wwh spotlight on wrexham spring 2013 (welsh)

16
Goroesi’r newid i fudd-daliadau Mynd ar-lein, ffynnu ar-lein Ein datblygiadau diweddaraf yn eich ardal Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24 WRECSAM RHIFYN 5 | GWANWYN 2013 SYLW AR ARDAL

Upload: sharon-buckley

Post on 07-Mar-2016

225 views

Category:

Documents


3 download

DESCRIPTION

The latest news about the work of Wales & West Housing in the Wrexham area

TRANSCRIPT

Page 1: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

Goroesi’r newid ifudd­daliadau

Mynd ar­lein, ffynnu ar­lein

Ein datblygiadau diweddaraf yn eichardal

Gwasanaethau ffôn a theleofal Connect24

WRECSAMRHIFYN 5 | GWANWYN 2013

SYLW AR ARDAL

Page 2: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

2 | Sylw ar ardal WRECSAM | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Yn gyntaf oll, yn dilyn ein Harolwg diweddaraf oFodlonrwydd Preswylwyr, rwy’n falch iawn oddweud wrthych fod 88% o’n preswylwyr wedidweud wrthym eu bod nhw’n fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd gan WWH.Mae hyn yn gynnydd o 2% o’i gymharu â’r arolwga wnaethom yn 2011, ac yn gynnydd sylweddol o7% ar y canlyniadau a gawsom yn 2007.

Datblygiad sylweddol arall ers ein rhifyn diwethafo Sylw ar ardal Wrecsam yw ein buddsoddiadmewn saith swydd arloesol, sef y SwyddogionCefnogi Tenantiaeth newydd. Ar ôl ymarfer recriwtio llwyddiannus, mae ein Swyddogionnewydd wrthi’n dechrau ar eu gwaith newydd yfoment hon ledled Cymru, ac fe fyddan nhw’ncymryd camau rhagweithiol ac ymarferol i helpuein preswylwyr i oroesi storm y newid i fudd­daliadau.

Ledled y busnes, rydym yn parhau i archwilio abuddsoddi mewn technoleg newydd, ac mae einrhaglen cynhwysiant digidol yn parhau i ffynnu, acyn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith ohelpu ein preswylwyr i ddelio â newidiadau syddar ddod i fudd­daliadau.

Rydw i hefyd yn falch iawn o gyhoeddi ein bodwedi cael swm sylweddol o gyllid ychwanegol ganLywodraeth Cymru i’n helpu ni i adeiladu cartrefifforddiadwy y mae eu hangen yn fawr ledledCymru, yn gydnabyddiaeth o’n gallu fel cymdeithas sy’n datblygu. Pan anfonom ein Cynllun Busnes atoch ddiwedd yr hydref llynedd,dywedom wrthych y byddem yn darparu 800 ogartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf. Diolchi’r buddsoddiad newydd hwn, rydym yn awr yn debygol o allu darparu 1,000 o gartrefi newydd yny pedair blynedd nesaf.

Serch hynny, dim ondrhan yn unig o’r hynrydym yn ei wneud ywdatblygu cartrefinewydd, ac felly isicrhau ein bod ynparhau i ganolbwyntioar gwsmeriaid, ac ynatebol am yr hyn awnawn, rydym yn ymgymryd â’n proses hunanasesu reolaidd. Rydw i a’m cyd­gyfarwyddwyr wedi bod yn cynnal ein sioeauteithio blynyddol i staff, a hyd yn hyn rydym wedisiarad â thros dri chwarter ein holl staff ledledCymru, nifer ohonyn nhw’n byw yn y cymunedaulle maen nhw’n gweithio, gan gael cipolwg amhrisiadwy ar eu byd ac adborth ganddyn nhw.

Yn olaf, mae’n bleser mawr gennyf ddweudwrthych fod rhestr cwmnïau gorau’r Sunday Timesyn dangos mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorauCymru am yr ail flwyddyn yn olynol ­ ac rydym yn y7fed safle yn rhestr y Deyrnas Unedig. Fewnaethom nid yn unig godi un lle o’r 8fed safle agawsom yn 2012, ond llwyddom hefyd i ddalgafael yn ein safon aur Tair Seren mawr ei bri.Rwy’n siŵr y cytunwch fod hwn yn ganlyniad boddhaus arall, ac yn glod i waith caled ac ymroddiad ein staff gwych. I gloi, rwy’n gobeithio ybydd y cylchlythyr briffio hwn yn fodd o roigwybod i chi am y diweddaraf am lawer o’n gwaithar lawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â darlunehangach byd WWH. Peidiwch ag oedi cyn cysylltuunrhyw dro gyda’ch syniadau a’ch sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywirAnne Hinchey, Prif Weithredwr.

CYFLWYNIAD ANNECroeso i rifyn gwanwyn 2013 Sylw ar ardal Wrecsam, sy’n rhoi’rdiweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ein cymysgedd arferol o newyddion ynghylch rhai o’n prosiectau cyfredol yn benodol i’rsir, ynghyd â’r diweddaraf am faterion perthnasol drwy’r sefydliad cyfan.

Page 3: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

3 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Drwy weithio’n effeithlon â thîm Budd­daliadau Tai Bro Morgannwg, rydymwedi gallu nodi’r 37 o aelwydydd WWH yn y sira fydd yn cael eu heffeithio gan y newid.

Mae ein staff wedi cysylltu â’r holl breswylwyra gaiff eu heffeithio i esbonio’r newidiadau,trafod yr effaith bosibl ar gyllidebau aelwydydda gweithio gyda nhw i ganfod atebion fforddiadwy.

Hyd heddiw, mae’r mwyafrif llethol o’npreswylwyr wedi dweud wrthym eu bodnhw’n bwriadu aros yn eu cartrefi presennol,er y bydd nifer yn cael anhawster dod o hyd i’rarian sydd ei angen yn lle’r budd­dal a gollir.

Gan gydnabod y bydd nifer o’n preswylwyrangen rhagor o help i gynnal eu tenantiaethau,rydym hefyd wedi buddsoddi’n drwm mewndarparu cymorth parhaus drwy greu saith

swydd gwbl newydd – y Swyddogion CefnogiTenantiaeth.

Bydd y swyddogion yn dechrau gweithio gydani yn awr ledled Cymru, gyda phedwar (Natalie Davies, Amanda Collins, Stuart Lock aSharon Jones) yn y De, un (Donna Steven) yn yCanolbarth a dau (William Brook a Jen Bailey)yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Fe fyddannhw’n gweithio gyda phreswylwyr i’w helpunhw i ddelio ag effaith yr holl newidiadau arfaethedig i fudd­daliadau, gan gynnwyscyflwyno’r Credyd Cynhwysol, gan roi’r wybodaeth, y dewisiadau, y nerth a’r gobaithiddyn nhw allu goroesi’r storm.

Wrth gwrs, un o effeithiau’r dreth ar ystafelloedd gwely yw ein bod ni’n gweld rhaio’n cartrefi mwy o faint – yn enwedig cartrefiteuluol â thair ystafell wely – ar gael. Unwaitheto, rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, a phobpartner priodol arall, i sicrhau fod y boblbriodol sydd angen tai yn cael mynediad at ycartrefi fforddiadwy hyn.

GOROESI’R NEWIDI FUDD-DALIADAU

Mae’r newidiadau i fudd­daliadau wedi bod yn nodwedd amlwgar ein hagenda, ac yn parhau i fod felly, yn enwedig effaith y‘dreth ar ystafelloedd gwely’ a ddaeth i rym ar 1 Ebrill.

Page 4: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

4 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

YMUNWCH Â’R SGWRS

Mae gennym dros 1,300 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn.Ymunwch â’r sgwrs a dilynwch ni @wwha. Rydym yn trydar bobdydd am newyddion, swyddi, digwyddiadau cyfagos, cyfleoeddhyfforddi, mentrau codi arian elusennol, ffotograffau a llawer mwy.

Gallwch hefyd ein gwylio ni ar ein sianel YouTubewwhahomesforwales.

Page 5: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

5 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Bodlonrwydd cyffredinol Rydym yn falchiawn o roi gwybod i chi fod 88% (pedwar obob pum preswyliwr) yn fodlon gyda’rgwasanaeth cyffredinol y mae WWH yn eiddarparu. Mae hyn yn gynnydd o 2% o’igymharu â’r arolwg a wnaethom yn 2011, acyn gynnydd sylweddol o 7% ar y canlyniadaua gawsom yn 2007.

Gwasanaethau cwsmeriaid Mae ein sgoriauar gyfer safon y gwasanaethau cwsmeriaidpan oedd pobl yn cysylltu â ni yn dda iawn.Yn neilltuol felly, rhoddodd dros hanner yraelwydydd (52%) sgôr berffaith o 10 i ni amnatur gymwynasgar y staff, gyda’r sgôr gyfartalog yn cyrraedd 8.65 allan o 10. Ynogystal, bu cynnydd sylweddol yn lefelau bodlonrwydd â chael ymateb prydlon (7.99oedd y cyfartaledd, o’i gymharu â sgôr o 7.70yn flaenorol).

Y cartref Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr ynfodlon gyda’u cartref, gyda sgôr gyfartalog o7.99 allan o 10, gan gynnwys sgôr o 10 gan32% o’r sampl. Yn gyffredinol, mae sgoriau cyfartalog pob nodwedd yn y cartref yr unfath (ac yn y rhan fwyaf o achosion, yn uwch)na’r sgoriau a nodwyd yn 2011.

Canlyniadau penodol i Wrecsam Yn gyffredinol, mae barn pobl am eu cymdogaeth fel arfer yn ffactor bwysig ynlefel eu bodlonrwydd â’u llety a’u landlord.Felly, mae’n galonogol gweld fod ymatebwyr

yn Wrecsam wedi rhoi sgôr gyfartalog o 8.1allan o 10 am eu bodlonrwydd â’u cymdogaeth, gyda llawer o’r diolch am hynnyi’w briodoli i’r ffaith fod 42% wedi rhoi sgôr o10. Ymysg y rhesymau pennaf a nodwyd, dywedodd dros chwarter o’r ymatebwyr(29%) fod ganddyn nhw ‘gymdogion da’, 25%eu bod yn byw mewn man tawel, a 19% yncanmol y mwynderau oedd gerllaw.

Fe wnaethom hefyd ofyn i breswylwyr am eubarn ar ein blaenoriaethau er gwella amrywiaeth o feysydd gwaith dros y blynyddoedd a ddaw. Mae’r canlyniadau yndangos yn glir ein bod yn bwriadu gwella’rmodd rydym yn darparu gwasanaethau sy’nberthnasol i’n preswylwyr ac yn cael eu gwerthfawrogi ganddyn nhw. Y tair eitem amlycaf a nodwyd gan ein preswylwyr ynWrecsam yw:

• adolygu sut rydym yn ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

• gwneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni

• adolygu’r gwasanaethau i gefnogi preswylwyr hŷn a’u helpu i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi

Felly, beth nesaf? Rydym nawr yn archwiliocanlyniadau’r arolwg hwn yn fwy trylwyr, gangraffu ar sylwadau penodol y preswylwyr.Bydd y rhain yn amhrisiadwy i ni wrth symudymlaen a gwella ein gwasanaethau ymhellach.

AROLWG BODLONRWYDDPRESWYLWYR - WRECSAM

Rydym yn cynnal ein Harolwg blynyddol o FodlonrwyddPreswylwyr ymhlith traean o’n haelwydydd (tua 2,700) bobblwyddyn. Fe wnaethom gynnal ein hail arolwg blynyddol,a’r un mwyaf diweddar, yn ystod tymor yr hydref 2012.Dyma rai o’r prif ganlyniadau ynghyd â chipolwg ar yr hynsy’n bwysig i’n preswylwyr yn Wrecsam.

Page 6: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

6 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

DATBLYGU CARTREFI NEWYDDYN WRECSAM

Yn ddiweddar, rhoddwyd caniatâd cynllunioam 20 cartref arall ar safle cyfagos RivuletRoad, gan fynd â chyfanswm y ddarpariaeth yny datblygiad adfywio nodedig hwn gan AnwylConstruction ar ein cyfer, mewn partneriaeth âChyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i 149 ogartrefi fforddiadwy newydd, ynghyd â’rGanolfan Adnoddau Cymunedol a’r Cyfleustermeddygol newydd.

Mae Libby Price newydd gael ei phenodi gennym yn Swyddog Cyswllt Cymunedol argyfer y datblygiad hwn, a thros y misoeddnesaf, bydd yn gweithio’n agos iawn â’r gymuned leol ynghylch datblygu’r GanolfanGymunedol.

Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru,Jane Hutt, ac Aelod Cynulliad Gogledd Cymru,Aled Roberts, wedi ymweld â’r safle. Roedd yddau wedi cael eu plesio’n fawr gyda’r modd ymae’r datblygiad hwn yn cefnogi efo prentisifanc, ynghyd â rhoi £50 miliwn (yn ôl yr amcangyfrifon) yn ôl i’r economi leol, diolch i’rdefnydd o gadwynau cyflenwi lleol a labrwyrlleol.

Fe wnaeth helfa wyau Pasg a digwyddiad cymunedol ddenu dros 100 o bobl, gan gic­danio rhaglen gyfan o weithgareddau cymunedol dros y gwanwyn. I gael gwybod ydiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn y datblygiad newydd cyffrous hwn, ewch iwww.hightownflats.com – ein blog cymunedol ar gyfer yr ardal.

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a fydd ynein galluogi i ddarparu mwy na 1,000 o unedauyn ystod y pedair blynedd nesaf ar draws yrholl ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.

Mae darparu digon o gartrefi fforddiadwy osafon uchel yn parhau i fod yn fater o bwys.Serch hynny, rydym yn parhau’n hyderus o’ngallu i gwrdd ag amrywiaeth o anghenion.Rydym mewn sefyllfa gref yn ariannol, a diolch ihyn rydym nid yn unig yn gallu adeiladu rhagor ogartrefi newydd, ond rhagor o’r math priodolsy’n cwrdd â’r galw lleol. Drwy ddarparu cartrefiam brisiau gwahanol, rydym yn cynnig dewisiadau o ddifrif i ni, ac yn bennaf oll, i’n cwsmeriaid cyfredol ac arfaethedig hefyd.

Mae gwaith yn parhau ar garlam ar ein datblygiad sy’n werth £17miliwn dros ddau safle, gyda disgwyl i’r cartrefi newydd cyntaf arKingsmills Road gael eu trosglwyddo i’w preswylwyr cyntaf ofewn wythnos neu ddwy.

Page 7: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

7 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

GWAITH ADNEWYDDU MAWRMEWN ARDAL GADWRAETHMewn man arall yn Wrecsam, rydym wrthi’ngweithio ar brosiect adnewyddu sy’n werth£80,000 o fila Fictoraidd yn ardal gadwraethWrecsam. Bydd y prosiect hen yn darparucartref addas i gleientiaid Hafal, prif elusenCymru ar gyfer pobl sydd ag afiechydon meddwl difrifol, ynghyd â’u gofalwyr. Mae ein

hisgontractwyr Cambria Maintenance Servicesyn cynnal y gwaith, ac yn bwriadu cadw cymaintâ phosibl o’r nodweddion gwreiddiol i roi gorffeniad cynnes a chartrefol i’r adeilad. Maedisgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn brydlon,gyda disgwyl i breswylwyr cyntaf Hafal ddechraudefnyddio’r adeilad ym mis Mai.

Bydd William yn helpu ein preswylwyr i ddelio â heriau niferus y newidiadau i fudd­daliadau, ynghyd â darparu cefnogaeth a chyngor ar gyllidebu’n effeithiol a gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn y lle cyntaf, bydd William yn canolbwyntio ei ymdrechion ar helpu’rpreswylwyr hynny sydd eisoes wedi cael eunodi fel rhai sydd mewn perygl o wynebucaledi ariannol, neu fynd i ddyled, o ganlyniad i newidiadau yn sgil y ‘dreth arystafelloedd gwely’ a newidiadau arfaethedig eraill i fudd­daliadau.

Bydd William yn gweithio ochr yn ochr â Jen Bailey, ein hail Swyddog Cefnogi Tenantiaeth dros ardal gogledd Cymru, syddar hyn o bryd yn gweithio fel Cydlynydd yProsiect Cynhwysiant Digidol Take Control.

CEFNOGAETH Â THENANTIAETHRydym yn falch iawn o allu cyflwyno William Brook, ein Swyddog Cefnogi Tenantiaeth newydd ar gyfer ardal Wrecsam.

Page 8: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

8 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Rydym yn gwella effeithiolrwydd ynni eincartrefi y tu hwnt i’r hyn y mae LlywodraethCymru yn ei fynnu, fel bod ein preswylwyr ynarbed arian, yn defnyddio llai o danwydd ac ynllai tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Rydymhefyd wedi buddsoddi £6 miliwn yn y pummlynedd ddiwethaf i liniaru tlodi tanwydd ynein cartrefi, ac fe wnawn ni barhau i fuddsoddimewn mesurau i wella’r sefyllfa.

Rydym yn cefnogi sawl prosiect amgylcheddolyn yr ardal hon, o’r rhai bychan iawn i rai tipynmwy o faint. Un enghraifft yw’r man newyddi’r gymuned ar Barter Road – menter ar y cydrhwng WWH a Chymdeithas Tenantiaid Barracksfield – a agorodd ei giatiau ym misIonawr 2013. Ei nod yw helpu i bontio’r bwlchrhwng pobl ifanc a phobl hŷn yn Hightown,drwy annog addysg i rai o bob oed, a dod âphobl o bob gallu ynghyd er budd ei gilydd.

Mae ‘Prosiect Chwarae Rhwng y CenedlaethauHightown’ yn gartref i barc chwarae i blantbach a gwelyau wedi’u codi i blannu llysiau.

Bydd preswylwyr hŷn yn rhoi addysg i’r genhedlaeth iau ar arddio / ailgylchu a bwydcartref er mwyn hyrwyddo byw’n iach a lleihauarwahanrwydd cymdeithasol. Bydd popeth adyfir, o lysiau, saladau, ffrwythau a pherlysiauyn cael eu rhannu ymysg y garddwyr a ChlwbCinio Sylvester Court Barracksfield.

Cefnogir y prosiect hwn, sy’n werth £43,000,gan wirfoddolwyr a chyllid gan ein GrantGwneud iddo Ddigwydd a’n Cronfa Amgylcheddol, ynghyd â sawl partner felWREN, Cyngor Cymuned Offa, CymdeithasMudiadau Gwirfoddol Wrecsam, HSS Tool Hireac Anwyl Construction. Diolch yn fawr iawn ibawb.

Am ragor o fanylion ynghylch ein Rhaglen Cynnal a Chadw wedi’i Gynllunio, cysylltwch â’rRheolwr Masnachol, Mike Wellock.

Ac am ragor o wybodaeth ynghylch ein gwaithAmgylcheddol; gan gynnwys ein Cronfa Amgylcheddol, cysylltwch ag Owen Jones, einSwyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd.

GOFALU AMYR AMGYLCHEDD YN WRECSAM

Mae’n un o’n blaenoriaethau corfforaethol ein bod yn lleihau’reffaith rydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ynghyd ag effaith einpreswylwyr, hefyd.

Page 9: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

Felly, maen nhw nawr yn gweithredu o’nCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn einPrif Swyddfa yng Nghaerdydd am gyfnodprawf. Aeth y gwasanaeth yn fyw ym misChwefror, ac mae’r tîm o dri wrthi’n atebgalwadau dros ben gan ganghennau presennol Moneyline Cymru.

MONEYLINE CYMRUNAWR YN GWEITHREDU O’N CANOLFAN GWASANAETHAU CWSMERIAID

Mae Moneyline Cymru yn gweithredu mewn nifer o ganghennau, yn bennaf yn Ne Cymru, ac maen nhw eisiau cynnig gwasanaeth ffôn i bobl o rannau eraill o Gymru, a phoblnad ydyn nhw’n gallu cyrraedd eu swyddfeydd.

9 | Sylw ar ardal WRECSAM | NEWYDDION LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Page 10: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

10 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gan gofio am yr angen i nifer o breswylwyrsymud i gartrefi llai o faint o ganlyniad i’rdreth ar ystafelloedd gwely, rydym wediymuno â Chymdeithasau Tai Cadwyn a Linc igefnogi creu prosiect House Swap Wales arFacebook. Yn ei hanfod, ceir cyfres o grwpiau Facebook fesul sir – e.e. HouseSwap Cardiff, House Swap Wrexham ac ati –ac mae House Swap Wales wedi ei anelu atdenantiaid tai cymdeithasol sydd angensymud o ganlyniad i newidiadau i fudd­daliadau, gan gynnwys y dreth arystafelloedd wely, neu sydd eisiau symudam resymau eraill. Mae’n darparu llwyfan

parod a syml ar­lein i breswylwyr hysbysebueu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim,chwilio am gartrefi posibl y gallen nhwsymud iddyn nhw, a hwyluso’r gwaith osymud eu hunain.

Rhagor o wybodaethwww.facebook.com/HouseSwapWales a dilynwch ni ar Twitter@HouseSwapWales

CEFNOGI HOUSE SWAP WALES

Page 11: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

11 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Felly, rydym yn parhau i annog ein preswylwyri fynd ar­lein, a gwneud yn fawr o’r cyfle i fodar­lein, drwy amrywiaeth o fentrau cynhwysiant digidol ledled Cymru.

Ein bwriad yw:• helpu pobl i wneud yn fawr o’u hincwm a

delio â newidiadau i fudd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cynhwysol

• mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol drwy alluogi preswylwyr i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau a thu hwnt

• cynorthwyo preswylwyr i gael gwell gwerth am arian drwy gyrraedd gwybodaeth a phrynu nwyddau ar­lein

• annog preswylwyr i fanteisio ar yr holl fuddiannau addysgol – a hwyl – bod ar­lein.

Yn ne Cymru, mae ein cynllun peilot mynediadfforddiadwy at fand eang Wi­Fi yn Nhŷ

Pontrhun ym Merthyr Tudful yn sylfaen wych ini ymestyn y fenter hon ymhellach, lle bynnagy bydd hynny’n bosibl, ledled Cymru.

Ac yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi galluogi Wi­Fi mewn lolfa gymunol yn Nant yMôr, ein cynllun gofal ychwanegol ymMhrestatyn. Mae gwaith yn cael ei gynnal i alluogi Wi­Fi mewn lolfeydd cymunol yn nifero’n cynlluniau er ymddeol yng ngogledd a deCymru.

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau ‘deall sut’gyda phreswylwyr, fel rhan o brosiect ‘TakeCtrl’, rydym yn ei gynnal ar ran Fforwm GalluAriannol Gogledd Cymru. Hyd yn hyn, maeTake Ctrl wedi helpu dros 500 o breswylwyr ifynd ar­lein, gyda chefnogaeth 48 o wirfoddolwyr. Mae Jen Bailey, un o’n swyddogion Cefnogi Tenantiaeth, yn canolbwyntio’n benodol ar y galw hwn.

MYND AR-LEINFFYNNU AR-LEIN

Mae technoleg yn rhyddhau, yn grymuso ac yn galluogi. Maemwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at fudd­daliadau, ar gael drwy’r rhyngrwyd yn unig, ac eto nid ywmwyafrif ein preswylwyr wedi cysylltu â’r we.

Page 12: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

12 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

CONNECT24 GWASANAETHAUFFÔN A THELEOFAL YN WWH

Pam Connect? Gan mai’r bwriad yw cysylltupobl â’r gwasanaethau maen nhw eu hangeni’w galluogi i fyw’n annibynnol a diogel yn eucartrefi.

A 24? Gan ein bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn darparugwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal Connect24 i dros 4,000 o aelwydyddledled Cymru, ac mae gennym gontractaugyda:

• Tai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen­y­bont ar Ogwr

• Grŵp Tai Pennaf yng ngogledd a chanolbarth Cymru

• Cymdeithas Tai Newydd yn ne a chanolbarth Cymru

Rydym hefyd yn monitro larymau ar gyferunigolion mewn llety ar rent ynghyd âpherchen­feddianwyr annibynnol. Mae system monitro larwm syml, gan gynnwys ycyfarpar, yn costio cyn lleied â £2.50 yr wythnos. Mae hyn yn helpu i roi tawelwchmeddwl i bobl hŷn a phobl agored i niwed feleu bod nhw’n gallu parhau i fyw’n annibynnolyn eu cartref eu hunain, a rhoi tawelwch meddwl i’w teuluoedd hefyd – y cyfan am bris fforddiadwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth llawn24/7 y tu allan i oriau, ac mae gennymgontractau â’r cymdeithasau tai a ganlyn, sy’ngolygu ein bod yn darparu gwasanaethau y tuallan i oriau i 27,000 o aelwydydd ledledCymru:

• Hafan Cymru ledled Cymru• Grŵp Gwalia ledled Cymru• Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen

Am ragor o wybodaeth ynghylch Connect24,ewch i’n gwefan www.connect­24.co.uk neucysylltwch â Jackie Edwards, Rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, neuCate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth, ar 0800 052 2526.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau ffôn a theleofal ersdros 10 mlynedd, a chymaint yw’r bri ar y rhan hwn o’n gwaithfel ein bod wedi rhoi enw penodol ar y gwasanaeth, Connect24.

Page 13: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

13 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Wedi ei mabwysiadu fel ein prif elusen bartnerym mis Ionawr eleni, rydym yn barod wedi codidros £10,000 at yr achos da. Mae digwyddiadauyn cynnwys diwrnodau gwisg anffurfiol rheolaidd i staff, cymryd rhan yn ras hwyl DyddGŵyl Dewi, ac yn fwyaf diweddar, awyrblymionoddedig.

Cafodd arweinydd tîm elusennol WWH, DiBarnes, gwmni’r swyddog gweinyddol VerityKimpton a’r Prif Weithredwr Anne Hinchey ynyr awyren, a neidiodd y tair o 13,000 troedfedduwchlaw maes awyr Abertawe ddydd Sadwrn 6Ebrill. Diolch yn fawr iawn i bawb a’u cefnogodd nhw yn y fenter arswydus hon. Ceir

Y DIWEDDARAF AM ELUSENNAUAr ôl dwy flynedd wych, pan gododd staff a phreswylwyr£25,000 tuag at Help for Heroes, ein helusen bartner gorfforaethol rhwng Ionawr 2013 a Rhagfyr 2015 yw Cymdeithas Strôc Cymru.

rhagor o fanylion am ddigwyddiadau elusennola chodi arian sydd ar ddod ar ein gwefan ac arTwitter @wwha.

Mae elusennau eraill sydd wedi elwa yn sgilgwaith codi arian gan y staff, yn cynnwys Diwrnod trwynau coch Comic Relief a BanciauBwyd Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghaerdydd,Merthyr Tudful, Wrecsam, Bro Morgannwg aPhen­y­bont ar Ogwr.

Di Barnes, Verity Kimpton ac Anne Hinchey – tîm awyrblymio dewr WWH.

Page 14: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

14 | Sylw ar ardal WRECSAM | Y DARLUN EHANGACH | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Gwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru 2013:

Mae Les Cooper wedi cael ei enwebu yn dilynei farwolaeth i gael y wobr i Gydweithiwr Ysbrydoledig. Bu farw Les yn annisgwyl fis diwethaf, ac roedd yn Swyddog Cyngor arArian i ni a oedd yn gweithio yn ein swyddfa yny Fflint yng ngogledd Cymru. Roedd yn aelodgweithgar o Fforwm Gallu Ariannol GogleddCymru, ac roedd yn hynod ddylanwadol ac ynuchel iawn ei barch yn y sector. Cafodd effaithgadarnhaol iawn ar fywydau pawb a fu mewncysylltiad ag ef.

Mae’r garddwyr medrus ‘Ecoryfelwyr WesternCourt’ o’n cynllun er ymddeol Western Courtym Mhen­y­bont ar Ogwr wedi cael lle ar restrfer Gwobr Gwella’r Amgylchedd.

Gwobrau Arwyr Tai CIH:

Mae’r Rheolwr Cynllun Helen Jones o Landudno, Conwy, wedi cael lle ar y rhestr feryng nghategori hynod boblogaidd CydweithiwrYsbrydoledig.

Gwobrau Rhagoriaeth mewn AdnoddauDynol:

Mae Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, wedicael lle ar restr fer Gwobr y Prif Weithredwrsy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y sectorElusennol / Nid­er­elw. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Anne wedi cael lle arrestr fer y wobr hon.

CRYNODEB GWOBRAUPan aed i’r wasg, roedd nifer o staff a phreswylwyr wedi cael llear restr fer sawl gwobr fawreddog. Maen nhw’n cynnwys:

Les Cooper Helen Jones Anne Hinchey

Ecoryfelwyr Western Court

Page 15: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

15 | Sylw ar ardal WRECSAM | STAFF LLEOL | Gwanwyn 2013 | www.wwha.co.uk

Pob ardal: O’r chwith i’r dde: Tony Wilson (Cyfarwyddwr Cyllid)Shayne Hembrow (Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Masnachol) Anne Hinchey (Prif Weithredwr) Steve Porter (Cyfarwyddwr Gweithrediadau)

Pob ardal: Lynnette Glover, Pennaeth TaiNikki Cole, Pennaeth DatblyguAlex Stephenson, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo

Wrecsam

Rheolwr Tai: Cate Porter (Anghenion cyffredinol)Rheolwr Tai: Anne Caloe (Tai er ymddeol)Rheolwr Masnachol: Andrew Richards (Atgyweiriadau)Rheolwr Masnachol: Mike Wellock (Cynnal a chadw wedi’i gynllunio)Rheolwr Datblygu: Craig Sparrow

Swyddogion Tai: Anghenion Cyffredinol Tai er ymddeolTanya Bell Rhian MarshJill WilcoxDonna Sutton

Mentrau yn y Gymdogaeth: Bridget GarrodVy Cochran (Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau)Claire Hammond (Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr)

Swyddogion Rheoli Asedau: Andrew LesterSwydd wag (i’w benodi/i’w phenodi)

Yr Amgylchedd: Owen Jones

Swyddog Cefnogi Tenantiaeth: William Brook / Jen Bailey

Ffôn: 0800 052 2526E­bost: [email protected]: www.wwha.co.uk

LOCAL STAFF

Page 16: WWH Spotlight on Wrexham Spring 2013 (Welsh)

Tai Wales & West 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Ebrill 2013