeb

disgyblion.

9.14. Cynhaliwyd arolwg Estyn diweddaraf Ysgol Pen Barras ym Mawrth 2013. Roedd yr

adroddiad yn cynnwys y sylwadau canlynol;

Cyd-destun

Ysgol Gynradd Sirol benodedig Gymraeg yw Ysgol Pen Barras, sy’n gwasanaethu tref

Rhuthun a’r cyffiniau. Mae’r ardal yn weddol ffyniannus, gyda’r disgyblion, ar y

cyfan, yn dod o gefndiroedd cymdeithasol eithaf breintiedig. Mae dros 2% o’r

disgyblion yn rhai â hawl i dderbyn prydau ysgol di-dâl, sy’n sylweddol is na’r

cyfartaledd ar gyfer y sir a Chymru gyfan.

Ar hyn o bryd, mae 216 o ddisgyblion llawn amser 4 i 11 oed ar y gofrestr ac mae 32

o ddisgyblion oed meithrin yn mynychu’n rhan amser naill ai yn y bore neu yn y

prynhawn. Mae 18 o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig, gan

gynnwys un disgybl sy’n destun datganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw tua

Page 24: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

24

84% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg. Daw llai nac 1% o’r disgyblion o

gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gymysg.

Mae’r ysgol yn rhedeg ei meithrinfa ei hunan yn ddyddiol, sef Clwb Ffrindiau Bach.

Mae hefyd yn cynnal clwb brecwast bob bore a chlwb ar ôl ysgol.

Lleolir dosbarthiadau’r Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 1 ym mhrif adeilad yr

ysgol, gyda’r dosbarth Meithrin a dosbarthiadau cyfnod allweddol 2 mewn

cabanau. Rhennir y safle gydag ysgol gynradd arall, sef Ysgol Stryd y Rhos.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn 2005. Mae’r pennaeth mewn gofal yn ei swydd ers

yr hydref, 2010. Penodwyd pennaeth parhaol i gychwyn ym Medi, 2011.

Y gyllideb ysgol unigol yn 2010-2011 fesul disgybl ar gyfer Ysgol Pen Barras yw

£3323 sy’n cymharu gydag uchafswm o £18610 ac isafswm o £2626 ar gyfer

ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych. Hon yw’r ysgol sydd â’r gyllideb fesul disgybl

45ain uchaf o'r 53 ysgol gynradd yn Sir Ddinbych.

Crynodeb

Perfformiad presennol yr ysgol Da

Rhagolygon gwella’r ysgol Da

Cwestiwn Allweddol Barn

Pa mor dda yw’r deilliannau? Da

Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Da

Pa mor dda yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Da

Perfformiad presennol Rhagolygon Gwella

Argymhellion

Mae perfformiad presennol yr ysgol yn dda oherwydd:

bod y disgyblion ar draws yr ysgol yn cyflawni safonau da;

bod yr addysgu o ansawdd da;

bod y disgyblion yn elwa o brofiadau dysgu diddorol ac amrywiol;

bod y disgyblion yn mwynhau’r ysgol, yn ymddwyn yn dda iawn ac yn frwdfrydig wrth

Mae’r rhagolygon ar gyfer gwella yn dda oherwydd:

bod yr athrawon a’r staff ategol yn dangos ymroddiad sylweddol i gynnal a gwella safonau;

bod y prosesau hunan arfarnu y mae’r holl staff a’r llywodraethwyr wedi bod â rhan ynddynt dros y flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at welliannau, er bod lle i’w datblygu ymhellach;

Er mwyn gwella, mae angen i’r ysgol: A1: anelu at safonau rhagorol; A2: wella cynllunio dilyniant a datblygiad sgiliau TGCh yng nghyfnod allweddol 2; A3: wella’r trefniadau asesu ac olrhain cynnydd disgyblion a rhoi rhan mwy weithredol i’r disgyblion wrth wella eu gwaith eu hunain; A4: barhau i ddatblygu rolau arwain yr ysgol a datblygu ymhellach rôl y Corff

Page 25: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

25

ddysgu;

bod cysylltiadau da rhwng yr ysgol a’r rhieni a’r gymuned leol.

bod yr ysgol yn cydweithio gydag ystod dda o bartneriaid, a

bod y tîm arolygu o’r farn y bydd yr ysgol yn gweithredu argymhellion yr arolygiad ac yn sicrhau cydweithio effeithiol rhwng y staff proffesiynol, y Corff Llywodraethol a’r awdurdod lleol (ALl).

Llywodraethol; A5: mireinio ymhellach y systemau ar gyfer hunan arfarnu; A6: gydweithio gyda’r ALl i wella cyfyngiadau’r safle.

9.15. Gellir gweld adroddiadau arolygon Estyn ar gyfer pob ysgol yn llawn ar wefan

Estynvi.

9.16. Mae system Gategoreiddio Cenedlaethol Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru yn

darparu system categoreiddio ar gyfer holl ysgolion cynradd Cymru. Hefyd caiff pob

ysgol eu gosod mewn categori ar gyfer cefnogaeth.

9.17. Mae 4 categori cefnogaeth sydd yn defnyddio system ‘goleuadau traffic’, wedi eu

diffinio isod;

Categori cefnogaeth gwyrdd – Mae’r ysgolion yn y categori gwyrdd yn

ysgolion effeithiol iawn sy’n cael eu rhedeg yn dda, sydd ag arweinyddiaeth

gadarn ac sy’n gwbl glir ynghylch eu blaenoriaethau ar gyfer gwella.

Categori cefnogaeth melyn – Mae’r ysgolion yn y categori melyn yn ysgolion

effeithiol sydd eisoes yn perfformio’n dda ac sy’n ymwybodol o’r meysydd y

mae angen iddynt eu gwella

Categori cefnogaeth oren – Mae’r ysgolion yn y categori oren yn ysgolion y

mae angen eu gwella. Mae arnynt angen cymorth i nodi’r camau y mae

angen eu cymryd i wella neu sicrhau bod newidiadau’n digwydd yn

gyflymach

Categori cefnogaeth coch – Yr ysgolion yn y categori coch yw’r ysgolion y

mae angen eu gwella fwyaf a byddant yn derbyn cefnogaeth ddwys ar

unwaith.

9.18. Mae’r tabl isod yn dangos y categori cefnogaeth ynghyd a’r ‘Band’ ar gyfer Ysgol

Rhewl, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras (Mae gwybodaeth ynglyn a

darpariaeth arall yn atodiad 1);

Ysgol Categori Cefnogaeth ‘Band’

Ysgol Rhewl Oren 3 (Oren)

Ysgol Stryd y Rhos Gwyrdd 1 (Gwyrdd)

Page 26: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

26

Ysgol Pen Barras Melyn 2 (Melyn)

9.19. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglyn ar System Gategoreiddio

Cenedlaethol yn y llawlyfr i rieni sydd wedi ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth

Cymruvii.

10. Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

10.1. Os bydd y cynnig presennol yn symud ymlaen, bydd yn arwain at newid yn yr

amgylchedd dysgu ar gyfer pob disgybl. Mae'r awdurdod yn cydnabod er y bydd yr

holl ddisgyblion yn profi’r newid fe allai fod yn fwy o her ar gyfer disgyblion ag

anghenion addysgol arbennig. Bydd y Cyngor yn cymryd pob cam ymarferol i leihau

aflonyddu a chynorthwyo disgyblion gydag unrhyw drosglwyddiad.

10.2. O'r garfan ddisgyblion gyfredol, mae 16.9% o ddisgyblion wedi’u cofrestru fel

disgyblion ADY yn Ysgol Rhewl. Cyfartaledd Sir Ddinbych yw 20.5%. Bydd unrhyw

ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sydd ar hyn o bryd yn mynychu Ysgol

Rhewl yn parhau i dderbyn yr un gefnogaeth addysg sydd ei hangen. Trosglwyddir y

trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion, fel cefnogaeth un i un

penodol, a caiff ei ailadrodd yn ei amgylchedd dysgu newydd.

10.3. Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu cymorth a chefnogaeth briodol ar gyfer

disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Os bydd gan rieni sydd â

disgyblion sydd wedi eu cofrestru’n ADY unrhyw gwestiynau am y gefnogaeth y

gallai'r Cyngor gynnig, bydd cyfle iddynt siarad â'r Swyddogion Addysg ADY

perthnasol.

10.4. Bydd y cyfleusterau newydd ar safle Glasdir yn cael eu dylunio mewn ymgynghoriad

â Swyddogion Addysg ADY Cyngor Sir Ddinbych, a’r staff a'r disgyblion dan sylw.

Rhagwelir y bydd y dull hwn yn creu gwell amodau ac amgylcheddau dysgu ar gyfer

disgyblion ag ADY, yn benodol mewn perthynas ag ardaloedd un i un, adnoddau,

hygyrchedd ac acwsteg.

11. Darpariaeth uwchradd

11.1. Ni ddisgwylir i’r cynnig gael unrhyw effaith sylweddol ar ddarpariaeth uwchradd yn

yr ardal. Mae Ysgol Rhewl, a phob ysgol amgen a chyfagos arfaethedig hefyd yn

porthi Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Ni ddisgwylir y bydd unrhyw amrywiad sylweddol

yn y disgyblion sy’n defnyddio’r ffrydiau Saesneg, Cymraeg neu ddwyieithog.

Page 27: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

27

12. Manylion y cynnig: Disgrifiad a rhesymeg

12.1. Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Sir Ddinbych i gynnig y ddarpariaeth addysgol orau

bosibl i blant a phobl ifanc. Datblygwyd y cynnig hwn yn unol ag:

a. Ymrwymiad y Cyngor i’r ‘Rhaglen Moderneiddio Addysg’;

b. Nod y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion o alluogi pob plentyn a pherson

ifanc i ddatblygu eu potensial llawn.

12.2. Mae yna nifer o heriau yn wynebu Ysgol Rhewl a allai effeithio ar y gallu i gynnal

safonau a phrofiadau addysgol yn y dyfodol. Mae crynodeb o’r meysydd hyn isod.

Yr Achos Addysgol dros Newid

12.3. Wrth ystyried y cynnig yn ofalus mae sylw manwl wedi ei roi i effaith tebygol y

cynnig ar safon deilliannau, darpariaeth ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn fyr, mae

Cyngor Sir Ddinbych fel y cynnigydd, yn credu y byddai’r cynnig yn o leiaf cynnal

darpariaeth am y rhesymau canlynol:

I. Deilliannau – safonnau a lles – mae’r cynnig yn debygol i o leiaf cynnal y

deilliannau presennol ar gyfer disgyblion Ysgol Rhewl. Mae disgwyl y bydd yr

ysgolion a enwir, Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, yn sicrhau bod disgyblion yn

derbyn cwricwlwm llawn, eang a cytbwys ar gyfer darparu’r Cyfnod Sylfaen a

Chyfnod Allweddol 2. Mae disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau

un oedran yn Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras a fydd yn cyfrannu’n bositif

ar gyfer datblygiad disgyblion.

II. Darpariaeth – profiadau dysgu, addysgu, gofal ac arweiniad, amgylchedd

dysgu – Byddai disgyblion presennol Ysgol Rhewl yn profi newid yn eu

hamgylchedd dysgu. Bydd eu hamgylchedd addysgu newydd, yn ysgol wedi ei

adeiladu’n bwrpasol ar gyfer darparu cwricwlwm modern a chynnig cyfle i

ddisgyblion gael mynediad at ystod eang o gyfleon. Byddai unrhyw gefnogaeth

unigol y mae disgybl yn derbyn yn trosglwyddo gyda hwy ai ailadrodd yn ei

hamgylchedd dysgu newydd. Bydd yr ysgol newydd a capasiti addysgu

ychwanegol ar gyfer grwpiau o ddisgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol

ac ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog.

III. Arweinyddiaeth a Rheolaeth - arweinyddiaeth, gwella safonnau, cydweithio a

rheoli adnoddau- Mae’r cynnig yn cynnig darpariaeth amgen sydd o leiaf yn

gyfwerth i arweinyddiaeth a rheolaeth Ysgol Rhewl. Byddai’r cynnig yn arwain

Page 28: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

28

at well sefydlogrwydd ac effeithlonrwydd ynglŷn â rheoli adnoddau ac arwain

tuag at ddarbodion maint. Byddai hefyd yn darparu cyfle ar gyfer mwy o

arweinwyr cwricwlwm o fewn y staff addysgu a tim arweinyddiaeth cryfach na y

disgwylir yn Ysgol Rhewl. Byddai’r datblygiad newydd yn golygu bod Ysgol Stryd

y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn rhannu safle (fel y mae rwan) a gall ddarparu cyfle

ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy ysgol. Bydd disgyblion yn cael mynediad at

ystod eang o staff addysgu gydag arbennigedd mewn nifer o feysydd

cwricwlaidd neu allgyrsiol.

Effaith y Cynnig ar Ddeilliannau a Darpariaeth Cwricwlwm

12.4. Os bydd disgyblion presennol Ysgol Rhewl yn trosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos

Street neu Ysgol Pen Barras nid yw’n debygol y bydd y niferoedd o ddisgyblion yn

trosglwyddo yn cael effaith negyddol ar allu naill ysgol neu’r llall i ddarparu’r

cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen neu Cyfnod Allweddol 2. Mae lleoedd gwag yn y

ddwy ysgol ac maent yn gallu derbyn disgyblion o Ysgol Rhewl. Mae hyn yn wir ar

gyfer yr ysgolion eraill sydd wedi eu hadnabod gan yr awdurdod a lleoedd gwag.

12.5. Yn bresennol mae disgyblion Ysgol Rhewl yn cael eu haddysgu mewn grwpiau

addysgu yn cynnwys hyd at 4 blwyddyn. Os bydd y cynnig presennol yn cael ei

weithredu a disgyblion yn trosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen

Barras byddant yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau priodol i’w oed. Mae

maint dosbarthiadau yn y ddwy ysgol amgen yn is na’r uchafswm o 30. Mae

cymhareb disgybl athro’r 3 ysgol wedi ei gynnwys yn rhan 9 o’r ddogfen ac yn

awgrymu gwahaniaeth bach rhwng y 3 ysgol.

12.6. Yn seiliedig ar y data mwyaf diweddar cyrhaeddiad a chyflawniad yn y 3 ysgol,

mae’n debygol y bydd y cynnig yn o leiaf cynnal safonau cyfredol o addysg. Mae

arolygon mwyaf diweddar y 3 ysgol yn dangos eu bod yn dda yn y mwyafrif o

ardaloedd ac yn rhagorol mewn eraill. Nid oes gwendidau sylweddol yn unrhyw un

or ddarpariaeth amgen a gynnigir.

12.7. Mae rhagolwg disgyblion Ysgol Rhewl, Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras wedi eu

cynnwys isod i ddangos na fyddai’r cynnig wrth gael ei weithredu yn cael effaith

negyddol ar allu’r ysgolion i dderbyn disgyblion o Ysgol Rhewl o fewn ei strwythurau

dosbarth cyfredol;

Ysgol 2015 2016 2017 2018 2019

Ysgol Rhewl 50 46 42 41 39

Ysgol Stryd y Rhos

143 139 134 122 113

Ysgol Pen 221 216 224 218 218

Page 29: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

29

Barras

Cyfanswm 414 401 400 381 370

12.8. Capasiti newydd Ysgol Stryd y Rhos fyddai 180 disgybl llawn amser a byddai Ysgol

Pen Barras a capasiti llawn amser o 270. Byddai’r safle a lle ar gyfer 450 disgybl

llawn amser.

12.9. Mae’r ysgolion amgen eraill o fewn yr ardal a lleoedd dros ben. Mae mwy o

fanylder ar ragolygon disgyblion ar gyfer darpariaeth amgen yn atodiad 1.

Effaith y Cynnig ar Ddarpariaeth

12.10. Barn yr awdurdod yw byddai darpariaeth bresennol y mae disgyblion Ysgol Rhewl

yn ei dderbyn yn o leiaf cael eu cynnal os bydd y cynnig presennol yn cael ei

weithredu. Yn unol ar arolygon Estyn diweddaraf nid oes gwendidau yn yr addysgu,

cefnogaeth neu arweiniad yn un o’r ysgolion amgen.

12.11. Mae ysgolion mwy yn gallu cynnig darpariaeth cwricwlwm eang a chyfleusterau

allgyrsiol. Cyhoeddwyd adroddiad thematig gan Estyn yn Rhagfyr 2013 ynglŷn â

Effeithiolrwydd a Maint Ysgolion a dywed;

“Mae darpariaeth cwricwlwm yn well mewn ysgolion mwy. Mewn Ysgolion bach, mae gwendidau yn narpariaeth pynciau sylfaenol yng nghyfnod allweddol 2. Mae’r gwendidau yn amrywio o ysgol i ysgol, ond yn aml yn gysylltiedig i fylchau mewn arbennigedd staff.”viii

12.12. Yn gyfredol mae’r amgylchedd addysgu yn y ddwy ysgol amgen yn caniatau

darpariaeth cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2, er hyn

mae gwendidau sylfaenol gyda’r safle a all effeithio ar y gallu i weithredu

cwricwlwm llawn yn y dyfodol.

12.13. Fodd bynnag bydd yr ysgolion amgen. Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras, yn

cael eu symud i adeiladau a chyfleusterau newydd erbyn Medi 2017. Bydd hyn yn

darparu pob disgybl gyda mynediad at amgylched 21ain ganrif, addas i bwrpas wedi

ei dylunio i gwrdd ag anghenion cwricwlwm blaengar 21ain ganrif Cymraeg. Os bydd

y cynnig presennol yn cael ei weithredu bydd disgyblion Ysgol Rhewl hefyd yn cael

mynediad at y cyfleusterau newydd hyn.

12.14. Mae’r ddarpariaeth amgen a gynnigir, Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn

cynnig gofal yn ffurf grwpiau chwarae, clwb brecwast a chyfleusterau ar ol ysgol. Yn

2014 darganfuwyd Asesiad Digonedd Gofal Plant Sir Ddinbychix bod digon o leoedd

Page 30: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

30

gofal plant ar gael yn ardal Rhuthun gyda lleoedd dros ben. Nid yw’n debygol y bydd

y cynnig yn cael effaith negyddol ar ofal plant gan fod digon o leoedd ar gael, gan

gynnwys lleoedd blynnyddoedd cynnar wedi eu cyllido.

Effaith y Cynnig ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth

12.15. Bu i Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol Rhewl gael ei ddyfarnnu’n dda yn yr

arolwg Estyn diwethaf. Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol

Pen Barras hefyd wedi ei dyfarnnu yn dda yn eu harolygon priodol diwethaf.

12.16. Mae ysgolion bach, o ganlyniad i gyfyngiad cyllidol, yn cael hi’n anodd gweithredu

strwythur arwain sydd yn cwrdd â gofynion tâl ac amodau athrawon. Gan fod

niferoedd disgyblion Ysgol Rhewl yn gymharol fach, mae’r Pennaeth ac y tim

arweinyddol ac ymrwymiad dysgu sylweddol. Caiff y mater eang hwn ei nodi yn

adroddiad thematic diweddar Estyn ar Effeithiolrwydd a Maint Ysgolion, Rhagfyr

2013 sydd yn dweud;

“Mae arweinyddiaeth a phrosesau i wella ansawdd fel arfer wedi’u datblygu’n well

mewn ysgolion cynradd mawr. Mewn ysgolion cynradd bach, mae gan lawer o

benaethiaid gyfrifoldeb addysgu sylweddol sy’n cyfyngu ar yr amser y gallant ei

neilltuo i arwain a rheoli ac fe gânt lai o gyfleoedd i arfarnu safonau ac ysgogi

gwelliant.”x

12.17. Barn yr awdurdod y’w y dylai’r disgyblion drosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos

neu Ysgol Pen Barras ni fyddai yn cael effaith negyddol ar strwythur cyfredol

arweinyddol a rheolaeth yn Ysgol Rhewl. Byddai’n debygol y bydd yr effaith yn

bositif ar ddisgyblion os byddant yn derbyn mynediad at fwy o athrawon yn cynnig

arbennigedd mwy eang mewn nifer o feysydd cwricwlwm.

13. Digonolrwydd cyfleusterau a safle'r ysgol

13.1. Er bod y cyfleusterau cyfredol yn Ysgol Rhewl yn caniatau darpariaeth yr hawl

cwricwlwm sylfaenol, mae’r amgylchedd presennol yn cyfyngu ar y potensial i

ddarparu cwricwlwm arloesol sydd yn ofynnol ar gyfer dysgu yn y 21ain ganrif.

Mae’r ardal grynswth yr adeilad yn cwrdd â safonau cyfredol Bwletin Adeiladu 99 ar

gyfer maint ysgolion (Capasiti Llawn amser o 82).

13.2. Dyfarnwyd cyflwr Ysgol Rhewl fel categori B (Digonol) mewn arolwg a gynhaliwyd

gan EC Harris yn Rhagfyr 2009. Cynhaliwyd yr arolwg i ddarparu data i Lywodraeth

Cymru i’r pwrpas o gasglu data ar gyfer Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae arolwg

Page 31: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

31

o’r adeilad yn cael ei gynnal bob blwyddyn gan Gyngor Sir Ddinbych i ddarparu data

ar gyfer Llywodraeth Cymru. Darganfuwyd yn arolwg Mehefin 2014 bod

addasrwydd a chyflwr yr adeilad yn B – digonol. Mae’r graddau a beth maent yn ei

ddangos yn cael ei arddangos isod;

Categori Cyflwr

Golygai

A (Da) Yn perfformio yn ôl y bwriad ac yn gweithio’n effeithlon. B (Digonol) Yn perfformio yn ôl y bwriad ond yn dangos dirywiad bach. C (Gwael) Yn dangos diffygion sylweddol ac / neu ddim yn gweithio yn ol y

bwriad.

D (Drwg) Diwedd oes ac / neu risg agos o fethiant.

13.3. Mae’r cyfleusterau a cynnwys cyfredol Ysgol Rhewl wedi ei amlinellu yn y tabl

isod;

Ystafell Dosbarth

Cabannau Neuadd / Ffreutur

Llyfrgell Ardal TG

Maes Chwarae

Caled

Cae Chwarae

2* X

X

13.4. Mae’r darlun isod yn dangos cynllun llawr cyfredol yr ysgol;

Page 32: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

32

13.5. Yn 2010 cynhaliwyd arolwg o gyflwr ysgolion yng Nghymru gan gwmni EC Harris

fel rhan o raglen ysgolion 21ain ganrif Llywodraeth Cymru. Mae categori cyflwr

Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos wedi eu darparu fel rhan o arolwg 2009

Llywodraeth Cymru ac maent yn cael eu darparu yn tabl isod;

Ysgol Cyflwr

Ysgol Stryd y Rhos B

Ysgol Pen Barras C

Ysgol Rhewl B

13.6. Mae categori cyflwr ac addasrwydd sydd wedi eu cynhyrchu gan Sir Ddinbych ym

Mehefin 2014 ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras isod;

Ysgol Cyflwr Addasrwydd

Ysgol Rhewl B B

Ysgol Stryd y Rhos A B

Ysgol Pen Barras B C

13.7. Mae gwybodaeth am ôl groniad cynnal a chadw cyfredol ar gyfer Ysgol Rhewl,

Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn cael ei ddarparu isod;

Ysgol Ôl groniad cynnal a chadw

Ysgol Rhewl £127,182

Rhos Street School ac Ysgol Pen Barras (Safle yn cael ei rannu)

£567,902

Total £695,084

13.8. Fel rhan o gamau dechreuol adolygiad ardal Rhuthun cynhaliwyd astudiaeth

dichonolrwydd ar bob ysgol o fewn ardal Rhuthun. Mae’r canfyddiadau’r gwaith

dichonolrwydd ar gyfer Ysgol Rhewl wedi ei grynhoi isod;

Nid yw’r ysgol yn sylweddol ac mae o natur dros dro. Ond mae gwaith wedi

ei wneud yn fewnol ac allanol i greu amgylchedd symbylol ar gyfer

disgyblion.

Yn fewnol, mae’r adeilad wedi ei osod allan yn rhesymol gyda dosbarthiadau

ac chylchrediad digonol, er hyn gall yr ystafelloedd dosbarth gael eu gwella o

gynnwys technoleg lleddfu sain i wella yr amgylchedd dysgu.

Mae cyfyngiad i’r ddarpariaeth Addysg Gorfforol ar y safle gyda peth

defnydd or ffreutur ond caiff y pafiliwn ar faes chwarae y gymuned ei

ddefnyddio hefyd. Nid oes cae chwarae ar dir yr ysgol ond mae cae y

gymuned ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned.

Nid oes maes parcio na man codi a gollwng ar y safle er bwriedir darparu

rhai lleoedd parcio ar gyfer yr ysgol o fewn datblygiad tai cyfagos.

Page 33: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

33

Mae rhai materion mynediad ar y safle gan nad oes mynediad gwastad ir

fynedfa a dim mynediad i doiled ar gyfer yr anabl.

13.9. Yn ystod yr astudiaeth dichonolrwydd a gynhaliwyd yn Hydref 2014, bu

swyddogion o’r Cyngor gwrdd a cynrychiolwyr o’r ysgol yn ystod ymweliad ar safle.

Ystyriwyd opsiynau ar gyfer yr ysgol gan gynnwys gwaith ailwampio, estyniad i’r

adeilad ac ysgol newydd i ymdrin ag addasrwydd adeilad yr ysgol ar safle. Er hyn nid

oedd y safle yn cyrraedd gofynion maint BB99 ar gyfer ysgol safonol 105 lle. Byddai

gwaith ymestyn pellach yn cyfyngu ymhellach ar y lle tu allan.

13.10. Mae cost y gwaith ailwampio i ddod ar ysgol i safon ysgol 21ain ganrif wedi ei

gyfrifio’n £541,696.

Effaith y Cynnig ar Ddigonolrwydd Adeiladau Ysgol a Chyfleusterau

13.11. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dyranu cyllid cyfalaf o £8.9miliwn i fuddsoddi

mewn adeiladau a chyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen

Barras.

13.12. Ar hyn o bryd mae’r ysgolion yn rhannu safle o fewn tref Rhuthun a cynnigir y

bydd yr ysgolion yn symud i ddatblygiad newydd yng Nglasdir gyda rhai ardaloedd

yn cael eu rhannu (fel cae chwarae, ardal gemau aml bwrpas, maes parcio a

cyfleusterau codi a gollwng penodol). Mae’r briff ar gyfer dylunio yr ysgol yn

seiliedig ar anghenion bwletin adeiladu (Building Bulletin) sydd yn argymell maint

ardaloedd gan wahaniaethu ardaloedd addysgu ac ardaloedd cefnogol. Bydd y

cyfleusterau newydd yn cwrdd a safon ysgolion 21in ganrif. Pan fydd y datblygiad

Glasdir wedi ei gwblhau byddai disgwyl i’r ddau adeilad ysgol i fod o radd ‘A’ ar gyfer

cyflwr ac addasrwydd.

13.13. Byddai’r cyfleuster arfaethiedig yn cynnwys;

Ardaloedd addysgu – meithrin/derbyn, cyfnod sylfaen a cyfnod allweddol 2;

Ardaloedd arbennigol ymarferol;

Neuaddau;

Canolfan adnoddau dysgu;

Ystafelloedd grwp bach;

Ystafell weinyddol;

Swyddfa Pennaeth ac ystafell gyfarfod;

Ystafell Staff;

Swyddfa Gyffredinnol;

Page 34: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

34

Ystafell i rai sydd yn sal;

Ystafell Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig / Ystafell aml-asiantaeth;

Storfa;

Cegin ac ardal gweini;

Toiledau gan gynnwys toiledau hygyrch;

Ardal chwarae meddal a caled.

13.14. Bydd y cyfleusterau newydd yn cael eu lleoli ar safle Glasdir sydd tua 1.1 milltir o

Ysgol Rhewl. Mae’r map isod yn dangos lleoliad Ysgol Rhewl a safle Glasdir;

14. Beth yw’r Opsiwn a Gynigir?

14.1. Yr opsiwn a gynigir ydi cau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn

trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau

ysgol newydd.

14.2. Bydd y cyfleusterau newydd yn barod i'w defnyddio o’r 1af o Fedi 2017 gan alluogi

adleoli Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos i safle Glasdir.

Page 35: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

35

14.3. Mae Cabinet Sir Ddinbych wedi argymell i'r Cyngor i gymeradwyo buddsoddiad o

£8.9 miliwn ar gyfer adeiladau ysgol newydd a chyfleusterau ar gyfer y ddwy ysgol.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried cymeradwyo'r buddsoddiad ym mis Chwefror

2014. Bydd y buddsoddiad hwn darparu’r ddwy ysgol ag adeiladau a chyfleusterau

sy'n bodloni safon ysgolion yr 21ain ganrif.

14.4. Bydd y broses ddylunio ar gyfer yr ysgol newydd yn dechrau yn ystod 2015. O ran y

briff dylunio cyffredinol, bydd y Cyngor yn seilio cynlluniau ar gyfer ysgol newydd ar

y safonau adeiladu cyfredol ar gyfer ysgolion newydd. Byddai hyn fel arfer yn

golygu adeiladu ystafelloedd dosbarth i safon maint modern ochr yn ochr â darparu

cyfleusterau megis neuaddau pwrpasol, mannau bwyta, (... ..)

14.5. Bydd y dyluniad ar gyfer yr ysgol newydd yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth

ag Ysgol Penbarras a Stryd y Rhos a bydd cynrychiolwyr Ysgol Rhewl yn cael eu

hannog i gymryd rhan yn y broses hon. Mae'r llinell amser dangosol yn awgrymu y

byddai'r broses ddylunio yn para tan fis Tachwedd 2015 gyda’r ysgol newydd yn

dechrau cael ei hadeiladu ym mis Mawrth 2016. Rhagwelir cwblhau ar gyfer haf

2017 a fyddai'n galluogi disgyblion sy'n mynychu Ysgol Rhewl ar hyn o bryd i

drosglwyddo i'r cyfleusterau newydd ym Medi 2017, yn amodol ar ddewis y rhieni.

15. Opsiynau eraill

15.1. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi ystyriaeth ofalus i ystod o opsiynau eraill fel

rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynnig presennol. Wrth ystyried yr opsiynau hyn,

gwnaed cyfeiriad at brif amcanion buddsoddi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y

Cyngor sydd fel a ganlyn:

a. Amgylcheddau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc o 3 i 19 oed a fydd yn

galluogi gweithrediad llwyddiannus strategaethau ar gyfer gwella ysgolion a

deilliannau addysgol gwell;

b. Rhagor o economi drwy wneud gwell defnydd o adnoddau i wella

effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd y stad addysg a darpariaeth

gyhoeddus; a

c. System addysg gynaliadwy gyda phob ysgol yn cwrdd â Safon Ysgolion yr

21ain Ganrif, a lleihau costau rheolaidd a’r ôl troed carbon.

Page 36: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

36

15.2. Dyma’r prif opsiynau sydd wedi cael eu hystyried:

Opsiwn 1: Cynnal y Status Quo

Opsiwn 2: Gwneud y Lleiafswm - Gwneud Atgyweiriadau Adferol

Opsiwn 3: Gwneud y Canolradd - Gwneud Gwaith Adnewyddu ac Ymestyn

Opsiwn 4: Gwneud yr Uchafswm - Darparu Adeiladau Newydd

Opsiwn 5: Cau

15.3. Mae prif fanteision ac anfanteision pob opsiwn, gan gynnwys y cynnig presennol,

yn cael eu hamlinellu isod;

Opsiwn 1: Cynnal y Status Quo

Manteision Anfanteision

Nid oes angen gwariant cyfalaf Ni fyddai’n darparu cyfleusterau ysgolion yr 21ain Ganrif nac yn arwain at unrhyw welliant yn yr amgylchedd dysgu

Byddai diffygion yn parhau ac yn debygol o waethygu yn y tymor byr i ganolig, yn ei dro yn cael effaith negyddol ar y gallu i gyflwyno'r cwricwlwm.

Ni fyddai'n arwain at ostyngiad mewn lleoedd dros ben.

Ni fyddai'n arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.

Opsiwn 2: Gwneud Atgyweiriadau Adferol

Manteision Anfanteision

Gwariant cyfalaf isafswm Byddai hyn yn arwain at rywfaint o welliant yn yr amgylchedd dysgu ond ni fyddai'n bodloni safonau ysgolion yr 21ain ganrif. Byddai hwn yn ymarfer ymladd tân i atgyweirio’r problemau cyfredol.

Ni fyddai'n arwain at ostyngiad mewn lleoedd dros ben.

Ni fyddai'n arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.

Page 37: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

37

Opsiwn 3: Gwneud y Canolradd - Gwneud Gwaith Adnewyddu ac Ymestyn

Manteision Anfanteision

Byddai’n arwain at rywfaint o welliant yn yr amgylcheddau dysgu ac yn mynd i'r afael â'r diffygion a’r problemau cyfredol.

Mae maint y safle ei hun yn gymharol gyfyngedig, byddai estyniad y dwyn rhai ardaloedd allanol.

Byddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol o £1,005,996.

Ni fyddai'r opsiwn hwn yn arwain at ostyngiad yn y lleoedd dros ben ac oherwydd y gwaith ymestyn gallai arwain at gynnydd mewn lleoedd dros ben.

Ni fyddai'r opsiwn hwn yn arwain at fwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ystâd ysgolion.

Opsiwn 4: Gwneud yr Uchafswm - Darparu Adeiladau Newydd

Manteision Anfanteision

Byddai’n darparu cyfleusterau ysgolion yr 21ain ganrif.

Byddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol.

Problemau o ran maint y safle presennol, ni allai'r safle gymryd adeilad model 105 safonol o dan reoliadau BB99.

Gallai safleoedd eraill olygu’r angen i brynu tir yn y pentref, gan gynyddu gwariant cyfalaf ymhellach.

Ni fyddai'n lleihau lleoedd dros ben a byddai'n debygol o arwain at gynnydd yn y lleoedd dros ben.

Opsiwn 5: Cau

Manteision Anfanteision

Byddai disgyblion presennol yn cael mynediad i adeiladau a chyfleusterau ysgolion yr 21ain ganrif.

Byddai'n lleihau lleoedd dros ben. Byddai arbediad net o £150k yn cael

ei wneud y gellid ei ail-fuddsoddi yn ôl i mewn i Raglen Moderneiddio Ysgolion Sir Ddinbych.

Gallai cael gwared ar y safle yn y dyfodol arwain at dderbyniad cyfalaf a allai hefyd gael ei ail-fuddsoddi yn ôl i'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Sir Ddinbych.

Byddai darpariaeth addysgol o fewn pentref Rhewl yn dod i ben.

Byddai defnydd cymunedol o'r ysgol hefyd yn dod i ben, fodd bynnag mae darpariaeth amgen ar gael ym mhafiliwn y gymuned.

Byddai staff yn yr ysgol yn cael eu hadleoli, neu o bosibl yn cael eu diswyddo, fodd bynnag, byddai tîm AD CSDd yn gweithio gyda staff ar sail unigol.

Page 38: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

38

15.4. Mae'r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o'r opsiynau uchod mewn perthynas ag

amcanion buddsoddi a ffactorau llwyddiant critigol;

16. Trefniadau derbyn

16.1. Caiff trefniadau derbyn i ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol eu gweinyddu gan

Wasanaeth Derbyn Ysgolion Cyngor Sir Ddinbych. Pe bai’r cynnig presennol yn cael

ei weithredu byddai'r gwasanaeth derbyn yn ysgrifennu at yr holl rieni i amlinellu'r

opsiynau sydd ar gael. Os bydd y cynnig cyfredol yn cael ei weithredu bydd y

gwasaneth derbyniadau yn ysgrifennu at holl rieni yn amlygu yr opsiynau sydd ar

gael.

Opsiwn 1

Status Quo

Opsiwn 2

Gwneud yr

Isafswm

Opsiwn 3

Gwneud y

Canolradd

Opsiwn 4

Gwneud yr

Uchafswm

Opsiwn 5

Cau

1 Gwell Amgylchedd

Dysgu

x x

2. Gwell Economi

Goblygiadau -

Refeniw

x x x x

2. Gwell Economi -

Cyfalaf

x x x x

3 System Addysg

Gynaliadwy

x x x x

CSF1 Gwell

cyrhaeddiad a

pherfformiad

x

x

CSF2 Ysgol mewn

cyflwr gwell ac yn

fwy addas

x

x

CSF3 Gostyngiad

mewn lleoedd dros

ben

x

x x x

CSF4 Gwell

effeithlonrwydd ac

effeithiolrwydd.

x

x x x

Crynodeb Diystyrwyd Diystyrwyd Posibl Diystyrwyd Ffafrir

Page 39: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

39

17. Goblygiadau Cludiant

17.1. Am y flwyddyn academaidd gyfredol y costau cludiant ar gyfer Ysgol Rhewl yw £121

y dydd. Dros flwyddyn ysgol (191 diwrnod) mae hyn yn cyfateb i £23,111.

17.2. Ar hyn o bryd mae 12 o ddisgyblion, neu 22.6% o'r 53 disgybl llawn amser yn

defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol am ddim. Mae'r tabl isod yn dangos

lleoliadau’r dalgylch ar gyfer Ysgol Rhewl;

Lleoliad Rhif

Rhewl 20

Rhuthun (tref) 14

Cyffylliog 9

Dinbych 3

Pentrecelyn 2

Pwllglas 2

Bryn Saith Marchog 2

17.3. Disgwylir y bydd y cynnig yn cael effaith niwtral ar gostau cludiant cyfredol, gyda

llawer o ddisgyblion presennol yn teithio i Ysgol Rhewl yn byw yn nes at safle

Glasdir nag Ysgol Rhewl fel y dangosir y tabl uchod.

17.4. Mae llwybr beicio presennol oddi ar y ffordd o bentref Rhewl i safle newydd

Glasdir, sydd oddeutu 1.1 milltir. Mae llwybr cerdded diogel o'r pentref i safle

Glasdir hefyd. Bydd argymhellion priffyrdd ychwanegol, megis signalau a phatrolau

croesfannau ysgol priodol, hefyd yn cael eu harchwilio yn ystod camau dylunio’r

datblygiad Glasdir newydd.

17.5. Byddai cludiant yn cael ei ddarparu i naill ai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen Barras

yn unol â Pholisi Cludiant Cyngor Sir Ddinbychxi sy'n datgan bod cludiant am ddim

yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw dros 2 filltir o’r ysgol addas agosaf neu os

yw rhan o’r llwybr yn cael ei ystyried yn beryglus.

18. Goblygiadau Staffio

18.1. Pe bai’r cynnig presennol yn cael ei weithredu byddai’r awdurdod yn gweithio

gyda'r aelod staff presennol yn Ysgol Rhewl, gan gynnwys staff addysgu ac ategol,

pe baent yn chwilio am gyfleoedd adleoli.

Page 40: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

40

18.2. Fel rhan o’r broses ymgynghori ffurfiol, bydd ymgynghoriad llawn gyda’r holl staff

a'r undebau addysgu priodol. Bydd cyfarfod staff yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod

ymgynghori a bydd cynrychiolydd o wasanaeth AD Cyngor Sir Ddinbych yn

bresennol i roi cyngor i staff.

18.3. Ni ragwelir effaith sylweddol ar staff yr ysgolion sydd wedi ei enwi yn y ddogfen am

y rhesymau ac amlygir hyn yn rhan yr achos addysgol dros newis y ddogfen.

19. Beth yw’r goblygiadau ariannol?

19.1. Cost y ddarpariaeth yn seiliedig ar gyfran gyllideb 2014/2015 yw £5,977 fesul

disgybl yn Ysgol Rhewl. Cyfartaledd CSDd yw £3,931

19.2. Y gost staffio cyfredol ar gyfer Ysgol Rhewl ydi £267,364 (Blwyddyn Academaidd

Gyfredol).

19.3. Mae'r sefyllfa ariannol gyfredol yr ysgol ac am y 3 blynedd a ragwelir fel a ganlyn;

Ysgol Gwir Falans 2014

Balans a ragwelir 2015

Balans a ragwelir 2016

Balans a ragwelir 2017

Ysgol Rhewl 19,603 6,870 (13,345) (66,686) * Yn seiliedig ar y cynllun 3 blynedd presennol

19.4. Am flwyddyn academaidd 2014/2015 cyllideb Ysgol Rhewl yw £311k. Yn seiliedig ar

y sefyllfa gyllidebol gyfredol amcangyfrifir y byddai arbediad heb gael ei arwain gan

ddisgyblion o £150k pe bai’r cynnig presennol yn cael ei weithredu. Byddai hyn yn

cael ei dynnu o gwantwm cyllideb yr ysgol. Amcangyfrif cyllid o £161k a arweinir

gan ddisgyblion, ac felly byddai’n aros ar y cwantwm cyllideb ysgolion i ddilyn y

disgyblion i ysgol maent yn trosglwyddo iddi.

19.5. Byddai'r arbediad heb gael ei arwain gan ddisgyblion (£150k) yn cael ei ail-

fuddsoddi yng nghynllun corfforaethol y Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau gan

gynnwys buddsoddi mewn adeiladau ysgolion. Brasamcan gwerth y safle ydi

£165,000.

19.6. Pe bai’r cynnig ysgol yn cael ei weithredu byddai safle’r ysgol yn cael ei ddatgan fel

safle dros ben a byddai'n cael ei waredu yn unol â'r polisi presennol ar waredu

safleoedd ysgolion. Byddai’r derbyniad cyfalaf yn cael ei ailfuddsoddi o fewn cynllun

corfforaethol y Cyngor i ddarparu ei flaenioraethau gan gynnwys buddsoddiad

mewn adeiladau ysgolion.

Page 41: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

41

19.7. Dangosir sefyllfa ariannol cyfredol ac y rhagolwg 3 blynnedd ar gyfer Ysgol Stryd y

Rhos ac Ysgol Pen Barras isod;

Ysgol Gwir Falans 2014

Rhagfynegiad Balans 2015

Rhagfynegiad Balans 2016

Rhagfynegiad Balans 2017

Rhos Street 80,643 56,950 (7,572) (65,873)

Pen Barras 76,810 67,613 51,251 (9,296)

19.8. Y gyllideb ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15 ydi

£592,745 ac ar gyfer Ysgol Pen Barras ydi £834,592. Costau staffio cyfredol Ysgol

Stryd y Rhos ydi £523,810 a costau staffio Ysgol Pen Berras ydi £737,848.

19.9. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu bydd y cyllid cyfalaf ar gyfer adeiladau ysgol

a cyfleusterau newydd yn cael ei cyllido gan Gyngor Sir Ddinbych. Byddai yn yn cael

ei greu o gymysgedd o fenthyca darbodus, arian wrth gefn a derbyniadau cyfalaf. Ar

y cam yma o’r cynnig nid oes dibynniaeth ar gyllid allanol.

20. Beth yw anfanteision a risgiau y cynnig?

20.1. Os bydd y cynnig cyfredol yn mynd yn ei flaen, bydd darpariaeth addysg gynradd yn

dod i ben ym mhentref Rhewl.

20.2. Ar ôl cau'r ysgol, disgwylir y byddai angen i rai plant deithio ymhellach i'r ysgol, yn

amodol ar ddewis y rhieni am ddarpariaeth amgen. Oherwydd agosrwydd (tua.

1.1m) o'r cyfleusterau newydd ar Glasdir, byddai hwn yn dod yn opsiwn nes i rai o'r

disgyblion presennol sy’n mynychu Ysgol Rhewl ar hyn o bryd. Dim ond yn unol â

pholisi cludiant Sir Ddinbych y byddai cludiant yn cael ei ddarparu a ni fydd rhai

disgyblion yn gymwys.

20.3. Bydd gweithredu y cynnig presennol ar gyfer Ysgol Rhewl yn cael ei symud ymlaen

yn unol a’r buddsoddiad arfaethedig yn natblygiad Glasdir ar gyfer Ysgol Pen Barras

ac Ysgol Stryd y Rhos. Os bydd oedi sylweddol yn natblygiad Glasdir byddai amserlen

gweithredu’r cynnig presennol yn cael ei newid yn unol a hynny. Byddai pob risg yn

ymwneud ar cynnig yn cael ei fonitro o fewn cofrestr risg y rhaglen ac o fewn

cofrestr risg unigol y prosiect.

Page 42: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

42

21. Effaith Gymunedol, ar yr Iaith Gymraeg ac asesiad o effaith ar Gydraddoldeb 21.1. Gan y bydd y Cynnig Presennol, os caiff ei weithredu, yn arwain at ysgol, cynhaliwyd

asesiadau effaith Cydraddoldeb, y Gymraeg a Chymunedol ac mae ar gael yn llawn ar ein gwefan o dan yr adran ymgynghoriad cyfredolxii. Crynodeb o’r Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg

21.2. Rhaid nodi bod ymgeisio i fesur effaith posib ad-drefnu ysgolion ar yr iaith Gymraeg yn waith anodd.

21.3. Y prif ddeilliannau positif yn deillio o’r asesiad effaith ydi’r effaith ar ddarpariaeth addysgol a mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg o fewn pellter cyfagos. Mae’r cynnig yn gyfle i wella a chryfhau addysg yn yr ardal.

21.4. Dyfarnir effaith y Cynnig Presennol yn niwtral yn nhermau’r effaith ar yr iaith Gymraeg. Er y bydd y cynnig yn lleihau’r ddarpariaeth dwy ffrwd mae’n parhau mynediad a hawl y rhiant i ddewis cyfrwng iaith. Bydd disgyblion sydd yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn ddwyieithog yn eu defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg wrth adael ysgol gynradd ac efo gwerthfawrogiad o dreftadaeth diwylliannol Cymru. Bydd disgyblion sy’n dewis cyfrwng Saesneg a dysgu Cymraeg fel ail iaith (fel ydi’r drefn presennol yn Ysgol Rhewl) bydd y cynnig presennol yn cael ei gynnal. Mae disgwyl i ysgolion gryfhau a chynyddu eu natur ddwyieithog eu hysgolion dros amser gan symud ar hyd llwybr y continwwm fel y bydd mwy o ddisgyblion ar cyfle i fod yn gwbl ddwyieithog. Ni fydd y cynnig yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg gyda canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y gymuned a canran uchel o’r rhai hynny a mwy nac un sgil yn y Gymraeg. Dangosir hyn yn nalgylch naturiol Ysgol Rhewl yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg cyfagos.

Crynodeb o’r Asesiad Effaith ar y Gymuned

21.5. Rhaid nodi bod ymgeisio i fesur effaith posib ad-drefnu ysgolion ar deuluoedd ar

gymuned leol yn anodd. Y prif ddeilliant positif sydd yn dod o’r asesiad effaith ydi’r effaith ar ddisgyblion drwy wella darpariaeth addysgol.

21.6. Mae’r asesiad effaith wedi amlygu nifer o ardaloedd posib lle gall y cynnig gael effaith negyddol ar deuluoedd lleol ac ar y gymuned leol. Mae disgwyl i ddisgyblion drosglwyddo i unai Ysgol Stryd y Rhos neu Ysgol Pen Barras yn Rhuthun. Mae mesurau a all gael eu gweithredu dros amser i leihau’r effaith gan ddatblygu cysylltiadau rhwng y gymuned ac y ddwy ysgol, er hyn bydd datblygu y cysylltiadau yma yn cymryd amser a bydd yr effaith cychwynnol yn negyddol.

21.7. Bydd colli ysgol yn cael effaith ar weithgaredd cymunedol sydd yn cymryd lle ac y cyfleusterau cymunedol yn Ysgol Rhewl. Mae cyfle i nifer o weithgareddau sydd ar hyn o bryd yn cymryd lle yn yr ysgol i symud ir pafiliwn cymunedol a mae’r Cyngor a

Page 43: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

43

polisi ynglyn a cadw safle ysgol dros ben o fewn y gymuned a all leihau’r effaith negyddol gan o bosib greu deilliant bositif i’r gymuned.

21.8. Byddai’r cynnig yn cael effaith bositif ar rieni a disgyblion gan wella’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant. Er hyn mae’r cynnig a potensial i gael effaith negyddol ar rieni o Rhewl a cymuned ehangach Rhewl.

21.9. Mae’n bwysig nodi y gall rhai effeithiau neyddol sydd yn deillio o’r cynnig gael eu lleihau gan yr Awdurdod Lleol gan fabwysiadu nifer o fesurau i sicrhau bod cymuned Rhewl yn parhau i ffynnu.

21.10. Mae presenoldeb cyfleusterau arwahan yn y pafiliwn sy’n cynnal nifer o weithgareddau ar hyn o bryd ac a allgynnal nifer o weithgareddau sydd yn cymryd lle yn yr ysgol i ddarparu canolbwynt i’r gymuned a fyddai’n parhau ar ol i’r ysgol gau. Gall cynnydd mewn gweithgaredd yn y pafiliwn yn dilyn cau’r ysgol wella cynnaladwyedd tymor hir y cyfleustyr cymunedol.

21.11. Mae’r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i weithio gyda cymuned leol ac efo gwasanaeth cynghori cyllid allanol sydd yn rhoi cymorth i gymunedau ddod o hyd i gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol.

21.12. Mae’r Cyngor yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer tai yn y pentref. Nid yw yn cael ei ystyried bod y nifer o ddisgyblion cynradd a fyddai’n cael eu creu gan y datblygiad yn cynnyddu’r nifer o ddisgyblion yn yr ysgolion yn sylweddol.

21.13. Yn ystod yr Ymgynghoriad Ffurfiol, bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gyda

Pennaeth yr ysgol i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r gweithgaredd cymunedol yn yr ysgol.

21.14. Yn ystod y cyfnod dylunio ar gyfer cyfleusterau newydd bydd ymgynghoriad yn cymryd lle gyda’r gymuned ehangach o Ysgol Rhewl.

21.15. Mae 30 annedd wedi eu dyrannu i Rhewl fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol, ac mae 4 annedd ychwanegol wedi ei dyrannu ar gyfer ardal ehangach Llanynys. Yn seiliedig ar fformiwla a ddefnyddir i ragamcan y nifer o balnt cynradd y cynhyrchir gan ddatblygiadau tai (0.24 x nifer o anneddau) rhagwelir y byddai 34 annedd yn creu 8 disgybl ychwanegol. Yn seileidg ar tuedd disgyblion yn yr ardal ar hyn o bryd mae’n deg rhesymu na fyddai pob disgybl yn mynychu Ysgol Rhewl o ganlyniad i ddewis rhieni am ddarpariaeth eraill.

Page 44: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

44

22. Esboniad o'r broses statudol 22.1. Er mwyn gweithredu'r cynnig presennol, mae'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych ddilyn

gweithdrefn a nodir gan gyfuniad o Ddeddf Llywodraeth Cymru a chod statudol.

22.2. Dyma’r gofynion:

a. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda phobl y mae’r Cynnig yn debygol o effeithio arnynt;

b. Bydd adroddiad ymgynghori yn nodi manylion yr Ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor;

c. Cyhoeddir y cynnig cyfredol (a elwir hefyd yn ‘hysbysiad statudol’) gyda manylion fel y dyddiad gweithredu a gynlluniwyd, sut i gael copi o'r adroddiad ymgynghori a sut i wrthwynebu:

i. Ar wefan y Cyngor; ii. Wedi’i osod ar neu ger prif fynedfa’r ysgol; ac

iii. Drwy ddarparu copïau i’r ysgolion yr effeithir arnynt i’w dosbarth i rieni.

d. Cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi yn caniatáu unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu'r Cynnig Presennol i wneud hynny;

e. Penderfyniad gan y cyngor (dyma pryd, yn amodol ar y broses uchod, y gellid cymeradwyo’r penderfyniad i weithredu'r Cynnig Cyfredol);

f. Y Cyngor yn cyhoeddi unrhyw wrthwynebiadau a'i ymateb iddynt (o fewn 7 diwrnod i ddyddiad pennu’r Cynnig Presennol).

22.3. Nodwch na fydd unrhyw ymateb a roddir i'r ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei ystyried fel gwrthwynebiad i'r Cynnig Presennol. Mae hyn oherwydd y gall y Cynnig Presennol newid mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol. Os hoffech chi wrthwynebu’r Cynnig Presennol, arhoswch nes ei fod wedi cael ei gyhoeddi yna dilynwch y drefn a amlinellir ar yr hysbysiad statudol.

23. Ffurflen Ymateb 23.1. Mae ffurflen ymateb ar gyfer sylwadau, gan gynnwys cyfle i rai a ymgynghorir â

nhw gofrestru eu dymuniad i gael gwybod am gyhoeddi'r adroddiad ymgynghori ffurfiol, yn ymddangos ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori hon.

23.2. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn ar y Cynnig

Presennol yn y digwyddiadau a amlinellwyd yn y llythyr cyflwyno neu nodi eich barn yn ysgrifenedig. Dylid anfon ymatebion at Dîm y Rhaglen Foderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN neu drwy e-bost at [email protected] ddim hwyrach na 23 Mawrth 2015.

i Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 - http://wales.gov.uk/legislation/programme/assemblybills/schoolstandards/?lang=en

Page 45: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

45

ii Y Cod Trefniadaeth Ysgolion (Cymru)-

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/school-organisation-code/?lang=en iii Fframwaith Moderneiddio Addysg - ar gael i’w darllen ar gais i swyddfeydd CSDd yn Rhuthun neu trwy

ymweld â’r wefan yn yr adran Trefniadaeth a Moderneiddio Ysgolion - https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/strategies-plans-and-policies/education-and-schools/reviewing-our-schools.aspx iv MyLocalSchool Website, http://mylocalschool.wales.gov.uk/

v Diffinio Ysgolion yn ôl Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg -

http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/publications/guidance/definingschools?lang=en vi Gwybodaeth Adroddiad Arolwg Estyn- http://www.estyn.gov.uk/english/inspection/inspection-reports/

vii National Schools Categorisation System Parents

Guidehttp://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolbanding/?lang=en viii

School Size and Effectiveness- December 2013, http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/295686.3/school-size-and-educational-effectiveness-december-2013/?navmap=30,163, ix Denbighshire Childcare Sufficiency 2014, https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/strategies-plans-

and-policies/childcare-sufficiency-assessment.aspx x School Size and Effectiveness- December 2013,

http://www.estyn.gov.uk/english/docViewer/295686.3/school-size-and-educational-effectiveness-december-2013/?navmap=30,163, xi Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Am Ddim Sir Ddinbych -

https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/education/grants-and-funding/free-school-transport.aspx xii

Ymgynghoriadau cyfredol - https://www.denbighshire.gov.uk/en/your-council/consultations/current-consultations.aspx

Page 46: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

46

Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynnig cau Ysgol Rhewl o 31 Awst, 2017 gyda’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau ysgol newydd. Hoffem dderbyn eich sylwadau ar y cynigion. Gallwch rannu eich sylwadau â ni drwy’r dulliau canlynol:

Os ydych yn darllen y ffurflen hon ar-lein, cliciwch yma i gwblhau’r arolwg ar-lein;

Os ydych wedi derbyn copi caled o’r ffurflen ymateb, gallwch ei chwblhau a’i dychwelyd at y Tîm Rhaglen Moderneiddio Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN;

Ymwelwch â’n gwefan yn www.sirddinbych.gov.uk/moderneiddioaddysg a dilynwch ddolen yr arolwg drwy’r ddolen ymgynghoriadau bresennol;

Fel arall gallwch gwblhau’r ffurflen hon, ei sganio a’i e-bostio atom yn [email protected] ; neu

Os nad oes modd i chi ddefnyddio sganiwr, anfonwch e-bost at y cyfeiriad uchod yn nodi eich ymatebion, yn nhrefn yr un rhifau a ddefnyddir ar gyfer y cwestiynau isod.

A allwch chi ymateb erbyn Dydd Llun Mawrth 23 2015. Os ydych eisiau i ni gydnabod derbyn eich

ymateb a allwch chi ddarparu eich enw a chyfeiriad.

1. A ydych o blaid y cynnig presennol?

Ydw

Nac ydw

2. Rhowch wybod i ni p’un a ydych yn ymateb fel:

Disgybl Rhiant Aelod o staff Aelod o’r Gymuned

Arall

Arall (Manylwch isod):

Page 47: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

47

3. Gyda pha Ysgol y mae gennych y cysylltiad mwyaf?

Ysgol Rhewl

Ysgol Stryd y Rhos

Ysgol Pen Barras

4. Gadewch i ni wybod os ydi un o’r canlynol wedi dylanwadu ar eich penderfyniad

Effaith ar addysg

Effaith ar y gymuned leol

Arall:-

(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)

5. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, a fyddech yn gyrru eich plentyn i Ysgol Pen Barras neu

Ysgol Stryd y Rhos?

Ysgol Stryd y Rhos

Ysgol Pen Barras

Ysgol arall:

(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)

Page 48: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

48

6.Rhowch eich sylwadau neu eich barn, positif neu negyddol, am y cynnig yma:

(Defnyddiwch dudalen ychwanegol os oes angen)

Page 49: Dogfen Ymgynghori Ffurfiol - Cyngor Sir Ddinbych · Mae'n rhaid i'r cyfnod hysbysiad statudol fodam 28 Caiff ei gyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ei osod ar fynediad yr Adroddiad

49

7. A hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb?

Hoffwn

Na hoffwn

8. A hoffech dderbyn dolen gyswllt drwy e-bost ar gyfer adroddiad yr ymgynghoriad pan gaiff ei

gyhoeddi ar wefan CSDd?

Hoffwn

Na hoffwn

9.Os ydych wedi ateb ‘hoffwn’ i un neu’r ddau gwestiwn blaenorol, nodwch eich cyfeiriad e-bost,

neu os nad oes modd i chi ddefnyddio e-bost, rhowch eich cyfeiriad post isod:

10. O dan amodau Deddf Diogelu Data 1998 rhaid i ni eich hysbysu am y canlynol :

Mae Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn ceisio eich barn i helpu i lywio’r penderfyniad ar y cynigion.

Defnyddir y wybodaeth a ddarparwyd gennych i’r pwrpas hwn yn unig, ac fe’i rhannir â’r Esgobaeth

sydd hefyd yn rhan o’r ymgynghoriad, er mwyn hysbysu y rhai fydd yn gwneud y penderfyniad o

eich barn ac i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir gennych. Os nad ydych yn dymuno darparu

manylion personol, bydd eich barn yn dal i gael eu hystyried, ond ni allwn gydnabod derbyn eich

ymateb yn bersonol.

CSDd yw’r Rheolwr Data at ddibenion Deddf Diogelu Data 1998. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn

cael ei phrosesu yn unol â’r Ddeddf honno ac fe’i cesglir at y dibenion a nodir uchod yn unig, ac fe’i

rhennir â’r Esgobaeth ond nid ag unrhyw barti arall. Cedwir eich gwybodaeth am ddim mwy na 2

flynedd cyn ei dinistrio’n ddiogel. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch hyn drwy

[email protected]

Diolch yn fawr i chi am ymateb.