welsh wrexham says hello

73
chwarae helo byd byw gweithio wrecsam

Upload: wrexham-says-hello

Post on 05-Mar-2016

235 views

Category:

Documents


10 download

DESCRIPTION

Mae Wrecsam yn lle gwych i fod. Mae'n lle y gelli di (a'r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

TRANSCRIPT

Page 1: Welsh wrexham says hello

trowch y

i deimlo’r wefr

dudalen

einbusnes ni yw

creu

helloworld

chwarae

helobyd

byw gweithio

wrecsam

Page 2: Welsh wrexham says hello

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod.Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd.

Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn

dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 64

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

63

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 3: Welsh wrexham says hello

sut ma’i?

www.facebook.com/wxmsayshello

#wxmsayshello

sganiwch fi3

Page 4: Welsh wrexham says hello

helobyd

www.wrexhamsayshello.co.uk

byw gweithio

4

Page 5: Welsh wrexham says hello

byw 6

siopa a’r diwylliant caffi 8

bywyd nos 12

cefn gwlad a’r pentrefi 14

cariad 18hanes a threftadaeth 20

diwylliant 26

meibion a merched enwog 30

cynhyrchion lleol 32

dyfrbont pontcysyllte canol

creu 34

ein busnes ni yw creu 36

plant yr haul 39

teigr teigr llewyrchus, ffyniannus 42

mae gwybodaeth yn rym 42

eich busnes: ein busnes 44

chwarae 46

chwaraeon 48

cerdded 54

bywyd y parc 56

y warchodfa natur 58

digwyddiadau 59

hwyl fawr 60

mapiau 62

cynnwys

chwarae

5

credydau

Wedi ei bweru gan yr ideoleg Wrecsam Yfory.

Wedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau aDatblygu Economaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898www.whitefox-design.co.uk

Mae’r cyfranwyr ffotograffau yn cynnwys EyeImagery, Hawlfraint y Goron (2012) CroesoCymru, Prifysgol Glyndwr, Cymdeithas Bêl-droedCymru, Getty Images, Macesport a Moneypenny.

Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg.

Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, ni all Cyngor Bwrdeistref

Sirol Wrecsam dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau, gwallau neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sydd a wnelo unrhyw fodd â chyhoeddi’r wybodaeth y mae hwn yn ei gynnwys neu sydd yn deillio ohoni.

Page 6: Welsh wrexham says hello

Byw’r freuddwyd, wyt ti?

Os wyt ti’n byw ym

Mwrdeistref Sirol Wrecsam,

efallai’n wir dy fod ti. Ac os

wyt ti’n ymweld, yn astudio

neu’n gweithio yma, efallai

y cei di flas arno.

6

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 7: Welsh wrexham says hello

byw

7

Page 8: Welsh wrexham says hello

brandiau’r enwau mawr

Gadewch i ni ddechrau efo Dôl yr Eryrod.Ers ei hagor yn 2008, mae’r ganolfansiopa ffasiynol hon wedi bod yn gymorth isaethu Wrecsam i fyny’r cynghreiriausiopa swyddogol.

Mae hi ar wyth acer o ganol y dref ac maenaws gosmopolitan hyfryd i’r lle efo’imannau agored, nodweddion dwr,defnyddiau hyfryd o gerrig a llechi, fflatiau ar ben yr adeilad ac ychydig bacho ddiwylliant caffi. Hyfryd iawn.

Mi weli di siopau mawr fel Debenhams,Marks and Spencer, Next a llond y lle ofrandiau ffasiwn o fri, coffi gwynewynnog a chacennau bach mewn llefydd

Mae’n hollol siwr bod siopa yn un o’rgorau o bleserau bach bywyd. Rydyn niwrth ein bodd efo siopa.

Siopa hamddenol wrth gwrs, heb orfodbrysio a digon o amser i fwynhau coffibach efo papur newydd y bore hwnnwneu ryw gylchgrawn dylunio mewnolgwych.

Tamaid bach i fwyta efallai. Dim byd wediei gynllunio, dim ond posibiliadau.

Wel, dyma’r newyddion da. Dyna’n uniony math y siopa y byddwn ni’n ei wneud ynWrecsam, y math sydd wedi ei wneud ermwyn ei fwynhau, achlysur cymdeithasol.

siopa a’r diwylliant caffi

8

Dôl yr Eryrod

Page 9: Welsh wrexham says hello

y rhai annibynnol

Felly, rydyn ni’n gwneud pethau’n fawr acyn hardd, ond mi fedrwn ni wneud ‘tlwsyw popeth bychan’ hefyd.

Ger ein lleoedd manwerthu mawr maegennym strydoedd hanesyddol fel Allt yDref, Stryt y Banc a Rhes y Deml, a llawero siopau bach annibynnol hynod sy’n rhoicalon a swyn i’r dref. I’r dim ar gyfer poblsy’n hoffi bod yn wahanol i’r cyffredin.

Siopa ar gyfer yr annibynnol eu meddwl.

Siopau bach ffasiwn, gemyddion, gweithdaiffotograffwyr, siopau lle gweli di jariau

fel Starbucksa Costa. Hefyd mae siopauffôn symudol sy’n cynnig y taclau a’r geriach diweddaraf i dy gadw di’n siarad,neges destun a thrydar.

Mae Sinema’r Odeon yno hefyd, llawer odai bwyta a chanolfan bowlio deg (mwyam hynny i ti ar dudalen 12).

Ac i wneud y coffi a’r cacennau ’na yn fwymelys, mae digonedd o le i barcio hefyd(970 o leoedd yn fanwl gywir). Felly doesdim rhaid byth i ti boeni lle i barcio dy gar.

Mae bywyd yn dda.

Dôl yr Eryrod www.eagles-meadow.co.uk

9

Page 10: Welsh wrexham says hello

yn llawn hyd yr ymyl o fferins hen ffasiwn,fel ‘swizzle boms’, ‘sugar twirls’ a danteithioneraill i ddeffro’r plentyn 10 oed ynot ti.

www.wrexham.towntalk.co.uk

marchnadoedd

Mi wnei di sylwi rhywbeth arall hefyd panfyddi di’n siopa yn Wrecsam. Rydyn ni’nhoff iawn o sgwrsio. Dyna’r math o bethsy’n digwydd mewn tref farchnad.

Mae gennym ni dair marchnad dan do acun wythnosol tu allan yng nghanol y dref,yn gwerthu popeth o sosej a stecen i ddillad a dodrefn. Ac mae hwyl y sgwrs ynrhad ac am ddim. Dyna fargen.

Mae’r Farchnad Gig, y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Bobl yn agoredo ddydd Llun i ddydd Sadwrn (er bod yddwy gyntaf yn cau’n gynnar dyddMercher).

Ac maen nhw’n cynnal y farchnad wythnosol tu allan bob dydd Llun.Wnaethon ni sôn hefyd ei bod hi’n un o’rmwyaf yng Ngogledd Cymru?

Hefyd, maen nhw’n gwerthu amrywiaetho grefftau a chynhyrchion lleol mewn digwyddiadau ar hyd a lled y fwrdeistrefsirol. Eisiau enghraifft? Dos i weld marchnad fisol y ffermwyr yn Eglwys ySantes Farged yn Garden Village.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

10

Page 11: Welsh wrexham says hello

parciau manwerthu

Yn ystod y deng mlynedd a aeth heibio, maeWrecsam wedi bod yn un o’r canolfannaumanwerthu sydd wedi tyfu gyflymaf yn y DU.

Ffaith: 615,000 o droedfeddi sgwâr o loriau siop wedi eu hadeiladu ers 1999.Mae rhywun yn rhywle wedi bod yn siopao ddifrif.

Mae llawer iawn o’r twf yma wedi bod ar ygwahanol barciau manwerthu sydd wedityfu yn ac o gwmpas canol y dref, yn cynnwys y Ganolfan Ganolog, Plas Cocha’r Werddon – efo digonedd o barcio ganbob un.

Mi weli di lawer iawn o fanwerthwyrenwau mawr yn gwerthu popeth o ddilladchwaraeon i nwyddau trydanol, ac o ddodrefn i fwyd a diod.

parciau canol y dref

Gair o rybudd rwan. Mae siopa yn wych,ond weithiau mae’n rhaid i ti roi dy draed i

fyny, mynd o glyw bwrlwm y dyrfa amfunud a rhoi’r bagiau siopa ’na i lawr.

Mae mannau agored fel Llwyn Isaf a PharcBellevue yn cynnig lleoedd tawel hyfrydyn agos at ganol y dref, lle gelli di ymlacioac edmygu’r bargeinion call rwyt ti wedieu prynu.

Lleoedd i arfer dy gampau ar y bwrdd sgrialu, taflu ffrisbi neu eistedd yn yr haul.Efo hufen ia? Dyddiau dedwydd.

siopa allan o’r dref

Edrycha o dy gwmpas. Mae cefn gwladWrecsam yn cynnig therapi manwerthumewn lleoedd digon o syndod, fel Canolfan Grefftau a Manwerthu’r Plasau.

Mewn 247 o aceri o dir parc ger BangorIs-coed, mae ganddi 25 o siopau yn cynnwysdylunydd mewnol, siop ffasiwn, gof,canolfan arddio, siop de a thy bwyta.

01978 780277www.plassey.com

11

Page 12: Welsh wrexham says hello

bywyd nos

Mae’n wir. D’wyt ti byth yn rhy hen i fyndi’r parti.

Felly, mae’n beth da bod canol tref Wrecsamyn fwrlwm yn y nos. Tai bwyta, bariau, clybiaunos, sinema, bowlio deg. Mae’r cwbl yma.

Taset ti i lawr efo’r plantos, allet ti ddweudei fod yn ‘ffat’ neu’r ‘bom’, ond mae’r arweiniad yma wedi ei sgwennu gan boblyn eu 30au, felly dyna ddigon o hynny.

bowlio, sinemâu a thai bwyta

Mae’n berygl iawn i fowlio deg gael gafaelynot ti’n llwyr. Y sioe oleuadau, y gerddoriaeth, clecian y pinnau.

Wedyn pan wyt ti’n eu taro nhw i lawr,

rwyt ti am glywed y swn yna tro ar ôl tro.

Croeso i sbloet a sbri’r bowlio deg, TenpinBowling, yn Nôl yr Eryrod. Mae hon yn uno’r canolfannau diweddaraf o’i math efo24 o lonydd, sy’n dod â darn bach oAmerica i ganol Wrecsam.

“Mae bowlio yn un o’r ychydig o weithgareddau y mae pawb yn medru eifwynhau,” dywed y rheolwr Vince Brown.“Mae ar gyfer pob oed a phob gallu.”

Wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Wel,dos i weld ffilm yn yr Odeon wyth sgrin sy’nunion y drws nesaf neu fwynhau dathlu dygampau bowlio mewn tai bwyta fel Nando’s,Pizza Express a Frankie and Benny’s.

www.tenpin.co.ukwww.eagles-meadow.co.uk

12Bowlio Deg yn Tenpin Bowling

Page 13: Welsh wrexham says hello

clybiau nos a cherddoriaeth fyw

Fyddem ni ddim yn dweud bod Wrecsambyth yn cysgu, ond mae’n aros ar eithraed yn ddigon hwyr i blesio hyd yn oedy jolihoetiwr mwyaf erioed.

Bariau fasiynol, sofas lledr, llwyfannau bachdawnsio, lliwolchiadau LED. Enwau fel yBank, Voodoo Moon, L’Etage, Ironworksac Envy yn clecian ar dafodau’r galifantwyrnos Sadwrn yn penderfynu’r lle nesaf i fynd.

Ac os wyt ti’n un am dy gerddoriaeth fyw,dyma’r lle i ti. Mae Central Station a’r lle

sydd ganddyn nhw i lawr y grisiau YalesCafé Bar yn cynnig cymysgedd llesmeiriolo gigiau, clybiau nos a chomedi.

Y Magic Numbers, Charlatans, y Kooks,Kasabian. Maen nhw i gyd wedi chwaraeyma, a bandiau lleol dawnus dros ben.

Mae digonedd hefyd o leoliadau eraill i tifynd i roi cynnig arnyn nhw lle maen nhw’nchwarae cerddoriaeth fyw, yn cynnwysbar y myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndwr.

www.wrexhammusic.co.ukwww.centralstationvenue.com

13

Page 14: Welsh wrexham says hello

cefn gwlad a’r pentrefi

Perthi toreithiog, toeau gwellt, bythynnod

bach tlws, hen dafarnau hudolus.

Mae’n swnio fel un o setiau Midsomer

Murders, ond siarad ydym ni am rai o’r

pentrefi swynol ym Mwrdeistref Sirol

Wrecsam. Hefyd – a bydd clywed hyn yn

rhyddhad mawr i ti – maen nhw’n byw’n

hirach yno fel arfer nag yn y ddrama

dditectif ffuglen ar y teledu.

Un o’r pethau sy’n wych ynglyn â Wrecsam

yw bod gennym y gorau o fywyd y dref a

bywyd y wlad. Mae hi’n dref gyfoes llawn

bwrlwm yng nghanol cefn gwlad hyfryd a

phentrefi dymunol braf. Ac mi fedri di

fynd o un pen i’r llall mewn chwinciad.

Dyma olwg bach sydyn ar rai o’n trefi a

phentrefi gwledig.

14Y Llyn, Gresffordd

gresffordd

Mae gan Gresffordd un o’r eglwysi mwyaf

godidog yng Nghymru, sef Eglwys yr Holl

Saint o’r 15fed ganrif. Hefyd mae pwll y

pentref yn ddigon mawr i’w alw’n ‘Llyn’

ganddyn nhw yn aml.

Ychydig i lawr y ffordd ger Rhos Gresffordd,

neu Gresford Heath, mae cofeb i’r diwrnod

mwyaf trist yn hanes Wrecsam, sef Medi’r

22ain 1934, pan gafodd 266 o ddynion

eu lladd mewn trychineb yn y pwll glo.

www.gresford.org.uk

Page 15: Welsh wrexham says hello

yr orsedd

Efallai y bydd pobl sy’n hoff o gelfyddydyn adnabod y Felin Uchaf ar Afon Alun ynYr Orsedd. Gwnaeth JMW Turner fraslunohoni ym 1795.

Roedd ychydig yn rhy gynnar i alw am damaidyn yr Ystafelloedd Coco, yr adeilad hannerffrâm bren o oes Fictoria. Cafodd y rhaineu codi i ddenu dynion ifainc o dafarnau’rpentref, sydd, byddwch yn falch o glywed,yn dal yno ac yn dal yn brysur iawn.

www.rossett.org.uk

holt

D’wyt ti ddim yn mynd drwy CheckpointCharlie, chwarae teg, ond dos am dro oHolt dros yr Hen Bont ar Afon Dyfrdwy abyddi mewn gwlad arall – Lloegr.

Mae adeiladau hynafol nodedig eraill yno hefyd, fel adfeilion Castell Holt acEglwys St Chad – sy’n un o’r ychydig enghreifftiau sydd wedi parhau o wneudsmonach o gynllunio yn yr oesoedd canol.Ond eto, mae golwg hyfryd arni serch hynny.

www.holtvillage.co.uk

15

Castell y Waun

Y Felin Uchaf, Yr Orsedd

Pont Holt

Page 16: Welsh wrexham says hello

canol. Maen nhw’n pysgota yn yr afon,golff gerllaw a rasio ceffylau dim ondychydig gannoedd o lathenni o ganol ypentref.

www.bangorondeecommunitycouncil.co.uk

y waun a dyffryn ceiriog

Tref fach yw’r Waun ond mawr o ran yrhyn y gall ymfalchïo ynddo – dyfrbont o waith Thomas Telford, traphont o waith Henry Robertson, castell mawreddog a godwyd gan Iorwerth y 1af a maes golff pencampwriaeth.

Mae hi hefyd ar drothwy un o’r dyffrynnoeddharddaf yng Nghymru – Dyffryn Ceiriog(mwy o wybodaeth ar dudalen 54) www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

owrtyn

Mae Owrtyn yn llawn dop o adeiladauhanesyddol, cymaint felly ei bod hi wediei dynodi’n ardal gadwraeth.

Chwilia am Res y Fferyllfa - rhes ofythynnod Neo-gothig gyda bwâu ar bennau’r drysau a’r ffenestri. Mae ynohefyd Stryd Fawr arbennig o lydan, wediei hailwampio wedi i’r pentref gael eiddyrchafu’n fwrdeistref gan Iorwerth y Cyntaf.

www.overton-on-dee.co.uk

bangor is-coed

Mewn lleoliad syfrdanol ar lan AfonDyfrdwy, rwyt ti’n mynd i mewn i Fangortros bont gerrig gefngrom o’r oesoedd

16

Rhes y Fferyllfa, Owrtyn Bangor Is-coed

Pont OwrtynCastell Y Waun

Page 17: Welsh wrexham says hello

rhiwabon

Dyma bentref â hanes hir iddo. Mae tystiolaeth o anheddiad oes yr efydd acmae’r Ty Crwn neu’r Hen Garchar ar Stryty Bont yn un o dri yn unig o garchardaineu dai cloi canoloesol sydd wedi parhauyng Nghymru. Ac os ei di ar grwydr i lawr yStryd Fawr, mi wnei di sylwi bod tai o oesFictoria wedi eu gwneud o frics coch Rhiwabon sy’n adnabyddus trwy’r byd yngrwn.

Mae Giatiau trawiadol Wynnstay i’w gweldyno hefyd ar Stryt y Parc ac mae’n rhaidyn wir i ni sôn am y Bridge End – a gafoddei henwi’n ddiweddar yn dafarn orau ymMhrydain gan y wybodusion y cwrw goiawn, CAMRA. Maen nhw’n bragu cwrw yny dafarn hefyd, un sydd wedi ennill gwobrau.

www.ruabon.com

hanmer

Yn yr eglwys yn Hanmer ym 1383 y priododd

Owain Glyndwr, efallai’r Cymro mwyaf erioed. Cafodd honno ei llosgi, ond paid âsiomi. Mae’r un a godwyd yn ei lle yn y lleoliad mwyaf trawiadol yn y fwrdeistrefsirol i gyd.

Rwyt yn dod ati o lyn rhewlifol, lle maeheidiau o wyachod copog, elyrch a gwyddau Canada. Rwyt ti’n mynd i mewntrwy giatiau haearn addurnol a thrwy fynwent fawr sy’n ymestyn i fyny’r allt atyr eglwys. Bydd yn barod i gael dy syfrdanu.

erbistog

A llonyddwch y lôn goed gul o Bont Owrtyn heibio i’r Garden House “i lan nathref nid arwain ddim” – heblaw i un o’rpentrefi mwyaf godidog yn Wrecsam.

Mae lleoliad Erbistog ar lannau AfonDyfrdwy wedi ysbrydoli arlunwyr a ffotograffwyr ers canrifoedd. Mae tafarna thy bwyta hardd o’r enw The Boat, cynhyned â’r 13eg ganrif ac eglwys Neo-gothig annisgwyl o fawreddog.

17

Dyfrbont a Thraphont Y Waun

Page 18: Welsh wrexham says hello

cariad

18

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 19: Welsh wrexham says hello

Maen nhw’n dweud y

gwir, bod cariad uwchlaw

popeth. Ac mae llawer

iawn i’w garu yn y lle

yma, ei hanes, ei

bersonoliaeth, diwylliant.

Wrecsam yn dy galon!

19

Y Gegin Newydd yn Erddig

Page 20: Welsh wrexham says hello

hanes a threftadaeth

Pan orffennodd Thomas Telford ei dyfrbontym Mhontcysyllte ym1805, hwn oedd ylle uchaf yn y byd yr oedd cychod yn galluhwylio drosto.

Mae’n dal i fod. Mae’n dal i fynd â theithwyrar daith orau eu bywydau. Ond erbyn hynmae ar fap y byd.

Oherwydd yn 2009, gwnaeth UNESCO’rcampwaith hwn o beirianneg sifil yn SafleTreftadaeth Byd – ynghyd ag 11 ofilltiroedd o gamlas, yn cynnwys Dyfrbonty Waun a rhannau o Siroedd Dinbych acAmwythig cyfagos.

Y peth yw, dydyn ni ddim am ddweud yrhanes i gyd wrthot ti ar unwaith. Rydym niam gadw rhywbeth yn ôl, cadw dy ddiddordeb.

Felly, wnawn ni egluro popeth nes ymlaenyn ‘harweiniad bach twt’ i’r Safle Treftadaeth Byd, ac mae copi cyfleusiawn o hwnnw yng nghanol y llyfryn yma.

eiddo’r ymddiriedolaeth genedlaethol

Y tro nesaf y byddi di’n tocio dy wrych, paid aganghofio’r pen garddwr yng Nghastell y Waun.

Mor anferthol yw’r gwrychoedd yw bodeisiau tua wyth wythnos ar dîm o ddynioni’w twtio nhw, pob un wrthi efo tociwr

20

Page 21: Welsh wrexham says hello

trydan ac yn creu tunelli o ddail a brigau.

Dychmyga roi hynny i gyd yn dy fin olwyniongwyrdd. Ond mae’n werth bob tamaid,cofia. Cafodd y gerddi eu pleidleisio’rgorau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaetholun tro.

Mae’r castell ei hun yn un o gadarnleoeddy Gororau, a godwyd ym 1310. Ond nidhen furddun mo hwn. Y gwir yw ei fod yngartref ers 700 o flynyddoedd. Mae’rrhandai bonheddig mawreddog o’r 18fedganrif yn llawn dop o waith plastr cywrain,dodrefn yn null Adam, gwaith tapestri aphortreadau.

Ac yn yr ystafell de maen nhw’n gwneud

bara brith cartref bendigedig.

Ein heiddo arall gyda’r YmddiriedolaethGenedlaethol (dydyn ni ddim am frolio,ond oes - mae gennym ni ddau) yw Erddig.

Os oeddet ti wedi dy gyfareddu gan ygyfres oedd ar y teledu yn ddiweddarDownton Abbey, byddi di’n deall yn iawnos dywedwn ni bod Erddig yn lle ‘i fyny aci lawr y grisiau’. Mae gan y cartref boneddhwn gymaint i’w ddweud am fywydau’rgweision ag am y perchnogion.

Castell y Waun 01691 777701Erddig 01978 355314www.nationaltrust.org.uk

21

Castell y Waun Dyfrbont Pontcysyllte

Page 22: Welsh wrexham says hello

amgueddfa bwrdeistref sirolwrecsam

Beth am ein plesio ni rwan? Dychmyga dyfod yn ôl yn yr ysgol (oni bai dy fod yn dalyn yr ysgol). Maen nhw’n gofyn i ti ysgrifennu traethawd am hanes Wrecsamo’r dechrau at heddiw.

Rwan ’te, mi allet ti estyn am y gliniadur achael sgwrs fach efo Mr Google (neu unrhyw beiriant chwilio dibynadwy arall).Ond mi fuasai mynd am dro i lawr iamgueddfa’r fwrdeistref sirol yn llawermwy o hwyl i ti.

Bu’r adeilad yn ffodus o gael ei ailwampioyn 2010, efo estyniad trawiadol o wydr yncynnig adran gaffi fendigedig, derbynfa a siop.

Mae digonedd yno hefyd o daclau a geriach

rhyngweithiol newydd sy’n dod â’r arddangosfeydd yn fyw, gan adroddhanes Wrecsam efo’r dechnoleg newydd.

Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod beth fyddai preswylydd hynaf yr adeilad yn eifeddwl o’r newidiadau i gyd. Un distawbraidd yw hwn, ond wedyn mae’n 3,500oed.

Wedi ei gloddio allan gan weithwyr oeddyn torri ffos ym Mrymbo ym 1958, dimond sgerbwd o fri oedd ‘Dyn Brymbo’ amblwc. Wedyn, wnaethon ni ofyn i’r Dr Caroline Wilkinson o’r rhaglen Meetthe Ancestors ary BBC a fyddai hi’n ail-greu ei wyneb. Mae hi’n ddynes fedrusiawn.

Beth am y traethawd ’na? Siwr o gael marciau llawn.

01978 297460

22

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Page 23: Welsh wrexham says hello

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

gwaith haearn a chanolfan dreftadaeth y bers

Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterthyn y 18fed ganrif, enw’r perchennog ynooedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson.

Rwan, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’nddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn unoedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wediffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannauager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efocymorth silindrau wedi eu gwneud yn yBers).

Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygoddbroses chwyldroadol a oedd yn fodd iddodyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet.

Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfaui’r ddwy ochr yn Rhyfel AnnibyniaethAmerica a chafodd canonau’r Bers eutanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydainac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn.

Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yngngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un ofeibion mwyaf arloesol – a hynod – Wrecsam. Dos yno i weld.

A thra’r wyt ti yno, dos i weld y ganolfandreftadaeth yn ymyl. Yno mae pob un ogasgliadau treftadaeth ddiwydiannolWrecsam ac mae’n egluro’r modd y gwnaeth haearn, glo a phlwm weddnewidtref farchnad fach i fod yn un o bwerdaieconomaidd y 18fed a’r 19eg ganrif.

01978 318970www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth 23

Gwaith Haearn y Bers

Page 24: Welsh wrexham says hello

glo a dur

Fel y gwaeth rhannau helaeth o Gymru,treuliodd Wrecsam y rhan fwyaf o’r ganrifddiwethaf yn cloddio am lo, glo i gynnaltân rhawd ddiwydiannol Prydain Fawr.

Ni fydd Wrecsam byth yn anghofio eibalchder yn ei gwreiddiau glofaol, ondbu’n rhaid talu am hynny.

Medi’r 24ain, 1934. Ffrwydrad anfertholyn nyfnderoedd pell y ddaear yng NgwaithGlo Gresffordd. 266 wedi eu lladd, yn wyr, tadau, meibion a brodyr. Nid yw Wrecsam erioed wedi eu hanghofio.

Roedd dur hefyd yn un o gonglfeinieconomi’r dref. Yn ei anterth yn ystod y60au a dechrau’r 70au, byddai Gwaith Dur

Brymbo yn goleuo’r gorwel efo’i feteltawdd.

Efo mwy na 2,000 o weithwyr yn llafurionos a dydd a rhai o’r dulliau cynhyrchudur mwyaf cyfoes, roedd yr holl beth yndebyg i olygfa o’r Metropolis gan FritzLang ond ar lethrau bryn yng Nghymru.

Caeodd y safle ym 1990, ond os cerddi dii lawr Stryt yr Arglwydd yng nghanol trefWrecsam mi weli di fwa cerfiedig wedi eilunio ar ffurf glöwr a gweithiwr dur.

Mae Wrecsam wedi credu erioed yn y dyfodol (byddwn yn rhoi gwybod mwy i tiam hynny ar dudalen 34) ond rydym ynfalch o’n gorffennol hefyd.

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

exploring churches24

Cofeb y Glowyr, Gresffordd

Page 25: Welsh wrexham says hello

o gwmpas hen eglwysi

Mae twr Eglwys San Silyn yn Wrecsam yngan troedfedd a phymtheg ar hugain i’wben uchaf ac yn un o Saith RhyfeddodCymru.

Os oes digon o fynd ynot ti, dos arymweliad â’r twr i weld golygfeydd syfrdanol ar draws Wrecsam i gyd a thu hwnt.Ac wedyn, pan fyddi di wedi gorffen? Dosi weld rhai o’n heglwysi eraill ni.

Yn ogystal â bod yn lleoedd i weddïo amyfyrio, mae’r trysorau pensaernïol hynyn dod â hanes ein trefi a’n pentrefi, syddwedi bod yn ddigon cythryblus o bryd i’wgilydd, yn fyw eithriadol.

Dyna i ti eglwys y Santes Fair yn Rhiwabon.Y tu mewn iddi, mi weli di furlun o’r 15fedganrif a bedyddfaen o’r 16th ganrif.

Y tu allan, mi weli di Borth Mynwent addurnol, rhan ohono wedi ei gerfio obren derw lleol Wynnstay ac wedi ei gysegru’n Gofeb Ryfel i’r Plwyf ym 1920

25

Eglwys San Silyn, Wrecsam

(pan oedd Prydain yn dal i geisio dygymod â’r holl golli bywydau yn ystod yRhyfel Byd Cyntaf).

Yn Eglwys St Chad yn Holt mae tyllaubwledi i’w gweld a ddigwyddodd mewnsgarmes rhwng y Pengryniaid a’r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Ac yng Nghadeirlan y Santes Fair ynWrecsam, mae capel wedi ei gysegru i’rmerthyr Richard Gwynne a gafodd eigrogi, ei dynnu a’r chwarteru ym 1584 –a’i wneud yn sant ym 1972.

Mae pymtheg o’n heglwysi wedi dod at eigilydd i greu Rhwydwaith yr EglwysiAgored. Mae gan bob un ei hanes ysgogolei hun i’w adrodd ac mae pob un wediymrwymo i roi croeso i ymwelwyr.

Eglwys San Silyn 01978 355808Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015Rhwydwaith yr Eglwysi Agoredwww.openchurchnetwork.co.uk

Page 26: Welsh wrexham says hello

Mae Oriel Wrecsam yn un o’n prif ganolfannau celfyddyd ac yn lle gwych iweld celfyddydau a chrefftau gorau eincyfnod. Ond os byddi di’n dod i unrhywddosbarth y byddwn yn ei gynnig, bydd ynbarod i dorchi dy lewys. Rydym ni’n meddwly dylai celfyddyd fod yn rhyngweithiol.

Mae Oriel Sycharth ym Mhrifysgol Glyndwr yn arddangos gwaith gan artistiaid o fri rhyngwladol, a gan rai aallai’n wir fod yn enwog un diwrnod – ei myfyrwyr ei hun.

Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu ymdrwythoyn yr arddangosfeydd sy’n newid byth abeunydd yn Oriel Goffa Coleg Iâl amychydig o oriau bob diwrnod o’r wythnos.

Oriel Wrecsam 01978 292093

Oriel Sycharth www.glyndwr.ac.uk

Oriel Goffa Coleg Iâl 01978 311794

diwylliant

Rydym yn hoff o ddiwylliant yn Wrecsam.

Cymaint yr ydym yn ei hoffi, wnaethon nidreulio blwyddyn gyfan yn ei ddathlu.2011 oedd ein Blwyddyn Diwylliant swyddogol ni, efo mwy na 300 o ddigwyddiadau wedi eu neilltuo ar gyfer celfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn ahoffterau creadigol eraill.

Felly, lle cei di dy fodloni yn 2012? Rhogynnig ar hyn.

celfyddyd

Nid edrych yn unig ar gelfyddyd y byddwnni’n ei wneud yn Wrecsam (er bodhynny’n ddifyr iawn). Rydym yn hoff ofaeddu ein dwylo hefyd.

26

Page 27: Welsh wrexham says hello

cerddoriaeth

Gwyn fyd byd a gano. Ac mae NeuaddWilliam Aston ym Mhrifysgol Glyndwr,efo’i 890 o seddau, mae gan Wrecsam leoliad efo’r modd i arddangos y gorausy’n bod.

O enwau mawr y byd clasurol, fel CerddorfaHallé ac Opera Genedlaethol Cymru) i fydswing, motown a pop. Ac mi gei di fwy ogerddoriaeth eto ar y campws yn y GanolfanCatrin Finch gerllaw.

Wrth gwrs, fyddai hi ddim yn iawn petaigennym ni ddim ychydig o gorau o’r raddflaenaf yma yn Wrecsam, a ninnau’nGymry ac yn falch o hynny.

I ddechrau, mae gennym gorau Brymbo, Y Rhos, Orffiws y Rhos a Dyffryn Ceiriog,wedyn y band bechgyn hynaf yn y byd –Côr Meibion y Fron. Mae’r hogiau wedidod braidd yn enwog ers i’w record hirVoices of the Valley chwipio i ben y siartiau.

Mae ein corau yn canu mewn nifer o leoliadau trwy gydol y flwyddyn. Weithiaumi gei di hyd yn oed fynd i eistedd yn yrymarferion - heb orfod talu’r un ddimaigoch.

Côr Meibion y Fron www.fronchoir.com

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015

27

Côr Meibion Y Fron

Page 28: Welsh wrexham says hello

theatr

Mae Rhosllannerchrugog, ychydig allan oWrecsam, yn lle nodedig am lawer o resymau.

Maen nhw’n dweud mai hwn yw’r pentrefmwyaf yng Nghymru. Mae nifer o goraugwych yno ac yno hefyd mae Theatr y Stiwt.

Mae’r lleoliad, sy’n cynnal pob math ogerddoriaeth a dramâu, yn gymaint oganolfan i ddiwylliant Cymru heddiw ag yroedd yn ôl ym 1926, pan agorodd yn gyntaf.

Mae’r Theatr Stiwdio fach gartrefol yngNgholeg Iâl yn Wrecsam, a’i 150 o seddau, yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd,

tra mae Theatr Stiwdio Glan yr Afon - cartrefCymdeithas Theatr Gerddorol Wrecsam -yn fwy fyth o ‘dy bach twt’ efo lle i 120.

Ymysg cedyrn eraill y byd amatur maeTheatr y Gelli, y mae ei chynyrchiadau wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedders 1925. Mae’r sioeau yn 2012 yn cynnwys After Miss Julie, Men of theWorld a Dracula.

Theatr y Stiwt 01978 841300www.stiwt.co.ukTheatr y Stiwdio 01978 311794Theatr Stiwdio Glan yr Afon 01978 261148Theatr y Gelli (Grove Park) 01978 351091www.groveparktheatre.co.uk

28

Theatr y Stiwt

Page 29: Welsh wrexham says hello

diwylliant wrecsam

Rydym yn hoffi diwylliant. Rydym yn hoff o gelfyddyd, cerddoriaeth, ffasiwn aphopeth arall.

Ond fel pob man arall, mae gan Wrecsamei diwylliant ei hun hefyd, y pethau bychainhynny sy’n rhoi iddi ei chymeriad. Weithiaumae hynny’n beth anodd i roi dy fys arno.

Ond os ei di i sefyll ar derasau stadiwmpêl-droed y Cae Ras, efo’n cefnogwyr ni, yn cefnogi’n tîm ni, efallai y byddi di’n deall.

Os ei di i mewn i dafarn a gweld pethau

cofiadwy ar hyd a lled y waliau sy’ndeyrnged i’r hen Lagyr Wrecsam gwreiddiol, efallai y byddi di’n deall.

Ac os byddi di’n eistedd yng nghefnneuadd bentref yn gwrando ar gôrmeibion yn ymarfer - a chlywed y blew yncodi ar dy wâr - efallai y byddi di’n deall.

Ac os gweli di’r llanciau a’r merched ynrhydd-redeg ar lawnt y Llwyn Isaf – ynneidio a throelli, heb fentro gwneud camgymeriad – neu gerddorion ifanc efouchelseinydd gitâr wedi torri yn rhoi penrhyddid i’r freuddwyd greadigol argornel y ‘stryt’, mae’n siwr y byddi di’n deall.

29

Page 30: Welsh wrexham says hello

robbie savage

Roedd yn un o ddynion caled pêl-droedoedd yn codi ofn. Mae ganddo’r gwalltdelaf ar y teledu ac yn ddiweddar dangosodd ei ‘ddawn …s’ i’r byd.

Mae cyn seren y brif gynghrair yn un ofechgyn Wrecsam o’i gorun i’w sawdl. Cipiodd galon a dychymyg y genedl yn2011 wrth gystadlu yn erbyn enwogioneraill ar Strictly Come Dancing ar y BBC.Wnaethon ni roi ‘10’ iddo, ond wedynroeddem ni o’i blaid.

Mae hefyd yn ‘dwitiwr’ o fri, efo mwy nahanner miliwn o ddilynwyr ar Trydar.

Dos i www.twitter.com a dilyn @RobbieSavage8

meibion a merched enwog

Mae llawer o bobl sy’n agos at galonWrecsam, gormod i sôn amdanyn nhwyma, yn cynnwys enwogion sy’n falch o’ugwreiddiau a phobl ‘gyffredin’ sydd wedigwneud rhywbeth anghyffredin.

Fyddem ni wrth ein bodd yn rhoi gwybodi ti amdanyn nhw i gyd. Ond am y tro,dyma un neu ddau y gallet ti fod wediclywed amdanyn nhw.

30

Robbie Savage

Page 31: Welsh wrexham says hello

Dy arweiniad bach i’r Safle Treftadaeth Byd. Hwylus a hawdd.

11 milltir odreftadaethbyd

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas

Page 32: Welsh wrexham says hello

“Ym mhob agwedd ar fywyd, mae’r un pethyn wir: dim ond trwy weithio gyda’n gilydd

y byddwn ni’n cyflawni pethau mawr.

“Maen nhw’n dweud weithiau fy mod i wediadeiladu Dyfrbont Pontcysyllte. Dydy hyn ddimyn wir. Wnes i ddim ei wneud ar fy mhen fy

hun, beth bynnag. Mi ges i gymorth.

“Wnaeth pawb a chwaraeodd ran – pob crefftwr, gweithiwr a cheffyl – adael

ei farc ar y byd.

“Oherwydd ei bod hi’n dal yno heddiw. Yndal i adrodd ei hanes wrth y cannoedd o

filoedd o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn. Ynunion yr un fath â’i chwaer hyn, Dyfrbont yWaun, Rhaeadr y Bedol ac adeileddau eraill

cysylltiedig â’r gamlas gwnaethon ni eu codi.

“Wnaethon ni eu codi fesul darn, gydadewrder, cred a gweledigaeth.

“Ac er bod yr hil ddynol wedi cyflawnipethau gwych ers fy nghyfnod i – wedi

hollti’r atom, rhoi dyn ar y lleuad, darganfod penisilin – mae Pontcysyllte yn

dal i gyffroi pobl, eu llonni a’u hysbrydoli.

“Roeddwn i’n falch ohoni ym1805. A phebawn i yma efo chi heddiw, mi faswn i’n

dal yn falch.

“Pan gei di brofiad ohoni, dwi’n gobeithio ybyddi di’n teimlo felly hefyd.”

Thomas TelfordPeiriannydd Sifil 1757-1834

beth fyddai’r dyn yn ei ddweud

Port

read

wed

i ei e

ngra

fu o

Tho

mas

Tel

ford

a g

yhoe

ddw

yd a

r gla

wr b

laen

yr ‘

Atla

s to

the

Life

of

Thom

as T

elfo

rd -

Civ

il En

gine

er’ y

m 1

838.

Wed

i ei e

ngra

fu g

an W

. Rad

don

oddi

ar b

aent

iad

gan

S. L

ane.

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Page 33: Welsh wrexham says hello

naws athrylithPan orffennodd Thomas Telford DdyfrbontPontcysyllte ym 1805, hon oedd y groesfanuchaf yn y byd ar gyfer badau camlas.

Mae hi’n dal yno heddiw, yn dal i fynd â theithwyrar fadau’r gamlas ar daith eu bywydau. Onderbyn hyn mae ar fap y byd.

Yn 2009 gwnaeth UNESCO y campwaithhwn o beirianneg sifil yn Safle Treftadaeth Byd– gydag 11 milltir o gamlas yn cynnwys DyfrbontY Waun a Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.

Erbyn hyn mae’n swyddogol yn un o’r safleoeddtreftadaeth mwyaf yn y byd, cystal â lleoeddfel y Pyramidiau, y Taj Mahal a’r Acropolis. Pan fyddi di’n ei gweld, byddi’n gweld rhywbethâ naws athrylith arno, oherwydd bod Telford

yn ddyn â gwir weledigaeth.

Roedd yn byw mewn oes wahanol, ond roeddymysg y mawrion, fel Steve Jobs, sefydlyddApple a Bill Gates, sefydlydd Microsoft neuunrhyw un arall arloesol a chyfoes ei feddwl.Roedd yn ddyn o flaen ei amser.

Nid gormod o gwbl yw dweud bod y dulliaua’r syniadau a ddatblygwyd ym Mhontcysylltewedi helpu i lunio’r byd trwy eu heffaith arbeirianneg.

Ond yr hyn sy’n wir syfrdanol yw’r modd ymae’r adeiledd yn dal i gipio dychymyg pobl,mwy na 200 o flynyddoedd wedi ei adeiladu.

Mae’n dal i hudo pobl.

Page 34: Welsh wrexham says hello

2. am dro drwy’r twneli

Os bydd cerdded ar draws y dyfrbontydd yngwneud i dy galon di guro, aros nes byddi diwedi mentro i mewn i’r ‘Fagddu’.

Ychydig lathenni i mewn i’r twnnel mi fyddidi’n deall yn iawn sut y cafodd ei enw. Mae’ndywyll go iawn, yn hir go iawn ac unwaith ybyddi di hanner ffordd – does dim troi’n ôl.

Mi fedri di gerdded trwodd heb dortsh.Mae’n gryn dipyn o antur. Ond efallai bodtortsh yn syniad da.

3. cerdded y llwybrau tynnu

Dydy’r 11 milltir o Safle Treftadaeth. Bydddim yn draffontydd dwr a thwneli i gyd.Mae cerdded ar hyd gweddill y llwybrau tynnuyn ffordd ddifyr o dreulio ychydig oriau.

Cefn gwlad sy’n ferw o fywyd gwyllt, onddim llawer o bobl, mewn geiriau eraill heddwcha llonydd. Amser da i feddwl os byddi di ardy ben dy hun, amser i roi’r byd yn ei le osbyddi di efo rhywun arbennig.

Dyma’r pump peth goraugennym - i gychwyn.1. croesi’r dyfrbontydd

Wyt ti’n ddigon dewr i groesi’r afon yn yrawyr? Fedri di wneud hynny heb edrych ilawr? Cei gerdded ar draws Pontcysyllte, neuorffwys dy goesau a chroesi’n hamddenolmewn cwch.

Ond mae arnat ti angen un peth i fynd efo ti.Camera. Welaist ti erioed y fath olygfeydd.

Mae Dyfrbont Y Waun ychydig yn unig ofilltiroedd i lawr yr afon. A byddet ti’n medrudadlau fod y golygfeydd yn well fyth.

Mi fedri di bician ar draws ffin Cymru imewn i Loegr.

Ac os bydd hynny’n codi chwant bwyd arnatti, dos yn dy flaen heibio i’r bythynnod del arlan y gamlas i dafarn y Poachers Pocket. NeuDafarn y Bont neu’r Bridge Inn. Mae bwydda a chwrw go iawn y dy aros di yno.

“Edrycha ond paid â chyffwrdd.” Mae rhai safleoedd treftadaeth yn rhy fregus i’w trin. Nid felly yma. Roedd adeileddau Telford – fel y dyn ei hun – yn gryf a gwydn.

Felly does dim rhaid i ti fodloni ar sefyll yn ôl ac edmygu’r Safle Treftadaeth Byd o bell(er bod hynny ynddo’i hun yn ddigon o ysbrydoliaeth). Cei brofiad ohono mewnsawl dull a modd.

Page 35: Welsh wrexham says hello

Mae lleoedd i fwyta ar hyd y ffordd, fel y dafarnefo’r enw eithaf addas Aqueduct yn Froncysyllte. Hefyd tafarn y Thomas Telford(enw addas arall) ym masn Trefor. Neu dafarny Sun Trevor, sy’n cynnig lle da i orffwys acymadfer rhwng Pontcysyllte a Llangollen.

A’r gorau i gyd? Dim elltydd. Doedd hyd yn oedTelford yn medru gwneud i ddwr lifo i fyny, fellymae llwybrau tynnu’r gamlas yn wastad braf.

Ond wedyn, os wyt ti’n gerddwr o ddifrif,mae digonedd o lwybrau diddorol iawn hebfod yn bell o’r llwybrau tynnu, yn cynnwys Llwybr Dyffryn Ceiriog (sy’n odidog) a’renwog Glawdd Offa.

4. ar hyd y gamlas efo Togg

Mae pobl wedi bod yn mwynhau cael eutynnu mewn cychod o gei’r gamlas yn Llangollen ers 100 mlynedd a mwy.

Yn wir, mae Togg, Geordie a’r ceffylau eraillyn dipyn o enwogion y dyddiau hyn acmaen nhw’n ddiolchgar am foronen neuddwy am eu trafferth.

Mae teithiau 45 munud ar hyd y gamlas atheithiau dwy awr yr holl ffordd i Raeadr yBedol rhai dyddiau yn y tymor prysur.

Mae sawl dull a modd hamddenol o gaelprofiad o’r safle treftadaeth byd, ond maetipyn o waith curo ar gael dy dynnu mewncwch gan geffyl. Gwibio’n dawel ar wyneb y dwr, hwyaid a’u cywion yn mynd lincynloncyn efo’r lan, a gwallgofrwydd y bydmawr tu allan yn ymdoddi yn y niwl.

5. gweld y bedol

Yn Rhaeadr y Bedol mae’r cwbl yn dechrau, y lle mae’r gamlas yn codi ei dwr o’r afon.

Cored o waith dyn yw hi yn y bôn – ar ffurfpedol. Ac fel cymaint o’r hyn y gwnaethTelford ei greu, mae fel petai’n cyfoethogi’rdirwedd o’i hamgylch.

Enghraifft o’r hyn a gynlluniodd dyn yn cyd-fynd â natur. Pa mor aml fyddi di’ngweld hynny?

tyrd i gael y profiad

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Page 36: Welsh wrexham says hello

Paid ag anghofio dy gamera. Neu’n well fyth,cipia lun ar dy ffôn a’i rannu efo dy ffrindiautrwy Flickr, Gweplyfr, Instagram neu rywgyfrwng cymdeithasol arall.

Gad iddyn nhw weld beth maen nhw’n ei fethu.

Wedyn mentra i weddill y Safle TreftadaethByd a thu hwnt.

Lloga gwch neu ddarganfod atyniadau felRheilffordd Ager Llangollen, Parc Gwledig Ty Mawr a Chastell y Waun, pob un yn agosiawn.

Teithia’n bellach, i mewn i Wrecsam, SirDdinbych a Sir Amwythig a darganfod perlaufel eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynErddig, Ardal Harddwch Naturiol EithriadolBryniau Clwyd neu Ellesmere, y dref farchnad ar lan y llyn.

Cei weld popeth sydd ei angen arnat ti arwww.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Os oes gen ti ffôn call, sgania’r cod QR. Neuos wyt ti’n ‘aderyn sy’n trydar’ dos i weld eintudalennau Gweplyfr a’n gwybodaeth ar Drydar.

Ac os wyt ti’n hoff o sgwrsio, rydym ninnau hefyd. Coda’r ffôn a ffonia un o’nCanolfannau Croeso cyfagos:

Canolfan Croeso Wrecsam01978 292015

Canolfan Croeso Croesoswallt Mile End01691 662488

Canolfan Croeso Llangollen 01978 860828

pan fyddi di wedi gorffen

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

credydauWedi ei ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Asedau a Datblygu Economaidd, CyngorBwrdeistref Sirol Wrecsam, ar ran partneriaeth Safle Treftadaeth Byd Dyfrbont Pontcysyllte a’r Gamlas.

Wedi ei ddylunio gan White Fox 01352 840898 www.whitefox-design.co.uk

Ymysg y rhai a gyfrannodd ffotograffiaeth mae Eye Imagery, Hawlfraint y Goron(2012) Croeso Cymru a Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Darlunio gan Prodo Digital.

Ar gael ar ffurfiau eraill ac yn Saesneg.

Er bod pob ymdrech wedi ei gwneud i sicrhau bod y cyhoeddiad hwn yn gywir, nid yw CyngorBwrdeistref Sirol Wrecsam a’u partneriaid yn gallu derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw wallau,pethau anghywir neu omeddiadau, neu am unrhyw fater sy’n ymwneud unrhyw fodd â neu sy’n deillioo’r cyhoeddiad neu’r wybodaeth sydd ynddo. sganiwch fi

Page 37: Welsh wrexham says hello

facebook.com/pontcysyllte

twitter.com/pontcysyllte

Page 38: Welsh wrexham says hello

Dyna ni wedi codi awydd arnat ti. Mi fyddidi am wybod sut mae mynd yno rwan.

Mae’r safle ar ffin Gogledd Cymru a Lloegrac mae’n ymestyn tros dair sir – Sir Ddinbych,Wrecsam a Sir Amwythig.

Rwyt ti’n gallu mynd yno yn dy gar (ar hydyr M53 neu’r M56 o Ogledd Orllewin Lloegr,a’r M54 o Ganol Lloegr).

Ar y trên (Dydy gorsaf Y Waun yn ddim ond naid llyffant o’r safle, a Rhiwabon dimond rhyw ddwy neu dair milltir, efo bysysrheolaidd).

Neu ar y bws.

WO

RLD

HERITAGE PATRIMOIN

E M

ON

DIA

L

PATR

IMONIO MUNDIAL

Pontcysyllte Aqueduct and Canalinscribed on the World Heritage List in 2009

United Nations

Cultural Organization

www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk

Y WAUN

CEFN MAWR

FRONCYSYLLTE

Rhaeadr y Bedol

Pontcysyllte

Twnnel Y Waun

Twnnel yr Eglwyswen

Basn TreforCamlas Llangollen

DYFFRYN LLANGOLLEN

Yr Afon Dyfrdwy

Dyfrbont Y Waun

LLANGOLLEN

Dyma gysylltiadau defnyddiol:Trenau Arriva Cymru (Caer - Wrecsam -Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.uk

Lein y Gororau / Borderlands Line (Wrecsam i Lerpwl - trwy Bidston) www.borderlandsline.com

Virgin Trains (Wrecsam i Lundain-Euston)www.virgintrains.co.uk

Traveline Cymru 0871 200 2233 www.traveline-cymru.org.uk

Llinell Bysiau Wrecsam 01978 266166www.wrexham.gov.uk

sut mae mynd i’r safle ac o’i gwmpas

Safle Treftadaeth 11 milltir

Yr Afon Dyfrdwy

Parth Treftadaeth

Scale/Graddfa 1:35000.

Page 39: Welsh wrexham says hello

russell crowe

Iawn. Mae hyn braidd yn denau! Ond oeddetti’n gwybod bod gan yr actor yma ar Restr AHollywood gysylltiad diddorol efo Wrecsam?

Roedd ei hen daid a nain, Fred a Kezia, ynbyw yma cyn mudo i Ganada ym 1925 efopob un o’u plant heblaw taid Russel, John.Arhosodd hwnnw gartref i gadw busnes yteulu cyn symud i Seland Newydd.

Felly, ar un ystyr, mae seren ffilmiau felGladiator, A Beautiful Mind ac AmericanGangster yn un o wyrion enwocaf Wrecsam. Dyna i ti fyd bach!

Dos i www.twitter.com a dilyn @russellcrowe

robbie savage

31

Mark Hughes

Russell Crowe

mark hughes

Dyma gyn beldroediwr arall a ddaeth ynenwog drwy’r ddaear a’r nefoedd yn ystodei yrfa o chwarae efo Manchester United,Barcelona, Bayern Munich a Chelsea.

Dysgodd ‘Sparky’ ei sgiliau sgorio goliau argaeau chwarae Rhiwabon, lle cafodd eifagu, ac mae wastad wedi bod yn llysgennadgwych ar ran Wrecsam a Chymru.

Mae wedi mwynhau gyrfa ar y brig fel rheolwr ers rhoi ei ‘sgidiau pêl-droed i gadw.

Page 40: Welsh wrexham says hello

Erbistog. Y sawsiau a surop temtlyd sy’ncael eu gwneud gan Guy a’i deulu yn eucartref o’r 16eg ganrif yn Llys Bedydd - igyd wedi eu gwneud efo’r llus y mae’n eutyfu. A dyna i ti’r sosej fuddugol y maeMark yn eu gwneud ar ei fferm yn Eyton.

Mae yna fragwyr, gwneuthurwyr caws,tyfwyr llysiau, gwneuthurwyr mêl, cynhyrchwyr jeli o waith llaw, ffermwyrwyau buarth, gwneuthurwyr peli-siocled.Mae’r rhestr yn ddiddiwedd.

Mae gennym hyd yn oed werthwr te o’r enwKim sy’n gwerthu cyfuniad arbennig o ‘DeWrecsam’ yn ei siop ar y Stryd Fawr yngnghanol y dref (enw’r siop yw ‘Just Tea andCoffee’, sy’n enw hollol gall iddi, chwarae teg).

Y pwynt yw, rydyn ni’n meddwl mai arfwyd lleol y mae’r blas gorau. Dyna pamrydyn ni wedi llunio cyfeirlyfr bwyd bachcyfleus ar lein a fydd yn dy helpu di i weldbeth fedri di ei brynu a lle medri di eibrynu.

Estyn ato.

www.bwydlleolgyntafwrecsam.co.ukDos i www.twitter.com a dilyn @wrexfoodfirst

cynhyrchion lleol

Ffaith. Mae bwyd da yn rhoi blas gwell arfywyd. Mae bwyd da lleol yn rhoi blasgwych ar fywyd.

Felly, os nad wyt ti’n gwybod yn barod amy bwydydd a’r diodydd sy’n cael eu cynhyrchuyma yn y fan a’r lle yn y fwrdeistref sirol,mae’n hen bryd i ti glywed.

bwydydd lleol yn gyntaf

Mae Robert Didier yn ddyn sydd yn ei gynefin yn y gegin. Dysgodd ei grefft odan y chwedlonol Raymond Blanc ac maewedi coginio at ddant Sean Connery, neuJames Bond wrth ei enw arall.

Felly, pan ddaeth Robert i Ogledd Cymruyn 2003 i gychwyn busnes yn gwneudpasteiod cartref, roedd y gwybod yn iawnbeth oedd yn ei wneud.

Ac mae ei bastai arbennig ei hun, y Bastai OlwynTractor, yn ennill cryn dipyn o fri yn yr ardal.

Yn wir, mae peth wmbreth o bobl ddawnusiawn yn cynhyrchu pob math o fwyd adiod ardderchog yn Wrecsam, y math ofwyd sy’n codi gwên ar eich wyneb.

Dyna i ti’r hufen ia mwyaf hufennog sy’ncael ei wneud gan Richard ar Fferm

32

Page 41: Welsh wrexham says hello

lagyr wrecsam

Mae’n ôl. Yn wir i ti. Mae’r enw a wnaethgymaint, mae’n debyg, i roi Wrecsam ar ymap ag unrhyw beth arall yn ystod y ganrifddiwethaf, wedi dod yn ôl o’r diwedd.

Wrth gwrs, mae’n llymaid tipyn bach ynwahanol i’r ddiod y gwnaeth Carlsberg-Tetley ganu’r gloch olaf arni yn 2002.

Ond wedi blynyddoedd o ddisgwyl, mifedri di unwaith eto ofyn am ‘beint oWrecsam’ yn nhafarnau’r fro.

Wedi ei fragu gan y cwmni newydd WrexhamLager Beer Company efo rysáit o’r dyddiaupan oedd y cwrw yn ei anterth yn y 1970au,mae’r gwybodusion wedi rhoi adolygiadauffafriol i’r lagyr euraid cyfandirol ei naws.

Ond cofia di. Mae modd cael gormod orywbeth da. Yfa’n gall a dos i weldwww.drinkaware.co.uk am y canllawiau

diweddaraf ynglyn ag yfed alcohol.

Dos i www.twitter.com a dilyn@WXM_Lager

33

Page 42: Welsh wrexham says hello

creu

34

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 43: Welsh wrexham says hello

Mae angen ‘rhywbeth’ arbawb. Rhyw ddawn neu

fedr y mae’n adnabyddus amdano. Rhywbeth sy’n

gwneud iddo fo neu hi sefyllallan. “Dyna ’mhethau i. Dyna be’ dwi’n wneud.”

Felly, beth yw’r ‘rhywbeth’ arbennig hwnnw sydd gan

Wrecsam? Mae’r ateb yn hawdd. Arloesi.

35

Page 44: Welsh wrexham says hello

“ein busnes ni yw creu”

Mae Wrecsam bob amser wedi chwaraeei rhan wrth hybu’r byd yn ei flaen efo syniadau a thechnoleg newydd. Fedrwnni ddim peidio. Mae’r peth yn ein gwaed.

O’r technegau sylfaenol newydd a fu’nfodd i Thomas Telford godi DyfrbontPontcysyllte mwy na 200 o flynyddoeddyn ôl, i’r gwaith arloesol sy’n digwydd ymaar hyn o bryd ym Mhrifysgol Glyndwr.

Eisiau enghraifft? Mae’r brifysgol yn helpui ddatblygu telesgop mwyaf y byd, ynhelpu i ddatgelu cyfrinachau’r bydysawd,ymysg llawer o bethau eraill.

Ti’n gweld, mae Wrecsam wastad wedibod â rhyw fath o chwilen yn ei phen ynglyn â’r dyfodol, wedi mopio ar

syniadau newydd, meddwl o’r newydd.

Dydyn ni ddim yn dweud y bydd pawbyma yn gwibio o gwmpas y lle ar fyrddauhofran erbyn 2025, ond paid â synnu ogwbl os bydd y taclau newydd weli diyfory yn rhai gafodd eu dyfeisio yn Wrecsam.

Fel y dywedodd y bardd Arthur O’Shaughnessy,“…rydym yn freuddwydwyr breuddwydion”.

y rhai disglair

Mae pobl ym mhob agwedd ar fywyd sy’n ‘weledyddion’. Maen nhw’n gweldpethau nad yw pobl eraill yn eu gweld.Mae problemau yn bosibiliadau. Maenewid yn gyfle.

Mae gan Wrecsam fwy na’i dogn deg obobl ddisglair, yn unigolion a sefydliadau.Does dim lle i bob un yma, ond dyma flas.

36

Prifysgol Glyndwr

Page 45: Welsh wrexham says hello

thomas telford

Adeiladodd Ddyfrbont Pontcysyllte ym1805 gan ddefnyddio dulliau sylfaenolnewydd a ddylanwadodd ar beirianwyr ledledy byd. Yn syml iawn, Telford oedd ‘y boi’.

john wilkinson

Dyfeisiodd ddulliau newydd o dyllu canontua chanol y 18fed ganrif a oedd yn chwyldroym maes rhyfel. Aeth yr Arglwydd Nelsonâ nhw i’r môr ar ei long HMS Victory. Mae’rgweddill, fel maen nhw’n dweud, yn hanes.

william low

Peiriannydd sifil oedd yn byw yn Wrecsamoedd hwn a wnaeth y cynlluniau ymarferolcyntaf ar gyfer twnnel o dan y sianel yn yr1860au. Peiriannydd disglair. Dyn busnesgwael.

37

Dyfrbont Pontcysyllte Thomas Telford

elihu yale

Ganed ym 1649. Roedd hwn yn fentrwr ac addysgwr dawnus a fagwyd yn ymylWrecsam ac a wnaeth gyfraniad hael iYsgol Golegol Connecticut, UDA.

Roedden nhw’n ddiolchgar iawn. Maecopi o dwr Eglwys San Silyn yn dal yno i’wweld ar diroedd yr hyn oedd i fod nes ymlaen yn Brifysgol Yale.

ysbyty maelor wrecsam

Un o’r ysbytai mwyaf blaenllaw ym maesymchwil feddygol ac wedi ymrwymo iddatblygu ‘gofal iechyd y dyfodol’. Yn2010 roedd 135 o brosiectau ynymwneud ag arbrofion gyda chleifion,datblygu dyfeisiadau a thriniaethau meddygol.

Page 46: Welsh wrexham says hello

prifysgol glyndwr

Lle fedrwn ni ddechrau? Datblygu drychauar gyfer telesgop mwyaf y byd yn NeAmerica. Gweithio efo prifysgolion ynTsieina i estyn ffiniau bio-beirianneg.Mae’r rhestr yn ymestyn. Mae hi’n un o arloeswyr prysuraf Wrecsam heddiw.

www.glyndwr.ac.uk

moneypenny

Enghraifft wych o weledigaeth a menter.Wedi ei sefydlu yn 2000, dyma’r cwmni cyntafyn y DU i ddarparu gwasanaethau atebgalwadau proffesiynol. Cafodd Wobr yFrenhines am Fenter yn 2008. Erbyn hyn mae’ncyflogi bron i 250 o weithwyr ac yn ymdrinâ mwy na 6.5 miliwn o alwadau’r flwyddyn.

www.moneypenny.co.uk

sharp - gweithgynhyrchwyr, llai

Wedi ei henwi’n un o ganolfannau ffotofoltaidd mwyaf a mwyaf datblygedigy byd, maen nhw’n gallu cynhyrchu cymaint

ag 1.8 miliwn o baneli solar y flwyddyn.Mae Wrecsam yn plygio’r byd i mewn iynni’r dyfodol.

www.sharpmanufacturing.co.uk

cytec engineered materials

Rhan o’r cwmni mawr byd-eang Cytec Industries Inc. Mae’n datblygu defnyddiaui’w defnyddio mewn awyrennau uwch-berfformiad, cerbydau ffordd a llawer o bethaueraill, hyd yn oed ceir rasio fformiwla un.

www.cytec.com/engineered-materials

nu instruments

Wedi ei sefydlu ym 1995. Maen nhw’ndyfeisio offer gwyddonol gyda’r diweddarafyn y maes i’w defnyddio gan wyddonwyrledled y byd. Maen nhw’n arbenigo mewnmas-sbectrometreg. Stwff anodd ar y naw.

Nu Instruments www.nu-ins.comWikipediawww.wikipedia.org/wiki/Mass_spectrometry

38

Prifysgol Glyndwr

Page 47: Welsh wrexham says hello

plant yr haul

Pwer. Mae gennym ni ddiddordeb mewnrhywbeth felly. Ddim yr un fath â GengisCân ers talwm. Nid concro’r byd sy’nmynd â hi yn Wrecsam â dweud y gwir.

Mae ein diddordeb ni mewn helpu i ddatrysproblemau ynni’r byd.

Mae pobl yn defnyddio mwy o ynni, ondmae’r tanwydd ffosil fel nwy naturiol yngorffen. Felly, mae hynny’n broblem fawr.

Os cymerwn ni hefyd y llygredd sy’n dodo losgi tanwydd ffosil a’r pryderon ynglynag ynni niwclear, mae’n ddigon i dy ddychryn di.

Felly mae’n fater digon syml. Ond nid yw’rateb mor syml ychwaith. Ond mae dau beth i’wgweld yn gall i’w gwneud: datblygu technolegynni glân a llosgi llai o danwydd ffosil.

Mae Wrecsam yn bwrw iddi efo’r ddau acyn gwneud ei rhan i gadw’r goleuadauymlaen ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod

Y prawf? Dos i’r ganolfan solar yn ffatriSharp yn Llai, a byddi di’n dechrau deall yrwyddoniaeth sydd ynglyn â rhoi ynni’rhaul ar waith.

Mae’r ganolfan yn derbyn grwpiau o ysgolion, prifysgolion ac eraill, ond byddrhaid trefnu o flaen llaw. Paid â mynd ynoheb drefnu. Maen nhw’n bobl brysur.

39

Canolfan Solar Sharp

Page 48: Welsh wrexham says hello

Wrth gwrs, mae Sharp yn un o gorfforaethaugorau’r byd i gyd. Maen nhw wedi bod yn gweithio efo technoleg solar – neuffotofoltaidd – ers y 1960au, felly gelliddweud yn ddigon siwr eu bod yn arbenigwyr.

Gyrra di rwan o gwmpas Wrecsam a byddidi’n sylwi mae’n siwr bod gan lawer ogartrefi baneli solar newydd disglair ar yto. Mae Cyngor Wrecsam wrthi’n brysuryn eu gosod ar 3,000 o dai’r cyngor, ynrhan o gynllun £20 miliwn, un o’r mwyafo’i fath yn y DU.

Bydd y prosiect yn arbed oddeutu 3,000 odunelli o ollyngiadau CO2 y flwyddyn (yrun fath â chadw 1,000 o geir oddi ar yffordd) a bydd yn gymorth i leihau ôltroed carbon Wrecsam. Ar ben hynny,bydd yn torri cymaint â £300 y flwyddynoddi ar filiau trydan y tenantiaid.

Canolfan Solar Sharp www.sharpmanufacturing.co.uk

Prosiect solar tai’r cyngorwww.wrecsam.gov.uk

40

Page 49: Welsh wrexham says hello

diffodd y golau cyn mynd

Dyma ni felly yn gwneud ein rhan i fynd i’rafael â newid hinsawdd. Ond nid adeiladua defnyddio’r dechnoleg solar yw popeth.

Rydyn ni hefyd yn gwneud yr holl newidiadaubach hynny yn ein ffordd o fyw bob dydd er mwyn lleihau ein heffaith ar yramgylchedd.

O beth syml iawn fel berwi dim ond hynnyo ddwr sydd ei angen arnat ti yn y tegell,diffodd y golau mewn ystafelloedd gwag,i bethau anoddach fel tyfu dy fwyd dyhun a defnyddio llai ar y car.

Efo’r prosiect arloesol Pwer Pobl, maegofyn i bawb yn Wrecsam wneud llw ar-lein i ddefnyddio llai o ynni yn y cartrefa’r gwaith.

Mae Steve Connor, prif weithredwr efo’rasiantaeth farchnata Creative Concern,wedi bod yn ein helpu ni i guro’r drwm.

“Mae’r ymgyrch yn gofyn i bobl Wrecsamddefnyddio llai o ynni eu hunain trwy

ddulliau syml ac ymarferol,” mae’n dweud.

“O ganlyniad uniongyrchol i’r prosiectbydd llawer o filoedd o dunelli o CO2 yncael eu harbed a bydd ôl troed carboncyfan y fwrdeistref dirol yn lleihau.”

www.pwerpoblwrecsam.org

adeiladu ar gyfer y dyfodol

Rwan ’te, mae ar le dyfodolaidd angenadeiladau dyfodolaidd. Iawn? Ac maehynny’n golygu adeiladau fydd ddim yncostio’r ddaear.

Mae’r cynlluniau i ddatblygu Mynedfa Orllewinol y dref yn barc busnes carbonisel a defnydd cymysg yn mynd o nerth inerth. Ac nid yr amgylchedd yn unig fyddyn elwa ar hyn.

Bydd y parc busnes uwch-fanyleb acuwch-dechnoleg hwn yn gymorth hefyd iWrecsam ddenu mwy o weithwyr o’r raddflaenaf. A bydd cwmnïau o’r radd flaenafyn dod â swyddi o’r radd flaenaf.

Canlyniad.

41

Page 50: Welsh wrexham says hello

GlyndwrUniversity

Mae’n beth da felly ein bod yn eithaf da amfeithrin cyfeillgarwch efo gwledydd eraill.

Mae Prifysgol Glyndwr yn gweithio’nbarod efo’r Coleg Bio-beirianneg ymMhrifysgol Dechnoleg Hwbei yn Whán.

Mae’n un hefyd o grwp o brifysgolionCymreig sy’n helpu i sefydlugwasanaethau addysg a hyfforddiant ynrhanbarth Sioncing.

Ar ben hynny, mae Cyngor Wrecsam ynsiarad efo busnesau Tsieineaidd sy’nystyried buddsoddi a chreu swyddi yn yDU. Y neges yma? Rho dy bres arian ynWrecsam. Fyddi di ddim yn edifar.

mae gwybodaeth yn rym

“Y gofod. Y ffin olaf.”

Iawn. Anodd braidd oedd bod gormod oddifrif ynglyn â’r Capten James T Kirk a’iffrindiau Star Trek – yn y gwisgoedd tynyna. Ond roedd ganddo bwynt.

teigr teigr llewyrchus, ffyniannus

Napoleon ddywedodd un tro mai ‘cawrcwsg’ oedd Tsieina.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae’r cawr wedideffro ac mae’n un o rymoedd economaiddmwyaf y byd, os nad y mwyaf o’r cwbl. Acmae ei chymydog, India, yn ail go agos.

Mae’r ystadegau yn frawychus. Er enghraifft,mae Tsieina ac India yn cynhyrchu miliwny flwyddyn ar gyfartaledd o raddedigionmewn peirianneg, o’u cymharu â dim ond170,000 yn UDA ac Ewrop.

Y ddwy economi deigr yma yn Asia yw’rdyfodol.

42

Techniquest Glyndwr

Page 51: Welsh wrexham says hello

Ac mae Wrecsam yn gwneud ei rhan i helpudyn i fentro’n ddewr lle’r aeth neb erioedo’r blaen.

Yn rhan o hyn oll, mae gwyddonwyr ymMhrifysgol Glyndwr yn helpu i ddatblygudrychau ar gyfer ‘Telesgop Mwyaf y Byd’ -sy’n enw eithaf addas arno - a fydd wediei osod yn Ne America.

Ond nid drychau cyffredin mo’r rhain.Maen nhw’n 1.5 metr o led ac mae’n rhaididdyn nhw fod wedi eu caboli o fewn biliwnfed rhan o fetr, sy’n llai na 1000fedrhan o flewyn gwallt dynol.

Bydd y drychau hyn yn gydran hanfodolbwysig yn y telesgop, felly bydd Wrecsamyn chwarae rhan hollol allweddol o ranhelpu’r byd i dreiddio i ddirgelion y bydysawd. Digon i wneud argraff arnat ti?

Un enghraifft yn unig yw’r telesgop o’rbrifysgol yn cymryd rhan mewn prosiectauarloesol. Mae llawer o bethau eraill yn digwydd hefyd, pethau efo naws ‘bydnewydd dewr’ go iawn iddyn nhw.

43

Mae hynny’n cynnwys myfyrwyr yngwneud ceir ynni solar a gwyddonwyr yngwthio ffiniau bio-beirianneg trwy weithio efo prifysgolion Tsieina.

cariad at wyddoniaeth

Mae gwyddoniaeth yn gallu bod yn hwyl.Yn wir.

Dos i weld Techniquest Glyndwr ar gampwsy brifysgol ac mi weli di sut mae hyn ynwir. Mae mwy na 60 o gemau rhyngweithiolac arddangosiadau i ysgogi meddyliau’rhen a’r ifanc fel ei gilydd.

Mae hyn yn cynnwys pelen droi efocrisialau’n llifo a ‘wal gysgodion’ frawychussy’n dod yn fyw ar ei phen ei hun.

Mae’r hysbysebion yn brolio mai hyn yw’rdiwrnod allan mwyaf heriol yng NgogleddCymru. Nod Techniquest yw archwiliodirgelion gwyddoniaeth – trwy gyfrwngergydion mawr a llysnafedd llithrig.

01978 293400 www.tqg.org.uk

Page 52: Welsh wrexham says hello

eich busnes: ein busnes

Mae gwneud busnes yn Wrecsam yn rhoigwefr go iawn i ni. Ac mae gennymddigonedd o fentrwyr sydd wedi tyfu syniad dawnus yn rhywbeth mawr.

Mae Moneypenny yn un o’r rhain. Wedieu henwi ar ôl hoff gynorthwyydd personol007, mae’r cwmni wedi ennill Gwobr yFrenhines am Fenter ac Arloesi, a chafoddei henwi gan y Sunday Times yn un o’r100 Lle Gorau i Weithio.

Ddim yn rhy ddrwg i rywbeth gychwynnoddyn fusnes bach lleol ac a dyfodd i fod ynun o’r gwasanaethau ateb galwadauproffesiynol mwyaf blaenllaw yn y DU.

Ac os byddi di’n gofyn i’r cyd-sefydlydd

Rachel Clacher beth yw eu cyfrinach, ungair fydd ei hateb: pobl.

“Wnaethon ni sefydlu ein hunain ynWrecsam ac rydym yn dal i fod ag ymrwymiad i’r dref oherwydd bod adnoddardderchog o bobl glên a brwdfrydig sy’ngweithio’n galed yma ar stepen ein drws.

“Bob dydd maen nhw’n gwneud gwaithgwych yn cynrychioli ein busnes a’rmiloedd hefyd o fusnesau cleient rydyn ni’ngweithio efo nhw ym mhob rhan o’r DU.”

Ac nid oherwydd y bobl yn unig maeWrecsam yn lle gwych i gynnal busnes.Mae llawer o resymau eraill.

Nid y lleiaf o’r rhain yw tîm pwrpasol Cyngor Wrecsam o arbenigwyr busnes.

“Mae adnodd ardderchog obobl glên a brwdfrydig sy’ngweithio’n galed yma ar stepen ein drws.”

Rachel ClacherCyd-sefydlydd Moneypenny

44

Page 53: Welsh wrexham says hello

Maen nhw’n cynnig pob math o gymorthcyngor a gwybodaeth, o gynllunio amarchnata busnes i godi arian a dod ohyd i’r adeilad neu safle iawn. Maen nhw’ngriw dawnus iawn.

Felly, os wyt ti’n dechrau busnes o’r cychwyncyntaf neu’n ystyried symud i rywle arallac ehangu, ddylet ti roi galwad iddyn nhw.Mae siarad yn dda.

Cymorth Busnes Cyngor Wrecsam 01978667000 www.wrecsam.gov.uk

Yr Arglwydd Sugar nesaf?

Mae’n siwr dy fod yn gwybod ein bodbraidd yn llawn o’r dyfodol yma yn Wrecsam. Dim syndod felly bod gennymddiddordeb yn y genhedlaeth nesaf o sêr

45

byd busnes, arglwyddi Sugar y dyfodol.

Mae pobl ifanc Wrecsam yn fwrlwm oegni menter. Wyt ti’n un ohonyn nhwefallai?

Wyt ti? Wel, rydyn ni wedi sefydlu fforwmnewydd i dy helpu di ar dy ffordd.

Mae Lansio Wrecsam yn fodd i ti siaradefo mentrwyr ifainc eraill, rhannu syniadaua hyd yn oed gwneud cais am grantiau idanio dy uchelgeisiau busnes.

Mi fyddi di’n gyrru’r Bentley ’na cyn i tiwybod.

www.launchwrexham.co.ukDos i www.twitter.com a dilyn @LaunchWrexham

Page 54: Welsh wrexham says hello

chwarae

46

www.wrexhamsayshello.co.uk

Page 55: Welsh wrexham says hello

Maes chwarae yw’r byd.Gwna’n fawr ohono.

Dos allan drwy dy ddrwsffrynt a mwynha dy hun.

Byw dy fywyd. Teimla’nrhydd. Wrecsam

ydi’r fan yma.

47

Page 56: Welsh wrexham says hello

chwaraeon

Ychydig iawn o bethau sy’n ennyn cymaint o angerdd a greddf y tylwyth âchwaraeon. Rhyfel yw chwaraeon … heb y canlyniadau.

Lle cystadleuol yw Wrecsam, nid caled acymwthgar, ond cystadleuaeth dawel. Dimsyndod bod chwaraeon yn beth mawryma, eu chwarae a’u gwylio.

pêl-droed a rygbi

Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndwr. Obwys aruthrol i chwaraeon yn lleol, hwn

hefyd yw’r cae pêl-droed rhyngwladolhynaf yn y byd, sy’n dal i weithredu.

Hwn hefyd yw’r stadiwm fwyaf yng NgogleddCymru (oddeutu 10,000 o seddau) a’rpumed o ran ei faint yng Nghymru.

Mae’n lle sydd wedi profi gogoniantchwaraeon a lle a welodd dorri calonnauhefyd tros y blynyddoedd. Buddugoliaetha gorchfygiad. A dyna sy’n ei wneud ynrhan mor arbennig o Wrecsam.

Dyna i ti Glwb Pêl-droed Wrecsam er enghraifft. Mae’r ‘Dreigiau’ wedi chwarae eu stori ar laswellt y Cae Ras ers

48

Page 57: Welsh wrexham says hello

blynyddoedd maith.

Rydyn ni’n dal i gofion fel ddoe yr adegauwnaethon ni ladd cewri fel Arsenal Middlesbrough, Tottenham, West Ham,FC Porto, dim ond rhai o’r dreigiau y gwnaethon ni eu trechu.

Wedyn y boen o gael ein darostwng yn yblynyddoedd a aeth heibio. Mae bod ynddilynwr pêl-droed yn golygu profiad o’reithafion.

Mae’r stadiwm yn gartref hefyd i fath arallo bêl-droed, un efo pêl o fath gwahanol.

Yn wir, llwyddodd Wrecsam i guro

cystadleuaeth lem gan drefi a dinasoedderaill er mwyn cynnal gemau yn ystodCwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 2013.

Efallai dy fod yn ddilynwr rygbi cadarn acefallai nad wyt ti ddim. Does dim ots amhynny. Bydd 2013 yn gyfle i fyw’r awyrgylch, yr angerdd a phopeth arall sy’nwych ynglyn â’r gamp honno.

Paid â cholli dy gyfle.

Clwb Pêl-droed Wrecsam www.wrexhamafc.co.uk

Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair 2013www.rlwc2013.com

49

Page 58: Welsh wrexham says hello

rasio ceffylau

Dechreuodd rasys ceffylau ym Mangor Is-coed mwy na 150 o flynyddoedd yn ôlpan garlamodd dau ddyn o blith yr helwyrlleol ar draws y dolydd am wobr o £50.

Hyd heddiw, dydyn nhw ddim wedi myndati i godi prif stand. Oherwydd bodgolygfeydd mor ysgubol oddi ar lethrauglaswelltog yr amffitheatr naturiol hon, gobrin fod angen hynny.

Hwn hefyd oedd hoff gae rasio’r awdurnofelau cyffro a chyn joci Dick Francis, erbod pethau wedi newid tipyn ers iddo farchogaeth ei enillydd cyntaf erioed ymayn ôl ym 1947.

“Yn yr 20 mlynedd a aeth heibio mae’rcae rasio wedi dod yn ei flaen o fod ynadeiladau pren i gyd i fod yn un efocyfleusterau gwych – nid yn unig ar gyferdyddiau rasio, ond hefyd ar gyfer partïonpreifat, priodasau a chynadleddau,” eglura’rrheolwr cyffredinol Jeannie Chantler.

Beth, felly, sy’n denu? Adloniant pur.

“Does dim byd cystal â’r holl sioe a lliw oweld y ceffylau a’r jocis o agos, y berw ogwmpas y cylch betio a rhuthr adrenalin yras ei hun,” dywed Jeannie.

www.bangorondeeraces.co.ukDos i www.twitter.com a dilyn @BangorOnDeeRace

50

Cae Rasio Bangor Is-coed

Page 59: Welsh wrexham says hello

golff

Ar gyfer y rhai sy’n petruso ychydig, maecwrs Clwb Golff y Waun yn gallu chwaraecyn lleied â 5,525 o lathenni. Ond os wytti’n llawn o nerth, mae’r ‘Tiger Tees’ fel ygelwir nhw yn gallu ychwanegu’n anfertholat hynny, hyd at 7,045 o lathenni.

Mae’r maes 200 acer hwn, efo camlasLlangollen un ochr iddo a golygfeyddgwych o Gastell y Waun, yn cynnig yprofiad o chwarae golff sy’n nodweddiadolo Wrecsam. Gwir brawf, croeso cynnes,ffioedd grin cystadleuol, a rhywbeth syddychydig bach yn wahanol.

Hefyd mae maes pencampwriaeth 18 odyllau yng Nghlwb Golff Wrecsam, ameysydd 9 twll hardd yn Narland,Dyfroedd Alun, Dyffryn Moss a’r Plasau.

Ac os nad wyt ti’n ei tharo hi’n hollol syth,

efallai y bydd teclyn bach dechau yng Nghanolfan Golff Clays yn Wrecsam yngymorth i ti. Mae’r chwaraewyr proffesiynolyng Nghanolfan Ffitio GenedlaetholMizuno yno yn defnyddio system radargwerth £20,000 i ddadansoddi dyswingiad di. Maen nhw hyd yn oed yngallu gweithio allan dy ‘ffactor taro’ di.

Canolfan Golff Dyfroedd Alun(naw twll) 01978 855131Clwb Golff y Waun(18 twll) 01691 774407Clwb Golff Clays(18 twll) 01978 661406Canolfan Golff Darland (naw twll) 01244 579282Clwb Golff Dyffryn Moss (naw twll) 01978 720518Canolfan Golff y Plasau(naw twll) 01978 780020Clwb Golff Wrecsam(18 twll) 01978 351476

51

Page 60: Welsh wrexham says hello

beicio mynydd

Rwyt ti’n gorfod gweithio go iawn am dyfrecwast yng Nghoed Llandegla yn SirDdinbych gyfagos.

Mae eu llwybrau beic mynydd efo’ucodau lliw mewn 650 o aceri o goetir sy’ncael ei reoli’n gynaliadwy.

Mae’r llwybr gwyrdd yn wych ar gyfer teuluoedd a’r llwybr glas yn berffaith argyfer dechreuwyr - ac mae beiciau yno i’wllogi os nad oes gennyt ti un dy hun.

Ond mae Llandegla yn denu’r selogionhefyd. Mae’r llwybr coch 11 o filltiroeddyn cynnwys llwybr sengl heb wyneb arno,ffigyrau wyth ysgafellog a chroesfannaudwr. Ond beth am y llwybr du? Digon ywdweud y bydd arnat ti angen coesaucadarn a nerfau dur.

01978 751656 www.oneplanetadventure.com

antur awyr agored

Mi fyddai’n hen dro gwastraffu’r holl awyriach hwnnw. Mae Wrecsam yn cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau llawncyffro i droi ein mannau agored yn unmaes chwarae antur anferthol.

Mae Motor Safari yn cynnig popeth amwy, rali-sgrialu, oddi ar y lôn, cychodpwer, heboga, rafftio dwr gwyn – ac maewedi bod ar raglenni teledu fel Top Gear,Blue Peter a’r Holiday Programme.

Dylai’r wal ddringo hefyd ym Mhlas PowerAdventure bwmpio tipyn o adrenalin imewn i ti. Mae’n fawr - mwy na 6,000 odroedfeddi sgwâr.

Ac mae’n boblogaidd iawn gan y plantos,sydd yn aml yn curo eu rhieni’n racs, ymaac ar y cyrsiau rhaffau – lle mae gwifrensipio 100 troedfedd, llwyfan abseilio arhywbeth efo’r enw pryderus ‘naid ffydd’.

01978 754533 www.motor-safari.co.uk01978 754747 www.plaspoweradventure.com

52

Page 61: Welsh wrexham says hello

canolfannau hamdden

Eisiau cadw popeth yn dwt – yn cynnwysdy gyfrif banc? Does dim ond rhaid i tichwipio dy gerdyn Pur allan yn un o’ncanolfannau hamdden cyhoeddus.

Bydd yn arbed arian i ti ar y rhan fwyaf o’rgweithgareddau yn cynnwys nofio, sesiynau yn y gampfa a’r dosbarthiadauffitrwydd.

Mae’r Byd Dwr yn ganolfan ddwr (mae’renw yn dy helpu di i ddeall), efo pwll nofiocystadleuaeth 25 metr o hyd, cafn 65metr o hyd a reid afon wyllt.

Yn y Morlyn Trofannol ym Mhlas Madoc,mi fedri di gerdded yr ewyn, mynd ar gefny crocodeil, sglefrio i lawr y neidr achwarae yn y tonnau. Ac mi fedri di adaeli’r plant roi cynnig arni hefyd, os oes rhaidi ti.

Mae gan y Waun bwll hefyd. Y lle perffaithi oeri tipyn wedi bod yn y sawna neu’rystafell stêm, gêm o sboncen, neu dipyn oDai Cwon Do.

www.wrecsam.gov.ukByd Dwr 01978 297300Canolfan Hamdden a GweithgareddauPlas Madoc 01978 821600Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’rWaun 01691 778666

tennis

Rydyn ni’n hoff iawn o’n tennis, ac nid ynystod pythefnos Wimbledon yn unig.Mae’r chwe chwrt dan do a’r 10 o gyrtiauawyr agored yng Nghanolfan TennisWrecsam yn rhai o safon ryngwladol.

Bydd ein hyfforddwyr yn dy helpu di i fodyn ddigon da iddyn nhw. Ac unrhywamser y bydd arnat ti awydd taro’r bêl ogwmpas tipyn, mi fedri di chwarae yn ycyrtiau ym Mharc Actyn a Pharc Bellevueyn Wrecsam neu Barc y Ponciau yn y Rhos– a hynny’n rhad ac am ddim.

Canolfan Tennis Wrecsam 01978 265260 www.nwrtc.co.uk

athletau

Mae prif athletwyr yn dod i Stadiwm Heoly Frenhines, yn cynnwys sêr Olympaidd felColin Jackson, Jamie Baulch, Iwan Thomasa Christian Malcolm.

Ond mae hefyd yn cynnal dyddiau mabolgampau ysgolion a rasys hwyl lleol.Mae’n gartref hefyd i Glwb AthletauWrecsam, sy’n helpu sêr y dyfodol o wythoed ymlaen i gael trefn ar bethau.

01978 355826

53

Canolfan Tennis Wrecsam

Byd Dwr

Page 62: Welsh wrexham says hello

cerdded

Paid â gadael i’r cwbl wibio heibio i’r car felniwl gwyrdd. Pa un a wyt ti’n byw yn yfwrdeistref sirol neu ddim ond yn ymweld,mae dull gwell o lawer o glosio mewnmodd mwy personol efo cefn gwladWrecsam.

Cerdded.

Mae milltiroedd lawer o lwybrau cerddedym mhob twll a chornel o Wrecsam, ym mhobmath o dirwedd y gallet ti ei ddychmygu o goetir a dyffryn afon i weunydd yn ygwynt a mynyddoedd grugog.

Dos allan i archwilio.

arweinwyr cylchdeithiau

Awydd tipyn bach o gwmni wrth gerddedo gwmpas Wrecsam? Mae gennymddigonedd o arweinwyr cylchdeithiaucymwysedig sy’n adnabod pob twll a chornel o’r fwrdeistref sirol.

01286 677059 www.northwalestouristguides.com

y dyffryn dirgel

Mae’r B4500 yn ffordd arbennig iawn, erna fyddai neb yn meddwl hynny o edrychar y map. Mae’n dechrau oddi ar yr A5 ynnhref y Waun ac mae’n diflannu dim ondtua 18 milltir ymlaen mewn rhwydwaith olonydd bach gwledig.

Mae hi’n arbennig oherwydd ei bod ynmynd ar hyd Dyffryn Ceiriog i gyd, trwyamrywiaeth nodedig o dirweddau – tirpori tawel, coetir, clogwyni serth ac ambell i gipolwg ar gefnen o fynydd uchela gweunydd breuddwydiol.

Mor odidog yw’r dyffryn, yn wir, bodLloyd George wedi ei alw’n “ddarn bacho’r nefoedd ar y ddaear”. Ac mae morwyrthiol o ddigyffwrdd bod naws taith i’rgorffennol pell wrth ddod ar hyd y B4500gyda glannau Afon Ceiriog a’i brithyllodtoreithiog .

Dyna’r effaith oedd ei heisiau, ac yn wir yreffaith a gafwyd ar Patricia Somerset, aymwelodd o Dde Llundain am ychydig oddyddiau. Bu ychydig o gerdded, marchogaetha gweld golygfeydd ein treftadaeth yn foddi sicrhau egwyl fach o hamdden ac ymlacio.

“Mae fy ngwaith yn llawn o straen a dwi’ngweithio llawer o oriau, felly roedd ygwyliau yma yn berffaith,” dywed Patricia.

“Y penderfyniad mwyaf yr oedd rhaid i miei wneud oedd pa le hardd yr oedd arna’ ieisiau ei weld y diwrnod hwnnw. Roeddharddwch y lle yn syndod i mi – doeddwni ddim yn gallu meddwl sut y gwnes ifethu’r dyffryn o’r blaen. Mae wedi bod ynddarganfyddiad go iawn.”

www.chirkandtheceiriogvalley.co.uk

y teithiau cerdded gorau

taith gerdded dyffryn ceiriog

Taith gerdded hyfryd dros ben sy’ndechrau yng ngorsaf reilffordd y Waun acyn gorffen wrth odre mynyddoedd yBerwyn ym mhentref Llanarmon DyffrynCeiriog.

54

Dyffryn Ceiriog

Page 63: Welsh wrexham says hello

llwybr maelor

24 o filltiroedd o daith gerdded trwy neuger pentrefi fel Bronington, Hanmer, Llannerch Banna ac Owrtyn – sy’n gallubod yn lle da i orffwys am dipyn, heb sônam beint bach.

llwybr clawdd offa

Llwybr Cenedlaethol wedi ei enwi ar ôlclawdd syfrdanol Offa Brenin Mersia agodwyd yn yr wythfed ganrif. Mae’r darn

sy’n mynd drwy Wrecsam yn cynnwysDyfrbont anferthol Pontcysyllte.

www.nationaltrail.co.uk/offasdyke

llwybr clawdd wat

Yn fyrrach a llai enwog na Chlawdd Offa,mae’r llwybr 61 o filltiroedd hwn yn dod imewn i Wrecsam yn Owrtyn ac yn dodallan ym Mharc Gwledig Dyfroedd Aluncyn mynd i Sir Y Fflint.

www.watsdykeway.org

55

Dyfrbont Pontcysyllte

Page 64: Welsh wrexham says hello

bywyd y parc

Mae digonedd o fannau agored yn Wrecsam.Yn wir, mae 90% o’r sir yn wledig. Ond nidyw hynny wedi ein rhwystro rhag creu dewismawr o barciau i bobl eu mwynhau trwygydol y flwyddyn.

Mae gan rai amgueddfeydd tymhorol,canolfannau ymwelwyr a chaffis. Mae rhaiyn dangos Gwobr y Faner Werdd am ragoriaeth mewn mannau agored cyhoeddus.Ac mae rhai wedi codi o weddillion eintreftadaeth ddiwydiannol.

Mae pob un yn unigryw, efo’i raglen iehun o ddigwyddiadau i’r teulu i gyd, yncynnwys gwneud barcut, trochi yn y pwll afforio am ffwng (neu hel madarch i ti a fi).

Mae arweiniad i’w lawrlwytho oddi arwww.wrecsam.gov.uk/countryside

dyfroedd alun, gwersyllt

Teimla’r llosgiad ym mharc gwledig mwyafWrecsam, efo chwech o deithiau cerddedefo’r calorïau wedi eu cyfrif, pob un ynwahanol o ran dringo a phellter. Neu mifyddet ti’n gallu gwneud dim mwy nagedrych ar y cerfluniau.

01978 763140

pyllau plwm y mwynglawdd

Ym mhen uchaf Dyffryn Clywedog, dyma’rlle perffaith i ddechrau archwilio un oafonydd prysuraf y Chwyldro Diwydiannol.Mae olion yr hen byllau plwm yn dal ynoi’w gweld – ty ’r injan drawst wedi ei adnewyddu, yr injan weindio a’r tai bwyler.

01978 763140

56

Ty Mawr

Page 65: Welsh wrexham says hello

dyffryn moss

Arferai glowyr ddefnyddio’r rheilffyrdd a’rtramleiniau sy’n croesi’n ôl a blaen yn ydyffryn ffurf ‘v’ hwn. Heddiw, wrth gerddedyn hamddenol gyda glannau’r llynnoeddneu drwy goetir derw a ffawydd, byddi’ngweld beicwyr, pysgotwyr gwialen a gwylwyr adar.

01978 763140

melin y nant, coedpoeth

Trafferth efo’r hen dwrch daear yn codipridd ar dy lawnt odidog? Efallai y byddidi’n deall yn well wedi i ti fod i Felin y Nant.Mae’r twnnel twrch daear anferth syddyno yn fodd i ti weld pethau o’u safbwyntnhw. Gelli wylio mwy o fywyd gwyllt o’rguddfan adar, a hyd yn oed hurio hwyaid -rhai rwber - ar gyfer ras hwyaid.

01978 752772

ty mawr, cefn mawr

Defaid, asynnod, moch, cwningod, ieir allawer o anifeiliaid eraill i’w gweld sy’n bywyno. Hefyd, mae taith gerdded hyfrydgyda glan Afon Dyfrdwy efo golygfeyddysgubol o draphont Cefn.

01978 822780

bellevue, wrecsam

Parc Edwardaidd wedi ei adfer, efo rhodfeydd o bisgwydd yn ymestyn allan olwyfan y band. Gyda’r hwyr mae lampauo’r cyfnod yn goleuo’r llwybrau. Dymawerddon gain dim ond chwarter milltir oganol y dref.

01978 264150

57

Dyfroedd Alyn

Llwybr Clywedog

Llwyn Isaf

Pyllau Plwm y Mwynglawdd

Page 66: Welsh wrexham says hello

gwarchodfa natur

Mae Gwarchodfa Natur GenedlaetholMawnogydd Fenn’s, Whixall a Llys Bedyddyn rhan o’r drydedd gyforgors ym Mhrydaino ran ei maint. Mae hi mor fawr yn wir,bod modd ei gweld o’r gofod.

Efallai na fydd y syniad o gors anferthol ynapelio llawer ar yr olwg gyntaf. Dyna pam,efallai, bod cyn lleied o bobl y cychod sy’ndod heibio ar Gamlas Llangollen yn aros igerdded llwybrau’r Fawnog.

Eu colled nhw yw hynny. Ers achub yfawnog rhag difrod y gwaith torri mawn,mae wedi dod yn enwog am ei nadroedd,madfallod a madfallod dwr, heb sôn amweision y neidr, llygod y dwr, y gylfinir a’rehedydd. Ac os wyt ti’n medru gweld ynglir iawn, efallai y gweli di gopyn dwr hydyn oed.

www.ccgc.gov.ukwww.naturalengland.org.uk

58

Page 67: Welsh wrexham says hello

digwyddiadau

Mae rhywbeth yn digwydd o hyd ymMwrdeistref Sirol Wrecsam. O ddigwyddiadaumawr blynyddol i adloniant a gweithgareddau llai mawreddog (ond yr un mor ddifyr).

Rhai o’r uchafbwyntiau? Mae Gwyl AfalauErddig yn denu miloedd bob blwyddyn ac mae’n un parti mawr i glodfori’r afaldiymhongar.

Mae Gwyl Wyddoniaeth Wrecsam yn creurhyfeddod ym mhopeth gwyddonol. Acmae ein marchnadoedd Gwyl Ddewi a’rNadolig yn denu pobl o bell ac agos. Dimgor-ddweud.

Canolfan Croeso Wrecsam 01978 292015www.wrecsam.gov.ukwww.northwalesborderlands.co.ukwww.events-northwales.co.uk

y ffagl olympaidd

Maen nhw’n cynnal rhywbeth go fawr tua

59

Llundain eleni. Yn wir, bydd golwg y byd ary DU pan fydd Chwaraeon Olympaidd2012 yn cychwyn y 27ain o Orffennaf.

Ystyria hyn. Yr amcangyfrif yw bod biliwn- sef 15% o boblogaeth y byd - wedigwylio seremoni agoriadol 2008 yn fyw ary teledu. Mae hynny’n lot o bobl.

Felly, beth fydd Wrecsam yn ei wneud?Wel, i gychwyn, bydd y ffagl Olympaidd yndod i Fwrdeistref Sirol Wrecsam y 30ain oFai. Nid yw’r manylion wedi eu cyhoeddiyr amser mae hwn yn mynd i’r wasg, ondrydym yn gwybod o leiaf y bydd y ffagl yn croesi Safle Treftadaeth Byd DyfrbontPontcysyllte ac yn dod trwy Acrefair,Rhostyllen a thref Wrecsam.

Bydd mwy o fanylion wedi eu cyhoeddi’nagosach at yr amser, felly cadw dy lygadar wefan Cyngor Wrecsam.

Cyngor Wrecsam www.wrecsam.gov.ukGwefan Swyddogol Chwaraeon OlympaiddLlundain 2012 www.london2012.com

Page 68: Welsh wrexham says hello

cymwysiadau

Byddi di’n medru cadw’r daflen hon ar dyffôn. Does dim ond rhaid i ti sganio’r codefo darllenydd QR neu ddod o hyd iddi yny storfa gymwysiadau iPhone.

www.apple.com

cyfryngau cymdeithasol

Ac mi fedri di ein dilyn i ar weplyfr a trydar.Beth am bostio rhywbeth ar ein tudalenneu ein ‘twitio’ ni?

www.facebook.com/wxmsayshellowww.twitter.co.uk/wxmsayshello

echwythiad

Neu, rho dy enw i lawr am chwythiadau e-newyddion rheolaidd ynglyn â’r pethau

mawr sy’n digwydd yn Wrecsam – y digwyddiadau, siopa, newyddion busnes,y cwbl.

E-bost:[email protected]

canolfan croeso wrecsam, stryt ylampint

Er bod y gair ‘tourist’ ar yr arwydd uwchbeny drws, yn Saesneg, fel mae’r arwyddCymraeg yn ei awgrymu, mae croeso ymai bawb. Yn wir, mae hanner cwsmeriaid CG Wrecsam yn bobl sy’n byw yn yfwrdeistref sirol.

Mae ein pedwar cynorthwyydd yn yGanolfan Croeso mor llawn cymorth,fuaset ti ddim yn coelio, ac mae ganddynnhw gyfanswm o 70 o flynyddoedd obrofiad. Os oes rhywbeth nad ydyn nhw’n

60

hwyl fawrHed amser. Diolch yn fawr

am ddarllen y daflenhon. Ond cofia di, dimond y dechrau yw hyn.

Mae gan Wrecsam lawermwy i’w ddweud. Mae

gennyt ti hefyd, fellyymlaen â’r sgwrs.

Page 69: Welsh wrexham says hello

Yn wir, dydyn ni ddim yn bell o gwbl o’r rhanfwyaf o’r DU – wedi ein cysylltu gan ffyrdda rheilffyrdd da, yn cynnwys gwasanaethautrên yn syth i Lundain ac yn ôl.

awyren…

Maes Awyr Manceinion www.manchesterairport.co.ukMaes Awyr John Lennon Lerpwl www.liverpoolairport.com

trên…

Trenau Arriva Cymru (Caer – Wrecsam –Amwythig) 08456 061660 www.arrivatrainswales.co.ukLein y Gororau (Borderlands) (Wrecsam –Bidston) www.borderlandsline.comVirgin Trains (Wrecsam – Llundain Euston)www.virgintrains.co.uk

bws…

Traveline Cymru 0871 200 2233www.traveline-cymru.org.ukLlinell Bysiau Wrecsam 01978 266166www.wrecsam.gov.ukBysiau Arriva www.arriva.co.uk

61

ei wybod am Wrecsam, go brin ei fod ynwerth ei wybod.

Coda’r ffôn neu dos yno am syniadaudefnyddiol a gwybodaeth am bethau i’w gwelda’u gwneud. Popeth o ddosbarthiadau celfyddyda sioeau theatr i wyliau a chyngherddau. Oamgueddfeydd a safleoedd treftadaeth idai bwyta a thafarnau gwledig.

Ac os wyt ti’n ymweld ac eisiau gwely amy noson, maen nhw hyd yn oed yn galludy helpu di i ddod o hyd i le i aros.

01978 292015 [email protected]

mewn lle da

Yn olaf, os nad wyt ti’n byw ymMwrdeistref Sirol Wrecsam a heb fod ynhollol siwr lle mae - neu sut i fynd yno -dyma gyngor defnyddiol i ti.

Rydym ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.Mae gennym Sir Gaer a Sir Amwythig unochr ac Eryri ac arfordir Gogledd Cymru’rochr arall.

Rydym 45 o funudau o waith gyrru o briffeysydd awyr ym Manceinion a Lerpwl a90 o funudau o Birmingham.

Page 70: Welsh wrexham says hello

helobyd

62

Page 71: Welsh wrexham says hello

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod.Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd.

Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn

dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 64

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

63

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 72: Welsh wrexham says hello

Sut ma’i? Mae’n dda dy gyfarfod di.

Achos bod hyn yn ddechrau sgwrs arbennig rhyngot ti a Wrecsam.

Efallai dy fod yn dysgu am y fwrdeistref sirol am y tro cyntaf, yn meddwl am ymweld neu astudio yma, neu sefydlu busnes.

Efallai dy fod yn byw yma ers blynyddoedd ac yn adnabod Wrecsam yn dda, neu efallai bod arnat ti angen dy atgoffa tipyn bach.

Dim ots am hynny. Mae’r neges yn syml. Mae Wrecsam yn lle gwych i fod.Mae’n lle y gelli di (a’r bobl rwyt yn eu caru) fyw, gweithio a chwarae ynddo.

Yma rwyt ti’n gallu breuddwydio, bod yn greadigol, gwneud fel y mynni di.

Felly, tro’r dudalen a dysga am y pethau sy’n gwneud bywyd yn dda.

A phan fyddi di wedi gorffen? Gafael yn dy ffôn deallus, cod dy dabled, tro dy gyfrifiadur ymlaen, wedyn dilyn, twît, fel petai.

Ac os nad wyt ti’n gyfarwydd iawn efo cymwysiadau, mynd ar weplyfr, trydar neu dderbyn echwythiad, wel coda’r ffôn. Rydyn ni wrth ein bodd efo hynny hefyd.

Siarada efo ni, achos bod Wrecsam yn

dweud ‘sut ma’i’.

www.wrexhamsayshello.co.uk

2 64

15

I’R HELEDD WEN

I'R EGLWYS WEN

GWESTY RAMADA PLAZA

canol tref wrecsam

63

ToiledauParcio

Gorsafoedd TrênGorsaf Gyffredinol WrecsamGorsaf Wrecsam Ganalog

AtyniadauLlyfrgell/OrielByd Dwr Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Eglwys Gadeiriol y Santes FairEglwys San SilynTheatr Parc y LlwyniMecca BingoParc Bellevue

Marchnadoedd Dan Do/ArcêdauMarchnad y BoblArcêd CanologMarchnad y CigyddionArcêd OwrtynMarchnad Gyffredinol

ShopmobilityShopmobility (Gorsaf Fysiau)

ArallGalw WrecsamNeuadd y DrefAdeiladau’r GoronSwyddfeydd y Cyngor, Stryt y LampintGorsaf HeddluLlysoedd BarnSwyddfa GofrestruCanolfan CroesoSqwâr y FrenhinesColeg IâlGorsaf Fysiau

Allwedd

★12345678

★1516171819202122232425

★9

10111213

★14

12

Page 73: Welsh wrexham says hello

trowch y

i deimlo’r wefr

dudalen

einbusnes ni yw

creu

helloworld

chwarae

helobyd

byw gweithio

wrecsam