ymateb i ly wodraeth cymru: d - citizens advice...yn 2012/13, bu canolfannau cyngor ar bopeth ledled...

23
Y D C R 20 Eb Tŷ Q Ffôn www mate iwyg yffred hagle 014-2 brill 201 Quebec | Cas n: 03000 376 w.citizensadv eb i Ly io’r P din: A en Da 2020 4 stlebridge | 5 6750 | Ffacs: vice.org.uk ywod Polisi A wgrym atblygu 5-19 Heol Dd 03000 2310 draeth Amae miada u Gw dwyreiniol y B 060 | h Cym ethydd au Te wledig Bont-faen | C mru: dol erfyno Cym Caerdydd | C ol ru F11 9AB 1

Upload: others

Post on 22-Jan-2021

1 views

Category:

Documents


0 download

TRANSCRIPT

Page 1: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

YDCR20

Eb Tŷ QFfônwww

mateiwygyffredhagle014-2

brill 201

Quebec | Casn: 03000 376w.citizensadv

eb i Lyio’r P

din: Aen Da2020

4

stlebridge | 56750 | Ffacs: vice.org.uk

ywodPolisi AAwgrymatblygu

5-19 Heol Dd03000 2310

draethAmaemiadau Gw

dwyreiniol y B060 |

h Cymethyddau Te

wledig

Bont-faen | C

mru: dol

erfynoCym

Caerdydd | C

ol ru

F11 9AB

1

Page 2: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

2

Ynglŷn â Chyngor ar Bopeth Mae Cyngor ar Bopeth yn elusen annibynnol sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr ac sy’n gweithredu fel Cyngor ar Bopeth Cymru yng Nghymru gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd a’r Rhyl. Mae 20 o Ganolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru, ac mae pob un ohonynt yn aelodau o Gyngor ar Bopeth Cymru, gan ddarparu gwasanaethau o dros 250 o leoliadau. Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor di-dâl, annibynnol, cyfrinachol ac amhleidiol i bawb, am eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Mae’n gwerthfawrogi amrywiaeth, mae’n hybu cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu. Nodau’r gwasanaeth yw:

• darparu’r cyngor sydd ei angen ar bobl ar gyfer y problemau maent yn eu hwynebu; a

• gwella’r polisïau a’r arferion gweithio sy’n effeithio ar fywydau pobl. Mae Canolfannau lleol, o dan delerau aelodaeth Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor craidd sy’n seiliedig ar dystysgrif o safonau ansawdd ar faterion sy’n cynnwys budd-daliadau a chredydau treth, dyled, tai, materion defnyddwyr, cyflogaeth, materion cyfreithiol, cydberthnasau a materion teuluol, mewnfudo, lloches a chenedligrwydd. Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB yn darparu cyngor o amrywiaeth eang o ganolfannau yn y gymuned, gan gynnwys 52 o lysoedd, 36 o garchardai yn ogystal â 21 o ganolfannau prawf. Mae gan Wasanaeth Cyngor ar Bopeth yn awr gyfrifoldeb dros gynrychioli defnyddwyr yng Nghymru o ganlyniad i newidiadau Llywodraeth y DU yn y maes defnyddwyr1. Ers 1 Ebrill 2014 mae hyn yn cynnwys swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol i gynrychioli defnyddwyr y gwasanaethau post ac ynni. Crynodeb o’r prif bwyntiau Mae Cyngor ar Bopeth yn arbennig o awyddus bod y Cynllun Datblygu Gwledig yn:

• Seiliedig ar ddadansoddiad llawn o dlodi gwledig, gan gynnwys lleoliad a nodweddion yr aelwydydd tlotaf. Dylai hyn gynnwys comisiynu ymchwil newydd os nad oes data ar gael ar hyn o bryd;

• Sicrhau bod Grwpiau Gweithredu Lleol yn datblygu strategaethau

i wella gwasanaethau cynghori a galluogrwydd ariannol yn eu hardal;

1Ar 1 Ebrill 2013, trosglwyddwyd swyddogaethau Llais Defnyddwyr i Gyngor ar Bopeth.

Page 3: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

3

• Ei gwneud yn ofynnol bod gwasanaethau cynghori’n cael eu

cynrychioli ar bob Grŵp Gweithredu Lleol;

• Sicrhau bod y broses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig yn cael cyhoeddusrwydd digonol, yn hawdd ei defnyddio ac yn caniatáu digon o amser, yn enwedig i grwpiau cymunedol llai;

• Sicrhau bod y broses i alluogi mudiadau lleol i gyfrannu at

strategaethau datblygu lleol yn dryloyw ac yn addas i alluogi mudiadau ag adnoddau prin i ymgysylltu.

Cyflwyniad Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Rydym yn hapus i’n hymateb gael ei gyhoeddi. Mae ein sylwadau’n cyfeirio at Gwestiwn 4 (LEADER a Datblygu Lleol) yn bennaf, gyda phwyslais ar Drechu Tlodi a Chefnogi Cymunedau. Ar y cyfan rydym yn cytuno â’r awgrymiadau ar gyfer Trechu Tlodi a Chefnogi Cymunedau. Fodd bynnag, mae gennym nifer o sylwadau ac argymhellion, a hynny ar yr ymagwedd gyffredinol tuag at dlodi gwledig ac ar feysydd polisi penodol. Ymagwedd gyffredinol tuag at ymyriadau yng nghefn gwlad Rydym yn cytuno y dylid cael dull cydgysylltiedig i drechu tlodi gwledig ac y dylai ymyriadau penodol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig a mesurau polisi ehangach ategu ei gilydd. Rydym hefyd yn cytuno â’r gofyniad bod Grwpiau Gweithredu Lleol yn sicrhau eu bod, pan fyddant yn llunio strategaethau datblygu lleol, yn cyd-fynd â rhaglenni cyflenwi gwasanaeth eraill, gan gynnwys Cynlluniau Integredig Sengl Byrddau Gwasanaeth Lleol, rhaglenni Ewropeaidd eraill a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi2. Nodwn farn Llywodraeth Cymru na fydd ymyriadau penodol drwy Grwpiau Gweithredu Lleol, ar eu pen eu hunain, yn arwain at y newid angenrheidiol mewn tlodi gwledig, ac y bydd mesurau wedi’u targedu fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi hefyd yn hanfodol. Er bod y prif flaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn hanfodol i drechu tlodi cefn gwlad, rydym yn bryderus nad oedd llawer yn y ddogfen ymgynghori sy’n dangos sut y byddant yn cael eu haddasu ar gyfer anghenion a heriau penodol ardaloedd gwledig, un ai ar lefel 2 Llywodraeth Cymru: LEADER 2014-20, Canllaw ar Gwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb (Grwpiau Gweithredu Lleol), Hydref 2013, tud 4.

Page 4: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

4

genedlaethol neu leol, a chredwn fod diffyg amcanion a thargedau penodol ar gyfer ardaloedd gwledig y gellid eu defnyddio i fesur cynnydd. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Y dylai’r Cynllun Datblygu Gwledig fod yn fwy penodol wrth ddatgan sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i’r prif flaenoriaethau a geir yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yng nghefn gwlad Cymru, a pha ddangosyddion o dlodi cefn gwlad a ddefnyddir i bennu targedau gwledig penodol ac i fonitro cynnydd. Y dylai strategaethau datblygu lleol a baratoir gan Grwpiau Gweithredu Lleol orfod dangos ym mha ffordd y bydd ymyriadau’n ystyried natur tlodi gwledig yn eu hardaloedd eu hunain, yn ogystal ag ategu rhaglenni cyflenwi gwasanaeth eraill. Y profiad o dlodi gwledig Mae pobl sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig yn cael problemau â’r un math o bethau â phobl sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd trefol, sef diweithdra, incymau isel, dyledion, prinder tai cynaliadwy a chost a hygyrchedd nwyddau a gwasanaethau, sy’n amrywio o wres i driniaeth ddeintyddol. Er ein bod yn cydnabod y pwynt a wneir yn y ddogfen ymgynghori y gall y Gymru wledig fod, ar gyfartaledd, yn well ei byd na gweddill Cymru, i bobl mewn ardaloedd gwledig, gall byw ar incwm isel, neu ag afiechyd fod yn anos i’w oresgyn a gallant gael mwy o effaith oherwydd y pellter oddi wrth ffynonellau cyflogaeth ac anawsterau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau fel addysg, gofal iechyd a chyngor a gwybodaeth. Roedd adroddiad gan wasanaeth Cyngor ar Bopeth, a gyhoeddwyd yn 2010, ar ddiwallu anghenion cyngor ardaloedd gwledig yn tynnu sylw at nifer o agweddau ar amddifadedd gwledig. Roedd y rhain yn cynnwys niferoedd is yn manteisio ar fudd-daliadau nag mewn ardaloedd trefol, cysylltiadau trafnidiaeth gwael a phellter oddi wrth wasanaethau, prinder gofal plant, amrywiaeth gyfyngedig o gyfleoedd cyflogaeth a chyflogau isel3. Mae rhai o’r problemau hyn yn debygol o fod yn ddwysach nag oeddent yn 2010 o gofio’r problemau economaidd a’r mesurau diwygio lles. Er enghraifft, mae toriadau mewn cymorth budd-dal tai i bobl ag ystafell wely sbâr yn golygu ei bod yn anos iddynt dalu eu rhent, gyda phrinder cartrefi eraill llai yn ei gwneud yn anodd iddynt ddatrys y broblem drwy symud tŷ. Gall rhai newidiadau effeithio ardaloedd gwledig yn arbennig o galed, megis llai yn berchen ar gar ar aelwydydd ar incwm isel, fel yr amlygwyd gan Arsyllfa Wledig Cymru ac a nodwyd yn ein sylwadau isod ar drafnidiaeth. Fodd bynnag, hoffem nodi nad oes llawer o ymchwil cyfredol sy’n asesu’r problemau penodol sy’n wynebu

3 Hugo Perks: Meeting the advice needs of rural areas, Grŵp Materion Gwledig Cyngor ar Bopeth, 2010

Page 5: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

5

pobl sy’n byw mewn tlodi yn ardaloedd gwledig Cymru, yn enwedig o ganlyniad i ddiwygiadau lles. Rydym yn cytuno y gallai asesu amddifadedd mewn ardaloedd gwledig drwy fesur crynodiadau amddifadedd megis Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc) guddio gwir raddfa tlodi gwledig. Rydym eisoes wedi rhoi sylw i hyn yn ein hymateb i ymgynghoriad diweddar MALlC, ble’r ydym yn awgrymu un ai newid ffactorau pwysoli a / neu ddangosyddion yn y MALlC, neu ystyried dull cwbl wahanol i fesur tlodi ac amddifadedd gwledig4 . Fel y nodwyd yn yr ymateb hwnnw, gall defnyddio MALlC i ddatblygu ymyriadau polisi penodol gyda’r nod o fynd i’r afael ag amddifadedd, megis rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, olygu y gallai ardaloedd ble mae’r boblogaeth yn fwy gwasgaredig golli buddiannau ymyriadau o’r fath5. Er enghraifft, mae’r clystyrau Cymunedau yn Gyntaf yn hepgor tair sir wledig fawr – Powys, Ceredigion a Sir Fynwy, felly er eu bod yn profi pocedi sylweddol o amddifadedd, ni all yr ardaloedd hyn gael gafael ar gyllid drwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Mae hyn wedi cael effaith hefyd ar y cynigion ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cynghori yn dilyn Adolygiad o Wasanaethau Cynghori, gyda gwasanaethau cynghori mewn rhai ardaloedd gwledig yn elwa dim6. Nododd adroddiad OSCI ar amddifadedd gwledig a’r MALlC yn 2012 fod mesurau sy’n seiliedig ar ardaloedd yn llai priodol i ganfod anfantais wledig wasgaredig, gan dynnu sylw ar y ffaith bod naw awdurdod lleol yng Nghymru’n cyfrif am 29% o bobl yng Nghymru sy’n cael budd-daliadau incwm neu seiliedig ar gyflogaeth, ond mai dim ond 13% o’r ardaloedd hynny sydd yn y cwintel mwyaf difreintiedig7. Dywed adroddiad yr OSCI hefyd fod diweithdra cudd (pobl nad ydynt yn hawlio budd-daliadau) a swyddi cyflog isel, tymhorol a rhan amser yn ddangosyddion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y MALlC. Hefyd, yn ôl adroddiad yr OSCI, mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o hawlio budd-daliadau8, felly ni fydd dangosyddion sy’n seiliedig ar fudd-daliadau (a ddefnyddir, er enghraifft, yn adrannau cyflogaeth ac incwm y MALlC) yn dangos gwir lefelau amddifadedd cefn gwlad. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn achos y gymuned ffermio a all fod yn gyfoethog o ran eu hasedau ond yn dlawd o ran arian parod.

4 Kearton, L., Response to consultation on proposed indicators for the Welsh Index of Multiple Deprivation (WIMD) 2014; Cyngor ar Bopeth Cymru Chwefror 2014 5 Ibid 6 Gweler er enghraifft Serretta Bebb: Ceredigion Citizens Advice Bureau: Response to Welsh Government Funding, Rhagfyr 2013 7 Oxford Consultants for Social Inclusion (OCSI): Getting the measure of rural deprivation in Wales, comisiynwyd gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol, Cymru ar ran Fforwm Gwledig CLlLC, Mai 2012, http://www.ocsi.co.uk/news/wp-content/uploads/OCSI-GettingMeasureRuralDeprivationWales.pdf 8 Ibid, gan ddyfynnu Bradshaw a Richardson (2007), Spatial Variations in the Take-Up of Means-Tested Benefits

Page 6: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

6

Mae tlodi ymhlith rhai mewn gwaith yn broblem gynyddol. Mae cyflogau isel yn ffactor allweddol yn hyn o beth ac mae’n arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig. Yn 2013 roedd enillion wythnosol cyfartalog mewn sawl awdurdod lleol sy’n rhai gwledig yn bennaf ymhlith yr isaf yng Nghymru – Sir Fynwy (£486; ail isaf); Powys (£487; trydydd isaf); Gwynedd (£491; pumed isaf) a Cheredigion (£494; chweched isaf)9. Mae cyflog isel yn cyfrannu at ddibyniaeth ar fudd-daliadau mewn gwaith: dangosodd ymchwil diweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree10 fod niferoedd uchel yn ardaloedd gwledig yng Nghymru sy’n cael budd-daliadau mewn gwaith (fel cyfran o’r boblogaeth oedran gweithio). Mae ffactorau eraill sy’n cyfrannu at dlodi mewn gwaith yn cynnwys natur dros dro neu dymhorol peth gwaith a phrinder gwaith llawn amser11 a diffyg cyfleoedd i gael hyfforddiant a dyrchafiad. Nid yw’n amlwg pa ddadansoddiad o dlodi gwledig a wnaethpwyd wrth baratoi’r ddogfen ymgynghori a’r blaenoriaethau ar gyfer ymyriadau lleol. Mae’r ddogfen yn trafod nodweddion posibl tlodi gwledig megis tlodi tanwydd a hygyrchedd, ond mewn ffordd arwynebol iawn. Os yw ymyriadau am fod yn effeithiol ar lefel genedlaethol a lleol, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu y dylai’r dull fod yn seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr o dlodi gwledig, ac yn enwedig sut y mae materion megis pellenigrwydd ac incymau isel yn rhyngweithio. Faint, er enghraifft, a wyddom ni mewn gwirionedd am ble’n union mae’r bobl dlotaf yn byw? Nodwn o’r canllaw ar gyfer Mynegi Diddordeb mewn Grwpiau Gweithredu Lleol y bydd angen i GGLl nodi anghenion blaenoriaeth ar gyfer eu hardal12, ond nid yw’n eglur ychwaith sut y bydd unrhyw ddadansoddiad o angen yn cael ei gynnal o ran tlodi ac amddifadedd, na pha ddadansoddiadau y gallai GGLl eu defnyddio. Fel y trafodwyd yn gynharach, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu bod perygl y bydd y mesurau amddifadedd cyfredol yn methu â sicrhau bod gwasanaethau sydd wedi’u targedu at bobl ddifreintiedig yn cyrraedd y bobl hynny, ble bynnag maent yn byw. Heb ddigon o ymchwil i faint a natur tlodi gwledig yng Nghymru, credwn y bydd yn anodd targedu mesurau at y rhai yn yr angen mwyaf neu ddatblygu dangosyddion digonol a ddefnyddir i fesur cynnydd. Mae hyn yn bygwth tanseilio amcanion datblygu a threchu tlodi’r Cynllun Datblygu Gwledig.

9 ‘Ystadegau cryno ardaloedd lleol’, Llywodraeth Cymru, 15 Ionawr 2014 10 ‘Monitoring Poverty and Social Exclusion in Wales 2013’, Sefydliad Joseph Rowntree, 11 OCSI, Getting the measure of rural deprivation in Wales, comisiynwyd gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol, Cymru ar ran Fforwm Gwledig CLlLG, Mai 2012, tud 10 http://www.ocsi.co.uk/news/wp-content/uploads/OCSI-GettingMeasureRuralDeprivationWales.pdf 12 Llywodraeth Cymru: LEADER 2014-20, Canllaw ar Gwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb (Grwpiau Gweithredu Lleol), Hydref 2013

Page 7: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

7

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Cynllun Datblygu Gwledig yn seiliedig ar ddadansoddiad llawn o dlodi gwledig, gan gynnwys lleoliad a nodweddion yr aelwydydd tlotaf. Dylai hyn gynnwys comisiynu ymchwil newydd os nad oes data ar gael ar hyn o bryd. Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol gynnal dadansoddiad o dlodi ac amddifadedd yn eu hardal, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth lleol, dangos sut y byddai mesurau arfaethedig yn rhoi sylw i’r anghenion a amlygwyd, dangos dangosyddion priodol o lwyddiant a monitro ac adrodd yn rheolaidd ar effaith ymyriadau. Dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth uchel i drechu tlodi i’r Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd adolygu lefel ei chefnogaeth gyffredinol i drechu tlodi er mwyn sicrhau bod rhaglenni mewn ardaloedd gwledig yn cael cyllid digonol, yn enwedig ble nad yw Cymunedau yn Gyntaf a chyllid arall sy’n gysylltiedig â MALlC ar gael. Lleihau niferoedd rhai sydd heb waith Rydym yn croesawu pwyslais y cynllun drafft ar leihau’r niferoedd sydd heb waith. Mae gwaith yn parhau i fod yn llwybr pwysig allan o dlodi. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i waith a’r mesurau hynny sy’n ei ategu, fel gofal plant, fod ar gael ac yn hygyrch. Mae’r Ddogfen Ymgynghori’n cyfeirio at y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (Creu Cymunedau Cryf, Gorffennaf 2013) sy’n cynnwys targed o 5000 o gyfleoedd i oedolion mewn cartrefi heb waith i ddod o hyd i hyfforddiant neu gyflogaeth addas erbyn diwedd blwyddyn galendr 201713. Rhoddir sylw i hyn gan brosiectau peilot Lift yn Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn14, ond mae prosiectau Lift yn weithredol mewn Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn unig, sy’n hepgor rhai ardaloedd gwledig. Hefyd, nid yw’r Cynllun Datblygu Gwledig drafft yn pennu unrhyw darged ar gyfer cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig. Bydd hyn yn ei gwneud yn anos i asesu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd. Nid yw’n amlwg ychwaith pa drefniadau a ragwelir i roi sylw i ddiffyg gwaith mewn ardaloedd gwledig ble nad yw’r prosiect Lift yn weithredol.

13 Llywodraeth Cymru: Creu Cymunedau Cryf – Symud Ymlaen â’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, Gorffennaf 2013, tud 17-18. 14 http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/regeneration/lift/?lang=en

Page 8: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

8

Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi rhai o’r meysydd ar gyfer ymyrryd a nodwyd ym mharagraff 139 y ddogfen ymgynghori, megis darparu gofal plant, seilwaith hamdden / twristiaeth, trafnidiaeth a darpariaeth TGCh a all gyfrannu at argaeledd gwaith a mynediad ato. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi na fydd y systemau hyn o reidrwydd yn effeithiol os na fyddant ar gael pan a ble gall pobl eu defnyddio. Dangosir hyn yn yr enghraifft ganlynol gan un o gleientiaid Cyngor ar Bopeth Cymru:

Roedd dyn o Ogledd Cymru’n defnyddio cyfrifiadur ei lyfrgell leol i chwilio am waith. Yna am oedd y system gyfrifiadurol yn gweithio am 10 niwrnod, edrychodd y dyn ar y posibilrwydd o deithio i’r dref nesaf i ddefnyddio’r cyfrifiadur yn eu llyfrgell hwy ond ni allai fforddio pris y tocyn bws ac nid oedd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n fodlon talu ei gostau.

Byddai modd goresgyn problemau’r client hwn drwy gael darpariaeth TGCh amgen yn ei gymuned ei hun, neu drwy gael ffyrdd eraill o dalu ei gostau teithio. Rydym yn croesawu’r pwyslais a roddir yn y ddogfen ymgynghori ar fynd i’r afael â rhwystrau o’r fath. Bydd angen i Grwpiau Gweithredu Lleol ddangos sut yn union y mae’r rhain a phroblemau tebyg megis diffyg gofal plant neu gyngor yn rhwystro pobl yn eu hardaloedd rhag gweithio neu gael gafael ar nwyddau neu wasanaethau, a defnyddio strategaethau datblygu lleol i sicrhau bod ymyriadau’n cael eu cydlynu’n effeithiol. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu Dylai Llywodraeth Cymru:

• Ystyried sut y gellid ymestyn y rhaglen Lift neu ddarpariaeth debyg i holl ardaloedd gwledig Cymru

• Gosod targedau creu swyddi gwledig penodol

Dylai strategaethau datblygu lleol fod yn ofynnol i ddangos sut y bydd ymyriadau penodol yn gwella nifer ac ansawdd cyflogaeth a chyfleoedd datblygu gyrfaoedd i bobl mewn cymunedau lleol, gan sicrhau bod ymyriadau’n cael eu cynllunio a’u targedu i ddiwallu anghenion penodol ceiswyr gwaith lleol. Costau ynni

Rydym yn croesawu’r ffaith bod y ddogfen ymgynghori’n cydnabod bod tlodi tanwydd yn debygol o fod yn broblem benodol mewn ardaloedd gwledig. Mae hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i Gyngor ar Bopeth Cymru, gan ei

Page 9: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

9

fod yn ddiweddar wedi cymryd cyfrifoldebau statudol oddi ar Ddyfodol Defnyddwyr i gynrychioli defnyddwyr yn y farchnad ynni15. Yn ardaloedd gwledig Cymru, mae pobl yn llai tebygol o fod ar y rhwydwaith nwy ac felly’n fwy dibynnol ar ddulliau eraill i wresogi eu cartrefi nag mewn ardaloedd trefol. Dim ond tua chwarter y cartrefi gwledig yng Nghymru sy’n defnyddio nwy drwy’r prif gyflenwad i wresogi eu cartref16. Mae nifer y tai hŷn, anodd eu gwresogi mewn llawer o ardaloedd gwledig, ynghyd â’r costau uwch sy’n gysylltiedig â defnyddio tanwydd heblaw nwy’n golygu bod pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd. Mae tlodi tanwydd ddwywaith yn fwy cyffredin mewn aelwydydd heb nwy drwy’r prif gyflenwad. Yng Nghymru, mae 45 y cant o aelwydydd sy’n byw oddi ar y prif gyflenwad nwy’n byw mewn tlodi tanwydd, o’i gymharu â 23 y cant o aelwydydd ar y prif gyflenwad17. Mae oed ac adeiladwaith llawer o gartrefi gwledig hefyd yn golygu ei bod yn llawer mwy costus i’w trin â mesurau effeithlonrwydd ynni.18 Mae’r enghraifft ganlynol yn amlygu problem gyffredin yn ardaloedd gwledig Cymru.

Gofynnodd rhiant sengl yng Ngorllewin Cymru am gyngor gan ei Chanolfan Cyngor ar Bopeth leol ar ôl i’w chyflenwad o olew cynhesu ddod i ben ac ni allai fforddio prynu rhagor. Roedd wedi gorfod anfon ei phlentyn i fyw at ei mam gan fod ei thŷ ei hun yn rhy oer.

Yn 2013 roedd diweddariad Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gynnal astudiaeth i “wella ein dealltwriaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â thai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig, a’r hyn y gellir ei wneud i leihau tlodi tanwydd yn yr ardaloedd hyn”. 19 Hyd y gwyddom ni nid yw’r astudiaeth hon wedi’i chynnal hyd yma. Os mai dyma’r achos, credwn y dylid rhoi blaenoriaeth i hyn o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig. Ar y llaw arall, os yw’r astudiaeth wedi’i chwblhau dylid ei chyhoeddi a’i hymgorffori yng nghynigion y Cynllun Datblygu Gwledig i helpu i ganfod mesurau i roi sylw i dlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi bod yn brysur yn annog pobl i sefydlu clybiau olew, gan gynnwys arweiniad ar sefydlu clybiau olew a sut i fynd ati i

15 Ar 1 Ebrill 2014 cafodd swyddogaethau Dyfodol Defnyddwyr eu trosglwyddo i Gyngor ar Bopeth fel rhan o newidiadau Llywodraeth y DU i’r Maes Defnyddwyr. Mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys cyfrifoldebau statudol i gynrychioli defnyddwyr yn y marchnadoedd ynni a phost. Mae hyn yn dilyn trosglwyddo swyddogaethau cynrychiolaeth gyffredinol defnyddwyr yn Ebrill 2013. 16 http://www.consumerfocus.org.uk/files/2011/10/Off-gas-consumers.pdf, tud 11 17 ‘Off-gas consumers: information on households without mains gas heating – Technical annex’, Llais Defnyddwyr (Medi 2011) 18 Jacky Pett: Affordable Warmth in Hard to Heat Homes: a progress report, Association for the Conservation of Energy, Mawrth 2004, p27 19 Llywodraeth Cymru: Creu Cymunedau Cryf – Symud Ymlaen â’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, Gorffennaf 2013, tud 24.

Page 10: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

10

gofrestru a dod o hyd i glybiau olew lleol.20 Gall clybiau olew fod yn fodd i ddefnyddwyr ddod at ei gilydd i arbed arian, er bod meini prawf pwysig ar gyfer sicrhau bod defnyddwyr yn gallu arbed arian drwy fod yn rhan ohonynt. Hefyd, mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi llunio awgrymiadau ar gyfer defnyddwyr nwy nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy i gynllunio ar gyfer ac i brynu olew cynhesu. Rydym yn awgrymu y gellid cefnogi ac adeiladu ar y cynlluniau fel rhan o strategaethau Datblygu Lleol. Roedd Llywodraeth Cymru yn gywir i nodi’r cyfleoedd sy’n codi yn sgil technolegau ynni adnewyddadwy, yn enwedig prosiectau ‘micro-gynhyrchu’ lleol i helpu pobl sy’n byw heb nwy drwy’r prif gyflenwad yng Nghymru. Er bod cymaint o aelwydydd a busnesau gwledig heb eu cysylltu â’r prif gyflenwad nwy, nid yw o reidrwydd yn gost effeithiol nac yn gynaliadwy yn y tymor hir i gysylltu’r tai a’r busnesau hyn â’r grid. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu’r ymrwymiad yn y cynllun i gynnig cyngor am ddim am y prosiectau hyn, ac i ariannu gwaith paratoadol i leihau’r risg sydd ynghlwm wrth fuddsoddi cynnar. Fodd bynnag, mae creu seilwaith ynni adnewyddadwy yn golygu buddsoddiad sylweddol, a gall ymgysylltiad â phrosiectau o’r fath fod yn fregus. Mae’r niferoedd llai na’r disgwyl sydd wedi manteisio ar y Fargen Werdd yn dangos bod unigolion a busnesau yn ofalus iawn cyn penderfynu benthyca arian i ariannu mesurau ynni. Yn 2010, canfu Llais Defnyddwyr Cymru mai dim ond 24% o ddefnyddwyr diarffordd oddi ar y rhwydwaith nwy ond a oedd o fewn 2km i’r prif gyflenwad, a dim ond 9% oddi ar y rhwydwaith nwy ond a oedd o fewn 2km i’r prif gyflenwad oedd yn fodlon talu £6,000 i osod system micro-gynhyrchu21. Roedd Llais Defnyddwyr Cymru wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymorth i wneud costau ymlaen llaw micro-gynhyrchu’n fforddiadwy i ddefnyddwyr agored i niwed ac i helpu cymunedau i ddatblygu cynlluniau ar y cyd a fyddai o fudd i’r holl breswylwyr lleol22. Bydd Cyngor ar Bopeth Cymru yn edrych ar gyfleoedd i warchod ac i roi cymorth ychwanegol i ddefnyddwyr nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf a bydd yn ceisio cysylltu â Llywodraeth Cymru i ystyried pa rôl y gall hi ei chwarae fel rhan o hyn. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen ar fyrder â’i hastudiaeth arfaethedig o dai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig, os nad yw wedi’i chynnal eisoes.

20 http://www.citizensadvice.org.uk/index/campaigns/current_campaigns/oilclubs.htm 21 Llais Defnyddwyr Cymru: Defnyddwyr nad ydynt wedi’u cysylltu i’r prif gyflenwad nwy a microgynhyrchu, Gorffennaf 2010, tud 30; http://www.consumerfocus.org.uk/wales/files/2010/10/Off-gas-consumers-microgeneration.pdf 22 Ibid tud 32

Page 11: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

11

Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag unigolion a busnesau mewn cymunedau gwledig i sicrhau bod eu hanghenion a’u cymhellion yn sail i ddatblygiad ei chynlluniau ynni adnewyddadwy. Dylai strategaethau datblygu lleol gynnwys mesurau i wneud micro-gynhyrchu, gan gynnwys cynlluniau ar y cyd, yn fwy fforddiadwy i ddefnyddwyr gwledig agored i niwed. Dylai strategaethau datblygu lleol ymdrechu i sicrhau bod cynlluniau arbed ynni megis NEST mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr gwledig agored i niwed, gan gynnwys defnyddwyr mewn cartrefi anodd eu cynhesu. Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol ystyried sut y gallant hyrwyddo cynlluniau megis clybiau olew ac awgrymiadau i ddefnyddwyr sy’n defnyddio olew cynhesu. Gwasanaethau ariannol Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu’r gydnabyddiaeth a roddir yn y ddogfen i bwysigrwydd mynediad at wasanaethau ariannol, Mae ymchwil newydd gan Gyngor ar Bopeth Cymru wedi dangos bod hwn yn fater perthnasol iawn i ddefnyddwyr yng nghefn gwlad. Mae bron i ddwywaith canran y bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (11%) yn cael anhawster cael mynediad at beiriant arian di-dâl, o’i gymharu â’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol (6%). Hefyd, mae 1 o bob 7 o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig (15%) yn cael anhawster cael mynediad at fanc / cymdeithas adeiladu o’i gymharu ag 1 o bob 10 (10%) o’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd trefol.23 Mae diffyg mynediad at wasanaethau bancio a thalu ffisegol, megis Swyddfeydd Post a banciau, yn gallu arwain at anawsterau i dalu biliau, cael gafael ar arian parod a gwasanaethau talu biliau am ddim. Bydd cyflwyno credyd cynhwysol, a fydd yn disodli chwe budd-dal lles presennol, yn cael effaith fawr ar yr angen i bobl sy’n cael budd-daliadau i gael mynediad at wasanaethau ariannol. Gyda thaliadau’n cael eu talu’n uniongyrchol i gyfrif banc, bydd yn rhaid i hawlwyr gael mynediad hwylus at wasanaethau bancio i gael eu harian ac i dalu biliau (gan gynnwys rhent). Canfu astudiaeth o fwy na 1700 o gleientiaid Cyngor ar Bopeth yn Ynys Môn, Birmingham a Gogledd Dorset y byddai angen help ar fwy na’u hanner (52%) gyda gwasanaethau bancio. Er enghraifft, nid oedd llawer ohonynt yn gwybod

23 Arolwg Omnibws Chwarterol Cymru, Mawrth 2014. Cafodd gwaith maes ar gyfer yr ymchwil hwn ei is-gontractio i Beaufort Research Ltd, Caerdydd. Mae’r Arolwg wedi’i ddylunio i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth oedolion Cymru 16 oed a throsodd. Cynhaliwyd cyfanswm o 1,012 o gyfweliadau rhwng 3 a 21 Mawrth 2014.

Page 12: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

12

sut i wneud trefniadau talu ar gyfer y biliau pwysicaf na sut i fonitro eu trafodion bancio.24 Rydym yn cytuno y bydd gan undebau credyd a gwefannau defnyddwyr ran allweddol i’w chwarae i fynd i’r afael ag allgau ariannol. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio disgwyl y bydd undebau credyd yn ateb holl anghenion pobl sydd wedi’u hallgau’n ariannol; dylai pobl gael eu galluogi i ddefnyddio amrywiaeth o ddarparwyr a bydd Cyngor ar Bopeth Cymru yn parhau i alw am fynediad at gynhyrchion bancio prif ffrwd. Mae mesurau eraill a fydd yn cynyddu galluogrwydd ariannol oedolion a phlant hefyd yn bwysig. Er enghraifft, mae cyngor annibynnol yn helpu defnyddwyr i fynd i’r afael â phroblemau sy’n codi â gwasanaethau ariannol. Gall gwasanaethau cynyddu galluogrwydd ariannol hefyd helpu pobl i ddysgu sgiliau cyllidebu a rheoli arian (gweler y sylwadau isod ar wasanaethau cynghori). Bydd mynediad ar-lein at wasanaethau ariannol prif ffrwd a chyngor yn gwella yn sgil mynediad gwell at wasanaethau band eang (gweler isod). Fodd bynnag, yn achos defnyddwyr gwledig heb fynediad digidol digonol, neu’r sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r rhyngrwyd, bydd mynediad ffisegol at fanciau a swyddfeydd post yn parhau’n bwysig. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai strategaethau datblygu lleol gynnwys cynlluniau i gysylltu â banciau a darparwyr gwasanaethau ariannol prif ffrwd eraill, yn ogystal ag undebau credyd, i sicrhau bod gan bobl fynediad at yr ystod o wasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dylai’r strategaethau hefyd ymdrechu i ddatblygu sgiliau ariannol pobl drwy ymgysylltu â rhaglenni galluogrwydd ariannol, a sicrhau eu bod yn cael cymorth i ddatrys problemau gan wasanaethau cynghori cyffredinol. Gwasanaethau post Mae’r twf cyflym mewn siopa ar y rhyngrwyd wedi arwain at dwf hefyd mewn marchnad barseli gystadleuol. Fodd bynnag, gall defnyddwyr mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell orfod byw â llai o ddewis ac opsiynau a chael llai o werth am arian na’u cymheiriaid mewn ardaloedd trefol. Mae gwasanaethau post da hefyd yn bwysig i ddatblygu economaidd lleol ac i greu swyddi, ac yn hanfodol i fusnesau bach. Yn 2013 roedd oddeutu 3,300 o ficrofentrau ym Mhowys yn unig – tua 8% o gyfanswm Cymru.25 Mae priodoldeb, cost ac 24 Citizens Advice: Universal credit managing migration pilot - Final results, Rhagfyr 2013; http://www.citizensadvice.org.uk/index/policy/policy_publications/managing_migration_pilot_final_results.htm 25 Statistics for Wales: Regional economic & labour market profile – mid Wales – Mawrth 2014, tud 20

Page 13: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

13

ymwybyddiaeth o wasanaethau casglu a danfon yn holl bwysig i’r economi leol ac i greu swyddi. Fel rhan o’n cyfrifoldebau i gynrychioli defnyddwyr y gwasanaeth post, bydd Cyngor ar Bopeth yn ymgymryd â gwaith i edrych ar y materion hynny sy’n effeithio ar ddefnyddwyr gwledig yng Nghymru. Byddwn yn rhannu’r canfyddiadau hyn â Llywodraeth Cymru ac yn dangos ble mae cyfle i roi sylw i faterion penodol drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig. Mae Swyddfeydd Post yn darparu gwasanaethau allweddol i gymunedau gwledig yng Nghymru. Mae’r rhain yn fwy na ‘chownteri’ yn unig ar gyfer cynnyrch y Post Brenhinol, maent hefyd yn cynnig gwasanaethau hanfodol megis arian parod a gwasanaethau bancio, gan gynnwys cyfrifon cyfredol a Chyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post. Maent hefyd yn galluogi defnyddwyr i ddefnyddio gwasanaethau’r Llywodraeth. Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig iawn, gall Swyddfa’r Post hefyd weithredu fel ‘y siop olaf yn y pentref’. Gwyddom o ganlyniad i waith yn y gorffennol gan Lais Defnyddwyr Cymru gymaint o ganolfan y gall Swyddfa’r Post fod mewn ardaloedd gwledig26. Mae gwasanaeth Swyddfa’r Post mewn ardaloedd gwledig yn cael ei ddarparu hefyd drwy gyfrwng ystod o wasanaethau allgymorth, megis faniau neu wasanaeth mewn lleoliad arall fel tafarn neu ganolfan gymunedol. Mae rhwydwaith Swyddfa’r Post yn destun rhaglen drawsnewid fawr ar hyn o bryd ac mae dros hanner y canghennau’n cael eu troi’n Swyddfa Bost Local27 neu Swyddfa Bost Main28. Hefyd, bydd nifer fawr o ganghennau mewn ardaloedd gwledig yn newid i fod yn ‘ganghennau cymunedol’. Mae’r rhain fel arfer yn ganghennau ble mae Swyddfa’r Post yn gwasanaethu fel y siop olaf yn y pentref. Yn sgil y newidiadau hyn bydd yn bwysig sicrhau bod Swyddfa’r Post yn parhau mewn sefyllfa i ddiwallu anghenion y cymunedau gwledig maent yn eu gwasanaethau. Comisiynodd Dyfodol Defnyddwyr ymchwil a oedd yn edrych yn benodol ar bwysigrwydd swyddfeydd post mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys:

• y rôl a chwaraeir ganddynt i ddarparu mynediad at wasanaethau hanfodol

• effaith bosibl y newidiadau posibl o dan y rhaglen i drawsnewid y rhwydwaith i ddefnyddwyr a busnesau bach mewn ardaloedd gwledig

• pwysigrwydd gwahanol briodoleddau darpariaeth swyddfa’r post mewn ardaloedd gwledig ac i ddeall ym mha ffordd y dylai blaenoriaethau defnyddwyr a busnesau bach fod yn sail i’r ffordd y mae’r rhaglen drawsnewid yn cael ei chyflwyno mewn ardaloedd gwledig.

Caiff yr ymchwil hwn ei gyhoeddi yn yr haf a bydd Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhannu’r canfyddiadau â Llywodraeth Cymru. Mae’n bosibl y bydd materion

26 Llais Defnyddwyr Cymru(2011) Post Office Briefing 27 Swyddfa Bost Local: swyddfeydd post wedi’u lleoli mewn siopau cyfleustra, fel garej, a byddant ar agor yr un oriau â’r siop 28 Swyddfa Bost Main: bydd y canghennau hyn yn fwy ac fel arfer wedi’u haddasu neu eu hadnewyddu a byddant ar agor rai oriau ychwanegol, byddant hefyd yn cynnig yr ystod lawn o nwyddau a gwasanaethau

Page 14: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

14

penodol yn codi yn sgil y gwaith hwn a fydd yn ddefnyddiol i helpu datblygiad y cynllun. Mae Cronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post Llywodraeth Cymru wedi bod yn fuddiol dros ben29 i’r swyddfeydd post hynny sydd wedi cael grant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi galluogi’r swyddfeydd post i arallgyfeirio ac i gynnig rhywbeth arall i ategu eu busnes post ac i roi hwb i gynaliadwyedd y busnes, Bydd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig ble mae cynaliadwyedd swyddfa’r post fel y siop olaf yn y pentref yn hanfodol. Mae’r gronfa’n awr yn cyrraedd y rownd olaf. O ystyried yr heriau sydd o hyd yn bodoli i’r rhwydwaith swyddfeydd post gwledig a’r newidiadau a ddaw yn sgil trawsnewid y rhwydwaith, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn dal i weld angen am gymorth gan Lywodraeth Cymru i ochr fusnes Swyddfa’r Post yng Nghymru, a byddwn yn awyddus i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar hyn yn y dyfodol. Credwn, fodd bynnag, fod cymorth parhaus, boed hwn yn gymorth busnes, i arallgyfeirio neu i foderneiddio, yn hanfodol i swyddfeydd post mewn ardaloedd gwledig, ble mae fwyaf anodd i gynnal busnes o ganlyniad i niferoedd llai o gwsmeriaid na’r hyn a geir mewn ardaloedd trefol. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod rôl bwysig Swyddfa’r Post i bobl mewn cymunedau gwledig fel rhan o’r cynllun, a pharhau i ymrwymo i gefnogi swyddfeydd post lleol (yn enwedig rhai mewn ardaloedd gwledig) i sicrhau eu bod yn parhau fel busnesau hyfyw yn y dyfodol. Gwasanaethau digidol Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu cynnwys darpariaeth TGCh yn y rhestr o feysydd allweddol ar gyfer ymyrryd yn y ddogfen ymgynghori. Mae mynediad at wasanaethau digidol yn fwyfwy hanfodol ar gyfer bywyd pob dydd, yn enwedig mewn ardaloedd ble mae llai o wasanaethau ffisegol ar gael. Mae ansawdd mynediad digidol yn bwysig; i fusnesau i hwyluso marchnata gwell a chyrraedd cwsmeriaid yn fwy effeithiol, i alluogi gweithio o gartref, i gael gafael ar nwyddau, gwasanaethau a dysgu ar-lein.30 Mae cyrhaeddiad band eang cyflym iawn a mynediad at wasanaeth ffôn 3G yn amrywio’n fawr ledled Cymru gyda llawer o ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan signal gwael. Nid yn unig y mae hyn yn ychwanegu at allgau cymdeithasol; mae’n golygu hefyd na all defnyddwyr fanteisio ar yr opsiynau rhataf drwy siopa rhyngrwyd, na chymharu bargeinion a defnyddio gwefannau cymharu prisiau a chynghori, na defnyddio’r ystod lawn o wasanaethau ariannol, megis bancio ar-lein, a thalu biliau.

29 Mae Dyfodol Defnyddwyr wedi cynnal ymchwil i PODF a fydd yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni 30 Gweler http://www.superfast-cymru.com/home

Page 15: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

15

Yn ôl Ofcom, ar hyn o bryd mae gwahaniaeth mawr mewn argaeledd gwasanaethau band eang cyflym iawn rhwng ardaloedd gwledig a threfol. Mae gan 88% o adeiladau trefol yn y DU fynediad at fand eang cyflym iawn, ond mae’r ffigur mewn ardaloedd lled drefol yn 78%, ac yn ddim ond 25% mewn ardaloedd gwledig.31 Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu partneriaeth Cyflymu Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a BT i gynyddu mynediad at fand eang ffibr ledled Cymru, a’r cynllun Allwedd Band Eang Cymru ar gyfer safleoedd y tu allan i’r ardal a gyhoeddwyd ar gyfer cyflwyno Cyflymu Cymru. Bydd diffyg mynediad at y rhyngrwyd yn cael effaith fawr hefyd ar hawlwyr budd-daliadau a cheiswyr gwaith wrth i Gredyd Cynhwysol gael ei gyflwyno ledled y DU yn ystod y blynyddoedd nesaf (gweler y sylwadau ar wasanaethau ariannol). Bydd disgwyl i fwyafrif yr hawlwyr wneud a rheoli eu hawliadau am fudd-dal ar-lein, ac mae chwilio am swydd a cheisiadau amdanynt yn gynyddol ddibynnol ar fynediad at y rhyngrwyd. Ni all rhai pobl, fodd bynnag, ddefnyddio’r rhyngrwyd yn eu cartref a bydd angen i Grwpiau Gweithredu Lleol hybu mynediad amgen– e.e. drwy siopau lleol, grwpiau cymunedol neu wasanaethau symudol. Mae rhai pobl hefyd yn cael eu heithrio’n ddigidol am nad oes ganddynt y sgiliau a’r hyder angenrheidiol, felly bydd datblygu sgiliau TG hefyd yn amcan pwysig. Bydd rhai pobl hefyd yn dymuno defnyddio gwasanaethau drwy ddulliau eraill, fel wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy’r post, a bydd adegau pan fydd pob defnyddiwr angen defnyddio dulliau eraill. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai strategaethau datblygu lleol sicrhau bod mynediad digidol yn flaenoriaeth uchel mewn ymyriadau lleol, a dylent chwilio am ffyrdd arloesol i sicrhau mynediad, megis defnyddio siopau, grwpiau cymunedol neu wasanaethau symudol megis darpariaeth cynghori symudol (gweler isod). Dylai strategaethau datblygu lleol hefyd ganfod a hwyluso sianelau dysgu i ddatblygu sgiliau TG pobl. Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol ymgysylltu â phartneriaeth Cyflymu Cymru ac Allwedd Band Eang Cymru i gynyddu mynediad at fand eang ffibr a chwarae rôl i sicrhau bod cymunedau gwledig yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael a’r potensial i wella mynediad ar y cyfle cyntaf.

31 Ofcom: 2013 Communications Infrastructure Report, tud 25; http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/research/telecoms-research/infrastructure-report/IRU_2013.pdf

Page 16: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

16

Trafnidiaeth Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cytuno bod trafnidiaeth wledig yn faes allweddol ar gyfer ymyriadau; mae trafnidiaeth gyhoeddus anfynych a chostus a dibyniaeth fawr ar drafnidiaeth breifat, ynghyd â phris uchel tanwydd a phellteroedd teithio mwy, yn achosi anawsterau i bobl sy’n chwilio am waith ac sy’n ceisio defnyddio gwasanaethau hanfodol. Canfu arolwg aelwydydd 2013 Arsyllfa Wledig Cymru fod 86% o aelwydydd gwledig a holwyd un ai’n berchen ar neu â defnydd o fodur. Fodd bynnag, mae perchnogaeth ymhlith grwpiau incwm is wedi bod yn gostwng; dim ond 58% o’r aelwydydd hynny ag incwm blynyddol o lai na £10,000 oedd â char, o’i gymharu â 73% yn 2010. Roedd aelwydydd ag incwm blynyddol rhwng £10,000 a £20,999 hefyd wedi gweld gostyngiad mewn perchnogaeth ceir o 90 y cant yn 2010 i 81 y cant yn 2013.32 Gall defnydd o wasanaeth bws dibynadwy a fforddiadwy olygu’r gwahaniaeth rhwng gallu gweithio a dibyniaeth ar fudd-daliadau lles. Canfu ymchwil gan Gyngor ar Bopeth a Citizens Advice Scotland yn 2010 mai’r rhwystr mwyaf wrth geisio dod o hyd i swydd i bobl ar lwfans ceisio gwaith oedd yr angen i ddod o hyd i waith yn agos at ble roeddent yn byw33. Hefyd, canfu ymchwil gan yr Uned Allgau Cymdeithasol ar drafnidiaeth a mynediad at waith rwystr sy’n cyfyngu ar orwelion teithio, gan gynnwys diffyg gwybodaeth am ddibynadwyedd ac amheuon am yr opsiynau teithio sydd ar gael.34 Gellir datrys problem diffyg gwybodaeth drwy hyrwyddo gwasanaethau megis Traveline Cymru.35 Gallai dibynadwyedd gwasanaethau lleol fod yn faes priodol y gallai Grwpiau Gweithredu Lleol roi sylw iddo, drwy fonitro ac ymgysylltu â darparwyr gwasanaeth. Nid gwasanaethau bws yw’r unig ffordd i ddiwallu anghenion trafnidiaeth cefn gwlad, ond dyma’r math mwyaf cyffredin o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig i bobl ar incwm isel. Mae bysiau hefyd yn gwasanaethu ardaloedd na fyddai modd eu cyrraedd fel arall, heb gar, megis pentrefi gwledig36. Mae gan gynlluniau hyblyg fel Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin y potensial i ddatrys problemau trafnidiaeth mewn ardaloedd eraill â phoblogaeth denau.37 32 Arsyllfa Wledig Cymru: Arolwg Cartrefi Gwledig 2013, tud 50; http://www.walesruralobservatory.org.uk/sites/default/files/Rural%20Household%20Survey%202013.pdf 33 Fair welfare: supporting claimants into work, Cyngor ar Bopeth a Citizens Advice Scotland, Medi 2010, http://www.cas.org.uk/fairwelfaresupportingclaimantsbackintowork.aspx 34 Making the Connections: Final Report on Transport and Social Exclusion, Social Exclusion Unit, 2003, tud 97 35 http://www.traveline-cymru.info/ 36 Transport, social equality and welfare to work, joint report by Campaign for Better Transport and Citizens Advice, 2010 37 http://www.bwcabus.traveline-cymru.info/?force=1

Page 17: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

17

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol amlygu anghenion trafnidiaeth lleol mewn strategaethau datblygu lleol a gweithio â darparwyr trafnidiaeth lleol i ddatblygu atebion hyblyg ac ymatebol i unigrwydd gwledig. Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol ddatblygu cyfryngau i godi ymwybyddiaeth o opsiynau teithio newydd a phresennol. Tai Mae’r Ddogfen Ymgynghori’n cyfeirio at dai ac adfywio fel blaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Fodd bynnag, nid yw tai yn bwnc sydd wedi’i gynnwys ymhlith y prif feysydd ymyrryd mewn strategaethau datblygu lleol a restrir ym mharagraff 139 y Ddogfen Ymgynghori. Mae materion posibl angen sylw yn y cynllun sy’n ymwneud â natur deiliadaethau tai yng nghefn gwlad. O flwyddyn i flwyddyn, mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn gweld nifer anghymesur o uchel o denantiaid sy’n rhentu yn y sector preifat yn chwilio am gyngor ac arweiniad, gyda nifer yr ymholiadau’n fwy na’r holl sectorau tai eraill gyda’i gilydd er eu bod yn cyfrif am ddim ond 14 y cant o’r stoc dai yng Nghymru.38 Mae’r Amcangyfrifon Stoc Annedd ar gyfer Cymru 2013-13 yn dangos ar y cyfan bod lefel y stoc dai sy’n cael ei rentu’n breifat mewn ardaloedd gwledig yn weddol debyg i’r ganran ar gyfer Cymru gyfan, sef 14%, er bod lefelau PRS yn lleol yn amrywio o 11% yn Sir Fynwy i 17.5% yng Ngheredigion. Fodd bynnag, bydd yn bwysig monitro’n ofalus beth fydd effaith deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar y sector rhentu preifat mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Amcangyfrifon Stoc Annedd hefyd yn nodi bod cyfran y stoc dai cymdeithasol sydd ar rent yn is yn yr awdurdodau lleol gwledig nag yn awdurdodau lleol eraill Cymru, gyda’r gyfran isaf o 9% yng Ngheredigion – ychydig dros hanner cyfartaledd Cymru o 16%.39 Felly, fel y nododd Sefydliad Joseph Rowntree yn 2008, mae prinder tai cymdeithasol fforddiadwy’n achos pryder mawr mewn ardaloedd gwledig.40 Mae fforddiadwyedd yn parhau’n broblem ledled Cymru. Canfu arolwg41 a gomisiynwyd ar y cyd gan Gyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yng Ngorffennaf 2013 fod bron hanner (49%) yr oedolion yng Nghymru sy’n talu

38 Cyngor ar Bopeth Cymru: Briff ar Fil Tai (Cymru), 2014 39 Llywodraeth Cymru: Amcangyfrifon stoc annedd Cymru, 2012-13, tud 6 40 JRF Commission on Rural Housing in Wales and Paul Milbourne: rural Housing in Wales, 2008, http://www.jrf.org.uk/publications/rural-housing-wales 41 Meeting Housing Costs in Wales: Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth Cymru, 2014 (arolwg a gynhaliwyd gan YouGov PLC).

Page 18: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

18

rhent neu forgais yn cael anhawster o leiaf beth o’r amser i gynnal eu taliadau neu eu bod yn mynd i ddyled. Mae un o bob wyth (12%) yn brwydro’n barhaus i dalu eu biliau tai. Dangosodd yr arolwg hefyd nad oes gan 28% o oedolion sy’n gweithio ddigon o gynilion neu sicrwydd yswiriant i’w galluogi i barhau i dalu am eu cartref am fwy na mis pe bai eu hincwm yn dod i ben. Ni fyddai un o bob chwech (17%) yn gallu fforddio talu dim rhent neu forgais o gwbl.42 Nid oedd yr arolwg yn gwahaniaethu rhwng pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol a gwledig ond mae tystiolaeth cleientiaid canolfannau gwledig yn parhau i ddangos fod costau tai yn broblem ddifrifol o hyd, fel y dengys yr enghraifft hon.

Roedd menyw o Ogledd Cymru, a oedd yn rhentu llety’n breifat gyda’i phlentyn 7 oed yn talu £500 o rent y mis. Roedd ei budd-dal tai yn talu £360 gan ei gadael â diffyg o £140. Roedd yn rhaid iddi gwtogi ar faint o fwyd roedd yn ei brynu bob wythnos er mwyn talu’r rhent .

Hyd yn oed os ceir help ar ffurf taliadau tai yn ôl disgresiwn, mae’r broblem sylfaenol o rent sy’n fwy na gallu pobl i dalu’n parhau. Mae Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru’n delio â nifer cynyddol o achosion ble mae toriadau mewn budd-dal tai’n achosi caledi a dyledion, ac roeddent wedi delio â dros 17,000 o broblemau budd-dal tai yn 2012/13. Mae newidiadau i fudd-daliadau’n golygu nad oes gan bobl ddigon o incwm gwario ar ôl talu eu rhent. Mewn llawer o achosion mae prinder eiddo llai’n golygu nad oedd hawlwyr sy’n cael eu heffeithio gan y toriad mewn cymorth ar gyfer llofftydd sbâr yn gallu symud i gartref llai i leihau eu costau. Mae angen datblygu strategaeth ar frys i sicrhau bod tai gwirioneddol fforddiadwy ar gael ym mhob sector43. Bydd angen i strategaethau datblygu lleol roi sylw i argaeledd tai fforddiadwy yn eu hardaloedd, drwy weithio â darparwyr tai cymdeithasol a galluogwyr tai gwledig44 i ganfod ffyrdd i ddarparu cartrefi fforddiadwy. Dylai’r astudiaeth arfaethedig o dai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig fod yn gyfle i edrych eto ar fater fforddiadwyedd tai yn ogystal â materion penodol tlodi tanwydd45. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai astudiaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru o dai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig gynnwys dadansoddiad o holl fater tai fforddiadwy yng Nghymru, a chynigion i roi sylw i’r broblem. 42 Ibid 43 Ibid 44 http://wales.gov.uk/topics/housing-and-regeneration/housing-supply/rural/?lang=en 45 Mae Cyngor ar Bopeth yn cymeradwyo’r diffiniad o “dai fforddiadwy” a fabwysiadwyd gan ymchwiliad annibynnol yr Arglwydd Whitty i gartrefi fforddiadwy (cyflwyniad i ymchwiliad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau i gymorth at gostau tai yn y system les ddiwygiedig, Medi 2013)

Page 19: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

19

Dylai cartrefi fforddiadwy gael eu cynnwys yng nghwmpas strategaethau datblygu lleol, a dylai Grwpiau Gweithredu Lleol ymgysylltu â darparwyr tai a galluogwyr tai lleol fel rhan o hyn. Mynediad at wasanaethau cynghori Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu’r ffaith bod y ddogfen ymgynghori’n cynnwys gwasanaethau cynghori fel maes ymyrryd allweddol. Yn ddiweddar, cadarnhaodd Lywodraeth Cymru bwysigrwydd gwasanaethau cynghori yng Nghymru.46 Mae gwasanaethau cynghori’n arbennig o bwysig i bobl sy’n agored i niwed o ganlyniad i incwm isel ac unigrwydd, fel sy’n wir yn achos llawer o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae gwasanaethau cynghori a galluogrwydd yn gwneud mwy na lliniaru effeithiau tlodi ar unigolion a theuluoedd. Gall cyngor prydlon o safon uchel helpu pobl i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i gadw gwaith cyflogedig. Mae gwasanaethau hybu galluogrwydd ariannol fel y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, sy’n cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth Cymru yng Nghymru, yn helpu pobl i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyllidebu a rheoli arian. Canfu gwerthusiad a wnaethpwyd o gyngor a ddarparwyd mewn canolfannau gofal iechyd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy ariannu Cyngor Da, Byw’n Well, fod pobl yn dweud bod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i gael help a chyngor gan CAB. Roeddent yn teimlo’n well; roeddent yn llai pryderus, o dan lai o straen ac yn poeni llai am arian47. Fodd bynnag, roedd problemau penodol yn gysylltiedig â mynediad at gyngor mewn ardaloedd gwledig. Nododd adroddiad ymchwil gan Grŵp Materion Gwledig Cyngor ar Bopeth (RIG) yn 2010 fod pobl mewn ardaloedd gwledig tua 50% yn llai tebygol o fod wedi cael cyngor gan CAB na rhai mewn ardaloedd trefol.48 Priodolwyd hyn yn rhannol i ddiffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau cynghori ac yn rhannol i broblemau ymarferol fel pellter teithio a dull cyflenwi.49 Roedd yr adroddiad yn awgrymu ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cynghori, gan gynnwys adrodd storïau am lwyddiant yn y cyfryngau lleol, staff Canolfannau Cyngor ar Bopeth lleol yn hybu eu gwaith â mudiadau lleol, a gweithio drwy unigolion a sefydliadau yr ymddiriedir ynddynt, megis

46 Llywodraeth Cymru: Adolygiad o Wasanaethau Cynghori, Adroddiad Terfynol, Mawrth 2013 47 Karen Jones: Outcomes of a Longitudinal Study of Citizens Advice Service Clients in Wales, Prifysgol Bangor, 2009 48 Hugo Perks: Meeting the advice needs of rural areas, Grŵp Materion Gwledig Cyngor ar Bopeth, 2010, tud 15-16 49 Ibid tud 17

Page 20: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

20

meddygon, nyrsys ardal ac ymwelwyr iechyd50. Gallai’r dulliau hyn i gyd fod yn briodol i gael cymorth gan Grwpiau Gweithredu Lleol a gallai fod yn rhan o strategaethau datblygu lleol. Mae angen amrywiaeth o gyfryngau gwahanol ar bobl i’w galluogi i gael gafael ar gyngor, megis wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac mewn grŵp, er mwyn diwallu eu hanghenion amrywiol am gyngor mewn gwahanol amgylchiadau51. Canfu adroddiad y RIG mai’r dull a ffefrid gan lawer o bobl mewn ardaloedd gwledig oedd mewn swyddfa leol Cyngor ar Bopeth, ond bod y rhain yn dueddol o fod yn agored yn ystod oriau gweithio’n unig a chanfu’r ymchwil nad yw 27% o ymatebwyr oed gweithio’n rhydd yn ystod oriau gweithio a bod 37% arall yn rhydd weithiau’n unig52. Roedd diffyg trafnidiaeth addas i’r mannau ble mae cyngor ar gael yn dwysau’r broblem. Gall dulliau amgen megis gwella cyngor dros y ffôn, ar-lein ac e-bost helpu i roi sylw i’r broblem hon a byddai cysylltiadau band eang gwell yn helpu yn hyn o beth. (gweler y sylwadau ar fynediad digidol, uchod). Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd cyngor wyneb yn wyneb yn angenrheidiol bob tro, er enghraifft, pan fydd angen edrych ar ddogfennau cymhleth neu niferus, os nad oes gan bobl ddefnydd addas o ffôn neu’r rhyngrwyd, neu os bydd angen ymweliadau â chartrefi (e.e. oherwydd problemau iechyd neu symudedd). Mae’r Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol wedi dweud bod darparu cyngor wyneb yn wyneb yn bwysig gan fod gwasanaeth lleol yn fwy hygyrch. Mae hwyluso trefniadau ar gyfer allgymorth lleol, megis gwasanaethau cynghori symudol neu sesiynau cynghori mewn adeiladau cymunedol, yn un ffordd i Grwpiau Gweithredu Lleol alluogi mynediad gwell at gyngor yn y Gymru wledig. Ceir disgrifiad o ddau gynllun lleol isod.

Er mwyn diwallu anghenion cynghori cefn gwlad Gwynedd53, cafodd uned symudol ei hariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, ac mae’n mynd â gwirfoddolwyr hyfforddedig i ardaloedd gwledig ble maent yn cynnig cyngor gan gynghorwyr cyffredinol a gweithwyr achos arbenigol yn y Swyddfa Ardal yng Nghaernarfon drwy gyfrwng gwe gamera. Mae cleientiaid yn cael eu cyfweld yn y fan a’r lle gan gynghorydd ac, os bydd angen, gan weithiwr achos arbenigol, heb orfod teithio i leoliad canolog. Gall unrhyw ddogfennau sydd angen eu copïo, eu sganio neu eu llofnodi gael eu prosesu gan yr asesydd gwirfoddol ar yr uned symudol.

Mae gan y bws hefyd gysylltiad Band Eang (Diwifr) sy’n caniatáu mynediad at ddata gwybodaeth cynhwysfawr Cyngor ar Bopeth. Mae

50 Ibid, tud 23. 51 Independent Advice Services in Wales, Response to the Advice Services Review, Hydref 2013, tud 27. 52 Hugo Perks: Meeting the advice needs of rural areas, Grŵp Materion Gwledig Cyngor ar Bopeth, 2010, tud 31 53 Gwybodaeth gan CAB Gwynedd a De Ynys Môn

Page 21: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

21

defnyddwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio Desg Gwybodaeth Technoleg Cyngor ar Bopeth (ITD) sydd ar y bws ac sy’n cynnig gwasanaeth cyngor a gwybodaeth sylfaenol gyda chysylltiadau at wefannau cyhoeddus. Mae hyn ynddo’i hun yn galluogi defnyddwyr i elwa ar gynhwysiant digidol yn ogystal â chael cyngor amserol a chynhwysfawr yn agos at adref. Gall y gwasanaeth gynnig mynediad y tu allan i oriau a gellir trefnu ei fod ar gael mewn digwyddiadau.

Gall asiantaethau cynghori ddarparu gwasanaethau eraill i ddiwallu anghenion cynghori neu addysg, neu roi cymorth i ymgyrch ehangach.

Yn ystod y Mis Ymwybyddiaeth o Sgamiau ym mis Mai 2013, bu CAB Sir Ddinbych yn rhedeg gwasanaeth allgymorth gyda chyngor yn y fan a’r lle, ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth mewn pum pentref, gan ddefnyddio cynghorwyr hyfforddedig ac amrywiaeth o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a gwybodaeth.54

Byddai galluogi dulliau tebyg yn amcan gwerthfawr ar gyfer strategaethau datblygu lleol. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai pob strategaeth datblygu lleol gynnal ymarferiad mapio manwl o’r angen lleol am wasanaethau cynghori a galluogrwydd ariannol. Dylai Grwpiau Gweithredu Lleol ddatblygu strategaethau i wella gwasanaethau cynghori a galluogrwydd ariannol ar ôl canfod bylchau drwy ymarferiad mapio fel yr uchod ac ystyried modelau arloesol, megis y prosiect yng Ngwynedd, i wella’r ddarpariaeth. Grwpiau Gweithredu Lleol, strategaethau datblygu lleol a’r Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn croesawu’r awgrym i sefydlu Cronfa Datblygu Cymunedol Gwledig i gynorthwyo prosiectau cymunedol. Fel yr amlinellwyd yn y sylwadau uchod, credwn fod llawer o’r meysydd a awgrymwyd ar gyfer prosiectau cymunedol yn hanfodol i leddfu tlodi gwledig, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, trafnidiaeth, gwasanaethau cynghori a galluogrwydd, mynediad at wasanaethau ariannol a mynediad digidol. Nid yw’r ddogfen ymgynghori’n dweud rhyw lawer am sut y byddai’r Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig yn gweithio. Nid oes gwybodaeth am feini prawf cymhwysedd tebygol heblaw’r meysydd gweithgarwch cyffredinol sydd wedi’u crybwyll, nac am y broses ymgeisio a ragwelir. Mae mudiadau cymunedol bach yn aml yn dibynnu ar wirfoddolwyr a staff rhan amser. Dylai prosesau 54 Gwybodaeth gan CAB Sir Ddinbych

Page 22: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

22

ymgeisio felly gael eu cynllunio i’w hwyluso hwy i gymryd rhan a dylent fod yn hawdd eu defnyddio ac yn caniatáu digon o amser. Rhaid sicrhau bod digon o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i’r cyfle i wneud cais. Nodwn o’r Gwahoddiad i Gyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb i ffurfio Grwpiau Gweithredu Lleol eu bod wedi’u bwriadu i weithredu fel y prif gyfrwng ar gyfer datblygu lleol cymunedol ac y bydd disgwyl i Grwpiau ddatblygu strategaethau datblygu lleol55. Mae’n bwysig bod amrywiaeth eang o fudiadau mewn cymunedau gwledig yn cael eu galluogi i gyfrannu at greu strategaethau datblygu lleol, bod gwybodaeth am y broses yn cael ei chyfleu’n eang a bod digon o amser yn cael ei ganiatáu ar gyfer y broses ymgysylltu. Mae asiantaethau cynghori yn meddu ar arbenigedd helaeth ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau a wasanaethir ganddynt, gan gynnwys mynediad at waith, effaith y newidiadau i fudd-daliadau, mynediad digidol, gwasanaethau ariannol, tai a thlodi tanwydd. Maent mewn sefyllfa dda i gyfrannu at strategaethau datblygu lleol a byddant yn awyddus i ymgysylltu â Grwpiau Gweithredu Lleol. Gall gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ddarparu dadansoddiadau ystadegol o’r materion y mae pobl yn chwilio am gyngor arnynt yn lleol, yn ogystal â gwybodaeth fwy ansoddol am y ffordd yr effeithir ar bobl. Er enghraifft, gallwn ddarparu dangosfyrddau gyda mapiau sy’n dangos ffeithiau a ffigurau cleientiaid a chyngor, wedi’u dadansoddi fesul awdurdod lleol, a hefyd mapiau sy’n dangos lleoliad canolfannau cynghori, niferoedd cleientiaid a dangosyddion o amddifadedd lluosog fesul Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is, sy’n dangos y galw am wasanaethau cynghori, a faint sy’n eu defnyddio. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu: Dylai pob Grŵp Gweithredu Lleol ymdrechu i ymgysylltu â darparwyr cyngor lleol, gan gynnwys Canolfannau Cyngor ar Bopeth, cyn gynted â phosibl, a dylai gwasanaethau cynghori gael eu cynrychioli ar bob Grŵp Gweithredu Lleol. Rhaid i’r broses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Datblygu Cymunedol Gwledig gael digon o gyhoeddusrwydd, fod yn hawdd ei defnyddio a chaniatáu digon o amser, yn enwedig i grwpiau cymunedol llai. Dylai’r broses sy’n galluogi mudiadau lleol i gyfrannu at y strategaethau datblygu lleol fod yn dryloyw ac yn addas ar gyfer ymgysylltu gan fudiadau sy’n brin eu hadnoddau. Manylion cyswllt

55 Llywodraeth Cymru: LEADER 2014-20, Canllaw ar Gwblhau’r ffurflen Mynegi Diddordeb (Grwpiau Gweithredu Lleol), Hydref 2013, tud 4.

Page 23: Ymateb i Ly wodraeth Cymru: D - Citizens Advice...Yn 2012/13, bu Canolfannau Cyngor ar Bopeth ledled Cymru’n helpu 153,000 o bobl i ddatrys 495,000 o broblemau. Mae gwasanaeth CAB

23

Ian Thomas, Swyddog Polisi Cyngor ar Bopeth Cymru Ffon: 03000 231376, e-bost [email protected] Cyngor ar Bopeth Cymru Llawr Isaf, Tŷ Quebec Castlebridge 5-19 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen Treganna Caerdydd CF11 9AB