cyfieithu cymru

38
Cyfieithu Cymru Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr Datblygwyd gan David Chan, Dewi Bryn Jones a Delyth Prys o gomisiwn gwreiddiol gan Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor dan arweiniad y Dr Sylvia Prys Jones

Upload: techiaith

Post on 14-Jan-2015

198 views

Category:

Internet


15 download

DESCRIPTION

 

TRANSCRIPT

Cyfieithu Cymru

Uned Technolegau IaithCanolfan Bedwyr

Datblygwyd gan David Chan, Dewi Bryn Jones a Delyth Prys o gomisiwn gwreiddiol gan Uned Gyfieithu Prifysgol Bangor dan

arweiniad y Dr Sylvia Prys Jones

CyfieithuCymru/TranslateWalesNodweddion Unigryw

1. System gyfun ar gyfer rheoli llif gwaith cyfieithu rhwng cwsmeriaid, gweinyddwr a chyfieithwyr

2. Cyfleustra i deipio darn byr i’w gyfieithu’n sydyn yn y rhyngwyneb heb orfod mynd trwy’r holl gamau prosesu

3. Amgylchedd cyfieithu cyflawn i gyfieithwyr• cof cyfieithu (dewis o gofion gwahanol)• brasgyfieithu peirianyddol• geirfaoedd personol/corfforaethol• Cysill yn integredig wrth i chi deipio

4. Yn gweithio dros y we “yn y cwmwl”

• Mae'r diwydiant cyfieithu yn sector sylweddol a chymharol newydd yn economi Cymru.

• Mae’r diwydiant yn cynnal ac yn cefnogi gwasanaethau sy'n cael eu darparu'n ddwyieithog yng Nghymru, ac yn cynorthwyo sectorau eraill o economi Cymru i allforio eu nwyddau a’u gwasanaethau yn y farchnad fyd-eang.

• Yr unig system sy’n benodol i’r Gymraeg ac i’r farchnad Gymraeg yw CyfieithuCymru. Prif amcan CyfieithuCymru felly yw, ateb gofynion y Cymry Cymraeg, a chyfieithwyr sy’n gweithio’n bennaf gyda’r Gymraeg a’r Saesneg fel parau iaith.

Cefndir

• Ers iddi gael ei sefydlu yn 1993, mae gweithgareddau'r Uned Technolegau Iaith wedi dod â hi i gysylltiad â'r defnydd o dechnolegau iaith yn y diwydiant cyfieithu yng Nghymru a ledled y byd.

• Mae rhai o aelodau’r uned hefyd yn aelodau o'r cyrff rhyngwladol y mae'r diwydiant yn eu cydnabod fel rhai sy'n gyfrifol am safoni yn y farchnad gyfieithu fyd-eang.

Arbenigedd yr Uned Technolegau Iaith

• Mae'r uned hefyd yn gweithio gyda'r sector breifat i ddatblygu offer iaith a chyfieithu er mwyn gwella eu gallu i gystadlu'n economaidd.

• Mae wedi defnyddio'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) fel mecanwaith i helpu diwydiant. Mae'r rhaglen KTP wedi galluogi cwmnïau cyfieithu preifat yng Nghymru i ddatblygu offer i ateb eu hanghenion technolegol eu hun.

• Galluogodd y KTP cyntaf o'r fath, gyda cwmni cyfieithu lleol, sydd â'i bencadlys yng Nghaernarfon, y cwmni i gyflwyno rheolaeth termau ac amgylchedd technoleg cyfieithu wedi'u llunio'n unswydd, i'w amgylchedd ei hun, sydd yn fantais amhrisiadwy.

• Mae’r Uned yn deall anghenion y sector cyfieithu yng Nghymru, a mae llawer iawn o ymchwil ac o o waith asesu wedi ei gynnal gan yr uned.

Llwyddiant yr Uned Technolegau Iaith

Manteision y system gyfieithu• Un o brif fanteision system o’r fath yw’r arbedion

amser. Mae gwahanol amcangyfrifon wedi'u rhoi ar yr arbedion amser a geir drwy'r defnydd o dechnoleg cyfieithu.

• Mewn gwirionedd mae'r arbedion yn dibynnu ar y dechnoleg a ddefnyddir a'r math o ddogfennau a gyfieithir.

• Ystyrir bod cyfartaledd arbediad o 40% mewn amser a chost yn rhesymol yn y diwydiant ar brojectau cyfieithu ailadroddus, os defnyddir yr offer a'r adnoddau cyfieithu technegol perthnasol.

• Cynyddu’r gallu i gyfieithu o 40%, ac arbed 20% mewn amser gweinyddol, heb unrhyw gynnydd mewn lefelau staffio, drwy ddefnyddio technoleg cyfieithu priodol, megis CyfieithuCymru.

Mantais 2

Mae Gwell Offer Technoleg Cyfieithu ar gyfer y Diwydiant Cyfieithu yn golygu datblygu a darparu adnoddau megis:• terminoleg gymwys, • geiriaduron, • gwirwyr sillafu a gramadeg, • systemau ac ychwanegion cof cyfieithu, • meddalwedd cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur, • systemau rheoli llif gwaith a'r holl gymhorthion cyfieithu technolegol

newydd.

Dyma yn union mae CyfieithuCymru yn ei gwmpasu, ac yn ei sicrhau i’r cwsmeriaid. Mae’n arf gwerthfawr, sy’n cynnwys mwy nag un nodwedd unigryw.

Mantais 3

Mantais 4• Mae rhannu cofion a gwaith gyda chyd-gyfieithwyr

yn un o nodweddion unigryw systemau cof cyfieithu.

• Drwy rannu cofion, mae’n arbed gorfod ail gyfeithu ymadroddion sydd eisioes wedi eu cyfieithu gan gyfieithwyr.

• Mae’n bosibl i gyfeithwyr weithio o adref neu o bell, gan mai’r cyfan sydd arnynt ei angen yw cysylltiad â’r we.

• Dim angen llwytho neu osod unrhyw feddalwedd neu raglen er mwyn gallu ei ddefnyddio. O ganlyniad mae pawb yn gallu defnyddio’r system a hynny ar y we.

• Diolch i’r system o’r fath bydd gwaith a thargedau yn parhau i’w cael eu cyrraedd.

Mantais 5

Mae tri math gwahanol o ddefnyddiwr yn defnyddio’r system hon gyda’i gilydd. CwsmerMae CWSMERIAID yn defnyddio’r system i yrru gwaith at y cyfieithwyr i gael ei gyfieithu neu ei olygu ac i dderbyn y gwaith yn ôl wedi’i gwblhau.

GweinyddwrMae GWEINYDDWYR yn defnyddio’r system i reoli’r llif gwaith. Nhw sy’n derbyn y cais i wneud darn o gyfieithu neu olygu ac yn ei ddosbarthu i wahanol gyfieithwyr. Maent hefyd yn medru cyfieithu darnau byrion eu hunain yn y fan a’r lle a’u dychwelyd yn uniongyrchol at y cwsmer.

CyfieithyddGwneud un o ddau beth• Tynnu dogfennau’r project dan sylw o’r system er mwyn eu cyfieithu â llaw neu gyda system amgylchedd cyfieithu gwahanol, gan lwytho’r cyfieithiadau gorffenedig yn ôl i’r system i’w dychwelyd at y cwsmer.• Agor dogfennau’r project o fewn y system a defnyddio’r cyfleusterau cof cyfieithu sydd yn y system (Cyfieithyn) gyfieithu’r dogfennau. Unwaith eto, bydd yn defnyddio’r system i ddychwelyd y dogfennau at y cwsmer ar ôl cwblhau’r gwaith cyfieithu.

Llwyfan cyffredin i gwsmeriaid, gweinyddwyr a chyfieithwyr

Cwsmer yn llwytho’r gwaith i’r system

Dewis cyfieithu dogfennau neu ddarnau byr

Dewis y math o waith

• Mae CyfieithuCymru yn galluogi defnyddwyr i reoli llif gwaith yn effeithiol, gyda ‘r gweinyddwr yn bennaf gyfrifol am ddosbarthu a dyrannu gwaith.

• Yn ychwanegol i hyn er mwyn cynorthwyo’r sefydliad i wybod faint o waith cyfieithu sy’n mynd drwy’r system mewn cyfnod penodol, ac o dan pa bennawd a chategori, mae dewislenni yno i fireinio’r adrodd am y gwahanol fathau o gyfieithu.

• Mae’n bosibl felly cael ystadegau pendant ar y math o gyfieithu a nifer o gyfieithiadau y mae sefydliad yn ymgymryd â hwy.

System rheoli llif gwaith: Gweinyddwr yn dosbarthu gwaith a gweld statws projectau unigol

Lliwiau yn dynodi statws y ddogfen

Gwyn- DerbyniwydMelyn-Dangos bod y gweinyddwr wedi derbyn y gwaithGwyrdd- Gwaith wedi ei gwblhauLlwyd-Caewyd

Cyfieithydd yn dewis cofion a geirfa

Dogfen yn barod i’w chyfieithu

Un nodwedd manteisiol arall i’r cyfieithwyr yw bod fersiwn o Cysill a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith yn gweithio’n awtomatig o fewn y system cof cyfieithu, sy’n hynod o ddefnyddiol os mai Cymraeg yw’r iaith darged.

Mae’n dangos gwallau teipio neu wallau gramadeg yn ystod y broses sydd heb os yn arbed amser prawfddarllen y cyfeithydd ac yn fodd o gynnal safonau y sefydliad. Gwelir fod gwall teipio ‘cwricwlwm’ isod, a bod y gwall yn cael ei amlygu.

Gwirio sillafu a gramadeg o fewn y system

Creu a gweld Rhagolwg

Drwy bwyso’r botwm ‘Gweld’ mae’n bosibl gweld ffurf y ddogfen a hynny yn ei gyfanrwydd.

• Mae’n bosibl cael mwy nag un cof yn y system.

• Yn ogystal a hyn, mae bosibl dewis os ydych yn dymuno darllen o’r cof neu ysgrifennu’n unig, neu gwneud y ddau. Cofier yn ogystal bod modd i chi ddefnyddio mwy nag un cof, os y bydd cyfieithydd yn teimlo bod mwy nag un cof yn berthnasol i bwnc neu faes y ddogfen sydd angen ei chyfieithu, bydd hyn o fewn rheswm yn help i gael gwell canlyniadau.

Amglychedd cyfieithu gyda chofion cyfeithu

Enghreifftiau’n unig yw’r rhestr o gofion cyfieithu isod, ac mewn gwirionedd bydd pob corff neu sefydliad yn llunio ei gof cyfieithu ei hun.

Cofion cyfieithu

Enghraifft o ddau gof

• Mae CyfieithuCymru yn cynnig cyfieithiad peiranyddol pur ar waelod y rhestr o gynigion cyfieithu.

• Yna os nad oes cynigion yn ymddangos o’r cofion cyfieithu, o leiaf bydd cyfieithiad peirianyddol yn fan cychwyn i’r cyfieithydd wneud gwaith pellach er mwyn cael cyfieithiad boddhaol.

• Bydd modd hefyd cael prif eirfa y frawddeg ynghyd a thermau allweddol yn y modd hwn.

Cyfieithu Peirianyddol

• Nodwedd arall hynod o ddefnyddiol yw’r Gerifaon.

• Mae’r geirfaon yn cael eu cynhyrchu gan y sefydliad ei hun. Diben geirfaon yw darparu geirfa fewnol sy’n allweddol i’r sefydliad neu i’r corff, yn enwedig lle bo angen rhannu geiriau allweddol rhwng fwy nag un cyfieithydd. Mae’n fodd o sicrhau cysondeb sy’n angenrheidiol pan bydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar un dogfen hir.

• Mae hefyd yn ddefnyddiol i arbed gorfod teipio ymadroddion hir sy’n gallu bod yn llafurus e.e. teitlau cyrsiau neu sefydliadau, gan fod modd clicio ar gofnod a’i ollwng yn syth i mewn i’r cyfieithiad. Gellid hefyd gael mwy nag un geirfa at wahanol ddibenion o fewn sefydliad.

Geirfaon

• Mae CyfieithuCymru yn galluogi chi i ddewis prun ai ydych chi’n dymuno cyfieithu o fewn y system cof cyfieithu (Cyfieithyn), neu ei dynnu allan i’w gyfieithu y tu allan i’r system.

• Os nad yw’r cyfieithydd yn mynd i ddefnyddio’r system cof cyfieithu i wneud y gwaith, gall ddewis y gwaith i’w gyfieithu, ac yna glicio ar ‘Lawrlwytho’ i dynnu’r ddogfen/dogfennau allan i’w cyfieithu â llaw.

• Mae hyblygrwydd y system felly yn un o’i chryfderau, ac nid ydych yn cael eich caethiwo i gyfieithu o fewn y system fel yn achos rhai systemau cyfieithu.

Unwaith y bydd y cyfieithydd yn cychwyn ar y broses gyfieithu ei hun, mae nifer o fotymau y mae modd clicio arnynt i hwyluso gweithredoedd gwahanol:

Nesaf: Drwy bwyso ar y botwm yma byddwch yn symud i’r segment nesaf.

Nodweddion defnyddiol yn ystod y broses gyfieithu

Awtogyfieithu- defnyddir y botwm yma er mwyn i’r system roi cyfieithiad yn y blwch heb i’r cyfieithydd orfod gwneud hyn os yw’r cyfieithiad yn y cof yn cyfateb yn hollol i’r gwreiddiol.

Blaenorol- Defnyddir y botwm yma i symud yn ôl at y segment cynt os yw’r cyfieithydd eisiau gweld neu newid rhywbeth yn hwnnw eto.

Adfer- Defnyddir y botwm yma i newid rhywbeth yn ôl i’r hyn ydoedd cyn y weithred olaf i gael ei gwneud.

Cau- Defnyddir y botwm yma er mwyn cau’r ddogfen a chadw drafft ohono.

Copïo’r Gwreiddiol- Defnyddir y botwm yma i gopïo yr hyn oedd yn y gwreiddiol yn y blwch cyfieithiad. Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol i arbed aildeipio os mai rhestr o enwau pobl neu destun arall nad oes angen ei gyfieithu sydd yn y segment gwreiddiol.

Ychwanegu i’r Eirfa- Defnyddir y botwm yma er mwyn rhoi geiriau newydd yn yr Eirfa lle rhoddwyd tic wrth ochr y nodwedd ‘Ysgrifennu’ yn Gosodiadau’r Project.

Uno â’r segment nesaf- Defnyddir y botwm yma er mwyn i’r cyfieithydd fedru uno dau segment lle mae’n barnu fod y darn fel yr holltwyd ef yn fyr i wneud uned ystyrlon i’w chyfieithu.

Daduno- Defnyddir y botwm yma er mwyn i’r cyfieithydd fedru hollti segment yn ddau lle mae’n barnu fod y segment yn rhy hir neu wedi’i gamrannu.

Mae CyfieithuCymru yn galluogi’r cyfieithwyr i yrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer, drwy glicio’r botwm “Anfon at y cwsmer”.

Ond os bydd y cyfieithydd yn dymuno gweld y cyfieithiad yn ei gyfanrwydd cyn gyrru’r gwaith yn ôl, mae’n bosibl clicio ar y botwm ‘Creu’ er mwyn gwneud hynny. Bydd hyn yn hynod o ddefnyddiol pan bydd fformatio cymhleth, er mwyn sicrhau bod y fformatio yn adlewyrchu’r fformatio gwreiddiol.

Mae’r system yn sicrhau nad yw’n bosibl gyrru’r ffeil anghywir yn ddamweiniol, sy’n gallu bod yn broblemus mewn rhai sefydliadau.

Mae’r camau y soniwyd amdanynt yn arbed gwaith i’r Gweinyddwr, gan fod y cyfieithydd ei hun yn gallu gyrru’r gwaith yn uniongyrchol at y cwsmer.

Wedi gorffen y cyfieithiad?

System bersonol a pherthnasol

• Mae’n bosibl cael cyfeiriad gwe personol ar gyfer eich system, sydd yn fantais aruthrol i sefydliadau.

• Mae’n bosibl hefyd gwneud y system yn fwy penodol i chi fel sefydliad, drwy roi eich logo ar frig y system, sy’n fodd o brandio’r system.

Cefnogaeth technegol a thrwyddedu

• Mae’r system yn cael ei thrwyddedu yn ôl nifer cyfieithwyr a gweinyddwyr, a hynny fesul blwyddyn.

• Mae hyn yn darparu a chynnwys cefnogaeth technolegol sylfaenol.

• Nid oes pris trwyddedu sydd yn cael ei sylfaenu yn ôl niferoedd y cwsmeriaid.

Eisiau rhagor o wybodaeth?

Cysylltwch ag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ar [email protected].