cyflwyniad i hawliau plant
DESCRIPTION
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a’r rhai sy’n gweithio ym maes mewnfudo, ffoaduriaid a cheiswyr lloches Myfyrio a gwerthuso. - PowerPoint PPT PresentationTRANSCRIPT
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT
Gwaith grŴP
agenda
• Beth yw hawliau plant?• Pam hawliau plant?• Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn• Hawliau plant yng Nghymru• Hawliau plant a’r rhai sy’n gweithio ym
maes mewnfudo, ffoaduriaid a cheiswyr lloches
• Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD
• Cyffredinol
• Diymwad
• Annatod
• Atebol
EGWYDDORION FREDA
• Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom)
• Parch (Respect)• Cydraddoldeb (Equality)• Urddas (Dignity)• Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT?
• Aeddfedrwydd• Heb lais ac yn anweledig• Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU
• Dymuno – awydd i gael rhywbeth
• Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd
• Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL
1. Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn)2. Y gwrthrych (yr hyn y mae
ganddynt hawl i’w gael)3. Y rhai â dyletswydd (pobl neu
sefydliad)4. Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r
unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CORFF HAWLIAU
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN
• 54 erthygl• 41 prif erthygl• 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL
Erthygl 2 – Dim gwahaniaethuErthygl 3 – Lles y plentynErthygl 6 – Hawl i fywydErthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC
1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall
2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus
3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan
4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd –
byddwch chi’n mwynhau’r profiad6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa
wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud
7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
GWEITHREDU’r HAWL I ADDYSG- ENGHRAIFFT
Llywodraeth
Dyletswydd i chwilio am adnoddau a’u dyrannu, diffinio polisi, sicrhau cynnydd yn erbyn targedau
Sefydliadau addysg
Dyletswydd i hyfforddi athrawon, trefnu adnoddau, creu amgylchedd sy’n ystyriol o blant
Athrawon Dyletswydd i addysgu’n dda, annog rhieni, cynorthwyo pob plentyn
Rhieni Dylent gefnogi addysg eu plant
Plant a phobl ifanc
Dylent barchu plant eraill er mwyn cefnogi’u cyfoedion i ymarfer eu hawliau
Y BROSES ADRODD
• Bob 5 mlynedd• Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig:
– Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad)
– Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol– Adroddiad pobl ifanc– Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad)
• Sylwadau i gloi• Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad• Grŵp monitro
AMSER PANED
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 1
Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol
1. Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys gweithwyr mewnfudo
2. Gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am wahaniaethu yn erbyn plant ac atal hyn. Efallai y bydd angen cynnwys gwaith i helpu rhai grwpiau, yn cynnwys plant sydd wedi mewnfudo, ffoaduriaid ifanc a cheiswyr lloches
3. Gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys ym maes mewnfudo
4. Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn yn y llysoedd ac mewn unrhyw achosion eraill sy’n effeithio ar y plentyn
5. Monitro plant sy’n byw mewn gofal maeth, cartrefi a sefydliadau plant, yn cynnwys ymweld â’r plant hyn yn rheolaidd
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 2
Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol
6. Gwneud mwy i sicrhau mai dewis olaf yn unig fydd cloi plant mudol a cheiswyr lloches a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl
7. Sicrhau bod Asiantaeth Ffiniau’r DU yn cyflogi staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i gyfweld plant
8. Meddwl am roi gwarcheidwaid i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ac yn ffoaduriaid a fydd yn gofalu am les y plant hyn
9. Darparu ffigurau am niferoedd y plant sy’n ceisio lloches yn y DU, yn cynnwys y rhai lle mae yna amheuaeth am eu hoedran
10. Credu plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches os bydd yna amheuon am eu hoedran a’u trin fel plant
11. Cael cyngor gan arbenigwyr ar sut i benderfynu a yw rhywun o dan neu dros 18 oed
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 3
Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol
12.Sicrhau, os yw plant sy’n ceisio lloches neu’n ffoaduriaid yn cael eu hanfon yn ôl i’w mamwlad, y bydd gwiriadau’n cael eu gwneud i sicrhau y bydd y plentyn yn ddiogel.
13.Newid y gyfraith i atal plant sy’n dod i’r DU heb ddogfennau dilys rhag cael eu herlyn
14.Darparu digon o arian i roi’r Cynllun Gweithredu Atal Masnachu mewn Pobl ar waith
15.Cymeradwyo Confensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl
16.Sicrhau bod rheolau amddiffyn plant ar gyfer plant sydd wedi’u masnachu yn bodloni safonau rhyngwladol
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU
• Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant
• Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn
• Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru
• Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010
• Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 1
• Erthygl 7 – hawl i gael enw a gofrestrwyd yn gyfreithiol ac i genedligrwydd
• Erthygl 8 – dylai Llywodraethau barchu hawl plant i enw, cenedligrwydd a chysylltiadau teulu
• Erthygl 9 – ni ddylid dy wahanu oddi wrth dy rieni onid yw hynny er dy les dy hun
• Erthygl 10 – dylai teuluoedd sy’n byw mewn gwledydd gwahanol gael yr hawl i symud rhwng y gwledydd hynny fel y gall y rhieni a’r plant gadw mewn cysylltiad
• Erthygl 11 – dylai Llywodraethau gymryd camau i atal plant rhag cael eu cymryd allan o’u gwledydd nhw’u hunain yn anghyfreithlon
Yr ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R RHAI SY’N GWEITHIO YM MAES MEWNFUDO, FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES 2
• Erthygl 13 – hawl i wybodaeth• Erthygl 14 – hawl i feddwl a chredu’r hyn a fynni • Erthygl 20 – os na all dy deulu dy hun ofalu
amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol gan bobl sy’n parchu dy grefydd, diwylliant ac iaith
• Erthygl 22 – mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a anwyd yng Nghymru
• Erthygl 30 – hawl i ddysgu a defnyddio iaith ac arferion dy deulu
• Erthygl 35 – Dylai’r Llywodraeth sicrhau na chei di dy gipio na dy werthu
MEDDYLIWCH AM BLENTYN…
RHOI’R HYN A DDYSGWYD AR
WAITH
UNRHYW GWESTIYNAU I GLOI?