cyngor sir ddinbych denbighshire county council sir...2001/03/27  · y sir, y fflint ar ddydd llun...

152
_______________________________________________ COFNODION o weithrediadau'r Pwyllgorau a'r Cyngor am y tymor 16 Ionawr 2001 - 27 Mawrth 2001 _______________________________________________ CYNGOR Sir Ddinbych Denbighshire COUNTY COUNCIL

Upload: others

Post on 19-Feb-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • _______________________________________________

    COFNODION

    o weithrediadau'rPwyllgorau a'r Cyngor

    am y tymor

    16 Ionawr 2001 - 27 Mawrth 2001

    _______________________________________________

    CYNGORSir DdinbychDenbighshireCOUNTY COUNCIL

  • Y GYFROL COFNODION

    Cofnodion y Pwyllgorau ac Is-Bwyllgorau canlynol :-

    588 - 592..........06 Mawrth 2001Cabinet ..............................................................................

    585 - 587..........01 Mawrth 2001Panel Cartrefi Plant a Gofal Preswyl .................................

    582 - 584..........28 Chwefror 2001 Pwyllgor Archwilio Gwerth Gorau .....................................

    576 - 581..........28 Chwefror 2001 Pwyllgor Cynllunio ............................................................

    566 - 575..........27 Chwefror 2001Cyngor ...............................................................................

    561 - 565..........22 Chwefror 2001Cabinet ..............................................................................

    557 - 560..........21 Chwefror 2001Pwyllgor Archwilio Gwasanaethau Personol .....................

    553 - 556..........21 Chwefror 2001Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol......................................

    549 - 552..........20 Chwefror 2001Pwyllgor Archwilio Dysgu Gydol Oes ................................

    546 - 548..........20 Chwefror 2001Pwyllgor Archwilio Adnoddau ............................................

    537 - 545..........14 Chwefror 2001Panel Trwyddedu ..............................................................

    531 - 536..........13 Chwefror 2001* * Cyngor..........................................................................

    529 - 530...........12 Chwefror 2001Panel Archwilio Arbennig...................................................

    524 - 528..........07 Chwefror 2001CYSAG ..............................................................................

    517 - 523..........06 Chwefror2001Cabinet ..............................................................................

    513 - 516..........01 Chwefror 2001Panel Cartrefi Plant a Gofal Preswyl .................................

    508 - 512..........01 Chwefror 2001Grwp Llywio Trosedd ac Anrhefn ......................................

    505 - 507..........31 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Gwerth Gorau ......................................

    496 - 504..........31 Ionawr 2001Pwyllgor Cynllunio .............................................................

    493 - 495..........25 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Adnoddau ............................................

    489 - 492..........24 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Gwasanaethau Personol .....................

    484 - 488..........24 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol ......................................

    480 - 483..........23 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Dysgu Gydol Oes ................................

    472 - 479..........23 Ionawr 2001Cabinet ..............................................................................

    470 - 471..........17 Ionawr 2001Archwilio............................................................................

    463 - 469..........16 Ionawr 2001Cyngor...............................................................................

    461 - 462..........12 Ionawr 2001Pwyllgor Archwilio Adnoddau Arbennig .............................

    457 - 460..........09 Ionawr 2001Cabinet ..............................................................................

    451 - 456..........09 Ionawr 2001Panel Iechyd, Diogelwch a Lles.........................................

    448 - 450..........04 Ionawr 2001Panel Cartrefi Plant a Gofal Preswyl .................................

    446 - 447..........20 Tachwedd 2000Cyd Fwrdd Amaethyddol Dinbych a Fflint .........................

    443 - 445..........23 Hydref 2000Cyd Fwrdd Amaethyddol Dinbych a Fflint .........................

    Tud.

    * Cofnodion y Cyngor a gynhaliwyd ar 16eg Ionawr 2001 ac a gymeradwywyd gan y Cyngor mewn cyfarfod ar 13Chwefror 2001.

    ** Cofnodion y Cyngor a gynhaliwyd ar 13eg Chwefror 2001 ac a gymeradwywyd gan y Cyngor mewn cyfarfod ar 27Chwefror 2001.

  • CYD-FWRDD AMAETHYDDOL SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT

    Cofnodion cyfarfod o Gyd-Fwrdd Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a gynhaliwyd yn Swyddfeydd y Sir, YFflint, ar Ddydd Llun 23ain Hydref 2000.

    YN BRESENNOL

    Sir Ddinbych - Y Cynghorwyr D. Jones, G. Jones, R. Jones, S. Thomas, ynghyd â Mr S. M. Williams (RheolwrGrwp-Eiddo).

    Sir y Fflint - Y Cynghorwyr E.F. Evans (Cadeirydd), J.F. Jones , G.B. Roberts, K. Jones (Dirprwy ar ranD. Darlington), ynghyd â Mr D. Batchelor (Stiward Tir), Mr R. Taylor (Pennaeth Gwasanaethau Technegol),Mr A. Smith (Rheolwr Asedau Eiddo), a Mr P. Evans (Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir a Dirprwy SwyddogMonitro).

    YMDDIHEURIADAU

    Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorydd D. Darlington.

    912. COFNODION

    (i) Roedd Cofnodion cyfarfod Cyd-Fwrdd Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gynhaliwyd arddydd Llun 10fed Gorffennaf 2000, wedi’u cylchlythyru gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10fed Gorffennaf 2000 felrhai cywir.

    (ii) Roedd Cofnodion cyfarfod Cyd-Fwrdd Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gynhaliwyd arddydd Llun 17eg Gorffennaf 2000, wedi’u cylchlythyru gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Gorffennaf 2000 felrhai cywir.

    (iii) Roedd Cofnodion cyfarfod Cyd-Fwrdd Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gynhaliwyd arddydd Llun 31ain Gorffennaf 2000, wedi’u cylchlythyru gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

    Yn codi ohonynt:-

    Eitem 4 - Ffermydd Maesgwyn a Brookfield - Cyn-Denantiaid - Mri. Parish - Gofynnodd yCynghorydd Selwyn Roberts fod datganiad Mr Evans 'y gallai methiant y Bwrdd i roicynrychiolaeth i denantiaid arwain at iddynt fod yn euog o gamweinyddiad' i’w ychwanegu at ycofnodion.

    Eitem 4 - Ailosod Fferm Ty'n y Pistyll, Bagillt - Cyfweliad - Roedd y Stiward Tir wedi caelanhawster wrth gysylltu â’r ymgeiswyr i’w hysbysu o benderfyniad y Bwrdd. Cytunwyd y dylidsicrhau bod rhif cysylltu ar gael yn y dyfodol.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31ain Gorffennaf 2000 felrhai cywir.

    913. EITEMAU BRYS

    Yn unol â gofynion Adran S100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod ynbwriadu cynnwys yr eitem ganlynol, a oedd ag angen sylw brys, i’w thrafod:-

    Fferm Pydew - Tân - Cwmnïau Yswiriant priodol yn ymgynghori.

    Stad Amaethyddol yn Gyffredinol - mae’r Aelodau’n bryderus bod penderfyniadau ynghylch y Stadauyn cael eu gwneud ar lefel y Cabinet. Cynigiwyd bod cyfarfod i’w drefnu ar lefel Uwch a bod sylwadau

    443

  • i’w gwneud ynghylch cyfranogiad y Bwrdd. Mae’r Polisi Derbyniadau i’w adolygu, ond mae heb ei newidar hyn o bryd.

    914. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’rcyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaetheithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 7 Atodlen 12A y Ddeddf.

    915. FFERM MAESGWYN A BROOKFIELD

    Cyflwynodd Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir a Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad i ystyried trefn yBwrdd yn unol â phenderfyniad y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 31ain Gorffennaf 2000. Trafododd y Bwrdd yradroddiad a’r oblygiadau i benderfyniadau polisi yn y dyfodol.

    PENDERFYNWYD bod y Bwrdd yn diddymu’r penderfyniad a wnaed ganddo ar y 10fed Gorffennaf ac ynystyried y mater o’r newydd ar ôl gwahodd y Tenantiaid i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn cael eu dilyngan sylwadau llafar mewn Cyfarfod Arbennig sydd i’w drefnu.

    916. MOOR FARM HOLYWAY - MAST TELEDU

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Mae gan NTL brydles 21 mlyneddar Moor Holway i ddarparu mast teledu sy’n gwasanaethu ardal Treffynnon ac maent wedi gofyn am sêlbendith i lunio cytundeb rhannu safle gyda gweithredydd telathrebu. Bydd hyn yn gofyn amuwchraddio’r mast ac am dir ychwanegol. Ymgynghorwyd â’r tenant ac mae’n fodlon ildio’r tirychwanegol. Byddai’r Cyngor Sir a thenant Moor Farm yn cael incwm ychwanegol o rannu’r safle.

    PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n argymell bod Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol a Thai ynystyried defnyddio ei bwerau dirprwyedig i amrywio’r brydles bresennol gyda NTL, i gynnwys y tir syddwedi’i linellu ar gynllun FA0017, yn ymestyn i 62.4 m² neu tua hynny, ar yr amod bod NTL yn caelcaniatâd cynllunio.

    917. ÔL-DDYLEDION RHENT

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn hysbysu’r Aelodau o lefelbresennol ôl-ddyledion rhent ar Stadau Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Trafododd yr aelodau yradroddiad, a chanmolodd y Cynghorydd David Jones y Swyddogion ar eu diwydrwydd wrth lleihau’rôl-ddyledion.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cydnabod lefel ôl-ddyledion rhent ac yn awdurdodi Swyddogion igymryd camau fel y bo angen i gasglu’r holl rent sy’n ddyledus. Ategodd yr Aelodau Rybudd i Ymadaelar ddaliad yn Sir Ddinbych ond gan roi cyfle i’r tenant wneud sylwadau ysgrifenedig, yn cael eu dilyn gansylwadau llafar, i’r Bwrdd.

    918. TIR YN GLANMEIRCHION, SIR DDINBYCH

    (Cyhoeddodd y Cynghorydd D. Jones ddiddordeb yn yr eitem a gadawodd yr ystafell).

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn gofyn am sêl bendith yrAelodau i ailosod 12.77 acer o dir yn Glanmeirchion Dinbych i naill ai Mr D Jones, Fferm Penronne neuMr Ll. Edwards, Tanymarian. Trafododd yr Aelodau yr opsiynau a gyflwynwyd iddynt.

    PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Bwrdd yn dyfarnu Tenantiaeth Busnes Fferm tymor byr o 12.77 acer odir yn Ninbych, o’r 1af Tachwedd 2000 i Mr. Ll. Edwards, Tanymarian.

    (Yna dychwelodd y Cynghorydd D. Jones i’r cyfarfod).

    444

  • 919. GELLI FOWLER - CYNHYRCHU LLAETH

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Aelodau o’r sefyllfa ynGelli Fowler wedi i’r tenant roi’r gorau i gynhyrchu llaeth. Ystyriodd y Bwrdd y ddau opsiwn aargymhellwyd iddynt.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n ailddatgan penderfyniad cyfarfod y Cyd-Fwrdd Amaethyddol ar y10fed Gorffennaf 2000, ac yn gwahodd y Tenant i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn cael eu dilyn gansylwadau llafar mewn Cyfarfod Arbennig sydd i’w drefnu.

    920. LYNDON FARM SALTNEY - CYNHYRCHU LLAETH

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn hysbysu’r Aelodau na alltenant Lyndon Farm Saltney ailddechrau cynhyrchu llaeth oherwydd salwch.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cydnabod y sefyllfa yn Lyndon Farm, ac yn awdurdodi Swyddogion igymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y tenant yn ffermio’r daliad yn unol â thelerau’r cytundebtenantiaeth.

    921. COED DU, HENDRE - CYNHYRCHU LLAETH

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn hysbysu’r Aelodau ybydd tenant fferm Coed Du yn rhoi’r gorau i gynhyrchu llaeth oherwydd salwch.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cydnabod y sefyllfa yn Coed Du, ac yn awdurdodi Swyddogion igymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod y tenant yn ffermio’r daliad yn unol â thelerau ei gytundebtenantiaeth.

    922. DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

    Ar Ddydd Llun 6ed Tachwedd am 2.00pm yn Swyddfeydd y Sir, Y Fflint, cynhelir Cyfarfod Arbennig ermwyn caniatáu i sylwadau llafar gael eu gwneud i’r Bwrdd.

    Daeth y cyfarfod i ben 4.20 p.m.

    ************

    445

  • CYD-FWRDD AMAETHYDDOL SIR DDINBYCH A SIR Y FFLINT

    Cofnodion cyfarfod arbennig o Gyd-Fwrdd Amaethyddol Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a gynhaliwyd yn Swyddfeyddy Sir, Y Fflint ar Ddydd Llun 20fed Tachwedd 2000.

    YN BRESENNOL

    Sir Ddinbych - Y Cynghorwyr D. Jones, G. Jones, R. Jones, S. Thomas, ynghyd â Mr S. M. Williams (RheolwrGrwp-Eiddo), a Mr Dewi Hughes.

    Sir y Fflint - Y Cynghorwyr J.F. Jones (Cadeirydd), D. Darlington, E.F. Evans, G.B. Roberts, ynghyd âMr D. Batchelor (Stiward Tir), Mr R. Taylor (Pennaeth Gwasanaethau Technegol), a Mr P. Evans (YsgrifennyddCynorthwyol y Sir a Dirprwy Swyddog Monitro).

    923. EITEMAU BRYS

    Yn unol â gofynion Adran S100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod ynbwriadu cynnwys yr eitem ganlynol, a oedd ag angen sylw brys, i’w thrafod.

    924. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’rcyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaetheithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 7 Atodlen 12A y Ddeddf.

    925. FFERMYDD MAES GWYN A BROOKFIELD

    Cyflwynodd y Stiward Tir yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cefndir i’r eitem a chynigiodd dri opsiwn i’rAelodau eu hystyried. Cynghorodd Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir a Swyddog Monitro yr Aelodau iystyried yr opsiynau o’r newydd ar ôl iddynt glywed sylwadau gan y Tenantiaid, ac y dylai’r holl Aelodaugael y cyfle i holi’r tenantiaid.

    Yna gwahoddwyd y cyn-Denant (Hyn), a oedd ar ei ben ei hun, i’r cyfarfod.

    Cyflwynodd y Stiward Tir y cyn-Denant i’r Aelodau, a chroesawodd y Cadeirydd ef i’r cyfarfod adarparodd gopi o’i lythyr dyddiedig 18fed Medi 2000. Eglurodd y Tenant y cefndir i’r sefyllfa bresennol.Yna holodd yr Aelodau ef gan ofyn am eglurhad ar amrywiol faterion, a mynegi eu pryder ynghylch ysefyllfa bresennol. Diolchodd y Cadeirydd i’r Tenant am ddod i’r cyfarfod a rhoddodd wybod iddo ybyddai’n cael ei hysbysu o benderfyniad y Bwrdd maes o law. Gadawodd y tenant y cyfarfod.

    Mynegodd yr Aelodau eu pryder bod Mr Parish wedi mynychu’r cyfarfod ar ei ben ei hun (o ystyried eiafiechyd diweddar) a thrafodasant y cyfweliad a’r opsiynau.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n caniatáu i gyn-denantiaid Ffermydd Maesgwyn a Brookfielddenantiaeth tymor sefydlog ar y cyd (tan Ben-blwydd y Cyn-Denant Hyn yn 65) ar Maesgwyn, (ar yr amodbod yr elw modd sy’n ddyledus yn cael ei dalu o fewn cyfnod rhesymol a bod rhent yn cael ei dalu dri misymlaen llaw). Pleidleisiodd y Cynghorwyr David Jones a Selwyn Thomas yn erbyn y penderfyniad.

    926. GELLI FOWLER, BRYNFORD

    Amlinellodd y Stiward Tir y cefndir i’r eitem hon a oedd (yn dilyn penderfyniad cyfarfod blaenorol yBwrdd) i ystyried sylwadau llafar gan denant Gelli Fowler. Cynghorodd Ysgrifennydd Cynorthwyol y Sir aSwyddog Monitro yr Aelodau i ystyried yr opsiynau ar ôl iddynt glywed sylwadau gan y Tenant, ac ydylai’r holl Aelodau gael y cyfle i holi’r tenant.

    Gwahoddwyd y Tenant a’i asiant i’r cyfarfod.

    446

  • Cyflwynodd y Stiward Tir yr Aelodau, a chroesawodd y Cadeirydd hwy i’r cyfarfod. Anerchodd y Tenanta’i Asiant y cyfarfod gan amlinellu’r cefndir a’r cynlluniau ar gyfer y fferm yn y dyfodol. Yna holodd yrAelodau hwy gan ofyn am eglurhad ar amrywiol faterion, a mynegi eu pryder ynghylch y sefyllfabresennol. Mynegodd y Tenant ei ddiddordeb mewn comisiynu adroddiad yn ymchwilio i ddewisiadaueraill posibl ar gyfer creu incwm ar y fferm. Diolchodd y Cadeirydd i’r Tenant a’r Asiant am ddod i’rcyfarfod a chadarnhaodd y byddai’n cael ei hysbysu o benderfyniad y Bwrdd maes o law. Gadawodd yTenant a’r Asiant y cyfarfod.

    Trafododd yr Aelodau y cyfweliad a’r opsiynau a oedd ar gael.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cadw’r polisi a gytunwyd yn flaenorol (mewn perthynas â bodrhagdybiaeth o blaid parhau cynhyrchu llaeth) a gwahodd y Tenant i gynhyrchu adroddiad ar ei fenter eihun i’w gyflwyno erbyn 15fed Rhagfyr 2000. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod yBwrdd ar 10ed Ionawr 2001 am benderfyniad terfynol.

    927. FFERM WERN FAWR, CAERWYS

    Anerchodd y Stiward Tir y Bwrdd ac amlinellodd y sefyllfa bresennol ar y Fferm. Oherwydd y glaw trwmdiweddar roedd y tir dan lawer o ddwr ac roedd pympiau’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i geisiolliniaru’r broblem. Roedd y Tenant (a oedd ar ei ben ei hun) wedi’i wahodd i fod yn bresennol yn ycyfarfod i drafod y sefyllfa a chamau pellach posibl.

    Gwahoddwyd y Tenant i’r cyfarfod.

    Cyfleodd y Cadeirydd gydymdeimlad y Bwrdd ynghylch y problemau presennol.

    Rhoddodd Mr ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol ac atebodd gwestiynau gan yr Aelodau. Hefyddosbarthodd lythyr yr oedd wedi’i dderbyn gan ei filfeddyg yn mynegi ei bryder ynghylch lles a chyflwr yranifeiliaid. Yna trafodwyd opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cytuno y dylid parhau i ddefnyddio’r pympiau ar y fferm, ac iswyddogion ymchwilio i gynllun draenio tir a chynhyrchu adroddiad hyfywedd ar gyfer cyfarfod yn ydyfodol.

    Daeth y cyfarfod i ben 5.40 p.m.

    **********

    447

  • PANEL CARTREFI PLANT A GOFAL PRESWYL

    Cofnodion cyfarfod o’r Panel uchod gynhaliwyd ddydd Iau, 4 Ionawr 2001 am 10.00 a.m.

    PRESENNOL

    Cynghorwyr A.E. Fletcher-Williams (Cadeirydd), P. Dobb, K.N. Hawkins, M M Jones, R.J.R. Jones (arsylwi), aA.J. Tobin.

    PRESENNOL HEFYD

    Pennaeth yr Uned Gofrestru ac Archwilio, a swyddogion eraill gan gynnwys C.I. Williams.

    YMDDIHEURIADAU

    Cynghorydd J. Butterfield J R Hughes, P M Jones a’r Cyfreithiwr Addysg a Gwas Cymdeithasol

    928. COFNODION

    Cylchredwyd copi o Gofnodion 07/12/2000.

    Materion yn codi:-

    6. (i) Plas Melyd, 16 Ffordd Tanrhallt, Meliden, Prestatyn

    Dywedodd Pennaeth yr Uned Gofrestru ac Archwilio nad yw’r gwaith a wnaed yn y Cartref wedi eigwblhau. Rhoddir adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.

    929. EITEMAU BRYS

    Ni ystyriwyd unrhyw eitemau y dylid ym marn y Cadeirydd eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yndilyn Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 .

    (i) The Meadows, Fachen Hall, Waen, Llanelwy.

    930. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD o dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 gwahardd y Wasg a'rCyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem(au) busnes canlynol oherwydd gall olygu datgelu gwybodaetheithriedig iddynt fel a ddiffinir ym mharagraff 7, Rhan 1, Rhestr 12A, Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

    931. COFRESTRU CARTREFI COFRESTREDIG PREIFAT A GWIRFODDOL - DEDDF CARTREFICOFRESTREDIG, 1984

    Ystyriwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (amgaewyd copi):-

    (i) Pengwern College, Rhuddlan, Rhyl - cais gan The Royal Society for Mentally HandicappedChildren and Adults am amrywio cofrestru i gynyddu o 27 i 34.

    Fel ateb i gwestiwn am union leoliad yr ystafelloedd newydd o fewn Pengwern Hall, cytunoddswyddogion i gyflwyno adroddiad pellach sy’n cynnwys y wybodaeth yma i gyfarfod o’r Panelyn y dyfodol .

    PENDERFYNWYD:-

    (a) cymeradwyo’r cais a rhoi Tystysgrif Cofrestru adolygedig a

    448

  • (b) cyflwyno adroddiad pellach sy’n cynnwys y wybodaeth yma i gyfarfod y dyfodol o’r Panel.

    932. CEISIADAU GOFALWYR PLANT, MEITHRINFEYDD A GRWPIAU CHWARAE A NEWID AMODAU

    Ystyriwyd adroddiadau y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (amgaewyd copi) ar :-

    (i) The Fun Factory After School Club, Llanrhaeadr Y.C., Bro Cinmeirch C.P., Llanrhaeadr - Caisam gymeradwyo cofrestru Gwasanaeth Gofal Dydd Sesiynol i fwyafswm o 16 o blant.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi Tystysgrif Cofrestru adolygedig gydagychwanegiadau :-

    (a) bod y person cofrestredig yn cadw at Safonau Lleiafswm Gofal Dydd Llawn SirDdinbych fel a nodir yn y llyfryn “Sessional Day Care' .

    (ii) Mrs Rhonda Bird-Tezeren, 11 Islwyn Avenue, Rhyl - Cais am gymeradwyo newid cofrestriad anewid enw o Mrs Rhonda Bird i Mrs Rhonda Bird-Tezeren a newid cyfeiriad o 1 Groome Avenue,Rhyl i 11 Islwyn Avenue, Rhyl.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi Tystysgrif Cofrestru adolygedig gydagychwanegiadau :-

    (a) bod y person cofrestredig yn cadw at Safonau Lleiafswm Gofal Plant Sir Ddinbych fel anodir yn y llyfryn “Childminding”, a

    (b) bod lle gwahanol wedi ei gau i mewn i gwn yn yr ardd os bydd y person cofrestredig yncadw ci(cwn)

    (iii) Mrs Teresa Williams a Mr David Williams, 2 Grove Park Avenue, Rhyl - cais am gymeradwyoamrywio Cyd Gofrestru i gynyddu’r nifer o fwyafswm o 6 o blant o dan 8, dim mwy na 4 o dan 5oed, hyd fwyafswm o 6 o blant o dan 8, dim mwy na 6 o dan 5 oed a dau ofalwr yn bresennol(gan gynnwys plant eu hunain a wyrion o dan 8 oed).

    PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi Tystysgrif Cofrestru adolygedig gydagychwanegiadau :-

    (a) bod y person cofrestredig yn cadw at Safonau Lleiafswm Gofal Plant Sir Ddinbych fel anodir yn y llyfryn “Childminding”, a

    (b) bod lle gwahanol wedi ei gau i mewn i gwn yn yr ardd os bydd y person cofrestredig yncadw ci(cwn).

    933. GOFALWYR PLANT, MEITHRINFEYDD A GRWPIAU CHWARAE - DILEU GWIRFODDOL ODDI AR YRHESTR GOFRESTREDIG

    PENDERFYNWYD dileu’r canlynol yn wirfoddol :-

    (a) Mrs Morris, 5 Llys Bodnant, Rhyl;

    (b) Mrs Hughes, Inglenook, Pen Rhewl, Llanelwy;

    (c) Mrs Haniewicz, 15 Fairview Avenue, Prestatyn;

    (ch) Cylch Clocaenog, Neuadd yr Eglwys, Clocaenog, Rhuthun, a

    (d) Tots Corner Day Nursery, 13 Dyserth Road, Rhyl.

    449

  • 934. EITEMAU BRYS

    (i) The Meadows, Fachen Hall, Waen, Llanelwy - cais am amrywio’r amodau cofrestru i gynyddu’rnifer o 5 i 8 gwely preswyl. (Cofrestru deuol gyda’r Awdurdod Iechyd).

    PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais a rhoi Tystysgrif Cofrestru adolygedig

    Daeth y cyfarfod i ben am 10.25 a.m.

    **********

    450

  • PANEL IECHYD, DIOGELWCH A LLES CORFFORAETHOL

    Cofnodion cyfarfod o’r Panel Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor,Swyddfeydd y Cyngor, Prestatyn ar Ddydd Mawrth 9fed Ionawr 2001 am 10.10 a.m.

    YN BRESENNOL

    OCHR Y CYFLOGWYR

    Y Cynghorwyr M.A. German, D. Jones, D.A. Thomas a P.O. Williams

    OCHR Y GWEITHWYR

    UNSAIN - Keith RobertsCyd-Bwyllgor Amodau Athrawon Sir Ddinbych - John Thirsk (Cadeirydd) a Trefor Jones

    HEFYD YN BRESENNOL

    Pen Swyddog Personél, Rheolwr Iechyd Galwedigaethol, Swyddog Diogelwch y Sir, Rheolwr GwasanaethauGweinyddu a Swyddog Gweinyddol (Mrs. J.V. Pring)

    YN BRESENNOL FEL YMGYNGHORWYR

    G. Haythorne a C. Foulkes (Cyllid), P. Smith (Cynllunio a Datblygu Economaidd), N. Hobson (GwasanaethauCymdeithasol), A. Dailey (Gwasanaethau Technegol), K. Carter a G. Lord (Gwasanaethau Contract).

    DERBYNIWYD YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB ODDI WRTH

    Y Cynghorwyr A.J. Tobin a G. Williams, Sheila Gardner ac Ian Ellison, UNSAIN, Karen Roberts, CyfarwyddiaethDiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth a Phennaeth Personél.

    935. COFNODION

    Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17eg Hydref 2000 (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) i’whystyried.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a’u harwyddo gan y Cadeirydd.

    Materion yn codi :-

    Cofnod Rhif 620 (iii) - Diogelwch Personol yn y Gwaith. Cylchredwyd adroddiad gan Glerc y Sir i’raelodau yn rhoi gwybod y cafwyd copi o Bolisi Diogelwch Personol Cyngor Telford a Wrekin, ac ybyddai’n cael ei addasu i gyd-fynd ag anghenion Sir Ddinbych. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodhefyd fod Pennaeth Archwilio Mewnol wrthi’n sefydlu tîm cyd-adrannol i yrru’r gofrestr ‘mewn perygl’ ynei blaen ar draws yr awdurdod a’r bwriad oedd y byddai’r grwp hwn yn delio â diogelwch staff a gydadiogelu’r Cyngor a Swyddogion mewn perthynas â rhwymedigaethau sy’n codi dan y Ddeddf DiogeluData.

    Rhoddodd Mr. G. Haythorne wybod y gofynnwyd i Gyfarwyddiaethau enwebu cynrychiolwyr iwasanaethu ar y grwp, erbyn 12fed Ionawr 2001. Mynegodd Mr. Trefor Jones bryder ynghylch yr oediwrth yrru’r mater yn ei flaen a gwnaeth y sylw nad oedd yn ymwybodol y gofynnwyd am unrhywgynrychiolwyr o’r Gyfarwyddiaeth Addysg. Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddu fod y cais amenwebiadau wedi’i anfon at Gyfarwyddwr Gweithredol Addysg, Diwylliant a Gwybodaeth a chytunodd Mr.Jones i fynd ar ôl y mater gydag ef.

    PENDERFYNWYD bod adroddiad cynnydd pellach i’w gyflwyno i gyfarfod nesaf y Panel ar y mater hwn.

    Cofnod Rhif 622 - Hyfforddi Gweithwyr, Plas Brondyffryn, Dinbych - rhoddodd Rheolwr GwasanaethauGweinyddol wybod ei fod wedi cael trafodaethau gyda Phennaeth Gwasanaethau Cwricwlaidd ynghylch

    451

  • y cyllid ychwanegol ar gyfer Ysgol Plas Brondyffryn gan y Cynulliad Cenedlaethol a’r posibilrwydd ogyllid pellach gan Ymddiriedolaeth allanol. Cafwyd gwybod bod y cyllid hwn wedi’i glustnodi ar gyfergwaith cyfalaf, nid dibenion refeniw ac felly ni ellid ei ddefnyddio i ariannu hyfforddiant arbenigol ymMhlas Brondyffryn.

    Gofynnodd Aelodau’r Panel am eglurhad mewn perthynas â’r £5,000 a ganiatawyd gan y Grwp RheoliRisg a’r £5,000 ychwanegol y byddid, fe gytunwyd yn y cyfarfod diwethaf, yn gofyn amdano gan y Grwpar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Rhoddodd Mr Paul Smith, a oedd yn eistedd ar y Grwp Rheoli Risg,wybod na fyddai dim arian pellach ar gael hyd nes y byddai’r £5,000 cyntaf wedi’i ddefnyddio.

    Hysbysodd Swyddog Diogelwch y Sir y Panel, o ystyried cyllid Amcan 1 posibl, bod ystyriaeth yn caelei rhoi i gyflogi hyfforddwr sydd wedi’i leoli mewn coleg i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol i staff ynYsgol Plas Brondyffryn ac ysgolion anghenion arbennig eraill. Rhagwelid y byddai hyn yn dechrau ymmis Ebrill eleni, tra’n aros cadarnhau cyllid Amcan 1 yn swyddogol.

    Mynegodd yr Aelodau bryder nad oedd dim hyfforddi wedi’i wneud eto, er gwaethaf y grant gwreiddiol o£5,000 o’r gronfa Rheoli Risg. Byddai unrhyw oedi wrth gychwyn yr hyfforddiant ond yn gohirio codi’rrhybudd gwella a gyhoeddwyd gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Awgrymodd SwyddogDiogelwch y Sir y gellid defnyddio’r arian o’r gronfa Rheoli Risg ar gyfer costau staff llanw, y tybid ybyddent yn sylweddol, ac, wedi ystyried yr holl faterion sydd dan sylw, roedd hi’n ystyried y byddai’nddoethach gohirio’r hyfforddiant hyd nes y bydd y cyllid Amcan 1 wedi’i dderbyn.

    Teimlai’r Aelodau fod angen sicrhau yr eir ar drywydd penderfyniadau a chynigion a gytunir yngnghyfarfodydd y Panel yn gyflym a bod swyddogion sy’n gyfrifol am eu rhoi mewn grym yn cael euhenwi’n glir yn y cofnodion. Wedi hynny fe:-

    BENDERFYNWYD bod:-

    (a) copïau o gofnodion cyfarfodydd y Panel yn y dyfodol i’w cylchlythyru i Aelodau’r Panel ac y dylaiCyd-gysylltwyr Iechyd a Diogelwch Cyfarwyddiaethau nodi enwau’r swyddogion sy’n gyfrifol amwneud yr hyn y cyfeiriwyd ato, a

    (b) dylai cofnodion pob cyfarfod barhau i gael eu cyflwyno i’r Cyngor eu cadarnhau yn y fformatpresennol.

    Cofnod Rhif 625 - Pwyllgorau Iechyd a Diogelwch Cyfarwyddiaethau - Trafododd yr Aelodau y drefn argyfer cyflwyno manylion cyfarfodydd Pwyllgorau Iechyd, Diogelwch a Lles Cyfarwyddiaethau yngngoleuni ailstrwythuro’r Cyngor yn ddiweddar. Cytunwyd y dylai cofnodion pob Pwyllgor gael eucyflwyno i gyfarfodydd o’r Panel hwn i helpu’r aelodau glustnodi unrhyw faterion yr oedd angen rhoi sylwiddynt yn gorfforaethol.

    PENDERFYNWYD bod llythyr i’w anfon at bob Cyfarwyddwr yn eu hatgoffa o’r angen i gynnal PwyllgorauIechyd, Diogelwch a Lles rheolaidd ac i gyflwyno copïau o gofnodion pob cyfarfod i’r Panel Iechyd,Diogelwch a Lles Corfforaethol.

    Cofnod Rhif 627 - Ystadegau Anafiadau - Mewn ymateb i ymholiad gan Mr. Keith Roberts ynghylchmanyleb y contract cynnal a chadw ar gyfer yr offeryn cegin yn ysgol y Bendigaid Edward Jones, YRhyl, rhoddodd y Pen Swyddog Personél wybod nad oedd dim dogfennaeth benodol wedi’i darparu gany Gwasanaethau Technegol, hyd y gwyddai. Cynghorodd yr aelodau nad oedd dim rhwymedigaethgyfreithiol i uwchraddio cyfarpar sydd ar ôl yr oes. Cadarnhaodd Swyddog Diogelwch y Sir ei bod ynbosibl nad yw rhai mathau hyn o gyfarpar cegin yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch nwy cyfredol.O ystyried hyn byddai asesiadau risg yn cael eu gwneud i glustnodi eitemau o’r fath. Yn ogystal roeddarchwiliad llawn o gyfarpar cegin ysgolion i’w wneud gan Gontractwyr Iechyd a Diogelwch allanol afyddai’n arwain yn ddiweddarach at sefydlu cronfa ddata i gynorthwyo gyda monitro cynnal a chadwgwasanaeth.

    Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cadeirydd, ymddiheurodd Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddunad oedd llythyr wedi’i anfon at y gweithiwr a anafwyd yn y digwyddiad efo’r nwy, fel y cytunwyd yn y

    452

  • cyfarfod diwethaf. Serch hynny, fe sicrhaodd y Panel y byddai’n gofalu bod hyn yn cael sylw fel mater ofrys. Cytunai’r Aelodau bod angen dysgu gwersi o’r digwyddiad a phwysleisiwyd ganddynt ei bod yn hanfodolbod y Panel yn cael gwybod am yr holl bryderon iechyd a diogelwch, yn arbennig y rheini sy’n ymwneudâ chyfarpar a allai fod yn beryglus.

    Mynegodd gynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Cyfarwyddiaethau bryderon, gan ddweud, pan nad oeddgan yr Awdurdod ddigon o arian i gydymffurfio ar unwaith â gofyniad iechyd a diogelwch penodol, bodangen ar adegau atal y gwasanaeth neu’r cyfleuster Cyngor perthnasol, oherwydd fod yr adeiladau dansylw wedi’u cau dan orfodaeth. Roeddynt hefyd yn bryderus efallai nad oedd y Cyngor, ar adegau, yncydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ynglyn â phrofi cyfarpar. Byddai cyllid ychwanegol yn helpu, wrthgwrs, ond byddai’n rhaid i unrhyw gyllid drwy’r grwp rheoli risg at y diben hwnnw gael ei ariannu’ngyfatebol gan Gyfarwyddiaethau ac yn anffodus nid oedd arian cyfatebol bob amser ar gael.

    Yn dilyn trafodaeth bellach fe:-

    BENDERFYNWYD:-

    (a) gofyn i bob Cyfarwyddwr gyflwyno adroddiad yn manylu ar eu dulliau o asesu peryglon iechyd adiogelwch a chlustnodi problemau cysylltiedig, a

    (b) bod pryderon y Panel ynghylch diffyg adnoddau ariannol mewn perthynas â chydymffurfio ârheoliadau iechyd a diogelwch i’w cyfleu i’r Prif Weithredwr.

    936. HYFFORDDIANT AR GYFER CYMHWYSEDD MEWN IECHYD GALWEDIGAETHOL

    Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddol adroddiad Clerc y Sir (a gylchlythyrwyd yn flaenorol),yn hysbysu’r aelodau bod ymateb wedi’i dderbyn oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â’rsylwadau a wnaed i’r Cynulliad i ailasesu’r rhaglen GEST ac i ddarparu cyllid ychwanegol i ganiatáurhyddhau athrawon i ymgymryd â chyrsiau iechyd a hyfforddiant.

    Roedd yr ateb yn dweud bod arolwg o raglen GEST wedi’i wneud a bod y Cynulliad wedi penderfynucadw’r geiriad presennol yn ymwneud â hyfforddiant iechyd a diogelwch ar ôl ymgynghori âchynrychiolwyr AALl ar 17eg Tachwedd 2000.

    Er bod yr ymateb yn siomedig fe argymhellwyd y dylai’r Panel yn awr gydnabod barn gyfunol yr hollAwdurdodau ar y mater. Cadarnhaodd Mr. Trefor Jones y byddai Undeb Cyd-Bwyllgor AmodauAthrawon Sir Ddinbych a Phwyllgor Iechyd a Diogelwch y Gyfarwyddiaeth Addysg yn parhau gyda’uhymdrechion i gael cyllid i ryddhau athrawon ac y byddent yn ystyried mynd at y Cyngor Sir amgymorth ariannol tebyg i’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf.

    PENDERFYNWYD:-

    (a) cydnabod yr ymateb oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol gyda gofid a

    (b) adrodd yn ôl ar ganlyniad trafodaethau Cyd-Bwyllgor Amodau Athrawon Sir Ddinbych a PhwyllgorIechyd a Diogelwch y Gyfarwyddiaeth Addysg i gyfarfod o’r Panel yn y dyfodol

    937. STRATEGAETH IECHYD CORFFORAETHOL YN Y GWEITHLE

    Cyflwynodd Rheolwr Iechyd Galwedigaethol adroddiad gan Bennaeth Personél (a gylchlythyrwyd ynflaenorol) ar gynnig i fabwysiadu Strategaeth Iechyd Corfforaethol yn y Gweithle. Roedd polisi drafftwedi’i lunio a’r cam cyntaf yn ei ddatblygiad a’i weithrediad oedd chwilio am gefnogaeth ar y lefel uchaf.Y bwriad felly oedd gwneud cyflwyniad byr yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 16eg Ionawr 2001.

    Yn amodol ar gefnogaeth y Cyngor, byddai’r adroddiad drafft yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r PanelIechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol yn y dyfodol fel y gallai’r Panel, ac is-grwp, oruchwyliodatblygiad, cyflwyniad a monitro’r strategaeth. Rhoddodd Rheolwr Iechyd Galwedigaethol wybod i’r

    453

  • Panel bod y Strategaeth yn cefnogi llawer o’r gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd o fewn yrUned Iechyd Galwedigaethol.

    PENDERFYNWYD cydnabod yr adroddiad.

    938. CYD-GYSYLLTWYR IECHYD ADRANNOL

    Ystyriodd yr Aelodau adroddiad gan Bennaeth Personél (a gylchlythyrwyd yn flaenorol), yn hysbysu’raelodau o gynigion i adolygu dosbarthiad Cyd-gysylltwyr Diogelwch.

    O ystyried y newidiadau yn strwythur y Cyfarwyddiaethau/Rheolwyr ac ymddeoliad YmgynghoryddIechyd a Diogelwch y Sir, fe argymhellwyd y dylai dosbarthiad/dosraniad Cyd-gysylltwyr Diogelwch gaelei adolygu. Byddai adolygiad o’r fath yn cael ei ystyried yn drefniant dros dro hyd nes y penodirYmgynghorydd Iechyd a Diogelwch newydd y Sir.

    Rhoddodd y Pen Swyddog Personél wybod bod cyfarfod wedi’i gynnal â Chyd-gysylltwyr DiogelwchCyfarwyddiaethau y diwrnod blaenorol ac roedd wedi’i gytuno y byddai llythyr yn cael ei anfon atGyfarwyddwyr yn rhestru’r cynrychiolwyr presennol ar gyfer pob adran a’u rhwymedigaethau. Byddid yngwahodd awgrymiadau o ran y trefniadau yn y dyfodol yn ymwneud â’r cyd-gysylltwyr, er enghraifft a allfod manteision mewn enwi cynrychiolwyr ar sail ddaearyddol yn hytrach nag yn ôl Cyfarwyddiaethau.Byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Panel unwaith yr oedd yr ymatebion wedi’u derbyn.

    Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr. Trefor Jones, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddu ybyddai Cyd-gysylltwyr Iechyd a Diogelwch, yn unol â’r cyfansoddiad enghreifftiol, yn aelodau oBwyllgorau priodol eu Cyfarwyddiaethau yn awtomatig ac y byddent yn derbyn yr hyfforddiant gofynnol.Awgrymodd Mr Jones hefyd y dylai Cadeirydd y Panel chwarae rôl allweddol ym mhenodiadYmgynghorydd Iechyd a Diogelwch newydd y Sir.

    Rhoddodd y Cadeirydd wybod ei fod wedi trafod hyn gyda Phennaeth Personél, a oedd wedi cytuno i’wgynnwys yn y broses ymgynghori. Mynegodd Mr Jones werthfawrogiad i’r Cadeirydd am ei barodrwydd ifod â rhan yn nhrefn ddethol y penodiad pwysig hwn.

    PENDERFYNWYD bod y Pen Swyddog Personél yn ysgrifennu at yr holl Gyfarwyddwyr ynglyn agadolygu dosbarthiad a dosraniad Cyd-gysylltwyr Diogelwch a bod yr ymatebion i’w cyflwyno i gyfarfod o’rPanel yn y dyfodol.

    939. HYFFORDDIANT CYFLAFAREDDU

    Cyflwynodd Rheolwr Iechyd Galwedigaethol adroddiad gan Bennaeth Personél (a gylchlythyrwyd ynflaenorol) ar gynigion i gyflwyno gwasanaeth cyflafareddu.

    Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cefndir i’r cynnig ac yn cyfeirio at ymchwil a wnaed a’r gred ybyddai’r llwybr cyflafareddu yn un gwerthfawr a chost-effeithiol.

    Roedd cyllid o £5,000 wedi’i neilltuo o’r gyllideb rheoli risg i gychwyn y rhaglen hyfforddi.

    Bwriadwyd darparu gwasanaeth cyflafareddu adrannol, annibynnol ac amhleidiol mewnol i ddarparucymorth ble’r oedd problemau wedi’u clustnodi, gyda chyflafareddwyr allanol yn cael eu galw i mewn ihelpu gydag achosion mwy anodd. Y gobaith oedd y byddai’r fenter yn cyfyngu peryglon posibl ac ynlleihau faint o absenoldeb salwch yr oedd amgylchiadau o’r fath yn anochel yn ei achosi.

    Ymatebodd Rheolwr Iechyd Galwedigaethol i gwestiynau gan aelodau’r Panel ar roi cyhoeddusrwydd i’rgwasanaeth ac addasrwydd a hyfforddiant swyddogion priodol.

    PENDERFYNWYD cydnabod yr adroddiad a chroesawu’r cyllid o’r gyllideb Rheoli Risg.

    454

  • 940. HYFFORDDIANT IECHYD A DIOGELWCH DRWY GYLLID AMCAN 1

    Cyflwynodd Swyddog Diogelwch y Sir adroddiad Pennaeth Personél (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) arddarpariaeth Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch posibl drwy Amcan 1.

    Roedd y posibilrwydd o ddarparu amrediad o gyrsiau iechyd a diogelwch wedi’i glustnodi drwy Amcan 1,drwy Goleg Glannau Dyfrdwy. Roedd anghenion hyfforddi’r Sir a gallu’r Coleg i’w cyflenwi yn cael euharchwilio ar hyn o bryd, er bod un cwrs wedi’i ddarparu eisoes.

    Er bod meini prawf a chyfyngiadau fe ystyrid y gall fod yn bosibl cael hyfforddiant iechyd a diogelwch amy gost isaf bosibl yn ystod yr amser yr oedd cyllid Amcan 1 ar gael.

    Rhoddodd Swyddog Diogelwch y Sir wybod ymhellach, gan y byddai’r hyfforddiant yn cael ei anelu atddatblygu sgiliau dysgu unigolyn yn y gweithle, y byddai’r cyllid sydd ar gael yn cael ei gysylltu’nuniongyrchol â ble’r oedd gweithwyr yn byw yn hytrach na ble’r oeddynt yn gweithio. Er hynny,disgwylid y gellid cytuno trefniadau dwyochrog rhwng Awdurdodau Lleol.

    Rhagwelid hefyd y byddai darparu amser gweithwyr yn bodloni’r amod arian cyfatebol.

    PENDERFYNWYD croesawu’r fenter hyfforddi a’i defnyddio i’w photensial llawn.

    941. IECHYD A DIOGELWCH - TREFNIADAU STAFFIO DROS DRO

    Cyflwynodd y Pen Swyddog Personél adroddiad Pennaeth Personél (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) ynhysbysu’r aelodau o’r trefniadau staffio presennol o fewn yr Uned Iechyd a Diogelwch, gan ddweud bod :-

    (i) Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Sir wedi ymddeol ar ddiwedd Tachwedd 2000 a bodtrefniadau ar y gweill i lenwi’r swydd wag;

    (ii) un o Swyddogion Diogelwch y Sir wedi rhoi rhybudd i derfynu ei gyflogaeth gyda’r Cyngor ac ybyddai’n gadael ar 15fed Ionawr 2001. Roedd sêl bendith y Cabinet wedi’i roi i lenwi’r swydd acroedd hi’n bosibl y gallai ystyriaeth gael ei rhoi i geisiadau a dderbyniwyd am swyddYmgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Sir, os digwydd nad ydynt yn cwrdd â gofynion y swyddhonno;

    (iii) roedd trefniadau ar y gweill i sicrhau rhywfaint o gefnogaeth rheolaeth/cyngor contract yn ycyfamser gan ymarferwyr ym maes Iechyd a Diogelwch. Byddid hefyd yn galw arGyd-cysylltwyr Iechyd a Diogelwch Cyfarwyddiaethau i gynorthwyo os bydd angen, a

    (iv) fel rhagofal, roedd Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yswirwyr y Cyngor wedi’uhysbysu o’r anawsterau tymor byr hefyd.

    Cytunai’r aelodau fod y sefyllfa bresennol yn amlygu pryderon a fynegwyd yn flaenorol ynglyn â’radnoddau staffio annigonol o fewn yr Uned Iechyd a Diogelwch. Holodd Mr. Trefor Jones a’r CynghoryddD. Jones pam yr oedd staff yn gadael yr adain a pham yr oedd wedi cymryd cyhyd i hysbysebu swyddYmgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Sir. Mewn ymateb, eglurodd y Pen Swyddog Personél drefnrecriwtio a phenodiadau’r Sir yn fyr a thynnodd Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddu sylw at y ffaith bodrhai o’r problemau’n deillio o ddatgrynhoi cyllidebau adeg yr ad-drefnu.

    Cytunai’r aelodau y dylai Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adnoddau Dynol gael gwybod am yranawsterau yr oeddid yn eu cael o fewn adain yr Uned Iechyd a Diogelwch ar hyn o bryd

    Wedi hynny fe:-

    BENDERFYNWYD cydnabod y sefyllfa o fewn yr Uned Iechyd a Diogelwch a bod Aelod y Cabinet drosAdnoddau Dynol i gael gwybod am yr anawsterau staffio presennol ac am bryderon arbennig aelodau’rPanel ynglyn â’r oedi wrth lenwi swydd Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Sir.

    455

  • 942. MONITRO GWYBODAETH YSTADEGOL IECHYD A DIOGELWCH

    Cylchredodd y Pen Swyddog Personél adroddiad yn y cyfarfod, yn darparu gwybodaeth yn ymwneud âchyfraddau anafiadau a digwyddiadau am y cyfnod 1af Medi i 31ain Rhagfyr 2000. Roedd yr adroddiadhefyd yn cynnwys gwybodaeth ystadegol mewn perthynas â gweithwyr a atgyfeiriwyd am gyngor arstraen.

    Gan fod rhai Adrannau ar ganol trosglwyddo i Gyfarwyddiaethau newydd byddai adroddiadau yn ydyfodol yn ceisio adlewyrchu newidiadau trefniadol. Unwaith yr oedd yr ailstrwythuro wedi’i gwblhaubyddai adroddiadau yn y dyfodol yn helpu i glustnodi unrhyw dueddiadau cymharol yn lefel anafiadau acatgyfeiriadau straen.

    Mewn ymateb i gais Mr. Trefor Jones am wybodaeth fwy manwl, eglurodd y Pen Swyddog Personélmai’r arfer oedd cyflwyno manylion o’r fath i Bwyllgorau Cyfarwyddiaethau, ac y byddent yn cael eucrynhoi wedyn i’w cyflwyno i’r Panel Corfforaethol.

    Cododd yr aelodau amrywiol faterion yn ymwneud â’r adroddiad, yn cynnwys yr angen am raniad rhwngdigwyddiadau hysbysadwy ac anhysbysadwy. Teimlai’r Cynghorydd D. Jones hefyd nad oedd maintllawn problemau’n gysylltiedig â straen yn cael ei adlewyrchu yn y ffigurau oherwydd fe all fod nad ywrhai gweithwyr yn teimlo eu bod yn gallu trafod yr effeithiau yr oedd materion yn gysylltiedig â gwaith yneu cael ar eu hiechyd.

    Cyfeiriodd Mr. Trefor Jones aelodau’r Panel at Bolisïau Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol SirDdinbych a holodd a oedd pob Cyfarwyddiaeth ac Aelod o’r Panel yn ymwybodol eu bod ar gael.Gofynnodd y Cynghorydd Thomas a ellid cael atynt hefyd drwy gronfa ddata gwybodaeth electronig ySir. Rhoddodd y Pen Swyddog Personél wybod bod yr holl bolisïau Personél corfforaethol ar gael ar ygronfa ddata ac nad oedd dim rheswm paham na ellid cynnwys polisïau Iechyd a Diogelwch hefyd.Cytunodd i drefnu i hyn gael ei wneud cyn gynted â phosibl.

    PENDERFYNWYD:-

    (a) derbyn yr wybodaeth ystadegol yn ymwneud ag anafiadau, digwyddiadau ac atgyfeiriadau straen;

    (b) bod adroddiadau yn y dyfodol yn cynnwys digwyddiadau hysbysadwy a digwyddiadauanhysbysadwy, a

    (c) bod y newidiadau trefniadol o fewn yr Awdurdod i’w hadlewyrchu yn yr wybodaeth a ddarperirmewn adroddiadau yn y dyfodol.

    Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m.

    ************

    456

  • CABINET

    Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref, Rhuthun ar Ddydd Mawrth, 9fed Ionawr 2001 am10.00 a.m.

    YN BRESENNOL

    Y Cynghorwyr E.C. Edwards (Arweinydd), I.M. German, D.M. Holder, R.W. Hughes, G.M. Kensler, D.M. Morris,E.A. Owens, A.E. Roberts, W.R. Webb, K.E. Wells ac E.W. Williams.

    Sylwedyddion - Y Cynghorwyr P. Douglas, S. Drew, N.H. Jones, R.J.R. Jones, W.G. Thomas a C.H. Williams.

    HEFYD YN BRESENNOL

    Prif Weithredwr, Clerc y Sir, Rheolydd Ariannol.

    943. MATERION BRYS

    Rhoddodd yr Arweinydd rybudd o’r eitem ganlynol, y dylid yn ei farn ef ei hystyried yn y cyfarfod felmater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972:-

    Comisiwn Ffiniau

    944. COMISIWN FFINIAU

    Hysbysodd y Prif Weithredwr yr Aelodau ei fod ef a swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion y ComisiwnFfiniau. Fel canlyniad fe awgrymwyd bod cyfarfod ar y cyd i’w gynnal gydag Aelodau a swyddogionCyngor Sir Ddinbych a’r Comisiwn. Roedd y cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer 2 Chwefror 2001, i’w gynnalyn y Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol, Llangollen.

    Gofynnodd yr Arweinydd i’r Aelodau am sêl bendith i’r Aelodau canlynol fynychu’r cyfarfod:-

    Arweinydd;Dirprwy Arweinydd;Arweinyddion y Grwpiau, acAelodau Lleol - Y Cynghorwyr P. Tobin ac R.J.R. Jones.

    Gofynnodd y Cynghorydd I.M. German pe na bai Arweinydd Grwp ar gael, y dylai dirprwy fod ynbresennol a chytunwyd ar hyn.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau canlynol yn mynychu’r cyfarfod gyda’r Comisiwn Ffiniau ar2 Chwerfor 2001:-

    Arweinydd;Dirprwy Arweinydd;Arweinyddion y Grwpiau, acAelodau Lleol - Y Cynghorwyr P. Tobin ac R.J.R. Jones.

    945. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’rcyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaetheithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 8, 9 a 10 Rhan 1 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

    946. CYLLIDEB DDRAFFT 2001-2002

    Cyflwynodd y Cynghorydd E.A. Owens, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid yr adroddiad a’r atodiadau[a gylchlythyrwyd yn flaenorol]. Ymddiheurodd y Cynghorydd Owens nad oedd y papur wedi bod ar gaelyn gynharach ond roedd hi wedi bod eisiau hysbysu’r Aelodau o’r prif fframwaith ar gyfer y cytundebariannol am 2001-2002 yn ddigon manwl i glustnodi blaenoriaethau a’r prif strwythurau. Gofynnwyd i’r

    457

  • Aelodau gytuno strategaeth y gyllideb am 2001-2002 i’w hargymell i’r Cyngor yng ngoleuni’r cynnyddhyd yma a’r cytundeb amodol oddi wrth y Cynulliad.

    Dywedodd y Cynghorydd Owens fod ymgynghori helaeth wedi digwydd gyda Phwyllgorau ArchwilioGwasanaethau, Aelodau Arweiniol y Cabinet a Phenaethiaid Gwasanaethau. Roedd y ffigurau yncymryd yr Arolwg Gwerth Gorau a blaenoriaethau a Datganiad Cenhadaeth y Cyngor Sir i ystyriaeth.

    Dywedodd y Cynghorydd Owens fod ffigur cytundeb amodol o 5.7% wedi’i roi gan GynulliadCenedlaethol Cymru, ac y gall y ffigur hwnnw amrywio o 0.1%. Byddai ffigur y cytundeb terfynol ar gaelerbyn diwedd Ionawr 2001. Roedd arian newydd wedi’i ymgorffori yn y 5.7%, sy’n dod yn 1% fel ydangosir yn Atodiad 3. Roedd hyn yn golygu cynnydd o 4.7% i Sir Ddinbych. Dangosai Atodiad 3fanylion y ceisiadau am fwy o gyllid a’r gostyngiadau targed. Byddai Argyfwng y Llifogydd yn golygulefel sylweddol o ymrwymiad gwario ar ben y costau sydd i’w hadennill drwy fformiwla Bellwin.

    Roedd manylion y cyfrif Cyfalaf wedi’u cynnwys yn Atodiad 4 ac roeddynt yn manylu ar feysyddblaenoriaeth i’w hystyried.

    Tynnodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid sylw at wall argraffu yn y Casgliad i Atodiad 1 - bod ‘too soon’ i’wgynnwys ar linell 2, wedi’r pedwerydd gair fel bod y frawddeg yn darllen “The uncertainty over specialfunding for the flooding reinstatement and flood defence works means that it is too soon to forecast theimpact ...”

    Gofynnodd y Cynghorydd G.M. Kensler a oedd Sir Ddinbych yn gorfod cyfrannu at Asiantaeth yrAmgylchedd. Dywedodd y Rheolydd Ariannol fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am BwyllgorAmddiffyn Rhag Llifogydd Dyfrdwy a Chlwyd ac yn codi tâl ar Sir Ddinbych a’r awdurdodau cyfagos.Roeddynt wedi bod eisiau codi’r tâl o 40% ond yn dilyn trafodaeth roedd hyn wedi’i ostwng i godiad o13% eleni i Sir Ddinbych a’r Awdurdodau Lleol eraill.

    Ar Atodiad 2 dywedodd y Rheolydd Ariannol fod llwyddiant y Cynllun Adferiad wedi golygu gostyngiadyn yr haenen uchaf ar gyfer y cyfraniad i weddillau am y flwyddyn i ddod a byddai tua £1.5m yn mynd ynôl i wasanaethau. Roedd trydedd golofn Atodiad 2 yn dangos ffigurau chwyddiant amodol o 3%.Rhagdybiwyd y byddai dyfarniadau cyflog i staff yn 3%, gyda dyfarniad cyflog o 3.5% yn cael eiragdybio i athrawon. Roedd yswiriannau i fod i’w haildrafod. Mae codiadau eraill yn y costau ynamrywio o 2% i 3%.

    Dywedodd y Rheolydd Ariannol mai’r canllaw ar gyfer gwariant yn 2001-2002 oedd y gyllideb bresennola 5.7% ar ben hynny, a fyddai’n caniatáu £4m ar gyfer twf.

    Dywedodd y Cynghorydd Owens fod y ffigurau a roddwyd wedi’u cyfrifo yn ôl cyngor gan y CynulliadCenedlaethol, heb ddim pridiannu’n cael ei ganiatáu.

    Dywedodd y Cynghorydd K.E. Wells mai’r eithriad i hyn oedd yr arian Arweinyddiaeth ar gyfer DysguGydol Oes. Dywedodd y Cynghorydd Owens fod yna amodau ynghlwm wrth y bloc hwn o ariannewydd.

    Gan droi at Wasanaethau Personol, cyfeiriodd y Cynghorydd Owens at ddwy elfen newydd h.y. YFenter Cefnogi Pobl a’r Gofalwyr yn Heneiddio. Roedd toriadau wedi’u gwirfoddoli gan y Gyfarwyddiaeth,yr oedd y rhan fwyaf ohonynt wedi’u trafod a’u cytuno mewn egwyddor gan y Pwyllgor Archwilio.

    Dywedodd y Rheolydd Ariannol y dylai geiriad y meini prawf Cymhwyster Gostwng Diwygio danWasanaethau Personol ddarllen Budd-dâl Tai Trosiannol. Eglurodd Pennaeth Cynllunio Strategol argyfer Gwasanaethau Personol fod y cais am arian ychwanegol ar gyfer Anhawster Dysgu - gofalwyr ynheneiddio yn un i ddarparu gofal seibiant.

    Dywedodd y Rheolydd Ariannol y byddai’r £1m a ddyrannwyd i’r Fenter Cefnogi Pobl yn sylweddu ffiguramodol o £35k ar gyfer Sir Ddinbych.

    Gofynnodd y Cynghorydd E.W. Williams fod papur i’w baratoi ar gyfer y Cabinet i gynnwys yr holl ariannewydd sydd ar gael a’r ffordd y byddai Cyfarwyddiaethau yn cynnwys hwn yng nghyllideb y flwyddynnesaf, nad yw’n cynnwys yr arian sydd i’w wario ar “hen” eitemau. Dywedodd y Cynghorydd Owens fod

    458

  • yr arian newydd wedi’i gynnwys yn y papur fframwaith ariannol ar sail cyngor o ffigurau CymdeithasLlywodraeth Leol Cymru. Cytunodd i ddarparu papur yn dangos ble y byddai’r arian newydd yn cael eiddyrannu unwaith yr oedd eglurhad wedi’i dderbyn gan y Cynulliad.

    Gan gyfeirio at yr Amgylchedd, dywedodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid y byddai angen CynllunRheoli Asedau. Byddai Gwasanaethau Cymunedol yn cael eu hadolygu gan Bwyllgorau Archwilio abyddai arian newydd ar gael ar gyfer Tocynnau Mantais, Arolygwyr Cig Gwarchod y Cyhoedd a’r DdeddfCefn Gwlad. Dywedodd y Rheolydd Ariannol y byddai’r Aelodau’n ymwybodol o’r arolygon cyflwr awnaed gan Sir Ddinbych ar lawer o’i hadeiladau a hyn oedd i gyfrif am y cynnydd yn y ffigurau cynnal achadw eiddo.

    Gan gyfeirio at Ddysgu Gydol Oes, tynnodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid sylw atAilstrwythuriad Cyflog Athrawon. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas LlywodraethLeol Cymru ill dau wedi rhoi sicrhad fod y swm a ddyrannwyd yn cynrychioli dwy ran o dair o’r flwyddynyn unig ac y byddai’r ailstrwythuro’n cael ei fonitro. Os byddai unrhyw arian ar ôl heb ei ddefnyddio,byddai’n cael ei gadw gan yr Awdurdod ond gellid hawlio unrhyw ddiffyg yn ôl oddi wrth y Cynulliad.

    Roedd y Cynllun Lleihau Maint Dosbarthiadau yn cynnwys £163k ychwanegol o wariant a byddai’rArolwg Gwasanaethau Ieuenctid yn arwain at ailddynodi’r gwario.

    Dywedodd y Cynghorydd R.W. Hughes y byddai Canolfan Hamdden Corwen yn cael ei throsglwyddo o’rDSO i Wasanaethau Hamdden, gan ei chysoni â Chanolfannau Hamdden eraill.

    Eglurodd y Rheolydd Ariannol y dyraniad ar gyfer cyfnewid rhenti ystafelloedd dosbarth symudol gan eibod yn fwy ymarferol rhentu ystafelloedd symudol a oedd yn cael eu cynnal a’u cadw’n llawn a’u trin ynllawn yn flynyddol yn hytrach na phrynu ystafelloedd dosbarth symudol newydd. Eglurodd CyfarwyddwrGweithredol Addysg, Diwylliant a Gwybodaeth y gall arian gael ei ddarparu gan Gynulliad CenedlaetholCymru, a oedd wedi dyrannu £80m ar gyfer rhaglenni adeiladu ysgolion sy’n anelu’n benodol at leihaunifer yr ystafelloedd dosbarth symudol mewn ysgolion.

    Gan gyfeirio at yr adain Adnoddau, eglurodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid y byddai’rswyddogaeth Gyfrifyddiaeth yn cael ei chryfhau i gwrdd â gofynion Archwiliad Dosbarth ac y byddaipapur ar gael ar hyn cyn diwedd mis Mawrth i adlewyrchu faint o waith trawsbynciol sydd rhwngCyfarwyddiaethau a chryfhad cyffredinol yr Adran. Hysbysodd y Cynghorydd Owens yr Aelodau ybyddai llai o incwm yn cael ei dderbyn oddi wrth y Cynllun Budd-dâl Wythnosol. Atgoffodd yr Aelodaufod TGC wedi’i ymgorffori o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau o’r 1 Ionawr 2001.

    Gan gyfeirio at adain y Prif Weithredwr a’r adain Gorfforaethol, eglurodd Aelod Arweiniol y Cabinet drosGyllid y byddai rhai o’r mentrau yn creu refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Yn ogystal, tynnodd sylw atDîm Troseddu Ieuenctid ar y cyd Sir Ddinbych-Conwy, a oedd yn awr â llinell cyllideb ar wahân fel ygellid clustnodi’r union gostau mewn trafodaethau â’r Swyddfa Gartref.

    Am 11.30 a.m torrodd y cyfarfod am 15 munud.

    Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid Atodiad 4 a oedd yn dangos Adnoddau Cyfalaf2001-2002 a’r Dyraniad Posibl. Roedd ffigurau’r Argyfwng Llifogydd yn cael eu dangos fel amcangyfrifonond ni fyddai’r cynlluniau adfer difrod llifogydd ac atal llifogydd o reidrwydd yn cael eu gwneud cynunrhyw raglenni cyfalaf eraill. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffigurau Bellwin oedd diwedd Mawrth2001 ac roedd hi’n debygol y byddai’r ffigur o £9m yn codi fel y ceid mwy o wybodaeth wrth i lefelau’rdwr ostwng. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymri wedi gofyn am ffigurau diwygiedig erbyn 16 Ionawr2001. Nid oedd dwy eitem wedi’u cynnwys h.y. [a] ailblannu yn ac o gwmpas Ty Nant, Prestatyn, a [b]y Gofrestr Asedau. Diben y £2m a glustnodwyd ar gyfer Gwaith Cyfalaf Eiddo a Phriffyrdd oedd igychwyn ar yr ôl-groniad a glustnodwyd yn Arolygon Cyflwr y Cyngor.

    Gofynnodd y Cynghorydd E.W. Williams beth oedd y ffigur cyfalaf cyffredinol ar gyfer y flwyddynflaenorol ac a oedd y ffigur difrod llifogydd yn cynnwys yr holl ffyrdd a effeithiwyd yn y Sir. Gofynnoddhefyd a oedd unrhyw arian ar gael dan y cynllun Amcan 1.

    Dywedodd y Rheolydd Ariannol y byddai codiad o 3% ar gyfer ariannu drwy gyfalaf o’r flwyddyn gyfredola chan nad oedd gan Sir Ddinbych unrhyw ad-daliad i’w wneud mewn perthynas â’r ddyled a etifeddwyd,

    459

  • byddai hyn yn caniatáu rhaglen gyfalaf. Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn talu am atgyweiriadaui Gefnffyrdd tra’r oedd y Cyngor Sir yn talu am ffyrdd y Sir. Cytunodd y Cynghorydd A E Owens ybyddai datganiad yn cael ei ryddhau i’r cyfryngau ynghylch ad-dalu’r ddyled, a fyddai’n cynnwysgwybodaeth am raglen gyfalaf unwaith yr oedd y manylion ar gael.

    Byddai un neu ddau gynllun amddiffyn rhag llifogydd yn gymwys o bosibl, er enghraifft Glasdir, Rhuthunac ardal yn Ninbych ac roedd swyddogion yn archwilio’r posibilrwydd o gyllid o Amcan 1.

    Holodd y Cynghorydd G.M. Kensler ynghylch ffigur Archebiant yr Heddlu. Dywedodd y CynghoryddE.A. Owens y byddai grantiau penodol yn galluogi’r Heddlu i gynyddu eu cyllideb o 5% ond na ragwelidy byddai ffigur Sir Ddinbych yn cael ei godi o fwy na 3%.

    PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n cytuno strategaeth y gyllideb 2001-2002 fel y’i hamlinellwyd yn yratodiadau i’r adroddiad ac yn argymell y cytundeb amodol oddi wrth y Cynulliad i’r Cyngor.

    Cynigiodd y Cynghorydd W.R. Webb bleidlais o ddiolch i Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid a’rRheolydd Ariannol a’i staff am eu holl waith ar gyllidebau’r Cyngor. Eiliodd y Cynghorydd D.M. Morris ycynnig.

    Ar ran y Cabinet, diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Owens a’r Rheolydd Ariannol hefyd.

    PERSONOL

    Dywedodd yr Arweinydd fod Mr W. Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg, Diwylliant a Gwybodaethyn ymddeol ar ddiwedd Ionawr 2001 a’i fod yn mynychu ei gyfarfod olaf o’r Cabinet. Talodd deyrnged i waith MrWilliams fel Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol ac yn ddiweddar fel y Cyfarwyddwr Gweithredol. YmateboddCyfarwyddwr Gweithredol Addysg, Diwylliant a Gwybodaeth a diolchodd i’r Aelodau a’r staff am eu cefnogaethdros y blynyddoedd. Dywedodd ei fod wedi mwynhau gweithio i Sir Ddinbych yn arbennig a dymunodd yn dda i’rAwdurdod at y dyfodol.

    Daeth y cyfarfod i ben am 12.20 p.m.

    ********************

    460

  • PWYLLGOR ADOLYGU POLISI AC ARCHWILIO ADNODDAU

    Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Adolygu Polisi ac Archwilio Adnoddau a gynhaliwyd yn Ystafell y GrwpAnnibynnol, Rhuthun ar Ddydd Gwener, 12fed Ionawr 2001 am 2.00p.m.

    YN BRESENNOL

    Y Cynghorwyr W.G. Thomas (Cadeirydd), S. Drew, K.N. Hawkins, F.D. Jones (Sylwedydd), R.J.R. Jones(Sylwedydd), E.A. Owens (fel Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid) a P.O. Williams.

    HEFYD YN BRESENNOL

    Clerc y Sir, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Adnoddau a Swyddog Gweinyddu (W.J. Harness)

    DERBYNIWYD YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB ODDI WRTH

    Y Cynghorydd R.Ll. Williams

    Cyn dechrau’r cyfarfod, estynnodd Clerc y Sir ymddiheuriadau ac eglurodd yr ymresymiad dros anfon adroddiady gyllideb i’r Aelodau yn wreiddiol fel eitem Rhan II. Aeth yn ei flaen i atgoffa’r Pwyllgor er bod yr adroddiad yncael ei drafod yn awr yn Rhan I, yr oedd hi’n dal yn bosibl i’r Aelodau wahardd y wasg a’r cyhoedd petai’rwybodaeth dan drafodaeth fynd yn gyfrinachol ei natur.

    947. CYLLIDEB 2001/2002

    Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn amgytundeb yr Aelodau i strategaeth y gyllideb ar gyfer 2001/2002 fel y’i hargymhellwyd gan y Cabinet yngngoleuni’r cynnydd hyd yn hyn a’r cytundeb amodol oddi wrth y Cynulliad.

    Wedyn amlygodd y Cynghorydd Owens y prif bwyntiau o fewn yr adroddiad a’r atodiadau amgaeëdiggan ychwanegu bod y strategaeth a oedd wedi’i hamlinellu yn yr atodiadau yn ffurfio’r fframwaith ar gyfergosod y gyllideb am 2001/02 a’i bod yn cael ei hargymell gan y Cabinet i’r Cyngor ar 16eg Ionawr 2001i’w derbyn.

    Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, atgoffodd y Cynghorydd Owens yr Aelodau fod y CynulliadCenedlaethol wedi rhyddhau ffigurau amodol ar gyfer Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu TrethiBusnes i’r Cyngor cyn y Nadolig a bod cytundeb y gyllideb ar gyfer 2001/2002 yn darparu ar gyfercynnydd o 5.7% yn y gwariant dros y flwyddyn gyfredol. Roedd Cynulliad Cymru wedi’i gwneud hi’n glirna fyddai bellach basbortio neu gylch-ffensio arian newydd ar gyfer gwasanaethau penodol. Byddai ganyr Awdurdod ddisgresiwn llwyr yn awr mewn perthynas â’r cyfan o’i gyllideb a byddai’n rhaid iGyfarwyddiaethau gystadlu â’i gilydd am gyllid.

    Aeth y Cynghorydd Owens yn ei blaen i hysbysu’r Aelodau o’r cynnydd hyd yn hyn a dywedodd er ygellid disgrifio cytundeb y gyllideb fel un rhesymol, bod gan y Cyngor lefel sylweddol o ymrwymiadaugwariant sy’n deillio o’r llifogydd diweddar ar ben y costau hynny sy’n adenilladwy drwy fformiwlaBellwin. Byddai angen mynd i’r afael â’r gwaith adferiad cyfalaf ar briffyrdd, pontydd a chylfatiau yflwyddyn ariannol nesaf ac er y gwnaed cais am gyllid arbennig gan y Cynulliad, nid oedd dim cyllidychwanegol yn ei le eto. Hysbyswyd yr Aelodau oni bai bod cymorth sylweddol ar y ffordd, y byddaihyn yn effeithio ar adnoddau’r Cyngor ac y gallai arwain at yr angen i godi lefelau Treth y Cyngor neu atostyngiad yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau, i wneud iawn am hyn.

    Tra’n ystyried y gwariant sy’n codi o ganlyniad i’r llifogydd diweddar, cyfeiriodd Aelod at yr angen iddatblygu rhaglen ysgubo ffyrdd ar gyfer y dyfodol a allai fynd peth o’r ffordd tuag at liniaru’r problemaudiweddar a achoswyd gan ddail, malurion ayb yn tagu cwterydd a draeniau. Hysbysodd Clerc y Sir yPwyllgor fod y mater hwn wedi’i godi o’r blaen a’i fod eisoes wedi’i gyfeirio at Bwyllgor Archwilio’rAmgylchedd i’w ystyried.

    461

  • Tra’n cydnabod y dylai sefyllfa ariannol yr Awdurdod wella yn awr fod y ddyled a etifeddwyd oddi wrthGyngor Bwrdeistref Rhuddlan gynt wedi’i chlirio, dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau y byddai pwysauariannol yn dal i fod y flwyddyn nesaf.

    Mewn perthynas ag Atodiad 3 a oedd yn rhoi crynodeb o’r cynnydd hyd at 9fed Ionawr, 2001, cyfeirioddy Cynghorydd Owens at y cyfarwyddiaethau a oedd newydd eu had-drefnu gan egluro bod y cyllidebauwedi’u seilio ar y rhain yn awr. O fewn yr Atodiad hwn roedd pwysau a thoriadau amrywiolGyfarwyddiaethau wedi’u clustnodi. Roedd yn dal i fod angen i ryw £193k o doriadau gael eu clustnodigan Gyfarwyddiaethau fodd bynnag a byddid yn gwneud mwy o waith yn y cyswllt hwn.

    Tra’n ystyried Atodiad 3, cododd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau gyda’r Aelod Arweiniol ar Gyllidynghylch arbedion y byddid yn eu cyflawni wrth i staff y Gyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes symud oNeuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint i swyddfeydd yn Sir Ddinbych, y sefyllfa mewn perthynas â’rAdain Diogelwch a Lles, y rhesymau y tu ôl i’r angen i gryfhau’r swyddogaeth cyfrifeg reolaethol yn yrAwdurdod a’r pwysau newydd o + £500,000 a glustnodwyd o fewn Gwasanaethau Plant am leoliadauall-Sirol.

    Mewn ymateb i awgrym yr Aelodau y dylai Cyfarwyddiaethau edrych ar gynyddu creu incwm ble’r oeddyn bosibl, rhoddodd Clerc y Sir wybod bod papur wedi’i baratoi yn ddiweddar gan y Comisiwn Archwilioynghylch creu incwm a’r effaith bosibl y gall hyn ei gael ar bolisïau cynhwysiad cymdeithasolAwdurdodau Lleol. Ychwanegodd fod y Llywodraeth Ganolog yn edrych ar hyn o bryd ar yddeddfwriaeth gymhleth iawn yn ymwneud â chreu incwm ond ar hyn o bryd ni chaniateid i AwdurdodauLleol wneud elw neu fasnachu. Awgrymodd y Cynghorydd Owens efallai y dymuna’r Pwyllgor ArchwilioAdnoddau eu hunain edrych ar gwestiwn creu incwm mewn cyfarfod yn y dyfodol.

    Mewn perthynas â’r cyfrif Cyfalaf fel y’i nodwyd yn Atodiad 4, rhoddodd y Cynghorydd Owens wybod ybu cymeradwyaeth cyfalaf cyffredinol tebyg i’r flwyddyn gyfredol o ychydig dros £9m. Roedd ydatganiad yn manylu ar feysydd blaenoriaeth i’w hystyried ac yn rhagdybied at ddibenion esboniadolgyllid arbennig ddisgwyliedig o 50% tuag at gost cynlluniau difrod llifogydd. Ychwanegodd yCynghorydd Owens fod y ffigur eto i’w gadarnhau ac y byddai cyllid ar lefel is yn effeithio ar weddill yrhaglen.

    Mewn ymateb i gwestiwn Aelod ynghylch rhaglen rheolaeth asedau’r Cyngor, rhoddodd y CynghoryddOwens wybod bod trosglwyddiad y cyfrifoldeb am eiddo’r Awdurdod o Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd i’rGyfarwyddiaeth Adnoddau o’r 1af Ebrill 2001 wedi’i gynnwys yn yr ymarferiad ad-drefnu a gytunwyd ynddiweddar. Ar ôl y trosglwyddiad hwn byddai Rheolwr Asedau a Rheolwr Stadau yn cael eu penodi arhaglen gynnal a chadw ar gyfer asedau’r Sir yn cael ei sefydlu.

    Aeth y Cynghorydd Owens yn ei blaen i ddweud bod y Cabinet, ym mis Hydref 2000, wedi cymeradwyo,mewn egwyddor, sefydlu cyllideb o £70,000 y flwyddyn i brynu meddalwedd a gwasanaethau ar gyferdarparu rheolaeth asedau holl adeiladau, daliadau tir y Cyngor a chwblhau’r Cynlluniau RheolaethAsedau a bod cyllideb o’r fath i dderbyn blaenoriaeth uchel am y flwyddyn ariannol 2001/2002 ac am yblynyddoedd i ddilyn.

    I gloi rhoddodd y Cynghorydd Owens wybod hyd nes yr oedd yn hysbys faint o gymorth ariannol ybyddai’r Awdurdod yn ei dderbyn gan Gynulliad Cymru i gywiro’r difrod a achoswyd gan y llifogydddiweddar yn y Sir, nad oedd hi’n bosibl argymell cyfradd Treth y Cyngor am 2001/2002.

    PENDERFYNWYD - hysbysu’r Cabinet bod y Pwyllgor Archwilio Adnoddau yn cytuno â strategaeth ygyllideb ar gyfer 2001/2002 fel y’i hamlinellwyd yn yr atodiadau ynghlwm wrth yr adroddiad gan yr AelodArweiniol dros Gyllid.

    Daeth y cyfarfod i ben am 3.30p.m.

    *********

    462

  • CYNGOR SIR DDINBYCH

    Cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Rhuthun ar Ddydd Mawrth,16eg Ionawr, 2001 am 10.00 a.m.

    YN BRESENNOL

    Y Cynghorwyr R. Ll. Williams (Cadeirydd), J. Butterfield, D.W. Davies, M. Ll. Davies, P.A. Dobb, P. Douglas,S. Drew, E.C. Edwards, A.E. Fletcher-Williams, M.A. German, K.N. Hawkins, D.M. Holder, J.R. Hughes,D. Jones, F.D. Jones, G. Jones, M.M. Jones, N.H. Jones, P.M. Jones, R.E. Jones, R.J.R. Jones, G.M. Kensler,J.S. Kerfoot-Davies, D.M. Morris, E.A. Owens, T.M. Parry, A.E. Roberts, F. Shaw, J.A. Smith, K.P. Stevens,D.A. Thomas, A.J. Tobin, W.R. Webb, K.E. Wells, C.H. Williams, E.W. Williams a P.O. Williams.

    HEFYD YN BRESENNOL

    Prif Weithredwr, Dirprwy Prif Weithredwr, Clerc y Sir, Rheolydd Ariannol a Rheolwr Gwasanaethau Gweinyddu.

    DERBYNIWYD YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB ODDI WRTH

    Y Cynghorwyr I.M. German, N.J. Hughes, R.W. Hughes, A.E.W. Jones, E.R. Jones, S. Thomas, W.G. Thomas,G. Williams, P.J. Williams a Mrs. C. Ashton a Mr. P.R. Williams (aelodau Cyfetholedig).

    CROESO

    Croesawodd y Cadeirydd y canlynol, a oedd newydd eu penodi, i’r cyfarfod:-

    Ms. Sioned Bowen, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Dysgu Gydol Oes;Mr. Alan Evans, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Adnoddau, aMs. Ann Gosse, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Diwylliant a Hamdden.

    Ar ran Grwp Plaid Cymru, croesawodd y Cynghorydd M.Ll. Davies y Swyddogion i’r cyfarfod hefyd allongyfarchodd y Cynghorydd J.R. Hughes ar ei briodas ddiweddar.

    948. COFNODION Y CYNGOR

    Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 28ain Tachwedd, 2000 (a gylchlythyrwydyn flaenorol).

    Materion yn Codi:-

    (i) Cofnod Rhif 802 (Cydbwysedd Gwleidyddol) - mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd E.W.Williams dywedodd Clerc y Sir bod y sefyllfa ynglyn â’r tri Aelod a ddatgofrestrwyd o’r GrwpLlafur yn dal i fod heb ei phenderfynu ac felly y byddai’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol drosdro yn parhau. Teimlai’r Cynghorydd Williams y dylid defnyddio cydbwysedd gwleidyddol llymgyda chynrychiolwyr y Cyngor ar gyrff allanol a chytunodd Clerc y Sir i edrych y rhestrbresennol o gynrychiolwyr i’r diben hwnnw.

    PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar28ain Tachwedd, 2000 fel rhai cywir.

    949. COFNODION PWYLLGORAU/PANELI

    PENDERFYNWYD yn amodol ar yr isod derbyn Cofnodion y Pwyllgorau a’r Paneli canlynol sef:-

    (i) Grwp Llywio Trosedd ac Anhrefn - 2il Tachwedd, 2000

    Holodd y Cynghorydd M. Ll. Davies a oedd cau Gorsafoedd Heddlu, lefelau gweithlu, ayb. ynrhan o’r cylch gwaith i’r Grwp Llywio. Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod nad oedd materion o’r

    463

  • fath yn bethau i’r Grwp eu hystyried fel rheol ond gallai eu codi yn y cyfarfod nesaf os dynaddymuniad yr Aelodau.

    (ii) Pwyllgor Ymgynghorol yr Athrawon - 8fed Tachwedd, 2000;

    (iii) Cabinet - 14eg Tachwedd, 2000 (cadarnhawyd yn flaenorol);

    (iv) Pwyllgor Archwilio Dysgu Gydol Oes - 14eg Tachwedd, 2000;

    (v) Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd - 15fed Tachwedd, 2000;

    (vi) Pwyllgor Archwilio Gwasanaethau Personol - 15fed Tachwedd, 2000;

    (vii) Pwyllgor Archwilio Gwerth Gorau - 21ain Tachwedd, 2000;

    (viii) Pwyllgor Archwilio Adnoddau - 21ain Tachwedd, 2000;

    (ix) Cabinet - 23ain Tachwedd, 2000;

    (x) Pwyllgor Cynllunio - 29ain Tachwedd, 2000;

    (xi) Panel Trwyddedu - 30ain Tachwedd, 2000;

    (xii) Cabinet - 5ed Rhagfyr, 2000;

    (xiii) Panel Ymgynghorol Mentrau Cefndy - 6ed Rhagfyr, 2000;

    (xiv) Panel Cartrefi Plant a Gofal Preswyl - 7fed Rhagfyr, 2000;

    (xv) Pwyllgor Archwilio’r Amgylchedd - 13eg Rhagfyr, 2000;

    (xvi) Pwyllgor Archwilio Gwasanaethau Personol - 13eg Rhagfyr, 2000;

    (xvii) Pwyllgor Archwilio Adnoddau - 19eg Rhagfyr, 2000;

    (xviii) Pwyllgor Archwilio Dysgu Gydol Oes - 19eg Rhagfyr, 2000;

    (xix) Pwyllgor Cynllunio - 20fed Rhagfyr, 2000

    (i) Cofnod Rhif 868 - Cais Rhif 43/2000/0900/PO -

    mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd N.H. Jones rhoddodd Clerc y Sir eglurhadynghylch pam oedd y rhesymau diwygiedig dros wrthod yn wahanol i’r rheini a oeddwedi’u cynnwys yn yr adroddiad i’r Pwyllgor, a

    (ii) Chofnod Rhif 868 - Cais Rhif 45/2000/1082/PF -

    - newid Stryd Bodfari yn Stryd Bodfor, a

    - newid Safle marchnad Bel yn Safle Marchnad Bell.

    (xx) Pwyllgor Archwilio Gwasanaethau Personol Arbennig - 20fed Rhagfyr, 2000;

    (xxi) Pwyllgor Archwilio Gwerth Gorau - 20fed Rhagfyr, 2000, a

    (xxii) Cabinet - 21ain Rhagfyr., 2000.

    464

  • 950. ADRODDIAD Y CADEIRYDD

    Dymunodd y Cadeirydd flwyddyn Newydd Dda i bawb a rhoddodd adroddiad ar y digwyddiadau dinesigcanlynol a oedd wedi’u cynnal ers cyfarfod diwethaf y Cyngor:-

    (i) agoriad swyddogol Tweedmill Factory Outlets ar 30ain Tachwedd, 2000;

    (ii) croesawu Cyfarfod Blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru yn Nhy Russell, Y Rhyl ar 8fed Rhagfyr,2000;

    (iii) agoriad swyddogol Llwybr Hirbell Bryniau Clwyd ar 8fed Rhagfyr, 2000;

    (iv) cynnal Derbyniad Dinesig yng Nghorwen ar 11eg Rhagfyr, 2000 i’r Medalydd Aur ParalympaiddNicola Tustain;

    (v) ymweliad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru â Neuadd y Dref, Y Rhyl ar 12fed Rhagfyr,2000;

    (vi) seremoni a gynhaliwyd yn Depo Bodelwyddan ar 18fed Rhagfyr, 2000 i dderbyn gan RennicksU.K. Ltd., ar ran Siop Arwyddion y Gwasanaethau Contract, Dystysgrif Sicrwydd Ansawdd aphlac cysylltiedig, fel gwneuthurwr cymeradwyedig a gwarantedig;

    (vii) ymweliad Sue Essex, Gweinidog dros yr Amgylchedd, y Cynulliad Cenedlaethol, â GwarchodfaNatur Pwll Brickfield, Y Rhyl ac â Glan Morfa, Y Rhyl ar 9fed Ionawr, 2001, a

    (viii) agor yr Unedau Busnes newydd ar Stad Ddiwydiannol Colomendy ar 12fed Ionawr, 2001.

    Hefyd llongyfarchodd y Cadeirydd y bobl ganlynol a oedd wedi derbyn gwobrwyon yn RhestrAnrhydeddau’r Flwyddyn Newydd:-

    OBE - Dr. Bimal Kanti Bhowmick, Llanelwy - Gwasanaeth i Feddygaeth Geriatrig yng Nghymru;

    MBE - Mrs. Laraine Bruce, Trefnant - Gwasanaeth i bobl gydag Anableddau Dysgu yng Nghymru;

    MBE - Mrs. Phyllis Dryhurst-Dodd, Dinbych - Gwasanaeth i’r gymuned yn Sir Ddinbych;

    MBE - Mr. John M. Harrop, Llanfair D.C. - Gwasanaeth i’r RNLI;

    MBE - Mrs. Rowenna M. Hibbin, Y Rhyl - Gwasanaeth i’r gymuned yn Sir Ddinbych, a

    MBE - Mrs. Manikam S. Lourie, Llanrhaeadr - Gwasanaeth i Gydraddoldeb Hil yng Ngogledd Cymru.

    Llongyfarchodd yr Arweinydd y Cadeirydd ar y dyletswyddau dinesig yr ymgymerwyd â hwy ar ran yCyngor. Diolchodd hefyd i Swyddogion Cysylltiadau Cyhoeddus y Cyngor am y gwaith a wnaed yncynorthwyo gyda’r trefniadau ar gyfer ymweliad Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

    951. CYLLIDEB 2001/02

    Cyflwynodd y Cynghorydd E.A. Owens, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, adroddiad ac atodiadau(a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn am gytundeb i strategaeth y gyllideb am 2001/02 fel y’ihargymhellwyd gan y Cabinet yng ngoleuni’r cynnydd hyd yn hyn a’r cytundeb amodol oddi wrth yCynulliad. Dywedodd fod y cytundeb cyllidol oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol wedi golygu diweddpasbortio a chylch-ffensio arian newydd ar gyfer materion penodol tra’n rhagdybied cyfanswm cynnyddyn y gwariant o 5.7% dros y flwyddyn bresennol. Byddai angen rhoi 1% o’r 5.7% hwnnw o’r neilltu argyfer eitemau penodol megis ailstrwythuro cyflogau athrawon; cyllid GEST a maint dosbarthiadaubabanod. Byddai gan y Cyngor hefyd lefel sylweddol o ymrwymiad gwariant cyfalaf sy’n deillio o’rllifogydd diweddar ar ben y costau sydd i’w hadennill drwy fformiwla Bellwin. Roedd y CynulliadCenedlaethol wedi’i hysbysu y gallai’r gwaith cyfalaf ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd a gwelliannau

    465

  • priffyrdd gostio hyd at £9m ac roeddid yn dal i aros am gyngor ar ariannu’r gwaith hwnnw gan yCynulliad.Cynigiodd Arweinydd y Cyngor strategaeth y gyllideb yn ffurfiol a thalodd deyrnged i’r gwaith rhagorol awnaed ar y gyllideb gan yr Aelod Arweiniol, y Rheolydd Ariannol a’r staff ym mhob Cyfarwyddiaeth.Aeth y Cynghorydd Owens â’r Aelodau drwy’r adroddiad a chyfeiriodd at yr Atodiadau a oedd ynghlwmwrth yr adroddiad, a oedd yn crynhoi’r sefyllfa refeniw a chyfalaf ar hyn o bryd; y pwysau a’r toriadau argyfer pob Cyfarwyddiaeth a’r adnoddau cyfalaf am 2001/2002 a’i ddyraniad posibl.

    Cymerodd yr Aelodau y cyfle i godi cwestiynau ar y pwysau a’r toriadau o fewn pob Cyfarwyddiaeth acymatebodd yr Aelodau Arweiniol, y Prif Weithredwr, y Rheolydd Ariannol a Swyddogion eraill yn briodol.Yn arbennig, cyfeiriodd yr Aelodau at y gostyngiad yn yr arian i fudiadau gwirfoddol; materion tlodi sy’ncodi o doriadau yn y gwasanaethau; tocynnau rhatach yn Ne’r Sir; costau cludiant ysgolion; gostyngiadyn y staff personél; lwfansau Aelodau a phresenoldeb mewn cyfarfodydd; blaenoriaethu’r rhaglen gyfalaf;cyllid ym Mhlas Brondyffryn a chynlluniau amddiffyn rhag llifogydd.

    Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r Rheolydd Ariannol am eu holl waith caled wrth baratoistrategaeth y gyllideb am 2001/02.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo strategaeth y gyllideb fel y’i hamlinellwyd yn yr atodiadau i’r adroddiadfel y fframwaith ar gyfer gosod cyllideb 2001/2002.

    Yn y fan hon (11.35 a.m.) torrodd y cyfarfod am 15 munud er mwyn i’r Aelodau gael paned a rhywbeth i’w fwyta.

    952. AROLWG FFIN DYNODIAD ARDAL GADWRAETH - DINBYCH

    Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Amgylchedd, adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio (agylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn am sêl bendith i estyn ffin Ardal Gadwraeth Dinbych. Dywedoddfod y Cyngor, mewn egwyddor, wedi cymeradwyo estyniad i’r Ardal yn flaenorol, yn amodol arymgynghori. Roedd pob cartref o fewn yr Ardal Gadwraeth wedi derbyn taflen yn egluro canlyniadaudynodi ac o’r ymarferiad hwnnw dim ond tri ymateb a dderbyniwyd ac roedd dau ohonynt wedi cefnogi’rcynnig ac nid oedd gan y trydydd unrhyw ffafriaeth o blaid neu yn erbyn.

    Rhoddodd y Cynghorydd G.M. Kensler wybod nad oedd ymgynghori wedi digwydd gyda Chyngor TrefDinbych neu Gymdeithas Ddinesig Dinbych.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo estyniad i ffin Ardal Gadwraeth Dinbych fel yr oedd wedi’i ddiffinio ar ymap yn Atodiad A i’r adroddiad yn amodol ar ymgynghori pellach â Chyngor Tref Dinbych a ChymdeithasDdinesig Dinbych.

    953. PWYLLGOR SAFONAU

    Cyflwynodd Clerc y Sir adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn am enwebiadau ar gyfer dauAelod i eistedd ar y Pwyllgor Safonau. Dywedodd fod pethau’n symud ymlaen mewn perthynas âsefydlu’r Pwyllgor Safonau yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000. Byddai angen i’r Cyngor ystyried, ynei dro, ymatebion gan Gynghorau Tref a Chymuned mewn perthynas â’r strwythur a’r trefniadau iBwyllgorau Safonau arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r Cynghorau hynny ac ystyried datganiadauo ddiddordeb gan bobl annibynnol sy’n dymuno eistedd ar y Pwyllgor.

    Rhoddodd Clerc y Sir wybod ymhellach fod cyfarwyddyd drafft a gyhoeddwyd gan y D.E.T.R. ar gyferymgynghori yn Lloegr yn dangos bod y Llywodraeth yn bwriadu cyfyngu nifer yr Aelodau Gweithredol ycaniateir iddynt eistedd ar Bwyllgor Safonau i un yn unig.

    Cynigiodd y Cynghorydd E.W. Williams, ac eiliwyd gan y Cynghorydd G.M. Kensler, na ddylai’r unAelod Gweithredol eistedd ar y Pwyllgor Safonau ac y dylid gofyn am enwau gan Aelodau an-Weithredolgyda chymwysterau priodol. O’i roi i bleidlais fe:-

    BENDERFYNWYD ar hynny.

    466

  • Cynigiodd y Cynghorydd W.R. Webb ymhellach, ac eiliwyd gan y Cynghorydd N.H. Jones y dylai’r ddauAelod gynnwys 1 enwebiad Annibynnol ac 1 enwebiad Llafur.

    Cynigiodd y Cynghorydd G.M. Kensler welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd P.O. Williams y dylidgwahodd yr enwebiadau gan yr holl Aelodau an-Weithredol. O’i roi i bleidlais cyhoeddwyd bod ygwelliant wedi’i DRECHU.

    Rhoed y cynnig gwreiddiol i bleidlais ac fe’i DERBYNIWYD ac fe:-

    BENDERFYNWYD penodi dau Aelod an-Weithredol i’r Pwyllgor Safonau a gofyn am enwebiadau ganAelodau sydd â chymwysterau priodol o’r Grwpiau Annibynnol a Llafur (1 o bob Grwp).

    (Dymunai’r Cynghorydd G.M. Kensler iddo gael ei gofnodi ei bod wedi pleidleisio’n erbyn y penderfyniaduchod).

    954. ETHOLIADAU CYNGOR SIR

    Cyflwynodd Clerc y Sir adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn yr Aelodau ar lythyrymgynghorol a dderbyniwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch amseriad yr EtholiadauCyngor Sir nesaf. Roedd yr etholiadau diwethaf a gynhaliwyd ym Mai 1999 wedi’u cynnal ar yr un prydâ’r etholiadau cyntaf ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ac roedd yna syniadau cryf ynghylch pa un afyddai’n well newid y flwyddyn yr oedd yr etholiadau lleol nesaf i’w cynnal ai peidio. Rhoddodd yCynghorydd W.R. Webb wybod bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi argymell y dylai’retholiadau lleol gael eu cynnal yn 2004.

    PENDERFYNWYD hysbysu’r Cynulliad Cenedlaethol bod yr Awdurdod hwn yn dymuno i’r Cynulliad newiddrwy Orchymyn y flwyddyn y mae’r Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf i’w cynnal i 2004.

    955. CYNHADLEDD RHEOLAETH YR ARFORDIR AR GYFER CYNALADWYEDD

    Gofynnodd Clerc y Sir am enwebiadau ar gyfer Aelod i fynychu’r gynhadledd uchod sydd i’w chynnal ynLlundain ar 24/25 Ionawr, 2001 (manylion y gynhadledd wedi’u cylchlythyru’n flaenorol).

    Cynigiodd y Cynghorydd A.E. Roberts, ac eiliwyd gan y Cynghorydd M. Ll. Davies nad oedd yr uncynrychiolydd i’w enwebu i fynychu’r gynhadledd.

    Cynigiodd y Cynghorydd P. Douglas welliant, a eiliwyd gan y Cynghorydd D.W. Davies fodcynrychiolydd i’w enwebu i’w mynychu. O’i roi i bleidlais DERBYNIWYD y gwelliant.

    Cynigiodd y Cynghorydd G.M. Kensler ymhellach, ac eiliwyd gan y Cynghorydd P.O. Williams fod ondcynrychiolydd o Swyddog i’w enwebu i fynychu’r gynhadledd. O’i roi i bleidlais TRECHWYD y cynnig.

    Yn dilyn trafodaethau pellach fe:-

    BENDERFYNWYD:-

    (a) enwebu un Aelod ac un Swyddog i fynychu’r Gynhadledd ar 24/25 Ionawr, 2001, a

    (b) bod y Cynghorydd N.H. Jones i fod yr Aelod enwebedig i fynychu’r gynhadledd a gofyn iddoddarparu crynodeb o’r gynhadledd ac unrhyw bapurau cysylltiedig i Bwyllgor Archwilio’rAmgylchedd.

    956. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’rcyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaetheithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 6 a 10 Rhan 1 Atodlen 12A y Ddeddf.

    467

  • 957. COFNODION PANEL MABWYSIADU A MAETHU SIR DDINBYCH

    Cyflwynwyd - Cofnodion cyfrinachol Panel Mabwysiadu a Maethu Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 13egTachwedd a’r 11eg Rhagfyr, 2000 (a gylchlythyrwyd yn flaenorol).

    Materion yn Codi:-

    Cododd y Cynghorydd D. Jones ei bryderon ynghylch y costau sy’n codi o’r amser a dreuliwyd gan yStaff a’r Panel yn ymdrin â chais i eithrio gofalwyr maeth rhag y cyfyngiad maethu arferol yn ymwneud âgofalwyr a oedd wedi symud i mewn i’r Sir o ardal arall. Cyfeiriodd hefyd at arfer gofalwyr maeth ynsymud i mewn i’r Sir heb rybudd o flaen llaw gan eu hawdurdodau blaenorol.

    Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Personol nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ymfudiadgofalwyr maeth i mewn o awdurdodau eraill, a allai wedyn gynnig eu gwasanaethau i’r awdurdodauhynny. Cydnabu’r Cyfarwyddwr bryderon y Cynghorydd Jones a chytunodd i fynd ar ôl y materion hynnygyda Swyddogion o’r Cynulliad Cenedlaethol.

    Cyfeiriodd y Cynghorydd D.W. Davies hefyd at y galwadau ar y stoc dai gan deuluoedd/gofalwyr maethsy’n symud i mewn i’r Sir, yn arbennig yn ardal Y Rhyl.

    PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chydnabod Cofnodion cyfarfodydd y PaneliMabwysiadu a Maethu a gynhaliwyd ar 13eg Tachwedd a’r 11eg Rhagfyr 2000.

    958. ADDYSG ÔL 16

    Cyfeiriodd y Cynghorydd K.E. Wells, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, at yr adroddiad llafar aroddwyd ganddo i’r Cabinet ar 21ain Rhagfyr, 2000 (cyfeiria Cofnod Rhif 909) a’r angen i ddiweddaru’rholl Aelodau ar y newidiadau sylfaenol sydd i’w gwneud mewn Addysg Ôl 16 o’r 1af Ebrill, 2001.Dywedodd y byddai holl Addysg Ôl 16 yn cael ei ariannu, yn y dyfodol, gan C.E.T.W a’i weinyddu ganC.C.E.T.au lleol.

    Cyfeiriodd y Cynghorydd Wells yn fyr at yr opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor, a fyddai’n destunadroddiadau manwl pellach i’r Cabinet, Archwilio a’r Cyngor Sir.

    Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch arwyddocâd y cynigion a chytunasant y dylid paratoi papuropsiynau cyn gynted ag y gellir.

    PENDERFYNWYD cydnabod y sefyllfa.

    SESIWN AGORED

    Ar ôl cwblhau’r uchod ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

    959. STRATEGAETH GORFFORAETHOL AR GYFER IECHYD YN Y GWEITHLE

    Cyfeiriodd y Cynghorydd D.M. Holder, ar ran y Cynghorydd I.M. German, Aelod Arweiniol y Cabinet drosAdnoddau Dynol, at y gwaith a wnaed gan Delyth Wyn Jones (Swyddog a secondwyd o AwdurdodIechyd Gogledd Cymru) yn datblygu Strategaeth Iechyd Corfforaethol yn y Gweithle i’r Sir ar y cyd âPhennaeth Personél, Rheolwr Iechyd Galwedigaethol ac Ymgynghorydd Diogelwch y Sir.

    Pwysleisiodd y Cynghorydd Holder fod llwyddiant unrhyw bolisi neu strategaeth yn dibynnu arymroddiad, brwdfrydedd a mewnbwn y rheini yr ymddiriedwyd y broses iddynt, neu sy’n ymgymryd â’rbroses. Cymeradwyodd y fenter Strategaeth Iechyd yn y Gweithle i’r Aelodau ei hystyried.

    Yn absenoldeb Delyth Wyn Jones, a gyda chymorth sleidiau, fe osododd Pennaeth Personél yr agendahybu iechyd yn y cyd-destun cenedlaethol a soniodd am ennill y safon gorfforaethol i Sir Ddinbych.Cyfeiriodd at y rhaglen waith arfaethedig wrth weithredu’r ddogfen strategaeth, a fyddai’n cael eigoruchwylio’n bennaf gan y Panel Iechyd Diogelwch a Lles Corfforaethol. Byddai angen i’r strategaethgael ei hymgorffori yn y system Gwerth Gorau hefyd.

    468

  • Eglurodd Pennaeth Personél sut y byddai’r Strategaeth Iechyd yn y Gweithle yn ffitio i fframwaithDatblygiad Trefniadol y Cyngor a chyfeiriodd at fuddion y strategaeth a’r broses o’i gweithredu.

    Terfynodd Rheolwr Iechyd Galwedigaethol y cyflwyniad drwy amlinellu rhywfaint o’r peirianwaith cynnalpresennol sydd eisoes yn ei le a sut y gallai ac y dylai’r Cyngor wella a datblygu hwnnw ymhellach.Cyfeiriodd hi’n arbennig at y gwaith a wnaed gan yr Uned Iechyd Galwedigaethol wrth gefnogi staff yn ygweithle ac at y gwasanaethau a ddarperir.

    Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth Personél a Rheolwr Iechyd Galwedigaethol am y cyflwyniad ac fe:-

    BENDERFYNWYD cymeradwyo’r drafft o’r Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer Iechyd yn y Gweithle a’rrhaglen waith arfaethedig i’w weithredu, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad.

    Daeth y cyfarfod i ben am 1.15 p.m.

    *********************

    469

  • PANEL ARCHWILIO

    Cofnodion cyfarfod y Panel Archwilio a gynhaliwyd yn Ystafell Stewart Jones, Swyddfeydd y Cyngor, Prestatynar Ddydd Mercher, 17eg Ionawr, 2001 am 10.00 a.m.

    YN BRESENNOL

    Y Cynghorwyr P.A. Dobb, S. Drew (fel dirprwy ar ran M.A. German), M.M. Jones, R.E. Jones, G.M. Kensler,J.S. Kerfoot-Davies, E.A. Owens (Sylwedydd) a W.G. Thomas.

    HEFYD YN BRESENNOL

    Pennaeth Gwasanaethau Archwilio a Swyddog Gwasanaethau Etholiadol.

    YMDDIHEURIADAU

    Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr A.E. Roberts, F. Shaw, W.R. Webb a G.Williams a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyllid.

    960. PERFFORMIAD ARCHWILIO MEWNOL 1999/2000

    Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Archwilio ei adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol), ergwybodaeth a sêl bendith yr Aelodau, yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Archwilio Mewnol hyd at31ain Rhagfyr 2000 yn ôl y targedau a gytunwyd.

    Hysbysodd Pennaeth Gwasanaethau Archwilio yr Aelodau, er bod y perfformiad yn unol â’r nod yn yrhan fwyaf o feysydd, roedd y canlyniadau’n parhau i amlygu pryderon mewn pedwar maes er gwaethafgwelliant sylweddol ers yr adroddiad blaenorol. Roeddid yn dal i ragweld y byddai’r rhain yn cael eudatrys erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

    Yn dilyn trafodaeth gan yr Aelodau fe:-

    BENDERFYNWYD - derbyn yr adroddiad.

    961. CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL 2000/2001

    Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Archwilio ei adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol), yn dangosy cynnydd a wnaed hyd at 31ain Rhagfyr 2000 ar ôl cwblhau’r cynllun archwilio blynyddol a gytunwydgan y Panel ym mis Mawrth 2000.

    Roedd y cynnydd yn dangos nad oedd yn awr ond 3 archwiliad o’r aseiniadau archwilio cynlluniedig aoedd yn annhebygol o gael eu gwneud. O’r 3 dan sylw, roedd un wedi’i drin yn fanwl gan ymgynghoryddallanol yn ystod y flwyddyn a byddai’n ffurfio rhan o raglen flynyddol o 2001 ymlaen. Roedd y ddau arallwedi’u gohirio a byddent yn cael eu cynnwys yng nghynllun 2001/2002.

    Cododd yr Aelodau nifer o gwestiynau ar yr aseiniadau rhaglenedig ac yn dilyn hynny fe:-

    BENDERFYNWYD - derbyn yr adroddiad

    962. GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

    PENDERFYNWYD, dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’rcyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn debygol o olygu datgelu gwybodaetheithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 Rhan I Atodlen 12A y Ddeddf.

    470

  • 963. ADRODDIADAU ARCHWILIO MEWNOL

    Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Archwilio ei adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) ergwybodaeth yr Aelodau yn rhestru’r adroddiadau archwilio mewnol a gyhoeddwyd, yr argymhellion awnaed a’r camau a gymerwyd gan y rheolwyr.

    Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch dau adroddiad a gyflwynwyd, ac yn dilyn trafodaeth hir fe:-

    BENDERFYNWYD:-

    (a) derbyn yr adroddiadau archwilio mewnol risg ganolig a risg isel, a

    (b) gohirio’r cyfarfod tan 12 Chwefror 2001, pan:-

    (i) fyddid yn gofyn i Swyddog o’r Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn bresennol i atebcwestiynau ar yr adroddiad archwilio mewnol ar y Cynllun Byw yn y Gymuned yn FforddGalltmelyd, a

    (ii) fyddid yn gofyn i Swyddog o’r Gwasanaethau Hamdden fod yn bresennol i atebcwestiynau ar yr adroddiad archwilio mewnol ar Gyrchfannau ac AmwynderauCyffredinol.

    Daeth y cyfarfod i ben am 12.15 pm.

    *********

    471

  • CABINET

    Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref, Rhuthun ar Ddydd Mawrth, 23ain Ionawr 2001 am10.00 a.m.

    YN BRESENNOL

    Y Cynghorwyr E.C. Edwards (Arweinydd), I.M. German, D.M. Holder, R.W. Hughes, G.M. Kensler, D.M. Morris,E.A. Owens, A.E. Roberts, W.R. Webb, K.E. Wells ac E.W. Williams.

    Sylwedyddion - Y Cynghorwyr J. Butterfield, S. Drew, G. Jones, R.J.R. Jones, K.N. Hawkins a W.G. Thomas.

    HEFYD YN BRESENNOL

    Dirprwy Prif Weithredwr, Clerc y Sir, Rheolydd Ariannol.

    964. CYHOEDDIADAU:

    (i) Croesawodd yr Arweinydd Sioned Bowen, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes ac Anne Gosse,Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diwylliant a Hamdden i’w cyfarfod cyntaf o’r Cabinet. Estynnodd yrArweinydd groeso hefyd i Heidi Roberts a Nia Grisdale, Cyfreithwyr Dan Hyfforddiant ac AmandaBrooks ac Alison Walsh, Cyfreithwyr i’w cyfarfod cyntaf.

    (ii) Cyhoeddodd y Dirprwy Prif Weithredwr farwolaeth drasig brawd i Ian Swan, Gweithiwr Cymdeithasolyn Nhîm Rheoli Gofal Gwasanaethau Oedolion. Gofynnwyd i’r Aelodau sefyll mewn cydymdeimlad.

    (iii) Dywedodd yr Arweinydd y byddai llun o’r ‘Cabinet wrth ei Waith’ yn cael ei gymryd yng nghyfarfod yCabinet sydd i fod i’w gynnal ar 6 Chwefror 2001 yn Swît Monsanto, y Pafiliwn RhyngwladolBrenhinol, Llangollen.

    (iv) Bydd llunio rhestr fer ar gyfer swydd Pennaeth Personél yn dilyn cyfarfod y Cabinet sydd i fod i’wgynnal ar 6 Mawrth 2001 yn Neuadd Tref Y Rhyl.

    965. COFNODION Y CABINET

    Cyflwynwyd Cofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2000 (a gylchlythyrwyd yn flaenorol).

    Materion yn Codi:-

    Eitem 894 (Datblygiad Heol y Parc Rhuthun) Holodd y Cynghorydd E.W. Williams ynghylch costaudymchwel y depo. Cytunodd y swyddogion i ddarparu ffigurau maes o law.

    Eitem 902 (Gofyniad i Ad-dalu Grant yn Codi o Dorri Amodau Grant Adnewyddu - 31 Stryd y Dwr,Dinbych) Dywedodd y Cynghorydd G.M. Kensler nad oedd hi wedi derbyn gwybodaeth ynglyn â’r eitemcyn y cyfarfod ac felly ataliodd ei phleidlais ar yr eitem.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2000 fel rhaicywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd.

    Cyflwynwyd Cofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2001 (a gylchlythyrwyd yn flaenorol).

    Materion yn Codi:-

    Eitem 2 (Comisiwn Ffiniau) Gofynnodd y Cynghorydd G.M. Kensler a allai dirprwyon fod yn bresennolpe na byddai Arweinydd Grwp ar gael, cytunwyd ar hyn.

    PENDERFYNWYD cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2001 fel rhaicywir a’u harwyddo gan yr Arweinydd.

    472

  • 966. CYNHADLEDD YMGYNGHOROL - DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 YNG NGHYMRU

    Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi anfon llythyr dyddiedig 10 Ionawr 2001 yn rhoi rhybuddcynnar o’r Gynhadledd Ymgynghorol - Deddf Llywodraeth Leol 2000 yng Nghymru sydd i’w chynnal ar28.02.2001 yng Nghaerdydd, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Syniad ac ArchwiliadDosbarth. Byddai’r Gynhadledd yn caniatáu i’r cyfranogion glywed y prif faterion a achosai bryder aoedd wedi codi yn ystod yr ymgynghori ac i gyflenwi barn Sir Ddinbych fel rhan o’r ymarferiadymgynghorol.

    PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd A E Owens a Chlerc y Sir i fynychu’r Gynhadledd Ymgynghorolsydd i’w chynnal ar 28.02.2001.

    967. RECRIWTIO

    Cyflwynodd yr Arweinydd y ceisiadau canlynol i’w cymeradwyo:-

    (I) Clerc Graddfa 1 - Gwasanaethau Cynllunio, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd Roedd y swyddhon wedi’i dal yn flaenorol gan staff asiantaeth. Gofynnodd y Cynghorydd E.W. Williams fod yswydd hon i’w hysbysebu’n fewnol yn y lle cyntaf;

    (ii) Cynorthwy-ydd Personol Graddfa 4 i 2 Bennaeth Gwasanaethau - Cyfarwyddiaeth yGwasanaethau Cymdeithasol. Roedd y swydd hon wedi’i hysbysebu’n fewnol ddwywaith, ondni chanfuwyd yr un ymgeisydd addas;

    (iii) Cynorthwy-ydd Clerigol Graddfa 1 - Gwasanaethau Tai, Cyfarwyddiaeth GwasanaethauPersonol. Roedd y swydd hon wedi’i hysbysebu’