d r o d d i a d b l y n y d d o l 2 0 1 6 a - senedd cymru documents/gen-ld10860/gen... · 2016....

88
A d r o d d i a d B l y n y d d o l 2 0 1 6

Upload: others

Post on 26-Jan-2021

2 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Adroddia

    d Blynyddol 2016

  • CynnwysRhagair y Cadeirydd 2

    Cyflwyniad y Prif Swyddog Gweithredol 3

    Gair am Cymwysterau Cymru 5

    Blaenoriaeth Strategol 1: System gymwysterau yng Nghymru a reoleiddir yn strategol 21 ⋅ Datblygu cymwysterau 23 ⋅ Adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol 24 ⋅ Prosiect y Strategaeth Reoleiddio 26 ⋅ Rhoi grantiau 28 ⋅ Cefnogaeth i ganolfannau 29 ⋅ Cydberthynas gyda Llywodraeth Cymru 31 ⋅ Ymchwil 32 ⋅ Asesiadau dan arweiniad athrawon ym maes addysg a

    hyfforddiant ôl-14: adolygiad o lenyddiaeth 34 ⋅ Polisïau 35 ⋅ Symleiddio'r system gymwysterau 36

    Blaenoriaeth Strategol 2: Cyflenwad o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd 37 ⋅ Cydnabod cyrff dyfarnu 39 ⋅ Cymeradwyo/Dynodi cymwysterau 41 ⋅ Cydberthnasau gyda rheoleiddwyr eraill 45 ⋅ Monitro a chydymffurfio 46 ⋅ Adolygu Bagloriaeth Cymru 50 ⋅ Canlyniadau cymwysterau cyffredinol 52 ⋅ Cysylltiadau â chyrff dyfarnu 56

    Blaenoriaeth Strategol 3: Meithrin gallu Cymwysterau Cymru 57 ⋅ Creu rheoleiddiwr 59 ⋅ Meithrin gallu 61 ⋅ Cymwysterau yng Nghymru (QiW) 64 ⋅ Cymwysterau Cymru fel cyflogwr 67 ⋅ Ein pobl 68

    Blaenoriaeth Strategol 4: Rhoi hyder i’r cyhoedd 71 ⋅ Hyder y cyhoedd 73 ⋅ Mesur hyder y cyhoedd 76 ⋅ Gweithio gyda’n rhanddeiliaid 77

    Rhagolwg 81

  • Rhagair y CadeiryddMae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad blynyddol cyntaf Cymwysterau Cymru ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2015 i fis Awst 2016. Mae’n cyfeirio at ein nodau a’n gweithgareddau ers i ni gael ein sefydlu ac yn rhoi trosolwg o’r hyn rydym wedi’i gyflawni.

    Cawsom ein sefydlu ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhelliad yn adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru y dylid sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol yng Nghymru a throsglwyddo’r gwaith o reoleiddio cymwysterau o gylch gwaith Llywodraeth Cymru.

    Mae ein Bwrdd yn dwyn ynghyd ystod eang o wybodaeth a phrofiad ym maes addysg a busnes. Bu’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd ers ei gyfarfod cyntaf ar 25 Medi, ac mae’n bleser gennyf nodi bod ei drefniadau llywodraethu a stiwardiaeth ariannol mewn perthynas â Cymwysterau Cymru yn gweithio’n dda.

    Bu ein blwyddyn gyntaf yn flwyddyn hynod o heriol, ond hynod o foddhaus hefyd. Er mwyn datblygu sefydliad newydd sbon, bu’n rhaid i ni ddylunio a gweithredu’r holl brosesau a gweithdrefnau angenrheidiol i sicrhau ei fod yn gweithio’n effeithlon, yn ogystal â sefydlu ein hunain fel rheoleiddiwr cymwysterau credadwy a chymryd cyfrifoldeb am y rhaglen diwygio cymwysterau Safon Uwch a TGAU sylweddol a oedd wedi dechrau o fewn Llywodraeth Cymru. Roedd hon yn dasg enfawr, ond rydym wedi llwyddo i’w chyflawni drwy waith caled, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb ein staff a hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl bobl a sefydliadau rydym yn cydweithio â nhw ac sydd wedi helpu i ddatblygu ein sefydliad newydd.

    Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym wedi cyflawni ein nodau ac wedi dechrau sefydlu ein hunain fel rhan o’r gymuned addysg ehangach yng Nghymru. Mae’r dysgwr a hyder y cyhoedd yn system gymwysterau Cymru wrth wraidd popeth a wnawn; er y gwyddom fod llawer o heriau i’w hwynebu, edrychwn ymlaen at ein hail flwyddyn yn llawn brwdfrydedd a hyder.

    Ann Evans, Cadeirydd

    02

  • Cyflwyniad y Prif Swyddog GweithredolMae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn adlewyrchu’r gwaith rydym wedi’i wneud hyd at ddiwedd mis Awst 2016 ac yn dangos yr effaith yr ydym wedi’i chael ers i ni gael ein sefydlu fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol newydd Cymru ar 21 Medi 2015.

    Ym mis Medi 2015, gwnaethom ddechrau gyda staff newydd, swyddfa â chyfleusterau newydd a systemau newydd. Yr her i ni dros y deuddeg mis diwethaf fu trawsnewid yr asedau craidd hyn yn rheoleiddiwr cryf ac effeithiol. Ein nod oedd sicrhau parhad a diogelwch y system gymwysterau, gan ddatblygu ein dealltwriaeth, ein prosesau a’n gallu ar yr un pryd.

    Mae’r adroddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i fyfyrio ar ein cyflawniadau a’n cynnydd tuag at ein Prif Nodau: sicrhau cymwysterau effeithiol a system gymwysterau effeithiol ar gyfer dysgwyr ac ennyn hyder y cyhoedd.

    Rydym yn chwarae rôl bwysig ym mywydau llawer o bobl – yn enwedig ein pobl ifanc – ac mae'n bwysig ein bod yn gwarchod eu buddiannau. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cael ein derbyn fel corff arbenigol sy’n chwarae rhan amlwg yn y system addysg yn gyffredinol, gan gydweithio â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill sy’n ymrwymedig i wella cyfleoedd a deilliannau i ddysgwyr yng Nghymru.

    Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, hoffwn amlygu’r ffaith ein bod wedi:

    • parhau â’r gwaith o ddiwygio cymwysterau TGAU a Safon Uwch a ddechreuodd yn sgil Adolygiad o Gymwysterau 2012;

    • dechrau adolygu cymwysterau galwedigaethol fesul sector a gwneud diwygiadau dilynol posibl iddynt;

    • goruchwylio trefniadau i ddyfarnu arholiadau’r haf gan sicrhau eu bod yn gadarn; • datblygu ein rôl o fewn y system addysg yng Nghymru; • ymgysylltu â rhanddeiliaid; a• chreu sefydliad cynhyrchiol ac effeithiol.

    Mae’r rhain yn dasgau pwysig, ac rydym wedi’u cwblhau mewn modd proffesiynol iawn. Fodd bynnag, nid yw wedi bod yn hawdd bob amser, a bu’n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd. Mae ein hannibyniaeth yn ein helpu i ganolbwyntio ar wneud y penderfyniadau cywir. Rydym wedi gweld, os gallwn gadw dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn, yna bydd pethau’n gymharol ddidrafferth.

    Mae’r adroddiad hwn yn nodi ein cyflawniadau yn erbyn ein pedair Blaenoriaeth Strategol. Mae’r meysydd allweddol yn cynnwys y canlynol: Blaenoriaeth Sstrategol 1: ‘System gymwysterau yng Nghymru a reoleiddir yn strategol’

    • Cynnal ein hadolygiad sector cyntaf – yn sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol;• Datblygu a chyhoeddi meini prawf Cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch

    i’w haddysgu gyntaf o 2017;• Datblygu a chyhoeddi polisïau rheoleiddio allweddol;• Cwblhau Cam 1 o’n Prosiect Strategaeth Reoleiddio;• Gwaith ein Tîm Cymorth Canolfannau;• Comisiynu gwaith ymchwil er mwyn gwella ein sail tystiolaeth.

    03

    mwy...

  • Blaenoriaeth Strategol 2: ‘Cyflenwad o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd’• Datblygu proses gadarn i ystyried cydnabod cyrff dyfarnu;• Cynyddu lefelau monitro ar gyfer cymwysterau pwysig;• Cyflwyno proses drylwyr i Gymeradwyo cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig i’w

    haddysgu gyntaf o 2016;• Goruchwylio prosesau dyfarnu cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf yn llwyddiannus.

    Blaenoriaeth Strategol 3: ‘Meithrin gallu Cymwysterau Cymru’• Recriwtio ein staff a chwblhau rhaglen sefydlu lwyddiannus;• Datblygu ein gwerthoedd;• Sefydlu’r swyddogaethau corfforaethol sydd eu hangen ar gyfer y sefydliad newydd;• Datblygu a lansio ein cronfa ddata rheoleiddio newydd – Cymwysterau yng Nghymru (QiW);• Datblygu ein staff yn sylweddol.

    Blaenoriaeth Strategol 4: ‘Rhoi hyder i’r cyhoedd’• Ymgysylltu’n weithredol â’n rhanddeiliaid i wella dealltwriaeth pob un ohonom o’r hyn sy’n

    digwydd yn y system gymwysterau;• Comisiynu astudiaeth hir-dymor i edrych ar ganfyddiadau o hyder y cyhoedd mewn

    cymwysterau a’r system gymwysterau;• Cyfathrebu’n effeithiol â’n rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn deall ein rôl

    a’n diben.

    Rydym wedi cael llawer o lwyddiannau dros y flwyddyn, ac mae’r rhain wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Ym mhob achos, mae’r llwyddiannau hyn i’w priodoli'n bennaf i ymdrechion, sgiliau a phenderfyniadau ein staff. Mae’r gwaith o ddatblygu Cymwysterau yng Nghymru (QiW), ein cronfa ddata gyhoeddus o gymwysterau sy’n gymwys i gael cyllid yng Nghymru, yn enghraifft amlwg o’r ffordd rydym yn gweithio fel sefydliad. Gwnaethom nodi’r hyn yr oedd angen ei wneud, ei gynllunio’n ofalus (gan nodi’r problemau a’r risgiau yr oeddem yn eu hwynebu) a’i gwblhau’n llwyddiannus – mor llwyddiannus, yn wir, nes ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol gwobr TG genedlaethol.

    Mae’r dull gweithredu cyffredinol hwn i’w weld mewn meysydd eraill hefyd: er enghraifft, cafodd ein cyfres gyntaf o gyfrifon ei llunio heb amodau a chawsom archwiliadau cadarnhaol hefyd. Pan rydym wedi cynnal adolygiadau o’r ffordd y mae agweddau ar y system gymwysterau’n gweithio, mae’r adolygiadau hyn wedi bod yn gynhwysfawr ac wedi llunio argymhellion ystyrlon y gellir eu rhoi ar waith.

    Er bod ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn hynod o gynhyrchiol, mae llawer o waith ar ôl i’w wneud. Yn yr adroddiad hwn, amlinellwn ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r rhain yn heriol a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion amdanynt yn ein cynlluniau gweithredol.

    Er mai sefydliad bach ydym, rydym yn cael effaith fawr. Byddwn yn parhau i ddatblygu ac esblygu wrth i ni gyfrannu at y system addysg yng Nghymru.

    Philip Blaker, Prif Weithredwr 04

  • Gair am Cymwysterau Cymru

    Pwy ydym ni?

    Cymwysterau Cymru yw’r rheoleiddiwr newydd ar gyfer cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd yng Nghymru. Gwnaethom dderbyn ein swyddogaethau rheoleiddio ar 21 Medi 2015, o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.

    Mae’r Ddeddf yn rhoi dau Brif Nod i ni: • Sicrhau bod cymwysterau, a’r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu

    anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru; ac

    • Ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru.

    Yr hyn a wnawn

    Mae gennym rôl allweddol i’w chwarae i ddiogelu gwerth cymwysterau. Gwnawn hyn drwy sicrhau bod cyrff dyfarnu (a elwir yn aml yn ‘fyrddau arholi’), sy’n datblygu ac yn darparu cymwysterau, yn cyrraedd safonau penodol. Rydym yn craffu ar gymwysterau penodol ac yn goruchwylio system gymwysterau Cymru er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio er budd dysgwyr yng Nghymru.

    Yn ein gwaith, mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith ystyried yr ‘wyth mater’ canlynol sy’n effeithio ar gymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru:

    i) Dymunoldeb hyrwyddo twf cynaliadwy yn economi Cymru;

    ii) Dymunoldeb hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg;

    iii) Ystod a natur y cymwysterau sydd ar gael, ac ystod a natur eu trefniadau asesu;

    iv) Gofynion rhesymol cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch a phroffesiynau;

    v) Pa un a yw’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth y mae’n ofynnol eu dangos at ddiben dyfarnu cymhwyster yn adlewyrchu’r wybodaeth gyfredol a’r arferion gorau cyfredol;

    vi) Pa un a yw cymwysterau yn dangos lefel o gyrhaeddiad sy’n gyson â chymwysterau cyffelyb, yn Ewrop neu rywle arall;

    vii) Pa un a ddarperir cymwysterau yn effeithlon ac er mwyn sicrhau gwerth am arian;

    viii) Rolau a chyfrifoldebau cyrff dyfarnu, darparwyr dysgu, Cymwysterau Cymru, Gweinidogion Cymru ac eraill sy’n cyflawni swyddogaethau perthnasol o fewn system gymwysterau Cymru.

    05

  • Rydym yn canolbwyntio ar bedwar prif faes o weithgarwch:

    Cydnabod a ChymeradwyoRydym yn cydnabod cyrff dyfarnu sy’n bodloni meini prawf penodol ac rydym yn Cymeradwyo neu’n Dynodi’r cymwysterau yr hoffent eu cynnig yng Nghymru.

    Monitro a ChydymffurfioRydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal y safonau gofynnol ac yn darparu cymwysterau’n effeithiol, ac rydym yn adolygu cymwysterau sydd eisoes ar gael er mwyn asesu eu haddasrwydd at y diben.

    Datblygu a ChomisiynuLle bo angen, rydym yn goruchwylio’r gwaith o lunio gofynion ar gyfer cymwysterau newydd, ac rydym yn comisiynu cyrff dyfarnu i ddatblygu cymwysterau newydd i Gymru.

    YmchwilRydym yn ymchwilio i’r system gymwysterau ac i feysydd penodol o ddiddordeb a pherthnasedd fel y gallwn wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

    Sut rydym yn gweithio

    Mae Cymwysterau Cymru yn gorff statudol annibynnol, a noddir gan Lywodraeth Cymru, ond gall wneud penderfyniadau annibynnol am gymwysterau, ar sail tystiolaeth. Yn hynny o beth, rydym yn ymrwymedig i warchod buddiannau dysgwyr yng Nghymru a chynnal safonau. Rydym hefyd yn ystyried sut y mae’r hyn a wnawn yn effeithio ar randdeiliaid allweddol eraill a’r system gymwysterau y maent yn gweithio ynddi.

    Yn ein gwaith, rydym yn hyrwyddo egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol: rydym yn ceisio gweithio mewn ffordd gynaliadwy, integredig a chydweithredol, gan feddwl am yr hirdymor, a rhown bwyslais ar gymryd camau rhagweithiol i atal problemau, yn hytrach na rheoli’r canlyniadau.

    Rydym yn atebol i bobl Cymru drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni yn y dyfodol.

    06

  • Ein trefniadau llywodraethu

    Bwrdd Cymwysterau CymruMae ein Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr, sydd wedi’u cefnogi gan a rhwng wyth a deg o aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy’r broses penodiadau cyhoeddus.

    Y Bwrdd sy’n arwain Cymwysterau Cymru, gan oruchwylio cyfeiriad strategol a threfniadau rheoli perfformiad a rheoli ariannol.

    Yn benodol, mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn:

    • cyflawni ein Prif Nodau; • rhoi sylw dyledus i’r wyth mater a restrir yn Neddf Cymwysterau Cymru; • gweithredu o fewn ein fframwaith ariannol ac yn rhoi gwerth am arian;• hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newidiadau sy’n debygol o effeithio ar Lywodraeth

    Cymru a/neu’r gallu i gyflawni ein Prif Nodau;• dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser.

    Ar ddiwedd blwyddyn adrodd 2015-16, aelodau’r Bwrdd oedd:

    • Ann Evans (Cadeirydd – penodwyd 6 Awst 2015) • Philip Blaker (Prif Weithredwr – penodwyd 6 Awst 2015)• Caroline Burt (penodwyd 6 Awst 2015) • Paul Croke (penodwyd 6 Awst 2015)• Ellen Donovan (penodwyd 8 Rhagfyr 2015) • Robert Lloyd Griffiths OBE (penodwyd 8 Rhagfyr 2015)• Angela Maguire Lewis (penodwyd 6 Awst 2015)• Claire Morgan (penodwyd 6 Awst 2015) • Isabel Nisbet (penodwyd 6 Awst 2015)• Rheon Tomos (penodwyd 8 Rhagfyr 2015)

    Roedd Iestyn Davies a Dylan Jones yn aelodau o’r Bwrdd rhwng 6 Awst 2015 a 5 Tachwedd 2015, pan ddaeth eu cyfnod mewn swydd i ben.

    Penodwyd Alun Llwyd ym mis Medi 2016.

    07

  • Ch-Dd

    Rheon Tomos, Caroline Burt, Angela Maguire-Lewis, Robert Lloyd Griffiths, Ann Evans, Philip Blaker, Isabel Nisbet, Ellen Donovan, Alun Llwyd (wedi’i benodi ym mis Medi 2016), Claire Morgan, (Paul Croke, ddim yn y llun).

    Bwrdd Cymwysterau Cymru

    08

    FFOC

    WS

  • Ann Evans, Cadeirydd (penodwyd 6 Awst 2015)

    Mae Ann wedi bod yn ymgynghorydd addysg annibynnol ers 2012, ar ôl pedair blynedd fel Prif Weithredwr Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys. Drwy ei gwaith, chwaraeodd rôl flaenllaw yn yr Adolygiad o Gymwysterau. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Cynorthwyol Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) gynt, athrawes Wyddoniaeth a darlithydd a rheolwraig ym maes Addysg Bellach.

    Philip Blaker, Prif Weithredwr (penodwyd 6 Awst 2015)

    Bu Philip yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn UCAS. Cyn hyn, gweithiodd fel ymgynghorydd rheoli. Mae ganddo brofiad o ddarparu asesiadau ac arholiadau cenedlaethol, yn sgil ei swydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau Prawf ar gyfer yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm, ac aelod o uwch dîm rheoli bwrdd arholi AQA.

    Aelodau’r Bwrdd rhwng 21 Medi 2015 a 31 Awst 2016

    Caroline Burt (penodwyd 6 Awst 2015)

    Mae Caroline yn Diwtor Derbyn Myfyrwyr ac yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Hanes yng Ngholeg Penfro, Prifysgol Caergrawnt. Mae hanes gyrfa Caroline yn cynnwys swydd fel dadansoddwr treth i Arthur Andersen Accountants yn ystod Rhaglen Ysgoloriaeth Blwyddyn i Ffwrdd y cwmni, ac ymddiriedolwr ysgol.

    Paul Croke (penodwyd 6 Awst 2015)Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

    Mae Paul yn Gadeirydd Llywodraethwyr Coleg Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd ac mae’n gyn-Bennaeth Coleg Iâl, Wrecsam a Choleg Gorseinon, Abertawe. Mae wedi gweithio fel arholwr i ddau fwrdd arholi, ac mae wedi cael ei benodi’n aelod o Gyngor y Gweithlu Addysg sydd newydd ei ffurfio.

    09

  • Angela Maguire-Lewis (penodwyd 6 Awst 2015)

    Mae Angela yn gweithio fel ymgynghorydd addysg llawrydd ar hyn o bryd, gan roi cymorth i gwmnïau ar eu strategaethau gweithredol a’u strategaethau ansawdd. Mae ganddi brofiad a gwybodaeth fanwl o’r broses o ddylunio, darparu a gwerthuso rhaglenni prentisiaeth, cyflogadwyedd a chwricwlwm amgen.

    Claire Morgan (penodwyd 6 Awst 2015)

    Claire yw Deon Dysgu ac Addysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ymunodd â Met Caerdydd o Brifysgol Caerdydd, lle roedd yn Ddeon Cyswllt. Mae gan Claire gefndir fel uwch ddarlithydd mewn Economeg, gyda diddordeb penodol mewn polisi ac ymarfer asesu a systemau ansawdd.

    Ellen Donovan (penodwyd 8 Rhagfyr 2015)

    Mae Ellen yn gyfarwyddwr bwrdd rheoli profiadol, ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad busnes yn y sector preifat. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Masnachu, lle roedd yn gyfrifol am ddatblygu brandiau, cynnyrch a gwasanaethau yn Debenhams PLC, a Chyfarwyddwr Gweithrediadau, lle arweiniodd weithlu o fwy na 5,000 o aelodau o staff.

    Robert Lloyd Griffiths OBE (penodwyd 8 Rhagfyr 2015)Cadeirydd y Pwyllgor Adnoddau

    Robert yw Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) yng Nghymru a chafodd ei benodi i’r swydd yn 2009 ar ôl gweithio ym maes hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a chyfathrebu. Mae’n aelod o Gyngor Adnewyddu’r Economi y Prif Weinidog ac yn aelod o Grŵ p Cynghori Busnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

    10

  • Isabel Nisbet (penodwyd 6 Awst 2015)Cadeirydd y Pwyllgor Rheoleiddio

    Mae Isabel yn Ddarlithydd Cyswllt yn y Gyfadran Addysg, Prifysgol Caergrawnt. Mae’n aelod o Fwrdd Llywodraethwyr dwy brifysgol yn Lloegr a dau bwyllgor sy’n cynghori Llywodraeth y DU ar faterion moesegol. Yn 2005, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Rheoleiddio a Safonau yn yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm, ac, ar ôl hynny, daeth yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Ofqual, sef rheoleiddiwr arholiadau a chymwysterau Lloegr.

    Rheon Tomos (penodwyd 8 Rhagfyr 2015) Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth

    Mae Rheon yn gyfrifydd cymwys sy’n aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), ac ar hyn o bryd mae’n bartner yn TDE-Associates, lle mae’n rhoi cymorth arbenigol ar lywodraethu corfforaethol. Mae wedi bod ynghlwm wrth weinyddu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus ers llawer o flynyddoedd.

    11

  • Mae pedwar pwyllgor gweithredol yn helpu’r Bwrdd i gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’r pwyllgorau yn chwarae rôl allweddol mewn perthynas â’r system llywodraethu a sicrwydd, craffu, trafodaethau ar ddatblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad. Caiff pob pwyllgor ei gadeirio gan aelod o’r Bwrdd, mae aelodau perthnasol o’r Tîm Gweithredol yn eu mynychu a chânt eu gwasanaethu gan y Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol.

    Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Bwrdd a’r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw’r sicrwydd ar lywodraethu, trefniadau rheoli risg, yr amgylchedd rheoli, uniondeb datganiadau ariannol a’r cyfrifon blynyddol.

    Y Pwyllgor RheoleiddioDiben y pwyllgor hwn yw ystyried a rhoi argymhellion i’r Bwrdd ar faterion sy’n codi o’n dull rheoleiddio. Mae’n rhaid i’w argymhellion gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd cyn y cymerir unrhyw gamau.

    Y Pwyllgor CydnabyddiaethMae’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth yn ystyried ac yn rhoi argymhellion i’r Bwrdd ar gydnabyddiaeth ariannol staff ac aelodau’r Bwrdd, yn unol â’n Cytundeb Fframwaith â Llywodraeth Cymru.

    Y Pwyllgor AdnoddauMae’r pwyllgor hwn yn craffu ar y ffordd rydym yn defnyddio ein hadnoddau i gyflawni ein hamcanion. Mae’n rhoi llwyfan i gynnal trafodaethau manwl ar faterion yn ymwneud â chynllunio ariannol a busnes, a pholisïau staffio.

    12

  • Cyfarfodydd a phenderfyniadau’r Bwrdd

    Mae cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.

    Ymhlith y prif feysydd gwaith y craffwyd arnynt yn ystod y flwyddyn hon roedd:

    • Cynnydd yn erbyn archwiliad iechyd ynghylch ffurfio’r sefydliad; • Gwaith i ddatblygu cronfa ddata QiW;• Yr Adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’i argymhellion;• Y rhaglen Diwygio Cymwysterau Cyffredinol; • Gwaith cynllunio ar gyfer cyfres arholiadau’r Haf; • Gwaith i ddatblygu’r Strategaeth Cymwysterau Galwedigaethol; a• Chyfathrebu.

    Yn ogystal, mae rhai o’r penderfyniadau allweddol a wnaed gan y Bwrdd yn ystod y cyfnod yn cynnwys:

    • Cymeradwyo’r Cynllun Dirprwyo;• Cymeradwyo’r Cynllun Busnes ar gyfer 2015-16 a 2016-17;• Cymeradwyo’r Rhestr o Gymwysterau Blaenoriaethol cyn cytuno arni â Gweinidogion

    Cymru ac yna’i chyhoeddi;• Cymeradwyo gwariant ychwanegol ar system QiW er mwyn sicrhau nodweddion

    ychwanegol;• Gohirio TGAU Hanes a TGAU Astudiaethau Crefyddol i’w haddysgu am y tro cyntaf yn 2017;• Cymeradwyo nifer o bolisïau rheoleiddio;• Cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol;• Cymeradwyo’r parodrwydd i dderbyn Risgiau Corfforaethol; • Cymeradwyo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymwysterau Cymru ac Ofqual;• Cymeradwyo’r Cyfrifon Blynyddol; a • Chymeradwyo penderfyniad i ddechrau ymgynghoriad ar y bwriad i ddefnyddio ein pwerau

    cyfyngu ar gyfer cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    13

  • Mae’r sefydliad wedi’i rannu’n dair cyfarwyddiaeth (Rheoleiddio, Polisi ac Ymchwil, a Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol), y caiff pob un ohonynt ei harwain gan Gyfarwyddwr Gweithredol.

    Mae gennym hefyd ddau Gyfarwyddwr Cyswllt, sy’n chwarae rôl drawsbynciol er mwyn goruchwylio ein dull gweithredu strategol mewn perthynas â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.

    Y Tîm Gweithredol

    Mae ein Tîm Gweithredol yn atebol am ein gweithgareddau beunyddiol fel sefydliad, ac am roi arweinyddiaeth gorfforaethol. Mae’n cynnwys:

    Y Bwrdd Rheoli

    Ein Bwrdd Rheoli yw’r prif fforwm ar gyfer gwneud penderfyniadau, ac mae’n rhoi cyfarwyddyd ynghylch gweithgareddau gweithredol a materion corfforaethol. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys y Tîm Gweithredol, y ddau Gyfarwyddwr Cyswllt, y Pennaeth Cyfathrebu a’r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol. Uwch Grŵ p Arwain

    Mae’r Uwch Grŵ p Arwain yn dwyn ynghyd benaethiaid pob tîm o fewn y sefydliad. Ei brif ddiben yw sicrhau bod cydlyniad cryf rhwng yr holl swyddogaethau a chyfathrebu effeithiol drwy’r sefydliad cyfan.

    Philip Blaker Prif Swyddog Gweithredol

    Kate Crabtree Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil

    Jo Richards Cyfarwyddwr Rheoleiddio

    Alison Standfast Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

    Ein trefniadau rheoli

    14

  • Sut rydym yn rheoleiddioEr mwyn sicrhau sefydlogrwydd y system gymwysterau wrth drosglwyddo i reoleiddiwr newydd, gwnaethom barhau â’r dull rheoleiddio a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi ein galluogi i gymryd amser i ddechrau datblygu ein dull rheoleiddio ein hun, ar sail tystiolaeth o waith ymchwil a phrofiad. Drwy ein Prosiect Strategaeth Reoleiddio, rydym yn gweithio’n agos gyda chyrff dyfarnu a rheoleiddwyr eraill wrth i ni ddatblygu ein syniadau, gan ystyried yn ofalus sut rydym yn diwallu anghenion Cymru, a pharhau i weithredu yn unol â chyfres o egwyddorion rheoleiddio cyffredin bras yn yr un modd â rheoleiddwyr eraill.

    Caiff ein dull rheoleiddio ei lywio gan bum egwyddor rheoleiddio da, sef:

    Tryloyw Dylai ein rheoliadau fod yn syml ac yn hawdd eu deall, a – thrwy fod yn agored ynghylch ein prosesau a’n cofnodion – dylem sicrhau bod pobl yn deall y penderfyniadau rydym wedi’u gwneud a pham.

    AtebolDylem allu cyfiawnhau ein penderfyniadau i gyd, a bod yn atebol drostynt yn wyneb craffu cyhoeddus. Bob blwyddyn, bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu arnom ar ran y cyhoedd.

    CymesurDim ond pan fydd angen gwneud hynny y byddwn yn ymyrryd. Dylai unrhyw atebion a gynigiwn fod yn briodol i’r risg a wynebir. Dylem nodi unrhyw gostau sy’n deillio o’n penderfyniadau, a chadw’r rhain mor isel â phosibl.

    CysonRydym yn sicrhau bod ein rheolau a’n hamodau yn gydlynol ac yn cael eu rhoi ar waith yn deg, fel ein bod yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i’r sefydliadau rydym yn eu rheoleiddio.

    Wedi’u targeduDrwy sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar y broblem, a thrwy bennu targedau clir, diamwys, rydym yn osgoi cymaint o ganlyniadau anfwriadol â phosibl.

    15

  • Gweithio dros Gymru

    Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

    Fel rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol Cymru, rydym yn rhan o seilwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn ein polisïau corfforaethol a’n gwaith fel rheoleiddiwr, rydym yn ceisio cefnogi datblygiad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a, thrwy hynny, y Dangosyddion Llesiant a nodir yn y Ddeddf.

    Rydym yn cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill sy’n darparu’r system addysg yng Nghymru, gan gynnwys y cyrff dyfarnu rydym yn eu rheoleiddio, ysgolion, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol, yn ogystal â rheoleiddwyr cymwysterau mewn rhannau eraill o’r DU. Mae ein gwaith dadansoddi yn hysbysu ac yn cynghori Gweinidogion, swyddogion a sefydliadau eraill sy’n datblygu neu’n pennu polisi addysg, yn darparu gwasanaethau addysg neu’n addysgu dysgwyr.

    Caiff ein gwaith effaith hirdymor drwy sicrhau bod cymwysterau’n addas at y diben, a thrwy ystyried i ba raddau y maent yn diwallu anghenion cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Mae hyn yn cefnogi dilyniant academaidd a chyflogadwyedd a, thrwy hynny, ffyniant a thwf economaidd. Rydym yn cefnogi’r datganiad a wnaed yn 2016 gan Andreas Schleicher, Cyfarwyddwr Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD): “your education system today is your economy of tomorrow”.

    16

  • Y Gymraeg

    Rydym yn cysylltu â’n rhanddeiliaid yn ddwyieithog, lle y bo'n briodol. Er nad yw Safonau’r Gymraeg yn gymwys i ni eto, rydym eisoes yn datblygu ein cynlluniau iaith Gymraeg corfforaethol ac rydym wedi cydweithio mewn ffordd gadarnhaol â Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

    Mae dymunoldeb hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn un o’r ‘wyth mater’ y mae’n rhaid i ni eu hystyried o dan ein deddfwriaeth. Rydym wedi cyhoeddi ein Polisi Cymwysterau Rheoleiddiol Cymraeg a Dwyieithog Interim, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan ein Bwrdd ym mis Mai 2016.

    Rydym hefyd wedi cymryd camau ymarferol i helpu i ddatblygu’r iaith. Er enghraifft, fel rhan o’r adolygiad o gymwysterau TGAU a Safon Uwch, gwnaethom benderfynu gwella’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol cyn y newidiadau tymor hwy fydd yn deillio o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i’r cwricwlwm.

    Bydd ein gwelliannau yn:

    • cryfhau’r ffocws ar siarad a gwrando er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau Cymraeg bob dydd sydd eu hangen arnynt ar gyfer y byd go iawn;

    • diddymu’r ddibyniaeth ar eirfa a phynciau cul sy’n gallu cyfyngu ar waith dysgu a chyrhaeddiad yn yr iaith;

    • cadarnhau’r disgwyliad y dylai’r oriau addysgu fod yr un peth â chyrsiau TGAU eraill.

    Gwnaethom hefyd bennu meini prawf ar gyfer y cymhwyster TGAU Hanes diwygiedig a oedd yn cynnwys diwylliant a hanes Cymru.

    Rydym yn darparu arian grant sylweddol er mwyn helpu i sicrhau bod cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ar gael ar gyfer cymwysterau cyffredinol (er enghraifft, TGAU a Safon Uwch) a chymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys cymwysterau Cymraeg i Oedolion.

    Yn fewnol, ar ddiwedd mis Mawrth 2016, roedd 32% o’n staff yn ystyried bod ganddynt sgiliau Cymraeg. Rydym yn helpu ein staff i ddatblygu’n barhaus, o fynychu cyrsiau byr i hyfforddiant sy’n canolbwyntio mwy ar drochi iaith. Yn ddiwylliannol, mae’r siaradwyr Cymraeg mwyaf hyderus yn y sefydliad yn helpu’r rhai sy’n dysgu ac yn datblygu.

    17

  • Cydraddoldeb

    Rydym yn cydymffurfio â dyletswyddau cyffredinol Deddf Cydraddoldebau 2010, ac rydym wedi cymryd gofal i sicrhau ein bod yn ystyried materion cydraddoldeb yn ein holl weithgareddau. Mae enghreifftiau’n cynnwys cynllun ein swyddfa, ein harferion recriwtio, safonau dylunio ein gwefan a’r ffordd rydym yn trefnu ein digwyddiadau. Mae ystyriaethau cydraddoldeb wedi’u hintegreiddio yn y broses o ddylunio ein polisïau a darparu ein gwasanaethau a chânt eu hadolygu’n rheolaidd.

    Fel rheoleiddiwr, mae’n rhaid i ni fonitro i ba raddau mae cyrff dyfarnu yn cyflawni eu dyletswyddau cydraddoldeb hefyd. Rydym wedi mabwysiadu egwyddorion ‘Fair Access by Design’, sef y polisi tair gwlad sy’n ceisio sicrhau nad yw’r ffordd y caiff cymwysterau eu dylunio yn cynnwys unrhyw wahaniaethu.

    Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar ôl i’r Bwrdd ei gymeradwyo ym mis Ebrill 2016 a byddwn yn ei fonitro a’i adolygu bob blwyddyn.

    18

  • Sut y cawn ein hariannuFel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, cawn ddyraniad grant blynyddol i dalu ein costau gweithredol. Caiff swm ein dyraniad ei gadarnhau mewn llythyr blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill hyd at fis Mawrth, a gyhoeddir gennym. Ein dyraniad grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2016-17 yw £8.169m.

    Mae gwybodaeth am sut y gwnaethom wario dyraniad 2015-16 ar gael yn ein Cyfrifon Blynyddol, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2016.

    Isod, dangoswn sut rydym yn bwriadu gwario dyraniad 2016-17:

    Dyraniad Grant

    Cymwysterau Cymru

    £8.169m

    Cyfieithu £69k

    Grantiau £1.256m

    Archwilio£51k

    TGCh £425k

    Cynhaliaeth a theithio

    staff£99k

    Costau’r Bwrdd £107k

    Costau swyddfa £420k

    Cyfathrebu £98k

    Cyflog staff £4.35m

    Cronfa wrth gefn

    y Swyddog Cyfrifyddu

    £214k

    Arbenigwyr pwnc/Grwpiau

    ffocws £360k

    Cyngor cyfreithiol

    £155k

    Costau staff eraill

    £214k

    Ymchwil ac ymgysylltu â

    dysgwyr £351k

    19

  • Blaeno

    riaeth Strate

    gol 1:

    System

    gymwysterau

    yng Nghymru a reoleiddir yn strategol

    Beth rydym am ei gyflawni

    Ein blaenoriaethau strategol ar gyfer 2015-20

    Mae gennym bedair Blaenoriaeth Strategol hirdymor, a ategir gan amcanion strategol:

    Blaenoriaeth Strategol 1: System gymwysterau yng Nghymru a reoleiddir yn strategol Er mwyn: bod gennym system gymwysterau a gaiff ei harwain gan alw gyda’r amrywiaeth orau bosibl o gyfleoedd i ddysgwyr.

    Blaenoriaeth Strategol 2: Cyflenwad o gymwysterau gyda sicrwydd ansawddEr mwyn: sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn astudio ar gyfer cymwysterau sy’n ddilys ac sydd â chanlyniadau sy’n deg ac yn ddibynadwy ac a gaiff eu parchu’n eang o ganlyniad i drefniadau rheoleiddio annibynnol cadarn. Blaenoriaeth Strategol 3: Meithrin gallu Cymwysterau CymruEr mwyn: i Cymwysterau Cymru fod yn hyderus ei fod yn effeithiol ac yn effeithlon wrth gyflawni ei Brif Nodau a’i fod yn datblygu o hyd i ychwanegu gwerth i’r system addysg yng Nghymru. Blaenoriaeth Strategol 4: Rhoi hyder i’r cyhoeddEr mwyn: bod Cymwysterau Cymru yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel corff arbenigol annibynnol ac mae’n ennyn hyder cyhoeddus a phroffesiynol.

    System

    gymwyste

    rau a gaiff e

    i harwain gan al

    w gyda’r amrywiaeth orau bosibl o gyfleoedd i ddysgwyr.

    20

  • Blaeno

    riaeth Strate

    gol 1:

    System

    gymwysterau

    yng Nghymru a reoleiddir yn strategol

    System

    gymwyste

    rau a gaiff e

    i harwain gan al

    w gyda’r amrywiaeth orau bosibl o gyfleoedd i ddysgwyr.

    21

  • Wrth fynd i’r afael â’r Flaenoriaeth Strategol hon, rydym yn ceisio sicrhau bod ystod briodol o gymwysterau o ansawdd uchel ar gael i ddiwallu anghenion dysgwyr – gan dalu sylw arbennig i’r wyth mater a nodir yn Neddf Cymwysterau Cymru 2015. Er enghraifft, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod unrhyw gymwysterau a gaiff eu Cymeradwyo neu’u Dynodi gennym yn briodol i ddiwallu anghenion cyflogwyr, sefydliadau addysg uwch a’r proffesiynau. Rydym hefyd yn sicrhau bod cymwysterau’n cyd-fynd â Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a pholisi addysg ehangach yng Nghymru. Rydym yn datblygu set briodol o bolisïau rheoleiddio i wella effeithiolrwydd y system gymwysterau sylfaenol – gan weithio’n effeithiol gyda rheoleiddwyr eraill pan fo hynny’n briodol. Rydym yn comisiynu ac yn gwneud gwaith ymchwil craff (ac yn defnyddio gwaith ymchwil gan eraill), fel y gallwn ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn. Mae ein cyflawniadau allweddol tuag at gyflawni’r flaenoriaeth strategol hon eleni wedi cynnwys:

    • Cynnal ein hadolygiad sector cyntaf – yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol;• Datblygu a chyhoeddi meini prawf Cymeradwyo ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch

    i’w haddysgu gyntaf o 2017;• Cwblhau Cam 1 o’n Prosiect Strategaeth Reoleiddio;• Datblygu a chyhoeddi polisïau rheoleiddio allweddol;• Gwaith ein Tîm Cymorth Canolfannau;• Comisiynu gwaith ymchwil er mwyn gwella ein sail tystiolaeth.

    “Ar adeg pan fo cymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau yn cael eu diwygio'n sylweddol ledled y DU, mae'n bwysig bod y system gymwysterau, a'r cymwysterau sy'n ei hategu, yn ddibynadwy, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu parchu.

    “Rydym yn gwbl hyderus wrth symud ymlaen y bydd Cymwysterau Cymru yn sylfaenol i gyflawni'r nod hwn.”

    Jeff Protheroe, Rheolwr Gweithrediadau, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

    Blaenoriaeth Strategol 1:

    22

  • Datblygu cymwysterau

    Comisiynu

    Rhoddodd Deddf Cymwysterau Cymru ystod o bwerau arloesol i ni, a ddyluniwyd i’n galluogi i gomisiynu un neu fwy o gyrff dyfarnu i ddatblygu cymwysterau newydd er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. Tra bod mwyafrif y cymwysterau a reoleiddir gennym yn cael eu cynnig mewn marchnad agored ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’n bosibl y byddwn yn gweld weithiau fod angen cymhwyster nad yw ar gael ar hyn o bryd, neu sy’n hollol wahanol i’r rhai sydd ar gael, ar ddysgwyr yng Nghymru.

    Gan fod Cymru yn genedl fach, bydd angen i gyrff dyfarnu (sy’n sefydliadau masnachol) fodloni eu hunain ei bod yn hyfyw iddynt ddatblygu cymhwyster i Gymru. O dan y Ddeddf, mae ein pwerau i gyfyngu ar ‘gymwysterau blaenoriaethol’ penodol yn golygu y gallwn gynnal cystadleuaeth deg ac agored er mwyn dewis un neu fwy o gyrff dyfarnu i gynnig cymwysterau penodol sy'n gymwys i gael cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gall cyrff dyfarnu wneud cais i weithio gyda ni i ddatblygu cymwysterau o’r fath ar sail ddethol am gyfnod o amser.

    Nid ydym wedi cyflwyno cyfyngiad o’r fath eto, nac wedi comisiynu cymwysterau newydd, ond rydym yn ystyried gwneud hynny. Yn dilyn ein Hadolygiad Sector o’r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwnaethom benderfynu ymgynghori ar gynlluniau i gyfyngu a chomisiynu cyfres newydd o gymwysterau yn y sector hwn ar gyfer dysgwyr 14 oed a throsodd.

    Cymwysterau TGAU a Safon Uwch – datblygu a chyhoeddi meini prawf Cymeradwyo

    Dechreuwyd ar y gwaith o ddiwygio cymwysterau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru a’i drosglwyddo i ni pan gawsom ein sefydlu, gan roi cyfrifoldeb i ni am ddatblygu’r meini prawf Cymeradwyo ar gyfer y gyfres derfynol o gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch diwygiedig y mae disgwyl iddynt gael eu haddysgu gyntaf o fis Medi 2017.

    Er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd hyn yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru, gwnaethom ddatblygu’r meini prawf Cymeradwyo ar eu cyfer gyda chymorth rhanddeiliaid ac arbenigwyr pwnc – yn bersonol a thrwy ymgynghoriad – a roddodd gynigion ac argymhellion i ni ynghylch cynnwys, strwythur a threfniadau asesu pynciau. Roedd hyn wedi ein galluogi i ddatblygu meini prawf Cymeradwyo ar gyfer nifer o gymwysterau yn ystod ein blwyddyn gyntaf. Gwnaethom gyhoeddi cyfanswm o 11 cyfres o Feini Prawf Cymeradwyo Pwnc a dwy gyfres o Feini Prawf Cymeradwyo Cymhwyster ar 20 Gorffennaf 2016.

    Mae’r rhain fel a ganlyn:Meini Prawf Cymeradwyo Cymhwyster

    • Cymwysterau TGAU• Cymwysterau TAG UG a Safon Uwch

    23

    Meini Prawf Cymeradwyo Pwnc• TGAU Busnes • TGAU Cyfrifiadureg• TGAU Cymraeg Ail Iaith• TAG UG a Safon Uwch y Gyfraith • TAG UG a Safon Uwch Llywodraeth

    a Gwleidyddiaeth• TAG UG a Safon Uwch Mathemateg• TAG UG a Safon Uwch Mathemateg Bellach • TGAU Dylunio a Thechnoleg• TAG UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg• TGAU Astudiaethau’r Cyfryngau• TAG UG a Safon Uwch Astudiaethau’r Cyfryngau

  • Adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Adolygiad o’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys Gofal Plant a Gwaith Chwarae)

    Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf bod cymwysterau galwedigaethol yn rhan hanfodol o’n gwaith a’n bod yn bwriadu gweithredu mewn modd rhagweithiol. Dyna pam, ym mis Hydref 2015, y gwnaethom lansio’r adolygiad cyntaf o fewn rhaglen y bwriadwn iddi fod yn sylweddol o Adolygiadau Sector o gymwysterau galwedigaethol – a’r systemau cymwysterau sy’n eu hategu. Dewiswyd ystyried agweddau ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gyntaf, gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cymwysterau hynny a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus. Cyn belled ag y gwyddom, dyma’r tro cyntaf i adolygiad mor fanwl o faes cymwysterau galwedigaethol gael ei gynnal gan un o reoleiddwyr cymwysterau’r DU, ar draws sawl corff dyfarnu a lefel cymhwyster.

    Fel rhan o’r adolygiad, gwnaethom lawer o waith ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016, gwnaethom gynnal rhaglen gyfathrebu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys cyfweliadau a thrafodaethau gyda chyrff sector, darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr. Gofynnwyd am eu barn ar effeithiolrwydd y cymwysterau presennol a’r system gymwysterau ac am unrhyw fylchau ynddynt. Cynhaliwyd dros 125 o gyfarfodydd gwahanol. Hefyd, cawsom dros 200 o ymatebion i’n hymgynghoriad ar-lein, a chlywsom farn mwy na 800 o ddysgwyr.

    Gwnaethom gynnal dadansoddiad manwl o’r deg cymhwyster mwyaf poblogaidd a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn. Diben y dadansoddiad hwn oedd ystyried fformat yr asesiadau, y systemau sicrhau ansawdd, y dystiolaeth roedd y dysgwyr yn ei darparu a’r ffordd yr oedd penderfyniadau asesu yn cael eu gwneud.

    Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a’n dyfarniadau ynghylch effeithiolrwydd y cymwysterau presennol, a’r system gymwysterau, ar gyfer y sector yng Nghymru.

    Yn sgil yr adolygiad, gwnaethom nodi nifer o gryfderau’r system bresennol, gan gynnwys:

    • lefel uchel o ymgysylltiad ymhlith cyrff proffesiynol yn y sector mewn perthynas â chymwysterau;

    • parodrwydd rhai cyrff dyfarnu i ddiwallu anghenion Cymru (er enghraifft, mae nifer o gymwysterau eisoes wedi’u teilwra ar gael i fodloni gofynion Cymru);

    • roedd dysgwyr ac aseswyr yn ymrwymedig iawn i gwblhau asesiadau;• y galw cynyddol am gymwysterau, sy’n dangos y cânt eu gwerthfawrogi;• enghreifftiau o gymwysterau sy’n hyrwyddo dilyniant galwedigaethol ac academaidd; • lefel uchel o ymgysylltiad â’r adolygiad ei hun a’r parodrwydd i nodi opsiynau ar gyfer

    newid a gwella.

    Gwnaethom nodi nifer o bryderon hefyd.

    Mewn perthynas â’r system gymwysterau, roedd y materion a nodwyd gennym yn cynnwys: • rolau a chyfrifoldebau cymhleth a dryslyd cyrff gwahanol; • llwybrau dilyniant aneglur ac weithiau gamarweiniol i ddysgwr;

    24

    FFOC

    WS

  • • heriau mewn perthynas â’r gallu i drosglwyddo cymwysterau i ddysgwyr rhwng gwahanol feysydd gwaith a rhwng gwahanol rannau o’r DU;

    • rhai agweddau ar y system dysgu ac asesu a oedd yn effeithio ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y system gymwysterau;

    • rhai prosesau anghyson ar gyfer asesu a sicrhau ansawdd; • cyfleoedd annigonol neu aneffeithiol i asesu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg; • nid oedd rhai dysgwyr yn cael eu paratoi’n ddigonol i ymuno â’r gweithle, naill ai fel

    cyflogeion neu ar leoliadau gwaith; • roedd angen trefniadau rheoli data mwy effeithiol mewn perthynas â chymwysterau a’r

    system gymwysterau.

    Mewn perthynas â’r cymwysterau, roedd y materion a nodwyd gennym yn cynnwys:

    • effeithiolrwydd y modelau asesu presennol wrth bennu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth dysgwyr;

    • cyfredoldeb rhai cymwysterau, yn enwedig y cymwysterau hynny a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed;

    • y graddau yr oedd cymwysterau yn paratoi dysgwyr i fynd ymlaen i addysg uwch;• y ffordd yr ymdrinnir â rhai agweddau penodol ar ddysgu ar gyfer gwahanol feysydd

    gwaith, er enghraifft, mewn perthynas â gofal dementia, gofal cartref a gwaith chwarae yng nghyd-destun gofal plant;

    • y graddau yr oedd cymwysterau yn paratoi dysgwyr yn effeithiol ar gyfer gweithio mewn gwlad ddwyieithog.

    Yn hytrach na dim ond nodi’r pryderon hyn a gofyn i eraill weithredu, byddwn yn chwarae rôl arweiniol i fynd i’r afael â llawer ohonynt ac, yn ystod hydref 2016, byddwn yn ymgynghori ynghylch sut rydym yn bwriadu goruchwylio’r gwaith o ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Rydym wedi dyrannu adnoddau i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaethom yn adroddiad yr adolygiad, fel y gallwn wneud y canlynol:

    • gweithio gyda chyrff yn y sector, arbenigwyr eraill a chyrff dyfarnu er mwyn sicrhau cyfres newydd o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol; datblygu gofal plant, dysgu a datblygu a gwaith chwarae, o bosibl, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru o 14 oed ymlaen ac er mwyn ymdrin â’r materion a godir yn ein hadroddiad;

    • helpu i gyflwyno’r gyfres newydd hon gyda rhaglen effeithiol o reoli newid; • sicrhau bod gan ddysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb wybodaeth

    glir a diamwys am y cymwysterau newydd unwaith y byddant ar gael;• ceisio sicrwydd gan gyrff dyfarnu bod pryderon am ansawdd asesiadau yn cael sylw, tra

    bod y cymwysterau presennol yn parhau.

    Wrth i ni ddechrau gweithredu’r ymrwymiadau a wnaethom yn yr adolygiad hwn, rydym hefyd yn dechrau meddwl am yr adolygiadau sector nesaf.

    Yn 2016-17, byddwn yn cynnal dau Adolygiad gwahanol: un ar Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig ac un arall ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Wrth baratoi ar gyfer y rhain, rydym wedi myfyrio ar brofiad ein hadolygiad cyntaf ac rydym yn rhoi’r gwersi a ddysgwyd o’r darn pwysig hwn ar waith, gan gynnwys canfyddiadau gwerthusiad allanol annibynnol.

    25

  • Ym mis Medi 2015, gwnaethom ddechrau datblygu’r prosesau a’r systemau sydd eu hangen arnom i reoleiddio’r system gymwysterau mewn modd strategol – ond roeddem yn teimlo ei bod hefyd yn bwysig cymryd amser i ystyried y ffordd rydym yn rheoleiddio a phenderfynu pa fath o reoleiddiwr y dylem fod. Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom sefydlu Prosiect y Strategaeth Reoleiddio i nodi sut yn union y byddwn yn mynd ati i reoleiddio cyrff dyfarnu ar ran dysgwyr.

    Mae ein strategaeth reoleiddio (rydym yn ei datblygu o hyd) yn cynnwys dwy elfen: y fframwaith (y dull o reoleiddio cyrff dyfarnu, ar sail rheolau, a adlewyrchir yn ein Hamodau Cydnabod Safonol Dros Dro) a’r dull rydym yn ei ddefnyddio – hynny yw, rhai o’r adnoddau a ddefnyddiwn, a’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n rhanddeiliaid. Er mwyn cynnal parhad busnes, gwnaethom fabwysiadu dull rheoleiddio tebyg i’r dull a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym bellach wedi adolygu’r dull hwn i weld a oes angen i ni wneud newidiadau, yng nghyd-destun Deddf Cymwysterau Cymru a’n Blaenoriaethau Strategol. Rydym yn ystyried sut y gallwn wneud y fframwaith rheoleiddio a’n dull gweithredu yn fwy effeithiol i ni, y cyrff dyfarnu rydym yn eu rheoleiddio ac, yn y pen draw, y dysgwyr.

    Cynhaliwyd Cam 1 o brosiect y Strategaeth Reoleiddio rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2016. Roedd y cam hwn yn cynnwys dwy brif thema: adolygu ein dull gweithredu presennol ac ystyried opsiynau eraill.

    Yng Ngham 1, gwnaethom y canlynol:

    • comisiynu adolygiad o’n dull gweithredu presennol gan ‘Regulatory Delivery’ (sef rhan o Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU);

    • gwerthuso i ba raddau y mae’r dull gweithredu presennol yn cyd-fynd â’n rôl a’n cylch gwaith, gan gynnwys ein pwerau a’n dyletswyddau dan Ddeddf Cymwysterau Cymru;

    • adolygu modelau rheoleiddio tebyg; • ymgynghori â rhanddeiliaid i ofyn am farn ac adborth. Fel rhan o Gam 1, ym mis Ebrill 2016, gwnaethom gynnal gweithdy â chynrychiolwyr o 32 o gyrff dyfarnu. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar chwe thema ganolog:

    • Prif Nodau Cymwysterau Cymru• Prosesau rheoleiddio• Cydnabod a chymeradwyo/monitro• Ymgysylltu/cyfathrebu â rhanddeiliaid• Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr• Gwella ansawdd/arloesi

    Roedd y gweithdy yn ddigwyddiad cadarnhaol, cydweithredol ac addysgiadol a gafodd ei groesawu gan gyrff dyfarnu. Rydym yn gwerthfawrogi’r dull cydweithredol hwn o ddatblygu trefniadau rheoleiddio ac roeddem wedi llwyddo i ymateb ar unwaith drwy wneud nifer o newidiadau yn sgil trafodaethau’r gweithdy.

    Prosiect y Strategaeth Reoleiddio

    26

  • Er enghraifft, gwnaethom greu adran newydd ar ein gwefan, sef ’Adnoddau i Gyrff Dyfarnu’ a gwnaethom lawer o welliannau i gronfa ddata cymwysterau ‘QiW’. Yn dilyn llwyddiant y gweithdy, rydym yn bwriadu creu mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid ehangach (cyflogwyr, prifysgolion, ysgolion, colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac eraill) ar ddatblygiadau newydd. Rydym yn bwriadu cyfathrebu drwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys gweminarau, fforymau ar-lein, gweithdai, grwpiau ffocws ac ymgynghoriadau ffurfiol.

    Dangosodd canfyddiadau Cam 1 o brosiect y Strategaeth Reoleiddio fod achos dros newid er mwyn atgyfnerthu ein gweithgareddau rheoleiddio a gweithredu mewn ffordd annibynnol ac effeithiol, i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.

    Gan gadw hyn mewn cof, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ymchwilio a mabwysiadu fframwaith rheoleiddio sy’n seiliedig ar ganlyniadau.

    Model rheoleiddio dichonol

    Rydym wrthi’n datblygu ein cynlluniau ar gyfer Cam 2 o’r prosiect.

    Canlyniadaul Datblygwyd

    ar y cydl Wedi’u profi am

    resymoldeb

    Amodaul Wedi’u profi yn erbyn

    canlyniadaul Wedi’u profi ar y

    cyd am eu rhesymoldebac effeithiolrwydd

    Arfer dal Wedi’i dargedu

    l Yn cefnogicydymffurfiaethl Hwyluswyd gan

    CymwysterauCymru

    27

  • Rhoi grantiauRydym yn rhoi grantiau, pan fo adnoddau ar gael, mewn achosion pan fo angen ymyriad cadarnhaol er mwyn cefnogi cymwysterau a neu’r system gymwysterau yng Nghymru. Er enghraifft, gallwn roi grantiau er mwyn helpu i gynhyrchu asesiadau cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr, neu ariannu gweithgareddau sy’n helpu i gyflwyno cymwysterau newydd.

    Ar 21 Medi 2015, cafodd nifer o grantiau sy’n ymwneud â chymwysterau yng Nghymru eu trosglwyddo o Lywodraeth Cymru i Cymwysterau Cymru. Rydym wedi rheoli’r grantiau hyn ac wedi dyfarnu cynlluniau grant newydd o 1 Ebrill ar gyfer cyfnod ariannol 2016-17.

    Rhwng 21 Medi 2015 a 31 Awst 2016, gwnaethom roi ychydig dros £1m o arian grant. Rhoddwyd yr arian hwn i gyrff dyfarnu, consortia rhanbarthol a Colegau Cymru.

    Roedd ein cymorth grant yn cynnwys:

    Sgiliau Hanfodol Cymru – arian i ddatblygu’r profion newydd, cyfieithu’r tasgau newydd a chymorth ar gyfer gwaith ar y cyd rhwng y pedwar corff dyfarnu dan sylw er mwyn sicrhau cydlyniant i ddysgwyr;

    Diwygio cymwysterau a rhoi diwygiadau ar waith – arian i helpu’r pedwar consortia rhanbarthol a Colegau Cymru i roi Bagloriaeth ddiwygiedig Cymru ar waith. Roedd hyn yn cynnwys darparu adnoddau ar-lein a digwyddiadau hyfforddi, gan gynnwys canllawiau ar gyfer sut i wneud y defnydd gorau o’r system e-bortffolio newydd, talu am athrawon cyflenwi fel y gall athrawon fynd i ddigwyddiadau hyfforddi, a chydweithio a rhannu adnoddau ar draws canolfannau. Drwy ein dull gweithredu, roedd modd defnyddio gwahanol fodelau cymorth i ddiwallu anghenion rhanbarthau a sectorau gwahanol.

    Asesiadau cyfrwng Cymraeg – arian i gyfieithu’r manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gyfer cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol newydd, cyfrannu at gostau cyfieithu papurau arholiad a’i gwneud yn bosibl asesu cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

    28

  • Cefnogaeth i ganolfannauMae ein cyfrifoldebau rheoleiddio yn golygu ein bod yn goruchwylio’r system gymwysterau ei hun, o’r cam datblygu i’r cam darparu cymwysterau. Canolfannau – yr ysgolion, y colegau a’r darparwyr dysgu seiliedig ar waith y mae dysgwyr yn astudio drwyddynt ac y cânt eu hasesu drwyddynt – sy’n gyfrifol am reoli’r broses arholi.

    Mae canolfannau’n gyfrifol am sicrhau bod asesiadau ac arholiadau yn cael eu cynllunio a’u hamserlennu, cofrestru ymgeiswyr, a threfnu’r elfennau logistaidd er mwyn sicrhau bod arholiadau’n rhedeg yn esmwyth a’u bod yn ddiogel.

    Er mwyn helpu canolfannau i gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol, mae ein Tîm Cymorth Canolfannau, sy’n gweithio yn y rhanbarthau, yn cadw mewn cysylltiad agos ag athrawon a swyddogion arholiadau. Mae’r tîm yn datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth canolfannau am y system arholi, ac yn helpu swyddogion arholiadau fel y gallant weinyddu arholiadau’n ddiogel, gan eu hysbysu am newidiadau i gymwysterau.

    Mae’r Tîm Cymorth Canolfannau yn gyswllt uniongyrchol rhyngom ni a’r canolfannau sy’n darparu’r cymwysterau rydym yn eu rheoleiddio. Drwy’r tîm hwn, gallwn siarad yn uniongyrchol â’r staff sy’n gweithio ar lawr gwlad, er mwyn rhoi gwybodaeth glir a chyngor wyneb i wyneb ymarferol pan fo angen.

    Mae’r tîm hefyd yn gweithio fel cyfrwng cyfathrebu dwyffordd rhwng Cymwysterau Cymru a chanolfannau, gan ein galluogi i ymgynghori â nhw, cael safbwyntiau ar faterion penodol a chasglu gwybodaeth i lywio ein gwaith.

    29

  • Ymweliadau â chanolfannau

    Yn ystod y flwyddyn adrodd, cynhaliodd y tîm 394 o ymweliadau.

    O ganlyniad i’w ymweliadau a’i weithgareddau cyfathrebu, mae’r tîm wedi datblygu cydberthnasau gwaith effeithiol â swyddogion arholiadau, penaethiaid, uwch reolwyr eraill a Chydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig mewn ysgolion. Maent wedi trafod materion fel yr amserlen ar gyfer cymwysterau newydd a’r effaith ar waith addysgu, yn ogystal â diweddariadau i ganllawiau a threfniadau mynediad i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol.

    Hyfforddiant

    Hyfforddiant i oruchwylwyrYn ystod blwyddyn academaidd 2015/16, cyflwynodd y tîm hyfforddiant rhanbarthol i gyfanswm o 1,508 o oruchwylwyr arholiadau, gan ganolbwyntio ar drefniadau mynediad a phwysleisio’r rôl allweddol y mae goruchwylwyr yn ei chwarae wrth gynnal diogelwch ac uniondeb y broses asesu.

    QiWYm mis Mawrth a mis Ebrill 2016, cynigiodd y tîm hyfforddiant i staff canolfannau ar gronfa ddata newydd QiW, gan gynnal sesiynau hyfforddi ym mhob sir ar gyfer canolfannau a rhanddeiliaid eraill. Roedd y rhain yn cynnwys Cydgysylltwyr 14-19 ac Ymgysylltiad Ieuenctid y siroedd, Cydgysylltwyr Ôl-16 Consortia Addysg, Swyddogion Cymorth Systemau Rheoli Gwybodaeth Ysgolion, Awdurdodau Addysg Lleol, Grwpiau Gwella Ysgolion y consortia rhanbarthol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

    “Dechreuais fel swyddog arholiadau fis Ionawr diwethaf heb unrhyw brofiad o'r maes arholi. Roedd cael rhywun o Cymwysterau Cymru i ddod allan ac esbonio'r broses i mi yn fwy nag amhrisiadwy.

    “Rwyf bob amser yn gwybod os bydd gennyf gwestiwn neu ymholiad y byddaf yn cael ateb gan rywun sy'n arbenigo yn y maes.”

    Hannah Figg, Swyddog Arholiadau yng Ngholeg Cymunedol Michaelston, Caerdydd

    30

  • Cydberthynas gyda Llywodraeth Cymru

    31

    Cafodd Cymwysterau Cymru ei sefydlu fel rheoleiddiwr annibynnol i Gymru gan Ddeddf Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y gallwn weithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru ac adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn adrodd i Lywodraeth Cymru ar ein perfformiad ariannol, ond rydym yn gweithio’n annibynnol ar Weinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am bolisi addysg a sgiliau yng Nghymru, gan gynnwys polisi cymwysterau, fel y nodir yn eu polisi ‘Cymwys am Oes’. Mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am benderfyniadau rheoleiddio a goruchwylio effeithiolrwydd cymwysterau a’r system gymwysterau. Fel yr awdurdod arbenigol ar gymwysterau, efallai y bydd gofyn i ni roi cyngor i Weinidogion Cymru a gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

    Nid ydym wedi cael cais am gyngor ffurfiol yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, fel rhan o’n rôl, rydym yn hysbysu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a’r swyddogion perthnasol, am benderfyniadau allweddol rydym wedi’u gwneud. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym wedi gohebu â’r cyn-Weinidog Addysg ac Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Addysg, gan roi gwybod iddynt am ein cynnydd mewn nifer o feysydd: • Ym mis Rhagfyr 2015 a mis Chwefror 2016, gwnaethom ysgrifennu at Huw Lewis AC, y

    Gweinidog Addysg ar y pryd, gan amlinellu ein penderfyniad i ohirio cyflwyno’r cymwysterau TGAU Astudiaethau Crefyddol a TGAU Hanes, a nodi ein cynnydd o ran TGAU Cymraeg Ail Iaith.

    • Ym mis Awst 2016, gwnaethom roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg, am ddatblygiad y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith sydd i’w addysgu gyntaf yn 2017. Yn ein llythyr, gwnaethom nodi’r newidiadau y byddwn yn eu gwneud i’r cymhwyster, a rhoi manylion ein cynlluniau i’w gyflwyno o fis Medi 2017.

    • Cyn i’r Cynulliad blaenorol gael ei ddiddymu, gwnaethom gyfarfod â Julie James, sef y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ar y pryd, a’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth presennol, i drafod canfyddiadau a chanlyniadau posibl ein Hadolygiad o’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae).

    Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi roi’r rhaglen diwygio’r cwricwlwm ar waith, yn dilyn adroddiad yr Athro Graham Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus: adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru’. Caiff Cymwysterau Cymru ei gynrychioli ar y Bwrdd Newid a’r Bwrdd Arbenigol ar y Cwricwlwm ac Asesu; mae aelodau o staff yn mynd i rai digwyddiadau Ysgolion Arloesi hefyd.

  • YmchwilMae Adran 46[3] o’n Deddf yn rhoi’r pŵ er i ni gynnal neu gomisiynu gwaith ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â chymwysterau. Mae hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

    Yn ystod gwanwyn/haf 2016, gwnaethom recriwtio tîm o saith aelod o staff ymchwil ac ystadegau. Mae gan aelodau’r tîm gyfoeth o brofiad o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth Cymru, Estyn ac addysg uwch.

    Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi comisiynu ymchwil i’r canlynol:

    Asesiadau dan arweiniad athrawon Cafodd yr adolygiad hwn o lenyddiaeth ei gomisiynu er mwyn rhoi dealltwriaeth o’r defnydd a wneir o asesiadau dan arweiniad athrawon o fewn cymwysterau ôl-14 yn rhyngwladol. Mae’r llenyddiaeth a adolygwyd o’r 20 mlynedd diwethaf yn swmpus ac yn gymhleth, gan gwmpasu’r llu o wahanol ddulliau asesu a ddefnyddir gan athrawon ac eraill, mewn llawer o wledydd, ac ym mhob cyfnod addysg a hyfforddiant. Bydd y wybodaeth ymchwil yn helpu Cymwysterau Cymru i gynnal ymarferion monitro yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar weithgareddau asesu dan arweiniad athrawon.

    Anhawster Disgwyliedig eitemau prawf yn y cymwysterau TGAU Mathemateg a Mathemateg - Rhifedd newydd O ganlyniad i’r rhaglen diwygio cymwysterau cyffredinol, roeddem yn gwybod bod cymwysterau Mathemateg wedi newid cryn dipyn. Felly, rydym wedi dechrau gwaith ar lefel anhawster ganfyddedig y cymwysterau Mathemateg newydd a byddwn yn mynd ati i adolygu data o’r gyfres ddyfarnu gyntaf cyn cyhoeddi ein canfyddiadau ehangach yn ystod 2017.

    Hyder y Cyhoedd mewn Cymwysterau a’r System Gymwysterau yng Nghymru Bydd yr astudiaeth hon yn para pedair blynedd a hanner a chaiff ei chynnal gan asiantaeth allanol. Caiff adroddiad ar gam cyntaf yr ymchwil, sy’n sefydlu llinell sylfaen y gellir monitro ac asesu hyder y cyhoedd yn ei herbyn, ei gyhoeddi ar ddechrau 2017. Fel rhan o’r astudiaeth, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau ansoddol ag amrywiaeth o randdeiliaid ac arolwg â sampl gynrychioliadol o oedolion ledled Cymru.

    32

  • Y sgiliau a’r wybodaeth a gaiff eu gwobrwyo mewn cynlluniau marcio TGAU Lluniwyd yr ymchwiliad cychwynnol hwn i asesu lefel y sgiliau y mae cymwysterau TGAU yn eu gwobrwyo drwy gymhwyso tacsonomi’r Strwythur Canlyniadau Dysgu a Arsylwir (SOLO) at gynlluniau marcio. Cafodd pymtheg athro sy’n gweithio eu recriwtio a’u hyfforddi i wneud dyfarniadau ynghylch papurau o’r pedwar pwnc TGAU â’r nifer uchaf o ymgeiswyr yng Nghymru. Rydym wrthi’n dadansoddi’r data a disgwyliwn gyhoeddi’r canlyniadau tua dechrau 2017.

    Methodoleg a ddefnyddir yn ystod Adolygiadau Sector o Gymwysterau Galwedigaethol Er mwyn helpu i wella ein hadolygiadau sector o gymwysterau galwedigaethol yn barhaus, cafodd adolygiad annibynnol ei gomisiynu. Yn ystod yr adolygiad, ystyriwyd adolygiadau sectoraidd fel dull o weithredu yn ogystal â’r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn ystod ein hadolygiad cyntaf. Daethpwyd i’r casgliad bod y dull gweithredu yn un defnyddiol a bod cwmpas y gweithgareddau ymchwil a dadansoddi yn briodol. Gwnaed nifer o argymhellion i atgyfnerthu gweithgareddau yn ystod adolygiadau yn y dyfodol ac mae’r rhain yn cael eu hystyried wrth gynllunio’r adolygiadau nesaf.

    Gwnaethom hefyd gomisiynu ymchwil ymgysylltu â dysgwyr er mwyn llywio gwaith ymchwil yr adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac, ar wahân, er mwyn helpu i ddatblygu meini prawf cymeradwyo TGAU a Safon Uwch 2017.

    Rydym hefyd wedi dechrau trafodaethau â Llywodraeth Cymru ac Ofqual ynghylch trefniadau rhannu data. Yn hanesyddol, Ofqual sydd wedi gwneud llawer o’r gwaith casglu data, ond rydym yn bwriadu mynd yn gyfrifol am gasglu data a chyhoeddi ystadegau ar ddysgwyr Cymru o fewn y 12 mis nesaf ac rydym wrthi’n datblygu ein gallu yn hyn o beth.

    Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu ein swyddogaeth ymchwil, gan gomisiynu ac ymgymryd â gweithgareddau ymchwil i ystod o feysydd perthnasol.

    Wrth i ni ddatblygu ein harbenigedd, edrychwn ymlaen at fod yn rhan hanfodol o’r gymuned ymchwil i addysg yng Nghymru.

    Ymchwil

    33

  • Asesiadau dan arweiniad athrawon ym maes addysg a hyfforddiant ôl-14: adolygiad o lenyddiaethRydym yn ceisio datblygu tystiolaeth a dealltwriaeth a fydd yn ategu ein penderfyniadau. Mae asesiadau dan arweiniad athro (AAA) yn rhan bwysig o ddulliau asesu’r rhan fwyaf o wledydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, er bod Lloegr wedi dechrau mabwysiadu system sy’n canolbwyntio mwy ar arholiadau diwedd cwrs (llinellol), mae asesiadau athrawon yn dal i fod yn rhan amlwg o gymwysterau pwysig fel cymwysterau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru a dyma’r prif ddull asesu ar gyfer llawer o gymwysterau galwedigaethol.

    At ddibenion yr astudiaeth hon, mae AAA yn cynnwys unrhyw weithgarwch asesu a gynhelir gan rywun sy’n gyfrifol am waith dysgu myfyrwyr, ac sy’n cyfrannu at asesiad crynodol cymhwyster.

    Ym mis Mawrth 2016, gwnaethom gomisiynu Colegau Cymru i gynnal adolygiad manwl o lenyddiaeth ym maes asesiadau dan arweiniad athrawon o fewn cymwysterau ôl-14. Roedd cwmpas yr adolygiad yn eang iawn: roedd y llenyddiaeth a adolygwyd yn cwmpasu cyfnod o 20 mlynedd a nifer o wledydd gwahanol.

    Canfu’r adolygiad batrwm dros yr 20 mlynedd diwethaf sy’n dangos newid graddol tuag at systemau addysgu a dysgu sy’n integreiddio’n llwyr waith asesu, gwerthuso ac atebolrwydd. Mae’r patrwm hwn i’w weld yn glir mewn gwledydd yr ystyrir yn gyffredinol bod ganddynt enw da ym maes darparu addysg; mae’r gwledydd mwyaf blaenllaw o blith y rhain yn cynnwys y Ffindir, Awstralia ac, yn fwy diweddar, yr Alban.

    Mae’r darn cyntaf hwn o ymchwil wedi dangos, er nad yw’n syml mabwysiadu agweddau ar systemau gwledydd eraill, mae nifer o wledydd sy’n perfformio’n dda yn rhannu nodweddion tebyg, o ran yr hyn y maent yn ei ffafrio a chyfeiriad strategol. Mae’n amlwg hefyd fod nifer o heriau i fabwysiadu AAA yn llwyddiannus, ond mae’r buddiannau sy’n gysylltiedig â buddsoddi adnoddau er mwyn gwneud hynny’n gywir yn glir.

    Gall AAA crynodol da wella asesiadau dysgu ffurfiannol, sy’n ffactor allweddol wrth bennu gwaith addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Yn draddodiadol, ystyriwyd bod AAA yn llai dibynadwy nag asesiadau allanol fel arholiadau, ond ar ôl eu hystyried yn fanylach, fel y dengys yr astudiaeth hon, gwelwyd bod y bwlch yn lleihau pan gaiff AAA eu rheoli’n dda. Mae AAA hefyd yn fwy tebygol o gynnig profiadau dysgu a gweithgareddau asesu dilys a diddorol i ddysgwyr.

    Nid yw’r adolygiad hwn yn astudiaeth gynhwysfawr o bell ffordd, ond mae’n gosod llwyfan i Cymwysterau Cymru edrych yn fanylach ar asesiadau dan arweiniad athrawon yn y dyfodol. Wrth i AAA barhau i chwarae rôl amlwg yng Nghymru, gallwn ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon i ddechrau datblygu gwaith mewn meysydd eraill, fel ystyried arfer gorau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, a sut y gall y dull asesu hwn gael ei ddefnyddio a’i gryfhau wrth ddatblygu a sicrhau ansawdd cymwysterau yn y dyfodol.

    34

    FFOC

    WS

  • PolisïauYn ystod ein blwyddyn gyntaf, rydym wedi datblygu a chyhoeddi nifer o bolisïau rheoleiddio i fodloni gofynion Deddf Cymwysterau Cymru 2015 a chyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr cymwysterau Cymru. Rydym wedi cyhoeddi nifer o bolisïau dros dro, gyda’r bwriad o adolygu ein dogfennaeth reoleiddio yn dilyn canlyniadau ein prosiect Strategaeth Reoleiddio. Ers 21 Medi 2015, rydym wedi cyhoeddi’r polisïau rheoleiddio canlynol: Polisïau sy’n ymwneud â’r adnoddau rheoleiddio newydd a ddiffinnir yn Neddf Cymwysterau Cymru:

    • Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig• Polisi Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol• Polisi Capio Ffioedd

    Polisïau sy’n ymwneud â’n gweithgarwch gorfodi a monitro:

    • Cwynion am gyrff dyfarnu• Cymryd camau pan aiff pethau o chwith• Rheoli digwyddiadau rheoleiddio• Datganiad interim am fonitro

    Rheolau a meini prawf ar gyfer ein prosesau:

    • Rheolau am geisiadau i gydnabod cyrff dyfarnu• Rheolau am geisiadau i Gymeradwyo a Dynodi cymwysterau• Meini prawf Cymeradwyo, meini prawf ar gyfer Dynodi cymhwyster, amodau

    Cymeradwyo a darpariaethau pellach ynghylch Dynodi

    Polisïau sy’n amlinellu ein dull gweithredu o ran prosesau allanol:• Datganiad interim am gydweithio• Datganiad interim am ddarparu gwasanaethau• Datganiad Polisi Codi Tâl am Wasanaethau Rheoleiddio• Polisi Ymgynghori

    Polisi sy’n amlinellu’r broses apêl:

    • Apeliadau rheoliadol Polisïau yn ymwneud â’r wyth mater:

    • Polisi Cymwysterau Cymraeg a Dwyieithog Interim Diwygiadau i’r Amodau Cydnabod Safonol:

    • Yr Amodau Cydnabod Safonol Dros Dro Dogfennau rheoleiddio sy’n ymwneud â chymwysterau:

    • Lefelau Cymwysterau a Chydrannau• Meini Prawf Cymeradwyo Pynciau a Chymwysterau ar gyfer TGAU a Safon Uwch • Gofynion ar gyfer pennu lefelau cyrhaeddiad penodedig ar gyfer cymwysterau TAG a

    TGAU• Amodau Cydnabod Safonol Ychwanegol ar gyfer cymwysterau TGAU a TAG• Gweithdrefnau Cyfnewid Data Cymru Haf 2016• Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol

    35

  • Blaeno

    riaeth Strate

    gol 2:

    Cyflen

    wad o gymw

    ysterau gyda sicrwydd

    ansawdd

    Mae llawer o’n rhanddeiliaid yn defnyddio nifer y cymwysterau rheoleiddiedig i ddangos cymhlethdod yn y system gymwysterau. Fel rhan o’n gwaith cynnar, gwnaethom ymrwymo i adolygu cymwysterau y rhestrwyd eu bod yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus yng Nghymru a dileu’r rheini nad oeddent wedi cael eu dyfarnu ers cryn amser.

    O ganlyniad i’r gwaith hwn, gwnaethom lwyddo i ddileu mwy na 17,000 o gymwysterau nad oeddent yn cael eu defnyddio; yn dilyn hyn, cafodd ychydig dros 11,000 o gymwysterau eu trosglwyddo i’r system newydd, QiW. Mae’r gwaith hwn wedi’i gwneud yn haws i randdeiliaid weld pa gymwysterau y maent yn gymwys i gael cyllid cyhoeddus sydd ar gael yng Nghymru ac mae wedi cael effaith uniongyrchol o ran dechrau symleiddio’r system.

    Rydym yn bwriadu ailadrodd y gwaith hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y data yn QiW yn parhau i fod yn gyfredol, a rhagwelwn y bydd y gwaith hwn yn parhau i leihau nifer y cymwysterau rheoleiddiedig dros amser.

    Symleiddio’r system gymwysterau

    Mae dy

    sgwyr yng

    Nghymru yn a

    studio ar gyfer cy

    mwysterau sy’n ddilys ac sydd â chanlyniadau sy’n deg

    ac yn

    ddibynadw

    y, ac a gaiff e

    u parchu’n eang

    o ganlyniad i drefniadau rheoleiddio annibynnol cadarn.

    36

  • Blaeno

    riaeth Strate

    gol 2:

    Cyflen

    wad o gymw

    ysterau gyda sicrwydd

    ansawdd

    Symleiddio’r system gymwysterau

    Mae dy

    sgwyr yng

    Nghymru yn a

    studio ar gyfer cy

    mwysterau sy’n ddilys ac sydd â chanlyniadau sy’n deg

    ac yn

    ddibynadw

    y, ac a gaiff e

    u parchu’n eang

    o ganlyniad i drefniadau rheoleiddio annibynnol cadarn.

    37

  • O dan y Flaenoriaeth Strategol hon, ein nod yw sicrhau ansawdd cymwysterau drwy gydol eu cylch oes. Rydym yn gwarchod buddiannau dysgwyr drwy sicrhau bod cymwysterau’n cyrraedd y safonau gofynnol a, lle bo hynny’n briodol, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynnal bob amser. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cynnal cydberthnasau rheoleiddio effeithiol â chyrff dyfarnu. Os oes cymwysterau newydd wedi’u dylunio ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, rydym yn eu monitro’n agos ac yn goruchwylio canlyniadau cymwysterau. Mae ein fframwaith rheoleiddio yn briodol, yn deg ac yn gymesur; mae’n annog tryloywder ac yn cadarnhau atebolrwydd cyrff dyfarnu cydnabyddedig.

    Mae ein cyflawniadau allweddol tuag at gyflawni’r flaenoriaeth strategol hon eleni wedi cynnwys:

    • Datblygu proses gadarn i ystyried cydnabod cyrff dyfarnu;• Cynyddu lefelau monitro ar gyfer cymwysterau pwysig;• Cyflwyno proses drylwyr i Gymeradwyo cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig i’w

    haddysgu gyntaf o 2016;• Goruchwylio prosesau dyfarnu cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch yr haf yn llwyddiannus.

    “Rwy'n falch bod gennym gorff cydnabyddedig sy'n goruchwylio'r sector cymwysterau ac yn hapus nad ydym wedi dilyn polisïau Lloegr. Mae hefyd yn galonogol gwybod bod corff cymwysterau cenedlaethol sy'n gorfod hwyluso a hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg.”

    Llinos John, pennaeth cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Tregŵyr

    Blaenoriaeth Strategol 2:

    38

  • Cydnabyddiaeth

    Er mwyn cynnig cymwysterau rheoleiddiedig yng Nghymru, mae’n rhaid i gorff dyfarnu gael ei ‘gydnabod’ gan Cymwysterau Cymru. Mae cydnabod corff dyfarnu yn golygu ein bod o’r farn ei fod yn cyrraedd y safonau angenrheidiol, fel y’u nodir yn ein Meini Prawf ar gyfer Cydnabod, i’w alluogi i ddyfarnu cymwysterau’n briodol. Pan gawsom ein sefydlu ym mis Medi 2015, gwnaethom gydnabod yn awtomatig y cyrff dyfarnu hynny a oedd eisoes wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru, gan olygu nad oedd angen iddynt wneud cais arall am gydnabyddiaeth yng Nghymru. Cyn i ni gael ein sefydlu, byddai unrhyw sefydliad a hoffai fod yn gorff dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru a Lloegr yn cyflwyno ei gais i Ofqual, a fyddai’n rheoli’r broses gydnabod. Lle bo hynny’n briodol, byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw faterion penodol i Gymru yn cael eu hystyried ac yn yr achosion prin hynny lle roedd corff dyfarnu yn gwneud cais am gydnabyddiaeth yng Nghymru yn unig, gallai wneud cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

    Ar ôl i ni gael ein sefydlu, gwnaethom adolygu’r dull cydnabod yng Nghymru a chyflwyno proses gydnabod newydd, hollol annibynnol, sy’n golygu bod yn rhaid i bob corff dyfarnu nawr wneud cais uniongyrchol i ni am gydnabyddiaeth.

    Mae hyn yn ein galluogi i adolygu cyflwyniadau’n annibynnol yn erbyn ein Meini Prawf ar gyfer Cydnabod a gwneud penderfyniadau sy’n hollol annibynnol ar unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch cydnabyddiaeth mewn mannau eraill.

    Rydym yn gwirio pob cais am gydnabyddiaeth yn erbyn ein meini prawf cydnabod cyhoeddedig ein hunain er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio’n llawn â nhw a’i fod yn gallu dangos y bydd ganddo’r adnoddau, y systemau a’r trefniadau priodol ar waith i ddylunio, cyflwyno a dyfarnu ei gymwysterau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi adolygu'r math o adborth rydym yn ei roi i gyrff dyfarnu sy’n gwneud cais am gydnabyddiaeth; rydym bellach yn cynnig adborth manylach, yn enwedig am feysydd lle nad oes digon o dystiolaeth bod cyrff dyfarnu'n cydymffurfio â’n meini prawf.

    Cydnabod cyrff dyfarnu

    39

  • Yn ystod 2015/16, cawsom 13 o ffurflenni mynegi diddordeb gan sefydliadau a oedd yn awyddus i gael cydnabyddiaeth gennym ac o’r rhain, cawsom ddau gyflwyniad ffurfiol. Gwnaethom adolygu’r cyflwyniadau hyn yn drylwyr yn erbyn ein meini prawf cydnabod, ac ystyriwyd bod y ddau gyflwyniad yn cynnwys meysydd o ddiffyg cydymffurfiaeth. Ni roddwyd cydnabyddiaeth i’r naill sefydliad na’r llall; fodd bynnag, gwnaethom roi adborth iddynt ar y meysydd lle nad oeddent yn cydymffurfio, a gall y sefydliadau ailgyflwyno eu ceisiadau i ni os ydynt yn dymuno. Os caiff ceisiadau eu cymeradwyo, mae’n rhaid i gyrff dyfarnu cydnabyddedig gydymffurfio â’n Hamodau Cydnabod Safonol Dros Dro ac unrhyw reoliadau perthnasol eraill a fyddai’n gymwys iddynt hwy a’u cymwysterau. Rydym yn eu monitro drwy eu Datganiadau Cydymffurfiaeth blynyddol, i sicrhau eu bod yn gwneud hyn.

    Ar ôl i ni gydnabod corff dyfarnu, byddwn yn rheoleiddio holl gymwysterau’r corff, oni fyddant yn eu heithrio.

    Gall cyrff dyfarnu cydnabyddedig ildio rhan o’u cydnabyddiaeth drwy ein hysbysu am gymwysterau, neu ddisgrifiadau o gymwysterau, yr hoffent eu cynnig fel cymwysterau nas rheoleiddir neu beidio â’u cynnig o gwbl.

    Yn yr achosion hyn, ni all y cymwysterau hyn nad ydym yn eu rheoleiddio gynnwys logo Cymwysterau Cymru ar y tystysgrifau a roddir i ddysgwyr.

    Mae tri o’n cyrff dyfarnu cydnabyddedig wedi ildio rhan o’u cydnabyddiaeth eleni. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda phob un o’n cyrff dyfarnu i sicrhau bod pob un ohonynt yn gwybod y gallant ildio rhai o’u cymwysterau rhag trefniadau rheoleiddio a sicrhau ein bod yn parhau i gadw gwybodaeth gywir am gwmpas eu cydnabyddiaeth.

    Nifer y cyrff dyfarnu cydnabyddedig ar 21 Medi 2015 oedd 133

    Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth 12 o gyrff dyfarnu ildio eu cydnabyddiaeth yn llawn

    Nifer y cyrff dyfarnu cydnabyddedig ar 31 Awst 2016 yw 121

    40

  • Cymeradwyo/Dynodi cymwysterauDarperir cymwysterau Cymeradwy a Dynodedig gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig ac maent yn gymwys i’w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir gan arian cyhoeddus ar gyfer dysgwyr dan 19 oed.

    Nid oes rhaid i gymwysterau dynodedig fod yn unigryw i Gymru o reidrwydd, ac maent fel arfer ar gael i ddysgwyr mewn gwledydd eraill yn y DU. Caiff cymwysterau Cymeradwy eu dyfarnu yng Nghymru yn bennaf a byddant wedi bodloni meini prawf Cymeradwyo sy’n sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.

    Dynodi

    Cyn i ni Ddynodi cymhwyster, mae’n rhaid i gyrff dyfarnu roi sicrwydd i ni fod y cymhwyster yn berthnasol mewn cyd-destun Cymreig, ei fod yn briodol i’r ystod oedran a bod tystiolaeth ar gael i ddangos galw (gan ddysgwyr) a chefnogaeth (gan ddefnyddwyr y cymhwyster) yng Nghymru. Byddwn yn adolygu ein polisi a’n prosesau Dynodi dros y flwyddyn nesaf.

    Cymwysterau galwedigaethol yw’r mwyafrif helaeth o gymwysterau Dynodedig, ac rydym yn asesu lefelau cefnogaeth gan y cyrff sector/proffesiynol perthnasol neu gynrychiolwyr diwydiant pan fyddwn yn ystyried ceisiadau. Yn arbennig, mewn perthynas â chymwysterau ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gofal cymdeithasol, rhaid bod tystiolaeth bod Cyngor Gofal Cymru yn cefnogi’r cymhwyster.

    Mae rhai cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig yn gymwysterau Dynodedig hefyd, gan ein bod wedi gwneud cynlluniau i sicrhau y gall dysgwyr yng Nghymru barhau i ddilyn astudiaethau TGAU a Safon Uwch yn y pynciau hynny nad ydynt yn cael eu diwygio yma, ond sy’n cael eu diwygio yn Lloegr.

    Byddwn yn ystyried Dynodi unrhyw gymhwyster TGAU, UG neu Safon Uwch o dan yr amodau canlynol:

    i) caiff ei gynnig gan gorff dyfarnu rydym yn ei reoleiddio;ii) nid yw’n bwnc sy’n cael ei ddiwygio yng Nghymru; ac iii) mae wedi’i achredu gan Ofqual.

    Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu feddu ar bolisïau cyhoeddedig ar y cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch Dynodedig sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae angen i’r cyrff dyfarnu gadarnhau p’un a fydd cymhwyster penodol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac, os felly, sut y gall canolfannau ofyn am asesiadau a deunyddiau ategol yn Gymraeg.

    41

  • Cyn 1 Ebrill 2016, byddai cyrff dyfarnu cydnabyddedig yn gwneud cais cychwynnol am Ddynodiad drwy RITS, y system reoleiddio TG ar-lein a reolwyd gan Ofqual ar ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Byddai’r wybodaeth wedyn yn cael ei bwydo i mewn i Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru (DAQW).

    Ym mis Ebrill 2016, gwnaethom lansio QiW, cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru, a gynlluniwyd i fod yn system annibynnol. Gall cyrff dyfarnu nawr gyflwyno cymwysterau i’w Dynodi yn uniongyrchol ar QiW, sy’n golygu bod gennym lawer mwy o reolaeth dros y broses ac y gallwn wneud penderfyniadau Dynodi yn gyflymach.

    Gwnaethom lunio canllaw ar dystiolaeth i gyrff dyfarnu ei ddefnyddio wrth gyflwyno cymwysterau. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gyda’n cyrff dyfarnu cydnabyddedig i gadarnhau bod yr holl wybodaeth fanwl yn ein cofnodion cymwysterau unigol yn gyfredol ac yn gywir.

    Cymeradwyo cymwysterau TGAU a Safon Uwch i’w haddysgu gyntaf yn 2016

    Roedd y gwaith o ddiwygio cymwysterau cyffredinol i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2016 wedi dechrau cyn i Cymwysterau Cymru gael ei sefydlu.

    Rhwng mis Mehefin 2015 a mis Medi 2015, cafodd cymwysterau TGAU Daearyddiaeth, y gyfres TGAU Gwyddoniaeth, TGAU Bwyd a Maeth, TGAU Addysg Gorfforol a TAG Cymraeg Ail Iaith eu cyflwyno gyntaf i Lywodraeth Cymru eu Cymeradwyo. Yna cyflwynodd CBAC weddill y manylebau drafft a’r deunyddiau asesu enghreifftiol i Cymwysterau Cymru rhwng mis Medi 2015 a mis Ionawr 2016.

    Gwnaethom ddatblygu proses drylwyr i oruchwylio’r gwaith o Gymeradwyo’r cymwysterau hyn. Cafodd y gwaith o Gymeradwyo cymwysterau i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2016 ei gwblhau ar 5 Mai 2016 ar ôl Cymeradwyo’r cymhwyster TGAU Sbaeneg.

    Rhestr o bynciau a ddiwygiwyd i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2016:

    TGAU TAG UG a Safon Uwch DaearyddiaethIeithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg)CerddoriaethCyfres o gymwysterau Gwyddoniaeth:

    BiolegCemegFfisegGwyddoniaeth (Dyfarniad Dwbl)Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Dwbl)Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Sengl)

    DramaAddysg GorfforolBwyd a MaethCelf a Dylunio

    Cymraeg Ail IaithDramaCerddoriaethAddysg GorfforolDaearyddiaethIeithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg)Astudiaethau Crefyddol

    42

  • Gohirio TGAU Hanes a TGAU Astudiaethau Crefyddol

    Ym mis Mawrth 2016, gwnaethom benderfynu gohirio cyflwyno dau gymhwyster (TGAU Hanes a TGAU Astudiaethau Crefyddol) i’w haddysgu gyntaf o fis Medi 2016 i fis Medi 2017. Gwnaethom y penderfyniad hwn am y rhesymau canlynol, ar sail yr egwyddor ganolog y dylai fod gan ysgolion ddigon o amser i baratoi ar gyfer y cymwysterau newydd:

    i) Nid oedd manylebau drafft ar gyfer y pynciau hyn ar gael mor gynnar ag yr oeddent ar gyfer pynciau eraill.

    ii) Nid oeddem yn disgwyl y byddai’r naill gymhwyster na’r llall yn barod i’w Gymeradwyo tan ar ôl i dymor yr haf ddechrau. Roedd hyn yn golygu na fyddai manylebau na deunyddiau asesu enghreifftiol dwyieithog Cymeradwy ar gael nes bod tymor yr haf wedi hen ddechrau, a fyddai’n rhoi gormod o bwysau amser ar ysgolion.

    iii) Roeddem yn gwybod byddai’r pwysau amser wedi bod yn arbennig o drwm ar gyfer y pynciau hyn, gan fod y newidiadau i strwythur a chynnwys y ddau gymhwyster yn golygu y byddai angen gwneud newid sylweddol i’r ffordd y cânt eu haddysgu.

    iv) Roeddem yn gwybod, ar sail amcanestyniadau ar y pryd, na fyddai adnoddau dysgu ac addysgu wedi’u diweddaru i gefnogi’r pynciau hyn ar gael tan dymor yr hydref.

    v) Daethom i’r casgliad mai dim ond nifer fach o ysgolion nad oeddent eisoes yn defnyddio manyleb CBAC. Nid oedd modd i’r ysgolion hyn ddefnyddio’r cymwysterau TGAU diwygiedig yn Lloegr, felly byddai angen cymorth arnynt wrth newid dros dro i fanyleb CBAC. Fodd bynnag, roedd hyn yn hydrin. Er ein bod yn cydnabod y baich y byddai’r penderfyniad hwn yn ei osod ar ysgolion, a’r angen i gynnig y gefnogaeth briodol iddynt, roeddem o’r farn bod mantais gohirio’r cymwysterau hyn i’r rhan fwyaf o ysgolion yn drech na’r mater hwn.

    Gwnaethom ysgrifennu at benaethiaid yng Nghymru i egluro ein penderfyniad a’r ystyriaethau a ddylanwadodd arno. Gwnaethom drefnu hefyd i CBAC gynnig digwyddiadau hyfforddi wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer yr ysgolion y byddai'n penderfyniad yn effeithio arnynt. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim, a'u bwriad oedd helpu ysgolion i newid o'r cymwysterau y maent yn eu cynnig ar hyn o bryd am flwyddyn, nes y cyflwynir y cymwysterau diwygiedig.

    43

  • Cymeradwyo cymwysterau i’w haddysgu gyntaf yn 2017

    Ar ddiwedd proses Gymeradwyo 2016, gwnaethom gynnal ymarfer i edrych ar yr holl wersi a ddysgwyd, ac arweiniodd hyn at ailddatblygu dogfennau a phrosesau Cymeradwyo ac ymgysylltu â CBAC er mwyn ystyried strategaethau i gwtogi’r amserlen ar gyfer proses 2017.

    Dechreuodd y broses o Gymeradwyo cymwysterau cyffredinol diwygiedig i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2017 ym mis Mawrth 2016, wrth i ni recriwtio a hyfforddi grŵ p newydd o arbenigwyr pwnc allanol, yn ogystal â chynllunio amserlen 2017 yn fanwl.

    Un o nodweddion arbennig proses Gymeradwyo 2017 yw ein bod yn defnyddio ein Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau a’n Meini Prawf Cymeradwyo Pynciau unigol ein hunain. Fel y disgrifiwyd o dan Flaenoriaeth Strategol 1, rydym wedi datblygu’r rhain er mwyn sicrhau bod cymwysterau Cymru yn addas at ddibenion dysgwyr yng Nghymru. Yn sgil hyn, nid oes angen dibynnu mwyach ar feini prawf sy’n adlewyrchu strwythur cymwysterau cyffredinol yn Lloegr.

    Mae proses Gymeradwyo 2017 wedi’i rhannu’n nifer o gydrannau allweddol, fel y dengys y siart llif isod.

    Dechreuodd y broses gyda chyflwyniad cyntaf y manylebau TAG Mathemateg a Mathemateg Bellach drafft ar ddiwedd mis Mehefin 2016, gyda TGAU Busnes, TAG Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a TGAU Cyfrifiadureg yn dilyn ym mis Gorffennaf a TAG y Gyfraith ym mis Awst 2016. Bydd cyflwyniadau cyntaf gweddill pynciau 2017 yn dod i law ym mis Medi 2016. Ar yr amod bod y deunyddiau a ddaw i law yn bodloni ein gofynion, ein nod ar hyn o bryd yw bod pob cymhwyster TGAU, UG a Safon Uwch y mae gennym feini prawf dylunio cyhoeddedig ar ei gyfer yn cael ei gymeradwyo erbyn mis Mawrth 2017.

    Penodi a hyfforddi arbenigwyr pwnc allanol

    Cyflwyniad 1 (manyleb yn unig) - adborth gan adolygwyr, panel yn ymgynnull ac adborth i CBAC (mae CBAC hefyd yn

    cyhoeddi drafft o’r fanyleb ar-lein)

    Cyflwyniad 2 (manyleb, ymateb i’r adroddiad a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - adborth gan arbenigwyr pwnc, panel

    yn ymgynnull ac adborth i CBAC)

    Cyflwyniad 3 (manyleb wedi’i mireinio a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol - adborth CC/yr arbenigwyr pwnc

    arweiniol i CBAC)

    Cymeradwyo'r cymhwyster

    CBAC yn cyhoeddi'r deunyddiau dwyieithog Cymeradwy terfynol ar eu gwefan

    44

  • Cydberthnasau gyda rheoleiddwyr eraillMae Cymwysterau Cymru wedi datblygu cydberthnasau gwaith da â’r tri rheoleiddiwr cymwysterau arall yn y DU: Ofqual yn Lloegr, Awdurdod Cymwysterau’r Alban (SQA) yn yr Alban a’r Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (CCEA) yng Ngogledd Iwerddon. Rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd â’n cyd-reoleiddwyr i drafod materion strategol a gweithredol sy’n ymwneud â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.

    Yn ystod cyfres arholiadau haf 2016, bu cyfathrebu mynych rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan fod mwyafrif y cymwysterau cyffredinol yn cael eu dyfarnu ar sail tair gwlad o hyd. Yn y dyfodol, wrth i gyfres o gymwysterau cyffredinol gael ei datblygu’n benodol i Gymru, bydd hyn yn llai cyffredin, a byddwn yn canolbwyntio ar ein diddordeb cyffredin ym maes cynnal safonau ar draws cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch. Fel rheoleiddiwr annibynnol, rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail egwyddorion clir a thryloyw gan ystyried buddiannau hirdymor dysgwyr. Rydym yn cydnabod hefyd bod dysgwyr a chyflogwyr yn rhoi pwys ar symudedd cymwysterau ar draws ffiniau cenedlaethol gan fod llawer o’r cymwysterau rydym yn eu rheoleiddio yr un fath â chymwysterau a gaiff eu cynnig a’u dyfarnu yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’n debyg iddynt. Rydym yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr eraill i gynnal ansawdd a dibynadwyedd y cymwysterau hyn. Mae ein hymrwymiad i gydweithio ag Ofqual i’w weld yn y Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth cyhoeddedig rhwng ein sefydliadau. Rydym wrthi’n creu trefniant tebyg â CCEA yng Ngogledd Iwerddon. Rydym hefyd yn cydweithio â’n cyd-reoleiddwyr yn yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Ym mis Ionawr 2016, gwnaethom gynnal cyfarfod ar gyfer swyddogion llywodraeth a rheoleiddwyr o’r pum gwlad (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon) er mwyn rhannu arfer gorau ym maes cymwysterau a systemau cymwysterau.

    45

  • Monitro a chydymffurfioYn ystod ein blwyddyn gyntaf, aethom ati i geisio cynyddu gwaith monitro, yn enwedig yn achos cymwysterau diwygiedig. Ers mis Medi 2015, mae’r rhain wedi cynnwys cymwysterau TGAU, Safon UG, Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol Cymru. Datganiadau Cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu

    Mae’n rhaid i gyrff dyfarnu lenwi Datganiad Cydymffurfiaeth blynyddol sy’n dangos unrhyw feysydd lle maent o’r farn nad ydynt yn cydymffurfio â’n Hamodau Cydnabod Safonol Dros Dro, nad ydynt wedi cydymffurfio â nhw neu na fyddant yn cydymffurfio â nhw o bosibl yn y dyfodol.

    Mae’r Datganiad Cydymffurfiaeth yn adnodd monitro allweddol sy’n ategu ein dull rheoleiddio a arweinir gan wybodaeth ac sy’n seiliedig ar risg. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gesglir o’r datganiadau cydymffurfiaeth, ynghyd â gwybodaeth a thystiolaeth arall, i flaenoriaethu ein gwaith monitro. Yn ystod hydref 2015, cwblhaodd 129 o gyrff dyfarnu Ddatganiadau Cydymffurfiaeth ar ein cyfer. O’r rhain, datganodd 78% (101) eu bod yn cydymffurfio ar hyn o bryd ac y byddant yn cydymffurfio yn y dyfodol, a datganodd 22% (28) nad oeddent yn cydymffurfio ar hyn o bryd neu nad oeddent yn debygol o gydymffurfio yn y dyfodol. Nid oedd unrhyw themâu neu batrymau cyffredin i’w gweld o ran y meysydd diffyg cydymffurfio a nodwyd yn y datganiadau. Roedd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd amlaf yn erbyn amodau H3 (monitro lefelau cyrhaeddiad ar gyfer cymhwyster) a D3 (adolygu dull gweithredu cymhwyster). Gwnaethom nodi bod ansawdd yr ymatebion, a manylder y Datganiadau Cydymffurfio yn amrywio’n sylweddol. O ganlyniad, gwnaethom ofyn am ragor o wybodaeth a/neu dystiolaeth gan fwy na hanner (53%) yr holl gyrff dyfarnu, yn bennaf am nad oedd digon o fanylion wedi’u cynnwys mewn rhai rhannau o’r datganiadau. Gwnaethom gyflwyno cynlluniau gweithredu i 28 o gyrff dyfarnu er mwyn monitro eu cynnydd tuag at gydymffurfio. Mae’r cynlluniau gweithredu hyn wedi bod yn destun craffu dros y 12 mis diwethaf. O’r rhain, roedd pum cynllun gweithredu yn dal i fod ar waith erbyn 31 Awst 2016 a chânt eu monitro’n ofalus o hyd. Ar ôl adolygu proses datganiadau cydymffurfio 2015, gwnaethom benderfynu newid proses 2016 er mwyn sicrhau ei bod yn fwy trylwyr. O ganlyniad, rydym yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol gan gyrff dyfarnu eleni i gefnogi eu datganiadau cydymffurfio. Monitro cyrff dyfarnu

    Yn ogystal â diwygio proses datganiadau cydymffurfio 2016, rydym wedi datblygu ein dull o fonitro cyrff dyfarnu drwy raglen o waith archwilio. Bydd ein rhaglen archwilio’n dechrau yn 2017. I ddechrau, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y cyrff dyfarnu y nodwn eu bod yn peri’r risg fwyaf bosibl i’r system gymwysterau yng Nghymru, gan mai’r rhain yw’r sefydliadau sy’n dyfarnu’r nifer fwyaf o gymwysterau yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn, gwnaethon ofyn am wybodaeth gan yr holl gyrff dyfarnu am eu pum prif risg weithredol. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio ein gweithgareddau monitro yn y dyfodol.

    46

  • Monitro cymwysterau galwedigaethol

    Rydym wedi bod yn monitro’r camau i roi cymwysterau diwygiedig Sgiliau Hanfodol Cymru ar waith, a oedd ar gael i’w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2015, yn ofalus. Hyd yma, mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ystod briodol o ddeunyddiau asesu ar gael mewn da bryd i’r dysgwyr cyntaf sy’n cwblhau’r cymwysterau newydd.

    Gwnaethom hefyd gynnwys rhai gweithgareddau monitro sylweddol yn ein gwaith ar yr Adolygiad Sector o gymwysterau a’r system gymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys gofal plant a gwaith chwarae), fel yr adolygiad technegol manwl o’r cymwysterau sy’n denu’r nifer fwyaf o ddysgwyr yn y sector. Gwnaethom adolygu manylebau, deunyddiau asesu a deunyddiau sicrhau ansawdd y cymwysterau hyn yn ogystal â sampl o waith dysgwyr ar wahanol lefelau, mathau o gymwysterau a phynciau.

    Gan edrych i’r dyfodol, rydym wedi bod yn datblygu rhaglen monitro cymwysterau galwedigaethol a gaiff ei rhoi ar waith ochr yn ochr â’r rhaglen o Adolygiadau Sector sydd eisoes ar waith. I gychwyn, bydd y rhaglen fonitro hon yn canolbwyntio ar y cymwysterau hynny â’r nifer uchaf o ddyfarniadau yng Nghymru nad ydynt wedi’u cynnwys yn ein rhaglen arfaethedig o adolygiadau sector.

    Monitro cymwysterau cyffredinol

    Wrth fonitro cymwysterau cyffredinol, rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar brosesau gweithredu a dyfarnu cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru diwygiedig i’w