cymeradwywyd gan cymwysterau cymru

41
TGAU TGAU CBAC CYFRIFIADUREG CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU MANYLEB Addysgu o 2017 I’w ddyfarnu o 2019 Fersiwn 4 Ionawr 2019 Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.

Upload: others

Post on 16-Oct-2021

5 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU

TGAU CBAC

CYFRIFIADUREG

CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

MANYLEB

Addysgu o 2017 I’w ddyfarnu o 2019

Fersiwn 4 Ionawr 2019

Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.

Page 2: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

CRYNODEB O NEWIDIADAU

Fersiwn Disgrifiad Rhif y dudalen

2 Newid bach i egluro pa fersiwn o Greenfoot sydd ei angen (yn y pedwerydd pwynt bwled) Tynnu dau baragraff anarferedig, oedd yn ymwneud â chyflwyno gwaith drwy gyfrwng storio eilaidd.

19

3 Mân newidiadau terminoleg, gan ddefnyddio ‘awthentigeiddio’ yn gyson drwyddi draw i esbonio’r broses hon yng nghyd-destun rhaglennu cyfrifiaduron.

Drwyddi draw

4

Newidiwyd yr adran 'Cofrestru' i egluro rheolau ailsefyll a throsglwyddo marciau'r Asesu Di-arholiad.

25

Page 3: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU
Page 4: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 1

TGAU CBAC mewn CYFRIFIADUREG

I'w addysgu o 2017 I'w ddyfarnu o 2019

Mae'r fanyleb hon yn bodloni'r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg a'r Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer Cymwysterau TGAU sy'n nodi'r gofynion ar gyfer yr holl fanylebau TGAU newydd neu ddiwygiedig a ddatblygwyd i'w haddysgu yng Nghymru o fis Medi 2017.

Tudalen

Crynodeb o'r asesu 2

1. Rhagarweiniad 3 1.1 Nodau ac amcanion 3 1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant 4 1.3 Cydraddoldeb a mynediad teg 4 1.4 Bagloriaeth Cymru 5 1.5 Persbectif Cymreig 5

2. Cynnwys y pwnc 6 2.1 Uned 1 7 2.2 Uned 2 12 2.3 Uned 3 16

3. Asesu 18 3.1 Amcanion asesu a phwysoli 18 3.2 Trefniadau ar gyfer Uned 2: arholiad ar-sgrin 18 3.3 Trefniadau ar gyfer Uned 3: asesu di-arholiad 19

4. Gwybodaeth dechnegol 25 4.1 Cofrestru 25 4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl 25

Atodiadau 26 A: Asesu di-arholiad 26 B: Gridiau asesu ar gyfer asesu di-arholiad 28 C: Confensiynau a ddilynir yn y fanyleb 36

Page 5: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 2

© WJEC CBAC Ltd.

TGAU CYFRIFIADUREG

(Cymru)

CRYNODEB O'R ASESU

Uned 1: Deall Cyfrifiadureg Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 50% o'r cymhwyster 100 marc

Mae'r uned hon yn ymchwilio i galedwedd, gweithrediadau rhesymegol, cyfathrebu, cynrychioliad data a mathau data, systemau gweithredu, egwyddorion rhaglennu, peirianneg meddalwedd, llunio rhaglenni, diogelwch a rheoli data ac effeithiau technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach.

Uned 2: Meddwl Cyfrifiannol a Rhaglennu Arholiad ar-sgrin: 2 awr 30% o'r cymhwyster 60 marc

Mae'r uned hon yn ymchwilio i ddatrys problemau, algorithmau a lluniadau rhaglennu, ieithoedd rhaglennu, strwythurau data a mathau data a diogelwch ac awthentigeiddio.

Uned 3: Datblygu Meddalwedd Asesiad di-arholiad: 20 awr 20% o'r cymhwyster 80 marc

Mae'r uned hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr lunio datrysiad wedi'i raglennu i broblem. Rhaid iddynt ddadansoddi'r broblem, llunio datrysiad i'r broblem, datblygu'r datrysiad terfynol wedi'i raglennu, profi'r datrysiad a rhoi awgrymiadau ar gyfer datblygu'r datrysiad ymhellach. Wrth lunio'r datrysiad mae'n ofynnol i ddysgwyr gynhyrchu log mireinio sy'n dangos tystiolaeth o ddatblygiad y datrysiad.

Bydd y cymhwyster llinol hwn ar gael ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn. Bydd yn cael ei ddyfarnu am y tro cyntaf yn haf 2019.

Rhif Achredu'r Cymhwyster: C00/1157/9

Page 6: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 3

© WJEC CBAC Ltd.

TGAU CYFRIFIADUREG 1 RHAGARWEINIAD

1.1 Nodau ac amcanion Mae TGAU Cyfrifiadureg CBAC yn annog dysgwyr i:

• ddeall a chymhwyso egwyddorion sylfaenol a chysyniadau cyfrifiadureg, gan gynnwys; haniaeth, dadelfeniad, rhesymeg, algorithmau, a chynrychioliad data

• dadansoddi problemau yn nhermau cyfrifiannu drwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o'r fath, gan gynnwys dylunio, ysgrifennu a dadfygio rhaglenni er mwyn gwneud hynny

• meddwl yn greadigol, arloesol, dadansoddol, rhesymegol a beirniadol

• deall y cydrannau sy'n creu'r systemau digidol, a sut maent yn cyfathrebu â'i gilydd a gyda systemau eraill

• deall effeithiau technoleg ddigidol ar yr unigolyn a'r gymdeithas ehangach

• cymhwyso sgiliau mathemategol sy'n berthnasol i gyfrifiadureg. Defnyddir cyfrifiaduron yn eang ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden a'r cartref. Yn yr oes dechnolegol hon, mae astudio cyfrifiadureg, ac yn enwedig y modd y defnyddir cyfrifiaduron wrth ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn hanfodol i ddysgwyr. Mae cyfrifiadureg yn integreiddio'n dda â phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae'n galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigedd llawn dychymyg wrth ddethol a dylunio algorithmau ac wrth ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni; mae'n dibynnu ar ddeall rheolau iaith ar lefel sylfaenol; mae'n annog ymwybyddiaeth o'r modd y rheolir ac y trefnir systemau cyfrifiadurol; mae'n ymestyn gorwelion dysgwyr y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol neu'r coleg i werthfawrogi effeithiau cyfrifiadureg ar gymdeithas ac unigolion. Lluniwyd TGAU Cyfrifiadureg CBAC i roi dealltwriaeth o gysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg a chwmpas eang o gyfleoedd astudio. Lluniwyd y fanyleb hon mewn ffordd sy'n galluogi canolfannau i ganolbwyntio ar ddarparu'r cwrs mewn ffordd arloesol, drwy gyfrwng strwythur syml, anghymhleth sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, gyda gofynion technolegol realistig. Mae'r fanyleb hon hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynhyrchu ymatebion ysgrifenedig estynedig ac arddangos ansawdd eu cyfathrebu ysgrifenedig, gan gynnwys defnydd priodol o atalnodi a gramadeg.

Page 7: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 4

© WJEC CBAC Ltd.

1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant Nid oes gofynion dysgu blaenorol ar gyfer y fanyleb hon. Yr ysgol/coleg sydd i benderfynu ar unrhyw ofynion sy'n cael eu gosod o ran cael mynediad i gwrs sy'n seiliedig ar y fanyleb hon. Mae'r fanyleb hon yn adeiladu ar gynnwys pwnc a addysgir yn nodweddiadol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 ac mae'n gweithredu fel sail addas ar gyfer astudio Cyfrifiadureg naill ai ar lefel UG neu Uwch. Yn ogystal, mae'r fanyleb yn darparu cwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn.

1.3 Cydraddoldeb a mynediad teg Gall unrhyw ddysgwr astudio'r fanyleb hon, beth bynnag fo'i ryw a'i gefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol. Lluniwyd y fanyleb i osgoi, lle bo'n bosibl, nodweddion a allai, heb gyfiawnhad, ei gwneud yn fwy anodd i ddysgwr lwyddo oherwydd bod ganddynt nodwedd benodol wedi ei hamddiffyn.

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y nodweddion penodol wedi'u hamddiffyn yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae'r fanyleb hon wedi'i thrafod â grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau dewis amrywiol o ddysgwyr, ac adolygir y fanyleb yn gyson. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr penodol fel bod yr asesiadau o fewn eu cyrraedd (e.e. caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio Dehonglydd Iaith Arwyddion, gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain). Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol i'w chael yn nogfen y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC): Trefniadau Mynediad ac Addasiadau Rhesymol: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol. Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk). Gan fod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer addasiadau rhesymol, prin iawn fydd nifer y dysgwyr sy’n cael eu hatal yn llwyr rhag unrhyw ran o’r asesu.

Page 8: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 5

© WJEC CBAC Ltd.

1.4 Bagloriaeth Cymru Dylai dysgwyr, wrth ddilyn y fanyleb hon, gael cyfleoedd, lle bo'n briodol, i ddatblygu'r sgiliau sy'n cael eu hasesu drwy'r Dystysgrif Her Sgiliau sy'n rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru: • Llythrennedd • Rhifedd • Llythrennedd Ddigidol • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau • Cynllunio a Threfnu • Creadigedd ac Arloesi • Effeithiolrwydd Personol.

1.5 Persbectif Cymreig Wrth ddilyn y fanyleb hon, dylai dysgwyr gael cyfleoedd, lle bo'n briodol, i ystyried persbectif Cymreig os bydd cyfle i wneud hynny'n deillio'n naturiol o'r deunydd pwnc ac os byddai cynnwys y cyfleoedd hynny'n cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o'r byd o'u cwmpas fel dinasyddion o Gymru yn ogystal â'r DU, Ewrop a'r Byd.

Page 9: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 6

© WJEC CBAC Ltd.

2 CYNNWYS Y PWNC Mae'r fanyleb hon yn hyrwyddo astudiaeth gyfannol o gyfrifiadureg. Bydd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau ym meysydd rhaglennu, datblygu systemau, saernïaeth gyfrifiadurol, data, cyfathrebu a chymwysiadau.

Nodir y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn y ddwy golofn ar y tudalennau canlynol. Mae'r testun i'w astudio yn y golofn gyntaf, gyda'r ymhelaethiad yn yr ail golofn. Nid yw'r drefn y cyflwynir y cynnwys a'r ymhelaethiad ynddi yn awgrymu unrhyw hierarchaeth, ac ni ddylid ystyried bod hyd yr adrannau amrywiol yn awgrymu eu pwysigrwydd cymharol.

Asesir cynnwys y pwnc ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg ar draws tair uned. Er bod rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y cynnwys yn Uned 1 ac Uned 2, mae'r cyd-destun yr asesir y cynnwys hwn ynddo yn amrywio. Yn Uned 1, asesir cynnwys mewn ffordd ddamcaniaethol, ond yn Uned 2 fe'i asesir drwy ei ddefnydd o fewn rhaglenni ac algorithmau.

Uned 1: Deall Cyfrifiadureg Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 45 munud 50% o'r cymhwyster 100 marc

Uned 2: Meddwl Cyfrifiannol a Rhaglennu Arholiad ar-sgrin: 2 awr 30% o'r cymhwyster 60 marc

Uned 3: Datblygu Meddalwedd Asesiad di-arholiad: 20 awr 20% o'r cymhwyster 80 marc

Page 10: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 7

© WJEC CBAC Ltd.

2.1 Uned 1

1. Caledwedd

Saernïaeth Disgrifio nodweddion saernïaeth uned brosesu ganolog (CPU), gan gynnwys saernïaeth Von Neumann.

Nodi ac esbonio swyddogaeth cydrannau'r CPU yn y cylchred cywain-dadgodio-gweithredu.

Esbonio sut mae maint y storfa dros dro, cyflymder y cloc a nifer y creiddiau yn effeithio ar berfformiad.

Esbonio'r gwahaniaeth rhwng mathau RISC a CISC o broseswyr.

Mewnbwn/allbwn Disgrifio’r defnydd o ddyfeisiau mewnbwn ac allbwn a'u nodweddion.

Storio cynradd Esbonio nodweddion gweithredol Cof Hapgyrch (RAM), Cof Darllen yn Unig (ROM), cof fflach a storfa dros dro.

Storio eilaidd Disgrifio nodweddion technolegau storio eilaidd cyfoes gan gynnwys magnetig, optegol a chyflwr solet.

Esbonio nodweddion gweithredol dyfeisiau storio eilaidd cyfoes o ran addasrwydd, gwydnwch, cludadwyedd a chyflymder.

Gofynion storio Disgrifio'r berthynas rhwng unedau storio data, gan gynnwys did, darn (nybble), beit, cilobeit a lluosyddion rhagddodi ychwanegol.

Disgrifio cynhwysedd data a chyfrifo gofynion cynhwysedd data.

Cydrannau caledwedd eraill Disgrifio nodweddion a swyddogaeth cydrannau caledwedd eraill, gan gynnwys GPU, cardiau sain a mamfyrddau.

Systemau wedi'u mewnblannu Disgrifio'r defnydd o systemau wedi'u mewnblannu a rhoi enghreifftiau ohonynt.

Page 11: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 8

© WJEC CBAC Ltd.

2. Gweithrediadau rhesymegol

Gweithredyddion rhesymegol

Defnyddio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID a

NEUA, cyfuniadau o'r rhain, a'u cymhwyso mewn gwirlenni

priodol i ddatrys problemau.

Rhesymeg Boole Symleiddio mynegiadau Boole gan ddefnyddio unfathiannau a rheolau Boole.

3. Cyfathrebu

Rhwydweithiau Esbonio nodweddion rhwydweithiau a phwysigrwydd mathau gwahanol o rwydweithiau, gan gynnwys LAN a WAN.

Disgrifio pwysigrwydd topolegau rhwydwaith cyffredin, gan gynnwys cylch, seren, bws a rhwyll, a'u manteision a'u hanfanteision.

Esbonio pwysigrwydd cysylltedd, yn wifredig ac yn ddiwifr.

Esbonio a nodi manteision ac anfanteision switsio cylchedau a switsio pecynnau.

Esbonio pwysigrwydd amrywiaeth o brotocolau rhwydwaith cyfoes a'u defnydd, gan gynnwys Ethernet, Wi-fi, TCP/IP, HTTP, HTTPS, FTP a phrotocolau e-bost.

Disgrifio cynnwys nodweddiadol paced TCP/IP.

Esbonio pwysigrwydd haenau a model 5-haen TCP/IP.

Disgrifio dulliau llwybro traffig ar rwydwaith a chyfrifo'r costau llwybro.

Rhyngrwyd Esbonio sut mae gweinyddion System Enw Parth (DNS) a chyfeiriadau Protocol y Rhyngrwyd (IP) yn gweithio.

Page 12: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 9

© WJEC CBAC Ltd.

4. Trefn a strwythur data

Cynrychioliad rhifau Defnyddio a throsi rhwng systemau rhifo degaidd, deuaidd (hyd at 16 did) a hecsadegol.

Esbonio'r defnydd o nodiant hecsadegol fel llaw fer ar gyfer rhifau deuaidd.

Defnyddio ffwythiannau syfliadau rhifyddol ac esbonio'u heffaith.

Cymhwyso technegau adio deuaidd.

Esbonio cysyniad gorlif.

Cynrychioliad graffeg a sain Esbonio storio graffeg yn ddigidol.

Esbonio storio a samplu sain yn ddigidol.

Disgrifio'r defnydd o fetadata mewn ffeiliau.

Storio nodau Disgrifio sut y caiff nodau eu storio fel rhif deuaidd.

Disgrifio setiau nodau safonedig, gan gynnwys Unicode ac American Standard Code for Information Interchange (ASCII).

Mathau data Disgrifio'r cysyniad mathau data, gan gynnwys cyfanrif, Boole, real, nod a llinyn.

Strwythurau data Disgrifio, dylunio, dehongli a thrin strwythurau data gan gynnwys cofnodion, araeau un dimensiwn a dau ddimensiwn.

Dewis, nodi a chyfiawnhau strwythurau data priodol ar gyfer sefyllfaoedd penodol.

Dylunio ffeiliau Dylunio ffeiliau a chofnodion sy'n briodol ar gyfer cymhwysiad penodol.

Dilysu a gwirio data Esbonio a defnyddio technegau priodol er mwyn dilysu a gwirio data.

Dylunio algorithmau a rheolweithiau rhaglennu sy'n dilysu ac yn gwirio data.

Page 13: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 10

© WJEC CBAC Ltd.

5. Meddalwedd system

Rheoli adnoddau Disgrifio pwrpas a nodweddion y system weithredu wrth reoli adnoddau, gan gynnwys perifferolion, prosesau, cof a storfa gynorthwyol.

Darparu rhyngwyneb Disgrifio pwrpas a nodweddion y system weithredu wrth ddarparu rhyngwyneb defnyddiwr.

Meddalwedd wasanaethu Esbonio pwrpas a nodweddion amrediad o feddalwedd wasanaethu.

6. Egwyddorion rhaglennu

Lefelau iaith gyfrifiadurol Disgrifio nodweddion a phwrpas ieithoedd lefel uchel a lefel isel.

Nodi a disgrifio sefyllfaoedd sy'n galw am ddefnyddio iaith lefel uchel neu lefel isel.

7. Peirianneg meddalwedd

Offer meddalwedd Esbonio swyddogaeth offer Amgylchedd Datblygu Integredig (IDE) wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni.

8. Llunio rhaglenni

Crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion

Disgrifio pwrpas crynoyddion, dehonglwyr a chysgodyddion, a rhoi enghreifftiau o'u defnydd.

Esbonio'r prif gamau sy'n gysylltiedig â'r broses grynhoi: dadansoddiad geiriadurol, llunio tabl symbolau, dadansoddiad cystrawen, dadansoddiad semantig, cynhyrchu cod ac optimeiddiaeth.

Disgrifio a rhoi enghreifftiau o wallau rhaglennu.

Page 14: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 11

© WJEC CBAC Ltd.

9. Diogelwch a rheoli data

Diogelwch data Disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio cyfrifiaduron i storio data personol.

Disgrifio dulliau sy'n diogelu data gan gynnwys lefelau mynediad, cyfrineiriau addas ar gyfer mynediad a thechnegau amgryptio.

Rheoli Data Esbonio'r angen am ffeiliau wrth gefn a chenedlaethau o ffeiliau.

Esbonio'r angen i archifo ffeiliau.

Cywasgu Esbonio sut y defnyddir algorithmau cywasgu data colledus a digolled.

Cyfrifo cymarebau cywasgu.

Diogelwch rhwydweithiau Cydnabod pwysigrwydd diogelwch rhwydweithiau a disgrifio'r peryglon a all godi wrth ddefnyddio rhwydweithiau.

Esbonio pwrpas a chynnwys nodweddiadol polisi defnydd derbyniol a pholisi adfer ar ôl trychineb.

Seiberddiogelwch Disgrifio'r nodweddion ac esbonio'r dulliau o ddiogelu rhag trawiadau maleiswedd, gan gynnwys firysau, mwydod a chofnodwyr bysellau.

Disgrifio'r ffurfiau gwahanol ar ymosodiad yn seiliedig ar wendidau technegol a/neu ymddygiad defnyddwyr.

Disgrifio dulliau o nodi gwendidau.

Esbonio ffyrdd gwahanol o ddiogelu systemau meddalwedd wrth ddylunio, creu, profi a defnyddio.

Disgrifio swyddogaeth cwcis y rhyngrwyd.

10. Effeithiau moesegol, cyfreithiol ac amgylcheddol technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach

Moesegol Disgrifio effeithiau moesegol technoleg ddigidol, gan gynnwys materion yn ymwneud â phreifatrwydd a seiberddiogelwch.

Esbonio pwysigrwydd cydymffurfio â safonau proffesiynol, gan gynnwys codau ymddygiad moesegol ffurfiol ac anffurfiol.

Deddfwriaeth Esbonio sut mae deddfwriaeth gyfredol berthnasol yn effeithio ar ddiogelwch, preifatrwydd, diogelu data a rhyddid gwybodaeth.

Materion amgylcheddol Disgrifio effeithiau amgylcheddol technoleg ddigidol ar y gymdeithas ehangach.

Page 15: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 12

© WJEC CBAC Ltd.

2.2 Uned 2

1. Datrys problemau

Datrys problemau Defnyddio dull systematig o ddatrys problemau gan gynnwys defnyddio dadelfennu a haniaethu.

Defnyddio haniaethu yn effeithiol i fodelu agweddau dethol ar y byd allanol mewn algorithm neu raglen.

Defnyddio haniaethu yn effeithiol i strwythuro rhaglenni yn briodol yn rhannau modiwlaidd gyda rhyngwynebau clir, wedi'u dogfennu'n dda.

2. Algorithmau a lluniadau rhaglennu

Algorithmau Defnyddio dulliau cyffredin o ddiffinio algorithmau, gan gynnwys ffug-god a siartiau llif (gweler Atodiad C).

Lluniadau rhaglennu Nodi, esbonio a defnyddio is-reolweithiau mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi, esbonio a defnyddio dilyniant, detholiad ac iteriad mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi, esbonio a defnyddio cyfrifon a gwalchwerthoedd mewn algorithmau a rhaglenni.

Nodi ac esbonio lluniadau mewn rhaglenni gwrthrych-gyfeiriadol.

Dilyn a gwneud newidiadau i algorithmau a rhaglenni sy'n datrys problemau gan ddefnyddio:

• dilyniant, detholiad ac iteriad • mewnbynnu, prosesu ac allbynnu

Ysgrifennu algorithmau a rhaglenni sy'n datrys problemau gan ddefnyddio:

• dilyniant, detholiad ac iteriad • mewnbynnu, prosesu ac allbynnu.

Newidynnau Nodi, esbonio a defnyddio newidynnau lleol ac eang mewn algorithmau a rhaglenni.

Dynodwyr Esbonio pam mae defnyddio dynodwyr hunanddogfennu ac anodiadau yn bwysig mewn rhaglenni.

Rhoi enghreifftiau o ddynodwyr hunanddogfennu ac anodiadau.

Page 16: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 13

© WJEC CBAC Ltd.

2. Algorithmau a lluniadau rhaglennu (parhad)

Trin llinynnau Nodi, esbonio a defnyddio rheolweithiau ar gyfer trin llinynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

Gweithrediadau mathemategol

Nodi, esbonio a chymhwyso gweithrediadau mathemategol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura mewn algorithmau a rhaglenni (gweler Atodiad C).

Gweithrediadau rhesymegol Nodi, defnyddio ac esbonio gweithredyddion rhesymegol AC, NEU, NID a NEUA mewn algorithmau a rhaglenni

(gweler Atodiad C).

Trefnu Disgrifio nodweddion algorithmau trefniad cyfunol a threfniad bwrlwm.

Chwilio Esbonio a defnyddio algorithmau chwilio llinol a deuaidd.

Profi a gwerthuso Esbonio sut mae algorithm neu raglen yn gweithio a gwerthuso pa mor addas i'r pwrpas ydyw wrth fodloni gofynion.

Gwerthuso effeithlonrwydd algorithm neu raglen gan ddefnyddio rhesymu rhesymegol a phrawf-ddata.

3. Ieithoedd rhaglennu

Ieithoedd tagio Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio tudalennau HTML gan ddefnyddio'r tagiau canlynol:

• HTML <html>

• Pen <head>

• Teitl <title>

• Corff <body>

• Penawdau <h1> - <h6>

• Paragraff <p>

• Italig <i>

• Trwm <b>

• Alinio i'r canol <center>

• Angori <a href=”URL”>

• Mailto <a href=”mailto:address”>

• Rhestr heb drefn <ul>

• Eitem Rhestr <li>

• Dyfyniad bloc <blockquote>

• Llinell Lorweddol <hr>

• Delwedd <img>

• a'u caefeydd cyfatebol.

Page 17: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 14

© WJEC CBAC Ltd.

3. Ieithoedd rhaglennu (parhad)

Ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni Java o fewn amgylchedd Greenfoot, gan ddefnyddio'r sgiliau canlynol:

• Creu dosbarthiadau newydd ac ymestyn y rhai sydd

eisoes yn bodoli

• Creu gwrthrychau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn

bodoli

• Creu bydoedd newydd a golygu'r rhai sydd eisoes yn

bodoli

• Ysgrifennu a chyflawni dulliau

• Newid dulliau sydd eisoes yn bodoli

• Creu priodweddau newydd a golygu'r rhai sydd eisoes

yn bodoli (gan gynnwys rhai cyhoeddus, preifat, statig ac

ati)

• Ychwanegu a thynnu gwrthrychau o fydoedd

• Defnyddio actorion

• Symud gwrthrychau o amgylch byd

• Mewnbwn bysellfwrdd

• Ychwanegu a chwarae seiniau

• Gweithredu a defnyddio dull pasio paramedrau (yn ôl

gwerth a chyfeiriad)

• Cyrraedd ar un gwrthrych o un arall

• Gweithredu dull canfod gwrthdrawiad gwrthrych

• Gweithredu generadur haprifau

• Defnyddio cysyniad etifeddu a mewngapsiwleiddio.

Iaith gydosod Dylunio, ysgrifennu, profi a mireinio rhaglenni cydosod syml gan ddefnyddio'r cofrifau canlynol:

• Mewnbwn INP

• Allbwn OUT

• Storio STA

• Llwytho LDA

• Adio ADD

• Tynnu SUB

• Canghennu BRA

• Gorffen/Stopio/Atal HLT

• Diffiniad data DAT

Page 18: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 15

© WJEC CBAC Ltd.

4. Strwythurau data a mathau data

Gweithredu strwythurau data Defnyddio araeau un dimensiwn a dau ddimensiwn, ffeiliau a chofnodion.

Gweithredu mathau data Defnyddio amrywiaeth o fathau data, gan gynnwys cyfanrif, Boole, real, nod a llinyn.

Newidynnau a chysonion Pennu, nodi ac esbonio'r defnydd o gysonion a newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

Disgrifio cwmpas a hyd oes newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.

5. Diogelwch ac awthentigeiddio

Technegau diogelwch Defnyddio technegau diogelwch priodol, gan gynnwys dilysu ac awthentigeiddio.

Page 19: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 16

© WJEC CBAC Ltd.

2.3 Uned 3

Bwriad yr asesiad di-arholiad (NEA) yw asesu gallu ymgeisydd i gymhwyso'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a enillwyd ganddynt yn Unedau 1 a 2. Cyflwynir senario benodol i ymgeiswyr yn disgrifio'r gofynion ar gyfer datrysiad cyfrifiadurol. Dylid cyflawni holl waith Uned 3 o dan oruchwyliaeth athro, heb unrhyw fynediad at y Rhyngrwyd nac e-bost.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr greu datrysiad i'r senario benodol gan ddefnyddio'r dull rhesymegol a systematig a nodir isod. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddadansoddi'r senario benodol, dylunio, gweithredu a phrofi datrysiad i'r senario benodol a nodi datblygiadau yn y dyfodol y gellid eu defnyddio i fireinio'r canlyniad.

Hefyd, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gadw log mireinio fel y disgrifir isod, gan esbonio unrhyw broblemau a fydd yn codi a'r hyn sy'n cael ei wneud i fireinio'r dyluniad gwreiddiol.

Datblygu Meddalwedd

Cwmpas y broblem Dadansoddi'r senario benodol o ran mewnbwn, prosesu ac allbwn.

Gosod amcanion, gan gynnwys meini prawf i fesur llwyddiant ar gyfer y system arfaethedig.

Dylunio Dylunio a dogfennu'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sy'n ofynnol i gynhyrchu rhyngwyneb defnyddiwr effeithiol.

Dylunio a dogfennu'r holl strwythurau data gofynnol.

Gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif, dylunio a dogfennu'r rheolweithiau canlynol:

• dilysu

• trin a phrosesu data

• awthentigeiddio.

Log Mireinio

Cynllunio i gynnal gweithgareddau mewn trefn briodol.

Gwerthuso'r cynnydd a wnaed ym mhob sesiwn.

Disgrifio unrhyw broblemau a gododd gan ddefnyddio iaith dechnegol briodol.

Cyfiawnhau unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol o ganlyniad i'r problemau a gododd.

Llunio cynllun gweithredu rhesymegol ar gyfer sesiynau pellach.

Effeithiolrwydd y datrysiad Creu datrysiad sy'n bodloni gofynion y senario benodol.

Creu rhyngwyneb sythweledol sy'n addas i'r gynulleidfa ac i'r pwrpas.

Sicrhau fod y datrysiad wedi'i strwythuro'n dda ac yn fodiwlaidd ei natur.

Sicrhau fod y datrysiad yn gwneud defnydd effeithiol o adnoddau a'i fod yn ddiogel, yn gadarn ac yn ddibynadwy.

Gwneud defnydd o reolweithiau awthentigeiddio

Page 20: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 17

© WJEC CBAC Ltd.

Datblygu Meddalwedd (parhad)

Ansawdd technegol Creu cod ar gyfer y datrysiad sy'n hunanddogfennol, yn defnyddio dynodwyr ystyrlon a chysonion priodol.

Defnyddio arddull rhaglen sy'n gyson, gan gynnwys mewnoli a'r defnydd priodol o ofod gwyn.

Defnyddio is-reolweithiau gyda rhyngwynebau wedi'u diffinio'n dda.

Defnyddio newidynnau lleol ac eang.

Creu rheolweithiau dilysu a rheolweithiau trin eithriadau.

Anodi'r cod fel ei fod yn hygyrch i drydydd parti cymwys.

Strategaeth brofi

Dylunio a dogfennu strategaeth brofi effeithiol a fydd yn sicrhau bod y datrysiad terfynol yn bodloni gofynion y senario benodol.

Disgrifio pwrpas y profion uned, integreiddio a gweithredol.

Disgrifio sut y gellir defnyddio canlyniadau'r broses brofi i lywio datblygiad y datrysiad ymhellach.

Dylunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynnal y profion uned, integreiddio a gweithredol i gwmpasu holl ofynion y senario benodol.

Dylunio prawf-ddata i gynnwys enghreifftiau o gynnwys nodweddiadol, eithafol a gwallus.

Profi Gweithredu'r cynllun prawf cynhwysfawr gan ddefnyddio data nodweddiadol, eithafol a gwallus lle y bo'n briodol.

Cyflwyno'r holl ganlyniadau profi gyda sylwebaethau manwl a hyddysg.

Datblygiad pellach

Ystyried canlyniadau'r broses brofi o ran amcanion y system.

Disgrifio nodweddion llwyddiannus a meysydd i'w gwella.

Cynnig awgrymiadau ar gyfer estyniadau penodol i'r datrysiad.

Cyfeiriwch at y cynllun marcio sy'n seiliedig ar fandiau ar dudalennau 29 i 36 am fanylion llawn y meini prawf asesu.

Page 21: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 18

© WJEC CBAC Ltd.

3 ASESU

3.1 Amcanion asesu a phwysoli Mae amcanion asesu'r fanyleb hon wedi'u rhoi isod. Rhaid i ddysgwyr: AA1 Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifiadureg AA2 Cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifiadureg AA3 Dadansoddi problemau yn nhermau cyfrifiannu er mwyn llunio barn wedi'i rhesymu a dylunio, rhaglennu, gwerthuso a mireinio datrysiadau Mae'r tabl isod yn dangos pwysoli pob amcan asesu ar gyfer pob uned ac ar gyfer y cymhwyster cyfan.

AA1 AA2 AA3

Uned 1 26% 24% -

Uned 2 4% 14% 12%

Uned 3 - 2% 18%

Cyfanswm 30% 40% 30%

3.2 Trefniadau ar gyfer arholiad ar-sgrin Uned 2

Bydd yr asesiad hwn yn cael ei gyflawni'n unol â'r cyfarwyddiadau yn y ddogfen 'Cyfarwyddiadau ar gynnal profion ar-sgrin', Atodiad 1 Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol: Cyfarwyddiadau ar gynnal arholiadau (Cyd-gyngor Cymwysterau). Mae'r ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk). Iaith raglennu ar gyfer Uned 2

Mae angen defnyddio Greenfoot i gwblhau gwaith ar gyfer rhai o'r tasgau yn Uned 2. Amgylchedd datblygu integredig (IDE) ydyw y gellir ei lwytho i lawr yn gyfreithiol. (http://www.greenfoot.org/door) Bydd CBAC yn cyflenwi copi papur o'r tasgau asesu a ffeiliau ar gyfer pob ymgeisydd.

Page 22: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 19

© WJEC CBAC Ltd.

Dylai cyfrifiadur yn cynnwys y canlynol fod ar gael i ymgeiswyr:

• ardal defnyddiwr neu ddyfais storio 'lân' ar gyfer cadw eu gwaith

• dim mynediad i'r Rhyngrwyd nac e-bost

• mynediad i brosesydd geiriau neu feddalwedd debyg ar gyfer cynhyrchu eu hymatebion

• copi gweithredol o fersiwn 2.4.2 Greenfoot wedi'i osod ymlaen llaw

• ffeil(iau) wedi'u cyflenwi gan CBAC wedi'u gosod a'u profi ymlaen llaw.

Dylid cynnal yr asesiad ymarferol dan oruchwyliaeth ffurfiol, h.y. rhaid i'r goruchwyliwr allu gweld yr ymgeiswyr bob amser. Mae'r defnydd o adnoddau'n benodol iawn a gwaherddir rhyngweithio ag ymgeiswyr eraill.

3.3 Trefniadau ar gyfer asesiad di-arholiad Uned 3 Yn y fanyleb hon, project yw'r asesiad di-arholiad. Mae'n ddarn sylweddol o waith, i'w gwblhau dros gyfnod estynedig o amser. Yn y project mae gofyn i'r ymgeiswyr ddadansoddi cwmpas problem, dylunio datrysiad i'r broblem honno, gweithredu datrysiad, dylunio strategaeth brofi, profi'r datrysiad ac awgrymu sut i ddatblygu'r datrysiad ymhellach. Yn ogystal, bydd gofyn i ymgeiswyr gadw log mireinio fel a ddisgrifir yn Uned 3, yn esbonio unrhyw broblemau a gafwyd a'r mireinio a wnaed oherwydd hynny i'r dyluniad gwreiddiol. Bydd CBAC yn gosod y dasg bob blwyddyn ac yn ei chyhoeddi ar wefan ddiogel CBAC. Caiff y dasg ei rhyddhau ym mis Medi bob blwyddyn, o Fedi 2017. Gellir ond ei chyflwyno yn y flwyddyn benodedig, fel sydd i'w weld yn y tabl isod1.

Blwyddyn y dyfarniad

Dyddiad rhyddhau'r dasg 2019 2020 2021 2022

Medi 2017 ✓

Medi 2018 ✓

Medi 2019 ✓

Medi 2020 ✓

Bydd ymgeiswyr yn datblygu darn o waith dros gyfnod o 20 awr; byddant yn cynhyrchu datrysiad i broblem fydd wedi'i rhoi ynghyd ag adroddiad wedi'i lunio ar brosesydd geiriau yr awgrymir ei fod tua 2000 o eiriau ac yn cynnwys manylion y gwaith a gyflawnwyd. Nid yw'r swm hwn o 2000 o eiriau yn cynnwys cod y rhaglen na'r anodiad.

1 Gan fod hwn yn gymhwyster llinol, rhaid cwblhau pob asesiad ar ddiwedd y cwrs.

Page 23: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 20

© WJEC CBAC Ltd.

Rhaid i'r gwaith ar gyfer Uned 3 gynnwys datblygu meddalwedd mewn iaith lefel uchel naill ai at bwrpas cyffredinol neu at bwrpas arbennig. Gall y system mae'r ymgeisydd yn ei hawgrymu gynnwys un rhaglen integredig neu gyfres o raglenni cysylltiedig.

Bydd CBAC yn cefnogi'r ieithoedd canlynol:

• Ieithoedd yn deillio o Basic (e.e. VB.NET, Small Basic, QBasic)

• Ieithoedd yn deillio o C (e.e. C, C++, C#)

• PHP

• Python

• Pascal/Delphi

Disgwylir i athro'r ymgeisydd farcio gwaith yr ymgeisydd a nodi ar Daflen Farciau'r Ganolfan natur unrhyw gymorth a roddwyd ac i ba raddau mae'r datrysiad yn gweithio mewn gwirionedd fel y nodwyd yn yr adroddiad. Gall yr athro anodi gwaith yr ymgeisydd a'r ddogfennaeth er mwyn cyfiawnhau'r marciau a ddyfernir. Y gridiau asesu

Wrth asesu Uned 3, dylai athrawon astudio'r gridiau asesu yn Atodiad B, sydd wedi'u llunio er mwyn cyflwyno system sy'n cysylltu'r amcanion asesu â marciau, ac i wahaniaethu'n glir rhwng yr amrywiol lefelau o gyflawniad. Bydd y gridiau hyn yn fwyaf gwerthfawr pan fyddant yn cael eu defnyddio ynghyd ag enghreifftiau o asesiad di-arholiad a ddosberthir bob blwyddyn i helpu'r canolfannau adnabod safon y gwaith sy'n gysylltiedig â'r amrywiol fandiau marciau. Dylai athrawon gyfeirio'n benodol at y meini prawf asesu sydd wedi'u cynnwys yn y gridiau asesu yn y sylwadau maen nhw'n eu hysgrifennu ar y gwaith ac ar y taflenni clawr. Cyflwyno asesiadau

Rhaid cyflwyno gwaith Uned 3 ymgeiswyr i CBAC yn electronig. Dylai'r cyflwyniad gynnwys fersiwn gweithredol wedi'i grynhoi a chopi gweithredol heb ei grynhoi o'r datrysiad a dogfennau ategol mewn fformat dogfennau cludadwy (pdf). Dylid cadw gwaith pob ymgeisydd mewn ffolder ar wahân wedi'i labelu â rhif y ganolfan, rhif yr ymgeisydd a dwy flaenlythyren gyntaf cyfenw'r ymgeisydd a blaenlythyren gyntaf enw cyntaf yr ymgeisydd. Er enghraifft, byddai, Diane Smith, Rhif y ganolfan 68999, rhif yr ymgeisydd 12345 yn cadw ei gwaith mewn ffolder o'r enw 68999_12345_SM_D. Efallai yr hoffai'r ymgeisydd ddefnyddio is-ffolderi wrth drefnu eu gwaith ar gyfer pob adran. Rhaid iddyn nhw sicrhau eu bod yn trefnu'r ffolderi yn y fath fodd fel y gall yr aseswr a'r safonwr gyrchu'r dogfennau pdf perthnasol.

Page 24: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 21

© WJEC CBAC Ltd.

Dylai aseswr y ganolfan gadw dogfennaeth asesu'r ymgeisydd gan ddefnyddio'r un confensiwn enwi â'r uchod, ond yn ychwanegu CS3. Er enghraifft byddai dogfennau asesu Diane Smith yn cael eu cadw dan CS3_68999_12345_SM_D.

Anodi a thystiolaeth ategol

Mae'n ofynnol i ganolfannau ddarparu gwybodaeth sy'n golygu ei bod yn bosibl i'r safonwr wirio'r gwaith yn erbyn y meini prawf asesu. Dylid rhoi'r wybodaeth hon ar Daflen Farciau'r Ganolfan.

Dylai anodi, felly, wneud y canlynol:

• esbonio ble cafodd ymgeiswyr gymorth y tu hwnt i'r hyn sy'n arferol wrth ddysgu a allai ddylanwadu ar yr asesiadau

• amlygu'r meysydd allweddol hynny a arweiniodd at adnabyddiaeth o feini prawf arbennig; mae'n arbennig o ddefnyddiol cyfeirio at y meini prawf asesu

• cynnwys unrhyw nodiadau eraill a fydd yn helpu'r safonwr i asesu'r gwaith.

Goruchwylio a dilysu

Ymddwyn yn annheg

Cyn dechrau'r cwrs, mae'r athro yn gyfrifol am roi gwybod i ymgeiswyr am reoliadau CBAC ynglŷn â chamymddwyn. Ni ddylai ymgeiswyr ymddwyn yn annheg wrth baratoi'r gwaith i'w asesu. Rhaid iddyn nhw ddeall y bydd copïo unrhyw ddeunydd yn uniongyrchol o lyfrau neu ffynonellau eraill a'i gyflwyno heb gydnabyddiaeth yn cael ei ystyried yn dwyll bwriadol. Rhaid i ganolfannau roi gwybod i CBAC am unrhyw amheuon o gamymddwyn sydd ganddyn nhw.

Os yw CBAC yn fodlon bod y rheoliadau wedi'u torri, yna mae'n bosibl y bydd cosb. Bydd gofyn i ymgeiswyr dystio eu bod wedi darllen a deall y rheoliadau'n ymwneud ag ymddwyn yn annheg.

Goruchwylio gwaith

Rhaid i ganolfannau sicrhau CBAC mai gwaith yr ymgeiswyr dan sylw yw'r asesiadau a gyflwynir i'w hasesu. Ar gyfer Uned 3, rhaid cyflawni'r gwaith dan oruchwyliaeth uniongyrchol athrawon. Rhaid i ymgeiswyr weithio mewn cyfrif 'glân', penodol, heb unrhyw fynediad i'r rhyngrwyd nac e-bost.

Rhaid i'r athro sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith yr ymgeisydd gwblhau datganiad, yn tystio bod y marciau a ddyfarnwyd wedi'u rhoi'n unol â'r fanyleb, a'i fod yn gwbl fodlon mai gwaith yr ymgeisydd dan sylw yw'r gwaith a gyflwynwyd.

Rhaid i ganolfannau sy'n cofrestru ymgeiswyr ar gyfer TGAU Cyfrifiadureg dderbyn bod rhwymedigaeth arnyn nhw i sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol yn ei lle i'w galluogi i sicrhau y cymerwyd pob cam i sicrhau mai gwaith yr ymgeisydd dan sylw yw'r gwaith a gyflwynwyd. Pan fydd angen cymorth ar ymgeisydd wrth gwblhau darn arbennig o waith, dylid rhoi'r cymorth hwnnw ond rhaid i'r athro gynnwys sylwadau priodol ar Daflen Farciau'r Ganolfan.

Dylai'r athro gofnodi'r amser a dreuliwyd yn gweithio ar y project ar gyfer Uned 3 fel log. Mae'n bosibl y bydd CBAC yn gofyn am hwn yn ogystal â'r gwaith a gyflwynwyd. Dylai'r ganolfan fonitro'r log hwn yn barhaus ac ni ddylid caniatáu i'r ymgeisydd fynd dros terfyn amser y project hwn.

Page 25: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 22

© WJEC CBAC Ltd.

Rheoli cydweithio Ni chaiff ymgeiswyr gydweithio wrth ddatblygu eu projectau. Os bydd gweithfannau wedi'u gosod yn agos at ei gilydd yn y dosbarth, dylai'r athro sy'n goruchwylio sicrhau bod yr holl waith a gyflawnir gan ymgeiswyr yn cael ei wneud yn annibynnol. Ffeiliau cymorth Dim ond y ffeiliau cymorth sy'n rhan greiddiol o'r iaith raglennu y dylid eu darparu, yn yr achosion hynny lle mae'r ffeiliau cymorth ar-lein (e.e. Visual Basic.NET) gellir gosod delwedd y ffeil gymorth berthnasol yn lleol i'r ymgeiswyr ei chyrchu. Ni ddylai fforymau na chodau sampl fod ar gael i'r ymgeiswyr. Gall ymgeiswyr hefyd ddefnyddio copi glân o'r confensiynau ffug-godau mae CBAC yn eu defnyddio (Manyleb Atodiad C, Nodyn 3). Gellir gosod hyn ar ardal ddiogel yr ymgeisydd. Lle mae ymgeisydd am ddefnyddio copi caled o'r confensiynau hyn, dylid eu rhoi i'r ymgeisydd ar ddechrau unrhyw sesiwn a'u casglu'n ôl i mewn ar ddiwedd y sesiwn. Ni ddylid mynd â nodiadau i mewn i unrhyw sesiwn prawf dan reolaeth na'u cymryd oddi yno. Os bydd canolfan yn dymuno darparu geirfa ysgrifenedig i gystrawen yr iaith, yna caniateir hyn, ond dylai fod yn ganllaw lefel uchel yn unig ar y defnydd o gystrawen yr iaith raglennu. Ni ddylai roi enghreifftiau o segmentau o god na sut i ddefnyddio'r iaith. Gellir ei gosod ar ardal ddiogel yr ymgeisydd. Lle mae ymgeisydd am ddefnyddio copi caled o'r geirfaoedd hyn, dylid eu rhoi i'r ymgeisydd ar ddechrau unrhyw sesiwn a'u casglu ar ddiwedd y sesiwn. Ni ddylid mynd â geirfaon i mewn i unrhyw sesiwn prawf dan reolaeth nac oddi yno a dylid eu cyflwyno gyda gwaith yr ymgeisydd. Defnyddio llyfrgelloedd Dylai ymgeiswyr osgoi defnyddio unedau, llyfrgelloedd neu fodiwlau a grynhowyd ymlaen llaw yn eu project gan anelu at lunio'r project cyfan o'r cod gwreiddiol. Pan ddefnyddir llyfrgell rhaid iddi fod wedi'i chrynhoi ymlaen llaw. Dylai'r ymgeisydd nodi'r nodweddion o'r llyfrgell i'w defnyddio yn eu project. Dylai'r athro sy'n goruchwylio sicrhau nad yw'r ymgeisydd yn defnyddio unrhyw nodweddion sydd y tu hwnt i gwmpas ymgeisydd TGAU (er enghraifft ni fydd nodwedd llyfrgell sy'n trefnu data'n dderbyniol gan fod y nodwedd hon o fewn yr hyn y mae disgwyl ei gael gan ymgeisydd TGAU). Rhaid i'r athro sy'n goruchwylio sicrhau nad yw ymgeiswyr yn defnyddio unrhyw nodweddion ychwanegol y tu hwnt i'r hyn a ganiateir. Rhaid i'r ymgeisydd gofnodi ffynhonnell y llyfrgell yn eu hadroddiad a'r nodwedd(ion) a ddefnyddiwyd a darparu fersiwn electronig o'r llyfrgell gyda'u rhaglen. Rhaid i'r athro sy'n goruchwylio gofnodi manylion y llyfrgell a'r nodweddion a ddefnyddiwyd yn natganiad yr ymgeisydd.

Page 26: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 23

© WJEC CBAC Ltd.

Rheoli adborth Gall yr athrawon sy'n goruchwylio ond cynnig cefnogaeth os yw gwaith yr ymgeisydd ei hun yn ei atal rhag symud ymlaen i gam nesaf y project. Ni ddylent roi cyngor i ymgeiswyr ar sut i wella eu gwaith os yw'r gwaith yn ddigonol mewn un rhan i ganiatáu datblygu rhan nesaf y project. Dim ond rhannau arbennig felly sy'n cael eu hystyried yn addas ar gyfer rhoi adborth arnyn nhw. Cwmpas y broblem Ni ddylai'r athro sy'n goruchwylio dorri'r gofynion i lawr na datgymalu'r broblem ar gyfer yr ymgeisydd. Gall, fodd bynnag, gynnig cymorth o ran adnabod data lefel uchel, prosesu ac allbynnau digonol i fynd ymlaen i ran nesaf y project. Dylunio Gall yr athro sy'n goruchwylio gynnig cymorth i ddatblygu datrysiad sy'n weithredol i'r graddau lleiaf nad yw'n bodloni holl ofynion y dasg a roddwyd, er mwyn caniatáu i'r ymgeisydd symud ymlaen i ran nesaf y project. Log mireinio

Ni ddylid rhoi adborth. Effeithiolrwydd y datrysiad Ni ddylai'r athro sy'n goruchwylio ddarparu unrhyw god rhaglen ar gyfer y datrysiad. Gall yr athro sy'n goruchwylio helpu ymgeiswyr gyda thermau lefel uchel y gystrawen mewn iaith rhaglennu. Fodd bynnag, ni ddylai'r athro sy'n goruchwylio roi enghreifftiau o sut i adeiladu segmentau o god wedi'i rhaglennu. Er enghraifft, ni fyddai'n briodol rhoi enghraifft o weithrediad gosodiad IF .. THEN .. ELSE. Ansawdd technegol Ni ddylid rhoi adborth. Strategaeth brofi Gall yr athro sy'n goruchwylio rhoi syniad ar lefel uchel o feysydd y rhaglen y mae angen eu profi, fodd bynnag ni ddylai gynnig unrhyw awgrymiadau o ran sut i brofi, cynnig unrhyw ddata profi enghreifftiol, na dweud yn benodol y dylid defnyddio data nodweddiadol, eithafol a chyfeiliornus. Profi

Ni ddylid rhoi adborth. Datblygiad pellach

Ni ddylid rhoi adborth.

Page 27: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 24

© WJEC CBAC Ltd.

Dilysu Mae'n bwysig bod canolfannau yn monitro asesiad di-arholiad yn drylwyr er mwyn sicrhau mai eu gwaith eu hunain yw gwaith ymgeiswyr. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lofnodi dogfen i ddweud mai eu gwaith eu hunain a gyflwynwyd ganddynt ac mae'n ofynnol i athrawon/aseswyr gadarnhau mai gwaith yr ymgeisydd dan sylw yw'r gwaith a aseswyd yn unig a'i fod wedi'i gyflawni dan yr amodau gofynnol. Bydd CBAC yn darparu copi o'r ffurflen ddilysu sy'n ffurfio rhan o daflen glawr gwaith pob ymgeisydd. Mae'n bwysig nodi bod gofyn i bob ymgeisydd lofnodi'r ffurflen hon ac nid y sawl y mae eu gwaith yn rhan o'r sampl a gyflwynwyd i'r safonwr yn unig. Nid oes angen rhoi gwybod i CBAC am gamymddwyn sy'n cael ei ganfod cyn i'r ymgeisydd lofnodi datganiad dilysu. Rhaid i'r ganolfan ei hun ddelio â materion o'r fath yn unol â'i gweithdrefnau mewnol ei hun. Cyn ymgymryd ag unrhyw waith ar gyfer yr asesiad di-arholiad, rhaid tynnu sylw ymgeiswyr at Hysbysiad perthnasol y CGC i Ymgeiswyr. Mae'r ddogfen hon i'w gweld ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk) ac yn rhan o'r Cyfarwyddiadau ar Gynnal Gwaith Cwrs. Mae arweiniad manylach o ran sut i atal llên-ladrad i'w weld yn Llên-ladrad mewn Arholiadau: Arweiniad i Athrawon/Aseswyr, sydd hefyd i'w weld ar wefan y CGC. Cyflwyno marciau Mae angen i ganolfannau gyflwyno marciau'r gwaith a asesir yn fewnol ar-lein ym mis Ebrill ym mlwyddyn cyflwyno'r gwaith i'w safoni. Pan fydd y marciau wedi'u cyflwyno i CBAC, bydd y system ar-lein yn cymhwyso'r fformiwla samplu'n seiliedig ar drefn restrol gyffredinol y cofrestriad cyfan ac yn nodi ar unwaith y sampl o ymgeiswyr y dewiswyd eu gwaith i'w safoni. Cymedroli mewnol a safoni Yn yr achosion hynny lle mae mwy nag un athro mewn canolfan, dylai gwaith o bob grŵp addysgu gael ei gymedroli'n fewnol. Bwriad hyn yw sicrhau bod yr asesiad terfynol yn adlewyrchu un safon a gytunwyd ar gyfer pob grŵp addysgu dan sylw. Bydd y safoni fel arfer yn digwydd ym mis Mai.

Page 28: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 25

© WJEC CBAC Ltd.

4 GWYBODAETH DECHNEGOL

4.1 Cofrestru Cymhwyster llinol yw'r cymhwyster hwn lle y mae'n rhaid sefyll yr holl asesiadau ar ddiwedd y cwrs. Bydd cyfleoedd asesu ar gael yn ystod cyfres yr haf bob blwyddyn, tan ddiwedd oes y fanyleb hon. Bydd y cyfle asesu cyntaf yn Haf 2019. Gellir sefyll cymhwyster fwy nag unwaith. Rhaid i ymgeiswyr ailsefyll pob cydran arholiad yn yr un gyfres. Gellir trosglwyddo marciau asesu di-arholiad dros gyfnod oes y fanyleb. Os bydd ymgeisydd yn ailsefyll cydran Asesu Di-arholiad (yn hytrach na throsglwyddo marc yr Asesiad Di-arholiad blaenorol), yna'r marc newydd fydd yn cyfrif tuag at y radd gyffredinol, hyd yn oed os yw'n is na'r marc o'r ymgais flaenorol. Os ardystiodd ymgeisydd ar ddau achlysur neu fwy o'r blaen, y marc o'r asesiad di-arholiad mwyaf diweddar sy'n cael ei drosglwyddo, heb ystyried a yw'r marc hwnnw'n uwch neu'n is (oni bai bod y marc yn absennol). Mae'r codau cofrestru i'w gweld isod.

Teitl y cymhwyster Codau cofrestru

Cyfrwng Saesneg Cyfrwng Cymraeg

TGAU CBAC mewn Cyfrifiadureg 3500QS 3500CS

Mae'r rhifyn cyfredol o'n dogfen Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau CBAC yn nodi'r dulliau cofrestru diweddaraf.

4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl Mae cymwysterau TGAU yn cael eu hadrodd ar raddfa wyth pwynt o A*– G, ac A* yw'r radd uchaf. Bydd y canlyniadau sy'n methu â chyrraedd y safon isaf ar gyfer y dyfarniad yn cael eu dangos fel U (annosbarthedig).

Page 29: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 26

© WJEC CBAC Ltd.

ATODIAD A

Asesiad di-arholiad Uned 3 – Tasg Datblygu Meddalwedd

Tasg Benodol Y dasg ar gyfer Uned 3 fydd senario a osodir gan CBAC a fydd ar ffurf project fydd ar gael i'w gyflwyno yn y flwyddyn a nodir yn unig. Gosodir senario wahanol ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dylid cyflawni'r holl waith ar gyfer y project hwn o dan oruchwyliaeth athro, heb unrhyw fynediad at y Rhyngrwyd nac e-bost. Yr amser a ganiateir ar gyfer y project hwn yw 20 awr, a dylai'r holl amser a dreulir ar y project gael ei fonitro a'i gofnodi gan y ganolfan fel y nodir yn y fanyleb hon.

Bydd y senario yn rhoi disgrifiad i ymgeiswyr o angen cleient am ddatrysiad cyfrifiadurol newydd i broblem benodol. Yn ogystal â rhaglen gyfrifiadurol weithredol, bydd angen i ymgeiswyr lunio adroddiad gan ddefnyddio prosesydd geiriau gyda therfyn awgrymedig o 2000 o eiriau (heb gynnwys cod wedi'i anodi na'r log mireinio). Ymdrinnir â'r meysydd i'w cynnwys yn yr adroddiad yn fanwl yng nghynnwys yr uned hon ac maent wedi'u crynhoi isod:

Cwmpas y broblem

• Dadansoddi'r senario benodol o ran mewnbwn, prosesu ac allbwn

• Amcanion, gan gynnwys meini prawf i fesur llwyddiant y system arfaethedig

Dylunio

Disgrifiadau o'r canlynol:

• Y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sy'n ofynnol i lunio rhyngwyneb defnyddiwr

• Y strwythurau data a fydd yn ofynnol

• Dogfennu'r rheolweithiau canlynol gan ddefnyddio confensiwn safonol (ffug-god neu siart llif):

o rheolweithiau dilysu

o trin a phrosesu data

o awthentigeiddio

Datblygu meddalwedd (gan ymgorffori effeithiolrwydd datrysiad ac ansawdd technegol)

• Rhestriad wedi'i anodi/rhestriadau wedi'u hanodi o'r holl godau rhaglennu

• Tystiolaeth o'r rhyngwyneb defnyddiwr

Strategaeth brofi

• Disgrifiad o'r strategaeth brofi

• Disgrifiad o bwrpas yr uned, integreiddiad a phrofion gweithredol

• Disgrifiad o sut mae canlyniadau yn llywio datblygiad ymhellach

• Cynllun profi a phrawf-ddata

Profi

• Tystiolaeth o weithredu'r cynllun profi a'r canlyniadau profi gyda sylwebaeth

Datblygiad pellach

• Trafod canlyniadau'r profion

• Disgrifiad o nodweddion llwyddiannus y datrysiad a nodi meysydd i'w datblygu ymhellach

• Awgrymiadau ar gyfer estyniadau i'r datrysiad

Page 30: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 27

© WJEC CBAC Ltd.

Log Mireinio

Mae'r log mireinio yn rhan annatod o'r project a dylid ei gwblhau yn ystod pob sesiwn. Pwrpas y log yw galluogi'r ymgeiswyr i ddangos eu bod yn gweithio mewn dull rhesymegol a systematig. Disgwylir i ymgeiswyr gofnodi unrhyw broblemau sy'n codi ac esbonio sut yr ymdriniwyd â nhw. Darperir y log mireinio fel dogfen electronig a rhaid cyflwyno'r log gyda'r rhaglen gyfrifiadurol a'r adroddiad. Mae tudalen enghreifftiol o'r log i'w gweld isod.

Sesiwn 3

Dyddiad

Hyd y sesiwn

Cynnydd a wnaed yn y sesiwn hon

Problemau a gododd gyda'r project

Newidiadau a wnaed i'r dyluniadau gwreiddiol o ganlyniad i broblemau

Cynllun gweithredu ar gyfer y sesiwn nesaf

Statws cynllun y project

(ar amser, yn well na'r disgwyl, ar ei hôl hi)

Cynllun gweithredu i reoli amser

Cyfeiriwch at y cynllun marcio sy'n seiliedig ar fandiau ar dudalennau 29 i 36 am fanylion llawn y meini prawf asesu.

Page 31: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 28

© WJEC CBAC Ltd.

ATODIAD B

Gridiau asesu ar gyfer asesiad di-arholiad Cynlluniau marcio yn seiliedig ar fandiau

Caiff cynlluniau marcio yn seiliedig ar fandiau eu rhannu fel bod gan bob band ddisgrifydd perthnasol. Mae disgrifydd y band yn rhoi disgrifiad o'r lefel perfformiad ar gyfer y band hwnnw. Mae pob band yn cynnwys marciau. Cyn marcio, dylai aseswyr ddarllen ac anodi project ymgeisydd yn gyntaf er mwyn nodi'r dystiolaeth sy'n cael ei hasesu. Ar ôl cwblhau'r anodi, gellir cymhwyso'r cynllun marcio. Gwneir hyn mewn dau gam. Cam 1 – Penderfynu ar y band

Wrth benderfynu ar fand, dylid ystyried y gwaith mewn ffordd gyfannol. Gan ddechrau gyda'r band isaf, dylai aseswyr edrych ar yr adran briodol o broject yr ymgeisydd a gweld a yw'n cyd-fynd â disgrifydd y band marcio ar gyfer yr adran honno. Dylai aseswyr edrych ar ddisgrifydd y band hwnnw i weld a yw'n cyd-fynd â'r nodweddion a ddangosir yng ngwaith yr ymgeisydd ar gyfer yr adran honno. Os yw'r gwaith yn bodloni disgrifydd y band isaf, dylai aseswyr symud i fyny i'r band nesaf ac ailadrodd y broses ar gyfer pob band nes bod y disgrifydd yn cyd-fynd â'r gwaith. Os bydd gwaith ymgeisydd yn ymdrin ag agweddau gwahanol ar fandiau gwahanol yn y cynllun marcio, dylid defnyddio'r dull 'ffit orau' i benderfynu ar y band ac yna dylid defnyddio gwaith yr ymgeisydd i benderfynu ar y marc o fewn y band. Er enghraifft, os oedd y gwaith yn perthyn i fand 2 yn bennaf ond bod rhywfaint o gynnwys band 3 ynddo, byddai'r gwaith yn cael ei osod ym mand 2, ond byddai'r marc a ddyfernir yn agos at frig band 2 o ganlyniad i'r cynnwys band 3. Ni ddylai aseswyr geisio rhoi marciau is i ymgeiswyr o ganlyniad i fân hepgoriadau mewn rhannau bach o'u gwaith. Cam 2 – Penderfynu ar y marc

Ar ôl penderfynu ar y band, gall aseswyr fynd ati i bennu marc. Bydd CBAC yn darparu deunydd enghreifftiol y dyfarnwyd marc iddo eisoes, a dylid defnyddio hwn fel deunydd cyfeirio wrth asesu'r gwaith. Wrth farcio, gall aseswyr ddefnyddio'r enghreifftiau hyn i benderfynu a yw gwaith ymgeisydd yn well, yn wannach neu'n debyg i safon yr enghraifft. Caiff aseswyr eu hatgoffa bod angen iddynt gyfeirio'n ôl at y gwaith wrth iddynt gymhwyso'r cynllun marcio er mwyn cadarnhau bod y band a'r marc a ddyrennir yn briodol i'r gwaith a gyflwynwyd. Os nad yw’r gwaith yn haeddu marc, hynny yw, nid yw'n cynnwys unrhyw beth o arwyddocâd i'r project, neu os na ddarparwyd ateb o gwbl, ni ddylid dyfarnu unrhyw farciau.

Page 32: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 29

© WJEC CBAC Ltd.

Uned 3 – Tasg Datblygu Meddalwedd

Band Cwmpas y broblem – AA3

8 marc ar y mwyaf

4 7 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Cwblhau dadansoddiad trylwyr o'r senario benodol gan nodi'r canlynol: o yr holl ddata sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad

• Llunio cyfres fanwl o amcanion, sy'n fesuradwy, sy'n diffinio'n glir y tasgau sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol a chwbl weithredol

3 5 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Cwblhau dadansoddiad o'r senario benodol, heb unrhyw hepgoriadau sylweddol, gan nodi'r rhan fwyaf o'r canlynol:

o y data sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol o yr holl waith prosesu i'w gyflawni gan y datrysiad o yr holl allbynnau gofynnol o'r datrysiad

• Llunio cyfres o amcanion, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn fesuradwy, sy'n diffinio'r tasgau sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol

2 3 – 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Cynnal dadansoddiad o'r senario benodol, gan nodi'r canlynol: o y data sylfaenol sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol o y gofynion prosesu sylfaenol i lunio datrysiad gweithredol o yr allbynnau sylfaenol o'r datrysiad

• Llunio cyfres o amcanion, y mae lleiafrif ohonynt yn fesuradwy, sy'n disgrifio'r prif dasgau sy'n ofynnol er mwyn creu datrysiad gweithredol

1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Cynnal dadansoddiad arwynebol o'r senario benodol sydd ond yn rhannol wedi nodi'r mewnbwn, y prosesau a'r allbwn sy'n ofynnol i lunio datrysiad gweithredol

• Llunio amcanion sy'n disgrifio'r prif dasgau sy'n ofynnol i greu datrysiad gweithredol

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 33: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 30

© WJEC CBAC Ltd.

Band Dylunio – AA3

12 marc ar y mwyaf

4 10 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Llunio dyluniad cynhwysfawr a fyddai'n caniatáu i drydydd parti cymwys greu datrysiad sy'n cwmpasu pob amcan penodedig

• Nodi'n llawn a disgrifio'n fanwl y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr a fydd yn addas i'r pwrpas

• Disgrifio'r holl strwythurau data sy'n ofynnol i greu datrysiad effeithiol, gan ddefnyddio terminoleg dechnegol gywir

• Disgrifio'n llawn y rheolweithiau dilysu sy'n ofynnol i sicrhau mai dim ond data priodol y gellir eu nodi yn y datrysiad

• Ystyried yn llawn yr angen am reolweithiau awthentigeiddio • Disgrifio'r holl reolweithiau trin data a'r rheolweithiau prosesu ar gyfer datrysiad effeithiol

fel algorithmau, gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif

3 7 – 9 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Defnyddio'r amcanion ar gyfer y datrysiad i lywio dyluniad a fydd yn cynhyrchu'r cyfleusterau sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod y datrysiad yn weithredol

• Nodi a disgrifio'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr ac wedi ystyried anghenion y defnyddiwr

• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r strwythurau data sy'n ofynnol gan ddefnyddio terminoleg briodol

• Nodi'r rhan fwyaf o'r mewnbynnau y bydd angen eu dilysu ac amlinellu cynigion ar gyfer gweithredu rheolweithiau dilysu

• Ystyried yr angen am reolweithiau awthentigeiddio

• Disgrifio'r rhan fwyaf o'r rheolweithiau trin data a'r rheolweithiau prosesu ar gyfer y datrysiad fel algorithmau, gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif

2 4 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Defnyddio'r amcanion ar gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer y dyluniad a fydd yn cynhyrchu datrysiad a fydd yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r nodweddion sy'n ofynnol

• Nodi'r cyfleusterau mewnbwn ac allbwn sylfaenol i'w darparu gan y rhyngwyneb defnyddiwr

• Nodi'r strwythurau data sy'n ofynnol i lunio datrysiad sy'n rhannol weithredol ond sy'n cyflawni gofynion sylfaenol y senario benodol

• Nodi sawl mewnbwn y bydd angen eu dilysu

• Amlinellu'r angen am reolweithiau awthentigeiddio

• Disgrifio'r rheolweithiau trin data a'r rheolweithiau prosesu sylfaenol ar gyfer y datrysiad fel algorithmau, gan ddefnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif. Gall rhai rheolweithiau fod yn anghywir neu'n anghyflawn.

1 1 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Defnyddio'r amcanion ar gyfer y datrysiad fel sail ar gyfer dyluniad amlinellol ar gyfer datrysiad rhannol

• Llunio dyluniadau amlinellol ar gyfer y cyfleusterau mewnbwn ac allbwn a nodwyd a ddarparwyd gan y rhyngwyneb defnyddiwr

• Amlinellu'r ffeiliau allweddol a/neu'r strwythurau data sy'n ofynnol i lunio datrysiad rhannol

• Rhoi ystyriaeth i ddilysiad posibl y data mewnbwn, nad yw'n gywir nac yn briodol efallai

• Amlinellu'n rhannol reolweithiau trin data a'r rheolweithiau prosesu sydd efallai'n defnyddio confensiwn safonol fel ffug-god neu siartiau llif. Efallai nad yw'r disgrifiadau'n fanwl nac yn gywir.

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 34: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 31

© WJEC CBAC Ltd.

Band Log mireinio – AA3

5 marc ar y mwyaf

3 4 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Dangos dull strwythuredig o ddatblygu'r datrysiad

• Cynnal gweithgareddau mewn trefn briodol

• Gwerthuso'n effeithiol y cynnydd a wnaed ym mhob sesiwn

• Darparu disgrifiad llawn o unrhyw broblemau sy'n codi gyda defnydd da o derminoleg dechnegol

• Cyfiawnhau unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol gan ddangos dealltwriaeth hyddysg o'r angen am newid

• Llunio camau gweithredu rhesymegol a blaenoriaethol ar gyfer sesiynau dilynol

2 2 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Dangos dull strwythuredig o ddatblygu'r datrysiad

• Cynnal y rhan fwyaf o weithgareddau mewn trefn briodol

• Disgrifio'r cynnydd a wnaed ym mhob sesiwn

• Darparu disgrifiad o unrhyw broblemau a gododd gyda defnydd boddhaol o derminoleg dechnegol

• Disgrifio unrhyw newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol

• Llunio camau gweithredu synhwyrol ar gyfer sesiynau dilynol

1 1 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Amlinellu'r cynnydd a wnaed yn y rhan fwyaf o sesiynau

• Disgrifio problemau a gododd ond efallai na ddefnyddiwyd terminoleg dechnegol

• Amlinellu newidiadau a wnaed i'r dyluniad gwreiddiol

• Nodi un gweithgaredd neu fwy ar gyfer y sesiwn nesaf

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 35: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 32

© WJEC CBAC Ltd.

Band Effeithiolrwydd y datrysiad – AA3

15 marc ar y mwyaf

5 13 – 15 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd yn:

• Cyflawni holl ofynion y senario benodol

• Defnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n sythweledol ac yn addas i'r

gynulleidfa a'r pwrpas

• Strwythuredig iawn ac yn fodiwlaidd ei natur

• Effeithlon o ran y defnydd o adnoddau

• Diogel gyda rheolweithiau awthentigeiddio effeithiol

• Cludadwy, dibynadwy a chadarn

4 10 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd yn:

• Cyflawni'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol.

• Defnyddiadwy gyda rhyngwyneb defnyddiwr sy'n weithredol ac yn hawdd i'w

ddefnyddio ar y cyfan

• Strwythuredig a modiwlaidd ei natur

• Diogel gyda rheolweithiau awthentigeiddio

• Cludadwy a chadarn ar y cyfan

3 7 – 9 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd yn:

• Cyflawni'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol

• Darparu tystiolaeth o ryngwyneb defnyddiwr gweithredol

• Strwythuredig ei natur

• Defnyddio rheolweithiau awthentigeiddio

2 4 – 6 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd yn:

• Cyflawni y lleiafrif o ofynion sylfaenol y senario benodol

• Cynnwys rhyngwyneb defnyddiwr sylfaenol nad yw o bosibl yn addas i'r

pwrpas

• Rhannol yn strwythuredig ei natur

1 1 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sydd:

• Yn cyflawni y lleiafrif o ofynion y senario benodol yn rhannol

• Â rhyngwyneb defnyddiwr rhannol weithredol

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 36: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 33

© WJEC CBAC Ltd.

Band Ansawdd Technegol - AA3

20 marc ar y mwyaf

5 17 – 20 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad llwyddiannus sy'n cwmpasu holl ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ysgrifennu cod sy'n hunanddogfennol, wedi'i strwythuro'n dda ac yn

fodiwlaidd ei natur

• Defnyddio dull rhaglennu cyson drwy gydol y gwaith, gan gynnwys mewnoli

a'r defnydd o ofod gwyn o amgylch gweithredyddion a geiriau allweddol

• Gwneud defnydd llawn o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o gysonion

• Creu is-reolweithiau gyda rhyngwynebau wedi'u diffinio'n dda

• Gwneud defnydd effeithiol o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o

newidynnau eang

• Llunio rheolweithiau dilysu effeithiol a chreu rheolweithiau ar gyfer trin

eithriadau

• Anodi'r cod yn hyddysg lle y bo'n briodol

4 13 – 16 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ysgrifennu cod sy'n hunanddogfennol ac yn fodiwlaidd ei natur

• Defnyddio dull rhaglennu cyson gan gynnwys mewnoli priodol

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a defnydd priodol o gysonion

• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o newidynnau eang

• Llunio rheolweithiau dilysu a chreu rheolweithiau ar gyfer trin eithriadau

• Anodi'r cod yn effeithiol lle y bo'n briodol

3 9 – 12 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad gweithredol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ofynion y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ysgrifennu cod sy'n hunanddogfennol

• Defnyddio dull rhaglennu cyson gan gynnwys mewnoli

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon a cysonion

• Gwneud defnydd o newidynnau lleol a lleihau'r defnydd o newidynnau eang

yn gyffredinol

• Llunio rheolweithiau dilysu

• Anodi'r cod lle y bo'n briodol

2 5 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad sy'n cwmpasu gofynion sylfaenol y senario benodol. Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ysgrifennu cod sy'n cynnwys rhywfaint o waith hunanddogfennol

• Defnyddio mewnoli

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon

• Anodi'r cod mewn ffordd sylfaenol

Page 37: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 34

© WJEC CBAC Ltd.

Band Ansawdd Technegol (parhad) – AA3

20 marc ar y mwyaf

1 1 – 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi creu datrysiad rhannol i un o ofynion y senario benodol o leiaf.

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Gwneud defnydd o ddynodwyr ystyrlon

• Defnyddio mewnoli

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band Strategaeth brofi - AA2

8 marc ar y mwyaf

3 6 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ystyried yn llawn natur y datrysiad wrth ddatblygu strategaeth brofi wedi'i strwythuro'n dda

• Darparu disgrifiad hyddysg o gwmpas ac ystod y strategaeth brofi a ddewiswyd

• Esbonio pwrpas y profion uned, integreiddio a gweithredol yn llawn, gan ystyried natur y datrysiad

• Ystyried yn fanwl sut y caiff canlyniadau'r broses brofi eu defnyddio i ddylanwadu ar unrhyw ddatblygiad pellach o'r datrysiad

• Llunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynnal y profion uned, integreiddio a gweithredol i gwmpasu holl ofynion y senario benodol

• Nodi data profi cynhwysfawr i brofi'r datrysiad yn llawn

2 3 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ystyried natur y datrysiad wrth ddatblygu strategaeth brofi

• Darparu disgrifiad o gwmpas ac ystod y strategaeth brofi a ddewiswyd

• Esbonio pwrpas y profion uned, integreiddio a gweithredol, gan ystyried natur y datrysiad

• Ystyried sut y gall canlyniadau'r broses brofi fod yn ddefnyddiol wrth ddatblygu'r datrysiad ymhellach

• Llunio cynllun profi ar gyfer cynnal profion uned, integreiddio a gweithredol y rhan fwyaf o ofynion y senario benodol

• Nodi data profi priodol i brofi'r rhan fwyaf o nodweddion y datrysiad

1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ceisio esbonio cwmpas ac ystod y strategaeth brofi a ddewiswyd

• Nodi pwrpas profi'r datrysiad

• Llunio cynllun profi i gynnal y profion ar y datrysiad ond efallai nad yw'r cynllun yn cwmpasu'r holl feysydd allweddol

• Nodi prawf-ddata i brofi'r datrysiad yn rhannol

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 38: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 35

© WJEC CBAC Ltd.

Band Profi – AA3

8 marc ar y mwyaf

3 6 – 8 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Dilyn y cynllun profi mewn ffordd resymegol a systematig

• Gwneud defnydd effeithiol o ddata nodweddiadol, eithafol a gwallus

• Cyflwyno'r holl ganlyniadau profi gyda sylwebaeth fanwl a hyddysg

• Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd wedi'i strwythuro'n dda iawn gan ddefnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu cywir.

2 3 – 5 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Defnyddio'r cynllun profi i gynnal profion ar y datrysiad

• Gwneud defnydd o ddata realistig i brofi holl feysydd y datrysiad

• Cyflwyno canlyniadau profi gyda sylwebaeth dechnegol addas

• Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sydd wedi'i strwythuro'n dda ar y cyfan gan ddefnyddio gramadeg, atalnodi a sillafu eithaf cywir.

1 1 – 2 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Gwneud defnydd o ddata i brofi'r rhan fwyaf o feysydd y datrysiad a gwblhawyd

• Cyflwyno canlyniadau profi gyda sylwebaeth fras gywir

• Cynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n dangos rhywfaint o dystiolaeth o strwythur ond gyda rhai gwallau gramadeg, atalnodi a sillafu.

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Band Datblygiad pellach – AA3

4 marc ar y mwyaf

3 4 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ystyried yn llawn ganlyniadau'r broses brofi o ran amcanion y datrysiad

• Disgrifio'n llawn y nodweddion llwyddiannus a meysydd i'w datblygu ymhellach

• Cynnig awgrymiadau manwl a chynhwysfawr ar gyfer estyniadau penodol i'r datrysiad

2 2 – 3 marc

Mae'r ymgeisydd wedi:

• Ystyried y rhan fwyaf o ganlyniadau'r prosesau profi yn erbyn amcanion y datrysiad

• Disgrifio'r nodweddion mwyaf llwyddiannus a meysydd i'w datblygu ymhellach

• Cynnig awgrymiadau penodol ar gyfer estyniadau i'r datrysiad

1 1 marc

Mae'r ymgeisydd wedi amlinellu:

• Canlyniadau'r broses brofi

• Awgrymiadau ar gyfer ymestyn y datrysiad

0 marc Ateb ddim yn haeddu marc/heb geisio rhoi ateb

Page 39: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 36

© WJEC CBAC Ltd.

ATODIAD C

Confensiynau sy'n cael eu dilyn yn y fanyleb

Nodyn 1

Pan gynrychiolir saernïaeth Von Neumann mewn diagramau, y symbolau canlynol fydd yn cael eu defnyddio: Uned rifyddeg-resymeg Cofrestr Uned reoli Nodyn 2

Lle mae'n ofynnol i ymgeiswyr gymhwyso mathemateg sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura, caiff y gweithredyddion rhifyddol a pherthynol canlynol eu defnyddio:

Gweithredydd Ystyr Enghraifft

> Yn fwy na Bydd A>B yn dychwelyd CYWIR os bydd gwerth A yn fwy na gwerth B neu fel arall

bydd yn dychwelyd ANGHYWIR.

< Llai na Bydd A<B yn dychwelyd CYWIR os bydd gwerth A yn is na gwerth B neu fel arall

bydd yn dychwelyd ANGHYWIR.

<= Llai na neu'n hafal i Bydd A<=B yn dychwelyd CYWIR os bydd A yr un peth neu'n is na B neu fel arall

bydd yn dychwelyd ANGHYWIR.

>= Yn fwy na neu'n hafal i Bydd A>=B yn dychwelyd CYWIR os bydd A yr un peth neu'n fwy na B neu fel arall

bydd yn dychwelyd ANGHYWIR.

<> Ddim yn hafal i Bydd A<>B yn dychwelyd CYWIR os na fydd A yr un peth â B ond ANGHYWIR os

bydd A yr un peth â B.

HAFALNODAU (fel arfer ==)

Yr un peth â Bydd A==B yn dychwelyd CYWIR os bydd A yr un peth â B neu fel arall bydd yn

dychwelyd ANGHYWIR.

A/AC Rhaid i'r ddau ddatganiad fod yn wir er mwyn i'r ddadl

gyfan fod yn wir.

Bydd (A == 1) A (B==4) yn dychwelyd CYWIR os mai A yw 1 a B yw 4. Byddai'n dychwelyd ANGHYWIR mewn pob sefyllfa

arall.

NEU Dim ond un o'r datganiadau sy'n gorfod bod yn wir er

mwyn i'r ddadl gyfan fod yn wir.

Bydd (A==1) NEU (B==4) yn dychwelyd CYWIR os mai A yw 1 neu B yw 4. Byddai

ond yn dychwelyd ANGHYWIR os na fyddai A yn 1 a B yn 4.

NID Y gwrthwyneb i Bydd NID(A) yn dychwelyd CYWIR os bydd A yn ANGHYWIR ac ANGHYWIR os

bydd A yn GYWIR.

Page 40: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 37

© WJEC CBAC Ltd.

NEUA Mae'r ddadl yn anghywir os yw'r ddau ddatganiad yn wir.

Mae'r ddadl yn anghywir os

yw'r ddau ddatganiad yn anghywir.

Fel arall mae'r datganiad yn

wir.

Byddai A NEUA B yn dychwelyd CYWIR os byddai A a B yn werthoedd gwahanol.

DIV Rhaniad cyfanrifol

Yn canfod y cyniferydd neu'r 'rhif cyfan o weithiau' y gellir

rhannu rhannydd yn rhif.

11 DIV 2 = 5

Y cyniferydd yw 5 gan fod 2 yn rhannu yn 11 rhif cyfan o 5 gwaith

MOD Rhaniad modwlo

Yn canfod y gweddill pan rennir rhannydd yn rhif.

11 MOD 2 = 1

Y gweddill yw 1 gan fod 2 yn rhannu 5 gwaith yn 11 gydag '1 yn weddill'

Nodyn 3

Caiff algorithmau a ysgrifennir mewn ffug-god eu cynrychioli drwy ddefnyddio'r confensiwn canlynol:

Llunio Defnydd enghreifftiol

Datgan is-reolweithiau Declare CapitalLetterOfName

End Subroutine

Galw is-reolwaith call SubroutineNeeded

Datgan a defnyddio araeau myarray[99]

Allbynnau llythrennol output “Please enter a number”

Enwau'r newidynnau myvariable

Diffinio math data newidynnau myvariable is integer

Mathau data cyfanrif, nod, llinyn, boole

Aseiniad set counter = 0

Detholiad if . . . else . . . end if

Mewnoli o leiaf un bwlch ar ôl if neu do neu ailadrodd ac ati.

if counter = 1

output counter

end if

Anodi {Some annotation goes here}

Sylwadau (ar gyfer Java yn unig) /** Comments for Java */

Ailadrodd for i . . . next i

repeat . . . until

do . . . loop

do . . . while

while . . . repeat

Bydd y gweithredyddion rhesymegol A NEU NID NEUA mewn llythrennau bras.

Bydd CYWIR ac ANGHYWIR rhesymegol mewn llythrennau bras.

Page 41: CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

TGAU CYFRIFIADUREG 38

© WJEC CBAC Ltd.

Nodyn 4

Bydd algorithmau a gynrychiolir drwy ddefnyddio siart llif yn defnyddio'r confensiwn canlynol: Gweithdrefn Dechrau/Stopio Blwch penderfynu Mewnbwn / Allbwn Gweithrediad Cysylltydd Storio/Galwad is-reolwaith Llif rheoli (Mae'r pen saeth yn awgrymu cyfeiriad y llif) Manyleb Cyfrifiadureg TGAU CBAC o 2017/GH 2211/16