agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu blwyddyn 8...

22
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu Blwyddyn 8 Thema 1 Taflenni adnoddau

Upload: others

Post on 02-Feb-2021

0 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

  • Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu Blwyddyn 8 Thema 1

    Taflenni adnoddau

  • Cyhoeddwyd gyntaf yn 2009 Cyf: 00258-2009-10-CYMRU

    Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu

    Blwyddyn 8 Thema 1 Dysgu bod gyda’n gilyddTaflenni adnoddau

  • Ymwadiad

    Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adran a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny ar ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.

    Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio am resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n golygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.

    Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd y deunyddiau eu hargraffu.

    Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    1Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.1.1 – Y Datganiad o Hawliau DynolAr 10 Rhagfyr 1948 cafodd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ei fabwysiadu a’i gyhoeddi gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Yn dilyn y weithred hanesyddol hon, galwodd y Cynulliad ar bob gwlad sy’n aelod i gyhoeddi testun y Datganiad a “pheri iddo gael ei ledaenu, ei arddangos, ei ddarllen a’i esbonio mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn bennaf, heb wahaniaethu ar sail statws gwleidyddol gwledydd neu diriogaethau.” [Cyfieithiad]

    Dyma fersiwn Cymraeg swyddogol y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (gellir gweld y testun ar www.unhchr.ch/udhr/lang/wls.htm).

    Erthygl 1.Genir pawb yn rhydd ac yn gydradd â’i gilydd mewn urddas a hawliau. Fe’u cynysgaeddir â rheswm a chydwybod, a dylai pawb ymddwyn y naill at y llall mewn ysbryd cymodlon.

    Erthygl 2.Y mae gan bawb hawl i’r holl hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn, heb unrhyw wahaniaeth o gwbl, yn arbennig unrhyw wahaniaeth hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn boliticaidd neu unrhyw farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, geni neu safle arall. Ymhellach, ni ddylid gwahaniaethu ar sail safle politicaidd, gyfreithiol na chydwladol unrhyw wlad neu diriogaeth y mae pawb yn perthyn iddi, p’un ai yw honno’n annibynnol, dan nawdd, heb hunanlywodraeth, neu dan unrhyw gyfyngiad arall ar ei sofraniaeth.

    Erthygl 3.Y mae gan bawb hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch.

    Erthygl 4.Ni ddylid dal neb yn gaethwas nac mewn caethiwed; dylid gwahardd caethwasiaeth a’r fasnach gaethweision ym mhob un o’u hagweddau.

    Erthygl 5.Ni ddylid poenydio neb, na thrin na chosbi neb yn greulon, annynol na’n ddiraddiol.

    Erthygl 6.Y mae gan bawb hawl i gael cydnabyddiaeth ym mhobman fel person yng ngŵydd y gyfraith.

    Erthygl 7.Y mae pawb yn gydradd yng ngolwg y gyfraith gyda’r hawl yn ddiwahân i’r un amddiffyniad gan y gyfraith. Y mae gan bawb hawl i’r un amddiffyniad yn erbyn unrhyw wahaniaethu sy’n groes i’r datganiad hwn neu unrhyw anogaeth i wahaniaethu.

    Erthygl 8.Y mae gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd sy’n troseddu’r hawliau sylfaenol a roddwyd iddynt gan y cyfansoddiad neu gan y gyfraith.

    Erthygl 9.Ni ddylai neb gael eu dwyn i ddalfa, na’u caethiwo na’u halltudio yn fympwyol.

    Erthygl 10.Y mae gan bawb hawl, mewn cydraddoldeb llawn, i gael gwrandawiad teg a chyhoeddus gan lys annibynnol a diduedd, wrth benderfynu eu hawliau a’u rhwymedigaethau ac unrhyw gyhuddiad troseddol yn eu herbyn.

  • 2 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Erthygl 11.Y mae gan bawb a gyhuddir o drosedd gosbadwy hawl i gael eu hystyried yn ddieuog tan y profir 1. hwynt yn euog yn ôl y gyfraith mewn prawf cyhoeddus lle y byddant wedi cael pob gwarant angenrheidiol at eu hamddiffyniad.

    Ni ddylid dyfarnu neb yn euog o drosedd gosbadwy oherwydd unrhyw weithred neu wall nad oedd 2. yn drosedd, yn ôl cyfraith genedlaethol neu ryngwladol, pan gyflawnwyd hi. Ni ddylid ychwaith osod cosb drymach na’r un a oedd yn gymwys ar yr adeg y cyflawnwyd y drosedd gosbadwy.

    Erthygl 12.Ni ddylid ymyrryd yn fympwyol â bywyd preifat neb, na’u teulu, na’u cartref, na’u gohebiaeth, nac ymosod ar eu hanrhydedd na’u henw da. Y mae gan bawb hawl i amddiffyniad gan y gyfraith rhag y fath ymyrraeth ac ymosod.

    Erthygl 13.Y mae gan bawb hawl i symud fel y mynnant ac i breswylio lle y mynnant o fewn terfynau’r 1. Wladwriaeth.

    Y mae gan bawb hawl i adael unrhyw wlad, gan gynnwys eu gwlad eu hunain, a hawl i ddychwelyd 2. iddi.

    Erthygl 14.Y mae gan bawb hawl i geisio ac i gael mewn gwledydd eraill noddfa rhag erledigaeth. 1.

    Ni ellir hawlio hyn mewn achosion o erledigaeth sy’n gwir ddilyn troseddau anwleidyddol neu 2. weithredoedd croes i amcanion ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.

    Erthygl 15.Y mae gan bawb hawl i genedligrwydd. 1.

    Ni ddylid amddifadu neb yn fympwyol o’u cenedligrwydd na gwrthod iddynt yr hawl i newid eu 2. cenedligrwydd.

    Erthygl 16.Y mae gan bawb mewn oed, yn wryw a benyw, heb unrhyw gyfyngiadau o ran hil, cenedligrwydd na 1. chrefydd, hawl i briodi a sefydlu teulu. Y mae ganddynt hefyd hawliau cyfartal ynglŷn â phriodas, yn ystod priodas ac wrth ei diddymu.

    Ni ddylid priodi ond o lwyr fodd y ddau sy’n golygu gwneud hynny. 2.

    Y teulu yw uned naturiol a sylfaenol cymdeithas a chanddo’r hawl i amddiffyniad gan gymdeithas a’r 3. Wladwriaeth.

    Erthygl 17.Y mae gan bawb hawl i feddu eiddo unigol yn ogystal â chydag eraill. 1.

    Ni ddylid amddifadu neb o’u heiddo yn fympwyol. 2.

    Erthygl 18.Y mae gan bawb hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd; fe gynnwys hyn ryddid iddynt newid eu crefydd neu eu cred, a rhyddid hefyd, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, yn gyhoeddus neu’n breifat, i amlygu eu crefydd neu ei gred trwy addysgu, arddel, addoli a chadw defodau.

    Erthygl 19.Y mae gan bawb ryddid barn a mynegiant; fe gynnwys hyn yr hawl i ryddid barn, heb ymyrraeth gan neb, a rhyddid i geisio, derbyn a chyfrannu gwybodaeth a syniadau trwy unrhyw gyfryngau, heb ystyried ffiniau gwlad.

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    3Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Erthygl 20.Y mae gan bawb hawl i ryddid ymgynnull a chymdeithasu heddychlon. 1.

    Ni ellir gorfodi neb i berthyn i unrhyw gymdeithas. 2.

    Erthygl 21.Y mae gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth eu gwlad, yn uniongyrchol neu drwy 1. gynrychiolwyr wedi eu dewis yn agored.

    Y mae gan bawb hawl gyfartal i wasanaeth cyhoeddus yn eu gwlad. 2.

    Ewyllys y bobl fydd sail awdurdod llywodraeth; mynegir yr ewyllys hon drwy etholiadau dilys o bryd 3. i’w gilydd, drwy bleidleisio cyffredinol a chyfartal, a thrwy bleidlais ddirgel neu ddull pleidleisio rhydd tebyg.

    Erthygl 22.Y mae gan bawb, fel aelod o gymdeithas, hawl i ddiogelwch cymdeithasol, i allu mwynhau hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n anhepgorol i’w hurddas ac i ddatblygiad rhydd eu personoliaeth, trwy ymdrech genedlaethol a chydweithrediad rhyngwladol ac yn unol â threfniadaeth ac adnoddau pob Gwladwriaeth.

    Erthygl 23.Y mae gan bawb hawl i waith, i ddewis eu gyrfa yn rhydd, i amodau gwaith cyfiawn a boddhaol, ac i 1. amddiffyniad rhag diweithdra.

    Y mae gan bawb, yn ddiwahân, hawl i dâl cyfartal am waith cyfartal. 2.

    Y mae gan bawb sy’n gweithio hawl i dâl teg a boddhaol gan sicrhau iddo’u hunain ac i’w teulu 3. fodolaeth deilwng o urddas dynol, ac ychwanegu at hynny, os bydd rhaid, drwy ffyrdd eraill o nawdd cymdeithasol.

    Y mae gan bawb hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â hwy i amddiffyn eu buddiannau. 4.

    Erthygl 24.Y mae gan bawb hawl i orffwys a hamdden gan gynnwys cyfyngiad rhesymol ar oriau gwaith, ac i wyliau cyfnodol gyda thâl.

    Erthygl 25.Y mae gan bawb hawl i safon byw digonol i’w hiechyd a’u ffyniant eu hunain a’u teulu, gan gynnwys 1. bwyd, dillad, annedd a gofal meddygol ac i wasanaethau cymdeithasol angenrheidiol; a hawl i sicrwydd cynhaliaeth os digwydd diweithdra, afiechyd, anabledd, gweddwdod, henaint neu unrhyw fethiant bywoliaeth arall pan fo’r amgylchiadau tu hwnt i’w rheolaeth.

    Y mae gan famolaeth a phlentyndod hawl i ofal a chymorth arbennig. Dylai pob plentyn, p’un ai wedi 2. eu geni o fewn neu du allan i briodas, fwynhau’r un diogelwch cymdeithasol.

    Erthygl 26.Y mae gan bawb hawl i addysg. Dylai addysg fod yn rhydd, o leiaf addysg elfennol a sylfaenol. Dylai 1. addysg elfennol fod yn orfodol. Dylid gwneud addysg dechnegol a phroffesiynol yn agored i bawb, a dylai fod mynediad llawn a chydradd i bawb i addysg uwchradd ar sail teilyngdod.

    Dylai addysg amcanu datblygu personoliaeth llawn yr unigolyn a chryfhau parch i hawliau dynol a’r 2. rhyddfreintiau sylfaenol. Dylai hyrwyddo dealltwriaeth, goddefgarwch a chyfeillgarwch ymysg yr holl genhedloedd ac ymysg grwpiau hiliol neu grefyddol, a dylai hefyd hyrwyddo gwaith y Cenhedloedd Unedig dros heddwch.

    Gan rieni y mae’r hawl cyntaf i ddewis y math o addysg a roddir i’w plant. 3.

  • 4 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Erthygl 27.Y mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymdeithas, i fwynhau’r 1. celfyddydau ac i gyfranogi o gynnydd gwyddonol a’i fuddiannau.

    Y mae gan bawb yr hawl i fynnu diogelwch i’r buddiannau moesol a materol sy’n deillio o unrhyw 2. gynnyrch gwyddonol, llenyddol neu artistig y maent yn awdur iddo.

    Erthygl 28.Y mae gan bawb hawl i drefn gymdeithasol a rhyngwladol lle y gellir llawn sylweddoli’r hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yn y Datganiad hwn.

    Erthygl 29.Y mae gan bawb eu dyletswyddau i gymdeithas, lle yn unig y mae datblygiad rhydd a llawn eu 1. personoliaeth yn bosibl.

    Ni ddylid cyfyngu ar neb, wrth iddynt arfer eu hawliau a’u rhyddfreintiau, ond pan bennir hynny gan 2. gyfraith gyda’r unig amcan o sicrhau cydnabod a pharchu hawliau a rhyddfreintiau pobl eraill, ac i gyfarfod â gofynion cyfiawn moesoldeb, trefn gyhoeddus a ffyniant cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd.

    Ni ellir arfer yr hawliau a’r rhyddfreintiau hyn mewn unrhyw achos yn groes i amcanion ac 3. egwyddorion y Cenhedloedd Unedig.

    Erthygl 30.Ni ellir dehongli dim yn y Datganiad hwn i olygu bod gan Wladwriaeth, grŵp neu berson unrhyw hawl i ymroddi i unrhyw weithgarwch neu i gyflawni unrhyw weithred gyda’r bwriad o ddistrywio unrhyw un o’r hawliau a’r rhyddfreintiau a nodir yma.

    Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol © Y Cenhedloedd Unedig. Defnyddiwyd gyda chaniatâd caredig

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    5Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.1.2 – Her y Datganiad o Hawliau Dynol

    Cafodd y Datganiad o Hawliau Dynol ei ysgrifennu gyntaf yn 1948 ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn syth ar ôl cyfnod pan gafodd rhai o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol eu gwrthod i lawer o bobl.

    Eich her chi yw datblygu Datganiad o Hawliau Dynol ar gyfer ein dosbarth. Pwrpas y Datganiad fydd gwneud yn siŵr bod pob un o aelodau’r ysgol yn gallu dysgu a theimlo’n hapus yn yr ysgol. Ni ddylai’r Datganiad gynnwys mwy na deg o Erthyglau. Bydd angen i chi allu cyfiawnhau pam rydych chi wedi cynnwys yr Erthyglau.

    Pan fyddwch chi wedi cytuno ar yr Erthyglau rydych chi am eu cynnwys, bydd angen i chi gytuno ar set o gyfrifoldebau. Dylai’r cyfrifoldebau ddangos yn glir sut bydd pob un o aelodau’r dosbarth yn gwneud yn siŵr bod pawb yn parchu’r hawliau dynol.

    Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r her:

    bydd pob un ohonoch chi wedi cyfrannu ●ac yn teimlo bod y grŵp yn eich gwerthfawrogi;

    byddwch wedi creu rhywbeth rydych ●chi i gyd yn teimlo’n falch ohono;

    byddwch wedi defnyddio geiriau a ●rhywbeth gweledol i egluro eich Datganiad o Hawliau Dynol a’ch Cyfrifoldebau;

    byddwch wedi gwneud yn siŵr bod pawb ●yn gallu cyfiawnhau pam mae’r Datganiad fel y mae.

  • 6 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.2.1 – Ffrind Ffantastig

    Ffrind sy’n gwrando

    Mae ffrind sy’n gwrando yn teimlo mai’r peth pwysicaf y dylai ffrind da ei wneud yw gwrando, a dangos ei fod yn gwrando. Mae’n defnyddio pob tric clyfar ar yr un pryd i wneud i ti deimlo mai ti yw’r person pwysicaf yn y byd i gyd, a bod dy broblemau di’n wirioneddol bwysig iddo. Mae’n dangos ei fod yn poeni’n wirioneddol amdanat ti! Mae’r ffaith ei fod yn gwrando yn gwneud i unrhyw broblemau ddiflannu, neu’n dy alluogi di i feddwl am yr atebion.

    Yn eich cyflwyniad, bydd yn rhaid i chi egluro sut rydych chi’n dangos eich bod yn gwrando gan ddefnyddio’ch wyneb, eich corff a geiriau.

    Ffrind sy’n derbyn

    Mae ffrind sy’n derbyn yn ffrind da. Os wyt ti am deimlo’n dda ar ôl ymddwyn yn hael neu helpu rhywun, mae ffrind sy’n derbyn yn berffaith. Bydd ffrind fel hyn yn ddiolchgar ac yn hapus dros ben pan fydd yn cael help. Dyw llawer o bobl y dyddiau hyn ddim hyd yn oed yn dweud diolch. Mae ffrind sy’n derbyn yn gwneud digon i wneud i ti deimlo’n ddefnyddiol, heb wneud i ti deimlo’n ffŵl.

    Yn eich cyflwyniad, bydd yn rhaid i chi gytuno sut byddech chi’n dangos eich bod chi’n gallu derbyn canmoliaeth, help ac anrhegion yn dda.

    Ffrind sy’n maddau

    Beth bynnag wnei di, ni fydd ffrind sy’n maddau byth yn troi ei gefn arnat ti. Bydd yn parhau’n ffyddlon hyd yn oed os byddi di’n ei anwybyddu, yn codi cywilydd arno, neu’n ei dwyllo ac yn dweud celwydd wrtho. Ni fydd byth yn cwyno. Bydd wrth dy ymyl yn ystod cyfnodau anodd a chyfnodau hapus dy fywyd.

    Yn eich cyflwyniad, bydd yn rhaid i chi egluro sut gallwch chi faddau heb fynd i deimlo’n flin neu’n rhwystredig.

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    7Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Ffrind sy’n ganolwr

    Bydd pethau’n mynd o chwith weithiau pan fydd gen ti grŵp o ffrindiau – bydd pobl yn cweryla â’i gilydd gan achosi trafferth i bob un ohonoch. Bydd ffrind sy’n ganolwr yn dy helpu di i ddatrys pethau. Mae’n feistr ar ddatrys problemau’n heddychlon – bydd yn dy helpu di i ddatrys y broblem heb wneud hynny drosot ti.

    Yn eich cyflwyniad, bydd yn rhaid i chi ddangos sut gallwch chi fod yn ganolwr pan fydd dau berson yn teimlo’n flin iawn neu’n teimlo’u bod nhw wedi cael cam, gan adael y ddau’n fodlon wedyn.

    Ffrind sy’n rhoi

    Mae ffrind sy’n rhoi yn ffrind gwych; bydd yn rhoi pethau i ti o hyd ac yn gwneud i ti deimlo nad yw hynny’n drafferth o gwbl. Byddai’n rhoi ei got i ti pe baet ti’n cwyno ei bod hi’n oer. Dyw e byth yn gwneud i ti deimlo’n euog am dderbyn pethau. Os wyt ti eisiau unrhyw beth, mae e’n siŵr o’i roi e i ti.

    Yn eich cyflwyniad, bydd yn rhaid i chi egluro sut rydych chi’n teimlo pan fyddwch chi’n rhoi pethau i bobl, a sut rydych chi’n gwneud i bobl eraill deimlo’n dda o ganlyniad i’ch caredigrwydd.

    Ffrind sy’n datrys problemau

    Mae gen ti broblem, a dwyt ti ddim yn gwybod beth i’w wneud. Bydd ffrind sy’n datrys problemau’n gallu dy helpu di bob tro. Bydd ganddo ateb i bopeth, a bydd yn dy alluogi di i fwrw ymlaen â gweddill dy fywyd. Ni fydd unrhyw broblem neu dasg yn rhy fawr i’r ffrind sy’n datrys problemau.

    Yn eich cyflwyniad, dylech chi roi rhai enghreifftiau o sut byddech chi’n datrys problemau pobl eraill. Gallai hynny gynnwys eu helpu nhw â thasg sy’n rhy anodd, neu wneud rhywbeth mor syml â rhoi cyngor iddyn nhw.

    Ffrind sy’n parchu

    Y peth da am ffrind sy’n parchu yw y bydd yn dangos ei fod yn dy barchu di. Pan fydd e’n dy helpu di, bydd e hefyd yn sylweddoli mai fel arall y bydd hi rywbryd eto. Fydd e byth yn cymryd drosodd ac yn datrys problemau ar dy ran di, ond bydd e wrth law i roi hwb ychwanegol i ti – gan fynnu y galli di lwyddo. Bydd ei ffordd e o ddweud hynny’n rhoi hunanhyder i ti.

    Yn eich cyflwyniad, dylech chi egluro sut yn union y gallwch chi ddangos y math hwn o barch.

  • 8 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.3.1 – Cymeriadau rhithwir

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    9Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

  • 10 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Eich her yw cydweithio â’ch gilydd i ddeall pobl a’u hymddygiad yn well.

    Eich tasg gyntaf fydd cyflwyno eich cymeriad rhithwir i’r grŵp, gan egluro ei nodweddion yn fanwl. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnwys manylion am ei deulu, ei grefydd a’i gefndir ac ati.

    Nid yw bywyd yn y byd rhithwir yn hawdd, ac mae pob un o’r cymeriadau rhithwir wedi dod ar draws o leiaf un anhawster. Fel grŵp, nodwch chwech o anawsterau y gallai plentyn ifanc ddod ar eu traws yn eich barn chi. Rhowch o leiaf un anhawster i bob un o’r cymeriadau rhithwir (bydd yn rhaid i chi benderfynu sut i wneud hynny’n deg, er enghraifft, trwy ddewis un ar hap, â help dîs neu allan o het).

    Mae rhaglen deledu realiti wrthi’n cael ei pharatoi yn y byd rhithwir. Os bydd y grŵp rhithwir yn llwyddiannus, bydd yn cael ei anfon i ynys unig lle bydd yn rhaid i aelodau’r grŵp oroesi gyda’i gilydd ac wynebu cyfres o heriau corfforol a meddyliol. Dylai eich cyflwyniad gynnwys:

    enw ar gyfer eich grŵp rhithwir; ●

    rhywbeth i ddangos cryfderau pob ●cymeriad rhithwir a dangos pam y byddan nhw’n ddefnyddiol;

    rhywbeth cofiadwy neu drawiadol a fydd ●yn gwneud eich cyflwyniad chi’n wahanol i’r cyflwyniadau eraill;

    rhywbeth sy’n egluro sut mae’r ●cymeriadau wedi ymdopi â’u heriau.

    Eich tasg yw paratoi cyflwyniad i banel y rhaglen deledu (gweddill eich grŵp). Gwnewch yn siŵr bod gan bawb rôl i’w chwarae a bod pawb yn cael eu cynnwys yn llawn yn y gwaith.

    Bydd gennych 40 munud i gwblhau’r her a dwy funud i roi’r cyflwyniad.

    Taflen adnoddau 1.4.1 – Her y byd rhithwir

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    11Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.5.1 – Amdanaf i a’r grŵp

    Amdanaf i yn fy ngrŵp Anghytuno’n llwyr

    Anghytuno’n rhannol

    Ddim yn siŵr

    Cytuno’n rhannol

    Cytuno’n llwyr

    Fe wnes i adeiladu ar syniadau aelodau eraill y grŵp.

    Roedd gen i syniadau da.

    Fe wnes i egluro fy syniadau i’r grŵp.

    Fe wnes i wrando ar aelodau eraill y grŵp.

    Fe wnes i annog aelodau eraill y grŵp.

    Fe wnes i roi adborth da i aelodau eraill y grŵp.

    Fe wnes i wrando ar adborth a dysgu oddi wrtho.

    Am y grŵp

    Dwi’n credu bod aelodau’r grŵp wedi cydweithio’n dda â’i gilydd.

    Llwyddodd aelodau’r grŵp i adeiladu ar syniadau ei gilydd.

    Llwyddon ni i esbonio ein syniadau’n glir.

    Buon ni’n gwrando ar ein gilydd.

    Buon ni’n annog ein gilydd.

    Llwyddon ni i roi adborth da i’n gilydd.

  • 12 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.6.1 – Kim Phuc

    Llun o Kim Phuc a dynnwyd gan Nick Ut © PA Photos Limited. Defnyddiwyd gyda chaniatâd caredig

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    13Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.7.1 – Cardiau darlunio grym

  • 14 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    15Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    © The Print Collector/Heritage-Images

  • 16 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.8.1 – Cardiau datgelu

    Yn poeni oherwydd eu bod nhw wedi gweld eu mam yn cusanu dyn arall

    Yn methu cysgu oherwydd eu bod nhw’n poeni am gynhesu byd-eang

    Yn methu gwneud eu gwaith oherwydd eu bod nhw’n ei weld yn rhy anodd

    Eu rhieni mewn dyled ac yn methu talu’r morgais

    Eu mam wedi colli ei swydd yn y siop oherwydd eu bod nhw wedi cael eu cyhuddo o ddwyn

    Wedi cael eu derbyn i ddosbarthiadau mathemateg estynedig

    Yn mynd ar wyliau i Ffrainc

    Yn teimlo’n euog am nad ydyn nhw wedi bod i weld eu nain yn yr ysbyty

    Eu brawd wedi torri ei fraich mewn damwain car pan oedden nhw’n gyrru heb ganiatâd

    Yn ffansïo rhywun newydd

    Rhywun sydd ddwy flynedd yn hŷn wedi gofyn iddyn nhw fynd allan gyda nhw

    Eu ci wedi cael ei roi i gysgu am ei fod wedi brathu’r postmon

    Wedi mynd â ffôn rhywun adre trwy gamgymeriad, ac wedi ei gadw

    Wedi gwylio rhywun yn cael ei fwlio, a heb ei helpu na dweud wrth rywun hyd yn oed

    Wedi llwyddo i gael lle yn y tîm pêl-droed i rai dan 12

    Wedi cael cath yn anrheg Nadolig

  • © Hawlfraint y Goron 2009

    17Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    00258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.8.2 – Datgelu – CyfrinachauACerddais i mewn i le’r deintydd i gael archwiliad dannedd, a dyna ble’r oedd Catrin Morgan, un o’r merched sydd yn fy nosbarth i. Do’n i ddim yn ei hadnabod hi’n dda iawn - ddim tan hynny beth bynnag. Roedd hi’n un o grŵp mawr o ferched oedd yn chwerthin llawer. Roedd y bechgyn i gyd yn eu ffansïo nhw, ond ro’n i’n gwybod nad o’n i’n barod ar gyfer hynny eto. Roedd yn well gen i aros gartre i chwarae ar y cyfrifiadur neu fynd i bysgota gyda ’nhad. Ro’n i wrth fy modd yn chwarae pêl-droed hefyd. Fy esgus i dros beidio â mynd allan gymaint â hynny oedd bod yn rhaid i fi fod yn ofalus. Ro’n i am fod ar fy ngorau rhag ofn y byddai un o’r ’sgowtiaid’ yn sylwi arna i yn y clwb pêl-droed lleol. Byddai rhai o’r bechgyn eraill yn cellwair â fi – roedden ni i gyd yn gwybod nad o’n i’n ddigon da mewn gwirionedd.Codais gylchgrawn oddi ar y bwrdd yng nghanol yr ystafell aros. Eisteddais mor bell â phosib oddi wrth Catrin, a chuddiais fy mhen yn y cylchgrawn.’Pryd ma’ dy apwyntiad di?’ Catrin oedd yno – roedd hi’n eistedd reit wrth fy ymyl i erbyn hyn. ’Rydw i wedi bod yma ers oesoedd.’’Hanner awr wedi tri.’’Am dri ro’dd fy apwyntiad i, ond fe ddes i’n gynnar. Ro’n i am golli’r wers addysg gorfforol. Mae’n gas gen i addysg gorfforol. Dwi wastad yn meddwl bod pawb yn edrych arna i gan fy mod i’n fwy na gweddill y merched. Dwi’n gwisgo bra maint C yn barod. Mae pawb yn dweud fy mod i’n dilyn mam – mae hi’n fawr iawn.’Erbyn hyn ro’n i wedi anghofio am y cylchgrawn, ac ro’n i’n edrych i fyw llygaid Catrin. Aeth hithau yn ei blaen:’Gadawodd mam fy nhad pan o’n i’n fabi. Dwi ddim yn ei gofio fe, ond dwi wedi gweld llun. Roedd e’n olygus iawn. Dywedodd mam nad oedd e’n rhoi unrhyw sylw iddi a’i fod e’n arfer gweiddi arni. Mae hi’n un dda i siarad. Mae hi bob amser yn flin ac yn gweiddi ar rywun, arna i fel arfer. Weithiau dwi’n teimlo fy mod i’n ei chasáu hi. Sut un ydy dy fam di?’BFydda i byth yn siarad am fy nheulu, ond rywsut roedd llygaid crwn a hapus Catrin a’i sgwrsio wedi gwneud i fi ymddiried ynddi.’Does gen i ddim mam. Buodd hi farw o ganser pan o’n i’n bedair oed. Dwi’n byw gyda ’nhad – mae’n meddwl y byd ohono i. Pan fydd e’n teimlo’n dda, byddwn ni’n mynd i bysgota gyda’n gilydd. Ond bydd e’n teimlo’n isel iawn weithiau, a bydd e’n eistedd yn yr un man am ddiwrnodau. Fyddai e ddim yn trafferthu bwyta oni bai fy mod i’n paratoi rhywbeth iddo. Dwi wastad yn poeni amdano.’Yna, galwodd y nyrs ar Catrin i fynd i weld y deintydd a daeth fy nhro i wedyn.C Welais i mo Catrin wedyn tan fore trannoeth yn yr ysgol. Es i draw ati i siarad, ond roedd hi wrthi’n sgwrsio a sylwodd hi ddim arna i. Yn nes ymlaen, fe welais i’r merched eraill yn edrych draw a chlywais i un ohonyn nhw’n dweud,

    ’Alli di ddim ei ffansïo fe … mae e’r un mor wallgo â’i dad!’

  • 18 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 1

    © Hawlfraint y Goron 200900258-2009-10-CYMRU

    Taflen adnoddau 1.9.1 – Adolygu’r thema

    Empathi

    Datgelu rhywbeth amdana i fy hun

    Cydweithio mewn grwpiau Ffrindiau

    GrymAdnabod fi

    fy hun a phwy ydw i

  • Gallwch lawrlwytho’r cyhoeddiad hwn a chael gafael ar fwy o wybodaeth ar: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/learningproviders/schools/pseseal/?lang=cy

    Cynulleidfa: Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a gwasanaethau plant.

    Dyddiad cyhoeddi: 05-2009

    Dylech ddyfynnu’r cyfeirnod hwn: 00258-2009-10-CYMRU

    ©Hawlfraint y Goron 2009

    Gellir atgynhyrchu darnau o’r ddogfen hon at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant neu ymchwil anfasnachol, cyhyd â bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod yn hawlfraint y Goron, bod teitl y cyhoeddiad yn cael ei nodi, bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

    Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd yn y cyhoeddiad hwn y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti.

    Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, cysylltwch â [email protected] www.opsi.gov.uk/click-use/index.htm

    Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deuyddiau Secondary Social and Emotional Aspects of Learning a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfieithwyd y deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda chaniatâd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr.

    Tîm Ennyn Diddordeb Disgyblion APADGOS Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ

    Ffôn: 029 2082 1556 Ffacs: 029 2080 1044 Ebost: [email protected]