agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu blwyddyn 8...
TRANSCRIPT
-
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar DdysguBlwyddyn 8 Thema 2
Taflenni adnoddau
-
Cyhoeddwyd gyntaf yn 2009 Cyf: 00258-2009-11-CYMRU
Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu
Blwyddyn 8 Thema 2 Parhau i ddysguTaflenni adnoddau
-
Ymwadiad
Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydal Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adran a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny ar ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.
Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio am resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n golygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.
Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd y deunyddiau eu hargraffu.
Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.
-
© Hawlfraint y Goron 2009
1Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Tafle
n ad
nodd
au 2
.1.1
– D
echr
au a
rni
Sut g
alle
t ti d
dysg
u ci
i w
neud
tric
?Su
t gal
let t
i ann
og p
lent
yn b
ach
i glir
io’i
dega
nau?
Sut g
alle
t ti a
nnog
y fe
rch
hon
i gw
blha
u ei
gw
aith
cw
rs?
-
2 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
© Hawlfraint y Goron 200900258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.1.2 – Her ’Beth amdani?’
Rydyn ni i gyd yn unigryw! Rydyn ni’n mwynhau ac yn gwerthfawrogi pethau gwahanol.
Eich her yw creu catalog o gymhellion neu wobrau i wneud yn siŵr eich bod chi’n dysgu sgiliau newydd neu’n gorffen gweithgareddau rydych chi’n cael trafferth eu cwblhau.
Y dasg gyntaf yw darganfod beth sy’n cymell pob unigolyn yn eich grŵp, a chytuno ar wobr neu gymhelliad ar gyfer cwblhau’r her. Rhaid i’r wobr/cymhelliad fod yn realistig ac yn deg, a rhaid iddi/iddo fodloni anghenion pob aelod o’r grŵp. Rhowch fanylion am y wobr/cymhelliad i’ch athro.
Eich prif her yw creu catalog o gymhellion neu wobrau y gall y dosbarth ac aelodau o staff ddewis ohonyn nhw.
Rhaid i’r catalog:
gynnwys syniadau defnyddiol ac ●ymarferol;
bod wedi’i seilio ar eich profiadau ●a’ch barn chi;
cynnwys tystiolaeth sy’n dangos ●pam rydych chi wedi dewis y cymhellion neu’r gwobrau;
cynnwys geiriau, lluniau ac elfennau ●gweledol eraill a fydd yn eich helpu chi i gofio;
bod yn ddeniadol; ●
cynnwys syniadau gan bob aelod ●o’ch grŵp.
-
© Hawlfraint y Goron 2009
3Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.2.1 – Pam gwneud gweithgaredd?
Gweithgaredd Pam dwi’n ei wneud e? Cymhelliad mewnol neu allanol?
-
4 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
© Hawlfraint y Goron 200900258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.3.1 – Beth sy’n dy gymell di?
-
© Hawlfraint y Goron 2009
5Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Tafle
n ad
nodd
au 2
.3.2
– G
all c
ymhe
llion
fod
yn fe
wno
l neu
’n a
llano
l
-
6 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
© Hawlfraint y Goron 200900258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.4.1 – Pam yr aeth pethau o chwith?Roedd Siân newydd weld ar yr hysbysfwrdd nad oedd hi wedi cael ei dewis i’r 1. tîm pêl-rwyd.
Llwyddodd Tomos i gyrraedd Lefel 3 yn ei waith Saesneg. Roedd yn siomedig, 2. oherwydd roedd wedi treulio llawer o amser yn gwneud y gwaith ac roedd wedi disgwyl cyrraedd lefel uwch.
Dywedodd yr athro wrth Einir y byddai’n rhaid iddi aros ar ôl y wers, oherwydd 3. ei bod hi wedi parhau i siarad pan oedd yr athro wedi gofyn iddi fod yn dawel.
Roedd Bryn yn hwyr i’r ysgol unwaith yn rhagor. Roedd wedi colli’r bws unwaith 4. eto.
Roedd Eleri wedi bod wrthi ers deng munud yn ceisio dod o hyd i’r ateb i’r 5. cwestiwn mathemateg oedd o’i blaen hi. Yn y diwedd, penderfynodd roi’r ffidil yn y to.
Dyma’r trydydd penwythnos yn olynol i fam Gerwyn anghofio’i bod hi wedi 6. addo mynd ag e i’r dre ddydd Sadwrn i brynu sgidiau pêl-droed newydd.
Gwyliodd Rhian y grŵp o ferched yn cael cinio gyda’i gilydd. Roedden nhw fel 7. pe baen nhw’n cael llawer o hwyl. Unwaith eto roedd hi’n cael cinio ar ei phen ei hun.
Roedd Siôn wedi mynd i’r siop cyn gynted ag y gwelodd e’r hysbyseb ar gyfer y 8. swydd dydd Sadwrn. Aeth at y perchennog a chyflwyno’i hun iddo gan ddweud bod ganddo ddiddordeb yn y swydd. Edrychodd y perchennog arno am funud cyn dweud, ’Mae’n ddrwg gen i, ond mae rhywun wedi cael y swydd yn barod.’
Unwaith eto roedd yr arbrawf wedi mynd o chwith. Byddai’n rhaid i Lisa fenthyca 9. canlyniadau rhywun arall er mwyn gallu gwneud ei gwaith cartref.
Cafodd Dewi bwl o banig; chwiliodd yn ei fag eto. Roedd yn siŵr ei fod wedi 10. rhoi ei lyfr hanes yn y bag y bore ’ma. Byddai mewn rhagor o helynt gyda’r athro’n awr.
Edrychodd Mari eto. Doedd hi ddim yn deall beth roedd hi wedi’i ysgrifennu ar 11. gyfer daearyddiaeth yn ei dyddiadur gwaith cartref, ac roedd hi i fod i gyflwyno’r gwaith yfory.
Roedd y tîm pêl-droed wedi colli o 5-0. Meddyliodd Gareth tybed a ddylai 12. drafferthu mynd i’r ymarfer.
-
© Hawlfraint y Goron 2009
7Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Tafle
n ad
nodd
au 2
.4.2
– E
sbon
iada
u a
thei
mla
dau
Dig
wyd
diad
Eglu
rhad
/Esb
onia
dTe
imla
dM
eddy
liau
Dyl
anw
ad a
r dd
igw
yddi
adau
’r dy
fodo
l
-
8 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
© Hawlfraint y Goron 200900258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.5.1 – Gwella’n gysonTiciwch y bocsys i ddangos a ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau.
Rhif Datganiad Cytuno Anghytuno
1 Pan fydda i’n dechrau gwneud rhywbeth newydd, bydda i am ei wneud e’n iawn ar unwaith neu bydda i’n rhoi’r gorau iddo.
2 Yn fy marn i, mae angen i bawb ymarfer os ydyn nhw am ddysgu sgiliau newydd.
3 Os nad ydw i’n gallu gwneud rhywbeth yn dda ar unwaith, fydda i byth yn gallu ei wneud e’n dda fwy na thebyg.
4 Dwi ddim yn hoffi rhoi cynnig ar rywbeth newydd rhag ofn y bydda i’n methu ac yn dangos fy nhwpdra o flaen fy ffrindiau.
5 Os bydda i’n methu gwneud rhywbeth, fydda i byth yn rhoi’r ffidil yn y to. Yn hytrach, bydda i’n parhau i ymdrechu er mwyn ceisio gwella.
6 Dwi’n hoffi dangos i bobl eraill fy mod i’n gallu gwneud tasg neu weithgaredd. Fel arall, dwi ddim yn credu bod pwynt gwneud y dasg neu’r gweithgaredd.
7 Fe wna i rywbeth rwy’n ei fwynhau, hyd yn oed os nad ydw i’n gallu ei wneud e’n dda.
8 Dwi’n mwynhau ceisio dysgu rhywbeth newydd neu wneud gweithgaredd anodd.
9 Dwi’n hoffi rhoi cynnig ar bethau newydd fel y galla i ddysgu rhywbeth newydd.
10 Does dim pwynt gwneud rhywbeth os nad wyt ti’n gallu ei wneud e’n dda.
-
© Hawlfraint y Goron 2009
9Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Tafle
n ad
nodd
au 2
.6.1
– G
wer
th g
wei
thga
redd
au
-
10 Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
© Hawlfraint y Goron 200900258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.7.1 – Gwaith anodd
Sgorio gôl gosb
Herio bwli
Berwi ŵy’n berffaith
Tacluso fy ystafell wely
Dweud wrth bobl fy mod i’n eu caru nhw
Cael gwared â gwenynen o ystafell
Gwneud ffrind newydd
Dysgu sut i ddefnyddio ffôn symudol newydd
Darllen llyfr cyfan
Cerdded i mewn i ystafell sy’n llawn o bobl ddieithr
Gwylio ffilm arswyd
Gofyn i athro am ragor o amser i wneud gwaith cartref
Codi fy llaw mewn gwers pan fydda i’n gwybod yr ateb
Cerdded deng milltir
Canu cân ar y llwyfan o flaen yr ysgol gyfan
Sglefrfyrddio
Nofio mewn môr oer
Dweud wrth bobl eu bod nhw’n anghywir heb frifo’u teimladau
Dysgu rhestr o eiriau mewn iaith arall
Dweud bod yn ddrwg gen i
-
© Hawlfraint y Goron 2009
11Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu: Blwyddyn 8 Thema 2
00258-2009-11-CYMRU
Taflen adnoddau 2.8.1 – Her adolygu’r thema
Eich tasg yw cynllunio, paratoi a chyflwyno gwers adolygu ar y pwnc a roddwyd i chi. Bydd y wers ar gyfer gweddill eich dosbarth.
Yn ystod y sesiwn, dylech chi ddangos y canlynol:
pethau rydych chi wedi eu dysgu; ●
pethau oedd yn ddiddorol yn eich ●barn chi;
pethau rydych chi’n credu y dylai ●pawb eu gwybod;
pethau oedd yn ddefnyddiol yn eich ●barn chi;
enghreifftiau o waith dysgu neu waith ●a gwblhawyd yn ystod y sesiwn.
Dylech chi ddangos:
tystiolaeth ’mewn bywyd go iawn’ ●sy’n cyd-fynd â’ch gwaith dysgu (cofiwch gynnwys enghreifftiau o bethau y tu mewn a thu allan i’r ysgol);
rhywbeth y gall holl aelodau’r ●dosbarth fynd ag ef gyda nhw, i’w hatgoffa o’r pethau a ddysgwyd yn ystod y thema - er enghraifft, taflen, llun, cyfarwyddiadau, nodyn atgoffa;
rhywbeth gweledol sy’n tynnu sylw; ●
rhywbeth y gall aelodau’r dosbarth ei ●roi i athrawon eraill, fel eu bod nhw’n gwybod beth mae aelodau’r dosbarth wedi bod yn ei ddysgu.
Dylech chi gytuno ar wobr am baratoi a chyflwyno eich sesiwn yn llwyddiannus.
-
Gallwch lawrlwytho’r cyhoeddiad hwn a chael gafael ar fwy o wybodaeth ar: http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/learningproviders/schools/pseseal/?lang=cy
Cynulleidfa: Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol a gwasanaethau plant.
Dyddiad cyhoeddi: 05-2009
Dylech ddyfynnu’r cyfeirnod hwn: 00258-2009-11-CYMRU
©Hawlfraint y Goron 2009
Gellir atgynhyrchu darnau o’r ddogfen hon at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant neu ymchwil anfasnachol, cyhyd â bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod yn hawlfraint y Goron, bod teitl y cyhoeddiad yn cael ei nodi, bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd yn y cyhoeddiad hwn y nodir ei fod yn hawlfraint trydydd parti.
Ar gyfer unrhyw ddefnydd arall, cysylltwch â [email protected] www.opsi.gov.uk/click-use/index.htm
Seiliwyd y deunyddiau hyn ar y deuyddiau Secondary Social and Emotional Aspects of Learning a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Lloegr. Addaswyd a chyfieithwyd y deunyddiau hyn i’w defnyddio yng Nghymru gan Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gyda chaniatâd yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd yn Lloegr.
Tîm Ennyn Diddordeb Disgyblion APADGOS Llywodraeth Cynulliad Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 1556 Ffacs: 029 2080 1044 Ebost: [email protected]