sylw ar ardal sir ddinbych

18
Sir Ddinbych Gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn agor cynllun Gofal Ychwanegol WWHA ym Mhrestatyn Hefyd yn y rhifyn hwn... WWHA yn helpu preswylwyr gyda TG DVD My home – ‘Making every penny count’

Upload: sharon-buckley

Post on 10-Mar-2016

227 views

Category:

Documents


5 download

DESCRIPTION

Wales & West Housing Association's newsletter for Denbighshire (Cymraeg)

TRANSCRIPT

Page 1: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

Sir DdinbychGwanwyn 2012

Sylw ar ardal

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn agor cynllun Gofal Ychwanegol WWHA ym Mhrestatyn Hefyd yn y rhifyn hwn...WWHA yn helpu preswylwyr gyda TGDVD My home – ‘Making every penny count’

Page 2: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

2www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y fi lltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain.

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn fl aenorol.

Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times.

Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y dafl en newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi.

Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes.

Anne HincheyPrif Weithredwr

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Sir Ddinbych

Côr preswylwyr Nant y Môr gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

Page 3: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

3www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i Sir DdinbychMae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o fl aenoriaethau pennaf WWHA.

Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfl eusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru.

Mae datblygiadau WWHA sydd wedi dechrau yn Sir Ddinbych, neu a fydd yn dechrau’n fuan, yn cynnwys:

Prosiect Awtistiaeth Henllan Bydd cam cyntaf y datblygiad hwn, sy’n werth £1.05 miliwn, yn darparu llety arbenigol i bobl ag amrywiaeth o anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, ynghyd â phobl sydd ag anableddau corfforol – heb anghofi o eu gofalwyr, hefyd.

Bydd yr ail gam yn darparu cartrefi fforddiadwy i deuluoedd yr ardal. Rydym yn cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych ar y prosiect hwn, a dechreuodd y contractwyr, Anwyl, weithio ar y safl e ym mis Awst 2011. Mae disgwyl i’r cynllun gael ei gwblhau yn ystod yr haf.

Mae prosiectau eraill sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y ddwy fl ynedd nesaf yn cynnwys dau gynllun yn Sir Ddinbych, gan gynnwys llety i bobl ag anawsterau dysgu.

Dywedodd y Pennaeth Datblygu, Nikki Cole: “Rydym yn gweithio gyda’r Cyngor i nodi cyfl eoedd i gynyddu’r cyfl enwad o gartrefi fforddiadwy, gan gynnwys tai gofal ychwanegol, mewn cyfnod pan mai dim ond ychydig o grantiau tai cymdeithasol sydd ar gael.

“Rydym hefyd yn cefnogi’r Cyngor yn ei werthusiad o ddewisiadau fel rhan o gynlluniau mawr y Rhyl.

“Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofi ad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfl e i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai.

“Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfl eoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.”

Page 4: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

4www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Preswylwyr gwobredig

Enillodd Eric Fitton a Margi Sharp ein gwobr Garddwyr Gorau (Pobl Hŷn) yn ein seremoni Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011, a noddwyd gan y cyfanwerthwyr trydanol LH Evans, am eu hymdrechion yng ngerddi cymunol Cynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn.

Roedd y ddau ymysg y cyntaf i symud i Nant y Môr, ac fe gawson

nhw eu henwebu ar gyfer y wobr gan y rheolwr cynllun, Karen Boyce, gan eu cyd-breswylwyr, a chan staff Allied Healthcare, sy’n gweithio yn y cynllun.

Roedd Shannon Yates o’r Rhyl, sy’n 18 oed, ynghyd â James a Judith Pickering o Brestatyn, hefyd ar y rhestr fer yng nghategorïau Gwobr Arwr Lleol David Taylor a’r Wobr i Eco Bencampwyr yn eu trefn.

Mae Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA yn cael eu cynnal bob blwyddyn i ddathlu’r synnwyr o gymuned sy’n dod i’r wyneb yn ein preswylwyr a’u cymunedau.

Bydd ein seremoni wobrwyo yn 2012 yn cael ei chynnal yn y Village Hotel, Coryton, Caerdydd, ddydd Gwener 19 Hydref 2012, ac rydym bob amser yn barod i dderbyn enwebiadau gan unrhyw un, unrhyw dro. Ein hunig faen prawf yw bod yn rhaid i’r bobl sy’n cael eu

henwebu naill ai fod yn breswylwyr WWHA, neu’n gweithio’n agos gyda nhw ar brosiect neu fenter gymunedol. Os hoffech enwebu rhywun, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02920 415363.

Enillodd un o breswylwyr WWHA, Owen Ryan, wobr ‘Preswyliwr Eithriadol y Flwyddyn’ yn seremoni wobrwyo gyntaf Cymunedau yn Gyntaf De Orllewin y Rhyl yn gynharach eleni.

Eric Fitton a Margi Sharp gydag Ivor Gittens, Cadeirydd WWHA, a Lee Harewood a Chris Reagan o LH Evans

Page 5: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

5www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

Yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn), a thrwy Gymru gyfan,

rydym wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi.

Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

Prosiect SARTH

Yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae’r prosiect mynediad unigol at dai (SARTH) yn ceisio gwneud mynediad at dai cymdeithasol mor effeithlon, cyson a theg â phosibl.

Mae’n brosiect ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Ffl int a Wrecsam, a Chymdeithasau Tai Gogledd Cymru, Tai Clwyd, Clwyd Alyn, Cartrefi Conwy a Wales & West.

Mae holl aelodau cyfredol y bartneriaeth wedi cytuno i gydweithio ar fframwaith cyffredin i ddyrannu tai a rhoi cyngor, ynghyd â gosod nodau

ac amcanion, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Yn y cyfamser, mae grŵp llywio’r prosiect wedi recriwtio swyddog datblygu’r prosiect, Nicholas Weatherall, sy’n cael ei gyllido ar y cyd gan yr holl bartneriaid ac sy’n dod dan ofal Cymdeithas Tai Wales & West, i gydlynu datblygu fframwaith ddyrannu gyffredin.

Mae’r prosiect yn bwriadu peilota’r fframwaith cyffredin yn 2013.

Page 6: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

6www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Cynllun gofal ychwanegol newydd yn cael ei agor yn swyddogol

Fis Tachwedd llynedd, roeddem wrth ein bodd pan gawsom y cyfle i groesawu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, AC, fel ein gwestai anrhydeddus yn agoriad swyddogol Nant y Môr, ein cynllun tai gofal ychwanegol newydd ym Mhrestatyn.

Fe wnaethom ddatblygu’r cynllun hwn, sy’n werth £9.9 miliwn ac sy’n cynnwys nodweddion o’r radd flaenaf, ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych. Mae’r cynllun ar Marine Road yn cynnwys 59 rhandy hunangynhwysol ynghyd ag amrywiaeth eang o gyfleusterau cymunol, gan roi cyfle i bobl dros 60 oed yn Sir Ddinbych fyw’n annibynnol, gyda gofal a chefnogaeth wrth law.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthym: “Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi cael fy ngwahodd i nodi agoriad swyddogol y datblygiad tai newydd a gwych hwn. Rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiant mawr, nid yn unig ar gyfer y preswylwyr ond y gymuned yn

ehangach.

“Mae’r boblogaeth oedrannus ar gynnydd yng Nghymru, ac mae anghenion tai pobl hŷn yn amrywio’n fawr. Un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru yw bod cynlluniau fel hyn yn galluogi pobl i fyw’n annibynnol cyn hired â phosibl.

“Rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno y bydd Nant y Môr yn cwrdd â’r amcan hon, a gall preswylwyr fod yn dawel eu meddwl fod cefnogaeth wrth law pe baen nhw ei angen.

“Rydw i’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r cynllun hwn drwy gyfrannu cyllid grant o £5.7 miliwn o’r Rhaglen Grantiau Tai Cymdeithasol.”

“Rydym wrth ein bodd fod Prif Weinidog Cymru wedi agor y cynllun hwn yn swyddogol,” meddai Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWHA. “Rydym yn hynod falch o Nant y Môr a’r hyn y mae’n ei gynnig i bobl hŷn

Page 7: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

7www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

yn y gymuned hon.

“Mae’n ganlyniad cydweithio gwych rhyngom ni a Chyngor Sir Ddinbych, a thrwy siarad gyda’r preswylwyr, fe sylwch chi pa mor fodlon ydyn nhw gyda’u cartrefi a’u cyfleusterau newydd, ynghyd â’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael mewn cyfnod pwysig iawn yn eu bywydau.”

Dywedodd y Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet ar Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: “Tai Gofal Ychwanegol yw’r ffordd ymlaen yn Sir Ddinbych, yn sicr. Mae gennym un o’r canrannau uchaf o bobl hŷn yng Nghymru, a’r duedd yw bod pobl yn byw’n hŷn. Yn sgil hyn, mae angen i ni addasu ein gwasanaethau i gwrdd â galw cynyddol - rhywbeth sy’n flaenoriaeth allweddol i ni yn Sir Ddinbych. Mae cynllun gofal ychwanegol Nant y Môr wedi cael ei greu i gwrdd â’r galw gan bobl sy’n dymuno byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gan fod yn dawel eu meddwl fod cymorth ar gael 24 awr y dydd.

“Mae hon yn enghraifft wych o sut mae cydweithio’n gallu gwireddu ein dyhead i greu cynlluniau gofal ychwanegol yn ein sir.”

Roedd taith Prif Weinidog Cymru o amgylch y cynllun, sy’n cynnwys 27 rhandy annibynnol ag un ystafell wely a 32 rhandy annibynnol â dwy ystafell wely, yn cynnwys ymweliad â rhandy un o breswylwyr cyntaf Nant y Môr, Pam Barrow.

Dywedodd Pam Barrow, sy’n 79 oed: “Cyn symud i Nant y Môr, roeddwn yn byw ar fy mhen fy hun mewn byngalo. Nawr, rydw i’n gallu ymuno mewn gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu

cynnal yma pryd bynnag rydw i eisiau gwneud hynny, ond rydw i’n dal i allu dod yn ôl i’m rhandy, cau’r drws a gwneud beth rydw i eisiau ei wneud, pryd bynnag rydw i eisiau gwneud hynny.”

Ychwanegodd Ms Barrow: “Rydw i wrth fy modd gyda fy rhandy. Mae golygfeydd hyfryd dros ben o Eryri i’w cael ar ddiwrnod clir, ac mae’n braf fy mod i’n gallu gweld fy ngwlad fel hyn. Mae gennyf anhwylder ar yr ysgyfaint, ac mae’n hyfryd fy mod i’n gallu mwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd drwy’r ffenestri, ynghyd â gweld y mynyddoedd a gerddi Nant y Môr oddi ar y balconi.”

Wedi ei adeiladu gan y contractwyr Linford Group, mae’r cyfleusterau ychwanegol yn y datblygiad yn cynnwys:

• Lolfa gymunol fawr, gyda mynediad uniongyrchol at ardd gymunol yn y canol

• Bwyty a chyfleusterau bwyta• Ystafelloedd diddordebau, trin gwallt

a thriniaethau• Ystafell arddio ar y llawr gwaelod

isaf a theras gardd• Terasau ar doeau’r ail lawr / trydydd

llawr • Mannau mwynderau allanol, gyda

seddi, gwelyau wedi’u codi a mannau plannu.

Roedd gwesteion eraill y seremoni yn cynnwys aelodau a swyddogion Cyngor Sir Ddinbych, staff y darparwr gofal ar y safle, Allied Healthcare, ynghyd â chynrychiolwyr asiantaethau partner allweddol a busnesau a sefydliadau cyfagos.

Page 8: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

8www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Prosiectau parhaus yn Nant y Môr

Mae’r preswylwyr wedi ymgartrefu erbyn hyn, ac maen nhw’n mwynhau eu bywydau cymunol a chymdeithasol yn y cynllun gofal ychwanegol.

Mae prosiect celfyddydol yn cael ei gynnal yn Nant y Môr ar hyn o bryd gan chwe artist cymunedol lleol, sy’n cydweithio i ddarparu gweithdai dros gyfnod o 15 wythnos, diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r prosiect yn ymdrin â phaentio, ysgrifennu creadigol a cherflunwaith, ac mae wedi bod mor boblogaidd gyda phreswylwyr

fel eu bod nhw’n gofyn iddo fod yn nodwedd reolaidd yn Nant y Môr. Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal yn fuan i arddangos eu gwaith.

Mae prosiect arall dan y teitl ‘Fy mywyd i, fy ffordd i’ hefyd yn cael ei gynnal, a hwnnw wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae’n cael ei gynnal bob yn ail fore Mercher, a’i nod yw rhoi hwb i hyder pobl hŷn. Yn ogystal, mae rhaglen ymarfer corff mewn cadair freichiau wedi cael ei sefydlu i helpu gyda symudedd a ffitrwydd.

Page 9: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

9www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Cartrefi WWHA ar werth yn ardal Sir Ddinbych

Yn Sir Ddinbych, mae gennym y cartrefi canlynol ar werth ar hyn o bryd:

Plas Tirion Court, yn y Rhyl:

• Rhif 8 – rhandy dwy ystafell wely ar y llawr gwaelod – cysylltwch â’r Gwerthwyr Eiddo Jones & Redfearn

• Rhif 13 - rhandy dwy ystafell wely ar y llawr cyntaf - cysylltwch â’r Uned Perchnogaeth Cartrefi ar 0800 052 2526

Mae’r cynllun yn cynnwys 33 rhandy, 8 gydag un ystafell wely a 25 gyda dwy ystafell wely, y rhan fwyaf mewn blociau deulawr, gyda

dim ond ychydig o fflatiau ar y trydydd llawr. Mae gan y cynllun ystafell olchi dillad gymunol.

Mae’r tiroedd wedi’u tirweddu gyda borderi a lawntiau, rhai ohonyn nhw’n cael eu cadw’n hyfryd o daclus gan y preswylwyr. Mae cyfleusterau parcio preifat ar gyfer preswylwyr y cynllun.

Mae’r preswylwyr yn gallu defnyddio ein Canolfan Larwm mewn Argyfwng 24 awr y dydd, ac mae cortynnau argyfwng i’w cael ym mhob cartref, gyda phreswylwyr hefyd yn cael larymau personol i’w gwisgo o amgylch eu gwddw.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran tenantiaethau i bobl hŷn sy’n dymuno rhentu neu brynu eu cartref eu hunain. Rydym yn rheoli 22 cynllun tai ar werth er ymddeol a chynlluniau prydles i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnig amrywiaeth o brisiau a lleoliadau i’r rhai sy’n dymuno prynu cartref.

Page 10: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

10www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

DVD My home - ‘Making every penny count’Rydym yn falch o fod yn aelod o Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, sydd wedi ennill dwy wobr genedlaethol fawreddog yn ddiweddar am eu DVD ‘My Home…making every penny count’:

1. Gwobr Hyrwyddo Annibyniaeth 2011 – Gwobr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth 2011

2. Gwobr MoneyActionNet 2011

Mae’r DVD ‘My Home.. making every penny count’ yn cynnig dull arloesol o fynd i’r afael â materion ariannol o ddydd i ddydd y gallai tenant eu hwynebu wrth ddechrau ar denantiaeth gyda landlord cymdeithasol.

Mae’r ffilm yn archwilio’r dulliau ‘da’ a ‘drwg’ o ymdrin ag arian, ac yn amlygu peryglon cymryd agwedd

‘ddiofal’ at gyllid y cartref. Mae hefyd yn rhoi syniadau ymarferol ynghylch sut y gellir arbed arian ac osgoi dyledion. Yn neilltuol, mae’n amlygu sgil effeithiau benthyca gan fenthycwyr anghyfreithlon a ffynonellau eraill o fenthyca ar gost uchel.

Mae’r DVD ar gael i bob preswyliwr tai cymdeithasol newydd yng ngogledd Cymru.

Mae gan y Bartneriaeth gynrychiolwyr o holl gymdeithasau tai gogledd Cymru:

• Cartrefi Cymunedol Gwynedd• Cartrefi Conwy• Cymdeithas Tai Clwyd Alyn• Cymdeithas Tai Gogledd Cymru• Cymdeithas Tai Clwyd• Cymdeithas Tai Eryri• Cymdeithas Tai Wales & West

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodolFel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/CorporateInformation/Performance/InspectionInformation

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷnRydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Page 11: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

11www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Take Ctrl

Mae Take Ctrl yn fenter cynhwysiant digidol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o dechnolegau digidol, ynghyd â darparu hyfforddiant ar sut i’w defnyddio, fel modd o fynd i’r adael â chynhwysiant ariannol ledled gogledd Cymru.

Mae wedi cael ei dargedu’n benodol at dri o’r pedwar grŵp blaenoriaeth a nodwyd ym mhrosiect Cymunedau 2.0.

Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, nod y prosiect yw galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu cyllid yn well. Y nod eithaf yw sicrhau fod allgau digidol, ariannol a chymdeithasol yn cael ei leihau; tryfalu’r dull o ddelio â’r tri pheth hyn, a sicrhau fod y sail resymegol ar gyfer defnyddio technolegau digidol i roi terfyn ar dlodi yn rhan ganolog o feddylfryd y rhai a gaiff fudd o’r prosiect – o dimau datblygu polisi cymdeithasau tai, staff rheng flaen a staff eraill, i’w tenantiaid, a’r gymuned ehangach yn wir.

Lluniwyd y cynnig gan gonsortiwm o aelodau o saith cymdeithas tai sy’n gwasanaethu gogledd Cymru – rhyngddyn nhw, mae gan y cymdeithasau stoc tai ar hyd a lled y gogledd, ac mae ganddyn nhw enw da am gydweithio’n

llwyddiannus ar fentrau tebyg.

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled gogledd Cymru.

Prif ran y prosiect yw’r syniad o gyflogi swyddog cynhwysiant digidol am gyfnod o ddwy flynedd, dan ofal WWHA, a byddai ei amser yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y sefydliadau a’u tenantiaid perthnasol. Yn fras, bydd gwaith y swyddog yn ymgorffori cydlynu (ac weithiau darparu) hyfforddiant uniongyrchol a chodi ymwybyddiaeth; cywain gwybodaeth a chyfeirio pobl at wybodaeth sydd eisoes yn bod am dechnoleg ddigidol; dyfeisio a chadw at strategaethau marchnata a gwirfoddoli; meithrin cysylltiadau, a sefydlu sawl perthynas at y dyfodol.

Er mai menter dwy flynedd sy’n cael ei chynnig, o’r dechrau un mae’r partneriaid wedi bod yn ystyried ei gynaladwyedd, ac yn gweld hyn fel cam cyntaf prosiect llawer mwy cynhwysol a allai ymuno â phrosiectau sydd eisoes yn bod yn lleol, gan sicrhau partneriaid newydd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, a chreu model ar gyfer delio ag allgau a allai gael ei ail-greu yn rhywle arall.

Page 12: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

12www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Y diweddaraf am ddatblygiadauLedled Cymru, mae ein rhaglen ddatblygu, sy’n werth £101 miliwn dros bum mlynedd, yn mynd o nerth i nerth.

Rydym nawr naill ai wedi dechrau neu ar fi n dechrau gweithio ar fwy na 250 uned mewn pum awdurdod lleol gwahanol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, gofal ychwanegol, anghenion arbennig a llety gofal dementia.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi cwblhau cyfanswm o 47 uned ledled Cymru, gan gynnwys tai a rhandai anghenion cyffredinol, ynghyd ag unedau arbenigol tai â chymorth.

Rydym hefyd yn peilota ein menter ‘Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu’ gyntaf, gydag 16 uned ar gael am rent fforddiadwy, gyda’r dewis o brynu’r cartref ar ôl blwyddyn o denantiaeth lwyddiannus.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau datblygu, ewch i: www.wwha.net/ourservices/development

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take CtrlRydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profi ad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fi deo.

Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyfl ogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

12

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012Bydd pumed seremoni fl ynyddol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael ei chynnal ar 19 Hydref yn y Village Hotel, Coryton, Caerdydd.

Rydym bob amser yn croesawu enwebiadau gan unrhyw un sy’n dymuno enwebu unigolion neu grwpiau sy’n llawn ysbryd cymunedol. Ein hunig faen prawf yw bod yn rhaid i’r rhai a enwebir naill ai fod yn breswylwyr WWHA, neu’n cydweithio â phreswylwyr WWHA, ac mae’r broses enwebu yn gyfl ym ac yn hawdd.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i’n noson gala carped coch, lle bydd synnwyr o gymuned yn cael ei gydnabod gyda chyfres o wobrau.

Y categorïau yw: Dechrau o’r newydd, Arwr lleol, Cymydog da, Eco bencampwr, Garddwr gorau, Pencampwr cymunedol.

Am ragor o fanylion ac i enwebu rhywun, ffoniwch Sharon Buckley ar 029 20 415363 neu e-bostiwch [email protected]

Page 13: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

13www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Achub morgeisiMae ein cynllun achub morgeisi ynparhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu.

Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben.

Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi:

• Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn.

• Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/OurServicesMortgageRescue/

Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben.

Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol.

Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA

wella ansawdd ein cartrefi.

Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012.

Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

Page 14: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

14www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar

Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safl eoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Ffl int. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau.

Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear.

Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Page 15: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

15www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Mae prosiectau eraill yn cynnwys:

• Newid tanwydd• Parhau i dreialu dyfeisiau

optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth

yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio.

Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad.

Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall.

Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio.

Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa fi niau yn Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfi o erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

Page 16: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

16www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn grynoErs ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol:

• Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf.

• Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.”

• Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane.

• Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru.

• Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru.

• Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust.

• Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.

Page 17: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

17www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Cyfl eoedd cyfl ogaeth a hyfforddiantRydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio.

Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewndigwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfl e i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

Mae nifer o’n contractwyr wedi cyfl ogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau.

• Cefnogi ein contractwyr a chyfl enwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri.

• Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau.

• Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfl eoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/rdonlyres/6C6733C0-FA83-4302-912C-F846D2D3C68F/0/InTouchWinter20112.pdf

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/rdonlyres/10FD0DC5-E4DD-4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/WHALTPS2011.pdf

Page 18: Sylw ar ardal Sir Ddinbych

18www.wwha.net

Sylw ar ardal Sir Ddinbych – Gwanwyn 2012

Cate Porter, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 01352 [email protected]

Wales & West Housing Association is registered as a charitableassociation under the Industrial and Provident Societies Act 1965 No. 21114R

Cysylltiadauallweddol

Prif Swyddfa3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam,

Tremorfa, CaerdyddCF24 2UD

Ffôn: 0800 052 2526Ffacs: 029 2041 5380

Gwefan: www.wwha.net

Swyddfa’r FflintUned 2 Parc Busnes AcornAber Road, Y Fflint, Sir y FflintCH6 5YN

E-bost: [email protected]: 0800 052 5205Dilynwch ni ar @WWHA

Anne Hinchey, Prif Weithredwr029 2041 5335

[email protected]

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid029 2041 [email protected]

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau029 2041 5362

[email protected]

STRATEGOL

Lynnette Glover, Pennaeth Tai029 2041 5365

[email protected]

Anne Caloe, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth)01352 736323

[email protected]

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R

Nikki Cole, Pennaeth Datblygu029 2041 4093

[email protected]

Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 [email protected]

D AT B LY G U G WASA N A E T H AU E I D D O

TAI