sylw ar ardal sir ddinbych hydref 2012

15
SIR DDINBYCH RHIFYN 4 | HYDREF 2012 SYLW AR ARDAL Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi Paratoi ar gyfer diwygio budd-daliadau

Upload: wales-west-housing

Post on 28-Mar-2016

227 views

Category:

Documents


7 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

SIR DDINBYCHRHIFYN 4 | HYDREF 2012

SYLW AR ARDAL

Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad

Ehangu GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria

Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi

Paratoi ar gyfer diwygiobudd­daliadau

2 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio einhunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwyscymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydddrwy’r sefydliad cyfan.

Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôltair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaethIvor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fodyn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw KathySmart, aelod adnabyddus o gymyned fusnesCaerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo taicymdeithasol ers tro.

Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweldShayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swyddy Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swyddnewydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’nfalch o ddweud ein bod newydd benodi StevePorter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau.

Gyda newidiadau Diwygio Budd­daliadau yncarlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwyddeconomaidd parhaus a chynnydd yn y pwysauar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yncytuno bod angen i ni wneud llawer iawn obethau.

Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedauledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd ycylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gaelgwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith arlawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael

gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan.

Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhywdro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Dilynwch ni ar Twitter @wwha

Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales

CYFLWYNIADCroeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Sir Ddinbych, sy’n dod â’rdiweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.

http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4

Mae Cynhwysiant Digidol yn faes allweddol o’ngwaith, gan alluogi ein preswylwyr i gysylltu ar­lein, a bod mewn sefyllfa well i ddelio ânewidiadau mewn budd­daliadau yn y dyfodol,gan gynnwys cyflwyno’r Credyd Cyffredinol.Bydd gallu defnyddio’r rhyngwyd hefyd ynhelpu ein preswylwyr i gysylltu â’u cymunedaua thu allan, yn ogystal â’u helpu nhw i ganfodgwerth am arian drwy wneud penderfyniadaugwybodus ar­lein.

Fel rhan o fuddsoddiad gwerth £1 miliwn ganWWH i bontio’r bwlch digidol, bydd Nant yMôr yn cael Wi­Fi yn ei fan cymunol, a fydd yngalluogi preswylwyr i gael mynediad at y rhyngrwyd o’u cartrefi drwy’r darparwr oogledd Cymru, Boyns.net.

Mae ein cynllun peilot yn Nant y Môr yn dilynyn syth ar ôl ein prosiect mynediad band eangcyntaf drwy WiFi yng nghynllun er ymddeol Tŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful. Yno, maepreswylwyr yn mwynhau mynediad WiFi am63 ceiniog yr wythnos yn unig, sy’n daladwy felrhan o’u tâl gwasanaeth.

Fe wnawn ni ddysgu yn sgil y prosiect peilothwn, gyda’r nod o ddod â mynediad WiFifforddiadwy i gymaint â phosibl o breswylwyryn ein cynlluniau er ymddeol ledled Cymru, diolch i fuddsoddiad sy’n werth £1 miliwn ganWWH.

Mae WWH hefyd yn cynnal y prosiect Take Ctrlar ran Fforwm Gallu Ariannol Gogledd Cymru,partneriaeth eang sy’n cynnwys Cymunedau2.0. Bydd Take Ctrl yn cynnig sesiynaucyfrifiadurol yn Nant y Môr, gan roi cyfle ibreswylwyr ddysgu am bopeth sydd gan yrhyngrwyd i’w gynnig, fel siopa ar­lein, FriendsReunited, Facebook, a siarad am ddim gydagaelodau’r teulu ar Skype.

PEILOT CYNHWYSIANT DIGIDOLYN NANT Y MÔR

Bydd ein cynllun gofal ychwanegol ym Mhrestatyn, Nant yMôr, ar ei ennill yn fuan drwy brosiect peilot cysylltiad â’rrhyngrwyd, ein hail beilot o’r fath yng Nghymru.

Mae disgwyl i breswylwyr Nant y Môr elwa ar fand eang WiFi fforddiadwy drwy brosiect peilot yn y cynllun

3 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Ar ôl cael ei gwblhau yn ystod yr haf eleni, maeCil y Coed yn Henllan yn darparu llety o’r raddflaenaf i bobl ag anawsterau dysgu ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Symudodd preswylwyr cyntaf Cil y Coed i’r tribyngalo penodol i anghenion, a alwyd ynAlwyn, Bala a Brenig, yn gynnar yn yr haf, a hydyma, mae’r adborth gan y preswylwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Mae gan y safle yn Henllan draddodiad hir ogefnogi pobl ag anableddau dysgu, ac rydymyn falch o allu parhau â’r traddodiad hwn.

Dywedodd Michelle Voyce, mam Brad Voyce,sy’n byw yng Nghil y Coed: “Mae byngalo Bradyn werth ei weld! Mae’n wych! Mae wedicael ei gynllunio’n berffaith! Mae’r ffordd ymae dwy ystafell wely wedi cael eu gosod bobochr i’r ystafell fyw yn gweithio’n dda iawn, ynogystal â’r ystafell haul sy’n cyfuno’r ddau gyntedd.”

Dywed Craig Sparrow, Rheolwr DatblyguWWH: “Mae trydydd prosiect Wales & West, addyluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, wedi cael eigwblhau erbyn hyn. Trosglwyddwyd y tai ar 28Mehefin 2012. Am y tro cyntaf yn eu bywydau,o bosibl, bydd gan y deuddeg unigolyn gartrefdiogel wedi’i adeiladu ar gyfer eu gofynion,gyda gofal ar y safle. Cefais alwad ffôn heddiwgan fam un o’r dynion ifanc sy’n byw yno ynawr, a dywedodd fod y lle yn anhygoel, a’i fodyn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd eimab a’u bywydau nhw fel rhieni. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o’rgwaith.”

Mae ail gam y datblygiad hwn wedi dechrauerbyn hyn, a fydd yn darparu chwech o daiteulu.

Rydym hefyd wrthi’n trafod prynu rhagor osafleoedd yn Sir Ddinbych i ddarparu lletynewydd ar rent, a hefyd i gefnogi’r cynllunioadfywio ehangach mewn trefi allweddol fel yRhyl.

ARBENIGWYR ARDAI ARBENIGOL, HEFYD...

Mae ein portffolio datblygiadau tai â chymorth yn parhau ifynd o nerth i nerth.

Brad Voyce, sydd ag anawsterau dysgu, yn mwynhau bywyd yng Nghil y Coed, Henllan

4 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Y syniad y tu ôl i SARTH yw creu polisi cyffredin ar ddyrannu tai ledled y rhanbarth.Fe fydd hyn yn ei gwneud yn haws iymgeiswyr, gan mai un set o reolau y byddangen eu dilyn, yn hytrach na’r naw sy’nbodoli ar hyn o bryd.

Rydym yn cynnal Swyddog DatblyguProsiect SARTH, Nik Weatherall, ac yn gweithio mewn partneriaeth â ChyngorBwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor BwrdeistrefSirol Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint,Cartrefi Conwy, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn,Cymdeithas Tai Clwyd a Thai GogleddCymru.

Bydd polisi drafft yn cael ei lunio’n fuan argyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd i’wweld ar wefannau’r partneriaid.

PROSIECT SARTHGOGLEDD CYMRUMae prosiect SARTH (Un Llwybr Sengl i Dai), sy’n ceisio symleiddio’r broses ymgeisio am dai cymdeithasol yngngogledd Cymru, yn datblygu’n dda.

5 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012

Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff aphartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nosWener 19 Hydref.

Roedd preswylwyr Sir Ddinbych yn amlwgiawn ymysg yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddoddy rowndiau terfynol, fel y gwelir isod:

• June a Roly Foster, Côr Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr – enillwyr, Gwobr Prosiect Cymunedol

• Eric Fitton a Charlie Adams, Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr – enillwyr, Gwobr Eco Bencampwyr

• Gordon Barlow, Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr – enillydd, Gwobr Dechrau Newydd (Adeiladau Newydd)

• Bill Hollis, Buxton Court, y Rhyl – rownd derfynol, Gwobr Cymydog Da

Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safonuchel o bob rhan o Gymru eleni ­ swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pamor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod einpreswylwyr.

Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawnat gyllideb y Gwobrau eleni.

Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm fer amy digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho i fyny i’ngwefan ac YouTube yn fuan iawn.

Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr:“A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed troeleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yw einffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanola synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hunyn ein preswylwyr. Ein bwriad yw gweld twfcryf a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedaupobl, ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi syniad da ibobl am rai o’r ffyrdd y mae hyn yn cael eigyflawni. Mae hi wedi bod yn noson hyfryd, acyn fraint o ddifrif cael clywed hanesion y rhaisy’n cymryd rhan.”

Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – ytro hwn, un a enillwyd gan ein tîm CysylltiadauCyhoeddus a Marchnata ein hunain, pangydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.

Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn nosonwych.

6 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Pic caption l – r: Mathew and Claire Anwyl, from categorysponsors, Anwyl Construction; Celia Appleton, guest, GordonBarlow winner of the Fresh Start (New Build) Award, CarolJohnston, care manager Allied Health, Kathy Smart, Chair ofWWH and Anne Hinchey, CEO, WWH.

Eric Fitton, winner of our Eco Champion award with category sponsor Chris Williams of CJS Electrical, KathySmart, Chair WWH, Tina Williams of CJS Electrical and Anne Hinchey, CEO, WWH.

7 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethaurydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bodni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhagmynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau.

Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i:

• baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol

• darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu

• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a

• lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faintpriodol.

Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefydyn gweithio’n agos â Moneyline Cymru(gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credydledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr igyllidebu’n effeithiol a chael mynediad atgredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.

PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAUEfallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai arhyn o bryd na Diwygio Budd­daliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewnawdurdodau lleol, swyddogion budd­daliadau tai, Tai CymunedolCymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’rnewidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’npreswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20yr awr (i weithwyr y tu allan i Lundain), acmae hynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswmcyflog cyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn obryd.

Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yngolygu nad oes unrhyw un yn gweithio i niam lai na £7.20 yr awr, ac ers mis Awsteleni, mae 40 o’n gweithwyr cyflogedig

wedi gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.

Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nodcyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West.Mae hon yn foment arwyddocaol, ganmai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yngNghymru i sicrhau’r nod.”

ARWAIN Y SECTOR GYDA’R CYFLOG BYW

Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’npreswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon.

8 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi caeleffaith yn ddiweddar yn cynnwys:

• Gogledd Cymru ­ Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam,cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yn codi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road,a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifynnau In Touch â Sylw ar ardal Sir Ddinbych yn y dyfodol.

• De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwrdros ddwy flynedd gyda’n his­gwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd.Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Ben­y­bont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac

astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth dai’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd ade Cymru dros y misoedd nesaf.

• De Cymru ­ Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Pen­y­bont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mhen­y­bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd igyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnesmewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau.

Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymruyn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu poblâ chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac ynbriodol.

Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadaumewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byrheb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) aphrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn ynagored i bawb, heb ystyriaeth i oedran,cymwysterau na phrofiad blaenorol.

Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwiFfurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter SgiliauGweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk

Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’ndod o Ben­y­bont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrddCambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd inodi ei gymhwyster.

LLEOLIADAUGWAITHAR GAELMae helpu ein preswylwyr ielwa ar gyflogaeth a chyfleoeddhyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barodwedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac maegennym nifer o brentisiaid yngweithio ar ein prosiectau le­dled Cymru.

9 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn falch iawn o ddweud bod yrymateb i’n gwedd newydd wedi bod yngadarnhaol iawn, ac mae’n helpu i ledaenu’rneges am ein strwythur grŵp newydd, gydaGwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltdfel ein his­gwmni cyntaf.

Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw arardal Sir Ddinbych, rydym yn falch o anfondolen at ein Cynllun Busnes 2012, sy’n amlinellu cyfeiriad strategol Grŵp Tai Wales& West ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Rhan arall o’r broses ail­frandio oedd creuein his­frand newydd cyntaf, Connect24.Mae hyn yn uno ystod gynhwysfawr owasanaethau rydym yn eu darparu, gangynnwys ein Larwm mewn Argyfwng,gwasanaethau y tu allan i oriau, a chymorthi weithwyr unigol.

O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaidcorfforaethol at ein portffolio yn ystod ymisoedd diweddar, rydym nawr yn gofaluam fwy na 20,000 o gartrefi ledled Cymrudrwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi cael ei hachredu gany Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal, ganein galluogi i wneud atgyweiriadau a helpupobl i gael yr help maen nhw ei angenmewn argyfwng.

Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai einCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpusefydliadau yn eich ardal chi sydd angencefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch âCate Dooher, Pennaeth y GwasanaethauCefnogi, ar 029 20415386.

AIL-FRANDIOOs ydych yn cael In Touch, eincylchgrawn chwarterol ibreswylwyr, fe fyddwch yngwybod yn barod ein bod wediail­frandio ym mis Ebrill eleni.

Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Pen­y­bont ar Ogwr, yn dangos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.

10 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf, yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld y bydd hyn yn treblu.

Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru,mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod iCambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adainhon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.

Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystalâ darparu llwyfan diogel arall am ragor ogyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 ogeginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymruyn ystod y pum mlynedd nesaf.

CAMBRIA YN YMESTYNI OGLEDD CYMRU

Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannusiawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal âgosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne achanolbarth Cymru.

Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.

11 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglen grantiautai cymdeithasol i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewncymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefinewydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolyguswyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd

bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1 Mehefineleni.

Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawnni barhau i gydweithio lle bo’n briodol iddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen ynfawr ledled Cymru.

CONSORTIWM SYNIADYn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn iffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwmwedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyafposibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol.

Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn,bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr taicymdeithasol gael mynediad at ygwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau felMoneyline Cymru ac undebau credyd lleol.

Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac ynawr mae WWH yn gweithio’n agos gydaMoneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro iystyried sut y gellir datblygu gwasanaethaunewydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’rnewidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r CredydCyffredinol.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehanguMoneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r

gangen ddiweddaraf wedi agor ym MerthyrTudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd.

Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneylineyn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbedion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan yProvident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.

MONEYLINE CYMRUYN EHANGU

Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd MoneylineCymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenterbwysig hon.

12 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddynar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredudrwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hydyn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydymyn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudd­daliadau lles, yn enwedig cyflwyno’rCredyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloeddgwely’.

Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwylbuddsoddi £36m mewn cynnal a chadw agwella ein stoc bresennol.

Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu achaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg maidim ond un rhan o bump o’r buddsoddiad hwnfydd yn cael ei gyllido drwy grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda£70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol,a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol,trowch at dudalennau 28 a 29 o’n CynllunBusnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wediei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld arein gwefan www.wwha.co.uk

Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio ganLywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.

EIN PERFFORMIADARIANNOL

Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fodangen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydymeisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Ernad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhaucryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaiddsydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol,ac i gyflwyno syniadau newydd.

Cyfanswm

393

Wrecsam

127

Sir y Fflint

121

Sir Ddinbych

9Conwy

12

Powys

24

Merthyr Tudful

15

Bro Morgannwg

20

Pen-y-bont

39Caerdydd

26

Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar ysafle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrauyn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwnadeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pummlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm einhadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.

Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu arhyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol

13 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gydaGwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ ermwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da oran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasolledled y wlad.

Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWHwedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei

roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yndarparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethdiogelwch tân.”

Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gydaGwasanaeth Tân y Canolbarth a GwasanaethTân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd oehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.

PARTNERIAETHGWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRUMae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn o bryd,ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod.

Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.

14 | Sylw ar ardal SIR DDINBYCH | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

• Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gangael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawngweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis Elliott­Smith.

• Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012wedi nodi mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad nid­er­elw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau.

• Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n Gweithio am Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr

Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:

“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol.Roedd polisïau arloesol Tai Wales &West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’ucefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraffar y beirniaid.”• Mewn partneriaeth â GKR Maintenance & Building,

rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yng ngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.

GWNEUD Y PETH IAWN…Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff,ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael ynddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio.

Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal aChadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin

Tai Wales & West3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Hydref 2012