cyflwyniad i sikhiaeth - wjec

13
TAG UG/U Cyflwyniad i Sikhiaeth: Thema 2: Cysyniadau crefyddol Gwybodaeth am grefydd a chred a dealltwriaeth ohonynt 2C Karma, ailenedigaeth a mukti AA1

Upload: others

Post on 25-May-2022

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

TAG UG/U

Cyflwyniad i Sikhiaeth: Thema 2: Cysyniadau crefyddol

Gwybodaeth am grefydd a chred a dealltwriaeth ohonynt

2C Karma, ailenedigaeth a mukti AA1

Page 2: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Thema 2: Cysyniadau crefyddolGwybodaeth am grefydd a chred a dealltwriaeth ohonynt

A.

Archwilio dysgeidiaeth Sikhiaidd sy'n ymwneud â'r hunan, marwolaeth, bywyd ar ôl marwolaeth ac ystyr a phwrpas bywyd, gan gyfeirio at:

Dealltwriaeth athronyddol o'r cysyniad Sikhaidd o Dduw:

Duw yw'r un, yr unig un a'r un heb ei ail; symbolaeth Ik Onkar (Adi Granth 929, 1035, 1037); Duw yn bersonol – Adi Granth 784, 1190; Duw fel nirguna (heb briodoleddau) a saguna (â phriodoleddau); Duw hollalluog a hollwybodus; Duw fel creawdwr a chynhaliwr bywyd – Adi Granth 25, 684, 700; Duw mewnfodol a throsgynnol.

B. Yr enaid:

Natur yr enaid – gwreichionyn dwyfol Wahegurū, nefolaidd ac anfaterol; mewn undeb â Wahegurū. Y nod o dorri cylch ailenedigaeth; taith yr enaid trwy lawer o ffurfiau bywyd er mwyn cyrraedd y nod hwn; cyfnodau o ddatblygiad ar lwybr goleuedigaeth gan gynnwys cyfnod Saram Khand, teyrnas ymdrech a theyrnas gras; dealltwriaeth fonyddol ac undduwiol o'r berthynas rhwng Duw a'r enaid.

C. Karma, ailenedigaeth a mukti:

Dealltwriaeth athronyddol o lwybr rhyddhad – anwybodaeth yn cael ei ddisodli gan oleuedigaeth ysbrydol wedi'i heffeithio gan Ras Duw – dyma ystyr a phwrpas bywyd; swyddogaeth karma a thrawsfudiad yr enaid; mewn undeb â Duw – Adi Granth 1127, 905, 275 fel ystyr a phwrpas bywyd Sikhaidd.

Bydd materion i'w dadansoddi a'u gwerthuso yn seiliedig ar unrhyw agwedd ar y cynnwys uchod, er en-ghraifft:

• Pwysigrwydd cymharol y cysyniad Sikhaidd o Dduw mewn perthynas â chysyniadau eraill.

• Ai'r ddysgeidiaeth Sikhaidd bwysicaf am Dduw yw bod Duw yn bersonol.

• Effeithiau dysgeidiaeth Sikhaidd ynglŷn â'r enaid ar safbwynt Sikhiaid ynglŷn â'r ddynoliaeth.

• Y berthynas rhwng Duw a'r enaid mewn Sikhiaeth – monyddol neu undduwiol.

• Perthnasedd credoau Sikhaidd am ailenedigaeth a mukti i Sikhiaid heddiw.

• Dylanwad credu mewn karma ar ffordd o fyw'r Sikhiaid.

Page 3: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Thema 2: Cysyniadau crefyddol

Karma, ailenedigaeth a muktiLlwybr rhyddhad: dealltwriaeth athronyddolMae'r gair 'rhyddhad' yn cyfeirio at broses neu gyflwr o ollwng yn rhydd. Mae'n awgrymu 'goresgyn' neu 'godi uwchlaw' cyfyngiadau neu rwystrau a fyddai'n clymu rhywun i lawr fel arall. Defnyddir 'rhyddhad' weithiau mewn perthynas â chyflwr cymdeithasol pobl, e.e. ar gyfer mudiadau sy'n ceisio codi pobl o dlodi, rhagfarn neu ormes wleidyddol. Mae'r term hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau crefyddol, wrth gyfeirio at ein cyflwr mewnol, ysbrydol. Efallai y byddwch yn clywed 'rhyddhad' yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd gyfnewidiol ar gyfer termau fel 'rhyddfreinio' ac 'iachawdwriaeth', yn dibynnu ar sut mae traddodiadau crefyddol gwahanol yn meddwl am yr hunan neu'r enaid dynol.

Muktī yw'r gair a ddefnyddir mewn dysgeidiaeth Sikhaidd ar gyfer rhyddhad. Os edrychwch yn ôl ar yr adran ail olaf ond un yn 2B, lle cafodd ei gyflwyno, byddwch yn sylwi bod y Gurus Sikhaidd yn ymwneud â'r cysyniad o muktī mewn ffyrdd gwahanol, o'i ystyried ei fod yn gysyniad amlwg â'i wreiddiau ym meddylfryd Hindŵaidd. Roedden nhw'n derbyn y gallai muktī – a gafodd ei ddeall yn gyffredin fel rhyddhad o gylchoedd genedigaeth a marwolaeth – fod yn ganlyniad byw bywyd goleuedig yn ysbrydol a chysegredig. Gan fod Islam yn bresennol yn India, roedd y Gurus yn sylweddoli y byddai rhai yn ystyried muktī fel sicrhau lle yn y nefoedd neu baradwys, fel y meddylir amdano yn y crefyddau Abrahamaidd.

Beth bynnag oedd y safbwynt crefyddol, roedd y Gurus yn awyddus i dynnu sylw at y perygl y gallai'r dyhead i gyflawni muktī fod yn hunanofynnol; nod pwysicach na hyn oedd deall presenoldeb sanctaidd Duw yn fewnol ac yn allanol, er mwyn gweddnewid y gwerthoedd y mae rhywun yn eu dilyn mewn bywyd ac wrth ymwneud ag eraill. Gallwn weld felly, er bod y Gurus yn aml yn disgrifio muktī fel canlyniad neu is-gynnyrch ymdrechion crefyddol yr unigolyn, eu bod nhw wedi rhybuddio yn erbyn gwneud hyn yn gymhelliad gwaelodol:

Dharmī dharam kareh gāvāveh mangeh mokh duār

Mae'r bobl grefyddol yn gwastraffu eu hymdrechion crefyddol, wrth ymbil am ddrws rhyddhad.

Guru Granth Sahib, t. 469

Fel y nodwyd yn gynt, y nod dysgu a amlinellwyd gan y Gurus oedd byw fel jīvan-mukat, rhywun sydd wedi ei ryddhau yn ysbrydol tra’i fod yn fyw yn y presennol. Ystyrir bod jīvan-mukat yn rhydd o afael haumai, yr ego hunanol. Mae unigolyn o'r fath hefyd yn rhydd o afael māya, y rhwyd o ffenomenau bydol sy'n gallu ein twyllo a'n dallu i realiti a phwrpas dyfnach bywyd. I'r jīvan-mukat, gall ffenomenau bydol fod yn fodd i’n hatgoffa o ddimensiwn sanctaidd bywyd yn hytrach na thynnu sylw oddi arno ac nid oes gan bŵer māya unrhyw afael. Mae ef neu hi yn barod i ymgorffori priodoleddau ysbrydol craidd, fel cariad (h.y. codi uwchlaw casineb neu ofn), gofal (codi uwchlaw apathi neu esgeulustod), haelioni anhunanol (codi uwchlaw trachwant a chamfanteisio). Mae arfer y priodoleddau yn gallu arwain at yr hyn a ellid eu hystyried yn 'fân rhyddhad' yn

Mae’r adran hon yn cwmpasu cynnwys AA1

CYNNWYS Y FANYLEB:

Dealltwriaeth athronyddol o lwybr rhyddhad – anwybodaeth yn cael ei ddisodli gan oleuedigaeth ysbrydol wedi'i heffeithio gan Ras Duw – dyma ystyr a phwrpas bywyd.

Term allweddol

Muktī – rhyddhad, yn golygu ymgolli yn Nuw; deellir hyn fel rhyddhad o gylch ailenedigaeth neu ryddhad o afael yr ego hunan-ganolog.

Syniadau allweddol

Roedd Muktī yn gysyniad a oedd wedi hen sefydlu yn India, a chynigiodd y Gurus Sikhaidd rai ymatebion neilltuol i'r cysyniad hwn.

Roedden nhw'n gweld y gallai'r dyhead am ryddhad mewn bywyd ar ôl marwolaeth ddod yn gymhelliad hunan-ganolog ar gyfer cyflawni gweithredoedd da.

Felly, pwysleisiodd y Gurus y ddelfryd o jīvan-mukat, rhywun sydd wedi ei ryddhau o'r ego hunanol ac sydd wedi cysylltu â Duw yn y presennol.

Page 4: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

ystod eich bywyd bob dydd, wrth i rywun ddewis yn ymwybodol sut i feddwl ac ymddwyn mewn ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid gan arwain at arferion a rhagdueddiadau unigolyn sydd wedi ei ryddhau yn ysbrydol.

Gall jīvan-mukat hefyd dderbyn a byw mewn cytgord gyda'r hukam (ewyllys ddwyfol), trefn neu lif bodolaeth sydd y tu hwnt i'n rheolaeth fel pobl. Trwy dderbyn yr hukam ehangach, gall unigolyn o'r fath arfer ewyllys rhydd yn ddoeth, heb gael ei gaethiwo neu ei gamarwain gan ochr gul neu negyddol y natur ddynol. Gan fod yr unigolyn wedi dysgu sut i 'goncro'r hunan' (Sri Guru Granth Sahib, t. 6), mae cysylltiad agos felly rhwng rhyddhad yn y meddwl Sikhaidd â'r syniad o sofraniaeth, o ran gallu pob unigolyn i reoli'r hunan yn ddoeth (fel yr adlewyrchir mewn sawl agwedd ar hunaniaeth Sikhaidd, fel y panj kakkār neu'r 5 K, neu'r enwau Singh a Kaur, a gyflwynwyd yn Thema 1). Fel hyn, mae'r cysyniad Sikhaidd o ryddhad yn cysylltu'n uniongyrchol â byw bywyd sy'n rhoi lle canolog i werthoedd y presennol, yn ogystal â bod yn gysylltiedig â'n taith i'r byd nesaf.

Anwybodaeth ysbrydol a goleuedigaeth Yn Gurbānī, mae rhyddhad a goleuedigaeth yn aml yn cael eu portreadu law yn llaw:

Phūto āndā bharam ka maneh bheio pargās

Kātī berī pageh te gur kīnī band khalās

Torrwyd yr wy lledrithiol; goleuwyd fy meddwl â goleuni

Mae'r Guru wedi chwalu'r hualau ar fy nhraed ac wedi fy rhyddhau.

Guru Granth Sahib, t. 1002

Fe gofiwch bod y gair Guru i Sikhiaid yn golygu rhywun sy'n gallu eich tywys 'o dywyllwch i oleuni'. Gwelir bod y goleuo hwn yn digwydd ym man neu feddwl pob unigolyn (cofiwch, caiff ei ynganu i odli gyda’r gair ‘sun’ yn Saesneg). Pan nad ydych yn gallu 'gweld' yn glir, mae eich meddyliau a'ch gweithredoedd yn tueddu i fod yn rhai annoeth, oherwydd eich bod yn eu seilio ar sut mae pethau yn ymddangos yn aneglur i chi. Mae llawer o gydweddiadau ysgrythurol felly yn cyfeirio at bŵer dadlennol goleuni:

Chāndanā chāndan āngan, prabh jio antar chāndna.

Golau lleuad, golau lleuad, gadewch i olau lleuad Duw lenwi libart y meddwl.

Guru Granth Sahib, t. 1018

Archwiliwyd y pwyslais hwn ar y meddwl yn y traddodiad llafar Sikhaidd kathā (ystyriaeth lafar o ddysgeidiaeth Sikhaidd). Mae'r diweddar Giani Sant Singh Maskeen, er enghraifft, yn pwysleisio mai pwrpas y dharam neu'r ffydd Sikhaidd yw meithrin y meddwl cudd. Dyna pam mae un o'r prif feysydd a ddisgrifiwyd yn Jap Ji Sahib (trafodwyd ar ddiwedd 2B) yn cynnwys mireinio'r ymwybyddiaeth ddynol. Os mai 'dysgwr' yw ystyr Sikh, un o brif hanfodion

CYNNWYS Y FANYLEB:

Anwybodaeth yn cael ei ddisodli gan oleuedigaeth ysbrydol wedi'i heffeithio gan gras Duw.

Syniad allweddol

Yn nysgeidiaeth Sikhaidd, mae anwybodaeth a goleuedigaeth yn cael eu delweddu fel cyflwr o dywyllni neu oleuni yn y meddwl. Mae hyn yn effeithio ar sut mae rhywun yn gweld pethau ac felly ar y ffordd mae rhywun yn meddwl ac ymddwyn.

Syniadau allweddol

Pwrpas creiddiol dysgeidiaeth ac arferion y ffydd Sikhaidd yw addysgu, annog, goleuo a gweddnewid y meddwl. Bydd hyn o gymorth ar gyfer:

•Cael darlun cliriach o dueddiadau a rhagdueddiadau eich cyflwr dynol fel unigolyn

•Canfod presenoldeb arweiniol yr enaid mewnol

•Goresgyn mewn ffyrdd ymarferol gaethiwed y meddwl i haumai, yr ego hunanol

•Cryfhau ein rhagdueddiadau ysbrydol cynhenid i siapio a llywodraethu'r ffordd rydym yn byw.

Page 5: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

dysgeidiaeth ac arferion Sikhiaeth yw addysgu, annog, goleuo a gweddnewid y meddwl drwy ei godi o'r gwyll neu gysgodion tywyll anwybodaeth ysbrydol. Gall yr anwybodaeth hwn gynnwys: peidio â bod yn ymwybodol o'ch cyflwr dynol neu fethiant i gydnabod pa mor agored ydych chi i'r grymoedd sydd wrth waith; esgeuluso presenoldeb yr enaid mewnol; casglu gwybodaeth ddeallusol heb godi uwchlaw'r ego hunanol. Mae un bennill yn portreadu meddwl cysglyd, nad yw prin yn sylwi ar y nodweddion negyddol sy'n sleifio atom ac yn dwyn oddi arnom fel lladron. Mae’n nodi:

Is greh meh koī jagat rehai…

Prin yw'r rheini sy'n cadw ar ddihun ac yn effro yng nghartref yr hunan

Sri Guru Granth Sahib, t. 182

Ystyriwch hefyd y negeseuon a gyflwynir yn y llinellau a ganlyn:

Jiou kastūrī mirag na jānai bhramdā bharam bhulāeiā

Yn anwybodus o bresenoldeb yr enaid mewnol, mae’r bobl yn crwydro wedi'u camarwain gan amheuaeth

Fel y mwsg-garw sy'n chwilio y tu allan am y persawr

Sydd yn byw yn ei gorff ei hun.

Parhiā mūrakh ākhīai jis lab lobh ahankārā

Nid yw’r ysgolhaig dysgiedig yn ddim mwy na ffwl,

Pan fydd yn llawn trachwant hunanol a mawredd.

Guru Granth Sahib, t. 140

Goresgyn anwybodaeth ysbrydol yw un ffordd o esbonio 'goleuedigaeth', ond gall dealltwriaeth pobl o’r term hwn amrywio. Yng ngorllewin Ewrop, roedd y Goleuo yn gyfnod o newid hanesyddol, a oedd yn cynnwys torri’n rhydd o afael traddodiadol awdurdod crefyddol i greu cymdeithas ar sail resymegol. Enw arall ar y cyfnod hwn oedd 'Oes Rheswm'. Wrth i ddysgeidiaeth Bwdhaidd a thraddodiadau dwyreiniol eraill ymledu i’r gorllewin, roedd hyn o gymorth i gryfhau syniadau amgen am 'oleuedigaeth' wedi'u gwreiddio yn y meddwl ysbrydol.

O safbwynt Sikhaidd, mae'r pŵer i resymu, canfod a gwneud dewisiadau yn gosod pobl ar frig holl ffurfiau bywyd. Un agwedd ar oleuedigaeth yw ystyriaeth resymegol, ond mae rôl ymdrech ymarferol a gras hefyd yn allweddol; un o'r ffyrdd gorau o ystyried goleuedigaeth yw fel proses o addysg a gweddnewidiad ac, yn bwysig iawn, y math o agwedd at fywyd sy'n deillio o hynny.

Page 6: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Addysgu'r meddwl a'i gysoni â'r GwirioneddMae'r broses o addysgu a gweddnewidiad yn cynnwys, ar un lefel, bod yn fwy hunan-ymwybodol a bod â'r gallu i hunan-ddadansoddi. Dyma sut mae un awdur Sikhaidd yn esbonio'r trobwynt ym mywyd unigolyn sydd wedi dechrau gweld ei hun o'r newydd:

‘Mae ei ego fel gwawdlun o flaen llygaid ei feddwl ac mae ei brif feddyliau a'i ddelfrydau yn cael eu gosod o'i flaen… Mae o eisiau i'r ego ffug, yr 'I' y mae o wedi'i greu gan feddwl annysgedig, gael ei orffen. Nid yw bellach eisiau ymgysylltu ei hun â'i hen gysyniad o 'hunan', ei gyflwr is o fod.' – Ranjeev Singh Sidhu

Ar lefel arall, mae addysgu'r meddwl yn golygu ymarfer yn barhaus i fyw mewn ffordd oleuedig. Mae'r pwyslais ar ymarfer wedi ei adlewyrchu yn y cwestiwn cyntaf sy'n ymddangos yn y Guru Granth Sahib. Yn hytrach na gofyn 'Sut all rhywun gael ei ryddhau?' neu 'Sut all rhywun gael ei oleuo?' neu 'Sut all rhywun gael ei achub?', mae'n gofyn:

Kiv sachiārā hoieai, kiv kūrai tutai pal?

Sut all rhywun fod yn gywir o ran arferion bywyd, sut all rhywun ddiosg llen anwiredd?

Guru Granth Sahib, t. 6

Mae'r term sachiārā yn awgrymu rhywun sy'n ‘cerdded ar hyd llwybr y gwirionedd’, rhywun sy’n arfer y gwirionedd, neu ‘saer-gwirionedd’ sy'n cynhyrchu meddyliau a gweithredoedd go iawn yn hytrach na rhai ffug ac sy'n byw mewn ffordd sy'n gyson â Gwirionedd uwch. Mae hyn yn esbonio pam defnyddir sawl cydweddiad sy’n cyferbynnu nwyddau 'ffug' â'r rhai 'go iawn' i esbonio rôl y Guru wrth weddnewid meddylfryd pobl:

Satgur khotiahu khare kare sabad savāranhār

Mae'r Gwir Guru yn gweddnewid yr hyn oedd yn ffug yn rhywbeth dilys

Trwy'r gair sanctaidd a'i ddysgeidiaeth, mae'n ein harddu a'n dyrchafu.

Guru Granth Sahib, t. 143

Wrth gwrs, gellir deall gwirionedd mewn ffyrdd gwahanol. Gall rhywun ofyn, a yw'n cynnwys gweld pethau fel y maen nhw, neu fel y gallen nhw fod? Rydym yn gwybod o'n hastudiaeth hyd yma bod gan y Gurus Sikhaidd ddiddordeb mewn gweld posibiliadau ar gyfer gweddnewid pobl yn unigol a chyda’i gilydd. Roedd eu dysgeidiaeth yn 'dadadeiladu' yr hunan a chymdeithas trwy arsylwi ar natur ddynol ac amodau cymdeithasol eu cyfnod. Trwy gynnig golwg cliriach i bobl o'r grymoedd oedd yn creu'r realiti, fe wnaethon nhw adeiladu ar y syniad bod 'gweld yn gyfystyr â chredu', h.y. gallwch dderbyn rhywbeth pan fyddwch yn gallu ei weld yn fwy clir. Eto i gyd, roedd y Gurus hefyd yn annog ymateb dynol i 'Wirionedd uwch' ac yn

Syniadau allweddol

Yn nysgeidiaeth Sikhaidd, mae addysgu’r meddwl yn golygu dysgu er mwyn dod yn sachiārā – rhywun sy'n 'cerdded llwybr Gwirionedd' yn ei fywyd. Golyga hyn fod rhywun yn meddwl ac yn gweithredu mewn ffordd 'ddiffuant' yn hytrach na 'ffug'. Mae hefyd yn golygu cyd-fynd â 'gwirionedd uwch' – sef bod gan bob un ohonom y potensial i fyw bywyd bob dydd mewn ffordd sy'n oleuedig yn ysbrydol.

Page 7: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

dangos ffydd ym mhotensial pobl yn ogystal â grymoedd gras. Fel hyn, mae'r syniad bod 'gweld yn gyfystyr â chredu' hefyd yn sail i’r safbwynt Sikhaidd ynglŷn â'r meddwl goleuedig, h.y. bod y gwirionedd yn cynnwys gweledigaeth o sut gall pethau fod, yn hytrach nag adlewyrchu sut maen nhw'n ymddangos i ni.

Rôl y Guru a gras ddwyfolOs ydym yn deall y ffydd Sikhaidd fel ysgol neu lwybr dysgu, mae'r berthynas rhwng yr athro a'r dysgwr yn un bwysig. Fel dysgwr, mae angen i chi wneud ymdrech lawn. Trwy arsylwi arnoch, gall athro benderfynu gadael i chi barhau â'ch ymdrechion am ychydig mwy, neu ddewis adeg i daflu golau a'ch helpu i droi cornel newydd yn eich dysgu, neu roi rhywbeth i chi er mwyn i chi gydnabod eich gobeithion a'ch llwyddiannau a'ch ysgogi ymhellach. Gallwch ystyried hyn fel moment o fendith neu gras, sy'n gwneud i rym addfwyn neu egni ymddangos. Caiff hyn ei annog gan gyflwr meddwl ffafriol yr athro a'i ddirnadaeth o'ch bwriadau ac ymdrechion.

Mae Sikhiaid yn ystyried bod y Guru yn yr un modd yn cyflwyno bendithion yn ogystal â throsglwyddo gwybodaeth, boed y Guru'n cael ei ystyried yn 1) ddysgeidiaeth ysgrythurol, 2) goleuni hollbresennol y deg Guru hanesyddol, 3) Duw, neu Waheguru (‘Guru rhyfeddol'). Rydym yn gwybod o'r gwaith ar Thema 1, pan fydd penillion yr ysgrythurau yn cael eu darllen, adrodd a'u canu, bod y Guru yn cael ei weld fel unigolyn – â llais, tôn, ymarweddiad a phersonoliaeth. Ystyrir bod y ddysgeidiaeth yn arwain at ryddhad a goleuedigaeth oherwydd credir eu bod yn tarddu o ymwybyddiaeth rydd a goleuedig y Gurus a'r cymeriadau sanctaidd eraill. Gan fod y ddysgeidiaeth yn delynegol a melodaidd, ystyrir ei bod yn cyffwrdd â'r meddwl a'i fendithio yn ogystal â rhoi gwybodaeth iddo. Yn hytrach na chael ei ystyried fel testun difywyd, mae'r 'Guru fel ysgrythur' felly yn cael ei ystyried yn 'hyfforddwr' gydol oes ar gyfer dod o hyd i'r ffordd drwy ddyfroedd bywyd. Trwy hyn mae Sikhiaid hefyd yn synhwyro presenoldeb cyfriniol a bendithion y Gurus hanesyddol a Duw.

Gan nad yw dysgu yn y ffydd Sikhaidd yn cael ei ystyried yn weithgaredd unig ond yn hytrach, fel perthynas gyda'r Guru, neu 'oleuwr', ystyrir bod y llwybr i fywyd goleuedig yn cael ei effeithio gan y gras dwyfol ac nid gan ymdrechion yr unigolyn yn unig. Mae hyn yn effeithio ar syniadau Sikhaidd ynghylch rôl karma a thrawsfudiad yr enaid, a byddwn yn troi i ystyried y rhain nesaf.

Syniad allweddol

Yn y ffydd Sikhaidd, ystyrir bod y berthynas Guru-Sikh neu 'athro-dysgwr' yn allweddol i ddysgu a thwf ysbrydol.

Gall y Sikhiaid amgyffred y 'Guru' fel geiriau telynegol yr ysgrythur neu oleuni arweiniol anniriaethol y deg Guru a Duw.

Fel athro sy'n rhoi eiliadau o fewnwelediad, sicrwydd, anogaeth neu gymorth i'r dysgwr, ystyrir bod y Guru yn rhoi bendithion yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth.

Page 8: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Karma a kirpā: y cydberthynas rhwng gweithredu a grasYn 2B fe wnaethon ni ddysgu bod dysgeidiaeth Sikhaidd yn derbyn bod taith bywyd yr unigolyn yn cael ei osod yng nghyd-destun ehangach trawsfudiad yr enaid drwy gylch ailenedigaethau. Mae'n derbyn hefyd bod 'cyfraith karma' yn gweithredu er mwyn penderfynu, i ryw raddau, ar natur ac amodau'r bywyd nesaf y bydd enaid yn mynd iddo ac yn ei brofi. Mae hefyd yn tynnu sylw at rôl kirpā neu gras.

Mewn gwahanol destunau am draddodiadau crefyddol dwyreiniol, mae karma yn aml yn cael ei esbonio fel cyfraith ‘achos ac effaith’ neu ‘weithred ac ymateb’. Mae ymadroddion Cymraeg sy'n adleisio'r egwyddor sylfaenol hon yn cynnwys: 'A eir a geir' ac 'a heuir a fedir'. Mae ymadroddion fel 'karma da' neu 'karma drwg' bellach yn cael eu defnyddio gennym i awgrymu'r math o ganlyniadau sy'n gallu deillio o'n meddyliau a'n gweithredoedd.

Roedd y Gurus Sikhaidd yn ymateb i wahanol ddealltwriaeth sefydledig o gyfraith karma, wrth iddynt sylwi ar y ffordd roedd yn dylanwadu ar feddylfryd ac arferion crefyddol y cyfnod. Byddwn yn awr yn ceisio deall sut roedd hyn yn rhan o'r safbwynt unigryw o fywyd goleuedig roedd y Gurus yn ei nodi. Yn nysgeidiaeth Sikhaidd, defnyddir y gair Punjabi ‘karam’ yn hytrach na'r ffurf Sanskrit/Hindi, karma. Mae sain y bôn neu brif ran y gair, ‘kar’ yn cyfleu'r syniad o wneud. Felly, ystyr karam (yn y ffurf unigol neu luosog), yw gweithred(oedd) sy'n cynnwys bwriadau a chanlyniadau.

Mewn un ffordd, roedd y Gurus Sikhaidd yn amlwg yn pwysleisio pwysigrwydd gweithredoedd moesegol, rhinweddol neu uchelwrol. Cyfeirir at hyn fel ‘shubh karam’ fel y'i disgrifiwyd ym mhennill adnabyddus Guru Gobind Singh am fyw a marw ag awydd i ymdrechu'n barhaus i wneud yr hyn sy'n dda a chywir (gweler Thema 1). Mae hyn yn gysylltiedig â'r syniad o dharam fel byw mewn ffordd gyfrifol a chydwybodol. Yn y weddi foreol, Jap Ji Sahib, pwysleisiodd Guru Nanak mai'r hyn sy'n cyfrif mewn bywyd yw'r pethau rydym yn eu gwneud yn hytrach na'r pethau rydym yn eu dweud yn unig:

Punnī pāpī ākhan nāhi, kar kar karnā likh lai jahu

Nid yw geiriau yn unig yn gwneud rhywun yn sant neu'n bechadur;

Sgript ein gweithredoedd sy'n cael eu hailadrodd a'u crynhoi

A gaiff eu hargraffu ar yr enaid.

Guru Granth Sahib, t. 4

Mewn gweddi ddyddiol arall, Anand Sahib neu 'Gân Gwynfyd', mae'r trydydd Guru yn gofyn cwestiwn sydd wedi ei chyfeirio at y corff dynol, er mwyn canolbwyntio nid ar gredoau haniaethol ond ar weithredoedd ymarferol sy'n cael eu harwain gan ymwybyddiaeth ysbrydol i wneud y bywyd hwn yn anrhydeddus a chynhyrchiol. Gellir deall Karam yma fel gweithredoedd ynghyd â’r effeithiau fydd yn dilyn ar ôl cyflawni'r gweithredoedd hynny:

Swyddogaeth karma a thrawsfudiad yr enaid.

Termau allweddol

Karam – gair Pwnjabi am weithred, gwaith; canlyniadau gweithredoedd o'r fath.

Karma – y gair Sanskrit/Hindi am yr uchod. Mae'r gair wedi ei gyflwyno i'r iaith Gymraeg i gyfeirio at ffawd neu dynged ac effeithiau da neu ddrwg ein gweithredoedd.

Syniadau allweddol

Mae Dysgeidiaeth Sikhaidd yn pwysleisio pwysigrwydd karam pan fydd hyn: 1) wedi ei ddeall fel gweithred foesegol a theilwng; 2) pan gaiff ei gyferbynnu â geiriau neu rethreg sy’n arwynebol neu’n groes i arferion.

Syniadau allweddol

Roedd y Gurus Sikhaidd yn wyliadwrus o’r sylw roedd pobl yn ei roi i karam pan roeddynt yn ei ddehongli fel: 1) gweithredoedd da a gyflawnwyd oherwydd cymhelliad sylfaenol o fudd personol neu; 2) ddefodau crefyddol a gyflawnwyd er mwyn denu canlyniadau karmaidd da.

Roeddynt yn rhoi pwyslais ar ansawdd gweithredu mewn ffordd nishkām – h.y. yn ddiamod heb gymhellion er budd personol.

Page 9: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Eh sarīrā meriā is jag meh āei kai kiā tudh karam kamāiā

O fy nghorff, ar ôl dod i mewn i'r byd hwn, pa weithredoedd wyt ti wedi eu cyflawni a pha effeithiau wyt ti wedi eu hachosi yn y bywyd hwn?

Guru Granth Sahib, t. 922

Er gwaethaf y pwyslais hwn ar weithredoedd, oherwydd y gred mewn trawsfudiad roedd y Gurus hefyd yn ymwybodol bod pobl yn tueddu i ystyried gweithredoedd fel pethau fyddai'n arwain at wobrau neu gosbau, yn debyg iawn i symudiadau mewn gêm nadroedd ac ysgolion. Ymhellach, roedd y gair karam yn golygu nid yn unig gweithredoedd bob dydd ond hefyd defodau crefyddol a gyflawnwyd er mwyn sicrhau canlyniadau karmaidd da neu ddiystyru canlyniadau gwael. I'r Gurus, gellir cynllunio gweithredoedd o’r fath er budd personol gan olygu eu bod yn atal muktī neu ryddhad rhag haumai, yr ego hunanol. Yn hytrach, roeddynt yn pwysleisio cyflawni gweithredoedd a oedd yn nishkām, h.y. heb (nish) ddyhead(kām) er mwyn cael canlyniad boddhaus ac ymdeimlad o gysylltiad â Duw fel ffynhonnell pob rhinwedd a dyhead i wasanaethu'r cread. Daw gweithredoedd o'r fath yn rhai diamod yn hytrach na thrafodaethol.

Yn wir, fel sylwedyddion cymdeithasol, roedd y Gurus yn feirniadol iawn o arddangosiadau allanol o karam a dharam, o ran defodau ac arferion crefyddol, pan roeddynt yn symptomau o pākhand neu ragrith (Guru Granth Sahib t. 747). Felly roedd i’r gair karam (fel dharam) ystyron cadarnhaol neu negyddol yn eu dysgeidiaeth, yn dibynnu ar ba gyd-destun roedd y Gurus yn ei ddefnyddio a'r negeseuon roeddynt yn ceisio eu cyfleu.

Gall y syniad bod ein gweithredoedd yn arwain at ôl-effeithiau cadarnhaol neu negyddol ein hannog i fyw mewn ffordd fwy ystyrlon a chyfrifol ac roedd yn Gurus yn sicr yn annog hyn. Fodd bynnag, mae ystyried amodau bywyd rhywun fel rhai a benderfynwyd yn gyfan gwbl gan weithredoedd y gorffennol hefyd yn gallu arwain at agwedd dyngedfenyddol, ac felly agwedd besimistaidd neu anobeithiol, tuag at faterion dynol a thynged pobl, ac nid oedd hyn yn dderbyniol i’r Gurus. Ar un llaw, roeddynt yn annog pobl i sylweddoli bod y gallu i wneud a newid pethau yn eu dwylo eu hunain, fel yr adleisiwyd yn yr arfer Sikhaidd o wisgo karā breichled ddur ar y law weithredol:

Āpan hathhī āpnā, āpe hī kāj savārīai

Mae gennym y gallu i ddatrys ein materion â’n dwylo ein hunain

Guru Granth Sahib, t. 474

Mae'r datganiad hwn yn ymddangos mewn pennill sydd yn cydnabod natur hollalluog Duw. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwyslais roedd y Gurus yn ei roi ar gyfrwng a photensial dyn ar un llaw, a gallu a gras eithaf Duw ar y llaw arall. Er eu bod yn derbyn rôl karam yr unigolyn i benderfynu ar y ‘dilledyn’, h.y. y corff y bydd enaid rhywun yn ei gael, edrychiad gras ddwyfol (nadar) sydd yn galluogi rhyddhad:

Termau allweddol

Nishkām – heb (nish) ddyheu (kām) am wobr. Rhinwedd sy’n golygu bod yn allgarol, gwneud pethau heb geisio gwobr.

Trafodaethol – yn gofyn am drafod/trafodion, cael rhywbeth yn gyfnewid am rywbeth arall, e.e. wrth brynu a gwerthu.

Diamod – yn gofyn am ddim byd yn gyfnewid, heb osod unrhyw amodau.

Term allweddol

Karam – term Perseg/Arabeg a ddefnyddir mewn dysgeidiaeth Sikhaidd, yn ymwneud â syniadau fel gras, haelioni, mawrfrydedd.

Page 10: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Karamī āvai kaprhā, nadarī mokh duār

Trwy weithredoedd y gorffennol y bydd rhywun yn cael dilledyn y corff hwn

Ond trwy edrychiad gras y bydd rhywun yn cyrraedd drws rhyddhad.

Guru Granth Sahib, t. 2

Mae hyn yn arwain Sikhiaid i ddeall er bod rhai agweddau ar amgylchiadau ein bywyd sydd efallai wedi'u penderfynu ymlaen llaw drwy gyfraith karma, bod gennym oll y potensial i wireddu goleuni mewnol Duw a dangos ein bod yn gwybod hyn drwy ein gweithredoedd. Mae hyn yn esbonio pam mae rhai agweddau ar hunaniaeth ac arferion Sikhaidd yn pwyntio at urddas a statws sofran yr unigolyn (e.e. y twrban, y kirpān, yr enwau Singh a Kaur), gan bwysleisio gostyngeiddrwydd gerbron y Guru a Duw ar yr un pryd (e.e. moesymgrymu o flaen y Guru Granth Sahib, agweddau yn ymwneud â derbyn y hukam neu ewyllys ddwyfol). Yn ddiddorol, fel y gwelwyd yn 2B, er bod karam yn air sy'n tarddu o Sanskrit i olygu gweithred, mae'r un gair, karam, yn yr ieithoedd Perseg/Arabeg yn golygu gras. I Sikhiaid, mae'r cyd-ddigwyddiad hwn yn tanlinellu’r ffaith bod ymdrechion yr unigolyn fel dysgwr a bendithion yr athro yn mynd law yn llaw ar daith ddysgu pobl ar hyd eu bywydau. Yn wir, er bod y Gurus yn pwysleisio'r angen i fod yn 'ddiffuant' ac nid yn 'ffug' o ran ein meddyliau a gweithredoedd, roeddynt hefyd yn datgan:

Tudh bhāvai tā bakhas laihi khote sang khare

Os yw'n dy blesio di, Dduw, rho dy faddeuant a bendithia

Y ffug yn ogystal â'r diffuant.

Guru Granth Sahib, t. 261

Undeb â Duw fel ystyr a phwrpas bywyd Rydym yn aml yn clywed yr ymadrodd 'ystyr bywyd'. Gallech ei gysylltu ag ymadroddion fel, 'Pam ein bod ni yma?' neu 'Beth yw pwrpas bywyd?'. Beth am oedi i feddwl am y gair, 'ystyr'. Pan fyddwn yn codi llaw, yn gwenu neu'n gwgu, rydym yn cyfleu rhyw 'ystyr' gan ein bod yn 'dweud' rhywbeth. Rydym yn cyfleu rhyw neges fwriedig. Mewn Punjabi, y gair am ‘ystyr’ yw ‘matlab’. Mae'n awgrymu'r dasg o ddarganfod (lab) y feddylfryd (mat) sydd tu ôl i rywbeth, h.y. sut rydym ni'n gwneud synnwr ohono. Yn union fel rydym yn dysgu sut i ddarllen a gwneud synnwyr o eiriau ar dudalen neu sgrin, rydym hefyd yn dysgu sut i 'ddarllen' a gwneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas. Mae ystyron yn cael eu cyfleu o'n cwmpas yn y pethau mae pobl yn eu dweud a'u gwneud – a gallwn eu camddarllen weithiau hefyd (e.e. y bwriad y tu ôl i wên).

Felly, wrth ofyn 'Beth yw ystyr bywyd?', rydym yn ystyried a yw ffenomen bywyd yn 'dweud' rhywbeth wrthym ac rydym yn ceisio darganfod beth yw'r rhesymau dros ein bodolaeth. Gallech ddehongli bywyd fel rhywbeth 'diystyr' neu 'ystyrlon', neu ei ddarllen mewn ffordd wahanol ar adegau gwahanol yn eich bywyd. Yn aml mae ymdeimlad o ystyr yn gysylltiedig â

Undeb â Duw – Adi Granth 1127, 905, 275 fel ystyr a phwrpas bywyd Sikhaidd.

Syniadau allweddol

Roedd y Gurus yn cyflwyno 'undeb â Duw' nid yn unig fel digwyddiad unigol yn y bywyd hwn neu gyflwr y gellid ei gael yn y bywyd ar ôl marwolaeth.

Roeddynt yn dysgu am feithrin cyflwr o ymgolli parhaus neu gysylltu (‘liv’) â Duw ac felly â Realiti Sanctaidd bywyd.

Byddai'r cyflwr o gysylltu, fel

Page 11: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

chael ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn; pan fyddwn yn teimlo ein bod yn gysylltiedig ag eraill neu â rhywbeth sy'n fwy na ni ein hunain, mae bywyd yn tueddu i gael mwy o ystyr ac mae'n llai tebygol y byddwn yn gweld ein bywyd a marwolaeth fel pethau diystyr. Pan fydd ystyr i fywyd, bydd pwrpas i fywyd hefyd, h.y. bwriadau sylfaenol, amcanion a nodau, e.e. pan fyddwch yn gweld cae pêl-droed, rydych yn gwybod beth yw ei 'ystyr' a beth yw nod y chwaraewyr. Bydd llwyddiant a chyflawniad yn cael eu mesur yn ôl yr hyn rydych yn ei ystyried fel pwrpas bywyd, e.e. dod yn gyfoethog, helpu eraill neu ddod o hyd i hapusrwydd.

Trwy sylwi ar weithgareddau amrywiol pobl mewn cymdeithas amrywiol o ran crefydd a diwylliant, roedd y Gurus Sikhaidd yn annog pobl i feddwl yn nhermau ein hunaniaeth ddynol ar y cyd er mwyn byw mewn ffyrdd mwy ystyrlon a phwrpasol. Bydd newid yn aml yn cynnwys newid safbwynt, ac roedd y Gurus yn defnyddio cwestiynau er mwyn helpu pobl i gamu yn ôl a gweld eu bywydau yng nghyd-destun ehangach yr enaid yn cyrraedd a gadael y byd: ‘O ble y daethon ni, beth ddylem ei wneud tra ein bod yn byw yma, ble fyddwn ni'n mynd yn y pen draw?’ (Guru Granth Sahib, t. 1193). Er eu bod yn deall bod yr enaid mudol ar daith hirach, yn dechrau a gorffen gyda Duw, roedd y Gurus yn pwysleisio mai pwrpas bywyd dynol oedd ‘cyfarfod’ neu ‘ddod i undeb’ â Duw er mwyn gweddnewid y ffordd mae rhywun yn byw yn y presennol. Wedi dweud hyn, mae eu dysgeidiaeth hefyd yn pwysleisio'r posibilrwydd o dorri'r cylch o ddod i'r byd fel rhan o daith ehangach yr enaid.

Os edrychwn ar rai enghreifftiau o benillion Sikhaidd, gwelir nad oedd y 'cyfarfod' neu'r 'undeb' hwn yn cael ei ystyried fel digwyddiad o oleuedigaeth 'un-tro' yn unig. Mae'r syniad o ymgolli neu gysylltu (liv) yn helpu i gyfleu'r pwyslais ar feithrin ymdeimlad o bresenoldeb mewnol Duw fel arweiniad i'r ffordd mae rhywun yn byw ei fywyd:

Hirdai nām sarab dhan dhāran gur parsādī pāīai

Amar padārath te kirtārath sahaj dhiān liv lāīai

Yn nyfnderoedd yr hunan mae nām, dirgryniad presenoldeb Duw, yn atseinio

Trwy gras y Guru, mae'r cyfoeth hwn sy'n ein cynnal i gyd wedi'i ymgorffori ynddom.

Bydd y rhai sy'n casglu'r trysor tragwyddol hwn yn darganfod gwir foddhad;

Byddant mewn cyflwr naturiol o gysylltiad parhaus gyda Duw.

Guru Granth Sahib, t. 1127

Mewn mannau eraill, disgrifir y broses o feithrinnām fel ffordd o olchi i ffwrdd unrhyw elfennau negyddol sydd wedi ymgasglu o fywydau blaenorol, boed hyn wedi'i ddehongli fel: baw sy'n staenio'r enaid; poen a dioddefaint; y nodweddion negyddol a gynhyrchwyd gan weithredoedd y gorffennol:

Gur pūrai merī rākh leī

Byddai'r cyflwr o gysylltu fel y'i disgrifiwyd ganddynt, yn gweddnewid y gwerthoedd y mae rhywun yn meddwl ac yn gweithredu ar eu sail yn y bywyd hwn, gan arwain at gyflawniad ysbrydol gwirioneddol.

Page 12: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

Amrit nām ride meh dīno janam janam kī mail geī

Mae'r Guru perffaith wedi fy achub a'm hamddiffyn

Trwy ymgorffori'r nām ambrosaidd yn nyfnderoedd fy hunan

Golchwyd y baw a gasglwyd o fywydau blaenorol dirifedi

Guru Granth Sahib, t. 823

I'r Gurus, mae'r cysylltiad gyda nām yn creu cyswllt gyda Duw fel ffynhonnell pob rhinwedd, fel cariad, tosturi, dewrder, gostyngeiddrwydd. Daw hyn yng nghanol bod yn amodol hefyd i haumai, yr ego hunan-ganolog, sy'n bwydo rhinweddau croes fel casineb, creulondeb, llwfrdra neu falchder. Mae pobl 'gysylltiedig' o'r fath yn ymwybodol bob amser o realiti sanctaidd bodolaeth Duw. Maen nhw hefyd yn gallu ymgodi i 'wirionedd' eu potensial eu hunain i arfer nodweddion ysbrydol ac i adnabod yr ewyllys ddwyfol:

Jin kai hirdai ekankār, sarab gunī sāchā bīchār

Gur kai bhānai karam kamāvai, Nanak sāche sāch samāvai

Bydd y rhai sydd wedi gwireddu unoliaeth Duw yn nyfnderoedd eu hunan

Yn blodeuo â phob rhinwedd, yn ymwybodol o Realti Sanctaidd bywyd.

Bydd y rhai mae eu gweithredoedd yn y byd yn cyd-fynd â'r ewyllys ddwyfol

Yn ymgolli, O Nanak, yng Ngwirionedd y Gwirioneddau

Guru Granth Sahib, t. 905

Yn gynharach yn Thema 2B, gwelsom sut roedd y Gurus yn dysgu mai pwrpas bywyd oedd nid yn unig ‘adnabod’ y jyot neu fflam fewnol Duw, ond hefyd i dynnu arno er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y byd. Roeddynt yn ei gydweddu ag arian cyfred a busnes er mwyn annog pobl i weld ein genedigaeth ddynol fel rhywbeth gwerthfawr iawn, fel hīrā neu ddiemwnt gwerthfawr, na ddylid ei wastraffu (Guru Granth Sahib, t. 156) ac i ystyried bywyd fel antur gyda'r nod o gynhyrchu ‘elw ysbrydol’ (Guru Granth Sahib, t. 43) drwy gynhyrchu nodweddion ysbrydol sef yr unig ‘nwyddau’ a fydd yn mynd gyda ni pan fyddwn yn gadael y byd.

Mewn mannau eraill yn nysgeidiaeth Sikhaidd, ceir cyfeiriadau at 'gêm bywyd'; fel ei chwaraewyr, rydym yn ennill y gêm drwy gysylltu â phresenoldeb Duw er mwyn dod o hyd i'n ffordd ar y tir ac rydym yn colli pan fyddwn yn ildio i haumai . Deellir mai'r chwaraewr sy'n ennill yw'r jīvan-mukat, yr un a gafodd ei ‘ryddhau yn ysbrydol’ tra'n byw a chymryd rhan mewn bywyd. Un cydweddiad a ddefnyddir i bortreadu hyn, mewn pennill gan Bhagat Namdev, yw'r bachgen bach sy'n gwneud barcud ac yn ei hedfan; pan fydd yn cyfarfod ac yn sgwrsio â'i ffrindiau ar y cae, mae'n dal i ganolbwyntio ar y barcud ar ddiwedd y llinyn (Guru Granth Sahib, t.) 972). Delwedd arall yw'r lili'r dŵr (kamal), y mae ei wreiddiau yn aros yn y dŵr mwdlyd tra bod ei

Syniadau allweddol

Roedd y Gurus Sikhaidd yn pwysleisio nid yn unig y sylweddoliad o oleuni Duw yn yr hunan ac ym mhob man o gwmpas; roeddynt yn tynnu sylw at arfer gweithredoedd rhinweddol a fyddai'n tarddu o hynny.

Felly roedd yn rhaid cysylltu'r ddealltwriaeth o ystyr bywyd â chyflawni pwrpas bywyd.

Er mwyn cyflwyno bywyd fel rhywbeth ystyrlon a phwrpasol, roeddynt yn defnyddio cydweddiadau (e.e. bywyd mor werthfawr â diemwnt, bywyd mor ystyrlon â gêm).

Roeddynt yn dysgu gan ddefnyddio delweddau fel y barcud a lili'r dŵr i ddelweddu ffyrdd o fyw yn y byd sydd yn cydweddu â realiti uwch bywyd.

Page 13: Cyflwyniad i Sikhiaeth - WJEC

betalau yn blaguro uwchlaw.

Mae'r syniad bod bywyd yn ein gwahodd i gymryd rhan ac eto i fod yn wrthrychol, oherwydd y tu hwnt i realiti ein byd mae realiti uwch mae arnom angen parhau i gysylltu ag ef, yn cael ei amlygu yn y llinellau a ganlyn o Sukhmani Sahib ('Gweddi Heddwch') gan Guru Arjan Dev, y pumed Guru:

Sagal sang ātam udās

Aisi jugat Nānak Rām dās

Pan fyddwch yng nghwmni eraill, mae'r enaid yn wrthrychol

Dyna yw ffordd gwas Duw, O Nanak

Guru Granth Sahib, t. 275

Felly, yn y ffordd o fyw sy'n cael ei dysgu gan y Gurus Sikhaidd, mae ystyr bywyd yn deillio o'r ddealltwriaeth ein bod yn gysylltiedig â Duw yn y pen draw, yn ogystal â'r byd. Golyga'r hunaniaeth ysbrydol hon a'r ymdeimlad o berthyn mai nod bywyd yw deffro ac arfer priodoleddau ysbrydol i wasanaethau’r cread, ac felly rhoddir pwyslais ar wasanaethu eraill fel arwydd o fywyd teilwng. Mae pob unigolyn sy'n cael ei eni felly yn werthfawr ac mae ganddo ddyletswydd sanctaidd, fel yr adlewyrchir yn yr enwau brenhinol Singh a Kaur y bydd Sikhiaid yn eu cael drwy enedigaeth i'r ffydd neu drwy ddefod dderbyn. Gellir ystyried y llwybr a ddysgwyd gan y Gurus Sikhaidd fel ffordd o gydnabod y gwerth hwn a meithrin y ddyletswydd hon, drwy etifeddiaeth eu dysgeidiaeth ac arferion a oedd yn sail i'r ffydd Sikhaidd.

‘Ym mhob unigolyn mae ymdeimlad o wybod beth yw ymdeimlad o berthyn, ac ymdeimlad o gysylltiad coll â chartref.  Mae dyhead i fyw ar lefel uwch a chael profiad dyfnach o'r ffenomena hon, a elwir gennym yn FYWYD.  Rwyf wedi clywed pobl yn dweud lawer gwaith "Roeddwn i wastad yn teimlo bod mwy i fywyd." Mae'r teimlad hwn y tu mewn i ni yn ein cymell a'n harwain yn barhaus i edrych yn ddyfnach i mewn i'n hunain ac i'r byd i weld gwir ystyr bywyd. Mae gennym wybodaeth gynhenid neu atgof pell efallai o'n gwir natur.’ - Ranjeev Singh Sidhu